15
DAMEG YR HEUWR

DAMEG YR HEUWR

  • Upload
    cira

  • View
    213

  • Download
    3

Embed Size (px)

DESCRIPTION

DAMEG YR HEUWR. Aeth heuwr allan i hau;. Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr. Daeth adar a'i fwyta. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: DAMEG YR HEUWR

DAMEG YR HEUWR

Page 2: DAMEG YR HEUWR

Aeth heuwr allan i hau;

Page 3: DAMEG YR HEUWR

Wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr. Daeth adar a'i

fwyta.

Page 4: DAMEG YR HEUWR

Syrthiodd peth ar fannau caregog, lle nad oedd llawer o bridd. Tyfodd yn syth, am nad oedd dyfnder daear yno. Wedi i'r haul godi, fe'i llosgwyd; ac am nad oedd gwreiddiau iddo, fe wywodd.

Page 5: DAMEG YR HEUWR
Page 6: DAMEG YR HEUWR

Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain;

A thyfodd y drain, a'u tagu.

Page 7: DAMEG YR HEUWR

Ond syrthiodd eraill ar dir da,

a ffrwytho.

Peth ganwaith cymaint,

a pheth chwe deg gwaith cymaint,

a pheth tri deg gwaith cymaint.

Page 8: DAMEG YR HEUWR

Mae'r hedyn a syrthiodd ar y llwybr caled fel gair Duw ar galonnau caled a chlustiau sy'n gwrthod gwrando. Mae gelyn Duw, fel yr adar, yn cipio'r hedyn ymaith.

Page 9: DAMEG YR HEUWR
Page 10: DAMEG YR HEUWR

Mae'r pridd bas ar y graig fel pobl sy'n derbyn y newyddion da am Iesu, ond nid yw'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau. Mae problemau yn eu rhwystro, a phan ddaw problemau yn eu bywydau, maent yn ildio. Does dim nerth ganddynt i ddyfalbarhau.

Page 11: DAMEG YR HEUWR
Page 12: DAMEG YR HEUWR

Mae'r tir dreiniog fel pobl sy'n clywed ac yn derbyn y newyddion da, ond sy'n meddwl gymaint am broblemau bywyd, a cheisio cyfoeth, fel bod meddyliau am Dduw yn cael eu mygu. Nid ydynt yn byw bywydau ffrwythlon iawn yn y diwedd.

Page 13: DAMEG YR HEUWR
Page 14: DAMEG YR HEUWR

Ond mae'r tir da fel calonnau pobl sy'n clywed neges Duw am gariad Iesu. Mae gair Duw yn gwreiddio yn eu bywydau fel eu bod yn gallu deall a dilyn ffordd Duw, ac yn dwyn ffrwyth yn nheyrnas Duw.

Page 15: DAMEG YR HEUWR