10
Côd Cefn Gwlad Y

Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

CôdCefn Gwlad

Y

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 1 21/06/2013 06:28

Page 2: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch Diogelwch MwynhewchParchwch bobl eraill•Meddyliwch am gymuned yr ardal ac

am y bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored

•Gadewch glwydi ac eiddo fel yr oedden nhw ac arhoswch ar y llwybrau oni bai fod mynediad agored ar gael

Diogelwch yr amgylchedd naturiol •Peidiwch â gadael unrhyw arwydd eich

bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi

•Cadwch gw n dan reolaeth effeithiol

Mwynhewch a gwnewch yn siw r eich bod yn saff•Cynlluniwch eich taith a byddwch yn

barod am unrhyw beth annisgwyl •Dilynwch y cyngor a’r arwyddion lleol

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 2 21/06/2013 06:28

Page 3: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Parchwch bobl eraill A wnewch chi barchu’r gymuned leol a’r bobl eraill sy’n gwneud defnydd o’r awyr agored. Cofiwch y gall yr hyn a wnewch effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl.

Meddyliwch am gymuned yr ardal ac am y bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored

• Parchwch anghenion pobl yr ardal ac ymwelwyr fel ei gilydd – peidiwch â pharcio o flaen clwydi, ar draws mynedfeydd neu ar lwybrau eraill.

• Wrth feicio neu wrth yrru cerbyd, arafwch neu stopiwch i adael i geffylau, cerddwyr ac anifeiliaid fferm basio, a rhowch ddigon o le iddyn nhw. Yn ôl y gyfraith, rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a phobl ar gefn ceffylau ar lwybrau ceffylau.

• Cydweithredwch â’r bobl sy’n gweithio yng nghefn gwlad. Cadwch yn glir os byddwch yn dod ar draws ffermwr yn casglu neu’n symud ei anifeiliaid, a dilynwch ei gyfarwyddiadau.

• Mae traffig trwm ar ffyrdd bach gwledig yn gallu bod yn annymunol a pheryglu pobl, ymwelwyr a bywyd gwyllt – arafwch! Lle bynnag y gallwch, gadewch eich car gartref, chwiliwch am ffyrdd o rannu ceir a dewiswch ffyrdd eraill o deithio fel bysiau, trenau neu feiciau.

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 3 21/06/2013 06:28

Page 4: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Gadewch glwydi ac eiddo fel yr oedden nhw ac arhoswch ar y llwybrau oni bai fod mynediad agored ar gael

• Bydd ffermwr fel arfer yn cau clwydi neu gatiau er mwyn cadw ei anifeiliaid i mewn, ond fe allai eu gadael ar agor fel bod yr anifeiliaid yn gallu mynd at fwyd neu ddw r. Gadewch y clwydi fel yr oedden nhw, neu dilynwch y cyfarwyddiadau ar unrhyw arwyddion. Os ydych yn cerdded mewn grw p, gofalwch fod y cerddwr olaf yn gwybod a ddylai’r clwydi fod ar agor neu ar gau.

• Arhoswch ar y llwybrau oni bai fod mynediad agored ar gael, sef hawl i fynd ar dir agored yng nghefn gwlad neu ar dir comin wedi’i gofrestru (‘tir mynediad agored’ yw’r enw ar y math yma o dir).

• Os ydych yn credu bod arwydd yn anghyfreithlon neu’n gamarweiniol (fel arwydd ‘Preifat - Dim Mynediad’ ar lwybr cyhoeddus) cysylltwch â’r awdurdod lleol.

• Gadewch i beiriannau ac anifeiliaid fferm fod – peidiwch ag ymyrryd ag anifeiliaid hyd yn oed os ydych yn credu eu bod mewn trafferthion. Yn lle ymyrryd, ceisiwch roi gwybod i’r ffermwr.

• Defnyddiwch glwydi, camfeydd a bylchau yn ymylon y caeau os gallwch. Mae dringo dros waliau, gwrychoedd a ffensys yn gallu eu difrodi, gan gynyddu’r perygl o weld anifeiliaid fferm yn dianc.

• Mae ein treftadaeth yn bwysig i bob un ohonom – peidiwch â tharfu ar adfeilion neu safleoedd hanesyddol.

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 4 21/06/2013 06:28

Page 5: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Diogelwch yr amgylchedd naturiolMae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i warchod cefn gwlad, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, felly gwnewch yn siw r nad ydych yn niweidio anifeiliaid, adar, planhigion neu goed, a gwnewch eich gorau i adael dim o’ch ôl. Pan fyddwch allan gyda’ch ci, gwnewch yn siw r na fydd yn achosi perygl neu niwsans i anifeiliaid fferm, ceffylau, bywyd gwyllt neu bobl.

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 5 21/06/2013 06:28

Page 6: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Peidiwch â gadael unrhyw arwydd eich bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi

• Mae diogelu’r amgylchedd yn golygu cymryd gofal i beidio â difrodi neu ddinistrio nodweddion fel cerrig, planhigion a choed, a pheidio â’u cymryd oddi yno. Y nodweddion yma yw cartrefi a bwyd bywyd gwyllt, ac maen nhw’n ychwanegu at bleser pawb yng nghefn gwlad.

• Mae gadael sbwriel a sbarion bwyd ar eich ôl yn gwneud mwy nag amharu ar harddwch cefn gwlad. Mae’ch sbwriel yn gallu peryglu bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm – ewch â’ch sbwriel gartref. Mae gollwng a thaflu sbwriel yn droseddau.

• Mae tanau’n gallu niweidio bywyd gwyllt a chynefinoedd lawn cymaint ag y maen nhw’n peryglu pobl ac eiddo – byddwch yn ofalus iawn wrth drin fflamau agored a sigaréts ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae gweithwyr weithiau’n defnyddio tanau i reoli llystyfiant, yn enwedig ar weunydd a rhosydd rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth. Ond os byddwch yn dod ar draws tân ac ni allwch weld unrhyw un yn gofalu amdano, ffoniwch 999.

Cadwch gw n dan reolaeth effeithiol

• Pan fyddwch yn mynd â’ch ci am dro peidiwch â gadael iddo darfu o gwbl ar fywyd gwyllt, anifeiliaid fferm, ceffylau neu bobl eraill. Cadwch eich ci dan reolaeth effeithiol. Mae hyn yn golygu:

- cadw eich ci ar dennyn

- neu gadw’r ci yn eich golwg yn gyson, gan sicrhau eich bod yn gwybod beth mae’r ci yn ei wneud ac yn siw r y bydd yn dod yn ôl atoch yn syth pan fyddwch yn ei alw

- a rhwystro’r ci rhag crwydro oddi ar y llwybr neu o’r ardal lle mae gennych hawl mynediad

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 6 21/06/2013 06:28

Page 7: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

• Efallai fod rheolau arbennig ar waith mewn rhai sefyllfaoedd, felly chwiliwch am unrhyw arwyddion lleol. Er enghraifft:

- Efallai fod cw n wedi’u gwahardd o rai mannau mae pobl yn eu defnyddio, neu efallai fod cyfyngiadau, is-ddeddfau neu orchmynion rheoli’n cyfyngu ar y mannau lle gall pobl fynd â’u cw n.

- Mae’r hawliau mynediad sy’n berthnasol i dir agored yng nghefn gwlad ac i dir comin wedi’i gofrestru (tir ‘mynediad agored’) yn mynnu bod rhaid cadw cw n ar dennyn byr rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf. Pwrpas gwneud hyn yw helpu i ddiogelu adar sy’n nythu ar y ddaear. Os ydych yn agos at anifeiliaid fferm, rhaid i’r ci fod ar dennyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

- Ar yr arfordir, efallai fod rhai rheolau lleol sy’n mynnu bod rhaid cadw ci ar dennyn byr yn ystod tymor bridio’r adar, ac i rwystro’r ci rhag tarfu ar breiddiau o adar sy’n gorffwys neu’n bwydo ar adegau eraill o’r flwyddyn. 

• Cadwch eich ci ar dennyn pan fyddwch yn agos at anifeiliaid fferm a cheffylau, er eich diogelwch eich hun a lles yr anifeiliaid. Mae gan ffermwr hawl i saethu ci sy’n ymosod ar ei anifeiliaid neu’n rhedeg ar eu hôl – ac ni fyddai’n rhaid iddo dalu iawndal i berchennog y ci.

• Ond os bydd gwartheg neu geffylau’n rhedeg ar eich ôl chi a’ch ci, y peth saffaf i’w wneud yw tynnu’r ci oddi ar y tennyn. Peidiwch â’ch peryglu eich hun drwy geisio amddiffyn y ci. Yn y math yma o sefyllfa, bydd eich ci’n llawer mwy diogel os bydd yn rhydd i redeg i ffwrdd – a byddwch chithau’n fwy diogel hefyd.

• Mae pawb yn gwybod pa mor annymunol yw baw ci, ac mae’n gallu achosi heintiau. Glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Rhowch y baw mewn bag, ac mewn bin. Gofalwch hefyd fod eich ci’n cael triniaeth reolaidd rhag llyngyr – bydd hynny’n diogelu’r ci, anifeiliaid eraill a phobl.

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 7 21/06/2013 06:28

Page 8: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Mwynhewch a gwnewch yn siw r eich bod yn saff Hyd yn oed pan fyddwch yn mynd am dro yn lleol, y peth gorau i’w wneud yw cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y lleoedd y gallwch, neu na allwch, fynd iddynt. Er enghraifft, efallai y bydd cyfyngiadau ar eich hawliau i fynd ar ambell ddarn o dir mynediad agored neu dir arfordirol mewn ambell ardal ar adegau arbennig. Ceisiwch ddod o hyd i gymaint o wybodaeth â phosibl am eich cyrchfan, cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch y cyngor a’r arwyddion.

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 8 21/06/2013 06:28

Page 9: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Cynlluniwch eich taith a byddwch yn barod am unrhyw beth annisgwyl

• Byddwch yn mwynhau eich ymweliad yn fwy drwy gyfeirio at wefannau a mapiau neu arweinlyfrau diweddar cyn mentro allan. Cysylltwch â chanolfannau gwybodaeth neu lyfrgelloedd yr ardal i ofyn am restr o grwpiau sy’n trefnu gweithgareddau hamdden yn yr awyr agored ac sy’n cynnig cyngor arbenigol.

• Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun, a diogelwch y bobl eraill sydd yn eich gofal – yn enwedig plant. Byddwch yn barod am beryglon naturiol, newidiadau yn y tywydd ac unrhyw ddigwyddiadau eraill. Os byddwch yn mynd yn rhy agos at anifeiliaid gwyllt, anifeiliaid fferm a cheffylau, maen nhw’n gallu ymateb mewn ffordd annisgwyl, yn enwedig os oes anifeiliaid ifanc gyda nhw. Rhowch ddigon o le iddyn nhw.

• Cyn mentro allan, gwiriwch ragolygon y tywydd. Mae’r amodau’n gallu newid yn sydyn iawn, yn enwedig yn y mynyddoedd ac ar hyd yr arfordir, felly peidiwch ag ofni troi’n ôl. Wrth ymweld â’r arfordir, trowch at easytide.ukho.gov.uk i wirio amseroedd y llanwau. Peidiwch â mentro cael eich dal gan lanw sydd wedi troi ac sy’n dod i mewn, a byddwch yn ofalus iawn wrth gerdded ar greigiau llithrig a gwymon.

• Un o’r pethau sy’n denu pobl i gefn gwlad yw’r cyfle i ddianc rhag y byd a’i broblemau. Gallwch gerdded am oriau heb weld rhywun arall, ac nid oes signal clir i ffonau symudol mewn llawer o lefydd. Felly, dywedwch wrth rywun arall i ble rydych chi’n mynd, a phryd rydych chi’n disgwyl dod yn eich ôl.

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 9 21/06/2013 06:28

Page 10: Côd Y Cefn Gwlad - naturalresources.wales · bod wedi bod yno, ac ewch â’ch sbwriel gyda chi • Cadwch gwˆ n dan reolaeth effeithiol Mwynhewch a gwnewch yn siwˆ r eich bod

Dyma rai o’r symbolau

Llwybr troed – ar gyfer cerddwyr yn unig. Bydd saeth felen ar yr arwydd.

Llwybr ceffylau – ar gyfer cerddwyr, pobl ar gefn ceffylau a beicwyr. Bydd saeth las ar yr arwydd.

Cilffordd gyfyngedig – ar gyfer cerddwyr, beicwyr, pobl ar gefn ceffylau a phobl mewn cerbydau mae ceffylau’n eu tynnu. Bydd saeth lliw piws ar yr arwydd.

Cilffordd sydd ar agor i unrhyw draffig – ar gyfer cerddwyr, beicwyr, pobl ar gefn ceffylau, pobl mewn cerbydau tu ôl i geffylau, a cherbydau modur. Bydd saeth goch ar yr arwydd.

Mesen y Llwybrau Cenedlaethol –yn dynodi’r 15 o lwybrau hir yng Nghymru a Lloegr. Llwybrau cerdded yw’r rhain ond mae rhai’n addas hefyd i feicwyr, pobl ar gefn ceffylau a phobl â phroblemau symud.

Tir mynediad agored – mynyddoedd, gweundiroedd, rhostiroedd, twyndiroedd a thir comin wedi’i gofrestru (ar fapiau dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000). Mae’r tir ar gael i bobl gerdded, rhedeg, archwilio, dringo a gwylio bywyd gwyllt, heb orfod aros ar y llwybrau.

Symbol sy’n dynodi mynediad ‘negyddol’ – fe allai ddynodi ffin derfyn ardal gyfan o fynediad agored, er bod hawliau mynediad eraill yno efallai (er enghraifft, llwybrau cyhoeddus).

Dilynwch y cyngor a’r arwyddion lleol

Gwnewch yn siw r eich bod yn gyfarwydd â’r arwyddion a’r symbolau sydd i’w gweld yng nghefn gwlad i ddangos y llwybrau a’r tir agored.

COUNTRYSIDE CODE COrrectt mwynhewch Cymraeg.indd 10 21/06/2013 06:28