110
Ar Draws Ffiniau Gwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarperir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

Ar Draws Ffiniau - NHS Wales...1. 2 Ym mis Gorffennaf 2005, sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yr adolygiad1, fel rhan o’r cynllun gweithredu ar gyfer gweithredu ei strategaeth

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Ar Draws FfiniauGwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarperir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

  • G/079/06-07 Gorffennaf Cysodwydmewnteip12ptISBN0750440899 CMK-22-19-004 ©HawlfraintyGoron2006

  • Ar Draws FfiniauGwasanaethau Lleol sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarperir yn Lleol:Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

  • “When the Stranger says: ‘What is the meaning of this city?’ ‘Do you huddle close together because you love each other?’

    What will you answer? ‘We all dwell together To make money from each other?’ or ‘This is a community?’”

    T. S. Eliot, ‘The Rock’Pan ofynnodd Prif Weinidog Cymru i mi gadeirio adolygiad o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Nghymru, roeddwn yn ymwybodol mai ychydig iawn a wyddwn am y wlad a’i threfn lywodraethu, ond fe’m denwyd gan ei hethos cydweithredol a chan pa mor benderfynol oedd hi i droedio’i llwybr ei hun tuag at welliannau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Naw mis yn ddiweddarach (adeg ysgrifennu), ac wedi pori drwy lawer o ddeunydd ysgrifenedig a siarad a gwrando ar gannoedd o bobl, rwy’n dal i fod yn ymwybodol nad yw fy nealltwriaeth yn gyflawn o bell ffordd. Rwyf wedi

    bod yn ffodus i gael cefnogaeth, profiad a goddefgarwch aelodau eraill y tîm, Syr Adrian Webb a’r Fonesig Gill Morgan, ein cynghorydd, yr Athro Steve Martin, ac ysgrifenyddiaeth fach ond ymroddedig iawn, ac mae pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniad enfawr; mae’r adroddiad hwn ynddo’i hun yn enghraifft o gydweithredu.Mae didwylledd ac ymrwymiad yr ystod eang o gyd-sgwrswyr wedi creu argraff fawr arnom, o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, asiantaethau nad ydynt yn ddatganoledig, cynghorau lleol, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, cynghorau cymuned, y sectorau preifat, gwirfoddol a chymunedol, swyddogion, cynghorwyr ac Aelodau’r Cynulliad. Rydym wedi tynnu’n helaeth ar eu gwahanol ganfyddiadau o gryfderau a gwendidau’r gwasanaethau cyhoeddus ac ar y data, lle bo’r data hwnnw ar gael, a oedd yn sail i’r canfyddiadau hynny. Mewn naw mis, a chyda thîm cymorth bychan ond rhagorol, ni fu modd i ni, ac ni ofynnwyd i ni chwaith, ymholi i bob gwasanaeth a datblygu polisïau ar gyfer pob un. Ond rydym wedi nodi rhai themâu mawr, sy’n torri ar draws ffiniau sefydliadol, a gallwn gynnig rhai dulliau a modelau darparu posibl y credwn ni y gallant wneud gwahaniaeth. Rydym wedi dod i’r casgliad sylfaenol fod gan Gymru gyfle gwych, yn deillio’n rhannol o’i thraddodiadau ac yn rhannol o’i maint, i arwain y ffordd yn yr hyn yr ydym ni’n ei alw’n “llywodraethu gwlad fach”, gan gyflawni ar gyfer ei phobl, a chyda hwy, wasanaethau rhagorol, ymatebol, ac atebol sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, a hynny mewn ffordd a fyddai’n llawer anos i’w chymdogion mwy o faint. Wrth gwrs, fel unrhyw wlad arall, mae’n rhaid i Gymru fod yn barod i ddysgu o brofiad eraill yn y DU neu’r byd ehangach, ond credwn fod ganddi hefyd lawer i’w rannu. Wrth lansio strategaeth Creu’r Cysylltiadau yn y lle cyntaf, nodwyd ymrwymiad dewr i feithrin newid. Y gobaith yw y bydd gwaith tîm yr adolygiad a’r adroddiad hwn yn grymuso’r ddadl, ac yn bwysicach fyth, yn grymuso’r camau a gymerir.

    Syr Jeremy BeechamCadeirydd, Yr Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarperir yn Lleol

    Rhagair

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    IIRhagair

  • Syr Jeremy Beecham (Cadeirydd)Syr Jeremy Beecham, Cynghorydd Dinas Newcastle upon Tyne er 1967, oedd Cadeirydd cyntaf y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) yn Lloegr. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 1973 a 1977 ac Arweinydd Newcastle rhwng 1977 a 1994. Ym 1991, etholwyd ef yn Gadeirydd Cymdeithas yr Awdurdodau Metropolitanaidd, hyd nes i’r sefydliad uno â’r Gymdeithas Cynghorau Dosbarth a’r Gymdeithas Cynghorau Sir ar 1 Ebrill 1997. Etholwyd ef yn Gadeirydd yr LGA ar ei ffurf gysgodol ym 1995, ac arhosodd yn y swydd honno tan fis Gorffennaf 2004. Ar hyn o bryd, ef yw Dirprwy Gadeirydd y Gymdeithas ac mae’n aelod o Fwrdd Moderneiddio’r GIG a Grŵp Adolygu Cydbwysedd Cyllid Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog. Y Fonesig Gillian Morgan Bu Dr Gillian Morgan DBE yn Brif Weithredwr Cydffederasiwn y GIG er mis Chwefror 2002 ar ôl dilyn gyrfa ym maes meddygaeth a rheoli, yn fwyaf diweddar, fel Prif Weithredwr Awdurdod Iechyd Gogledd a Dwyrain Dyfnaint. Yn ystod ei gyrfa fel meddyg, bu’n gweithio mewn ysbytai, fel meddyg teulu ac mewn meddygaeth iechyd cyhoeddus, gan weithio fel ymgynghorydd ac fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus yn Swydd Gaerlŷr. Mae wedi gwasanaethu ar lawer o bwyllgorau cenedlaethol a gweithgorau yn Lloegr, gan gynnwys Bwrdd Moderneiddio’r GIG, Rhwydwaith Arweinyddiaeth Cenedlaethol a Grŵp Arddangos Care Closer to Home. Bu gynt yn llywydd ar y Ffederasiwn Ysbytai Rhyngwladol. Ganwyd Dr Morgan yn Llwynypia. Syr Adrian Webb Ar hyn o bryd, yr Athro Syr Adrian Webb yw Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda, ac mae’n aelod anweithredol o Fwrdd Gweithredol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ef oedd Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg hyd at fis Rhagfyr 2005. Roedd gynt yn academydd yn y London School of Economics ac yn Athro Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough. Arweiniodd ei yrfa academaidd ar lawer o brosiectau ymchwil, cyhoeddiadau ac ymgynghoriadau. Mae wedi gweithio fel cynghorydd ac wedi gwasanaethu ar bwyllgorau yn Whitehall ac yng Nghymru, gan gynnwys Panel Cynhyrchedd Gwasanaethau Cyhoeddus Trysorlys EM, ac wedi cadeirio sawl ymchwiliad cenedlaethol. Magwyd ef yn Ne Cymru, ac mae’n byw yno ar hyn o bryd. Cynghorydd Academaidd - yr Athro Steve MartinYr Athro Steve Martin yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd. Mae wedi arwain ystod o astudiaethau ar gyfer adrannau’r Llywodraeth

    ac asiantaethau eraill yn y DU ac Ewrop dros yr ugain mlynedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae’n cyfarwyddo cyfres fawr o raglenni ymchwil ar yr agenda i foderneiddio llywodraeth leol, a ariennir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG).Mae’n un o Gyfarwyddwyr yr Asiantaeth Gwella a Datblygu ac yn gyd-gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol DCLG. Mae’n aelod o Grŵp Llywio Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru, ac fe fu’n cynghori Cyngor Ewrop ac Ymholiad Lyons i faes ariannu llywodraeth leol.

    Tîm yr Adolygiad

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    IIITîm yr Adolygiad

  • Rhagair iiBywgraffiadau iii

    Cynnwys

    Pennod 1 Cyflwyniad 1Pennod 2 Model y dinesydd 3Pennod 3 Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarperir 9 Pennod 4 Gwneud i’r bunt Gymreig fynd ymhellach 31Pennod 5 Tystiolaeth gynhaliol ar berfformiad a boddhad 43Pennod 6 Casgliadau 55Pennod 7 Argymhellion 69

    Atodiad 1 Cylch gorchwyl 81Atodiad 2 Rhestr o’r prif sefydliadau sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau’n lleol yng Nghymru yn 2006 83Atodiad 3 Y rhai a fu’n cyfrannu i’r trafodaethau 87Atodiad 4 Llythyr ymgynghori 95Atodiad 5 Y rhai a fu’n cyfrannu i’r ymgynghoriad ysgrifenedig 97Atodiad 6 Llyfryddiaeth 99

    Atodiadau Technegol: www. cymru.gov. uk/makingtheconnections

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    IVCynnwys

  • 1. 1 Mae’r bennod hon yn nodi cefndir yr adolygiad ac yn egluro’r dull o weithio a’r broses a ddilynwyd gan dîm yr adolygiad.

    Y cefndir1. 2 Ym mis Gorffennaf 2005, sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yr adolygiad1, fel rhan

    o’r cynllun gweithredu ar gyfer gweithredu ei strategaeth Creu’r Cysylltiadauii i wella’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yng Nghymru.

    1.3 Rydym yn cymeradwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru am gomisiynu adolygiad mor agored ac eang ei gwmpas o’r seilwaith darparu yng Nghymru. Mae wedi pennu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer moderneiddio gwasanaethau i fodloni’r disgwyliadau cynyddol yng nghyd-destun traddodiad Cymru o bobl yn helpu ei gilydd a’i hamgylched a’i diwylliant unigryw. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn ceisio helpu’r system lywodraethu gyfan yng Nghymru er mwyn nodi’r hyn sydd angen ei wneud i drosi’r weledigaeth honno’n newid ymarferol er budd holl ddinasyddion Cymru.

    1.4 Cyd-destun ein hadolygiad yw’r broses ddatganoli sy’n aeddfedu’n gyflym, ac sydd wedi trawsnewid arferion llywodraethu yng Nghymru yn llwyr. Mae cynnydd cyflym iawn wedi bod wrth greu mecanwaith llywodraethu newydd ac rydym yn cymeradwyo’r ymrwymiad a’r medrusrwydd a welwyd wrth i’r raddfa hon o newid sefydliadol gael ei rheoli ac mae hyn yn parhau i ddigwydd hyd heddiw.

    1.5 Mae’r newid hwn yn y dull o lywodraethu wedi cael effaith enfawr ar ddarparwyr gwasanaethau lleol sy’n ceisio ymateb i ddyheadau Llywodraeth y Cynulliad, nid yn unig i wella gwasanaethau, ond hefyd i fynd i’r afael â phroblemau economaidd, cymdeithasol ac iechyd hirdymor Cymru.

    1.6 Yn erbyn y cefndir hwn, rydym yn cydnabod na ddylai ein hargymhellion ein hunain fod yn fwy na’r capasiti sydd gennym ar gyfer gwneud newidiadau - ddim yn ganolog nac yn lleol. Rydym o’r farn mai gwneud gwelliannau uchelgeisiol, ond y gellid eu rheoli, i’r gwasanaethau cyhoeddus fyddai orau i Gymru: dyma’r sail ar gyfer ein casgliadau a’n hargymhellion ym Mhennod 6 a 7.

    1.7 Mae ein cylch gorchwyl yn Atodiad 1 - mae’n nodi amcanion yr adolygiad fel a ganlyn:

    • nodi gwelliannau sylfaenol ac arloesol i’r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau lleol, yn ôl yr angen;

    • archwilio sut y gellir defnyddio, datblygu ac addasu’r trefniadau atebolrwydd presennol i gefnogi’r gwelliannau arloesol hyn.

    Y broses1. 8 Pennwyd amserlen dynn ar ein cyfer i gwblhau’r adolygiad - dechreuodd y gwaith

    ddiwedd Awst 2005 ac mae’n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad erbyn mis Gorffennaf 2006. Mae’r amserlen hon yn adlewyrchu’r ffaith fod y dasg hon yn dasg frys; felly, penderfynasom gynnal proses gyflym a chymharol anffurfiol o drafod â’r holl randdeiliaid allweddol. Cynhaliwyd 95 cyfarfod yn cynnwys dros 300 o unigolion (manylion yn Atodiad 3). Aethom i ymweld â dau awdurdod lleol, yn ne-ddwyrain ac yng ngogledd-orllewin Cymru. Anfonwyd llythyr ymgynghori ym mis Hydref 2005 (Atodiad 4) a daeth 124 o ymatebion i law (Atodiad 5). Cynhaliwyd dau weithdy darparu (Pennod 3). Mae’r strategaethau, yr adroddiadau a’r dadansoddiadau eraill a adolygwyd gennym wedi’u nodi yn y llyfryddiaeth.

    Pennod 1: Cyflwyniad

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    1Cyflwyniad

  • Ein dull o weithio1. 9 Mae ein cylch gorchwyl yn ymestyn i’r holl wasanaethau cyhoeddus gan eu bod yn

    effeithio ar ddinasyddion Cymru. Ymddengys mai’r persbectif eang hwn yw’r maes y gallwn ychwanegu’r gwerth mwyaf ato, a bod hyn yn gofyn i ni weithio drwy edrych ar y system gyfan drwy ganolbwyntio ar :

    • sut y mae’r sefydliadau lleol sy’n darparu yn cydweithio ar lefel leol, a

    • sut y mae’r cyd-destun a bennwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ogystal â San Steffan a Llywodraeth y DU yn dylanwadu ar yr hyn y maent yn ei wneud.

    1. 10 Felly, penderfynasom ganolbwyntio ar themâu trawsbynciol sy’n dylanwadu ar berfformiad gwasanaethau ar draws sectorau, gan gynnwys:

    • strwythurau sefydliadol

    • llywodraethu ac atebolrwydd

    • rheoli perfformiad

    • strategaeth a chynllunio

    • prosesau busnes

    • cyllid.

    Cwmpas yr adolygiad1.11 Nid oedd gwneud sylwadau ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu Lywodraeth y DU

    yn rhan o’n cylch gwaith. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar y systemau a’r model darparu y maent yn dibynnu arnynt i weithredu eu polisïau.

    1.12 Nid oedd yn rhan o’n cylch gwaith ychwaith i gynnal ymchwiliad manwl i wasanaethau unigol - rydym wedi ystyried gwasanaethau penodol er mwyn amlygu materion ehangach sy’n ymwneud ag arwain, rheoli a systemau sy’n effeithio ar berfformiad.

    1.13 Nid oedd ein proses yn cynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd, na chyda grwpiau o ddinasyddion. Cyfarfûm â nifer o gyrff y mae eu rôl yn cynnwys cynrychioli’r dinesydd a buom yn trafod â hwy i weld i ba raddau y gallant ddylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir. Mae prosesau i ymgysylltu â’r dinesydd yn thema ganolog yn ein hadroddiad. Ond mae ein prif ffocws ar reoli gwasanaethau: nid oedd gennym ychwaith yr amser na’r adnoddau i ymwneud â chyfres o gyfarfodydd cyhoeddus, ac mae’n ddigon posibl na fyddai cyfarfodydd o’r fath wedi ychwanegu gwerth yn y cyd-destun hwn beth bynnag. Serch hynny, rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yn helaeth.

    1.14 Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adolygiad - drwy ddod i’n cyfarfod a chan gyfrannu tystiolaeth ysgrifenedig. Mae’r agwedd gadarnhaol ac agored a fabwysiadwyd gan bawb a gyfrannodd, a’u hymrwymiad i wella ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau i ddinasyddion yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnom.

    nodiadaui Datganiad ar Gynllun Gweithredu Creu’r Cysylltiadau gan Sue Essex AC, y Gweinidog dros Gyllid, Cofnod y

    Trafodion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 14 Mehefin 2005; Araith gan y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, 14 Gorffennaf 2005 http://new.wales.gov.uk/about/strategy/makingtheconnections/?lang=cy

    ii Creu’r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru (Hydref 2004); Cyflawni’r Cysylltiadau: Gwireddu’r Weledigaeth (Mehefin 2005).

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    2Cyflwyniad

  • 2. 1 Mae’r bennod hon yn archwilio model y dinesydd a hyrwyddwyd yn Creu’r Cysylltiadau fel ffordd o ysgogi’r gwaith o ddiwygio’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n dadlau bod hwn yn fodel cymhleth a heriol, gyda goblygiadau mawr i’r holl wasanaethau cyhoeddus.

    Y cyd-destun newydd ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus2. 2 Ledled y DU ac yn rhyngwladol, ceir cydnabyddiaeth gyffredinol bod angen gwella’r modd y

    caiff polisïau eu gweithredu a gwasanaethau eu darparu, a hynny’n sylweddol, o fewn y sector cyhoeddus. Mae newidiadau demograffig a thechnolegol yn cynyddu’r galw am ddarparu gwasanaethau yn ogystal â’r gost o’u darparu, ar adeg pan fo’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r gwasanaethau hynny’n cael ei thrawsnewid yn llwyr.

    2.3 Mewn ymateb, mae’r sector cyhoeddus ynghanol ton o newid: trawsnewidiad sylfaenol o’r model a etifeddwyd o’r blynyddoedd wedi’r rhyfel i fodel sy’n gynaliadwy ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain. Mae gan y model ddwy brif elfen:

    • y berthynas sy’n newid rhwng gwasanaethau a’r cyhoedd;

    • y gofyn am well effeithlonrwydd o lawer wrth ddefnyddio adnoddau er mwyn gwella gwasanaethau.

    Y berthynas â’r cyhoedd2.4 Mae’r cyntaf o’r rhain yn deillio’n bennaf o’r cynnydd a gafwyd yn y dewis sydd ar gael i

    ddefnyddwyr a phwer gwario ym marchnad y defnyddwyr preifat. Mae’r gymdeithas o ddefnyddwyr, ynghyd â datblygiadau mewn arbenigedd, y mwyaf amlwg o’r rheini ym maes meddygaeth, yn trawsnewid disgwyliadau’r cyhoedd. Mae pobl yn disgwyl cael mwy: maent yn disgwyl cael gwell. Maent hefyd yn disgwyl cael gwasanaethau wedi’u teilwra i’w hanghenion personol eu hunain.

    2.5 Fodd bynnag, mae’r un grymoedd hefyd yn newid y berthynas rhwng gwasanaethau a’r cyhoedd sy’n eu defnyddio neu’n elwa arnynt. Mae Le Grand yn trafod y symud a fu o fodel cynnar y gwasanaeth cyhoeddus / y wladwriaeth les o dderbynwyr goddefol i ddefnyddwyr sy’n ymgysylltu’n llwyri, ond ochr yn ochr â hyn, ceir y cysyniad diweddar o ‘gynhyrchu ar y cyd’: sef defnyddwyr gweithredol sy’n llwyddo i gael y canlyniadau a ddymunir drwy gydweithio â darparwyr y gwasanaethau.

    2.6 Ni fydd modd cyrraedd nodau cymdeithasol cynyddol gymhleth, yn enwedig mesurau ataliol, drwy wneud pethau i bobl, mewn cyferbyniad â gwneud pethau gyda hwy. Ar wahân, ond yn enwedig gyda’i gilydd, mae’r grymoedd hyn er newid yn awgrymu dynameg gwbl newydd y bydd yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus addasu iddi. Mae’r union ffaith nad oes gennym erbyn hyn derm y cytunwyd arno ar gyfer y cyhoedd sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau yn ategu pwysigrwydd y newidiadau sydd wedi digwydd dros y degawdau diwethaf.

    Pennod 2: Model y dinesydd

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    3Model y dinesydd

  • Ffi gwr 2.1: Perthynas gwasanaethau â’r cyhoedd

    Pwysigrwydd effeithlonrwydd2.7 Mae’r ail nodwedd yn y trawsnewidiad hwn yn deillio’n rhannol o’r gyntaf. Mae adnoddau dan

    bwysau gan fod pobl yn disgwyl mwy gan y gwasanaethau cyhoeddus. Pe byddai adnoddau’n aros yn ddigyfnewid, byddai’n rhaid sicrhau eu bod yn mynd ymhellach i fodloni’r disgwyliadau cynyddol.

    2.8 Yn ogystal, fodd bynnag, mae’r cynnydd mewn defnyddwyr wedi newid parodrwydd y cyhoedd i oddef lefelau uchel o drethiant - neu o leiaf y modd y caiff trethiant ei ystyried ym myd gwleidyddiaeth. Ledled y DU, bydd gofyn i wasanaethau cyhoeddus addasu i’r gostyngiad arfaethedig i’r twf mewn gwariant cyhoeddusii, ar ôl cyfnod lle nad yw twf cyfl ym mewn gwariant wedi ymddangos fel petai’n cyfl awni dim byd tebyg i’r gwelliant sydd ei angen ar lawr gwlad i fodloni’r cyhoedd.

    Y pwysau yng nghyd-destun Cymru2.9 Yn y cyd-destun hwn, mae Cymru’n wynebu ei heriau unigryw eu hun, gan gynnwys ei

    hamodau economaidd-gymdeithasol a’i demograffeg, yn ogystal â’r dasg enfawr o greu’r mecanwaith llywodraethu newydd sydd ei angen i wasanaethu’r Cynulliad Cenedlaethol.

    2.10 Rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ymateb i’r crynodiad o anghenion cymdeithasol mawr, y costau uchel o ddarparu mewn ardaloedd prin eu poblogaeth, crynodiad uwch o bobl hŷn, llai o bobl mewn gwaith am dâl a lefelau uchel o afi echyd cronig, o’i gymharu â’r sefyllfa yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’r twf mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yn gysylltiedig â’r ffi gur cyfartalog ar gyfer Lloegr o dan y fformwla ariannu sy’n ategu setliad datganoli’r DU.

    2.11 Er mwyn bod yn gyfwerth â chyfradd gwella gwasanaethau Lloegr yn unig, rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyfl awni lefelau uchel o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd - rhaid i bunt sector cyhoeddus Cymru fynd ymhellach a chael ei defnyddio’n fwy effeithiol. Mae hyn yn golygu bod effeithlonrwydd yn hanfod moesegol â mwy fyth o amlygrwydd yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae’n mynnu ymateb a bennwyd yn glir neu bydd disgwyliadau yn fwy o lawer na’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn y dyfodol agos. Byddwn yn trafod hyn ymhellach ym Mhennod 4.

    ��������� ����������

    ���������� ����������������������

    �����������

    ��������������������������

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    4Model y dinesydd

  • Ymateb i’r heriau hyn2.12 Yn Lloegr, mae’r Llywodraeth yn ceisio ymateb i’r heriau newydd yn y gwasanaeth cyhoeddus

    drwy gyfrwng model y cwsmer sy’n rhoi pwyslais ar ddewis fel y dull o fodloni disgwyliadau defnyddwyr, gyda chystadleuaeth, elfen o gystadleuaeth ac elfennau o brofi ’r farchnad yn ffordd o fod yn effeithlon.

    2.13. Mae’r model hwn yn cymryd yn ganiataol y bydd cwsmeriaid sydd â gwybodaeth ddigonol, sydd â’r pwer i fynegi eu hanghenion a’u dewisiadau, yn ysgogi gwasanaethau i newid drwy effaith eu dewisiadau. Nid yw hyn wedi ennill cefnogaeth yng Nghymru, ar sail egwyddor ac ymarferoldeb, gan gynnwys demograffeg ardaloedd gwledig a’r cymoedd lle y mae cynaliadwyedd cyflenwyr amgen yn fater i’w ystyried. Trwy gyfrwng Creu’r Cysylltiadau, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dechrau ar y broses o ddatblygu model amgen, sef model y dinesydd, sy’n cydweddu â chyd-destun hanesyddol, diwylliannol a daearyddol Cymru.

    2.14 Gyda model y defnyddiwr, y ffactor sy’n ysgogi gwelliannau yw ymadael: bydd cwsmeriaid yn dangos anfodlonrwydd â gwasanaethau drwy ddewis gwahanol ddarparwr. Gyda model y dinesydd, nid ymadael yw’r hyn sy’n ysgogi gwelliannau. Mae’r model yn dibynnu ar lais i ysgogi gwelliannau, ynghyd â dyluniad y system, ei rheoli a’i rheoleiddio’n effeithiol, oll yn gweithio er budd y dinesyddiii.

    2.15 Mae deall hyn yn hanfodol i ddyluniad yr holl system o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Cymru. Rhaid i holl rannau’r system fod yn gyson â model y dinesydd - ni fydd mewnforio dulliau ysgogi o wahanol fodelau yn gwneud y tro - byddai hynny’n creu cymhlethdod heb ei angen ac yn newid y canlyniadau. Yr her i Gymru fydd dangos y gall model y dinesydd ddarparu ar ei deilyngdod ei hun.

    Her model y dinesydd2.16 I greu system effeithiol ar gyfer darparu model y dinesydd, mae’n hanfodol deall ei oblygiadau

    a’r hyn y mae’n ei ddisgwyl gan y gwasanaethau cyhoeddus. Y gofyniad cyntaf yw adnabod y peryglon sy’n perthyn i’r model - y gallai buddiannau’r dinesydd fod yn eilradd i fuddiannau’r darparwyr gwasanaethau, mewn system ddarparu gartrefol ac anweithredol sy’n rhanedig ar draws gwahanol sefydliadau.

    2.17 Mae model y dinesydd yn torri ar draws ddiwylliant ac arferion gweithiol traddodiadol sefydliadau sy’n darparu yn y gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n galw am wanhau ffiniau sefydliadol, ymestyn gorwelion darparu yn ddramatig, er mwyn i ddinasyddion gael eu rhoi ar ganol y llwyfan. Mae effeithlonrwydd a phersonoli yn gorfod bod yn ganolog i sefydliadau’r gwasanaeth cyhoeddus; ni ddylai dinasyddion orfod negodi llwybrau cymhleth ar draws ffiniau sefydliadol, dylent fod yn drefnus gan roi cymorth i’r dinesydd gael mynediad atynt yn effeithiol.

    2.18 Wrth ddatblygu model y dinesydd, mae’n hanfodol dysgu o ragoriaethau a diffygion model y defnyddiwr. Ei ragoriaeth fwyaf, o posibl, yw ei fod yn creu her gref i ddarparwyr gwasanaethau i addasu’n gyflym i amgylchiadau a galw sy’n newid, a fynegir drwy ddewis y defnyddiwr (er y gall hyn ddibynnu ar allu ymarferol dros ben sylweddol).

    2.19 Fodd bynnag, mae perygl y bydd yn dibynnu ar fersiwn syml o ddewis rhwng darparwyr gwasanaethau, er ei bod yn bosibl mai’r hyn y byddai dinasyddion yn ei werthfawrogi fwyaf yw gwahanol fathau o ddewis, personoli a chyfle i fynegi dewis a dylanwadu ar ddarpariaeth, fel yr awgrymwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus yn 2005iv.

    Manteision model y dinesydd2. 20 Os bydd y model yn derbyn yr heriau a drafodir yn ddiweddarach yn ystod yr adroddiad hwn,

    mae’n bosibl y bydd model y dinesydd yn fwy llwyddiannus wrth gynnig y mathau gwahanol hyn o ddewis a chyfle i leisio barn. Mae’n bosibl hefyd y bydd yn fwy llwyddiannus wrth

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    5Model y dinesydd

  • greu perthynas gryfach o ymddiriedaeth gyda’r cyhoedd, a allai fod yn llai cryf ym model y defnyddiwrv.

    2.21 Mae gan fodel y dinesydd hefyd y potensial i adnabod perthynas fwy cymhleth a hirdymor gyda’r gwasanaethau cyhoeddus nag a ragdybir gan fodel y cwsmer. Mae’r cyntaf yn cwmpasu’r cyhoedd sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau penodol, a’r cyhoedd yn ehangach sydd â buddiant ym mhatrwm cyffredinol y gwasanaethau a’u heffeithlonrwydd.

    2.22 Mae model y dinesydd yn cydnabod bod gan y cyhoedd hawliau a chyfrifoldebau: hawliau i dderbyn gwasanaethau ond hefyd y cyfrifoldebau i bryderu am y gwasanaethau sydd ar gael i bawb arall.

    2.23 Felly, gall fod yn fwy llwyddiannus wrth ymgysylltu’r cyhoedd â’r blaenoriaethau sy’n cystadlu am fuddsoddiad cyhoeddus o fewn cyllideb gyffredinol gyfyngedig. Ond mae hyn yn gofyn i sefydliadau cyhoeddus ddarganfod ffyrdd llawer mwy effeithiol o ymgysylltu’r cyhoedd yn y broses o gyfaddawdu ar draws system y gwasanaethau cyhoeddus gyfan nag sydd wedi bod hyd yn hyn.

    2.24 Mae amgylchiadau penodol Cymru yn ei gwneud yn haws i gyflawni o ganlyniad i’r ymdeimlad hynod ymarferol bod y broses lywodraethu wedi dod ynghyd ers datganoli. Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi’n gweithio ar raglen newid sy’n seiliedig ar Creu’r Cysylltiadau. Mae’n rhagweld gwasanaeth cyhoeddus newydd yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, yn seiliedig ar rwydweithiau hyblyg o lwybrau amrywiol sy’n cynnwys ystod o sefydliadau.

    Blwch 2. 1

    Model y Dinesydd

    Yr hyn y mae’n ei olygu i ddinasyddion:

    - mae gan ddinasyddion ffydd mewn gwasanaethau cyhoeddus;

    - mae dinasyddion yn derbyn gwasanaethau cydgysylltiedig o ansawdd uchel, wedi’u personoli, sydd wedi’u cynllunio ar draws ffiniau sefydliadol;

    - caiff sefyllfaoedd eu hunioni ar gyfer dinasyddion, a hynny’n gyflym a phriodol;

    - mae dinasyddion yn hyddysg ac mae ganddynt amrywiol ffyrdd ystyrlon o fynegi eu disgwyliadau, eu profiadau a’u hanghenion ym maes llywodraeth;

    - caiff llais y dinesydd ei glywed a bydd eraill yn gwrando ar y llais hwnnw waeth beth yw gallu’r unigolyn i sicrhau bod rhywun yn gwybod am ei anghenion ac yn eu deall;

    - mae dinasyddion yn gwybod pa mor dda y mae gwasanaethau’n perfformio yn eu hardal gan weld bod sefydliadau’n cael eu dal i gyfrif gan eu cynrychiolwyr;

    - mae dinasyddion yn deall yr angen i gydbwyso anghenion unigol a chyfunol a bod yn rhaid i’r patrwm darparu gwasanaethau newid er mwyn sicrhau gwelliannau;

    - mae dinasyddion yn deall bod ganddynt hawliau yn ogystal â chyfrifoldebau;

    - mae dinasyddion yn deall faint o arian sy’n llifo i’w hardal yn ei chyfanrwydd, sut y caiff ei wario, beth yw canlyniadau hynny a pha un a ydynt yn derbyn gwerth am arian ai peidio.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    6Model y dinesydd

  • Casgliad2. 25 Neges ein hadroddiad yw bod angen mynd â hyn ymhellach o lawer, a hynny’n gynt, yn

    seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth o fodel y dinesydd a’i oblygiadau. Cyd-ddealltwriaeth o fodel y dinesydd yw’r gliw a fydd yn dal y gwahanol feysydd ym maes llywodraeth a chyrff y gwasanaeth cyhoeddus ynghyd: mae’n ein hatgoffa’n barhaus pam fod gennym wasanaethau cyhoeddus ac mai’r dinesydd sydd i ddod yn gyntaf.

    2.26 Mae Creu’r Cysylltiadau yn ceisio diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn seiliedig ar fodel y dinesydd fel y syniad canolog ac unedig i arwain newid ar draws sefydliadau sy’n darparu. Mae hwn yn fodel hynod heriol a chrynhoir ei oblygiadau ym Mlwch 2.1: y mae’n rhaid deall ei oblygiadau’n llawn ar bob lefel. Mae’n galw am drawsnewid diwylliant, gallu ymarferol a phrosesau’r llywodraeth. Dim ond os bydd y gwelliannau cyntaf yn cael eu rhoi ar waith, y byddwn yn eu hargymell yn ddiweddarach, mewn model sy’n datblygu o’r hyn y mae rheoli gwasanaeth cyhoeddus da yn ei olygu yn yr unfed ganrif ar hugain, a sut y gellid cyrraedd y nod hwnnw yng Nghymru, y bydd yn gweithio.

    Blwch 2. 1 (parhad)

    Model y Dinesydd

    Yr hyn y mae’n ei olygu i sefydliadau:

    - mae’r diwylliant sefydliadol yn wynebu tuag allan ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer dinasyddion;

    - mae prosesau effeithiol ar waith ar gyfer hysbysu a chynnwys dinasyddion;

    - ymgysylltu cryf â sefydliadau a all drafod llais a phrofiad dinasyddion;

    - gwybodaeth wrthrychol am foddhad a chanfyddiadau dinasyddion ar gael yn rhwydd ac yn helaeth;

    - caiff gwaith craffu ei barchu, mae’n rhagweithiol, yn drawsbynciol ac nid yw’n benodol i bleidiau gwleidyddol;

    - mae gwasanaethau’n gydgysylltiedig ac wedi’u personoli: mae prosesau busnes rhwng sefydliadau a sectorau yn gyson ac yn cydweithio’n dda;

    - mae sefydliadau’n rhannu sofraniaeth ac adnoddau i wella ac i ddarparu canlyniadau ar gyfer dinasyddion;

    - mae’r systemau cwyno ac unioni yn syml, yn hygyrch ac yn gytûn ar draws ffiniau sefydliadol a sectorol;

    - mae sefydliadau’n denu, yn cadw ac yn ysgogi talent drwy geisio rhagoriaeth ac arloesedd, a chaiff hyn ei ddathlu;

    - mae gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus yn integredig, gyda sgiliau sy’n cyfateb i anghenion presennol a heriau’r dyfodol;

    - caiff amrywiaeth y ddarpariaeth ei groesawu fel dull o herio ac arloesi;

    - caiff perfformiad ei ddatblygu, ei gefnogi, ei herio a’i gofnodi’n wrthrychol;

    - mae effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn ffactorau diwylliannol cryf hanfodol;

    - ceir ymateb cyflym i newid proffesiynol, technegol a demograffig;

    - sybsidiaredd ar bob lefel: mae gan sefydliadau lleol ymreolaeth i bennu polisi lleol ac mae ganddynt y pwer i gwrdd â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol yn hyblyg ac yn ymatebol.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    7Model y dinesydd

  • 2. 27 Ni fydd newidiadau di-drefn mewn arferion yn ddigonol, a bydd newidiadau o safbwynt gweithredu’n ymarferol yn ddi-drefn os nad ydynt wedi’u gosod o fewn fframwaith trefnus o gysyniadau a praeseptau arweiniol. Nid yw rhoi’r gwasanaethau cyhoeddus mewn gwell sefyllfa yn ddim mwy o ddigwyddiad na datganoli ei hun. Rhaglen weithredu dreigl dros ddeng mlynedd yw’r hyn sydd ei angen, i roi anadl einioes i briod fodel cydlynol o wasanaethau cyhoeddus a rheoli cyhoeddus yng Nghymru. Rhaid i’r gwaith meddwl caled gael ei wneud, yn ogystal â’r gwaith ar lawr gwlad. Ni allwn wneud dim mwy na rhoi’r prosesau hyn ar waith.

    nodiadaui Motivation, Agency and Public Policy: of Knights and Knaves, Pawns and Queens. Le Grand, Julian (2005).

    Gwasg Prifysgol Rhydychen ii Trysorlys ei Mawrhydi, Cyllideb 2006. iii Bu Hirschmann yn dadlau fod gan unigolion ddau ymateb posibl pan fyddant o’r farn fod system yn methu:

    ymadael (terfynu’r berthynas) neu lais (ymgais i adfer neu wella’r berthynas drwy drafod y gŵyn, yr achwyniad neu’r cynnig am newid). Exit, Voice and Loyalty, Responses to Decline in Firms, Organisations and States, Albert O Hirschmann, 1970, Gwasg Prifysgol Harvard

    iv Choice, Voice and Public Services, Y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Tŷ’r Cyffredin. v Trust vs efficiency, Peter Taylor-Gooby, Prospect, 2006.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    8Model y dinesydd

  • 3. 1 Mae’r bennod hon yn archwilio’r materion a godwyd yn ystod ein trafodaethau â rhanddeiliaid rhwng mis Medi 2005 a mis Mawrth 2006, ac yn yr ymatebion ysgrifenedig i’r ymgyngoriadau. Mae’n tynnu ar y ffactorau sy’n cyfrannu at berfformiad presennol, ac yn amlygu’r hyn sy’n rhwystro’r broses wella. Awn i’r afael â’r rhain yn y casgliadau a’r argymhellion (ym Mhenodau 6 a 7).

    3.2 Rydym wedi clywed tystiolaeth gan ystod amrywiol iawn o wasanaethau - yr hyn sy’n drawiadol yw cysondeb y negeseuon ar y rhwystrau sy’n atal y ffordd tuag at wella gwasanaeth ar hyn o bryd. Mae’r rhain i gyd yn gysylltiedig, ond er mwyn sicrhau bod hyn yn eglur, rydym wedi nodi’r tri phrif faes sy’n peri problemau:

    • diwylliant

    • gallu ymarferol

    • cymhlethdod.

    3. 3 Mae’r rhain yn rhwystrau mawr i’r gwaith o gyflawni model y dinesydd. Mae gan y rhain oblygiadau penodol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, fel y trafodir isod.

    Graddfa’r her o ddarparu gwasanaethau 3. 4 Yn ystod y chwe blynedd ers datganoli, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu

    strategaethau sy’n mynd i’r afael â phob agwedd, bron, ar y gwasanaethau a ddatganolir, yn ogystal â llawer o wasanaethau nad ydynt wedi’u datganoli. Mae’r rhain yn amrywio o ddatganiadau o weledigaeth i gynlluniau gweithredu manwl, megis y fframweithiau gwasanaeth cenedlaethol. Mae’r rhan fwyaf yn rhagnodi rhestr fanwl o gamau y mae angen i staff mewn sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus lleol eu cymryd - gan gynnwys staff yr awdurdodau lleol, cyrff y GIG, yr heddlu, yr awdurdodau tân, cwangos a’r trydydd sector.

    3.5 Yn ystod yr un cyfnod, rhoddwyd disgwyliadau darparu newydd ar y sefydliadau hyn gan adrannau o Lywodraeth y DU, megis y Swyddfa Gartref neu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Yn ogystal, mae rhannau nad ydynt wedi’u datganoli o wasanaethau sydd yn bennaf wedi’u datganoli wedi creu gofynion gweithredu newydd, er enghraifft, ailstrwythuro gweithlu proffesiynol athrawon a staff y GIG.

    3.6 I raddau helaeth, ceir consensws ar y polisïau a’r cynlluniau hyn. Fodd bynnag, erys rhwystredigaeth ynghylch pa mor gyflym y mae’r newidiadau hyn yn digwydd er mwyn cyflawni’r gwelliannau y mae pawb yn gytûn y mae eu hangen. Dyma yw’r bwlch darparu, rhwng polisi uchelgeisiol a’r gwaith ymarferol o’i ddarparu, y gofynnwyd i ni fynd i’r afael ag ef.

    Cryfderau’r system yng Nghymru 3. 7 Ein rôl yw canolbwyntio ar yr hyn y mae angen ei gywiro - mae’n dilyn, felly, fod ein

    dadansoddiad yn talu mwy o sylw o lawer i broblemau nac i agweddau cadarnhaol. Fodd bynnag, cyn dweud mwy, dylid cydnabod cryfderau pwysig y trefniadau presennol. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • diben cyffredin yn seiliedig ar draddodiad o gydymddibynniaeth a chefnogi model y dinesydd a grybwyllir yn strategaeth Creu’r Cysylltiadau;

    • graddfa: sefydliadau lleol sy’n agos at gymunedau a llywodraeth genedlaethol sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â phartneriaid ym maes datblygu polisi;

    Pennod 3: Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarperir

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    9Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • • partneriaethau cenedlaethol: mae CLILC yn cyflawni rôl arweinyddol gryf, ac mae’r partneriaethau statudol â llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a’r sector busnes yn sail i brosesau cyfathrebu ac ymgysylltu da â Llywodraeth Cynulliad Cymru;

    • ymgysylltu â’r gweithlu: ymrwymiad i broses gref o gyfathrebu ac ymgysylltu â chynrychiolwyr y staff;

    • mae’r sefydliadau darparu allweddol yn cydffinio ar lefel leol;

    • perfformiad gwasanaethau mewn rhai categorïau sy’n perfformio’n well na’r un gwasanaethau mewn rhannau eraill o’r DU;

    • cydnabod bod angen newid, a rhai o’r camau pwysig a gymerwyd eisoes i gyflawni hyn, megis rhesymoli cynlluniau lle mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lleihau nifer y cynlluniau y mae angen i awdurdodau lleol eu cynhyrchu;

    • cefnogi dull y Cynllun Gofodol o wella cydweithredu a chydweithio uwchlaw lefel yr ardal leol.

    3.8 Yr her nawr yw sicrhau bod gallu’r system ddarparu - y staff, y strwythurau a’r prosesau - yn bodloni uchelgeisiau’r Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac anghenion dinasyddion Cymru. Mae hyn yn mynnu camau i fynd i’r afael â’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â diwylliant sefydliadol, gallu ymarferol a chymhlethdod y broses.

    Diwylliant

    ‘Mewn ardal o faint Cymru, mae’r heddlu o’r farn y dylai cyfuniad o fodel awdurdod unedol ar gyfer llywodraeth leol a Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol ddod ag eglurder o ran cysylltiadau gwleidyddol i Gymru - nad yw potensial ar gyfer dull o’r fath ar gael yn unman arall yn y DU ac sy’n gofyn am gael ei ddefnyddio i’r eithaf, a hynny er lles y cyhoedd.’

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Wasanaethau’r Heddlu yng Nghymrus

    ‘Yn aml, caiff diwylliant sefydliadau y gwasanaethau cyhoeddus … eu nodweddu fel a ganlyn:

    - ceir ymdeimlad o gystadleuaeth rhwng gwahanol sefydliadau, yn arwain at ddiffyg dulliau cydgysylltiedig o weithio a diffyg cydweithredu a rhannu gwybodaeth;

    - diwylliant sy’n canolbwyntio ar dargedau, lle na chaiff targedau ar lawr gwlad eu hadolygu na’u dilyn gan gamau gweithredu;

    - caiff mentrau polisi eu datblygu ar sail yr hyn sydd orau i’r sefydliad yn hytrach na’r cyhoedd a wasanaethir gan y gwasanaethau;

    - dim methodolegau i sicrhau y cydymffurfir â safonau ansawdd neu i sicrhau bod adborth yn cael ei gasglu gan y bobl y mae’r gwasanaeth yn darparu ar eu cyfer ;

    - eithrio aelodau gweithredol o’r cyhoedd sy’n perthyn i grwpiau a eithrir yn gymdeithasol o’r broses ymgynghori ac felly maent yn parhau i gael eu heithrio;

    - diwylliant sy’n canolbwyntio ar feio, a’r prif ffactor ysgogol yw’r angen i ‘wylio eich cefn eich hun’ drwy gau’r rhengoedd i ddiogelu’r ‘grwp mewnol’ y bydd modd uniaethu fwyaf ag ef;

    - amharodrwydd i wrando ar adborth oni bai ei fod yn cefnogi sylwadau presennol y darparwyr gwasanaethau.’

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Fwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    10Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • 3. 9 Mae Pennod 2 yn nodi’r goblygiadau ar gyfer diwylliant ac ymarfer model y dinesydd o ddarparu gwasanaethau. Awgryma’r dystiolaeth nad yw’r prif ddiwylliant eto wedi deall y model hwn. Caiff uchelgais ei gyfyngu gan ffiniau trefniadol, adrannol a sefydliadol, ac mae’n ei chael yn anodd ymateb i safbwynt y dinesydd. Mae’r arweinwyr, y sefydliadau a’r adrannau o’u mewn hefyd yn gweithio o fewn y ‘seilo’. Mae llinellau fertigol rheoli perfformiad a pholisi yn atgyfnerthu’r diwylliant hwn.

    3.10 Ar hyn o bryd, ymddengys nad yw llawer o wasanaethau cyhoeddus yn croesawu’r her nac yn manteisio ar arloesedd. Mae’r diwylliant cydymffurfio yn rhy gryf, yn aros i Lywodraeth y Cynulliad (neu Lywodraeth y DU) ddweud wrthynt beth i’w wneud. Mae hyn yn atal cynnydd drwy gyfyngu ar fentergarwch a rhoi esgusodion dros berfformiad gwael. Mae perygl y bydd yn creu’r argraff bod Cymru yn gaeth i fodelau darparu gwasanaeth traddodiadol ac yn derbyn y safonau perfformiad presennol.

    3.11 Mae’r diwylliant hwn yn cyfyngu ar arloesedd. Mae’n golygu pan geir rhyddid newydd, megis y pwerau newydd i godi tâl a masnachu, y pŵer ‘lles’ a’r system fenthyca darbodusi, mae sefydliadau wedi bod yn araf i fanteisio’n arloesol a defnyddio’r pwerau newydd hyn i wella’r gwasanaethau. (Gweler Blwch 3.1 ar y diwylliant cydymffurfio).

    Bwlch 3. 1Y diwylliant cydymffurfio Mae’r system fenthyca darbodus yn enghraifft dda o’r broses o symud o ddiwylliant cydymffurfio i ddiwylliant o arloesedd a phroffesiynoliaeth. System gyfarwyddol iawn oedd y system gyllid cyfalaf a roddwyd yn ei lle gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, gyda mwy na 120 o reoliadau. Bob blwyddyn, byddai Llywodraeth y Cynulliad yn dweud wrth bob awdurdod lleol yng Nghymru faint y gallai fenthyg at ddibenion gwariant cyfalaf h.y. cymeradwyaeth credyd. Roedd y system hon yn adlewyrchu diffyg ymddiriedaeth rhwng y llywodraeth ganolog a’r llywodraeth leol, am nad oedd yn caniatáu prin neu ddim lle i addasu yn lleol. Arweinodd hyn at ddiwylliant cydymffurfio a oedd yn:

    - creu diwydiant osgoi i greu mathau newydd o gyfryngau ariannu nad oedd yn cyfrif yn erbyn y gymeradwyaeth ‘credyd’;

    - awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau ariannol am asedau ar sail osgoi ‘ergyd’ i’w cymeradwyaethau credyd yn hytrach na’r gwerth gorau am arian;

    - ras wyllt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i wario hyd at derfyn y gymeradwyaeth credyd;

    - diffyg ffocws strategol ar gyfer penderfyniadau buddsoddi cyfalaf.Rhoddwyd y drefn gyfarwyddo fanwl hon i’r naill ochr pan gyflwynwyd y system fenthyca darbodus. Ceir deddfwriaeth o hyd ond mae’n ddeddfwriaeth alluogol yn hytrach nac yn gyfarwyddol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dibynnu ar godau ymarfer proffesiynol a’i chanllawiau statudol ei hun i bennu fframwaith ar gyfer system hunan-reoleiddiol lle mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ariannu cyfalaf cost-effeithiol, strategol. Fodd bynnag, mae symud o’r system cymeradwyo cyfalaf sy’n seiliedig ar gydymffurfio yn mynnu diwylliant a sgiliau gwahanol. Mae hyn yn cymryd amser, ac felly mae’r manteision posibl i’r broses o ddarparu gwasanaethau o ran rheoli a chynllunio asedau yn strategol eto i’w gwireddu. Mae rhai awdurdodau wedi gwneud defnydd rhagorol o’r system hon, er enghraifft, defnyddiodd Blackpool y system fenthyca darbodus i fuddsoddi yn y gwaith o wella palmentydd, sydd wedi lleihau tua £1 miliwn ar eu taliadau blynyddol am ‘faglu a chwympo’. Mae hyn yn dangos y potensial i gael gwared ar gyfarwyddebau manwl er mwyn creu lle i arloesi’n lleol, rhoi’r cyfle i sefydliadau lleol ddangos unplygrwydd ac agwedd broffesiynol, gan ddefnyddio’r holl offer sydd ganddynt i wella cyfleusterau a gwasanaethau er budd eu cymunedau.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    11Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • amrywiaeth y ddarpariaeth3. 12 Mae’r diwylliant presennol mewn sefydliadau hefyd yn cyfyngu ar uchelgeisiau o ran gweithio

    gydag a thrwy sefydliadau eraill er mwyn manteisio ar eu harbenigedd a’u syniadau newydd. Byddai diwylliant mwy arloesol yn manteisio ar economi gymysg o ddarpariaeth, gydag ystod o ddarparwyr gwahanol yn datblygu dulliau newydd, a phartneriaethau gyda’r trydydd sector a’r sector preifat, gan helpu i gyflwyno ffyrdd newydd o feddwl ac ymestyn gallu ymarferol.

    3.13 Mae economi gymysg gref o ddarpariaeth hefyd yn golygu datblygu’r ddarpariaeth sector cyhoeddus er mwyn lleihau’r ddibyniaeth ar nifer gyfyngedig o ddarparwyr preifat - er enghraifft, mewn gofal preswyl a gwasanaethau maethu. Dylai sefyllfaoedd godi hefyd lle gallai darparwyr gwasanaeth cyhoeddus gystadlu â’i gilydd, er enghraifft, mewn gwasanaethau trosglwyddo.

    bod yn agored i newid3. 14 Mae’r gwaith o arloesi a newid ar gyfer gwella gwasanaethau wedi’i rwystro gan ddiwylliant

    sefydliadol ceidwadol a thrafodaeth gyhoeddus gyfyngedig, sydd yn aml yn adlewyrchu ymlyniad i’r traddodiadol yn hytrach na pharodrwydd i ystyried yr hyn a allai fod. Er enghraifft, cafwyd cynnydd cyfyngedig hyd yn hyn wrth:

    • gyflwyno modelau perchenogaeth newydd, fel modelau cymunedol cydfuddiannol, er mwyn galluogi cynnydd cyflymach wrth fynd i’r afael â’r ôl-groniad o atgyweiriadau yn nhai’r awdurdod lleol), Cartrefi Gwell i Bobl Cymru: Strategaeth Dai Genedlaethol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru (2001);

    • ailgydbwyso’r ddarpariaeth GIG oddi wrth ysbytai a thuag at ddarpariaeth yn y gymuned, fel y mae Derek Wanless yn ei argymellii;

    • symleiddio’r ddarpariaeth addysg ar draws dosbarthiadau chwech mewn ysgolion a cholegau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant galwedigaethol, i wella amrediad ac ansawdd y ddarpariaeth fel yr awgrymwyd yn adroddiad ETAGiii ym mis Mawrth 1999.

    ‘Mae rhoi bywyd newydd i wasanaethau lleol yn galw am broses sy’n fwy agored o lawer wrth nodi pwy all ddiwallu orau yr anghenion a nodwyd gan gymunedau a phobl leol, a pharodrwydd cadarnhaol i weithio gyda sefydliadau a’u comisiynu pan fyddant mewn sefyllfa dda i wneud hynny ... Ni ddylai rhagdybiaethau fodoli am pwy ddylai ddarparu pa wasanaethau.’

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

    ‘Mae rhoi’r dinesydd ynghanol y broses o gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau yn hanfodol. Ceir enghreifftiau o arferion da ledled Cymru ond … mae gofyn cryfhau hyn ymhellach er mwyn i’r cyhoedd ymgysylltu’n llwyr yn y drafodaeth am yr angen i foderneiddio ein gwasanaethau. Bydd rhai o’r newidiadau sydd eu hangen yn herio canfyddiadau cyfredol y cyhoedd am yr hyn a ddisgwylir gan wasanaethau lleol - yn enwedig gan fod ymdeimlad mor gryf o ‘berchenogaeth’ o wasanaethau cyhoeddus Cymru. Ceir ymrwymiad cryf o hyd i frics a morter ar adeg pan fo angen i ni ganolbwyntio ar ddarparu gofal mewn ffyrdd gwahanol iawn mewn lleoliadau eraill. ‘

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Fwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    12Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • 3. 15 Mae cael cefnogaeth y cyhoedd i newid y broses o ddarparu gwasanaethau yn her enfawr i’r holl sefydliadau lleol yng Nghymru, fel ym mhobman. Mae’r ffactorau canlynol yn cyfrannu at hyn:

    - rhoddir gwerth ar gyfleusterau cyhoeddus, megis ysgolion ac ysbytai neu chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd, ynddynt eu hunain fel symbol o ymrwymiad cyhoeddus i’r ardal, hyd yn oed lle mae’r rhesymeg ar gyfer darpariaeth wedi newid yn ddramatig;

    - caiff y broses wleidyddol ei gyrru gan gymhelliant i ddiogelu sefydliadau lleol, yn hytrach na cheisio bod yn arloesol;

    - ceir diffyg ymddiriedaeth yng nghymhellion y sefydliadau sy’n cynnig y newid;

    - nid yw’r achos dros fodel darpariaeth newydd ac amgen yn ddigon argyhoeddiadol;

    - mae sefydliadau lleol wedi’u rhannu wrth wneud achos dros newid;

    - ni cheir digon o berchenogaeth leol o’r gyllideb gyffredinol neu ddealltwriaeth o’r cyfleoedd a gollir wrth fethu a newid.

    3. 16 Mae hyn yn cyflwyno agenda heriol, ond bydd y cwmpas ar gyfer arloesi a gwella wedi’i gyfyngu’n ddifrifol os yw adeiladau a gwasanaethau penodol yn gwrthsefyll newid. Mae’r broses o greu system ddarparu hyblyg a all addasu i ofynion ac amgylchiadau sy’n newid yn dibynnu ar sefydlu a chynnal sianelau cyfathrebu rhagorol â dinasyddion. Mae angen i hyn fod yn rhan o fusnes arferol, nid wedi’i ysgogi gan gynnig penodol am newid yn unig. Mae hon yn her i’r system lywodraethu gyfan yng Nghymru, gan gynnwys y pleidiau gwleidyddol, gweinyddwyr a phobl broffesiynol.

    3.17 Nid ydym yn bychanu pa mor anodd yw’r broses o weithredu newidiadau mor sylfaenol ar draws ffiniau sefydliadol, gyda chefnogaeth dinasyddion. Ond bydd y cynnydd wrth wella gwasanaethau yn cael ei gyfyngu os bydd y diwylliant yn rhoi mwy o werth ar ddiogelu’r status quo nac ar wella effeithiolrwydd.

    bod yn agored am berfformiad3. 18 Bu’r diwylliant yn amddiffynnol ynghylch cyhoeddi data perfformiad, er bod hyn yn newid,

    fel y trafodir ym Mhenodau 5 a 6. Gwrthododd Cymru dull y tablau cynghrair o gymharu perfformiad, ar y sail bod y data crai yn aml yn rhy anodd i’w ddehongli ac yn gamarweiniol o bosibl, yn enwedig pan fo’r fath amrywiaeth o anghenion a blaenoriaethau yn bodoli ar draws y nifer fechan o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru.

    3.19 Beirniadwyd y model Asesu Perfformiad Cynhwysfawr yn Lloegr fel dull anghaboledig o fesur perfformiad, ond cydnabyddir hefyd ei fod wedi cyfrannau at welliannau sylweddol, gan gynnwys mewn gwasanaethau y mae cymunedau ac unigolion agored i niwed yn dibynnu arnynt.

    3.20 Heb fod data perfformiad ar gael yn hawdd, y perygl yw nad yw’r darparwyr gwasanaethau yn cael eu herio, ac felly mae’n llawer anos i’r dinesydd gael syniad o ansawdd perfformiad y gwasanaethau lleol. Mae’n ymddangos i ni bod asesiad agored a didwyll o gryfderau a gwendidau’r perfformiad a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella ar bob lefel yn rhagamod o fodel y dinesydd.

    3.21 Mae’n hanfodol i ddinasyddion a’u cynrychiolwyr allu olrhain perfformiad y darparwyr gwasanaethau lleol dros amser, er mwyn iddynt allu barnu a yw pethau’n gwella. Yn ogystal, ceir achos dros ddatblygu set feincnodi ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, y dylid ei chyhoeddi’n flynyddol er mwyn ei thrafod. Rydym wedi nodi’r dull hwn o weithredu ym Mhennod 5. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n meincnodi’u hunain yn erbyn awdurdodau cymharol mewn mannau eraill yn y DU. Fel yr

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    13Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • ydym yn ei argymell yn ddiweddarach, dylai’r dull o weithredu gynnwys gwybodaeth perfformiad fel rhan o’r her a’r uchelgais o wella gwasanaethau. Mae bod yn fwy agored yn y modd hwn yn un o ragamodau proses graffu effeithiol a bod yn atebol i’r dinesydd.

    craffu3. 22 Ychydig iawn o dystiolaeth a gafwyd am broses graffu gyhoeddus fel erfyn effeithiol ar gyfer

    gwella. Ar lefel leol, ymddengys bod y broses yn ôl-weithredol ac yn canolbwyntio’n gul ar wasanaethau awdurdodau lleol. Nid oes digon o hyfforddiant ar gyfer y rheini sy’n craffu. Ceir diffyg cefnogaeth weinyddol ac arbenigol ar gyfer craffu ac nid oes digon o gyfranogiad cyhoeddus yn y broses. Byddai diwylliant a yrrir gan welliannau yn rhoi mwy o bwys ar graffu, ac yn rhoi statws uwch iddo, ynghyd â ffocws aml-ddisgyblaeth mwy heriol. Dylai’r broses fod yn un wrthrychol ac ni ddylid cael chwip ymysg y pleidiau.

    3.23 Dylai’r holl sefydliadau cyhoeddus groesawu proses graffu fel modd o wella a dysgu. Gwelwyd bod rôl statudol awdurdodau lleol Lloegr wrth graffu ar iechyd yn fodd effeithiol o ddatblygu perthynas weithio agosach rhwng y cyrff hyn.

    3.24 Dylid anelu at roi heriau effeithiol i ddiwylliant sefydliadol ac archwilio a yw gwasanaethau cyhoeddus gyda’i gilydd yn cyflawni’r canlyniadau dymunol. Gellid gwella’n sylweddol ar y broses graffu drwy gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, eiriolwyr a chynghorwyr arbenigol. Mae gan y cyfryngau rôl i’w chwarae hefyd wrth ysgogi diddordeb y cyhoedd yn y broses graffu ar bob lefel o’r llywodraeth.

    3.25 Mae Adroddiad y Ganolfan Craffu Cyhoeddusiv yn pwysleisio’r potensial ar gyfer craffu cyhoeddus, ar bob lefel o’r broses ddemocrataidd, er mwyn rhoi llais i ddinasyddion o fewn strwythurau’r llywodraeth, ac i ysgogi newidiadau yn narpariaeth gwasanaethau a pholisïau. Gall cynnal trosolwg o bolisïau a chraffu arnynt cyn gwneud penderfyniadau yn eu cylch wella ansawdd y broses o wneud penderfyniadau. Gall y broses roi llais i adrannau o’r gymuned sy’n guddiedig, sy’n anodd eu cyrraedd ac sydd wedi’u hymyleiddio.

    ‘Yr her i’r rheini sy’n craffu a llywodraethwyr ddinasyddion yw meddwl yn fanwl am y ffordd y mae’r holl faterion [sy’n wynebu’r llywodraeth] wedi’u cysylltu â’i gilydd. Y peth gwaethaf oll i’w wneud fyddai trin y broses graffu fel blwch bach ar ei ben ei hun’.

    Y Ganolfan Craffu Cyhoeddus (2005)

    3. 26 Yng ngoleuni hyn, awgrymwn y canlynol fel egwyddorion proses graffu effeithiol a ddylai gael eu defnyddio ar bob lefel o’r llywodraeth:

    • dylai fod wedi’i ysgaru o wleidyddiaeth pleidiau - dim chwipiau ar baneli craffu;

    • ni ddylai’r grŵp sy’n rheoli gadeirio’r cyfarfod bob tro;

    • dylai roi her yn null ‘ffrind beirniadol’;

    • dylai leisio pryderon y cyhoedd;

    • dylai effeithio ar wasanaethau cyhoeddus.

    Gallu Ymarferol3. 27 Neges gref iawn a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghori oedd fod y gallu ymarferol i ddarparu dan

    bwysau mawr ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cyrff y trydydd sector. Mae’r cyfyngiadau ar allu a godwyd yn gyson, ar draws ystod y gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys pryderon ynghylch:

    - arweinyddiaeth - gweledigaeth wleidyddol a rheoli, mewn sefydliadau, cyfarwyddiaethau, ysgolion, colegau, timau;

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    14Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • - strategol/trawsbynciol - meddwl yn strategol am iechyd, cyflogaeth, sgiliau, anghydraddoldebau;

    - arbenigedd - proffesiynol, dadansoddol, rheoli prosiectau, adnoddau dynol, contractio, e-lywodraeth, rheoli asedau;

    - sgiliau - cyfathrebu, negodi, broceriaeth, perswadio, nodi manteision i’r naill a’r llall, rheoli perthnasoedd;

    - craffu a llywodraethu - her sy’n canolbwyntio ar y dinesydd;

    - her ac arloesi - gan gynnwys gallu ymarferol y trydydd sector a’r sector preifat.

    3. 28 Mae’r galluoedd hyn yn brin, ac wedi’u lledaenu’n denau ar draws nifer fawr o sefydliadau. Cydnabuwyd hyn i ryw raddau drwy greu Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru (RhNgCC), yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (AGAAGI) a Gwerth Cymru. Awgryma’r dystiolaeth y bydd angen gwella’r rolau hyn yn sylweddol os ydynt yn mynd i feithrin gallu ymarferol llawer cryfach i ddarparu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    3. 29 Mae’r cyfyngiadau hyn ar allu ymarferol wedi gwaethygu yn sgil y rolau newydd sy’n rhoi mwy o alwadau ar unigolion na rolau arwain a rheoli traddodiadol. Er enghraifft, mae’r rôl tai strategol yn wahanol iawn i swyddogaeth y darparwr gwasanaeth tai traddodiadol a gyflawnwyd gan gynghorau dosbarth cyn y broses ail-drenfuv. Mae’r swydd hon bellach yn cynnwys:

    - Darlunio canlyniadau tai a chymunedol;

    - Ymgysylltu’n effeithiol â chymunedau a phartneriaid;

    - Darparu gwasanaethau sy’n cyflawni canlyniadau iechyd, cynaliadwyedd a chanlyniadau eraill;

    - Ymateb yn hyblyg i’r angen am dai;

    - Rhoi modelau ariannu cymhleth newydd ar waith.

    3. 30 Mae’r gallu ymarferol i arwain yn bwysig, ond mae hefyd yn bwysig nodi’r angen am wasanaethau arbenigol. Roedd cyfyngiadau ar allu ymarferol yn amlwg yn yr heriau perfformiad a drafodwyd â ni, er enghraifft mewn gwasanaethau cymdeithasol (Blwch 3.2), rheoli gwastraff (Blwch 3.3) a gwella ysgolion (Blwch 3.4).

    Bwlch 3. 2Gwasanaethau CymdeithasolCeir cytundeb cyffredinol nad yw perfformiad y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn bodloni’r safon y mae dinasyddion yn ei disgwyl. Amlygodd adroddiad diweddaraf Prif Arolygydd y Gwasanaethau Cymdeithasolvi, a’r cylch diweddaraf o gydadolygiadau y bu rhai gwelliannau ond erys gofidion difrifol. Mae angen newidiadau cyflymach drwy:

    ‘Mae gan Gymru lawer i’w gynnig o safbwynt denu a chadw gweision cyhoeddus ond rhaid i Gymru sicrhau ei bod yn rhan o’r farchnad gyflogi genedlaethol a byd-eang a pharhau’n gystadleuol. Er mwyn i wasanaethau cyhoeddus dderbyn yr heriau sylweddol sy’n eu hwynebu, rhaid iddynt gael eu gweld fel ‘y dewis cyntaf ’. Yn y cyd-destun hwn, mae’r cysyniad o Gymru sy’n genedl ragweithiol, hyderus a llwyddiannus yn bwysig ar draws economi Cymru.’

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Gydffederasiwn y GIG Cymru

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    15Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • Bwlch 3. 2 (parhad)

    - ddatblygu diwylliant o rannu a dysgu; - gwella’r defnydd a wneir o adnoddau presennol i wella perfformiad;- y gallu i roi cefnogaeth mwy ymarferol, wedi’i thargedu i helpu awdurdodau sydd mewn

    trafferth. Mae’r problemau wedi’u dogfennu’n dda dros nifer o flynyddoedd:

    - diwylliant ac arweinyddiaeth - gwleidyddol a phroffesiynol;- cyllid - adlewyrchu blaenoriaethau gwleidyddol isel;- prinderau staff - swyddi gwag proffesiynol a staff gofal;- gwybodaeth annigonol am y broses a chanlyniadau a phroses wan o reoli perfformiad.

    Y prif gyfyngiad ar allu fu’r diffyg staff cymwys a ddogfennir yn fanwl yn yr adroddiad a luniwyd gan y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasolvii, a’r ffordd y mae cystadleuaeth rhwng awdurdodau i recriwtio staff wedi gwneud y sefyllfa’n waeth i bawb. Teimlwyd hefyd bod effaith darnio, a cholli arbenigedd ac ymrwymiad, ar lefel yr aelod a’r swyddog, yn dilyn ad-drefniad 1996 wedi chwarae rhan fawr yn y problemau a fu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

    Rhoddir yr argraff, mewn nifer o ardaloedd, nad oedd gan y sefydliad sy’n darparu gofal y gallu i weithredu strategaethau fel Hawliau ar Waith, Cynllun Oes, y Strategaeth Pobl Hŷnviii, heb sôn am gyfrannu’n effeithiol at bartneriaeth ac arloesedd. Mae’r arweinyddiaeth wedi ymgolli’n ormodol mewn pethau sy’n rhoi pwysau arni ar hyn o bryd i osod ei phryd ar arferion rhagorol mewn mannau eraill, a’r hyn y gellid ei gyflawni drwy greu partneriaeth effeithiol.

    Yn fwy diweddar, bu ymyriadau mewn awdurdodau unigol, gan gynnwys gosod targedau a monitro perfformiad gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mewn rhai achosion, ategwyd hyn gan gamau ychwanegol sy’n cynnwys CLILC a Llywodraeth Cynulliad Cymru, lle’r anfonwyd uwch dîm cynghori i helpu i ddylunio cynlluniau gwella a’u rhoi ar waith. Bydd Asiantaeth Gwella newydd, a leolir yn CLILC, ac a ariennir yn ganolog, yn cefnogi gwelliannau perfformiad cyffredinol drwy dargedu’r cymorth lle mae ei angen fwyaf.

    Nid yw’r cynllun gwella hwn yn rhoi sail i ddisgwyl y bydd gallu gwell yn esgor yn fuan ar ganlyniadau gwell. Ceir cydnabyddiaeth bod gwelliannau parhaus yn mynnu diwylliant a drawsnewidiwyd, gyda chydweithredu uchelgeisiol, er enghraifft er mwyn:

    - adeiladu ar brofiad awdurdodau o gydweithio sydd eisoes i’w weld mewn rhai rhannau o Gymru;

    - dysgu oddi wrth y model comisiynu a rennir a ddatblygir ar hyn o bryd ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol;

    - cynnal cynllun peilot o fodel gwasanaethau a rennir ar draws dau awdurdod neu fwy;

    - trawsnewid ymarfer a diwylliant mewn perthynas â’r dinesydd a’r sector gwirfoddol;

    - cydweithredu â’r Adran Gwaith a Phensiynau, colegau AB ac eraill i ddatblygu ffyrdd arloesol o ymateb i’r galw cynyddol am staff gofalu a phroffesiynol;

    - trosglwyddo dysgu o’r model data cleientiaid a rennir, a ddatblygwyd gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau fel rhan o’r strategaeth Cyswllt-Oed, lle mae staff sy’n gweithio i wahanol asiantaethau yn cydweithio i leihau nifer y ffurflenni a lenwir gan bobl hŷn, sydd yn gwella’r gwasanaeth ac yn rhyddhau amser y staff er mwyn iddynt gael helpu pobl â phroblemau cymhleth.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    16Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • Bwlch 3. 3

    Rheoli gwastraff

    Ceir cytundeb cyffredinol ar yr heriau darparu a wynebir gan awdurdodau lleol wrth weithredu strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru Yn Gall gyda Gwastraffix:

    - arweinyddiaeth - y gallu i gynllunio a gweithredu prosiectau cyfalaf mawr yng nghyd-destun cynllunio gofodol ystyrlon - gan gynnwys integreiddio â’r amgylchedd, datblygu economaidd, tai a thrafnidiaeth;

    - y gallu technegol i drafod cytundebau cymhleth: mae prinder o arbenigwyr caffael a sgiliau cyfreithiol;

    - creu gallu, ee yn y trydydd sector i reoli prosiectau ailgylchu lleol;

    - cydweithredu - mae cyfaint y gwastraff yn rhy fach i’w reoli gan y rhan fwyaf o awdurdodau ar eu pen eu hunain - mae’r farchnad wedi’i dominyddu gan nifer fach o gontractwyr mawr sydd â diddordeb mewn cytundebau mawr iawn yn unig;

    - atebolrwydd a rennir ar gyfer cytundebau ar y cyd: yr angen i greu cyfryngau partneriaeth ffurfiol a dulliau o fynd i’r afael â chraffu.

    Mae’r byrddau rhanbarthol newydd a gynulliwyd gan CLILC i nodi ac arwain ar faterion allweddol sy’n ymwneud â chydweithredu, yn mynd i’r afael â’r rhain. Ceir sbardun cryf iawn i wella perfformiad: Cyfarwyddeb y CEx sy’n rhoi cosbau llym os na fodlonir y targedau i leihau lefelau’r tirlenwi.

    Serch hyn, mae’r cynnydd yn cael ei ddal yn ôl gan gyfyngiadau ar allu a diffyg gallu i fynd i’r afael â hwy mewn ffordd draws-sefydliadol. Nid yw hyn o ganlyniad i ddiffyg ymrwymiad: ond yn hytrach, ansicrwydd ynghylch rôl pwy yw hi i wneud y gwaith caib a rhaw, pryd y mae awdurdodau unigol yn atebol, ac mae risgiau mawr yn gysylltiedig â thrafod cytundebau 20 mlynedd.

    Mewn rhai ardaloedd, mae cyd-ddarparu ar y gweill, yn enwedig lle mae’r naill a’r llall yn elwa’n amlwg, er enghraifft rhwng Caerdydd a Chasnewydd, lle mae un partner yn ychwanegu màs critigol yn nhermau’r contract ac mae’r llall dan lai o bwysau o ran safleoedd tirlenwi. Mae’r ddau awdurdod wedi cychwyn ar gydbroses graffu a gwneud penderfyniadau, gan gynnwys cydgyflwyniadau i Aelodau, gan gynnwys swyddogion y ddau awdurdod a Llywodraeth y Cynulliad.

    Rôl yr arweinyddiaeth yw sicrhau cynnydd digon cyflym ar draws Cymru, gan gynnwys gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol neu ranbarthol lle bo angen ar faterion fel llosgi gwastraff a lleoliad cyfleusterau mawr, lle na ellir datrys y rhain drwy drafodaethau lleol.

    Y dasg yw nodi’r cyfyngiadau ymarferol ar allu a thrafod cytundebau ar atebion megis y strwythurau partneriaethau ffurfiol sydd eu hangen i gefnogi cytundebau ar y cyd. Mae hefyd yn mynnu barn glir ar y math o ymyrryd sydd ei angen, sef cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Mae hyn yn cyflwyno heriau am ei fod yn syrthio rhwng lefelau lleol a chanolog y llywodraeth, ac yn mynnu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgysylltu llawer mwy â’r atebion sy’n benodol i ardaloedd nag a oedd yn digwydd yn draddodiadol.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    17Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • 3. 31 Mae’r sgiliau sydd eu hangen ar fodelau partneriaeth o ddarparu yn arbennig o bwysig ac yn hynod brin. Yn aml, ystyrir y rhain yn ‘sgiliau meddal’ fel cyfathrebu a pherswadio. Ond mae cyd-ddarpariaeth effeithiol yn mynnu sgiliau negodi cryfach - gan gynnwys y gallu i nodi lle bo’r naill a’r llall ar eu hennill a sicrhau bod sefydliadau unigol yn gweithredu ymrwymiadau a rennir.

    Bwlch 3. 4

    Gwella perfformiad mewn ysgolion

    Ceir dadansoddiad a rennir, yn seiliedig ar brosiect Cau’r Bwlch a gomisiynwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a CLILCxi, mai’r mater allweddol o ran darparu yw lleihau pa mor amrywiol yw perfformiad ysgolion drwy wella perfformiad y rheini sydd â’r lefelau isaf o gyrhaeddiad gan ddisgyblion, a dysgu oddi wrth ysgolion sy’n llwyddo i dorri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a pherfformiad isel.

    Dyma sy’n cyfyngu ar gynnydd:

    arweiniad mewn ysgolion - diwylliant a sgiliau’r timau rheoli uwch y nodwyd yn ystod dadansoddiad Cau’r Bwlch eu bod yn ffactor hanfodol ar gyfer llwyddiant parhaus;

    gallu awdurdodau lleol - i herio a chefnogi ysgolion i wella, yn benodol drwy rannu arferion da; a’r gallu i weithredu dull strategol o ddarparu addysg ysgolion yng ngoleuni’r ffaith fod y niferoedd ar y cofrestrau yn lleihau, yr angen am fuddsoddiad cyfalaf a newid yn y cwricwlwm;

    llywodraethu a chraffu ar ysgolion - gallu’r llywodraethwyr a’r rhieni i herio a chefnogi gwelliannau yn effeithiol;

    strwythurau ac adnoddau - sy’n atal cydweithredu rhwng ysgolion a cholegau i weithredu llwybrau dysgu 14-19 effeithiol;

    Mae rhannu arbenigedd yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r cyfyngiadau hyn ar allu ymarferol. Parhaodd nifer o awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cynghorol a rennir yn dilyn yr ad-drefniad ym 1996 er mwyn sicrhau na fyddai arbenigedd cefnogi ysgolion yn cael ei golli. Mae ESIS yn darparu gwasanaeth ar gyfer 5 awdurdod yn y De ac mae Cynnal yn darparu gwasanaeth ar gyfer 3 awdurdod yn y Gogledd. Mae awdurdodau ac ysgolion yn eu gwerthfawrogi fel adnodd arbenigol, cost-effeithiol. Maent yn gwneud gwaith i awdurdodau eraill, gan gynnwys rhai y tu allan i Gymru, drwy gytundebau. Mae achos cryf dros ymestyn ystod a chwmpas y gwasanaethau hyn a rennir : mae pum awdurdod yn y De-orllewin yn archwilio ffyrdd o wneud hyn.

    Bydd gweithredu’r newidiadau sydd eu hangen i greu Cyfnod Sylfaen (3-7): a llwybrau dysgu 14-19 unigol, gan gynnwys rhesymegu’r ddarpariaeth ôl-16 , yn gwneud galwadau mwy fyth ar allu ar lefel awdurdod lleol.

    Heb arweiniad cadarn iawn, gan gynnwys trawsnewid y diwylliant i ganolbwyntio ar yr holl ddysgwyr, a herio’r system ddarparu i gyflawni rhagoriaeth i bawb, bydd y broses o newid yn cael ei hatal gan ymwrthedd sefydliadol, ac ni chaiff yr uchelgeisiau ar gyfer ansawdd, dewis a phersonoli eu gwireddu.

    Rhaid i’r broses o weithredu newidiadau gynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid, gan gynnwys disgyblion, rhieni a llywodraethwyr, a rhannu gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd a gollir gan bobl ifanc, cymunedau ac economi Cymru os na lwyddir i sicrhau gwell canlyniadau i ddysgwyr.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    18Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • 3. 32 Mewn enghreifftiau penodol o fethiant gwasanaeth, mae problemau gallu ymarferol ynghyd â chymhlethdod y broses, yn arwain at berfformiad gwael, gydag effaith fawr ar ddinasyddion, yn enwedig ar bobl dan anfantais. Er enghraifft, yn achos gweinyddu budd-daliadau awdurdodau lleol, mae’r diffyg staff cymwys a phrofiadol, a wnaed yn waeth am fod staff yn symud rhwng awdurdodau wrth chwilio am gyflogau gwell, ynghyd â set gymhleth iawn o hawliadau statudol sy’n newid yn gysonxiii wedi cyfrannu at gamgymeriadau a gohiriadau annerbyniol wrth asesu budd-daliadau mewn rhai ardaloedd xiv.

    3. 33 Mae difrifoldeb y problemau gallu hyn yn golygu ei bod yn hanfodol i sefydliadau lleol achub ar bob cyfle i wella gallu ymarferol drwy rannu gwasanaethau, neu gyfuno arbenigedd, gan ddefnyddio ystod eang o fodelau gwahanol. Mae’r angen i ymateb yn greadigol ac ar frys i allu cyfyngedig a sgiliau ynddi’i hun yn ddadl rymusol dros gynyddu partneriaeth wrth ddarparu gwasanaethau. Er bod rhai enghreifftiau o benodiadau uwch a rennir a chyd-leoli neu gydgyfrannu staff, eithriadau yw’r rhainxv..

    3. 34 Mae’r angen am fwy o gydweithredu yn ymestyn ymhellach o lawer na threfniadau rhyng-awdurdod. Mae yna bosibiliadau ar gyfer mwy o weithio mewn partneriaeth rhwng cynghorau, byrddau iechyd lleol, y gwasanaethau tân a’r heddlu yn ogystal â’r Gwasanaeth Pensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith. Yn ogystal, mae angen i ddarparwyr gwasanaeth lleol wneud mwy o lawer i ddatblygu partneriaethau cyhoeddus-preifat fel modd o gynyddu gallu rheolwyr a gwella’r gwasanaeth.

    3. 35 Mae Blwch 3.5 yn rhoi enghreifftiau o fodelau partneriaeth sydd ar brawf yn Lloegr i wella effeithiolrwydd y broses o weithio mewn partneriaeth. Mae Blwch 3.6 yn rhoi enghreifftiau o fodelau cydweithio a ddyluniwyd i feithrin gallu ac arwain, felly, at wella’r gwasanaeth. Archwilir y rhain yn fanylach, er enghraifft, yn ‘Adroddiad Terfynol y Tasglu Partneru Strategol’, Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, 2004 ac ‘Effeithlonrwydd a Chydweithio ym Myd Llywodraeth Leol Cymru’, CLILC/KPMG, 2006.

    ‘Mae’r bartneriaeth hefyd yn parhau â’r gwaith o ddatblygu strwythur comisiynu ar y cyd i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Bydd y gwaith sy’n ymwneud â moderneiddio a newid y gwasanaethau a ddarperir yn sylweddol ac roedd y bartneriaeth yn cydnabod y bydd hyn yn galw am ymrwymiad o ran amser i roi’r newidiadau ar waith. Er bod y gwaith hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar iechyd a gofal cymdeithasol, mae’n hanfodol i gomisiynu ar y cyd hefyd adlewyrchu’r rhyngwyneb corfforaethol ehangach rhwng yr awdurdod lleol â’r BILl yn ogystal â’r sectorau annibynnol a gwirfoddol ehangach er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus modern.’

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol a Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    19Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • Bwlch 3. 5

    Enghreifftiau o fodelau sydd ar brawf yn Lloegr i wella effeithiolrwydd partneriaethau

    Cytundebau Ardal Lleol

    Mae holl gyrff y sector cyhoeddus mewn ardal yn llofnodi cytundeb i ddarparu nifer o ganlyniadau targed a drafodwyd â’r llywodraeth ganolog fel agenda strategol ar gyfer yr ardal honno. Cefnogir hyn gan grant gwobrwyo a ffactorau darparu hyblyg a drafodwyd.

    Mae hyn yn cynnwys bod yn rhydd o dargedau perfformiad penodol, neu gyfyngiadau eraill a osodwyd gan adrannau yn Whitehall, a gofynnodd y partïon am hyn er mwyn eu helpu i fodloni targedau’r LAA. Caiff Cytundebau Ardal Lleol eu negodi gan y swyddfeydd rhanbarthol yn Lloegr ar ran yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r adrannau perthnasol yn Whitehall.

    Mae’r model yn rhannu rhai nodweddion ag ail gylch y cynllun Cytundeb Polisi a gyflwynwyd yng Nghymru ar gyfer 2004-07. Bu hwn yn fodd i ddyrannu Grant Cymell Perfformiad gwerth £30 miliwn y flwyddyn dros dair blynedd i awdurdodau lleol ar yr amod y bodlonir set o dargedau a negodir erbyn 2007.

    Y gwahaniaeth allweddol yw bod y Cytundebau Ardal Lleol yn gytundebau â thimau ar draws sectorau, tra bod y broses Cytundeb Polisi yn seiliedig ar gytundeb ag awdurdod lleol, ac yn ymwneud â chyrraedd targedau sydd o fewn rheolaeth yr awdurdod lleol i raddau helaeth.

    Mae rhai problemau’n codi mewn perthynas â model y Cytundebau Ardal Leol. Er enghraifft, cyflwynwyd canllawiau newydd ar gyfer y Cytundebau Ardal Leol gan gyn Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yn ddiweddarxvi ac erys yn ddogfen gymhleth, sy’n cynnwys tua100 o dargedau gorfodol (gan ddibynnu ar ffrydiau ariannu wedi’u cronni) a llawer o dargedau gwirfoddol ychwanegol. Awgryma’r Gymdeithas Llywodraeth Leol fod y cymhlethdod hwn yn deillio o’r cafeatau a’r amodau y mae Adrannau’r Llywodraeth am eu cynnwys.

    Byrddau’r Gwasanaethau Cyhoeddus

    Mae’r model hwn wrthi’n cael ei ddatblygu mewn rhai ardaloedd o Loegr. Mae’r Bwrdd yn cynnwys yr holl randdeiliaid mewn ardal awdurdod lleol - asiantaethau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys yr awdurdod lleol, yr ymddiriedolaeth gofal sylfaenol ac ymddiriedolaeth yr ysbyty, y gwasanaethau tân a’r heddlu, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y trydydd sector a’r sector preifat. Y diben yw cydgrynhoi holl adnoddau’r gwasanaethau cyhoeddus mewn ardal, a phenderfynu ar y cyd sut i’w trefnu mewn ffordd fwy effeithiol er mwyn datrys problemau a gwella’r gwasanaethau.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    20Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • Bwlc

    h 3.

    6

    Mod

    elau

    Cyd

    wei

    thio

    Mod

    elY

    Def

    nydd

    Teb

    ygol

    a W

    neir

    Oho

    nynt

    Engh

    raiff

    tC

    ydbw

    yllg

    or (

    Ded

    df L

    lyw

    odra

    eth

    Leol

    197

    2 a.

    101)

    Gw

    asan

    aeth

    au s

    ydd

    ange

    n eu

    cyn

    lluni

    o ar

    sai

    l dd

    aear

    yddo

    l sy’

    n eh

    anga

    ch n

    a’r a

    wdu

    rdod

    au

    unig

    ol.

    Y c

    onso

    rtia

    tra

    fnid

    iaet

    h yn

    g N

    ghym

    ruES

    IS a

    Cyn

    nal -

    cef

    noga

    eth

    cwric

    wlw

    m a

    rben

    igol

    a

    hyffo

    rddi

    ant

    i ath

    raw

    on.

    Dar

    parw

    r ar

    wei

    niol

    Gw

    asan

    aeth

    au a

    rben

    igol

    lle

    mae

    arb

    enig

    edd

    yn b

    rin -

    gal

    lai’r

    rha

    in g

    ynnw

    ys g

    was

    anae

    thau

    a

    ddar

    perir

    yn

    unio

    ngyr

    chol

    , fel

    gw

    eith

    wyr

    cy

    mde

    ithas

    ol ie

    chyd

    med

    dwl a

    rben

    igol

    neu

    w

    asan

    aeth

    au c

    ymor

    th fe

    l TG

    .

    Cae

    rdyd

    d yw

    prif

    dda

    rpar

    wr

    gwas

    anae

    thau

    TG

    Ch

    i F

    laen

    au G

    wen

    t. G

    wyn

    edd

    sy’n

    dar

    paru

    ’r gw

    asan

    aeth

    pry

    dau

    ysgo

    lion

    ar

    Yny

    s M

    ôn (

    o ga

    nlyn

    iad

    i den

    dr c

    ysta

    dleu

    ol)

    Cyf

    arw

    yddi

    aeth

    au a

    Ren

    nir

    /G

    was

    anae

    thau

    a R

    enni

    rTi

    mau

    rhe

    oli o

    sef

    ydlia

    dau

    teby

    g ar

    gyf

    er

    gwas

    anae

    thau

    a d

    darp

    erir

    i’r c

    yhoe

    dd

    ond

    posib

    ilrw

    ydd

    y ge

    llid e

    u de

    fnyd

    dio

    ar d

    raw

    s y

    sect

    or c

    yhoe

    ddus

    at

    ddib

    enio

    n cy

    nort

    hwyo

    m

    egis

    AD

    a c

    hyllid

    .

    Mae

    Cla

    ckm

    anna

    nshi

    re a

    Stir

    ling

    yn y

    r Alb

    an y

    n ys

    tyrie

    d cy

    funo

    eu

    gwas

    anae

    thau

    rhe

    oli.

    Mae

    tai

    r ca

    nolfa

    n rh

    annu

    gw

    asan

    aeth

    au’r

    GIG

    ledl

    ed C

    ymru

    yn

    cef

    nogi

    hol

    l gyr

    ff y

    GIG

    .C

    ydw

    asan

    aeth

    mab

    wys

    iadu

    Sir

    Gae

    rfyrd

    din/

    Cer

    edig

    ion/

    Si

    r Be

    nfro

    . Yn

    gallu

    ogi d

    efny

    ddio

    gal

    lu a

    ren

    nir

    drw

    y sy

    stem

    re

    oli g

    anol

    og.

    Cyd

    -fent

    er/C

    wm

    ni’r

    Aw

    durd

    od

    Lleo

    l/Par

    tner

    iaet

    hau

    Ate

    bolrw

    ydd

    Cyf

    ynge

    dig

    Mae

    ’r ffu

    rf ho

    n ar

    dre

    fnia

    nt p

    artn

    eria

    eth

    yn fw

    y ‘c

    yfre

    ithio

    l’ ac

    yn fw

    y te

    bygo

    l o d

    dod

    i’r a

    mlw

    g po

    fwya

    f o b

    artn

    eria

    id a

    gei

    r a

    po fw

    yaf y

    w

    rhan

    y s

    ecto

    r pr

    eifa

    t a’r

    try

    dydd

    sec

    tor.

    Cap

    ita S

    ymon

    ds (

    Ym

    gyng

    horia

    eth

    Cap

    ita G

    wen

    t)

    Con

    sort

    iwm

    y S

    ecto

    r C

    yhoe

    ddus

    Lle

    mae

    arb

    enig

    edd

    yn b

    rin a

    /neu

    lle

    y ge

    llir

    gwne

    ud a

    rbed

    ion

    mai

    nt.

    Gw

    asan

    aeth

    au A

    rchw

    ilio M

    ewno

    lC

    ydw

    asan

    aeth

    Cyf

    reith

    iol G

    orlle

    win

    Mor

    gann

    wg

    ar

    Ofa

    l Pla

    ntW

    edi e

    i roi

    ar

    gont

    ract

    alla

    nol

    Yn

    gyffr

    edin

    ol, m

    ae’n

    ym

    wne

    ud â

    th

    rosg

    lwyd

    do’r

    bros

    es o

    dda

    rpar

    u gw

    asan

    aeth

    au y

    n gy

    fan

    gwbl

    i’r

    darp

    arw

    r gw

    asan

    aeth

    .

    Was

    tesa

    vers

    Cas

    new

    ydd

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    21Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • Cymhlethdod3. 36 Y drydedd neges a gododd o’n hymgyngoriadau yw bod y bwlch rhwng uchelgeisiau

    a’r ddarpariaeth a wneir wedi’i gynyddu’n fawr gan gymhlethdod y broses lywodraethu. Mae hyn yn cynnwys cymhlethdod y map darparu - rydym wedi dod ar draws llawer iawn o ‘geometreg amrywiol’; gwahanol raniadau gwasanaeth a rhanbarthol ledled Cymru e.e. chwe ardal y Cynllun Gofodol, pedwar cydfwrdd CLILC, tri ‘rhanbarth’ iechyd, pedwar consortiwm trafnidiaeth ac ati. Y ddadl oedd bod pob un o’r ffiniau hyn yn gweithio at eu dibenion eu hunain a bod y ffiniau yn ‘annelwig’ mewn rhai achosion. Golyga hyn, serch hynny, bod yn rhaid i sefydliadau lleol reoli’r cymhlethdod hwn.

    3.37 Yn ehangach, mae darparwyr gwasanaeth lleol yn gweithio mewn seilwaith cymhleth o wahanol fathau o ofynion canolog gan gynnwys:

    • prosesau busnes a rennir yn adrannau ar draws sectorau, gyda gwahanol ofynion, targedau, amserlenni o ran cynllunio, data ac adrodd;

    • gofynion deddfwriaethol newydd;

    • rheoli perfformiad - lluosogrwydd targedau a blaenoriaethau sy’n cystadlu;

    • rheoleiddio ac arolygu - ffocws ar sefydliad unigol, dyblygu a gorgyffwrdd, beichiau anghymesur;

    • nifer fawr o bartneriaethau;

    • systemau ariannu cymhleth, gan gynnwys llawer o ffrydiau ariannu.

    3. 38 Y neges glir a gafwyd yn ein trafodaethau yw bod y rhain yn creu ffocws ar broses yn hytrach na chanlyniadau, a bod hyn yn tarfu ar y broses o ddarparu gwasanaethau lleol drwy:

    • annog diwylliant cydymffurfio;

    • lleihau’r gofod a’r cymhelliad ar gyfer arloesi;

    • tynnu oddi ar atebolrwydd a balchder lleol;

    • atal y broses o gydweithio lleol o amgylch nodau strategol.

    3. 39 Caiff y gofynion canolog effaith enfawr ar ymddygiad a pherfformiad sefydliadau lleol a staff rheng flaen, ond nid yw Llywodraeth y Cynulliad na Whitehall yn deall hyn yn iawn. Maent yn ysgogi cyfathrebu fertigol mewn rhannau o adrannau yn hytrach na chyfathrebu llorweddol ar draws sectorau. Mae gan hyn oblygiadau mawr i flaenoriaethau sefydliadau ac unigolion, a’u hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth. Gwelir yr un broblem mewn sefydliadau lleol.

    rheoli perfformiad3. 40 Mae sefydliadau lleol yn gweithio i fodloni gofynion nifer fawr o orchmynion perfformiad

    gwahanol gan gynnwys:

    • Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella a Chytundebau Polisi

    • cerdyn sgorio cytbwys y GIG a Fframweithiau Gwasanaeth ac Ariannol

    • y Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer rhai clefydau heintus a grwpiau cleient

    • setiau dangos perfformiad ar gyfer strategaethau trawsbynciol fel camddefnyddio sylweddau a’r amgylchedd

    • y targedau sgiliau allweddol cenedlaethol

    • y targedau iechyd cenedlaethol

    • targedau’r Swyddfa Gartref ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    22Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • • targedau gweithredol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith a’r Gwasanaeth Pensiynau.

    3. 41 Mae gan bob set o dargedau adran hyrwyddo ar wahân yn Llywodraeth y Cynulliad, neu yn Whitehall, ac mae’n sail i berthynas adrodd fertigol rhwng y ganolfan a’r ardal leol. O safbwynt lleol, mae’n bosibl bod llawer o’r targedau mewn cystadleuaeth, gan fynnu llawer o ymdrech leol i negodi galwadau dargyfeiriol neu gystadleuolxvii.

    3.42 Cydnabyddir yr angen i leihau nifer y targedau statudol, a chafwyd cynnydd eisoes, er enghraifft drwy leihau nifer y NAWPIs statudol. Fodd bynnag, mae’r broses ddiweddar o ddiwygio fframwaith rheoli perfformiad llywodraeth leol yn cydnabod yr angen i roi fframwaith i awdurdodau lleol ar gyfer meincnodi gwasanaethau rhyngddynt â’i gilydd.

    3.43 Mae effaith rheoli perfformiad ar ymddygiad a gallu yn yr asiantaethau darparu yn fater mwy sylfaenol. Lle caiff perfformiad ei fesur a chyllid ei ddyrannu ar sail proses neu weithgarwch, mae hyn yn cyfyngu’n fawr ar y posibilrwydd o gydweithio. Lle mae gweithdrefnau rheoli perfformiad yn rhy fanwl ac wedi canolbwyntio’n ormodol ar feicro reoli, cyfyngir ar y cyfle i reolwyr lleol ddefnyddio’u blaengaredd a’u crebwyll eu hunain, gan gyfyngu ar eu gallu i ddatblygu’n rheolwyr ac arweinwyr effeithiol.

    3.44 Mae angen rhannu gweledigaeth gliriach ynghylch pa fath o reolaeth leol sydd ei hangen a sut y dylid annog a gwobrwyo hyn. Argymhellwn yn ddiweddarach bod angen dull o weithredu gwahaniaethol a mwy cymesur, gyda phrosesau herio a chefnogi cryf lle mae’r perfformiad yn wael, a mwy o ddibyniaeth ar hunan-werthuso ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n perfformio ac yn darparu.

    3.45 Nid yw’n hawdd cael y cydbwysedd hwn, yn enwedig o ran materion heriol lle mae diffyg hyder yng ngallu sefydliadau i fodloni nodau darparu, er enghraifft ar yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth y GIG. Yr her yw sicrhau y deellir ac y derbynnir yr effaith a gaiff y broses o ysgogi targedau penodol ar y system ehangach ac yr eir i’r afael â’r cyfyngiadau ar allu - fel y digwyddodd wrth greu Uned Cefnogi Darpariaeth Ymddiriedolaethau’r GIG.

    cyllid3. 46 Ceir cytundeb mewn egwyddor, rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a CLILC i gefnogi

    proses ariannu heb ei neilltuo ar gyfer llywodraeth leol, fel y ffordd orau o sicrhau dull strategol o weithredu blaenoriaethau a gwerth am arian ar lefel leol. Fodd bynnag, yn ymarferol, ceir nifer fawr o gynlluniau grant penodol, yn rhai refeniw a chyfalaf, a ddyrennir yn bennaf drwy adrannau ar wahân, sy’n mynnu bod staff yn rhoi canllawiau ac yn monitro cydymffurfiaeth ag amcanion grantiau. Mae llawer yn mynnu bod awdurdodau yn cyflwyno ceisiadau cefnogol â threfniadau monitro manwl. (Gweler Blwch 3.7)

    Bwlch 3. 7Ffrydiau Ariannu Awdurdodau Lleol

    Nid yw hon yn rhestr gyflawn o holl ffrydiau ariannu awdurdodau lleol ond mae’n rhoi blas o gymhlethdod y system a nifer y grantiau penodol gan: Lywodraeth Cynulliad Cymru, adrannau Llywodraeth y DU nad ydynt wedi’u datganoli a ffynonellau eraill (megis y loteri ac ariannu’r UE), y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu gweinyddu. Mae rhai o’r grantiau hyn yn werth tua £1 miliwn y flwyddyn, ac mae’r rhan fwyaf yn werth rhwng £5 miliwn a £10 miliwn ar gyfer Cymru gyfan.

    Mae’r grantiau hyn yn ychwanegol at y Grant Cynnal Refeniw heb ei neilltuo (sy’n cynnwys cymorth heb ei neilltuo ar gyfer benthyciadau buddsoddiad cyfalaf), Grant Cymell Perfformiad, Grant Amddifadedd a Grant Cyfalaf Cyffredinol. Maent hefyd yn ychwanegol at Gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer yr awdurdodau hynny sy’n cyflawni swyddgaeth landlord.

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    23Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • Grantiau Refeniw Llywodraeth Cynulliad Cymru

    Nofio am Ddim i Bobl HŷnNofio am Ddim i Blant a Phobl IfancArian Refeniw Ychwanegol i YsgolionCronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau ar gyfer CymruGrant Dysgu’r CynulliadY Gronfa Ysgolion Gwell 2006-07Rhoi Plant yn GyntafArgyfyngau Sifil Grant Ysgolion BroGrant Ad-dalu Tocynnau Teithio Rhad Cymorth - y Gronfa Gymorth i Blant a Phobl IfancY Blynyddoedd CynnarGrant Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd EthnigCynllun Grant Hybu Iechyd Bwyd a FfitrwyddGweithredu’r Strategaeth ar gyfer Pobl HŷnGrant Arbennig Gweithio ar y CydStrategaeth Anabledd Dysgu (Adsefydlu)Llwybrau Dysgu 14-19Grant Diogelwch Ffyrdd LleolGrant Gwasanaethau Trafnidiaeth LleolCronfa Datblygu Rheoli PerfformiadGrant y Fenter Cyllid PreifatCynllunio: cyflawni dros Gymru Menter Brecwast am Ddim mewn Ysgolion CynraddGrant Profi Gollyngiadau Cerbydau ar Ochr y FforddCynllun Cymorth Ariannol i Brynu Gwisg YsgolRhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal CymdeithasolRhaglen Grant Rheoli Tai CymdeithasolGrant Cymorth i Bobl ag Anableddau (Iechyd Meddwl)Cefnogi PoblGrant Trechu DadrithiadGrant Addysg i DeithwyrRheoli GwastraffCynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith CymruPartneriaeth Pobl Ifanc - Prosiectau Aml Asiantaeth

    Bwlch 3. 7 (parhad)

    Grantiau Cyfalaf Llywodraeth Cynulliad Cymru

    Lwfans Atgyweiriadau MawrCamddefnyddio SylweddauAdfywio Canol TrefiFfyrdd LleolTrafnidiaeth LeolCyfalaf y Rheilffyrdd a’r Awyr Cerdded a SeicloDiogelwch ar y FfyrddGrantiau DŵrDraenio Rhydwelïau a Llifogydd ac Amddiffyn yr Arfordir Y Strategaeth GwastraffGrant Gwella Adeiladau YsgolionCofrestru ElectronigCADW

    Grantiau Refeniw a Chyfalaf nad ydynt yn ymwneud â Llywodraeth Cynulliad Cymru (mae llawer o’r rhain yn ffrydiau ariannu lluosog)Y Gronfa Loteri FawrCyngor Celfyddydau CymruY Swyddfa Gartref Grantiau EwropeaiddCyngor Chwaraeon CymruYr Adran Gwaith a PhensiynauBwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Cefn Gwlad CymruGrant y Gymuned EwropeaiddCyfraniadau Datblygwyr PreifatSportslot

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    24Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper ir

  • 3. 47 Mae’r cymhlethdod ariannu hwn, gan gynnwys grantiau penodol a chyllid wedi’i neilltuo yn gyffredin ar draws yr holl sectorau eraill. Mae costau trosglwyddo uchel yn gysylltiedig â hyn, ac mae perygl y bydd yn tanseilio gwerth am arian, drwy agwedd dymor byr a diffyg perchenogaeth leol, fel y trafodir ym Mhennod 4. Mae hefyd yn golygu ei bod yn anos cyfuno cyllidebau ac adnoddau ar lefel leol.

    archwilio, arolygu a rheoleiddio 3. 48 Mae’r prosesau archwilio ac arolygu hefyd yn cael eu hisrannu, a chydnabyddir yn eang

    bod effaith gyfun prosesau’r gwahanol gyrff arolygu ar sefydliadau darparu lleol yn broblem; cydnabyddwyd hyn yn adroddiad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru y llyneddxviii. Yn yr un modd â rheoli perfformiad, nid cymhlethdod y systemau unigol yn unig sy’n peri problem ond eu heffaith gyfun ar y sefydliadau darparu. Ymateb rhannol i’r her hon yn unig yw’r camau a gymerir, er enghraifft drwy rôl y rheolwr perthnasoedd, i gydgysylltu trefniadau’r arolygon a’u hamseru yn well.

    3.49 Yr hyn sy’n bwysig o ran yr ystod gyfan o brosesau archwilio, rheoleiddio ac arolygu yw cael cydbwysedd rhwng annibyniaeth yr arolygiad a chreu mwy o gydlyniaeth ac effaith ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw hyn yn achos o fynd i’r afael â baich y broses arolygu yn unig - ond yn hytrach yn achos o wneud y mwyaf o’i heffaith ar y gwaith o wneud gwelliannau. Ymddengys bod ffurfweddiad presennol y prosesau archwilio ac arolygu yn adlewyrchu ac yn atgyfnerthu ffiniau adrannol, ac yn milwrio yn erbyn dull integredig o weithredu sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

    3. 50 Mae angen egluro gwahanol rolau’r prosesau arolygu a chefnogi ar draws y system ddarparu ac ystyried cydbwysedd buddsoddi’r naill a’r llall yn ofalus.

    Partneriaethau 3. 51 Yn gyffredinol, cefnogir y model o ddarparu mewn partneriaeth ond ceir rhwystredigaeth

    fawr ynghylch ei effaith gyfyngedig. Credir yn eang fod yna ormod o bartneriaethau ac nad ydynt yn ddigon effeithiol wrth wella gwasanaeth, er y clywsom am eithriadau nodedigxix. Mae eu dulliau o weithredu yn rhy dameidiog, ac maent wedi’u cysylltu’n rhy dynn â’u hadrannau nawdd o fewn Llywodraeth y Cynulliad.

    ‘... gall strategaeth gynllunio ariannol Llywodraeth y Cynulliad weithredu fel ffactor sy’n rhwystro cydweithredu effeithiol. ...Bydd Is-adrannau’n cyflwyno ceisiadau, y gellir eu cymharu â’u blaenoriaethu, cyn eu hagregu i gyllideb y Cynulliad.

    Mae hyn yn annog amgylchedd cystadleuol yn hytrach na chydweithredol, ac o ganlyniad, mae cystadleuwyr llwyddiannus yn llai tebygol o eistedd i lawr i rannu’r adnoddau y maent wedi’u hennill gydag eraill. Mae’n meithrin “prosiectau sy’n ffefrynnau”, ac yn hybu parhad segur cynlluniau sydd ar orffen i ddal eu gafael ar yr arian sy’n gysylltiedig â hwy.’

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

    ‘Er gwaethaf sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru a chysylltiadau da ag arolygiaethau, megis AGCC, mae’n amlwg nad yw’r baich arolygu’n lleihau a bod y costau’n parhau i gynyddu. ... mae gwerth ychwanegol yn gyfyngedig mewn rhai meysydd, ac mewn eraill, mae baich arolygu’n tynnu oddi ar y gwasanaethau a ddarperir’

    Cyflwyniad ysgrifenedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

    Adolygiad o’r Gwasanaethau a Ddarper ir yn Lleol: Adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru

    25Y rhwystrau i’r broses o wella’r gwasanaethau a ddarper