25
SXTO Cwmni Theatr Arad Goch 2014 SXTO Cwmni Theatr Arad Goch Hydref-Tachwedd 2014 Mae’r cwmni yn gwerthfawrogi cefnogaeth bwysig Cyngor Celfyddydau Cymru. Cefnogir gwaith y cwmni mewn ysgolion gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro. Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi i ddod â’n gwaith i chi.

Cwmni Theatr Arad Goch - WordPress.com...SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014 Pethau i’w cofio Diolch am ein croesawu i’ch ysgol eto. Hon ydy’r drydedd gwaith i’r cynhyrchiad

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    SXTO Cwmni Theatr Arad Goch

    Hydref-Tachwedd 2014

    Mae’r cwmni yn gwerthfawrogi cefnogaeth bwysig Cyngor Celfyddydau Cymru.

    Cefnogir gwaith y cwmni mewn ysgolion gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro.

    Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi i ddod â’n gwaith i chi.

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    SXTO. Sgript: Bethan Gwanas Cyfarwyddydd: Angharad Lee Cyfarwyddydd Cynorthwyol: Matthew Jones Yr Actorion: Lowri - Nia Ann Jen - Lowri Sion Gav - Endaf Eynon Davies Meic - Dion Lloyd Jones Rheolwyr Llwyfan / Gareth Wyn Roberts Technegwyr ar daith: Eirian Evans Cynllunio set a gwisgoedd: Cordelia Ashwell Pecyn Adnoddau: Jeremy Turner Lluniau: Keith Morris Aelodau Cwmni Theatr Arad Goch yw: Jeremy Turner Cyfarwyddydd Artistig Mari Rhian Owen Actores / athrawes Nia Wyn Evans Rheolwr Gweinyddol Rhys Hedd Pugh-Evans Rheolwr Technegol Ann Penny Clerc Heulwen Davies Swyddog Marchnata Anne Evans Swyddog Cyswllt Ysgolion Elin Crowley Cynorthwy-ydd credigol Simon Lovatt Cydlynydd Rhanbarthol somewhereto_

    CWMNI THEATR ARAD GOCH – cysylltiadau: Cyfeiriad: Stryd y Baddon, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2NN Gwefan www.aradgoch.org e-bost [email protected] ffôn: 01970.617998 ffacs: 01970.611223 o Elusen Gofrestredig 702506. o Cwmni Cyfyngedig drwy Warant Cofrestredig yng Nghymru 2375424. o Noddir gwaith Cwmni Theatr Arad Goch gan: Gyngor Celfyddydau Cymru o Cefnogir gwaith y cwmni mewn ysgolion gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir

    Caerfyrddin a Chyngor Sir Penfro Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn aelod o:

    WAPA / CCPC – Cymdeithas Celfyddydau Perfformio Cymru: http://www.waparts.f9.co.uk

    ASSITEJ – Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Theatr i Blant a Phobl Ifanc – www.assitej.org www.assitejuk.org

    ITC – Independent Theatre Council www.itc-arts.org

    http://www.aradgoch.org/mailto:[email protected]://www.waparts.f9.co.uk/http://www.assitej.org/http://www.assitejuk.org/http://www.itc-arts.org/

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    SXTO gan Bethan Gwanas

    Dyma benllanw tair blynedd o waith sydd wedi cynnwys perfformiadau cychwynnol mewn ysgolion, gweithdai ymarferol, llawer o fewnbwn gan bobl ifanc a llawer iawn o drafod. Mae’r ddrama yn ymateb i hanesion am bobl ifanc yn cael eu brifo neu eu cam-drin drwy ddefnydd anghywir o gyfryngau a rhwydweithiau cymdeithasol digidol. Mae’r cynhyrchiad yn fwrlwm o ddeunydd y gellir ei ddefnyddio fel sbardun ar gyfer trafodaethau dosbarth. Yn y llyfryn hwn darperir luniau a phytiau o’r sgript i’ch hatgoffa o gymeriadau a chynnwys y cynhyrchiad, ynghyd â chwestiynau a fydd o gymorth i hybu trafodaeth. Hyderwn y bydd y perfformiadau o ddiddordeb ac o ddefnydd i chi’r athrawon ac i’ch disgyblion. Bydden ni’n falch iawn o dderbyn eich sylwadau.

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    Pethau i’w cofio Diolch am ein croesawu i’ch ysgol eto. Hon ydy’r drydedd gwaith i’r cynhyrchiad yma deithio. Er mwyn hwyluso eu gwaith gofynnwn yn garedig i chi’n helpu drwy gofio’r pwyntiau canlynol. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi eich barn a’ch sylwadau am ein gwaith; edrychwn ymlaen bob tro at eu derbyn ar ôl ein hymweliad.

    Mae’n rhaid i athro neu athrawes fod yn bresennol yn ystod perfformiadau’r cwmni yn eich ysgol neu pan fydd eich ysgol yn ymweld ag ysgol neu ganolfan arall.

    Pan gynhelir y perfformiad yn yr ysgol bydd angen gofod gwag a llawr glân; byddwn yn ddiolchgar iawn petai modd i chi symud unrhyw gelfi neu offer o’r ffordd cyn i ni gyrraedd.

    Os nad ydych yn sicr o’r trefniadau, ffoniwch ni yn ARAD GOCH, os gwelwch yn dda.

    Bydd aelodau’r cwmni yn gallu ymdrin ag unrhyw fân broblemau. Ond os bydd unrhyw broblemau mawr neu gwestiynau cymhleth ffoniwch ni yn ARAD GOCH, os gwelwch yn dda. Dylai unrhyw gŵyn gael ei gyfeirio at swyddfa ARAD GOCH ac nid at yr actorion fydd yn ymweld â’ch ysgol.

    Gwnaethpwyd trefniadau manwl gyda phob ysgol a ofynnodd am gael ei chynnwys yn y prosiect. Gofynnwn yn daer i chi beidio â newid trefniadau heb drafod hyn yn gyntaf gyda swyddfa ARAD GOCH.

    Ar y dudalen nesaf mae nodyn a gwybodaeth ymarferol i’r disgyblion. Bydden ni’n ddiolchgar iawn petai modd i chi gopïo’r dudalen yma a rhoi copi i bob disgybl fydd yn gweld y perfformiad.

    Erbyn hyn mae llawer o ddisgyblion yn hoffi ymateb i’n gwaith drwy anfon neges e-bost. Gwelir ein cyfeiriadau isod.

    Fe roddir sylwadau ein cynulleidfaoedd ar wefan newydd Arad Goch sef www.aradgoch.org Cofiwch annog y disgyblion i chwilio’r wefan ac i anfon eu sylwadau; gellir anfon sylwadau yn uniongyrchol drwy dudalen ymateb y wefan. Llawer o ddiolch am eich cydweithrediad! Jeremy Turner Cwmni Theatr Arad Goch Cyfarwyddwr Artistig Stryd y Baddon, Aberystwyth SY23 2NN ffôn: 01970.617998 ffacs: 01970.611223 e-bost: [email protected]

    mailto:[email protected]

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    SXTO - SEXTING Nodyn i bobl ifanc ar ôl gweld y ddrama

    Cynhyrchwyd SXTO gan Gwmni Theatr Arad Goch. Ysgrifennwyd y ddrama gan Bethan Gwanas ac fe’i chyfarwyddwyd gan Angharad Lee. Yr actorion oedd Nia Ann (LOWRI), Lowri Siôn (JEN), Endaf Eynon Davies (GAV) a Dion Lloyd Jones (MEIC). Roedd llawer llawer mwy o bobl ynghlwm wrth baratoadau’r cynhyrchiad! Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r ddrama. Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn sylwadau, adolygiadau ac ymholiadau gan ein cynulleidfaoedd. Cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau ar [email protected] , neu ar facebook. Mae’r cwmni yn croesawu pobl ifanc ar gyfer cyfnodau profiad gwaith. Mae mwy o wybodaeth am Arad Goch ar www.aradgoch.org

    Os oes rhywbeth yn eich poeni chi am gynnwys y ddrama, cofiwch - TRAFODWCH gyda rhywun arall! Os na allwch drafod gyda rhywun rydych chi’n adnabod mae gwybodaeth a chymorth ar gael ar y gwefannau isod. http://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/keeping-children-safe/sexting-advice-parents/ http://www.childline.org.uk/explore/onlinesafety/pages/sexting.aspx http://www.cliconline.co.uk/cym/newyddion/peryglon-lsquosextiorsquo/04140.html http://www.cliconline.co.uk/en/news/the-dangers-of-sexting/04128.html http://www.southwalesargus.co.uk/news/national/11535101._Sexting_is_normal_for_children_/

    Rhif CHILDLINE yw:

    http://www.childline.org.uk/mailto:[email protected]://www.aradgoch.org/http://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/keeping-children-safe/sexting-advice-parents/http://www.childline.org.uk/EXPLORE/ONLINESAFETY/PAGES/SEXTING.ASPXhttp://www.cliconline.co.uk/cym/newyddion/peryglon-lsquosextiorsquo/04140.htmlhttp://www.cliconline.co.uk/en/news/the-dangers-of-sexting/04128.htmlhttp://www.southwalesargus.co.uk/news/national/11535101._Sexting_is_normal_for_children_/

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    DEUNYDDIAU I ATHRAWON

    Sylwadau am ‘SXTO’ a gasglwyd mewn trafodaeth a gweithdy a

    gynhaliwyd yn Yr Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg Awst 2012.

    Efallai bydd y sylwadau a chwestiynau hyn o ddefnydd i chi wrth drafod y ddrama a’i themâu pwnc gyda phobl ifanc. Mae modd defnyddio’r cwestiynau yma ochr yn ochr a’r darnau sgript yn yr adran nesaf. BETH

    Sut byddech chi’n diffinio SXTO?

    o SEXUAL HARRASMENT THROUGH TEXTING OR THROUGH OTHER SOCIAL

    MEDIA

    o YMYRAETH RYWIOL DRWY NEGES DESTUN NEU DRWY GYFRYNGAU

    CYMDEITHASOL DIGIDOL

    Ble mae’r ffiniau. Geiriol? Lluniau? Fideos? Ym mhob achos beth sy’n dderbyniol a beth sy’n

    annerbyniol?

    Ydy SXTO yn rhyw fath o fwlian?

    Ydy SXTO yn waeth na bwlian corfforol?

    Ydy anfon llun noeth ar y we neu fel rhan o neges destun yn anghyfreithlon? (ateb - ydy)

    Y DDRAMA

    Yn y ddrama, pwy oedd yn berchen ar y llun?

    Yn y ddrama a oedd Meic wir yn caru Lowri?

    Oedd e’n ei charu hi mwy ar ôl gael y llun ar ei ffôn?

    Oedd e’n gwybod beth yw cariad?

    Ai Lowri neu bobl eraill sy’n oedd yn gyfrifol am ei ffawd?

    Sut fyddai Meic neu Gav wedi teimlo petai hyn wedi digwydd iddyn nhw?

    Enwch rai o’r emosiynau a theimladau gafodd y bobl yn y stori ar ôl i’r llun gael ei lledu?

    Beth yw’r ffordd orau i Lowri ddatrys y broblem?

    Oedd pawb wedi dioddef?

    PWY OEDD AR FAI?

    PAM?

    Pam mae pobl yn SXTO? - Ofn? Gwendid ynddyn nhw eu hunain? Gwendid yn y person sy’n

    derbyn y SXTO? Ceisio bod yn gryf?

    Pam bod merched yn gymaint o symbolau rhyw erbyn hyn?

    Pam mai rhai pobl ifanc eisiau ymddangos yn rhywiol yn y ffordd maen nhw’n gwisgo?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    Pa resymau eraill?

    Beth yw’r teimlad sy’n gyrru pobol i SXTO yn y lle cyntaf?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    PWY? Ydy merched neu fechgyn yn SXTO fwy na’i gilydd?

    Ydy ffrindiau yn SXTO rhwng ei gilydd neu pobl ddieithr sy’n gwneud?

    Pwy sy’n cael eu heffeithio gan SXTO?

    Pwy sy ar fai?

    Pobl o ba oedran sy’n SXTO?

    Ydy oedolion yn SXTO?

    Ydy pobl mewn perthynas yn SXTO?

    Ydy e’n wahanol os yw’r llun o gorff dyn neu fachgen yn hytrach na merch/dynes?

    Ydy SXTO yn digwydd ymhlith pobl hoyw?

    Pam fod sôn am rywioldeb pobl ifanc yn bwnc tabŵ?

    A ddylid cuddio neu gaethiwo rhywioldeb?

    A oes fforwm i’r ifanc mynegi eu rhywioldeb?

    TEIMLADAU Sut mae pobl yn teimlo ar ôl cael eu SXTO?

    Sut mae pobl yn teimlo ar ôl SXTO rhywun arall?

    Beth mae pobl yn disgwyl i ddigwydd wrth SXTO rhywun arall?

    A ydyn nhw’n ymwybodol o’r canlyniadau cyn dechrau?

    Beth yw’r ffin rhwng chwarae (‘mesan o gwmpas’) a rhyw?

    Beth yw gwerth dy gorff?

    CYFRYNGAU A CHYLCHGRONNAU Ydy rhai rhaglenni teledu a chylchgronau yn portreadu pobl ifanc fel delweddau rhywiol.

    Ydy hyn yn deg ar bobl ifanc.

    Ydy pobl ifanc yn ceisio efelychu’r delweddau hyn?

    Pam?

    PORNOGRAFFI Beth yw’r gwahaniaeth rhwng llun rhywiol mewn cylchgrawn a phornograffi?

    Pornograffi - pa mor hawdd yw cael gafael arno?

    Ydy pornograffi yn brifo unrhywun? Sut?

    Mae pornograffi yn hawdd i’w gael ar y wê. A ddylai fod yn anghyfreithlon?

    Pa fath o ryw mae pornograffi yn dangos?

    Ydy addysg ryw yn dysgu digon am y peryglon?

    PRYD? Ydy’r sefyllfa yn effeithio ar y presennol neu ar y dyfodol? Oes ots?

    Os na elli di fod yn ddi-hîd yn dy ieuenctid, yna pryd elli di fod?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    TRAFODAETHAU Dyma ddarnau o’r sgript a lluniau o’r cynhyrchiad er mwyn eich helpu i gofio a thrafod y

    ddrama, ei chymeriadau a’i themâu.

    BETH YW CARIAD?

    LOWRI A MEIC YN SIARAD GYDA’I GILYDD DRWY SGRINIAU EU FFONAU. MEIC YN TYNNU LLUN SECSI OHONO’I HUN A TXTIO: MEIC: Hoffi fo Lowri? :)

    LOWRI: (WEDI DERBYN Y LLUN A CHWERTHIN) Ydw. Lysh!!! T d bod yn gtho mas?

    MEIC: Natural gd looks. ;)

    LOWRI: LOL!!! T mor modest Meic.

    MEIC: Be dwi’n gael nôl ta?

    LOWRI: X

    MEIC: Na, tyd laen, isio llun dwi - plis.

    LOWRI YN POSIO O FLAEN EI FFÔN/CAMERA, GWEN SECSI, CYMRYD LLUN A’I YRRU.

    MEIC: Stonkin. Ond llai o ddillad rwan plis.

    LOWRI’N YSGWYD EI PHEN GYDA GWEN, YNA TYNNU EI THOP I LAWR FYMRYN FEL EI BOD YN DANGOS YSGWYDD NOETH, POSIO A GYRRU’R LLUN. MEIC: Neis! A rwan ... dim dillad.

    LOWRI’N RHYTHU AR Y NEGES MEWN BRAW.

    LOWRI: Ar dy feic!

    MEIC: O tyd, pls pls pls ... dwi rili isio llun go iawn ohonot ti...

    LOWRI: Na!!

    MEIC: Ti’m yn caru v?

    /LOWRI: Ydw!

    MEIC: Profa fo ta.

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    CWESTIYNAU

    OES MODD GWYBOD I SICRWYDD FOD RHYWUN YN DY GARU?

    OES RHAID PROFI DY FOD TI’N CARU RHYWUN?

    OES MODD CAEL PERTHYNAS AGOS, GARIADUS, TRA’N IFANC, HEB FOD RHYW YN

    RHAN OHONI?

    OEDD MEIC YN BOD YN DEG GYDA LOWRI?

    BETH DDYLAI LOWRI WNEUD NESAF?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    GAV, LOWRI A JEN AR Y BONT. LOWRI A JEN YN GIGLAN DROS GYLCHGRAWN. GAV YN SEFYLL Y TU OL IDDYN NHW, AR WAHAN, YN CHWARAE GEM AR EI FFON. JEN: Edrych salw yw hi! God, mae hi mor ‘fake’ ond yw hi? GAV YN SBIO DROS EU HYSGWYDDAU A GNEUD WYNEB ‘LECHY’. LOWRI: Ac edrych ar y coese na! Cellulite! O mai god! Mae ’da fi goese gwell na hynna ...

    mae ’da TI goese gwell na hynna, Jen! JEN: YN SYLLU ARNI OND ‘DYW LOWRI DDIM YN SYLWI. Diolch ... LOWRI: Fyddet ti’n disgwyl y bydde rhywun enwog felna’n gallu edrych ar ôl eu hunan yn

    well ... JEN: Neu o leia’n gwybod pa mor beryglus mae camerau yn gallu bod ... LOWRI: Ie ... JEN: Gallu bod yn greulon pan nagyt ti’n spring chicken ... achos faint yw hi nawr ... o

    leia 26 ond dyw hi? LOWRI: Siwr o fod. Rhy hen i fod mewn bicini ... yn gyhoeddus ta beth ... JEN: God, ydi. SAIB. Ond ... sai mo ... wy’n gobeithio y bydda i’n dal i edrych yn iawn

    mewn bicini pan fydda i’n 26 ...

    CWESTIYNAU PAM DDWEDODD JEN FOD Y PERSON YN Y LLUN YN Y CYLCHGRAWN YN EDRYCH YN ‘FAKE’? PAM FOD JEN A LOWRI YN POENI AM SUT MAEN NHW’N EDRYCH? PA MOR DDYLANWADOL YW LLUNIAU O BOBL ENWOG MEWN CYLCHGRONNAU? YDY HUNAN-DDELWEDD YN BWYSIG?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    DAN BWYSAU JEN: Pob lwc yn y gêm heno Meic. JEN YN CODI EI LLAW OND LOWRI DDIM YN SYLWI. EXIT JEN. LOWRI: Pa gêm? MEIC: Y gêm gwpan, Lowri! GAV: A fe yw’r capten, smo ti’n cofio?! LOWRI: Wrth gwrs bo fi’n cofio taw ti yw’r capten ... wy’n lico dynion masterful ... GAV: Wy’n gallu bod yn masterful ... MEIC: Gav ...? Plis? EDRYCHIAD ‘POINTED’ IDDO. GAV YN NODIO EI BEN, CILIO

    DRAW A DECHRAU CHWARAE EI GEM ETO. MEIC (WRTH LOWRI): Ti’n dod i’n gweld ni te? LOWRI: Heno? O, sai mo ... MEIC: O, dere ... wy moyn ti ’na. Falle gaf i hat-trick os fyddi di ’na. LOWRI: Ti’n gwybod shwt ma Mam ... MEIC: Mae’n gorfod dysgu rhoi chydig o ryddid i ti, Lows! LOWRI: Wy’n gwybod ... ond ar hyn o bryd ... sai’n credu ... MEIC: Ond ti bron yn un ar bymtheg! LOWRI: Wy’n gwybod!

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    CWESTIYNAU

    AR BWY DDYLAI LOWRI WRANDO: AR MEIC NEU AR EI MAM?

    YDY LOWRI YN DDIGON HEN I WNEUD EI PHENDERFYNIADAU EI HUN?

    YDY GAV YN BERSON HYDERUS? YDY E’N DDIGON HYDERUS I FEDDWL DROS EI HUN?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    FFIT? MEIC YN CHWARAE ‘KEEPY UPPY’ NEU RYWBETH SY’N GORFFOROL. GAV YN CHWARAE GEM GYFRIFIADUR AR EI FFON. MEIC: Ty’d Gav! Ei di’n dew yn chwara’r fflipin gêmau ’na o hyd. S’nam rhyfedd bo ti ’di cael

    drop o’r tîm. GAV YN EI ANWYBYDDU – YN EI FYD BACH EI HUN MEIC: Oi! Gav! Helo?! Dwi’n siarad efo ti! SAIB. DIM YMATEB GAN GAV. Gav, ti’n addict! GAV: Shysh! Wy bron a cyrraedd Lefel 6! MEIC: O, ti’n sad, ti yn ... a ti ’di mynd yn boring! Ti byth isio gneud dim byd, byth isio mynd

    allan. Ti’n byw ar y fflipin we ’na! Mae ’na’r fath beth i gael â Internet Addiction Disorder, ti’n gwbod.

    GAV: Ssh! MEIC: Wedyn mae pobl yn anghofio sut i siarad efo pobl go iawn! Wedyn mae’n nhw’n mynd

    yn unig ac yn depressed! Ti isio bod fel’na? Wyt ti? GAV: Ieee! Highest score eto! Oh yes ... wy’n genius! DWRN YN YR AWYR. Ot ti moyn

    rhywbeth? MEIC: Yndw! Chwara pêl-droed! Ty’d ... GAV: Dal sownd ... neges facebook ...

    CWESTIYNAU PAM FOD GAV YN DEFNYDDIO CYMAINT O GEMAU CYFRIFIADUROL A GEMAU FFÔN? YDY MEIC YN IAWN I FEIRNIADU GAV GYMAINT?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    BETH I’W WNEUD NESAF?

    JEN YN CEISIO CAEL GAFAEL AR FFÔN GAV.

    JEN: Wy moyn gweld!

    GAV: Wel so ti’n cael!

    JEN: Llun yw e ?

    GAV: Falle ...

    JEN: Llun brwnt?! O, dere, ti’n gorfod dangos e i mi nawr!

    GAV: Alla i ddim. Ti’n ffrindie da hi.

    JEN: Odw? Pwy yw hi?! Dangos i mi, plîs!!

    GAV: Sai moyn ... (YN AWGRYMOG) ond falle bod ffordd i mherswadio i...

    JEN: Gav ... ti’n pyrf ...

    GAV: Paid galw fi’n pyrf ...

    JEN YN RHOI CIC IDDO FEL EI FOD YN PLYGU A HITHAU’N BACHU’R FFON ODDI

    ARNO.

    GAV: Oi!

    JEN: O mai god! Disgysting!! Pwy fydde’n pôso felna, yn gwbl noeth?! Ych ... ond ... saf funed ... nage ... yfe Lowri yw hi? Ie! Hi yw hi! Shwt gest ti? Beth ma ... sai’n credu hyn!

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    CWESTIYNAU BETH DDYLAI GAV WEDI’I WNEUD PAN WELODD Y LLUN AR EI FFÔN GYNTAF? BETH DDYLAI LOWRI WNEUD NAWR? YDY E’N GYFREITHIOL I BOBL IFANC GAEL LLUNIAU ANWEDDUS O BOBL IFANC AR EU FFÔN? (NAC YDY)

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    FFRIND – PA FFRIND? JEN: Pam na fydde hi wedi gweud wrtho i? Ni’n gweud popeth wrth ein gilydd, a wedodd hi

    ddim byd am hyn ... DECHRAU GWYLLTIO. Fflipin hec! Wy’n gweud popeth wrthi hi! Na beth mae ffrindie’n gwneud! Trysto’i gilydd! Wel, so hi’n fy nhrysto i’n amlwg! GWYLLTIO MWY ... A nawr sai’n ei thrysto hi chwaith! Poso fel hyn! A- a-a’i yrru e at Meic?!

    GAV: O’n i’n meddwl bo chi’n ffrindie? JEN: Ydyn! ... Dim ond ei bod hi’n hala fi’n benwan weithie. Meddwl ei bod hi gymaint gwell

    na phawb. Tynnu fi lawr o hyd. Dangos ei hunan ... GAV: Bydde hi’n cael dangos ei hunan i fi unrhyw ddiwrnod ... JEN: O, na, ti ’fyd?! Be sy’n bod arnoch chi?! GAV: (Pwy yw) ‘Chi’? JEN: Bechgyn! Dynion – hyd yn oed yr athrawon! ... a hithe’n fflyrtan left, right and centre!

    …A picture never lies, fel maen nhw’n ddweud ... dyma’r Lowri go iawn ... freckles, warts and all ... hei ... wy’n gwybod ...! PWYSO’R BOTYMAU... Send ... Diolch Gav!

    CWESTIYNAU PAM ANFONODD JEN Y LLUN O LOWRI YMLAEN I BOBL ERAILL? MAE JEN WEDI TORRI’R GYFRAITH WRTH WNEUD HYN: A DDYLAI POBL IFANC GAEL EU COSBI YN GYFREITHIOL AM WNEUD BETHAU FEL HYN?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    PWY SY’N GYFRIFOL?

    LOWRI: Shwt allet ti Meic? Nest ti addo... rhywbeth personol rhyngot ti a fi a neb arall oedd e!

    MEIC: (METHU EDRYCH ARNI) Camgymeriad oedd o. LOWRI: Camgymeriad . ti’n dweud wrtho i! Be wnest ti? Pwyso ‘send’ ar ddamwain?! MEIC: Naci ... LOWRI: O, ar bwrpas felly?! I dalu’n ôl i fi am fennu da ti?! MEIC: Hei ... wooow. Damwain oedd o Lowri! Wir i chdi! Nes i ei ddeletio fo, ond ...

    mae’n rhaid mai dim ond y sim card oedd hynny a’i fod o’n dal yn y memory rywsut. Pan werthes i’n ffôn i Gav... mae’n rhaid ei fod o’n dal yna...

    LOWRI: Wel ... oes rhywbeth alli di wneud am y peth te? MEIC: Fel be?! Mae o allan yna rwan tydi! LOWRI: Be ti’n feddwl? Sai’n deall – gofynna – na – gorfoda pawb sy wedi’i gael e i’w

    ddeletio fe – dwed taw camgymeriad odd e! MEIC: Lowri, unwaith mae o allan yn y byd mawr cyber-space ... dyna ni. LOWRI: O, cmon, mae’n rhaid bod rhywbeth gelli di wneud! Mae’n rhaid i ti! Gofyn i dy

    dad – siwr bod yr heddlu’n gallu stopo fe! MEIC: Nac ydyn Lowri! Yn un peth, ti a fi wedi torri’r gyfraith! Ti – am gymyd y llun a’i

    yrru o, a titha dan oed, a fi am ei dderbyn o! LOWRI: Beth?! Nest ti ofyn i fi neud rhywbeth ‘illegal’?! MEIC: O, tyd laen Lowri! Ot ti’n gwbod yn iawn bod y peth yn ‘doji’! Dyna pam dan ni’n

    neud o! Fatha yfed dan oed! Smocio ambell sbliff! LOWRI: Ond ... ond ... allen i gael fy resto?! MEIC: Gallet! A finna! A phawb sydd â’r llun ar eu ffonia nhw! Sori. Ond sna’m byd

    fedrai neud, wir i ti. Mae o allan o nwylo i. Mae o fel... fel feirws – a does ’na’m byd alla i na ti neud i’w stopio fo!

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    LOWRI DYNNODD Y LLUN AR EI FFÔN A’I ANFON AT MEIC. GWERTHODD MEIC EI FFÔN I GAV GYDA’R LLUN DAL ARNO. DANGOSODD GAV Y LLUN I JEN. ANFONODD JEN Y LLUN YMLAEN AT ERAILL. CWESTIYNAU PWY SY’N GYFRIFOL? PWY SY’N EUOG?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    ANGEN TRAFOD? ATHRO: Lowri? Mae’n braf dy weld ti’n ôl.

    LOWRI: Diolch syr.

    ATHRO: Ond ti’n dal ddim yn iawn nagwyt ? Be sy’n bod?

    LOWRI: Beth? O ... na, wy’n iawn, syr.

    ATHRO: Aros am funud bach. Dwi’n dy nabod di’n ddigon da i wybod bod rhywbeth ddim

    yn iawn, Lowri. Ers sbel rwan...

    LOWRI: Bach o ffliw o hyd falle syr ... CYCHWYN AM Y DRWS

    ATHRO: Lowri ... nid ffliw mo hyn. Mae rhywbeth yn dy boeni di does? LOWRI DDIM YN ATEB.

    Wyt ti angen trafod gyda rhywun?

    LOWRI YN SYLLU ARNO, BRON A DEUD, YNA:

    LOWRI: Alla i ddim, syr.

    ATHRO: Ddim efo fi ella... Fydda’n well gen ti siarad efo’r Pennaeth Blwyddyn?

    LOWRI: Mrs Pugh?! ( HANNER CHWERTHIN) Na, syr ...

    ATHRO: Oes ’na rywun alli di siarad efo nhw? Ma’n bwysig gallu siarad am betha sy’n dy boeni di, Lowri. Ti’n gwybod hynny. A ma beth bynnag ydi o’n effeithio ar dy waith di, ac alli di’m fforddio hynny, nid yn dy flwyddyn TGAU.

    LOWRI: Wy’n gwybod syr.

    ATHRO: Lowri, mae gen ti ddyfodol disglair. Dwi’m isio dy weld ti’n colli allan oherwydd ... methu rhannu dy broblema, beth bynnag ydyn nhw ...

    LOWRI: Diolch syr. Wy’n gwerthfawrogi ... STOPIO EI HUN. - Gai fynd nawr, os gwelwch chi’n dda, syr?

    SAIB

    ATHRO: Cei. Mae’n ddrwg calon gen i nad wyt ti’n gallu siarad efo fi, ond ’na fo. Ond siarada efo rhywun ... iawn?

    LOWRI: Iawn, syr. Sori ... diolch. A BRYSIO I FFWRDD, A’I PHEN I LAWR.

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    CWESTIYNAU

    A DDYLAI LOWRI DRAFOD Y SEFYLLFA GYDA RHYWUN?

    PAM NAD OEDD LOWRI YN TEIMLO Y GALLAI DRAFOD GYDA’R ATHRO?

    SUT BYDDAI TRAFOD Y BROBLEM YN HELPU LOWRI?

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    TRAFOD Y DDRAMA FEL DARN O GELFYDDYD Prif fwriad Cwmni Theatr Arad Goch wrth gyflwyno Cynyrchiadau mewn ysgolion yw galluogi pobl ifanc

    i weld theatr gyfoes sydd yn uchel ei safon ac yn berthnasol ei apêl i bobl ifanc.

    Yn ogystal â galluogi’n cynulleidfaoedd i drafod pynciau pwysig, rydyn ni’n awyddus i’w helpu i drafod

    celfyddyd. Gobeithiwn y byddwch chi, yr athrawon, yn eu cynorthwyo i wneud hynny: cynigir y sylwadau

    a chwestiynau canlynol er mwyn dechrau’r drafodaeth.

    Oedd hi’n stori dda?

    Sut lwyddodd y ddrama a’r perfformiadau i’ch denu chi mewn i’r stori?

    Wrth wylio’r ddrama, am beth roeddech chi’n meddwl?

    Wrth wylio’r ddrama wnaethoch chi sylwi eich bod chi’n gwenu ar rywbeth? Neu a wnaethoch chi sylwi

    eich bod chi’n grac tuag at un o’r cymeriadau? Pam?

    Oedd y ddrama yn eich hatgoffa o rywun rydych chi’n adnabod neu o rywbeth sydd wedi digwydd I

    rywun rydych chi’n adnabod?

    Pa mor gredadwy oedd y cymeriadau? Pam?

    Pa fath o iaith a ddefnyddiwyd: naturiol / ffurfiol / clasurol / barddonol / disgrifiadol / caled / ysgafn?

    Oedd y deialog mewn brawddegau hirion neu mewn cymalau byrion? Sut oedd hyn yn effeithio ar

    rhythm y ddrama? A oedd hyn wedi helpu i gynnal diddordeb?

    Mae drama lwyfan yn dangos tameidiau o’r stori: sut oedd y sgript a’r cyfarwyddo wedi llwyddo i glymu’r

    tameidiau at ei gilydd?

    A oedd y stori yn llifo yn dda? A oedd y stori’n gwneud synnwyr fel cyfanwaith? Pam? / Pam lai?

    Oedd y lluniau llwyfan a’r symudiadau wedi helpu dweud y stori? Sut? / Pam? / Pam lai?

    Sut oedd y set – y celfi llwyfan a’r goleuadau – a’r sain wedi ychwanegu at y perfformiad?

    Sut oedd y set, y gwisgoedd, y goleudadau a’r sain wedi ychwnanegu at y profiad theatrig?

    Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘stori’ a ‘profiad theatrig’? Ydy’r naill yn helpu’r llall? Pa un yw’r

    pwysicaf?

    Wnaethoch chi fwynhau?

    Ysgrifennwch un frawddeg gryno a chryf i ddisgrifio’r ddrama a’ch ymateb iddi.

  • SXTO – Cwmni Theatr Arad Goch 2014

    Gwybodaeth ychwanegol i athrawon / Additional information for teachers

    ASTUDIAETHAU / STUDIES DEUNYDDIAU ERAILL / OTHER RESOURCES

    ERTHYGLAU / ARTICLES GWEFANNAU / WEBSITES

    Association of Chief Police Officers of England, Wales and Northern Ireland. Child Protection and Abuse Investigation (CPAI) Group - Position on Young People Who Post Self-Taken Indecent Images. http://www.ceop.police.uk/Documents/ceopdocs/externaldocs/ACPO_Lead_position_on_Self_Taken_Images.pdf A qualitative study of children, young people and 'sexting' - A report prepared for the NSPCC. http://www.nspcc.org.uk/Inform/resourcesforprofessionals/sexualabuse/sexting-research-report_wdf89269.pdf

    Teenage girls face sexting threat from friends. BBC Mai / May 2012. http://www.bbc.co.uk/news/technology-18088334 SIM card to help parents protect children from bullying. BBC Mai / May 2012. http://www.bbc.co.uk/news/technology-18144038 Sexting: a new teen cyber-bullying 'epidemic'. The Telegraph, Ebrill / April 2012 http://www.telegraph.co.uk/technology/facebook/9199126/Sexting-a-new-teen-cyber-bullying-epidemic.html Police warn of teenage 'sexting'. BBC, Ebrill / April 2009 http://news.bbc.co.uk/newsbeat/hi/technology/newsid_8181000/8181443.stm Teens strip off for sexting craze. The Sun, Ionawr / January 2009 http://www.thesun.co.uk/sol/homepage/news/2130663/Teens-strip-off-for-sexting-craze.html Think before you hit send: Teenagers warned about 'sexting' risks. Chwefror / February 2011. http://www.dailymail.co.uk/news/article-1354739/Children-warned-sexting-risks-Think-hit-send.html MPs to debate the growing problem of young girls being pressurised into 'sexting' The Independent, Ebrill / April 2012. http://www.independent.co.uk/life-style/health-and-families/health-news/mps-to-debate-the-growing-problem-of-young-girls-being-pressurised-into-sexting-7676015.html Celebrity 'sexting' scandals lead to teenagers sending more sexually explicit messages. Daily Mail, Hydref / October 2011. http://www.dailymail.co.uk/news/article-2044405/Celebrity-sexting-scandals-lead-teenagers-sending-sexually-explicit-messages.html

    http://www.ceop.police.uk/Documents/ceopdocs/externaldocs/ACPO_Lead_position_on_Self_Taken_Images.pdfhttp://www.ceop.police.uk/Documents/ceopdocs/externaldocs/ACPO_Lead_position_on_Self_Taken_Images.pdfhttp://www.nspcc.org.uk/Inform/resourcesforprofessionals/sexualabuse/sexting-research-report_wdf89269.pdfhttp://www.nspcc.org.uk/Inform/resourcesforprofessionals/sexualabuse/sexting-research-report_wdf89269.pdfhttp://www.bbc.co.uk/news/technology-18088334http://www.bbc.co.uk/news/technology-18144038http://www.telegraph.co.uk/technology/facebook/9199126/Sexting-a-new-teen-cyber-bullying-epidemic.htmlhttp://www.telegraph.co.uk/technology/facebook/9199126/Sexting-a-new-teen-cyber-bullying-epidemic.htmlhttp://news.bbc.co.uk/newsbeat/hi/technology/newsid_8181000/8181443.stmhttp://www.thesun.co.uk/sol/homepage/news/2130663/Teens-strip-off-for-sexting-craze.htmlhttp://www.dailymail.co.uk/news/article-1354739/Children-warned-sexting-risks-Think-hit-send.htmlhttp://www.independent.co.uk/life-style/health-and-families/health-news/mps-to-debate-the-growing-problem-of-young-girls-being-pressurised-into-sexting-7676015.htmlhttp://www.independent.co.uk/life-style/health-and-families/health-news/mps-to-debate-the-growing-problem-of-young-girls-being-pressurised-into-sexting-7676015.htmlhttp://www.dailymail.co.uk/news/article-2044405/Celebrity-sexting-scandals-lead-teenagers-sending-sexually-explicit-messages.htmlhttp://www.dailymail.co.uk/news/article-2044405/Celebrity-sexting-scandals-lead-teenagers-sending-sexually-explicit-messages.html