12
Cefnogir gan

Clymwch y Cwlwm!

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Canllaw i Bartneriaeth Sifil.

Citation preview

Page 1: Clymwch y Cwlwm!

Cefnogir gan

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 1

Page 2: Clymwch y Cwlwm!

Rydych yn hoyw, rydych mewn cariad, Rydych eisiau bod gyda’ch gilydd am byth...CLYMWCH Y CWLWM!Canllaw i Bartneriaeth Sifil

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 2

Page 3: Clymwch y Cwlwm!

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 3

Page 4: Clymwch y Cwlwm!

Cewch bob hawl – a phob cyfrifoldeb – y mae cyplau strêt yn eu cael pan yn priodi’

Felly, partneriaeth sifil, ai priodas yw hyn neu beidio?Ie, i bob pwrpas. Mewn partneriaeth sifil ceir bob hawl aphob braint – a phob cyfrifoldeb – y mae cyplau strêt yn eucael pan yn priodi. Mae’r un fath. Gallwch hyd yn oed ofyni’ch perthnasau am beiriannau tostio.

Pa fath o hawliau?Ar wahân i’r hawl i gael tostiwr newydd a pharti gwych?Cewch hawliau perthynas agosaf, hawliau ynglyn â phlanteich partner, cewch hawliau treth, gan gynnwys yr un hawliauetifeddiaeth â chyplau priod strêt. Ac fe gewch hawliau pensiwn, felly mae’n bosibl y gallwch hawlio pensiwn eichpartner sifil os fyddant yn marw...

Ai dyna beth fyddwn ni, partneriaid sifil?Ie, ond all neb eich rhwystro rhag galw beth bynnag a ddymunwch ar eich gilydd – gwr, gwraig, yr hanner arall –ond nid ar ddogfennau swyddogol. Os ydych am gymrydenw eich partner ar eich trwydded yrru, dyweder, neu’ch trwydded deithio, bydd prawf ID a’ch tystysgrif partneriaeth sifil yn ddigon i’w drefnu.

i

ii

iii

ˆ

ˆ

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 4

Page 5: Clymwch y Cwlwm!

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 5

Page 6: Clymwch y Cwlwm!

Felly does dim treth etifeddiaeth rhwng partneriaid bellach?Na, gan eich bod yn bartneriaid sifil ac yn cael eich cydnabod fel cwpwl priod strêt. Mae gennych yr hawl igofrestri marwolaeth, yr hawl i dderbyn budd-daliadau marwolaeth, yr hawl i ofyn am iawndal yn sgîl damwainangeuol, yr hawl i barhau i fyw yn y cartref yr oeddech yn ei rhentu ar y cyd...

Ond nid oes rhaid i ni fyw gyda’n gilydd er mwyn bod yn bartneriaid sifil?Na. Mae’r un fath ar gyfer cyplau priod strêt. Nid yw trefniadau’r cartref a phwy sy’n byw ble yn fusnes i neb arall.Ac mae’n rhaid i’ch cyflogwr eich trin chi a’ch partner sifil yn yr un ffordd ag y mae’n trin cwpwl priod strêt yn nhermau manteision a budd-daliadau.

Ac mae ‘na gyfrifoldebau hefyd ...Wel, mae’n gwlwm cyfreithiol felly nid yw’n rhywbeth i’wwneud am hwyl neu weithred rhamantus sydyn. Bydd ynrhaid i chi fyw gyda’r canlyniadau, gan gynnwys, o bosib,darparu cynhaliaeth i’ch partner sifil ac unrhyw blant. Ac os ydych yn derbyn budd-daliadau, byddwch yn cael eich trin fel unrhyw gwpwl priod arall. Ond mae hynny’nwir am bob cwpwl – strêt neu hoyw – sydd yn byw gyda’igilydd heb y darn o bapur.

iv

v

vi

Mae’n gwlwm cyfreithiol felly nid yw’n rywbeth i’w wneud am hwyl neu weithred rhamantus sydyn’

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 6

Page 7: Clymwch y Cwlwm!

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 7

Page 8: Clymwch y Cwlwm!

Felly, mae’n siwr y byddai angen ysgariad petai pob dim yn mynd o’i le?Mae’n cael ei alw ‘ddiddymiad’, ond mi fyddai ei angen.

A fedrwn ni glymu’r cwlwm mewn eglwys?Gallwch gael bendith mewn eglwys gyda’ch hoff ficer cefnogoli hoywon (neu arweinydd crefyddol cyfatebol cefnogol i hoywon), fel cyplau strêt sydd yn priodi mewn swyddfagofrestri, ond nid oes modd cael gwasanaeth crefyddol ynystod y cofrestri ei hun, yn union fel cyplau strêt mewn priodas sifil. Ond nid yw hynny’n golygu na allwch ddewislleoliad hyfryd. Gallwch ddewis unrhyw le sydd â thrwyddedar gyfer gwasanaethau sifil – plastai, gwestai, ambell draetha chopa mynydd.

Beth sy’n digwydd pan fyddwn yn cofrestri?Eich diwrnod chi yw hi. Gallwch gael beth bynnag a ddymunwch, felly peidiwch â gadael i unrhyw swyddog eichgorfodi i wneud unrhyw beth yn erbyn eich dymuniad – na hepgor rhywbeth yr ydych yn ei ddymuno! Gallwch eirio eich addunedau, cyfnewid modrwyon, dewis unrhyw ddarlleniadau, cusanu er mwyn selio’r cytundeb, beth bynnag – trafodwch gyda’ch cofrestrydd. Yr unig bethy mae’n rhaid i chi ei wneud yw darparu eich llofnodion adau dyst.

vii

viii

ix

Mae’n cael ei alw’n ddiddymiad, ond byddai angen “ysgariad” petai bob dim yn mynd o’i le’

ˆ

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 8

Page 9: Clymwch y Cwlwm!

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 9

Page 10: Clymwch y Cwlwm!

A yw hyn yn berthnasol o ran y Swyddfa Mewnfudo?Ydi, byddwch bellach yn yr un cwch yn union â chyplaustrêt sydd yn priodi. Mae’n bosibl bod cyfyngiadau ar gaelmynediad i’r wlad er mwyn cofrestri, ond dim mwy nag afyddai ar gyfer partner strêt.

Felly sut mae dechrau? Mae angen i chi fynd at y gwasanaeth cofrestri – yn bersonol - er mwyn rhoi rhybudd ffurfiol o’ch bwriad i gofrestri eich partneriaeth, fel y byddai cwpwl strêt yn eiwneud. A chofiwch, nid oes rhaid i chi glymu’r cwlwm ynlleol – gallwch fynd unrhyw le y dymunwch yn y DG, os oestrwydded yno. Pan fyddwch wedi rhoi rhybudd, rhaid i chiaros am 15 diwrnod, trefnu, dewis gwisgoedd, gwahoddffrindiau a gwneud ffwl o’ch hunan ar noson hydd neu iâr!

Yna gallwch GLYMU’R CWLWM!

x

xi

xii

Gallwch gyflawni’r weithred yn unrhyw le sydd â thrwydded ar gyfer gwasanaethau sifil’

ˆ

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 10

Page 11: Clymwch y Cwlwm!

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 11

Page 12: Clymwch y Cwlwm!

Am bopeth sydd angen i chi ei wybodam bartneriaethau sifil ewch atwww.stonewall.org.ukwww.stonewallcymru.org.uk

Cyfarwyddiaeth Mewnfudo aChenedligrwydd y Swyddfa Gartref Cymorthar faterion yn ymwneud âphartneriaeth sifil gyda phartner o dramor.0870 606 7766www.ind.homeoffice.gov.uk

UK Lesbian and Gay Immigration GroupYn cynnig cefnogaeth arunrhyw fater yn ymwneud âmewnfudo. 020 7620 6010www.uklgig.org.uk

Gwasanaeth PensiwnOs am gyngor am yr hawliaupensiwn newydd ewch at www.thepensionservice.gov.uk

MabwysiaduAm fwy o fanylion am fabwysiaduplant eich partner ewch atwww.dfes.gov.uk/adoption

Jobcentre PlusGwybodaeth am fudd-daliadau.Ewch at www.jobcentreplus.gov.uk

Cyllid y WladAm unrhyw ymholiad ynglyn â deddfau treth ewch atwww.inlandrevenue.gov.uk

Swyddfa Gofrestri GyffredinolAm restr o leoliadau trwyddedigac unrhyw gwestiynau ynglyn âchostau, partneriaethau sifil argyfer rhywun na all ymddangosmewn lleoliad yn bersonol amba bynnag reswm, a nifer ofaterion eraill. Ewch atwww.gro.gov.uk Swyddfa Gofrestri Gyffredinol yrAlban www.gro-scotland.gov.uk

Stonewall020 7881 9440Minicom020 7881 9996Stonewall Scotland0131 557 3679Stonewall Cymru02920 237 744

Cynhyrchwyd ar gyfer Stonewallgan Warwick Worldwide

Mae Stonewall yn ddiolchgar iawn i Barclays am eu cefnogaeth

Angen gwybod mwyam rywbeth yma?

ˆ̂

ˆ̂

Stonewall 12 pg Booklet WELSH 23/9/05 9:45 am Page 12