30
© British Nutrition Foundation 2011 Astudiaeth achos ffermio llaeth

Astudiaeth achos ffermio llaeth

  • Upload
    kaelem

  • View
    70

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Astudiaeth achos ffermio llaeth. Amcanion dysgu. Nodi bod y ffermwr yn ystyried iechyd a lles y gwartheg godro yn ystod gwahanol agweddau ar ffermio. Cofio’r camau allweddol mewn prosesu llaeth a chynhyrchu caws Cheddar. Ffermio llaeth yn y DU. Mae poblogaeth y DU yn yfed oddeutu - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Astudiaeth achos ffermio llaeth

Page 2: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Amcanion dysgu

•Nodi bod y ffermwr yn ystyried iechyd a lles y gwartheg godro yn ystod gwahanol agweddau ar ffermio.

•Cofio’r camau allweddol mewn prosesu llaeth a chynhyrchu caws Cheddar.

Page 3: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Ffermio llaeth yn y DU

Mae poblogaeth y DU yn yfed oddeutupum biliwn litr o laeth bob blwyddyn,

sy’n cyfateb i 2,000 pwll nofio maint Olympaidd. Mae hyn yn gyfartaledd o 1.6 litr o laeth bob wythnos.

Yn ogystal â hyn, mae saith biliwn litr o laeth yn cael eu defnyddio i gynhyrchu cynnyrch llaeth fel caws, menyn, iogwrt

a phowdwr llaeth sych.

Page 4: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Ffermio llaeth: astudiaeth achos

Ar y fferm hon, mae pob buwch yn cynhyrchu tua 7,000 litr o laeth bob blwyddyn, sy’n cyflenwi cyfanswm o ychydig dros 7 miliwn litr o laeth ffres ar gyfer cynhyrchu caws ffermdy traddodiadol. Mae’r cyfaint hwn o laeth yn cyfateb i gynhyrchu 6,000 tunnell o gaws bob blwyddyn.

Mae’r teulu wedi ffermio gwartheg dros dair cenhedlaeth ac wedi cynhyrchu caws Cheddar yn Ne-orllewin Lloegr.

Page 5: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Cylch bywyd ar fferm laethEr mwyn cynhyrchu llaeth mae’n rhaid bod y gwartheg yn cynhyrchu llaeth ac mae’n rhaid ifuches fwrw llo er mwyn gwneud hyn.

Mae’r cylch o fwrw llo, cynhyrchu llaeth, ymhadiad a beichiogrwydd, ac wedyn cyfnod ‘sych’, yn tueddu i weithio mewn cylchoedd 12 mis.

Mae’r cyfnod ‘sych’ yn debyg i gyfnod mamolaeth oedolyn, pan fydd buwch yn gorffwys ac yn paratoi ar gyfer bwrw ei llo.

Mae ffermydd llaeth yn ddibynnol ar gynhyrchu lloi ar gyfer cynhyrchu llaeth.

Page 6: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Llety gwartheg Fel y mwyafrif o ffermydd llaeth ar hyd a lled y DU, mae’r gwartheg ar y fferm hon yn pori allan yn ystod yr haf ac yn cael eu cadw mewn dan do yn ystod y gaeaf.

Mae’r fferm hon yn defnyddio sied wartheg gyda system rhannu rhydd, gyda gwely unigol ar gyfer pob buwch. Defnyddir arwahanu elastig er mwyn arbed y gwartheg rhag gwneud dolur i’w gilydd.

Mae’r gwartheg yn gallu gorffwys, sefyll a symud o gwmpas yn rhydd.

Page 7: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Lechyd a lles anifeiliaid

Cynhelir gwiriadau iechyd rheolaidd ar y gwarthegac mae’r ffermwr yn gweithio’n agos gyda milfeddyg a maethegydd anifeiliaid er mwyn sicrhau iechyd a lles o’r safon orau ar gyfer y gwartheg godro.

Mae gan bob buwch basbort anifeiliaid sy’n nodi man tarddiad y fuwch ac unrhyw leoliadau eraill y cafodd ei chludo iddynt.

Page 8: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Godro

Mae’r gwartheg yn dod i mewn o’r caeau neu’r sgubor i’r iard gasglu dwywaith y dydd.

O’r iard mae nifer o wartheg yn mynd i’r parlwr godro ar ffurf saethben.

Page 9: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

GodroYn gyntaf, mae’r ffermwr neu’r

cowmon yn defnyddio tywel papur glân i sychu pob cadair.

Mae’r llaeth cyntaf yn cael ei stripio. Dyma le mae ychydig bach o’r llaeth yn cael ei wasgu allan o bob teth er mwyn gwneud yn siwr bod y llaeth yn edrych yn lân ac yn iach.

Mae un cwpan (rwber hyblyg) allan o’r clwstwr yn cael ei roi am bob teth. Mae’r gwactod yn tynnu’r llaeth o’r gadair, mewn dull tebyg i geg llo bach yn tylino’r deth.

Page 10: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Godro

Er mwyn osgoi gorodro mae’r clwstwr yn rhyddhau ei hun yn awtomatig. Mae’r gadair yn cael ei gwirio gyda llaw er mwyn sicrhau bod y fuwch wedi ei godro’n llwyr.

Mae pob teth yn cael chwistrelliad gwrthfacteria er mwyn arbed heintiau, fel mastitis, a chadw’r croen yn iach.

Ar ôl i’r gwartheg yn y rhes honno gael eu godro, maent yn cael eugadael allan o’r parlwr i fwyta ac yfed.

Page 11: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Storio llaeth

Mae’r pwmp codi yn tynnu’rllaeth drwy bibau dur gwrthstaen o ddiamedr mawr i mewn i’r llaethdy.

Mae’r llaeth yn mynd drwy blât cyfnewid gwres er mwyn gostwng gwres y llaeth i

rhwng 1a 4 ºC cyn cael ei storio yn y swmp danc rheweiddiedig.

Page 12: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Cludiant

Mae tancer llaeth yn galw ar y fferm bob diwrnod neu bob yn ail ddiwrnod i gasglu’r llaeth. Mae’r gyrrwr yn gwirio tymheredd y llaeth cyn ei gludo i’r llaethdy prosesu.

Bydd y fferm hon yn prosesu’r llaeth i gynhyrchu caws mewn ffatri ar y fferm.

Bydd ffermydd eraill yn cludo’r llaeth i laethdy prosesu ymhellach i ffwrdd.

Page 13: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Dewis: Cynhyrchu a phrosesu

Dewis cynnyrch i’w archwilio.

CawsLlaeth

Page 14: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Pasteureiddio

Proses yw pasteureiddio sy’n cael ei ddefnyddio i ladd micro-organeddau niweidiol fel rhai bacteria pathogenaidd, burum a llwydni, a allai fod yn bresennol yn y llaeth ar ôl ei gasglu yn y lle cyntaf.

Mae’r broses hon yn ymestyn bywyd silff y llaeth. Mae’r broses sylfaenol ar gyfer llaeth cyflawn yn cynnwys cynhesu’r llaeth i wres heb fod yn is na 71.7ºC am 25 eiliad. Yr enw ar y broses hon yw Tymheredd Uchel Cyfnod Byr (HTST).

Wedyn, mae’r llaeth yn cael ei oeri ar gyfer pacio, storio a chludo.

Page 15: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Homogeneiddio

Mae homogeneiddio llaeth yn golygu bod llaeth yn cael eibwmpio ar bwysedd uchel iawn drwy diwbiau cul, gan dorri’r globylau braster i fyny er mwyn dosbarthu’r rhain drwy’r

hylif.

Mae’r broses hon yn cynhyrchu llaeth o gyfansoddiad cyson a

blasusrwydd, heb symud nac ychwanegu unrhyw gyfansoddyn.

Mae’r rhan fwyaf o’r llaeth sydd ar gael i ni ei brynu wedi cael

ei homogeneiddio.

Page 16: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Pacio

Mae’r llaeth yn cael ei bacio wedyn i boteli a’i labelu.

Mae’r deunydd pacio yn helpu ymestyn bywyd silff y llaeth.

Page 17: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Dewis: Cynhyrchu a phrosesu

Dewis cynnyrch i’w archwilio.

Llaeth Caws

Page 18: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Trosgludo a phasteureiddio

Yn y ffatri gaws hon gall dros 25,000 litr o laeth gael ei drosgludo o ffermydd llaeth ar unrhyw adeg.

Mae’r llaeth yn cael ei ddadlwytho a nifer y litrau yn cael ei wirio cyn trosglwyddo’r llaeth i seilos.

Page 19: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Pasteureiddio

Pasteureiddio yw’r cam cyntaf yn y broses mae’r llaeth yn mynd drwyddo. Mae pasteureiddio yn lleihau nifer y micro-organau sy’n dirywio ac yn darparu amgylchedd da ar gyfer tyfu meithriniad cychwynnol.

Mae’r llaeth yn cael ei oeri mewn cafnau ar ôl ei basteureiddio i 32 °C, sef y tymheredd delfrydol ar gyfer

tyfu meithriniad cychwynnol.

Page 20: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Cawsio

Yn dilyn hyn, mae meithriniad cychwynnol, tebyg iawn i iogwrt naturiol sydd wedi ei rhewi a’i sychu, yn cael ei ychwanegu at y llaeth wedi ei basteureiddio. Mae hyn yn dechrau asideiddio’r llaeth.

Mae’r cam cawsio yn gadael i’r bacteria dyfu a dechrau eplesu. Ychwanegir caul, ensym sy’n gweithredu ar y protein llaeth caesin, ac wedyn mae’r llaeth yn clystyru, gan ffurfio lympiau.

Mae’r llaeth yn cael ei gymysgu ac wedyn ei adael i orffwys, tra bod jynced yn ffurfio, lle mae’r llaeth yn cawsio ac yn gwahanu i geuled a maidd.

Page 21: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Byrddau oeri a diferu maidd

Mae’r ceuled a’r maidd yn rhedeg allan o’r cafnau caws i’r byrddau oeri. Defnyddir y byrddau oeri hyn i:

1) oeri’r ceuled a’r maidd;2) gwahanu’r ceuled o’r maidd.

Mae’r maidd yn cael ei dywallt i ffwrdd er mwyn ei brosesu ymhellach lle mae’r hufen yn cael ei dynnu allan o’r maidd drwy allgyrchu a’i droi’n fenyn. Hefyd, mae protein yn cael ei dynnu allan o’r maidd i gael gwahanol gynhwysion. Yn ogystal, mae lactos yn cael ei dynnu allan o’r dŵr ac wedyn mae’n cael ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid.

Page 22: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Cheddareiddo

Mae’r gymysgedd yn cael ei symud o gwmpas y byrddau oeri gan ganiatáu i’r maidd ddiferu allan drwy sianel dyllog ganolog. Wrth i’r hylif ddiferu allan mae’n gadael pentwr solet, sef matiau ceuled.

Page 23: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Cheddareiddio

Mae’r matiau ceuled yn cael eu torri i rannau ac wedyn eu pentyrru ar ben ei gilydd a’u troi drosodd yn achlysurol.

Yr enw am y cam hwn yw ‘cheddareiddo’. Mae’r gwaith llafur llaw hwn yn rhan o’r broses Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO).

Dim ond y ffermydd hynny sy’n gwneud y broses hon gyda llaw yn Ne-orllewin Lloegr, gan ddefnyddio llaeth lleol, sydd â hawl cyfreithiol i labelu eu caws fel caws ‘West Country Farmhouse Cheddar’.

Page 24: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Halltu

Gellir cynhyrchu tua 1,900 kg o gaws ar y bwrdd oeri o fewn awr.

Mae’r darnau ceuled yn cael eu bwydo i’r felin a’u tafellu yn ddarnau tua hanner maint bawd. Mae hyn yn sicrhau y bydd yr halen yn cael ei gymysgu’n gyson drwy’r ceuled.

Mae’r halen yn cael ei ychwanegu i weithio fel cadwolyn ac i atal y caws rhag mynd yn sur yn ystod y broses aeddfedu. Mae hefyd yn ychwanegu blas i’r caws.

Page 25: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Blociau caws

Wedyn, mae’r gymysgedd yn cael ei rhoi mewn tŵr chwe medr o uchder er mwyn ffurfio blociau caws ar ffurf betryal, sy’n pwyso 20 kg yr un. Ar ôl cadarnhau'r pwysau, mae’r blociau hyn yn cael eu cofnodi’n unigol, gan sicrhau bod modd eu holrhain.

Yn dilyn hyn, mae’r blociau’n cael eu pacio dan wactod a’u rhoi mewn chwech neu saith o estyll pren. Wedyn maent yn cael eu rhoi yn yr ystafell oeri ac yn cael eu hoeri i wres o 10-12°C.

Page 26: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Aeddfedu’r caws

Yn yr ystafell oeri mae’r broses o asideiddio yn parhau ar gyflymder llawer llai yn ystod y cyfnod hwn, sef y cyfnod aeddfedu.

Pan ddaw’r amser i ddewis y caws, bydd y safonwr yn penderfynu pa gaws sydd orau i’w bwyta’n ifanc a pha rai dylid eu gadael i aeddfedu (hyd at 18 mis) i ddatblygu’r nodweddion a’r blas arbennig sy’n gysylltiedig â chaws West Country Farmhouse.

Page 27: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Pacio caws

Y cam olaf yn y broses cynhyrchu caws yw tafellu a phacio.

Mae’r blociau caws yn cael eu torri yn ddarnau o faint penodol, eu pacio a’u labelu. Mae’r cynnyrch yn cael eu gwerthu drwy fanwerthwyr mawr a bach ledled y DU, yn ogystal ag yn siop y fferm.

Page 28: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Isgynhyrchion ar y fferm

Yn ogystal â’r caws, mae cynnyrch eraill yn cael eu cynhyrchu ar y fferm. Mae’r lloi gwryw yn cael eu cadw i ffurfio gyr o dda eidion ar gyfer cyflenwi siop y fferm â chig o safon.

Mae cnydau âr yn cael eu tyfu ar y fferm, gan gynnwys gwenith, barlys, ceirch, rêp hadau olew ac india corn. Mae ychydig o’r grawn yn cael ei ddefnyddio i fwydo’r stoc, fel y gwartheg godro a moch, tra bod y gweddill yn cael eu gwerthu.

Mae’r maidd o’r cynnyrch caws yn cael eu mwydo i’r moch, ynghyd â grawnfwyd sy’n cael eu tyfu ar y fferm.

Page 29: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Lagŵn slyri

Mae lagŵn slyri ar y fferm sydd yn storio’r slyri, sef cymysgedd o dail gwartheg a’r dŵr a ddefnyddiwyd i olchi’r sgubor gwartheg.

Mae hyn yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith ac yn cael ei wasgaru dros y caeau ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mae’r caeau’n cael eu defnyddio ar gyfer pori neu dyfu cynnyrch fel gwenith a barlys.

Page 30: Astudiaeth achos ffermio llaeth

© British Nutrition Foundation 2011

Cydnabyddiaeth i:

Fferm Lye Cross

Am fwy o wybodaeth ewch i:

www.foodafactoflife.org.uk