16
Esgobaeth Llanelwy :: Diocese of St Asaph

Criteria - s3.amazonaws.coms3.amazonaws.com/.../Communications-Officer-Applicati…  · Web viewMae'n bleser gennyf roi manylion i chi am yr esgobaeth, newidiadau yn yr Eglwys yng

  • Upload
    hanhu

  • View
    218

  • Download
    1

Embed Size (px)

Citation preview

Esgob Llanelwy The Bishop of St Asaph

Fel Esgob Llanelwy, croesawaf yn fawr eich diddordeb yn swydd Swyddog Cyfathrebu’r Esgobaeth. Rydym yn esgobaeth sydd â chalon dda ac sy’n awyddus i ysgogi a darparu adnoddau i eglwysi ac aelodau eglwysi i siarad a gweithredu’r efengyl yn y byd

Mae'n bleser gennyf roi manylion i chi am yr esgobaeth, newidiadau yn yr Eglwys yng Nghymru a gwybodaeth am y cyfle hwn. Gobeithio y bydd y Pecyn Cais hwn yn darparu'r holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch er mwyn ystyried a ddylech ymgeisio am y cyfle hwn. Fodd bynnag, os oes gennych ragor o gwestiynau, a wnewch chi gysylltu â Mrs Karen Williams (gweler y manylion isod) a fydd yn eich cyfeirio at yr unigolyn priodol.

Ceisiadau

Rhaid i geisiadau ddod i law erbyn hanner dydd, ddydd Llun 11 Mai 2015. Dylid anfon ffurflenni cais, gyda llythyr eglurhaol dim mwy nag un ochr o A4 yn disgrifio’r hyn sy’n eich denu at y rôl hon, eich profiad a sut mae'n berthnasol i'r cyfleoedd a'r heriau a gyflwynir gan y swydd hon, at Mrs Karen Williams, y Swyddog Gweinyddu ac Adnoddau Dynol, naill ai drwy'r post i Karen Williams, Swyddfa'r Esgobaeth, Stryd Fawr, Llanelwy LL17 0RD neu drwy e-bost i [email protected]

Rhestr fer

Bydd Rhestr Fer yn cael ei llunio ddydd Mercher 13 Mai 2015. Er mwyn sicrhau tegwch y broses ddethol, bydd y rhestr fer yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwch yn eich cais yn unig, ac ni fydd rhagdybiaethau yn cael eu gwneud am eich profiad a'ch sgiliau. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth amlwg eich bod yn bodloni'r meini prawf a nodir ym manyleb y person. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniadau’r rhestr fer.

Cyfweliad

Cynhelir y cyfweliadau yn Llanelwy ddydd Iau 21 Mai 2015. Bydd rhagor o fanylion ynghylch y broses ddethol yn cael ei rhannu pan gaiff yr ymgeiswyr eu gwahodd am gyfweliad. Bydd y penodiad yn amodol ar eirda boddhaol a datgeliad DBS manwl. Byddwn yn cysylltu â chanolwyr cyn y cyfweliad, felly rhowch wybod i ni os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â'ch canolwyr.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais os penderfynwch wneud cais, a dymunwn yn dda i chi.

+Gregory LlanelwyEsgob Llanelwy

2

Proffil Esgobaeth Llanelwy

Mae Esgobaeth Llanelwy yn gymuned ffydd amrywiol a gobeithiol. Gyda gwreiddiau yn yr eglwys Geltaidd a chyfoeth o gymeriad a thraddodiad, rydym yn ceisio parhau i ddatgelu ein galwedigaeth a rennir fel pobl Dduw yn yr Eglwys yng Nghymru yng ngogledd ddwyrain y Dalaith. Rydym yn Esgobaeth sydd â chalon dda ac sy’n ceisio parhau i ymateb yn llawen i her Duw.

Mae’r Esgobaeth yn dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn y dwyrain, tra bod y ffin orllewinol yn cael ei nodi gan ddyffryn Conwy. Mae'r ffin ogleddol yn rhedeg ar hyd arfordir Gogledd Cymru cyn belled â Llandudno, ond dim ond yn cynnwys rhan o'r dref honno. Mae'r terfyn deheuol yn rhedeg o ben isaf Llyn Tegid ar draws i Ddolfor, ychydig i'r de o'r Drenewydd ym Mhowys. O safbwynt eglwysig, mae'n rhannu ffin ag Esgobaethau Caer, Caerlwytgoed a Henffordd ar yr ochrau gogleddol a dwyreiniol. I'r de rydym yn rhannu ffin ag Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, ac ag Esgobaeth Bangor i'r gorllewin.

Mae'r Esgobaeth yn wledig yn bennaf, gyda llawer o blwyfi yn cynnwys poblogaeth o lai na 1000. Fodd bynnag, mae ardaloedd diwydiannol a masnachol pwysig sy’n datblygu’n barhaus o amgylch Glannau Dyfrdwy (un o'r parciau diwydiannol mwyaf yn Ewrop) a Wrecsam, a datblygiadau sylweddol llai o faint ar hyd y ddwy brif ffordd brifwythiennol (yr A55 a’r A483).

Mae'r llain arfordirol yn gartref i gyrchfannau gwyliau traddodiadol ac mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig mewn sawl rhan o'r Esgobaeth. Y cyflogwyr mwyaf yw’r awdurdodau lleol drwy addysg a'r gwasanaethau iechyd gyda dau ysbyty dosbarth cyffredinol mawr ym Modelwyddan a Wrecsam. Mae canolfan cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Wrecsam (sy’n cael ei chefnogi gan yr Esgobaeth), tra bod grwpiau gweithwyr mudol yn y rhanbarth (yn bennaf yn bobl wyn o’r Undeb Ewropeaidd) yn gysylltiedig â diwydiant ac amaethyddiaeth. Mae nifer sylweddol o weithwyr gofal yn dod o'r dwyrain pell. Ynghyd â llawer o'r ardaloedd gwledig yn y Deyrnas Unedig, mae'r sector amaethyddol yn yr Esgobaeth wedi dioddef sawl sioc a nifer o newidiadau, gan gynnwys argyfwng clwy'r traed a'r genau, newid yn strwythurau cymorth amaethyddol gan yr Undeb Ewropeaidd, cynnydd mewn costau tanwydd, ac effaith cynhesu byd-eang sy'n dod i’r amlwg. Mae dwy o'r marchnadoedd da byw mwyaf yn Ewrop yn y Trallwng a Llanelwy.

Mae gan yr Esgobaeth 51 o Ysgolion Eglwys, bron i draean cyfanswm ysgolion eglwys yr Eglwys yng Nghymru, ac mae'r rhain wedi eu lledaenu dros 6 awdurdod lleol. Ysgol Uwchradd Anglicanaidd a Chatholig Sant Joseff yn Wrecsam yw'r unig ysgol ffydd a rennir yng Nghymru, ac mae ein holl ysgolion yn ffordd bwysig o ddarparu cenhadaeth a gweinidogaeth i bobl ifanc Cymru.

3

Arolwg yr Eglwys yng Nghymru

Comisiynodd yr Esgobion dîm o ymgynghorwyr yn 2011 i gynnal arolwg trylwyr o'r Eglwys yng Nghymru. Tri aelod y tîm oedd:

Yr Arglwydd Richard Harries, cyn Esgob Rhydychen, a gadeiriodd y grŵp; Yr Athro Charles Handy, cyn-Athro yn Ysgol Fusnes Llundain; Yr Athro Patricia Peattie, cyn-Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog Eglwys Esgobol yr

Alban.

Dweud eich dweud

Teithiodd Grŵp yr Arolwg i bob esgobaeth yng Nghymru a chyfarfod â mwy na 1,000 o bobl mewn cyfarfodydd cyhoeddus i ddarganfod pa newidiadau yr oedden nhw eisiau eu gweld. Fe wnaethon nhw hefyd wahodd pobl i ysgrifennu atyn nhw gyda syniadau ar gyfer llunio Eglwys y dyfodol.

Yn y cyfarfodydd agored, gofynnwyd i bobl pa agwedd ar eu hesgobaeth a’r Eglwys roedden nhw’n teimlo fwyaf cadarnhaol yn ei chylch, a pha newidiadau y bydden nhw’n hoffi eu gweld i wneud ei gweinidogaeth yn fwy effeithiol. Gofynnwyd iddyn nhw hefyd sut y bydden nhw’n mynd i’r afael â heriau fel y gostyngiad a ragwelir yn nifer y clerigion ac adnoddau ariannol.

Canfyddiadau

Cyhoeddwyd yr Arolwg yn ystod haf 2012, gyda 50 o argymhellion. Gweinidogaeth wedi’i thrawsnewid oedd wrth wraidd y cyfan. Er mwyn helpu i drefnu’r argymhellion mewn ffordd sy’n hylaw ac yn ddealladwy i’r Eglwys, mae Grŵp Gweithredu wedi canolbwyntio yn y lle cyntaf ar yr hyn y mae’n ei weld fel Gweledigaeth graidd yr Adroddiad, a’r argymhellion sydd wedi’u cynllunio’n bennaf i gyflawni’r weledigaeth honno:

Ffurfio Ardaloedd Gweinidogaeth neu Genhadaeth ledled yr Eglwys yng Nghymru.

Darparu gweinidogaeth drwy Dimau Gweinidogaeth, sy’n ymgorffori gweinidogion lleyg ac ordeiniedig yn gweithio o fewn model cydweithredol

Rhaglen integredig o hyfforddiant ar gyfer lleygwyr a gweinidogion ordeiniedig i ddatblygu sgiliau gweinidogaeth a hyrwyddo arferion gweithio ar y cyd.

“Canfu Tîm yr Arolwg bod yr Eglwys yng Nghymru yn gynnes a chroesawgar iawn, ac mae llawer o bethau da yn digwydd. Ond er mwyn gwasanaethu pobl Cymru yn

4

effeithiol, yn enwedig ei phobl ifanc, rydym yn credu bod ailfeddwl radical yn angenrheidiol.”

Yr Arglwydd Harries Cadeirydd Grŵp yr arolwg

“Dyma ein harolwg fel Eglwys – ni ofynnodd amdano ac rydym wedi cyfrannu ato. Yr adroddiad yw ein fframwaith, nid ein glasbrint. Ei weledigaeth yw gweinidogaeth wedi’i thrawsnewid, a dyna beth mae angen i ni ganolbwyntio arno. Mae’n amser cyffrous i ni ac yn un sy’n cynnig cyfleoedd gwych i’r Eglwys ffynnu.”

Helen Biggin, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Golwg 2020

Gallwch ddarllen Arolwg yr Eglwys yng Nghymru yn ei gyfanrwydd ar-lein ar www.churchinwales.org.uk/review

Ymgysylltu â Golwg 2020Pam mae angen i bethau newid? Mae cynigion Golwg 2020 yn eithaf radical, felly dyma’r cwestiwn cyntaf y bydd unrhyw un yn ei ofyn pan fyddan nhw’n clywed am y fenter newydd hon ar gyfer ein heglwysi.

Yr ateb syml yw hyn: nid yw'n gynaliadwy i’r Eglwys yng Nghymru barhau i weithredu yn y ffordd y mae ar hyn o bryd. Mae cynulleidfaoedd yn dirywio, clerigion yn ymddeol ac ni fydd nifer y bobl sy’n hyfforddi ar gyfer cael eu hordeinio yn llenwi'r bwlch. Mae angen i rywbeth newid.

Rydym yn dal i ddefnyddio model y plwyf yn yr un ffordd ag y gwnaethom yn 1920 pan ddatgysylltwyd yr Eglwys. Heb newid, bydd yr Eglwys yng Nghymru yn parhau i ddirywio wrth iddi nesáu at ei chanmlwyddiant yn 2020.

Cyhoeddwyd yr Arolwg yn 2012, ac amlinellodd yn glir yr achos dros newid pethau. Soniodd bod angen “brys” am newid - yn enwedig yn y ffordd y mae ein heglwysi wedi eu trefnu.

Cynigiodd yr Arolwg symud oddi wrth fodel y plwyf o weinidogaeth tuag at fodel newydd o eglwys. Bydd Ardaloedd Gweinidogaeth – neu Ardaloedd Cenhadaeth fel rydym yn eu galw yn Llanelwy - yn cynnwys cymunedau eglwysig mewn partneriaeth â’i gilydd, gyda thîm arweinyddiaeth a rennir yn eu galluogi i fod yn gryfach ar gyfer y dyfodol ac yn barod ar gyfer twf. Mae’r Arolwg hefyd yn galw am ragor o hyfforddiant ar gyfer gweinidogion - yn ordeiniedig a lleyg - i helpu i wireddu’r model hwn o weinidogaeth.

Felly, mae’n rhaid i ni newid os ydym eisiau gweld ein heglwysi’n ffynnu. Mae'n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol os ydym eisiau i'r Eglwys yng Nghymru gael dyfodol hyfyw - yn enwedig o ran teuluoedd a'r genhedlaeth iau.

Nodir yn yr Arolwg bod nifer y bobl ifanc sy’n ymgysylltu â bywyd yr Eglwys yn “fach iawn”, gan ychwanegu: “Ni ellir mynd i’r afael â’r sefyllfa hon fel mae’r eglwys wedi ei threfnu ar hyn o bryd.” Mae’n amser symud ymlaen.

5

Esgobaeth Llanelwy: the Diocese of St AsaphGolwg 2020 Vision

Pam?Gofynnodd Mainc yr Esgobion a’r Corff Llywodraethol i Arolwg yr Eglwys yng Nghymru ddarganfod a yw ein harweinyddiaeth, ein strwythurau a’n hadnoddau yn barod i fynd â chenhadaeth Duw yn ei blaen yng Nghymru, wrth i ni nesáu at ein pen-blwydd yn 100 oed. Mae Golwg 2020 yn edrych ar yr heriau a’r argymhellion a roddodd yr Arolwg i ni.

Beth?Mae Golwg 2020 yn dweud ein bod “yn gryfach gyda’n gilydd” ac yn awgrymu ein bod yn ffurfio Ardaloedd Cenhadaeth - partneriaethau rhwng cynulleidfaoedd, clerigion ac aelodau’r Eglwys - i ddatgloi ein potensial fel pobl Dduw yn ateb ei alwad yng Nghymru heddiw.

Pryd?Nawr. Nid oes raid i ni aros i rywun arall roi caniatâd i ni ddechrau meithrin cysylltiadau a phartneriaethau mewn addoliad, tystiolaeth a chenhadaeth. Mae galwad Duw ar gyfer nawr.

Pwy?Pawb. Mae pawb a fedyddiwyd yn cael eu comisiynu fel disgyblion a thystion i Iesu. Mae Golwg 2020 yn awyddus i’n gweld ni’n adnewyddu a bywiogi ein heglwysi. Gallwch gymryd yr awenau, ac mae ein ficeriaid, deoniaid bro ac archddiaconiaid yno i’ch galluogi i symud ymlaen.

Ble?Mae pob eglwys mewn ardal leol o gymuned a chenhadaeth ag eglwysi eraill. Efallai mai eich deoniaeth fydd yn ffurfio’r ardal, ond mae rhai deoniaethau’n rhy fawr neu ddim yn adlewyrchu poblogaeth ein cymunedau erbyn hyn, felly mae’n bosibl y gwnawn ni ystyried ffiniau newydd. Teulu Duw ydym ni, ac rydym eisiau bod yn bartneriaid i’n gilydd felly rydym yn cael ein cryfhau i deithio gyda’n gilydd mewn cymdeithas.

Sut?Chi yw’r Eglwys, a chi fydd yn cael y syniadau. Beth allwch chi ei rannu i helpu cenhadaeth Duw lle’r ydych yn byw ac yn addoli? Beth allwch chi roi’r gorau i’w wneud er mwyn helpu i’ch rhyddhau chi i wasanaethu mewn ffyrdd newydd? Sut gallwch chi ffurfio partneriaeth gyda brodyr a chwiorydd mewn eglwysi eraill i fynd i’r afael â phethau a allai ymddangos yn rhy fawr i fynd i’r afael â nhw fel cynulleidfa unigol?

Mae Golwg 2020 yn cynnig tri phwynt ffocws ar gyfer ein cenhadaeth ni:

Gwasanaethu’r gymuned, ysbrydoli pobl, a thrawsnewid yr Eglwys6

SWYDD DDISGRIFIAD

Teitl Swydd: Swyddog Cyfathrebu’r Esgobaeth

Yn atebol i: Ysgrifennydd yr Esgobaeth

Rheolir gan: Ysgrifennydd yr Esgobaeth

Lleoliad gwaith: Swyddfa’r Esgobaeth, Llanelwy

DIBEN Y SWYDD

Datblygu a chynhyrchu dulliau cyfathrebu clir a chyson ar gyfer esgobaeth Llanelwy sy'n cefnogi cyflwyno strategaeth yr esgobaeth a Golwg 2020; chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a gwella cyfathrebu mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb y gynulleidfa ac yn codi ymwybyddiaeth o genhadaeth, gweinidogaeth a gwaith yr esgobaeth; er mwyn sicrhau bod ethos Anglicanaidd yr esgobaeth yn cael ei gynnal ym mhob dull cyfathrebu.

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL

1. Golygu a datblygu pob cyhoeddiad ysgrifenedig ar gyfer yr esgobaeth, gan gynnwys Teulu Asaph, Newyddion Gofwyon ac Adroddiadau Blynyddol. Goruchwylio cynhyrchu'r cyhoeddiadau hyn o fewn terfynau amser, gan gynnwys cysylltu â thrydydd partïon fel bo'n briodol

2. Datblygu a chynnal gwefan yr esgobaeth, e-gyfathrebu a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol

3. Cynghori esgobaeth Llanelwy ar ei strategaeth, polisïau a gweithdrefnau ar gyfathrebu

4. Gweithredu fel Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus mewn perthynas â'r wasg a'r cyfryngau ar gyfer esgobaeth Llanelwy, gan weithio'n agos gyda Swyddog y Wasg i’r Esgob

5. Darparu mewnbwn arbenigol i reoli digwyddiadau, gan sicrhau bod y canlyniadau cyfathrebu a ddymunir yn cael eu cyflawni drwy gynllunio a chyflwyno proffesiynol

CYSYLLTIADAU GWEITHIO ALLWEDDOL

Esgob Llanelwy Ysgrifennydd yr Esgobaeth Caplan yr Esgob Tîm Swyddfa’r Esgobaeth Y cyfryngau lleol Adran y cyfryngau ac adnoddau creadigol yr Eglwys yng Nghymru

7

DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

1. Golygu a datblygu pob cyhoeddiad ysgrifenedig ar gyfer yr esgobaeth, gan gynnwys Teulu Asaph, Newyddion Gofwyon ac Adroddiadau Blynyddol

Sicrhau bod cyhoeddiadau ysgrifenedig yr esgobaeth yn gwneud y defnydd gorau o lif gwybodaeth a newyddion rhwng y plwyfi, yr esgobaeth a'r dalaith

Datblygu llais unigryw ar gyfer cyhoeddiadau ysgrifenedig, sy'n siarad yn onest am weledigaeth a chyfeiriad yr esgobaeth a'i phobl

Golygu cylchgrawn deufisol yr esgobaeth, Teulu Asaph, a pharhau i ddatblygu ei rôl yn yr esgobaeth

Canfod deunydd, ysgrifennu a golygu cynnwys Teulu Asaph a rheoli ei gamau argraffu, dylunio, cynhyrchu a dosbarthu

Goruchwylio cynhyrchu cyhoeddiadau ad hoc a sicrhau eu bod yn cefnogi'r strategaeth gyfathrebu gyffredinol

2. Datblygu a chynnal gwefan yr esgobaeth a chefnogi datblygu gwefannau plwyfi yn ôl y gofyn

Sicrhau bod gwefan yr esgobaeth yn gwneud y defnydd gorau o lif gwybodaeth a newyddion rhwng ein plwyfi, ardaloedd cenhadaeth, yr esgobaeth a'r dalaith

Gweithio gyda chydweithwyr esgobaethol i ddatblygu eu tudalennau gwe ac adnoddau ar-lein er mwyn gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'u gwaith

Bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg ar-lein a gweithredu ar ran yr esgobaeth

Cynnig cyngor i blwyfi ar ddatblygu gwefannau plwyfi

3. Cynghori Esgobaeth Llanelwy ar ei strategaeth gyfathrebu, ei pholisïau a’i gweithdrefnau gan gynnwys datblygu cyfryngau ategol a dulliau newydd o ddarparu cynnwys ar gyfer y cyfryngau

Datblygu cynllun cyfathrebu sy'n cefnogi strategaeth yr esgobaeth ar gyfer twf Nodi, egluro a blaenoriaethu negeseuon allweddol, cynulleidfaoedd perthnasol,

sianelau ac offer cyfathrebu priodol Cadw bys ar y pwls o ran datblygiadau newydd ym maes cyfathrebu a

chysylltiadau cyhoeddus a chynnig arweiniad priodol Gweithredu fel pwynt cyfeirio a chynghori wrth gyfathrebu trwy gyfryngau eraill,

a hwyluso cynhyrchu o'r fath lle bo hynny'n briodol Cynnig, rheoli a monitro cyllideb cyfathrebu’r esgobaeth Sicrhau bod y gyllideb cyfathrebu yn cael ei defnyddio yn y ffordd orau ar gyfer

yr esgobaeth

4. Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Wasg a’r Cyfryngau8

Goruchwylio gwaith yr esgobaeth gyda’r wasg, gan gymryd rôl arweiniol wrth gynhyrchu a datblygu straeon ar gyfer newyddiadurwyr a ffynonellau newyddion

Sicrhau bod mecanweithiau priodol ar waith ar gyfer ymatebion i weithgarwch y cyfryngau, yn rhagweithiol ac adweithiol

Yn ôl y gofyn, mynd i ddigwyddiadau yn yr esgobaeth ac adrodd arnyn nhw, ac ennyn a delio â diddordeb y wasg a'r cyfryngau

Cynghori swyddogion esgobaeth Llanelwy ar eu hymwneud â'r wasg a'r cyfryngau a darparu cymorth a chyngor yn ôl yr angen

Darparu, hybu a chychwyn hyfforddiant mewn cysylltiadau â’r wasg a'r cyfryngau ar gyfer yr esgobaeth

Rheoli risg i enw da ym maes cyfathrebu esgobaethol

5. Rheoli digwyddiadau

Gweithio o fewn timau cynllunio digwyddiadau i gyflawni canlyniadau cyfathrebu dymunol ar gyfer digwyddiadau esgobaethol mawr, fel y Gynhadledd Esgobaethol, y Gwasanaeth Ordeinio ac ati

Darparu mewnbwn arbenigol i sicrhau bod negeseuon clir yn cael eu cyflwyno i'r gynulleidfa darged

Cydlynu sylw yn y wasg o ddigwyddiadau fel bo'n briodol Cynyddu effeithiolrwydd a chyrhaeddiad digwyddiadau a gwasanaethau o bwys

9

MANYLEB PERSON: Swyddog Cyfathrebu’r Esgobaeth

Meini prawf allweddol

Hanfodol Dymunol

Cymwysterau a phrofiad

Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth Profiad blaenorol o weithio ar lefel uwch

mewn newyddiaduraeth, cyfathrebu marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus

Yn dangos gwerthfawrogiad a dealltwriaeth reddfol o'r effaith y gall cyfathrebu ei chael ar sefydliad

Profiad o ddelio â’r cyfryngau Profiad o ddylanwadu ar newid

diwylliannol ar wahanol lefelau mewn sefydliad

Rhwydwaith cryf o gysylltiadau gyda’r cyfryngau cenedlaethol, lleol ac eglwysig

Yn gyfarwydd â chymhlethdod sefydliadol

Gwybodaeth ymarferol am yr Eglwys yng Nghymru

Sgiliau a galluoedd Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu gwaith

Sgiliau trefnu cryf Sgiliau rhagorol yn ysgrifenedig ac ar

lafar Sgiliau cyflwyno rhagorol Y gallu i ymgysylltu ag amrywiaeth o

gynulleidfaoedd a’u hysbrydoli Yn gyfarwydd iawn â chyfrifiaduron Yn gallu teithio o amgylch yr esgobaeth

ac yn barod i wneud hynny Profiad o ddefnyddio systemau rheoli

cynnwys y we Profiad o weithio gyda chyfryngau

cymdeithasol a gwerthfawrogiad o'r cyfleoedd a'r risgiau cysylltiedig

Greddf newyddiadurwr! Sgiliau Ffotograffiaeth Y gallu i ymwneud â

phobl drwy gyfrwng y Gymraeg neu barodrwydd i ddysgu

Rhinweddau personol yn gysylltiedig â’r gwaith

Llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio ar eich menter eich hun

Yn greadigol ac yn gallu gweld y cyfleoedd a’r potensial mewn pobl a sefyllfaoedd

Yn drefnus, gyda sylw i fanylder Ffydd Gristnogol glir ac amlwg Chwaraewr tîm sy'n gallu gweithio'n dda

gyda chydweithwyr yn Swyddfa'r Esgobaeth, clerigion ac arweinwyr eglwysig lleol

Ymrwymiad i genhadaeth ehangach yr Eglwys

Parodrwydd i weithio'n hyblyg a thu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn

Y gallu i yrru a chyda char i’w ddefnyddio

10

Esgobaeth Llanelwy

Swyddog Cyfathrebu’r Esgobaeth

Prif delerau ac amodau

Oriau gwaith

Cyflog

Pensiwn

Gwyliau

Lleoliad

Treuliau

Cyfnod prawf

11

Yr oriau swyddfa craidd yw 9am tan 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gydag egwyl ginio o 1 awr i’w chymryd fel bo'n briodol.Fodd bynnag, mae natur y rôl yn golygu y bydd disgwyl i'r sawl a benodir weithio oriau sy'n angenrheidiol ar gyfer perfformiad effeithiol y swydd, gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau.

Cyflog cychwynnol rhwng £28,000 a £32,000

Bydd y cyflogwr yn cyfrannu 15% o gyflog pensiynadwy’r gweithiwr at gynllun pensiwn o ddewis y cyflogai. Efallai y bydd y gweithiwr yn dewis gwneud cyfraniad gwirfoddol ychwanegol o unrhyw gyfran o'u cyflog pensiynadwy.

25 diwrnod y flwyddyn galendr yn ogystal â gwyliau banc. Mae'r flwyddyn wyliau yn rhedeg rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr

Swyddfa'r Esgobaeth yn Llanelwy, er y bydd y rôl yn golygu teithio, yn bennaf o fewn yr Esgobaeth

Bydd holl dreuliau gwaith rhesymol yn cael eu talu ar y cyfraddau Esgobaethol a gytunwyd

Bydd y swydd hon yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf o 6 mis yn foddhaol