Upload
barney
View
82
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol. Delyth Prys Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Help! Beth yw ’ r gair Cymraeg am. Prif neges heddiw: PEIDIWCH meddwl term Saesneg = term Cymraeg OND YN HYTRACH meddyliwch - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Cyflwyniad i gyfieithwyr a darpar-gyfieithwyr ar ddeall a defnyddio termau technegol
Delyth PrysUned Technolegau Iaith,
Canolfan Bedwyr
Help! Beth yw’r gair Cymraeg am ...
• Prif neges heddiw:PEIDIWCH meddwl
term Saesneg = term CymraegOND YN HYTRACH meddyliwch
term Saesneg = cysyniad= term Cymraeg• Ac mae help ar gael ☺
Peryglon cyfieithu heb ddeallTerm Cyfieithia
d anghywir
Cyfieithiad cywir
Cysyniad
mole gwahadden
môl uned gemegol
register cofrestr cywair math o iaith
terms termau telerau amodau cyfreithiol
Rhai o wahanol gysyniadau “mole”
MOLE
SI unit of amount of substance,equal to the quantity containingas many elementary units asthere are atoms in 0.012 kg ofcarbon-12
“Mole” gyda dadamwyswyr yn y Porth Termau
Rhai o wahanol gysyniadau “register”
Rhai o wahanol gysyniadau “term”
Rhybudd: gall term gynnwys mwy nag un gair
• Mae’n bwysig edrych ar y term yn ei gyfanrwydd a pheidio cyfieithu un gair ar y tro– Gall y term yn ei gyfanrwydd fod yn hollol
wahanol mewn dwy iaith e.e. terms of reference cylch gorchwylmole wrench tyndro hunanafaelchest register llais y frest
Cofiwch fod angen edrych ar derm aml-air yn ei gyfanrwydd yn hytrach na chyfieithu un gair ar y
tro
Rhai termau i’ch baglu yn cynnwys y gair “register”
Os oes diffiniad yn y geiriadur termau, darllenwch ef!
I helpu deall y cysyniad
• Defnyddiwch eiriaduron neu wyddoniaduron (uniaith os oes raid!) sy’n esbonio’r term
• Edrychwch ar y dadamwysydd (disambiguator)
• Chwiliwch am ddiffiniad o’r term• Holwch eich cwsmer beth yn union yw’r
ystyr
Rhagnodi v. Disgrifio Iaith
• Mae geiriaduron cyffredinol yn disgrifio iaith fel y mae yn ei holl gyfoeth– Felly mae’n bosib cael nifer o gyfystyron yn cael
eu rhestru (yn cynnwys amrywiadau o ran cywair, tafodiaith etc)
– Enghreifftiau: Geiriadur yr Academi, Geiriadur Prifysgol Cymru, Geiriadur Cyffredinol Cysgair
– Defnyddiwch y rhain i chwilio am gyfystyron, ac i gael cymorth cyffredinol
Geiriaduron terminoleg safonol
• Mae geiriaduron termau safonol yn rhagnodi pa dermau ddylid eu defnyddio– Felly ni cheir dewis o dermau fel arfer (mae’r
dewis wedi’i wneud drosoch yn y broses safoni)– Enghreifftiau: Y Termiadur Addysg, Termau
Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, Yr holl eiriaduron a gynhwysir yn y Porth Termau Cenedlaethol
– TermCymru
Y cwsmer biau pennu’r geiriaduron rhagnodol
• Mae rhai cyrff yn nodi pa eiraduron termau y mae’n rhaid i’w cyfieithwyr eu dilyn e.e.rhaid i sefydliadau addysgol, arholwyr a darparwyr adnoddau addysgol ddilyn Y Termiadur Addysg, rhaid i gyfieithwyr y Llywodraeth ddilyn TermCymru
• Gall hyn olygu weithiau fod angen defnyddio termau gwahanol yn ôl y cwsmer
Pryd i ddefnyddio termau technegol• Mewn cyweiriau technegol
– Dogfennau swyddogol a chyhoeddus
– Cyhoeddiadau academaidd
– Pan gewch gyfarwyddyd gan y cwsmer i wneud hynny
• Nid (o raid) mewn cyweiriau annhechnegol
– Deunydd deongliadol i’r cyhoedd
– Hysbysebion a deunydd sgwrsiol
Cf. Arddulliadur Cyfieithwyr Llywodraeth Cymru – ceir yno ganllawiau manylach ar hyn
Pa adnoddau sydd ar gael?• Geiriaduron cyffredinol (disgrifiadol)
– uniaith e.e. The Oxford Dicitonary of English– dwyieithog e.e. Geiriadur yr Academi
• Geiriaduron arbenigol (rhagnodol)– fel arfer ar gyfer meysydd penodol e.e.
coedwigaeth, gwaith cymdeithasol, ac ar gyfer defnyddwyr penodol e.e. Addysg Uwch
Adnoddau sydd ar gael
• Y Termiadur Addysg (termau swyddogol Adran Addysg Llywodraeth Cymru) http://www.termiaduraddysg.org/
• Termau Addysg Uwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (yn cynnwys diffiniadau):
http://www.colegcymraeg.ac.uk/termau/• Porth Termau Cenedlaethol Cymru (yn cynnwys y
ddau uchod a llawer mwy) http://termau.org/porth/
Adnoddau gwerthfawr eraill
• Casgliad termau cyfieithwyr Llywodraeth Cymru: http://www.termcymru.cymru.gov.uk/
• Cysgeir o fewn y pecyn Cysgliad (os nad oes cyswllt gwe gennych)
• Geiriaduron papur nad ydynt ar gael yn electronig:– Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Curiad)– Geiriadur Baillière i Fydwragedd (Bangor)– Geiriadur y Gyfraith (Gwasg Gomer)
Hefyd, beth am...
greu eich rhestr eich hun o dermauEr mwyn:– dysgu termau newydd– cael rhestr hwylus ar gyfer pwnc neu broject
penodol– casglu rhestr i’w rhoi mewn cof cyfieithu