Upload
cartrefi-conwy
View
230
Download
11
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Â
Citation preview
Pryderon a Chwynion
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cwyn am Cartrefi Conwy.
Gallwch gwyno:
os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth a ddarparwyd gennym;
os credwch ein bod wedi gwneud rhywbeth o'i le neu yn meddwl ein bod wedi methu â gwneud rhywbeth; neu
os ydych chi'n meddwl bod aelod o'n staff wedi eich trin yn wael neu'n annheg.
Rydym yn awyddus i ddatrys cwynion cyn gynted ag y bo modd, ac rydym yn awyddus i wneud y broses yn hawdd i chi.
Byddwn yn gofyn i'r person sydd fel arfer yn gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth i edrych i mewn i'r gwyn ac yn gofyn iddynt
ddatrys y broblem. Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb cyntaf efallai y byddwch yn dymuno gwneud cwyn mwy ffurfiol.
Gallwch wneud hynny drwy lenwi'r ffurflen hon.
Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ffurflen, anfonwch hi i'r swyddfa yr ydych fel arfer yn ymdrin â hi.
Cartrefi Conwy
Morfa Gele
Parc Busnes Gogledd Cymru
Cae Eithin
Abergele
LL22 8LJ
Swyddfa Ardal Llandudno
15-17 Madoc Street Llandudno
LL30 2TL
Swyddfa Ardal Colwyn 41 Conway Road
Bae Colwyn
LL29 7AA
Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn ffurfiol o fewn 20 diwrnod gwaith.
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn y pum diwrnod gwaith cyntaf, i ddweud wrthych ein bod wedi cael eich cwyn ac i ddweud
wrthych pwy fydd yn edrych i mewn iddo.
Ni ddylech ddefnyddio'r ffurflen hon os ydych yn cysylltu â ni am unrhyw un o'r canlynol.
Cais am wasanaeth - er enghraifft, gwaith atgyweirio.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol - mae gennym bolisi ar wahân am y ffordd yr ydym yn
ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mater sydd â hawl ffurfiol i apelio; megis nifer y pwyntiau a ddyfarnwyd ar gyfer cais
am dai
Cwynion am wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; megis
casgliadau biniau, goleuadau stryd, baw cŵn ac yn y blaen
Mae’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ar y ffurflen gwyno yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Byddwn
ond yn defnyddio’r wybodaeth i asesu’ch cwyn. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth
gyda sefydliad neu bartner perthnasol, neu gyda’r bobl rydych chi’n eu crybwyll yn eich cwyn.
Gadewch i ni wybod os oes arnoch chi angen yr wybodaeth hon mewn print bras neu iaith arall.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif ac rydym yn gobeithio y gallwn ddatrys y broblem
drwy ein gweithdrefn gwyno eu hunain. Fodd bynnag, ar ôl ein hymchwiliad os nad ydych
yn teimlo ein bod wedi datrys y sefyllfa yn foddhaol, mae gennych yr hawl i gysylltu ag
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofyn am ymchwiliad annibynnol i'ch
cwyn.
Ysgrifennwch at:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd Yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ.
E-bost:
Ffôn:
0845 601 0987 (codir am alwadau ar y gyfradd leol)
Ewch i’r wefan:
www.ombwdsmon-cymru.org.uk
Y Polisi Pryderon a Chwynion
Gallwch ddarllen y polisi Pryderon a Chwynion llawn os hoffech chi. Mae ar gael ar ein gwefan yn www.cartreficonwy.org neu gallwch ofyn i aelod o staff roi copi i chi.
Os oes rhywbeth wedi mynd o'i le, neu os ydych yn credu bod Cartrefi Conwy wedi
methu â gwneud rhywbeth, defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym.
Dywedwch gymaint ag y gallwch am eich cwyn wrthym; bydd hyn yn ein helpu pan
fyddwn yn edrych i mewn iddo. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn dweud
wrthym beth ydych chi'n feddwl y dylem ei wneud i unioni pethau i chi.
Eich Manylion (hwn yw’r person y byddwn yn cysylltu â hwy am y gŵyn)
Enw
Cyfeiriad a Chod Post
Rhif Ffôn Cartref
Rhif Ffôn Symudol
Cyfeiriad E-bost
A
Cysylltu
Sut byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi?
E-bost Llythyr Ffôn Cartref Ffôn Symudol Yn Bersonol
Pryd yw’r amser gorau i ni gysylltu â chi?
Gwneud cwyn ar ran rhywun arall
Dylai'r person a gafodd y broblem fel arfer lenwi'r ffurflen hon. Ond, os ydych yn llenwi'r ffurflen hon ar ran rhywun
arall, rhowch eu manylion yn adran B. Bydd angen i ni fodloni ein hunain bod y person dan sylw yn fodlon i chi
weithredu ar eu rhan, felly efallai y bydd angen i ni gysylltu â nhw cyn y byddwn yn mynd â’r gwyn yn ei blaen.
Eu Manylion
Enw
Cyfeiriad a Chod Post
Rhif Ffôn
Eich Perthynas
Pam ydych yn gwneud y
gŵyn ar eu rhan?
B
Ynglŷn â’ch Pryder/Cwyn
Pa dîm neu wasanaeth ydych yn cwyno yn ei gylch? (er enghraifft; atgyweirio, dyraniadau ac yn y blaen)
Defnyddiwch y lle isod i ddweud wrthym beth ydych chi'n meddwl y maent wedi’i wneud yn anghywir, neu wedi methu ei wneud. Dywedwch :
sut yr ydych chi (neu'r person a enwir yn adran B) wedi dioddef yn bersonol neu wedi cael eich effeithio ;
pryd oeddech yn ymwybodol o'r broblem gyntaf; ac
yr hyn yr ydych yn credu y dylid ei wneud i unioni pethau ?
(Parhewch ar ddalen ar wahân os oes angen a'i hatodi i'r ffurflen hon .)
C
Ydych chi wedi cysylltu gydag unrhyw un yn Cartrefi Conwy am y gŵyn hon o’r blaen?
Do Naddo
Os ‘Do’, atebwch y cwestiynau canlynol.
Oedd hyn o fewn y 12 mis
diwethaf? Oedd
Nac
oedd
Os nac oedd, pryd
oedd hi?
I bwy wnaethoch chi gwyno a pha ymateb gawsoch chi?
Pam nad ydych yn fodlon â'r ymateb?
D
Llofnod
Dyddiad DD / MM / BBBB