8
Annwyl gyfeillion, diolch am y fraint o gael danfon gair atoch fel Llywydd y Gymdeithasfa yn y De, yng nghanol yr argyfwng digynsail presennol. Mae mynychu oedfa grefyddol Gristnogol ar y Sul yn weithgaredd lleiafrifol yn y Gymru gyfoes. Gwelir lleihad yng nghynulleidfaoedd y rhan fwyaf o’n heglwysi tra bod canran sylweddol o’n haelodau sy’n mynychu oedfaon yn heneiddio. Nid oes aelodau iau yn dod i lanw’r bwlch, chwaith. Mae poblogaeth y wlad yn tyfu, ond cau yw hanes ein capeli. Oni bai ein bod yn gallu gwrthdroi’r duedd hon, efallai byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle fydd fflam y ffydd yn diffodd yn ein gwlad. Er mwyn pwysleisio pwysigrwydd ymrwymo’n llwyr i, a derbyn galwad Crist yn llwyr ag yn llawen, adroddodd Erasmus, ysgolhaig enwog y Dadeni Dysg, stori ddychmygol wych. Ynddi, mae Iesu’n dychwelyd i’r nefoedd wedi iddo ymadael â’r fuchedd hon. Mae’r angylion yn ymgynnull o’i gwmpas er mwyn clywed a dysgu popeth a ddigwyddodd tra roedd ar y ddaear. Soniodd Iesu am ei ddysgeidiaeth, y gwyrthiau, ei groeshoeliad, a’i atgyfodiad. Pan orffennodd Iesu’r hanes gofynnodd yr Arch-Angel Mihangel iddo, “Ond, beth sy’n digwydd nawr, Arglwydd?” Atebodd Iesu, “Rwyf wedi gadael un ar ddeg disgybl ffyddlon ar ôl, a llond dwrn o fiyr a gwragedd sydd wedi fy nghanlyn yn ffyddlon. Byddant yn datgan fy neges ac yn mynegi fy nghariad. Bydd y ffyddloniaid yma’n adeiladu fy eglwys.” “Ond,” gofynnodd Mihangel eto, “Beth os mai methu fydd y bobl hyn? Beth fydd yn digwydd wedyn, pa gynllun arall sydd gennych?” Atebodd Iesu ef,“Does gen i ddim cynllun arall!” Gwahoddiad … t. 2 • O gefn gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 CYFROL CXLVIII RHIF 25 DYDD GWENER, MEHEFIN 19, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Hiliaeth Yn ystod yr wythnos hon y mae’r hanes trist wedi bod yn brif stori ar raglenni newyddion am lofruddiaeth ffiaidd George Floyd dan ben-glin greulon aelod o’r heddlu. Yn sgil y digwyddiad hwnnw y mae protestio ffyrnig wedi bod yn yr Unol Daleithiau ac ar hyd a lled y byd yn erbyn yr hyn a ddigwyddodd ac yn erbyn hiliaeth o bob math ac arbennig hiliaeth tuag at bobl o dras Affricanaidd ac Asiaidd. Wrth ddarllen ar Trydar a chyfryngau tebyg y mae’n gwbl ddychrynllyd sut y mae rhai yn mynegi eu casineb tuag at bobl o hil wahanol. Mae’r casineb sy’n bodoli yn annealladwy ac annynol. Cynhenid Trist yw gorfod cydnabod fod hiliaeth yn fyw ac yn iach a’i fod yn gynhenid i ryw raddau ym mhob cenedl ac hefyd mewn rhai sefydliadau. Mae’n frawychus gofyn y cwestiwn a yw hiliaeth o ryw fath yn bodoli ym mhob gwlad a chenedl? Dylem hefyd holi ein hunain a oes hiliaeth o ryw fath yn ein meddylfryd ni tuag at rai carfannau o bobl. Oherwydd y mae pob hiliaeth yn anghywir ac yn groes i ddymuniadau Duw ac y mae’n darddiad llawer o ddrygioni a chreulondeb o fewn i’r byd. Yr oedd George Floyd yn Gristion o argyhoeddiad ac yn cael ei adnabod fel person heddychlon oedd yn gweinidogaethu a mentora dynion ifanc yn y “Third Ward” yn Houston. Ardal galed a difreintiedig. Ei lys enw oedd “Big Floyd” gan ei fod yn 6’ 6” ac roedd yn awyddus i dorri’r cylch cythreulig o drais yr oedd dynion ifanc yn rhan ohono. Dywedodd Ronnie Lillard, sy’n perfformio hi-hop o dan yr enw Reconcile, “Roedd yr hyn a ddywedai wrth ddynion ifanc bob amser yn cyfeirio at y ffaith fod Duw yn drech na diwylliant y strydoedd. Credaf ei fod am weld dynion ifanc yn rhoi ei drylliau o’r neilltu gan gofleidio Iesu yn lle’r strydoedd.” Codi Llef Hoffem fynegi yn y Tyst (a’r Goleuad hefyd) ein gwrthwynebiad llwyr a chyfan gwbl i hiliaeth o bob math a’n tristwch o weld dyn diniwed yn cael ei ladd gan yr heddlu. Ein dyletswydd fel Cristnogion yw codi ein llef yn erbyn anghyfiawnder ffiaidd fel hwn gan fynnu cyfiawnder dros ein brodyr a’n chwiorydd. Codwn ein lleisiau a gweithredwn yn erbyn pob mynegiant o hiliaeth sy’n dilorni eraill ar sail eu hil. A gweddïwn am newid ym meddylfryd arweinyddion, mudiadau a sefydliadau sy’n hyrwyddo hiliaeth. Un ddynoliaeth ydym sydd wedi ei chreu ar lun a delw Duw ac y mae i bob unigolyn urddas a gwerth cydradd. Alun Tudur Diolch i’r Parch Ddr. Alun Tudur, golygydd y Tyst am ei erthygl ac am ganiatâd i’w ail- gynhyrchu yn y Goleuad. Mae ei eiriau, rwy’n sicr, yn amserol ac yn fynegiant o’n ffieiddra ninnau o hiliaeth yn ei holl wisgoedd. Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George Floyd Photo: Prachatai / Flickr CC BY-NC-ND 2.0

Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

Annwyl gyfeillion, diolch am y fraint ogael danfon gair atoch fel Llywydd yGymdeithasfa yn y De, yng nghanol yrargyfwng digynsail presennol.

Mae mynychu oedfa grefyddolGristnogol ar y Sul yn weithgareddlleiafrifol yn y Gymru gyfoes. Gwelirlleihad yng nghynulleidfaoedd y rhanfwyaf o’n heglwysi tra bod canransylweddol o’n haelodau sy’n mynychuoedfaon yn heneiddio. Nid oes aelodauiau yn dod i lanw’r bwlch, chwaith. Maepoblogaeth y wlad yn tyfu, ond cau ywhanes ein capeli. Oni bai ein bod yngallu gwrthdroi’r duedd hon, efallaibyddwn yn cyrraedd sefyllfa llefydd fflam y ffydd yn diffodd yn eingwlad.

Er mwyn pwysleisio pwysigrwyddymrwymo’n llwyr i, a derbyn galwadCrist yn llwyr ag yn llawen, adroddoddErasmus, ysgolhaig enwog y DadeniDysg, stori ddychmygol wych. Ynddi,mae Iesu’n dychwelyd i’r nefoedd wedi

iddo ymadael â’r fuchedd hon. Mae’rangylion yn ymgynnull o’i gwmpas ermwyn clywed a dysgu popeth addigwyddodd tra roedd ar y ddaear.Soniodd Iesu am ei ddysgeidiaeth, ygwyrthiau, ei groeshoeliad, a’iatgyfodiad.

Pan orffennodd Iesu’r hanes gofynnoddyr Arch-Angel Mihangel iddo, “Ond, bethsy’n digwydd nawr, Arglwydd?”

Atebodd Iesu, “Rwyf wedi gadael un arddeg disgybl ffyddlon ar ôl, a llond dwrno fiyr a gwragedd sydd wedi fy nghanlynyn ffyddlon. Byddant yn datgan fy negesac yn mynegi fy nghariad. Bydd yffyddloniaid yma’n adeiladu fy eglwys.”

“Ond,” gofynnodd Mihangel eto,“Beth os mai methu fydd y bobl hyn?Beth fydd yn digwydd wedyn, pa gynllunarall sydd gennych?” Atebodd Iesu ef,“Does gen i ddimcynllun arall!”

Gwahoddiad … t. 2 • O gefn gwlad … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

CYFROL CXLVIII RHIF 25 DYDD GWENER, MEHEFIN 19, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G L W Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

HiliaethYn ystod yr wythnos hon y mae’r hanestrist wedi bod yn brif stori ar raglenninewyddion am lofruddiaeth ffiaidd GeorgeFloyd dan ben-glin greulon aelod o’rheddlu. Yn sgil y digwyddiad hwnnw ymae protestio ffyrnig wedi bod yn yr UnolDaleithiau ac ar hyd a lled y byd yn erbynyr hyn a ddigwyddodd ac yn erbyn hiliaetho bob math ac arbennig hiliaeth tuag atbobl o dras Affricanaidd ac Asiaidd. Wrthddarllen ar Trydar a chyfryngau tebyg ymae’n gwbl ddychrynllyd sut y mae rhai ynmynegi eu casineb tuag at bobl o hilwahanol. Mae’r casineb sy’n bodoli ynannealladwy ac annynol.

Cynhenid

Trist yw gorfod cydnabod fod hiliaeth ynfyw ac yn iach a’i fod yn gynhenid i rywraddau ym mhob cenedl ac hefyd mewnrhai sefydliadau. Mae’n frawychus gofyn ycwestiwn a yw hiliaeth o ryw fath yn bodoliym mhob gwlad a chenedl? Dylem hefydholi ein hunain a oes hiliaeth o ryw fath ynein meddylfryd ni tuag at rai carfannau obobl. Oherwydd y mae pob hiliaeth ynanghywir ac yn groes i ddymuniadau Duw

ac y mae’n darddiad llawer o ddrygioni achreulondeb o fewn i’r byd. Yr oeddGeorge Floyd yn Gristion o argyhoeddiadac yn cael ei adnabod fel personheddychlon oedd yn gweinidogaethu amentora dynion ifanc yn y “Third Ward” ynHouston. Ardal galed a difreintiedig. Ei lysenw oedd “Big Floyd” gan ei fod yn 6’ 6”ac roedd yn awyddus i dorri’r cylchcythreulig o drais yr oedd dynion ifanc ynrhan ohono. Dywedodd Ronnie Lillard,sy’n perfformio hi-hop o dan yr enwReconcile, “Roedd yr hyn a ddywedai wrthddynion ifanc bob amser yn cyfeirio at yffaith fod Duw yn drech na diwylliant ystrydoedd. Credaf ei fod am weld dynionifanc yn rhoi ei drylliau o’r neilltu gangofleidio Iesu yn lle’r strydoedd.”

Codi Llef

Hoffem fynegi yn y Tyst (a’r Goleuadhefyd) ein gwrthwynebiad llwyr a chyfangwbl i hiliaeth o bob math a’n tristwch oweld dyn diniwed yn cael ei ladd gan yrheddlu. Ein dyletswydd fel Cristnogion ywcodi ein llef yn erbyn anghyfiawnder ffiaiddfel hwn gan fynnu cyfiawnder dros einbrodyr a’n chwiorydd. Codwn ein lleisiau agweithredwn yn erbyn pob mynegiant ohiliaeth sy’n dilorni eraill ar sail eu hil. Agweddïwn am newid ym meddylfryd

arweinyddion, mudiadau a sefydliadausy’n hyrwyddo hiliaeth. Un ddynoliaethydym sydd wedi ei chreu ar lun a delwDuw ac y mae i bob unigolyn urddas agwerth cydradd.

Alun Tudur

Diolch i’r Parch Ddr. Alun Tudur, golygyddy Tyst am ei erthygl ac am ganiatâd i’w ail-gynhyrchu yn y Goleuad. Mae ei eiriau,rwy’n sicr, yn amserol ac yn fynegiant o’nffieiddra ninnau o hiliaeth yn ei hollwisgoedd.

Byw yng Ngoleuni’r Pentecost

(parhad ar dudalen 2)

Ysbryd y tragwyddol Dduw,disgyn arnom ni

George FloydPhoto: Prachatai / Flickr CC BY-NC-ND 2.0

Page 2: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

Fel corff Crist rydym ni, fel yr apostolion,yn gyfrifol am bregethu’r Efengyl. Eincyfrifoldeb ni yw dod â’i Efengyl ryfeddol,ogoneddus o gariad, iachawdwriaeth acachubiaeth sydd wedi cynnal a chysuroei braidd am dros 2000 o flynyddoedd, i’rGymru gyfoes ac i’r byd. Mae Iesu’ncyfrif arnom.

Dyma’r newyddion da. Nid ydym ar benein hunain. Mae’r Ysbryd Glân yma i’nplygu, i’n trin, i’n golchi, i’n codi ac i’ndefnyddio.

Ar adeg y Pentecost, dros 2000 oflynyddoedd yn ôl, rhoddodd yr YsbrydGlân y gallu i’r disgyblion siarad yn yriaith oedd angen arnynt i gyrraedd eugwrandawyr, er mwyn iddynt hwyglywed a deall. Ni wn i, ai gallullythrennol i siarad mewn ieithoeddgwahanol oedd hyn neu os bu nerth yrYsbryd Glân mor gryf ynddynt nes i’r

angen am iaith gael ei rhagori, ganganiatáu i’r Ysbryd Glân siarad ynuniongyrchol â’r galon.

Ond un peth sy’n sicr.

Mae angen i ni ofyn i’r Ysbryd Glân i’ncynorthwyo i ddod o hyd i’r iaith honheddiw. Mae neges gennym i’wchyflwyno – neges bywyd neufarwolaeth yn llythrennol ydyw – ond amryw reswm ymddengys ein bod yn oaneffeithiol yn ei chyflawni. Mae angeninni ddod o hyd i’r iaith a fydd yn cysylltuâ phobl heddiw, a fydd yn estyn allan achyffwrdd â’u bywydau a’u calonnau.Mae angen i ni wneud hyn fel unigolionac ar y cyd, fel eglwys.

Os ceisiwn wneud hyn drwy fodd einhunain, byddwn yn sicr o fethu. Efallaiceisiwn ddal gafael ar bethau y dylemeu newid, neu newid pethau y dylemddal gafael arnynt. Efallai cawn ein

temtio i ddweud wrth bobl yr hyn afeddyliwn eu bod am ei glywed, ynhytrach na’r hyn mae Duw yn gwybodbod angen iddynt ei glywed.

Os ymddiriedwn yn Nuw a gadael i’wYsbryd Glân ein tywys, gallwn draddodineges o gariad digyfnewid, tragwyddolDduw mewn ffordd cyfoes, ffres.

Ni ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblionna fyddent yn cael problemau. Pe baemyn cymharu'r hyn wynebodd yrApostolion gyda'n hamgylchiadau niheddiw byddem yn gweld bod einanhawsterau ni fel dim mewngwirionedd. Yr hyn a addawodd Iesuiddynt oedd sicrwydd a thawelwchmeddwl. Byddai’n anfon rhodd yr YsbrydGlân atynt i’w cryfhau’n feddyliol a’ucysuro. Byddent yn rhyfelwyr yn hytrachna’n ofidwyr. A dyna’r un addewid y maeCrist yn ei gynnig inni heddiw.

Ian Sims,Llywydd y Gymdeithasfa yn y De

2 Y Goleuad Mehefin 19, 2020

Hoffwn eich gwahodd i’r hyfforddiant ar-lein yma fydd yn caelei gyflwyno Bore Llun–Bore Mercher, GORFFENNAF 6-8,2020.

I BWY?

Mae’r hyfforddiant wedi ei anelu at rai sy’n ymgeisio am yweinidogaeth; gweithwyr maes EBC; a rhai sy’n cynorthwyoarwain eu heglwys leol yn wirfoddol neu fel blaenor. Bydd yrhyfforddiant yn ddwyieithog.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr a rhai sy’n gyflogedig gan EBCmewn rôl weinidogaethol i fynychu, ac mae croeso cynnes ieraill. Mae telerau cynllun “furlough” y llywodraeth yncaniatáu i gyflogwr ddisgwyl i staff fynychu hyfforddiant.

SUT I YMUNO?

Rhaid cofrestru o flaenllaw ar gyfer yr hyfforddiant i dderbynmanylion cyswllt. Y disgwyl yw y byddwch yn mynychu bobsesiwn, ond os nad yw hyn yn bosibl, neu os oes un pwncpenodol rydych am ymuno ar ei gyfer yna cysylltwch efo fi.

Byddwch angen lawrlwytho app Zoom (am ddim) er mwynymuno, ar eich cyfrifiadur neu eich ffôn. Yn fras bob borebydd awr o hyfforddiant, 30 munud o doriad, yna awr arall ohyfforddiant. Wrth gwrs mae hyn yn newydd i ni i gyd, achawn ddysgu mwy am hyfforddiant byw, ar-lein, mewn grfipwrth i ni fynd ymlaen.

Y RHAGLEN:

Mae nifer o’r pynciau dan sylw yn cysylltu efo’r sefyllfa Covidpresennol.

– Bydd Parch WayneAdams yn sôn am newiddiwylliant yn yr eglwys,ac yn ystyried y dyfodolôl-Covid

– Bydd Parch BrynWilliams yn trafodgweinidogaethu yngnghyfnod y Covid

– Joanna Wright-Thomas fydd yncyflwyno technoleg ddiweddarafEBC, yn cynnwys MicrosoftTeams, Outlook 365, a OneDrive. Gallwn dybio bydd deall adefnyddio hyn i gyd ynbwysicach nag erioed yn eingwaith yn y dyfodol.

– Mae Parch Lee Dutfield ynparhau’r gyfres ar wasanaethauarbennig. Rydym wedi ystyriedangladdau a phriodasau, a’r troyma’r gwasanaeth bedydd fyddyn cael sylw.

– sesiwn olaf fydd Steve Joneso Gaplaniaeth ChwaraeonCymru, sy’n gwneudgwaith blaengar ymysgein hathletwyr,peldroedwyr ac ym mydrygbi.

Anfonwch air ataf cyn gynted â phosibl i gadarnhau ybyddwch yn ymuno yn yr hyfforddiant yma.

Delyth Oswy (Cyd-lynydd Hyfforddiant)[email protected]

Hyfforddiant Arweinwyr Newydd EBC Gorffennaf 6-8fed 2020

Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad)

Page 3: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

Gwers 40 – Sul, 28 Mehefin

wrth dy draed, O dysg i mi beth wyf fi, a phwy wyt ti.

(Caneuon Ffydd, 116)

HAGGAI

Fel hyn y dywed ARGLWYDD yLluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.”(Haggai 1:7; tud. 288 yn y Gwerslyfr)

Darllen: Haggai 1:1–2:9; Mathew6:24–34

Gweddi: Tyn fy serchiadau’n gryno iawnoddi wrth wrthrychau gau

at yr un gwrthrych ag sydd fythyn ffyddlon yn parhau.

’Does gyflwr dan yr awyr las’rwyf ynddo’n chwennych byw,

ond fy hyfrydwch fyth gaiff fodo fewn cynteddau ’Nuw. Amen.

(Caneuon Ffydd, 296)

Wel dyma air amserol: ‘Ystyriwch eichcyflwr.’ Er nad pandemig oedd yr achosar gyfer y geiriau yn adeg y proffwydHaggai, tua 520 CC, yr oedd y byd, aJwdea wedi’r gaethglud, mewn berw onewid a thensiynau. Roedd yr Iddewon

a ddychwelodd o Fabilon mewngwrthdaro â’r rhai oedd wedi eu gadaelar ôl yn y wlad heb eu caethgludoynglªn â phwy oedd berchen y tir, a’r tirwedi ei adael yn segur ers degawdauangen llafur caled i’w adfer. Ychydig ofeddwl roddent bellach i ailgodi’r deml.Ond cododd Duw ddau broffwyd i’w

dwyn yn ôl o’u crwydro i addoli Duw,sef Sechareia a Haggai. Y cyntaf sy’ncael y mwyaf o’r sylw, ond mae negesHaggai yr un mor bwysig, ac yngadarnhaol yn y pen draw. Rhoi siars iSorobabel y llywodraethwr a Josua yrarchoffeiriad er mwyn sicrhau bod eublaenoriaethau hwy a’r bobl yn iawn ymae Haggai yn yr adnod dan sylw.Mae’r proffwyd yn cysylltu’ranawsterau y maent yn eu hwynebuwrth amaethu yn uniongyrchol â’r ffaithfod tª Duw yn adfail o hyd. Wedi’rcyfan, onid dyma oedd yr ysgogiadiddynt ddychwelyd yn y lle cyntaf?Y syndod yw eu bod wedi ymateb yn

ddi-oed: ‘Gwrandawodd Sorobabel fabSalathiel a Josua fab Josedec, yrarchoffeiriad, a holl weddill y bobl, arlais yr ARGLWYDD eu Duw a geiriauHaggai, y proffwyd a anfonodd yrARGLWYDD eu Duw; ac ofnodd ybobl o flaen yr ARGLWYDD’ (1:12).

Mae’r adnodau nesaf yn rhyw agosáuat dywalltiad Pentecostalaidd wrth iDduw gyffroi ‘ysbryd Sorobabel fabSalathiel, llywodraethwr Jwda, acysbryd Josua fab Josedec, yrarchoffeiriad, a gweddill y bobl; adaethant a dechrau gweithio ar dªARGLWYDD y Lluoedd, eu Duwhwy’ (1:13).Mae’r cysylltiad rhwng ffyddlondeb i

Dduw a’r fendith yn un uniongyrchol,bron yn faterol ei natur, yn yr HenDestament. Ystyriwch yr adran amfendith a melltith yn Deuteronomiumpenodau 27–8; ac yn arbennig30:19–20: ‘Yr wyf yn galw’r nef a’rddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw,imi roi’r dewis iti rhwng bywyd acangau, rhwng bendith a melltith. Dewisdithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydiâ’th ddisgynyddion, gan garu’rARGLWYDD dy Dduw, a gwrando arei lais a glynu wrtho; oherwydd ef ywdy fywyd, ac ef fydd yn estyn dyddyddiau iti gael byw yn y tir yraddawodd yr ARGLWYDD i’th dadau,Abraham, Isaac a Jacob, y byddai’n eiroi iddynt.’Er bod Iesu’n geirio’r siars yn

wahanol yn ei Bregeth ar y Mynydd,daw’r ergyd yr un mor gryf, nad ydym iwasanaethu dau feistr, ond yn hytrach,rydym i ‘geisio yn gyntaf deyrnasDduw a’i gyfiawnder ef, a rhoir ypethau hyn i gyd yn ychwaneg i chwi’(Mathew 6:33).Cyn hir, yn wir o fewn y mis dilynol,

daw’r addewid cadarnhaol drwy’rproffwyd, ‘Bydd gogoniant y tªdiwethaf hwn yn fwy na’r cyntaf,’ meddARGLWYDD y Lluoedd; ‘ac yn y llehwn rhof heddwch’ (2:9). Ynghyd âphroffwydoliaeth Sechareia, y mae sawlarwyddbost Meseianaidd yn Haggai atfywyd a gweinidogaeth ein HarglwyddIesu.

Trafod ac ymateb:

1. ‘Chwilia fi, O Dduw’. Pa mor aml ybyddwch yn ystyried eich cyflwrysbrydol? Beth am fyfyrio arSalmau 51 a 139 a’u defnyddio felpatrwm mewn gweddi.

2. Ystyriwch eiriau Iesu am chwalu’rdeml, ac am adeiladu ei Eglwys, yngngoleuni’r addewid am ogoniantyr ail dª (Ioan 2:19–22, Mathew24:1–2; 16:18; cymharer hefyd1 Pedr 2:1–10).

3. Darllenwch emyn 608 yn CaneuonFfydd: ‘Na foed cydweithwyrDuw …’ gan weddïo ar i’r Arglwyddgodi gweithwyr newydd heddiw iailgodi’r tª.

Mehefin 19, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Emyn i bawb(Mesur 8.7.8.7.D;

addas ar y dôn Prysgol)

Beth yw’r aflwydd anweledigSydd yn herio pawb i gyd

Gan gyfyngu gweithgareddauAngenrheidiol yr holl fyd?

Ymddiriedwn yn yr Iesu,Gyda’i allu ym mhob man;

Ef yw’r Arglwydd atgyfododdSydd ar gael i’r tlawd a’r gwan.

Ysbryd y Gwirionedd oesol Ddeil i eiriol drosom ’nawr

Er mwyn uno’r byd dan fendithIesu’n maddau’n beiau mawr.

Duw o’i ras sydd yma’n rhoddiO’i gymeriad Ef yn llawn

Gariad perffaith byth na dderfyddI’n hiacháu ni oll yn iawn.

Cysur gobaith sy’n y canolGyda Christ a’r Tad ei Hun;

Mae y Drindod lawer cryfachNa’r un haint wyneba dyn.

Diolch am ryw awydd newyddI ymateb iddo’n well,

Dilyn Crist i garu eraill, Boed nhw’n agos neu ymhell.

Awdur heddwch, grym maddeuant,Fe ddaw’r sylwedd pur o’r Nef;

Gwelir yma hanfod cariadDrwy ei gyffyrddiadau Ef.

Saif ei Deyrnas eto’n gadarnWrth gyfarfod ’gylch y bwrdd

Rhaid yn gyson ddal mewn gweddi; Iesu’n Ceidwad ddaw i’n cwrdd.

Dewi Williams, Llannefydd

Diolch i Dewi am ei waith yn mynd atii greu emyn yn y cyfnod ac i’r cyfnodhwn, ac am fod mor barod i’w rhannugyda ni. (Gol.)

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

Page 4: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 19, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Dros y misoedd diwethaf gwelwyd llawer iawn o bobl yn meddwlyn fwy creadigol am syniadau a dulliau o gyrraedd cynulleidfaynysig gyda neges yr efengyl. Mewn cyfnod pan ddaeth yr oedfaonyn ein capeli a’n heglwysi i ben dros dro, heb sôn am gyfarfodyddy festri – yr ysgol Sul, clwb plant ac ieuenctid, cwrdd gweddi,seiat, bore coffi, ayyb – mae ein harweinwyr ac aelodau wedi bodyn meddwl am ffyrdd newydd o ymestyn allan i gefnogi ein gilyddyn ysbrydol yng nghyfnod y pandemig hwn.

Gwelwyd llawer iawn yn troi at ddarlledu ar y we: rhai’ngwneud hynny yn fyw ar Facebook neu dros Zoom, ac eraill ynparatoi oedfaon ymlaen llaw er mwyn eu rhannu â chynulleidfaehangach. Bu i Gyngor yr Ysgolion Sul yn y dechrau geisio dwyny gwahanol ymdrechion hyn ynghyd, gan weithredu fel ‘hwb’canolog i ymdrechion y gwahanol eglwysi a mudiadau Cristnogolyng Nghymru.

Yn fuan iawn ar ein gwefan roedd gwybodaeth am oddeutu 30o oedfaon byw bob Sul ar Facebook, a rhestr hefyd lle roedd moddeu gwylio eto ar YouTube. O dipyn i beth, fe ymddangosoddambell astudiaeth, ambell wers ysgol Sul, ambell stori blant, sgwrsieuenctid, caneuon ac emynau ayyb, a bellach roedd y rhestr ynmynd yn faith ac yn fler.

Felly, rai wythnosau yn ôl aeth Cyngor yr Ysgolion Sul /beibl.net ati i sefydlu sianel deledu ar un o’i gwefannau, sefwww.cristnogaeth.cymru, gan enwi’r sianel yn Teledu CristnogolCymru. Trwy ymweld â’r wefan fe ddowch ar draws adran sy’nedrych yn ddigon tebyg i ambell sianel deledu boblogaidd fel yriPlayer gan y BBC neu S4C Clic.

Ar hyn o bryd, mae yna saith adran wahanol o fewn y wefan, sef:

Oedfaon Cyflawn • Y Beibl • Plant ac Ieuenctid • MawlNewyddion a Ffeithiol • Gweddi • Myfyrdodau

O fewn yr adrannau hyn fe geir wedyn ‘sianeli’ gwahanol.

Trwy ymweld â’r adran ‘Oedfaon’, ceir tair prif sianel, sef oedfaonwythnosol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, oedfaon ‘Einpregethwr gwadd ...’ gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a’r sianelgyffredinol, lle rydym yn rhannu dwy neu dair oedfa o’r holleglwysi rydym yn ymwybodol ohonynt sy’n cyhoeddi oedfaon ynrheolaidd. Y gobaith dros yr wythnosau nesaf yw creu sianeliunigol ar gyfer eglwysi, felly gellir dewis ymweld â SianelEbeneser, Caerdydd, yn syth neu’r Tabernacl, Caerdydd, neuEglwys Dewi Sant, Caerdydd, heb sôn am Eglwys CwmpawdCaerdydd, sef yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg yn y ddinas – acmae hyn yng Nghaerdydd yn unig.

Yn ein hadran ‘Mawl’, ceir tair sianel eto, sef emynautraddodiadol, caneuon cyfoes ysbrydol mwy diweddar, ac adran oganeuon plant. Bydd yr adran yma hefyd cyn hir yn cynnwys adrangarolau yn ogystal â thonau y gellir eu defnyddio fel cyfeiliant.

Yn ein hadran ‘Plant ac Ieuenctid’, mae yna sianel cartwnauBeiblaidd, sianel o wersi ysgol Sul, sianel stori a chrefft, heb sônam sianel yn llawn sgyrsiau ar gyfer pobl ifanc.

Rydym yn ceisio bod mor gynhwysol â phosib, gan gynnwys yramrywiaeth o adnoddau sy’n cael eu paratoi gan Gristnogion yn ycyfnod yma. Os gwyddoch am unrhyw gynnwys sy eisoes arYouTube, yna rhowch wybod i ni, er mwyn i ni greu’r dolenni acychwanegu’r cynnwys at ein ‘rhestr chwarae’ ar YouTube.

Mae hwn yn wasanaeth cwbl rad ac am ddim, wrth gwrs, aceisoes mae dros 25 o sianeli gwahanol sy’n cynnwys dros 600 oeitemau Cristnogol Cymraeg ar gael i’w gwylio. Diolch i bob uncyfrannydd sy wrthi’n ddyfal ar hyn o bryd yn addasu ac yn creudeunydd ffilm creadigol ar ein cyfer. Noder mai cynnwys trydyddparti a geir ar y sianel hon gan fwyaf, drwy greu dolenni i sianeliYouTube partneriaid a chysylltiadau enwadol. Er pob ymgais isicrhau bod y cynnwys yn addas ac yn briodol, ni allwn warantu nachymeradwyo holl gynnwys y sianel.

Bendith ar y gwaith o baratoi ac ar y gwylio.

Aled Davies, Cyngor yr Ysgolion Sul ([email protected])

Lansio sianel deledu Gristnogol newydd yn y Gymraeg:

Page 5: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

Rwyt ti’n byw yn Boston yn yr UnolDaleithiau ers blynyddoedd bellach.Dywed wrthym beth aeth â thi yno ynwreiddiol?

Wel, fe ddes i America am y tro cyntaf iddarlithio ar ganmlwyddiant diwygiad1904 a sôn am y diwygiwr EvanRoberts. Yno fe gwrddes i â GwenfairWalters, merch Gwyn a Mair Walters aaeth i America yn y pumdegau ac oeddyn wreiddiol o ardal Llanelli. RoeddGwen yn arbenigwraig ar haneseglwysig ac yn darlithio yn SeminaryGordon Conwell yn Boston. Ar ôltreulio amser yn ei chwmni, yr unigddewis i mi oedd dod i’r Amerig arhannu ein llyfrgelloedd a phriodi!

Mae’r pandemig wedi effeithio’ndrwm ar Ogledd a De America. Sutmae wedi effeithio arnat ti, dy deulu,yr eglwys a’r gwaith?

Ydy, mae’r pandemig wedi newid einbywydau drwyddi draw. Yn ara bachdes i sylweddoli ar ddechrau misMawrth fod Covid-19 yn realiti yn yrAmerig, ac eto yr ymadrodd ‘Don’tPanic’ gan y Corporal Jones yn Dad’sArmy oedd yn dod i’n meddwl. Ond arôl pythefnos, roedd geiriau’r Corporalwedi hen ddiflannu wrth i mi ddechraubecso na fyddwn yn gallu dathlu DyddSant Padrig ar 17 Mawrth. Nawr rhaid esbonio fan hyn nad ydw

i ddim yn dod o Iwerddon, ond rhaidcofio hefyd nad oedd Padrig yn un oIwerddon chwaith. Mae digon odystiolaeth mai Cymro glân ydoedd aaeth i efengylu ymysg y Gwyddelod, acoherwydd bod pawb yn yr UnolDaleithiau yn dathlu dydd Sant Padrig,fe benderfynais yn gynnar y byddwn ynCymreigio’r diwrnod, yn enwedigymhlith fy ffrindiau. Felly, mae cornedbeef and cabbage wedi dod yn hofffwyd i mi ar y diwrnod yma, ac rwy’nedrych ymlaen bob blwyddyn at wleddohono yn y dafarn leol. Fe gaeodd ydafarn ar ddiwrnod Sant Padrig. ByddaiEvan Roberts wrth ei fodd, wrth gwrs,ond roedd Kevin Adams yn gweldeisiau Mr Guinness, ei ffrind oIwerddon, a’r boiled dinner, fel maennhw’n ei alw yn Boston.Ers hynny wrth gwrs mae’r byd wedi

newid (ddim am byth, gobeithio). Febenderfynon ni fel eglwys gau wythnoscyn oedd raid inni, a dechrau mynd ar-lein yn unig. Ry’n ni wedi bod ar y Weers amser ond yn awr dyma’r unigopsiwn. Felly scramble oedd hi, Battleof Britain style, i wneud y gorau allen niar y pryd. Rwy’n ddiolchgar fod fynghyd-weinidog yn ei dridegau ac yndeall y cyfan. Felly, Facebooklive yw hibob Sul a defosiwn deg munud bobdydd, heblaw dydd Sadwrn (fy Sabothyn yr ardd gyda’r adar).

Mae hyn, wrth gwrs, yn bositif ac ynnegyddol. Ar yr ochr negyddol mae hi’nanodd pregethu ar y Sul i gapel gwagheblaw am ddyn camera, arweinydd ygân a’r dyn sain hollbwysig. Eto, ermwyn nodi’r positif, mae ’na gannoeddmwy yn troi i mewn am ychydig neufwy o’r addoliad. Rwy wedi gweld nifersydd wedi stopio dod i’r cwrdd erbynhyn yn troi i fyny ‘yn yr ysbryd’, felpetai, unwaith eto’n clywed y Gair acyn cael arweiniad. Dyma ateb i’ngweddïau am y flwyddyn ddiwethaf, ynfy marn i o leiaf. Fe benderfynom feleglwys gael cwrdd gweddi bob bore Sulo 8:30 hyd 9:30, jyst cyn i ni gynnalysgol Sul i’r plant a’r oedolion, i weddïodros y rhai sy’n absennol o’n mysg.Wel, mae nifer mawr o’r rhai hynnywedi bod yn gwrando o’r newydd.Falle’i bod hi’n rhy gynnar iddyn nhwddod yn ôl i’r capel, falle fod eisiauiddyn nhw ymgartrefu unwaith etomewn oedfa ar ôl amser o gilio. Diolcheu bod unwaith eto’n gwrando acefallai’n meddwl am eu bywydauysbrydol a lle Duw yn eu bywydau.Rwy’n rhyfeddu bod cannoedd yngwrando ac rwy’n cael fy nhemtio, fel yParch. Dennis Young, i weiddi,‘DIOLCH’!

Clywsom am anniddigrwydd rhaigyda’r cyfyngiadau oherwydd ypandemig. Sut mae ysbryd y bobl yngyffredinol acw, a beth yw ymateb yreglwys?

A dweud y gwir, mae Cymru wedi’ichael hi’n llawer mwy strict nag y maeMassachusetts. Er ein bod wedi collimwy o fywydau, eto mae ’na lawermwy o ryddid yma. Er enghraifft, rwy’ngallu trafaelu i’r gwaith, 20 milltir bobdydd. Mae pob gweithiwr Cristnogol yncael ei gyfrif yn weithiwrangenrheidiol. Felly, bob dydd rwyf ynswyddfa’r eglwys yn ceisio paratoi argyfer y We a ffonio aelodau. Mae ganGwen fyfyriwr sy’n aros gyda ni ac maehi’n gweithio o adre a finnau yn yswyddfa. Felly, ry’n ni wedi’i chael hi’nddigon rhwydd o’i gymharu â llawersydd wedi colli swydd, neu’n waeth,wedi colli aelodau o’u teuluoeddoherwydd y firws. Ry’n ni fel eglwyswedi cael chwech o’n haelodau yn dostac un wedi marw hyd yn hyn. Ma ’nagyfyngiadau, ond yn bersonol rhaid i nifel eglwys fod yn pro life fan hyn adiogelu bywydau’r henoed a’r anabl.Mae ’na nifer o ymatebion wrth

gwrs, gan gynnwys gweddi, a help iwneud yn sifir fod pawb yn iawn yn yreglwysi unigol. Mae ’na aelodau syddwedi bod yn barod i siopa i’r henoed, erenghraifft. Gyda ni hefyd mae ’nabwyslais ar gadw in touch â phawb ar yWe, drwy Facebook, snail mail, achardiau a’r ffôn. Mae’n bwysig i niweld ein bod yn greaduriaid sydd angencymdeithas.

Oes yna fwy o syched acw am bethauamgenach na’r materol?

Rwy wedi gweld nifer yn troi at bethauysbrydol yng sgil y pandemig, ond ar yfoment mae hi’n rhy gynnar i weld afydd y troi yma’n aros. Feddigwyddodd rhywbeth tebyg ar ôl9/11, ond aeth pethe ’nôl i fel o’n nhwar ôl rhyw chwe wythnos. Wrth gwrs,rwy’n credu bod Duw yn galludefnyddio hyd yn oed y pandemig erdaioni. Er enghraifft, bu nifer oddiwygiadau crefyddol yng Nghymruyn dilyn y colera yn y bedwaredd ganrifar bymtheg. Yn 1857, yn EfrogNewydd, bu diwygiad a gyffyrddodd âChymru hyd yn oed, a hynny yn dilyncwymp y Farchnad Stoc. Ond ar yfoment mae’n anodd dweud.

(parhad ar y dudalen nesaf)

Mehefin 19, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Gair o’r Unol DaleithiauGyda chymaint o sylw i’r hyn sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau ar hyno bryd, dyma holi’r Parch. Kevin Adams, Boston, Massachusetts. Diolchiddo am fod yn fodlon cael ei gyf-weld gennym ar gyfer darllenwyr yTudalennau Cydenwadol yma yng Nghymru.

Page 6: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

Clywsom yn ddiweddar amfarwolaeth George Floyd, a laddwydgan heddwas, a’r ymateb ledled ywlad a’r byd i hynny. Oeddet ti’ngweld yr ymateb yma’n dod neuydy’r amgylchiadau presennol wedidwysáu’r ymateb?

Mae’r ymateb i farwolaeth GeorgeFloyd wedi bod yn massive. Fyddwn iddim wedi credu y gallai unrhyw storioresgyn y stori am y pandemig, ond ambythefnos mae’r pandemig wedi myndyn angof, fel petai wedi dod i ben. Ar ôlgweld y fideo erchyll o ddyn yn cael eiladd yn gyhoeddus, mae’r wlad wedicael wake-up call i realiti’r hiliaeth sy’ndal i fod yn broblem fan hyn yn yr UnolDaleithiau. Y peth calonogol am yprotestio yw fod du a gwyn yncydweithio ac yn cytuno bod angengweithredu i geisio osgoi’r fath beth yny dyfodol. Er fy mod yn erbyn unrhyw

drais o gwbl mewn protest, mae’r rhanfwyaf o’r protestwyr yn heddychlon acrwy’n gobeithio mai felly y bydd petheyn y dyfodol.

Does dim gwrthdystio fel hynwedi bod ers chwedegau’r ganrifddiwethaf. Ond ydy’r gwrth -dystiadau hyn yn wahanol yn eunatur?

Y peth da rwy’n ei weld am ygwrthdystio yma yw ei fod yn cynnwysdu a gwyn, hen ac ifanc, Latino aSomali, ac yn y blaen. Nid race warydyw, ond rhyfel yn erbyn racism o bobmath.

Pwy sy’n arwain ac yn dylanwadu ary protestwyr – oes yna rywun tebyg iMartin Luther King i’w gael ydyddiau hyn?

Does dim MLK ’da ni yn America ar yfoment. A dweud y gwir, does dim unarweinydd sy’n sefyll allan. Mae’r NewYork Times wedi galw’r protestio ynorganig: from the bottom up. Mae’nbrotest y bobl, sy’n beth positif iawnond sydd a’i broblemau hefyd. Er bodpawb yn siarad ag un llais wrthgondemnio hiliaeth, mae llawer owahaniaeth barn o fewn y symudiad oran beth yw hanfod hiliaeth. Rwy’nsifir bod y diagnosis yn gywir onddydyn ni ddim wedi dod o hyd i’rvaccine a’r iachâd ar y foment.

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 19, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Gair o’r Unol Daleithiau (parhad)

Protestio yn dilyn marwolaeth GeorgeFloyd – Washington, D.C., 30 Mai(Llun gan Rosa Pineda, Wikimedia)

Beibl ar gau

#blacklivesmatter

Mae’n hen hen stori am Dduw a dyn,Ond ynddi felltith hen hen elyn:Yr hanes cyn co’ am rwygo brodyr,Am elyniaeth ddofn a wreiddiodd ein gwewyr.

I’r tlawd mae’n sibrwd y daw eu rhyddid,I rai mae’n gysgod o wir addewid.O lef yr Aifft y daeth eu rhyddidI sibrwd tawel: “Fedra i’m anadlu.”

Mewn print neu luniau lliwYn fy Meibl, Jehofa gwyn oedd Duw;Duw a greais ar fy nelw i,Duw heb awdurdod, Duw fel comoditi.

Wrth ddarllen y Gair fe’n darllena ni,Yn gweld ein calon ac yn clywed ein cri.Nid prop i orchfygu, ond gair sy’n ein plygu,Yn gostwng y balch a chodi’r di-rymA chyhoeddi fod un gwell yn teyrnasu.

Rhys Llwyd

Gellir gweld Rhys Llwyd yn rapio’r gerdd honar ei gyfrif Facebook. Fe’i cyfansoddoddmewn ymateb i digwyddiadau diweddaraf yrymgyrch #blacklivesmatter

Sul, 21 Mehefin

OedfaDechrau Canu Dechrau Canmol

am 11:00ybgyda’r Parch. Judith Morris yn arwain

Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul am 7:30yh

(ailddarlledir y bore Sul canlynol cynyr oedfa)

Nos Sul, rydym ni ar daith i ddysgumwy am dreftadaeth rhai o’n henaddoldai ni sydd yn llawn hanesion astorïau difyr, ond bellach wedi cau'rdrws am y tro olaf. Bydd Lisa yn treulioamser yn Eglwys Llanfaglan yn dysgumwy am yr eglwys arbennig yma, aNia fydd ym Maesteg, yn clywedhanes diddorol Capel Bethania. Ynogystal â’r canu mawl, cawn fwynhauperfformiad gan Aled Wyn Davies.––––––––––––––––––––––––––––––

Caniadaeth y CysegrSul, 21ain Mehefin7:30yb a 4:30yp

Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno Saith ar y Sul, is-gyfresCaniadaeth y Cysegr. Heddiw,cantorion cymanfa Eglwys Sant Ana,Coedana, Ynys Môn, sy’n dewis euhoff emynau o gymanfa a gynhaliwydyno.

Oedfa Radio Cymru

Oedfa Radio Cymru am 12:00yp,21 Mehefin: Sian Rees, y GynghrairEfengylaidd.

Mae Radio Cymru wedi newid trefn yddarpariaeth grefyddol ar y Sul ersmis Ebrill, gyda’r arlwy yn edrych felhyn bellach:

7:30yb Caniadaeth y Cysegr12:00yp Yr oedfa12:30yp Bwrw Golwg16:30yp Caniadaeth y Cysegr

(ailddarllediad)

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALENHuw Powell-Davies, Llifor, 60 Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug, CH7 1QH neu

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebion a.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yn cael eu cynnwys yn rhan o bapurau wythnosol trienwad, sef Y Goleuad (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Seren Cymru (Undeb

Bedyddwyr Cymru) a’r Tyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 7: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

Chwerwder a hapusrwyddMae hi’n ddyddie rhyfedd, yn ddyddieanodd ar bawb ohonom, ac i laweroedd obobl y mae chwerwder yn deimlad sy’nnes i’r wyneb na hapusrwydd. Sut ydechchi sy’n darllen hwn yn teimlo tybed? Ynchwerw? Dwi ddim yn siwr o’r ateb fy hun,ddim yn siwr o’r teimladau cymysg sy’nmeddiannu fy meddwl y ddyddie hyn. Fellymi es i edrych gawn i hyd i restr oarwyddion chwerwder a gweld yden nhw’nberthnasol i mi. Ac mi ddois o hyd i wythohonyn nhw, rhai sy, medden nhw, yngyffredin i bawb.

Ryden ni’n chwerw os yden ni’n teimlo einbod yn haeddu mwy nag yr yden ni’n eigael, yn hytrach na bodloni ar yr hyn sy’gennym. Wel dyna i chi deimlad hawdd eigoleddu y dyddie yma yntê! Ond mae’ngolygu mwy nag ysfa am y materol. Ydenni’n cael y sylw ’den ni yn ei haeddu, yclod ’den ni’n ei haeddu? A dyna ni ymmyd yr a’r hunanol yn syth.

Ryden ni’n chwerw os yden ni’n teimlo’nanhapus efo’r hyn y gallwn ei gyflawni, acyn rhoi’r bai am hynny ar rywun arall neuar amgylchiadau. Teimlo nad yden ni’ncael y cyfle y mae ein gallu yn ei deilynguoherwydd rhwystr pobol eraill, neu ydyddie hyn oherwyddamgylchiadau.Teimlad mor hawdd i’w gaelyn nyddie’r cloi.

Ryden ni’n chwerw os teimlwn fod pawb aphopeth yn ein herbyn. Sawl un sy’nteimlo felly y funud hon tybed? Yn hunandosturiol, yn gweld dim ond tywyllwch.

Cofiwch mae amgylchiadau rhai yn dywyll.Dychmygwch deulu o rieni a phedwar oblant a dau gi mewn fflat ar ddeuddegfedllawr y bloc! Onid oes gan y trueiniaidhynny le i fod yn chwerw?

Mae’r ddau nesa yn perthyn yn agos i’wgilydd – dim yn gwerthfawrogi y daioni addangosir tuag atom gan eraill, rhai fallena wyddom ddim amdanynt; nachydnabod chwaith y gall unrhyw unheblaw ni ein hunain wneud dim.Rhyfeddwn hefyd fod cymaint o ddeall asynnwyr cyffredin wedi ei roi i ni a chynlleied i bawb arall.

Rydym yn chwerw os ydym yn ei chael ynanodd i longyfarch rhywun arall, ac iganmol rhywun am wneud efallai yr hyn ydylsen ni fod wedi meddwl ei wneud, acyn ei chael yn haws, – a dyma’r seithfedarwydd – yn haws i feirniadu eraill na’ucanmol.

Yn olaf os yden ni yn wirioneddol chwerwmi fyddwn yn genfigennus o unrhyw unarall sy’n dangos unrhyw arwydd ohapusrwydd ac yn gofyn yn wawdlyd fallebe sy gyno “fo” neu “hi” i fod yn hapus ynei gylch?

Wel dyna hen ddigon am chwerwer. Betham yr hapusrwydd sy’n rhan o’r teitl? Bethyw’r ateb i’r meddyliau chwerw hyn? Ideimladau gofidus y dyddiau presennol?A oes ateb yn yr efengyl? Fe ddylsai fod.Ac eto wrth feddwl yn ôl, dwy bregeth a’ngwnaeth ni fel teulu yn bopeth ond hapusddaw gyntaf i’r cof, a gallaf wenu erbynhyn wrth eu cofio.

Rhyw ddiwedd haf oedd hi, mis Medi ar ôli ni fel teulu gael gwyliau arbennig o dda,tywydd braf, pawb yn hapus, pawb yniach, pawb yn mwynhau. Ac ynadychwelyd adre ac i’r capel ddechre Medi,a thestun y bregeth gynta gawson ni oedd:“Cyflog pechod yw marwolaeth!” Bydd ynwell yr ail Sul medden ni. A’r testun y Sulhwnnw? “Ac yr oedd hi yn nos!” Af i ddim ienwi’r pregethwyr ond bu bron iddyn nhwein troi yn anffyddwyr neu o leia yn rhaifyddai ddim yn mynychu!

A oes gwell na hynny yn yr efengyl? Weloes siwr iawn, a’r geiriau llawenydd agorfoledd yn rhan ohoni ac yn rhan o’nbywydau ninnau gobeithio. Diolch am ygeiriau o gysur ddaw atom gan y rhai sy’ndefnyddio’r aml gyfryngau, boed radio,teledu, y we, facebook; llawer ohonochsy’n darllen hwn wedi dyfeisio dulliaunewydd o gyfathrebu ac o rannu’rnewyddion da, drwy amrywiol ffyrdd. Ymae chwerwder yn y pen draw felcenfigen yn lladd ei pherchen, nid yn lladdneb arall. Gobeithio felly ynghanol ydryswch a’r ansicrwydd sy’n brofiad inni igyd, fod, yng ngeiriau ardderchog RhysNicholas, – yr haleliwia yn ein heneidiau nia’n bod yn dal i gredu yn y wyrth sy’nrhoddi inni flas ar fyw.

Elfyn Pritchard

Mehefin 19, 2020 Y Goleuad 7

O Gefn Gwlad

Tystion i mi

Dywedodd Iesu, “ond fe dderbyniwchnerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, abyddwch yn dystion i mi.” (Actau 1:8)

Ydych chi’n cofio rhywbeth am drefnGwasanaeth Bedydd? Ydych chi’n cofiobeth oedd yn cael ei ddweud gan ygweinidog wrth iddo fedyddio’r plentynbach (neu’r person ifanc neu’r oedolyn)?Wel mae’r gweinidog fel arfer, yn sôn amgael ein derbyn i mewn i fywyd EglwysIesu Grist wrth i ni gael ein bedyddio. Wrthgael ein derbyn mae’r gweinidog yn dweudy geiriau, “Rwyf yn dy fedyddio di yn enw’rTad, y Mab a’r Ysbryd Glân”. Duw y Tad,Duw y Mab a Duw yr Ysbryd Glân. Y Tadsydd wedi’n creu ni ac yn gofaluamdanom. Y Mab, Iesu Grist sydd wedi

byw a hefyd marw ar y Groes trosom ni acer ein mwyn ni. Yr Ysbryd Glân sy’n eincynorthwyo i fyw ein bywyd bob dydd ac idyfu i fod yn debyg i Iesu Grist.

Beth felly mae’r Ysbryd Glân yn ei wneud?

Efallai mai un o’r ffyrdd o ddysgu am waithyr Ysbryd Glân ydy meddwl am drydan abeth mae trydan yn ei wneud.

Mae trydan yn gwneud tri peth amlwgiawn:

• Yn rhoi golau, yn ein cartrefi ac ynarbennig y dyddiau hyn, mewn ysbytai achartrefi gofal.

• Yn rhoi gwres, eto yn ein cartrefi amannau eraill.

• Yn rhoi grym, yn gwneud i bethauweithio, fel “ventilators” a pheiriannaugofal dwys.

Felly, mae trydan yn rhoi golau ac yn einhelpu i weld yn well ac yn goleuo’rtywyllwch a’n cadw’n ddiogel.

Mae trydan hefyd yn ein cynhesu ac ynein gwneud i deimlo’n gyfforddus braf a’ncadw’n ddiogel

Yn drydydd mae trydan yn gwneud ibethau weithio er mwyn ein cynorthwyo ynein bywyd bob dydd a’n cadw’n ddiogel.Ond sut rfian mae trydan yn medru bodyn debyg i’r Ysbryd Glân?

Wel, fel mae trydan yn rhoi golau, fellymae’r Ysbryd Glân yn ein helpu ni i weldbeth mae Iesu Grist eisiau i ni weld. Felmae golau yn ein helpu i weld i ddarllen yBeibl, mae’r Ysbryd Glân yn ein helpu iddeall y Beibl. Mae’r Ysbryd Glân hefyd ynein helpu i ddysgu am Iesu Grist ac yn einharwain i ofalu am eraill ac i fod yngaredig.

Fel mae trydan yn rhoi gwres, felly mae’rYsbryd Glân yn gwneud i ni deimlo’ngynnes braf tu fewn pan ‘da ni’n meddwlam Iesu Grist a phan ‘da ni’n dod at eingilydd i ddysgu amdano ac i addoli. Mae’rYsbryd Glân hefyd yn ein gwneud ideimlo’n gynnes tuag at bobl eraill.

Fel mae trydan yn rhoi grym ac yngwneud i bethau weithio, felly mae’rYsbryd Glân yn rhoi nerth i ni i fedrugwneud pethau mae Iesu Grist eisiau i nieu gwneud. Nerth i ddweud wrth bobleraill ein bod yn ffrindiau hefo Iesu Grist,nerth i wahodd plant i’r Clwb Plant, nerth iwahodd ein hieuenctid, nerth i wahoddpobl newydd i’r Capel a nerth i weithio ynenw Iesu Grist.

Ia, mae trydan yn help i ddeall mwy am yrYsbryd Glân; yn ein goleuo, yn eincynhesu ac yn gofalu ein bod yn medrugweithio yn Enw Iesu Grist.

Beth bynnag a ddywedwn am y dyddiauhyn mae’n ffydd yn caniatáu i ni weldpethau y tu hwnt i’r newyddion a thuhwnt i’n hamgylchiadau. Pobl ydym sy’nbyw yng ngoleuni’r Ymgnawdoliad, wedi’rPasg a’r Atgyfodiad. Yn yr ysgrif honmae’r Parch W. Bryn Williams, Pwllheliyn ein hatgoffa o realiti’r ffaith mai poblydym sy’n byw wedi’r Pentecost. MaeDuw ar waith.

Page 8: Byw yng Ngoleuni’r Pentecost - Eglwys Bresbyteraidd Cymru · 2020. 6. 17. · Byw yng Ngoleuni’r Pentecost (parhad ar dudalen 2) Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni George

• Wythnos nesaf – Diolch bod ei afael ynom •

8 Y Goleuad Mehefin 19, 2020

Bythefnos yn ôl buom yn ystyried beth oedd ystyr bod yn ddisgyblion oedd yn cael eu hanfon i wneud disgyblion. Gwelsom yr wythnosdiwethaf bod Iesu’n rhagdybio y byddai ei ddisgyblion, wrth dystiolaethu am ddyfodiad Teyrnasiad Duw, am ei Arglwydd a’i werthoedd

amgen, yn dod i wrthdrawiad â’r byd cawsant eu hanfon iddo.

Croes nid clustog

DARLLENIAD: Mathew 10:24-39

EMYN 49: Diolch i ti yr hollalluog Dduw.

Heddiw, cawn ein synnu drachefn am bamor ofnadwy o blaen yw dysgeidiaethIesu Grist. Gallwn geisio osgoi ergyd eieiriau a chymylu’r dyfroedd. Ond maeIesu’n gwbl glir bod angen “rhybuddiechyd” ar ei alwad i’w ganlyn ac i fod yndystion iddo. Nid i godi clustog ond i godicroes y cafodd ei ddisgyblion eu galw.Yng ngoleuni’r groes gwelwn fod Iesu eihun yn ymgnawdoli ei ddysgeidiaeth eihun. Ac yn yr adnodau yma mae Iesu’ndangos ei hun i ni yn athro, yn broffwyd,yn gyfryngwr, yn Arglwydd. Ac y maehefyd yn batrwm, yn dempled o brofiad yCristion.

Ystyriwn am foment yr holl bethau sy’nmedru’n hatal rhag bod yn dystionhyderus i Iesu Grist. Ai pryder? Ofnipobl? Ofni cael ein gwrthod? Ofni bod ygost i’w ganlyn yn ormod?

Sut tybed mae Iesu’n ateb ein hofnau?

DARLLEN: Mathew 10: 24-25Pwy ydych chi’n meddwl ydych chi?

Caiff ein hofnau eu mynegi mewn ffyrddsy’n ymddangos mor ddoeth i ni ar ypryd.

“Mae’n bwysig nad ydym yn dieithriopobl.”

“Dwi ddim isio i bobl feddwl fy mod i’nfffil, yn wirion, yn hunangyfiawn, neu ynfalch neu yn ryw eithafwr crefyddol. Maeyna ddigon o rheiny i gael yn y byd ynbarod! ”

Pam fod rhaid i ni brofi gwrthwynebiad tabeth? Does “dim rhaid i mi ddioddef, fewnaeth ef yn fy lle...” chwedl DafyddIwan.

Mae Iesu’n ein herio. Ydych chi’n meddwleich bod yn well na’ch Arglwydd, ynrhagorach na’ch meistr? Ac os cafoddeich Meistr ei ddifrïo fel Beelsebwl,tywysog y cythreuliaid, a’ch enllibio amfod yn gelwyddog, yn dwyllwr, ynddinistriwr cymdeithas yn rhwygwrdieflig, pam dych chi’n meddwl y cewcheich trin yn wahanol i’ch athro a’chMeistr.

Deirgwaith cawn ein hannog i beidio agofni.

“Peidiwch â’u hofni hwy” ad 26,“Peidiwch ag ofni’r rhai sy’n lladd ycorff...” ad 28 “Peidiwch â meddwl mai iddwyn heddwch ar y ddaear y deuthum.”ad 34

DARLLEN: Mathew 10: 26-27Peidiwch ag ofni celwydd y byd

Fe fiyr pob Cristion beth yw ofni gwg,neu ddirmyg, neu elyniaeth. Sut maegorchfygu’r ofn sy’n gafael ynom?

a) Cofiwch nad oes dim sy’n guddiedig.ad 26. Mewn byd lle gall pobl bardduo,a phledu celwydd a budreddi i ddifethaenw da, i ddefnyddio cyfryngaucymdeithasol gyda rhwyddineb diatalbron i ddifa, cofiwch hyn. Nid oes dimyn guddiedig na cheir ei wybod. Nidheddiw, efallai. Mae pob celwydd ynddyled sy’n mynnu ein bod yn ad-dalugyda llog. Nid oes air, na chynllwyn,na gweithred ddirgel sydd mewngwirionedd yn ddirgel.

b) Felly, byddwch yn eirwir yn eichllefaru, yn onest yn eich cerddediad.

DARLLEN: Mathew 10: 28-31Peidiwch ag ofni creulondeb y byd

Mewn oes mor faterol a secwlar a’n hoesni, daw geiriau Iesu fel ergyd i chwalu’nrhagdybiaethau.

a) Y mae, meddai, mwy i fywyd nachyfoeth. Nid bywyd moethus, aur ybyd a’i berlau mân yw gwir fesur eingwerth. ad 28

b) Y mae mwy i fywyd na diogelu’nhunain. Nid byd amser yw’r gwirfesurydd. ad 28 Y mae mwy i fywydna’i hyd. Nid y rai sy’n lladd y corffyw’r rhai i’w gwir ofni.

c) Y mae cael eich adnabod gan y TadNefol yn fywyd go iawn. Mae eiadnabyddiaeth ohonom yn fwy trylwyrna’n hadnabyddiaeth ein hunain o’nhunain! Ac yr ydym yn werthfawr yn eiolwg. Fe gawn ein temtio, fel Jwdas, ifod yn fradwyr; neu, fel Pedr eintemtio i wadu adnabod Iesu Grist.Gofyn Iesu i ni gofio’r darlunehangach ac y mae ei eiriau’n iasolac yn ddifrifol. ad 32.

DARLLEN: Mathew 10: 34-39Peidiwch ag anghofio’r groes

Fe allem dreulio amser yn esbonio fod ygeiriau yma’n dilyn troad ymadroddion

Iddewig a’r dull o siarad sy’n ymddangosfel pe bai’n pegynnu’n du a gwyn ynbarhaus.

Ond mae’r cyfan a ddywedodd Iesu ambeth i’w feddiannu, a phwy i’w ofni yn einharwain at un ffocws cwbl heriol. Ynsyml, mae Iesu’n mynnu’r hawl absoliwt igael ei wasanaethu a’i garu cyn pobpeth.

Teilyngdod i Iesu Grist yw nid einllwyddiannau bydol. Y rhai sy’n ystyriedmai colled ydy ennill popeth arall/ onienillir di dy hun yw’r rhai teilwng yn eiolwg. I godi’n croes nid cysgu ar glustogy cawsom ein galw gan Iesu Grist. Mae’nalwad cyhoeddus. Mae’n alwad di-droi’nôl. Mae’n alwad sy’n gofyn y cyfangennym.

EMYN 541: O Fab y dyn...

GWEDDI

Arglwydd Dduw, pob goleuni a phobgras,

Yn dy ras rho i mi dy oleuni. Tywyll yw fymeddwl hebot ti. Oer yw fy serch.Difywyd yw fy nghalon. Llesg yw fyngherddediad. Ond lle yr wyt ti maegoleuni, gwres, bywyd a hyder.

Maddau i mi yr hyn ydwyf a’r tywyllwch agoleddais yn fy mynwes mor aml.Maddau i mi dywyllwch fy neall. Maddaui mi fy mod yn methu â bod yn dystffyddlon, yn was buddiol, yn blentyn sy’ngorffwyso yn dy ddaioni. Glanha fi fel ymedraf dy weld. Agor i mi lwybraubywyd.

Dros ein bro, ein capel, ein blaenoriaida’n haelodau – Arglwydd dyrchafaf fy llef.

Dros ein hysgolion, ein hysbytai, eingofalwyr, a’n cartrefi preswyl – Arglwydddyrchafaf fy llef.

Dros ein byd, ein harweinwyr, einhamgylchiadau dyrys, a’n hangen amgyfiawnder a thangnefedd – Arglwyddclyw fy llef.

Dros ein hanwyliaid, dros y rai sy’ngweini dramor, dros y rhai sy’n dioddef,dros y rhai sy’n galaru – Arglwydd clywfy llef.

Yn enw ac yn haeddiant Iesu Grist ycyflwynwn ein hunain i ti.

Amen.

Y FENDITH

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.