44
TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – Natur sylweddau ac adweithiau cemegol 2 Atomau 2 Cynrychioli atomau 3 Elfennau 3 Cyfansoddion 3 Defnyddio fformiwlâu cemegol 4 Adweithiau Cemegol 4 Cyfansoddion ïonig 5 Isotopau 6 Màs atomig cymharol (Ar) 6 Màs moleciwlaidd (fformiwla) cymharol (Mr) 6 Cyfansoddiad canrannol (%) cyfansoddion 7 Hafaliadau Cemegol 7 Molau 9 Cyfrifiadau 10 Cymysgeddau 12 Adweithiau cemegol 14 Pwnc 2 - Adeiledd atomig a'r Tabl Cyfnodol 15 Atomau – i'ch atgoffa 15 Y Tabl Cyfnodol 16 Adeiledd Electronig 18 Grŵp 1 – Y Metelau Alcalïaidd 19 Grŵp 7 – Yr Halogenau 20 Adnabod nwy hydrogen 22 Adnabod Ïonau 23 Grŵp 0 – Y Nwyon Nobl 24 Pwnc 3 – Dŵr 25 Beth sydd yn ein dŵr? 25 Cyflenwad dŵr cynaliadwy 25 Trin dŵr cyhoeddus 26 Dihalwyno dŵr môr 26 Fflworideiddio 27 Hydoddedd 28 Dŵr caled a meddal 29 Buddion dŵr caled i iechyd a'i effeithiau anffafriol 30 Pwnc 4 – Y Ddaear sy'n newid 31 Adeiledd y Ddaear 31 Tectoneg Platiau 31 Yr Atmosffer 33 Materion amgylcheddol 34 Nwyon 35 Pwnc 5 – Cyfradd Newid Cemegol 36 Cyfraddau Adweithiau 36 Casglu Data/Mesur yr Adwaith 37 Damcaniaeth Gronynnau/Gwrthdrawiadau 38 Pwnc 6 – Calchfaen (TGAU Cemeg YN UNIG) 40 Dadelfeniad Thermol 40 Y Gylchred Calchfaen 42 Defnydd Calchfaen 44 Fersiwn 2.0 – Paul Greene, 2017

Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu 1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 1

Cynnwys Cynnwys 1

Pwnc 1 – Natur sylweddau ac adweithiau

cemegol 2

Atomau 2

Cynrychioli atomau 3

Elfennau 3

Cyfansoddion 3

Defnyddio fformiwlâu cemegol 4

Adweithiau Cemegol 4

Cyfansoddion ïonig 5

Isotopau 6

Màs atomig cymharol (Ar) 6

Màs moleciwlaidd (fformiwla) cymharol (Mr) 6

Cyfansoddiad canrannol (%) cyfansoddion 7

Hafaliadau Cemegol 7

Molau 9

Cyfrifiadau 10

Cymysgeddau 12

Adweithiau cemegol 14

Pwnc 2 - Adeiledd atomig a'r Tabl Cyfnodol 15

Atomau – i'ch atgoffa 15

Y Tabl Cyfnodol 16

Adeiledd Electronig 18

Grŵp 1 – Y Metelau Alcalïaidd 19

Grŵp 7 – Yr Halogenau 20

Adnabod nwy hydrogen 22

Adnabod Ïonau 23

Grŵp 0 – Y Nwyon Nobl 24

Pwnc 3 – Dŵr 25

Beth sydd yn ein dŵr? 25

Cyflenwad dŵr cynaliadwy 25

Trin dŵr cyhoeddus 26

Dihalwyno dŵr môr 26

Fflworideiddio 27

Hydoddedd 28

Dŵr caled a meddal 29

Buddion dŵr caled i iechyd a'i effeithiau

anffafriol 30

Pwnc 4 – Y Ddaear sy'n newid 31

Adeiledd y Ddaear 31

Tectoneg Platiau 31

Yr Atmosffer 33

Materion amgylcheddol 34

Nwyon 35

Pwnc 5 – Cyfradd Newid Cemegol 36

Cyfraddau Adweithiau 36

Casglu Data/Mesur yr Adwaith 37

Damcaniaeth Gronynnau/Gwrthdrawiadau 38

Pwnc 6 – Calchfaen (TGAU Cemeg YN UNIG) 40

Dadelfeniad Thermol 40

Y Gylchred Calchfaen 42

Defnydd Calchfaen 44

Fersiwn 2.0 – Paul Greene, 2017

Page 2: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 2

Pwnc 1 – Natur sylweddau ac adweithiau cemegol

Atomau Ym mhob atom, mae electronau â gwefr negatif mewn orbit o gwmpas niwclews â gwefr bositif.

Mae atomau'n cynnwys niwclews ac orbitau (plisg).

Y niwclews Mae'n cynnwys protonau a niwtronau.

Mae gan y protonau wefr positif (+).

Mae gan y niwtronau wefr niwtral (0) (dim gwefr).

Felly... ar y cyfan mae gan y niwclews wefr bositif.

Yr orbitau (plisg) Mae'r rhain yn cynnwys electronau.

Mae gwefr negatif (-) ar electronau.

Mae'r electronau'n symud o gwmpas y niwclews yn eu horbitau (plisg).

Mae'r electronau'n fach iawn ond mae eu horbitau'n cymryd llawer o le.

Does dim gwefr gyffredinol ar atomau. Mae nifer yr electronau yn hafal i nifer y protonau.

Ïon Os yw atom yn ennill neu'n colli electron mae'n troi'n ïon.

Ennill electron Ïon negatif

Colli electron Ïon positif

Symbolau Gallwn ni gynrychioli atomau â symbolau. Mae symbol cemegol yn cynrychioli

atomau pob elfen. Mae hwn fel rheol yn un neu ddwy o lythrennau, ond

weithiau rydyn ni'n defnyddio tair llythyren ar gyfer elfennau sydd newydd

gael eu darganfod.

Mae llythyren gyntaf symbol cemegol bob amser yn BRIFLYTHYREN, ac mae'r llythrennau eraill bob amser

yn llythrennau bach. Felly, symbol atom magnesiwm yw Mg ac nid mg, MG na mG.

GRONYN MÀS CYMHAROL GWEFR

Proton - Niwclews 1 +1

Niwtron - Niwclews 1 0

Electron - Orbit 0.0005 -1

O = ocsigen Na = sodiwm C = carbon Ag = arian Au = aur W = twngsten

Page 3: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 3

Cynrychioli atomau

Rhif màs Nifer y protonau a'r niwtronau yn y niwclews.

Rhif atomig Nifer y protonau yn y niwclews.

Mae hwn hefyd yn hafal i nifer yr electronau yn yr orbitau.

Elfennau Elfennau yw sylweddau nad ydyn ni'n gallu eu torri'n sylweddau symlach â dulliau

cemegol; nhw yw blociau adeiladu sylfaenol pob sylwedd.

Elfennau yw sylweddau sydd wedi’u gwneud o un math o atom yn unig. Nifer y

protonau yn y niwclews sy'n pennu pa fath o atom ydyw.

Gwifren gopr - Mae'r atomau i gyd yn atomau copr

Diemwnt - Mae'r atomau i gyd yn atomau carbon

Nwy clorin - Mae'r atomau i gyd yn atomau

clorin

Cyfansoddion Sylweddau sy'n cynnwys dwy neu fwy o elfennau wedi’u cysylltu’n gemegol.

Mae gan gyfansoddion briodweddau cemegol gwahanol i'r elfennau sydd ynddynt.

Halen Bwrdd Fformiwla - NaCl

Elfennau Sodiwm Clorin

2 Elfen

Atomau 1 x Sodiwm 1 x Clorin

2 Atom

Na

Cl Na

Na

Cl Cl

Dŵr Fformiwla - H2O

Elfennau Hydrogen Ocsigen

2 Elfen

Atomau 2 x Hydrogen 1 x Ocsigen

3 Atom

O

H H

C C C

C C C

Asid Sylffwrig Fformiwla - H2SO4

Elfennau Hydrogen Sylffwr Ocsigen

3 Elfen

Atomau 2 x Hydrogen 1 x Sylffwr 4 x Ocsigen

7 Atom

Page 4: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 4

Defnyddio fformiwlâu cemegol Rydyn ni'n ysgrifennu cyfansoddion drwy ddefnyddio fformiwla o symbolau yr elfennau ynddynt.

Cwestiwn Enghreifftiol wedi'i Gyfrifo

Beth yw cyfanswm nifer yr atomau yn y fformiwla hon (NH4)2SO4, amoniwm sylffad?

(NH4)2 SO4

2 x NH4 = (2 x N) + (2 x H4) = (2 x N) + (8 x H) 1 x SO4 = (1 x S) + (1 x O4) = (1 x S) + (4 x O)

Felly… (2 x N) + (8 x H) + (1 x S) + (4 x O)

CYFANSWM = 15 Atom

Adweithiau Cemegol Mae atomau'n cael eu haildrefnu yn ystod adwaith cemegol. Does dim atomau'n cael eu creu na'u dinistrio.

Defnyddio diagram ac allwedd i gynrychioli moleciwlau syml Weithiau mae hi'n anodd delweddu beth sy'n digwydd yn ystod adwaith, felly byddwn ni'n defnyddio

diagram i gynrychioli moleciwlau syml:

Gallwn ni hefyd ei gynrychioli â’r hafaliad diagram:

Page 5: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 5

Cyfansoddion ïonig Pan mae adwaith cemegol yn digwydd, mae bondiau newydd yn ffurfio.

Mae cyfansoddion ïonig yn ffurfio drwy drosglwyddo electronau o atom metel i atom anfetel. Mae hyn yn

ffurfio gronynnau â gwefr, sef ïonau.

e.e. Pan mae sodiwm clorid (NaCl) yn ffurfio, mae un

electron yn cael ei drosglwyddo o orbit (plisgyn) allanol yr

atom sodiwm i mewn i orbit allanol yr atom clorin.

Bydd hyn yn ffurfio orbit allanol sefydlog llawn (neu

blisgyn) i'r ddau ronyn.

Mae'r atom sodiwm yn troi'n ïon sodiwm positif (Na+).

Mae'r atom clorin yn troi'n ïon clorid negatif (Cl-).

Yr atyniad electrostatig cryf rhwng y ddwy wefr sy'n dal

cyfansoddion ïonig at ei gilydd.

Ar y cyfan does dim gwefr oherwydd mae'r gwefrau positif a negatif yn canslo ei gilydd.

Defnyddio ïonau i greu fformiwlâu

Mae gan gyfansoddion briodweddau hollol wahanol i'r elfennau sydd ynddynt

Na+ Cl- Ïonau'n

canslo

NaCl

Mg2+ O2- Ïonau'n

canslo MgO

O2- Ïonau'n

canslo Li2O Li+ Li+

OH- Ïonau'n

canslo

Ca(OH)2 Ca2+ OH-

Fe S FeS

Metel

magnetig

gloyw

Powdr anfetel

melyn llachar

Lwmp o solid

anfagnetig

llwyd afloyw

Page 6: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 6

Isotopau Isotopau yw ffurfiau atomig gwahanol o'r un elfen, sy'n

cynnwys yr un nifer o brotonau (ac electronau) ond nifer

gwahanol o niwtronau.

Màs atomig cymharol (Ar) Mae'r màs atomig cymharol (Ar) yn defnyddio màs cyfartalog

isotopau elfen. Mae'n rhaid iddo ganiatáu ar gyfer màs cymharol

pob isotop a'i gyflenwad cymharol.

Mae cyflenwad cymharol yn golygu faint sydd o bob isotop o'i

gymharu â chyfanswm yr elfen yn y byd.

e.e. Mae hyn yn golygu bod 2 isotop clorin.

Mae màs cymharol un yn 35 (35Cl) a'r llall yn

37 (37Cl).

Cymhareb 35Cl : 37Cl = 3:1

Màs moleciwlaidd (fformiwla) cymharol (Mr) Màs fformiwla cymharol yw cyfanswm màs cyfansoddyn. I gyfrifo hwn, rydyn ni'n adio Ar unigol pob atom

sydd yn y cyfansoddyn.

Elfen Màs cymharol yr

isotop Cyflenwad cymharol

Clorin (Cl) 35 3

37 1

1. Lluoswch fàs pob isotop â'i

gyflenwad cymharol.

2. Adiwch y rhain at ei gilydd.

3. Rhannwch â chyfanswm y

cyflenwadau cymharol.

𝐴𝑟 = (35 × 3) + (37 × 1)

3 + 1

= 𝟑𝟓. 𝟓

e.e. Cyfrifwch fàs moleciwlaidd cymharol (Mr) Fe2O3.

Ar Fe = 56 Nifer yr atomau Fe = 2 (2 x 56) = 112

Ar O = 16 Nifer yr atomau O = 3 (3 x 16) = 48

Cyfanswm = 160

Page 7: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 7

Cyfansoddiad canrannol (%) cyfansoddion Ar ôl cyfrifo'r Mr gallwn ni gyfrifo'r canran o elfen sydd mewn cyfansoddyn gan ddefnyddio'r fformiwla:

Y ffordd orau o ddangos hyn yw drwy roi enghraifft:

Hafaliadau Cemegol Dydy atomau ddim yn cael eu gwneud na'u colli yn ystod adwaith cemegol – dim ond eu haildrefnu.

Gallwn ni ddefnyddio hafaliadau geiriau, symbolau neu ddiagramau i ddangos yr adweithiau.

e.e.

% 𝑀à𝑠 𝑐𝑎𝑛𝑟𝑎𝑛𝑛𝑜𝑙 = 𝐴𝑟 × 𝑁𝑖𝑓𝑒𝑟 𝑦𝑟 𝑎𝑡𝑜𝑚𝑎𝑢 (𝑜′𝑟 𝑒𝑙𝑓𝑒𝑛 ℎ𝑜𝑛𝑛𝑜)

𝑀𝑟 (𝑦 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛𝑠𝑜𝑑𝑑𝑦𝑛 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛)× 100

Cyfrifwch fàs canrannol y magnesiwm mewn magnesiwm carbonad, MgCO3.

Ar Mg = 24 Ar C = 12 Ar O = 16

Mr MgCO3 = 24 + 12 + (3 x 16) = 84

Nawr:

% 𝑚à𝑠 = 𝐴𝑟 × 𝑁

𝑀𝑟 × 100 =

24 × 1

84× 100 = 28.6%

Mae hyn yn dweud wrthyn ni bod 28.6% (yn ôl màs) o MgCO3 yn fagnesiwm.

Geiriau: Magnesiwm + Ocsigen Magnesiwm Ocsid

Symbolau Cytbwys: 2Mg + O2 2MgO

Diagramau:

Rhaid rhoi'r un nifer o atomau ar y ddwy ochr i'r hafaliad bob amser – fel eu bod nhw'n hafal.

Ochr chwith: Ochr dde:

Mg = 2 O = 2 Mg = 2 O = 2

Mg Mg O O

O Mg

O Mg

Page 8: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 8

Cydbwyso hafaliadau Rydyn ni'n cydbwyso hafaliadau drwy roi rhifau o flaen y fformiwlâu lle mae eu hangen.

e.e.

Màs cytbwys Gallwn ni weld uchod bod nifer yr atomau sy'n mynd i mewn i adwaith yn hafal i nifer yr atomau sy'n dod

allan o adwaith.

Mae hyn yn wir am y màs hefyd.

Adwaith ffwrnais chwyth:

Haearn ocsid + Carbon monocsid Haearn + Carbon deuocsid

1. Fe2O3 + CO Fe + CO2

Chwith: Fe = 2 O = 4 C = 1 Dde: Fe = 1 O = 2 C = 1

2. Fe2O3 + CO 2Fe + CO2

Chwith: Fe = 2 O = 4 C = 1 Dde: Fe = 2 O = 2 C = 1

3. Fe2O3 + CO 2Fe + 3CO2

Chwith: Fe = 2 O = 4 C = 1 Dde: Fe = 2 O = 6 C = 3

4. Fe2O3 + 3CO 2Fe + 3CO2

Chwith: Fe = 2 O = 6 C = 3 Dde: Fe = 2 O = 6 C = 3

Mae nifer yr atomau nawr yn cydbwyso!

Adwaith ffwrnais chwyth:

Haearn ocsid + Carbon monocsid Haearn + Carbon deuocsid

Fe2O3 + CO Fe + CO2

Mr Fe2O3 = 160 Mr CO = 28 Ar Fe = 56 Mr CO2 = 44

Cyfanswm Mr ar y chwith = 188 Cyfanswm Mr ar y dde = 100

Gallwn ni weld yma bod y màs sy'n mynd i mewn yn anhafal i'r màs sy'n dod allan.

Fe2O3 + 3CO 2Fe + 3CO2

Mr Fe2O3 = 160 Mr CO = 84 Ar Fe = 112 Mr CO2 = 132

Cyfanswm Mr ar y chwith = 244 Cyfanswm Mr ar y dde = 244

Mae'r màs nawr yn cydbwyso!

Page 9: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 9

Molau Haen Uwch

Mae'r môl yn derm sy'n disgrifio rhif penodol – fel mae'r gair ‘dwsin’ yn cynrychioli'r rhif 12. Fodd bynnag,

mae'r môl yn rhif llawer mwy: 6.02 x 1023 o atomau. (6 ac wedyn 23 sero).

Enwau eraill ar y rhif hwn yw cysonyn Avogadro neu rif Avogadro.

Rydyn ni'n diffinio môl fel nifer yr atomau mewn 12 gram yn union o Carbon-12 (12C). 12 yw rhif màs carbon,

felly mae màs un môl o atomau carbon yn 12 gram.

Felly… rydyn ni'n galw Ar neu Mr sylwedd mewn gramau yn un môl o'r sylwedd hwnnw.

e.e.

i gyfrifo nifer y molau, rydyn ni'n defnyddio'r hafaliad hwn:

𝑁𝑖𝑓𝑒𝑟 𝑦 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 =𝑀à𝑠 𝑚𝑒𝑤𝑛 𝑔 (𝑦𝑟 𝑒𝑙𝑓𝑒𝑛 𝑛𝑒𝑢′𝑟 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛𝑠𝑜𝑑𝑑𝑦𝑛)

𝑀𝑟(𝑦𝑟 𝑒𝑙𝑓𝑒𝑛 𝑛𝑒𝑢′𝑟 𝑐𝑦𝑓𝑎𝑛𝑠𝑜𝑑𝑑𝑦𝑛)

Trawsnewid molau yn fàs

Gallwch chi aildrefnu’r hafaliad i ffurfio: 𝑚à𝑠 = 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 × 𝑀𝑟

Cyfrifo'r Mr o folau a màs

Gallwch chi aildrefnu’r hafaliad i ffurfio:

𝑀𝑟 =𝑚à𝑠

𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢

Mae gan haearn Ar o 56. Felly, mae màs un môl o haearn yn 56g.

Mae gan nwy nitrogen Mr o 28 (2 x 14). Felly, mae màs un môl o nwy nitrogen yn 28g.

Mae gan galsiwm carbonad (CaCO3) Mr o 100. Felly, mae màs un môl o CaCO3 yn 100g.

(40 + 12 + (16 x 3)) = 100

Enghraifft 1:

Sawl môl o atomau sydd mewn 4.8 g o

garbon?

𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 = 𝑚à𝑠

𝐴𝑟=

4.8𝑔

12= 0.4 𝑚ô𝑙

Ar C = 12

Enghraifft 2:

Sawl môl sydd mewn 640 g o ocsigen (O2)?

𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 = 𝑚à𝑠

𝑀𝑟=

640𝑔

32= 20 𝑚ô𝑙

Ar O = 16 Mr O2 = 16 x 2 = 32

Enghraifft 3:

Beth yw màs 0.6 môl o foleciwlau clorin (Cl2)?

𝑚à𝑠 = 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 × 𝑀𝑟 = 0.6 × 71 = 42.6𝑔

Ar Cl = 35.5 Mr Cl2 = 35.5 x 2 = 71

Enghraifft 4:

Beth yw màs 0.1 môl o galsiwm carbonad

(CaCO3)?

𝑚à𝑠 = 𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢 × 𝑀𝑟 = 0.1 × 100 = 10.0𝑔

Mr CaCO3 = 40 + 12 + (16 x 3) = 100

Enghraifft 5:

Mae 0.5 môl o gyfansoddyn yn pwyso 80g, cyfrifwch ei Mr.

𝑀𝑟 =𝑚à𝑠

𝑚𝑜𝑙𝑎𝑢=

80

0.5= 160

Page 10: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 10

Cyfrifiadau

Cyfrifo cynnyrch canrannol (%) adwaith cemegol Y cynnyrch yw faint o gynhyrchion rydyn ni'n eu cael o adwaith cemegol. Y mwyaf o adweithyddion rydyn

ni'n eu rhoi i mewn, y mwyaf fydd y cynnyrch gwirioneddol.

Mae'r cynnyrch canrannol (%) yn dweud wrthyn ni faint o lwyddiant oedd yr arbrawf ar y cyfan. Mae'n

cymharu'r cynnyrch wedi'i ragfynegi (beth ddylen ni ei gael) â'r cynnyrch gwirioneddol (beth rydyn ni'n ei

gael yn ymarferol mewn gwirionedd).

𝐶𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑐𝑎𝑛𝑟𝑎𝑛𝑛𝑜𝑙 (%) = 𝑐𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑔𝑤𝑖𝑟𝑖𝑜𝑛𝑒𝑑𝑑𝑜𝑙 (𝑚𝑒𝑤𝑛 𝑔)

𝑐𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑤𝑒𝑑𝑖′𝑖 𝑟𝑎𝑔𝑓𝑦𝑛𝑒𝑔𝑖 (𝑚𝑒𝑤𝑛 𝑔) × 100

Cyfrifo masau adweithyddion neu gynhyrchion o hafaliad cemegol cytbwys Haen Uwch

Drwy ddefnyddio masau atomig cymharol (Ar) a masau moleciwlaidd cymharol (Mr) mae'n bosibl cyfrifo faint

o gynnyrch sy'n ffurfio neu faint o adweithyddion sydd eu hangen.

e.e. Mewn proses weithgynhyrchu, rydyn ni'n rhagfynegi 12 tunnell o

gynnyrch, ond dim ond 10 tunnell rydyn ni'n ei gael. Beth yw’r cynnyrch

canrannol?

𝐶𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑐𝑎𝑛𝑟𝑎𝑛𝑛𝑜𝑙 (%) = 𝟏𝟎

𝟏𝟐 × 100 = 83.33 %

Cyfrifo’r cynnyrch Pa FÀS O FAGNESIWM OCSID sy'n cael ei gynhyrchu wrth losgi 60g o fagnesiwm mewn aer?

Hafaliad Symbolau: 2𝑀𝑔 + 𝑂2 → 2𝑀𝑔𝑂

Mr: 2x24 2 (24+16)

48 80

Felly bydd 48g (neu dunnell) yn cynhyrchu 80g

Felly, ar gyfer pob 1g... 1g 80 ÷ 48 = 1.67g

Felly... Bydd 60g yn cynhyrchu 60 x 1.67 = 100.2g

Cyfrifo'r adweithyddion (gweithio am yn ôl) Beth yw MÀS Y MAGNESIWM sydd ei angen i gynhyrchu 90g o fagnesiwm ocsid?

Hafaliad Symbolau: 2𝑀𝑔 + 𝑂2 → 2𝑀𝑔𝑂

Mr: 2x24 2 (24+16)

48 80

Felly bydd 48g (neu dunnell) yn cynhyrchu 80g

Felly, ar gyfer pob 1g... 1g 48 ÷ 80 = 0.6g

Felly... i gynhyrchu 90g bydd angen 90 x 0.6 = 54g

𝑪𝒚𝒏𝒏𝒚𝒓𝒄𝒉

𝑨𝒅𝒘𝒆𝒊𝒕𝒉𝒚𝒅𝒅

𝑨𝒅𝒘𝒆𝒊𝒕𝒉𝒚𝒅𝒅

𝑪𝒚𝒏𝒏𝒚𝒓𝒄𝒉

Page 11: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 11

Cyfrifo fformiwla cyfansoddyn o ddata'r masau sy'n adweithio (Fformiwla Empirig) Haen Uwch

Enghraifft 1 Pan mae 4 g o gopr ocsid yn cael ei rydwytho mewn ager hydrogen, mae'n gadael 3.2 g o gopr.

Cyfrifwch faint o ocsigen oedd wedi'i gynnwys yn y copr ocsid.

1. Cam cyntaf Darganfod y gwahaniaeth màs

4 – 3.2 = 0.8 g

Felly, ar gyfer pob copr ocsid:

Cu O

Màs 3.2 0.8

2. Rhannu ag Ar ÷ 64 (Ar Cu) ÷ 16 (Ar O)

= 0.05 = 0.05

3. Rhannu â'r lleiaf ÷ 0.05 ÷ 0.05

= 1 = 1

Felly y gymhareb yw 1 Cu : 1 O

Ar gyfer pob 1 Cu mae 1 O Fformiwla = CuO

Enghraifft 2 Beth yw fformiwla'r haearn ocsid sy'n cael ei gynhyrchu wrth i 44.8g o haearn adweithio ag 19.2g of

ocsigen?

Felly, ar gyfer pob haearn ocsid:

Fe O

Màs 44.8 19.2

Rhannu ag Ar ÷ 56 (Ar Fe) ÷ 16 (Ar O)

= 0.8 = 1.2

Rhannu â'r gwerth lleiaf 0.8 ÷ 0.8 1.2 ÷ 0.8

= 1 = 1.5

Rhaid i fformiwla gynnwys rhifau cyfan felly y gymhareb yw:

2 Fe : 3 O

Ar gyfer pob 2 Fe mae 3 O Fformiwla = Fe2O3

Page 12: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 12

Cymysgeddau Mae cymysgedd wedi'i wneud o sylweddau gwahanol sydd heb eu cysylltu'n gemegol.

Er enghraifft, drwy gymysgu powdr haearn a phowdr sylffwr â’i gilydd, cewch chi gymysgedd o haearn a

sylffwr. Gallwch chi eu gwahanu nhw oddi wrth ei gilydd heb adwaith cemegol, yn union fel dewis melysion

lliw gwahanol o becyn cymysg a’u rhoi nhw mewn pentyrrau ar wahân.

Elfen Cyfansoddyn Cymysgedd o elfennau Cymysgedd o elfennau a

chyfansoddion

Mae hi'n hawdd gwahanu atomau/moleciwlau mewn cymysgeddau â phrosesau ffisegol fel:

1. Hidlo

2. Anweddu

3. Cromatograffaeth

4. Distyllu

Hidlo SOLID ANHYDAWDD O HYLIF

Mae hidlo’n ffordd dda o wahanu solid anhydawdd oddi

wrth hylif. (Sylwedd anhydawdd yw un sydd ddim yn

hydoddi.)

Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio hidlo i wahanu tywod o

gymysgedd o dywod a dŵr. Mae hyn yn gweithio oherwydd

dydy tywod ddim yn hydoddi mewn dŵr.

Page 13: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 13

Anweddu SOLID HYDAWDD O HYLIF

Mae hyn yn ffordd dda o wahanu solid hydawdd oddi wrth hylif

(mae sylwedd hydawdd yn hydoddi, i ffurfio hydoddiant).

Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio anweddu i wahanu grisialau

copr sylffad o hydoddiant copr sylffad. Cofiwch mai’r dŵr sy’n

anweddu, nid yr hydoddiant.

Cromatograffaeth GWAHANU HYLIFAU OHERWYDD MÀS

Gallwn ni ddefnyddio cromatograffaeth i wahanu

cymysgeddau o gyfansoddion lliw. Mae cymysgeddau

sy'n addas i'w gwahanu â chromatograffaeth yn

cynnwys inciau, llifynnau a chyfryngau lliwio mewn

bwyd.

Rydyn ni'n gwneud cromatograffaeth syml ar bapur.

Rydyn ni'n rhoi smotyn o'r cymysgedd yn agos at

waelod darn o bapur cromatograffaeth ac yna'n rhoi'r

papur ar i fyny mewn hydoddydd addas, e.e. dŵr.

Wrth i'r hydoddydd fwydo i fyny'r papur, mae'n cludo'r cymysgeddau gydag ef. Bydd gwahanol gydrannau

o'r cymysgedd yn symud ar wahanol gyfraddau. Mae hyn yn gwahanu'r cymysgedd.

Gwerthoedd Rf

Gallwn ni adnabod gwahanol gromatogramau a chydrannau'r cymysgeddau wedi'u gwahanu drwy gyfrifo'r

gwerth Rf gan ddefnyddio'r hafaliad:

𝑅𝑓 =pellter mae′r cyfansoddyn yn ei symud

pellter mae′r hydoddydd yn ei symud

Mae gwerth Rf cyfansoddyn penodol yr un fath bob amser - os yw'r gromatograffaeth wedi'i gwneud yn yr

un ffordd. Mae hyn yn galluogi diwydiannau i ddefnyddio cromatograffaeth i adnabod cyfansoddion mewn

cymysgeddau.

e.e. Yn y diagram uchod, mae'r smotyn glas wedi codi 4 cm ac mae'r hydoddydd wedi codi 10cm. Felly,

gwerth Rf y smotyn glas yw:

𝑅𝑓 =pellter mae′r cyfansoddyn yn ei symud

pellter mae′r hydoddydd yn ei symud=

4

10= 𝟎. 𝟒

Ceisiwch gyfrifo gwerthoedd Rf y cyfansoddion glas,

porffor a melyn ar y chwith.

Page 14: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 14

Distyllu GWAHANU HYLIFAU OHERWYDD BERWBWYNT

Distyllu – Gwahanu dŵr a hylifau cymysgadwy.

Mae gan hylifau pur ferwbwyntiau

penodol, e.e. mae dŵr yn berwi ar

100°C. Mae ethanol yn berwi ar

78°C. Mae dŵr ac ethanol yn

gymysgadwy (pan mae dau hylif yn

cymysgu â'i gilydd yn rhwydd heb

wahanu'n haenau).

Mae’r dull hwn yn gweithio

oherwydd mae berwbwyntiau’r

hylifau yn y cymysgedd yn

wahanol. Pan mae'r cymysgedd yn

cael ei wresogi, mae un hylif yn

anweddu cyn y llall.

Adweithiau cemegol Sut rydyn ni'n gwybod os oes adwaith cemegol wedi digwydd?

Efallai na fyddwch chi'n gallu gweld bod unrhyw sylweddau newydd wedi

ffurfio yn ystod newid. Isod mae rhai arwyddion y gallai fod newid cemegol

wedi digwydd.

Newid Tymheredd Yn aml, mae newid tymheredd yn digwydd gyda newid cemegol. Efallai y

byddwch chi wedi sylwi bod y tymheredd yn uwch wrth foncyffion sy'n llosgi

mewn coelcerth.

Ecsothermig – Rhyddhau gwres.

Endothermig – Amsugno gwres.

Newid Lliw Mae newid lliw yn aml yn arwydd o newid cemegol.

Meddyliwch am haearn yn rhydu...

Ffurfio Nwy (Eferwad) Mae ffurfio nwy neu swigod yn arwydd arall y gallai fod newid

cemegol wedi digwydd.

Mae'r adwaith ar y chwith yn rhyddhau CO2.

Ffurfio Solid Wrth gyfuno dau hylif, mae solid o'r enw gwaddod yn gallu ffurfio. Gwaddodion yw cregyn anifeiliaid fel

cregyn bylchog a chregyn gleision. Maen nhw'n ffurfio o ganlyniad i newid cemegol lle mae sylweddau mewn

dŵr môr yn cyfuno â sylweddau o'r creaduriaid.

Page 15: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 15

Pwnc 2 - Adeiledd atomig a'r Tabl Cyfnodol

Atomau – i'ch atgoffa Gweler Pwnc 1 am fwy o fanylion.

Does dim gwefr ar atomau. (Cyffredinol = Niwtral)

Mae nifer y protonau (yn y niwclews) bob amser yr un

fath â nifer yr electronau (mewn plisg)

Mae gan y protonau wefr positif. (+)

Mae gwefr negatif (-) ar electronau.

Does dim gwefr ar niwtronau (0) – maen

nhw'n niwtral

GRONYN MÀS

CYMHAROL GWEFR

Proton - Niwclews

1 +1

Niwtron - Niwclews

1 0

Electron - Orbit

0.0005 -1

Sut i ysgrifennu mewn nodiant cywir:

Tri isotop hydrogen Yr un nifer o brotonau ac electronau Nifer gwahanol o niwtronau

Mae ïonau yn ffurfio wrth i atom ennill neu golli electron

Atom

Ïon

positif

Ïon negatif

Page 16: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 16

Y Tabl Cyfnodol Caiff yr holl wahanol elfennau eu trefnu mewn siart, sef y tabl cyfnodol. Gwyddonydd o Rwsia, Dmitri Mendeleev, gynhyrchodd un o'r tablau cyfnodol

ymarferol cyntaf yn y 19eg ganrif. Mae'r tabl cyfnodol modern yn seiliedig yn bennaf ar ei syniadau ef:

mae'r elfennau wedi'u trefnu yn nhrefn rhif atomig, o'r lleiaf i'r mwyaf

enw’r rhesi llorweddol yw cyfnodau

enw’r colofnau fertigol yw grwpiau

mae gan elfennau yn yr un grŵp briodweddau tebyg i’w gilydd

mae metelau ar ochr chwith y tabl, ac anfetelau ar y dde

Cyfnod 1

Cyfnod 2

Cyfnod 3

Cyfnod 4

Cyfnod 5

P e r i o d 1

Cyfnod 6

P e r i o d 5

P e r i o d 1

Cyfnod 7

P e r i o d 1

Grŵ

p 1

Grŵ

p 2

Grŵ

p 3

Grŵ

p 4

Grŵ

p 5

Grŵ

p 6

Grŵ

p 7

Grŵ

p 0

Metelau

trosiannol

Yn aml, mae gan elfennau

sy'n ymddangos yn agos

at y rhaniad rhwng y

metelau a'r anfetelau

briodweddau rhyngol.

Hynny yw, maen nhw

weithiau'n gallu ymddwyn

fel metelau a/neu

anfetelau.

Page 17: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 17

Metelau Mae haearn, magnesiwm ac aur yn enghreifftiau o elfennau metel. Mae metelau'n rhannu priodweddau.

Maen nhw:

yn sgleiniog, yn enwedig yn syth ar ôl cael eu torri

yn dargludo gwres a thrydan yn dda

yn hydrin (gallwn ni eu plygu a'u siapio nhw heb

iddyn nhw dorri)

Mae'r rhan fwyaf o fetelau hefyd yn rhannu priodweddau

eraill. Maen nhw:

yn solid ar dymheredd ystafell, heblaw mercwri

yn galed ac yn gryf

mae ganddyn nhw ddwysedd uchel

maen nhw'n soniarus

Mae tri metel (haearn, cobalt a nicel) yn fagnetig. Mae dur yn gymysgedd o elfennau, ond haearn gan fwyaf,

felly mae hefyd yn fagnetig. Dydy'r elfennau metel eraill ddim yn fagnetig.

Anfetelau Mae ocsigen, carbon, sylffwr a chlorin yn enghreifftiau o elfennau

anfetel. Mae anfetelau'n rhannu priodweddau. Maen nhw:

yn bŵl (ddim yn sgleiniog)

yn wael am ddargludo gwres a thrydan (maen nhw’n

ynysyddion)

yn wan ac yn frau (maen nhw’n torri neu’n dryllio'n hawdd

pan maen nhw'n solid)

Mae’r rhan fwyaf o anfetelau hefyd yn rhannu’r priodweddau canlynol:

mae ganddyn nhw ddwysedd isel (maen nhw’n teimlo’n ysgafn am eu maint)

Dydyn nhw DDIM yn soniarus (ddim yn diasbedain wrth gael eu taro)

Mae un ar ddeg o anfetelau’n nwyon ar dymheredd ystafell, gan gynnwys ocsigen a chlorin. Mae un anfetel,

bromin, yn hylif ar dymheredd ystafell. Mae’r anfetelau eraill yn solidau ar dymheredd ystafell, gan gynnwys

carbon a sylffwr.

Page 18: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 18

Adeiledd Electronig Mae'r electronau mewn atom yn llenwi lefelau egni. Rydyn ni hefyd yn galw'r rhain yn blisg neu orbitau.

Mae pob electron mewn atom yn bodoli mewn lefel egni benodol. Y lefel egni isaf (plisg mewnol) sy'n llenwi

ag electronau gyntaf. Dim ond nifer penodol o electronau mae pob lefel egni yn gallu ei ddal cyn llenwi.

Mae’r lefel egni gyntaf yn gallu dal hyd at ddau electron, mae'r ail lefel egni'n gallu dal hyd at wyth, ac yn y

blaen.

Electronau yn y tair lefel egni gyntaf ar gyfer yr elfennau â rhifau atomig 1 i 20:

Lefel egni neu blisgyn Uchafswm nifer yr electronau

Cyntaf 2

Ail 8

Trydydd 8

Mae angen i chi allu ysgrifennu adeiledd electronig unrhyw un o'r ugain elfen gyntaf.

Ysgrifennu adeiledd electronig Rydyn ni'n ysgrifennu adeiledd electronig atom gan ddefnyddio rhifau i

gynrychioli'r electronau ym mhob lefel egni. Er enghraifft, ar gyfer sodiwm mae

hyn yn 2,8,1 – sy'n dangos bod:

2 electron yn y lefel egni gyntaf

8 electron yn yr ail lefel egni

1 electron yn y drydedd lefel egni.

Gallwch chi ddarganfod adeiledd electronig atom o'i rif atomig neu ei safle yn y

tabl cyfnodol. Dechreuwch â hydrogen, H, a chyfri'r elfennau sydd eu hangen i gyrraedd yr elfen dan sylw. Ar

gyfer sodiwm, mae'n cymryd:

2 elfen i gyrraedd pen y cyfnod (rhes) cyntaf

8 elfen i gyrraedd pen yr ail gyfnod

1 elfen i gyrraedd sodiwm yn y trydydd cyfnod.

Mae’r diagram o'r tabl cyfnodol yn dangos sut mae hyn yn gweithio.

Page 19: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 19

Grŵp 1 – Y Metelau Alcalïaidd

Priodweddau ffisegol a chemegol

Mae gan bob metel grŵp 1 1 electron yn y plisgyn allanol.

Mae hyn yn eu gwneud nhw'n adweithiol iawn, gan eu bod

nhw'n bondio drwy golli electron.

Mae adweithedd yn cynyddu i lawr y grŵp gan ei bod hi'n

haws colli'r 1 electron allanol, am ei fod yn bellach oddi wrth

y niwclews.

Priodweddau cemegol

Li Lithiwm

Na Sodiwm

K Potasiwm

Rb Rwbidiwm

Cs Cesiwm

Fr Ffranciwm

Priodweddau ffisegol

Mae'r metelau i gyd yn edrych yn bŵl ar y tu

allan

Dros gyfnod byr, mae haen o ocsid yn gwneud

i'r metel edrych yn bŵl

Mae tu mewn pob metel yn sgleiniog

Gallwn ni dorri pob metel â chyllell

Rydyn ni'n eu cadw nhw mewn olew i'w hatal

nhw rhag adweithio ag ocsigen a lleithder yn

yr aer.

Mae eu dwysedd yn isel felly mae'r rhan

fwyaf yn arnofio

Mae'r berwbwynt a'r ymdoddbwynt yn is na

llawer o fetelau eraill

Ad

weith

edd

yn C

YN

YD

DU

Dw

ysedd

yn C

YN

YD

DU

Ymd

od

db

wyn

t yn LLEIH

AU

Berw

bw

ynt yn

LLEIHA

U

Adweithio â dŵr i ffurfio hydrocsidau (alcalïau)

𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 + 𝒅ŵ𝒓 → 𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒄𝒔𝒊𝒅 + 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒈𝒆𝒏

e.e. lithiwm

𝑙𝑖𝑡ℎ𝑖𝑤𝑚 + 𝑑ŵ𝑟 → 𝑙𝑖𝑡ℎ𝑖𝑤𝑚 ℎ𝑦𝑑𝑟𝑜𝑐𝑠𝑖𝑑 + ℎ𝑦𝑑𝑟𝑜𝑔𝑒𝑛

2𝐿𝑖(𝑠) + 2𝐻2𝑂(𝑙) → 2𝐿𝑖𝑂𝐻(𝑎𝑞) + 𝐻2 (𝑔)

Mae'r metelau'n creu alcali wrth adweithio â dŵr (porffor gyda dangosydd

cyffredinol) Mae adwaith y metel â dŵr yn creu hydrogen

Mae'r metel yn arnofio, yn symud ac yn hisian.

Sodiwm - Mae hefyd yn symud yn gyflymach ac mae'n ffurfio siâp pêl.

Potasiwm - Mae hefyd yn symud yn gyflym ac mae'n ffurfio fflam lelog.

Adweithio ag ocsigen i ffurfio ocsidau

𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 + 𝒐𝒄𝒔𝒊𝒈𝒆𝒏 → 𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 𝒐𝒄𝒔𝒊𝒅

e.e. potasiwm

𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 + 𝑜𝑐𝑠𝑖𝑔𝑒𝑛 → 𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 𝑜𝑐𝑠𝑖𝑑

4𝐾(𝑠) + 𝑂2 (𝑔) → 2𝐾2𝑂(𝑠)

Mae'r haen ocsid, sy'n gwneud i'r metel edrych yn bŵl, yn ffurfio'n gyflymach wrth i ni fynd i lawr y grŵp.

Page 20: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 20

Grŵp 7 – Yr Halogenau Priodweddau ffisegol a chemegol

Mae gan bob elfen grŵp 7 7 electron yn y plisgyn allanol. Mae hyn yn eu gwneud nhw'n adweithiol iawn,

gan eu bod nhw'n bondio drwy ennill electron, i ffurfio plisgyn allanol llawn sy'n sefydlog iawn.

Mae adweithedd yn lleihau i lawr y grŵp gan fod y 7 electron allanol yn bellach oddi wrth y niwclews. Mae

llai o atyniad, felly mae hi'n anoddach ennill electron.

Priodweddau cemegol

Priodweddau ffisegol

Clorin – Nwy melynwyrdd

Bromin – Hylif oren-goch – anwedd oren

Ïodin - Solid llwyd sgleiniog – anwedd

porffor

Mae'r halogenau'n mynd yn llai

adweithiol wrth fynd i lawr y grŵp

Anweddau gwenwynig

F

Fflworin

Cl

Clorin

Br

Bromin

I

Ïodin

At

Astatin

Ad

weith

edd

yn LLEIH

AU

Ymd

od

db

wyn

t yn C

YN

YD

DU

Berw

bw

ynt yn

CY

NY

DD

U

Tue

dd

dd

irgroes i grŵ

p 1

Adweithiau halogenau â metelau alcalïaidd

𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 + 𝒉𝒂𝒍𝒐𝒈𝒆𝒏 → 𝒎𝒆𝒕𝒆𝒍 𝒉𝒂𝒍𝒊𝒅

e.e. potasiwm a chlorin

𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 + 𝑐𝑙𝑜𝑟𝑖𝑛 → 𝑝𝑜𝑡𝑎𝑠𝑖𝑤𝑚 𝑐𝑙𝑜𝑟𝑖𝑑

2𝐾(𝑠) + 𝐶𝑙2 (𝑔) → 2𝐾𝐶𝑙(𝑠)

Mae pob metel halid (halwyn) sy'n ffurfio yn solid gwyn.

Adweithiau halogenau â haearn

Halogenau a'u hadweithiau â gwlân haearn

Fflworin - Adweithio â bron unrhyw beth ar unwaith. Ychydig iawn

o wyddonwyr sy'n gweithio â fflworin am ei fod mor beryglus.

Clorin - Adweithio â gwlân haearn wedi'i wresogi yn gyflym iawn.

Bromin – Rhaid ei gynhesu a gwresogi'r gwlân haearn. Mae'r

adwaith yn gyflymach.

Ïodin – Rhaid ei wresogi'n gryf yn ogystal â'r gwlân haearn. Mae'r

adwaith yn araf.

Page 21: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 21

Priodweddau halogenau a halidau a sut rydyn ni'n eu defnyddio nhw

Rydyn ni'n defnyddio'r halogenau fel elfennau ac fel cyfansoddion.

Clorin

1. Mae clorin yn ddiheintydd - mae'n lladd bacteria (gweler ïodin isod). Rydyn ni'n ei

ddefnyddio i ladd bacteria mewn dŵr yfed ac mewn pyllau nofio.

2. Clorin wedi'i hydoddi mewn hydoddiant sodiwm hydrocsid yw cannydd. Mae'n ffurfio

sodiwm clorad(I) - NaOCl. Mae cannydd domestig yn cynnwys tua 5% NaOCl(d).

3. Mae clorin yn hydoddi mewn dŵr i ffurfio:

asid clorig(I) (HOCl(d)) + asid hydroclorig (HCl(d))

Mae asid clorig(I) hefyd yn gannydd.

4. Rydyn ni'n defnyddio clorin wrth gynhyrchu llawer o gemegion gan gynnwys pryfleiddiaid, CFCau a'r

polymer PVC.

Ïodin

1. Gallwn ni ddefnyddio ïodin hefyd fel antiseptig i ladd bacteria. Mae gwahaniaeth

rhwng antiseptig a diheintydd. Mae'r ddau'n lladd germau, ond mae diheintydd yn

gryfach nag antiseptig. Mae antiseptig yn ddiogel i'w ddefnyddio ar y croen i helpu i

atal haint, ond bydd diheintydd yn niweidio celloedd y croen.

2. Roedd ïodin wedi'i hydoddi mewn alcohol (ethanol) yn antiseptig cyffredin yn y

gorffennol. "Tintur ïodin" oedd ei enw.

3. Mae ïodin yn chwarae rhan bwysig yn y corff (gweler potasiwm ïodid isod).

Fflworidau

Rydyn ni'n ychwanegu fflworidau at bast dannedd ac mewn rhai mannau yn ei

ychwanegu at ddŵr yfed. Rydyn ni wedi dangos bod fflworidau yn gallu lleihau

pydredd dannedd (niwed i ddannedd) yn enwedig mewn plant ifanc.

Bromidau ac Ïodidau

Mae arian bromid ac arian ïodid yn sensitif i olau ac rydyn ni'n eu defnyddio nhw

mewn ffilm ffotograffig. Mae arian bromid bron yn wyn, a phan mae golau'n ei daro,

mae'n rhannu'n fetel arian a bromin.

Mae'r metel arian yn edrych fel marc du ar y ffilm, sy'n cynhyrchu negatif du a gwyn

(monocrom).

Potasiwm Ïodid

Rydyn ni'n ychwanegu potasiwm ïodid (KI) at sodiwm clorid (halen cyffredin - gweler isod) i atal diffyg ïodin

yn y deiet.

Sodiwm Clorid

Halen cyffredin yw sodiwm clorid (NaCl).

1. Rydyn ni'n defnyddio halen yn y diwydiant bwyd fel cyflasyn ac fel cyffeithydd.

2. Rydyn ni hefyd yn cymysgu halen â graean ac yn ei daenu ar ffyrdd i atal ffyrdd

rhag rhewi mewn tywydd oer.

3. Rydyn ni'n defnyddio hydoddiant sodiwm clorid mewn meddalydd dŵr i

adnewyddu’r golofn cyfnewid ïonau.

4. Rydyn ni'n defnyddio electrolysis hydoddiant sodiwm clorid i wneud nwy clorin, nwy hydrogen a

sodiwm hydrocsid.

Page 22: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 22

Adweithiau dadleoli Haen Uwch

Bydd halogenau mwy adweithiol yn dadleoli rhai llai

adweithiol.

Os yw elfen adweithiol yn dod i gysylltiad â chyfansoddyn

elfen lai adweithiol, mae adwaith cemegol yn gallu

digwydd. Mae'r elfen lai adweithiol yn cael ei thynnu o'r

cyfansoddyn ac mae'r elfen fwy adweithiol yn cymryd ei

lle.

Er enghraifft, os ydyn ni'n ychwanegu clorin at hydoddiant

sodiwm bromid, mae'r clorin yn cymryd lle'r bromin gan

ffurfio sodiwm clorid. Mae bromin yn ffurfio ar yr un pryd

a gallwn ni ei adnabod oherwydd ei liw.

Enghreifftiau o adweithiau dadleoliad:

1. clorin + sodiwm bromid sodiwm clorid + bromin

clorin yn fwy adweithiol na bromin

2. clorin + sodiwm ïodid sodiwm clorid + ïodin

clorin yn fwy adweithiol nag ïodin

3. bromin + sodiwm clorid dim adwaith

bromin yn llai adweithiol na chlorin

4. bromin + sodiwm ïodid sodiwm bromid + ïodin

bromin yn fwy adweithiol nag ïodin

5. ïodin + sodiwm clorid dim adwaith

ïodin yn llai adweithiol na chlorin

6. ïodin + sodiwm bromid dim adwaith ïodin yn llai adweithiol na bromin

Adnabod nwy hydrogen

Prawf am nwy hydrogen

Mae sblint yn cael ei gynnau a'i ddal yn agos at agoriad y

tiwb, yna mae'r caead yn cael ei dynnu fel bod y sblint yn

dod i gysylltiad â'r nwy. Os yw'r nwy'n fflamadwy, mae'r

cymysgedd yn tanio. Mae’r prawf hwn yn cael ei

ddefnyddio amlaf i adnabod hydrogen, sy’n tanio â sŵn

'pop gwichlyd' nodweddiadol.

Page 23: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 23

Adnabod Ïonau

Prawf fflam - catïonau Rydyn ni'n defnyddio profion fflam i ganfod

presenoldeb rhai ïonau metel mewn cyfansoddyn.

Lithiwm Li+ - coch

Sodiwm Na+ - oren

Potasiwm K+ - lelog (pinc)

Calsiwm Ca2+ - oren-goch

Bariwm Ba2+ - gwyrdd golau

Gweithdrefn:

1. Dipiwch ddolen prawf fflam lân yn yr hydoddiant

sampl

2. Daliwch y ddolen prawf fflam ar ymyl fflam llosgydd

Bunsen

3. Edrychwch ar y newid i liw'r fflam, a phenderfynwch

pa fetel mae'n ei ddynodi

4. Glanhewch y ddolen mewn asid a rinsiwch hi â dŵr,

yna ailadroddwch gamau 1 i 3 â sampl newydd

Hydoddiant arian nitrad - halidau Gallwch chi brofi i weld a yw hydoddiant yn cynnwys ïonau clorid, bromid neu ïodid drwy ddefnyddio arian

nitrad. Os caiff hydoddiant arian nitrad ei ychwanegu at sampl dŵr sy'n cynnwys ïonau halid, mae'r arian

halid yn gwaddodi. Mae hyn oherwydd bod halidau arian i gyd yn anhydawdd mewn dŵr.

Mae'r canlyniadau’n edrych fel hyn:

Mae arian clorid yn waddod gwyn

𝐴𝑔(𝑑)+ + 𝐶𝑙(𝑑)

− → 𝐴𝑔𝐶𝑙(𝑠)

Mae arian bromid yn waddod lliw hufen

𝐴𝑔(𝑑)+ + 𝐵𝑟(𝑑)

− → 𝐴𝑔𝐵𝑟(𝑠)

Mae arian ïodid yn waddod melyn golau

𝐴𝑔(𝑑)+ + 𝐼(𝑑)

− → 𝐴𝑔𝐼(𝑠)

AgCl

AgBr

AgI

Page 24: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 24

Grŵp 0 – Y Nwyon Nobl Mae'r rhain i gyd yn nwyon monatomig di-liw. Mae monatomig yn golygu bod y nwyon yn bodoli fei atomau

sengl heb ddim bondiau. Mae eu hymdoddbwyntiau a'u dwysedd yn cynyddu wrth i ni fynd i lawr y grŵp.

Defnyddio’r nwyon nobl

Dyma rai o’r prif ffyrdd o ddefnyddio'r nwyon nobl:

Rydyn ni'n defnyddio heliwm:

mewn balwnau

yn y cymysgedd o nwyon mae plymwyr yn ei anadlu'n ddwfn yn y môr

yn ei gyflwr hylifol, i oeri'r magnetau uwchddargludol mewn peiriannau i

sganio'r corff

Rydyn ni'n defnyddio neon:

mewn tiwbiau dadwefru trydanol (i'w defnyddio mewn arwyddion hysbysebu)

Rydyn ni'n defnyddio argon:

mewn bylbiau golau

wrth weldio, i atal y metel poeth rhag ocsidio

Rydyn ni'n defnyddio crypton:

mewn laserau i wneud llawdriniaeth ar lygaid

Rydyn ni'n defnyddio radon:

i drin canserau (mae ei atomau ymbelydrol yn dinistrio celloedd)

Pam mae’r nwyon nobl mor anadweithiol?

Yr enw gwreiddiol ar y nwyon nobl oedd y nwyon anadweithiol. Roedd hyn yn awgrymu nad oedden nhw'n

gallu cymryd rhan mewn unrhyw adweithiau. Fodd bynnag, yn 1962 cafodd cyfansoddyn oedd yn cynnwys

nwy nobl ei wneud am y tro cyntaf, ac wedi hynny cafodd y grŵp enw newydd!

Edrychwch ar adeileddau electronig y nwyon nobl:

Y lefel egni uchaf gyflawn (plisgyn allanol llawn) sy'n gwneud atomau nwy nobl mor sefydlog ac annhebygol o

adweithio. Dim ond rhai cyfansoddion sy'n cynnwys nwyon nobl, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ffurfio gyda'r

elfennau adweithiol fflworin ac ocsigen, a dim ond y nwyon nobl mwyaf sy'n gallu gwneud hyn hyd yn oed.

Page 25: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 25

Pwnc 3 – Dŵr

Beth sydd yn ein dŵr? Mae angen dŵr er mwyn i fywyd fodoli. Mae ansawdd bywyd yn dibynnu ar argaeledd dŵr

glân. Rydyn ni'n gwneud dŵr yn y wlad hon yn yfadwy drwy drin dŵr glaw.

Mae pawb yn gwybod mai fformiwla dŵr yw H2O, ond mae'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio

bob dydd yn cynnwys mwy na dim ond hydrogen ac ocsigen.

Mae dŵr yn hydoddydd ardderchog; mae'n hydoddi dau brif fath o hydoddyn:

- Ïonau – Wrth i ddŵr lifo dros y ddaear, mae'n casglu amrywiaeth o ïonau o fwynau, e.e. Mg2+, Ca2+,

Na+ a K+

- Nwyon – Wrth i ddŵr ddisgyn fel glaw, mae ocsigen (hanfodol i fywyd morol) a charbon deuocsid

(hanfodol i fywyd planhigol, gostwng pH y dŵr) yn hydoddi yn y dŵr.

Mae dŵr yn casglu pethau eraill ar ei daith, fel micro-organebau, sy'n llygryddion naturiol ac yn cynnwys

bacteria a firysau, a llygryddion artiffisial gan gynnwys gwrteithiau, plaleiddiaid a gwastraff o gartrefi a

gwastraff diwydiannol.

Cyflenwad dŵr cynaliadwy Er bod digonedd o ddŵr ar y Ddaear, dim ond ffracsiwn bach iawn sy'n ddiogel i'w yfed. Mae ein

poblogaeth yn cynyddu a diwydiant yn datblygu, felly mae angen mwy o ddŵr nag erioed arnom ni.

Pam mae angen dŵr arnom ni?

Mae angen dŵr mewn ffatrïoedd i oeri peiriannau

Hylendid – Mae angen dŵr arnom ni i gadw'n lân a golchi dillad

Mae angen dŵr yfed arnom ni Mae angen dŵr ar ffermydd i dyfu bwyd

Rydyn ni'n defnyddio 150 litr o ddŵr yr un ar gyfartaledd bob dydd. Mae'r

dŵr yn dod o storfeydd tanddaearol naturiol, afonydd a gwahanol

gronfeydd dŵr. Yn ystod tywydd sych pan does dim digon o law bydd y

cyflenwad dŵr dan straen – bydd rhai ardaloedd yn profi sychder.

Mae problemau â phrinder dŵr yn ymddangos pan mae mwy o alw na'r

cyflenwad am ddŵr, sy'n bygwth bywyd a'r amgylchedd. Gallai dŵr fynd yn

ddrutach os yw newidiadau i'r hinsawdd yn y dyfodol yn achosi prinder dŵr

yn y Deyrnas Unedig. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n defnyddio llai o ddŵr

yn y dyfodol. Dyma rai ffyrdd o ddefnyddio llai o ddŵr.

Peidio â defnyddio peiriannau golchi dillad a llestri nes eu bod

nhw’n llawn Cael cawod yn lle baddon

Defnyddio dŵr gwastraff i'w roi i blanhigion ac i olchi'r car

Trwsio tapiau sy'n diferu

Peidio â gadael i'r dŵr redeg gormod (e.e. wrth frwsio eich

dannedd)

Page 26: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 26

Trin dŵr cyhoeddus Mae angen i ni wybod am y broses rydyn ni'n ei defnyddio i wneud dŵr yn ddiogel i'w yfed:

1. Dŵr i mewn – dŵr daear ac afonydd yn darparu dŵr i'r gronfa ddŵr

2. Hidlydd bras – cael gwared ar y gronynnau mwyaf

3. Gwaddodi – mewn cronfeydd/tanciau dŵr, mae gronynnau solid mwy yn setlo dan ddisgyrchiant.

4. Hidlo mân – drwy haenau o dywod a gro, i gael gwared ar ronynnau anhydawdd llai.

5. Clorineiddio – ychwanegu clorin i ladd bacteria, atal clefydau/ei wneud yn ddiogel i'w yfed.

Dihalwyno dŵr môr Y dull symlaf o ddihalwyno dŵr môr yw ei ddistyllu. Mae hyn yn golygu berwi dŵr môr sy'n defnyddio

symiau mawr o egni costus, felly dydy'r broses hon ddim yn ddichonadwy mewn llawer o rannau o'r byd.

Mae angen i chi wybod bod dulliau eraill

hefyd yn cael eu defnyddio, e.e.

defnyddio systemau pilenni.

Os yw gwlad yn bwriadu defnyddio

dihalwyno, mae angen iddynt sicrhau:

• ffordd adnewyddadwy o greu egni

gwres sydd ddim yn creu carbon

deuocsid (effaith tŷ gwydr)

• bod môr gerllaw

Dylech chi hefyd allu trafod potensial dihalwyno fel ffynhonnell dŵr yfed mewn gwahanol rannau o'r byd yn

nhermau pa mor agos ydynt at y môr, argaeledd egni ‘rhad’ a chyfoeth y wlad.

Page 27: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 27

Fflworideiddio Mae symiau amrywiol o ïonau fflworid yn bodoli'n naturiol mewn dŵr, gan ddibynnu ble yn y Deyrnas

Unedig rydych chi'n byw.

Mae angen i chi allu cyflwyno'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y broses ac mae disgwyl i chi wybod bod

fflworideiddio cyflenwadau dŵr yn fater dadleuol.

Mae'n gallu helpu i atal pydredd dannedd, a dyna pam mae'n cael ei ychwanegu at lawer o frandiau past

dannedd ac, mewn rhai ardaloedd, at y cyflenwad dŵr mewn proses o'r enw fflworideiddio.

Fflworideiddio dŵr cymunedol Mae'r rhan fwyaf o gyflenwadau dŵr yn cynnwys rhywfaint o fflworid

ac ar ddechrau'r 20fed ganrif, gwelwyd bod cysylltiad rhwng lefelau

pydredd dannedd a lefelau fflworid mewn dŵr yfed. Arweiniodd hyn at

gyflwyno cynlluniau fflworideiddio dŵr i ychwanegu fflworid at

gyflenwadau dŵr i wella iechyd deintyddol.

Mae cynlluniau fflworideiddio dŵr cymunedol wedi bod ar waith ers

dros 70 mlynedd; cyflwynwyd y cynllun fflworideiddio cyntaf yn Unol

Daleithiau America yn 1945. Sefydlwyd y cynllun mawr cyntaf yn y

Deyrnas Unedig yn Birmingham yn 1964.

Awdurdodau lleol unigol sy'n penderfynu ychwanegu fflworid at y

cyflenwad dŵr neu beidio.

Ydy fflworid yn ddiogel?

Mae rhai pryderon wedi'u mynegi y gallai fod cysylltiad rhwng fflworid ac amrywiaeth o gyflyrau iechyd.

Cafodd y cysylltiad rhwng ïonau fflworid a llai o achosion o bydredd dannedd ei sefydlu drwy arolygu plant

ysgol o wahanol oedrannau, ac mae'r data yn ddibynadwy oherwydd roedd yr arolwg yn cynnwys pob

plentyn ysgol heblaw'r rhai oedd yn digwydd bod yn absennol ar y diwrnod.

Mae llawer o bobl yn gwrthwynebu cynigion i fflworideiddio cyflenwadau dŵr am amryw o resymau:

Mae crynodiadau uchel o fflworid yn gallu bod yn niweidiol, e.e. gan achosi dadliwio neu bydredd

dannedd (fflworosis).

Mae yfed llawer o fflworid hefyd wedi cael ei gysylltu â chanserau'r stumog ac esgyrn ac ag

anffrwythlondeb.

Mae rhai pobl yn dadlau yn erbyn fflworid am ei fod yn ‘feddyginiaeth dorfol’ ac na ddylid gorfodi

neb i yfed fflworid.

Materion moesegol

Mae'n bwysig i chi sylwi nad yw gwyddoniaeth yn gallu datrys

materion moesegol ac felly nad yw'n gallu ateb y cwestiwn a yw

hi'n gywir fflworideiddio cyflenwadau dŵr. Yr unig beth y gall

gwyddoniaeth ei wneud yw darparu'r ffeithiau a'r dystiolaeth sydd

eu hangen ar bobl i ffurfio eu barn eu hunain. Dylech chi hefyd

gofio bod gwybodaeth am fflworideiddio cyflenwadau dŵr yn dod

o lawer o wahanol ffynonellau a bod rhai o'r rhain yn gallu bod yn

dueddol ac yn ceisio dylanwadu ar farn.

Page 28: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 28

Hydoddedd Weithiau, wrth i chi ychwanegu solid at hylif, mae'r bondiau rhwng y gronynnau solid yn torri ac mae'r

gronynnau'n cymysgu â'r hylif – gan ffurfio hydoddiant. Enw’r broses hon yw hydoddi.

Term Diffiniad

Hydoddiant Cymysgedd o solid (hydoddyn) a hylif (hydoddydd) sydd ddim yn gwahanu e.e. heli

Hydoddyn Solid (neu sylwedd) sy'n cael ei hydoddi e.e. halen

Hydoddydd Yr hylif mae'n cael ei hydoddi i mewn iddo e.e. dŵr

Hydawdd Mae hyn yn golygu y bydd yn hydoddi

Anhydawdd Fydd hwn ddim yn hydoddi

Hydoddedd Faint o'r hydoddyn fydd yn hydoddi yn yr hydoddydd

Mae solidau hydawdd yn hydoddi'n haws os ydyn nhw wedi'u gwresogi. Mae gan bob solid gyfradd

hydoddedd wahanol.

Mae angen i chi fod yn gyfarwydd â'r dulliau canlynol:

• Ychwanegu màs hysbys o hydoddyn (e.e. amoniwm clorid) at gyfaint wedi'i fesur o ddŵr, fel mai dim ond

cyfran o'r hydoddyn sy'n hydoddi; drwy hidlo, sychu a phwyso'r gormodedd hydoddyn, gallwch chi fesur yr

hydoddedd.

• Ychwanegu ychydig bach mwy o hydoddyn wedi'i bwyso (e.e.

potasiwm clorad) nag a fydd yn hydoddi at gyfaint wedi'i fesur o

ddŵr ar dymheredd ystafell; os ydyn ni yna'n gwresogi'r hydoddiant

nes bod yr hydoddyn i gyd yn hydoddi ac yna'n gadael iddo oeri a

chofnodi'r tymheredd pan mae grisialau'n dechrau ymddangos,

gallwn ni ganfod yr hydoddedd ar bob tymheredd drwy ailadrodd

lawer gwaith gan gynyddu cyfaint y dŵr bob tro; o'r data hyn,

gallwn ni blotio cromlin hydoddedd.

Cromliniau hydoddedd Mae gan bob solid gyfradd hydoddedd wahanol.

Gallwn ni weld hyn drwy ddarllen a dehongli gwybodaeth o

graff.

e.e. I ffurfio casgliad ar gyfer cromliniau hydoddedd

potasiwm nitrad a sodiwm clorid, rydyn ni'n gweld bod

potasiwm nitrad yn llai hydawdd na sodiwm clorid hyd at

bwynt, yna bod ei hydoddedd yn cynyddu'n fawr, mewn

ffordd aflinol.

Dim ond ar un pwynt mae hydoddedd potasiwm nitrad a

sodiwm clorid yn union yr un fath (lle mae'r ddwy gromlin yn

croesi).

Mae hydoddedd sodiwm clorid yn cynyddu'n llinol ac yn

raddol wrth i'r tymheredd gynyddu.

Page 29: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 29

Dŵr caled a meddal Gan ddibynnu ar y math o greigiau sydd mewn ardal, mae dŵr yn

gallu bod yn un o ddau fath - Dŵr caled a Dŵr meddal.

Dŵr Caled Os yw dŵr glaw yn llifo dros greigiau calchfaen (calsiwm

carbonad) ar ei ffordd i gronfa ddŵr, bydd ïonau calsiwm Ca2+ yn

casglu yn y dŵr. Mae ïonau eraill fel ïonau magnesiwm Mg2+

hefyd yn gallu casglu mewn dŵr. Mae’r ïonau ychwanegol hyn

yn gwneud y dŵr yn galed.

Dydy sebon mewn dŵr caled ddim yn ffurfio trochion yn rhwydd;

mae'n ffurfio llysnafedd

Rydyn ni'n diffinio caledwch mewn dŵr fel anhawster i

gynhyrchu trochion gyda sebon.

Mae dau fath o ddŵr caled:

• Dŵr caled dros dro

• Dŵr caled parhaol

Dŵr caled dros dro

Mae calsiwm hydrogen carbonadau (Ca(HCO3)2) a magnesiwm

hydrogen carbonadau (Mg(HCO3)2) yn ffurfio dŵr caled dros dro

oherwydd mae berwi'r dŵr hwn yn cael gwared ar y caledwch

wrth i'r hydrogen carbonadau ddadelfennu.

𝐶𝑎(𝐻𝐶𝑂3)2 (𝑑) → 𝐶𝑎𝐶𝑂3 (𝑠) + 𝐻2𝑂(ℎ) + 𝐶𝑂2 (𝑛)

Mae'r broses hon yn ffurfio magnesiwm carbonad a chalsiwm carbonad, sy'n anhydawdd. Mae hyn yn ffurfio

calch sy'n casglu ar degelli fel 'ffwr'.

Dŵr caled parhaol

Pan mae sylffadau calsiwm a/neu fagnesiwm, sy'n anhydawdd, yn bodoli mewn dŵr, rydyn ni'n dweud ei fod

yn ddŵr caled parhaol.

Trin dŵr caled parhaol

1. Soda golchi

Mae sodiwm carbonad (Na2CO3), sef soda golchi, yn gallu meddalu

dŵr caled dros dro a pharhaol. Mae'n hydawdd mewn dŵr ac yn

ychwanegu swm mawr o ïonau carbonad at y dŵr. Mae'r rhain yn

adweithio â’r ïonau calsiwm sydd wedi hydoddi, gan ffurfio

gwaddod calsiwm carbonad:

𝐶𝑎(𝑑)2+ + 𝐶𝑂3 (𝑑)

2− → 𝐶𝑎𝐶𝑂3 (𝑠)

Cofiwch: mae'r ïonau calsiwm yn dod o'r dŵr caled ac mae'r ïonau

carbonad yn dod o'r soda golchi.

Page 30: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 30

2. Cyfnewid ïonau

Mae resin cyfnewid ïonau hefyd yn gallu meddalu dŵr caled

dros dro a pharhaol. Mae'r resin yn cael ei wneud yn beli

bach â diamedr tua 1–2 mm, sy'n llenwi tiwb neu ‘golofn’. I

ddechrau, mae ïonau sodiwm yn sownd wrth y resin

cyfnewid ïonau.

Wrth i'r dŵr caled lifo drwy'r golofn, mae ïonau sodiwm yn

dod oddi ar y resin ac yn mynd i mewn i'r dŵr, ac mae ïonau

calsiwm yn dod allan o'r dŵr ac yn glynu wrth y resin. Yr

effaith yw bod ïonau sodiwm, sydd ddim yn achosi caledwch,

yn cymryd lle ïonau calsiwm, sydd yn achosi caledwch.

Mae peiriannau golchi llestri'n cynnwys resin cyfnewid ïonau

i feddalu'r dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i olchi'r llestri. Mae

angen defnyddio halen peiriant golchi llestri (sodiwm clorid)

i adnewyddu'r resin pan mae'n llawn ïonau calsiwm.

Arbrawf i ganfod a yw dŵr yn feddal, yn galed yn barhaol

neu'n galed dros dro

Mae hydoddiant sebon yn cael ei ychwanegu fesul 1 cm3 at y dŵr, a'r fflasg yn cael ei hysgwyd i geisio ffurfio

trochion (swigod). Pan mae trochion yn dechrau ffurfio, mae'r hydoddiant sebon yn cael ei ychwanegu fesul

0.5 cm3 nes bod y trochion yn aros yn barhaol.

Gallwch chi ddefnyddio bwred i fesur yr hydoddiant sebon. Mae dŵr meddal yn ffurfio trochion yn hawdd,

felly does dim angen llawer o hydoddiant sebon. Mae dŵr caled yn ffurfio trochion yn arafach, felly mae

angen mwy o hydoddiant sebon.

Os yw'n ymddangos bod dau sampl o ddŵr yn ddŵr caled, gallech chi ferwi

samplau o'r ddau fath o ddŵr. Yna, gallech chi gynnal yr un arbrawf â'r uchod.

Os yw hi'n dal i fod yn anodd ffurfio trochion yn y dŵr, mae'n ddŵr caled parhaol.

Buddion dŵr caled i iechyd a'i effeithiau anffafriol

Manteision

1. Cryfhau dannedd

2. Lleihau'r risg o glefyd y galon

3. Mae'n well gan rai pobl flas dŵr caled

Anfanteision

1. Mae calch ar degelli yn eu gwneud nhw'n llai effeithlon wrth ferwi dŵr, ac felly'n gwastraffu egni.

Mae calch hefyd yn gallu blocio pibellau dŵr poeth

2. Mae cael gwared ar y calch yn gallu bod yn ddrud

3. Mae angen mwy o sebon gyda dŵr caled

4. Mae meddalyddion dŵr sy'n cyfnewid ïonau yn rhyddhau ïonau sodiwm, sy'n gallu bod yn anaddas i

rai dibenion

5. Mae angen 'glanhau' ïonau magnesiwm a chalsiwm o unedau cyfnewid ïonau ar ôl iddyn nhw lenwi

(fel rheol â sodiwm clorid (halen))

Page 31: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 31

Pwnc 4 – Y Ddaear sy'n newid

Adeiledd y Ddaear

Y Craidd Mewnol Y rhan boethaf o'r Ddaear, tymheredd hyd at

5,500 ⁰C wedi'i gwneud yn bennaf o haearn a

rhywfaint o nicel.

Y Craidd Allanol Haen hylifol sydd hefyd wedi'i gwneud o haearn

a nicel, bron mor boeth â'r craidd mewnol.

Y Fantell Mae'r rhan fwyaf trwchus o'r Ddaear yn cynnwys craig rannol dawdd, yn fwy solid tuag at ymyl allanol y

fantell ac yn fwy tawdd tuag at y craidd.

Y Gramen Y rhan deneuaf o'r Ddaear, mae ei thrwch yn amrywio ond mae'n gallu bod hyd at 70 km.

Tectoneg Platiau

Y Ddaear sy'n Newid Dros biliynau o flynyddoedd, mae’r Ddaear wedi newid yn gyson. Mae'r newidiadau hyn yn aml yn araf.

Ddwy filiwn o flynyddoedd yn ôl, roedd cyfandiroedd y Ddaear yn un bloc o'r enw Pangaea.

Rydyn ni nawr yn gwybod bod y gramen a rhan uchaf y fantell wedi'u darnio yn ddarnau mawr o’r enw

platiau tectonig. Mae’r platiau hyn yn "arnofio" ar y fantell. Dydyn nhw ddim yn aros mewn un lle; mae

ceryntau darfudiad yn achosi i'r platiau ddrifftio. Mae'r platiau hyn yn symud ar fuanedd o rai centimetrau y

flwyddyn. Weithiau, mae platiau'n gallu symud yn gyflym gan achosi daeargrynfeydd. Mae llosgfynyddoedd a

daeargrynfeydd yn aml yn digwydd rhwng ffiniau dau blât.

Mae angen i chi wybod bod haen allanol y Ddaear, sef y lithosffer (y gramen a rhan galed y fantell) wedi'i

thorri'n 7-8 o blatiau mawr a llawer o rai bach.

Alfred Wegener

Doedd dim modd esbonio rhai arsylwadau am y ddaear, ac yn

1914 cyflwynodd Alfred Wegener y rhagdybiaeth bod Affrica a

De America yn arfer bod yn un cyfandir oedd yna wedi rhannu'n

ddau. Aeth ati i chwilio am dystiolaeth i ategu ei ragdybiaeth.

Roedd y dystiolaeth hon yn cynnwys:

Haenau o'r un creigiau ar y ddau gyfandir

Pryfed genwair tebyg yn byw yn Ne America a De Affrica

Ffosiliau tebyg iawn ar y ddwy ochr i'r Môr Iwerydd

Planhigion ac anifeiliaid tebyg iawn â chyd-hynafiaid

Hefyd, roedd yn ymddangos bod arfordir Affrica a De America yn ffitio at ei gilydd fel jig-so

Doedd Damcaniaeth Wegener ddim yn cynnwys unrhyw ymdrech i egluro sut mae'r cyfandiroedd yn symud,

a chafodd y ddamcaniaeth wreiddiol ei gwrthod gan wyddonwyr ar y pryd.

Cafodd y syniad o geryntau darfudiad o dan y gramen ei ymchwilio mor bell yn ôl â'r 1930au, cafodd hyn ei

ddatblygu yn yr 1960au, ac yn y diwedd cafodd ei dderbyn fel gwir fecanwaith tectoneg platiau.

Page 32: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 32

Ffiniau'r Platiau Yn ogystal ag esbonio pam mae cyfandiroedd yn symud, mae tectoneg platiau hefyd yn achosi

llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd.

Mae 3 math o symudiad rhwng platiau: distrywiol, adeiladol a chadwrol.

Ffin Platiau Ddistrywiol

Wrth y ffin hon, mae un plât yn cael ei wthio i lawr i mewn

i'r fantell ac yn toddi i ffurfio magma. Mae hwn yna'n gallu

creu llosgfynyddoedd ffrwydrol.

Mae'r gramen ar wely'r môr yn fwy dwys nag o dan y

cyfandir. Dyma pam mae cramen y môr yn suddo o dan

gramen y cyfandir. Enw’r broses hon yw tansugno.

Mae mynyddoedd plyg hefyd yn aml yn ffurfio ar hyd y ffin

hon.

Mae craig igneaidd yn ffurfio wrth i graig dawdd o

losgfynyddoedd oeri ac ymsolido.

Ffin Platiau Adeiladol

Mae platiau'n gallu symud oddi wrth ei gilydd. Pan mae hyn yn

digwydd, mae craig dawdd (magma) o islaw'r arwyneb yn cael

ei rhyddhau.

Mae hon yn gallu oeri a ffurfio craig igneaidd newydd.

Os yw hyn yn digwydd dan wasgedd, mae ffrwydrad folcanig yn

gallu digwydd.

Os yw hyn yn digwydd ar grib yn y cefnfor, mae ynysoedd

newydd yn gallu ffurfio. Dyma sut cafodd Gwlad yr Iâ ei ffurfio.

Ffin Platiau Gadwrol

Wrth ffin platiau gadwrol, mae platiau'n llithro heibio i'w

gilydd.

Dyma lle mae daeargrynfeydd pwerus yn gallu digwydd.

Does dim llosgfynyddoedd yn digwydd oherwydd does

dim craig wedi toddi.

Mae Ffawt San Andreas yn California yn enghraifft o'r

math hwn o ffin. Rhaid i lawer o waith pensaernïaeth

gynnwys y gallu i wrthsefyll daeargrynfeydd.

Page 33: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 33

Yr Atmosffer

Creu'r Atmosffer Roedd yr aer yn wahanol iawn 4,000 miliwn o

flynyddoedd yn ôl. Mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn

cytuno bod yr atmosffer cyntaf wedi dod o

losgfynyddoedd.

1. Roedd y llosgfynyddoedd yn rhyddhau carbon

deuocsid, amonia ac anwedd dŵr (ager), gan

greu'r atmosffer cyntaf.

2. Wrth i'r Ddaear oeri, mae'r ager yn cyddwyso i

ffurfio cefnforoedd. Digwyddodd hyn yn gyflym

iawn. Roedd y newidiadau eraill i gyd yn cymryd

llawer mwy o amser.

3. Mae bacteria sy'n cyflawni ffotosynthesis yn ffurfio

yn y cefnforoedd. Wrth i'r bacteria ddefnyddio CO2,,

mae'r lefelau yn yr atmosffer yn gostwng.

4. Mae’r bacteria hyn yn rhyddhau ocsigen i'r

atmosffer. Mae lefelau O2 yn cynyddu.

5. Mae ocsigen yn adweithio ag amonia – gan ffurfio nitrogen. N2

yw'r nwy mwyaf cyffredin yn yr atmosffer.

6. Mae O2 yn cyfuno i ffurfio O3 (oson). Mae oson yn atal golau

uwchfioled rhag cyrraedd y Ddaear ac yn ffurfio haen

amddiffynnol sy'n helpu i atal canser y croen.

Cyfansoddiad Presennol Wrth i blanhigion gwyrdd esblygu, mae ffotosynthesis wedi bod yn

defnyddio'r carbon deuocsid gwreiddiol o'r atmosffer cyntaf.

Mae esblygiad anifeiliaid morol wedi cloi carbon deuocsid mewn calchfaen a sialc o'u cregyn.

Cafodd mwy o garbon deuocsid ei gloi mewn tanwyddau ffosil

o weddillion organebau morol a phlanhigion mawr ar y tir.

Cyfansoddiad presennol:

Nitrogen 78%

Ocsigen 21%

Argon (a nwyon nobl eraill) 0.9%

Carbon deuocsid 0.04%

CO2

NH3 H2O

Page 34: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 34

Resbiradaeth, Hylosgiad a Ffotosynthesis Mae cyfansoddiad yr atmosffer wedi aros yn sefydlog am filiynau lawer o flynyddoedd.

Yn y can mlynedd diwethaf, mae bodau dynol wedi cynyddu hylosgiad drwy losgi tanwyddau ffosil ac wedi

lleihau ffotosynthesis oherwydd datgoedwigo.

Materion amgylcheddol

Carbon deuocsid Mae allyrru mwy o garbon deuocsid wedi arwain at dymheredd uwch ar y Ddaear, sef cynhesu byd-eang.

Mae carbon deuocsid yn gweithredu fel "clustog" o gwmpas y blaned, gan atal gwres rhag dianc.

Mae cynhesu byd-eang yn gallu achosi:

1. Newidiadau i batrymau tywydd e.e. hafau

sychach, poethach mewn rhai rhannau o’r byd

sy'n arwain at sychder

2. Llifogydd oherwydd mwy o law mewn rhai

ardaloedd

3. Capiau iâ a rhewlifoedd yn toddi'n gyflymach

4. Lefel y môr yn codi

Dal carbon

Mae gwyddonwyr yn meddwl am storio'r CO2 sy'n cael ei gynhyrchu drwy losgi tanwyddau ffosil o dan y môr

neu o dan ddaear mewn ffurfiadau daearegol. Does dim datrysiadau syml i'r problemau amgylcheddol sy'n

gysylltiedig â llosgi tanwyddau ffosil. Y ffordd orau o leihau allyriadau CO2 yw defnyddio egni'n gyfrifol a

defnyddio ffynonellau egni amgen.

Ffotosynthesis

CO2 i mewn O2 allan

Resbiradaeth a Hylosgiad

O2 i mewn CO2 allan

Ffotosynthesis

CO2 i mewn O2 allan

Resbiradaeth a Hylosgiad

O2 i mewn CO2 allan

Page 35: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 35

Sylffwr deuocsid Mae sylffwr deuocsid yn ffurfio drwy losgi

amhureddau mewn tanwyddau ffosil. Mae

sylffwr deuocsid yn yr atmosffer yn ffurfio

asid sylffwrig wrth ddod i gysylltiad â dŵr (h.y.

glaw asid).

Mae pH “glaw glân” ≈ 5.5 ac mae pH glaw asid

yn yr amrediad 2-4.

Mae glaw asid yn gostwng pH llynnoedd,

afonydd a phyllau ac ati, gan achosi niwed i

fywyd dyfrol a difrodi coedwigoedd a

llystyfiant. Mae adeiladau sydd wedi'u

gwneud o galchfaen yn gallu cael eu difrodi

gan law asid. Mae glaw asid hefyd yn cynyddu cyfradd cyrydu adeileddau metel fel pontydd a cherfluniau.

Sgrwbio sylffwr

Rydyn ni'n hidlo nwyon tanwyddau ffosil o ffliwiau gwacáu ac mae'r broses o dynnu sylffwr deuocsid yn

digwydd yn y simneiau.

Nwyon Gallwn ni ddefnyddio'r profion canlynol i brofi am rai o'r prif nwyon sydd yn yr atmosffer:

Nwy Prawf Canlyniad positif

Ocsigen Prennyn yn mudlosgi

Bydd y prennyn yn ailgynnau

Carbon deuocsid Gyrru swigod drwy ddŵr calch

Bydd y dŵr calch yn troi'n llaethog

Hydrogen Prennyn ar dân

“Pop gwichlyd” a bydd y nwy'n llosgi

Page 36: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 36

Pwnc 5 – Cyfradd Newid Cemegol

Cyfraddau Adweithiau Mae cyfradd adwaith yn golygu buanedd adwaith. Mae 4 ffordd o gynyddu cyfradd yr adwaith.

1. Tymheredd

2. Crynodiad (gwasgedd)

3. Arwynebedd arwyneb (maint)

4. Catalydd

Yn gyffredinol, mae adwaith cyflymach yn adwaith mwy proffidiol, ond mae angen ystyried rhai ffactorau

eraill; gofynion egni, argaeledd, arwynebedd gweithio a'r farchnad, ymysg eraill.

Mae cyfradd adwaith yn golygu faint o gynnyrch sy'n cael ei gynhyrchu mewn cyfnod penodol.

Gallwn ni fesur y gyfradd drwy fesur faint o gynnyrch sy'n cael ei gynhyrchu (màs neu gyfaint) mewn cyfnod

penodol. Drwy edrych ar raddiant graff, gallwn ni gyfrifo'r gyfradd.

𝒎𝒂𝒈𝒏𝒆𝒔𝒊𝒘𝒎 + 𝒂𝒔𝒊𝒅 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒄𝒍𝒐𝒓𝒊𝒈 → 𝒎𝒂𝒈𝒏𝒆𝒔𝒊𝒘𝒎 𝒄𝒍𝒐𝒓𝒊𝒅 + 𝒉𝒚𝒅𝒓𝒐𝒈𝒆𝒏

Y mwyaf serth yw'r graddiant, y cyflymaf yw'r adwaith. Mae llinell fflat yn dangos bod yr adwaith wedi

stopio.

Gallwn ni ddefnyddio'r fformiwla ganlynol i gyfrifo'r gyfradd:

𝑐𝑦𝑓𝑟𝑎𝑑𝑑 𝑎𝑑𝑤𝑎𝑖𝑡ℎ

=𝑓𝑎𝑖𝑛𝑡 𝑜 𝑎𝑑𝑤𝑒𝑖𝑡ℎ𝑦𝑑𝑑 𝑠𝑦𝑑𝑑 𝑤𝑒𝑑𝑖′𝑖 𝑑𝑑𝑒𝑓𝑛𝑦𝑑𝑑𝑖𝑜 𝑛𝑒𝑢 𝑓𝑎𝑖𝑛𝑡 𝑜 𝑔𝑦𝑛𝑛𝑦𝑟𝑐ℎ 𝑠𝑦𝑑𝑑 𝑤𝑒𝑑𝑖 𝑓𝑓𝑢𝑟𝑓𝑖𝑜

𝑎𝑚𝑠𝑒𝑟

Adweithyddion Cynhyrchion

Page 37: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 37

Casglu Data/Mesur yr Adwaith Y tri phrif ddull o gasglu'r data hyn yw:

1. Casglu nwy a mesur ei gyfaint Defnyddio chwistrell nwy i fesur y cyfaint.

Mae hwn yn gallu bod yn fesuriad manwl

gywir oherwydd cydraniad y chwistrell.

Defnyddio stopwatsh i fesur yr amser,

ond mae ymateb bod dynol yn gallu

lleihau'r manwl gywirdeb.

Os yw'r adwaith yn rhy gyflym, gallai

chwythu'r plymiwr allan drwy ben y

chwistrell.

2. Mesur newid màs yn ystod adwaith (rhyddhau nwy) Cynnal yr adwaith ar glorian màs Wrth i nwy gael ei ryddhau, gallwch chi

ddarllen y màs sy'n “diflannu”

Hwn yw'r mwyaf manwl gywir o'r tri dull

oherwydd mae cloriannau'n tueddu i fod â

chydraniad uchel.

Anfantais: mae'r nwy'n cael ei ryddhau'n

syth i'r ystafell.

3. Mesur dyddodiad Mae gwaddodion yn achosi

"cymylogrwydd" mewn hydoddiant.

Gallwn ni edrych ar farc drwy'r

hydoddiant ac amseru pa mor hir mae'n

ei gymryd iddo ddiflannu.

Mae angen i'r hydoddiant cychwynnol

fod yn dryloyw er mwyn i hyn weithio.

Mae'r dull hwn yn oddrychol ac yn gallu

bod yn wallus. Bydd llawer o bobl yn

anghytuno ynglŷn â'r union adeg pan

mae'r marc yn "diflannu".

Page 38: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 38

Damcaniaeth Gronynnau/Gwrthdrawiadau Rhaid i ronynnau wrthdaro â digon o egni i adweithio – rydyn ni'n galw'r rhain yn wrthdrawiadau

llwyddiannus.

Tymheredd Pan mae'r tymheredd yn cynyddu, mae'r gronynnau i gyd

yn symud yn gyflymach, h.y. mae ganddyn nhw fwy o egni

cinetig. Os ydyn nhw'n symud yn gyflymach, byddan nhw'n

achosi mwy o wrthdrawiadau llwyddiannus.

Crynodiad (Gwasgedd) Os ydyn ni'n gwneud hydoddiant yn fwy crynodedig, mae hynny'n golygu bod mwy o ronynnau o'r

adweithydd rhwng y moleciwlau dŵr ac yn gwneud gwrthdrawiad llwyddiannus yn fwy tebygol.

Mewn nwy, mae cynyddu'r gwasgedd yn golygu bod y gronynnau'n agosach at ei gilydd ac felly bydd

gwrthdrawiad llwyddiannus yn fwy tebygol.

Arwynebedd Arwyneb (Maint) Bydd torri solid yn ddarnau llai yn cynyddu cyfanswm yr arwynebedd arwyneb. Mae hyn yn golygu bod gan

y gronynnau yn yr hydoddiant fwy o arwynebedd i adweithio ag ef, ac felly mwy o wrthdrawiadau

llwyddiannus.

Oer – llai o egni Oer – llai o egni Poeth - mwy o egni

Crynodiad uchel Crynodiad isel

Arwynebedd

arwyneb bach Arwynebedd

arwyneb mawr

Page 39: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 39

Catalyddion Catalydd yw sylwedd sy'n cynyddu buanedd adwaith heb gael ei newid yn gemegol na'i ddefnyddio yn y

broses.

Mae catalydd yn gweithio drwy roi arwyneb i'r adweithyddion lynu ato lle maen nhw'n gallu “taro” i

mewn i'w gilydd. Dydy cyfanswm nifer y gwrthdrawiadau ddim yn cynyddu ond mae nifer y

gwrthdrawiadau llwyddiannus yn cynyddu.

Mae datblygu catalyddion gwell yn bwysig iawn mewn diwydiant oherwydd mae'n gallu arwain at

ffyrdd newydd o wneud defnyddiau a allai ddefnyddio llai o egni, defnyddio defnyddiau crai

adnewyddadwy neu ddefnyddio llai o gamau.

Mae catalyddion yn caniatáu i adweithiau weithio ar dymheredd llawer is, sy'n golygu defnyddio llai

o egni.

Mae angen gwahanol gatalyddion ar gyfer gwahanol adweithiau.

Mae catalyddion yn gallu bod yn ddrud, mae angen eu tynnu nhw o'r adwaith ac mae amhureddau'n

gallu eu “gwenwyno” nhw.

Catalyddion biolegol yw ensymau.

Yn yr enghraifft hon, mae

platinwm yn gweithredu fel

catalydd i'r adweithyddion.

Egni Actifadu

Yr egni actifadu yw'r isafswm egni sydd ei angen ar yr

adweithyddion i dorri eu bondiau.

Mae catalydd yn lleihau’r egni actifadu. Mae'n

darparu llwybr gwahanol ar gyfer yr adwaith.

Mae cyfanswm newid egni (ΔH) yr adwaith yn aros yr

un fath.

Trosglwyddo egni mewn adweithiau

Δ H

Mewn adwaith ecsothermig, mae

egni'n cael ei drosglwyddo i'r

amgylchoedd, fel arfer ar ffurf

gwres, sy'n achosi cynnydd yn y

tymheredd.

Mewn adwaith endothermig, mae

egni'n cael ei gymryd o'r

amgylchoedd, fel arfer ar ffurf

gwres, sy'n achosi gostyngiad yn y

tymheredd.

Page 40: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 40

Pwnc 6 – Calchfaen (TGAU Cemeg YN UNIG)

Dadelfeniad Thermol Mae carbonadau metel fel calsiwm carbonad neu copr carbonad yn torri i lawr pan gaiff ei gynhesu'n gryf.

Pan fo cyfansawdd yn rhannu'n ddwy neu fwy trwy wres, cyfeirir ato fel dadelfeniad thermol.

e.e.

Mae dadelfeniad thermol yn cynhyrchu metel ocsid a charbon deuocsid.

Gwaith Ymarferol Penodol Dylech allu disgrifio manylion ymarferol arbrawf i ddangos dadelfeniad thermol o garbonadau.

“Gellir gwneud i garbonadau metel ymddatod (dadelfennu) pan gânt eu gwresogi. Po galetaf yw hi i'w

dadelfennu, y mwyaf sefydlog yw'r metelau hyn. Yn yr arbrawf hwn, caiff tri charbonad eu gwresogi ar

dymheredd uchel er mwyn gweld pa mor hawdd y maent yn dadelfennu. Drwy gynnal yr arbrawf hwn,

gallwch roi'r carbonadau yn nhrefn eu sefydlogrwydd thermol.” CBAC Arbrawf Penodedig

Arbrawf:

Gellir mesur cyflymder dadelfennu trwy:

1. Amseru newid lliw y carbonad metel.

2. Amseru newid lliw y dŵr galch - Mae'n troi o glir i fod yn “laethog” ym mhresenoldeb carbon

deuocsid.

Carbonadau metel cyffredin a ddefnyddir yn yr arbrawf hwn:

1. calsiwm carbonad (CaCO3)

2. copr (II) carbonad (CuCO3)

3. sodiwm carbonad (Na2CO3)

calsiwm carbonad calsiwm ocsid + carbon deuocsid

CaCO3 (s) CaO (s) + CO2 (n)

metel carbonad metel ocsid + carbon deuocsid

XCO3 (s) XO (s) + CO2 (n)

Page 41: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 41

Canlyniadau:

Metel carbonad

sodiwm carbonad Na2CO3

calsiwm carbonad CaCO3

copr(II) carbonad CuCO3

Lliw cyn gwresogi gwyn gwyn gwyrdd

Lliw ar ôl gwresogi gwyn gwyn du

Nwy sy’n cael ei ryddhau dim carbon

deuocsid carbon

deuocsid

Hawdd i ddadelfennu?? Anodd Eithaf hawdd Hawdd

Casgliadau:

• Ni welir unrhyw adwaith gyda sodiwm carbonad, gan y fwyaf adweithiol yw’r metel, y mwyaf

sefydlog yw’r carbonad.

• Mae calsiwm yn llai adweithiol na sodiwm, felly mae gwres yn gallu dadelfennu calsiwm carbonad yn

weddol hawdd.

• Copr yw'r metel lleiaf adweithiol ac mae'n dadelfennu'n gyflym ac yn hawdd.

Felly…

Po fwyaf adweithiol yw'r metel, y mwyaf sefydlog yw’r carbonad.

Page 42: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 42

Y Gylchred Calchfaen Mae angen dysgu y wybodaeth yma:

Enw cyffredin Enw cemegol Fformiwla

Calchfaen Calsiwm carbonad CaCO3 (s)

Calch brwd Calsiwm ocsid CaO (s)

Calch tawdd Calsiwm hydrocsid Ca(OH)2 (s)

Dŵr calch Calsiwm hydrocsid (dyfrllyd) Ca(OH)2 (aq)

Gellir defnyddio calchfaen i greu dŵr calch, sy'n gemegyn diwydiannol pwysig (gweler yn ddiweddarach yn yr

pwnc yma). Mae tri cham i'w ffurfio:

Cam 1: Rhostio am 20 munud

Cynhesu’r calsiwm carbonad (calchfaen) am 20 munud. Mae calchfaen yn

tywynnu ac yn briwsionllyd . Dyma'r dadelfeniad i galsiwm ocsid (calch brwd).

Hafaliad:

calsiwm carbonad calsiwm ocsid + carbon deuocsid

(calchfaen) (calch brwd)

CaCO3 (s) CaO (s) + CO2 (n)

Cam 2: Ychwanegwch ychydig o ddiferion o ddŵr

Mae ychydig ddiferion o ddŵr yn cael eu hychwanegu at y calsiwm ocsid (calch brwd).

Mae hyn yn achosi'r cyfansawdd i sïo a rhyddhau stêm. Mae hyn yn ffurfio calsiwm

hydrocsid (calch tawdd). Mae'r adwaith yn ecsothermig.

Hafaliad:

calsiwm ocsid + dŵr calsiwm hydrocsid

(calch brwd) (calch tawdd)

CaO (s) + H2O (h) Ca(OH)2 (s)

Cam 3: Ychwanegu gormodedd o ddŵr

Mae calsiwm hydrocsid (calch tawdd) yn hydoddi ychydig mewn dŵr. Mae

gormodedd o ddŵr yn cael ei ychwanegu er mwyn ffurfio hydoddiant alcalïaidd o'r

enw dŵr calch.

Hafaliad:

calsiwm hydrocsid + dŵr calsiwm hydrocsid

(calch tawdd) (dŵr calch)

Ca(OH)2 (s) + H2O (h) Ca(OH)2 (d)

Page 43: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 43

Cylchred: Mae angen i chi allu disgrifio'r arsylwadau a wnaed yn ystod yr holl adweithiau hyn:

Adwaith dŵr calch gyda charbon deuocsid

Mae carbon deuocsid sy'n cael ei byrlymu trwy dŵr calch yn achosi iddo droi’n “llaethog”, oherwydd bod

calsiwm carbonad anhydawdd yn ffurfio.

Y prawf ar gyfer nwy carbon deuocsid yw ei fod yn troi dŵr calch yn “llaethog”

Hafaliad:

calsiwm hydrocsid + carbon deuocsid calsiwm carbonad + dŵr

Ca(OH)2 (d) + CO2 (n) CaCO3 (s) + H2O (h)

Calchfaen

CaCO3 (s)

Calch brwd

CaO(s)

Calch tawdd

Ca(OH)2 (s)

Dŵr calch

Ca(OH)2 (aq) Cam 1:

Rhostio’r calchfaen

Rhyddhau CO2

Cam 2:

Ychwanegwch ychydig o

ddiferion o ddŵr

Ecsothermig

Cam 3:

Ychwannegu gormodedd o

ddŵr

Page 44: Cynnwys - Ysgol brynhyfrydTGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu  1 Cynnwys Cynnwys 1 Pwnc 1 – …

TGAU Cemeg Uned 1 & TGAU Gwyddoniaeth (Dwyradd) Uned 2 – Canllaw Adolygu

www.bangor.ac.uk/adolyguTGAU 44

Defnydd Calchfaen Mae calchfaen yn ddeunydd crai pwysig a geir drwy chwarelu. Mae yna lawer o fanteision o ddefnyddio

calchfaen ond mae anfanteision hefyd ynglŷn ag effeithiau chwareli.

Defnydd deunydd crai

• Defnyddir wrth gynhyrchu dur a haearn. Caiff ei ychwanegu at fwyn haearn a golosg yn y ffwrnais chwyth i

cael gwared o amhureddau.

• Defnyddir i greu ffyrdd wrth ei gymysgu â bitwmen gan ei fod yn gryf.

• Mae posib ei ddefnyddio i greu sment pan gaiff ei gymysgu â chlai neu dywodfaen. Yna gellir ei agregu

(cymysgedd o greigiau adeiladu) i ffurfio concrit.

• Defnyddir calchfaen i niwtralu a chodi pH pridd asidig (sydd fel arfer yn llai na pH 6.5).

• Mae calch cyflym a chalch yn cael ei ychwanegu at lynnoedd asidig i wella amrywiaeth bywyd dyfrol.

• Defnyddir calchfaen i amsugno nwyon gwastraff asidig fel sylffwr deuocsid mewn simneiau gorsafoedd

pŵer. Cyfeirir at y rhain fel 'prysgwyr sylffwr'.

• Gallu cael ei ddefnyddio i greu gwydr

• Wedi'i ddefnyddio wrth gynhyrchu gwrth-asidau meddygol

• Cael ei ddefnyddio mewn past dannedd fel sgraffinydd

Effeithiau chwarelu Calchfaen

Mae anfanteision hefyd yn gysylltiedig â chwareli calchfaen.

Mae'r prif anfanteision yn cynnwys:

• ffurfio llwch

• sŵn oherwydd ffrwydro’r graig

• mwy o draffig, gyda lorïau trwm

• mae'r tirwedd yn cael ei effeithio

• yn dinistrio bywyd gwyllt