Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Datblygu sgiliau mathemateg a rhifedd
yn y Cyfnod Sylfaen
Pwrpas y canllaw yma yw eich helpu wrth gynllunio gweithgareddau mathemategol
yn eich cylch drwy ddefnyddio’r pecyn Mathemateg Meithrin
Diolch am gymorth parod Vanessa Bowen a Nicola Edwards wrth gynhyrchu’r pecyn
Mae addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn dweud y dylai plant gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth drwy: gwricwlwm priodol lle mae’r chwech (saith mewn lleoliadau
Cyfrwng Saesneg) Maes Dysgu yn cyd-fynd a chydweithio â’i gilydd
darpariaeth barhaus a gwell, a gweithgareddau mewn amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr awyr agored
gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o weithgareddau a gaiff eu cynllunio, gan gynnwys rhai a ysgogir gan y plant
profiadau sy’n caniatáu iddynt fabwysiadu ystod o rolau, gan gynnwys arwain mewn grŵp bach, dysgu fesul pâr neu weithio mewn tîm
gwahanol adnoddau, gan gynnwys TGCh
cyfleoedd dysgu ymarferol sy’n caniatáu iddynt dyfu’n ddysgwyr annibynnol
gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddefnyddio eu synhwyrau a bod yn greadigol a dychmygus. Tasgau a heriau sy’n eu hannog i ddatrys problemau a thrafod
Cyflwyniad
Datblygu sgiliau mathemateg a rhifedd ar draws y ddarpariaeth
Er mwyn sicrhau bod y plant yn cael profiad o amgylchedd sy’n fathemategol gyfoethog, mae angen sicrhau bod cyfleoedd ar gael i’r plant i ddatblygu sgiliau mathemategol ymarferol ar draws y ddarpariaeth. Bydd y ddarpariaeth barhaus yn cynnig cyfleoedd i’r plant i ymarfer, datblygu a mireinio eu sgiliau a thrwy ei gyfoethogi yn rheolaidd gyda gweithgareddau strwythuredig caiff y plant gyfleoedd eang i ddwysau eu dysgu.
Mae datblygiad iaith fathemategol yn hanfodol i lwyddiant mewn mathemateg a gwelir cyfleoedd helaeth i ddatblygu sgiliau’r plant wrth gyflwyno’r gwahanol weithgareddau o fewn y pecyn ar draws y Meysydd Dysgu, tu fewn a thu allan.
Bydd angen sicrhau cyflenwad digonol o offer ac adnoddau i ddatblygu sgiliau’r plant. Mae angen cyfnewid rhain yn rheolaidd er mwyn cadw’r profiadau yn gyffrous. Mae modd defnyddio deunyddiau ail gylchu (e.e. bocsys gwag, amlenni) a deunyddiau naturiol i gefnogi’r dysgu.
Mae cyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau mathemateg a rhifedd drwy ddefnyddio offer TGCh. Mae’n hanfodol bod plant yn cael cyfleoedd i ddefnyddio technoleg ar gyfer ymarfer eu sgiliau. Mae cyflenwad eang o CD Romau, gemau ar y we ayyb sy’n addas i blant oedran meithrin. Mae teganau a rheolir (e.e. Bee Bot) yn cynnig cyfleoedd hefyd. Mae’r defnydd o gamera neu lechen electronig yn cynorthwyo wrth gofnodi gweithgareddau a llwyddiannau’r plant ac wrth asesu ar gyfer cynllunio gweithgareddau pellach.
Rôl yr Oedolion
Mae gan bob oedolyn rôl hanfodol i chwarae wrth ddatblygu sgiliau mathemategol. Mae’n bwysig cymryd pob cyfle i ddefnyddio iaith fathemategol wrth chwarae gyda’r plant ac i’w cwestiynu a’u herio wrth ymgymryd â gweithgareddau amrywiol yn ystod pob sesiwn.
Y Pecyn Mathemateg
Trwy ddefnyddio’r pecyn yma yn ei gyfanrwydd ar gyfer gwaith mathemateg o fewn eich cylch fe fyddwch yn cyflwyno pob sgil (Mathemateg a Rhifedd) a nodwyd yn y ddogfen ‘Maes Datblygiad Mathemategol y Cyfnod Sylfaen’. Hefyd, mae pob un o’r themâu yn cynnig syniadau i chi gyfoethogi eich ardaloedd dysgu. Mae nifer ohonynt yn cynnwys eich ardaloedd allanol yn ogystal â’ch ardaloedd mewnol
Themâu Ardaloedd Dysgu
Adeiladau a Gwneud Ardal adeiladu, ardal chwarae rôl a’r ardal grefft
Amser Cylch Ardal chwarae rôl, ardal stori / ddarllen
Bwyta ac Yfed Ardal ddŵr a thywod, chwarae rôl, ardal fathemateg, ardal does
Casgliadau Ardal ddarganfod
Chwarae Rôl Ardal chwarae rôl, ardal marcio, ardal gelf
Creadigol Ardal marcio, ardal beintio, ardal toes /clai, ardal crefft
O’n Cwmpas Ardal ddarganfod, ardal adeiladu, ardal fathemateg, ardal farcio, ar-dal gelf
Symud Ardal allanol
Tywallt a Llenwi Ardal ddŵr, ardal tywod
Adeiladu a gwneud
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Mathemategol Estynedig
Didoli a chyfateb gwrthrychau drwy
adnabod elfennau tebyg
Cymharu dau wrthrych neu fwy ar
sail maint , hyd a lliw
Dangos dealltwriaeth bod un peth
yn cyfateb i un arall drwy baru
gwrthrychau
Defnyddio cyfrif i ddatrys problem-
au mathemategol syml wrth chwar-
ae ac mewn sefyllfaoedd pob dydd
Defnyddio ac adeiladu â siapiau 2D
a 3D wrth chwarae
Adnabod rhai siapiau 3D yn eu
gweithgareddau chwarae
Estynedig
Copio patrymau syml gweledol
Dangos ymwybyddiaeth o
arddodiad a symud yn ystod eu
gweithgareddau ymarferol
Ardal adeiladu
Amrywiaeth o adnoddau adeiladu—blociau pren (naturiol a rhai lliwgar),
Cit adeiladu parod e.e. Duplo
Lluniau o adeiladau
Lluniau i’w copio
Cynlluniau Pensaer
Camera neu lechen/tabled electronig
Ardal adeiladu allanol
Blociau mawr
Brics ffug (neu rhai go iawn)
Tywod a dŵr i greu sment
Ardal chwarae rôl-safle adeiladu neu
canolfan adeiladu e.e.
Adnoddau adeiladu-brics, sment, coed,
Hetiau caled, offer adeiladu, deunyddiau
ygrifennu, ffôn ayyb
Ardal crefft
Bocsys ail-gylchu o wahanol maint
Tâp gludiog, glud
Oedolyn i fodelu gweithgareddau
wrth chwarae gyda’r plant yn yr
ardal adeiladu. Cyflwyno/adolygu
iaith briodol—tal/byr, mawr/bach/
canolig, hir/byr
Copio llun 2D i greu model 3D.
Defnyddio enwau 3D i ddisgrifio’r
siapiau—ciwb, ciwboid, sillindr,
sffêr, côn
Didoli casgliad o flociau adeiladu
yn ol 1 neu 2 meini prawf e.e.
ciwbiau glas
Modelu gweithgareddau chwarae
yn yr ardal chwarae rôl—e.e. cws-
mer yn y ganolfan adeiladu, adeil-
adwr wrth ei waith ar safle adeil-
adu
Ymweld â safle adeiladu
Dilyn cyfarwyddid er mwyn adeil-
adu wal/tŵr yr un peth ag un
ffrind. Ymestynnwch ar y dasg
wrth ddefnyddio sgrin rhwng y
plant
Cyfateb y blociau 3D i gynllun 2D
(lliw neu gysgodion du a gwyn)
Amser Cylch - Cofrestru / Newyddion, Ein Dillad Ni
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Newyddion
Gwrando ac ymuno mewn rhigymau
Cyfri yn ddibynadwy
Adnabod rhif a chysylltu rhif a’r nifer
perthnasol
Canu / llafar ganu’r dyddiau wythnos
Rhagweld elfennau o drefn ddyddiol
a defnyddio’r termau cyn ac ar ôl
Defnyddio geiriau sy’n disgrifio
tymheredd e.e. Poeth / oer
Ar ôl rhifo y nifer o blant sy’n
bresennol gellir rhifo’r rhif hynny
wrth ddilyn llinell rhif yn yr ardal
gofrestru.
Sicrhau bod dyddiau’r wythnos ar
gael ar gyfer y plant er mwyn ail
ymweld a dynwared staff!
Cynnwys siart dywydd, tedi tywydd
neu boteli
sensori i
ddynodi’r
tywydd.
Canu grŵp wrth i’r plant osod eu
henwau ar gofrestr e.e. “Ble mae
Rhys? Ble mae Rhys? Dyma fe, dyma
fe, sut mae heddiw? (x2) Bore da,
bore da”. (Tôn Frère Jacques) Rhifo
sawl enw sydd yno
Dilyn rhestr arsylwi’r tywydd er
mwyn bod pob plentyn yn mynd allan
(os yn bosib) i arsylwi ar y tywydd ac
adrodd yn ôl i’r plant eraill. Cysylltu’r
tywydd ag oer / cynnes.
Trafod pwy fydd yn arsylwi ar y
tymheredd yfory?
Canu misoedd y flwyddyn (Tôn Men
of Harlech) gan ddilyn trên pen-
blwydd, sy’n cynnwys lluniau’r plant.
Rhifo gan ddefnyddio dwy, tair a phedair
Rhifo sawl bachgen / merch sy’n bresennol a sawl un sydd yna i gyd
Cyfateb y nifer o blant â rhif ag offer rhif perthnasol
Trafod faint bydd yno os daw plentyn arall
Ein dillad ni
Cyfri gwrthrychau’n ddibynadwy
Dangos dealltwriaeth bod un peth
yn cyfateb i un arall drwy baru
gwrthrychau
Defnyddio cyfrif i ddatrys problem-
au mathemategol, syml wrth
chwarae mewn sefyllfaoedd bob
dydd
Ardal chwarae rôl- Amrywiaeth o
ddillad ar gyfer grwpio, cyfri a didoli
Hwpiau ar gyfer didoli neu lein ddillad
ar gyfer hongian dillad sydd â sip/
botwm
Cynnwys ystod o ddoliau/ tedis ar
gyfer eu gwisgo
Deall ac ymateb i ddisgrifiad
penodol a rhedeg o dan y parasiwt
e.e. pawb sydd â chot las
Didoli
Gweithgareddau gwisgo tedi
Gweithgareddau parhau a’r patrwm
ar y lein ddillad
Datrys problem, e.e. mae 4 maneg ar
y lein ddillad felly sawl plentyn bydd
yn medru gwisgo pâr o fenig?
Sawl peg fydd angen ar gyfer 3 crys t
ar y lein ddillad
Amser Cylch - Stori / Diod
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Stori
Gwrando ac ymuno mewn storïau sydd â thema fathemategol
Defnyddio termau ‘cyntaf, ‘ail’ a ‘trydydd’
Defnyddio termau ‘cyn’ ac ‘ar ôl’
Dangos ymwybyddiaeth o arddodiaid a symud
Adnabod rhifau a chysylltu’r rhif a’r nifer perthnasol
Dangos dealltwriaeth bod un peth yn cyfateb i un arall drwy baru gwrthrychau neu luniau
Adnoddau, gwrthrychau (sach/bocs stori) er mwyn ail ymweld ag ail adrodd y stori’n annibynnol
Lluniau o’r stori , lein ddillad a phegiau
Dillad chwarae rôl / mygydau / pypedau perthnasol o’r stori
Camera/llechen i gofnodi’r ail ddweud y stori
Gwrando ar y stori eto ar glustffonau / safle wê
Defnyddio gwrthrychau fel sbardun i osod y stori mewn trefn
Ail greu’r stori gan ddefnyddio offer chwarae rôl, trafod trefn y stori, ail adrodd geiriau a brawddegau
Gosod her i’r plant i ddarganfod pa lun o’r stori sydd yn y drefn anghywir
Plant i gyfateb symbolau sy’n
cynrychioli rhif wrth ddarllen y stori
e.e. Y 3 mochyn bach
Trafod clo gwahanol i’r stori e.e. Beth
os oedd y stori yn wahanol sef yr 8
mochyn bach. Beth all trefn y stori fod?
Gosod nifer o wrthrychau/ cymeriadau
mewn trefn ar linell rif e.e. Yr
anifeiliaid aeth mewn i’r Bath Mawr
Coch
Diod
Cyfri gwrthrychau ‘n ddibynadwy
Dangos dealltwriaeth bod un peth yn cyfateb i un arall drwy baru gwrthrychau
Defnyddio termau ‘cyntaf’, ‘ail’ , ‘trydydd’ ac olaf
Deall a defnyddio’r cysyniad o ‘un yn fwy / un yn llai’
Defnyddio cyfrif i ddatrys problemau mathemategol syml wrth chwarae mewn sefyllfaoedd bob dydd
Cymharu maint/ cymhwysedd drwy arsylwi’n uniongyrchol
Gellir cynnig amser snac / tocyn yn
rhan o’r ddarpariaeth barhaus am
½ awr bob sesiwn, lle mae’r plant
yn medru nôl eu diod/tocyn yn an-
nibynnol o fewn y sesiwn
Trefnu ar restr / poster pwy yw’r
monitor?/ Helpwr y dydd heddiw,
pwy fydd yfory? Pwy oedd ddoe?
Trafod geirfa fathemategol wrth i’r
plant sgwrsio wrth fwyta, ‘Sawl
darn sydd ‘da ti ar ôl? Wyt ti wedi
bwyta hanner yr afal?’
Plant i gyfri’r nifer o blatiau/ cwpanau sydd angen. Oes angen mwy / llai?
Tafod ac arllwys llaeth yn ôl cyfarwyddiadau llawn , gwag, hanner llawn, mwy, gormod
Torri ffrwythau yn hanner/ chwarter
Rhifo sawl darn sydd yn yr oren
Trafod faint sydd wedi gorffen, faint o ddiod sydd ar ôl
Staff i osod y nifer anghywir o lestri
allan fel bod y plant yn medru dweud
sawl un arall sydd angen neu sawl un yn
ormod sydd yno
Trafod faint o laeth sydd ar ôl yn y
botel? Rhagfynegi os oes digon ar gyfer
yfory? Digon ar gyfer faint o blant sydd
yno?
Trafod chwarter llawn wrth i’r plant
arllwys llaeth yn annibynnol, gelli'r
atgyfnerthu hyn wrth chwarae dŵr /
tywod.
3
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Mathemategol Estynedig
Cymharu, didoli a rhoi trefn ar ddau
wrthrych neu fwy ar sail cynhwys-
edd drwy arsylwi’n uniongyrchol
Canfod haneri mewn sefyllfaoedd
ymarferol
Cyfrif yn ddibynadwy
Defnyddio cyfrif i ddatrys
problemau mathemategol
Defnyddio unedau ansafonol i fesur
pwysau
Dangos dealltwriaeth bod un peth
yn cyfateb i un arall drwy paru
gwrthrychau
Dangos ymwybyddiaeth o bwrpas
arian
Estynedig
Adnabod a defnyddio enwau siap-
au 2D (cylch, triongl a sgwâr)
Cyfri a chyfateb 1 i 1
Adnabod rhifau 0-5 a chysylltu’r
rhif a’r nifer perthnasol
Ardal ddŵr a thywod
Casgliad o gynwysyddion i lenwi a
gwacau
Casgliad o lwyau o wahanol maint
Storiâu am barti
Ardal chwarae ròl
Cardiau rysait
Cegin mwd (ardal tŷ bach twy allanol)
Ardal fathemateg
Clorian
Llwyau
Gwrthrychau i bwyso—reis, pasta
sych
Siapiau 2D
Cardiau rhif ysgrifenedig ynghyd â
symbol i ddynodi’r nifer perthnasol
Ardal does
Toes lliwgar
Gwellt o wahanol hyd
Pwyso cynhwysion a choginio
cacennau bach
Trafod maint amrywiaeth o
ffrwythau a’u torri i wneud ‘kebabs’
ffrwythau. Cyfri y darnau o ffrwyth,
faint o ddarnau sydd angen ar gyfer
pawb yn y grŵp. Gosod y ffrwyth ar
welltyn mewn trefn penodol gan
bwysleisio ar iaith fathemategol-yn
gyntaf, yn ail ayyb
Gwneud jeli—cyfri’r darnau o jeli yn
y bloc. Mesur dŵr i ychwanegu
Mynd i’r siop i brynu cynhwysion i
wneud cacennau bach/’kebabs’ neu
greu siop yn y sefydliad-trafod arian
Creu graff lluniau o hoff ffrwythau
pawb yn y sefydliad. Cyfri a labelu’r
graff gyda’r rhif ysgrifenedig
Gwneud brechdanau a’u torri yn
hanner, chwarter neu mewn siâp
sgwâr, triongl
Gosod y bwrdd ar gyfer parti-cyfri’r
plant, platiau, cwpanau, brechdan-
au, cacennau ayyb
Bwyta ac yfed—Mathemateg Parti 1 a 2
5
4
3
2
1
Casgliadau - Casglu / Tacluso
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Casglu
Cyfrif gwrthrychau’n ddibynadwy
Cymharu a didoli i roi trefn ar ddau
wrthrych neu mwy
Defnyddio cyfrif i ddatrys
problemau mathemategol
Copïo patrymau a dilyniannau syml
Estynedig
Didoli a chyfateb gwrthrychau drwy
adnabod elfennau tebyg
Dechrau cofnodi casgliadau drwy
wneud marciau
Adnabod rhifau 0-5 a chysylltu’r
rhif a’r nifer perthnasol
Ardal Darganfod-
Casgliad o wrthrychau yn ôl y
thema e.e. Lan y môr-cregyn,
Hydref-dail amryliw.
Darn o bapur hir a chul i osod y
patrwm arno
Storiâu am yr Hydref
Chwyddwydr
Camera / Llechen
Sialc
Enghreifftiau o gardiau patrwm
gwrthrychau er mwyn i’r plant
parhau gyda’r patrwm
Cardiau rhif ysgrifenedig ynghyd â
symbol i ddynodi’r nifer perthnasol
Rhifo nifer o wrthrychau e.e. sawl
deilen fach oren sydd yma?
Gosod cregyn mewn pentyrrau yn
ôl maint (bach, canolig, mawr) lliw
neu siâp
Rhannu 6 deilen rhwng 2 neu 3
plentyn
Oedolyn yn cychwyn patrwm a
phlentyn i’w barhau e.e. cragen
fawr, cragen bach….
Defnyddio’r gwrthrychau i greu graff
syml (3D) a chofnodi drwy ddefnyddio
camera/llechen
Cofnodi nifer o
wrthrychau penodol
drwy wneud marciau
rhicbren
Dod o hyd i nifer o wrthrychau i
gyfateb rhif ysgrifenedig ynghyd â
symbol gwerth rhif
Tacluso
Defnyddio cysyniad o amser mewn
perthynas â’u gweithgareddau bob
dydd
Amserydd tywod
Sticeri i wobrwyo tacluso (Os bydd
rhai yn llai parod i dacluso)
Gosod her i’r plant dacluso / didoli’r
adnoddau i’r bocsys cywir cyn bod y
tywod wedi rhedeg drwy’r
amserydd
5
Chwarae rôl— yn y tŷ bach twt
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Yn y tŷbach twt
Didoli a chyfateb gwrthrychau
drwy adnabod elfennau tebyg
Deall a defnyddio’r cysyniad o ‘un
yn fwy’ ac ‘un yn llai’ wrth chwarae
Cyfrif yn ddibynadwy
Cymharu dau wrthrych neu fwy ar
sail maint
Adnabod ac enwi siapiau 2D
Estynedig
Defnyddio geiriau sy’n disgrifio
tymheredd mewn gweithgareddau
bob dydd
Dangos dealltwriaeth bod un peth
yn cyfateb i un arall drwy baru
gwrthrychau
Defnyddio’r termau ‘cyntaf’, ‘ail’,
‘trydydd’ ac ‘olaf’ mewn gweith-
gareddau chwarae
Ardal chwarae rôl (tu mewn a thu all-
an)
Llestri amrywiol
Matiau bwrdd
Doliau o wahanol feintiau
Gwelyau /cadeiriau i’r doliau
Cysgodion o’r llestri er mwyn
cynorthwyo gyda tacluso
Bocsys/silffoedd wedi’u labeli gyda
lluniau o’r gwrthrychau
Llyfr ffôn
Ffôn tŷ a ffôn symudol
Llyfrau ryseitiau
Lein ddillad
Ardal mathemateg
Casgliad o lwyau—gwahanol math
a maint
Ardal marcio/celf
Deunyddiau collage amrywiol i
greu matiau bwrdd, lliain bwrdd
Oedolyn i fodelu gweithgar-
eddau wrth chwarae gyda’r
plant yn y tŷ bach twt e.e.
chwilio am /’ysgrifennu’ rhif
ffôn, gosod y bwrdd, didoli
offer wrth dacluso
Trefnu llestri /llwyau yn ôl
maint
Didoli casgliad o lwyau yn ôl
math e.e. metal, pren, plastig.
Cyfri faint sydd ymhob set.
Defnyddio siapiau amrywiol a
phaent ffabrig i argraffu lliain
bwrdd
Didoli dillad:
i) yn ôl y tywydd - trafod tywydd
oer/tywydd poeth
ii) paru sanau a’u gosod ar y lein
ddillad
Dilyn cyfarwyddiadau er mwyn
hongian dillad doli ar y lein ddillad
yn y drefn gywir
Chwarae rôl— yn y siop
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Mathemategol Estynedig
Yn y siop
Didoli a chyfateb gwrthrychau
drwy adnabod elfennau tebyg
Dangos ymwybyddiaeth o bwrpas
arian drwy chwarae rôl
Cyfrif yn ddibynadwy
Cymharu dau wrthrych neu fwy ar
sail pwysau
Dangos dealltwriaeth bod un peth
yn cyfateb i un arall drwy baru
gwrthrychau
Estynedig
Dangos ymwybyddiaeth o bwrpas
arian drwy chwarae rôl
Defnyddio cyfrif i ddatrys prob-
lemau mathemategol syml wrth
chwarae ac mewn sefyllfaoedd
pob dydd
Ardal chwarae rôl—siop (i gyd fynd
a’r thema, os bosib)
Casgliad o wrthrychau i ‘werthu’
yn ôl y thema e.e. Lan y môr, Parti,
Anifeiliaid Anwes, Swyddfa Bost
ayyb
Til
Arian ffug
Rhestr prisiau
Ffôn
Rhestr siopa
Basgedi siopa
Pwrs arian
Cerdyn ‘credit’
Llyfr siec
Clorian
Bagiau
Troli siopa
Oedolyn i fodelu gweithgareddau
wrth chwarae gyda’r plant yn y siop
e.e. prynu/gwerthu nwyddau, cym-
ryd taliad a rhoi newid
Didoli darnau arian
Pwyso gwrthrychau gan ganol-
bwyntio ar gyflwyno ‘iaith bwyso’ -
trwm ac ysgafn, yn drymach, yn
ysgafnach, trymaf, ysgafnaf
Ymweld â siop leol a phrynu
nwyddau e.e. i weithgaredd cogin-
io , i anifail anwes
Creu siop i gyd fynd a’r thema e.e.
canolfan arddio
Cyfnewid arian am gasgliad o
nwyddau ar restr siopa
Creadigol - Argraffu / Creu Modelau
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Argraffu
Dangos dealltwriaeth bod un peth yn cyfateb i un arall
Defnyddio’r termau ‘cyntaf’, ’ail’, ’trydydd’ ac ‘olaf’
Defnyddio termau ‘cyn’ ac ‘ar ôl’
Adnabod a defnyddio enwau siapiau 2D
Defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ddatblygu’r cysyniad o gymesuredd
Didoli a chyfateb gwrthrychau
Ardal marcio / baentio– cynnig offer argraffu o’r rhestr adnoddau ond nid popeth yr un pryd. Mae angen i’r plant fedru cyrraedd yr adnoddau yn annib-ynnol gan gynnwys paent a phapur
Gosod stribedi hir o bapur er mwyn creu’r gwaith argraffu
Gosod cardiau o waith plant er mwyn i eraill gopïo’r patrwm
Defnyddio offer cyferbyniol e.e. Gwrthrychau hir/byr, mawr/bach, llydan a chul
Creu cardiau sy’n modelu siapiau tonnog, troellog
Cyflwyno a defnyddio geirfa fathemategol wrth dasg ffocws
Creu llun o waith argraffu sy’n gymesur a llun arall
Dechrau patrwm er mwyn i’r plant barhau gyda’r patrwm
Argraffu gwaith a phlygu’r papur i greu delwedd gymesur
Rhannu lluniau cymesurol yn hanner a
chreu gêm gymesur i uno’r darnau yn
ôl-a yw’r lliwiau siapiau yn gymesur?
Creu lluniau gan ganolbwyntio ar
siapiau 2D a chyflwyno rhai siapiau
newydd e.e. Pentagon, hecsagon
Creu offer argraffu er mwyn creu
siapiau hir, byr, troellog e.e. cortyn
mewn paent
Creu Modelau
Cymharu, didoli a rhoi trefn ar wrthrychau ar sail maint, pwysau neu gynhwysedd drwy arsylwi’n uniongyrchol
Dilyn cyfarwyddiadau dau gam i wneud symudiadau syml
Dangos ymwybyddiaeth o arddod-iad a symud yn ystod gweithgaredd-au symud
Defnyddio ac adeiladu siapiau 3D wrth chwarae
Ardal Clai / Crefft– Posteri i ysgogi
gwaith 3D e.e. Modelau o adeiladau,
cymeriadau, trychfilod.
Newid yr adnodd a chynnig ystod o
adnoddau
Cynnwys camera yn yr ardal er
mwyn cofnodi gwaith a defnyddio’r
lluniau er mwyn i eraill efelychu
Modelu sgiliau penodol e.e. Sut i greu sffêr o glai neu uno defnyddiau a glud/ tâp selo
Creu peli toes fel grŵp bach a’u gosod mewn trefn maint
Creu gwrthrych ar gyfer cymeriad neu adnodd ar gyfer stori e.e. Asgwrn i Doti neu bowlen maint addas ar gyfer Elen Benfelen
Torri toes siapiau 2D a chreu patrwm
Wedi creu stryd o focsys gellir defnydd-
io ‘Bee Bot’ er mwyn cyrraedd y tai/
adeiladau cyfarwydd e.e. Sawl clic sydd
angen er mwyn i cyrraedd Caffi Dewi?
Sawl plentyn fyddai’n medru mynd
mewn i’r guddfan bocsys, castell
Caernarfon neu’r tŷ bach twt?
troellog
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Paent a chyfryngau eraill
Cymharu gwrthrychau ar sail maint drwy arsylwi’n uniongyrchol
Dangos ymwybyddiaeth o arddodiaid
Adnabod a defnyddio enwau siapiau 2D
Defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ddatblygu’r cysyniad o gymesuredd
Dechrau cofnodi casgliadau drwy wneud marciau
Copïo patrymau a dilyniannau syml gweledol a chlywedol
Ardal baentio Mae angen i’r paent fod allan yn barhaus yn yr ardal a bos y plant yn medru mynd at yr adnoddau gan gynnwys ffedogau yn annibynnol
Cynnwys ffotograffau neu wrthrychau go iawn i ysgogi’r plant
Llyfrau neu luniau o storïau thema
Lluniau o waith artist enwog/lleol
Arddangosfa o sut i greu lliwiau penodol
Trafod gwaith artistiaid e.e. Matisse ac artistiaid o Gymru e.e. Aneurin Jones. Tafod nodweddion y lluniau o ran testun, lliw, siapiau a chyfrwng
Trafod y siapiau sydd yn y llun e.e. Y Falwen. Torri siapiau i greu llun trychfil
Creu llun cyfrifiadurol
Paentio set o luniau i gefnogi gwaith thema e.e. Bowlen o uwd bach, canolig a mawr
Gwaith unigol creu portread gan ganolbwyntio ar siâp a lliw
Gwisgo dillad chwarae rôl e.e. Ffarmwr fel lluniau Aneurin Jones cyn dylunio / paentio er mwyn trafod rhannau o’r corff, beth sydd yn dod gyntaf, beth sydd yn is na’r pen-glin a.y.b.
Tafod ac arbrofi sut mae cymysgu lliwiau. Trafod sut mae goleuo a thywyllu lliw
Trafod papur lapio, gosod cownter ar bob tedi bach, sawl un sydd yna?
Tywallt a llenwi - Dŵr Cyfri’n ddibynadwy
Deall a defnyddio mwy / llai
Dangos dealltwriaeth bod un peth yn cyfateb i un arall
Cymharu, didoli a rhoi trefn wrth-rychau ar sail maint, pwysau neu gynhwysedd drwy arsylwi'n union-gyrchol
Dangos ymwybyddiaeth o arddod-iaid
Ardal ddŵr - Mae angen sicrhau nad oes gormodedd o adnoddau chwarae
Cynhwysyddion o faint amrywiol
Geirfa i gefnogi staff
Lluniau/ ffotograffau i gefnogi gwaith thema e.e. Lan y môr, afon
Olwyn a phwmp ddŵr, pibelli
Ffedogau o fewn cyrraedd y plant
Ardal ddŵr mawr / allanol - pibellau mawr, caniau dyfrio, rolwyr paent, brwshys mawr paentio
Llenwi cwpan llawn/hanner
Trosglwyddo dŵr dros, dan, pell, agos
Arllwys araf a chyflym
Pysgota gwrthrychau thema a’u rhifo
Creu ardal ddŵr sy’n cyd-fynd a stori e.e. Bili Broga, Bath Mawr Coch
Ardal ddŵr allanol- Sut i dros-glwyddo dŵr o’r cafn ddŵr i’r planhigion / ardal arall
Llenwi peipen / cynhwysydd 1-5/1-10
Chwythu swigod bach, canolig, mawr, anferth, mwy, llai, uchel, isel, nifer
Sawl cwpan o ddŵr eith mewn i’r bwced? Sawl paned gallwn gael allan o’r tebot. Rhagfynegi canlyniadau.
Creu cwch i gludo 4 dyn lego/ 8 eliffant canolig
Cyflwyno chwarter llawn
Creadigol - Paent a chyfryngau eraill
Coch Gwyn
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Dilyn cyfarwyddiadau dau gam i
wneud symudiadau syml
Dangos ymwybyddiaeth o
arddodiad
Adnabod a defnyddio enwau
siapiau 2D yn eu hamgylchedd
Defnyddio cyfrif i ddatrys
problemau mathemategol
Adnabod y rhifau 0 i 9
Dechrau cofnodi casgliadau drwy
wneud marciau
Copïo patrymau syml
Estynedig
Adnabod y rhifau 1 i 5 a chysylltu’r
rhif a’r nifer perthnasol
Defnyddio amrywiaeth o
gyfryngau i ddatblygu’r cysyniad o
gymesuredd
Ardal darganfod-
Gwrthrychau a gasglwyd wrth fynd
am dro
Darn o bapur hir a chul i osod y
patrwm arno
Chwyddwydr
Camera neu llechen/tabled
electronig
Sialc
Cardiau rhif ysgrifenedig ynghyd â
symbol i ddynodi’r nifer perthnasol
Ardal adeiladu
Brics
Blociau pren
Ardal mathemateg
Siapiau 2D
Ardal marcio/celf
Lluniau syml i’w
gwblhau (cymesuredd)
Drych
Defnyddio camera neu llechen/
tabled electronig i dynnu lluniau
i drafod nôl yn y sefydliad
Creu lluniau gan ddefnyddio
gwrthrychau â gasglwyd—
defnyddio camera/llechen/
tabled i dynnu llun o’u gwaith.
Cyfri’r nifer o wrthrychau a
ddefnyddiwyd a’u didoli/trefnu
e.e yn ôl maint
Creu a dilyn patrymau gan
ddefnyddio’r gwrthrychau â
gasglwyd
Chwilio am rif penodol o
wrthrychau a’u gludo i ddarn o
gerdyn gan ddefnyddio tâp gludiog
dwy ochrog
Defnyddio drych i ddangos y cysyn-
iad o gymesuredd. Creu lluniau
sy’n gymesur gan ddefnyddio
amrywiaeth o gyfryngau
O’n Cwmpas—Mynd allan am dro fathemategol/ Mynd am dro rhifo
3
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemat-
egol Estynedig
Gweithgareddau Corfforol
Sylweddoli bod modd cyfrif unrhyw
beth e.e. clapiau, camau
Cyfrif yn ddibynadwy
Defnyddio termau ‘cyntaf’, ‘ail’,
‘trydydd’ ac ‘olaf’ mewn
gweithgareddau beunyddiol a
chwarae
Dilyn cyfarwyddiadau dau gam i
wneud symudiadau syml mewn
gemau a gweithgareddau chwarae
Estynedig
Adnabod y rhifau 0-5
Dechrau cofnodi casgliadau drwy wneud marciau
Adnabod a defnyddio enwau siapiau 2D
Ardal Allanol
Amrywiaeth o offer i greu
gemau e.e. bagiau ffa, bwcedi,
bocsys, cylchoedd mawr a bach
Camera neu lechen /tabled
electronig
Sialc
Amserydd tywod a/neu
amserydd cegin
Chwarae’r gêm ‘Dilyn y clap/iau’
Chwarae’r gêm ‘Faint o’r gloch yw hi
Mr Blaidd’
Taflu bagiau ffa at darged e.e. Cylch-
oedd mawr, bocsys gwag, bwcedi ayyb
Cymryd tro (mewn grŵp bach) i daflu
gwrthrych at darged, chwarae ‘hop
scotch’ ayyb
Dilyn cyfarwyddiadau e.e.’cerddwch at
y cylch gwyrdd a rhedwch at y sgwâr
melyn’
Defnyddio amserydd tywod i weld faint
o fagiau ffa maint yn medru taflu i
mewn i fwced mewn munud. Cyfri y
nifer o fagiau ffa.
Taflu bagiau ffa at darged e.e.
cylchoedd, bocsys gwag, bwcedi,
siapiau 2D gyda rhif arnynt.
Cofnodi ‘sgôr’ drwy wneud
marciau rhicbren
Gemau parasiwt-dilyn
cyfarwyddiadau syml
Defnyddio offer mawr
Dangos ymwybyddiaeth o
arddodiad yn ystod eu
gweithgareddau ymarferol
Ardal allanol
Conau i’r plant greu sialens i’w
hunain wrth ddefnyddio
beiciau/teganau ag olwynion
Amserydd tywod
Gosod her i’r plant gwblhau cwrs
rhwystyr syml cyn bod y tywod yn
rhedeg drwy’r amserydd tywod
Symud—Gweithgareddau Corfforol/ Defnyddio offer mawr
Tywallt a llenwi - Tywod gwlyb
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau Mathemategol
Estynedig
Tywod gwlyb
Dangos dealltwriaeth bod un peth yn cyfateb i un arall
Cymharu, didoli a rhoi trefn wrthrychau ar sail maint, pwysau neu gynhwysedd drwy arsylwi'n uniongyrchol
Adnabod a defnyddio siapiau 2D (Cylch, sgwâr, triongl)
Defnyddio amrywiaeth o gyfryngau i ddatblygu’r cysyniad o gymesuredd
Didoli a chyfateb gwrthrychau drwy adnabod elfennau tebyg
Copïo patrymau a dilyniannau syml
Ardal dywod - Mae angen sicrhau nad oes gormod o adnoddau chwarae yn y tywod. Mae angen lle i’w storio ar wahân i’r tywod er mwyn i’r plant wneud penderfyniad-au a bod digon o le i fynd at y tywod
Cynhwysyddion o faint amrywiol
Hwpiau i greu gwaith grwpio
Adnoddau ar gyfer marcio e.e. Brigau, pren lolipop
Geirfa i gefnogi staff
Lluniau/ ffotograffau i gefnogi gwaith thema
Rhannu gwrthrychau mewn i grwpiau ar ôl eu tynnu o’r tywod e.e. Cregyn, siapiau, rhifau a’u rhannu yn ôl nifer/ maint neu liw
Copïo cardiau siapiau / marciau
Cardiau gwaith o waith plant blaenorol er mwyn i blant eraill gopïo
Gosod heriau i’r plant e.e. Creu castell sy’n dalach na Doti
Adeiladu ffordd / trac rasio digon llydan i’r car coch a’r car melyn
Copïo cardiau sy’n canolbwyntio ar nifer, siâp, maint neu batrwm
Cyflwyno siapiau 3D (Ciwb, côn, silindr)
Tywod sych
Cyfri gwrthrychau’n ddibynadwy
Dangos ymwybyddiaeth o arian
Didoli a chyfateb gwrthrychau drwy adnabod elfennau tebyg
Adnoddau amrywiol e.e. Olwyn ddŵr/tywod, twndis, rhidyll bras, tafol sy’n cydbwyso, tiwbiau, a chynhwysyddion sydd â thyllau bach a mawr
Geirfa fathemategol
Darganfod gwrthrychau yn y tywod i gefnogi ‘r thema/cyflwyno geirfa a’u cyfri
Darganfod trysor / arian yn y tywod
Rhannu’r arian a’u didoli o ran maint /
lliw (arian ac efydd)
www.meithrin.cymru @MudiadMeithrin
Facebook.com/MudiadMeithrin