24
Annwyl rieni, Rydym yn hynod o falch eich bod yn ystyried Ysgol Gymraeg Glanrafon fel yr ysgol ar gyfer addysg gynradd eich plentyn. Mae rhieni am sicrhau addysg dda i'w plant ac am iddynt fod yn hapus a theimlo'n ddiogel. Yma yng Nglanrafon, credwn y gallwn gynnig hyn a mwy. Ymafalchïwn yn yr addysg eang, cytbwys a llawn a ddarparwn ac mae safonau uchel yr addysg a'r dysgu yn dwyn clod i waith caled y staff a'r disgyblion. Rydym yn falch hefyd o'r awyrgylch gyfeillgar, cydweithredol, diogel a hapus sydd yn nodweddau ein hysgol. Mae llawer o ymwelwyr i'r ysgol yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael yma ac am gwrteisi a boneddigeiddrwydd ein disgyblion. Yn ôl Adroddiad diweddaraf Estyn, mae Ysgol Glanrafon yn ysgol dda oherwydd “bod llawer o’r disgyblion yn cyflawni safonau da, yr addysgu yn gyson dda, y disgyblion yn derbyn profiadau dysgu diddorol ac ysgogol ac mae ansawdd yr arweinyddiaeth strategol yn dda”. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus. Ein gobaith yw y bydd dyddiau eich plentyn yn Ysgol Glanrafon yn llwyddiannus a hapus ac yn aros yn y cof am byth. Edrychaf ymlaen at gael cydweithio â chi, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau, cofiwch gysylltu â'r ysgol.

prosbectws yr ysgol

  • Upload
    tst

  • View
    248

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

prosbectws yr ysgol

Citation preview

Page 1: prosbectws yr ysgol

Annwyl rieni, Rydym yn hynod o falch eich bod yn ystyried Ysgol Gymraeg Glanrafon fel yr ysgol ar gyfer addysg gynradd eich plentyn. Mae rhieni am sicrhau addysg dda i'w plant ac am iddynt fod yn hapus a theimlo'n ddiogel. Yma yng Nglanrafon, credwn y gallwn gynnig hyn a mwy. Ymafalchïwn yn yr addysg eang, cytbwys a llawn a ddarparwn ac mae safonau uchel yr addysg a'r dysgu yn dwyn clod i waith caled y staff a'r disgyblion. Rydym yn falch hefyd o'r awyrgylch gyfeillgar, cydweithredol, diogel a hapus sydd yn nodweddau ein hysgol. Mae llawer o ymwelwyr i'r ysgol yn sôn am y croeso cynnes y maent yn ei gael yma ac am gwrteisi a boneddigeiddrwydd ein disgyblion. Yn ôl Adroddiad diweddaraf Estyn, mae Ysgol Glanrafon yn ysgol dda oherwydd “bod llawer o’r disgyblion yn cyflawni safonau da, yr addysgu yn gyson dda, y disgyblion yn derbyn profiadau dysgu diddorol ac ysgogol ac mae ansawdd yr arweinyddiaeth strategol yn dda”. Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn foddhaus. Ein gobaith yw y bydd dyddiau eich plentyn yn Ysgol Glanrafon yn llwyddiannus a hapus ac yn aros yn y cof am byth. Edrychaf ymlaen at gael cydweithio â chi, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau, cofiwch gysylltu â'r ysgol.

Page 2: prosbectws yr ysgol

YSGOL GYMRAEG GLANRAFON

2011 - 2012

Ysgol Gymraeg Glanrafon Lôn Bryn Coch Lane, Yr Wyddgrug/Mold, Sir y Fflint/Flintshire,

CH7 1PS.

Rhif ffôn a Ffacs 01352 700384 E-bost : [email protected] Pennaeth:- Miss Ll.M.Jones Dirprwy bennaeth Mrs E H Huws Pennaeth Adrannau dan 7 Mrs N. Gibson. Pennaeth Cyfnod Allweddol 2 Mrs G. Williams.

Cadeirydd y Llywodraethwyr Mrs Jill Blandford. Clerc y Llywodraethwyr Mr Gareth Warson. Ymgynghorydd Bugeiliol Mr. Dilwyn Jones, Adran Addysg Sir y Fflint Neuadd y Sir Yr Wyddgrug CH7 6ND 01352 704019 Cyfarwyddwr Addysg Mr Ian Budd, Adran Addysg Sir y Fflint Fel yr uchod

Page 3: prosbectws yr ysgol

STAFF : 2011-2012

Pennaeth: Miss Llinos Mary Jones. Dirprwy Bennaeth: Mrs Einir Haf Huws Pennaeth yr Unedau dan 7: Mrs Nesta Gibson. Pennaeth Cyfnod Allweddol 2: Mrs Gwenan Williams. Babanod: Mrs Catrin Morris Miss C.V.Evans Mrs Iona Davies/Mrs Lisa Davies

Mrs Rhian Jones. Miss D. Burford .

Adran Iau/: Mrs Menna Armstrong Mrs.Ann Giddins. Mrs G.Gatrell. Mr G.Ll.Jones. Anghenion Arbennig: Mrs.M.Roberts. Uned A.A.: Miss Marion Davies. Gweinyddesau Meithrin a chynorthwywyr dosbarth

Ms.Ann Joseph. Mrs.Nerys Roberts. Miss S Baines Mrs Delyth Barker. Mrs.Nerys Jones Mrs Deanna Lightfoot.

Mrs Jane Barlow. Mrs I. Pritchard. Mrs.Delyth Messum.

Miss Catrin James. Mrs S.Lawson. Mrs S.Barton. Mrs B.Lewis. Mrs E.Aitken. Mrs J. Owen. Athrawon offerynnol: Mrs.B.Crowder. Mrs A. Stanley. Mrs E.Roberts Mr J.Taylor Mr Jones. Athrawes fro Mrs Elfair Roberts. Ysgrifenyddes: Mrs. Glenda Jones. Gofalwr: Mr Bill Gilchrist Glanhawyr: Mrs Gwen Jones, Mrs Lesley Mather. Gofalwraig y Clwb ben bore ac ar ôl ysgol Mrs Rhian Gardner. Mrs Debbie Gaunt. Cynorthwywraig amser cinio Mrs Nerys Jones, Mrs J.Barlow. Mrs D.Lightfoot Mrs W. Aspinall.

Mr J. Mather Mrs.Done Carden

Page 4: prosbectws yr ysgol

Aelodaeth y Corff Llywodraethol – Governing Body membership

Apwyntiwyd

Cadeirydd: Jill Blandford 11/08 Cynrychiolydd y rhieni . Is-Gadeirydd Sheila Hughes 05/11 Cymunedol & A.D.Y Pennaeth: Llinos Mary Jones Gwenan Williams 10/07 Cynrychiolydd yr Athrawon Einir H Huws 10/08 Rachel Davies 10/08 Cynrychiolydd staff nad ydynt yn dysgu Kirsty Richards 11/08 Cynrychiolydd y Rhieni Adam Bright 11/08 Gareth Edwards 11/08 “ “ Nigel Gilkes 10/07 “ “ Dafydd Griffiths 06/09 Cymunedol Richard Knight 06/09 " " Gron Morris 01/09 " " Ffion Hampson 05/09 A.A.Ll. Ken Williams 06/09 A.A.Ll.

Douglas Goldsmith 06/09 A.A.Ll.

Dilwyn Jones Swyddog Cyswllt Gareth Watson Clerc

Page 5: prosbectws yr ysgol

AMCANION - AIMS

Mae'r ysgol hon yn amcannu at: 1. sicrhau fod pob plentyn yn cael cyfle i ddatblygu'n gymdeithasol, emosiynol ac addysgol. 2. ddi-wyllio'r plant. 3. gyflwyno'r gwerthoedd gorau a'r safonau uchaf posib i'r plant. 4. alluogi plant i wahaniaethu rhwng y drwg a'r da. 5. gyflwyno'r amrywiaeth ehangaf posib o brofiadau addysgol i'r plant. 6. ymgyrraedd at y nôd o sicrhau fod pob plentyn yn ddwyieithog erbyn iddo ef/hi adael yr ysgol. 7. feithrin plant llythrennog fydd yn meddu ar y sgiliau sy'n addas i'w hoed a'u gallu fel unigolion. 8. greu awyrgylch hapus a diogel o fewn yr ysgol. 9. greu sefyllfa lle y bydd y plant wrth eu boddau ynddi. 10. hybu cwrteisi ac arfer dda ymhlith y plant. 11. roi cyfle i'r plant gymryd rhan ac i gyfranogi mewn cymaint o amrywiol weithgareddau ag sydd bosib gan gynnwys rhai all-gyrsiol. 12. greu perthynas dda rhwng yr ysgol a'r rhieni a'r gymuned. 13. greu dinasyddion a fydd yn y dyfodol yn barod i ysgwyddo cyfrifoldebau. 14. wneud addysg yn brofiad gwerthfawr a chofiadwy ac yn bleser llwyr i bob plentyn.

Page 6: prosbectws yr ysgol

DERBYNIADAU

Derbynnir plant i'r Dosbarth Meithrin yn y flwyddyn ysgol y byddant yn bedair oed. Cynigir pump sesiwn yr wythnos o 8.50 i 11.30 a.m. Cyn i'r plant ddechrau, gwahoddir y rhieni i'r ysgol yn ystod tymor yr haf i dderbyn gwybodaeth, i weld yr Uned, cyfarfod aelodau'r staff a thrafod y trefniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd. Trefnir boreau agored i'r plant yn ystod y mis Gorffennaf cyn iddynt gychwyn. Yn unol â gofynion y Cyfnod Sylfaen, sy’n orfodol bellach i ddisgyblion Meithrin a Derbyn, gweithredir fel Uned ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar lle y caiff disgyblion y ddau oedran gyd-weithio’n glos trwy’r bore. Mae’r pwyslais yn y Cyfnod Sylfaen ar ddysgu trwy brofiad uniongyrchol ac ar gynnig amrywiaeth gyfoethog o brofiadau perthnasol i’r disgyblion. Caiff cynnydd pob plentyn ei fonitro’n ofalus. Ysgol gynradd swyddogol Gymraeg yw Ysgol Glanrafon (ar gyfer plant o 3 i 11 oed). Y Gymraeg yw'r unig gyfrwng addysgu yng nghyfnod allweddol 1 a’r Blynyddoedd Cynnar. Cyflwynir y Saesneg fel pwnc ar ôl i'r disgyblion drosglwyddo i'r adran iau (ar ddechrau Cyfnod Allweddol 2). Mae disgyblion yr ysgol hon yn dilyn yr un cwricwlwm Saesneg ag a wna disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Caiff y plant eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg ymhob pwnc ar wahan i’r Saesneg. Mae hon yn ysgol anenwadol.

Page 7: prosbectws yr ysgol

DIWRNOD YSGOL 8.50 - Dechrau'r diwrnod

10.30 - 10.45 - Amser chwarae

12.00 - 1.00 - Amser cinio

2.15 - 2.25 - Amser chwarae

2.25 - 3.00 - Babanod yn gorffen

2.25 - 3.15 - Adran Iau yn gorffen Byddwn yn gwerthfawrogi eich cyd-weithrediad i sicrhau bod eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn brydlon. Bydd yr athrawon yn swyddogol gyfrifol am bob plentyn 10 munud cyn dechrau a 10 munud wedi oriau ysgol. Cyn dod i mewn yn y bore, gofynnir i'r plant lunio llinellau taclus pan aiff y gloch - anwybyddir hynny ar ddiwrnodau glawog.

GWASANAETHAU Bydd yr ysgol yn dechrau gyda gwasanaeth neu fyfyrdod dyddiol. Dyma drefniadau'r defnydd o'r neuadd ar gyfer gwasanaethau. Llun - Canu emynau Mawrth - Emynau a myfyrdodau - Adran Iau. Mawrth - Gwasanaeth- Babanod.

Iau - Gwasanaeth – Cynradd

Gwener Gwasanaeth Uned y Blynyddoedd Cynnar Gwasanaeth Bl.1-6 Years 1-6 Service(p.m.)

Nid yw'r ysgol yn gysylltiedig ag unrhyw enwad penodol ond ceir perthynas dda rhwng yr ysgol a'r holl mannau o addoliad o fewn y gymdogaeth.

Page 8: prosbectws yr ysgol

GOFAL BUGEILIOL A DISGYBLAETH

Y mae yn yr ysgol reolaeth a disgyblaeth lwyr ar yr holl ddisgyblion. Caiff y plant eu cyflwyno ar unwaith i'r chwe rheol y mae disgwyl iddynt eu cadw sef y canlynol:- 1. Bod yn dyner a charedig heb frifo neb. 2. Gwrando a pheidio torri ar draws. 3. Bod yn onest, a dim rhegi. 4. Cerdded yn drefnus heb ruthro. 5. Gweithio’n galed a pheidio gwastraffu amser. 6. Dangos parch at yr ysgol a’i hamgylchfyd.

POLISI DISGYBLAETH Mae staff yr ysgol yn amcannu i:- (i) ddatblygu yn y plant, hunan ddisgyblaeth a pharodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb am eu gweithgareddau (ii) greu awyrgylch sy'n denu dysgu effeithiol ac sy'n annog parch rhwng unigolion. Credwn mai'r ffordd orau i gyflawni yr amcanion hyn yw trwy greu awyrgylch hapus lle mae plant yn abl i wneud eu gorau oddi mewn a thu allan i'r dosbarth a lle maent yn cael eu hannog i gyrraedd eu potensial. Pwysleisiwn bwysigrwydd yr agwedd bositif tuag at ymddygiad y plentyn a chaiff ymddygiad da ei wobrwyo trwy dderbyn Amser Aur yn llawn ar ddiwedd yr wythnos. Amser Aur yw’r amser a ddynodir i’r plant ar gyfer gweithgareddau pleserus. Os nad yw plentyn wedi llwydo i gadw at y rheolau bydd yn colli cyfran o’r amser hwnnw Caiff y polisi disgyblaeth ei fonitro a'i adolygu'n gyson.

CINIO YSGOL Darperir cinio yn yr ysgol. Bwydydd ffres yn unig a ddarperir. Rhowch wybod yn ysgrifenedig i'r gogyddes os yw eich plentyn ar ddeiet neu fwyd arbennig. Mae'n bosibl i'ch plentyn ddod â brechdanau a diod yn lle cael cinio ysgol. Gwnewch yn siwr, os gwelwch yn dda, fod y bwyd a'r diod mewn blychau na fydd yn torri. Gofynnir yn garedig i chi anfon yr arian cinio ar ddydd Llun yn unig ac i anfon yr union arian hyd y bo modd yn yr amlenni a gyflenwir o'r ysgol. Os oes gennych mwy nag un plentyn a phob un mewn dosbarth gwahanol, a fyddwch cystal ag anfon yr arian i bob dosbarth yn unigol. Os y byddwch yn talu â siec, mae'n hanfodol

eich bod yn ei gwneud allan i Gyngor Sir y Fflint.

Hwyrach y gellwch hawlio cinio ysgol rhad i'ch plentyn. Mae ffurflenni ar gael yn yr ysgol. Peidiwch ag oedi rhag ofn y bydd raid i chi dalu. Yn ystod yr awr ginio, mae'r plant dan ofal y pennaeth, neu'r dirprwy a phump o oruchwylwyr.

Page 9: prosbectws yr ysgol

SIOP YR YSGOL

Yn y siop a weithredir yn ystod yr amser chwarae boreol, gwerthir amrywiaeth o ffrwythau ffres a phecynnau o ffrwythau sych, bariau grawnfwyd a diod o sudd oren neu afal pur. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth i’n hymgyrch i hybu’r ysgol i fod yn ysgol iach. Ni chaniateir i blant fwyta melysion a chreision ar amseroedd chwarae.

DŴR YN Y DOSBARTH Caniateir i’r plant ddod â photeli (dim un wydr) o ddŵr i’r dosbarth i’w hyfed yn ôl y gofyn yn ystod y dydd. Gofynnir iddynt fynd â’r poteli gartref yn y pnawn a’u dychwelyd yn y bore. Caiff y plant ddod â diod arall ar gyfer yr amseroedd egwyl. Mae dau beiriant dŵr pwrpasol wedi'u Lleoli yn yr ysgol.

FFRINDIAU GLANRAFON Ceir Cymdeithas weithgar a llwyddiannus yn gysylltiedig â'r ysgol. Prif amcanion y gymdeithas hon yw annog cydweithrediad rhwng yr ysgol a'r rhieni, rhoi cyfle i'r rhieni ddod i adnabod ei gilydd ac i godi arian i brynu adnoddau ychwanegol i'r ysgol. Trefnir pob math o weithgareddau, e.e. ffeiriau, tripiau siopa, gweithgareddau cymdeithasol o bob math a.y.y.b. Mae croeso i bob un rhiant estyn cymorth i'r gymdeithas a gobeithiwn y byddwch yn barod i ymuno yn yr holl weithgareddau. Ceir cysylltiad arbennig o dda rhwng yr ysgol a’r cartref a sicrheir polisi o ddrws agored gan yr ysgol lle y mae’r rhieni yn teimlo’n gartrefol a chroesawgar. Ar y dudalen nesaf, gwelir copi o’n cytundeb Cartref/Ysgol a arwyddir gan y rhieni.

CODI TÂL Er mwyn galluogi i weithgareddau ac ymweliadau addysgol sy'n cyfoethogi gwaith y dosbarth, gymryd lle, gofynnir yn garedig am gyfraniadau tuag at y costau hynny oddi wrth y rhieni. Ni waherddir unrhyw blentyn o weithgaredd o'r fath os nad oes cyfraniad llawn wedi'i dderbyn. Os yw unrhyw weithgaredd yn golygu aros dros nos e.e. Glanllyn neu Langrannog, gall plant o deuluoedd sy'n derbyn atodiad incwm neu gredyd teulu hawlio ad-daliad ar y costau hyn. Mae ffurflen bwrpasol i’w harwyddo ar gael o’r ysgol er mwyn i’r gôst gael ei ad-dalu i’r ysgol a fydd wedi gwneud y taliad dros y plentyn hwnnw.

GWAITH CARTREF Rhoddir cyfle i'r disgyblion wneud tasgau fel gwaith cartref yn rheolaidd yn ogystal ag ymarfer darllen, a gofynnir am eich cefnogaeth i sicrhau fod y tasgau hyn yn cael eu cwblhau a bod y gwaith yn cael ei ddychwelyd i'r ysgol ar y diwrnod penodedig.

Page 10: prosbectws yr ysgol

GWISG YSGOL

Dyma fanylion am wisg yr ysgol: Cardigan/Siwmper Gwyrdd tywyll Crys Coch Sgert Gwyrdd Trowsus Llwyd Mae'r crysau chwys a pholo ar werth yn siop Forresters yn y dref. Rydym am i'r plant fod yn yn falch o'u gwisg ysgol, ac i ddangos balchder o fod yn rhan o Ysgol Gymraeg Glanrafon.

DILLAD ADDYSG GORFFOROL Crys T gwyn; Pympiau/Trainers/Esgidiau pêl droed. Trowsus byr du. Gwneir y gweithgareddau mewnol yn droednoeth. Gofynnwn i chi roi enw eich plentyn ar bob dilledyn. Mae hyn yn hanfodol

Gofynnir i'r plant ddod â dillad cynnes ar gyfer y gweithgareddau allanol.

rhag ofn i'r dillad fynd ar goll.

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cael cyfle i fynd i nofio yn eu tro.

Page 11: prosbectws yr ysgol

CLWB BEN BORE Mae’r Clwb Ben Bore ar agor o 7.45 a.m. i 8.50

Ceir yma hefyd gynllun Brecwast am Ddim sy’n weithredol o 8.30 – 8.40 a.m., lle mae cyfle i’r disgyblion sy’n dymuno cael brecwast am ddim gael hynny.

a.m. bob bore lle mae cyfle i’r plant gael eu gwarchod ac i gael lluniaeth ysgafn cyn i’r ysgol ddechrau. Y pris yw £3.50 y bore.

CLWB AR ÔL YSGOL

Mae Clwb ar gael i blant 4 - 11 oed rhwng 3 a 5.30 p.m. Mae'r plant dan ofal personau profiadol. Caiff plant o'r Meithrin fynychu yn ystod eu tymor olaf yno. Ni chaniateir i blant aros ymlaen ar ôl 5.30 pm.- mae prydlondeb yn hanfodol. Gofynnir i'r rhieni arwyddo cytundeb ar ddechrau cyfnod plentyn yn y Clwb.

PRESENOLDEB Disgwylir i'r plant fynychu'r ysgol yn rheolaidd ac yn brydlon. Os y gwelir fod problem gyda phresenoldeb trosglwyddir y mater i'r gweithiwr cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r ysgol. Nodir y pwysigrwydd o roi gwybodaeth swyddogol ynglyn ag unrhyw absenoldeb gan eich plentyn. Bydd yr ysgol yn cysylltu'n uniongyrchol â'r cartref, ac ystyrir unrhyw absenoldeb nad esbonnir fel un di-awdurdod. Os bydd eich plentyn yn gorfod gadael yr ysgol (e.e. ar gyfer apwyntiad) yn ystod yr oriau arferol, dylid hysbysu'r ysgol o hynny. Rhoddir caniatad ar y ddealltwriaeth fod rhaid i'r person sydd yn galw am y plentyn fod yn wybyddus i'r ysgol ac i'r plentyn.

SALWCH Mawr obeithir y bydd y disgyblion oll yn iach yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Pe na bai eich plentyn yn teimlo'n dda yn y bore cyn amser dod i'r ysgol, gofynnwn yn garedig i chi beidio a'i anfon ef/hi i'r ysgol y diwrnod hwnnw er mwyn osgoi unrhyw anesmwythyd i'r plentyn ac hefyd osgoi ymledu'r germau i'r disgyblion eraill. Gofynnir i chi am rifau ffôn cysylltiol ar ffurflen wybodaeth yn rheolaidd. Rhowch wybod i ni ar unwaith os oes unrhyw newid yn eich rhifau ffôn.

MEDDYGINIAETH A THABLEDI Nid ydym yn annog neb i ddod â thabledi a meddyginiaeth i'r ysgol er diogelwch i bawb. Gwerthfawrogem i'r rhieni eu hunain eu rhoddi i'r plant gartref neu ddod i’r ysgol i’w weinyddu. Mewn sefyllfaoedd unigryw yn unig, dylai rhieni gysylltu â'r pennaeth i drafod yr amgylchiadau ac i lenwi ffurflen briodol i arwyddo i roi caniatad ysgrifenedig i weini'r feddyginiaeth.

Page 12: prosbectws yr ysgol

Y GWASANAETH IECHYD MEWN YSGOLION CYNRADD

Mae gan Sir y Fflint Wasanaeth Iechyd Ysgolion cynhwysfawr sy'n cael ei ddarparu gan Ymddirieddolaeth Gwasanaeth Iechyd, Gogledd Ddwyrain Cymru. Nôd y gwasanaeth hwn yw hybu iechyd eich plentyn yn yr ystyr ehangaf a chanfod unrhyw broblemau iechyd a all ddatblygu. Y cysylltiad cynharaf gyda'r Gwasanaeth Iechyd Ysgolion yw drwy brif nyrs yr ysgol a/ neu'r meddyg ysgol. Mae'r ddau wedi arbenigo mewn meddygaeth addysgol, paediatreg y gymuned ac iechyd plant. Prif nyrs ysgol Gymraeg Glanrafon, Yr Wyddgrug yw Mrs Ceri Slawson, sydd wedi’i lleoli yn y clinig ym Mwcle. Gall yr arbenigwyr hyn gysylltu'n uniongyrchol gyda holl ardaloedd eraill Gwasanethau Iechyd Sir y Fflint ac asiantaethau eraill os bydd galw am hynny. Os bydd eich plentyn newydd ddechrau'r ysgol byddwch chi'n cael taflen yn amlinellu ystod llawn a chyfranogiad y Gwasaneth Iechyd Ysgolion. Mae'r taflenni hyn ar gael i blant hŷn gan y brif nyrs os gofynnwch amdanynt. Ni

fydd eich plentyn yn cael ei archwilio/harchwilio gan y meddyg ysgol heb eich caniatad, heblaw mewn argyfwng meddygol.

Mae pob cyfweliad iechyd yn gwbwl gyfrinachol

a gofynnir am eich caniatad cyn trafod unrhyw fater gyda staff addysgu'r ysgol. Yn amlwg, byddai'n fuddiol o safbwynt eich plentyn bod y staff addysgu'n ymwybodol o unrhyw gyflwr meddygol a all effeithio ar ei gynnydd/chynnydd yn yr ystafell ddosbarth.

Gwerthfawrogir yn fawr bresenoldeb y rhieni mewn cyfweliadau iechyd yn yr ysgol. Byddwch chi'n derbyn gwahoddiad ysgrifenedig a ffurflen ganiatad i chi ei harwyddo ymlaen llaw. Pan fydd eich plentyn yn y dosbarth Derbyn bydd y brif nyrs ysgol yn gwirio golwg, clyw, taldra a phwysau eich plentyn. Yn mlwyddyn 2, byddan nhw'n gwirio golwg, taldra a phwysau eich plentyn eto. Ar ôl hynny, bydd y brif nyrs ysgol yn ymweld yn rheolaidd i wirio iechyd cyffredinol y plant, i hybu ffordd o fyw iach ac i gysylltu â staff yr ysgol ynglyn ag unrhyw broblemau iechyd. Os bydd gennych unrhyw bryderon ynglyn ag unrhyw un o'ch plant, gallwch gysylltu â phrif nyrs yr ysgol ar unrhyw adeg, i'w trafod.

Page 13: prosbectws yr ysgol

EIDDO PERSONOL

Gofynnir yn garedig i chi sicrhau na fydd eich plentyn yn dod â mân eitemau personol (e.e. bathodynnau, gemwaith, teganau a.y.y.b.) efo nhw i'r ysgol rhag ofn iddynt fynd ar goll. Gall colli mân eitemau felly beri cryn ddiflastod i blant, ac felly, byddem yn gwerthfawrogi eich cyd-weithrediad yn hyn o beth yn fawr iawn.

Page 14: prosbectws yr ysgol

Y CWRICWLWM

Bydd blynyddoedd dysgu o fewn yr ysgol yn cyd-weithio'n glos ac agos wrth gynllunio a pharatoi gwaith ar gyfer y dosbarthiadau fel a ganlyn:-

Trefniadaeth- Organisation

Uned y Blynyddoedd Cynnar – Meithrin a Derbyn. Uned dan 7 – Blwyddyn 1 a 2 Blwyddyn 3 a 4

Blwyddyn 5 a 6 Yn ogystal â'r cyfarfodydd athrawon llawn, cynhelir cyfarfodydd adrannol hefyd yn gyson gydag athrawon y Blynyddoedd Cynnar, athrawon yr Uned dan 7 yn cyfarfod fel adran ac athrawon Cyfnod Allweddol 2 hwythau'n cyfarfod fel adran. Wrth gyflwyno'r cwricwlwm o fewn y dosbarth, defnyddir cyfuniad o ddulliau sef dosbarth cyfan; gwaith grŵp; gwaith pâr ac unigol. Cyflwynir llawer o'r gwaith a wneir yn y dosbarth o fewn thema dymhorol (Bl. 5 a 6) neu hanner dymhorol (Bl.3 a 4; 1 a 2 ac Uned y Blynyddoedd Cynnar). Pan nad yw'r gwaith yn ffitio i'r thema, bydd pynciau megis Mathemateg a Gwyddoniaeth yn sefyll ar eu pennau eu hunain. Yn y Blynyddoedd Cynnar a’r adran dan 7 (4- 7 oed)

gosodir prif sylfeini'r profiadau dysgu. Bydd pwyslais ar ddatblygu'r sgiliau hanfodol, sef cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd. Trwy ddarparu cwricwlwm cyfoethog ac eang gan ddefnyddio ymagwedd integredig, anelwn at ddatblygu diddordebau'r plant tra'n cydnabod hefyd lefel eu haeddfedrwydd. Mae'r blynyddoedd hyn yn bwysig, pan fydd plant yn dysgu sut i arsylwi, gwrando, ymateb a datblygu, nid yn unig fel unigolion ond hefyd fel aelodau gofalgar o'n cymuned. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn statudol ar gyfer disgyblion y Meithrin o Fedi 2008.

Yng Nghyfnod Allweddol 2 (8-11 oed)

bydd sgiliau hanfodol megis cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn ganolbwynt i'n cwricwlwm. Ond wrth i'w dealltwriaeth o'r disgyblaethau gwahanol ddatblygu, caiff mwy o amser ei roi i wyddoniaeth a'r pynciau sylfaenol eraill. Bydd y cwricwlwm yn parhau i gael ei gynnal o fewn thema integredig lle y bo hynny'n ystyrlon ac yn berthnasol.

Caiff y plant eu hannog i ddatblygu hunan-hyder, annibyniaeth wrth ddysgu a sgiliau uwch mewn amrywiaeth o sefyllfaeodd. ` Yng nghorff y cynlluniau gwaith a weithredir yn seiliedig ar y Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig ers Medi 2008, rhoddir lle priodol i'r canlynol hefyd : - Datblygu meddwl – cynllunio, datblygu a myfyrio. Datblygu cyfathrebu – llafaredd, darllen, ysgrifennu a chyfathrebu ehangach. Datblygu TGCh – darganfod, datblygu, creu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau. Datblygu rhif – defnyddio gwybodaeth fathemategol, cyfrifo, dehongli a chyflwyno casgliadau. Cwricwlwm Cymreig. Addysg bersonol a chymdeithasol. Ymfalchïwn yn y ffaith y darperir cwricwlwm eang a chytbwys yma yn Ysgol Glanrafon.

Page 15: prosbectws yr ysgol

DOGFENNAU

Ceir copiau o ddogfennau cwricwlaidd yn yr ysgol, a phe dymunai unrhyw un eu gweld a'u trafod, mae croeso i chi wneud hynny trwy gysylltu â'r ysgol a rhoi o leiaf 3 diwrnod o rybudd o'ch bwriad i ddod i weld unrhyw ddogfenaeth. O fewn y Corff Llywodraethol, ceir is-bwyllgor y Cwricwlwm sy'n cyfarfod yn rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i'r Corff Llywodraethol llawn. IAITH - CYMRAEG A SAESNEG

(C.A.2)

Yn y Cyfnod dan 7, bydd y disgyblion yn: - cael eu trochi mewn profiadau a gweithgareddau iaith. - datblygu eu sgiliau trwy siarad, defnyddio iaith arwyddo/cyfathrebu a

gwrando. - cael eu hannog i gyfleu eu hanghenion, eu teimladau a’u meddyliau,

ailadrodd profiadau, a thrafod gweithgareddau chwarae unigol ac mewn grŵp.

- cyfeirio at eu bwriadau trwy ofyn cwestiynau, lleisio/mynegi barn, a gwneud dewisiadau,

- cael eu hannog i wrando ar eraill ac ymateb iddynt,ynghyd ag ymateb i’r amrywiaeth o brofiadau ac i ystod o symbyliadau,

- cael cyfle i ddewis a defnyddio deunyddiau darllen yn ogystal â deall y confensiynau sy’n gysylltiedig â phrint a llyfrau, a chael ystod eang o gyfleoedd i fwynhau gwneud marciau a phrofiadau ysgrifennu.

Yng Nghyfnod Allweddol 2 (mewn Cymraeg a Saesneg), bydd y cynnydd yn cael ei gyflawni trwy gyfrwng rhaglenni integredig mewn llafaredd, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Bydd y disgyblion yn:

- datblygu i fod yn siaradwyr hyderus, trefnus a diddorol wrth weithio fel unigolion ac aelodau o grŵp.

- cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau drama a chwarae rôl. - datblygu i fod yn wrandawyr gweithredol ac ymatebol mewn ystod eang o

sefyllfaoedd. - cael profiad o ystod gynyddol eang o destunau ymestynnol a hynny ar

gyfer mwynhad a datblygu gwybodaeth. - datblygu i fod yn ysgrifenwyr cymwys sy’n ysgrifennu’n glir a chydlynus

mewn ystod o ffurfiau ac at ystod o ddibenion. - meithrin dealltwriaeth gynyddol o’r angen i addasu’u hiaith i gyd-fynd â

phwrpas a chynulleidfa. - yn dangos cywirdeb cynyddol wrth weithio, ac yn ystyried a gwerthuso eu

cyraeddiadau eu hunain a chyraeddiadau pobl eraill.

Yn yr adrannau dan 7, bydd y disgyblion yn: MATHEMATEG

• datblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o fathemateg trwy weithgareddau llafar, ymarferol a chwarae.

• mwynhau defnyddio a chymhwyso mathemateg mewn tasgau ymarferol, yng nghyd-destun bywyd go iawn, ac o fewn mathemateg ei hun.

Page 16: prosbectws yr ysgol

• defnyddio amrywiaeth o adnoddau TGCh fel dulliau archwilio rhif, cael data bywyd go iawn a chyflwyno eu casgliadau.

Bydd y disgyblion yn: - defnyddio iaith fathemategol briodol i egluro eu ffordd o feddwl. - datblygu ystod o ddulliau ar gyfer gwneud gwaith pen gyda rhifau, ac yn symud ymlaen i ddulliau cofnodi mwy ffurfiol pan fyddant yn barod i wneud hynny o safbwynt eu datblygiad. - archwilio, yn amcangyfrif ac yn datrys problemau go iawn yn amgylchedd yr ysgol ac yn yr awyr agored. - datblygu eu dealltwriaeth o fesurau, archwilio priodweddau siapiau ac yn datblygu cysyniadau cynnar ynghylch safle a symud trwy brofiadau ymarferol. - didoli, yn paru, yn trefnu ac yn cymharu gwrthrychau a digwyddiadau, yn archwilio a chreu patrymau a pherthnasoedd syml, ac yn cyflwyno eu gwaith mewn amrywiaeth o ffyrdd. . Yng Nghyfnod Allweddol 2, mae’r disgyblion yn parhau i ddatblygu agweddau cadarnhaol at fathemateg ac yn estyn eu meddwl mathemategol trwy ddatrys problemau, cyfathrebu a rhesymu’n fathemategol gan ddefnyddio cyd-destunau ar draws yr ystod gyfan o fathemateg, ar draws y cwricwlwm fel y bo’n gymwys i broblemau bywyd go iawn. Byddant yn

• estyn eu defnydd o’r system rif, gan symud i gyfrifo’n rhugl gan ddefnyddio’r pedair rheol, gan gynnwys arian.

• datrys problemau trwy fathemateg pen, ac yn defnyddio dulliau ysgrifenedig sy’n briodol i’w lefel dealltwriaeth.

• datblygu strategaethau amcangyfrif a’u defnyddio i wirio cyfrifiadau, yn ysgrifenedig ac ar gyfrifiannell.

• archwilio amrywiaeth o siapiau ac yn defnyddio ystod o unedau ac offer ymarferol yn fwyfwy manwl a chywir.

• casglu, cynrychioli a dehongli data at amryw ddibenion • dewis, trafod, esbonio a chyflwyno dulliau a’u rhesymu gan ddefnyddio ystod

gynyddol o iaith, diagramau a siartiau mathemategol.

Yn yr adrannau dan 7, daw Gwyddoniaeth (ynghyd â Hanes a Daearyddieth) yn ran o faes Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd. Yn y maes hwn, caiff y disgyblion:

GWYDDONIAETH

- brofi’r byd cyfarwydd trwy ymholi ac ymchwilio’r amgylchedd dan do a’r awyr agored,

- gynyddu eu chwilfrydedd ynghylch y byd sydd o’u cwmpas, - ddeall digwyddiadau’r gorffennol, pobl a lleoedd, pethau byw, a’r gwaith

mae pobl yn wneud, - gyfleoedd i archwilio, ymholi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i

atebion, - ddysgu dangos gofal, cyfrifoldeb, consyrn a pharch at bob peth byw a’r

amgylchedd, - fynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a’u teimladau eu hunain gan ddangos

dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd, - ddefnyddio ffynnonellau megis storiau, ffotograffau, mapiau, modelau a

TGCh.

Page 17: prosbectws yr ysgol

Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd y disgyblion yn:

- perthnasu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wyddonol i fywyd bob dydd, gan gynnwys materion cyfredol,

- cydnabod bod modd gwerthuso syniadau gwyddonol trwy’r wybodaeth a gasglwyd o arsylwadau a mesuriadau,

- rheoli eu dysgu eu hunain a datblygu strategaethau dysgu a meddwl sy’n briodol i’w datblygiad,

- gwerthfawrogi safbwyntiau pobl eraill a dysgu sut i fod yn ddinasyddion lleol cyfrifol

Yn yr adrannau dan 7, mae’r sgiliau dylunio a gwneud disgyblion yn cael eu datblygu trwy ddefnyddio gwybodaeth i greu syniadau, sy’n arwain at gyfleoedd gwneud ysgogol a chreadigol ar draws y Meysydd Dysgu.

DYLUNIO A THECHNOLEG

Yng Nghyfnod Allweddol 2, caiff y disgyblion eu haddysgu i ddylunio a gwneud cynhyrchion syml trwy gyfuno’u sgiliau dylunio a gwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth, a hynny mewn cyd-destunau sy’n cefnogi’u gwaith mewn pynciau eraill. Mae’r disgyblion yn ymwybodol o’r hyn y mae pobl wedi’i gyflawni ac o’r syniadau mawr sydd wedi dylanwadu ar y byd. Cant eu hannog i fod yn greadigol ac yn arloesol wrth ddylunio a gwneud, ac i fod yn ymwybodol o faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a’r amgychedd yn yr unfed ganrif ar hugain.

Yn yr adrannau dan 7, bydd y disgyblion yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â TGCh trwy ystod o brofiadau sy’n rhoi cyfle iddynt ddarganfod a datblygu, a chreu a chyflwyno gwybodaeth a syniadau.

TECHNOLEG GWYBODAETH

Yng Nghyfnod Allweddol 2, mae’r disgyblion yn cael eu haddysgu i ystyried y math o wybodaeth sydd ei angen arnynt i gefnogi eu tasgau a’u gweithgareddau, a sut i ddod o hyd i’r wybodaeth honno. Defnyddiant ystod gynyddol o offer ac adnoddau TGCh i ddarganfod, prosesu a throsglwyddo gwybodaeth berthnasol o amrywiaeth o ffynonellau penodol diogel ac addas. Byddant yn datblygu a chyfleu eu syniadau mewn ffyrdd priodol gan ddatblygu ymdeimlad o ddiben cynulleidfa.

Ceir polisi Defnyddio Derbyniol Cyfathrebu Electronig yn ôl y gofynion statudol yn yr ysgol. Mae copi ar gael yn yr ysgol pe y dymunech ei weld. Ynddo rhoddir pwyslais ar ddiogelu plant yn llwyr wrth ddefnyddio'r Rhyngrwyd. Gofynnir i’r disgyblion a’r rhieni arwyddo cytundeb i nodi eu dealltwriaeth o ofynion y polisi er mwyn sicrhau diogelwch pob disgybl.

DEFNYDDIO'R RHYNGRWYD

Disgyblion dan 7 – gweler Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd HANES

Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd y disgyblion yn:

- cael profiadau sy’n gwneud hanes yn ddiddorol, arwyddocaol ac yn rhywbeth i’w fwynhau,

Page 18: prosbectws yr ysgol

- datblygu chwilfrydedd am y gorffennol a’r ffyrdd mae’r gwahanol gyfnodau yn wahanol i’w gilydd ac i’r presennol,

- ymholi am ffyrdd o fyw gwahanol bobl yn y cyfnodau hanesyddol hynny, gan gyfeirio at ddatblygiadau pwysig, digwyddiadau allweddol a phobl nodedig yr ardal, yng Nghymru a Phrydain,

- cymryd rhan mewn ymholiadau hanesyddol ysgogol a chlir eu ffocws, gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau,

- trefnu a chyfleu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mewn amrywiaeth gynyddol o ffyrdd.

Disgyblion dan 7 – gweler Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd. DAEARYDDIAETH

Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd y disgyblion yn:

- ysgogi diddordeb mewn lleoedd a’r byd o’u cwmpas, ac yn meithrin ymdeimlad o ryfeddod y mannau hynny,

- astudio eu cymdogaeth eu hunainyng Nghymru, y byd ehangach, gwahanol amgylcheddau a digwyddiadau yn y newyddion ac yn datblygu dealltwriaeth o sut le ydyn nhw a sut a pham y byddant yn newid,

- cael profaid o weithgareddau ymarferol a gwaith ymchwil yn y dosbarth a’r awyr agored, ac yn datblygu sgiliau i gasglu a gwneud synnwyr o wybodaeth, defnyddio mapiau, meddwl yn greadigol a rhannu syniadau wrth drafod,

- ystyried materion pwysig am eu hamgylchedd ac yn cydnabod sut y bydd pobl o bob cwr o’r byd wedi’u cysylltu â’i gilydd,

- cael eu hannog i ddeall pwysigrwydd cynaliadwyedd, datblygu pryder gwybodus am ansawdd eu hamgylchedd, a chydnabod eu bod yn ddinasyddion byd-eang.

Yn yr adrannau dan 7, daw Celf a Dylunio (ynghyd â Cherddoriaeth) yn ran o faes Datblygiad Creadigol. Yn yr adrannau hyn,

CELF A DYLUNIO

- mae chwilfrydedd a thuedd naturiol y disgyblion i ddysgu yn cael eu symbylu gan brofiadau synhwyraidd pob dydd, a hynny dan do ac yn yr awyr agored,

- mae’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol dychmygus a mynegiannol ym maes celf, dylunio, cerddoriaeth, dawns a symud,

- mae’r disgyblion yn archwilio ystod eang o symbyliadau, ac yn datblygu eu gallu i gyfleu a mynegi eu syniadau creadigol ac i fyfyrio ynghylch eu gwaith.

Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd y disgyblion yn:

- ymwneud â gwaith artistiaid, crefftwyr a dylunwyr, cynnal ymchwiliadau creadigol a gwneud eu gwaith eu hunain,

- cael eu herio i lunio barn wybodus a gwneud penderfyniadau ymarferol, - defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a phrosesau , - cyfleu syniadau a theimladau trwy gyfrwng iaith weledol, cyffyrddol a

synhwyrol.

Page 19: prosbectws yr ysgol

Disgyblion dan 7 – gweler Datblygiad Creadigol. CERDDORIAETH

Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd y disgyblion yn;

- cymryd rhan mewn gwaith perfformio, cyfansoddi a gwerthuso cerddoriaeth,

- datblygu sgiliau cerddorol sy’n ymwneud â rheoli, trin a chyflwyno sain sy’n cynnwys canu, chwarae offerynnau ac ymarfer, creu cerddoriaeth yn fyrfyfyr, cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth a gwrando ar gerddoriaeth a’i werthuso,

- gwella’u gwaith perfformio, cyfansoddi a gwerthuso trwy ddatblygu a defnyddio’u meddwl a’u sgiliau cyfathrebu, gan roi ystyriaeth briodol i iechyd a diogelwch.

Yn yr adrannau dan 7, cyfeirir at y maes hwn fel Datblygiad Corfforol a Chreadigol. ADDYSG GORFFOROL

Bydd y disgyblion yn : - cael eu hannog yn barhaol i ddefnyddio’u cyrff yn effeithiol trwy godi eu

hymwybyddiaeth ofodol, eu cydbwysedd, eu rheolaeth a’u sgiliau cydsymud a datblygu eu sgiliau echddygol a llawdriniol, trwy ddefnyddio offer mawr a bach ar draws yr holl feysydd dysgu, a hynny dan do ac yn yr awyr agored,

- cael eu hannog i fwynhau gweithgarwch corfforol, - cael eu cyflwyno i’r cysyniadau sy’n ymwneud ag iechyd, hylendid a

diogelwch, a phwysigrwydd deiet, gorffwys, cysgu ac ymarfer corff, - datblygu eu dychymyg a’u creadigrwydd ar draws y cwricwlwm a’u

symbylu gan brofiadau synhwyraidd bob dydd, dan do ac yn yr awyr agored,

- cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol , dychmygus a mynegiannol ym maes celf, crefft, dylunio, cerddoriaeth, dawns a symud,

- archwilio ystod eang o symbyliadau a datblygu eu gallu i gyfleu a mynegi eu syniadau creadigol, a myfyrio ynghylch eu gwaith.

Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd y disgyblion yn:

- cael eu hannog i archwilio a datblygu y sgiliau corfforol sy’n hanfodol i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau,

- cael cyfle i fod yn greadigol a dychmygus mewn gweithgareddau gymnasteg a dawns,

- dysgu sut i nofio, bod yn ddiogel a theimlo’n hyderus yn y dŵr a sut i ddarllen map neu ddilyn llwybrau mewn gweithgareddau antur,

- cael cynnig i ddysgu sgiliau gemau a chwarae mewn tîm mewn gweithgareddau cystadleuol,

- dechrau deall bod Addysg Gorfforol yn ymwneud â dysgu sut i deimlo’n iach a pharhau’n ffit.

Y mae Addysg Grefyddol yn rhan o broses addysg eang sy'n helpu plant a phobl ifanc

ADDYSG GREFYDDOL

i ddeall y byd, ac i'w galluogi i addasu eu hunain iddo. Er mwyn cyrraedd yr amcan dylai Addysg Grefyddol alluogi pob plentyn i ennill:-

Page 20: prosbectws yr ysgol

- gwybodaeth a dealltwriaeth o gredoau ac ymarferion crefyddol; - gwerthfawrogiad o’r perspectif crefyddol ar gwestiynau mawr bywyd ynghyd a sefyllfaoedd moesol a phynciau cyfoes; - y cyfle i ffurfio barn a datblygu credoau, gwerthoedd a ffordd o fyw fydd yn rhoi dealltwriaeth a phwrpas i fywyd. Mae gan rieni yr hawl i wneud cais i'w plentyn/plant gael eu heithrio o'r gwersi os yw eu mynychu yn groes i'w crêd, ond rhaid gwneud hynny’n ffurfiol i’r pennaeth trwy ddatganiad ysgrifenedig. Gweler hefyd drefniant ein gwasanaethau crefyddol.

Page 21: prosbectws yr ysgol

ADDYSG RHYW A PHERTHNASOEDD Cyflwynir Addysg Rhyw i'r plant yng nghyd-destun y Cwricwlwm Cenedlaethol, a gwneir defnydd o raglen SENSE. Mae i Addysg Bersonol a Chymdeithasol le amlwg yn hyn hefyd. Dysgant am yr 'hunan' yn gyffredinol - sut mae'r corff yn gweithio, y synhwyrau, y teimladau, pwysigrwydd parch at yr hunan ac at eraill. Pan gyflwynir yr agweddau hyn rhoddir pwyslais ar bwysigrwydd gwerthoedd moesol a chariad. Mae copi o bolisi Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ar gael i’w astudio yn yr ysgol.

DEFNYDD O'R GYMRAEG Y Gymraeg yw prif gyfrwng yr addysgu yn Ysgol Glanrafon a disgwylir i bob plentyn fod yn gwbl ddwyieithog erbyn y bydd ef/hi yn gadael yr ysgol. Ymfalchwn wrth i'r plant ddangos parch at yr iaith Gymraeg a dangos balchder yn eu hetifeddiaeth Gymreig.

CYFLE CYFARTAL Ymfalchïwn yn y ffaith fod pob plentyn ac oedolyn yn cael eu trin yn gyfartal yn yr ysgol hon ac na wahanieithir ar unrhyw sail

o gwbl mewn unrhyw weithgaredd o fewn yr ysgol.

Os yw anabledd plentyn yn ddigon dwys i beri ei fod ef/hi angen cymorth ychwanegol o fewn y dosbarth, caiff hynny ei sicrhau. Lleolir uned Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer ysgolion cynradd Cymraeg y sir o fewn yr ysgol hon, a darparwyd mynedfa i alluogi i gadair olwyn ddod i mewn i'r adeilad trwy ddrws sy'n arwain i'r ystafell honno. Mae Cynllun Mynediad wedi’i baratoi gan yr ysgol. Mae man penodol ar gyfer parcio i’r anabl ar fuarth yr ysgol. Addaswyd prif fynedfa'r ysgol ar gyfer yr anabl. Sicrheir na chaif unrhyw blentyn ag anabledd o unrhyw fath, ei drin yn wahanol i unrhyw blentyn arall o fewn yr ysgol.

Page 22: prosbectws yr ysgol

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Gan nad yw pob plentyn yn datblygu gyda’r un cyflymder neu'n cyrraedd y lefel a ddisgwylir, mae gennym drefn i adnabod problemau/anawsterau dysgu. Gallwn yna gynnig hyfforddiant ychwanegol, arbenigol i gynorthwyo'r plentyn. Yn arferol, fe wneir hyn mor ddi-lol â phosibl trwy dynnu'r plentyn o'r dosbarth am gyfnod(au) efo'r athrawes Anghenion Arbennig mewn awyrgylch briodol a chroesawus. Bydd yr athrawes hithau o bryd i’w gilydd yn gweithio o fewn y dosbarthiadau. Lleolir uned Anghenion Arbennig ar gyfer plant ag anawsterau dysgu dwys i wasanaethu ysgolion cynradd Cymraeg Sir y Fflint yn llawn amser o fewn yr ysgol hon. Mae copi cyflawn o'r polisi Anghenion Addysgol Arbennig. ar gael yn yr ysgol a phe dymunech ei weld, mae croeso i chi ddod i'w drafod yn yr ysgol.

1. Bod yn ymwybodol y gall anawsterau dysgu ddelio â ffactorau meddyliol, Amcanion y Polisi

corfforol, emosiynol neu gymdeithasol. 2. Adnabyddiaeth gynnar o bob plentyn sydd ag anawsterau dysgu 3. Rhoi'r mynediad ehangaf posib i'r plentyn ag A.A.A. i waith y cwricwlwm

cenedlaethol. 4. Sicrhau bod y ddarpariaeth yn ateb gofynion y plentyn. 5. Gweithio mewn partneriaeth â rhieni. 6. Bod yn ymwybodol o ddymuniadau a theimladau'r plentyn. 7. Cydweithio â'r Corff Llywodraethol yn enwedig y llywodraethwr sydd â

chyfrifoldeb am A.A. 8. Cadw cysylltiad agos â'r A.A.LL. ac asiantaethau eraill. 9. Cadw cofrestr o'r plant sydd wedi'u hadnabod. Os oes disgyblion yn derbyn sesiynau o hyfforddiant oddi wrth yr athrawes Anghenion Arbennig, cynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd gyda'r rhieni i drafod datblygiad y plant hynny, a chynhelir arolwg ddwywaith y flwyddyn.

TREFN CODI CŴYN Pan fo angen codi cŵyn ynglyn ag unrhyw agwedd o waith/bywyd yr ysgol, dylid gwneud hynny trwy gysylltu â'r Pennaeth. naill ai’n llafar neu’n ysgrifenedig. Gall cwynion o'r fath fod yn gysylltiedig â'r Cwricwlwm, disgyblaeth neu unrhyw agwedd arall sy'n ymwneud â'r plentyn. Os na chewch chi'ch bodloni, trosglwyddir y mater i is-bwyllgor Codi Cŵyn y Corff Llywodraethol. Mae copi llawn o’r gweithdrefnau codi cŵyn ar gael yn yr ysgol os y dymunwch dderbyn un.

DIOGELWCH Mae'r system ddiogelwch effeithiol mewn grym tra bo'r disgyblion a'r staff tu mewn i'r adeilad, a chaiff y digsyblion eu harolygu gan oedolion bob tro y byddant y tu allan i'r adeilad. Cynhelir ymarferion tân yn dymhorol. Ystyrir diogelwch y plant a’r oedolion fel un o brif flaenoriaethau’r ysgol.

Page 23: prosbectws yr ysgol

NODAU A DARPARIAETH YR YSGOL AR GYFER CHWARAEON Mae pwyslais mawr yn yr ysgol hon ar annog yr holl disgyblion, boed ferched neu fechgyn i fagu ffitrwydd. Gwneir hyn trwy gyfrwng y gwersi Addysg Gorfforol a Chwaraeon ynghyd â chystadlaethau a thwrnamentau o bob math megis pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi, traws gwlad, nofio, rownderi, athletau a.y.y.b. Ceir cymorth ychwanegol yn y maes hwn, yn arbennig wedi oriau ysgol, gan rieni a charedigion o du allan i staff sefydlog yr ysgol. Cynhelir amrywiol glybiau chwaraeon cyn ac ar ôl ysgol yn wythnosol. Ceir cyflenwad o offer a ddefnyddir gan y disgyblion ar amseroedd chwarae, ac mae’r ysgol wedi buddsoddi’n eang i sicrhau offer dringo a ffitrwydd ar gyfer yr holl ddisgyblion ar gyfer amseroedd chwarae. Bydd y gwersi gymnasteg, symud a dawns yn digwydd yn neuadd yr ysgol - a hynny yn droednoeth. Bydd gweithgareddau megis sgiliau pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi, hoci, athletau a.y.y.b. yn cael eu cyflawni tu allan. Caiff disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gyfle i dderbyn hyfforddiant mewn nofio yn eu tro ym mhwll nofio'r dref. Y nod yw sicrhau y bydd bob plentyn yn medru nofio o leiaf 25m erbyn y bydd ef/hi yn symud ymlaen i addysg uwchradd.

GWEITHGAREDDAU ALL-GWRICWLAIDD Rhoddir cryn bwyslais ar sicrhau bod ein disgyblion oll, yn ddiwahan, yn cael profiad o amrywiaeth eang o weithgareddau all-gyrsiol megis ymweliadau addysgol yn lleol a chenedlaethol, ymwelwyr â’r ysgol a phrofiadau cyfoethog ac amrywiol tu fewn a thu allan i furiau’r ysgol. Ni waherddir unrhyw ddisgybl o weithgareddau o’r fath os nad oes cyfraniad wedi’i wneud tuag at gostau digwyddiadau fel hyn. Mae gan yr ysgol ei pholisi ar godi tâl, ac mae copi ohono ar gael yn yr ysgol. Yn ystod eu cyfnod ym Mlwyddyn 4 aiff y disgyblion i Lan-llyn , i Gaerdydd ym Mlwyddyn 5 ac i Langrannog ym Mlwyddyn 6. Mae ad-daliadau ar gael ar gyfer yr ymweliadau hyn.

DIOGELWCH Y FFORDD Diogelwch y plant sy'n flaenllaw yn ein meddyliau a gofynnwn yn daer i chi ystyried yr awgrymiadau canlynol yn ddwys iawn os gwelwch yn dda:- 1. Peidiwch â dod a modur i mewn i fuarth yr ysgol ar unrhyw adeg

2. Peidiwch â pharcio yn y man-parcio bysiau.

yn ystod y dydd.

3. Peidiwch â pharcio o fewn hyd pedwar car i gatiau'r ysgol ar unrhyw bryd. 4. Peidiwch â pharcio ym mynedfa y tai cyfagos. Rydym yn ymwybodol o'r problemau a gewch ar ddiwedd dydd, ond byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe baech yn ymateb yn gadarnhaol i'r dymuniad hwn.

Page 24: prosbectws yr ysgol

ADDYSG UWCHRADD

Pan fydd eich plentyn ym mlwyddyn olaf ei addysg gynradd, byddwch yn derbyn pecyn cynhwysfawr o wybodaeth am addysg uwchradd o fewn y sir. Mae'r ffurflen angenrheidiol yn rhan o'r pecyn hwn. Dylid llenwi'r ffurflen a'i dychwelyd i'r ysgol cyn diwedd tymor y Nadolig i alluogi'r ysgol ei hanfon ymlaen i'r Awdurdod Addysg. Bydd disgyblion Ysgol Glanrafon yn trosglwyddo i Ysgol Maes Garmon ac mae cysylltiadau agos iawn rhwng y ddwy ysgol. Bydd y disgyblion a fydd yn trosglwyddo i Faes Garmon yn treulio deuddydd yn yr ysgol yn ystod Tymor yr Haf. Yn ogystal â hyn, cynhelir cwrs pontio preswyl yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog yn ystod y tymor hwnnw. Bydd disgyblion Blwyddyn 7 o Faes Garmon ar y cwrs hwnnw hefyd.

DIWEDDGLO Trwy gyfrwng y llyfryn hwn, cafwyd bras-olwg ar Ysgol Gymraeg Glanrafon, Yr Wyddgrug yn ei chyfanrwydd. Mae croeso i chi droi i mewn i ymweld â ni unrhyw amser ar ôl gwneud trefniant ymlaen llaw. Byddwn yn llawen i gael sgwrs â chi am yr ysgol a'i threfniadau. Bydd croeso mawr yn aros eich plentyn hefyd pan ddaw o/hi i'r ysgol yn ddisgybl, oherwydd y mae Ysgol Glanrafon yn sefydliad hapus a chartrefol, lle y ceir awyrgylch gynnes a chyfeillgar. Oherwydd hynny, mae'r disgyblion yn cael eu meithrin i roi o'u gorau ac i barchu'r ysgol a phopeth sy'n gysylltiedig â hi.

DIOLCH I CHI AM ROI O’CH HAMSER I DDARLLEN AM

YSGOL GLANRAFON, YR WYDDGRUG.

YSGOL GLANRAFON, MOLD.