4
Darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid yn Oedolion Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol Medi 2012 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Y diweddaraf gan Gyfleoedd Gwirioneddol, Mission to Lars a Chynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru Stori Richard Stori am sut mae Richard Davey wedi cymryd camau mawr tuag at ddod yn annibynnol, diolch i dîm both Castell-nedd Profiad Gwaith Corey Corey Richardson yn dweud wrthym am ei brofiad gwaith â chefnogaeth diweddar gydag Anabledd Dysgu Cymru Byw’n Iach yng Nghaerffili Tîm Both Caerffili yn cynnal diwrnod byw’n iach Hyfforddiant & Digwyddiadau Hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill Yn ystod yr haf mae timau both Cyfleoedd Gwirioneddol ar draws pob un o’r naw awdurdod lleol wedi bod yn brysur yn cefnogi pobl ifanc i ddod yn fwy annibynnol, a’r mis hwn rydym wedi derbyn cynifer o eitemau newyddion ardderchog nid oedd modd eu cynnwys i gyd yn y newyddlen. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein tudalen Facebook a’n gwefan (www.realopportunities.org.uk) lle y gallwch weld straeon am antur gwersyll haf 4 diwrnod arbennig tîm both Merthyr, sut mae hyfforddiant teithio wedi helpu’r cyfranogwr Callum Ellis i deithio’n annibynnol i’r gwaith, coleg a gweithgareddau cymdeithasol, a chlywed straeon gan gyfranogwyr y rhaglen Lacey, Christian a Matthew am y gefnogaeth y maent wedi’i derbyn gan yr asiantaethau cefnogi cyflogaeth Elite a Mencap. Bydd y ffilm ‘Misson to Lars’, sy’n dilyn Tom Spicer sydd â Syndrome Fragile X (y math mwyaf cyffredin o anabledd dysgu a etifeddir) yn ei gais i gwrdd â Lars Ulrich, drymiwr Metallica, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghymru yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ar 17eg Hydref. Bydd y dangosiad, a gyflwynir gan Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru, yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Kate Spicer, cynhyrchydd y ffilm a chwaer Tom ar y 18fed. Mae Mission to Lars yn ffilm ardderchog, emosiynol a phrydferth, am freuddwyd un dyn a dymuniad ei frodyr a’i chwiorydd i’w gwireddu. Am fwy o wybodaeth gwyliwch yr hysbyseb yn <http:// missiontolars.com>. Mae tocynnau ar gael o Ganolfan Celfyddydau Chapter (ffôn 029 2031 1050 www.chapter.org). Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kai Jones yn Anabledd Dysgu Cymru (ffôn: 029 2068 1160). Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn cynnal ei gynhadledd dau ddiwrnod blynyddol o’r enw ‘Allwedd i’r Cartref’ ar 13eg a 14eg Tachwedd 2012 yn yr Holiday Inn, Casnewydd. Eleni, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar y thema o lety i bobl ifanc ag anabledd dysgu. Bydd y gynhadledd yn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael o ran llety, technoleg bersonol a diogelwch yn y cartref a materion tai eraill, a bydd yn cynnwys gweithdai llawn gwybodaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i www.learningdisabilitywales.org.uk Laura Davies Swyddog Gwybodaeth y Prosiect

Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Medi 2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Citation preview

Page 1: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Medi 2012

Darparu Cyfleoedd Gwirioneddol i Bobl

Ifanc wrth iddynt Drawsnewid yn

Oedolion

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Medi 2012Yn y rhifyn hwnCyflwyniadY diweddaraf gan Gyfleoedd Gwirioneddol, Mission to Lars a Chynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru

Stori RichardStori am sut mae Richard Davey wedi cymryd camau mawr tuag at ddod yn annibynnol, diolch i dîm both Castell-nedd

Profiad Gwaith CoreyCorey Richardson yn dweud wrthym am ei brofiad gwaith â chefnogaeth diweddar gydag Anabledd Dysgu Cymru

Byw’n Iach yng NghaerffiliTîm Both Caerffili yn cynnal diwrnod byw’n iach

Hyfforddiant & DigwyddiadauHyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill

Yn ystod yr haf mae timau both Cyfleoedd Gwirioneddol ar draws pob un o’r naw awdurdod lleol wedi bod yn brysur yn cefnogi pobl ifanc i ddod yn fwy annibynnol, a’r mis hwn rydym wedi derbyn cynifer o eitemau newyddion ardderchog nid oedd modd eu cynnwys i gyd yn y newyddlen. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein tudalen Facebook a’n gwefan (www.realopportunities.org.uk) lle y gallwch weld straeon am antur gwersyll haf 4 diwrnod arbennig tîm both Merthyr, sut mae hyfforddiant teithio wedi helpu’r cyfranogwr Callum Ellis i deithio’n annibynnol i’r gwaith, coleg a gweithgareddau cymdeithasol, a chlywed straeon gan gyfranogwyr y rhaglen Lacey, Christian a Matthew am y gefnogaeth y maent wedi’i derbyn gan yr asiantaethau cefnogi cyflogaeth Elite a Mencap.

Bydd y ffilm ‘Misson to Lars’, sy’n dilyn Tom Spicer sydd â Syndrome Fragile X (y math mwyaf cyffredin o anabledd dysgu a etifeddir) yn ei gais i gwrdd â Lars Ulrich, drymiwr Metallica, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghymru yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ar 17eg Hydref. Bydd y dangosiad, a gyflwynir gan Anabledd Dysgu Cymru a Mencap Cymru, yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda Kate Spicer, cynhyrchydd y ffilm a chwaer Tom ar y 18fed. Mae Mission to Lars yn ffilm ardderchog, emosiynol a phrydferth, am freuddwyd un dyn a dymuniad ei frodyr a’i chwiorydd i’w gwireddu. Am fwy o wybodaeth gwyliwch yr hysbyseb yn <http://missiontolars.com>. Mae tocynnau ar gael o Ganolfan Celfyddydau Chapter (ffôn 029 2031 1050 www.chapter.org). Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Kai Jones yn Anabledd Dysgu Cymru (ffôn: 029 2068 1160).

Bydd Anabledd Dysgu Cymru yn cynnal ei gynhadledd dau ddiwrnod blynyddol o’r enw ‘Allwedd i’r Cartref’ ar 13eg a 14eg Tachwedd 2012 yn yr Holiday Inn, Casnewydd. Eleni, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar y thema o lety i bobl ifanc ag anabledd dysgu. Bydd

y gynhadledd yn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael o ran llety, technoleg bersonol a diogelwch yn y cartref a materion tai eraill,

a bydd yn cynnwys gweithdai llawn gwybodaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i www.learningdisabilitywales.org.uk

Laura DaviesSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

Page 2: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Medi 2012

Mae Richard yn 16 oed ac wedi bod yn NEET (heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) ers Ionawr 2012. Cyfeiriwyd Richard i’r Tîm Cyfleoedd Gwirioneddol ym mis Mai 2012. Cynhaliwyd asesiad o’i anghenion a nodwyd meysydd cefnogaeth o ran sut y gallai’r prosiect gefnogi Richard.Pan aeth staff o’r prosiect i gwrdd â Richard am y tro cyntaf fe wnaethon nhw’n siŵr bod eu cwestiynau yn cael eu cyfeirio ato ef, nid at ei rieni. Roedd Richard yn falch iawn am hyn, gan yn y gorffennol mae ei rieni wedi siarad ar ei ran bob tro, ac ni chafodd y cyfle i siarad dros ei hun. Cafodd Richard ei roi o fewn gofal Yvonne Richards, Gweithiwr Allweddol Trawsnewid a Daniel Moses, Sgiliau Byw’n Annibynnol. Gwnaed rhai ymweliadau â Richard yn ei gartref er mwyn dod i’w adnabod yn well. I ddechrau nid oedd Richard yn ymgysylltu nac yn cynnal cyswllt llygad wrth gyfathrebu, a byddai’n gorchuddio ei wyneb bob tro gyda chwfl neu het. Nid oedd yn fodlon dod i lawr o’i ystafell wely, felly aeth Yvonne a Daniel ato ef a gweithio gydag ef yn ei ystafell wely, ar y landin, gan gasglu gwybodaeth ar gyfer ei broffil un tudalen, gan weithio bob tro tuag at hybu ei hyder a’i hunan-barch.O weithio gyda Richard ar sail un i un ac adeiladu perthynas llawn ymddiriedaeth, dechreuodd Richard fod yn fwy agored am sut yr oedd am i’w ddyfodol edrych. Mae Richard wedi mynd o beidio â mynd i unman, heb eisiau gadael ei gartref na chymysgu gyda’i gyfoedion i gymryd rhan mewn diwrnod gweithgareddau ‘Gemau Olympaidd Bach’ yn Ysgol Arbennig Maes y Coed gyda 9 disgybl arall. Cymerodd ran mewn chwaraeon tîm ac roedd yn annog gweddill aelodau’r tîm. Roedd mynychu a chymryd rhan yn gyflawniad arbennig i Richard, ac

StoririchardMae Richard Davey o Gastell-nedd wedi bod yn gweithio gyda’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol ers 3 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, diolch i waith caled tîm both Castell-nedd, mae wedi cymryd camau positif iawn tuag at ddyfodol mwy annibynnol!

roedd y staff i gyd yn falch iawn ohono. Dywedon nhw ei fod yn grêt ei weld yn gwenu. Enillodd Richard wobr y diwrnod hwnnw am sbortsmonaeth.Dros y misoedd diwethaf mae hyder Richard wedi cynyddu’n fawr. Mae e nawr yn dechrau ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau; mae am wella ei ymddangosiad ac edrych yn dda. Mae Richard wedi mynd o fod yn ddyn ifanc oedd yn mynychu’r coleg er mwyn cael ei EMA yn unig i rywun sy’n dymuno mynd yno er mwyn cwrdd â ffrindiau newydd a dysgu. Dau ddiwrnod cyn i Richard fynd i’r coleg siaradodd gydag Yvonne dros y ffôn gan ofyn iddi ymweld ag ef gan yr oedd ganddo syrpreis iddi. Pan aeth Yvonne i’w gartref, roedd Richard wedi’i wisgo yn ei ddillad newydd yr oedd ei fam wedi’u prynu iddo i fynd i’r coleg ac roedd ganddo steil gwallt byr newydd yr oedd yn haws iddo ymdrin ag ef. Roedd Richard mor falch o’i ymddangosiad newydd roedd yn ysu i’w ddangos i Yvonne. Roedd Richard yn hapus i gael tynnu ei lun ar gyfer ei broffil un tudalen ac yn hapus ac yn falch o’r hyn yr oedd wedi’i gyflawni. Roedd wedi tynnu ei gwfl i lawr ac roedd yn fodlon dangos ei wyneb.Aeth Yvonne a Daniel i’r coleg i weld Richard ar ei ddiwrnod cyntaf i siarad ag ef am unrhyw bryderon neu ofnau yr oedd ganddo. Dywedodd Yvonne ei fod yn hyfryd gweld Richard yn rhyngweithio gyda’i gyfoedion a bod yn rhan o’r grŵp. Dywedodd Mr a Mrs Davey oni bai am y gefnogaeth derbyniodd Richard gan y prosiect ni fyddai wedi mynd i’r coleg. Dywedodd fod Yvonne a Daniel wedi cyflawni gwyrthiau gyda Richard ac nad oedd yn gallu diolch digon iddynt am yr hyn y maent wedi’i wneud.

2

Pam y gwnest ti benderfynu gwneud dy brofiad gwaith mewn swyddfa?Oherwydd rwy’n gyfarwydd â chyfrifiaduron ac yn gallu dysgu pethau newydd.Beth oedd yn rhaid i ti ei wneud ar dy brofiad gwaith? Gwneud yn siŵr fy mod yn mynd i’r gwely yn gynnar er mwyn codi yn brydlon a chael cawod, gwneud yn siŵr eich bod yn lân a dod â chinio gyda chi. Teipio pethau

ar y cyfrifiadur ac es i ar y wefan a rhoi lluniau arni fel logos Remploy ac Elite, ac ers i i gyfarfod - roedd yn ddiddorol.Sut y cefaist ti dy gefnogi gan dy weithiwr cefnogi?Rwy’n cael llawer o gefnogaeth. Fy helpu i sillafu rhai geiriau a rhoi lifft i mi oherwydd ei fod yn bell i ffwrdd.

Profiad Gwaith corEYMae Corey Richardson o Ystalyfera wedi dechrau gweithio gyda’r tîm both Cyfleoedd Gwirioneddol yng Nghastell-nedd yn ddiweddar. Ers cofrestru ar y prosiect, mae Corey wedi ymgymryd â lleoliad gwaith â chefnogaeth yn Anabledd Dysgu Cymru gydag Elite. Dyma Corey i ddweud wrthym am ei brofiad.

Page 3: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Medi 2012

Roedd gan y grŵp ddealltwriaeth sylfaenol o bwysigrwydd bod yn iach a bwyta’r bwydydd cywir ond oherwydd negeseuon cymysg gan gymheiriaid, y cyfryngau a mannau eraill nid oeddent yn siŵr beth yn union yw deiet iach.Yn ystod gwyliau’r haf hwylusodd tîm both Caerffili ddiwrnod byw’n iach i alluogi pobl ifanc i archwilio’r mater. Yn ystod y dydd trafododd y bobl ifanc pa fath o ddeiet y dylen nhw ei fwyta, dysgu sut i ddarllen labeli bwyd a gwneud prydau iach a blasus.Roedd gweithgareddau yn cynnwys gemau maeth, Goleuadau Traffig Bwyd a’r Plât Bwyta’n Dda. Yn ystod Goleuadau Traffig Bwyd, roedd yn rhaid i bobl ifanc ddarllen labeli bwyd a’u cymharu â’u cerdyn waled maeth i weld a oeddent yn GOCH (gwael), MELYN (iawn) neu’n WYRDD (da) o safbwynt cynnwys braster, siwgr a halen.Yn ystod y gêm hon rhoddwyd negeseuon allweddol i bobl ifanc am y maetholion hyn a’r rôl y maent yn chwarae mewn ffordd bositif a negyddol pan fwyteir gormod ohonynt.Yn ystod y gêm Plât Bwyta’n Dda, roedd yn rhaid i bobl ifanc weithio allan pa fwyd oedd yn perthyn i ba grŵp bwyd. Roedd yn golygu eu bod yn gallu gweld beth yw deiet iach, sawl dogn o fwydydd penodol sy’n iach i’w bwyta, ac yn bwysicaf oll gweld beth yw maint dogn.

Hybwyd sgiliau byw’n annibynnol hefyd gan fod yn rhaid i bobl ifanc siopa a thalu am gynhwysion, paratoi prydau a dilyn gweithdrefnau hylendid bwyd yn y gegin.Cafodd y tîm lawer o adborth positif gan y bobl ifanc yn cynnwys: ‘Roedd y bwyd yn flasus iawn’, ‘Mae hyn wedi fy helpu i ddysgu am fod yn iach, rwy’n mynd i wneud dewisiadau gwell yn y dyfodol’ ac ‘Rwy’ wedi cael diwrnod gwych, roedd y gemau yn hwyl ac rwy’ wedi dysgu llawer.’

3

Dywedodd grŵp o bobl ifanc o Gaerffili y byddent yn hoffi dysgu mwy am fwyta’n iach, felly penderfynodd tîm both Caerffili drefnu diwrnod byw’n iach.

BYw’n iachYnG nGhaErffili

A wyt ti’n credu y bydd y profiad gwaith yn dy helpu yn y dyfodol?Bydd oherwydd bydd yn fy helpu i gyflawni llawer o bethau yn y dyfodol. Fe wnes i brofiad gwaith gyda Remploy hefyd, roedd yn hwyl oherwydd ces i weld pobl newydd a dysgu pethau newydd. Rwy’n fwy hyderus nac o’r blaen oherwydd rydych yn cwrdd

â phobl newydd ac efallai y byddwch yn swil ac yn nerfus. Bydd, oherwydd gallaf gael geirda.Beth y gwnest ti ei fwynhau fwyaf?Popeth. Roedd yn hwyl ac yn ddiddorol teipio pethau ar y cyfrifiadur, mynd i gyfarfod, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, cael hwyl ac ateb galwadau ffôn yn Gymraeg ac yn Saesneg.Pa waith arall yr hoffet ti roi cynnig arno?Profwr gemau oherwydd rwy’n hoffi chwarae gemau, gemau ymladd gan fwyaf. Y peth mwyaf doniol yw pan fyddaf yn ennill maen nhw’n dweud fy mod yn spamiwr neu’n dwyllwr ond maen nhw’n genfigennus oherwydd rwy’ llawer yn well na nhw. Fy hoff gêm ymladd yw Naruto, fy hoff berson yw Sasuke Naruto Tobi Itachi a Garra a Danzo a Madra.Beth wyt ti’n mynd i’w wneud nesaf?Mynd i goleg Castell-nedd, ar ôl yr haf i wneud cwrs mynediad galwedigaethol. Ar ôl coleg rwy’ am fod yn brofwr gemau.Dywedodd Catherine Latham o Elite: “Roedd y lleoliad yn brofiad positif iawn i Corey ac mae wedi helpu i ddatblygu sgiliau gwaith a hyder Corey.”

Corey yn ei leoliad, wedi’i gefnogi gan Catherine o Elite

Pobl ifanc yn cymryd rhan yn y gweithgaredd Plât Bwyta’n Dda

Page 4: Cyfleoedd gwirioneddol newyddlen Medi 2012

Rhwydwaith CynhwysiadDyddiad: 21ain Medi 2012Amser: 10am – 4pmLleoliad: Forge Fach CRCI: Cynhwysiad Ieuenctid, Cefnogaeth Seicoleg a Chydlynwyr Mentoriaid Cymheiriaid

PCP 5 diwrnod Diwrnodau 3 + 4Dyddiad: 25ain a 26ain Medi 2012Amser: 9.30am – 4.30pm 10.00am – 3.00pm (26ain Medi)Lleoliad: Eglwys y Glannau, AbertaweI: Y rheiny a fynychodd diwrnod 1 a 2

Cyflwyniad i PCPDyddiad: 28ain Medi 2012Amser: 10am - 4pmLleoliad: BCLC Cefn Cribwr, Pen-y-Bont ar OgwrI: Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflwyniad i PCPDyddiad: 17eg Hydref 2012Amser: 10am - 4pmLleoliad: Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Cefn CribwrI: Unrhyw un ym Merthyr/Castell-nedd Port Talbot/Pen-y-Bont ar Ogwr

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDyddiad: 19eg Hydref 2012Amser: 10am - 4pmLleoliad: Forge Fach CRCI: Unrhyw un ym Merthyr/Castell-nedd Port Talbot/Pen-y-Bont ar Ogwr

Rhwydwaith Cyflogaeth Dyddiad: 23ain Tachwedd 2012Amser: 10am - 1pmLleoliad: CRC Forge FachI: Gweithwyr Allweddol Trawsnewid/Cynrychiolwyr Cyflogaeth â Chefnogaeth

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01639 635650 neu yn [email protected]

hYfforddiant & diGwYddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] am ffurflen archebu. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Hannah yn [email protected]