16
Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad

Canllawiau i’r cyfryngau

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Canllawiau i’r cyfryngau

1

Canllawiau i’r cyfryngauar adrodd am hunanladdiad

Page 2: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad2

© Samaritans 2021

© M

icro

gen/

stoc

k.ad

obe.

com

Page 3: Canllawiau i’r cyfryngau

3

Rhagair 4 gan yr Athro Ann John

Cyflwyniad 5

Deg peth i’w cofio wrth adrodd am hunanladdiad 6

Adrodd am hunanladdiad – ymchwil a thystiolaeth 7

Arferion gorau – awgrymiadau am adrodd 8

Pwyntiau ‘cofiwch a pheidiwch’ 8

Pethau ychwanegol i’w hystyried 12

Hunanladdiad: y ffeithiau 14

Cynnwys

Page 4: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad4

© Samaritans 2021

Mae dynion deirgwaith yn fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad na menywod ac mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd gymdeithasol sylweddol mae dynion hyd at 10 gwaith yn fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad na’r rheiny sy’n llai difreintiedig. Hunanladdiad yw achos mwyaf marwolaeth ymysg pobl o dan 50 oed o hyd. Mae’n fater o bwys o ran iechyd y cyhoedd, ond mae hefyd yn fater o bwys o ran anghydraddoldeb.

Rwy’n falch o weithio ym maes atal hunanladdiad yng Nghymru, ochr yn ochr â lliaws o unigolion, sefydliadau ac asiantaethau brwdfrydig. Nid yw’r maes gwaith hwn wedi’i gyfyngu i unrhyw un proffesiwn neu sefydliad; mae hunanladdiad yn gymhleth iawn ac o’r herwydd mae’r rheiny sy’n gweithio i’w atal yn dod o amrywiaeth fawr o sectorau, o ymchwilwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol i athrawon a’r heddlu. Fel y dywed Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Siarad â fi 2, busnes pawb yw hunanladdiad.

Mae rôl y cyfryngau yn y gwaith o atal hunanladdiad yn hanfodol. Un o brif amcanion strategaeth Siarad â fi 2 yw rhoi cymorth i’r cyfryngau fod yn gyfrifol wrth bortreadu hunanladdiad. Mae adnoddau canllawiau’r Samariaid wedi cael eu cynllunio a’u datblygu i gynorthwyo newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni i wneud hyn. Mae llawer o’u gwaith wrth greu a diwygio’r canllawiau hyn wedi cael ei wneud trwy gydweithrediad a phartneriaeth gyda newyddiadurwyr a’r rheiny sy’n gweithio yn y cyfryngau ledled y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae tystiolaeth ymchwil yn dangos bod rhai mathau o sylw yn y cyfryngau, fel disgrifio dull hunanladdiad yn eglur, a gorliwio neu ormod o sylw, yn gallu arwain at ymddygiad hunanladdol dynwaredol ymysg pobl fregus.

Mewn gwrthgyferbyniad, mae sylw sy’n disgrifio person neu gymeriad yn dod trwy argyfwng hunanladdol yn gallu bod yn dystiolaeth gref i eraill bod hyn yn bosibl a gall annog pobl fregus i geisio cymorth. Mae hwn yn gam hollbwysig wrth leihau hunanladdiadau yng Nghymru ac rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y ffyrdd yr wyf i a thîm Samariaid Cymru wedi gweithio gyda newyddiadurwyr a sianelau newyddion yng Nghymru i gyflawni hyn. Ond mae’n rhaid inni wneud mwy - mae cyfraddau hunanladdiad a hunan-niwed yn dal i ddinistrio bywydau unigolion, ynghyd â ffrindiau, teuluoedd a chymunedau, ledled Cymru.

Mae diddordeb gan y cyhoedd mewn hunanladdiad a gwyddom fod rhyddid y wasg o’r pwys mwyaf. Gwyddom hefyd fod yn rhaid i ni, fel bodau dynol, fod yn dosturiol a chymryd gofal wrth adrodd am hunanladdiad. Dylai risg haint hunanladdiad i’r rheiny sy’n fregus a’r effaith ar y rheiny sydd wedi cael profedigaeth, sydd â mwy o risg hunanladdiad eu hunain, fod yn ein meddyliau bob amser wrth inni ymdrin â hunanladdiad yn y cyfryngau. Dylai’r iaith ynghylch cefndir yr unigolyn, y dull a ddefnyddiwyd a’r effaith ar y teulu i gyd gael eu hystyried er mwyn lleihau’r risg. Nid oes angen i’r dull hwn fod yn glogyrnaidd; mae’r canllawiau yno i’ch helpu i lunio ymateb gwybodus ac ystyriol.

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni yn ein gwaith i leihau hunanladdiad yng Nghymru; busnes pawb yw hunanladdiad ac ni ddylem byth danbrisio ein gallu unigol ac ar y cyd i greu newid. Gallai rôl y cyfryngau yn y gwaith o atal hunanladdiad achub bywydau ac yn sicr nid oes dim mwy nerthol y gallaf i feddwl amdano.

Yr Athro Ann John Athro Clinigol ym maes Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg, Prifysgol Abertawe, a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed

Rhagair

Yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn.

Page 5: Canllawiau i’r cyfryngau

5

Er y gall adrodd mewn modd sensitif roi gwybodaeth i’r cyhoedd a’u haddysgu am hunanladdiad a’r arwyddion i wylio amdanynt, mae yna dystiolaeth ymchwil gadarn a chyson bod rhai ffyrdd o adrodd newyddion yn arwain at gynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad.

Gall sylw yn y cyfryngau ddylanwadu ar y ffordd mae pobl yn ymddwyn mewn argyfwng a’u credau ynghylch yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae’r ymchwil yn dangos bod rhai mathau o ddarluniadau yn y cyfryngau, fel disgrifio dull yn eglur a gorliwio a gormod o sylw, yn gallu arwain at ymddygiad hunanladdol dynwaredol ymysg pobl fregus.

Er enghraifft, yn y pum mis ar ôl hunanladdiad Robin Williams yn 2014, gwelwyd 1,841 mwy o farwolaethau trwy hunanladdiad yn Unol Daleithiau America o gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol – 9.85% o gynnydd.

Mewn cyferbyniad, gall rhai ffyrdd o adrodd helpu i achub bywydau. Gall sylw sy’n disgrifio person neu gymeriad yn ceisio cymorth ac yn dod trwy gyfnod anodd fod yn dystiolaeth gref i eraill bod hyn yn bosibl, a gall gael dylanwad warchodol ar gynulleidfaoedd.

Gall storïau bwysleisio bod modd atal hunanladdiad a chyfeirio pobl fregus at ffynonellau cymorth. Gwyddom o ymchwil ryngwladol, pan ddilynir canllawiau i’r cyfryngau mae hyn yn cael effaith gadarnhaol trwy wella safonau adrodd.

Mae hunanladdiad yn bwnc cymhleth iawn sy’n cyflwyno set benodol o heriau i newyddiadurwyr, sy’n gorfod cadw cydbwysedd rhwng adrodd am fater sensitif a rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd, tra’n ystyried pa ddylanwad y gallai sylw ei gael ar bobl fregus, gan gynnwys y posibilrwydd o ymddygiad dynwaredol, ac ar yr un pryd osgoi tarfu ar alar a sioc y bobl sydd wedi cael profedigaeth.

Cynghorion yw’r canllawiau hyn ac ni fwriedir iddynt gyfyngu ar ryddid y wasg mewn unrhyw ffordd. Eu diben yw atgyfnerthu codau ymarfer y diwydiant

a pholisïau golygyddol, er mwyn cynorthwyo newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni i sicrhau’r safonau uchaf wrth roi sylw i hunanladdiad. Maent yn cynnig argymhellion ymarferol ac awgrymiadau ar ymdrin â’r pwnc mewn amgylchedd sy’n heriol ac yn dal i ddatblygu yn y cyfryngau. Maent wedi’u seilio ar ymchwil ryngwladol helaeth i ddarluniadau o hunanladdiad yn y cyfryngau ac ymgynghori helaeth gyda gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau, academyddion a phobl sydd â phrofiad byw.

Mae’r Samariaid wedi gweithio’n agos â newyddiadurwyr, gwneuthurwyr rhaglenni a sefydliadau yn y cyfryngau dros flynyddoedd lawer er mwyn cynorthwyo ag adrodd ar hunanladdiad mewn modd cyfrifol. Mae’r canllawiau hyn i’r cyfryngau yn ganolog i’r gwaith hwn. Yn ogystal â’r canllawiau craidd, mae cyfres o adnoddau ar-lein sy’n rhoi rhagor o gyngor ar agweddau penodol ar sylw i hunanladdiad, gan gynnwys gweithio gyda phobl sydd wedi cael profedigaeth, adrodd ar gwestau a chynnwys ar gyfer rhaglenni dogfen a dramâu. Mae’r rhain ar gael yn yr adran cyngor i’r cyfryngau ar ein gwefan.

Mae Gwasanaeth Cynghori’r Samariaid i’r Cyfryngau hefyd yn darparu cyngor a hyfforddiant am ddim i gynorthwyo â sylw gwybodus a diogel. Gall newyddiadurwyr a gwneuthurwyr rhaglenni gysylltu’n uniongyrchol gydag ymholiadau ynghylch cynnwys am hunanladdiad, gan gynnwys newyddion sydd newydd ddod i law.

Cyflwyniad

Mae hunanladdiad yn destun pryder mawr ym maes iechyd y cyhoedd ac felly’n bwnc sydd yn bendant er budd y cyhoedd.

Mae hunanladdiad yn bwnc mae’n anodd tu hwnt i’w gael yn iawn ac roedd yr hyfforddiant wir wedi helpu’r tîm i feithrin dealltwriaeth well o’r angen i weithredu mewn modd cyfrifol. Yn ddiau roedd trafod y materion o bwys hefyd wedi helpu i feithrin hyder wrth ddarlunio hunanladdiad a’i effeithiau mewn ffordd sensitif.

Will Banks, Golygydd Cynorthwyol BBC Radio Oxford

Page 6: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad6

© Samaritans 2021

© te

rove

sala

inen

/sto

ck.a

dobe

.com

1 Peidiwch ag adrodd am ddulliau hunanladdiad mewn erthyglau, fel dweud bod rhywun wedi marw trwy grogi, yn arbennig mewn penawdau.

2 Cofiwch gynnwys cyfeiriadau at y ffaith bod modd atal hunanladdiad a nodi ffynonellau cymorth, fel llinell gymorth y Samariaid. Gall hyn annog pobl i geisio cymorth, a allai achub bywydau.

Pan mae bywyd yn anodd, mae’r Samariaid yma – dydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch eu ffonio am ddim ar 116 123, anfon neges e-bost at [email protected], neu fynd i www.samaritans.org i ddod o hyd i’r gangen agosaf. Os hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg, ffoniwch am ddim ar 0808 164 0123 pob dydd rhwng 7pm ac 11pm.

3 Cofiwch osgoi penawdau dramatig a thermau cryf fel ‘epidemig o hunanladdiadau’. Peidiwch byth ag awgrymu bod rhywun wedi marw ar unwaith neu fod ei farwolaeth yn gyflym, yn hawdd, yn ddi-boen, yn anochel nac yn ateb i’w broblemau. Gochelwch rhag ieithwedd sy’n gorliwio neu’n clodfori hunanladdiad.

4 Peidiwch â chyfeirio at safle neu le penodol fel un poblogaidd neu adnabyddus am hunanladdiadau, er enghraifft, ‘ag enw drwg’ neu ‘fan gwael’ am hunanladdiadau, a pheidiwch â rhoi gwybodaeth, fel uchder pont neu glogwyn.

5 Peidiwch â defnyddio lluniau neu fideo sy’n ddramatig, yn emosiynol neu’n gorliwio. Gall gormod o ddelweddau greu swyn o gwmpas marwolaeth ac achosi i unigolion bregus or-uniaethu â’r ymadawedig.

6 Peidiwch â rhoi gormod o sylw i storïau a’u gosod mewn mannau rhy amlwg, fel ar frig y dudalen flaen neu fel y brif stori, a pheidiwch â’u cysylltu â storïau blaenorol am hunanladdiad.

7 Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ymdrin â’r cyfryngau cymdeithasol a pheidiwch â chrybwyll na rhoi dolenni i sylwadau, neu wefannau/fforymau sy’n hyrwyddo neu’n creu swyn o amgylch hunanladdiad. Yn yr un modd, mae’n

fwy diogel peidio ag agor adrannau sylwadau ar storïau am hunanladdiad a dylid ystyried yn ofalus pa mor briodol yw hyrwyddo storïau trwy hysbysiadau gwthio.

8 Dylid osgoi cyhoeddi cynnwys o nodiadau hunanladdiad neu negeseuon tebyg a adawyd gan berson sydd wedi marw. Gallant ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn uniaethu â’r ymadawedig. Gallai hefyd ramanteiddio hunanladdiad neu achosi trallod i’r teulu a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth.

9 Mae dyfalu am achos hunanladdiad neu’r ‘sbardun’ amdano yn gallu gor-symleiddio’r mater a dylid ei osgoi. Mae hunanladdiad yn hynod o gymhleth a’r rhan fwyaf o’r amser nid oes un digwyddiad neu ffactor sy’n achosi i rywun wneud amdano ei hun.

10 Mae pobl ifanc yn fwy agored i haint hunanladdiad. Wrth ymdrin â marwolaeth person ifanc, peidiwch â gwneud y stori’n rhy amlwg na defnyddio lluniau dro ar ôl tro, gan gynnwys mewn orielau. Peidiwch â defnyddio ieithwedd neu ddelweddau emosiynol, rhamanteiddiedig – mae ymagwedd ffeithiol, sensitif yn llawer mwy diogel. Gall sylw sy’n adlewyrchu’r materion ehangach o gwmpas hunanladdiad, gan gynnwys y ffaith bod modd ei atal, helpu i leihau risg ymddygiad hunanladdol. Cofiwch gynnwys cyfeiriadau clir ac uniongyrchol at adnoddau a sefydliadau cymorth.

Deg peth i’w cofio wrth adrodd am hunanladdiad

Page 7: Canllawiau i’r cyfryngau

7

Er enghraifft, mae storïau sy’n cynnwys disgrifiadau o’r dull o hunanladdiad a lle mae’r sylw wedi bod yn rhy amlwg, helaeth neu wedi’i orliwio, yn gallu arwain at ymddygiad hunanladdol dynwaredol. Mae rhai pobl yn fwy agored i’r effaith hon nag eraill.

Beth mae’r ymchwil yn ei ddweud wrthym ni?Gall penawdau dramatig sy’n cyfeirio’n eglur at ddull o hunanladdiad gael effeithiau niweidiol ac o bosibl arwain at ymddygiad dynwaredol. Os rhoddir manylion am ddulliau hunanladdiad i bobl sy’n fregus, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, pobl ifanc a rhai sydd wedi cael profedigaeth, gall arwain at fwy o farwolaethau gan ddefnyddio’r un dull. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi arwain at gyflwyno dulliau hunanladdiad newydd, angheuol iawn i boblogaethau, gan arwain at gynnydd cyffredinol mewn marwolaethau trwy hunanladdiad. Mae pobl sy’n goroesi ymgais at hunanladdiad, ac mae’r rhan fwyaf yn goroesi, yn cael ail gyfle i gael cymorth a thriniaeth briodol. Nid yw’r rhai sy’n defnyddio dulliau hunanladdiad angheuol iawn yn cael ail gyfle.

Mae’r llenyddiaeth ar hunanladdiad yn nodi ffenomenon a elwir ‘haint hunanladdiad’. Mae hyn yn digwydd pan mae hunanladdiad neu ymgais at hunanladdiad yn gweithredu fel ‘model’ neu esiampl ar gyfer ymddygiad hunanladdol wedi hynny. Gallai’r ‘model’ fod yn berson enwog, ond hefyd gallai fod yn berthynas, cymydog neu ffrind sy’n byw yn y gymuned leol. Gallai’r effaith heintus gael ei hachosi gan alar treiddiol neu or-uniaethu â’r person a fu farw, neu â’r amgylchiadau pan wnaeth amdano ei hun.

Mae pobl ifanc yn gynulleidfa arbennig o fregus mewn perthynas â sylw i hunanladdiad yn y cyfryngau. Maent yn fwy agored i ymddygiad hunanladdol dynwaredol ac yn fwy tebygol o gael eu dylanwadu gan y cyfryngau na grwpiau oedran eraill. Mae pobl ifanc hefyd â mwy o risg haint os yw hunanladdiad wedi effeithio arnynt. Yn aml mae marwolaethau pobl ifanc yn cael sylw anghymesur ac emosiynol o gymharu â marwolaethau eraill trwy hunanladdiad, a all gynyddu’r risg o ddylanwadu ar ymddygiad hunanladdol dynwaredol.

Mae corff arall o dystiolaeth, llai o faint, yn dangos bod darluniadau sensitif o hunanladdiad, sy’n canolbwyntio ar rywun yn goresgyn argyfwng, yn gallu cael dylanwad warchodol. Gelwir hyn effaith Papageno. Mae sylw sy’n disgrifio person neu gymeriad yn ceisio cymorth ac yn dod trwy gyfnod anodd yn gallu bod yn dystiolaeth gref i eraill bod hyn yn bosibl. Gall sylw o’r math hwn annog pobl i geisio cymorth ac mae wedi cael ei gysylltu â gostyngiadau mewn cyfraddau hunanladdiad.

Adrodd am hunanladdiad – ymchwil a thystiolaeth

Mae corff sylweddol o ymchwil academaidd ar draws y byd, a elwir effaith Werther, wedi canfod cysylltiadau rhwng rhai ffyrdd penodol o adrodd am hunanladdiadau a chynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad.

Mae digonedd o dystiolaeth ryngwladol y gall adroddiadau a darluniadau o hunanladdiad yn y cyfryngau fod yn hynod o ddylanwadol. Gall arferion gwael yn y cyfryngau achosi rhagor o farwolaethau, yn enwedig ymysg grwpiau mwy bregus fel pobl ifanc a phobl â phroblemau iechyd meddwl. Ar y llaw arall, gall ymdriniaeth ofalus a chyfrifol gan y cyfryngau o’r mater pwysig hwn gyfrannu at atal hunanladdiadau.

Yr Athro Keith Hawton, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Hunanladdiad, Prifysgol Rhydychen

Page 8: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad8

© Samaritans 2021

Mae tîm cyngor i’r cyfryngau y Samariaid ar gael i ddarparu cymorth wrth ymdrin â hunanladdiad a hunan-niwed ar [email protected] Mae’r Samariaid hefyd yn cynnig briffiadau a sesiynau cyngor cyfrinachol i gyrff y cyfryngau.

Mae llawer o ffyrdd o lunio sylw gwybodus a sensitif ar hunanladdiad. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:

Pwyntiau ‘Cofiwch’ a ‘Peidiwch’

Meddyliwch am effaith y sylw ar eich cynulleidfa• Gallai’ch stori gael effaith ar unigolion bregus neu

bobl sydd â chysylltiad â’r sawl sydd wedi marw. Mae rhoi gwybodaeth ynghylch sut i gysylltu â sefydliadau lle gall pobl gael hyd i gymorth, gan gynnwys rhifau llinellau cymorth, yn gallu annog pobl sy’n cael trafferth ac efallai’n cael meddyliau hunanladdol i geisio cymorth. Gallai hyn achub bywydau.

• Gall fod o gymorth cynnwys rhybuddion sbardun ar ddechrau darn sy’n ymdrin â hunanladdiad, gan ganiatáu i bobl sydd efallai’n fregus wneud dewis ynghylch pa mor addas yw’r cynnwys iddyn nhw.

Arferion gorau – awgrymiadau ar adrodd

Mae’r amgylchedd presennol yn y cyfryngau yn un dyrys iawn i newyddiadurwyr a gall adrodd am hunanladdiad fod yn arbennig o heriol.

• Cofiwch fod hyd yn oed storïau newyddion da, lle mae person wedi goroesi ac ymadfer ar ôl ymgais at hunanladdiad, yn gallu achosi risg arwain at ymddygiad dynwaredol os ydynt yn cyfeirio at ddull neu leoliad hunanladdiad. Dylech gofio hyn wrth roi sylw i ymgais at hunanladdiad gan rywun enwog.

Peidiwch â sôn am ddulliau hunanladdiad

• Mae rhoi manylion dulliau hunanladdiad wedi cael ei gysylltu â chynnydd mewn cyfraddau hunanladdiad a dangoswyd ei fod yn dylanwadu ar bobl fregus i efelychu ymddygiad hunanladdol. Mae rhoi gwybodaeth am ddull mewn adroddiad, er enghraifft dweud bod rhywun wedi marw trwy grogi, yn gallu atgyfnerthu ymwybyddiaeth o ddulliau penodol, a chynyddu canfyddiadau o’i effeithiolrwydd yn enwedig os caiff ei gosod mewn man amlwg.

• Peidiwch â rhoi manylion lle os yw’n fan cyhoeddus fel clogwyn, pont neu linell reilffordd. Mae cyhoeddi gwybodaeth am leoedd yn debygol o arwain at fwy o farwolaethau yn y mannau hynny.

• Peidiwch byth â disgrifio dull hunanladdiad fel cyflym, hawdd, di-boen neu effeithiol. Ni chynghorir dweud bod person wedi ‘marw ar unwaith’, er enghraifft.

• Gochelwch rhag darlunio unrhyw beth sy’n hawdd i’w efelychu, er enghraifft lle mae’r deunyddiau neu gynhwysion ar gael yn rhwydd, a rhoi manylion am sut y cafodd ei gyflawni. Gall hyn gynyddu risg trwy ddarlunio hunanladdiad fel rhywbeth hawdd i’w wneud.

• Ni ddylid byth rhoi sylw i ddulliau hunanladdiad newydd neu anghyffredin. Dangoswyd bod achosion o bobl yn defnyddio dulliau hunanladdiad newydd neu anghyffredin yn cynyddu ar ôl sylw yn y cyfryngau. Gall adroddiadau hefyd ysgogi pobl

Pan mae bywyd yn anodd, mae’r Samariaid yma – dydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Gallwch eu ffonio am ddim ar 116 123, anfon neges e-bost at [email protected], neu fynd i samaritans.org i ddod o hyd i’r gangen agosaf. Os hoffech siarad â rhywun yn Gymraeg, ffoniwch am ddim ar 0808 164 0123 pob dydd rhwng 7pm ac 11pm.

Page 9: Canllawiau i’r cyfryngau

9

Mae gwasanaeth cynghori’r Samariaid i’r cyfryngau o gymorth amhrisiadwy i olygyddion sydd eisiau adrodd ar storïau anodd mewn ffordd gydymdeimladol a chyfrifol. Mae’r canllawiau a ddarperir gan y Samariaid wedi helpu’r Telegraph & Argus lawer gwaith. Rwy’n credu y dylai pob newyddiadurwr fod yn ymwybodol o’r gwasanaeth – a’r hyfforddiant a ddarperir gan y Samariaid – fel rhan allweddol o’i swydd.

Nigel Burton Golygydd Grŵp Newsquest Yorkshire

i fynd ar y rhyngrwyd i ymchwilio i’r dulliau hyn. Mae mwy o wybodaeth am adrodd am ddulliau hunanladdiad a chwestau ar gael yn yr adran cyngor i’r cyfryngau ar ein gwefan.

• Er na chynghorir sôn am ddulliau oedd yn anhysbys o’r blaen, mae hyn hefyd yn berthnasol i ddulliau hysbys neu gyffredin. Gall sôn am ddull hysbys greu parhad yn yr ymwybyddiaeth o’r dull penodol hwnnw ac atgyfnerthu canfyddiadau ei fod yn angheuol, yn effeithiol neu ar gael yn rhwydd.

Rhowch ystyriaeth ychwanegol i benawdau ar gyfer storïau am hunanladdiad• Peidiwch ag enwi’r dull hunanladdiad na

defnyddio’r gair ‘hunanladdiad’ mewn penawdau. Gall hyn gynyddu’r risg ymysg grwpiau bregus yn sylweddol. Defnyddiwch eiriad arall fel ‘wedi gwneud amdano ei hun’.

• Yn aml gall penawdau orliwio neu or-symleiddio cyd-destun hunanladdiad, er enghraifft trwy gysylltu digwyddiad penodol fel colli swydd yn uniongyrchol â marwolaeth rhywun. Er enghraifft, byddai pennawd sy’n darllen ‘wedi’i fwlio i farwolaeth’ yn gorliwio ac yn gor-symleiddio hunanladdiad, a gallai hyn gynyddu’r risg o ddylanwadu ar ymddygiad hunanladdol ymysg eraill sy’n cael eu bwlio.

Peidiwch â gor-symleiddio ac ystyriwch y cyd-destun ehangach

• Mae’n bwysig peidio ag esgeuluso neu danbwysleisio realiti cymhleth hunanladdiad a’i effaith ddifrodus ar y bobl sydd wedi’u gadael ar ôl.

• Mae gor-symleiddio achosion neu ‘sbardunau’ canfyddedig hunanladdiad yn gallu bod yn gamarweiniol. Fel y dywedwyd yn yr adran flaenorol, mae awgrymu mai un amgylchiad neu ddigwyddiad, fel bwlio, colli swydd, chwalu perthynas neu brofedigaeth, oedd yr achos yn cynyddu risg haint. Mae pobl fregus sydd â

phroblemau tebyg yn fwy tebygol o or-uniaethu â’r ymadawedig pan roddir un rheswm yn unig.

• Byddai cyfuno cyfeiriadau at ‘sbardunau’ canfyddedig, er enghraifft problemau â dyledion, gyda disgrifiadau o ddull hunanladdiad hawdd ei efelychu yn yr un adroddiad, yn gallu achosi risg mwy i bobl sy’n fregus ac â phroblemau tebyg.

• Peidiwch â gwneud cysylltiadau di-sail lle nad oes dim. Er enghraifft, peidiwch â chyfeirio at eraill sydd wedi marw yn ddiweddar trwy ddefnyddio enwau neu ffotograffau neu ddweud eu bod wedi marw yn yr un lle. Gall hyn gysylltu’r marwolaethau’n anfwriadol a gall fod yn gamarweiniol ac achosi trallod i deuluoedd.

• Gochelwch rhag darlunio ymddygiad hunanladdol fel ymateb dealladwy i argyfwng neu adfyd. Mae hyn – mewn ffordd beryglus, nad yw’n helpu – yn gallu cyfrannu at normaleiddio hunanladdiad fel ymateb priodol i drallod.

Anelwch am sylw sensitif nad yw’n gorliwio:

Mae ymchwil yn dangos, po fwyaf mae’r adroddiad yn gorliwio, mwyaf yw’r effaith bosibl ar ymddygiad hunanladdol.

Page 10: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad10

© Samaritans 2021

• Dylid osgoi sylwadau neu ffotograffau a ddarperir gan dystion ar ôl hunanladdiad oherwydd gall y rhain gynnwys gormod o fanylion a dyfalu, a all gynyddu risg ymddygiad dynwaredol ac a allai achosi trallod i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Mae unigolion o’r fath yn annhebygol o wybod y gallai’r hyn maent yn ei ddweud gynyddu risg hunanladdiad os caiff ei gyhoeddi, neu fod yn ymwybodol o ganllawiau a rheoliadau i’r cyfryngau.

• Dylid trin nodiadau hunanladdiad neu negeseuon tebyg sy’n cael eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn arbennig o ofalus. Mae dweud beth yw cynnwys y rhain yn creu risg gorliwio neu ramanteiddio ymddygiad hunanladdol, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl fregus yn gor-uniaethu â’r sawl sydd wedi marw. Gall hefyd achosi trallod i’r rheiny sydd wedi cael profedigaeth.

• Dylid osgoi defnyddio lluniau o’r ymadawedig dro ar ôl tro gan fod hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl fregus yn uniaethu ag ef. Yn yr un modd, peidiwch â defnyddio lluniau o bobl eraill sydd wedi marw trwy hunanladdiad i ddarlunio storïau amdanyn nhw neu rywun arall. Gall hyn awgrymu cysylltiadau di-sail rhwng y marwolaethau a gor-ddweud nifer hunanladdiadau. Mae hefyd yn achosi trallod mawr i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth.

• Byddwch yn arbennig o wyliadwrus wrth ystyried defnyddio neu roi dolenni i ffynonellau ar-lein, gwefannau, ymatebion ar y cyfryngau cymdeithasol neu sylwadau ar gyfer stori am hunanladdiad. Gall defnyddio dyfyniadau gair am air fod yn broblemus. Weithiau mae dyfalu a sylwadau llawn galar yn cael eu rhannu ar lein, yn arbennig mewn perthynas â phobl ifanc. Mae’n hawdd iawn i’r rhain gael eu cam-adrodd, eu hailadrodd yn anghywir fel ffeithiau neu eu lledu heb ystyriaeth briodol i bobl sydd wedi cael profedigaeth neu bobl fregus. Hefyd mae risg iddynt greu swyn o amgylch ymddygiad hunanladdol, er enghraifft cyfeirio at ‘lif o deyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol’.

• Byddwch yn ofalus i beidio â gorliwio unrhyw agwedd ar stori. Mae newyddion sydd newydd ddod i law, cyhoeddi cyflym, cyrhaeddiad y cyfryngau cymdeithasol a chystadleuaeth am gliciau i gyd yn gallu rhoi newyddiadurwyr o dan fwy o bwysau wrth lunio adroddiadau, gan gynyddu posibilrwydd sylw sy’n gorliwio.

• Cyn cyhoeddi, ystyriwch a yw’r pennawd neu is-bennawd drafft yn gor-ddramateiddio’r stori, yn cynnwys y dull hunanladdiad neu’n defnyddio termau sy’n emosiynol neu sy’n gorliwio.

• Gochelwch rhag cyfrannu at wneud mannau yn lleoedd ‘hysbys’ ar gyfer hunanladdiadau. Mae labelu lle fel ‘man gwael am hunanladdiadau’ neu ‘le ag enw drwg’ yn gwneud pobl yn fwy ymwybodol o’r dull a’r lle, gan ei droi o bosibl yn lle eiconig sy’n hysbys iawn am hunanladdiadau, a allai ddenu pobl fregus yno.

• Peidiwch â chyfeirio at gynnydd posibl mewn hunanladdiadau mewn lle penodol neu ymysg grŵp penodol fel ‘epidemig’ neu derm arall tebyg. Mae’n bosibl mai cyd-ddigwyddiad yw dau neu fwy o bobl yn gwneud amdanynt eu hunain a hwythau’n rhannu cefndir neu oedran tebyg neu’n byw yn yr un ardal. Gochelwch rhag awgrymu cysylltiad lle efallai nad oes un. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cyfeirio at glystyrau arwain at hunanladdiadau ychwanegol.

Mae ein hymchwil wedi dangos sut mae adroddiadau yn y cyfryngau’n dylanwadu ar hunanladdiadau mewn mannau cyhoeddus a dyma pam na ddylid nodi lleoedd a dulliau. Trwy ddilyn y canllawiau hyn gall newyddiadurwyr a sylwebyddion chwarae rhan bwysig yn y gwaith o atal hunanladdiadau ac achub bywydau.

Siobhan O’Neil Athro Gwyddorau Iechyd Meddwl Prifysgol Ulster

Page 11: Canllawiau i’r cyfryngau

11

• Byddwch yn ofalus ynghylch rhannu storïau am hunanladdiad ar y cyfryngau cymdeithasol gan y gall hyn gynyddu risg gorliwio ynghylch marwolaeth.

Gochelwch rhag darlunio hunanladdiad a’i ganlyniadau mewn modd melodramatig

• Nid yw’n ddoeth rhannu neu blannu dolenni i safle, grwpiau, fforymau neu sylwadau sy’n rhamanteiddio, clodfori neu greu swyn o amgylch ymddygiad hunanladdol. Er enghraifft, peidiwch â rhannu postiadau o’r cyfryngau cymdeithasol sy’n targedu pobl ifanc gyda negeseuon coffa sy’n ddramatig neu’n achosi ypsét am farwolaeth. Byddwch yn arbennig o wyliadwrus ynghylch gorbwysleisio mynegiannau galar cymunedol gan y gall hyn awgrymu’n anfwriadol bod pobl yn anrhydeddu ymddygiad hunanladdol, yn hytrach na galaru oherwydd marwolaeth.

• Mae sôn am hunanladdiad fel gwastraff trasig a cholled y gellid bod wedi’i osgoi’n fwy buddiol o ran atal rhagor o farwolaethau. Mae’n bosibl y bydd darn sensitif sy’n edrych ar ddifrod emosiynol hunanladdiad i’r teulu a’r ffrindiau yn annog pobl sy’n cael meddyliau hunanladdol i geisio cymorth.

Ystyriwch yn ofalus ble y gosodir adroddiadau, pa mor amlwg ydynt a sut y cânt eu darlunio

• Peidiwch â rhoi stori mewn man rhy amlwg, er enghraifft ar y dudalen flaen, fel y prif fwletin neu ar frig ffrwd newyddion sydd newydd ddod i law ar lein. Gallai hyn ei gwneud yn fwy tebygol o lawer y bydd yn dylanwadu ar bobl fregus.

• Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ddewis a gosod ffotograffau a fideo. Ystyriwch a yw’n briodol neu’n angenrheidiol cynnwys llun mawr neu lun mewn man amlwg o’r sawl sydd wedi marw, neu ddolen i fideo o gofeb neu angladd. Mae hyn yn arbennig o

bwysig ar gyfer storïau am bobl ifanc gan fod perygl creu swyn o amgylch marwolaeth. Os oes rhaid ichi ddefnyddio llun, mae’n fwy diogel defnyddio rhai niwtral nad ydynt yn ysgogi emosiynau.

• Peidiwch â defnyddio fideo neu luniau o fannau, er enghraifft clogwyn neu bont, yn enwedig os yw’n fan lle mae nifer o hunanladdiadau neu ymgeisiau at hunanladdiad wedi digwydd. Gall cynnwys y delweddau hyn hyrwyddo’r man fel lle eiconig i wneud amdanoch eich hun a denu pobl fregus ato. Gall hefyd gynyddu canfyddiad pobl o ba mor angheuol / effeithiol yw dull hunanladdiad penodol.

Byddwch yn arbennig o ofalus wrth ymdrin â marwolaethau pobl â phroffil uchel trwy hunanladdiad

• Pan mae marwolaeth neu ymgais at hunanladdiad yn ymwneud â rhywun enwog neu sydd â phroffil uchel, mae’n fwy tebygol y bydd eraill yn uniaethu â’r person hwnnw.

• Mae crynodeb o ymchwil o 2020 wedi dangos bod adroddiadau yn y cyfryngau am hunanladdiadau pobl enwog yn gysylltiedig ag 13% o gynnydd mewn hunanladdiadau yn yr 1-2 fis wedyn. Mae’r ymchwil hefyd yn dangos, pan nododd y cyfryngau ddulliau hunanladdiad penodol a ddefnyddiwyd gan rywun enwog, bu 30% o gynnydd mewn marwolaethau trwy’r un dull.

• Mae’n arbennig o bwysig peidio â defnyddio ieithwedd a lluniau dramatig neu emosiynol, gan gynnwys teyrngedau a chofebion cyhoeddus a allai ramanteiddio neu greu swyn o amgylch ymddygiad hunanladdol. Ymddengys fod adrodd sy’n creu swyn yn gysylltiedig â chynnydd mewn hunanladdiadau, o gymharu â sylw i bobl nad ydynt yn enwog.

Mae mwy o wybodaeth am sut i adrodd am hunanladdiad rhywun enwog ar gael yn yr adran canllawiau i’r cyfryngau ar ein gwefan.

Page 12: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad12

© Samaritans 2021

Gochelwch rhag cyhoeddi gormod o fanylion o gwestau

• Dylai newyddiadurwyr sy’n gwneud adroddiad am gwestau ystyried yn ofalus wrth ddewis pa elfennau i’w hadrodd. Fel mater o drefn mae cwestau’n cynnwys llawer iawn o wybodaeth am amgylchiadau marwolaeth yn ogystal â manylion eglur am y dull hunanladdiad. Er bod angen y manylion hyn er mwyn i’r crwner ymchwilio’n llawn i farwolaeth a gwneud dyfarniad, yn aml maent yn amhriodol i gynulleidfa ehangach.

• Mae’n bosibl y bydd parafeddygon a swyddogion heddlu a aeth i safle hunanladdiad yn rhoi tystiolaeth benodol a manwl i’r cwest, felly byddwch yn briodol o ofalus wrth ymdrin â’u datganiadau. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod unigolion o’r fath yn annhebygol o fod yn ymwybodol y gallai’r hyn maent yn eu ddweud gynyddu risg ymddygiad hunanladdol os caiff ei gyhoeddi.

• Byddwch yn ofalus ynghylch ail-adrodd rhesymau neu ‘sbardunau’ a awgrymir gan dystion yn ystod gwrandawiad, gan fod yna berygl gor-symleiddio.

• Cofiwch y gall cwestau achosi trallod mawr i bobl sydd wedi cael profedigaeth, felly dylech adrodd arnynt mewn modd sensitif. Trowch at y Pwyntiau ‘Cofiwch’ a ‘Peidiwch’ cyffredinol.

Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud adroddiad am gwest ar gael yn yr adran canllawiau i’r cyfryngau ar ein gwefan.

Pwyntiau ychwanegol i’w hystyried

Addysgu pobl a rhoi gwybodaeth iddynt

• Pryd bynnag y bo’n bosibl, cyfeiriwch at y materion ehangach sy’n gysylltiedig â hunanladdiad, megis ffactorau risg fel problemau iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol a sylweddau ac amddifadedd. Cyfeiriwch at yr effaith hirdymor y gall hunanladdiad ei chael ar y bobl sydd wedi cael profedigaeth. Gall trafodaeth wybodus am faterion o’r fath hybu gwell dealltwriaeth o hunanladdiad.

• Cofiwch gynnwys cyfeiriadau mewn storïau at y ffaith fod modd atal hunanladdiad a dywedwch pan fo’n bosibl fod ffynonellau cymorth, fel y Samariaid, ar gael ac yn hawdd cael atynt. Gall hyn gael effaith gadarnhaol ar unigolion bregus, gan gynnwys eu hannog i geisio cymorth.

• Gall adnoddau ar-lein i atal hunanladdiad helpu i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau o amgylch hunanladdiad a chynnig cymorth, heb hyrwyddo ymddygiad hunanladdol. Fodd bynnag, gochelwch rhag cyfeirio at safleoedd nad ydynt yn y categori hwn yn benodol.

© N

ick

Mas

len/

Ala

my

Stoc

k P

hoto

Page 13: Canllawiau i’r cyfryngau

13

Peidiwch â chaniatáu sylwadau ar storïau am hunanladdiad

Mae perygl y bydd sylwadau ochr yn ochr ag erthyglau yn rhamanteiddio ymddygiad hunanladdol, er enghraifft dweud bod rhywun yn mynd i ‘le gwell’ neu fod ‘angel newydd yn y nefoedd’. Mae’n bosibl y bydd rhai unigolion yn defnyddio’r adrannau sylwadau i rannu eu profiadau o ymgeisiau at hunanladdiad neu hunan-niwed, a allai ddylanwadu ar rai pobl sy’n fregus. Hefyd gallai sylwadau arwain at ddyfalu anghywir ynghylch achos neu ddull hunanladdiad ac o bosibl gallent fod yn amhriodol neu’n dramgwyddus i’r teulu a ffrindiau.

Byddwch yn ofalus gydag ystadegau

• Gall defnyddio data ‘tueddiadau’ mewn storïau am hunanladdiad fod yn broblemus. Cofiwch y gall cyfraddau hunanladdiad mewn un flwyddyn amrywio o duedd gyffredinol. Gall hyn fod yn arbennig o wir wrth ganolbwyntio ar y nifer o hunanladdiadau mewn ardaloedd bach neu ymysg grwpiau penodol. Mae’n well edrych ar gyfnodau amser o dair blynedd neu ragor er mwyn canfod patrymau arwyddocaol.

• Wrth siarad â grwpiau sy’n arbennig o fregus, er enghraifft plant a phobl ifanc, byddwch yn ofalus wrth roi ystadegau. Cofiwch, er y gallai’r ystadegau fod yn destun pryder, gall adroddiadau sy’n codi bwganod gael yr effaith o normaleiddio neu orbwysleisio nifer yr hunanladdiadau sydd.

• I gael yr ystadegau diweddaraf a nodiadau esboniadol ar gyfer hunanladdiadau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ewch i Adroddiad y Samariaid ar Ystadegau Hunanladdiad. Gydag unrhyw gwestiynau eraill neu i gael gwybodaeth ychwanegol cysylltwch â [email protected]

Byddwch yn ofalus wrth ymdrin â llofruddiaeth-hunanladdiad

• Ceir llofruddiaeth-hunanladdiad pan fo person yn lladd aelodau o’i deulu cyn gwneud amdano ei hun, neu pan fo unigolyn yn llofruddio nifer o bobl mewn man cyhoeddus fel ysgol, cyn gwneud amdano ei hun. Mae llofruddiaeth-hunanladdiad yn beth prin ond mae’n un a all ddenu sylw eithriadol gan y cyfryngau. Gall amgylchiadau’r marwolaethau hyn fod yn ddramatig ac yn peri pryder ac wrth wneud adroddiad amdanynt dylid cadw at y Canllawiau cyffredinol i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad. Mae angen bod yn ofalus, gan fod ymddygiad dynwaredol hefyd yn berthnasol i lofruddiaeth-hunanladdiad.

I gael mwy o wybodaeth gweler canllaw’r Samariaid ar adrodd am lofruddiaeth-hunanladdiad.

Ystyriwch y defnydd o ieithwedd

Mae’r termau a’r ymadroddion a ddefnyddir wrth adrodd am hunanladdiad yn bwysig. Gall defnyddio ieithwedd amhriodol neu ddiofal orliwio stori am farwolaeth neu glodfori marwolaeth. Gall defnydd gofalus helpu i gyfrannu at sylw mwy sensitif, gan leihau risg dylanwadu ar ymddygiad dynwaredol neu achosi trallod i’r teulu a ffrindiau sydd wedi cael profedigaeth.

Dylech ddefnyddio Peidiwch â defnyddio

Hunanladdiad

Gwneud amdano/amdani ei hun

Rhoi terfyn ar ei fywyd/bywyd ei hun

Marw/marwolaeth trwy hunanladdiad

Ymgais at hunanladdiad

Person â risg hunanladdiad

Cyflawni hunanladdiad

‘Epidemig’ o hunanladdiadau neu ‘fan gwael’ am hunanladdiadau, ‘man eiconig’

Cri am gymorth

Ymgais ‘llwyddiannus’ neu ‘aflwyddiannus’ at hunanladdiad

Twrist hunanladdiad

Page 14: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad14

© Samaritans 2021

• Mae hunanladdiad yn fater arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd ac anghydraddoldeb cymdeithasol. Mae mwy na 6,000 o bobl ar draws y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn gwneud amdanynt eu hunain pob blwyddyn. Mae degau o filoedd mwy yn ceisio gwneud amdanynt eu hunain. Mae modd atal hunanladdiad gydag ymyriadau amserol seiliedig ar dystiolaeth.

• Mewn ymateb i’r sail dystiolaeth gadarn sy’n dangos y gall adrodd am hunanladdiad mewn modd amhriodol arwain at ragor o farwolaethau, mae llawer o wledydd wedi cynnwys adrodd cyfrifol gan y cyfryngau yn eu strategaethau cenedlaethol i atal hunanladdiad.

• Mae hunanladdiad yn fwy cyffredin ymysg rhai grwpiau nag eraill. Er enghraifft, mae’n fwy tebygol ymysg dynion na menywod, ac yn arbennig dynion yn eu 40au a’u 50au o grŵp economaidd gymdeithasol is.

• Mae hunanladdiad yn gymhleth a’r rhan fwyaf o’r amser nid oes un digwyddiad neu ffactor sy’n achosi i rywun wneud amdano ei hun. Fel arfer mae’n gyfuniad o lawer o wahanol ffactorau sy’n rhyngweithio â’i gilydd i gynyddu’r risg. Mae cyfuniad o ffactorau unigol, cymunedol a chymdeithasol yn cyfrannu at risg hunanladdiad.

• Mae mwy nag 1 ymhob 20 o bobl yn ceisio gwneud amdanynt eu hunain ar ryw adeg yn eu bywydau. Y dull maent yn ei ddewis yw’r penderfynydd pwysicaf o ran a fyddant yn byw neu’n marw. Er bod ymgeisiau blaenorol at hunanladdiad yn un o’r ffactorau risg ar gyfer marw trwy hunanladdiad ar adeg ddiweddarach, mae ymchwil yn dangos mai dim ond cyfran fach o’r bobl sy’n ceisio gwneud amdanynt eu hunain ac sy’n goroesi a fydd yn mynd ymlaen i farw trwy hunanladdiad ar adeg ddiweddarach.

• Mae hunan-niwed yn arwydd o drallod emosiynol difrifol ac, er na fydd y rhan fwyaf o bobl sy’n hunan-niweidio yn mynd ymlaen i wneud amdanynt eu hunain, mae’n un o’r ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad yn y dyfodol.

• Ceir clwstwr o hunanladdiadau pan mae nifer fwy o hunanladdiadau nag a ddisgwylir yn digwydd mewn lle neu gymuned. Mae ymchwil wedi canfod cysylltiadau rhwng y math (sy’n gorliwio) a’r maint o sylw i hunanladdiadau gan bobl ifanc, a chlystyrau o hunanladdiadau a hunanladdiadau gan bobl ifanc eraill wedi hynny.

• Efallai y bydd rhai pobl sy’n ystyried hunanladdiad yn awgrymu’n gynnil neu hyd yn oed yn datgelu i ffrindiau neu berthnasau eu bod yn bwriadu gwneud amdanynt eu hunain. Mae’n bosibl na fydd pobl eraill sy’n teimlo’n hunanladdol yn sôn amdano o gwbl nac yn rhoi unrhyw arwydd o’u bwriad. Nid oes dim tystiolaeth i awgrymu y bydd gofyn i rywun a yw’n iawn yn gwneud iddo deimlo’n waeth. Gall siarad helpu.

• Dim ond traean o’r bobl sy’n marw trwy hunanladdiad sydd wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn y flwyddyn cyn iddynt farw.

Hunanladdiad: y ffeithiau

Codau ymarfer y cyfryngau a hunanladdiadMae codau ymarfer a rheoliadau cyfredol i’r cyfryngau wedi cydnabod y dystiolaeth ymchwil ar effeithiau niweidiol posibl sylw amhriodol yn y cyfryngau wrth gynnwys cymalau sy’n ymdrin ag adrodd am hunanladdiad.

I gael dolenni i’r holl brif reoliadau a chodau ymarfer ar adrodd yn y Deyrnas Unedig, ewch i’r adran cyngor i’r cyfryngau ar ein gwefan.

Page 15: Canllawiau i’r cyfryngau

15

Page 16: Canllawiau i’r cyfryngau

Canllawiau i’r cyfryngau ar adrodd am hunanladdiad16

© Samaritans 2021

Samaritans Cymru Llawr 2, 33-35 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9HB Ffôn: 029 2022 2008

Noddwr: Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Sefydlwyd yn 1953 gan y diweddar Prebendwr Dr Chad Varah CH CBE. Cwmni cyfyngedig drwy warant wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (757372) ac elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (219432) ac yn yr Alban (SC040604).

Ebrill 2021

Mae tîm cyngor i’r cyfryngau y Samariaid ar gael i roi cymorth wrth ymdrin â hunanladdiad a hunan-niwed:

Ffôn+44 (0) 20 8394 8300/377Neu +44 (0) 20 3874 9186

[email protected]

Gwefansamaritans.org/mediaguidelines

twitter.com/samaritans#reportingsuicide

Cysylltu â thîm Cyngor i’r Cyfryngau y Samariaid

© Samaritans 2021