6
Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Mae’r daflen wybodaeth hon yn archwilio cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant yng nghyd-destun gwaith chwarae. Mae hefyd yn anelu i ystyried pam a sut fyddwn ni’n ymgynghori â phlant mewn ffordd ystyrlon heb gwtogi ar eu hamser a’u rhyddid i chwarae’n ddiangen.

Citation preview

Page 1: Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

Page 2: Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

Caiff hawl plant a phobl ifainc i gyfranogi ym mhob mater sy’n effeithio arnynt ei ddiogelu gan Erthygl 12 o Gofensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Pan roddir cyfle iddynt gyfranogi, rhoddir cyfle hefyd i bobl ifainc sicrhau newid – yn bersonol yn eu bywydau, yn eu cymunedau ac yn fyd-eang.

Yng Nghymru, datblygwyd yr agenda cyfranogiad plant a phobl ifainc mewn modd pendant ac unigryw. Mae’r datblygiadau hyn wedi eu cynnwys yn fframwaith ymrwymiad Llywodraeth Cymru i GCUHP, sydd bellach wedi ei fabwysiadu fel sail eu holl waith yn ymwneud â phlant a phobl ifainc (Gweithredu’r Hawliau, Llywodraeth Cymru, 2004).

Beth yw cyfranogaeth? Mae cyfranogaeth, yng nghyd-destun gwaith chwarae yn ymwneud â’r ‘broses o rannu penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywyd ni ein hunain a’r gymuned yr ydym yn byw ynddi’ (Hart 1992). Mae’n broses barhaus am sefyllfaoedd go iawn ac mae iddi ganlyniadau go iawn. Nid yw’r un fath ag ymgynghoriaeth, sy’n ymwneud â chanfod yr hyn y mae plant yn ei feddwl ac yn ei deimlo am faterion penodol.

Mae gan blant hawl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae ganddynt hefyd ddiddordeb mawr mewn chwarae – mewn cael amser i chwarae a mannau o safon a rhyddid i chwarae yn eu ffordd eu hunain. Fe wyddom hyn gan fod chwarae’n ymddangos mewn safle uchel ar restrau plant, bob tro y byddwn yn gofyn iddynt beth sy’n bwysig iddyn nhw.

Roedd mannau lleol diogel gyda mwy o leoedd i blant chwarae ymysg y prif flaenoriaethau a leiswyd gan fwy na 7,000 o blant a phobl ifanc a fu’n cymryd rhan yn ymgynghoriad Beth Nesa | What Next? Comisiynydd Plant Cymru. ‘Mwy o leoedd i chwarae’ oedd y flaenoriaeth uchaf (49%) i bron hanner y plant tair i saith mlwydd oed – gan adlewyrchu pwysigrwydd chwarae i blant.

Gan amlaf, pan fyddwn yn siarad am gyfranogaeth rydym ym son am ymgysylltu

plant mewn gwneud penderfyniadau ar gyfer agenda oedolion a fydd yn cael effaith ar blant. Fodd bynnag, pan fyddwn ni’n son am gyfranogaeth yng nghyd-destun chwarae, mae angen i ni gydnabod ein bod ni yn ymgysylltu gyda agenda’r plentyn.

Chwarae yw blaenoriaeth plant – eu agenda hwy. Pan fyddwn yn cefnogi eu hawl i chwarae, byddwn yn cefnogi eu hagenda hwy. Byddwn yn cydweithio gyda hwy ac mae hyn yn awgrymu ein bod yn gweithio ochr-yn-ochr â hwy - byddwn yn cynnig syniadau, byddwn yn cefnogi eu syniadau, byddwn yn rhannu nod cyffredin â hwy.

Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae’n diffinio chwarae fel proses a ddewisir yn rhydd ac a gyfarwyddir yn bersonol gan y rheini sy’n chwarae. O safbwynt gwaith chwarae, os y byddwn yn ymyrryd mewn chwarae plant, mae angen gwneud hynny mewn modd sensitif gan ddefnyddio gwerthuso risg-budd parhaus i sicrhau ein bod yn llygru eu chwarae cyn lleied â phosibl, trwy ein hagwedd a’n system gred bersonol, y penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud, a’r camau y byddwn yn eu cymryd.

Cadarnhaodd Llywodraeth y DU Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) yn fuan wedi iddo gael ei fabwysiadu gan y CU ym 1989 – mae’n rhan o ystod o ymrwymiadau’r llywodraeth i hawliau dynol.Yn ogystal ag Erthygl 31 (hawl y plentyn i

Page 3: Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

chwarae) mae Erthygl 12 yn bwysig i weithwyr chwarae:

Erthygl 121. yn dweud y bydd y Pleidiau’n sicrhau y caiff y plentyn, sy’n gallu llunio ei safbwynt ei hun, yr hawl i fynegi’r safbwynt hwnnw’n agored ym mhob mater sy’n effeithio ar y plentyn, ac y caiff safbwynt y plentyn sylw dyledus yn unol ag oedran ac aeddfedrwydd y plentyn.

Gan fod chwarae mor bwysig i bob plentyn, bydd angen inni fod yn ofalus y bydd unrhyw ran sydd ganddynt mewn gwneud penderfyniadau’n ystyrlon ac nad yw’n cyfyngu ar eu hamser a’u rhyddid i chwarae’n ddiangen.

Gallwn wneud hyn trwy:

• arsylwi, mewn modd sensitif, sut y mae plant yn ymddwyn; ble a sut y maent yn dewis chwarae; a sut y maent yn defnyddio’r amgylchedd ble y maent yn chwarae.

• wrando a defnyddio ein gwybodaeth o chwarae plant a’n profiad i fyfyrio ar yr hyn y gallant fod ei eisiau neu ei angen i gyfoethogi eu chwarae. Byddant wedi dangos inni yr hyn y maent ei eisiau – ’doedd dim angen iddynt fynd i’r drafferth o lenwi ffurflen, na glynu dotyn coch ar siart, na hyd yn oed ddod i ddweud wrthym, ac ni chaiff eu chwarae ei darfu arno o gwbl.

• barchu barn plant. Pan fo plant yn cyfranogi mewn prosesau gwneud penderfyniadau, byddwn yn sicrhau ein bod yn parchu eu cyfraniad, yn gweithredu arno ac yn adrodd yn ôl iddynt.

• sicrhau ein bod yn magu agwedd ystyrlon; ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir ac y gall plant wneud dewisiadau deallus. Er enghraifft, allwn ni ein hunain ddim gwneud dewis rhwng taith i lan y môr a diwrnod yn y goedwig os nad oes gennym syniad

beth y mae un o’r ddau’n ei gynnig. Hefyd, gall plant ddim dewis pa gyfarpar i’w osod mewn maes chwarae newydd os mai ein hunig brofiad yw siglenni a llithrennau. Mae hyn yn arbennig o bwysig i rai grwpiau o blant y gellir eu gadael allan o brosesau gwneud penderfyniadau oherwydd yn hanesyddol efallai bod eraill wedi gwneud penderfyniadau drostynt. O ganlyniad, efallai nad oes ganddynt brofiad o wneud dewisiadau ac o’r herwydd efallai ei bod yn cymryd mwy o amser ag ymdrech i ganfod eu barn; neu oherwydd bod ganddynt ystod gyfyng o brofiadau.

Ceir safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc ar gyfer Cymru a chyfres o wyth canllaw Tanio ar gyfer arfer da y gellir eu lawrlwytho oddi ar:www.uncrcletsgetitright.co.uk/index.php/blast-off-guides-2

YmgynghoriMae gweithwyr chwarae’n gweithio mewn modd sy’n annog plant i gyfranogi, i wneud penderfyniadau am eu amgylchedd chwarae, a byddant yn cydweithio gyda phlant i gwrdd â’u anghenion chwarae.

Mae ymgynghori’n ymwneud â cheisio barnau plant a derbyn eu cyngor. Pe bai plant yn chwarae ar eu pen eu hunain heb unrhyw

Page 4: Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

oedolion, fyddai dim angen ymgynghori – fe fydden nhw’n trafod ac yn gwneud penderfyniadau ymysg eu hunain. Bydd angen inni fod yn ymwybodol o hyn pan fyddwn yn ymgynghori â phlant. Felly mae ymgynghoriaeth yn rhan o ystod o arfau y byddwn yn eu defnyddio i sicrhau y gall plant gyfranogi o fewn sefyllfa chwarae.

Y Triongl DylunioBydd angen inni fod yn siŵr ein bod yn ymgynghori am y rhesymau cywir, mewn modd effeithlon ac ystyrlon: mae’r triongl dylunio’n offeryn defnyddiol.

Beth – beth ydym am ei ddysgu?

Pam – pam ydym am ddysgu hyn?

Sut – sut ydym am ddysgu hyn?

Byddwn yn ateb y tri cwestiwn cyn inni dechrau. Mae cyn bwysiced inni wybod pam ein bod yn ymgynghori â’r plant, ac yw hi inni wybod yr hyn yr ydym yn ceisio ei ddysgu.

Pam fyddwn ni’n ymgynghori?Mae llawer o resymau posibl pam y byddwn angen ymgynghori – ond yn gyntaf bydd angen inni fod yn siŵr ein bod yn ymgynghori am resymau dilys ac y bydd y plant yn gweld canlyniadau’r gwaith ymgynghori os y bydd eu barn yn cael ei barchu a’i peidio.

Byddwn yn ymgynghori â phlant ar faterion sy’n effeithio ar eu chwarae oherwydd:

• nhw yw’r arbenigwyr ar eu chwarae eu hunain

• mae’r man chwarae’n bodoli er budd y plant: eu gofod hwy yw hwn

• bod ganddynt hawl i gyfranogi ynghylch pethau sy’n effeithio arnynt (Erthygl 12 UNCRC).

Sut fyddwn ni’n ymgynghori?Gallwn ymgynghori mewn modd anffurfiol (er enghraifft, trwy sgwrsio â phlant i ddysgu’r hyn y mae nhw’n ei feddwl) neu os oes angen dod i benderfyniad ble y bydd angen tystiolaeth o ddymuniadau a syniadau plant, efallai y bydd angen inni ymgynghori’n fwy ffurfiol a chreu cofnodion o’r broses i’w dangos i eraill.

Weithiau bydd tystiolaeth weledol o’r broses, boed ar ffurf llun, ffilm, graffiti wedi ei chwistrellu ar wal, neu wedi ei ysgrifennu ar bapurau ‘post it’, yn werthfawr iawn wrth gadarnhau yr hyn ddywedodd y plant, yr hyn y gwnaethant ei fwynhau, yr hyn nad oeddent yn ei hoffi, a’u hymatebion i gynigion.

Bydd angen inni fod yn ymwybodol bod plant, gan amlaf, yn awyddus iawn i blesio ac y bydd eu syniadau’n cael eu cyfyngu gan eu profiad. Felly, bydd angen iddynt wybod a phrofi’r holl opsiynau sydd ar gael iddynt fel y gallantwneud dewis deallus. Gallai ysbrydoliaeth ddod ar ffurf creu collage gyda lluniau o’r opsiynau sydd ar gael, creu modelau, teithiau i sefyllfaoedd chwarae eraill, ymweliadau ag orielau celf, amgueddfeydd, cefn gwlad, a mwy.

Byddwn yn defnyddio cyn gymaint â phosibl o ddulliau cynnil a gweithgareddau chwareus ac yn gofyn cwestiynau mewn gwahanol ffyrdd.

Bydd angen gwybodaeth drylwyr o theori chwarae ac amgylcheddau chwarae o

Page 5: Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

safon er mwyn dehongli cynlluniau neu benderfyniadau’r plant.

Byddwn bob amser yn ystyried anghenion cyfathrebu plant o amrywiol oedrannau, sgiliau a dealltwriaeth a byddwn yn rhoi cyfle ystyrlon i bob plentyn i gyfranogi. Fyddwn ni fyth yn dewis canolbwyntio’n llwyr ar y rheini sy’n gallu cyfathrebu eu barnau orau.

Byddwn yn cofio peidio â gadael unrhyw un allan, hyd yn oed os y bydd hyn yn gwneud y gwaith o ymgynghori’n fwy anodd.

Byddwn yn gofalu i ddewis dulliau sy’n gweddu i’r plant a’r sefyllfa ble y byddwn yn gweithio.

Dylai’r plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan allu mynegi eu hoff bethau a’u cas bethau mewn amrywiol ffyrdd.

Byddwn yn defnyddio iaith eglur sydd ddim yn nawddoglyd.

Caiff y plant eu hannog i fod yn berchen ar y broses a’r canlyniadau, sy’n datblygu eu hawdurdod dros eu chwarae a’u hamgylchedd.

Chwarae a chyfranogiad Mae gan blant Cymru hawl i gymryd rhan mewn prosesau llunio penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae ganddynt hefyd ddiddordeb mawr iawn mewn chwarae, ac mewn cael amser, mannau o safon a rhyddid i chwarae yn eu ffordd eu hunain.

Gan fod chwarae mor bwysig i bob plentyn, bydd angen inni sicrhau bod unrhyw gyfranogiad fydd ganddynt mewn prosesau llunio penderfyniadau’n ystyrlon, nid dim ond yn symbolaidd, ac na fydd yn cwtogi eu hamser a’u rhyddid i chwarae’n ddiangen. Mae cyfranogiad gweithredol ac ystyrlon yn hawl sy’n galluogi – gan adael i blant ddylanwadu ar y broses o lunio penderfyniadau a sicrhau newidiadau go iawn, i’w hunain ac i’w ffrindiau. Chwarae yw blaenoriaeth plant – eu agenda nhw. Pan fyddwn yn cefnogi eu hawl i chwarae, byddwn yn cefnogi eu agenda nhw; byddwn yn cydweithio â nhw ac mae hynny’n awgrymu ein bod yn gweithio ochr-yn-ochr â nhw – byddwn yn cynnig syniadau, byddwn yn cefnogi eu syniadau nhw, bydd gennym nod cyffredin.

Cyfeiriadau

Comisiynydd Plant Cymru (2016) Beth Nesa | What Next? Y Canfyddiadau. Abertawe: Comisiynydd Plant Cymru

Hart, R. (1992) Children’s Participation: From Tokenism to Citizenship. Florence: UNICEF

UNICEF (1989) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Svenska: UNICEF Kommitten

Llywodraeth Cymru (2004) Gweithredu’r Hawliau. Caerdydd: Llywodraeth Cymru

Page 6: Cyfranogaeth ac ymgynghori gyda phlant

Mehefin 2016

© Chwarae Cymru

www.chwaraecymru.org.ukPlay Wales is the national organisation for children’s play, an independent charity supported by the Welsh Government to uphold children’s right to play and to provide advice and guidance on play-related matters.

Registered charity, no. 1068926A company limited by guarantee, no 3507258 Registered in Wales