13
Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery

Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Citation preview

Page 1: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery

Page 2: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Croeso i Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Ers ei sefydlu ym 1911, mae'r orielwedi llunio casgliad sylweddol gydagarddangosfeydd yn cael eu hategugan arddangosfeydd a rhaglennidysgu deinamig

Enwyd yr Oriel Gelf ar ôl ei sefydlydd a’i phrif noddwr,Richard Glynn Vivian. Fe’i ganed ym Medi 1835 ynbedwerydd mab i berchnogion cefnog y ffatri gopr fwyafyn Abertawe, prifddinas smeltio copr Prydain y cyfnodhwnnw. Cyfrannodd y teulu Vivian yn sylweddol at fywydmasnachol, cymdeithasol a diwylliannol y ddinas

Y Casgliad

Thomas Jones (1742-1803) Ruined Buildings Naples, c. 1782, olew ar bapur, 24.5 x 39.7 cm

R E Pfeninger Portrait of Richard Glynn Vivian, 1882olew ar gynfas, 88.2 x 67.7 cm

Amrywiaeth eang o'r celfyddydaugweledol, o waith hen feistri i artistiaidcyfoes, gyda chasgliad o borslenrhyngwladol a tsieni Abertawe

Page 3: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Argraffiadaeth yn dod i'r Oriel Ym 1911, cyflwynodd François Depeaux,diwydiannwr Ffrengig o Rouen, gydachysylltiadau busnes cryf ag Abertawe achyfaill i Richard Glynn Vivian, chwephaentiad o ‘Ysgol Rouen’ i'r casgliad

Un o gyfres o 35 gwaith a baentiwyd gan yrArgraffiadydd Ffrengig enwog hwn pan oedd yn bywgyda'i wraig a'i blentyn yn yr Iseldiroedd yn ystod 1871

Paentiodd Lucien Pissarro yr olygfa hon o Gefn Bryn o Gastell Pennard, wrth ymweldag ardal Abertawe ym 1933. Ac yntau'n fab hynaf yr Argraffiadydd enwog CamillePissarro, bu Lucien yn byw yn Lloegr am 50 mlynedd. Bu'n aelod o'r New English ArtClub a'r Camden Town Group lle cafodd ddylanwad mawr ar artistiaid Prydeinig ifancy cyfnod, gan gynnwys Walter Sickert, Percy Wyndham Lewis ac Augustus John, syddhefyd yn cael eu cynrychioli yn y casgliad yn yr oriel hon

Lucien Pissarro (1863-1944) Cefn Bryn, Gower, 1933, olew ar gynfas, 47.3 x 55 cmClaude Monet (1840-1926) Bateaux en Hollande près de Zaandam (Cychod ynHoland ger Zaandam), 1871 olew ar gynfas 35.2 x 71cm.Rhoddwyd ym 1974 gan Lywodraeth EM (Y Drysorlys) ynlle trethi etifeddiaeth

Joseph Delattre (l858-1912) Vielles Maisons (Hen Dai), hebddyddiad, olew ar gynfas 75.4 x 90.3cm. Rhan o rodd François Depeaux

Page 4: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Roedd Barbara Hepworth a Ben Nicholson, ei gwr, yn rhan o fudiad HaniaethEwropeaidd prif ffrwd a byddent yn ymweld â Pharis yn ystod y 1930au, lle byddent yncwrdd yn rheolaidd â Picasso, Gabo, Brâncusi a Mondrian. Ym 1939 fe symudon nhwi St Ives gan helpu i sefydlu Ysgol St Ives. Ynghyd â Henry Moore (1898-1986),Hepworth a Nicholson oedd y genhedlaeth gyntaf o artistiaid Modern y DU

Ben Nicholson (1894-1982) October 12 1952, olew a phensil ar

fwrdd, 29.5 x 23.3 cm © Angela Verren Taunt 2008.

Cedwir pob hawl, DACS

Ciwbiaeth – Dyfodoliaeth – Swrealaeth –Celf Haniaethol – AdeileddiaethYn gynnar yn yr 20fed ganrif, roedd y DUyn byrlymu o syniadau, wedi'u hysbrydoligan yr arddangosfeydd ac artistiaid niferuso dramor ar ymweliadau, a gyflwynoddgarfanau gwahanol Moderniaeth

Barbara Hepworth (1903-1975) Curved form with Inner form – anima, 1959,

efydd, 62.5 x 40 x 68 cm © Bowness, Ystâd Hepworth

Ynghyd â Henry Moore, adfywioddBarbara Hepworth gelfyddyd cerflunioyn y DU yn yr 20fed ganrif

Page 5: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

"Lliwiau yw'r allweddell, y llygaid yw'rmorthwylion, yr enaid yw'r piano â llawero dannau. Yr artist yw'r llaw sy'n chwarae,gan gyffwrdd â'r naill allwedd neu'r llall, ermwyn creu dirdyniadau yn yr enaid"Wassily Kandinsky - ‘Concerning the Spiritual in Art’ 1911

Credai Ceri Richards mewn undod sylfaenol yn ycelfyddydau; cafodd rhai o'i weithiau gorau euhysbrydoli gan gerddi Dylan Thomas a cherddoriaethDebussy. Ganwyd Richards yn Nyfnant ger Abertaweac enillodd glod rhyngwladol yn ystod ei fywyd

"Mae cerddoriaeth ynarbennig o arwyddocaoli mi ac yn symud yngyfochrog â'm cariad atbaentio a'r gwaith obaentio - yn barhaus"Ceri Richards –1960

Ceri Richards (1903-71) The Pianist, 1948, olew ar gynfas, 63 x 76 cm © Ystâd Ceri Richards/DACS 2008

Ceri Richards (1903-71) Do Not Go Gentle into that Good Night,1965, dyfrlliw a chyfryngau cymysg arbapur, 77 x 56.7 cm © Ystâd Ceri Richards/DACS 2008

Page 6: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

A hithau'n cael ei hystyried gan lawer o feirniaid fel un o artistiaid mwyaf ei hoes,cafodd Gwen John ei magu yn Ninbych y Pysgod ac astudiodd yn Ysgol Gelf Slade ynLlundain, gan fyw yn Ffrainc o'r 1900au cynnar. O dan nawdd Whistler ym Mharis,datblygodd diddordeb mewn arlliwiau a gwead. Dros y blynyddoedd, mireiniodd eithechneg unigol iawn a'i gweledigaeth tra gwreiddiol yn gynyddol gan gyrraedduchafbwynt gyda darnau o geinder a sensitifrwydd mawr

Gwen John (1876-1939) Little Girl Wearing a Straw Hat,

c. 1910au, gouache, 21.7 x 17 cm © Ystâd Gwen John.

Cedwir pob hawl, DACS 2008

Gyda phortread, rydych yn cael profiaduniongyrchol o unigolion, efallai oamser, neu le neu ddiwylliant arall

Roedd Augustus John yn baentiwreithriadol ac yn ddyluniwr rhagorol.Fe'i ganwyd yn Ninbych y Pysgod, SirBenfro ac astudiodd yn Ysgol GelfLlundain ar yr un pryd â'i chwaer,Gwen. Mae The Tutor yn bortread oJohn Hope-Johnstone, a addysgoddblant John ym Mhlas Alderney, Dorset

Augustus John (1878-1961) The Tutor, c. 1911, olew ar banel, 52.9 x 41.6 cm © Trwy ganiatâd Ystâd Augustus John/The Bridgeman Art Library

Page 7: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian
Page 8: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Craig Wood (g.1960) Carmarthen-Leeds Return, 2000, acrylig ar bluenmewn ffrâm 33cm x 27 cm © Yr Artist. EnillyddGwobr Brynu Richard a Rosemary Wakelin, 2003.Gwobr flynyddol a gefnogir gan y Cyfeillion

Richard Monahan (g.1979)Portrait with Pencil, 2005, lluniad olew,170cm x 120 cm © Yr Artist. Enillydd GwobrArtistiaid Ifanc Syr Leslie Joseph a roddwydgan y Cyfeillion yn 2006. Gwobr bob yn ailflwyddyn yw hon a gefnogir gan y Cyfeillion

Shani Rhys James (g.1953) Head I, II & III, 2002, y cyfan yn olew ar liain 31 x

15 cm © Shani Rhys James. Cedwir pob hawl,DACS 2008. Prynwyd yn 2003 gyda chymorth

Cronfa Grantiau Prynu Adnoddau/V+A aChyfeillion Glynn Vivian

Dros y blynyddoedd, trwy roddion achaffaeliadau a chefnogaethddi-ffael Cyfeillion Glynn Vivian, mae'r casgliad yn parhau i ddatblygu I gael mwy o wybodaeth am Gyfeillion Glynn Vivian ewch iwww.glynnviviangallery.org neu cysylltwch â derbynfa'r oriel

Mae'r oriel yn enwog am ei chasgliado grochenwaith a phorslen o Abertawe

Thomas Baxter (1782-1821) The Jubal Cup, c. 1814-1817,

porslen CrochenwaithCambrian, Abertawe

8.4 cm

Thomas Rothwell (1740-1897) The Betsey Ship Plate, 1800,

llestri pridd printiedigCrochenwaith Cambrian,

Abertawe, 24.7cm o ddiamedr

Franz Anton Bustelli (1754-63) The Tempestuous Lovers, 1760, porslen past caled Nymphenburg, 14.4cm o uchder

Erbyn heddiw ystyrir Franz Anton Bustelli yn brif artist porslen Rococo. Mewn llai na9 mlynedd yn Nymphenburg, creodd tua 150 o fodelau, gan gynnwys ei ffigurau byd-enwog o'r Commedia dell'Arte

Mae hefyd yn cynnwys sawl enghraifft o grochenwaith a phorslen Cymreig, Seisnig,Ewropeaidd a Dwyreiniol, a brynwyd gan Richard Glynn Vivian, sef craidd casgliadllawer mwy helaeth erbyn hyn

Page 9: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

ArddangosfeyddDysgu

Siop Lyfrau

Shimabuku (g.1969), Swansea Jack Memorial Dog Swimming Competition, 2003, trefnwyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian © Yr Artist

Page 10: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Rhoddir pwyslais ar y berthynas rhwng materion lleol a byd-eang a chaiff hyn eiadlewyrchu hefyd yn y gwahoddiadau a roddir i artistiaid lleol a rhyngwladol iarddangos a chreu gwaith wrth ymateb i ddinas Abertawe.

Mae'r oriel hefyd yn cynnalarddangosfeydd teithiol cened-laethol a rhyngwladol o artistiaidcyfoes pwysig yn ogystal â sioeauhanes celf.Mae'r oriel yn cynnal arddangos-feydd celfyddyd gymhwysolgyfoesol bob tri mis ar gyferartistiaid newydd a datblygol ynogystal â phobl mwy adnabyddus

Rhaglen arddangosfeydd ddeinamig sy'n rhoi cyfle i artistiaid yng Nghymrugyflwyno eu gwaith mewn cyd-destunlleol, cenedlaethol a rhyngwladol

(Uchod) Peter Finnemore (g.1963) Green Destiny, 2004, ffotograff. O ‘Zen Gardener’ arddangosfa a grëwydgan Oriel Mostyn Gallery a'i dangos yn Oriel Gelf Glynn Vivian 2005 © Yr Artist

(Chwith) Nadín Ospina (g.1960) Idolo con Muñeca (Delw gyda Dol), 2000, Cerflun calchfaen, 42 x 24 x 19 cm PrifysgolEssex, Casgliad o Gelf America Ladin. O arddangosfa Displaced: Contemporary Artfrom Colombia, sioe a grëwyd gan Oriel Gelf Glynn Vivian 2007 © The Artist

Rut Blees Luxemburg (g.1967) DVLA, 2003, ffotograff. O ‘ffolly’, arddangosfa a grëwyd ar y cydgan Oriel Gelf Glynn Vivian a Ffotogallery 2003 © The Artist

David Clarke (g.1967) Stuff of Nonsense, 2006, plwm. Metel gwyngwerthfawr a phres plât arian © Yr Artist

Page 11: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

yn trafod amrywiaeth o faterion wedi'u hysgogi gan arddangosfeydd yr oriel. Yn aml,rydym hefyd yn gwahodd beirdd a cherddorion i roi eu hymatebion penodol eu hunain i'rgwaith celf. Mae teclynnau sain ar gael ar gyfer rhai gweithiau yn yr arddangosfa, gan gynnwys yrartistiaid o Abertawe, Evan Walters (1893-1951) a Ceri Richards (1903-1971)I weld ffilm neu bodlediad o ddigwyddiad, ewch i'n gwefan – www.glynnviviangallery.org

Mae digwyddiadau'n cynnwysartistiaid, curaduron, awduron asylwebyddion diwylliannol –

Ensemble In Transit ynperfformio cyngerdd o

gerddoriaeth gyfoesmewn ymateb i ‘You’ll

Never Know: Drawing andRandom Interference’,

arddangosfa deithiol OrielHayward 2006

Creu awyrgylch cyfeillgar a chefnogollle gall pobl ifanc ddatblygudealltwriaeth o fyd celf ac, ar yr unpryd, darganfod eu galluoedd euhunain trwy weithdai ymarferol

Plant yn edrych ar gyfres Nanzino Pece argyfer ‘Final Season at the Vetch’, sioe grwp offotograffwyr o Athrofa Addysg UwchAbertawe 2006

Mae tua 6,000 o blant ysgol a myfyrwyr yn cymrydrhan mewn ymweliadau a drefnir â'r oriel bobblwyddyn, fel rhan o'r Gwasanaeth Addysg 4 safle

Page 12: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Cynllun yr Oriel Mae'r siop lyfrau yn gwerthu'r cyhoeddiadaudiweddaraf ar Gelf Gyfoes, Ffotograffiaeth,Celf Gymhwysol, Pensaernïaeth, Ffasiwn aDylunio a Hanes a Theori Celf

YSTAFELL

ADDYSG

PRIF ORIEL

GWYBOD-

AETH

GWY-

BOD-

AETH

ORIEL

YSTAFELL 1

SIOP

LYFRAU

DERBYNFA

ORIEL

GREFFTAU

ATRIWM

PRIF FYNEDFA

HEOL ALEXANDRA

LLAWR GWAELOD

LLAWR CYNTAF

MYNEDFA Â RAMP

ALLANFA

ORIELAU’R CASGLIADAU

Llawr gwaelod; mynediad cyfyngedig i’r llawr uchaf; toiledau hwylus;

intercom y brif fynedfa yn cynnwys arwydd cyffyrddol/braille.

Os ydych am dderbyn yr wybodaeth hon mewn fformat arall,

cysylltwch â’r Oriel. Mae’r llyfryn hwn ar gael yn Saesneg.

Dinas a Sir Abertawe. Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn cydnabod yn

ddiolchgar gefnogaeth ariannol Cyfeillion y Glynn Vivian a Chyngor

Celfyddydau Cymru

FFORD FABIAN

FFORDD Y BRENIN

HE

OL

A

LEX

AN

DRA

QU

AY

PA

RA

DE

ST

RY

DY

BE

RL

LA

N

ST

RY

DF

AW

R

ST

RY

DY

G WYNT

CU

TR

OA

D

ORIELGELF

GLYNNVIVIAN

M4 ›

GORSAFF REILFFORDD

Clawr Blaen: Mark Wallinger (1959) Ecco Homo, 1999, resin wedi’i farmoreiddio, haen aur, gwifren farfog – maint dynol (Gosodwyd yn Oriel Glynn

Vivian yn 2002). © Yr Artist, trwy garedigrwydd Oriel Anthony Reynolds, Llundain. Ffotograffiaeth Charles a Patricia Aithie, David Clarke, Peter

Finnemore, Rut Blees Luxemburg, Graham Matthews, Noguchi Rika © 2008 Oriel Glynn Vivian a’r artistiaid. Gwnaed pob ymdrech i gael caniatâd

hawlfraint ar gyfer pob llun yn y cyhoeddiad hwn. Dylunio A1 Design, Caerdydd.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, holwch yn nerbynfa'r oriel, neu ewch i www.glynnviviangallery.org

Page 13: Casgliadau yn Oriel Glynn Vivian

Gwen John (1876-1939) The Nun, c. diwedd y 1910au, olew ar gynfas, 56 x 35.2 cm

© Ystâd Gwen John. Cedwir pob hawl, DACS 2008

Oriel Gelf Glynn Vivian Art GalleryHeol Alexandra Abertawe SA1 5DZ Ffôn: 01792 516900

e-bost: [email protected] www: glynnviviangallery.orgAr agor ddydd Mawrth i ddydd Sul 10am - 5pm Ar gau bob dydd Llun (ac eithrio Gwyliau Banc) Mynediad am Ddim

CITY AND COUNTY OF SWANSEA o DINAS A SIR ABERTAWE