24
cylchlythyr gwanwyn/haf 2016 lle mae bywyd byr yn fywyd llawn y tu mewn stori sophie t.6 nadolig y hafan t.9 thomas carroll yn talu am ddiwrnod t.16 cwtsh ein newyddion a straeon o t ˆ y hafan

cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

cylchlythyrgwanwyn/haf

2016

lle mae bywyd byr yn fywyd llawny tu mewn stori

sophie t.6

nadoligty hafan t.9

thomas carroll yn talu am ddiwrnod t.16

cwtshein newyddion a straeon o ty hafan

Page 2: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

croesoCroeso i rifyn Gwanwyn/Haf CwtshYn Ty Hafan, rydym yn falch o wneud pethau ychydig bach yn wahanol, pethau na fyddech yn eu disgwyl, a dyna pam mae bod yn rhan o deulu Ty Hafan yn gallu bod yn gymaint o hwyl.

Mae’n rhesymol fod pobl sy’n anghyfarwydd â Ty Hafan a’r gwaith yr ydym yn ei wneud yma yn credu ei fod yn lle trist. Hosbis i blant yw Ty Hafan wedi’r cyfan. Ond o’r eiliad y byddwch yn cerdded tuag at yr adeilad ac yn gweld y plant yn chwarae ar y siglenni, cyn cerdded trwy’r fynedfa i’r hosbis ei hun a chael eich croesawu gan wynebau hapus a lliwiau disglair a llachar, fe sylweddolwch ei bod yn llawer iawn mwy na hynny.

Mae Ty Hafan yn lle hwyliog a bob dydd ein nod yw sicrhau atgofion newydd a fydd yn cael eu trysori gan ein teuluoedd.

Gobeithio y bydd y rhifyn hwn o Cwtsh yn rhoi argraff i chi o sut y bydd Ty Hafan yn gallu newid bywyd teuluoedd mewn pob math o wahanol ffyrdd cadarnhaol. Heb ein cefnogwyr gwych, ni fyddem yn gallu darparu’r gofal lliniarol cyfannol gorau o’i fath i’r holl blant a’r teuluoedd yng Nghymru sydd ein hangen ni.

Mae eich cymorth chi yn golygu popeth i’n teuluoedd ni. Am hynny, rydym yn ddiolchgar dros ben.

cynnwysailwampiad o'r radd flaenaf i'r ystafell synhwyrau ................................02

cerflun coffa yn talu teyrnged i gefnogwyr................................................04

emporiwm yn agor yn arcêd brenhinol caerdydd ................................05

stori sophie .........................................................................................................06

nadolig ty hafan ..............................................................................................08

hofrennydd siôn corn ......................................................................................09

peter pan - yn null ty hafan ...........................................................................09

môr-ladron pentywyn ......................................................................................10

hanes osian ........................................................................................................12

mam sy'n galaru yn modelu i ddiolch i elusen ........................................14

ty hafan yn dathlu wythnos gofal hobis .....................................................15

thomas carroll yn talu am ddiwrnod ...........................................................16

sammy ameobi yn tynnu tocyn enillydd raffl y nadolig .........................18

crackerjackpot ....................................................................................................18

diolch o galon ....................................................................................................19

sportradar connect 2015................................................................................20

codi arian o 12,000 troedfedd ......................................................................20

cenhadaeth codi arian ....................................................................................21

siampên yn y castell .........................................................................................21

her greulon ........................................................................................................22

helpwch ni i barhau i fod yma .....................................................................23

ailwampiad o’r radd flaenaf i’r ystafell synhwyrau

2

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

Page 3: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

ailwampiad o’r radd flaenaf i’r ystafell synhwyrau

Mae gan y plant sy’n defnyddio gwasanaethau Ty Hafan amrywiaeth o gyflyrau cymhleth. Mae hyn yn golygu na fydd llawer ohonynt yn gallu elwa ar fanteision chwarae arferol i’w datblygiad.

Mae’r ystafell synhwyrau wedi bod yn ychwanegiad gwych i’r hosbis ac mae’n golygu y gall plant ag anghenion a galluoedd amrywiol ddatblygu trwy chwarae.

Ar ôl cael ei defnyddio a’i gwerthfawrogi’n fawr dros y blynyddoedd, roedd angen ailwampio’r ystafell synhwyrau i gyd-fynd â’r galw. Diolch i haelioni ein cefnogwyr corfforaethol, mae’r ystafell synhwyrau a’r ystafell chwarae meddal wedi cael eu gweddnewid yn sylweddol. Cafwyd grant o £31,434 gan HSBC, a sicrhawyd drwy waith caled Gary Footman, sy’n dad a ddioddefodd brofedigaeth ac sy’n gweithio i HSBC, a rhodd anhygoel o £27,055 gan Dow Corning,

Bellach mae system awyru ac offer newydd ar gyfer codi cleifion yn yr ystafelloedd sy’n

rhoi cyfle i bawb ddefnyddio’r cyfleusterau gwych. Y prif bethau sy’n tynnu sylw yw’r Drych Hud, system camera a weithredir gan y symudiad lleiaf, Carped Hud, lle caiff delweddau a gemau rhyngweithiol eu dangos ar y llawr a’u rheoli gan symudiadau dros y ddelwedd, a man chwarae meddal newydd a gwell.

Diolch i’r holl gefnogwyr anhygoel a gyfrannodd at gronfa ariannu’r gwaith ailwampio: Elusen Fawreddog y Seiri Rhyddion, Ymddiriedolaeth Elusennol Ladbrokes, Dow Corning, Grwp HSBC, Corporate Sustainability, IMO AJ Evans, Kier Construction, Sefydliad Cymunedol Banc Lloyds a Phoenix Children's Foundation. Bydd eich cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau’r plant sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

3

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 4: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Roedd yn fraint cael dadorchuddio ein Coeden Roddion, cerflun coffa sy’n talu teyrnged i’r cwmnïau, grwpiau ac unigolion sy’n ein cefnogi ac sydd wedi codi dros £10,000.

Dadorchuddiwyd y Goeden Roddion yn swyddogol gan Carys Boggis, pump oed, o Aberdâr, a’i brawd Rhys, 13 oed, sydd wedi cael cymorth gan Ty Hafan ers 2007.

Bydd pob rhodd o £10,000 neu fwy bellach yn cael ei nodi gan ddeilen aur, arian neu efydd wedi ei chrefftio â llaw a fydd yn cael ei gosod ar y Goeden Roddion a gynlluniwyd gan artist ac sydd wedi ei gosod ar wal yn yr hosbis. Bydd pob deilen yn cynnwys arysgrif pwrpasol sy’n nodi enw’r rhoddwr.

Mae’r 21 o ddail cyntaf i’w gosod ar y goeden yn cynrychioli cyfanswm anhygoel o £349,456, a godwyd gan deuluoedd sy’n gysylltiedig â Ty Hafan. Mae hyn yn cynnwys rhoddion unigol, rhoddion o waith codi arian Grwp Tadau’r hosbis a chyfraniadau gan unigolion yn gysylltiedig â digwyddiadau Noson Allan y Cogyddion.

Dywedodd Anthony, tad Carys a Rhys, sydd wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau codi arian gyda Grwp y Tadau, gan gynnwys her 3 chopa Cymru: “Rydym yn dod yma fel teulu i aros. Seibiant i ni yw bod i ffwrdd o gartref ac i ffwrdd o ysbytai a’r holl bethau y mae’n rhaid i ni ymdopi â nhw.

“Mae’n anhygoel cael deilen ar y Goeden Roddion a bod Carys yn ei lansio. Rwy’n arbennig o falch o hynny.”

Mae’n costio £4 miliwn bob blwyddyn i ddarparu’r gofal, y cysur a’r cymorth i’n teuluoedd yn yr hosbis a’n gwasanaethau cymorth yn y gymuned. I gyfrannu ewch i www.tyhafan.org/donate.

cerflun coffa yn talu teyrnged i gefnogwyr

4

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

Page 5: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Mae arcedau oes Fictoria Caerdydd, sydd ag awyrgylch hyfryd iddynt, yn nodwedd gwbl unigryw i brifddinas Cymru ac mae pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd yn treulio oriau yn archwilio pob twll a chornel ohonynt. Roedd hyn yn gwneud yr Arcêd Brenhinol yn fan delfrydol i agor trydedd siop bwtîc Emporiwm Ty Hafan yn yr hydref.

Mae Emporiwm wedi denu sylw’r blogwyr a’r rhai sy’n pleidleisio ar gyfer gwobrau, a hynny am ei fersiwn unigryw o’r fformiwla siop elusen. Mae’r pwyslais ar eitemau o feysydd arbenigol, fel hen beiriannau gwnïo a theipiaduron a dillad ac esgidiau gan gynllunwyr. Roedd dull arloesol yr Emporiwm yn rheswm allweddol am ein llwyddiant wrth inni ennill gwobr Busnes Manwerthu y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes De Cymru ym mis Medi.

Victoria Godwin o’r Eglwys Newydd, sy’n 17 mlwydd oed, oedd ein gwestai arbennig. Hi dorrodd y rhuban yn agoriad swyddogol y siop, a hi oedd y cwsmer cyntaf i fachu bargen – cwpl o recordiau finyl clasurol.

Ganwyd Victoria, sydd wedi bod yn dod i Ty Hafan ers chwe blynedd, â Syndrom Down ac mae’n dioddef o Gardiomyopathi Lledagored

- cyflwr difrifol ar y galon sy’n golygu ei bod yn blino’n hawdd iawn a bod angen cadair olwyn arni weithiau i allu symud o gwmpas.

Dywedodd Nina, mam Victoria: “Dechreuodd Ty Hafan ein helpu ni ar adeg pan oeddem ar ein hisaf. Roedd Victoria, a oedd yn 11 oed ar y pryd, yn rhy sâl i fynd i’r ysgol felly gwnaeth Ty Hafan ein cefnogi â therapi cerddoriaeth a chwarae yn ein cartref ac maent wedi bod yn gefn i’n teulu ni ers hynny.

“Mae Victoria wrth ei bodd yn aros yn Ty Hafan ac mae hi wedi gwneud ffrindiau da, gan gynnwys ei ffrind gorau, Kate, sydd hefyd yn defnyddio’r gwasanaeth. Mae’n rhoi cyfle iddi gael ychydig o annibyniaeth ac mae hi’n gallu mwynhau amser i ffwrdd yn gwneud pethau sy’n arferol i blant yn eu harddegau.”

Dywedodd Victoria: “Rwyf wrth fy modd yn Ty Hafan oherwydd fy mod i'n cael cysgu dros nos gyda fy ffrindiau ac rydym yn cael llawer iawn o hwyl.”

Yn drist, nid oes modd gwella cyflwr calon Victoria ac nid yw’r meddygon yn gallu rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.

“Rydym yn byw un dydd ar y tro ac yn ceisio gwneud bywyd mor gyfforddus a hapus â phosibl i Victoria,” meddai Nina.

Mae rhoi eich hen eitemau a siopa yn ein siopau yn ein helpu i ddarparu gofal a chefnogaeth i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd.

emporiwm yn agor yn arcêd brenhinol caerdydd

“Mae’n siop mor brydferth a chymaint o eitemau ar werth ynddi. Mae’n hyfryd gweld

cymaint o bobl yn cefnogi’r siop a byddaf i, yn sicr, yn dod yn ôl

yma.”

Dawn Higgins o Dressmeperfect.com

angen gwirfoddolwyrMae’n bosibl nad oes grwp mwy pwysig o bobl i Ty Hafan na’n gwirfoddolwyr anhygoel. Os oes

gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm, cysylltwch â ni ar 029 2053 2199 neu ewch

i www.tyhafan.org/volunteer.

“Mae’n siop elusen wahanol iawn, wedi ei chynllunio

mewn dull hen ffasiwn – sy’n ei gwneud yn annhebyg i

unrhyw siop arall sydd wedi bod yng Nghaerdydd erioed.”

Matt Williams

5

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 6: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

stori sophie

Mae Jane a David Lewis yn cofio’r diwrnod ym 1999, pan anwyd eu merch fach Sophie, fel un o’r diwrnodau hapusaf yn eu bywydau. Ar ôl beichiogrwydd arferol, ond wedyn tri diwrnod erchyll o esgor ar y babi, a ddaeth i ben gyda thoriad cesaraidd, aeth y cwpl â Sophie adre i’w cartref yn Lecwydd yng Nghaerdydd.

“Daethom adre gyda’n babi bach hyfryd a mwynhau 15 wythnos hapus iawn”, meddai Jane. “Roedd Sophie, yn ystod yr wythnosau cynnar hynny, yn fabi ardderchog. Roedd hi’n bwydo ac yn cysgu’n dda, roedd popeth yn hyfryd. Gallaf ddweud yn onest nad oedd gen i unrhyw bryderon o gwbl.”

Ond pan oedd Sophie yn 15 wythnos oed, heb unrhyw rybudd, cafodd ei ffit gyntaf.

“Gwnaeth y diwrnod y cafodd ei ffit gyntaf fy newid i’n llwyr. Gallaf ddweud yn onest fy mod i’n berson gwahanol nawr,” meddai Jane.

“Mae’r ofn yn gafael ynddoch chi. Dyna’r tro cyntaf i mi weld rhywun yn cael ffit ac roeddwn yn gwylio fy merch yn dioddef. Roeddem ni yn y car ac roedd hi yn ei sedd car yn cysgu ar y pryd. Roeddwn i’n sgrechian ar fy ngwr ac aethom i’r ysbyty ar unwaith.

“Ar ôl cyrraedd, pan alwyd ni i weld y meddyg, dechreuodd gael ffitiau eto yn fy mreichiau. Yn amlwg cafodd ei derbyn i’r ysbyty ar unwaith a buom yn byw yn yr ysbyty hwnnw am y pedwar mis nesaf.”

Dros y dyddiau nesaf, roedd Sophie yn parhau i gael ffitiau ac un diwrnod cafodd fwy na 50 o ffitiau.

“Daeth pob prawf yn ôl yn ‘normal’. Felly oherwydd hynny, a chan fy mod i’n ifanc ac yn ddiniwed, roeddwn i’n cymryd y byddent yn rhoi trefn ar ei meddyginiaeth ac y byddem yn gallu mynd adref a mwynhau pethau eto,” meddai Jane. “Ychydig a wyddwn y byddai’r ffitiau’n dal i reoli ein bywydau 16 mlynedd yn ddiweddarach.”

Ers hynny, mae Sophie wedi cael gwybod ei bod yn un o ddim ond 50 o bobl yn y DU sydd â chyflwr genetig prin o’r enw CDKL5 sy’n achosi ffitiau a phroblemau datblygu difrifol. Atgyfeiriwyd y teulu i Ty Hafan yn 2004, pan oedd gofalu am anghenion cymhleth Sophie yn llawer mwy anodd, yn enwedig gan fod gan Sophie frawd bach erbyn hynny, Thomas, a oedd yn ddwyflwydd oed.

Dywedodd David: “Mae Ty Hafan wedi bod yn anhygoel. Mae hi wedi bod yn anodd iawn ar adegau, ond mae’r cymorth yn ei gwneud yn llawer haws. Maent yn gofalu am holl anghenion gofal Sophie pan fyddwn yn mynd yno felly gallwn gael seibiant a gwneud pethau arferol fel mynd am bryd o fwyd neu fynd ar wyliau.

6

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

Page 7: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

“Mae Sophie yn cael amser gwych yn Ty Hafan. Mae hi wrth ei bodd yn yr ystafell synhwyrau a’r pwll therapi dwr ac mae ein dau fab arall wrth eu boddau yno hefyd.”

Mae Sophie yn 16 oed bellach, ond mae ei chyflwr yn golygu bod angen gofal 24 awr y dydd arni ac nid yw’n gallu cerdded na siarad. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae Sophie yn rhoi llawer o hapusrwydd i’w theulu ac mae’r staff yn Ty Hafan wrth eu boddau yn ei maldodi pan ddaw i ymweld.

Mae Jane a David yn gefnogwyr gwych i Ty Hafan ac maent wedi cymryd rhan mewn llawer o gyfleoedd codi arian dros y blynyddoedd. Mae Jane wedi gwneud peth gwaith gwirfoddol i helpu’r tîm codi arian dros y Nadolig. Bu David, sy’n gweithio i Tesco, yn lapio pentwr enfawr o anrhegion Nadolig a roddwyd gan ei gyflogwr i’r hosbis yn ystod cyfnod y Nadolig.

Bu David hefyd yn cymryd rhan yn Her Beicio Hanner Llwybr Taf Ty Hafan, her beicio a oedd yn dechrau ym Merthyr Tydfil ac yn dod i ben yng Nghaerdydd, gyda’i dîm, y Tesco Trailers.

Dywedodd: “Gwnes i fwynhau yr Her Beicio Llwybr Taf yn fawr ac roeddwn yn falch fy mod yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i helpu teuluoedd eraill. Rydym eisoes yn cynllunio i gwblhau’r llwybr cyfan y flwyddyn nesaf ac rydym hefyd hyd yn oed yn ystyried gwneud her 3 chopa Cymru Ty Hafan ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.”

“Mae Sophie yn cael amser gwych yn Ty Hafan. Mae hi wrth ei bodd yn yr ystafell synhwyrau a’r pwll therapi dwr ac mae ein dau fab arall wrth eu boddau

yno hefyd.”

7

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 8: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

nadolig ty hafan Rydym wedi dweud hyn o’r blaen, ond mae Ty Hafan yn gwybod sut i ddathlu’r Nadolig! A’r llynedd, mae’n bosibl ein bod wedi gwneud hynny yn well nag erioed o’r blaen!

Roedd y gyngerdd carolau agoriadol yn y castell yn ddechrau perffaith i’r Nadolig. Roedd cyfle gwych i gydganu, ymweliad gan Siôn Corn ei hun, ychydig o eira ac arddangosfa ddramatig o dân gwyllt.

Roedd y twr Normanaidd ysblennydd o’r 11eg ganrif yn gefndir anhygoel i’r digwyddiad a daeth tri chôr amatur gwych, Affinity Choir, City Voices Cardiff a Sing and Inspire Superchoir, ymlaen i’r llwyfan i’n cadw ni i gyd mewn tiwn. Perfformiodd pob côr rai o’u trefniadau eu hunain o ganeuon clasurol y Nadolig, gan gynnwys White Christmas, The Twelve Days of Christmas, Santa Claus is Coming to Town a Must Be Santa.

Perfformiodd Russell Jones o Only Boys Aloud gyfres o ganeuon Nadoligaidd penigamp o flaen cynulleidfa o 2,000, bob un ohonynt yn mynd i ysbryd yr wyl.

Roedd yn ddigwyddiad hynod o arbennig i Ian Reiffer, sydd â mab, Lewis, 16 oed, sy’n dod i Ty Hafan yn rheolaidd. Cafodd Lewis ddiagnosis ei fod yn dioddef o fath difrifol o epilepsi pan oedd ond ychydig fisoedd oed. Mae Ian yn gweithio fel Rheolwr Sicrwydd Gweithrediadau gyda Threnau Arriva Cymru ac roedd wrth ei fodd pan ddewisodd ei gyflogwr noddi’r digwyddiad.

Dywedodd Ian: “Mae’n wych. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y cam hwn. Dechreuodd gyda theithiau beic ac rydym wedi bod yn datblygu’r berthynas â Ty Hafan ers hynny. Mae’n rhan bwysig o’r gymuned ac mae gwaith cymunedol yn bwysig iawn i ni yn Arriva.

“Mae Syndrom Lennox Gastaut ar Lewis. Roedd yn datblygu’n dda fel babi, yna pan oedd yn bedwar mis oed, dechreuodd gael ffitiau bach. Ar ôl llawer o brofion, dywedodd y meddyg ymgynghorol wrthym fod y gwingiadau yn ddifrifol iawn a bod gan Lewis fath difrifol o epilepsi, a oedd wedi achosi niwed i’w ymennydd.

“Bellach mae Lewis yn 16 ond yn feddyliol mae’n siwr o fod yn un neu’n ddwy oed. Nid yw’n gallu cyfathrebu ond mae’n blentyn hyfryd, ac yn ddiddig iawn.

“Rydyn ni’n dueddol o ddod i aros am benwythnos hir yn Ty Hafan. Mae’n wych - mae’n rhoi modd i fyw i Lewis bob tro y mae’n mynd yno. Mae wrth ei fodd yn yr ystafell chwarae synhwyrau a’r pwll. Roedd ei chwaer Lauryn yn arfer mynd i’r grwp ar gyfer brodyr a chwiorydd bob mis ond mae ganddi amserlen brysur y dyddiau hyn!”

Roedd Carolau yn y Castell yn gymaint o lwyddiant ysgubol rydym eisoes yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gastell Caerdydd yn 2016 a sicrhau bod ein digwyddiad agoriadol ‘swyddogol’ i gyfnod y Nadolig yn dod yn draddodiad yng Nghaerdydd.

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

8

Page 9: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

hofrennydd siôn cornCafodd ein plant a’u teuluoedd anrheg Nadolig arbennig iawn ar y diwrnod cyn Noswyl y Nadolig. Cymerodd Siôn Corn rai munudau o hoe o’i baratoadau ar gyfer ei anturiaethau ar Noswyl y Nadolig i ymweld â’r hosbis a chyfarfod â'r teuluoedd.

Ond yn hytrach na defnyddio’i ddull arferol o gludiant, rhoddodd ychydig o oriau o seibiant i’w geirw a chyrraedd yn hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru!

Roedd pawb wrth eu boddau â’i ffordd ddramatig o gyrraedd ac roedd yn ddiwrnod mor gyffrous i bawb a oedd yno. Felly diolch o galon i Ambiwlans Awyr Cymru am roi benthyg yr hofrennydd i Siôn Corn.

peter pan – yn null ty hafanMae’r panto bellach yn draddodiad yn Ty Hafan. Y llynedd cafwyd stori Peter Pan yn ein dull unigryw ein hunain - Peter drygionus, tic-toc-croc peryglus, sêr enwog o’r byd cerdd yn actio rhannau cowbois, cyn chwaraewyr rygbi rhyngwladol yn actio rhannau merched coll ac un o’r portreadau mwyaf diddorol o Tinkerbell yr ydych yn debygol o’i weld erioed - oni bai eich bod yn ei dychmygu fel bod yn 6’3” gyda llawer o datws deniadol.

Roedd gwylio Ian ‘Wendy’ Gough, sydd wedi chwarae dros Gymru, yn cael ei herwgipio gan y dihiryn Captain Hook, a Peter a’r... cymeriadau coll, gan gynnwys y ‘Cowboi’ Connie Fisher, yn cynllunio sut i’w hachub, heb os nac oni bai, yn uchafbwynt i’r digwyddiad.

Roedd Siôn Corn, wrth gwrs, wrth law i roi anrhegion bendigedig i’r plant a oedd yn bresennol. Rhoddwyd y rhain gan ein cefnogwyr anhygoel, ac roedd yn wych i weld cymaint o’n cefnogwyr corfforaethol yn ymroi yn llwyr i’w rhannau.

9

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 10: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

môr ladron pentywyn Rydym wedi rhannu rhai straeon anhygoel am ffrindiau, aelodau teuluoedd a chyflogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian i Ty Hafan. Bydd pobl yn cymryd rhan mewn heriau anghyffredin, boed hynny yn wynebu ofn personol trwy nenblymio neu drwy ddod â’r gymuned gyfan at ei gilydd i gynnal te parti mawr.

Serch hynny, mae ein hoff straeon yn cynnwys y plant sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn cymryd rhan eu hunain.

Atgyfeiriwyd Poppy Jones, sydd â pharlys yr ymennydd cwadriplegig a chlefyd cronig yr ysgyfaint, i Ty Hafan yn 2011. Mae hi’n ferch 10 oed fywiog sydd wrth ei bodd yn cael hwyl a sbri. Gyda chymorth grwp amrywiol o’i ffrindiau a’i theulu o’r enw ‘Poppy’s Pirates’, cwblhodd Poppy ein ras enfys 5km ar Draeth Pentywyn - mewn bath!

“Mae hi’n dipyn o gymeriad ac mae ganddi synnwyr digrifwch

gwych,” meddai ei thad, Rob. “Gan fod Poppy yn defnyddio cadair olwyn, roeddem ni’n meddwl y byddai defnyddio bath ar olwynion yn llawer mwy o hwyl i gwblhau’r ras. Roedd yn wych ac roedd Poppy yn gwenu ac yn chwerthin trwy gydol y ras.”

Mae Poppy, o Grughywel, wedi dioddef llawer o broblemau iechyd dros y blynyddoedd a bu adegau pan nad oedd y meddygon yn credu y byddai hi’n byw.

“Mae hi wedi cael hanes cyfnewidiol, o ran ei hiechyd,” meddai Rob. “Cafwyd adegau pan fu hi’n ofnadwy o wael ac

rydym yn ffodus iawn ei bod wedi bod gyda ni dros y deng mlynedd ddiwethaf.”

Ymunodd Poppy â dros 1,000 o Redwyr Enfys eraill ar gyfer ail ras Ty Hafan ar Draeth Pentywyn. Dechreuodd y rhedwyr wedi’u gwisgo mewn gwyn gan groesi’r llinell wedi eu gorchuddio â phaent o bob lliw i godi arian i Ty Hafan.

“Fel llawer o’r plant sy’n cael budd o Ty Hafan, rydym yn gorfod gwneud y mwyaf o’r amser sydd gennym gyda’n gilydd,” meddai Rob.

“Mae Ty Hafan yn caniatáu i Poppy fod yn ferch ddeg

mlwydd oed normal. Mae hi wrth ei bodd yn cellwair ac mae hi’n cael teimlo fel un o’r merched. Nid yw’n cael ei thrin fel rhywun anabl. Mae’n cael ei thrin fel merch normal sydd â synnwyr digrifwch gwych. Dyma’r unig le hefyd y gallwn fynd iddo fel teulu i gael seibiant go iawn.”

I gael gwybodaeth ynglyn â’r Ras Enfys yn y dyfodol, ewch i www.rainbowrunwales.co.uk.

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

10

Page 11: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

“Fel llawer o’r plant sy’n cael budd o Ty Hafan,

rydym yn gorfod gwneud y mwyaf o’r amser sydd gennym

gyda’n gilydd.”

11

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

11

Page 12: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Ddwy awr ar ôl genedigaeth Osian Liddell, lledaenodd brech yn gyflym ar draws ei wyneb a’i gorff. Roedd ei rieni a’r meddygon yn ofni y gallai fod yn llid yr ymennydd.

Fodd bynnag, trwy gael profion, canfuwyd bod ganddo gyflwr anghyffredin o’r enw Syndrom Aicardi-Goutieres 1. Dim ond 400 o bobl yn y byd sydd wedi cael diagnosis o SAG1 erioed. Nid yw tua 40% ohonynt yn byw i fod yn fwy na phum mlwydd oed.

Canfu ei rieni, Anna, 27, a Huw, 28, sy’n gariadon ers eu plentyndod, eu bod ill dau yn gludwyr y genyn sy’n achosi cyflwr Osian.

“Rydym ni wedi adnabod ein gilydd erioed – aethon ni i’r ysgol gynradd gyda’n gilydd,” meddai Anna. “Allwch chi ddychmygu pa mor isel yw’r tebygolrwydd o gael dau blentyn yn yr un dosbarth mewn ysgol gynradd sy’n cludo’r genyn anghyffredin hwn, a’r ddau’n tyfu i fyny ac yn cael plentyn gyda’i gilydd?”

Ac yntau bellach yn wyth mis oed, mae ar Osian angen gofal 24 awr y dydd i wrthsefyll ei gatalog cynyddol o symptomau, sy’n gallu newid o ddydd i ddydd.

“Anhwylder hunanimíwn dirywiol genetig sy’n achosi niwed i’r ymennydd, trawiadau, problemau anadlu, a phroblemau’r galon a’r afu yw SAG1,” meddai Anna.

“Pan ddaeth y canlyniadau yn eu holau, gosododd y meddygon gylchgrawn o’n blaen, dangos erthygl inni a dweud eu bod nhw’n meddwl mai dyna oedd yn bod. Doedd neb wedi clywed amdano.

“Ar ôl inni fynd ag Oshi adre, roedd yn union fel pe byddai e wedi darllen yr erthygl ac yn gwneud ei ffordd trwy’r rhestr symptomau, ac yn dweud wrthym ni fod SAG arno. Doedd dim angen mwy o brofion arnom ni - roedd e wedi ei wneud yn eglur iawn.

“Rydym ni’n gallu defnyddio meddyginiaeth a’i reoli a’i wneud e’n sefydlog. Ond mae gan bob meddyginiaeth ei sgîl-effaith, ac felly, byddem ni’n rhoi cynnig ar un peth a byddai rhywbeth arall yn codi. Os oedden ni’n rhoi tawelyddion, roedd e’n cael problemau wrth anadlu. Gyda meddyginiaethau eraill, roedd goblygiadau o ran ei afu. Roedden ni’n teimlo yn y niwl.”

A hwythau wedi blino’n llwyr ac yn teimlo’n bryderus, atgyfeiriwyd Anna a Huw i Ty Hafan, lle maent yn elwa ar ymweliadau allgymorth â’u cartref yng Nghaerdydd a gofal seibiant byr a ddarperir gan yr hosbis.

“Awgrymwyd Ty Hafan yn gynnar iawn,” meddai Anna. “Roeddwn i’n arfer gweithio gyda phlant ag anghenion arbennig, ac felly mae hynny’n gwneud pethau rywfaint yn haws. Roeddwn i eisoes yn deall rhywfaint. Roeddwn i’n gwybod nad oedden ni’n mynd ag Osian i Ty Hafan i farw. Felly, dywedais i ‘ie’ am bopeth yr oedden nhw’n ei gynnig – beth bynnag a fyddai’n helpu Osian. Dydym ni ddim eisiau iddo golli unrhyw gyfle.

“Mae Osian yn sensitif iawn i deimladau Huw a fi. Cyn gynted â'n bod ni’n cyrraedd yr hosbis, mae golwg well arno. Mae hynny oherwydd yr amgylchedd y mae pawb yn ei greu a'r ffaith fod Huw a minnau wedi ymlacio gymaint. Mae Oshi’n ymlacio yma.

“Os oes rhywbeth bach iawn yn digwydd gartre, rydym ni’n dueddol o feddwl y gwaethaf. Mae’n helpu i ni gael pobl o’n cwmpas nad ydynt yn cynhyrfu. Rydym ni’n ymddiried yn llwyr ynddyn nhw.

“Roeddwn i’n arfer gorfod cysgu yn dal Osian oherwydd, os yw e’n deffro ac yn dychryn, gall gael trawiad. Ar ôl ein harhosiad cyntaf yn Ty Hafan, roeddwn i’n teimlo’n ddigon ffyddiog i adael iddo gysgu yn ei ystafell ei hun.

“Mae aros yma’n golygu’n syml y caiff Huw a minnau fod gyda’n gilydd. Gartre, mae un ohonon ni bob amser yn gofalu am Osian tra bod y llall yn cysgu – rydym ni’n cymryd ein tro. Mae hynny’n gwneud inni deimlo’n ofnadwy oherwydd ein mab ni yw e ac nid swydd!

“Yma cawn aros yn ein pyjamas a gwylio’r teledu gyda’n gilydd tra bod rhywun arall yn gofalu am Oshi. Wedyn, rydym ni’n dechrau cyffroi pan fyddwn yn mynd i’w weld e.

“Rydym ni wrth ein boddau bod ein mamau’n cael dod yma hefyd i fwynhau treulio amser gydag e heb orfod poeni am ei symptomau a’i feddyginiaeth – maen nhw’n gallu cael cwtsh gydag e.

“Rydym ni wedi gallu rhannu hyn gyda’n teulu cyfan – mae’n bwysig i bawb sy’n rhan o fywyd Osian ddeall beth mae’r lle hwn yn ei wneud.”

Mae Ty Hafan wedi bod yno ar gyfer teuluoedd fel y Liddells ers 1999. Bydd yn parhau i ddarparu’r gofal gorau posibl cyhyd ag y bo angen.

I gael gwybodaeth am atgyfeirio plentyn i Ty Hafan, ewch i www.tyhafan.org/refer-a-child.

hanes osian

12

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

Page 13: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

“Allwch chi ddychmygu pa mor annhebygol yw’r tebygolrwydd o gael dau blentyn yn yr un dosbarth mewn ysgol gynradd sy’n cludo’r genyn anghyffredin hwn, a’r ddau’n tyfu i fyny ac yn cael plentyn gyda’i

gilydd?”

13

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 14: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Pan aeth y rhieni, Lee a Lucy, ag Ezra a oedd yn wyth wythnos oed at y meddyg gyda haint ar y frest, wnaethant erioed feddwl y byddent yn ffarwelio â’u mab annwyl bythefnos yn ddiweddarach.

Ganwyd Ezra ar 12 Ionawr 2015 heb unrhyw gymhlethdodau ac roedd yn ymddangos yn fachgen bach iach. Roedd Lee Morgan a Lucy Froley o Ben-y-bont ar Ogwr wrth eu boddau yn cwblhau eu teulu ac yn rhoi brawd bach annwyl i Bailey, eu merch ddwyflwydd oed.

Fodd bynnag, tua deufis yn ddiweddarach, aeth Ezra yn sâl, ac felly, aeth Lucy ag ef i weld eu meddyg teulu.

Dywedodd Lucy: “Aeth Ezra yn sâl gyda haint ar ei frest a doeddem ni ddim yn meddwl bod llawer i boeni amdano nes imi fynd ag e at y meddyg.

Ar ôl dwy funud, rhoddodd y meddyg ocsigen iddo a galwyd am ambiwlans.”

Aethpwyd ag Ezra i Ysbyty Athrofaol Cymru a’i roi ar beiriant cynnal bywyd. Ar ôl cael

diagnosis o Atroffi Cyhyrol yr Asgwrn Cefn, Math 1 (SMA) – clefyd cyhyrol genetig anghyffredin – fe’i hatgyfeiriwyd i Ty Hafan, yr hosbis i blant yng Nghymru.

“Gofalodd Ty Hafan amdanon ni gan nad oedd unrhyw driniaeth ar gael i wella cyflwr Ezra,” meddai Lucy.

“Cyn mynd, doeddwn i’n gwybod dim am Ty Hafan a beth yr oedden nhw’n ei wneud. Mae’n elusen ragorol sy’n helpu plant a’u teuluoedd drwy gyfnodau mwyaf anodd eu bywydau. Roedden nhw’n rhoi cymorth inni gydag unrhyw beth, o wneud te inni, hyd at siarad â ni a chreu atgofion.

“Bu Ezra fyw am 24 awr ar ôl cael ei dynnu oddi ar y peiriant anadlu yn Ty Hafan. Yn ystod y 24 awr hynny, gwireddodd

Ty Hafan gymaint o atgofion inni - olion llaw a throed Ezra, a rhai ei chwaer fawr ddwyflwydd oed, ac olion bysedd ar bili-palod bychain.

“Cyn i Ezra ein gadael ni ar 6 Mawrth, cawsom ni’r diwrnod mwyaf bendigedig a hudol i’r teulu y gallai unrhyw un yn ein hamgylchiadau ni freuddwydio amdano. Pob diolch i Ty Hafan. Doedd dim o gwbl yn waith caled iddyn nhw a gwnaethon nhw goginio’r holl fwyd ar gyfer ein teulu ni. Gallem ni fod wedi cael ein teulu i gyd i aros hefyd.”

Er mwyn dweud diolch, cymerodd Lucy ran mewn sioe ffasiwn er budd Ty Hafan gyda mamau eraill a oedd yn cael eu cefnogi gan yr elusen.

“Dwi mor hapus i gymryd rhan yn sioe ffasiwn Ty Hafan er mwyn codi mwy o arian ac i bobl gael gwybod pa mor anodd y gall pethau fod, a pha mor wych yw Ty Hafan,” meddai Lucy.

“Dwi eisiau gwneud yn siwr bod pawb yn gwybod beth mae Ty Hafan yn ei wneud, yn hytrach na dod i wybod am hynny fel y gwnes i a fy nheulu.”

“Roedd bod yn rhan o noson sioe ffasiwn Ty Hafan yn fraint ac yn

anrhydedd. Roedd modelu gyda’r mamau eraill yn brofiad emosiynol

iawn gan fod gan bob un ohonynt eu hanesion a’u rhesymau eu hunain, ond daethon nhw i gyd at ei gilydd i gefnogi ei gilydd a’r noson ei hun.”

Matt Nolan, model gwadd ar gyfer y noson

mam sy’n galaru yn modelu i ddiolch i elusen

cwtsh ein newyddion a straeon o dy hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

14

Page 15: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

ty hafan yn dathlu wythnos gofal hosbis Dathlodd plant a theuluoedd a gefnogir gan Ty Hafan Wythnos Gofal Hosbis gyda llwyth o weithgareddau. Yn eu plith roedd gwneud balwnau, te parti a hwyl Nos Galan Gaeaf!

Wythnos flynyddol o weithgareddau i godi proffil gofal hosbisau ar draws y DU yw Wythnos Gofal Hosbis, 5 – 11 Hydref. Gofal Cysylltiedig oedd y thema ar gyfer Wythnos Gofal Hosbis 2015. Roedd yn canolbwyntio ar swyddogaeth arbennig yr hosbisau wrth gysylltu ag unigolion a theuluoedd, cysylltu â chymunedau lleol a chysylltu pobl â’i gilydd.

15

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 16: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

thomas carroll yn talu am ddiwrnod

Mae pob diwrnod yn ddiwrnod arbennig yn Ty Hafan – yn ddiwrnod yr ydym yn ceisio ei lenwi’n llawn o atgofion gwerthfawr ar gyfer ein teuluoedd. Ond mae’r gofal a’r cymorth a ddarperir gan Ty Hafan, naill ai yn yr hosbis neu allan yn y gymuned, yn costio £10,958 bob dydd.Thomas Carroll, un o’r asiantaethau yswiriant busnes mwyaf yn y DU, yw’r cyntaf o’n cefnogwyr i gymryd rhan yn ‘Talu am Ddiwrnod’. Mae’r cynllun ‘Talu am Ddiwrnod’ yn caniatáu i gefnogwyr, naill ai partner corfforaethol, grwp neu unigolyn, dalu am ddiwrnod cyfan o ofal a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a theuluoedd sydd dan ein gofal.

Mae aelodau staff Thomas Carroll wedi bod yn wych yn meddwl am syniadau ar gyfer codi arian i’w cynorthwyo i gyrraedd eu nod. Y digwyddiad uchaf ei broffil oedd grwp o feicwyr yn cymryd rhan yn yr her o fynd ar daith 295 o filltiroedd rhwng Llundain a Pharis, gan feicio 74 milltir y dydd.

Daeth yr her flinderus i ben i’r tîm wrth y Twr Eiffel eiconig. Dywedodd Paul Evans, Rheolwr Cyfrifon a chapten y tîm ar gyfer y daith feicio: “Ein nod oedd codi mwy na £10,000 – y gost o ddarparu holl

wasanaethau gofal lliniarol Ty Hafan am 24 awr, ddim yn unig yn yr hosbis ei hun, ond y gwaith o gefnogi plant a’u teuluoedd mewn cymunedau ar draws Cymru.

“Rydym ni’n gefnogwyr brwd o gynllun ‘Talu am Ddiwrnod’ Ty Hafan ac rydym ni wedi dewis 1 Hydref, sef pen-blwydd sefydlu Grwp Thomas Carroll ym 1972, fel ein diwrnod arbennig o ofal yn yr hosbis.

“Roedd beicio 74 milltir y dydd gyda thîm cymysg o ran eu profiad beicio yn dipyn o her, ond daethom drwyddi oherwydd ysbryd anghredadwy’r tîm, a’r achos hanfodol hwn.”

Ymunodd aelodau staff Thomas Carroll â phlant a’u teuluoedd i gael parti yn yr hosbis i ddathlu talu am ddiwrnod o ofal yn Ty Hafan.

16

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

Page 17: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

"Pryd bynnag y byddaf i’n ymweld â Ty Hafan, mae’n brofiad emosiynol iawn – alla i ddim esgus nad yw e. Wrth weld y plant bach yn rhedeg o gwmpas, mae’n eich denu chi. Felly, mae gallu talu am y gwasanaethau am un diwrnod yn gyflawniad anhygoel."

Brynmor Williams, Cyfarwyddwr Bwrdd Grwp Thomas Carroll

17

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 18: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

sammy ameobi yn tynnu tocyn enillydd raffl y nadolig Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd ein raffl Nadolig a’n helpu i godi’r swm rhyfeddol o £75,000.

Tynnwyd tocynnau’r enillwyr yn yr hosbis ar 18 Rhagfyr 2015 gan chwaraewr o Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Sammy Ameobi. Mrs Harvey o ardal Pen-y-bont ar Ogwr enillodd y brif wobr o £3,000, ac ymwelodd â Ty Hafan ym mis Ionawr.

Bydd ein raffl nesaf yn dechrau ddiwedd mis Ebrill. Os hoffech gael tocynnau, anfonwch e-bost i [email protected] neu ffoniwch 029 2053 2300.

Un o’r pethau gorau am swydd ein Rheolwr Marchnata Loteri yw ffonio pobl i roi gwybod iddynt eu bod wedi ennill y brif wobr wythnosol o £2,000.

Mae rhai o’r enillwyr ffodus yn cynnwys Mrs Davy a enillodd y brif wobr yn ein raffl Noswyl Nadolig ar ôl prynu ei thocyn llwyddiannus yn siop Ty Hafan yng Nghasnewydd.

Enillydd diweddar arall oedd Debra Carr o’r Barri sydd â dau reswm personol iawn dros gefnogi Ty Hafan: bu farw ei brawd pan oeddent ill dau yn eu harddegau, ac ar yr adeg honno, nid oedd unrhyw beth tebyg i Ty Hafan yn bodoli. Yn drist iawn, y llynedd daeth wyr Debra yn rhoddwr organau ieuengaf Prydain erioed ac mae ganddo ei garreg arbennig ei hun yng ngardd goffa Ty Hafan.

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

18

Page 19: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

diolch o galonRydym eisiau dweud diolch o galon wrth bawb a gyflwynodd rodd i’n Hapêl Nadolig Eiliadau Gwerthfawr. Cawsom ymateb mor anhygoel, a diolch i chi, codwyd swm anhygoel o £43,011!

Hoffem ddiolch hefyd am y dymuniadau Nadolig a’r negeseuon twymgalon a anfonwyd gennych ar addurniadau bendigedig coeden Nadolig Macsen a’i frawd, Ioan.

Roeddem wedi'n syfrdanu gan yr holl negeseuon o gefnogaeth. Fe’u gosodwyd ar goed Nadolig yr hosbis er mwyn i deuluoedd, aelodau staff ac ymwelwyr eu darllen, a gwnaethant i lawer o bobl wenu.

Mae eich rhoddion caredig yn golygu y gallwn barhau i gefnogi plant sy’n byw bywydau byr a theuluoedd fel teulu Macsen, ar draws Cymru.

Yn garedig iawn, rhannodd Matthew a Lisa, rhieni Macsen a Ioan, eu hanes, gan egluro eu bod wedi cael cyfle o’r diwedd i fod yn deulu eto oherwydd cefnogaeth ragorol Ty Hafan.

Mae parlys yr ymennydd difrifol ar Macsen ac mae’n cael trawiadau bob dydd. Ar ddiwrnod gwael, gall gael hyd at 40 o drawiadau. Mae angen gofalu amdano 24 awr y dydd. Cyn i’r teulu ddod o hyd i Ty Hafan, roeddent wedi blino’n llwyr ac roedd gwneud pethau syml fel mynd allan i’r siopau neu fynd i’r parc yn amhosibl.

Ar ôl ymdrechu ar eu pennau eu hunain, yn fuan roedd digon

o bobl o’u cwmpas y gallent ymddiried ynddynt i fod gyda Macsen. Pan fyddant yn cael seibiannau byr yn Ty Hafan, gallant fynd allan am brydau bwyd a mynd â Ioan am drip i Gaerdydd am y diwrnod. Dywedodd Lisa: “Bob tro yr ydym ni’n gadael Ty Hafan, rydym ni bob amser yn dweud pa mor hyfryd oedd cael bod yn normal unwaith eto.

“Mae’r bechgyn wrth eu boddau yn aros yn Ty Hafan ac mae Macsen yn hoffi’r sylw a gaiff. Mae’n adnabod y staff ac mae’n gwenu’n braf pan ei fod yn eu cwmni. Mae Ioan yn rhan o grwp Super Siblings, lle mae’n

cael hwyl ac yn cael chwarae fel unrhyw blentyn saith mlwydd oed arall. Dyma’i gyfle ef i deimlo’n sbesial.

Dywedodd Lisa a Matthew ei bod yn anodd iddynt ddychmygu sut byddai eu bywydau heb gefnogaeth Ty Hafan. Diolch i’ch haelioni chi, gallwn barhau i gefnogi teuluoedd yng Nghymru, fel teulu Macsen, a’u helpu nhw i fwynhau amser gyda’i gilydd fel teulu a mwynhau pethau syml bywyd.

Diolch.

Mae eich rhoddion caredig yn cefnogi

plant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd ar

draws Cymru

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

19

Page 20: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

sportradar connect 2015

codi arian o 12,000 troedfedd

Cynhaliodd Sportradar, arbenigwyr ar ddata chwaraeon, eu Digwyddiad Cyfarfod Arweinwyr a Golff Elusennol blynyddol yn y Celtic Manor Resort, gan godi mwy na £28,000 ar gyfer Ty Hafan. Roedd mwy na 100 o westeion yn bresennol yn ystod y digwyddiad deuddydd, a gynhaliwyd yn y Celtic Manor Resort, gan gynnwys rhai o bobl a sefydliadau blaenllaw ym maes chwaraeon o bob cwr o’r byd.

Mae’r cwmni rhyngwladol, sydd â swyddfa ym Mrynbuga, yn cynnal y digwyddiad mewn gwahanol wlad bob blwyddyn, gan godi arian ar gyfer dwy elusen - un ryngwladol ac un leol.

Aeth y chwaraewyr ar y cwrs Twenty Ten i godi arian i Ty Hafan ac Yr Hawl i Chwarae.

Dywedodd Louise Copping, rheolwr swyddfa Brynbuga: “Roedden ni wrth ein boddau o glywed bod y digwyddiad blynyddol yn dod i Gymru, gan wybod y byddem ni’n gallu cefnogi elusen leol. Mae Ty Hafan yn elusen mor rhyfeddol, sy’n cynnig gwasanaeth unigryw a lle arbennig i deuluoedd ar adegau anhygoel o anodd. Roeddem ni’n falch o allu eu cefnogi.”

Mae Clwb Golff Greenmeadow wedi ein cefnogi ers 2014 ac wedi codi mwy na £7,500 trwy gynnal digwyddiadau golff, rafflau a chwisiau elusennol.

Aeth Alan Miskelly, aelod o Greenmeadow, gam ymhellach pan aeth i fyny i’r awyr i helpu i godi mwy na £2,000 trwy nenblymio ar gyfer Ty Hafan. Ac yntau’n 72 mlwydd oed, neidiodd Alan o uchder o 12,000 troedfedd yn ei nenblymiad tandem cyntaf erioed, gan ddisgyn ar gyflymder o fwy na 110 milltir yr awr am bron i funud.

Soniodd llywydd Clwb Golff Greenmeadow, Lyn Thomas, ei fod yn falch o allu helpu’r elusen trwy ymdrechion codi arian y clwb. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae aelodau Clwb Golff Greenmeadow wedi cofleidio Ty Hafan a chyfrannu'n hael i gefnogi’r elusen ryfeddol hon.”

Dysgwch fwy am sut y gall eich busnes adeiladu partneriaeth â Ty Hafan yn

www.tyhafan.org/become-a-partner

20

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

Page 21: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

siampên yn y castell

cenhadaeth codi arian

Cynhaliodd y cyfanwerthwyr ffasiwn Cymreig, Goose Island, ddigwyddiad siampên yn ystod yr haf yng Nghastell Ystumllwynarth er budd Ty Hafan.

Mwynhaodd 280 o westeion adloniant prynhawn a min nos, gan gynnwys cerddoriaeth jazz, bwyd ‘gourmet’ a dawnsio, a rafflau ac arwerthiannau i helpu i godi arian.

Ar ôl ymweld â Ty Hafan yn ystod yr haf, roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Goose Island, Karen Hutchings, yn teimlo rheidrwydd i’n cefnogi pan sylweddolodd ei bod yn costio £10,958 y dydd i gynnal ein gwasanaethau.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant enfawr, a chyflwynodd Karen, ynghyd â’i gwr Peter, siec o dros £20,000 i ni. Diolch yn fawr i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant ysgubol.

Mae Eglwys y Santes Fair yn Ninbych-y-pysgod wedi codi arian aruthrol yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Roedd cyngerdd yr Adfent a gynhaliwyd ganddynt, sef perfformiad arbennig ‘dewch i ganu’ o Feseia Handel, yn llwyddiant ysgubol, gan godi £1,195. Llwyddodd eu Canwyr Clychau Llaw hefyd i godi £1,000 trwy gynnal cyfres o gyngherddau ‘Twrci a Thinsel’, a chodwyd y swm anhygoel o £6,400 trwy roddion gan

aelodau’r cyhoedd wrth iddynt gael y cyfle i oleuo canhwyllau yn yr eglwys.

Mae’r Rheithor, Andrew Grace, a’r eglwys wedi bod yn gefnogwyr anhygoel i Ty Hafan am flynyddoedd lawer, ac rydym yn diolch yn ddiffuant iddynt ac yn edrych ymlaen at eu cefnogaeth barhaus.

llun: gareth davies photography (fb ac @gdptenby)

21

cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Page 22: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

her greulonNid oes unrhyw her yn rhy fach pan mae’n dod i godi arian i Ty Hafan. Mae pob unigolyn sy’n rhoi gwisg ffansi amdano, yn cynnal te parti neu’n neidio o gryn uchder yn enw Ty Hafan yn arwr i ni.

Weithiau, fodd bynnag, rydym yn clywed am bobl sy’n penderfynu gwthio eu hunain i eithafion eithriadol, sy’n ein harwain at y ‘Dyn Haearn’ Willie.

Mae Mark ‘Willie’ Wilson wedi ymddiddori erioed mewn aml-chwaraeon ac wedi cystadlu mewn amryw o driathlonau ac ambell ras Dyn Haearn dros y blynyddoedd. Tua 18 mis yn ôl, penderfynodd Willie y byddai ras pellter hir yn syniad da cyn y gallai llawdriniaeth a oedd wedi’i chynllunio o bosib ohirio ei yrfa driathlon.

Y ras dan sylw oedd ras Dyn Haearn pellter dwbl y ‘Brutal Events’ a gynhelir yn Eryri. Mae’r enw’n awgrymu beth sydd i ddod. Ond dim ond wrth wybod beth yw’r her y gallwch ei gwerthfawrogi mewn gwirionedd.

Nofio am 4.8 milltir, taith feic 232 milltir a rhedeg am 52 milltir – y cyfan o fewn 42 awr neu lai!

Ar y dechrau, roedd Willie am godi £1,000 ar gyfer Ty Hafan, ond mae wedi llwyddo i fwy na dyblu ei nod, gan godi mwy na £2,700.

Dywedodd Willie: “Gwnes i’n siwr nad oedd yr hyfforddiant yn cymryd drosodd fy mywyd, gan imi wneud ymdrech ymwybodol i beidio â threulio unrhyw amser i ffwrdd oddi wrth fy nheulu ar benwythnosau na fin nos yn ystod diwrnodau gwaith – roeddwn bob amser yn ceisio bod gartre i roi bath i fy merch fach ddwyflwydd oed, Ruby, a’i rhoi yn y gwely. Wnes i erioed hyfforddi am fwy nag 20 awr yr wythnos, dim ond 13-15 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

“Bum wythnos cyn y ras, gyrrais i i fyny i Lanberis a chyrraedd yno am 10 y nos a chysgu ychydig oriau yng nghefn y fan cyn codi’n gynnar am 4am i gwblhau dwy lap o’r cwrs beicio - hoffwn i fod wedi mynd â chamera gyda fi achos roedd gweld yr haul yn codi yn drawiadol. Penderfynais roi cynnig sydyn ar redeg i fyny’r Wyddfa, ond ar y ffordd i lawr cefais niwed i’m hunanfalchder ac i fy nghlun, fy ysgwydd a fy mhen-glin, pan syrthiais wrth geisio pasio rhyw dwristiaid a oedd yn cerdded yn araf. Achosodd hynny bum wythnos o ofid imi gan fod y boen i’r glun yn gwaethygu bob tro yr

awn i redeg, beicio neu nofio ac roeddwn i eisoes wedi codi mwy na £1,500 i Ty Hafan!”

Yn ffodus, gwellodd Willie mewn da bryd, a chyda help ei dîm cymorth gwych, Caroline a Mark Livesey, Ian Mugglestone, Tony Ireland a Tony Aspeden, ac wrth gwrs, ei wraig Cathy a’i ferch Ruby, llwyddodd i gwblhau’r her arwrol hon.

“Roedd yn ras yn erbyn y cloc, a llwyddais i orffen mewn ychydig dros 36 awr, yn y pumed safle – sy’n sioc gan nad oeddwn i’n siwr a fyddwn i’n llwyddo o fewn y 42 awr! Gwnes i hyn i gyd er mwyn tynnu sylw at y gwaith gwych y mae Ty Hafan yn ei wneud ac i godi arian sydd ei angen yn fawr iawn.

“Roedd gofal, cariad a hwyl yr holl staff yn Ty Hafan wedi creu cymaint o argraff arna i, addewais i mi fy hun y byddwn i’n trio cwblhau’r digwyddiad gyda gwên ar fy wyneb yr holl ffordd, er mwyn adlewyrchu positifrwydd yr holl staff, y teuluoedd a’r plant yn Ty Hafan. Roeddwn i’n gwybod nad oedd yr ychydig

boen ac anghysur a ddioddefais i yn ddim o’i gymharu â’r hyn sy’n cael ei ddioddef gan y rhai sydd dan ofal cariadus Ty Hafan. Felly roedd e’n hawdd ei wneud!”

Hoffai Ty Hafan ddiolch i Willie, sydd bellach yn Llysgennad Elusen Ty Hafan, yn ogystal â phob un o’n cefnogwyr gwych sy’n mynd gam ymhellach i’n helpu ni i gefnogi’r plant a’u teuluoedd sydd dan ein gofal.

Bydd Willie yn rhedeg ym Marathon Llundain, Dyn Titan (triathlon pellter hir bryniog Aberhonddu), Marathon ‘Midnight Mountain’ (dros Fannau Brycheiniog), Her Roth (ras bellter Dyn Haearn) a Thriathlon pellter hir Alpe D’Heuz ar gyfer Ty Hafan. Rydym yn dymuno lwc dda iawn iddo yn ei holl anturiaethau codi arian yn y dyfodol.

cwtsh ein newyddion a straeon o ty hafan 029 2053 2199 www.tyhafan.org

22

Page 23: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

Rwy'n dalwr trethi yn y DU ac yn deall os ydwyf yn talu llai o Dreth Incwm a/neu Dreth ar Enillion Cyfalaf na swm y cymorth rhodd a gaiff ei hawlio ar bob un o'm rhoddion, fy nghyfrifoldeb i yw hi i dalu'r gwahaniaeth. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol hefyd i bob rhodd a wnaed gennyf i Ty Hafan yn ystod y pedair blynedd diwethaf a’r holl roddion y byddaf yn eu gwneud o hyn ymlaen nes y byddaf yn eich hysbysu’n wahanol.

 

Hoffwn roi un rhodd o:

Defnydd swyddfa yn unig: CWTS16

Hoffwn roi cyfraniad rheolaidd o: £5 £10 £15 Arall £

Hoffwn roi fy rhodd ar:

y 5ed o bob mis y 23ain o bob mis

£15 £25 £50 Arall

Gorchymyn i'ch banc neu gymdethas adeiladu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Rhowch enw a chyfeiriad post llawn eich banc neu gymdethas adeiladu. Llenwch y ffurflen hon a'i hanfon i: Ty Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX

Rhif Defnyddiwr Gwasanaeth

2 4 9 5 0 0

I’r Rheolwr Banc/cymdeithas adeiladu

Cyfeiriad

Cod Post

Enw(au) deiliad y cyfrif

Rhif cyfrif Banc/Cymdeithas Adeiladu Cod Didoli’r Gangen

Reference

Cyfarwyddyd i’ch banc neu gymdeithas adeiladuA fyddech cystal â thalu i Ty Hafan o’r cyfrif a nodir ar y cyfarwyddyd hwn yn amodol ar y mesuraua sicrheir gan y Gwarant Debyd Uniongyrchol. Deallaf y gall y cyfarwyddyd hwn aros gyda Ty Hafan ac, os felly, anfonir manylion yn electronig i’m Banc/Cymdeithas Adeiladu.

Llofnod(ion) Dyddiad

Efallai na fydd Banciau/Cymdeithasau Adeiladu yn derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol o rai mathau o gyfrifon.

Rwyf wedi cynnwys arian parod / siec / taleb CAF (dilëwch fel sy’n briodol) yn daladwy i Ty Hafan.)

Hoffwn dalu gyda cherdyn credyd / debyd – Tynnwch arian o’m cerdyn Mastercard / Visa / Debyd

Enw ar y cerdyn

Cyfeiriad deiliad y cerdyn (os yw’n wahanol i’r isod)

Rhif y Cerdyn

Dyddiad terfyn Rhif Diogelwch (3 rhif olaf ar gefn y cerdyn)

/

Dyddiad cyflwyno Cardiau debyd yn unig – Rhif cyflwyno

/

Llofnod(ion) Dyddiad

Eich manylionTeitl Enw cyntaf Cyfenw

Cyfeiriad

Cod post

Rhif ffôn Cyfeiriad e-bost Dyddiad geni

Dychwelwch y ffurflen hon i Ty Hafan, Hayes Road, Sili, CF64 5XX Gallwch hefyd roi rhodd yn www.tyhafan.org neu drwy ffonio 029 2053 2255

1. Eich rhoddi deuluoeddyng Nghymru

2. EichTaliad

4. Cynyddwcheichcyfraniad

neu

3. Eichmanylion

£

helpwch ni i wneud bywyd byr yn fywyd llawn...

Page 24: cwtsh cylchlythyr gwanwyn/haf 2016

23 ebrill ras enfys traeth bae abertawe

07 mai ras enfys traeth ynys y barri

18 meh her tri chopa cymru yr wyddfa > cadair idris >

pen y fan

09 gorff ras enfys parc bryn bach, tredegar

06 awst diwrnod o hwyl i’r teulu ty hafan, hayes road, sili

04 medi her beicio llwybr taf aberhonddu/merthyr i gaerdydd

03-04 her beicio hir llwybr taf medi caerdydd i aberhonddu ac yn ôl

17 medi ras enfys traeth pentywyn, sir gaerfyrddin

tach dawns ty hafan abertawe

01 rhag carolau yn y castell caerdydd

i gofrestru eich diddordeb neu wirfoddoli

www.tyhafan.org/eventsunrhyw gwestiynau? e-bostiwch: [email protected]

Elusen gofrestredig Rhif 1047912.

www.tyhafan.org

ty hafan digwyddiadau 2016