17
Mae gan Gyngor Gwynedd weledigaeth i ddatblygu cyfundrefn addysg gynradd fydd yn: “Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a ’u galluogi i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a chyflawn.” Cytunodd Cyngor Gwynedd yn Ebrill 2009 i dderbyn strategaeth oedd yn nodi fod angen adolygu’r ddarpariaeth addysgol gynradd ar draws y sir. Strategaeth Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd Roedd y strategaeth yn ganlyniad i gyfnod hir o ystyried ac o drafod gan gynghorwyr. Wrth drafod, derbyniwyd cyflwyniadau gan nifer o gyrff, gan gynnwys: - ESTYN - Llywodraeth y Cynulliad - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - National Association for Small Schools - Cynghrair Ysgolion a Chefnogwyr - Penaethiaid yn cynrychioli ysgolion bach, canolig a mawr Gwynedd - Swyddogion Cyngor Gwynedd, yn benodol swyddogion oedd yn arbenigo mewn materion addysgol, cyllidol ac adeiladau Cytunwyd y byddai angen adolygu un dalgylch ar y tro, gan gychwyn yn yr ardaloedd hynny oedd yn achosi’r pryder mwyaf. Er mwyn adnabod trefn y dalgylchoedd i’w hadolygu, lluniwyd rhestr o feini prawf oedd yn ystyried: - Maint dosbarthiadau - Y newid yn niferoedd disgyblion ers 1975 - Addasrwydd adeiladau ysgolion - Arweinyddiaeth ysgolion ac anawsterau penodi penaethiaid - Canran disgyblion sy’n derbyn addysg tu allan i’w dalgylch - Cost fesul disgybl - Llefydd gweigion Wrth ddilyn y meini prawf uchod, adnabuwyd dalgylch Berwyn fel yr ail dalgylch i’w hadolygu. Mi fydd Panel Ymgynghorol Sirol yn cynorthwyo’r Arweinydd Portffolio Addysg wrth iddi arwain adolygiadau fesul dalgylch. Mae gan bob grŵp gwleidyddol ar y Cyngor sedd ar y Panel Ymgynghorol Sirol er bod un aelod wedi ymddiswyddo yn ystod Haf 2009. Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn Sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn yn ystod Tachwedd 2009. Pwrpas y Panel Adolygu Dalgylch yw cynorthwyo’r Arweinydd Portffolio Addysg, sef y Cynghorydd Liz Saville Roberts, wrth iddi lunio cynigion penodol ar gyfer y dalgylch. Cam gyntaf sefydlu’r Panel Adolygu Dalgylch oedd i gynrychiolwyr y Cyngor - sef y Cyng. Liz Saville Roberts a chynrychiolydd y Panel Ymgynghorol Sirol, Cyng. Siân Gwenllïan - ymweld â holl ysgolion cynradd y dalgylch ar 4 Tachwedd 2009. Bu cyfle iddynt gyfarfod â phenaethiaid a staff ac i weld yr ysgolion. Y teimlad oedd i’r ymweliad fod yn fuddiol ac yn adeiladol iawn. Cynhaliwyd cyfarfod gyntaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 4 Tachwedd 2009. Cytunwyd ar aelodaeth y Panel, sef: - Arweinydd Portffolio Addysg - Cynrychiolydd Panel Ymgynghorol Sirol - Pennaeth, cadeirydd llywodraethwyr a rhiant lywodraethwr o bob ysgol (cynradd ac uwchradd) yn y dalgylch - Y tri chynghorydd lleol - Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd - Swyddogion eraill fel bo’n addas. - Sylwebyddion Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn Newyddlen 1

Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn › cy › Trigolion › ...canolfan hamdden, theatr a sinema gymunedol, llyfrgell, canolfan addysg i oedolion, a meithrinfa. Gorffennwyd

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Mae gan Gyngor Gwynedd weledigaeth i ddatblygu cyfundrefn addysg gynradd fydd yn: “Cynnig addysg o’r ansawdd uchaf posibl fydd yn rhoi'r profiadau, y sgiliau a’r hyder i blant y Sir a ’u galluogi i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog, llwyddiannus a chyflawn.” Cytunodd Cyngor Gwynedd yn Ebrill 2009 i dderbyn strategaeth oedd yn nodi fod angen adolygu’r ddarpariaeth addysgol gynradd ar draws y sir. Strategaeth Addysg Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd Roedd y strategaeth yn ganlyniad i gyfnod hir o ystyried ac o drafod gan gynghorwyr. Wrth drafod, derbyniwyd cyflwyniadau gan nifer o gyrff, gan gynnwys: - ESTYN - Llywodraeth y Cynulliad - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - National Association for Small Schools - Cynghrair Ysgolion a Chefnogwyr - Penaethiaid yn cynrychioli ysgolion bach, canolig a mawr Gwynedd - Swyddogion Cyngor Gwynedd, yn benodol swyddogion oedd yn arbenigo mewn materion addysgol, cyllidol ac

    adeiladau Cytunwyd y byddai angen adolygu un dalgylch ar y tro, gan gychwyn yn yr ardaloedd hynny oedd yn achosi’r pryder mwyaf. Er mwyn adnabod trefn y dalgylchoedd i’w hadolygu, lluniwyd rhestr o feini prawf oedd yn ystyried:

    - Maint dosbarthiadau - Y newid yn niferoedd disgyblion ers 1975 - Addasrwydd adeiladau ysgolion - Arweinyddiaeth ysgolion ac anawsterau penodi penaethiaid - Canran disgyblion sy’n derbyn addysg tu allan i’w dalgylch - Cost fesul disgybl - Llefydd gweigion

    Wrth ddilyn y meini prawf uchod, adnabuwyd dalgylch Berwyn fel yr ail dalgylch i’w hadolygu. Mi fydd Panel Ymgynghorol Sirol yn cynorthwyo’r Arweinydd Portffolio Addysg wrth iddi arwain adolygiadau fesul dalgylch. Mae gan bob grŵp gwleidyddol ar y Cyngor sedd ar y Panel Ymgynghorol Sirol er bod un aelod wedi ymddiswyddo yn ystod Haf 2009. Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn Sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn yn ystod Tachwedd 2009. Pwrpas y Panel Adolygu Dalgylch yw cynorthwyo’r Arweinydd Portffolio Addysg, sef y Cynghorydd Liz Saville Roberts, wrth iddi lunio cynigion penodol ar gyfer y dalgylch. Cam gyntaf sefydlu’r Panel Adolygu Dalgylch oedd i gynrychiolwyr y Cyngor - sef y Cyng. Liz Saville Roberts a chynrychiolydd y Panel Ymgynghorol Sirol, Cyng. Siân Gwenllïan - ymweld â holl ysgolion cynradd y dalgylch ar 4 Tachwedd 2009. Bu cyfle iddynt gyfarfod â phenaethiaid a staff ac i weld yr ysgolion. Y teimlad oedd i’r ymweliad fod yn fuddiol ac yn adeiladol iawn. Cynhaliwyd cyfarfod gyntaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 4 Tachwedd 2009. Cytunwyd ar aelodaeth y Panel, sef:

    - Arweinydd Portffolio Addysg - Cynrychiolydd Panel Ymgynghorol Sirol - Pennaeth, cadeirydd llywodraethwyr a rhiant lywodraethwr o bob ysgol (cynradd ac uwchradd) yn y dalgylch - Y tri chynghorydd lleol - Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd - Swyddogion eraill fel bo’n addas. - Sylwebyddion

    Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn

    Newyddlen 1

  • Cytunwyd hefyd y dylid estyn gwahoddiad i gynrychiolwyr o ysgolion cyfagos ar draws ffiniau cynghorau lleol, yn benodol:

    - cynghorydd lleol Llangwm (Sir Conwy) - cynghorydd lleol Cynwyd (Sir Ddinbych) - Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Llangwm

    Derbyniodd y Panel nifer o bapurau yn ystod y cyfarfod cyntaf fel sail i’r gwaith:

    - cylch gorchwyl a briff i’r Panel - amserlen ar gyfer gwaith y Panel - gohebiaeth gan Ysgol Y Berwyn ar gynlluniau posib i’w hystyried

    Yn ogystal, derbyniwyd papur ystadegol yn crynhoi’r sefyllfa yn y dalgylch. Mae’r papur yn nodi gwybodaeth ar:

    - lleoliad ysgolion y dalgylch - niferoedd disgyblion a’r newidiadau ers 1975 a rhagolygon hyd at 2013 - capasiti ysgolion a llefydd gweigion - sefyllfa penaethiaid ac anawsterau recriwtio - maint dosbarthiadau - disgyblion all-dalgylch - dyraniadau ariannol ysgolion - proffil ieithyddol ysgolion y dalgylch - addasrwydd adeiladau - cyfleusterau ac adnoddau yn yr ysgolion - defnydd cymunedol - disgyblion yn hawlio cinio am ddim

    Mae’r ysgolion wedi cytuno i astudio’r wybodaeth ac i gynnig addasiadau erbyn 13 Tachwedd 2009. Bydd y papur ystadegol wedyn yn cael ei gymeradwyo gan y Panel yn ei gyfarfod nesaf. Cyfeiriwyd hefyd at y cyd-destun statudol a chyfreithiol, yn bennaf at Gylchlythyr 021/2009 Llywodraeth y Cynulliad ar Gynigion Trefniadaeth Ysgolion. Hon fydd y ddogfen fydd yn sail i ystyriaethau wrth ymgynghori ar gynigion. Yn sgil derbyn y wybodaeth hon, gwnaethpwyd cais gan y Panel Adolygu Dalgylch am wybodaeth bellach ar: - safonau’r ddarpariaeth addysgol gyfredol. - effaith ar y gymuned - effaith newidiadau ar y Gymraeg - rhagolygon cyllidol ysgolion

    Er mwyn hyrwyddo’r drafodaeth, gwnaethpwyd cais hefyd i swyddogion y Cyngor baratoi gwybodaeth ar ystod o fodelau posib o ad-drefnu ysgolion y cylch erbyn y cyfarfod nesaf o’r Panel Adolygu Dalgylch. Cytunwyd hefyd bod gan ysgolion ddiddordeb mewn gweld ysgolion newydd a modelau o gydweithio mewn siroedd eraill. Bydd y Cyngor yn ceisio trefnu ymweliad cyn y Nadolig. Ysgolion Unigol Mae’r Cyngor yn awyddus y bydd staff, rhieni a disgyblion yn llawn ymwybodol o’r trafodaethau sy’n digwydd o fewn y dalgylch. Derbyniodd y Panel Adolygu Dalgylch awgrym y byddai’r Cyngor yn paratoi newyddlen fer ar ddiwedd pob cyfarfod i grynhoi’r prif faterion a drafodwyd. Rydym hefyd wedi cytuno i gynnal cyfarfodydd ymhob ysgol unigol dan arweinyddiaeth John Blake, cyn swyddog Addysg Ardal Meirionnydd a Gareth Williams, cyn Brif Weithredwr CYNNAL. Mi fydd cyfle yma i staff dysgu a chymorth, llywodraethwyr a rhieni gyfrannu at y drafodaeth ac i godi cwestiynau penodol. Cynhelir y cyfarfodydd yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 11 Ionawr 2010. Byddwn hefyd yn sefydlu grŵp trafod i blant a phobl ifanc dan arweinyddiaeth swyddogion arbenigol y Cyngor. Cynhelir y sesiwn hon hefyd yn y flwyddyn newydd. Amserlen Rhagwelir y bydd o leiaf 2 gyfarfod pellach o’r Panel Adolygu Dalgylch ar 2 Rhagfyr 2009 a 21 Ionawr 2010.

  • Erbyn diwedd Ionawr 2010, bydd yr Arweinydd Portffolio Addysg yn anelu i ddatblygu cynigion pendant ar gyfer dalgylch Y Berwyn fydd yn mynd gerbron Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Gwynedd (Chwefror 2010), Bwrdd y Cyngor (Mawrth 2010) a’r Cyngor llawn. Y bwriad yw cwblhau’r broses yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 6 Mai 2010. Mae’r amserlen o weithredu’r cynigion yn ddibynnol ar iddynt dderbyn cefnogaeth y pwyllgorau uchod, ac ar union natur y cynigion. Bydd y Cyngor yn darparu gwybodaeth bellach wrth i’r broses symud yn ei blaen. Dyddiad y Cylchlythyr nesaf Bydd y cylchlythyr nesaf yn cyrraedd eich ysgolion ar ôl cyfarfod nesaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 2 Rhagfyr 2009. Gwybodaeth Bellach Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â’r Adran Addysg ar 01286 679 247 neu e-bost [email protected]

  • Dyma’r ail mewn cyfres o newyddlenni i sylw staff ysgolion, rhieni ac eraill sy’n amlinellu’r trafodaethau ar ad-drefnu ysgolion dalgylch Y Berwyn. Cylchredwyd y newyddlen gyntaf ar ôl cyfarfod cyntaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 4 Tachwedd 2009. Gan fod y Panel bellach wedi cyfarfod eto (ar 2 Rhagfyr 2009) mae’n amserol cynnig diweddariad. Beth sydd wedi digwydd ers y cylchlythyr diwethaf? Ymweliadau â siroedd eraill Ar gais y Panel Adolygu Dalgylch, trefnwyd ymweliad â siroedd eraill i weld ysgolion ac i drafod profiadau athrawon ac eraill o ad-drefnu ysgolion. Aeth 5 o benaethiaid ysgolion y dalgylch ar yr ymweliad ar 30 Tachwedd 2009 gyda swyddog o Adran Addysg y Cyngor. Ymwelwyd ag Ysgol Arberth, sef ysgol newydd sbon ddwyieithog yn ne Sir Benfro ar gyfer tua 300 o ddisgyblion. Aethpwyd ymlaen at Ysgol Y Frenni yng Nghrymych, sef ysgol ar gyfer tua 170 o blant sydd yn rhannu campws gydag Ysgol Uwchradd, canolfan hamdden, theatr a sinema gymunedol, llyfrgell, canolfan addysg i oedolion, a meithrinfa. Gorffennwyd yr ymweliad yn Ysgol Bro Siôn Cwilt yng Ngheredigion fydd yn agor yn ystod Ionawr 2010. Bu’r ymweliad yn un buddiol er mwyn dysgu gwersi gan ardaloedd eraill. Pwysleisiwyd wrth adrodd yn ôl i’r Panel Adolygu Dalgylch ar 4 Rhagfyr 2009 nad oedd unrhyw ragdybiaeth y byddai unrhyw un o’r esiamplau yn addas ar gyfer y Berwyn. Cyfarfodydd gyda staff ysgolion unigol Un o brif ymrwymiadau’r Cyngor wrth gychwyn ar y broses oedd sicrhau bod staff, rhieni ac eraill yn rhan lawn o’r broses o ganfod y ffordd ymlaen yn y cylch. Yn dilyn cais y Panel Adolygu Dalgylch, gohiriwyd y cyfarfodydd hyn tan ar ôl cyfarfod nesaf y Panel Adolygu Dalgylch ar 4 Chwefror 2010. Bydd swyddogion y Cyngor yn cysylltu i drefnu cyfarfodydd gydag ysgolion unigol yn ystod wythnos 8 Chwefror 2010. Ail gyfarfod Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn, 2 Rhagfyr 2009 Rhoddwyd diweddariad ar ymweliadau ac addasiadau i wybodaeth ystadegol ar ddechrau’r cyfarfod. Cymeradwywyd y dadansoddiad ystadegol fel un cywir a chyflawn gan y Panel cyfan. Cyflwynwyd gwybodaeth am sefyllfa gyllidol ysgolion y cylch gan Reolwr Cyllid Addysg Cyngor Gwynedd. Aeth ymlaen i adrodd ar ragolygon posib ar gyfer y 3 mlynedd nesaf. Seiliwyd yr rhain ar ragolygon niferoedd disgyblion (a gytunwyd gan bob ysgol yn unigol) ac arbedion tebygol y bydd angen i’r Cyngor wneud. Yn dilyn cais y Panel yng nghyfarfod 4 Tachwedd 2009 i swyddogion baratoi gwybodaeth am y math o fodelau amgen fyddai’n bosib, cyflwynwyd papur yn amlinellu dros 40 o fodelau posib. Cytunwyd bod rhai yn fwy synhwyrol nag eraill. Gofynnwyd i gynrychiolwyr ysgolion rannu i grwpiau er mwyn trafod gan ofyn iddynt ymateb i’r modelau a gynigiwyd ac i gynnig unrhyw fodelau amgen. Ar ddiwedd y cyfarfod, cynigiwyd crynodeb gan DRJ o’r modelau y byddai angen i swyddogion wneud gwaith pellach arnynt. Nodwyd fod cynrychiolwyr ysgolion wedi cynnig yr isod:

    • Ysgolion y dalgylch i gydweithio.

    • Ysgolion Bro Tegid a Beuno Sant naill ai yn uno i greu Ysgol Ardal newydd neu yn uno gydag ysgol Y Berwyn i greu Ysgol Gydol Oes gydag ysgolion Bro Tryweryn, Ffridd y Llyn, O M Edwards a’r Parc yn cydweithio.

    Nodwyd fod y Pennaeth Addysg wedi amlinellu modelau pellach y byddai’n ddyletswydd ar y Cyngor i’w hystyried, sef:

    • Ysgolion Bro Tegid a Beuno Sant yn naill ai yn uno i greu Ysgol Ardal newydd neu yn uno gydag ysgol Y Berwyn i greu Ysgol Gydol Oes yn ogystal ag ysgol Y Parc yn cau â’r disgyblion yn mynychu ysgol O M Edwards. Bro Tryweryn i gydweithio gyda Ffridd y Llyn ac/neu yr ysgol newydd yn nhref Y Bala.

    • Ysgol Bro Tryweryn yn uno ag ysgolion tref y Bala i wneud cynllun Ysgol Ardal neu Ysgol Gydol Oes. Ysgolion O M Edwards, Y Parc a Ffridd y Llyn i gydweithio â'i gilydd neu â’r ysgol newydd yn nhref y Bala.

    Trosodd…

    Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn

    Newyddlen 2

    Atodiad 2.2

  • • Ysgol Bro Tryweryn yn uno ag ysgolion tref y Bala i wneud cynllun Ysgol Ardal neu Ysgol Gydol Oes. Ysgol Y Parc i gau a’r disgyblion i fynychu ysgol O M Edwards. Ysgolion O M Edwards a Ffridd y Llyn i gydweithio gyda’r ysgol newydd yn nhref y Bala.

    • Ysgolion cynradd y dalgylch i uno a chreu un Ysgol Ardal newydd.

    • Pob ysgol gynradd, ynghyd â’r uwchradd i uno i greu Ysgol Gydol Oes newydd.

    Dylid pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yn hyn – sail i waith pellach yn unig sydd yma. Dyddiad y Cylchlythyr nesaf Bydd y cylchlythyr nesaf yn cyrraedd eich ysgolion ar ôl cyfarfod nesaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn ar 4 Chwefror 2010. Gwybodaeth Bellach Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â’r Adran Addysg ar 01286 679 247 neu e-bost [email protected]

  • Dyma’r drydedd mewn cyfres o newyddlenni i sylw staff ysgolion, rhieni ac eraill sy’n amlinellu’r trafodaethau ar ad-drefnu ysgolion dalgylch Y Berwyn. Cylchredwyd y newyddlen gyntaf ar ôl cyfarfod cyntaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn yn Nhachwedd 2009 a’r ail ar ôl cyfarfod y Panel yn Rhagfyr 2009. Pwrpas y newyddlen hon yw cynnig diweddariad ar drafodaethau yn ystod trydydd cyfarfod y Panel Adolygu Dalgylch ym mis Chwefror 2010 ac i esbonio’r broses o hyn allan. Beth sydd wedi digwydd ers y cylchlythyr diwethaf? Trydydd cyfarfod Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn, 4 Chwefror 2009 Cynigion ar gyfer ad-drefnu ysgolion y dalgylch Cyflwynwyd dadansoddiad o 7 o gynigion dalgylchol a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr ysgolion, cynghorwyr lleol a’r Adran Addysg. Bu trafodaeth fuddiol ond ni chwblhawyd y dasg o ystyried yr opsiynau yn ystod y cyfarfod. Bydd angen ail ymweld â’r eitem hon yn ystod cyfarfod nesaf Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn. Cafwyd cyflwyniad gan swyddog ar fodel o gymuned ddysgu gydol oes ar sail ymweliadau ag ysgolion a safleoedd tebyg yng Nghymru a Lloegr. Nodwyd bod yna fanteision i reolaeth gydlynus pan fo nifer o sefydliadau yn rhannu safleoedd o ran cynnig mynediad at gyfleusterau ac arbenigeddau staff. Rhannwyd i drafodaeth grŵp. Bu cefnogaeth gyffredinol mewn egwyddor i’r syniad o dynnu ysgolion tref y Bala ynghyd ar un safle gan ymchwilio ymhellach i’r posibiliadau o ddatblygu ysgol gydol oes. Bu cefnogaeth bellach i sefydlu trefniadau o gydweithio ymysg ysgolion gwledig Penllyn. Nid oedd cefnogaeth i’r modelau a awgrymai gau yr ysgolion gwledig. Asesiad o effaith ieithyddol a chymunedol ad-drefnu ysgolion Cyflwynwyd Dylan Bryn i’r Panel. Cynghoriaeth Dylan Bryn fyddai’n cwblhau asesiad o effaith ieithyddol a chymunedol y 7 model ar gyfer ad-drefnu ysgolion y dalgylch oedd dan sylw. Nodwyd bod nifer o gamau i’r prosiect yn nalgylch y Berwyn:

    i) Arolwg trwy holiadur o ganfyddiad ysgolion y dalgylch o’r sefyllfa ieithyddol a chymunedol ii) Arolwg o sefydliadau cymunedol iii) Cyfarfod i gynrychiolwyr y dalgylch yn Ysgol Y Berwyn gyda’r nos 16 Mawrth 2010

    Dosberthir copïau o’r holiadur yn uniongyrchol i ysgolion a sefydliadau cymunedol. Gellir hefyd lawrlwytho’r holiadur ar wefan Cyngor Gwynedd neu trwy ffonio 01286 679247. Bydd yr Ymgynghorydd yn adrodd yn ôl ar ganfyddiadau’r gwaith i gyfarfod nesaf y Panel Adolygu Dalgylch ar 23 Mawrth 2010. Camau nesaf Cyfarfodydd gyda staff ysgolion unigol Un o brif ymrwymiadau’r Cyngor wrth gychwyn ar y broses oedd sicrhau bod staff, rhieni a llywodraethwyr yn rhan lawn o’r broses o ganfod y ffordd ymlaen yn y cylch. Er mwyn gwneud hynny, cynhelir cyfres o gyfarfodydd mewn ysgolion unigol er mwyn clywed y diweddaraf am y trafodaethau ac i wrando ar gwestiynau neu bryderon. Cynhelir y cyfarfodydd hyn rhwng diwedd Chwefror a chanol Mawrth 2010. Mae manylion pellach am gyfarfodydd eich ysgol chi ar gael gan eich pennaeth. Cyfarfod gyda phlant a phobl ifanc Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed barn plant a phobl ifanc y cylch am ddyfodol addysg yr ardal. Bydd cyfarfod i gynrychiolwyr cyngor pob ysgol yn y cylch – gan gynnwys yr ysgol uwchradd – ar 11 Mawrth 2010 yn Ysgol Uwchradd Y Berwyn. Bydd pennaeth eich ysgol yn trefnu cynrychiolaeth o’r ysgol. Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn Bydd Panel Adolygu Dalgylch Y Berwyn yn cyfarfod ddwywaith eto yn Ysgol Uwchradd Y Berwyn. Cynhelir y cyfarfodydd nos Fawrth 23 Mawrth 2010 a nos Fawrth 30 Mawrth 2010. Yng nghyfarfod nos Fawrth 30 Mawrth 2010 bydd y Deilydd Portffolio Addysg yn cyflwyno ei hargymhelliad ar gyfer y dalgylch. Trosodd…

    Adolygu Addysg Gynradd yn Nalgylch Y Berwyn

    Newyddlen 3

    Atodiad 2.2

  • Cyhoeddi cynllun Dalgylch Y Berwyn Y bwriad yw cwblhau’r trafodaethau yn nalgylch Y Berwyn erbyn 29 Mawrth 2010 a chyflwyno argymhelliad y Deilydd Portffolio Addysg i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd ar 22 Ebrill 2010, i Fwrdd Y Cyngor ar 27 Ebrill 2010 ac yn i’r Cyngor Llawn ar 13 Mai 2010. Y cais fydd yn mynd gerbron y cylch democrataidd fydd gofyn am ganiatâd i gynnal cyfnod o ymgynghori ffurfiol ar y cynigion lle bo hynny’n briodol. Gwybodaeth Bellach Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy gysylltu â’r Adran Addysg ar 01286 679 247 neu e-bost [email protected]

  • NEWYDDLEN TREFNIADAETH YSGOLIONYSGOL Y PARC AC YSGOL OM EDWARDS

    Ysgol Y Parc

    Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd y Cyngor rybudd statudol i gau Ysgol Y Parc, ac yn ddibynnol ar ddewis rhieni,symud y disgyblion i Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn. Cymeradwywyd y cynnig yma gan y Gweinidog Addysg aSgiliau. Bydd Ysgol Y Parc yn parhau ar agor tan 31 Awst 2013 ond o’r 1af Medi 2013 bydd Ysgol Y Parc yn cau abydd y dalgylch yn dod yn rhan o ddalgylch Ysgol OM Edwards.

    Bydd disgyblion sy’n mynychu Ysgol Y Parc ar hyn o bryd yn cael cynnig lle yn Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn.Bydd y disgyblion yn symud yn awtomatig felly ni fydd angen i rieni wneud cais am le. Os bydd rhieni yndymuno i’w plant fynychu ysgol ar wahân i Ysgol OM Edwards bydd angen iddynt gwneud cais mynediad wrthgysylltu â’r ysgol hynny yn uniongyrchol neu ymweld â gwefan y Cyngorwww.gwynedd.gov.uk/mynediadysgolion.

    Bydd cludiant yn cael ei ddarparu yn unol â Polisi Cludiant y Cyngor, bydd gwybodaeth am drefniadau penodolar gael yn nes at yr amser.

    Datblygu Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn

    Fel rhan o gynllun ad-drefnu ysgolion dalgylch Y Berwyn, mae buddsoddiad sylweddol gwerth £900,000 yn caelei wario yn Ysgol OM Edwards. Bydd y gwaith yma yn cynnwys:

    DosbarthiadauCreu ardaloedd dysgu/addysgu addas i bwrpas wrth wneud dosbarthiadau yn fwyhyblyg i alluogi newid y maint yn ddibynnol ar niferoedd disgyblion

    Cyfnod SylfaenCreu ardal bwrpasol - creu agoriad rhwng y dosbarthiadau cyfnod sylfaen a’r awyragored a gosod canopi uwchben.

    Neuadd Datblygu’r neuadd fel man bwyta, perfformio ac i gynnal gwasanaethau ysgol.

    Ystafell Pennaeth Uwchraddio a chynyddu maint ystafell y pennaeth

    Ystafell StaffCreu ystafell i’r staff, nid oes un yn bresennol. Creu ystafell addas i bwrpas ynghlwm iaddasiadau ystafell y pennaeth.

    Storfeydd Creu storfeydd priodol.

    GeginUwchraddio’r gegin bresennol i greu ardal addas i bwrpas wrth ymyl y neuadd. Bydd ygegin yn cael ei gysylltu i’r system wresogi newydd.

    Maes ParcioGwella’r maes parcio, creu mwy o lefydd i barcio, creu man arhosfa bws a chreullefydd parcio anabl.

    System Gwresogi Gosod system wresogi biomas newydd.

    Toiledau Gwella’r cyfleusterau toiledau wrth eu huwchraddio a’i addasu.

    Cwmni Anwyl sydd wedi ei benodi i wneud y gwaith yma, ac maenteisoes wedi cychwyn ar y safle. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud ileihau unrhyw ymyrraeth ar waith yr ysgol yn ystod y cyfnod adeiladu,ac wrth gwrs bydd y cwmni yn cydweithio efo’r ysgol wrth i’r cynllunfynd yn ei flaen.

    Mae Anwyl yn ymwybodol eu bod yn gweithio ar safle ysgol ac maeganddynt brofiad o wneud hyn yn y gorffennol. Yn ystod y gwaithbydd mesurau iechyd a diogelwch llym mewn lle, a phob ymdrech yncael ei wneud fel fod bywyd yr ysgol a’r gwaith o wella’r ysgol ynmynd ymlaen yn hwylus.

    Anelir i gwblhau’r gwaith erbyn diwedd Awst 2013.

    Ionawr 2013CYNGOR GWYNEDD

    Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion neu drwye-bost: [email protected]

  • SCHOOL ORGANISATION NEWSLETTERYSGOL Y PARC AND YSGOL OM EDWARDS

    Ysgol Y Parc

    In March 2012 the Council issued a statutory notice to close Ysgol Y Parc, and subject to parental choice,provide education for the pupils at Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn. This proposal was approved by theMinister for Education and Skills. Ysgol Y Parc will remain open until 31 August 2013, but the school will closefrom 1st September 2013 and the catchment area will become part of Ysgol OM Edwards’ catchment area.

    Pupils currently attending Ysgol Y Parc will be offered places at Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn. Pupils will betransferred automatically therefore parents do not need to apply for a place. If parents want their children toattend a school other than Ysgol OM Edwards they will need to make an admissions application by contactingthat school directly or visiting the Council’s website www.gwynedd.gov.uk/schooladmissions.

    Transport will be provided in accordance with the Council’s Transport Policy. Further information will beavailable near the date of change.

    Development of Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn

    As part of the school re-organisation plan in the Berwyn catchment area, a substantial investment of £900,000will be made at Ysgol OM Edwards. The work includes;

    ClassroomsCreate fit for purpose learning/teaching areas by creating flexible classrooms thatcan change size depending on pupil numbers.

    Foundation PhaseCreate a bespoke area – creating openings between the foundation phaseclassrooms to the outside and place canopies above the openings.

    HallDevelop the hall as a suitable area for assembly, performances and for eating atlunchtime

    Headteacher’s Room Upgrade and increase the size of the headteachers room.

    Staff RoomCreate a staff room as there isn’t one at present. Create a fit for purpose room builtin connection with the headteachers room adaptations.

    Storerooms Create suitable storerooms

    KitchenUpgrading the current kitchen to create a fit for purpose area next to the hall. Thekitchen will be connected to the new heating system.

    Parking FacilitiesImprove car park favilities by creating more parking spaces, a bus drop off/collectionpoint and designated disabled parking.

    Heating System Install a new biomass heating system.

    Toilet Facilities Improve the toilet facilities by upgrading and adapting.

    Anwyl construction company have been appointed to do this work,and they’ve already started on site. Every effort will be taken to limitany interference on the schools’ every day activities, and thecompany will co-operate with the school to move this projectforward.

    Anwyl are aware of the precautions needed when working on aschool site, and have experience of these situations in the past. Stricthealth and safety measures will be in place, and every effort taken toensure that the school is able to run smoothly during theimprovement work.

    The work should be completed by 31 August 2013.

    January 2013GWYNEDD COUNCIL

    Further information is available on the Council ‘swebiste www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation orby e-mail: [email protected]

  • Newyddlen Ysgol O.M. Edwards

    Gorffennaf 2013

    Ysgol O.M. Edwards yn agor ei ddrysau i blant Y Parc

    Yn dilyn gwaith uwchraddio sylweddol dros y misoedd diwethaf mae’n bleser datgan y bydd Ysgol O.M. Edwards yn agor ei ddrysau ar ei newydd wedd ddydd Iau Medi’r 5ed 2013 dan arweiniad Mrs Dilys Ellis-Jones y Pennaeth. Yn dilyn newidiadau diweddar mae dalgylch ysgol O.M.Edwards wedi ei ymestyn i ardal Y Parc yn ogystal, a bydd plant oedd yn arfer mynychu ysgol Y Parc yn dod o fewn dalgylch newydd OM Edwards yn awtomatig. Bydd cludiant yn cael ei ddarparu yn unol a Pholisi Cludiant y Cyngor. Petai unrhyw riant yn dymuno anfon ei plentyn i unrhyw ysgol arall bydd angen gwneud cais gyda’r Awdurdod a bydd yn cael ei weithredu yn unol a Pholisi Mynediad yr Awdurdod. Mae’r ysgol yn wynebu dyfodol disglair yn dilyn buddsoddiad sylweddol (£900,000) gyda dosbarthiadau addas i bwrpas, ardal bwrpasol i’r cyfnod sylfaen, datblygu’r neuadd, uwchraddio swyddfa’r Pennaeth, creu ystafell staff, creu storfeydd digonol, gwella’r maes parcio, gosod sustem wresogi biomass newydd a gwella ac uwchraddio’r toiledau, hyn oll er mwyn darparu amgylchedd ddysgu o’r radd flaenaf i blant y fro.

    Materion addysgol ac ymarferol

    Gwisg Ysgol – siwmper werdd gyda logo / crys polo coch gyda logo / sgert neu drowsus du / sgidiau du. Ar gael o gwmni Brodwaith (www.brodwaith.co.uk) Pentrefoelas. Dillad ymarfer corff – shorts du a crys T gwyn gyda esgidiau ymarfer corff Diwrnod Ysgol – 9yb – 3.30yp Cinio Ysgol – cost cinio ysgol £2 y diwrnod / £10 yr wythnos Clwb Brecwast – bydd clwb brecwast yn cael ei ddarparu am ddim o 8.05 – 8.40yb Rhestr Digwyddiadau a Gweithgareddau Ysgol – bydd llawlyfr manwl yn darparu gwybodaeth am yr ysgol ar ei newydd wedd yn cael ei ddosbarthu fis Medi 2013. Bydd manylion digwyddiadau a gweithgareddau yn cael ei dosbarthu’n rheolaidd Gwersi offerynnol – ceir gwersi: Piano, Telyn, Clarinet, Ffliwt, Drymiau, Corn a Llais drwy wasanaeth cerdd William Mathias. Cysylltu gyda rhieni a gofalwyr – bydd yr ysgol yn casglu manylion cyswllt cyfredol pawb perthnasol ar ddechrau’r tymor newydd. Cofiwch am wefan yr ysgol www.ysgolomedwards.co.uk ble mae lluniau a newyddion yn cael ei rhannu’n rheolaidd a hefyd Facebook (Cyfeillion Ysgol O.M. Edwards) Cysylltu gyda’r Ysgol – Mrs Dilys Ellis-Jones ydi Pennaeth Ysgol OM Edwards. Os bydd gennych unrhyw gwestiwn brys am yr ysgol mae croeso i chi gysylltu gyda’r Pennaeth drwy ffonio 01678 540242 neu e-bostio [email protected]

    Gofal ar ôl Ysgol - Cysylltwch a’r Ysgol os ydych angen cefnogaeth gyda gofal ar ôl ysgol, gan fod darpariaeth ar gael yn y pentref.

  • Materion cludiant

    Bydd bws rhif 570 fydd yn teithio ar drywydd rhwng Y Parc – Ysgol OM Edwards. Bydd y bws yn gweithredu ar hyd y brif ffordd, ac yn codi yn y mannau a nodir yn yr amserlen isod. Mae posib ychwanegu man codi ar yr amod ei fod ar y brif ffordd a petai angen ychwanegu man codi bydd angen gwneud cais i’r Swyddog Cludiant ar (01286 679535). Bydd gwregysau a hebryngwr ar y bws. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei weithredu gan Williams o’r Bala (01678 520777). Bydd trefniadau tacsi yn cael ei cadarnhau yn uniongyrchol gyda’r unigolion perthnasol.

    Ardal Y Parc i Ysgol O.M. Edwards, Llanuwchllyn 570

    Meinihirion 0820 Ysgol OM Edwards 1530

    Tŷ Cerrig Isaf 0825 Bwthyn Glanllyn 1540

    Tai’n Rhos 0830 Beudy Newydd 1545

    Beudy Newydd 0835 Tai’n Rhos 1550

    Bwthyn Glanllyn 0840 Tŷ Cerrig Isaf 1555

    Ysgol OM Edwards 0850 Meinihirion 1600

    Manylion cyswllt : Rhif ffon cyswllt yr ysgol 01678 540242 neu e-bost: [email protected]

    Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

    Neu drwy gysylltu gyda’r Swyddfa Addysg ar 01286 679 247 E-bost: [email protected]

    Staff Dysgu ac Ategol:

    Enw Swydd Enw Swydd

    Elliw Angharad Jones Athrawes Meithrin a Derbyn Carys Edwards Cymhorthydd Meithrin a Derbyn

    Siwan Davies Athrawes Bl 1&2 Ffion Mair Jones Cymhorthydd Meithrin a Derbyn

    Alun Llyr Evans Athro Bl 3&4 Edwina Owen Cymhorthydd Bl 1&2

    Dilys Ellis-Jones Athrawes Bl 5&6 a Pennaeth Manon Roberts Cymhorthydd Bl 3&4

    Nia Morgan Athrawes cyflenwi Clare Baines Cymhorthydd Bl 5&6

    Heledd Jones Athrawes cyflenwi Heulwen Rowlands Athrawes cyflenwi

    Dyddiadau Tymor Ysgol a Gwyliau -

    Tymor Ysgol 2013/14 Hydref 2013 5 Medi 2013 - 20 Rhagfyr 2013 Gwanwyn 2014 6 Ionawr 2014 - 11 Ebrill 2014 Haf 2014 28 Ebrill 2014 - 21 Gorffennaf 2014 Gwyliau Ysgol: 28 Hydref – 1 Tachwedd 2013 (Hanner-Tymor) 23 Rhagfyr 2013 - 3 Ionawr 2014 (Gwyliau’r Nadolig) 24 - 28 Chwefror 2014 (Hanner-Tymor) 14 - 25 Ebrill 2014 (Gwyliau’r Pasg) 5 Mai 2014 (Calan Mai) 26-30 Mai 2014 (Hanner-Tymor) 22 Gorffennaf - 29 Awst 2014 (Gwyliau’r Haf)

  • Y DIWEDDARAF AR DREFNIADAETHYSGOLION YN NHREF Y BALA

    Y Cefndir

    Sefydlwyd Panel Adolygu Dalgylch (PAD) Y Berwyn i gynorthwyo yn y broses o lunio cynigion ar gyfertrefniadaeth ysgolion y dalgylch. Roedd aelodaeth y PAD yn cynnwys cynrychiolwyr ysgolion y dalgylch, gangynnwys pennaeth, cadeirydd llywodraethwyr a rhiant lywodraethwr o bob ysgol gynradd ac uwchradd,cynghorwyr lleol y dalgylch yn ogystal â chynrychiolaeth o Esgobaeth Llanelwy. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodyddo’r Panel.

    Ar ddiwedd y trafodaethau cyflwynwyd cynigion ar gyfer y dalgylch i'r Cyngor. Cymeradwywyd y cynigion achynhaliwyd cyfnod o ymgynghori statudol arnynt. Cyflwynwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnodymgynghori i’r Cyngor Llawn. Penderfynodd y Cyngor; I gau ysgolion Y Berwyn, Beuno Sant a Bro Tegid fel bo modd sefydlu Ysgol Gymunedol ar safleoedd

    presennol ysgolion Y Berwyn a Beuno Sant i dderbyn disgyblion 3 – 19 oed fel rhan o sefydlu Campws DysguGydol Oes newydd yn nhref Y Bala

    I gau Ysgol y Parc, gan ddarparu lleoedd i blant yn y dalgylch yn Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn

    Beth sydd wedi digwydd ers hynny?

    Y newid mawr sydd wedi digwydd ym maes trefniadaeth ysgolion ers cyfnod y trafodaethau diwethaf yw dullLlywodraeth Cymru o ariannu prosiectau adeiladu mawr. Bu yn rhaid i’r Cyngor wneud cais cychwynnol amarian ar gyfer rhestr o brosiectau ar gyfer y Sir. Mae datblygu campws ar gyfer Cymuned Ddysgu Gydol Oes yn YBala ynghyd a buddsoddi yng ngweddill ysgolion y dalgylch yn rhan o’r cais hwn gan y Cyngor.

    Gan fod penderfyniad i gau Ysgol Y Parc yn digwydd ynghynt – rhaid oedd symud ymlaen â gwelliannau yn YsgolOM Edwards a gwneud cais ariannol am yr elfen benodol yma.

    O ran sefydlu Cymuned Ddysgu Gydol Oes yn nhref Y Bala, bydd yn rhaid sefydlu achos busnes cynhwysfawrsydd yn ymateb i ofynion y Llywodraeth ac yn pwyso a mesur holl elfennau’r cynllun. Fel rhan o’r gwaith rhagbaratoadol hwn, mae trafodaethau cefndirol angenrheidiol yn digwydd o ran sefydlu partneriaeth darpariaethaddysg ôl-16. Mae’r trafodaethau hyn hefyd yn gyffredin i bob sefydliad sy’n cynnig addysg ôl 16 yn y Sir.

    Yn ogystal, mae trafodaethau Gweithgor Gydol Oes Gwynedd (sydd â chynrychiolaeth o rai o ysgolion ardal yBerwyn) yn gwneud gwaith pwysig o ran datblygu’r cysyniad yng nghyd-destun Gwynedd ac yn rhoi crynbwyslais ar gael cynlluniau sydd yn sicrhau fod y model gydol oes yn fodel ar gyfer y dalgylch cyfan. Mae’rgweithgor yma’n cynnwys penaethiaid ysgolion uwchradd, cynradd gwledig a trefol. Bu aelodau’r Gweithgor arymweld defnyddiol a gwerthfawr iawn â sefydliad gydol oes yn Llanbed yn ddiweddar.

    Beth fydd yn digwydd nesaf?

    Yn ystod y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn ail agor y drafodaeth hon yn lleol, ac yn ailsefydlu’r Grŵp Defnyddwyr fel rhan o’r broses o ddatblygu achos busnes cadarn i sicrhau’r buddsoddiad o £10 miliwn ynnalgylch y Berwyn. Bydd angen sicrhau fod yr holl faterion perthnasol yn cael eu hystyried er mwyn gwneud ygorau o’r cyfle gwerth chweil hwn i ddatblygu campws modern, a fydd o fûdd i holl ddisgyblion tref y Bala a’rdalgylch cyfan, ynghyd a’r gymuned ehangach.

    Oherwydd treigl amser, bydd yn rhaid i’r Cyngor ail gynnal proses ymgynghori er mwyn sefydlu’r GymunedDdysgu Gydol yn nhref Y Bala. Bydd hwn yn gyfle i ail ymweld â’r cysyniad a sicrhau fod y materion priodol yncael eu hystyried wrth symud y cynllun yn ei flaen.

    Bydd newyddlenni eraill yn cael eu rhyddhau fel bydd mwy o wybodaeth ar gael.

    Chwefror 2013CYNGOR GWYNEDD

    Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolionneu drwy e-bost: [email protected]

  • THE LATEST ON SCHOOL ORGANISATIONIN THE TOWN OF BALA

    The Background

    A Berwyn Catchment-are Review Panel (CRP) was established to advise with creating proposals during schoolorganisation in the catchment. The membership of the CRP included representatives from the catchment’sschools, including the headteachers, chair of governors and parent governors form each primary and secondaryschool, the catchment’s local councillors as well as representatives from St. Asaph Diocese. A series of Panelmeetings were held.

    At the end of discussions, proposals for the area were presented to the Council. The proposals were approvedand statutory consultation periods were held. The comments received during the statutory consultations werepresented to the Full Council. The council decided;

    To close Y Berwyn, Beuno Sant and Bro Tegid schools in order to establish a Community School on thecurrent sites of Y Berwyn and Beuno Sant schools to receive 3-19 year old pupils as part of establishing anew Life Long Learning campus in the town of Bala.

    To close Ysgol y Parc, and provide education for the catchment-area children in Ysgol O.M. Edwards,Llanuwchllyn.

    What has happened since?

    The biggest change that has happened in the school organisation field since discussions were last held, is theWelsh Government’s method of funding large building projects. The Council presented an initial fundingapplication for a list of projects for the County. Developing a Campus for a Life Long Learning Community inBala and investing in the remaining catchment area schools is part of the application presented by the Council.

    As the decision to close Ysgol Y Parc is happening earlier - improvements to Ysgol OM Edwards had to be madeand the business case application on this element was submitted earlier.

    In regard to establishing a Life Long Learning Community in Bala, a comprehensive business case has to bepresented that responds to Government requirements which considers all aspects of the project. As part of theinitial preparatory work, there are necessary background discussions being undertaken with regards toestablishing a post-16 education provision partnership. These discussions are also consistent with discussionsthat include all other establishments that provide post-16 education in the County

    Also, the Gwynedd Life Long Learning Working Group (which has representatives from some school of theBerwyn area) discussions are doing important work developing the concept within the context of Gwynedd,placing emphasis on plans that ensure the life long learning model is for the whole catchment. This workinggroup includes headteachers of secondary, rural and urban primary schools. Working group members had auseful and informative visit to a life long learning establishment in Lampeter recently.

    What happens next?

    In the next few months – the Council will re-open discussion locally, and will re-establish the User Group as partof the process of establishing a firm business case to ensure the £10million investment in the Berwyncatchment area. All relevant issues should be considered in order to make the most of this worthwhileopportunity to develop a modern campus, which will benefit pupils of Bala town and the whole Berwyncatchment, along with the wider community.

    Due to the time lapse, the Council will have to re-conduct the consultation process to be able to establish theLife Long Learning Community in the town of Bala. This will be an opportunity to re-visit the concept and ensurethat the appropriate matters are considered while moving the scheme forward.

    Further newsletters will be released when more information becomes available..

    February 2013GWYNEDD COUNCIL

    Further information is available on the Council ‘s website www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisationor by e-mail : [email protected]

  • Y DIWEDDARAF AR DREFNIADAETH

    YSGOLION YN NALGYLCH Y BERWYN

    Y Cefndir

    Mae trafodaethau ar ad-drefnu ysgolion yn nalgylch Y Berwyn wedi cychwyn ers peth amser bellach.

    Ar ddiwedd y trafodaethau cyflwynwyd cynigion ar gyfer y dalgylch i'r Cyngor a chynhaliwyd cyfnod o

    ymgynghoriad statudol. Yn dilyn yr ymgynghoriad, penderfynodd y Cyngor fel a ganlyn;

    • Sefydlu campws gydol oes yn nhref Y Bala, sydd yn golygu cau ysgolion Bro Tegid, Beuno Sant a’r Berwyn

    a’u hail agor fel Ysgol ar gyfer disgyblion 3 i 19 mlwydd oed.

    • I gau Ysgol y Parc, gan ddarparu lleoedd i blant yn y dalgylch yn Ysgol OM Edwards, Llanuwchllyn

    Beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf?

    • Mae newid wedi bod yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prosiectau adeiladu mawr. Bu

    rhaid i’r Cyngor wneud cais cychwynnol am arian ar gyfer rhestr o brosiectau ar draws y Sir ar gyfer y 7

    mlynedd nesaf. Mae datblygu campws ar gyfer Cymuned Ddysgu Gydol Oes yn Y Bala ynghyd â

    buddsoddi yng ngweddill ysgolion y dalgylch yn rhan o’r cais hwn gan y Cyngor. Gall y buddsoddiad fod

    yn werth mwy na £10miliwn yn nalgylch y Berwyn.

    • Yn dilyn penderfyniad i gau Ysgol Y Parc erbyn Medi 2013 – aethpwyd ymlaen i adnabod y gwelliannau

    yn Ysgol OM Edwards a gwneud cais ariannol am yr elfen benodol yma. Mae gwaith adeiladu yn digwydd

    yn Ysgol OM Edwards ar hyn o bryd.

    • O ran sefydlu Cymuned Ddysgu Gydol Oes yn nhref Y Bala, bydd rhaid sefydlu achos busnes manwl iawn

    sydd yn ymateb i ofynion ac amodau a amlinellir gan y Llywodraeth. Mae hwn yn mynd i fod yn gryn

    waith ac yn mynd i gymryd peth amser i’w gwblhau.

    • Fel rhan o’r gwaith paratoi, mae trafodaethau yn digwydd er mwyn sefydlu partneriaeth darpariaeth

    addysg ôl-16. Mae’r trafodaethau hyn hefyd yn digwydd i bob sefydliad sy’n cynnig addysg ôl 16 yn y Sir.

    • Yn ogystal, mae gwaith yn digwydd gan Grŵp o Benaethiaid ar ddatblygu’r model o Sefydliad Ddysgu

    Gydol Oes. Mae hwn yn fodel newydd yng Ngwynedd, ac er bod rhai sefydliadau eraill yng Nghymru

    wedi eu datblygu yn eithaf diweddar, mae’n syniad eithaf arloesol. Felly, mae gwaith yn cael ei wneud i

    ddatblygu syniadau ar y ffordd orau o ddarparu addysg mewn sefydliad fydd y darparu addysg ar gyfer

    disgyblion 3 - 19 oed. Rhaid ystyried y dalgylch cyfan a’r ysgolion hynny fydd ddim ar y campws a sut

    mae sicrhau nad yw disgyblion yr ysgolion hynny dan unrhyw anfantais.

    • Bu cyfarfod efo Penaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr yn ddiweddar i roi diweddariad manwl

    ynglŷn â datblygiadau yn yr ardal, a’r hyn fydd angen ei wneud nesaf.

    Camau nesaf

    O fis Hydref 2013 bydd y Cyngor yn ail agor y drafodaeth hon yn lleol, ac yn ailsefydlu’r Grŵp Defnyddwyr fel

    rhan o’r broses o ddatblygu achos busnes cadarn i sicrhau’r buddsoddiad o £10 miliwn yn nalgylch y Berwyn.

    Bydd angen sicrhau fod yr holl faterion perthnasol yn cael eu hystyried er mwyn gwneud y gorau o’r cyfle

    gwerth chweil hwn i ddatblygu campws modern, ar gyfer holl ddisgyblion tref y Bala a’r dalgylch cyfan, ynghyd

    â’r gymuned ehangach.

    Bydd rhaid i’r Cyngor ail gynnal proses ymgynghori er mwyn sefydlu’r Gymuned Ddysgu Gydol Oes yn nhref Y

    Bala. Bydd hwn yn gyfle i ail ymweld â’r cysyniad i sicrhau fod pob mater yn cael ei ystyried wrth symud y

    cynllun yn ei flaen. Rhagwelir y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei ail gynnal yn 2014 a’r gobaith ydy bydd gwaith

    adeiladu yn gallu cychwyn yn ystod 2015. Y nod felly yw agor yr ysgol gydol oes ym Medi 2016.

    Mai 2013 CYNGOR GWYNEDD

    Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.gov.uk/trefniadaethysgolion

    neu drwy e-bost: [email protected]

  • THE LATEST ON SCHOOL ORGANISATION

    IN THE BERWYN AREA

    The Background

    Discussions on schools reorganisation in the Berwyn catchment area have been underway for some time.

    At the end of the discussions the recommendations for the catchment were presented to the Council and a

    statutory consultation period was held. Following the Consultation the Council decided as follows:

    • Establish a Lifelong Learning Campus in Bala Town, which means closing Bro Tegid, Beuno Sant and

    Berwyn schools and re-opening them as a lifelong school for pupils aged 3 to 19 years of age.

    • To close Y Parc school and provide places for the pupils at OM Edwards school, Llanuwchllyn

    What’s the latest situation ?

    • There has been a substantial change in the way the Welsh Government finances large building projects.

    The Council had to make an initial bid for funds for a number of projects across the County for the next

    7 years. Developing a campus for a Lifelong Learning Community in Bala along with investment in other

    schools within the catchment is part of this bid. This investment could be worth more than £10 million

    for the Berwyn catchment area.

    • Following the decision to close Y Parc school by September 2013 – improvements to OM Edwards school

    were identified and a financial bid was made for this specific element. Building works are now taking

    place at OM Edwards school.

    • In order to establish the Lifelong Learning Community in Bala, a detailed business case will have to be

    developed which meets the terms and conditions set by the Government. This will be a substantial task,

    which will take some time to complete.

    • As part of the preparatory works, discussions are under way to establish the partnership for the post 16

    provision. These discussions are common for all establishments which offer post 16 education.

    • In addition work is under way by a Group of Headteachers to develop a model for a Lifelong Learning

    Establishment. This is a new model in Gwynedd, and although other establishments in Wales have

    developed this model fairly recently, it is a groundbreaking concept.. Therefore work is in progress to

    develop systems which provide the best way to provide education in an establishment providing

    education for pupils aged 3-19. The whole catchment has to be considered, including schools which will

    not be on the campus, to ensure that all pupils have an equal opportunity.

    • A meeting was held recently with Headteachers and Chairs of Governors to provide a detailed update of

    the developments in the area and also what will need to be done next.

    What happens next?

    From October 2013 the Council will re-open the discussion locally and re-instigate the User Group as part of the

    process of developing a strong business case in order to ensure the £10 million investment in the Berwyn

    catchment. It will be essential to ensure that all the relevant issues are discussed in order to make the most of

    this fabulous opportunity to develop a modern campus for the pupils of Bala and the whole catchment, as well

    as the wider community.

    The Council will need to re-conduct the consultation process in order to establish a Lifelong Learning

    Community in Bala Town. This will give an opportunity to re-visit the concept and to ensure that the

    appropriate matters are being considered whilst moving the plans forward. It is estimated that the consultation

    will be re-conducted in 2014 and it is hoped that building works will commence during 2015.

    The aim is to open the lifelong learning centre in September 2016.

    May 2013 GWYNEDD COUNCIL

    Further information is available on the Council ‘s website www.gwynedd.gov.uk/schoolorganisation

    or by e-mail : [email protected]

    Newyddlen_1__Y_BerwynAtodiad_2_2__Newyddlen_2__Y_BerwynAtodiad_22__Newyddlen_3_Y_BerwynNewyddlen Y Parc Medi 2012Newyddlen_Ionawr_2013_Ysgolion_Parc_ac_OM_EdwardsNewyddlen_OM_Gorff_2013Newyddlen Tref Y Bala - Chwefror 2013Newyddlen_Tref_Y_Bala__Mai_2013_Cymraeg_a_Saesneg