17
Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth Cyflwyniad Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd y cyfnod adborth yn dechrau ar 30 Ebrill ac yn gorffen ar 19 Gorffennaf 2019. Byddwn yn edrych ar yr adborth a ddaeth i law ac yn ymateb i themâu'r adborth ar ôl y cyfnod hwnnw. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i'n helpu i wneud gwaith mireinio pellach ar y canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, cyn eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2020. Yma, mae cwestiynau cyffredinol a chwestiynau manylach i chi roi adborth arnynt. Os ydych yn gweithio ym myd addysg neu yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno addysg, efallai yr hoffech ymateb i'r cwestiynau manylach sy'n ymdrin â'r cwricwlwm newydd a'r trefniadau asesu, a dysgu proffesiynol. Mae'r cwestiynau hyn yn dechrau'n gyffredinol ac yn mynd yn fwy penodol wrth fynd ymlaen. Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canlynol cyn ymateb: Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022 Y maes/meysydd dysgu a phrofiad yr ydych eisiau rhoi adborth arnynt Cynigion ar gyfer asesu fel sail i ddatblygu canllawiau statudol. Bydd pob adborth a gyhoeddir yn ddienw. Mae cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn bwysig i ni. Mae ein polisi preifatrwydd ar y wefan yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth. Os oes angen cymorth, e-bostiwch [email protected]

Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth Cyflwyniad Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Bydd y cyfnod adborth yn dechrau ar 30 Ebrill ac yn gorffen ar 19 Gorffennaf 2019. Byddwn yn edrych ar yr adborth a ddaeth i law ac yn ymateb i themâu'r adborth ar ôl y cyfnod hwnnw. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i'n helpu i wneud gwaith mireinio pellach ar y canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022, cyn eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2020. Yma, mae cwestiynau cyffredinol a chwestiynau manylach i chi roi adborth arnynt. Os ydych yn gweithio ym myd addysg neu yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno addysg, efallai yr hoffech ymateb i'r cwestiynau manylach sy'n ymdrin â'r cwricwlwm newydd a'r trefniadau asesu, a dysgu proffesiynol. Mae'r cwestiynau hyn yn dechrau'n gyffredinol ac yn mynd yn fwy penodol wrth fynd ymlaen. Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canlynol cyn ymateb: • Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022 • Y maes/meysydd dysgu a phrofiad yr ydych eisiau rhoi adborth arnynt • Cynigion ar gyfer asesu fel sail i ddatblygu canllawiau statudol.

Bydd pob adborth a gyhoeddir yn ddienw. Mae cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel yn bwysig i ni. Mae ein polisi preifatrwydd ar y wefan yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth. Os oes angen cymorth, e-bostiwch [email protected]

Page 2: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a cadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

• i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld

• i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny

• (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data

• (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’

• (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data

• i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data: Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd, CF10 3NQ e-bost: [email protected]

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House Water Lane Wilmslow Cheshire SK9 5AF Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113 Gwefan: https://ico.org.uk/

Page 3: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Cynulleidfa

Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022. Ydych chi'n gweithio ym myd addysg neu'n cefnogi cyflwyno addysg?

Ydw x Nac ydy

Os ‘ydw’, pa sefydliad yr ydych yn gweithio ynddo? (Os ‘nac ydy’, parhewch isod)

Ysgol cyfrwng Cymraeg (Cynradd) Sefydliad addysg uwch

Ysgol cyfrwng Cymraeg (Uwchradd) DAwdurdodau esgobaethol

Ysgol cyfrwng Cymraeg (Arbennig) Consortia rhanbarthol

Ysgol cyfrwng Saesneg (Cynradd) Awdurdod lleol

Ysgol cyfrwng Saesneg (Uwchradd) Darparwr hyfforddiant preifat

Ysgol cyfrwng Saesneg (Arbennig) Trydydd sector

Ysgol ddwyieithog (Cynradd) Llywodraeth

Ysgol ddwyieithog (Uwchradd) Dysgu oedolion yn y gymuned

gol ganol cyfrwng Cymraeg Sefydliad dyfarnu

ol ganol cyfrwng Saesneg Undeb addysgu

Uned cyfeirio disgyblion Corff rheoleiddio (gan gynnwys Arolygiaeth)

Ysgol arbennig Corff llywodraethu

Lleoliad a ariennir nas cynhelir x Arall (nodwch):

Coleg addysg bellach Mudiad Meithrin

Beth yw eich prif rôl? (Dewiswch un o’r opsiynau Coch a dileu y rhai coch sydd ddim ddim yn berthnasol)

Pennaeth (cynradd ac uwchradd) Canghellor/Is-ganghellor

Athro Darlithydd

Ymarferydd Arloeswr

Athro newydd gymhwyso Llywodraethwr

Cynorthwyydd addysgu Cynghorydd Herio

Uwch arweinydd Swyddog gwella ysgol

Athro cyflenwi Arolygydd

Pennaeth/Dirprwy bennaeth Arall (nodwch): Arweinydd Cylch Meithrin Aelod Pwyllgor Rheoli Cylch Meithrin Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin

Os nad ydych yn gweithio ym myd addysg neu’n cefnogi cyflwyno addysg, ym mha rinwedd hoffech chi ddarparu adborth?

Rhiant neu ofalwr Cyflogwr

Oedolyn 18+ (nid rhiant na gofalwr) Prentis

Plentyn neu berson ifanc (dan 18) Arall (rhowch fanylion):

Myfyrwyr/academaidd

Page 4: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Ydych chi'n rhoi adborth ar ran grŵp neu sefydliad?

Ydw x Nac ydy

Os ‘ydy, nodwch hynny.(Enw Cylch, Meithrinfa neu Fudiad yma)

Adran A - Cwestiynau cyffredinol A1. Yn eich barn chi, i ba raddau y bydd canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 yn helpu plant a phobl ifanc i ddod yn: • ddysgwyr galluog, uchelgeisiol • unigolion iach, hyderus • dinasyddion egwyddorol, gwybodus • cyfranwyr mentrus, creadigol?

Cytuno'n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn

anghytuno

Anghytuno Anghytuno'n gryf

x

Sylwadau: Wrth edrych ar y dogfennau i gyd gyda’u gilydd mae modd gweld sut byddant yn llunio fframwaith addysg fydd yn creu dysgwyr galluog, uchelgeisiol, unigolion iach, hyderus, dinasyddion egwyddorol, gwybodus, cyfranwyr mentrus, creadigol yn y pendraw. Y rheswm rydym yn nodi nad ydyn yn cytuno nag anghytuno yw:

1. Nid oes arweiniad na chanllawiau drafft yma sydd yn dangos datblygiad plentyn dan 5 oed, i osod y seiliau ar gyfer beth sydd yn digwydd yn hwyrach ymlaen ym mywyd plentyn.

2. Mae cynrychiolwyr y sector nas cynhelir ond cyllidir wedi bod yn rhan o ddatblygu dogfen Diwylliannau Dysgu (Cultures of Learning) gyda’r Tim Cyfnod Sylfaen yn y Llywodraeth. Mae hon yn ddogfen addas iawn fel cyflwyniad i’r pedagogi ddylai fod tu ôl y cwricwlwm newydd yn arbennig ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Rydym yn siomedig nad ydy’r ddogfen yma yn rhan o’r canllawiau drafft. Mae’n ddogfen sydd yn peintio darlun cadarnhaol o ddiwylliant dysgu addas mewn ffordd hawdd i ddeall.

3. Mae’n anodd integreiddio y canllawiau i gyd i weld sut i greu un cwricwlwm/ fframwaith i blant yn y blynyddoedd cynnar oherwydd mae rhaid edrych ar gymaint o wahanol ddogfennau i uno popeth gyda’i gilydd. Gan fod pob dogfen canllaw yn addas i ddysgwyr 3-16 mae’n rhaid mynd trwy 8 dogfen er mwyn dod o hyd i’r gwybodaeth i gyd.

4. Mae potensial i ni symud o’r Cyfnod Sylfaen presennol i’r meysydd dysgu newydd

a chreu dysgwyr galluog, uchelgeisiol, unigolion iach, hyderus, dinasyddion egwyddorol, gwybodus, cyfranwyr mentrus, creadigol. Ond i wneud hyn mae

Page 5: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

angen symleiddio a chreu un dogfen gynhwysfawr sydd yn addas fel cwricwlwm/fframwaith addysg i bob dysgwr dan 5 oed, os yw nhw mewn ysgol neu leoliad nas cynhelir.

5. Dylai’r ddogfen gynhwysfawr atodol i’r blynyddoedd cynnar integreiddio’r meysydd dysgu gyda’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

6. Mae angen addasu Proffil Cyfnod Sylfaen i gyd fynd a’r canllawiau blynyddoedd

cynnar (newydd) fyddai’n eistedd fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru (3-16)

A2. Gan edrych ar y datganiadau o’r hyn sy'n bwysig, i ba raddau y maent yn crynhoi'r blaenoriaethau ar gyfer dysgu plant a phobl ifanc, yn eich barn chi?

Cytuno'n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn

anghytuno

Anghytuno Anghytuno'n gryf

X

Sylwadau: Rydym yn cytuno bod y datganiadau beth sy’n bwysig yn gywir ac ar y cyfan yn addas. Credwn bod modd addasu a dehongli rhain i bob oedran. Gan fod gymaint o waith darllen a deall yn sail i bob datganiad o Beth sy’n Bwysig mae’n anodd ar yr olwg gyntaf i weld sut mae’r rhain yn berthnasol i blentyn 3 oed. Mae’r mynydd o waith cefndir mae angen darllen a deall cyn y gallwn greu profiadau dysgu addas, yn heriol dros ben i ymarferwyr ac arweinwyr mewn lleoliadau nas cynhelir. Mae angen gwneud gwaith i lenwi’r bwlch dan bump oed. Heb wneud hyn mae perygl i ymarferwyr blynyddoedd cynnar ddefnyddio’r Cam Cynnydd 5 oed fel y nod targed i blant llawer ifancach ac ni fyddai hyn yn addas. Mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng plant pump oed a phlant tair oed. Mae sawl cam dysgu a datblygu angen digwydd er mwyn cyrraedd y cam cynnydd cyntaf. Gan nad yw’r cam cynnydd cyntaf yn addas i blant mewn cylchoedd meithrin mae’n bwysig bod camau cynnydd addas yn cael ei nodi i blant 2,3 a 4 oed. Os na wnawn ni hyn mae perygl iddynt golli allan ar gamau datblygiad plentyn hollbwysig. Mae’r rhan fwyaf o ddatganiadau beth sy’n bwysig yn iawn i blant heb anghenion dysgu ychwanegol. Yn aml gwelwn nad ydynt yn dderbyniol o safbwynt cynhwysiant i bob plentyn. Mae’r datganiadau isod o’r hyn sydd yn bwysig, yn arbennig o heriol wrth geisio eu gwneud yn briodol i blant ifanc iawn. Maent hefyd yn heriol i’r ymarferwyr blynyddoedd cynnar eu deall oherwydd yr iaith sy’n cael ei ddefnyddio ac oherwydd ein deallusrwydd a’n gwybodaeth ni o’r testun. Tynnwn sylw at rai o’r y datganiadau mwyaf heriol isod: GWYDDONIAETH A THECHNOLEG

• Deall natur atomig mater a’r modd y mae’n llywio’r byd.

Page 6: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

• Mae cyfrifiant yn cymhwyso algorithmau at ddata er mwyn datrys problemau go iawn

• Mae grymoedd ag egni yn pennu strwythur a deinameg y bydysawd IEITHOEDD, LLYTHRENNEDD A CHYFATHREBU – Mae’r datganiadau beth sy’n bwysig yn iawn i blant heb anghenion dysgu ychwanegol. Nid ydynt yn dderbyniol o safbwynt cynhwysiant i bob plentyn. MATHEMATEG A RHIFEDD

• Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythurau’r perthnasau rhwng rhifau, meintiau a chydberthnasau

• Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasau sy’n ymwneud a phriodweddau siâp, gofod a safle ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol.

• Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus

Mae angen addasu’r iaith ac egluro cysyniadau hyn heb orfod darllen yr holl ddeunydd cefnogol cymhleth. CELFYDDYDAU MYNEGIANNOL Rydym yn falch i weld un o’r Datganiadau Beth sy’n Bwysig yn cydnabod pa mor bwysig yw chwarae.

• Drwy archwilio ffurfiau a disgyblaethau celfyddydol, boed drwy chwarae neu ymchwil fwy ffurfiol, bydd dysgwyr yn dod i ddeall y ffordd y mae’r Celfyddydau Mynegiannol yn cyfleu ystyr drwy ddefnyddio dulliau clywedol, corfforol, geiriol, gweledol a thechnolegol. Bydd yr archwilio hwn yn ei dro yn eu galluogi i ddatblygu eu gwaith eu hunain.

DYNIAETHAU Rydym yn falch i weld bod pwysigrwydd chwarae yn cael ei gydnabod yng ngham cynnydd 1 Mae angen i ddysgwyr brofi:

• amrywiaeth o ysgogiadau sy’n anelu at danio eu brwdfrydedd a’u hysbrydoli i ddychmygu a bod yn chwilfrydig, ac i archwilio, darganfod a chwestiynu

• amrywiaeth o gyfleoedd parhaus i archwilio a darganfod drwy chwarae IECHYD A LLES Croesawn yr awreiniad Pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored a Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles sydd yng nghyflwyniad y maes dysgu hwn. Hoffen ni weld hwn yn cael ei gydnabod ym mhob maes dysgu gan fod chwarae yn hanfodol i blant ddysgu rhan fwyaf o sgiliau bywyd gan gynnwys rhifedd a llythrennedd.

A3. Yn eich barn chi, a fyddai modd gwella canllawiau drafft Cwricwlwm i

Gymru 2022?

Oes X Nac oes

Page 7: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Os felly, sut y gellid eu gwella?

• Rhannu Diwylliant o Ddysgu – Culture of Learning

• Darparu hyfforddiant penodol ar y 12 egwyddor pedagogaidd

• Creu canllawiau sydd yn benodol ar gyfer plant o dan 5 oed

• Cyhoeddi’r canllaw newydd hwn ar fformat cyhoeddiad papur (nid arlein yn unig)

• Ail fformatio’r gwybodaeth berthnasol yn ôl oedran. Nid yw ymarferwyr mewn cylch meithrin yn cael eu talu am amser paratoi fel arfer, felly mae gorfod gwario llawer o amser yn chwilio am y gwybodaeth sydd yn berthnasol i blant ifanc yn llafurus. Mae llawer o ail adrodd yn y dogfennau.

Mae angen rhoi mwy o ganllawiau ar sut i gynllunio i fedri cynnig tystiolaeth a phrofiadau perthnasol i fodloni: EGWYDDORION Y CWRICWLWM PEDWAR DIBEN Y CWRICWLWM 6 MAES DYSGU 3 CYFRIFOLDEB TRAWSGWRICWLWAIDD SGILIAU EHANGACH

• Er ein bod yn deall bod y cyfan yn integreiddio, nid yw’n hawdd gweld hyn trwy ddarllen y canllawiau drafft.

• A fyddai modd cydblethu y tri cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd mewn i’r 6 maes dysgu rhywsut?

• Creu ‘Proffil Datblygiad Plant dan 5’ e.e. addasu Proffil y Cyfnod Sylfaen, i amlinellu’r camau datblygiad plentyn lan at 5 oed. Mae hyn yn hanfodol fel bod gennym ffordd o asesu plant. Er enghraifft er mwyn i blentyn gyda Anghenion Dysgu Ychwanegol gael help ychwanegol rhaid dangos tystiolaeth o asesiad manwl.

• Byddai cael amlinelliad o'r hyn sy'n digwydd o ran datblygiad plant ar gyfer pob cam dilyniant yn ddefnyddiol i bob ymarferydd ac athro.

Ystyried symleiddio’r iaith a defnyddio Plain English / Cymraeg Clir trwy’r dogfenni i gyd.

A4. I ba raddau y mae'r cynigion asesu yn helpu lleoliadau ac ysgolion i nodi cryfderau a chyflawniadau dysgwyr a'r meysydd i'w gwella er mwyn iddynt allu helpu dysgwyr i wneud cynnydd drwy nodi'r camau nesaf?

Arbennig o gefnogol

Cefnogol iawn Cefnogol Gweddol gefnogol

Ddim yn gefnogol o

gwbl

x

Sylwadau:

Rydyn yn deall bod disgwyl i leoliadau nas cynhelir gynllunio trefniadau asesu priodol i gefnogi cwricwla ar lefel lleol. Mae hwn yn heriol iawn i ymarferwyr sydd ddim ar yr un

Page 8: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

cyflog a phenaethiaid ysgol; sydd o bosibl heb dderbyn hyfforddiant a sydd yn cael eu talu am oriau cyswllt plant yn unig, heb oriau cynllunio. Nid oes continwwm camau datblygiad wedi eu gosod ar gyfer blynyddoedd cyn 5 oed felly nid oes unrhyw beth yma i fedri asesu yn ei erbyn. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i gynllunio ar gyfer asesu. Nodir o dan y pennawd Asesiad Sylfaenol t.09 y bydd hi’n fwriad i gynnal asesiad sylfaenol o bob dysgwr yn y 6 wythnos gyntaf o fod mewn dosbarth derbyn. Nid yw hyn yn ddigon cynnar i alluogi ymarferwyr mewn lleoliadau nas cynhelir i adnabod sut i gefnogi datblygiad pob dysgwr unigol ac i adnabod os oes angen ymyrraeth cefnogol ar blant. Rhaid ail ystyried y ffordd orau i wneud hyn. Mae’n bwysig bod pontio llwyddiannus rhwng y lleoliad nas cynhelir a’r ysgol ac mae rhannu gwybodaeth asesu am blant yn rhan bwysig o hyn. Nid oes cyfeiriad at sut i wneud hyn yn y cwricwlwm drafft. Nodwn fod yma argymhelliad i ddefnyddio ‘Ar Drywydd Dysgu’ gyda phlant sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog. Croesawn y cyfle i ddefnyddio unrhyw adnoddau addas newydd, a bydd angen hyfforddiant priodol ar lleoliadau nas cynhelir er mwyn gallu defnyddio’r adnoddau hyn. Ni fydd asesiadau ag e-bortffolio ar-lein yn addas i ni fel nifer helaeth o leoliadau nas cynhelir, oherwydd diffyg mynediad i’r we yn ein lleoliad gwaith a gofynion GDPR. Sicrhau Cywirdeb a Chysondeb: Mae lleoliadau nas cynhelir yn dibynnu ar ein athrawon ymgynghorol / cyswllt a’r chynlluniau ansawdd a safon Mudiad Meithrin i gymedroli rhwng lleoliadau. Nid yw’n amlwg a fydd unrhyw newidiadau yn y trefniadau presennol wrth i ni fabwysiadu cwricwlwm newydd. Dyw e ddim yn amlwg i ni pwy sydd yn arwain y gwaith o osod fframwaith datblygiad proffesiynol parhaus i’r sector i fabwysiadu’r cwricwlwm newydd yma.

A5. Mewn perthynas ag adrodd i rieni a gofalwr, rhannwch eich barn gyda ni ar:

• rôl dysgwyr wrth gyfrannu at y broses adrodd • rôl rhieni/gofalwyr yn y broses adrodd • yr wybodaeth y byddech am ei chynnwys.

Mae’n bwysig iawn rhannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr am eu plant. Pan mae rhieni yn gadael eu plant dan 5 oed gyda ni am y tro cyntaf mewn Cylch Meithrin maent am wybod bod eu plant yn hapus ac wedi setlo yn y lleoliad. Fel arfer lles a hapusrwydd y plant yw blaenoriaeth y rhieni a’r gofalwyr, a dyma ein blaenoriaeth ni fel ymarferwyr hefyd. Mae rhieni yn disgwyl gweld tystiolaeth o’r gofal sydd yn cael ei roi i’w plant, a thystiolaeth yn dangos sut mae eu plant yn cael eu cadw’n saff a diogel. Dylid ymgynghori â rhieni ar y datblygiad cwricwlwm hwn fel y gallant ddylanwadu ar y cwestiwn hwn yn uniongyrchol. Pan fydd y plentyn yn derbyn addysg 3 oed mae adroddiadau ar eu datblygiad yn cael eu gwneud yn gyson yn ôl y meysydd dysgu.

Page 9: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Mae Cylchoedd meithrin yn defnyddio amryw o ffyrdd o gyfathrebu yn gyson gyda rhieni / gofalwyr e.e.: Polisi drws agored Cyfryngau Cymdeithasol Adroddiadau ffurfiol Ffeiliau Plant Nosweithiau Rhieni Cyfleoedd anffurfiol fel tripiau staff / rhieni / phlant ar y cyd. Sgyrsiau dyddiol

Adran B – Cwestiynau manylach

B1. Pa mor ddefnyddiol fyddai canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 i chi wrth ddatblygu cwricwlwm ar gyfer eich dysgwyr?

Arbennig o ddefnyddiol

Defnyddiol iawn

Defnyddiol Gweddol ddefnyddiol

Ddim yn ddefnyddiol o

gwbl

X

Sylwadau: Byddwn yn defnyddio y meysydd dysgu newydd i gynllunio gwaith. Bydd rhaid i ni gael gwybodaeth manylach am y camau datblygiad i arwain tuag at cam cynnydd 1. Rydym eisoes yn gyfarwydd a dilyn yr egwyddorion pedagogaidd hyn oherwydd ein profiadau o ddarparu’r Cyfnod Sylfaen. Does dim digon o wybodaeth yma am ddatblygiad plant. Hoffwn awgrymu creu un ddogfen addas i’r blynyddoedd cynnar sydd yn integreiddio popeth mewn un lle, ac wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg Clir / Plain English.

B2. Yn eich barn chi, i ba raddau y mae canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru

2022 yn galluogi pob plentyn a pherson ifanc i gael amrywiaeth eang o

brofiadau dysgu?

Efallai y byddwch am ystyried y dysgu ar draws y disgyblaethau a'r pynciau gwahanol sy'n rhan o faes dysgu a phrofiad.

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

X

Sylwadau: Dydyn ni ddim yn rhagweld newidiadau mawr yn yr amrywiaeth o brofiadau dysgu bydd plant yn cael yn blynyddoedd cynnar achos rydym wedi bod yn darparu cwricwlwm tebyg yn barod. Mi fydd y cynllunio yn newid rhywfaint i adlewyrchu’r meysydd dysgu newydd ond yr un fydd y gweithgareddau, y cyfleoedd dysgu ag asesu.

Page 10: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

B3. Yn eich barn chi, i ba raddau y mae canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 yn galluogi pob plentyn a pherson ifanc i arbenigo mewn disgyblaeth neu bwnc penodol o 14 oed?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: Nid yw’r cwestiwn hwn yn berthnasol i Leoliadau nas Cynhelir.

B4. Nod canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 yw helpu ymarferwyr ac athrawon i ddylunio cwricwlwm sy'n benodol i blant a phobl ifanc. I ba raddau y bydd hyblygrwydd a chefnogaeth ar gael i ymarferwyr ac athrawon wneud hyn?

Cytuno'n gryf Cytuno Ddim yn cytuno nac yn

anghytuno

Anghytuno Anghytuno'n gryf

x

Sylwadau: Ar hyn o bryd mae gyda ni ofidiau ynglŷn a sut y bydd modd i ni dderbyn cefnogaeth i dechrau creu’r cwricwlwm newydd. Dydyn ni ddim yn gwybod cyfrifoldeb pwy fydd rhoi cefnogaeth i ni. A fydd yr awdurdod lleol neu’r consortia yn trefnu hyfforddiant a chefnogaeth i ni greu cwricwlwm? A fydd arian ar gael i’n staff ni fynd i gyrsiau hyfforddiant a chael Datblygiad Proffesiynol Parhaus? Nid yw’r Pwyllgorau gwirfoddol yn gallu ariannu y staff i fynychu’r hyfforddiant ychwanegol yma. Mae prinder gyda ni o staff banc i ryddhau aelodau staff i fynychu hyfforddiant. A fydd trefniadau lleol yn cael eu gwneud i helpu gyda hyn? Mae angen atebion i’r cwestiynau hyn.

B5. Yn eich barn chi, i ba raddau y mae canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 yn helpu dysgwyr i feithrin sgiliau yn y cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) a themâu trawsbynciol eraill (e.e. y dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol, sgiliau ehangach, gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â gwaith, addysg cydberthynas a rhywioldeb)?

Page 11: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: Dydy Cylchoedd Meithrin ddim wedi cael amser i ystyried rhain, na wedi bod yn rhan o’r broses i ddatblygu’r cwricwlwm hwn. Nid oes Cylchoedd Arloesol yn bodoli ar hyn o bryd felly mae’n rhy gynnar i fedri cynnig ymateb ar hyn.

B6. Sut y gellid mireinio'r fframweithiau trawsgwricwlaidd (Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol) er mwyn helpu i feithrin llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol ym mhob rhan o'r cwricwlwm newydd?

Rydym wedi derbyn hyfforddiant yn y gorffennol gan awdurdodau lleol / consortiwm / Mudiad Meithrin ar llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Nid ydym yn gyfarwydd gyda’r fframweithiau fel dogfennau ysgrifenedig, ond rydym yn gyfarwydd gyda chynnig profiadau perthnasol sydd yn cefnogi datblygiad yn y meysydd yma.

B7. Yn eich barn chi, i ba raddau y bydd canllawiau'r meysydd dysgu a phrofiad yn helpu plant yn ystod blynyddoedd y Cyfnod Sylfaen?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: Nid oes arweiniad na chanllawiau drafft yma sydd yn dangos datblygiad plentyn dan 5 oed, i osod y seiliau ar gyfer beth sydd yn digwydd yn hwyrach ymlaen ym mywyd plentyn. Mae cynrychiolwyr y sector nas cynhelir ond cyllidir wedi bod yn rhan o ddatblygu dogfen Diwylliannau Dysgu (Cultures for Learning) gyda’r Tim Cyfnod Sylfaen yn y Llywodraeth. Mae hon yn ddogfen addas iawn fel cyflwyniad i’r pedagogi ddylai fod tu ôl y cwricwlwm newydd yn arbennig ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Rydym yn siomedig nad ydy’r ddogfen yma yn rhan o’r canllawiau drafft. Mae’n ddogfen sydd yn peintio darlun cadarnhaol o ddiwylliant dysgu addas mewn ffordd hawdd i ddeall. Mae potensial i ni symud o’r Cyfnod Sylfaen presennol i’r meysydd dysgu newydd a chreu dysgwyr galluog, uchelgeisiol, unigolion iach, hyderus, dinasyddion egwyddorol, gwybodus, cyfranwyr mentrus, creadigol. Ond i wneud hyn mae angen symleiddio a chreu un dogfen gynhwysfawr sydd yn addas fel cwricwlwm addysg i ddysgwyr dan 5 oed. Fel nodwyd gan Donaldson roedd cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn gwricwlwm cryf ac addas.

Page 12: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

B8. Yn eich barn chi, i ba raddau y mae canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 yn helpu ac yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ar gyflymder priodol i'w datblygiad o fewn y maes dysgu a phrofiad rhwng 3 ac 16 oed?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

X

Sylwadau: Mae angen gwneud gwaith i lenwi’r bwlch dan bump oed. Heb wneud hyn mae perygl i ymarferwyr blynyddoedd cynnar ddefnyddio’r Cam Cynnydd 5 oed fel y nod targed i blant llawer ifancach ac ni fyddai hyn yn addas. Mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng plant pump oed a phlant tair oed. Mae sawl cam dysgu a datblygu angen digwydd er mwyn cyrraedd y cam cynnydd cyntaf. Gan nad yw’r cam cynnydd cyntaf yn addas i blant mewn cylchoedd meithrin a darpariaethau nas cynhelir mae’n bwysig bod camau cynnydd addas yn cael ei nodi i blant 2,3 a 4 oed. Os na wnawn ni hyn mae perygl iddynt golli allan ar gamau datblygiad plentyn hollbwysig.

B9. Yn eich barn chi, i ba raddau y bydd canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 yn darparu sail er mwyn helpu pobl ifanc i wneud cynnydd ar ôl 16 oed?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: Ddim yn berthnasol i’r sector nas cynhelir ond cyllidir

B10. Dylid rhoi blaenoriaeth i asesiadau ffurfiannol yn y cwricwlwm newydd. I ba raddau y mae'r cynigion asesu yn hyrwyddo'r egwyddor hon?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau:

Page 13: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Mae asesu ffurfiannol wedi bod yr arfer ers cychwyn y Cyfnod Sylfaen yn y sector nas cynhelir. Roedd asesu ffurfiannol yn digwydd trwy ddefnyddio Proffil y Cyfnod Sylfaen. Bydd angen addasu y Proffil hwn i gyd-fynd gyda’r cwricwlwm newydd.

B11. Mae'r cynigion asesu yn cynnig dull cymedroli ehangach – gan gefnogi

deialog proffesiynol o ran natur cynnydd, dewis gweithgareddau dysgu ac

asesu priodol, yn ogystal â sicrhau dealltwriaeth gyffredin o enghreifftiau o

gyflawniad yng nghyd-destun y deilliannau cyflawniad.

Sut y byddech yn rhagweld y byddai eich lleoliad / ysgol yn rhoi'r dull hwn ar

waith? Yn eich barn chi, pa gymorth pellach y byddai ei angen?

Mae lleoliadau nas cynhelir yn dibynnu ar ein athrawon ymgynghorol / cyswllt i gymryd cyfrifoldeb am hyn. Nid yw’r cylchoedd yn arfer cyfarfod a’i gilydd er mwyn gwneud gwaith cymedroli. Nid ydym yn gwybod os bydd trefniadau cymedroli newydd yn cael eu sefydlu wrth i ni fabwysiadu cwricwlwm newydd. Nid yw’n eglur cyfrifoldeb pwy fyddai hynny. Dydyn ni ddim yn gwybod cyfrifoldeb pwy fydd rhoi cefnogaeth i ni. Dylai’r Awdurdod lleol neu’r consortia drefnu strwythur cymedroli i’r lleoliadau nas cynhelir ag ysgolion ar y cyd. Dylai arian fod ar gael i’n staff ni fynd i sesiynau cymedroli a chael Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Nid yw’r Pwyllgorau gwirfoddol yn gallu ariannu y staff i fynychu’r hyfforddiant ychwanegol yma. Mae prinder gyda ni o staff banc i ryddhau aelodau staff i fynychu hyfforddiant. Byddai banc o staff cyflenwi fel rhan o drefniadau lleol yn helpu gyda hyn.

B12. Pa faterion ymarferol sy'n effeithio ar leoliadau ac ysgolion y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt os caiff y cynigion asesu eu rhoi ar waith?

Mae angen proffil datblygu dan 5 oed Bydd angen hyfforddiant pellach a chreu / cadarnhau’r strwythurau i gefnogi cyflwyno dulliau asesu ffurfiannol a chymedroli Bydd rhaid i rhywrai gydlynu’r gwaith o ddod a lleoliadau / ysgolion at ei gilydd i gymedroli os ydyn ni i fod i fodloni’r canllawiau yma. Mae rhaid ystyried nad oes amser di-gyswllt gan staff cylchoedd meithrin i wneud gwaith cymedroli ychwanegol tu allan i’r lleoliad. Yn aml nid oes cyllid gan bwyllgorau cylchoedd meithrin i gyflogi staff am oriau ychwanegol wneud y gwaith hyn. Nid yw cyllid addysg plant 3 oed yn y lleoliadau nas cynhelir yn yr un peth a lefel ariannu plant mewn ysgolion.

Page 14: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Mae’r polisi 30 awr o ofal ag addysg yn golygu bod llawer mwy o leoliadau nawr yn cynnig gofal plant drwy’r dydd. Mae hyn wedi effeithio ar eu capasiti nhw i fynychu hyfforddiant yn fawr.

B13. Yn eich barn chi, pa oblygiadau sy'n deillio o canllawiau drafft Cwricwlwm i Gymru 2022 o ran eich anghenion datblygiad proffesiynol chi a'ch cydweithwyr mewn perthynas â'r canlynol:

• yr effaith ar arfer addysgegol • goblygiadau cynllunio ar gyfer cwricwlwm wedi'i lywio gan ddibenion • gofynion dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig ag addysgeg • datblygu trefniadau cydweithredu yn yr ysgol a rhwng ysgolion • meysydd dysgu proffesiynol penodol sy'n gysylltiedig â'r meysydd

dysgu a phrofiad • cyfleoedd i ddulliau ymholi proffesiynol ategu'r gwaith o gyflwyno'r

cwricwlwm newydd?

Dydyn ni ddim yn ymwybodol o unrhyw gynllun Datblygiad Proffesiynol Parhaus i’r lleoliadau nas cynhelir. Mae rhai awdurdodau lleol / consortia wedi bod yn rhannu gwybodaeth am y cwricwlwm newydd gyda lleoliadau nas cynhelir ond nid yw hyn yn gyson ar draws Cymru. Rydyn ni’n meddwl bydd gyda ni anghenion hyfforddiant ag angen am gefnogaeth a gwybodaeth ar bob un o’r meysydd isod. • yr effaith ar arfer addysgegol • goblygiadau cynllunio ar gyfer cwricwlwm wedi'i lywio gan ddibenion • gofynion dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig ag addysgeg (beth yw’r gofynion?) • datblygu trefniadau cydweithredu yn yr ysgol a rhwng ysgolion (Ddim yn berthnasol i leoliadau nas cynhelir) • meysydd dysgu proffesiynol penodol sy'n gysylltiedig â'r meysydd dysgu a phrofiad • cyfleoedd i ddulliau ymholi proffesiynol ategu'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd?

B14. Pa heriau a chyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n gysylltiedig â rhoi egwyddorion y cynigion asesu drafft ar waith?

Mae’r egwyddorion hyn yn cyd-fynd gyda sut mae’r Cyfnod Sylfaen wedi bod yn cael ei weithredu yn y gorffennol. Bydd angen hyfforddiant fel nodwyd uchod.

Page 15: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Adran C – Penodol: Meysydd dysgu a phrofiad C1. Os hoffech ddarparu adborth penodol yn ymwneud ag un neu fwy o feysydd dysgu a phrofiad penodol, gwnewch ddetholiad ac ychwanegwch eich sylwadau isod.

Celfyddydau Mynegiannol

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu x

Dyniaethau Mathemateg a Rhifedd x

Iechyd a Lles Gwyddoniaeth a Technoleg x

Sylwadau (os dewiswch mwy nag un maes dysgu a phrofiad nodwch bod sylwad) Mae’r datganiadau isod o’r hyn sydd yn bwysig, yn arbennig o heriol wrth geisio eu gwneud yn briodol i blant ifanc iawn. Maent hefyd yn heriol i’r ymarferwyr blynyddoedd cynnar eu deall oherwydd yr iaith sy’n cael ei ddefnyddio ac oherwydd ein deallusrwydd a’n gwybodaeth ni o’r testun. Tynnwn sylw at y datganiadau mwyaf heriol isod: GWYDDONIAETH A THECHNOLEG • Deall natur atomig mater a’r modd y mae’n llywio’r byd. • Mae cyfrifiant yn cymhwyso algorithmau at ddata er mwyn datrys problemau go iawn • Mae grymoedd ag egni yn pennu strwythur a deinameg y bydysawd IEITHOEDD, LLYTHRENNEDD A CHYFATHREBU – Mae’r datganiadau beth sy’n bwysig yn iawn i blant heb anghenion dysgu ychwanegol. Nid ydynt yn dderbyniol o safbwynt cynhwysiant i bob plentyn. MATHEMATEG A RHIFEDD • Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythurau’r perthnasau rhwng rhifau, meintiau a chydberthnasau • Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasau sy’n ymwneud a phriodweddau siâp, gofod a safle ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomena yn y byd ffisegol. • Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae’r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus Mae angen addasu’r iaith ac egluro cysyniadau hyn heb orfod darllen yr holl ddeunydd cefnogol beichus.

Page 16: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

C2. I ba raddau y mae'r camau cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd yn cyfleu'r galluoedd a nodir yn yr egwyddorion cynnydd?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: Nid yw Cam Cynnydd 1 yn briodol ar gyfer plentyn 3 oed. Rydym yn derbyn ein bod yn “gweithio tuag at” Cam Cynnydd 1 ond mae gymaint o gamau pwysig rhwng 3 a 5 rydym yn poeni bydd rhain yn cael eu colli.

C3. I ba raddau y mae'r adrannau dysgu ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr feithrin sgiliau trawsieithu?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: Nid yw Cam Cynnydd 1 yn briodol ar gyfer plentyn 3 oed. Rydym yn derbyn ein bod yn “gweithio tuag at” Cam Cynnydd 1 ond mae gymaint o gamau pwysig rhwng 3 a 5 rydym yn poeni bydd rhain yn cael eu colli. Nid yw’r term trawsieithu yn gyfarwydd i lawer felly mae angen eglurhad ohono.

C4. I ba raddau y mae'r canllawiau ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu'r broses o gaffael a dysgu ieithoedd?

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: O fewn lleoliadau nas cynhelir cyfrwng Cymraeg mae angen datblygu a pharhau i wella ein sgiliau am y broses o sut mae plant yn caffael iaith. Nid yw’r canllawiau yn sôn am y dull trochi yn ddigonol.

C5. I ba raddau y mae'r canllawiau Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cefnogi dull gweithredu ysgol gyfan mewn perthynas â sicrhau iechyd a lles?

Page 17: Canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm i Gymru 2022: adborth...Cynulleidfa Mae'r cwestiynau canlynol yn ein helpu i ddeall eich perthynas chi â’r canllawiau drafft ar gyfer Cwricwlwm

Arbennig o dda

Da iawn Da Gweddol dda Ddim yn dda

Sylwadau: Nid yw’r “dull gweithredu ysgol gyfan” yn berthnasol mewn lleoliadau nas cynhelir. Mae hapusrwydd a lles plant yn sail i bopeth yn ein Cylchoedd Meithrin ni. Mae lleoliadau nas cynhelir yn eithaf bach fel arfer.

A hoffech wneud unrhyw sylwadau pellach neu roi adborth ar unrhyw beth arall?

Dychwelyd erbyn 19 Gorffennaf 2019

Ebost: [email protected] Anfonwch at: Adborth Cwricwlwm i Gymru 2022

Is-adran Cwricwlwm ac Asesu Llywodraeth Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ