26
[Type text] ADRODDIAD YMGYNGHORI: YSGOL PANTEG - YR YSGOL ARFAETHEDIG NEWYDD Medi 2014

CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

[Type text]

ADRODDIAD YMGYNGHORI:YSGOL PANTEG -YR YSGOL ARFAETHEDIG NEWYDD

Medi 2014

Page 2: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Cynnwys

1. Cefndir…………………….…………….…………………………………………2-3

2. Methodoleg………………..……………………………………………….………..3

3. Canlyniadau a sylwadau ………………………………………………………3-6

4. Ymateb Estyn…………………………………………………………………….6-12

5. Ymgynghori â phlant a phobl ifanc……………………………………………….12

Atodiad 1 ……………… Rhestr o’r ymgyngoreion

Atodiad 2 ……………… Rhestr gryno o’r ymatebion

Atodiad 3 ………………. Canlyniadau’r ymgynghoriad gyda disgyblion

1 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 3: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

1. CEFNDIR Cafodd cynigion Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen dderbyniad da gan Lywodraeth Cymru yn 2011. Ar gyfer rhannau o Dorfaen bydd hyn yn arwain at ysgolion newydd. Nid yw hyn yn rhywbeth newydd yn Nhorfaen; ers ei gychwyn, mae’r cyngor wedi bod yn gwneud gwaith ar ad-drefnu ysgolion er mwyn uwchraddio’r ystâd.

Mae’r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif wedi cael ei dogfennu’n dda, a’r cyngor wedi penderfynu cynnwys pob ysgol yn rhan ohoni ym mis Hydref 2010. Aeth y cyngor ati i geisio barn pawb sydd â diddordeb yn ei raglen yn ystod cyfres o sioeau teithiol a gynhaliwyd ar draws y fwrdeistref sirol ym mis Mawrth 2011

Cafodd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus eu cyfleu gerbron y cabinet ym mis Gorffennaf 2011. Cyn y cyfarfod hwn, gofynnodd Llywodraeth Cymru I gynghorau adolygu eu cynigion Band A (a gyflwynwyd yn wreiddiol ym mis Hydref 2010) a’u blaenoriaethu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Cynyddu lefel yr arian cyfatebol sydd ei angen ar y cyngor o 30% i 50%

Cyflwr isaf yr ystâd (y gwaith o flaenoriaethu i aros gyda’r cyngor er y bydd y data annibynnol o arolwg yr ysgol yn cael ei ddefnyddio)

Lleoedd gwag – y prif ddangosydd fydd lleoedd gwag (a hynny fel canran ac fel y gostyngiad gwirioneddol a amcanir yn y nifer o lefydd)

Arbedion ar gostau rhedeg (e.e. gostyngiad mewn costau rhedeg, ôl-groniad cynnal a chadw)

Nid yw hyd Bandiau B, C a D Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif wedi eu pennu eto.

Cymeradwywyd y Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2011 gyda Llywodraeth Cymru’n cadarnhau arian cyfatebol mewn egwyddor ym mis Rhagfyr 2011.

Mae gan ystâd Ysgolion Cynradd Torfaen rai ysgolion sy’n:

Ceisio gweithredu mewn adeiladau neu ar dir sydd ddim yn addas at y diben, ac mae’r ôl-groniad cynnal a chadw yn anfforddiadwy;

Rhy fach i redeg yn ddarbodus yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni heddiw;

Gweithredu gyda nifer sylweddol o leoedd gwag yn eu clwstwr lleol o ysgolion

Ddim mewn lleoliad ble mae’r galw am leoedd mewn ysgolion wedi ei grynhoi.

Mae’n rhaid i’r Cyngor leihau lleoedd gwag yn ei ysgolion, a gosodwyd targedau iddo gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r targedau hynny erbyn 2015.

2 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 4: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Bwriad y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn Nhorfaen ac ar draws Cymru yw taclo’r materion hyn mewn ffordd strategol yn hytrach na ffordd dameidiog.

Mae’r cynnig mewn perthynas ag Ysgol Panteg yn un sydd wedi ei nodi ym Mand A (2014 to 2019) o’r rhaglen y cytunwyd arni. Mae’r cynnig hwn yn cyfeirio’n benodol ar adleoli Ysgol Panteg o’i safle presennol yn nhref Gruffydd I ysgol newydd â lle I 420, a dosbarth meithrin a 52 o leoedd sy’n cyfateb yn rhan amser i’w hadeiladu ar gyn-safle gwaith dur Avesta.

2. METHODOLEG Ymgymerwyd â’r ymgynghoriad ynghylch y cynnig, gyda’r ymgyngoreion rhagnodedig sydd wedi eu cynnwys yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2013. Mae rhestr o’r ymgyngoreion hynny wedi ei hatodi yn Atodiad 1 i’r adroddiad hwn. Gofynnwyd eu barn ynghylch y cynnig.

Ymgynghorwyd hefyd â phlant a phobl ifanc yn Ysgol Panteg gan ddefnyddio Gwasanaethau Chwarae a Seibiannau Byr Torfaen.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad drwy ddogfen ymgynghori â ffurflen ymateb atodedig a ddosbarthwyd i ymgyngoreion rhagnodedig. Trefnwyd digwyddiad “galw heibio” i roi cyfle i aelodau staff, llywodraethwyr a phartïon eraill oedd â diddordeb i drafod a chynnig sylwadau am y cynnig.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng dydd Llun 9 Mehefin 2014 a dydd Llun 21 Gorffennaf 2014, gyda’r digwyddiad canlynol i ymgysylltu’r cyhoedd yn cael ei gynnal i gefnogi’r ymgynghoriad. Aeth nifer o swyddogion y cyngor ati i fynychu’r digwyddiad hwn:

Dyddiad Lleoliad Amser Cynulleidfa a FwriadwydDydd Mercher 2 Gorffennaf 2014

Ysgol Panteg 3.30 tan 6.30pm

Athrawon, staff cymorth a staff ysgol Panteg nad ydynt yn addysgu, Corff Llywodraethu Ysgol Panteg, Rhieni/gofalwyr disgyblion Ysgol Panteg, a Phartïon Eraill oedd â Diddordeb.

Mae cyhoeddi dogfen ymgynghori yn ganolog i’r broses ymgynghori a argymhellir gan Lywodraeth Cymru o ran ad-drefnu ysgolion. Roedd y ddogfen ymgynghori yn amlinellu’r newidiadau sydd yn cael eu hystyried, y rhesymau drostynt, manylion y broses ymgynghori a ffurflen ymateb er mwyn ymateb iddynt. Cafodd ymgyngoreion wybod am y fersiwn oedd ar gael i’w gwblhau ar-lein yn ogystal â manylion cyswllt oedd yn eu galluogi i anfon sylwadau mewn e-bost

Hyrwyddwyd y broses ymgynghori yn eang ar lein, ar wefan cyngor Torfaen a thrwy sianelau cyfryngau cymdeithasol; cafodd sylw hefyd yn y wasg leol.

3 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 5: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

3. CANLYNIADAU A SYLWADAU Daeth nifer o ymatebion i’r ymarfer ymgynghori i law'r Awdurdod Lleol.

Fel rhan o’r broses hon, mae Aelodau Etholedig wedi cael cyfle i weld ffeil o’r holl sylwadau a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori, cyn mynd ati i wneud unrhyw benderfyniadau.

Mae rhestr gryno o’r ymatebion hynny wedi ei hatodi yn Atodiad 2.

Nifer fechan yn unig o rhanddeiliaid a fynychodd y digwyddiad, ac yn yr un modd, nifer fechan o ymatebion/sylwadau a wnaed/ddaeth i law o ran y cynnig. Yn gyffredinol, roedd y sylwadau a ddaeth i law yn gefnogol iawn, ac yn ddealladwy, roedd hi’n amlwg bod yna gefnogaeth i ddatblygu’r cynnig cyn gynted ag y bo modd. Serch hynny, codwyd rhai pryderon, ac, ochr yn ochr ag ymatebion yr Awdurdod Lleol, maent wedi eu crynhoi isod.

SYLW YMATEB

Nifer ar y gofrestr/capasiti’r ysgol/dalgylchoedd

Mae’r ddogfen yn awgrymu mai yng nghanol y Fwrdeistref y mae’r galw mwyaf am addysg Cyfrwng Cymraeg, gyda’r niferoedd yn gostwng yn Ysgol Bryn Onnen. Nid dyma’r achos am fod yr Awdurdod Lleol wedi rhoi ‘cap’ o 30 ar y nifer derbyn

Dylai’r ysgol fod yn fwy, yn enwedig y dosbarth meithrin, fel bod modd diwallu’r twf cynyddol yn nifer y plant

Cafodd y nifer derbyn (ND) ar gyfer Ysgol Bryn Onnen ei osod ar 30 yn dilyn ymgynghoriad statudol i sefydlu dosbarth meithrin yn yr ysgol. Dylid nodi na chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig hwnnw.

Ers sefydlu’r dosbarth meithrin ym mis Medi 2010 mae’r awdurdod wedi cymhwyso’r ND er mwyn rheoli rhifau sy’n disgyn ac osgoi gorlenwi’r ysgol.

Er hynny, mae’r cyngor yn cydnabod y galw am addysg gynradd cyfrwng Cymraeg ledled y Fwrdeistref ac o ganlyniad neilltuwyd £3.5m i ailfodelu Ysgol Bryn Onnen (os nad oes unrhyw safleoedd priodol eraill ar gael yng Ngogledd y fwrdeistref). Cynnig Band B yw hwn (2020 - 2022) sy’n rhan o raglen y cyngor ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd dau fewnlif yn yr ysgol (ND: 60) gyda dosbarth meithrin cyfwerth â 52 lle rhan amser. Bydd yr ysgol yn

4 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 6: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

sydd am gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

ddigon o faint i wasanaethu canol Torfaen hyd y gellir ei rhagweld yn y dyfodol. Fodd bynnag, bydd y galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg ledled y fwrdeistref yn parhau i gael ei fonitro’n rheolaidd i sicrhau bod yna ddigon o leoedd i fodloni’r galw.

Trefniadau Dros Dro

Mae’n wych bod addysg cyfrwng Cymraeg yn datblygu yn Nhorfaen, ond onid yw hi’n siomedig bod rhaid rhoi trefniadau dros dro yn eu lle am 2 flynedd? Gormod o arian/amser yn cael ei wastraffu ar symud i ysgol dros dro.

Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai ysgol newydd yn barod erbyn mis Medi 2015 ond oherwydd yr oedi cyn derbyn cymeradwyaeth am yr Achos Busnes Amlinellol gan Lywodraeth Cymru, mae’n golygu nad yw hyn yn bosibl mwyach a chafodd y dyddiad targed ei ddiwygio i fis Medi 2016.

Ystyriwyd nifer o opsiynau i reoli’r sefyllfa a thrwy ymgynghori â’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethu, cytunwyd mai’r ffordd orau ymlaen oedd defnyddio safle ysgol fabanod Kemys Fawr dros dro tra bod yr ysgol yn cael ei hadeiladu.

Derbynnir y bydd yna heriau wrth weithredu ar ddau safle, hyd yn oed dros dro, ac amlygwyd hyn gan Estyn, sydd wedi nodi y bydd arweinyddiaeth a rheolaeth dros yr ysgol yn hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn.

Cyfeirier hefyd at 4. isod am ragor o wybodaeth.

Llwybrau Cerdded Diogel

Bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer ardal ddaearyddol fawr, felly dylai fod llwybrau cerdded diogel digonol.

Gweler uchod. Polisi Llywodraeth Cymru yw peidio ag annog gyrru a chludiant o amgylch ysgolion. Mae’r pwyslais mwyaf ar ddiogelwch.

Mae’r cyngor yn ymwybodol o’r materion mwyaf cyffredin sy’n

5 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 7: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

ymwneud â thraffig yn yr ardal a bydd yn gweithio ar Asesiad o'r Effaith ar Draffig gyda’r Adran Briffyrdd.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae yna gyfle yma i arwain y ffordd gydag addysg anghenion arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg, felly dylai’r ysgol newydd gynnwys safle priodol i ddarparu ar gyfer hyn.

Bydd yr ysgol newydd yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd gyda’r safle yn hygyrch i bob disgybl.

Byddai’r ysgol newydd hefyd yn lleoliad cynhwysol, sydd yn darparu ar gyfer anghenion dysgu unigol pob disgybl, cynnig lleoedd dymunol a phriodol i bawb sy’n defnyddio’r ysgol a gofodau fydd yn galluogi disgyblion, yn cynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i deimlo bod eu hanghenion yn cael eu parchu.

4. YMATEB ESTYN Mae’r adroddiad a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac sydd wedi ei seilio ar y ddogfen ymgynghori, yn ymddangos yn ei gyfanrwydd isod.

Ymateb Estyn i’r cynnig i adleoli ac ehangu Ysgol Panteg o fis Medi 2016.

Paratowyd yr adroddiad hwn gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’i chod, mae’n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori at Estyn.

Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff sydd yn ei wneud yn ofynnol iddo weithredu’n unol â’r Cod ac nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn yn nhermau unrhyw faterion yn ymwneud â threfniadaeth ysgol. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, dim ond ei farn, a hynny’n unig y bydd Estyn yn ei roi ynghylch y cynigion ar gyfer trefniadaeth ysgol yn gyffredinol.

Mae Estyn wedi ystyried agweddau addysgol y cynnig a lluniwyd yr ymateb canlynol i’r wybodaeth o ddarparwyd gan y cynigiwr.

CyflwyniadDaw’r cynnig ymgynghori hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae Ysgol Panteg yn un o dair ysgol yng ngofal yr awdurdod sydd yn cynnig addysg cyfrwng

6 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 8: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Cymraeg. Agorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown, a hynny i ddiwallu’r galw cynyddol yn yr ardal am addysg cyfrwng Cymraeg. Ar yr adeg honno, roedd 36 o ddisgyblion yn y dosbarth derbyn. Erbyn Medi 2013, roedd gan yr ysgol 166 o ddisgyblion, o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 3. Hyd yma, mae yna un flwyddyn o ddata o asesiad yr athro ar ganlyniadau Cyfnod Sylfaen 2012-2013. O fis Medi 2014, bydd Ysgol Panteg yn gweithredu ar ddau safle er mwyn derbyn y grwpiau blynyddoedd ychwanegol wrth i’r ysgol ddatblygu ei darpariaeth cyfnod allweddol 2. Fe fydd y safle ychwanegol yn Ysgol Fabanod Kemys Fawr sydd yn cau ym mis Awst 2014.

Nid yw’r ysgol wedi derbyn arolwg gan Estyn.

Y bwriad yw adleoli ac ehangu Ysgol Panteg mewn adeilad newydd ar gyn-safle’r gwaith dur sydd o fewn milltir o’r safle presennol. Byddai’r ysgol yn cynnig 420 o leoedd gyda 52 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn.

Crynodeb/ Casgliad

A ydy’r cynigion yn debygol o gynnal neu wella safon yr addysg a ddarperir yn yr ardal?

Ym marn Estyn, mae’n debygol y bydd y cynnig yn cynnal safon yr addysg yn y tymor hir a gwella’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal i ddisgyblion 3 i 11.

Serch hynny, bydd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn yr ysgol yn hollbwysig yn ystod cyfnod anodd o drawsnewid. Nid yw’n ddigon clir sut y bydd y Cyngor yn sicrhau cyn lleied o ymyrraeth a phosibl i’r disgyblion.

Disgrifiad a manteision

Pa mor dda mae’r cynigydd wedi mynd ati i:

Rhoi sail resymegol bendant ar gyfer y cynnig?Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gosod sail resymegol da ar gyfer y cynnig. Maen nhw wedi dangos ei fod yn cysylltu’n dda â’u cyfrifoldebau i gynllunio a rheoli lleoedd mewn ysgolion, a’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Nodi’n glir y manteision a ddisgwylir a’r anfanteision o gymharu â’r sefyllfa sydd ohono?

Mae’r Cyngor yn bwriadu cynnig darpariaeth well mewn ymateb i’r cynnydd a ragwelir yn y galw am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid yw’r adeiladau presennol yn ateb y galw, maen nhw mewn cyflwr gwael a chyfyng iawn yw’r lle chwarae awyr agored yno.Mae’r Cyngor yn nodi manteision y cynnig, fel a ganlyn:y cyfle i ddiwallu’r galw a’r cynnydd yn nifer y disgyblion sydd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg;amgylchedd dysgu ac addysgu uchel ei ansawdd mewn adeilad hyblyg y mae modd ei addasu

7 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 9: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

cynnydd yn nifer y staff fydd yn cynnig arbenigedd ehangach, rhoi mwy o gyfle i staff ddatblygu swyddogaethau arweinyddol a gwella’u cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol;lleoliad mwy cynhwysol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol;cyfle ehangach i’r gymuned ddefnyddio’r safle; acmae’r cynnig yn fforddiadwy ac yn cyfrannu at arbed y refeniw a amcangyfrifir.

Mae’r cynnig yn cydnabod y diffyg lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd yn Nhorfaen tan fis Medi 2016.Bydd y fath ddiffyg yn effeithio’n sylweddol ar Ysgol Panteg ac Ysgol Gymraeg Cwmbrân, lle mae trefniadau byrdymor yn eu lle i ddiwallu’r galw ychwanegol.Mae’r Cyngor yn seilio ei rhagolygon am y pum mlynedd nesaf ar dueddiadau dewis y rheini ar hyn o bryd. Mae’n datgan na fyddai’r cynnig yn effeithio ar niferoedd disgyblion yn ei ysgolion cyfrwng Saesneg. Serch hynny, nid yw’n glir o ble y deuai’r disgyblion ychwanegol yn Ysgol Panteg.Nid yw’r cynnig yn amlygu unrhyw anfanteision.

Rheoli unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r cynnig?

Mae’r cynnig yn cydnabod y pwysigrwydd o lynu at amserlen y rhaglen adeiladu er mwyn sicrhau ei bod yn barod i’w hagor ym mis Medi 2016.Mae’r Cyngor yn bwriadu sefydlu grŵp i oruchwylio adleoliad ac ehangiad yr ysgol. Byddai’r grŵp yn cynnwys y pennaeth, cadeirydd y llywodraethwyr a swyddogion. Er ei fod yn cydnabod yr anawsterau fydd yn codi yn sgil gweithredu ar ddau safle am y ddwy flynedd nesaf a’r adleoli yn y pen draw, ychydig iawn o fanylion y mae’n ei gyfleu ynghylch mynd ati i ddatrys yr heriau hyn.Mae’r cynigydd yn bwriadu cwblhau Asesiad o’r Effaith ar Draffig i leihau’r risgiau posibl, a hynny’n rhan o’r broses cynllunio. Serch hynny, ymddengys bod y safle newydd yn llai cyfyngedig.

Ystyried dewisiadau eraill sydd yn addas, a rhoi rhesymau da dros pam y cawsant eu diystyru?

Mae’r cynigion hyn yn cynnwys dewisiadau eraill sy’n addas ac mae’n rhoi rhesymau priodol am y dewis a ffafrir.

Ystyried effaith y newid ar drefniadau teithio dysgwyr ac ar hygyrchedd y ddarpariaeth?

Mae’r safle newydd llai na milltir o’r ysgol bresennol. Yn ôl y cynigydd, ychydig iawn o effaith byddai’r newid yn ei gael ar drefniadau teithio'r dysgwyr. O fis Medi 2015 bwriad y cyngor yw lleihau ei ddarpariaeth cludiant i ddisgyblion ysgolion cynradd. Dim ond y rheini sydd yn byw dros 2 filltir o’r ysgol fydd yn gymwys, yn hytrach na’r rheini ar hyn o bryd, sydd yn byw 1.5 milltir i ffwrdd. Fodd bynnag, mae’r trefniadau hyn yn berthnasol i bob ysgol felly ni fyddai’n ymddangos fel petai’n cael mwy o effaith ar Ysgol Panteg.

Ymddengys nad oes cynlluniau i newid trefniadau derbyn yr ysgol.

Dangos yn effeithiol sut y bydd hyn yn effeithio ar leoedd gwag?

8 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 10: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Ymddengys y byddai’r ysgol newydd yn galluogi’r Cyngor i ddiwallu’r cynnydd y mae’n ei rhagweld yn y galw am leoedd ychwanegol mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Serch hynny, nid yw’n egluro sut effaith y gallai hyn ei gael ar y galw am leoedd yn yr holl ysgolion eraill. Mae’r cynnig yn cynnwys rhagolygon o nifer y disgyblion yn y tair ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod, a hynny’n unig.

Rhoi disgrifiad digonol o effaith y cynigion ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod lleol?

Ymddengys mai nod y cynnig yw gwella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ffordd effeithiol yn yr awdurdod.

Agweddau addysgol y cynnig

Pa mor dda mae’r cynigydd wedi mynd ati i:

Ystyried effaith y cynnig ar ansawdd y deilliannau, y ddarpariaeth, yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth? Ystyried effaith tebygol y cynnig i sicrhau bod y cwricwlwm llawn yn cael ei weithredu ar lefel Cyfnod Sylfaen a phob cyfnod allweddol?

Cyfyng yw’r data sydd ar gael i’w ddefnyddio i ddadansoddi perfformiad yr ysgol ar hyn o bryd. Am mai yn 2010 yr agorwyd yr ysgol, un grŵp yn unig a gafodd ei asesu yn erbyn deilliannau’r Cyfnod Sylfaen. Mae’r deilliannau hynny’n ffafriol o gymharu â deilliannau ysgolion eraill.

Mae’r cynnig yn cynnwys asesiad o berfformiad yr ysgol gan yr awdurdod lleol, ac mae’n ystyried mai mân ymyraethau yn unig sydd eu hangen ar yr ysgol i gefnogi’r safonau, addysgu a’r arweinyddiaeth.

Nid yw’r ysgol wedi derbyn arolwg gan Estyn felly mae’n anodd asesu perfformiad presennol yr ysgol.

Serch hynny, bydd arweinyddiaeth a rheolaeth yn yr ysgol yn hollbwysig dros y blynyddoedd nesaf. Ymhlith y materion mae:

hollti’r ddarpariaeth rhwng dau safle sef Ysgol Panteg a chyn Ysgol Fabanod Kemys Fawr;rôl ddatblygol yr ysgol gyda dosbarthiadau ychwanegol yng nghyfnod allweddol 2 fydd yn cynyddu’r baich gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm;goblygiadau asesiadau athrawon a threfniadau pontio ar ddiwedd cyfnod allweddol 2; achynllunio a chyflawni’r symud i safle newydd gyda’r potensial o weld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion.Yr her sy’n wynebu’r cynigydd yw sicrhau bod y deilliannau a’r ddarpariaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion yn cael eu cynnal, o leiaf, drwy’r cyfnod trawsnewid.

Ystyried effaith y cynigion ar grwpiau bregus, yn cynnwys plant ag Anghenion Addysgol Arbennig?

Mae’r cynigydd yn ystyried y byddai’r ysgol newydd yn darparu lleoliad mwy cynhwysol i ddisgyblion ag anghenion addysgol ychwanegol yn cynnwys y rheini ag

9 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 11: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

anghenion addysgol arbennig. Serch hynny, nid yw’r cynnig yn nodi unrhyw fanylion. Yn benodol, nid yw’n ystyried sut yr eir ati i ddiwallu anghenion disgyblion bregus mewn ffordd effeithiol yn ystod y cyfnod trawsnewid tan fis Medi 2016 pan, yn ôl pob tebyg, y bydd gan arweinyddion a rheolwyr gyfrifoldebau ychwanegol.

Sicrhau cyn lleied o ymyrraeth â phosibl i’r disgyblion?

Nid yw’n ddigon clir sut y sicrheir cyn lleied o ymyrraeth a phosibl i’r disgyblion o ystyried y trefniadau i hollti’r ysgol, a’r twf ym mhoblogaeth yr ysgol.

Ymateb yr Awdurdod Lleol i sylwadau Estyn

Mae’r Awdurdod wedi ystyried y sylwadau a ddarparwyd gan Estyn a hoffai gynnig y sylw a ganlyn:

Disgwylir y bydd y cynigion yn effeithio’n gyfartal o leiaf, os nad yn well ar safonau’r ddarpariaeth a’r addysg a ddarperir ar hyn o bryd. Mae’n galonogol felly, fel y nodwyd ym marn Estyn, bod y cynnig yn debygol o gynnal safon yr addysg yn y tymor hir a gwella’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal i ddisgyblion 3 i 11 oed.

Ar y cyfan, croesewir barn Estyn, sydd yn cadarnhau bod yr Awdurdod, ar y lleiaf, yn mynd i’r afael ag agweddau addysgol y cynnig.

Fodd bynnag, cydnabyddir mai heriol y bydd y trefniadau dros dro o reoli safle wedi ei hollti tra bod yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu dros y ddwy flynedd nesaf.

Derbynnir hefyd y bydd arweinyddiaeth a rheolaeth yn yr ysgol yn hollbwysig yn ystod y cyfnod trawsnewid ac felly, er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o ymyrraeth i’r disgyblion (yn enwedig anghenion disgyblion bregus), bydd y cyngor, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn gweithio gyda’r ysgol ar y mater hwn.

Mae’r GCA wedi ystyried ymateb Estyn i’r cynnig ar gyfer Ysgol Panteg, a’r materion penodol a ganlyn:

Effaith y cynnig ar ansawdd y deilliannau, y ddarpariaeth a’r arweinyddiaeth a rheolaeth, ac ystyried effaith tebygol y cynigion i sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno’n llawn yn y Cyfnod Sylfaen (CS) a Chyfnod Allweddol 2 (CA2)

Materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a rheolaeth yn gysylltiedig â darpariaeth ar ddau safle; rôl ddatblygol yr ysgol gyda dosbarthiadau yng Nghyfnod Allweddol 2 fydd yn cynyddu datblygiad y cwricwlwm a’r baich gwaith; goblygiadau ar asesiadau athrawon a threfniadau pontio ar ddiwedd CA2; cynllunio a chyflawni’r symud i safle newydd gyda’r potensial o weld cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion.

Mewn ymateb, dyma sylwadau’r Arweinydd Systemau ar gyfer yr ysgol:

10 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 12: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Dengys canlyniadau diwedd cyfnod sylfaen ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013 -14 bod deilliannau disgyblion yn debygol o aros yn uwch na’r canolrif o gymharu ag ysgolion tebyg ni fydd modd cadarnhau hyn tan fod y canlyniadau gwirioneddol yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Medi)

Dengys data tracio cynnydd yr ysgol bod cynnydd yr holl ddisgyblion yng Nghyfnod Allweddol 2 yn y Gymraeg a’r Saesneg yn dda neu’n well (pan cyhoeddir canlyniadau’r profion darllen a mathemateg cenedlaethol, byddant yn cynnig tystiolaeth bellach o’r safonau uchel parhaol sydd gan yr ysgol). Dengys data tracio bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu monitro’n agos, ac os yn briodol, yn cael eu haddysgu mewn grwpiau bach y tu allan i’r dosbarth. Dengys data ysgol bod disgyblion ag anghenion ychwanegol yn gwella yn dilyn ymyraethau yn yr ysgol.

Yn dilyn cynnydd cyson a parhaus yn nifer y disgyblion ac o ystyried hollti’r ysgol ar ddau safle, cynyddwyd y capasiti arweinyddiaeth drwy benodi Dirprwy Bennaeth. Yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf mae’r Pennaeth yn ystyried datblygu swydd â Chyfrifoldeb Addysgu ac Arweinyddiaeth i arwain y CS i ddatblygu capasiti arweinyddiaeth ymhellach yn yr ysgol.

Mae’r disgrifiad swydd ar gyfer y Dirprwy Bennaeth newydd yn cyfeirio at gyfrifoldeb penodol am ddatblygu cwricwlwm priodol ar gyfer CA2.

Ers i’r ysgol agor, athrawon newydd gymhwyso oedd yr holl athrawon ac eithrio’r Dirprwy Bennaeth. Mae’r Pennaeth yn darparu cyfleoedd mentora effeithiol ar eu cyfer a chadarnhawyd hyn gan aseswyr annibynnol ar gyfer ANG. O ganlyniad y gefnogaeth barhaus a dderbynnir gan y Pennaeth, ystyrir ansawdd y dysgu ac addysgu yn dda neu well ymhob dosbarth, a hynny’n gyson. Mae hyn yn rhaglen fentora sefydledig ar gyfer mentora a hyfforddi athrawon newydd. O ragweld yr angen am athrawon ychwanegol y bydd eu hagen i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y disgyblion, mae’r Pennaeth wedi gwella capasiti’r ysgol i gyflawni’r rhaglen gymorth trwy ddatblygu sgiliau’r Dirprwy Bennaeth i ymgymryd â’r rôl o fentora ANG.

Tan fis Gorffennaf 2014, roedd safle Kemys Fawr yn gweithredu fel ysgol fabanod, ac mae’r amgylchedd dysgu dan do ac awyr agored yn ateb y diben o ran cydymffurfio â gofynion y Cyfnod Sylfaen.

Er mwyn rheoli’r ddau safle bydd y Pennaeth yn treulio 3 diwrnod ar safle Kemys Fawr, fydd yn gartref i’r Dosbarth Derbyn, disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 (y mae ganddynt dau ddosbarth ymhob blwyddyn). Bydd y Pennaeth yn treulio un diwrnod ar safle presennol Panteg sydd yn gartref i Flwyddyn 3 (32 o ddisgyblion) a Blwyddyn 4 (19 o ddisgyblion) yn ogystal â’r Dosbarth Meithrin. Bydd y Dirprwy Bennaeth yn gyfrifol am reoli’r ysgol o ddydd i ddydd ar safle Panteg yn absenoldeb y Pennaeth. Ar y diwrnod y bydd y Pennaeth ar safle Panteg, bydd arweinydd y Cyfnod Sylfaen yn cael ei rhyddhau i gwblhau’r tasgau rheoli dyddiol ar safle Kemys Fawr.

Yn nhermau’r effaith ar leoedd gwag a’r galw am leoedd yn yr holl ysgolion eraill, barn y cyngor yw y bydd unrhyw effaith yn cael ei ledaenu dros ardal ehangach (yn enwedig o ystyried yr ardal y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu yng Nghanol Torfaen), ac isel iawn fydd yr effaith ar ysgolion unigol. Er hynny, bydd yr effaith yn cael ei monitro’n rhan o ddull strategol y cyngor i reoli nifer y lleoedd sydd ar gael.

11 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 13: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Dylid nodi mai dosbarth meithrin â 52 lle cyfwerth â rhan amser (ac nid cyfwerth ag amser llawn fel y nodwyd uchod) fydd yn cael ei ddarparu yn rhan o’r cynnig hwn.

5. YMGYNGHORI Â PHLANT A PHOBL IFANC

Gwasanaethau Chwarae a Seibiannau Byr Torfaen gafodd y dasg i gwblhau’r ymgynghoriad gyda disgyblion yn Ysgol Panteg.

Methodoleg

Y dull a ddefnyddiwyd i ymgynghori â disgyblion sy’n mynychu Ysgol Panteg oedd ymgysylltu â grŵp o blant oed cymysg drwy gyflawni gweithgareddau grŵp cynhwysol.

Yn gyntaf, cafwyd trafodaeth grŵp i drafod gobeithion ac ofnau’r plant o ran symud i ysgol wahanol. Trafodwyd gwahanol bynciau yn ystod y broses, yn cynnwys barn y plant ynghylch sut y dylai’r adeilad newydd edrych, y nodweddion a’r cyfleusterau, offer, ffrindiau, athrawon, yr adeilad presennol a llawer mwy. Roedd hyn yn gyfle i’r plant fynegi eu barn mewn ffordd ddemocratig ag agored er mwyn cael yr atebion gorau posibl.

Yn ail, cyflawnwyd gweithgaredd gelf gyda’r plant, a alluogwyd iddynt dynnu llun yr hyn yr oeddent am weld yn yr ysgol gynradd newydd neu unrhyw newidiadau yr hoffent eu gweld. Fe wnaeth hyn ganiatáu iddynt gyfleu eu barn a’u syniadau am y newidiadau posibl a allai gael eu cynnwys yn eu lleoliad newydd. Roedd y dull yma yn galluogi’r Gwasanaeth Chwarae a Seibiannau Byr i annog y plant llai i feddwl am eu syniadau, a’u trafod.

Yn olaf, eglurwyd i’r grŵp beth fyddai’n digwydd i’r wybodaeth yr oeddent wedi ei chyfleu a sut y byddai hyn yn cael ei ddatblygu. Yn ystod y sesiwn cloi diolchwyd i’r plant am eu mewnbwn ac eglurwyd eto y byddai’r wybodaeth a’r holl syniadau yr oeddent wedi eu cyfleu yn cael eu hanfon ymlaen at y cyngor. Cafodd y plant wybod nad oedd gan y Gwasanaeth Chwarae y pwerau i wireddu’r syniadau, felly’n sicrhau nad oedd unrhyw addewidion yn cael eu gwneud a sicrhau nad oedd gan y plant unrhyw ddisgwyliadau afresymol yn dilyn yr ymarfer.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad wedi eu hatodi yn atodiad 3 o’r adroddiad hwn.

12 Ysgol Panteg | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Page 14: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Atodiad 1 – Rhestr Ddosbarthu ar gyfer y Ddogfen Ymgynghori a’r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad

Corff Llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan AALl Torfaen; Pennaeth pob ysgol a gynhelir gan AALl Torfaen; Cyfarwyddwr Esgobaethol Addysg yr Eglwys Gatholig; Cyfarwyddwr Esgobaethol Addysg yn yr Eglwys yng Nghymru; Bwrdd Cenhadaeth yr Eglwys yng Nghymru; Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru; Cydbwyllgor Addysg Cymru; Comisiynydd y Gymraeg Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; Llywodraeth Cymru (Gweinidogion Cymru); ESTYN; Prif Swyddogion Addysg ar draws Gwent (Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau

Gwent, i'w ddosbarthu i ysgolion yn eu hardaloedd fel sy’n briodol); Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant; Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Coleg Gwent; Y Gwasanaeth Gyrfaoedd; Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgol Torfaen; Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Cymru; Cymdeithas Ysgolion Cynradd Cymru; Cymdeithas Ysgolion Uwchradd Cymru; Llyfrgelloedd; (Blaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl); Cyfarwyddiaethau Eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion Cyngor Cymuned Blaenafon; Cyngor Cymuned Cwmbrân; Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl; Cyngor Cymuned Ponthir; Cyngor Cymuned Henllys; Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon; DCELLS (Llywodraeth Cymru) Cyngor Cymru dros Addysg a Hyfforddiant; Pob Cymdeithas Broffesiynol berthnasol; (NUT; NASUWT; ATL; UCAC; UNISON;

GMB) AC Lleol – Lynne Neagle; AS Lleol - Paul Murphy; ACau ac ASau ar gyfer awdurdodau eraill ar draws Gwent Pob Aelod Etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Rhieni/Cynhalwyr pob disgybl y mae’r cynnig yn effeithio arnynt Rhieni dros Addysg Gymraeg; Darparwyr/Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar Gwirfoddol/Preifat Cofrestredig yn

Nhorfaen; Cynghrair Gwirfoddol Torfaen; Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf. CYDAG (Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg) Mudiad Ysgolion Meithrin Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg Y Consortiwm Trafnidiaeth Ranbarthol perthnasol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer yr ardal

Page 15: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Atodiad 2 – Crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori

Mae’r canlynol wedi ymateb i’r ymgynghoriad:

Pennaeth Ysgol Bryn Onnen Estyn 2 aelod o staff o Ysgol Panteg Disgyblion Ysgol Panteg 3 rhiant/gofalwr a phartïon eraill sydd â diddordeb

Page 16: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Atodiad 3 – Canlyniadau’r ymgynghoriad gyda plant oed cynradd

CANLYNIADAU’R YMGYNGHORIAD Â’R PLANT YNGLŶN Â’R CYNNIG I ADLEOLI YSGOL PANTEG

Mehefin 2014

Page 17: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

Nifer y plant yr ymgynghorwyd â hwy: 30

Fe wnaeth y plant gynnig y sylwadau canlynol ynghylch y cynnig i adleoli’r ysgol i adeilad newydd:

“Rhaid i’r adeilad newydd fod yn lliwgar”“Hoffwn petai’r adeilad newydd yn fawr”“Dydw i ddim am unrhyw fwlis”“Hoffwn weld athrawon newydd a mwy o athrawon i helpu’r athrawon presennol”“Rhaid i’r ysgol fod o fewn pellter cerdded”“Hoffwn weld llond lle o offer chwarae”“Hoffwn gymysgu gyda llawer o blant o wahanol oedran”“Hoffwn gael gwaith mwy anodd”“Hoffwn weld fwy o ddosbarthiadau”“Hoffwn weld cae”“Bydd angen gwneud yn siŵr bod y larymau tân yn gweithio”“Rhaid i ni neud yn siŵr bod pawb yn dod ymlaen”“Mae angen cael ffensys uchel o amgylch yr ysgol”“Hoffwn weld caffi newydd”

Cwblhawyd y weithgaredd gelf i ddarganfod pa bethau yr hoffai’r plant eu gweld yn yr ysgol newydd. Dyma enghreifftiau o’r lluniau a wnaed:

Page 18: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

“Rwyf am weld labordy gwyddoniaeth yn Ysgol Panteg”

“Hoffwn petai fy ysgol newydd yn edrych fel hyn”

Page 19: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,

“Hoffwn petai y tu fewn i fy ysgol newydd yn edrych fel hyn”

Page 20: CEFNDIR - Home - Torfaen County Borough Council Webcastingconnect-torfaen.public-i.tv/document/8_new_primary... · Web viewAgorwyd yr ysgol yn 2010, ar gyn- safle Ysgol Fabanod Grffithstown,