Upload
bert-stafford
View
64
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Cefndir. Mis Tachwedd. Mis Mai. a. Dafydd ap Gwilym. Cefndir Dafydd ap Gwilym. f l. 1340-1370. Bardd natur a serch. Uchelwr. Cymeriad lliwgar. Ewythr – Llywelyn ap Gwilym – Cwnstabl Castell Newydd Emlyn – Athro Barddol. Geni : Brogynin , Llanbadarn Fawr. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Cefndir
a Mis Tachwed
d
Mis Mai
Dafydd ap Gwilym
Cefndir Dafydd ap Gwilym
fl. 1340-1370
UchelwrCymeriad lliwgar
Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr
Bardd natur a serch
Teulu dylanwadol yn y Deheubarth.
Ewythr – Llywelyn ap Gwilym – Cwnstabl Castell Newydd Emlyn – Athro Barddol
Y System Nawdd
Beirdd yr UchelwyrUchelwyr yn noddi’r beirdd ac
yn dechrau barddoni eu hunain Clera
1282 – Cwymp y Tywysogion
Diwedd nawdd Dosbarth newydd o dirfeddianwyr
Beirdd y Tywysogion
2 ganrif lewyrchus Tywysogion yn noddi’r beirdd
Datblygiad y Cywydd
Traethodl Cywydd
Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod cynghanedd ym mhob llinell.
36 copi mewn llawysgrifau e.e. Peniarth 49
Cywydd yn y person cyntaf – Dafydd yw’r carwr dioddefus
Condemnio’r gaeaf – dioddef o SAD?
Cywydd serch a natur
Cofio am garu â Morfudd wrth feddwl am fis Mai.
Morfudd =
•Un o brif gariadon Dafydd• Gwraig briod• Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’. • Byw ger Aberystwyth• Dod o deulu da• Gwallt golau ac aeliau tywyll ganddi• 80 o gerddi iddi
Cerdd Serch• 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur.
• Beirdd y Tywysogion:
- Awdlau serch Hywel ab Owain- Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus. - Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab Owain .
Beirdd y Glêr
• Beirdd y Glêr = beirdd isradd Cymru.
• Canu am serch – thema israddol.
• Canu am eni, caru a marw – profiadau sylfaenol pobl.
Ym mhle gallai Dafydd fod wedi dod ar draws cerddi Beirdd y Glêr?
Dylanwad ei ewythr
• Ewythr – Llywelyn ap Gwilym ab Einion.
• Cwnstabl Castell Newydd Emlyn.
• Llys yn Nyfed – Dafydd wedi aros yno.
• Dafydd yn dysgu barddoni yno.
• Dod i gysylltiad â Saeson a diwylliant Ffrengig.
Cerdd natur• Darlunio’r gwahaniaeth rhwng mis Mai a mis Tachwedd.
• Clodfori Mai. Dilornus o Dachwedd. Pam?
•Dioddef o SAD?
• Mai = yr haf•Tachwedd = y gaeaf
Cerdd natur
• Saunders Lewis –
Canu serch a natur Dafydd yn her i waith y
beirdd traddodiadol a ganai i dai, adeiladau a
bydolrwydd materol.
Cerdd natur• Gwyn Thomas – Gaeaf yn cael ei gysylltu â marwolaeth.Cerdd am fywyd a marwolaeth yw hon felly.
•Gramadeg Einion Offeiriad:Hen englynion sy’n cyfuno doethineb â disgrifiadau cryno o fyd natur.
Cerdd natur• Awgrym fod y gaeafau’n waeth yn y G14 na heddiw tra bod eu hafau yn gynhesach.
Tywydd gwael
Cynhaeaf gwael
Diffyg bwyd
Diffyg maeth
Marwolaethau
Ffeithiau diddorol:
Nid yw’n rhyfedd felly nad oedd yn hoff o’r ‘mis dig du’!
Credir bod Dafydd ap Gwilym wedi marw o’r Pla Du.
Cerdd natur Unigryw:
Yr hyn sy’n gwneud y cywydd hwn yn wahanol yw manylder synhwyrus Dafydd –
Disgrifiadau y mae a wnelont fwy â phrofiad a sylwgarwch y bardd nag ag unrhyw gonfensiwn llenyddol.
Camp Dafydd ap Gwilym
Dafydd ap Gwilym = UNIGRYW!!!
Y gallu i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn.
Canlyniad = gwaith cwbl newydd a ffres
Tasg
Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir Dafydd ap Gwilym Mis Mai a Mis
Tachwedd.
Defnyddiwch eich siart bry cop i’ch helpu.
Byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i weddill y dosbarth.
Amser: 10 munud.
Tasg
Yn unigol, ysgrifennwch frawddeg agoriadol eich
traethawd ar gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd ‘Mis Mai a
Mis Tachwedd’.
Gwaith Cartref:
Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd Mis Mai a Mis Tachwedd gan ddefnyddio’r hyn a wnaethoch yn y dosbarth heddiw fel sylfaen i’r
gwaith.
Erbyn wythnos i heddiw.