13
Cytundeb gyda Sir Gâr Manifesto Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cyngor Sir Caerfyrddin 3 Mai 2012

Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Maniffesto Plaid Cymru - Sir Gaerfyrddin

Citation preview

Page 1: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

Cytundeb gyda Sir Gâr

Manifesto

Plaid Cymru

ar gyfer Etholiad Cyngor Sir Caerfyrddin

3 Mai 2012

Page 2: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

4

Mae Etholiadau Cyngor Sir Caerfyrddin ar 3 Mai yn cynnig cyfle hanesyddol i bobl sir Gâr. Dyma’r

cyfle i ethol gweinyddiaeth newydd a fydd yn trawsnewid sut mae’r Cyngor Sir yn gweithredu.

Dyma fyddai dechreuad newydd i’n sir. Dyma eich cyfle i ethol cynghorwyr a fydd yn parchu ein

gwerthoedd a’n blaenoriaethau ac yn parchu egwyddorion democratiaeth.

Yn y ddogfen hon rydym yn amlinellu ein Cytundeb gyda Sir Gâr.

O gael ein hethol ar 3 Mai byddwn yn:

1. Adfer Democratiaeth. Byddwn yn gwahodd y bobl mwyaf talentog a phrofiadol o blith pob

grŵp gwleidyddol i ymuno gyda ni i wasanaethu ein sir. Byddwn yn adfer enw da’r sir ac yn

gwneud pobl yn falch o’u cyngor unwaith eto.

2. Torri biwrocratiaeth drwy leihau nifer y swyddi rheolaethol gan warchod swyddi staff sydd

yn gwasanaethu ar y rheng flaen.

3. Darparu mwy o dai fforddiadwy i bobl leol. 4. Gwneud ein gorau i helpu ein pobl ifanc i fyw a gweithio yn eu cymunedau. 5. Rhoi’r dewis i bobl hŷn naill ai i barhau i fyw yn eu cartrefi gyda chymorth ymarferol, neu

sicrhau lle mewn cartref gofal sydd yn eu trin gyda pharch ac urddas. 6. Parchu’r farn leol ar faterion megis dyfodol ysgolion bach a ffermydd gwynt. 7. Rhoi’r flaenoriaeth i anghenion lleol mewn materion cynllunio. 8. Cefnogi a hyrwyddo anghenion diwylliannol, amgylcheddol a hamdden ein cymunedau.

Mae’r manifesto hwn yn cynnig agenda flaengar, arloesol a chynaliadwy ar gyfer ein cymunedau.

Dyma ein Cytundeb gyda Sir Gâr.

Rhagair

Peter Hughes Griffiths

Arweinydd Cynghorwyr Plaid Cymru

gan Peter Hughes Griffiths

Page 3: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

5

Cyflwyniad

Mae Plaid Cymru, o flaen popeth arall, yn rhoi lles pobl Sir Gaerfyrddin yn gyntaf.

Credwn yn gryf bod rhaid gosod y safonau uchaf posibl fel cynghorwyr ac fel cyngor.

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein poilisiau a chredwn y byddai eu mabwysiadu’n

gwella safonau byw, yr economi a’r amgylchedd yn Sir Gaerfyrddin.

Byddwn yn cadw at yr egwyddorion canlynol wrth weithredu ein polisiau :

1. Sicrhau cyfleoedd cyfartal pa bynnag iaith, tras, crefydd neu gefndir.

2. Gwrando ar bryderon a dyheadau ein etholwyr.

3. Bod yn agored a thryloyw trwy ganiatau recordio a ffilmo cyfarfodydd y Cyngor.

4. Rhoi’r cyfle gorau posibl i’n cymunedau i gynllunio ac i lywio eu dyfodol eu

hunain.

5. Sicrhau cynaladwyaeth ym mhob agwedd o waith y cyngor.

Ry ni’n ymwybodol fod rhaid i’r cyngor weithredu o fewn y fframwaith gyllidol a

chyfreithiol a osodir gan Lywodraeth Cymru a Phrydeinig, sy’n golygu cyfyngu ar yr

hyn sy’n bosibl ei gyflawni. Er hynny, ry ni’n ymrwymo i wneud ein gorau i fod yn

greadigol o fewn y cyfyngiadau hynny, ac i frwydro am fwy o adnoddau i weithredu

ein cynlluniau.

Gyda’n gilydd, ac mewn partneriaeth gyda thrigolion y sir, fe allwn greu gwell

dyfodol.

Mae cynghorwyr Plaid Cymru’n gweithio’n ddiwyd mewn cymunedau ar draws Sir

Gaerfyrddin. Ry ni am wneud mwy, ac mae’r maniffesto hwn yn cynnig agenda

flaengar, arloesol a chynaliadwy ar gyfer ein cymunedau a’r sir.

4

Page 4: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

6

Democratiaeth

Adfywio eich Cymunedau gan eich Plaid leol

Byddwn yn adolygu a newid strwythur ddemocrataidd y cyngor. Credwn y dylsai pob prif grwp gwleidyddol gael ei gynrychioli yn holl strwythur penderfyniadau’r cyngor. Byddai hyn yn sicrhau’r defnydd gorau o’r amrywiol dalentau, yr arbenigrwydd a phrofiad yr aelodau etholedig - beth bynnag fo’u perthynas wleidyddol. Wedi’r cwbl dylsem gydweithio er lles pobl Sir Gaerfyrddin. Ni ddigwyddodd hyn yn ystod yr 8 mlynedd ddiwethaf gan i’r glymblaid Annibynnol/Llafur eithrio aelodau’r blaid fwyaf ar y cyngor - Plaid Cymru - rhag cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Dim ond Plaid Cymru all gynnig y dewis arall o’r gyfundrefn Annibynnol/Llafur bresennol i bobl Sir Gaerfyrddin.

Cyfrifoldeb cyntaf cynghorwyr Plaid Cymru yw i’r gymuned y maent yn ei chynrychioli wrth iddyn nhw fod yn ‘Arweinwyr Cymunedol’. Dyna yw ein blaenoriaeth. Bydd cynghorwyr Plaid Cymru yn gweithio i hyrwyddo a hefyd amddiffyn yr hyn sy’n bwysig yn eu cymunedau lleol mewn ffordd agored a thryloyw. Byddwn yn sefydlu ‘COMISIWN EIN CYMUNEDAU’ a fyddai’n cynnwys aelodau ethole-dig a swyddogion profiadol y cyngor, cynrychiolwyr o’r Cynghorau Cymunedol ac ar-weinwyr lleol i ymchwilio’n fanwl i’r agweddau o fywyd cymunedol yn Sir Gaerfyrddin gan roi sylw arbennig i ardaloedd gwledig. Byddem yn gofyn i’r comisiwn hwn i baratoi adroddiad manwl o fewn blwyddyn gan restri cryfderau a gwendidau ein cymunedau trwy’r sir. Yna, cyflwyno argymhellion cadarnhaol ac ymarferol ar sut i wella a datblygu ein hardaloedd, ac yn enwedig y ‘bywyd cymunedol’ trwy’r sir.

Page 5: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

7

Corfforaethol

Byddem yn sicrhau y safonau uchaf posibl wrth gyflwyno gwasanaethau ar draws yr holl adrannau o fewn yr Awdurdod ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin. Llai o bwyslais ar ddefnyddio darparwyr allanol i gyflwyno gwasanaethau.

Llai o ddefnydd o ymgynghorwyr allanol ar gyfer prosiectau os nad yw’r

arbenigedd a’r sgiliau angenrheidiol o fewn y cyngor, gan arwain at achub arian.

Byddem yn sefydlu o’r newydd banel ‘EIN SYNIADAU NI’ gan gynnwys pobl a

fyddai’n cynrychioli amrywiaeth o unigolion a grwpiau ffocws, ac yn cyfarfod bob tri

mis mewn gwahanol ardaloedd i drafod amrywiaeth o faterion mewn dull agored a

thryloyw.

Byddai’n rhaid parchu’r syniadau hynny a’u hystyried wrth ddatblygu polisiau ac

wrth wneud penderfyniadau.

Byddem yn datblygu cydweithio agosach rhwng y Cyngor Sir a Chynghorau

Cymuned a Threfol fel y gellir, gyda’n gilydd, wasanaethu’r bobl ry ni’n eu

cynrychioli. Dylid cysylltu gyda’r Cyngor Cymuned bob amser ar faterion sy’n

ymwneud a’r fro honno.

6

Page 6: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

8

Addysg Tra bod Plaid Cymru’n croesawu moderneiddio, mae ei chynghorwyr yn gofidio’n fawr am effaith cau ysgolion gwledig a all wanhau ein cymunedau. Cefnogwn y camau cadarnhaol mewn agweddau o’r Cynllun Moderneiddio

Addysg (CMA), ond ni ddylsid cau yr un ysgol heb sefydlu ‘CORFF ADOLYGU’ penodol. Dylsai’r corff hwn gynnwys cynrychiolaeth o aelodau staff, undebau, llywodraethwyr a rhieni, y Cyngor Cymuned a’r gymuned leol.

Trwy ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru byddai Plaid Cymru’n adolygu holl fater trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol a’r pellter o fewn trefi ac ardaloedd gwledig, a hynny’n seiliedig ar ddiogelwch disgyblion a’r seddi gwag ar fysiau ysgol, ac felly’n lleihau’r defnydd o geir preifat a lleihau’r nwy carbon (CO2).

Ein nod fyddai gofalu nad oes mwy na 20 disgybl mewn dosbarthiadau i ddisgyblion dan 8 oed a dim mwy na 25 disgybl yn nosbarthiadau adrannau iau ac uwchradd.

Byddem yn cefnogi trwy’r ‘Adran Gwasanaethau Plant’ y rhai hynny sydd angen gofal ac addysg arbennig er mwyn sicrhau datblygiad personol a chreu cyfle i bawb gyrraedd ei botensial llawn.

Ar lefel cynradd ac uwchradd mae angen sicrhau bod Polisi Iaith yr Awdurdod a Pholisi Continiwm Iaith yr Awdurdod yn cael ei weithredu gan roi ystyriaeth bellach i sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg (Ysgolion Dwyieithog), er mwyn cyfrannu at y nod o Gymru ddwyieiythog yn ôl cynllun ‘Iaith Pawb’ Llywodraeth Cymru.

Byddem yn sicrhau pob cyfle i bobl ifainc ac oedolion drwy’r sir i astudio amrywiaeth eang o gyrsiau academaidd, galwedigaethol a hamdden trwy gyfrwng addysg bellach.

Anelem at hyrwyddo dysgu gydol oes trwy sicrhau bod ein Canolfannau Addysg Gymunedol yn gallu cynnig cyrsiau sy’n ymateb i angen pobl o bob oed yn eu hardaloedd eu hunain.

Byddem yn sicrhau adnoddau llyfrgellyddol trwy’r sir mewn partneriaeth gyda chymunedau lleol a’r defnydd gore o’r llyfrgelloedd teithiol.

Byddem yn cyflwyno cyfyngder cyflymdra teithio o 20mya tu allan i ysgolion.

Page 7: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

9

Gofal Cymdeithasol

Cynllunio

Byddem yn anelu at wella iechyd a lles preswylwyr Sir Gaerfyrddin gan gydnabod anghenion unigol a chynnig y gwasanaeth gorau posibl, yn ogystal a datblygu gofal personol i’r unigolion er hyrwyddo byw’n annibynnol.

Sicrhau gwasanaeth Cartrefi Gofal ar gyfer y rhai sydd angen gofal arbenigol. Sicrhau gwasanaethau pwrpasol yn y Canolfannau Dyddiol lleol a’r Clubiau Cinio

gan gynllunio i agor mwy i wasanaethu cymunedau lleol eraill mewn partneriaeth gyda mudiadau lleol a chenedlaethol.

Hyrwyddo cyfraniad y gwasanaethau gwirfoddol gan greu perthynas agos gyda’r gwasanaethau a gynnigir gan y Cyngor Sir a chodi ymwybyddiaeth unigolion yn natblygiad a chynhaliaeth y maes gofal cymdeithasol.

Hyrwyddo ymhellach y cydweithio rhwng yr Awdurdod Iechyd Lleol a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cyngor Sir gan anelu at greu cynllun o gyd-gyllido er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gofal gorau posibl.

Byddem yn adolygu polisiau presennol y Cyngor fel y gallwn gynnal a chryfhau ein cymunedau. Datblygu polisi ‘angen lleol’ cryfach o fewn cynllunio. Gallai hyn annog pobl ifainc i

aros yn eu cymunedau gan gryfhau dyfodol ysgolion, busnesau a’r ffordd wledig o fyw.

Mae gan Blaid Cymru gryn ofid ynglyn a’r Cynllun Datblygu Lleol yn ei ffurf bresennol ac mae ei chynghorwyr wedi cyflwyno rhestr o sylwadau positif sy’n cael eu hysturied gan Arolygydd Annibynnol ar hyn o bryd.

Mae Plaid Cymru yn erbyn datblygiadau enfawr o dai ar un safle e.e. y bwriad o fewn y Cynllun Datblygu Lleol i godi mwy na 1200 o dai yn Ward Gorllewin tref Caerfyrddin.

8

Page 8: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

10

Datblygu Economaidd Dylsai’r Cyngor arwain a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu busnesau a chyfleoedd cyflogaeth o fewn y sir gan annog ein pobl ifainc i ddatblygu sgiliau ‘sefydlu busnes’. (gweler mwy o dan yr Adran ‘Cefnogi Ieuenctid’ yn y maniffesto hwn.) Byddem yn canolbwyntio ar greu busnesau newydd yn yr ardaloedd gwledig a

threfol o fewn y sir, a thrwy hynny creu mwy o swyddi ar gyfer pobl leol tra’n cefnogi busnesau presennol a’u helpu i ddatblygu ac ymestyn.

Cefnogi’r datblygiad, a chreu mwy a mwy o gynlluniau prentisiaeth o fewn gweithllu’r Cyngor Sir, fel y gall yr ifanc ddatblygu gyrfa.

Cynnig cefnogaeth llawn y cyngor i ehangu cysylltiadau band eang trwy’r sir fel cymorth i hyrwyddo busnesau a gwaith y sector breifat.

Manteisio ar y Gronfa Ewropeaidd i fuddsoddi, ehangu a chreu cyfleoedd cyflogaeth.

Hyrwyddo ‘Prynu nwyddau a chynyrch lleol’.

Byddem yn creu awdit o holl weithdai ac unedau diwydiannol yr awdurdod sydd ar gyfer rhenti, a’u hadnewyddu i’r safonau angenrheidiol. Byddem wedyn yn adolygu polisi rhenti’r cyngor ar gyfer yr unedau gan annog cwmniau bach a chanolig eu maint i sefydlu yno. Byddai’r polisi yn cynnwys rhenti manteisiol yn ystod y blynyddoedd cyntaf o fasnachu.

Byddai Plaid Cymru’n dymuno parhau i hyrwyddo gweithgarwch Adran Pwrcasu’r Cyngor gan ei bod yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith o gael y gorau am bris ac ansawdd. Dylsai’r gwaith pwrcasu ddilyn y rheolau cenedlaethol a rhyngwladol bob amser, ond ar yr un pryd gwneud y gorau i sicrhau bod cwmnioedd lleol yn cael y cyfle i dendro am waith, a chyflenwi adnoddau a gwasanaethau i’r awdurdod.

Page 9: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

11

Tai Mae hawl gan bawb i gael cartref a bod yn berchenog, rhan berchenog neu denant. Mae Plaid Cymru’n credu bod darparu Tai Fforddiadwy yn bolisi allweddol i Gyngor Sir Caerfyrddin. Er mwyn adeiladu cymunedau cynaladwy rhaid gwneud yn siwr bod pobl leol yn cael tai lleol. Gall tai chwarae rhan bwysig mewn adfywiad economaidd, iaith a diwylliant, iechyd a bywyd da. Prinder Tai Fforddiadwy yw un o’r prif heriau sy’n wynebu Sir Gaerfyrddin, lle mae prisiau tai yn ei gwneud hi’n amhosibl i bobl leol gystadlu yn y farchnad dai. Mae Plaid Cymru’n credu os yw datblygwyr yn ymateb i’r wasgfa fasnachol yn unig, yna ni ellir datrus y galw am dai yn Sir Gaerfyrddin. Mae 8,000 o deuluoedd ar rhestr aros am dai yn Sir Gaerfyrddin gyda dim ond

900 yn cael eu gosod yn flynyddol. Byddem yn gofyn i Lywodraeth Cymru am roi caniatad i Awdurdodau Lleol i adeiladu ‘ cartrefi cyntaf cost isel’.

Byddem hefyd yn gofyn am ganiatad i Gynghorau Lleol i adeiladu ‘Tai Cyngor’

mewn ardaloedd trefol a gwledig gan roi’r cyfle i’r bobl leol i’w rhenti. Ni fyddem yn caniatau ‘hawl i brynu’ er mwyn sicrhau bod pob ty newydd a adeiledir o dan y cynllun hwn yn aros ym mherchnogaeth y cyngor.

Mewn cydweithrediad a’r Adran Gynllunio byddem yn trefnu ‘ AROLWG O ANGEN

TAI’ er mwyn canfod yr angen lleol a chymunedol er mwyn cael arweiniad ynglyn a pha fath, a’r nifer o dai sydd angen eu datblygu.

Byddem yn trefnu awdit eang trwy’r sir ar yr holl stoc o dai gan gynnwys tai cy-

hoeddus, cymdeithasol a thai gwag preifat fel y gallwn edrych ar eiddo gwag a’u hadnewyddu i’r safon priodol a thrwy hynny cynyddu’r stoc dai.

10

Page 10: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

12

Yr Amgylchedd Rhaid i Sir Gaerfyrddin chwarae ei rhan yn yr ymdrech fyd eang i achub y blaned. Bydd Plaid Cymru’n rhoi blaenoriaeth i’r camau i wneud ein sir yn lanach ac yn wyrddach. Byddwn yn annog datblygiadau cynhyrchu ynni, fel meicro gynhyrchu mewn dull radical o leihau ein hol troed carbon. Creu ‘Timau Gwyrdd’ i gynghori preswylwyr a chymunedau.

Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau ailgylchu gan sicrhau bod ailgylchu’n rhwydd a chyfleus i bawb.

Trefnu i adeiladau cyhoeddus fod yn fwy amgylcheddol gyfeillagr e.e. paneli solar.

Hyrwyddo ‘amgylchedd gyfeillgar’ trwy newid patrwm trafnidiaeth a chreu lo-nydd beicio a theithio gwyrddach. Parhau i wella mynediad i’r anabl i fysiau, adeiladau a mannau cyhoeddus.

Byddai lleihau pob agwedd o lygru yn cael blaenoriaeth.

Hyrwyddo’r defnydd o nwyddau Masnach Deg a chefnogi statws Masnach Deg mewn trefi a phentrefi.

Sefydlu barn glir ynglyn a’r Melinau Gwynt a’u heffaith ar gymunedau. O wrando ar brofiadau trigolion lleol ynglyn a sefydlu Melinau Gwynt yn y sir, mae’n glir y dylsai cymunedau lleol fod yn medru elwa ac nid dioddef oherwydd datblygidau gwyrdd. Mae perchnogaeth leol yn allweddol mewn perthynas a maint a safle’r tyrbeini gwynt a dylsai’r cyngor weithio’n llawer agosach er mwyn sicrhau nad yw’r bobl leol yn cael eu heffeithio mewn unrhyw fodd.

Mae datblygiad ffermydd solar ar hen safleoedd priodol a diwydiannaol yn werth ei ystyried.

Rhaid ymchwilio i’r posibilrwydd o drefniant mewnol gan y cyngor i dirlenwi sbwriel i achub a chreu mwy o gyllid.

Page 11: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

13

Hamdden a Sir Iachach

Rhaid adeiladu’r bartneriaeth a’r cydweithio rhwng yr Awdurdod Iechyd Lleol a’r Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru fel y gallwn ddatblygu rhwydwaith o raglenni hamdden atyniadol gefnogi cynlluniau i hyrwyddo bwyta’n iach a chadw’n heini, ehangu’r ymwybyddiaeth a’r dealltwriaeth o effeithiau ysmygu a ‘r cam ddefnydd

o alcohol a defnyddiau peryglus, gyda chydweithrediad Llywodraeth Cymru hyrwyddo cynlluniau ar gyfer y rhai o

dan 16 oed a thros 60 oed i ddefnyddio’r pyllau nofio lleol AM DDIM ar amseroedd penodol, ac anelu at sefydlu cynlluniau tebyg eraill mewn perthynas a chadw’n heini a byw’n iach. Byddai hyn i gyd yn arwain at arferion da ymhlith pobl ifainc a’r henoed.

Sicrhau na ddatblygir prosiectau hamdden tan bod sicrwydd y gellir profi eu bod

yn hyfyw ac yn weithredol a bod rheolaeth ar yr adnoddau a gynnigir e.e. Clwb Golff Garnant. A bod hyn yn berthnasol i bob prosiect ar draws yr holl wasanaethau.

12

Page 12: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

14

Yr Iaith Gymraeg a’n Diwylliant

Cefnogaeth i’r Ifanc

Mae Sir Gaerfyrddin, heb os, yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a chredwn y dylsid gofalu am y cymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn yr ardaloedd rheini. Byddem yn hyrwyddo’r weledigaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru o dan y teitl “Iaith Pawb”. Mae gan Y Mentrau Iaith gyfrifoldeb allweddol i hyrwyddo’r polisiau ac fe fyddan

nhw’n derbyn cefnogaeth lawn gan Plaid Cymru Datblygu ymhellach y defnydd o’r iaith yng ngweinyddiad y cyngor trwy

hyrwyddo’r sgiliau dwyieithog mewn cyfarfodydd a seminarau sy’n rhan o bolisi ac ethos dwyieithog y cyngor.

Cyflwyno gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd. Sicrhau gwefan cwbl ddwyieithog i’r Cyngor Sir.

Byddem yn cynnal arolygiad manwl o Wasnaethau a Darpariaethau Ieuenctid o fewn y Cyngor Sir gyda’r nod o weithredu strategaeth ar gyfer rhwydwaith o weithgarwch a phartneriaethau gyda chyrff a mudiadau sy’n ymwneud a ieuenctid trwy’r sir. Ry ni’n rhagweld y byddai cefnogaeth ariannol ar gael ar gyfer mudiadau

ieuenctid cydnabyddedig, fel mewn siroedd eraill yng Nghymru, i Fudiad y Ffermwyr Ifainc ac Urdd Gobaith Cymru.

Byddem yn dilyn arweiniad tebyg i arweiniad Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gwynedd drwy sefydlu ysgoloriaethau ‘LLWYBRAU LLEOL’ i ddenu pobl ifainc i fyw a gweithio a dychwelyd i’w cymunedau.

Trwy bartneriaeth gyda phob agwedd o addysg a diwydiant gellir hyrwyddo cynlluniau prentisiaeth a chyrsiau modern eraill gan wneud yn sicr fod y cwmnioedd sy’n elwa o gontractau gwasanaethau cyhoeddus yn cyflogi ac yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant i bobl leol.

Page 13: Cytundeb gyda Sir Gaerfyrddin

15

Materion y byddai Plaid Cymru’n rhoi sylw iddynt

Bu Plaid Cymru’n rheoli Cyngor Sir Caerffili ac mae’r cyngor wedi llwyddo i beidio a chodi’r dreth dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac eto’r flwyddyn nesaf. Byddem yn anelu i gyflawni canlyniadau tebyg trwy amrywiol ffyrdd o redeg gwasanaethau’r cyngor. Byddem yn rhoi sylw i’r canlynol: Edrych ar ail strwythuro’r haenau uchaf o reoli. Torri cymaint a phosibl ar

fiwrocratiaeth gan ddiogelu’r gwasanaethau hanfodol o ddydd i ddydd. Adolygu sefyllfa yr holl ‘Arian Wrth Gefn.’ Arolygu’r polisi ‘adref yn sal’ y cyngor a chaniatau amser rhydd ar gyfer

apwyntiadau iechyd ar ffurff oriau ar y tro yn hytrach na dydd neu hanner diwrnod.

Adolygu mewn manylder cyflogi ‘Asiantaethau Allanol’ ac ‘Ymgynghorwyr Allanol’.

Arolygu’r dull o weithredu ‘gwasanaethau a thalebau mewnol’ rhwng adrannau. Adolygu’r holl broses o lungopïo a’r defnydd o waith cyfrifiadurol. Adolygu’r nifer o ffonau symudol a ddefnyddir gan aelodau o’r staff. (Dilewyd

600 o ffonau symudol staff gan Gyngor Caerffili trwy’r broses hon.) Gwneud astudiaeth fanwl o’r defnydd a’r gwir angen am bob math o gerbydau’r

cyngor. Edrych ar yr adeiladau a thiroedd sy’n eiddo i’r Cyngor Sir a’r posibilrwydd o

werthu’r hyn nad oes eu hangen bellach er mwyn creu cyllid. Gorffen cyhoeddi a dosbarthu’r cylchgrawn ‘Newyddion Sir Gâr’ gan achub nid yn

unig y gost o’i gynhyrchu a’i ddosbarthu, ac amser staff i’w baratoi, ond datblygu rhwydwaith wybodaeth mwy effeithiol a llai unochrog ei gynnwys trwy ddulliau’r dechnoleg fodern a’r wasg leol a dulliau cyfathrebu eraill.

Cyflwyno polisi cyflogaeth lle na ellir apwyntio i swydd gyda dros £50,000 o gyflog heb ganiatad PANEL CYFLOGI a fydd yn cynnwys aelodau etholedig o’r cyngor.

Defnyddio’r £1.9miliwn a ddaw o Grant Cytundeb o Ganlyniad (OAG) gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwasanaethau hanfodol yn hytrach na’i roi yng nghronfa wrth gefn a chyfalaf y cyngor.

Yr angen am reolaeth ariannol dynn er mwyn osgoi eto’r gwariant o filiynnau i redeg Clwb Golff Garnant. (Gweler o dan Hamdden a Iechyd)

Pwrcasu: Gan fod pwrcasu’n golygu gwariant o dros £120miliwn y flwyddyn a’r sefyllfa dynn ariannol bresennol, bydd y targed achub arian a osodir yn y maes hwn yn dra phwysig i’w oruchwilio trwy’r flwyddyn ariannol.

14