79
TGAU Busnes 3 Gweithrediada u Busnes

Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes 3

Gweithrediadau Busnes

Page 2: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

MynegaiGweithrediadau busnes

– 1 Dulliau cynhyrchu –

2 Ansawdd – 10

Y gadwyn gyflenwi – 17

Y broses werthu – 33

Page 3: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Gweithrediadau busnesMae'n rhaid i fusnes drefnu a rheoli ei adnoddau a'i swyddogaethau allweddol er mwyn cyflawni ei weithgareddau a'i weithrediadau. Bydd y ffordd y bydd y rhain yn cael eu trefnu yn dibynnu ar beth mae'r busnes yn ei gynhyrchu neu ei werthu, y farchnad maen nhw'n gweithredu ynddi, a pha mor fawr yw'r busnes.Mae rheoli gweithrediadau yn arbennig o bwysig i wneuthurwyr: busnesau sy'n cymryd deunyddiau crai a/neu gydrannau ac yn eu troi yn gynhyrchion gorffenedig ar gyfer cwsmeriaid sydd naill ai'n ddefnyddwyr neu'n gynhyrchwyr. Ond mae hefyd yn bwysig ar gyfer diwydiannau gwasanaethu, gan fod yn rhaid iddyn nhw hefyd drefnu eu hadnoddau'n effeithlon er mwyn rhoi profiad da i'w cwsmeriaid a gwneud elw.

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

• Ddulliau cynhyrchu• Ansawdd• Y gadwyn gyflenwi• Y broses werthu

Page 4: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Dulliau cynhyrchu

Cynhyrchu yw'r broses o droi deunyddiau crai, cydrannau ac adnoddau eraill yn gynnyrch neu wasanaeth sy'n gallu cael ei werthu. Mae'n rhaid i fusnes benderfynu sut i drefnu ei gynhyrchu. Bydd y modd y mae busnes yn trefnu ei gynhyrchu yn dibynnu ar y cwestiynau allweddol hyn:

• A ddylai pob cynnyrch neu wasanaeth gael ei gynhyrchu ar wahân?• A ddylai'r cynnyrch neu'r gwasanaeth gael ei gynhyrchu fesul sypiau?• A ddylai’r cynnyrch neu'r gwasanaeth gael ei gynhyrchu'n barhaus?

Bydd yr elfennau canlynol yn dylanwadu ar y penderfyniad:

• Cost – pa ddull cynhyrchu sydd rhataf?• Ansawdd – pa un fydd yn sicrhau'r cynnyrch neu'r gwasanaeth o'r ansawdd

cywir ar gyfer y cwsmer?• Maint – faint sydd angen ei wneud neu ei ddarparu?

Mae tri dull cynhyrchu allweddol y gall busnes eu defnyddio i gynhyrchu ei gynhyrchion:

• Cynhyrchu yn ôl y gwaith• Swp-gynhyrchu• Llif-gynhyrchu (masgynhyrchu)

Cynhyrchu yn ôl y gwaith

Mae cynhyrchu yn ôl y gwaith yn golygu gwneud un cynnyrch neu ddarparu un gwasanaeth ar y tro er mwyn ateb gofynion penodol y cwsmer. Bydd pob cynnyrch neu wasanaeth yn unigryw (enw arall am hyn yw ‘ar archeb’) ac fel arfer mae'r ddarpariaeth hon o ansawdd uchel ac am bris uwch. Mae enghreifftiau o gynhyrchu yn ôl y gwaith yn cynnwys:

• Ffrogiau priodas i briodferch sydd yn aml yn unigryw ac yn cael eu dylunio yn unol â gofynion penodol y briodferch.

• Datblygiadau adeiladu mawr fel pontydd ac adeiladau sydd yn cael eu dylunio gan benseiri i gyd-fynd â gofynion penodol y cwsmer.

• Dodrefn unigryw o ansawdd uchel sy'n defnyddio defnyddiau o’r safon uchaf adyluniadau unigol.

• Triniwr gwallt a fydd yn torri gwallt y cwsmer gan greu’r union steil y gofynnodd ycwsmer amdano.

Page 5: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

Yn aml mae cynhyrchion sy'n cael eu cynhyrchu yn ôl y gwaith yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fechan iawn a gan weithwyr tra medrus, a gall gymryd amser hir i'w cwblhau. Am y rhesymau hyn, ynghyd â'r ffaith fod ansawdd y cynnyrch a'r costau cynhyrchu yn uchel iawn fel arfer, mae cynhyrchion sy'n cael eu cynhyrchu yn y ffordd hon yn ddrud iawn i'w prynu.

Y prif broblemau sy'n gysylltiedig â'r dull hwn o gynhyrchu yw:• Mae’r costau am bob nwydd yn dueddol o fod yn uchel oherwydd bod y

rhediadau cynhyrchu’n fyr ac mae'r gweithwyr yn dra medrus ac felly byddant yn gofyn am gyflog uwch.

• Bydd offer arbenigol yn dueddol o gael ei danddefnyddio – dim ond un erfyn gall y gweithiwr ei ddefnyddio ar y tro.

• Yn aml mae'r amser cynhyrchu'n hir iawn.

Mae'r manteision i ddefnyddwyr yn cynnwys:

• Bydd y cynhyrchion a'r gwasanaethau yn cyd-fynd â chwaethau'r defnyddwyr a’u gofynion unigol.

Mae Jack Lewis yn deiliwr dawnus sy'n mwynhau gwneud crysau a siwtiau unigol ar gyfer ei gwsmeriaid. Mae'n gweithio ar ei ben ei hun yn ei dŷ. Mae ei greadigaethau'n ddrud ond mae galw mawr amdanynt am eu bod o waith llaw medrus ac yn unigryw. Mae Jack yn caelllawer o fodlonrwydd swydd yn ei waith ac mae'n cynhyrchu un eitem ar y tro fel y gall roi ei holl sylw iddi. Yn aml bydd ei gwsmeriaid yn ymweld ag ef yn ystod y broses o gynhyrchu'r dilledyn a bydd Jack yn gwneud newidiadau os nad yw'r cwsmer yn hoffi beth mae'n ei wneud neu os ydynt yn newid eu meddwl. Mae Jack yn hapus i wneud hyn am ei fod eisiau i'r cwsmer fod yn fodlon ar beth mae'n ei wneud.

1. Defnyddiwch y data uchod i egluro pam mae hon yn enghraifft dda o gynhyrchu yn ôl ygwaith

2. Beth yw manteision y math hwn o gynhyrchu i'r cwsmer?

3. Beth yw anfanteision y math hwn o gynhyrchu i'r cwsmer?

Page 6: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

4

• Mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau yn gyfyngedig / unigryw felly ni fydd gan lawer obobl eraill gynhyrchion tebyg.

• Bydd y cynhyrchion yn ffitio mewn man penodol neu byddant o faint penodol.

• Yn gyffredinol bydd y cynhyrchion a’r gwasanaethau o ansawdd uwch gan fod y nwyddau'n cael eu llunio gyda mwy o ofal.

Mae'r anfanteision i ddefnyddwyr yn cynnwys:

• Mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau’n dueddol o werthu am brisiau uwch na chynhyrchion swp-gynhyrchu, gan fod mwy o sylw'n cael ei dalu yn ystod y broses weithgynhyrchu. Mae'r gweithwyr yn dueddol o feddu ar lefelau sgiliau uwch ac felly yn ennill cyflog uwch.

• Mae'n rhaid aros am gynhyrchion a gwasanaethau gan fod angen mwy o amser i'wcwblhau oherwydd bod mwy o drylwyredd a bod yr ansawdd yn uchel.

• Bydd yn anodd dod o hyd i eitemau newydd gan fod y cynhyrchion wedi eu gwneud at bwrpas penodol ac yn dilyn dyluniad penodol. Mae hyn yn golygu hefyd y gallai dod o hyd i ddarnau sbâr fod yn anoddach ac yn ddrutach.

Swp-gynhyrchu

Swp-gynhyrchu yw pan mae nifer o'r un cynhyrchion yn cael eu gwneud mewn un swp, bydd y cynhyrchion hyn yn symud gyda'i gilydd trwy'r gwahanol gamau cynhyrchu. Mae pob swp yn cael ei orffen cyn i'r swp nesaf gael ei gychwyn. Mae'r holl eitemau yn y swp yr un peth, felly mae'r cynhyrchu'n gyflymach ac mae cost llafur yn is. Mae hyn yn arwain at arbedion mewn costau y gellir eu trosglwyddo i'r cwsmer drwy brisiau rhatach.

Gall enghreifftiau o gynhyrchion a wneir mewn sypiau gynnwys:• Siop fara sy'n gwneud swp o fara neu deisennau, mae rhywfaint o does yn cael ei

wneud ac yna ei rannu'n feintiau llai i wneud bara. Yna bydd y pobydd yn pobi 24 torth o fara unfath yn y ffwrn.

• Gwneuthurwr fframiau lluniau sy'n gosod ei beirianwaith i dorri pren i wneud swp o A-fframiau ar gyfer lluniau maint A4 yna’n newid y peiriant i dorri pren i wneud swp o fframiau ar gyfer lluniau maint A5.

• Gwneuthurwr dillad yn gwneud hosanau o wahanol liwiau a meintiau.

Page 7: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

5

Mae siop ddillad dynion leol wedi cysylltu â Jack Lewis, y teiliwr dawnus sy'n gwneud crysau a siwtiau unigol i'w gwsmeriaid. Maen nhw eisiau iddo wneud 20 siwt, a phob un o'r un dyluniad, ond mewn gwahanol feintiau, i'w gwerthu yn ei siop. Mae Jack yn cytuno i wneud hyn ac mae'n rhaid iddo gyflogi dau weithiwr dros dro i'w helpu gyda'r gwaith ychwanegol.1. Pa ddull fyddai'r mwyaf priodol nawr i wneud y 20 siwt? Beth yw

manteision y dull cynhyrchu hwn?2. A fydd y pris mae Jack yn ei godi wrth werthu'r siwtiau i'r siop yr un peth â'r

pris mae'n codi am ei siwtiau unigryw? Eglurwch eich ateb.3. Beth allai ddigwydd i ansawdd y 20 o siwtiau o gymharu â'r siwtiau a

gynhyrchwyd yn unigol?

Mae manteision swp-gynhyrchu'n cynnwys:

• Gellir cynhyrchu mwy o gynhyrchion i ddarparu ar gyfer gwerthiant uwch.

• Mae costau cynhyrchu pob cynnyrch (costau uned) yn is.• Mae'r cynhyrchu'n fwy effeithlon gan y gall gweithwyr arbenigo mewn cyflawni

tasgau penodol.

• Gellir defnyddio peirianwaith arbenigol i gyflymu'r cynhyrchu.

Mae anfanteision swp-gynhyrchu'n cynnwys:

• Nid yw'r cynhyrchion bellach yn cael eu cynhyrchu yn unol â manyleb unigryw.• Nid yw'r ansawdd mor uchel o gymharu â chynhyrchu yn ôl y gwaith ac mae llai

o amser a gofal yn cael eu cymryd ar gynhyrchion unigol.• Efallai bydd angen lefel uchel o stoc felly bydd yn rhaid storio defnyddiau ac mae

hyn yn ddrud.

• Mae'n rhaid glanhau ac ailosod peiriannau cyn cynhyrchu swp gwahanol – mae hyn yn cymryd amser ac yn ychwanegu at y costau.

Llif-gynhyrchu (masgynhyrchu)

Enwau eraill am lif-gynhyrchu yw masgynhyrchu neu gynhyrchu llinell gydosod. Dyma ble mae cynhyrchu'n digwydd fel proses barhaus. Mae'r cynnyrch yn llifo o'r un broses i'r nesaf. Fel arfer bydd hyn yn digwydd ble mae'r cynhyrchion yn unfath a gellir eu gwneud gan ddefnyddio dull llinell gynhyrchu. Mae'r dull hwn yn cael ei ddefnyddio mewn ffatrïoedd a gan y rhan fwyaf o wneuthurwyr modern sy'n cynhyrchu ar raddfa fawr. Mae'r cynhyrchion yn cael eu gwneud yn barhaus ac mewn niferoedd mawr. Mae'r cynhyrchion yn unfath ac felly gellir cynhyrchu meintiau mawr mor rhad â phosibl.

Mae pob gweithiwr yn ychwanegu un rhan at y cynnyrch gorffenedig wrth iddo fynd heibio

Page 8: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

6

iddyn nhw ar y llinell gynhyrchu, felly maen nhw'n dod yn arbenigwyr yn y peth maen nhw'n ei wneud. Bydd peirianwaith arbenigol o gymorth mawr i'r gweithwyr. Trwy arbenigo mewn un rhan benodol o'r broses mae'r gweithwyr yn dod yn arbenigwyr yn eu gwaith a gall hyn wella effeithlonrwydd a lleihau'r costau i'r busnes. Mae arbenigo'n ymwneud â rhaniad llafur, wrth i weithwyr ganolbwyntio ar dasgau penodol yn y broses gynhyrchu.

Ledled y byd, mae defnyddwyr yn galw am feintiau anferth o gynhyrchion ac mae masgynhyrchu'n caniatáu i fusnesau gyflenwi cynhyrchion yn barhaus i gwrdd â'r galw hwn. Mae'r rhan fwyaf o nwyddau traul modern yn cael eu cynhyrchu fel hyn.

Dyma rai o fanteision llif-gynhyrchu:• Gall mwy o gynhyrchion gael eu cynhyrchu wrth ddefnyddio'r dull yma o'i

gymharu â dulliau eraill.

• Gyda rhediadau cynhyrchu hir, mae'r costau uned yn isel felly gall cynhyrchion gael eu gwerthu am brisiau is.

• Gall gweithwyr fod yn fedrus iawn yn beth maen nhw'n ei wneud gan eu bod yn gwneud yr un dasg dro ar ôl tro.

• Dim ond cyfnodau hyfforddi byr sydd eu hangen gan mai nifer fechan o sgiliau yn unig sydd angen eu dysgu i'r gweithwyr.

Dyma rai o anfanteision llif-gynhyrchu:

• Mae cost uchel i'r peirianwaith wrth baratoi'r llif-gynhyrchu. Gall peirianwaith gostio miliynau o bunnoedd i'w brynu.

• Diffyg hyblygrwydd gan fod llif-gynhyrchu'n cynhyrchu cynhyrchion unfath, beth os yw cwsmer eisiau addasiad bach i'r cynnyrch?

Page 9: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

7

Mae siwtiau a chrysau Jack Lewis wedi tynnu sylw adwerthwr mawr a fyddai eisiau i Jack gyflenwi 2 000 o siwtiau a 4 000 o grysau i'w gwerthu yn eu 250 o siopau o gwmpas y DU. Byddai Jack yn hoffi gwneud hyn ond mae'n sylweddoli y bydd rhaid iddo newid ei ddulliau cynhyrchu. Mae'n rhentu adeilad mawr, yn prynu peirianwaith ychwanegol ac yn cyflogi 6 o weithwyr parhaol. Mae'n trefnu'r cynhyrchu ar sail llinell gydosod ac mae pob un o'r 6 gweithiwr yn gyfrifol am eu rhan eu hunain o'r broses gynhyrchu. Er bod elw Jack yn uwch, mae'n colli'r cyswllt personol â'r cwsmeriaid a nawr mae ei holl siwtiau a chrysau'r un peth. Nawr mae Jack wedi symud i fasgynhyrchu.1. A fydd y pris mae Jack yn ei godi wrth werthu'r siwtiau i'r adwerthwyr mawr yr

un peth â'r pris a gododd i'r un siop? Eglurwch eich ateb.

2. Beth yw'r risgiau mae Jack yn eu hwynebu nawr? Eglurwch eich ateb.

3. Amlinellwch fanteision ac anfanteision masgynhyrchu ar gyfer Jack a'i gwsmeriaid.

Yn gyffredinol bydd busnesau ar raddfa fechan yn defnyddio cynhyrchu yn ôl y gwaith a swp-gynhyrchu gan nad oes ganddynt yr adnoddau i brynu’r offer llif-gynhyrchu, na'r galw gan gwsmeriaid. Bydd llawer o fusnesau bach yn anelu at fuddsoddi mewn peirianwaith sy'n caniatáu iddyn nhw ddefnyddio masgynhyrchu os ydynt eisiau tyfu a gwerthu mwyo gynhyrchion. Er bod y rhan fwyaf o fusnesau ar raddfa fawr, fel cwmnïau amlwladol, yn debygol o ddefnyddio masgynhyrchu er mwyn cwrdd â'r galw am eu cynhyrchion, gall rhai gwneuthurwyr mawr ddal i ddefnyddio cynhyrchu yn ôl y gwaith a chymysgedd o swp- gynhyrchu a masgynhyrchu.

Wrth benderfynu ar y dull mwyaf priodol o gynhyrchu, bydd angen i fusnes ystyried:

• Y nifer i'w cynhyrchu

• Yr ansawdd a ddisgwylir gan y cwsmer

• Costau buddsoddi

• Hyblygrwydd y cynhyrchu

Page 10: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

8

Darllenwch y data isod ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Mae'r Morgan Motor Company yn wneuthurwr ceir teuluol Prydeinig sydd wedi bod yn cynhyrchu ceir ers 1909. Mae ceir Morgan yn enwog am eu cyfuniad unigryw o garisma, defnyddiau o ansawdd, crefftwriaeth a pherfformiad. Mae Morgan yn adeiladu tua 1 300 o geir y flwyddyn. Mae Morgan yn cadw gweithlu tra medrus o tua 180 o bobl, ac mae hyd cyfartalog y gwasanaeth yn y ffatri yn 25 mlynedd.

Mae Morgan yn falch iawn o'i dreftadaeth ac mae ganddo enw da am ragoriaeth, safonau uwch a'r grefftwriaeth orau. Gwneir pob car Morgan ar archeb – maen nhw'n cael eu teilwra'n arbennig i fanyleb y cwsmer. Y rhestr aros ar gyfer car yw tua chwe mis.Anogir darpar berchenogion i ymweld â nhw i wylio'u car yn cael ei adeiladu ac i ddewis o blith eu hystodau eang o baent a thrimiau lledr, ynghyd â'r manion ychwanegol dewisol a fydd yn stampio unigoliaeth y cwsmer ei hun ar eu Morgan. Caiff pob manylyn bach mewn car Morgan ei deilwra'n arbennig i fanyleb y cwsmer.Mae'r prisiau'n amrywio o £30 000 i £80 000 am y modelau sylfaenol a bydd y pris yn cynyddu gydag unrhyw ychwanegiadau sy'n gwneud y car yn unigol ac yn unigryw i'r cwsmer.Mae Nissan yn wneuthurwr ceir mawr gyda gweithfeydd ledled y byd. Yn y DU mae gan Nissan ffatri fawr yn Sunderland sy'n cyflogi dros 7 000 o weithwyr. Nod y ffatri ywcynhyrchu dros 600 000 o geir y flwyddyn. Mae Nissan wedi buddsoddi mwy na £3.7 biliwn mewn peirianwaith technoleg uwch yn cynnwys prosesau wedi'u hawtomeiddio a robotiaid a reolir gan gyfrifiaduron, sy'n hanfodol i'r cynhyrchu. Mae'r peiriannau hyn yn cael eu cynnal a'u rheoli gan dimau o beirianwyr arbenigol.Mae'r ffatri wedi ei rhannu'n dair adran resymegol: Cydosod Corff, Peintio a Chydosod Terfynol. Mae pob adran wedi ei rhannu ymhellach yn is-adrannau a elwir yn 'siopau'

Page 11: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

9

Prisiau cychwynnol ceir Nissan yw:

• Micra £10 295• Note £12 100• Juke £13 420• Pulsar £15 995• Qashqai £17 995• X-TRAIL £22 995• LEAF £26 490• 370Z Coupe £27 015

1. Nodwch y dulliau cynhyrchu a ddefnyddir gan y Morgan Motor Company a Nissan.

2. Eglurwch y rhesymau pam mae'r Morgan Motor Company yn defnyddio'r dull cynhyrchu hwn a nodwch y buddion a'r anfanteision i'w cwsmeriaid.

3. Eglurwch y rhesymau pam mae'r rhan fwyaf o wneuthurwyr ceir mawr fel Nissan yn defnyddio'r dull cynhyrchu hwn a nodwch y buddion a'r anfanteision i'w cwsmeriaid.

4. Eglurwch ym mha ffyrdd fydd profiad y gweithwyr o weithio yn y ddau gwmni yn wahanol.

Copïwch y tabl isod a'i gwblhau:

Dull cynhyrchu

Diffiniad 3 mantais 3 anfantais 3 enghraifft

Cynhyrchu yn ôl y gwaith

Swp-gynhyrchu

Masgynhyrchu

Page 12: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Ansawdd

Mae ansawdd cynnyrch neu wasanaeth yn bwysig i fusnesau. Mae'n rhaid i fusnes ddarparu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau hyn i fodloni disgwyliadau’r cwsmeriaid. Mae’r cwsmeriaid yn gofyn am lefelau penodol o fanylebau a byddant ddim ond yn prynu cynnyrch neu wasanaeth sy'n bodloni'r disgwyliadau hyn.Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ansawdd ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn amcanion llawer o fusnesau, er enghraifft, mae'r gwneuthurwr cyfrifiaduron Dell yn dweud: ‘Mae'n rhaid i gwsmeriaid gael profiad o'r ansawdd gorau a bod yn hapus, nid yw bod yn fodlon yn ddigon da’.Mae cynnyrch neu wasanaeth o ansawdd uchel yn un sy'n cyd-fynd â gofynion y cwsmer. Wrth brynu car gan y Morgan Motor Company bydd defnyddiwr yn disgwyl i bob agwedd ar y car fod o ansawdd uchel, ond i'r gwrthwyneb, wrth brynu model sylfaenol o gar masgynnyrch, bydd y defnyddiwr yn disgwyl iddo weithio a chael rhywfaint o nodweddion, ond bydd eu disgwyliadau lawer yn is.Mae ansawdd yn golygu mwy na ansawdd uchel yn unig – mae'n golygu cynhyrchu cynnyrch neu ddarparu gwasanaeth sy'n bodloni anghenion a disgwyliadau'r cwsmer. Ar gyfer rhai cynhyrchion mae hyn yn golygu y bydd yr ansawdd yn is na chynhyrchion neu wasanaethau eraill sydd â phris uwch.Gellir diffinio ansawdd yn syml hefyd fel ‘addasrwydd i'r pwrpas’. Wedi'r cyfan, os yw'r cynnyrch yn gwneud y gwaith y'i dyluniwyd i'w wneud, mae'n rhaid bod iddo ryw lefel o ansawdd. Nid yw ansawdd yn golygu bod rhaid i'r cynnyrch neu'r gwasanaeth fod yn ddrud, mae'n golygu eich bod yn cael gwerth eich arian wrth ei brynu.

Cyflawni ansawdd

Mae cyflawni ansawdd yn dasg gymhleth sy'n cyfuno gwaith nifer o wahanol adrannau swyddogaethol mewn busnes. Mae'r adrannau hyn yn cynnwys:

• Prynu – sicrhau bod y maint a'r ansawdd cywir o ran deunyddiau crai neu gydrannau ar gael ar gyfer y broses gynhyrchu.

• Gweithrediadau – strwythuro a rheoli'r broses weithgynhyrchu i leihau gwallau.

• Cyllid – sicrhau bod cyfalaf ar gael ar gyfer buddsoddiad priodol i gael yr offer cywir.

1. Mewn perthynas â'r enghreifftiau isod, eglurwch y gwahaniaethau yn nisgwyliadau defnyddwyr am wahanol gynhyrchion:

• Cawl tomato Heinz a fersiwn brand yr archfarchnad• Rasel a werthir am £1 a rasel a werthir am £10• Gwasanaeth a dderbynnir yn McDonalds a gwasanaeth a dderbynnir mewn bwyty

syddwedi ennill seren Michelin

2. Eglurwch pam mae defnyddiwr yn dal i ddisgwyl ansawdd wrth brynu cawl brand yr archfarchnad, rasel £1 a gwasanaeth yn McDonalds.

Page 13: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

• Adnoddau dynol – sicrhau bod llafur digonol ar gael gyda'r sgiliau cywir a darparu hyfforddiant addas.

• Marchnata – darparu gwybodaeth ymchwil marchnata er mwyn gallu bodloni dyheadau cwsmer.

Mae dwy brif ffordd y gall busnes gyflawni ansawdd:

• Rheoli ansawdd

• Sicrhau ansawdd

Rheoli ansawdd yw'r dull mwy traddodiadol y mae busnesau wedi'i ddefnyddio i sicrhau bod ansawdd y gwaith o safon ddigonol. Mae'n ymwneud â gwirio ac adolygu gwaith sydd wedi ei wneud. Mae archwilio cynhyrchion a gwasanaethau'n digwydd yn ystod ac ar ddiwedd y broses weithrediadau.Mae archwiliad ansawdd yn cael ei gynnal i atal cynhyrchion diffygiol rhag cyrraedd y cwsmer. Mae'r dull hwn yn gofyn am arolygwyr sydd wedi caeleu hyfforddi yn arbennig, yn hytrach na bod pob gweithiwr yn gyfrifol am ei waith ei hun

Mae tri phrif bwynt yn ystod y broses gynhyrchu pan gynhelir archwiliad:

• Pan mae deunyddiau crai'n cael eu derbyn

• Ar gamau penodol yn y broses gynhyrchu

• Pan mae'r cynhyrchion wedi'u gorffen – mae archwilio neu brofi'n digwydd cyn i'r cynhyrchion gael eu hanfon at y cwsmeriaid.

Gall y dull hwn fod yn ddrud ac yn aneffeithiol i fusnes. Ni ellir gwerthu cynhyrchion wedi'u gwrthod gan nad yw'r gwneuthurwr eisiau i'w enw fod yn gysylltiedig â chynhyrchion is-safonol, felly mae'n rhaid taflu'r rhain sydd yn golygu gwastraffu adnoddau ac amser a chynyddu costau.

Am y rheswm hwn nid yw'r rhan fwyaf o fusnesau modern yn defnyddio rheoli ansawdd yn unig – maen nhw'n cynnwys gwirio ansawdd drwy gydol y broses gynhyrchu. Gelwir hyn yn sicrhau ansawdd neu reolaeth lwyr ar ansawdd (RhLA) – nid yw ansawdd felly yn dod o archwiliad ar ddiwedd y broses ond daw drwy wella'r broses wrth iddi fynd ymlaen.

Mae'r rhan fwyaf o wneuthurwyr yn credu bod yn rhaid i ansawdd fod yn ‘gynwysedig’. Mae hyn yn golygu, pan mae nwyddau gorffenedig yn gadael y llinell gynhyrchu, mae'r rheolwyr yn hyderus nad oes angen gwirio ansawdd.

Page 14: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Cynhelir archwiliadau yn barhaus gan y gweithwyr yn ystod y broses gynhyrchu. Mae pwyslais yn cael ei roi ar atal cynhyrchu cynhyrchion o ansawdd gwael, yn hytrach na gwirio'r ansawdd ar ddiwedd y linell gynhyrchu.

Erbyn hyn mae sicrhau ansawdd wedi ymledu o'r diwydiant cynhyrchu i'r diwydiannau gwasanaethu. Er enghraifft, mewn canolfannau galwadau bydd yn rhaid i bob gweithiwr ateb galwadau mewn cyfnod penodol o amser, treulio swm penodol o amser ar bob galwad, a chyrraedd y lefel o werthiant sy'n cael ei dargedu. Mae Technoleg Gwybodaeth (TG) yn caniatáu i berfformiad pob gweithiwr gael ei fonitro a bydd y rheolwyr yn ymateb i unrhywamrywiad oddi wrth y safonau a'r targedau. Bydd gweithwyr yn cael eu hailhyfforddi i sicrhau eu bod yn gallu bodloni'r safonau.Mae Rheolaeth Lwyr ar Ansawdd (RhLA) yn cynnal ansawdd trwy welliant parhaus, datblygu systemau a chynhyrchion, a thrwy greu diwylliant sefydliadol o ansawdd. Nodau RhLA yw cael dim diffygion (mae pob cynnyrch sy'n cael ei gynhyrchu yn cyrraedd y safon ofynnol) a bodlonrwydd cwsmeriaid llwyr. Gall defnyddio RhLA arwain at gynhyrchion sy'n rhatach i'w cynhyrchu oherwydd nad oes angen atgyweirio neu sgrapio'r cynnyrch terfynol. Hefyd, mae ansawdd y cynnyrch terfynol yn uwch, sy'n golygu y bydd defnyddwyr y cynnyrch ar eu hennill.

Er mwyn i RhLA fod yn effeithiol mae angen defnyddio nifer o ddulliau rheolaeth a rheoli cynhyrchion:

• Mae cadwyni ansawdd yn seiliedig ar dimau traws-swyddogaethol gyda gweithwyr (cwsmeriaid mewnol). Caiff y person nesaf yn y broses gynhyrchu (y gadwyn) eu trin fel cwsmer a bodlonrwydd cwsmeriaid yw'r amcan.

• Grymuso – rhoi rheolaeth i'r gweithwyr dros y tasgau i'w cwblhau.

• Monitro – gwirio bod y safonau ar bob dolen yn y gadwyn yn cael eu cyflawni a defnyddio offer ystadegol i fesur y lefelau o fethu â chyflawni ansawdd.

• Gwaith tîm – y tîm yn ymwneud â gwella cynnyrch neu wasanaeth. Mae tîm yn gyfrifol am y broses gynhyrchu. Mae'r tîm wedi'i rymuso i wirio ansawdd deunyddiau crai, rhyngweithio yn ystod y broses osod, a gwirio ansawdd y cynnyrch gorffenedig. Mae hyn yn awgrymu bod y cyfrifoldeb yn nwylo'r tîm. Gall gwaith tîm feithrin ymddiriedaeth a morâl, ac ar yr un pryd mae'n gwella cyfathrebu rhwng aelodau. Ystyrir hyn yn elfen allweddol wrth gyflawni ansawdd.

• Cylchoedd ansawdd – gweithwyr yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau a gwella cynhyrchion. Mae'r gweithwyr yn cwrdd i nodi a datrys problemau.

• Dim diffygion – ceisio cyflawni ansawdd cynnyrch perffaith, dro ar ôl tro.• Meincnodi – safonau yn seiliedig ar y gorau o'r cystadleuwyr. Er mwyn

cyflawni'r safonau uchaf, pa safonau mae'n rhaid eu targedu? Nid oes diben i ddweud ein bod yn bwriadu gwella ein safon o un diffyg ym mhob 50 i un diffyg ym mhob 100, osyw ein cystadleuwyr yn cyflawni un diffyg ym mhob 1000. Meincnodi yw'r broses o osod safonau ansawdd a chynnyrch sy'n seiliedig ar y gorau y gall y cystadleuwyr ei gynnig. Mae meincnodi'n golygu bod rhaid gosod targedau i'w cyflawni yn y broses weithgynhyrchu sy'n cyd-fynd â rhai'r cystadleuwr gorau. Mae'n rhaid dylunio dulliau cynhyrchu sy'n sicrhau bod y lefelau cynhyrchedd ac ansawdd meincnod yn cael eu cyflawni.

Page 15: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Cymhwyso safonau cydnabyddedig

Mae defnyddio safonau cydnabyddedig fel y grŵp safonau ISO 9000 yn gyffredin ymhlith busnesau. Pan mae busnesau’n cyflawni'r safonau hyn, yn aml mae hynny’n arwydd o gyflawni ac o gynnal ansawdd.Dylai ISO 9000 warantu ansawdd rheolaeth yr holl sefydliad. Mae cyflawni'r safon hon yn dibynnu ar brofi bod y targedau ansawdd ar gyfer pob rhan o'r sefydliad wedi cael eu cyrraedd.

Pwysigrwydd ansawdd i fusnes

• Bodloni disgwyliadau cwsmeriaid – mae busnesau eisiau i gwsmeriaid ddod yn deyrngar a dod nôl at y busnes i brynu eto. Bydd cwsmeriaid yn disgwyl lefel benodol o ansawdd pan fyddant yn prynu cynnyrch neu'n profi gwasanaeth, ac os yw'r ansawdd yn methu'r nod yna mae llawer o fusnesau cystadleuol eraill y gallan nhw brynu ganddynt. Mae meithrin enw da am ansawdd yn helpu gyda theyrngarwch brand ac yn annog pobl i brynu cynhyrchion eraill sy'n cael eu cynhyrchu gan y busnes.

• Cynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid – mae hyn yn digwydd pan mae'r ansawdd yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl ac yn rhoi profiad rhagorol i'r cwsmer gyda'r cynnyrch neu'r gwasanaeth. Mae hyn yn bwysig ar gyfer busnesau newydd pan fyddant yn sefydlu sylfaen gwsmeriaid ac yn meithrin eu henw da. Os yw cwsmer yn derbyn ansawdd sy'nmynd y tu hwnt i'w disgwyl maen nhw'n fwy tebygol o ddod yn gwsmeriaid teyrngar. Gall hyn ganiatáu i'r busnes godi ei brisiau gan fod cwsmeriaid yn chwilio am werth rhagorol am arian.

• Cynyddu gwerthiant – os yw cwsmeriaid yn fodlon ar y cynnyrch byddant yn dod yn gwsmeriaid rheolaidd. Os yw'r busnes yn datblygu enw rhagorol yn y farchnad yna byddant yn denu mwy o gwsmeriaid a fydd yn arwain at gynnydd yn y refeniw gwerthiant a, gobeithio, mwy o elw.

• Lleihau costau – bydd proses sicrhau ansawdd effeithiol yn lleihau gwastraff, lleihau nifer y cynhyrchion is-safonol ac ad-daliadau i gwsmeriaid neu gynhyrchion amnewid. Bydd yr holl fuddion hyn o ran sicrhau ansawdd yn lleihau costau'r busnes ac yn arwain at gynyddu maint yr elw.

• Lleihau gwastraff – gyda dim diffygion nid oes llawer o wastraff. Mae hyn yn beth da, nid yn unig ar gyfer y busnes drwy gael costau is, ond hefyd mae'n dda i'r amgylchedd ac i forâl y gweithwyr.

Bydd busnes nad yw'n darparu cynhyrchion a gwasanaethau o'r ansawdd disgwyliedig yn wynebu llawer o broblemau:

• Bydd cwsmeriaid yn cael eu colli – bydd cwsmeriaid anfodlon yn edrych yn rhywle arall

• Bydd enw da'r busnes yn dioddef – efallai byddant yn datblygu enw am gynhyrchion a gwasanaethau diffygiol neu o safon isel

Page 16: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

• Cynnydd mewn costau – drwy wastraff ac adalw ac amnewid cynhyrchion diffygiol

• Costau storio – am gynhyrchion diangen nad yw'r defnyddwyr eu heisiau

• Achos cyfreithiol – os yw'r cynnyrch yn achosi niwed i ddefnyddwyr

Darllenwch yr erthygl canlynol ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Tebotau Yorkshire Tea yn cael eu hadalw ar ôl 'problemau wrth wneud paned'

Mae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid adrodd eu bod yn torri wrth iddynt wneud paned.

Yn ôl Yorkshire Tea, dywedir bod gwaelod rhai o'r tebotau un litr wedi hollti a syrthio allan yn ystod defnydd bob dydd. Ar y cynhyrchion hyn, mae’r rhan o'r logo sy’n dweud Harrogate yn 'Taylors of Harrogate' wedi ei ysgrifennu mewn ffont llythrennau bach.

Mae'r cwmni'n annog unrhyw un sydd ag un o'r cynhyrchion hyn i gysylltu â nhw.

Y cynhyrchion sy'n rhan o'r adalw yw'r tebotau Yorkshire Tea – un litr ac un cwpan – y Yorkshire Tea Big Tea Mug a'r Yorkshire Tea Milk Jug.Dywedodd Yorkshire Tea, a sefydlwyd yn Harrogate yn 1886, bod y cynhyrchion wedi cael eu gwerthu gan Amazon ac adwerthwyr annibynnol o 2015 ymlaen.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni: “Pan gafodd tebotau o'r un swp eu profi yn erbyn y Safon Diogelwch Prydeinig perthnasol, wnaethon nhw ddim cracio. Fodd bynnag, ar ôl profion mwy helaeth, gwelwyd bod posibilrwydd o ddryllio neu dorri yn ystod defnyddarferol. Felly, er diogelwch ein cwsmeriaid, rydym wedi penderfynu cyhoeddi adalwad ar yr holl gerameg a wnaed gan yr un gwneuthurwr.”

Ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-york-north-yorkshire-39028800

1. Pam gafodd y cynhyrchion eu hadalw?

2. Beth mae hyn yn ei awgrymu ynglŷn â'r gweithdrefnau rheoli ansawdd?

3. Beth ydych chi'n credu yw ystyr 'y Safon Diogelwch Prydeinig perthnasol'?

4. Pa effaith mae'r adalw'n debygol o gael ar y busnes a'u gwnaeth?

Page 17: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Darllenwch yr erthygl ganlynol ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Peiriannau sychu dillad diffygiol: Mwy na 40 000 yn arwyddo'r ddeiseb adalw

Mae mwy na 40 000 o bobl wedi arwyddo deiseb seneddol i orfodi Whirlpool i adalw tair miliwn o beiriannau sychu dillad a allai fod yn beryglus. Mae'r gwneuthurwr wedi cynghori miliynau o berchenogion i ddatgysylltu plwg eu peiriannau, ond mae wedi gwrthod cyhoeddi adalw diogelwch.Mae'r sychwyr, a werthir o dan y brandiau Hotpoint, Creda ac Indesit, wedi cael y bai am nifer o danau, yn cynnwys un mewn tŵr o fflatiau yn Llundain.

Mae Whirlpool wedi mynnu mai ei gynnig i atgyweirio'r holl beiriannau yr effeithiwyd arnynt yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddatrys y broblem.Cafodd y sychwyr oedd yn destun rhaglen atgyweirio Whirlpool eu cynhyrchu rhwng Ebrill 2004 a Medi 2015 dan y brandiau Hotpoint, Indesit, Creda, Swan a Proline.

Nawr mae'r perchenogion yn gofyn beth i'w wneud ynglŷn â'r peiriannau na allant eu defnyddio bellach. Mae llawer yn y ciw am yr atgyweirio am ddim, ond dywedir bod y rhestri aros yn gallu bod cyn hired â blwyddyn.Dywedodd Ben Ebdon, a brynodd sychwr yn John Lewis, nad oedd yn gallu cael gwaith atgyweirio ar ei beiriant ef gan nad yw'r rhif cyfresol yn cael ei gydnabod. 'Rwy'n credu y gallai ein sychwr fod yn beryglus iawn – ond mae Whirlpool yn dweud nad ydynt yn ei adnabod felly ni allant ei atgyweirio' meddai wrth y BBC.

Dywedodd Don Kiffle, o Bidford on Avon, bod Whirlpool wedi gwrthod newid ei sychwr Indesit nes iddo ysgrifennu at ei AS.“Cysylltais â fy AS lleol, Nadhim Zawalhi. Yn ei dro, ysgrifennodd yntau at y prif weithredwr ac, yn ddigon rhyfeddol, cysylltodd y cwmni â ni, danfon peiriant sychu dillad newydd sbon a mynd â'r hen un ymaith heb unrhyw gost i ni”.

Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA), sy'n cynrychioli 48 o Frigadau Tân yng Nghymru a Lloegr, y dylai Whirlpool gychwyn ymgyrch 'cyhoeddusrwydd torfol' i rybuddio pobl i beidio â defnyddio'u sychwyr.Mae Whirlpool wedi ysgrifennu at 3.8 miliwn o berchenogion y sychwyr perthnasol, gan gynnig eu hatgyweirio, ond mae cymaint â 2.4 miliwn heb ymateb.

Mae'r LGA wedi ailadrodd ei rybuddion bod peiriannau sychu dillad diffygiol yn achosi tri thân bob dydd, er nad peiriannau Whirlpool yw pob un o'r rhain.“Am fisoedd diangen, mae defnyddwyr wedi bod yn cymryd risg gyda pheiriannau sychu dillad peryglus a allai fynd ar dân a dinistrio cartrefi, ac mae diffoddwyr tân yn delio â thri thân y dydd a achosir gan yr offer hyn” meddai'r Cynghorydd Simon Blackburn, cadeirydd bwrdd cymunedau diogelach a chryfach yr LGA.

Ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/news/business-39063180

Page 18: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Ysgrifennwch ateb estynedig i egluro'r canlyniadau i Whirlpool ar ôl gwerthu peiriannau sychu dillad a allai fod yn beryglus.

1. Sut gallai'r busnesau canlynol fesur ansawdd eu cynnyrch neu wasanaeth?

• Gwneuthurwr ffonau symudol• Cadwyn o westai• Gwneuthurwr siocled• Cwmni hedfan

2. Eglurwch pam mae dewis cyflenwr dibynadwy a chyfrifol yn bwysig i fusnes.

3. Gwahaniaethwch rhwng rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd.4. Awgrymwch ac eglurwch ddwy ffordd y gallai gwneuthurwr soffas sicrhau ei

fod yn cynhyrchu cynhyrchion o ansawdd.

5. Amlinellwch brif nodweddion rheolaeth lwyr ar ansawdd (RhLA).6. Mae ansawdd yn bwysig i bob busnes beth bynnag yw’r cynnyrch neu'r pris.

Ydych chi'n cytuno â'r datganiad hwn? Cyfiawnhewch eich ateb.

Page 19: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

CyflenwrNwyddau cynhyrchydd

CyflenwrTrydan

CyflenwrDeunyddiau crai

CyflenwrCydrannau

Gwneuthurwr

CyflenwrCydrannau

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Y gadwyn gyflenwi

Y gadwyn gyflenwi yw'r amrywiol gamau wrth symud cyflenwadau o'u ffynhonnell at y defnyddiwr terfynol. Mae angen cyflenwadau ar bob busnes er mwyn cyflawni eu gweithgaredd busnes, gall y cyflenwadau hyn gynnwys:

• Deunyddiau crai• Rhannau cydrannol• Nwyddau cynhyrchydd• Offer ar gyfer cynhyrchu• Cyflenwadau achlysurol sy'n cael eu defnyddio wrth redeg a gweinyddu busnes• Gwasanaethau fel egni a chyfathrebu

Gellid disgrifio'r gadwyn gyflenwi fel rhwydwaith sy'n cynnwys yr holl unigolion, busnesau, adnoddau a thechnoleg sydd ynghlwm wrth greu a gwerthu cynnyrch, gan ddechrau pan mae'r cyflenwr yn danfon y deunyddiau crai at y gwneuthurwr, a gorffen pan mae'r cynnyrch yn cyrraedd y defnyddiwr terfynol.

Rhwydwaith gadwyn gyflenwi nodweddiadol:

Bydd cymhlethdod y gadwyn gyflenwi yn dibynnu ar y math o gynnyrch sy'n cael ei wneud neu'r gwasanaeth sy'n cael ei brisio, graddfa'r busnes a maint a chyrhaeddiad y farchnad.

Ar gyfer bob un o'r cynhyrchion isod nodwch yr amrywiol gyfranogwyr yn y gadwyn gyflenwi:

• Wyau maes a werthir mewn archfarchnad• Gliniadur• Cylchgrawn pêl-droed neu ffasiwn

Warws

Canolfan dosbarthu

Adwerthwr

Defnyddiwr terfynol

Page 20: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

Er enghraifft, ar gyfer busnes plymio bach bydd angen fan, defnyddiau a chyfarpar ar gyfer tasgau penodol ac mae'n annhebygol y bydd angen storio’r rhain ar raddfa fawr. Yn syml, bydd y plymwr yn prynu defnyddiau a chyfarpar gan gyfanwerthwr pan mae eu hangen ar gyfer y gwaith. Bydd angen miloedd o wahanol gydrannau ar fasgynhyrchwr ceir a bydd rhaid cyrchu'r rhain oddi wrth gannoedd o wahanol gyflenwyr, yn fwy na thebyg o bob rhan o'r byd: cyflenwyr egni addas i bweru'r gweithfeydd cynhyrchu mawrion, storfeydd ar gyfer ceir gorffenedig, a rhwydwaith dosbarthu cymhleth i gludo'r ceir at yr adwerthwyr ceir a fydd yn gwerthu'r car i'r defnyddiwr terfynol.

Mae'r gadwyn gyflenwi hefyd yn bwysig ar gyfer y diwydiant gwasanaethu, er enghraifft, mewn cadwyn o westai bydd angen dodrefn, gwelyau, dillad gwely, tywelion, siampŵ, bwyd, diodydd, cyfarpar cyfrifiadurol, papur, defnyddiau glanhau, ac ati.

Mae cael y cyflenwadau cywir, am y pris cywir, yn y meintiau cywir, ac o'r ansawdd cywir yn weithgaredd busnes pwysig. Bydd llawer o fusnesau mawr a chanolig yn meddu arswyddogaeth rheoli'r gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei drefnu'n effeithiol ac yn bodloni anghenion y busnes.

Gellir rhannu'r gadwyn gyflenwi yn 3 cham clir:

• Caffael

• Logisteg

• Rheoli stoc

Caffael

Mae hyn yn golygu prynu deunyddiau crai, nwyddau a gwasanaethau ar gyfer busnes. Mae'n rhaid i fusnes ddod o hyd i gyflenwyr addas a fydd yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sydd eu hangen fel y gall y busnes gyflawni ei weithgareddau. Wrth gaffael cyflenwadau, mae'n rhaid i fusnes ystyried:

• Y gost

• Yr ansawdd

• Yr amser cyflenwi

• Dibynadwyedd y cyflenwr

• Enw da'r cyflenwr

• Gweithredoedd moesegol ac amgylcheddol y cyflenwr

• Amodau talu a materion contract (cosbau am gyflenwi stoc yn hwyr neu beidio â chyflenwi)

Nid y cyflenwr rhataf yw'r un gorau bob amser, ystyriwch beth allai ddigwydd i wneuthurwr ffyrnau trydan a brynodd wydr ar gyfer drws y ffwrn gan y cyflenwr rhataf, ond nid oeddy gwydr yn ddigon gwydn i gadw'r gwres i mewn pan oedd y ffwrn yn cael ei defnyddio ar dymereddau uchel. Neu westy 5 seren a brynodd y glanedydd golchi rhataf ond nad oedd yn

Page 21: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

1

glanhau'r golch yn iawn.

Mae rhai cyflenwyr yn gallu cyflenwi cynhyrchion o ansawdd da am bris rhesymol, ond dim ond mewn meintiau bach. Byddai hyn yn dda i ddim i wneuthurwr mawr oedd eisiau'r un ansawdd ar gyfer yr holl gynhyrchion maen nhw'n eu cynhyrchu. Bydd rhaid i fusnesau hefyd gael y cyflenwadau pan mae eu hangen arnynt. Gall methu â derbyn cyflenwadau yn y broses gynhyrchu ar yr amser cywir ddal y cynhyrchu yn ôl a chynyddu costau'r busnes. Mae'n rhaid i'r cyflenwr fod yn ddibynadwy hefyd a gallu cyflenwi cynnyrch o'r un ansawdd, ar amser, bob tro mae angen eu cyflenwadau ar y busnes.Mae gan lawer o fusnesau yn yr amgylchedd busnes modern gredau ac amcanion moesegol ac amgylcheddol cryf. Ni all busnes fod yn wirioneddol foesegol os bydd yn defnyddio cyflenwr sy'n talu llai na'r isafswm cyflog, sy'n cyflogi plant, sydd ag amodau gwaith gwael, neu sy'n ymglymu wrth unrhyw arferion anfoesegol eraill.

Gan fod cost yn brif ffactor i'r rhan fwyaf o fusnesau, bydd y busnes yn ceisio oedi talu am y cyflenwadau cyn hired â phosibl, a bydd rhai cyflenwyr yn cynnig amodau talu da iawn i atynnu busnesau. Fodd bynnag, os yw'r busnes sy'n prynu mewn safle cryf, maen nhw'n gallu mynnu cael amodau talu ffafriol iawn iddyn nhw eu hunain ar draul y cyflenwr a rhoi'r cyflenwr mewn sefyllfa ariannol anodd.Wrth brynu cyflenwadau mae'n rhaid i fusnes roi ystyriaeth i'r holl ffactorau hyn a gwneud dewis sy'n addas i'w busnes.

Mae cyrchu moesegol yn ymwneud â chael cynhyrchion mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy. Ystyrir yr effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol, a ph’un ai fod y gweithwyr sy'n gwneud y cynhyrchion yn ddiogel ac yn cael eu trin yn deg.

Bydd llawer o fusnesau yn ymrwymo i gyflawni cyrchu moesegol. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt gydbwyso'r ymrwymiad hwn â'r angen am gadw costau i lawr er mwyn cystadlu mewn amgylchedd cystadleuol.

Page 22: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Rhoddir enghraifft isod o'r ymrwymiad moesegol hwn gan y Bartneriaeth John Lewis:

COD YMARFER CYRCHU CYFRIFOL Y JOHN LEWIS PARTNERSHIPCyflwyniad

Mae'r partneriaethau sydd gennym gyda'n cyflenwyr yn ein helpu i gynnig dros 350 000 o fathau o gynnyrch i'n cwsmeriaid yn John Lewis, o ffasiwn ac eitemau dodrefnu i nwyddau tŷ, a thua 18 000 o gynhyrchion bwyd o ansawdd uchel yn Waitrose.Wrth gyrchu’r cynhyrchion hyn o lawer o wahanol wledydd, ein nod yw cynnal safonau llafur a gytunwyd yn rhyngwladol, ac rydym yn disgwyl i'n cyflenwyr drin eu gweithwyr yn deg, yn onest a gan barchu eu hawliau dynol sylfaenol a'u lles.Ein nod yw meithrin perthnasoedd sy'n para gyda chyflenwyr ac rydym bob amser wedi cydnabod bod ein cyfrifoldeb yn ymestyn i'w gweithwyr a'u cyflenwyr nhw. O ganlyniad, rydym wedi cydweithio â'n cyflenwyr am lawer o flynyddoedd i'w helpu i adeiladu busnesau cynaliadwy, yn fasnachol, yn foesegol ac yn amgylcheddol, ac i ddarparu cyflogaeth foddhaol, tymor hir.Mae polisïau a gweithdrefnau cadarn a pherthnasoedd cryf gyda'n cyflenwyr yn hanfodol er mwyn i ni allu dal ymlaen i gyrchu ein cynhyrchion yn gyfrifol. Mae ein Cod Ymarfer Cyrchu Cyfrifol yn esbonio disgwyliadau'r Bartneriaeth o ran y cyflenwyr ar faterion fel tâl, oriau gwaith, llafur plant, hawliau gweithwyr a chynrychiolaeth.Wrth feithrin perthnasoedd tymor hir gyda'n cyflenwyr, rydym yn ceisio gweithio gyda chwmnïau sy'n rhannu ein gwerthoedd ac sy'n fodlon ymrwymo i gydymffurfio â gofynion y Cod hwn. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chyflenwyr i gefnogi gwelliannau angenrheidiol ond rydym hefyd yn barod i weithredu os nad yw'r cyflenwyr yn fodlon gweithio'n gydweithredol i wneud gwelliannau.Rydym yn credu bod rhoi ein Cod ar waith yn ein galluogi i gymryd camau ymarferol, go iawn tuag at wella amodau cymdeithasol yn y lleoliadau hynny sydd ynghlwm wrth gynhyrchu'r nwyddau rydym yn eu gwerthu.

Charlie Mayfield

Cadeirydd, John Lewis Partnership

Ffynhonnell:http://www.rspo.org/file/acop/waitrose-ltd/R-Policies-to-PNC-ethicalconducthr.pdf

Page 23: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Darllenwch yr erthygl ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Brandiau te yn y DU yn gollwng cyflenwr yn yr India oherwydd amodau gwaith

Mae tri o brif frandiau te'r DU wedi penderfynu peidio â phrynu gan grŵp o blanhigfeydd yn yr India ar ôl i ymchwiliad gan y BBC ddatgelu amodau gwaith peryglus.Gwelodd y BBC bod iechyd a diogelwch yn cael eu hanwybyddu ar stad yng ngogledd- ddwyrain India sy'n perthyn i'r Assam Company. Bellach mae'r sefydliad ardystio moesegol, y Rainforest Alliance, wedi mynd â'r sêl broga gwyrdd oddi ar grŵp o blanhigfeydd yr Assam Company.

Dywedodd yr Assam Company ei fod yn apelio yn erbyn y penderfyniad. Collodd grŵp o stadau'r Assam Company ei ardystiad oherwydd 'cafwyd ei fod wedi torri meini prawfhanfodol mewn perthynas â defnyddio cyfarpar gwarchod personol', meddai'r Rainforest Alliance mewn datganiad.

Dywedodd yr Assam Company ei fod wedi colli ei ardystiad oherwydd 'mân wall' ar un stad – Hajua – wrth chwistrellu echdynnyn planhigion, ble nad oedd angen cyfarpargwarchod personol yn ôl ei ddeall. Oherwydd bod stadau'r Assam Company yn gweithredu mewn 'clwstwr sengl', dywedodd y cwmni bod y stadau eraill wedi colli eu hardystiad yn awtomatig.

Mae Twinings, Taylors of Harrogate a Fortnum & Mason wedi stopio'u busnes gyda'r cwmni dros dro ac fe dynnodd Harrods y te oddi ar ei silffoedd yn fuan wedyn.Yn ystod ymweliad y BBC, gwelwyd gweithwyr ar stad Hajua'r cwmni yn chwistrellu agrocemegion heb wisgo'r cyfarpar gwarchod y mae'n ofynnol i gyflogwyr ei ddarparu.

Dywedodd y dynion oedd yn chwistrellu eu bod yn dioddef o anawsterau anadlu, diffyg teimlad yn eu dwylo a'u hwynebau, teimlad o losgi ar eu croen a cholli chwant bwyd difrifol.Dywedodd Taylors of Harrogate y bydd yn cynnal perthynas â'r stadau ac yn cefnogi'r ymdrechion i wella safonau.

Mae Twinings yn bwriadu parhau i weithio gyda'r Ethical Tea Partnership (ETP) – sefydliad a grëwyd gan gwmnïau te yn y DU i wella bywydau gweithwyr – i fonitro'r amodau byw agweithio ar yr holl stadau te mae'n prynu ganddynt. Mae hefyd yn bwriadu cynnal adolygiad o stadau Assam, y mae'n cyrchu te oddi wrthynt, dros y misoedd nesaf.

Page 24: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Mae Fortnum & Mason yn dweud na fydd yn prynu gan yr Assam Company nes bydd 'ei broblemau wedi cael eu datrys yn llwyddiannus ac maent wedi cael eu hardystio unwaith eto gan yr Ethical Tea Partnership'.

Nododd yr ymchwiliad gwreiddiol hefyd fod gweithwyr ar nifer o stadau a phlanhigfeydd yn Assam sy’n perthyn i gynhyrchwyr eraill yn byw mewn tai gwael gydag iechydaeth ofnadwy.

Mae'r Rainforest Alliance wedi gorchymyn gwelliannau i'r amodau byw ar ddwy blanhigfa arall, sy'n perthyn i gynhyrchydd te mwyaf y byd, McLeod Russel. Mae stadau te Behora a The Moran yn cyflenwi i'r cwmnïau sy'n berchen ar PG Tips a Tetley, ynghyd â Twinings.

Dywedodd Unilever, sy'n gwneud PG Tips, wrth y BBC ei fod yn croesawu'r ffaith fod gwelliannau mewn meysydd fel tai ac iechyd a diogelwch yn cael eu cyflymu ac y byddant yn destun monitro ychwanegol.

Dywedodd Tata, sy'n gwneud Tetley, ei fod wedi cwrdd â'r cynhyrchwyr er mwyn deall eu cynlluniau i fynd i'r afael â'r materion a ddatgelwyd gan y BBC. Mae wedi bod mewntrafodaeth gyda'r Rainforest Alliance ac mae'n dweud ei fod yn ymrwymedig i driniaeth dega moesegol i'r bobl ar draws ei gadwyn gyflenwi.Ffynhonnell wedi'i haddasu: http://www.bbc.co.uk/news/business-35235293

1. Mewn perthynas â'r data, eglurwch sut mae cwmnïau fel Twinings, Taylors of Harrogate a Fortnum & Mason yn ymrwymedig i gyrchu moesegol.

2. Eglurwch pam mae'r cwmnïau hyn wedi peidio â phrynu gan y grŵp o blanhigfeydd yn India.

3. A ydych chi'n credu y bydd y galw am de o India yn gostwng o ganlyniad i'r ymchwiliad hwn? Cyfiawnhewch eich ateb.

Mae Jill Francis yn rhedeg caffi yng nghanol Caerfaddon. Mae'n gwerthu cynhyrchion lleol yn bennaf, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn organig. Mae'n defnyddio hyn yn ei delwedd ar gyfer y caffi ac yn ei hysbysebu. Nid yw'n gallu cyrchu ei holl gynhyrchion yn lleol felly mae'n prynu rhywfaint o gynhyrchion, fel olew coginio, diodydd ysgafn, pasta a byrbrydau parod gan gyflenwyr eraill. Mae ei chwsmeriaid yn fodlon talu pris uwch am fwyd o ansawdd da, er bod Jill yn methu â gwneud elw yn ystod rhai wythnosau.

1. Eglurwch beth yw ystyr cyrchu bwyd yn lleol.

2. Pam fydd hyn yn rhoi delwedd foesegol/gynaliadwy i'r caffi?

3. Pam mae dewis y cyflenwyr cywir yn bwysig i Jill?

4. Mewn perthynas â chaffael, eglurwch pam mae Jill weithiau yn methu â gwneud elw.

Page 25: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

Defnyddiwch y delweddau hyn i amlinellu prifagweddau logisteg.

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Logisteg

Logisteg yw rheoli llif cynhyrchion, gwasanaethau, cyfarpar, pobl, arian a gwybodaeth o'r ffynhonnell i'r defnyddiwr terfynol. Mae rheoli logisteg yn ymwneud â chael popeth yn y lle cywir ar gyfer yr amser pan fydd ei angen. Mae logisteg yn cynnwys:

• Cludo cyflenwadau

• Storio cyflenwadau (cadw mewn warws)

• Storio cynhyrchion gorffenedig (cadw mewn warws)

• Rhestru cyflenwadau a nwyddau gorffenedig

• Packaging of finished goods

• Cludo a dosbarthu cynhyrchion gorffenedig

• Trefnu unigolion sy'n gweithio mewn logisteg

• Diogelwch cyflenwadau a nwyddau gorffenedig

Page 26: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

Ystyriwch y prosesau logisteg a gyflawnir wrth symud robot tegan o'r cam dylunio cychwynnol i'r defnyddiwr.Gwnewch restr o'r holl gamau logisteg y credwch sydd yn y broses

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Ar gyfer busnesau ar raddfa fechan, fel adwerthwyr annibynnol, mae logisteg yn syml: caiff y cyflenwadau eu danfon gan gyflenwyr neu eu casglu oddi wrth y cyfanwerthwr ac yna eu storio yn y siop, naill ai ar y silffoedd neu yn yr ystafell stoc, a bydd y cwsmeriaid yn dod i'r siop i brynu'r cynhyrchion. Ar gyfer busnesau ar raddfa fawr, yn enwedig gwneuthurwyr sy'n defnyddio masgynhyrchu i gynhyrchu miloedd o gynhyrchion, mae penderfyniadau a threfniant logisteg yn llawer mwy cymhleth a bydd gweithwyr llawn amser yn gweithio'n barhaus i sicrhau bod y cyflenwadau cywir yn cael eu caffael, eu cyflenwi a'u defnyddio i gynhyrchu cynhyrchion o ansawdd ar gyfer cwsmeriaid

Siart llif logisteg:

Deunyddiau crai a chynhyrchion yn cael eu cludo:

• Ar y Môr• Mewn Awyren• Ar y Trên• Ar y Ffordd

Mewn amgylchedd busnes byd-eang ble bydd busnesau'n cyrchu ac yn gwerthu cynhyrchion ledled y byd, gallai busnes ddefnyddio cyfuniad o ddulliau cludiant i gludo nwyddau. Gelwir nwyddau a swmpgludir hefyd yn gludiad neu lwyth. Gall busnes ddefnyddio'i fflyd o gerbydau ei hunan neu dalu am ddanfonwyr allanol i ddanfon deunyddiau a dosbarthu i gwsmeriaid.

CyflenwyrLogisteg i mewn oddi wrth y cyflenwyr

Symud nwyddau a deunyddiau crai oddi wrth y cyflenwr i'r busnes.

Defnyddio dull cludo addas

Cynhyrchu a warysu

Caiff nwyddau a deunyddiau crai eu storio/defnyddio yn y broses gynhyrchu ac yna caiff y cynhyrchion gorffenedig eu storio/paratoi ar gyfer dosbarthu.

Defnyddio cyfleuster storio a

chynhyrchu busnesau Logisteg allan i gwsmeriaid

Cynhyrchion gorffenedig yn cael eu dosbarthu i'r cwsmeriaid.

Defnyddio dull cludo addas

Cwsmeriaid

Page 27: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Mae twf globaleiddio yn golygu bod llawer o fusnesau yn y DU nawr yn cyrchu eu deunyddiau crai a chyflenwadau eraill o bob rhan o'r byd. Ar gyfer rhai cynhyrchion, sydd â llawer o gydrannau, bydd cyfanswm cyfunol terfynol y milltiroedd a deithir yn cyrraedd y miloedd.Mae hyn wedi achosi pryder ymhlith pobl sy'n gofidio am yr ôl troed carbon a milltiroedd bwyd.Milltiroedd bwyd yw'r pellter mae eitem benodol o fwyd yn gorfod teithio o'i tharddiad i'w chyrchfan – y defnyddiwr.

Daw'r wybodaeth ganlynol o http://www.pollutionissues.co.uk ac mae'n egluro'r pryder a achosir wrth i fwyd gael ei gyrchu o bob rhan o'r byd:

Ydych chi'n cofio'r dyddiau pan mai'r mefus cyntaf a welech bob blwyddyn oedd y rhai ar y teledu yn ystod Wimbledon? Ond daeth tro ar fyd, oherwydd bellach mae pob math ofwydydd a ffrwythau egsotig ar gael drwy gydol y flwyddyn yn ein harchfarchnad leol – wedi cael eu cludo filoedd o filltiroedd o gwmpas y byd mewn awyren efallai er mwyn i ni fedru cael mafon i frecwast yn y gaeaf os ydym eisiau.Ond beth yw effaith amgylcheddol y ‘milltiroedd bwyd’ hyn, fel y'u gelwir, a sut mae hyn yn effeithio arnom ni?

Ffeithiau Milltiroedd Bwyd

• Daw 95% o'n ffrwythau o wledydd tramor.

• Mae hanner ein llysiau'n cael eu mewnforio.

• Mae 30% o'r holl nwyddau a gludir mewn lorïau o gwmpas y DU yn fwydydd.•• Cynyddodd mewnforion bwyd o 13.5 miliwn o dunellau yn 1992 i ychydig dros 16

miliwn o dunellau yn 2002.• Er mai dim ond 1% o fwyd sy'n cael ei gludo mewn awyren, mae'n cyfrif am

11% o’r allyriadau carbon.• Mae coedwig law o faint deg cae pêl-droed yn cael ei thorri bob eiliad, ac mae

rhai o'r rhain yn gwneud lle i gnydau bwyd i'w hallforio.

• Ers 1992, mae swm y bwyd sy'n hedfan mewn awyren wedi codi o 140%.

Cludiant AwyrY ffordd leiaf ecogyfeillgar o fewnforio ac allforio bwyd yw mewn awyren ond er hynny dyma'r dull o gludo bwyd sy'n ehangu gyflymaf ar hyn o bryd.Oherwydd y swm aruthrol o nwyon tŷ gwydr a allyrrir gan awyrennau, mae dwy o'r prif archfarchnadoedd wedi labelu bwyd sy'n cael ei fewnforio fel hyn gyda labeli penodedig, i roi cyfle i gwsmeriaid wneud dewis deallus ynglŷn â’r bwyd maen nhw'n ei brynu.Fodd bynnag, mae'r dadleuon wedi mynd yn fwy cymhleth gydag amser, ac mae llawer mwy i'w ystyried na dim ond y ffactor allyriadau CO2. Erbyn heddiw mae miliwn o weithwyr yn Affrica yn dibynnu ar ffrwythau a llysiau a dyfir yn benodol ar gyfer marchnad y DU i fyw.

Page 28: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Llond Lorïau o FwydY dull mwyaf cyffredin o gludo bwyd ar ôl iddo gyrraedd y wlad gyrchfan yw mewn lori. Bydd 25% o'r holl deithiau a wneir yn y DU yn cludo bwyd o un cyrchfan i'r llall nes iddo gael ei bentyrru ar silff archfarchnad yn eich ardal chi. Mae'r teithiau hyn yn cyfrif am 25% o'r allyriadau CO2.

Yn ôl yr adroddiad, pe bai pob un ohonom yn ceisio prynu bwyd a gynhyrchir o fewn radiws o 20km o'n cymdogaeth, byddai'r wlad yn arbed dros ddau biliwn o bunnoedd mewn tagfeydd a chostau amgylcheddol.

Beth Allwn ni ei Wneud?Mae nifer o gamau syml y gallwn eu cymryd i helpu i leihau effaith amgylcheddol milltiroedd bwyd ar yr amgylchedd:

• Siopa'n lleol ac os yw'n bosibl, gadael y car gartref.• Cynllunio un daith fawr os ydych yn defnyddio archfarchnad fawr, yn lle mynd

dwywaith neu fwy bob wythnos.• Prynu nwyddau masnach deg sy'n cefnogi cymunedau'r Trydydd Byd ac sy'n

cael eu cludo ar long fel arfer.• Prynu cynnyrch tymhorol ffres a dyfir yn lleol.• Prynu bwyd gyda chyn lleied o ddefnydd pacio â phosibl.• Prynu cynnyrch organig.

Ffynhonnell: http://www.pollutionissues.co.uk/food-miles-environmental-impact-food.html

Defnyddiwch y cyfrifiannell milltiroedd bwyd ar http://www.foodmiles.com/results.cfm iweld o ble mae eich bwyd yn dod a faint o filltiroedd mae wedi teithio.

Page 29: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Mae twf e-fasnach a siopa ar-lein wedi newid y ffordd mae llawer o fusnesau'n trefnu eu logisteg. Mae twf busnesau fel yr adwerthwyr ar-lein Amazon, Ocado, ASOS ac AO, eBay, a'r miloedd o adwerthwyr ar-lein llai, ynghyd ag ehangiad gwerthiant ar-lein o archfarchnadoedd a siopau stryd fawr eraill, wedi arwain i ehangiad aruthrol yn nifer y busnesau danfon a dosbarthu parseli.

Mae busnesau fel DPD, Parcelforce, Hermes, DHL, FedEx ac UPS yn chwarae rhan bwysig yn y cam logisteg yn y gadwyn gyflenwi.

Darllenwch y wybodaeth ganlynol ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Amazon UK Fulfilment Centres

Mae Amazon wedi bod yn un o'r busnesau mwyaf ac sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ers 20 mlynedd. Amazon.co.uk yw'r 5ed gwefan mwyaf poblogaidd yn y wlad o ran nifer yr ymweliadau ac mae'n rhif un ar gyfer siopa.

Yn anochel, mae'r holl ymweliadau a'r gwerthiannau gwefan hyn yn arwain at don o weithgaredd yng nghanolfannau cyflawni Amazon a bydd 16 ohonynt yn y DU erbyn 2017. Mae'r rhwydwaith hwn o warysau rhanbarthol yn ymestyn dros y DU gyfan ac mae'n sicrhau bod pob archeb yn cyrraedd y cwsmer mewn da bryd.Ar gyfer cyflenwyr, mae hyn yn golygu bod angen cludo llawer o stoc i mewn ac allan o'r canolfannau cyflawni hyn, a elwir fel arall yn ganolfannau dosbarthu. Mae'r rhain yn warysau anferth ble mae'r cynhyrchion sydd ar werth yn cael eu storio a'u danfon i bob rhan o'r DU. Mae Bae Abertawe yn darparu ar gyfer Cymru a'r Gorllewin, yn Ne Lloegr mae Hemel Hempstead a Dunstable, yna yng ngweddill Lloegr mae Milton Keynes,Peterborough, Rugely, Manceinion, Caerlŷr a dau yn Doncaster. Yn yr Alban mae safleoedd Dunfermline a Gourock yn cwblhau map y DU o leoliadau Amazon hyd yma. Erbyn 2017 mae canolfannau wedi'u cynllunio ar gyfer Daventry, Coventry, Tilbury (Essex) a thrydydd depo yn Doncaster.Mae pob eitem sydd yn cael eu anfon gan Amazon yn symud drwy un o'r hybiau hyn, gan gynnwys y gwerthwyr marchnad sy'n dewis cyflenwi mewn sypiau er mwyn nodi Cyflawni gan Amazon (FBA). Mae'n rhaid i ddosbarthwyr a chyflenwyr ledled y DU sicrhau bod eu nwyddau'n cyrraedd y ganolfan gyflawni ddynodedig mewn pryd.

Mae'r canolfannau cyflawni hyn yn anferth ac yn cyflogi miloedd o weithwyr. Ffynhonnell: http://www.thenxgroup.com/2016/12/12/amazon-uk-distribution-centres/

1. Beth yw canolfan gyflawni?2. Eglurwch sut mae lleoliad a maint y canolfannau cyflawni'n bwysig wrth

sicrhau bod y cynhyrchion yn cael eu danfon i gwsmeriaid o fewn 24 awr o gael eu harchebu ar-lein.

3. Pa mor bwysig yw cynllunio logisteg i gwmni fel Amazon?

Page 30: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

Rheoli stoc

Mae rheoli stoc effeithiol, p'un ai o ran deunyddiau crai, gwaith sydd ar y gweill neu nwyddau gorffenedig, yn rhan bwysig o'r gadwyn gyflenwi a rheoli gweithrediadau.

Agweddau allweddol ar reoli stoc effeithiol:• Mae'n rhaid i fusnesau sicrhau bod stoc ar gael i'w ddefnyddio yn y

broses weithgynhyrchu yn ôl yr angen.• Nid yw nwyddau rhannol orffenedig (gwaith sydd ar y gweill) yn cael eu gadael

ar lawr y ffatri heb eu defnyddio ac yn colli gwerth: yn lle hynny maent yn cael eu symud i'r cam nesaf cyn gynted â phosibl.

• Mae nwyddau gorffenedig ar gael i gael eu danfon yn amserol i gwsmeriaid ac nid ydynt yn cael eu gwneud cyn dod o hyd i gwsmeriaid i'w prynu.

Yn draddodiadol y prif ddull o sicrhau cyflenwad parod o ddeunyddiau crai oedd cadw stociau byffer mawr. Mae'r rhain yn ddaliadau stoc cymharol fawr a gedwir rhag ofn (Just in Case: JIC) y bydd eu hangenRoedd y dull hwn o reoli stoc yn gwneud yn siŵr bod digon o stoc ar gael bob amser. Ond mae gan y dull rhag ofn ei anfanteision:

• Mae'r arian sy'n cael ei wario ar stoc wedi cael ei ddefnyddio i gyd ac felly nid yw ar gael i’w ddefnyddio’n well yn rhywle arall

• Mae'n rhaid storio meintiau mawr o stoc (yn ddiogel) ac mae hyn yn costio arian mewn costau warysu

• Gall stoc gael ei ddifrodi neu ei ddwyn• Mae gan rai mathau o stoc, fel bwyd a chynhyrchion darfodus eraill, rychwant

oes byr a bydd angen eu monitro'n ofalus ac o bosib cael gwared â nhw os yw'r galw am y cynnyrch gorffenedig yn syrthio.

Am y rhesymau hyn, mae llawer o fusnesau heddiw wedi lleihau eu daliadau stoc. Ar y cyfan maen nhw wedi rhoi'r gorau i'r hen syniad o stociau byffer a throi at wneud defnydd effeithiol o systemau mewn union bryd (Just in Time: JIT).Dyluniwyd JIT i leihau costau dal stociau o ddeunyddiau crai, cydrannau, gwaith sydd ar y gweill a nwyddau gorffenedig. Cyflawnir hyn drwy amserlennu sy'n cael ei gynllunio'n ofalus er mwyn sicrhau y gall adnoddau lifo drwy'r broses gynhyrchu yn rhwydd.

Er mwyn i JIT weithredu'n effeithiol mae'n rhaid cael:

• system archebu effeithlon iawn

• cyflenwyr dibynadwy sy'n cyflenwi deunyddiau crai a chydrannau ar yr union adeg ymae eu hangen

Page 31: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

2

• gweithlu a hyfforddwyd yn dda y gellir ymddiried ynddynt ac sy'n fodlon gweithio mewntimau

O dan system JIT, mae'r defnyddiau'n cael eu cyflenwi ychydig cyn bod eu hangen ar y gwneuthurwr ac maen nhw'n mynd yn syth i'r llinell gynhyrchu. Ychydig iawn o stoc, os o gwbl, sy'n cael ei storio ar y safle. Nid yw cynhyrchion yn cael eu gwneud oni bai fod archeb wedi ei rhoi, a phan mae'r nwyddau'n barod maen nhw'n gadael y ffatri i gael eu danfon i'r cwsmer. Mae gweithredu system JIT yn lleihau costau dal stociau, fel y gellir defnyddio arian yn rhywle arall. Mae angen llai o le mewn warws, sydd eto'n lleihau costau ac yn lleihau gwastraff a lladrad.

Nid yw gweithredu system JIT heb ei broblemau. Mae'r costau archebu, gweinyddu a chludo yn debygol o gynyddu a gellid colli manteision swmp brynu. Gall cyflenwyr sy'n methu â chyflenwi ar amser stopio'r linell gynhyrchu gyfan gan niweidio enw da'r gwneuthurwr os nad yw'r cwsmeriaid yn derbyn eu nwyddau ar amser. Nid oes llawer o le ar gyfer camgymeriadau gan fod y lefelau stoc mor isel ac nid oes cynhyrchion gorffenedig sbâr ar gael i ateb galw annisgwyl.

Rheoli stoc cyfrifiadurol

Heddiw mae busnesau'n cadw'u manylion stoc ar gronfeydd data cyfrifiadurol. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd a chywirdeb. Pan mae maint y stoc yn gostwng neu'n cynyddu, mae'r gronfa ddata'n cael ei diweddaru ar unwaith. Mae hyn yn caniatáu gwiriadau stoc manwl gywir ac ailarchebu stoc yn awtomatig os yw'r lefel yn disgyn yn is na'r lefel ailarchebu (lefel y stoc pan roddir archeb newydd). Gall busnesau fonitro beth sydd wedi cael ei ddefnyddio ac amlder ei ddefnyddio, a gall llawer o systemau rheoli stoc cyfrifiadurol archebu'r stoc yn awtomatig hyd yn oed.Yr enghraifft orau o hyn yw'r systemau rheoli stoc a ddefnyddir gan yr archfarchnadoedd mawr. Mae'r system wedi'i chysylltu â'r desgiau talu trwy gyfrifiaduron, a phan mae cynhyrchion yn cael eu sganio, mae'r gronfa ddata rheoli stoc yn cael ei diweddaru'n awtomatig.

1. Pam mae rheoli stoc yn rhan bwysig o'r gadwyn gyflenwi?

2. Pam mae dal gormod o stoc yn aneffeithiol?

3. Beth yw'r peryglon wrth beidio â dal digon o stoc?

4. Eglurwch beth yw ystyr JIC a JIT.

5. Sut mae cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio i wella effeithlonrwydd rheoli stoc?

Page 32: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

Y berthynas rhwng y gadwyn gyflenwi a’r meysydd swyddogaethol eraill mewnbusnes

Bydd y ffordd y mae busnes yn trefnu ei gadwyn gyflenwi yn dibynnu ar nodau ac amcanion y busnes. Ni wneir penderfyniadau mewn caffael, logisteg a rheoli stoc ar wahân – bydd rheolwyr y gadwyn gyflenwi'n gweithio gydag adrannau marchnata, gwerthiant, cyllid ac adnoddau dynol er mwyn cyflawni amcanion cyffredin y busnes.Gallai'r adran farchnata gynnal ymchwil marchnata sy'n dangos bod defnyddwyr yn anfodlon ar ansawdd y cynhyrchion, ac o ganlyniad gallai'r busnes anelu at wella ansawdd eu cyflenwadau. Fodd bynnag gallai hyn gynyddu costau a bydd yr adran gyllid yn ymyrryd i weld a all y busnes fforddio hyn. Gallai arwain at gynnydd mewn prisiau, yna bydd angenrhoi gwybod i'r tîm gwerthu a diwygio'r rhestrau prisiau. Efallai gellid prynu cyfarpar newydd i wella ansawdd, a bydd yr adran adnoddau dynol yn cyfrannu drwy hyfforddi gweithwyr i ddefnyddio'r peirianwaith newydd neu drefnu mwy o hyfforddiant cyffredinol i wella sgiliau’r gweithlu.Gallai'r busnes benderfynu newid o system rheoli stoc JIC i JIT, ac ynghyd â rhoi gwybod i'r cyflenwyr am hyn, bydd angen i'r tîm gwerthu wybod a fydd hyn yn effeithio ar yr amserau danfon i gwsmeriaid. Gallai'r tîm marchnata benderfynu cynnal gweithgareddauhysbysebu a hyrwyddo newydd; a oes yna ddigon o nwyddau gorffenedig mewn stoc i ateb y cynnydd disgwyliedig mewn galw o ganlyniad i hyn? A fydd rhaid i'r gweithwyr weithio oriau ychwanegol i gynhyrchu digon o stoc? Bydd rhaid rhoi gwybod i'r tîm cyflogres yn yr adran gyllid.

1. Eglurwch sut y gallai'r penderfyniadau canlynol effeithio ar y gadwyn gyflenwi:

• Mae'r busnes yn penderfynu lleihau costau ar draws y busnes o 5%.• Mae’r cyfarwyddwyr eisiau i’r cwmni ddod yn fusnes mwy moesegol a chynaliadwy• Mae enw da'r busnes wedi dioddef wedi i nifer fawr o gynhyrchion gael eu hadalw.2. Eglurwch sut bydd y gweithgareddau canlynol yn y gadwyn gyflenwi yn effeithio ar

y busnes cyfan:

• Mae cyflenwr yn methu cwrdd â'r terfynau amser ar gyfer archeb fawr• Mae byrgleriaeth yn y warws yn golygu bod llawer o gynhyrchion gorffenedig wedi

caeleu dwyn

• Mae'r prif gyflenwr yn mynd yn fethdalwr• Mae gweithwyr yn y ffatri'n mynd ar streic• Mae tywydd gwael yn lleihau'r cyflenwad o fafon sydd eu hangen ar gyfer

cynhyrchu jam.

Page 33: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

Effaith penderfyniadau logisteg a chyflenwi ar fusnesau a’u rhanddeiliaid

Mae'n rhaid i fusnes ystyried effaith y penderfyniad ar y busnes a'i randdeiliaid wrth benderfynu:

• ble i gyrchu cyflenwadau• pa ansawdd a pha bris i'w dalu• sut i reoli stoc• sut i gludo a dosbarthu cynhyrchion gorffenedig.

Mae'n rhaid i fusnes ystyried effaith y penderfyniad ar y busnes a'i randdeiliaid:

• Costau i'r busnes – mae'n rhaid i fusnes wneud elw i'r perchennog neu'r cyfranddalwyr. Gall cadwyn gyflenwi effeithiol leihau costau a gwneud y busnes yn fwy cystadleuol. Nid yw'r cyflenwr rhataf bob amser yn arwain at y costau terfynol rhataf os yw'r cynnyrch gorffenedig yn ddiffygiol neu os nad yw'r defnyddwyr yn ei brynu. Gallai dewis cyflenwr yr ochr draw i'r byd arwain at gostau uned rhatach, ond gallai'r costau cludiant fod yn uchel iawn.

• Ansawdd nwyddau gorffenedig – mae cwsmeriaid yn gofyn am werth am arian. Yn y pen draw, ansawdd y cynnyrch gorffenedig yw'r prif reswm y mae cwsmeriaid yn gwario neu ddim yn gwario'u harian. Mae'n rhaid bod y cyflenwyr a ddewisir gan y busnes yn gallu cyflenwi'r defnyddiau o’r ansawdd disgwyliedig, yn gyson. Bydd defnydd is-safonol yn cynhyrchu nwyddau gorffenedig is-safonol.

• Dibynadwyedd cyflenwi – rhaid bod y cyflenwadau yn eu lle ar yr amser cywir. Rhaid bod y cynhyrchion ar gael yn y lleoliad mae'r cwsmeriaid yn ei ddisgwyl. Faint o risg sydd ynghlwm wrth ddewis cyflenwyr sydd angen logisteg gymhleth – hirach oll y bydd y gadwyn, mwyaf yw'r posibilrwydd y bydd rhywbeth yn mynd o'i le?

• Y broses gynhyrchu – rhaid i'r cyflenwadau fod yn ddibynadwy ac yn addas ar gyfer cynhyrchu. Rhaid bod y gweithwyr cynhyrchu'n gallu gweithio gyda'r defnyddiau a rhaid bod y defnydd yn addas i'w ddefnyddio gyda'r cyfarpar.

• Prisiau – a yw cost y cyflenwadau yn caniatáu i'r cynhyrchion gorffenedig gael eu gwerthu am brisiau cystadleuol, ac a fydd newid y cyflenwr yn effeithio ar y pris? Mae'n rhaid i'r deunyddiau crai a'r cydrannau sy'n cael eu dewis ar gyfer cynhyrchu ystyried pris y farchnad ar gyfer y math o gynnyrch a wneir a'i ansawdd. Does dim pwrpas cynhyrchu cynnyrch o ansawdd uchel os oes rhaid ei werthu ar golled

• Bodlonrwydd cwsmeriaid – ydy'r cynhyrchion yn cael eu gwneud i'r safonau gofynnol ac a ydyn nhw ar gael pan mae'r cwsmer eu heisiau? Mae cadwyn gyflenwi effeithiol yn debygol o arwain at gwsmeriaid sy'n fodlon ar ansawdd y cynnyrch / gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn. Mae'r amgylchedd busnes byd-eang yn golygu bod gan brynwyr fwy o ddewisiadau wrth archebu cynhyrchion nag erioed o'r blaen, ac mae'n rhaid i fusnesau addasu eu cadwyni cyflenwi i gyd-fynd â dewisiadau'r cwsmeriaid.

• Enw da – ni fydd cynhyrchion annibynadwy neu o ansawdd gwael yn datblygu teyrngarwch cwsmeriaid, a gall tarfu ar y gadwyn gyflenwi neu orfod adalw cynhyrchion arwain at golli enw da. Bydd cael enw da am ansawdd a dibynadwyedd yn rhoi mantais gystadleuol i fusnes.

• Gwerthiant ac elw – yn y pen draw, un o amcanion allweddol y rhan fwyaf o fusnesau

Page 34: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

yw cyflawni gwerthiannau rheolaidd a fydd yn tyfu gydag amser er mwyn creu maint yr elw da i'r busnes. Mae'n rhaid seilio unrhyw benderfyniadau cyflenwi a logisteg bob amser ar amcan craidd y busnes.

Ystyriwch y prif benderfyniadau cyflenwi a logisteg a wnaed gan y busnesau canlynol:

1. Unig fasnachwr yn gwneud teisennau i'w gwerthu i gaffis a siopau lleol.2. Cadwyn bwydydd cyflym ryngwladol sy'n chwilio am gyflenwadau o wyau i’w

defnyddio yn ei hallfeydd yn y DU.

3. Gwneuthurwr sbectolau haul o ansawdd uchel a werthir drwy eu gwefan eu hunain.

4. Cadwyn genedlaethol o 'siopau disgownt' sydd eisiau stocio 150 o siopau o gwmpas y DU.

5. Entrepreneur sydd eisiau dechrau busnes newydd yn cynhyrchu canhwyllau persawrus.

Page 35: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

Y broses werthu

Mae sut mae busnes yn trefnu ei swyddogaeth werthu yn bwysig iawn. Heb werthiant ni fydd busnes yn llwyddo. Y broses werthu yw'r modd y mae busnes yn rhyngweithio gyda’i gwsmeriaid ac yn derbyn refeniw.Mae busnesau o bob maint ac sy'n gweithredu mewn pob math o farchnadoedd eisiau gwneud cymainto werthiannau â phosibl. Mae'r broses werthu yn gyfres o gamau sy'n helpu busnes i sicrhau eu bod yn gwerthu cymaint â phosibl i ddarpar gwsmeriaid ac yn annog cwsmeriaid i ddychwelyd at y busnes i wneud pryniannau ailadroddol.

Bydd yr union broses werthu a ddefnyddir gan bob busnes yn wahanol gan ddibynnu ar y:

• cynnyrch – a oes angen gwybodaeth dechnegol am y cynnyrch ar y cwsmer?

• marchnad – beth yw disgwyliad y cwsmer a'r ffyrdd arferol o gynnal gwerthiant?

• pris – gwerth isel neu werth uchel

• cwsmer – defnyddiwr neu fusnes

• lle – sut mae cynnyrch yn cael ei werthu: wyneb yn wyneb, ar-lein, dros y ffôn, ac ati

• maint – y nifer a brynir

Bydd cynnal proses werthu lwyddiannus yn cynyddu'r posibilrwydd o werthiant. Bydd y broses hefyd yn galluogi busnesau i feithrin cysylltiadau cwsmeriaid da a derbyn cwsmeriaid rheolaidd a rhai sy'n dychwelyd. Mewn cyferbyniad, mae proses werthu wael yn debygolo arwain at golli cwsmeriaid, cynyddu cwynion cwsmeriaid a gostyngiad mewn refeniw gwerthiant.Mae'r broses werthu'n bwysig er mwyn cadw cwsmeriaid presennol a hefyd er mwyn tyfu'r busnes ac atynnu cwsmeriaid newydd.

Disgrifiwch sut mae busnes yn debygol o ryngweithio gyda chwsmeriaid yn y sefyllfaoedd gwerthu canlynol:

• prynu bar o siocled mewn siop• prynu gwyliau mewn siop trefnu teithiau• prynu gwyliau ar wefan trefnu teithiau• prynu car newydd mewn garej delwriaeth geir• prynu gwydr dwbl ar gyfer ffenestri gan gynrychiolydd gwerthu sy'n ymweld â'r

cwsmeryn eu cartref

• ffermwr sy'n prynu bwyd ar gyfer ei foch/moch

Page 36: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

Camau'r broses werthu

{Paratoi drwy wybodaeth dda am y cynnyrch – dylai gwerthwr wybod manylion y cynnyrch neu wasanaeth maen nhw’n ei werthu. Ar gyfer rhai cynhyrchion, mae manylion technegol yn bwysig iawn a bydd angen y wybodaeth hon ar y gwerthwr er mwyn gallu ateb ymholiadau'r cwsmer ac egluro nodweddion y cynnyrch. Bydd cwsmeriaid yn disgwyl i werthwyr feddu ar wybodaeth dda am gynnyrch, yn enwedig pan mae ystod o gynhyrchion ar werth.

Adnabod cyfleoedd gwerthu – bydd rhaid i werthwr adnabod darpar gwsmeriaid ac yna nodi beth mae'r cwsmeriaid ei eisiau. Nid yw cwsmeriaid yn cerdded i mewn i allfa pob math o fusnes yn chwilio am werthiant – bydd rhaid i rai busnesau fynd ati i chwilio am gwsmeriaid, a gellir gwneud hyn dros y ffôn, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb. Wrth chwilioam y cyfleoedd gwerthu hyn, efallai bydd rhaid i fusnes gynnal ymchwil i ddarpar gwsmeriaid i weld a fyddant yn dod yn ddarpar gwsmeriaid iddyn nhw.Pan mae gan y gwerthwr wybodaeth dda am y cynnyrch, dylai'r cam hwn fod yn un syml; trwy ofyn cwestiynau, gall y gwerthwyr weld a all y darpar gwsmer gael budd o'r gwasanaeth neu'r cynnyrch y mae'n ei gynnig.

Ystyriwch pa wybodaeth am y cynnyrch sydd ei hangen ar werthwyr am y cynhyrchion a'r gwasanaethau canlynol:

• Gliniaduron• Yswiriant ceir• Ffonau symudol• Sbectolau presgripsiwn• Cyflenwad nwy a thrydan

Paratoi drwy wybodaeth dda am y cynnyrch

Adnabod cyfleoedd gwerthu

Deall anghenion cwsmeriaid a beth maen nhw ei eisiau

Hysbysu cwsmeriaid am nodweddion a buddion y cynnyrch neu'r gwasanaethCyfranogiad

cwsmeriaid

Cwblhau'r gwerthiant

Dilyniant ac ôl-werthu

Page 37: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

Deall anghenion cwsmeriaid a beth maen nhw ei eisiau – wrth agosáu at gwsmer neu pan ofynnir iddynt am gymorth, dylai gwerthwr ofyn cwestiynau i nodi beth sydd ei angen ar y cwsmer neu beth maen nhw ei eisiau. Yna dylai'r gwerthwr allu paru'r cynnyrch neu’r gwasanaeth sydd ar werth â'r anghenion a'r chwenychiadau hyn. Bydd gwerthwr da yn gwrando'n ofalus ac yn bod yn onest o ran beth maen nhw'n ei argymell i'r cwsmer – wedi'r cyfan os nad yw'r gwasanaeth neu'r cynnyrch yn cyd-fynd â gofynion y cwsmer, mae hynyn debygol o arwain i gwsmer anfodlon a fydd naill ai'n dychwelyd y cynnyrch neu'n mynd i rywle arall am eu pryniant nesaf.

Hysbysu cwsmeriaid am nodweddion a buddion y cynnyrch neu'r gwasanaeth - dylai'r cam hwn ganolbwyntio ar y buddion i'r cwsmer drwy egluro nodweddion y cynnyrch/ gwasanaeth a manteision a buddion prynu cynnyrch neu wasanaeth penodol. Ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion, mae amrediad o ddewisiadau gwahanol y gallent eu prynu, er enghraifft, mae prynu cyfrifiadur yn rhoi llawer o ddewisiadau i'r cwsmer a gall hyn fod yn ddryslyd, yn enwedig pan mae gwybodaeth dechnegol i'w hystyried. Os yw'n bosibl, gallai'r gwerthwr arddangos y cynnyrch ar y cam hwn i ddangos sut mae'r cynnyrch yn perfformio.

Efallai bydd rhaid i'r gwerthwr ymateb hefyd i amheuon a chwestiynau allai fod gan y cwsmer a delio ag unrhyw wrthwynebiadau o ran prynu'r cynnyrch. Unwaith eto mae'n bwysig bod yn onest a pheidio â dweud celwydd er mwyn ceisio gwerthu'r cynnyrch.

Ar y cam hwn gallai llawer o fusnesau geisio 'uwchwerthu'. Mae hyn yn digwydd wrth i'r gwerthwr weld cyfle i werthu model drutach o'r cynnyrch neu wasanaeth neu i gyflwyno cynhyrchion neu wasanaethau cysylltiedig er mwyn cynyddu gwerth y gwerthiant. Mae'r enghreifftiau yn cynnwys cyflwyno model drutach i gwsmeriaid, sydd â nodweddion ychwanegol, a chyflwyniad gwerthu sy'n egluro buddion y model wedi'i uwchraddio. Mae enghreifftiau eraill o uwchwerthu’n cynnwys gwerthu gwarantau ar gyfer cynhyrchion electronig, cynhyrchion gwarchodaeth y rhyngrwyd wrth brynu gliniadur, gorffeniad cwyr gwarchodol ar geir, gwthio cynhyrchion gwerthiant wrth ddesgiau talu mewn siopau ac 'ydych chi eisiau mynd am y byrger mawr' mewn allfeydd bwyd cyflym.

Cwblhau'r gwerthiant – dyma yw prif bwrpas gwerthu (o safbwynt y busnes). Mae hyn yn digwydd pan mae'r cwsmer yn cytuno i dalu am y cynnyrch ac mae ganddynt yr arian i wneud hynny. Ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau, bydd hwn yn bryniant ag arian parod neu gerdyn debyd, ond gall hefyd gynnwys prynu â cherdyn credyd neu drwy gytundeb credyd gyda'r busnes (er enghraifft, mewn rhandaliadau misol).

Gall gwerthwr annog cwsmer i selio'r fargen drwy gynnig mantais arbennig ar ben beth mae'r cynnyrch neu wasanaeth yn ei gynnig. Mae hyn yn ddefnyddiol pan mae'r cwsmer yn ansicr o hyd ynglŷn â gwneud y pryniant. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys

Rydych yn gweithio fel gwerthwr yn un o'r busnesau canlynol. Dewiswch un, yna ysgrifennwch restr o'r cwestiynau mae angen i chi eu gofyn i'r cwsmer er mwyn deall eu hanghenion a'r hyn y maen nhw ei eisiau

• Gwerthwr blodau• Adwerthwr ffonau symudol• Delwriaeth geir• Adwerthwr soffas• Asiantaethau trefnu teithiau• Banc ar-lein sy'n cynnig benthyciadau personol

Page 38: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

“'Os prynwch heddiw gallaf roi disgownt o 10% i chi” “'Dyma'r un olaf sydd gennym mewn stoc am y pris hwn”

“Os prynwch heddiw, gallaf roi blwyddyn ychwanegol o warant i chi am ddim”

Mae llawer o wahanol ymagweddau ac arddulliau pan mae gwerthwyr yn cwblhau'r gwerthiant, a bydd yr ymagwedd a ddefnyddir yn dibynnu ar y math o gynnyrch neu wasanaeth sy'n cael ei werthu, pris y cynnyrch neu wasanaeth, a natur yr amgylchedd gwerthu, e.e. wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ar y rhyngrwyd.

Ewch i http://www.wikihow.com/Close-a-Sale a darllenwch y cyflwyniad 'How to close a sale'. Yna atebwch y cwestiynau canlynol:

1. Beth a olygir gan 'wenu gyda'ch llygaid' ('smile with your eyes')?2. Beth a olygir gan 'asesu cwsmer fel eich bod yn gwerthu beth sydd ei angen

arnynt' ('qualifying a customer so that you sell them what they need')?3. Gall signalau fod yn eiriol neu'n ddi-eiriau. Beth mae hyn yn ei olygu4. Beth yw cwblhau uniongyrchol a chwblhau anuniongyrchol mewn

perthynas â gwerthiant?5. Beth yw cwblhau gwerthiant 'mantolen' ('balance sheet close of sale')?6. Beth yw cwblhau gwerthiant 'ci bach' (puppy dog close of sale)?7. Beth yw cwblhau gwerthiant 'tybiaethol' (assumptive close of sale)?8. Sut gall y gwerthwr ddefnyddio emosiynau i gwblhau'r gwerthiant?9. Pam na ddylid ceisio defnyddio uwchwerthu bob amser?

Ffynhonnell: http://www.wikihow.com/Close-a-Sale#/Image:Close-a-sale-Step-2-Version-3. jpg

Dilyniant ac ôl-werthu - nid yw'r gwerthiant yn cwblhau'r broses werthu. Dylai busnes gynnal gweithgareddau dilynol a all fod yn bwysig ac yn werthfawr ar gyfer llwyddiant y busnes yn y dyfodol. Gall gwasanaeth ôl-werthu gynnwys amrywiaeth o weithgareddau i gael gwybod a yw'r cwsmer yn hapus neu'n anhapus gyda'u pryniant. Yn dibynnu ar y cynnyrch neu wasanaeth a werthir, dylai busnes wirio, er enghraifft, a yw'r cynhyrchion wedi cyrraedd mewn cyflwr da, neu a wnaeth y cwsmer dderbyn gwasanaeth da, er mwyn cael gwybod a yw'r cwsmer yn fodlon ar eu pryniant. Gall hyn fod yn ffordd dda o fesur ansawdd y cynnyrch neu'r gwasanaeth maen nhw'n ei ddarparu.

Gall ôl-werthu hefyd gynnwys y gwasanaeth mae cwsmeriaid yn ei dderbyn o ran cwynion, nwyddau diffygiol, gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio a chymorth.

Gall gwasanaeth ôl-werthu chwarae rhan bwysig mewn bodlonrwydd cwsmeriaid a chadw cwsmeriaid am ei fod yn helpu i greu cwsmeriaid teyrngar. Gall cwsmer bodlon a hapus ledaenu eu profiad cadarnhaol gydag unigolion eraill a gallai hyn arwain at ddenu cwsmeriaid newydd i'r busnes.

Bydd llawer o fusnesau yn cysylltu â chwsmer rhai diwrnodau ar ôl y pryniant i gael adborth, gall hyn fod dros y ffôn neu drwy e-bost. Dylai busnes ddefnyddio'r adborth hwn i wella'u cynnyrch neu wasanaeth gan y gall ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol a allai helpu busnes i gynyddu gwerthiant.

36

Page 39: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

37

Mae technegau ôl-werthu effeithiol yn cynnwys:• Cadw mewn cysylltiad â'r cwsmeriaid

• Rhoi'r cymorth angenrheidiol i gwsmeriaid. Os oes angen, eu helpu i osod, cynnal neu weithio cynnyrch penodol

• Newid unrhyw gynnyrch wedi torri neu ddiffygiol ar unwaith.

• Dylai’r busnes feddu ar bolisi cyfnewid clir er budd y cwsmer. Dylai cwsmer sy'n dod i newid rhywbeth dderbyn yr un driniaeth â phan wnaethant y pryniant cychwynnol.

• Os oes gan y busnes wefan, dylid creu adran sy'n caniatáu i gwsmeriaid gofrestru a disgrifio'u cwyn. Dylai'r busnes ymateb yn gyflym gan weithredu ar ymholiadau'r cwsmer.

• Annog cwsmeriaid i roi adborth ar y cynhyrchion a'r gwasanaethau. Mae adborth yn helpu busnes i adnabod y cwsmeriaid yn well a chyflawni newidiadau angenrheidiol er mwyn gwella bodlonrwydd cwsmeriaid.

Darllenwch y wybodaeth ganlynol am wasanaeth ôl-werthu Audi i’w cwsmeriaid busnes yna atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Gwasanaeth Ôl-werthu Audi i Fusnesau: eich cefnogi chi a'ch fflyd

Yn Audi rydym yn credu y dylech ddisgwyl cael gwasanaeth rhagorol bob tro y byddwch yn cysylltu â ni. Rydym yn hyfforddi pob aelod o'n tîm i gyflwyno'r safonau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid. Rydym eisiau sicrhau eich bod yn mwynhau profiad cynorthwyol, di-straen a chyson pa bryd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni.

Darllenwch am wasanaethau ôl-werthu Audi isod

• Darnau Audi go iawn - Rydym yn defnyddio darnau ac ategolion go iawn yn unig aphob un â gwarant dwy flynedd, ac eithrio eitemau sydd ag ôl traul.

• 70 000 o oriau o hyfforddiant technegol - Rydym yn buddsoddi mewn dros 70,000 o oriau o hyfforddiant technegol bob blwyddyn, gan roi sgiliau a medr digymar i'n technegwyr a hyfforddwyd gan Audi.

• Archwiliad diagnostig - Os oes gennych broblem nad yw'n syrthio o fewn eich gwarant, byddwn yn cynnal archwiliad diagnostig cychwynnol am ffi sefydlog a gytunwyd ymlaen llaw.

• Car benthyg - Byddwn yn rhoi car benthyg Audi i chi tra bod eich car chi gyda ni. Neu, os yw'n fwy cyfleus, gallwn gasglu a dychwelyd eich car.

• Golchi a hwfro - Byddwn yn golchi, glanhau a hwfro eich Audi ar ôl i ni weithio arno heb godi tâl.

• Cadarnhad dros y ffôn - Cyn i chi ymweld, byddwn yn eich ffonio i gadarnhau'r gwaith a wnawn a thrafod unrhyw ofynion arbennig sydd gennych.

• Dyfynbrisiau hollgynhwysol - Byddwn yn rhoi dyfynbris cywir i chi, bob tro, heb

Page 40: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

3

TGAU Busnes • Gweithrediadau daliadau cudd.

• Pris gwasanaeth cydwedd - Gallwch ofyn am ddyfynbris gan unrhyw ddarparwr ar gyfer gwasanaeth, gwaith atgyweirio, cynnal a chadw neu deiars newydd. Os yw hwn yn cynnwys darnau Audi go iawn, rydym yn gwarantu na fyddwch yn talu ceiniog yn fwy am yr un gwaith yn Audi

• Bwcio ar-lein - Mae ein gwasanaeth bwcio ar-lein yn golygu bod bwcio eich gwasanaeth yn gyflym ac yn hawdd, ar amser sy'n gweithio orau i chi. Ewch i'r Audi Online Service Booking Tool.

• Audi cam - Os yw technegydd a hyfforddwyd gan Audi yn dod ar draws problem, gallant ddangos i chi drwy anfon fideo Audi Cam i'ch dyfais. Felly pa le bynnag yr ydych yn digwydd bod, gallwch weld beth yn union sydd angen ei wneud.

• Siop un safle - O driniaeth a gwaith atgyweirio pris sefydlog i MOT a newid teiars, bydd popeth sydd ei angen ar eich Audi yn eich Canolfan Audi.

Ffynhonnell: https://www.audi.co.uk/business-and-fleet/business-aftersales.html

1. Rhowch enghreifftiau o gwsmeriaid busnes Audi.

2. Rhowch grynodeb o'r prif wasanaeth ôl-werthu a ddarperir gan Audi.

3. Eglurwch y pwysigrwydd i Audi o gynnig y gwasanaethau hyn.

Cyfranogiad y cwsmer – mae hyn yn digwydd drwy gydol y broses werthu ac mae'n golygu'r cyfathrebu sy'n digwydd rhwng y cwsmer a'r busnes yn ystod gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau. Bydd busnes eisiau cadw diddordeb y cwsmer mewn ffordd gadarnhaol drwy gydol y broses er mwyn creu cwsmeriaid teyrngar a chael pryniannau ailadroddol. Mae hyn yn berthnasol i werthiant wyneb yn wyneb ac ar y rhyngrwyd – wrth gwblhau'r gwerthiant dylai'r cwsmer fod â meddyliau cadarnhaol am y broses a hyder yn y busnes maen nhw wedi gwario'u harian gydag ef.Dylai cyfranogiad y cwsmer arwain i berthynas gadarnhaol a pharhaus gyda'r cwsmer, ac mae'n bwysig bod pob cam yn y broses werthu yn berthynas gadarnhaol er mwyn cyflawni a mynd tu hwnt i ddisgwyliadau'r cwsmer.

Addasu'r broses werthu

Er y dylai'r broses werthu gael ei defnyddio yn yr holl drafodion gwerthiant byddant yn wahanol mewn gwahanol sefyllfaoedd. Ar gyfer cynhyrchion gwerth isel fel bara, pysgod a sglodion a phapur tŷ bach, bydd y broses yn un syml ac ni fydd y cwsmer yn disgwyli'r cyfranogiad fod yn hir nac yn hollgynhwysol. Fodd bynnag, ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau gwerth uchel, fel modrwyau diemwnt, ceir, gwyliau, tai, dodrefn drud, ac ati, bydd gan y cwsmer ddisgwyliadau uwch o'r gwasanaeth gwerthiant maent yn ei dderbyn. Ar gyfer nwyddau gwerth uchel, mae'n debygol y bydd cwsmer yn dewis busnesau sydd nid yn unig yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau o ansawdd, ond sydd hefyd yn rhoi cyfranogiad rhagorol a chyflawn i'r cwsmer wrth werthu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau hynny. Byddant yn disgwyl cael gwasanaeth mwy personol gan y busnes, mwy o amser a thrylwyredd, ac o

Page 41: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

3

bosib, bydd yr adeiladau'n fwy mawreddog a nodedig.

Yn y DU mae'r gwasanaeth gwerthiant a ddarperir gan lawer o fusnesau adwerthu yn cael ei farnu'n aml am ei fod yn wael ac am nad yw'n cael ei gynnig i safon uchel. Bydd llawer oadwerthwyr yn cyflogi gweithwyr ifanc, dibrofiad sy'n cael hyfforddiant minimol ar sut i ddelio â chwsmeriaid.

Mae nifer y busnesau sy'n gwerthu ar-lein wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn bellach yn ddull gwerthu cystadleuol iawn. Mae'n bwysig felly bod cysylltiad â'r cwsmer yr un mor effeithiol ar-lein ag mewn sefyllfa wyneb yn wyneb. Bydd adwerthwyr ar-lein yn buddsoddi symiau mawr o arian mewn dylunio a chynnal gwefannau er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig profiad prynu cadarnhaol i'w cwsmeriaid.

Y berthynas rhwng gwerthiant a swyddogaethau busnes eraill

Y broses werthu yw canlyniad yr holl waith caled a wneir yn y busnes o'r cychwyn cyntaf. Er mwyn cyflawni gwerthiant yn effeithiol bydd y broses werthu a'r tîm gwerthu yn gweithio gyda swyddogaethau eraill y busnes.Cynhyrchu – heb gynnyrch neu wasanaeth o ansawdd ni fydd gan y tîm gwerthu ddim i'w werthu. Mae angen caffael deunyddiau crai a chydrannau addas i wneud cynnyrch a fydd yn apelio at gwsmeriaid. Bydd rheoli'r broses gynhyrchu yn sicrhau bod cynnyrch yn cael ei

Gwyliwch bennod o Mary Portas Secret Shopper http://www.channel4.com/programmes/mary-portas-secret-shopper/episode-guide/ series-1.

1. Rhowch grynodeb o'r materion mae hi wedi eu darganfod gydag adwerthwyr.2. Beth yw ei hawgrymiadau hi am sut i'w datrys?3. Sut mae'r atebion hyn yn gwella cyfranogiad y cwsmer yn y busnes?

Gan ddefnyddio gwefan rydych yn gyfarwydd â hi neu rydych wedi prynu arni, eglurwch sut mae'r busnes yn:

• Darparu gwybodaeth dda am y cynnyrch

• Deall anghenion a chwenychiadau defnyddwyr

• Hysbysu cwsmeriaid am nodweddion a buddion y cynnyrch neu'r gwasanaeth

• Cwblhau'r gwerthiant

• Dilyn y gwerthiant ymlaen ac ôl-werthu

• Ymglymu wrth y cwsmer a rhoi profiad cadarnhaol.

Page 42: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

4

gynhyrchu am gost a fydd yn caniatáu codi pris cystadleuol, sicrhau bod y cynnyrch ble mae angen iddo fod, fel nad oes oedi wrth gael y cynnyrch i'r cwsmer, a delio ag unrhyw ofynion cwsmeriaid, fel lliwiau a meintiau gwahanol a newidiadau unigol. Os yw'r tîm gwerthu yn gweld bod gwerthiant yn uchel ar gyfer un cynnyrch yna dylai'r tîm cynhyrchu gael gwybodi sicrhau bod adnoddau'n cael eu trosglwyddo ac i sicrhau bod y cyflenwad o gynhyrchion y mae galw amdanynt yn cael eu cynhyrchu i'r lefelau gofynnol (rheoli stoc). Os yw'r cynnyrch yn cael ei ddanfon i'r cwsmer o'r ganolfan ddosbarthu, fel car neu offer trydanol mawr, bydd angen i'r tîm gwerthu gadarnhau gyda'r tîm logisteg i gael y dyddiadau danfon ar gyfer y cwsmer. Gall adborth a dderbynnir gan gwsmeriaid gael ei drosglwyddo hefyd i'r tîm cynhyrchu fel y gallant gymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i roi hwb i werthiant.Marchnata – mae'r ystod o gynhyrchion a gynigir, eu pris gwerthu, y lleoedd maen nhw'n cael eu gwerthu, a'r ffordd maen nhw'n cael eu hyrwyddo bob un yn dasgau a wneir gan farchnata. Bydd newidiadau yn y strategaeth farchnata, fel codi prisiau neu ehangu'r ystod cynnyrch, yn effeithio ar y broses werthu. Bydd angen gwybodaeth fanwl gywir ary tîm gwerthu am brisiau, unrhyw hyrwyddo gwerthiant a gwybodaeth cynnyrch i sicrhau eu bod yn rhoi gwybodaeth gywir ac i'r funud i'r cwsmeriaid. Dylai unrhyw fanylion amddigwyddiadau hyrwyddo yn y dyfodol sy’n gobeithio gwerthu meintiau mawr o gynhyrchion neu wasanaethau penodol gael eu cyfleu i'r tîm gwerthu fel y gallant baratoi eu gwybodaeth cynnyrch er mwyn hybu'r gwerthiannau hyn gyda chwsmeriaid. Hefyd, gall y tîm gwerthu roi adborth gan gwsmeriaid i'r tîm marchnata a gellir defnyddio'r wybodaeth honno i gynnal ymchwil marchnata.

Adnoddau dynol – efallai bydd angen i weithwyr newydd a rhai presennol wella'u sgiliau a'u gwybodaeth am y cynnyrch a bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei drefnu gan y tîm adnoddau dynol. Mae gwerthuso a chynlluniau gwobrwyo gweithwyr yn boblogaidd mewn adwerthu.Y bwriad yw monitro perfformiad gweithwyr a gwobrwyo perfformiad da. Bydd y rheolwyr gwerthiant yn gweithio gyda rheoli adnoddau dynol i nodi unrhyw anghenion recriwtio er mwyn delio â chynnydd yn nifer y cwsmeriaid, gall hyn fod yn barhaol neu ar amserau o werthiant brig, fel adeg y Nadolig neu yn yr haf.Cyllid – y broses werthu sy'n cynhyrchu arian y busnes. Bydd yr holl arian sy'n dod i mewn drwy'r refeniw gwerthiant yn cael ei fonitro a'i gofnodi gan y tîm cyllid. Bydd y tîm cyllid yn gosod targedau ar gyfer gwerthiant dros gyfnod o amser, ac efallai gallai hefyd ymwneud â gosod targedau gwerthiant unigol ar gyfer gwerthwyr unigol. Bydd y tîm cyllid hefyd yn pennu swm y comisiwn y gellir ei dalu i werthwyr am bob cynnyrch a werthir. Ar gyfer rhai busnesau mae pris y cynnyrch yn hyblyg a gall y gwerthwyr drafod y pris gyda chwsmeriaid. Mae'r adran gyllid yn debygol o gael y gair olaf yn hyn o beth, gan y byddant yn gwybod pa brisfydd yn dod ag elw addas wrth werthu'r cynnyrch. Os yw'r tîm gwerthu'n methu â chynnal gwasanaeth i gwsmeriaid da ac, o ganlyniad, mae'r gwerthiant yn gostwng yna bydd hyn yn cael effaith anferth ar yr holl swyddogaethau eraill a'r busnes yn gyffredinolMae'n rhaid i'r broses werthu weithio gyda holl swyddogaethau'r busnes i sicrhau bod nodau ac amcanion cyffredinol y busnes yn cael eu cyflawni.

Page 43: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

4

1. Eglurwch bwysigrwydd proses werthu effeithiol i fusnes.

2. Nodwch y camau allweddol yn y broses werthu.3. Eglurwch sut mae'r broses werthu'n cael ei haddasu ar gyfer gwerthiant ar-lein

a dros y ffôn.4. Gwnewch ymarfer chwarae rhan ar gyfer gwerthu un o'r cynhyrchion a restrir

isod. Wrth baratoi dysgwch fanylion y cynnyrch fel y gallwch roi profiad cadarnhaol i'r cwsmer:

• Pabell• Fitbit• Eilliwr trydan• iPod• Sinema cartref a bar sain

Gwasanaeth i gwsmeriaid

Gwasanaeth i gwsmeriaid yw'r cymorth y mae busnes yn ei roi i'w gwsmeriaid. Mae hyn yn digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl i gwsmer brynu'r cynnyrch neu wasanaeth. Mewn marchnad gystadleuol mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn bwysig i bob busnes. Gall gwasanaeth i gwsmeriaid da arwain at deyrngarwch cwsmer a sicrhau bod cwsmeriaid yn dychwelyd at y busnes dro ar ôl tro i brynu eto. Gall gwasanaeth i gwsmeriaid gwael arwain at golli cwsmeriaid a chael enw gwael yn y farchnad.Mae'n llawer rhatach a mwy proffidiol cadw cwsmeriaid presennol yn hytrach na gorfod chwilio am rai newydd o hyd. Bydd cael cynnyrch o ansawdd gyda gwasanaeth i gwsmeriaid da yn helpu i gadw cwsmeriaid a hefyd yn helpu i atynnu rhai newydd. Mae cadw cwsmeriaid a'u cadw'n hapus yn fwy tebygol o gynyddu'r arian maen nhw'n ei wario dros gyfnod o amser ac felly maen nhw'n ychwanegu at refeniw'r busnes.Mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn bwysig yn y broses werthu, ond y tu hwnt i hynny, mae'n ymwneud â'r holl gysylltu a chyfathrebu sydd rhwng busnes a'i ddarpar gwsmeriaid a'r rhai presennol. Mae cwsmeriaid yn disgwyl lefel benodol o ofal cwsmeriaid gan fusnes; mae hyn yn cynnwys nifer o wahanol agweddau ar beth mae busnes yn ei ddarparu:

• Y cynnyrch neu'r gwasanaeth – mae ansawdd a dibynadwyedd yn bwysig

• Gwybodaeth (ymholiadau) am y cynnyrch neu'r gwasanaeth, mae'n rhaid bod yn gywir,i'r funud ac yn glir

• Y broses werthu – yn cynnwys yr holl gamau

• Ymdrin â chwynion

• Danfon a/neu osod

Page 44: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

4

• Unrhyw gyfathrebu gyda gweithwyr sy'n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y gwerthiant

• Y lleoliad y mae'r cynnyrch neu wasanaeth yn cael ei brynu – yn cynnwys adeiladau, mynediad i'r adeiladau, cyfleusterau parcio, oriau agor, mynediad ar gyfer cwsmeriaid anabl, llywio gwefan, rhwyddineb ac amrywiaeth y dulliau talu, dulliau cysylltu clir

Felly bydd gwasanaeth i gwsmeriaid da yn cwmpasu'r holl fusnes a bydd y diwylliant hwn yn helpu'r busnes i gyrraedd gwerthiant a phroffidioldeb mor uchel â phosibl. Mae llawer o fusnesau llwyddiannus o'r gred bod rhaid i wasanaeth i gwsmeriaid fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau'r cwsmer er mwyn datblygu'r busnes a rhoi enw rhagorol iddo.

Bydd gwasanaeth i gwsmeriaid da yn arwain at:

• Gynnydd mewn teyrngarwch cwsmeriaid

• Cynnydd mewn gwariant cwsmeriaid

• Enw da

• Ddenu cwsmeriaid newydd

Dylai hyn wedyn arwain at gynnydd mewn refeniw gwerthiant, cyfran uwch o’r farchnad a chynnydd mewn elw. Bydd enw rhagorol o ran gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhoi'r fantais i'r busnes mewn marchnad gystadleuol, yn enwedig pan mae'r cynhyrchion sydd ar werth yn debyg iawn. Efallai mai'r gwasanaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan y cwsmer fydd y rheswm pam maen nhw wedi dewis un busnes dros un arall.

Bydd gwasanaeth gwael i gwsmeriaid yn arwain at gael cwsmeriaid anfodlon na fyddant, o bosib, yn dychwelyd i'r busnes, a bydd hyn yn effeithio ar y refeniw a'r elw. Bydd hefyd yn anodd atynnu cwsmeriaid newydd os oes gan y busnes enw gwael am wasanaeth i gwsmeriaid.

1. Beth yw ystyr gwasanaeth i gwsmeriaid?

2. Pam mae gwasanaeth i gwsmeriaid yn bwysig i fusnes?

Eglurwch beth yw disgwyliadau cwsmeriaid wrth iddynt brynu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau canlynol:

• Gwyliau penwythnos mewn gwesty pum seren

• Archwiliad gyda deintydd

• Y siopa wythnosol mewn archfarchnad fawr

• Taith mewn trên o Lundain i Fryste

• car newydd drud gan ddelwriaeth geir

Page 45: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

4

Mae nodweddion gwasanaeth i gwsmeriaid da yn cynnwys:

Cyfarch y cwsmer – mae hyn yn cynnwys nid yn unig y rhyngweithio wyneb yn wyneb gyda gweithwyr, ond hefyd cyflwyniad yr allfa a'r cynhyrchion, a'r arwyddion a'r prosesau ymae'r busnes yn eu defnyddio i ddelio â chwsmeriaid. Bydd llawer o gwsmeriaid yn gwneud penderfyniad am y busnes o fewn eiliad neu ddwy o fynd i mewn i'r siop, o fynd ar wefan neu siarad dros y ffôn. Mae'r argraff gyntaf yn bwysig ac mae'n rhaid iddi ddarbwyllo'r cwsmer bod y busnes yn gallu, ac yn barod i fodloni eu hanghenion a'r hyn y maen nhw ei eisiau.

Bydd cwsmeriaid eisiau gweld bod gweithiwr yn gwneud ymdrech dda i'w cydnabod a'u cynorthwyo. Os yw cwsmeriaid yn cael eu hanwybyddu ac yn gorfod aros am gymorth, efallai byddant yn gadael a siopa yn rhywle arall. Mewn marchnad gystadleuol bydd y cwsmer yn mynd i rywle arall, efallai bod gan y busnes y cynnyrch neu'r gwasanaeth roedden nhw eisiau prynu, ond mae gwasanaeth i gwsmeriaid gwael wedi costio'r gwerthiant iddyntWrth gyfarch cwsmeriaid dylai'r gweithwyr fod wedi gwisgo'n smart neu mewn ffordd sy'n addas i'r amgylchedd, ymddwyn yn broffesiynol, gwenu a gwneud i'r cwsmer deimlo bod croeso iddynt. Os ydynt yn gwneud tasg arall, dylent stopio a rhoi eu sylw llawn i'r cwsmer, ac os yw'r cwsmer yn gofyn am gynnyrch penodol, dylai'r gweithiwr eu harwain ato ac nid yn unig rhoi cyfarwyddiadau iddynt.

Rhyngweithio â'r cwsmer – gofyn cwestiynau i sicrhau bod y cwsmer yn cael gweld y cynnyrch cywir a fydd yn bodloni eu hanghenion neu eu chwenychiadau. Mae'n debyg y bydd llawer o gwsmeriaid ddim yn gwybod beth yw manylion neu nodweddion y cynhyrchion neu'r gwasanaethau sydd ar werth felly mae angen i'r gweithiwr ryngweithio â'r cwsmer i sicrhau eu bod yn prynu'r cynnyrch neu wasanaeth cywir. Mae llawer o gwsmeriaid yn gwerthfawrogi staff gwerthu sy'n fodlon treulio amser gyda nhw ac yn gwneud iddyn nhw deimlo'n gyfforddus, er y dylai staff gwerthu hefyd fod yn ymwybodol o beidio â bod yn rhy bendant a rhoi amser i'r cwsmer ar eu pen eu hun i benderfynu ar y cynnyrch. Bydd rhyngweithio gyda chwsmeriaid yn cynnwys ymholiadau ynglŷn â chynhyrchion a gwasanaethau, cwestiynauam y nodweddion a gwybodaeth dechnegol am y cynhyrchion a'r gwasanaethau, gwerthu'r cynnyrch a'r gwasanaeth, ymholiadau ôl-werthu a chwynion am y cynnyrch neu wasanaeth.

Nodi anghenion a chwenychiadau'r cwsmer – drwy ryngweithio â'r cwsmer gall gweithiwr gael syniad clir o beth sydd ei angen ar y cwsmer ac yna gallant ddefnyddio'u gwybodaeth am y cynnyrch i awgrymu cynhyrchion neu wasanaethau a fydd, o bosibl, yn bodloni eu hanghenion. Ni fydd cwsmeriaid yn hapus os bydd gweithiwr yn dangos cynhyrchion neu wasanaethau iddynt sydd ddim yn cyd-fynd â'u hanghenion.Annog adborth gan y cwsmer – mae gwasanaeth i gwsmeriaid da yn ymwneud â gwrando ar gwsmeriaid a'u hannog i roi adborth ar y cyngor a gawsant, ynghyd ag adborth mwy cyffredinol ar gynhyrchion a gwasanaethau a'u profiad cyfan gyda'r busnes. Mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi'r ffaith fod busnesau'n fodlon gwrando ar eu cwsmeriaid; mae'n awgrymu eu bod yn gwerthfawrogi eu barnau.

Ymateb i adborth – nid oes diben i annog adborth os nad yw hwn yn cael ei ddefnyddio i wella profiad y cwsmer neu agweddau eraill ar y busnes. Mae cwsmeriaid hefyd yn gyfoeth o wybodaeth a gallent roi adborth a fydd yn gwella profiad cwsmeriaid eraill.

Page 46: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau Byddwch wedi cael profiad o wasanaeth i gwsmeriaid gyda llawer o wahanol fusnesau. Meddyliwch am fusnes a roddodd wasanaeth i gwsmeriaid da, yn eich barn chi, a busnes arall a roddodd wasanaeth i gwsmeriaid gwael.1. Disgrifiwch eich profiad o wasanaeth i gwsmeriaid gyda'r ddau fusnes ac

eglurwch pam rydych yn meddwl eu bod yn dda neu'n wael.

2. A wnaeth hyn effeithio ar eich penderfyniad i brynu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth?3. A fyddech chi'n mynd nôl at y busnesau hyn yn y dyfodol i wneud

pryniannau eraill? Eglurwch eich ateb.

Darllenwch y darn canlynol ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Gwasanaeth i gwsmeriaid gwael yn taro elw Bovis

Mae Bovis Homes wedi neilltuo £7 miliwn i ddigolledu cwsmeriaid y gwerthwyd tai iddynt oedd heb eu gorffen a gyda diffygion trydan a phlymio.

Dywedodd yr adeiladwr tai bod y profiadau diweddar gan nifer sylweddol o gwsmeriaid 'wedi syrthio islaw'r safonau uchel mae ganddynt yr hawl i'w disgwyl'. I fynd i'r afael â'r broblem, mae Bovis yn cyflwyno cyfres o fesurau i wella'u gwasanaeth i gwsmeriaid.

Cyhoeddodd ostyngiad o 3% yn yr elw cyn treth ar gyfer y llynedd i £154.7 miliwn. Fodd bynnag, roedd ei refeniw i fyny o 11% i £1.1 biliwn a chododd y nifer o gartrefi a gwblhawyd o 1%, i 3,977. Llithrodd eu cyfranddaliadau i lawr o fwy nag 8% i 772 ceiniog.

Yn eu datganiad dywedodd Bovis “Mae safonau ein gwasanaeth i gwsmeriaid wedi bod yn dirywio am beth amser ac ar y cyd â'r oediadau mewn cynhyrchu tua diwedd y flwyddyn, rydym wedi dechrau 2017 gyda lefel uchel o faterion gwasanaeth i gwsmeriaid'” meddai'r prif weithredwr dros dro Earl Sibley.

“Mae ein gwasanaeth i gwsmeriaid wedi methu â sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn derbyn y safon uchel o ofal sy'n ddisgwyliedig' ” ychwanegodd.

44

Gwyliwch Mary Queen of shops – John Peers https://www.youtube.com/watch?v=8_Joh8_x4xA

1. Rhowch eich sylwadau ar y gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n cael ei gynnig gan y busnes.

2. Pa awgrymiadau a wneir gan Mary i wella'u gwasanaeth i gwsmeriaid?

Page 47: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau Dywedodd y cwmni nad oedd eu prosesau cynhyrchu wedi bod yn “ddigon cadarn” cadarn' i ymdopi â'u strategaeth dwf a'r prinder adnoddau yn y diwydiant. Dywedodd hefyd nad oedd wedi dylunio'r broses gwasanaeth i gwsmeriaid yn briodol a bod y broses yn brin o adnoddau ar gyfer “cyflwyno diwylliant ‘y cwsmer yn gyntaf’ ”.Dywedodd y Cadeirydd, Ian Tyler, bod y mesurau roedd y grŵp yn eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r problemau gwasanaeth i gwsmeriaid yn golygu y byddai Bovis yn cwblhau 10% i 15% yn llai o dai yn 2017 o gymharu â'r llynedd, cyn dychwelyd i'w lefelau arferol.

Ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/news/business-39026017

1. Pa effaith mae gwasanaeth i gwsmeriaid gwael wedi ei gael ar Bovis?

2. Pam mae'n bwysig bod Bovis yn datrys y problemau hyn?

Gwasanaethau i gwsmeriaid ar-lein

Mae'r twf parhaus mewn e-fasnach ac m-fasnach yn golygu bod busnesau o bob math a maint yn gwerthu mwy a mwy o gynhyrchion a gwasanaethau ar-lein. Wrth brynu ar-lein bydd cwsmer yn disgwyl lefel benodol o wasanaeth i gwsmeriaid a bydd rhaid i fusnes addasu nodweddion gwasanaeth i gwsmeriaid da i'w gwefan.

Mae gwefannau’n cael eu dylunio i gyfarch y cwsmer mewn ffordd ddeniadol ac ysgogol; mae'r rhain yn cael eu datblygu'n barhaus gyda fformatau newydd a ffyrdd newydd o gipio sylw'r cwsmer. Mae llawer o wefannau bellach yn caniatáu rhyngweithio llawn gyda'r cwsmer, nid yn unig drwy ddefnyddio ystod o gyfryngau digidol, fel lluniau, fideos, a gwe- gamerâu, ond hefyd drwy'r defnydd o fformatau sy'n caniatáu i gwsmeriaid ofyn cwestiynau i weithwyr gwasanaeth i gwsmeriaid ar-lein sy'n ymateb ar unwaith. Mae gan lawer o wefannau gyfeiriadau e-bost hefyd sy'n caniatáu i gwsmeriaid ofyn unrhyw gwestiynau syddganddyn nhw. Defnyddir cyfleusterau chwilio i fireinio cynhyrchion a gwasanaethau, er mwyn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i beth maen nhw ei eisiau neu beth sydd ei angen arnynt. Yn aml cynhwysir manylion nodweddion y cynnyrch fel y gall y cwsmer baru'r cynhyrchion a'r gwasanaethau â'u hanghenion a'u chwenychiadau personol. Mae'r rhan fwyaf o wefannau hefyd yn annog adborth gan gwsmeriaid ac mae ganddynt ffyrdd hawdd i gwsmeriaid adael unrhyw sylw sydd ganddyn nhw.

Mae busnesau ar-lein yn gallu casglu cyfoeth o wybodaeth am gwsmeriaid; mae dadansoddi data yn caniatáu i fanylion y cwsmer gael eu storio fel y gellir defnyddio hanes prynu a phori'r cwsmer i wella cyfranogiad cwsmeriaid a phrofiad y cwsmer. Mae'r data hyn yn caniatáu i fusnes adnabod ymddygiad prynu cwsmeriaid unigol fel y gallant roi gwybod i gwsmeriaid am gynhyrchion maen nhw'n meddwl y byddai o ddiddordeb iddynt.

45

Ewch i wefan Amazon a disgrifiwch sut maen nhw'n cyflawni gwasanaeth i gwsmeriaid ar- lein. Yn eich ateb dylech gyfeirio at:

• Gyfarch y cwsmer• Rhyngweithio â'r cwsmer• Nodi anghenion a chwenychiadau'r cwsmer• Annog adborth ac ymateb iddo.

Page 48: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau Darllenwch yr erthygl ganlynol ac atebwch y cwestiynau sy’n dilyn:

Defnyddwyr ifanc yn disgwyl gwasanaeth gwell

Mae bodlonrwydd cwsmeriaid yn codi ond mae arbenigwyr yn dweud bod rhaid i siopwyr weithio'n rhy galed i gael datrysiad i'w cwynion.Yn ôl astudiaeth gan y Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid, er bod busnesau'n gwella, bu'n rhaid i hanner y defnyddwyr oedd â phroblemau gwyno mwy na dwywaith cyn iddynt gael eu datrys.

Rhybuddiodd y Sefydliad hefyd y gallai fod diffyg empathi pan mae pobl yn codi problemautrwy wasanaethau sgwrsio ar y we

Dywedodd ymgyrchwyr y dylai hyfforddiant staff gael ei wella i ddatrys cwynion cwsmeriaid.Mae'r Sefydliad yn cynnal astudiaeth ddwywaith y flwyddyn i siartio gwasanaeth i gwsmeriaid gan dynnu, yn rhannol, ar brofiadau 10,000 o bobl.Dywedodd bod busnesau wedi gwella yn y 12 mis diwethaf, a bod y bwlch rhwng y perfformwyr gorau a’r rhai gwaethaf wedi culhau.Heriodd y canfyddiad hefyd y gred draddodiadol mai "'hen ddynion crintachlyd" oedd y mwyaf tebygol o gwyno. Y defnyddwyr 65 mlwydd oed neu hŷn oedd y mwyaf "bodlon" gyda busnesau, a'r rhai 25 i 34 oed oedd y lleiaf hapus.Am yr ail flwyddyn yn olynol, roedd Amazon ar frig yr arolwg boddhad, ond dywedodd y Sefydliad bod gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn cael ei fynnu bellach ar draws yr holl sectorau."Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cwsmeriaid yn dal i deimlo eu bod yn treulio gormod o amser ac ymdrech yn delio â busnesau. I droi hyn ar ei ben, dylid rhoi mwy o ffocws arwneud pethau'n haws ac yn llai afrosgo i gwsmeriaid," 'meddai Jo Causon, prif weithredwr y Sefydliad."Mae ymgysylltu trwy ddulliau digidol fel swyddogaethau e-bost, tecstio, aps a gwe-sgwrsio wedi cynyddu, bob un, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a'r rhain yw'r sianeli ble mae'n fwyaf anodd i staff gwasanaeth i gwsmeriaid ddangos empathi.

"Felly mae'n rhaid i sefydliadau sicrhau bod eu staff yn gyfranogol iawn ac yn dra medrus, gan fod pob rhyngweithiad â chwsmer – does dim gwahaniaeth drwy ba sianel – yn cyfrif tuag at berfformiad busnes."

Dywedodd ymgyrchwyr dros ddefnyddwyr nad oeddent wedi synnu gan y canlyniadau arhoesant her i fusnesau i roi mwy o gyfrifoldeb i'r staff wrth ddelio â phroblemau.Dywedodd Marcus Williamson, golygydd y wefan CEOemail.com: "'Rydym yn gweld cwsmeriaid sydd ddim yn cael yr atebion maen nhw eu heisiau gan wasanaethau i gwsmeriaid oherwydd nad yw'r staff hynny wedi'u hyfforddi'n dda neu oherwydd nad ydynt wedi eu grymuso i wneud gwahaniaeth i brofiad y cwsmer."

Galwodd Helen Dewdney, awdur How to Complain: The Essential Consumer Guide to Getting Refunds, Redress and Results! ar ddefnyddwyr i fod yn ymwybodol o'u hawliau

46

Page 49: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

4

TGAU Busnes • Gweithrediadau

"Dylai pobl wybod a dyfynnu'r ddeddfwriaeth briodol, oherwydd dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr mae gan gwsmeriaid yr hawl i wasanaethau a gyflawnir gyda sgìl a gofal rhesymol, ac i nwyddau sy’n cydymffurfio â’u disgrifiad, sy'n addas i'r pwrpas, sydd o ansawdd boddhaol ac sy'n para."

Ffynhonnell: http://www.bbc.co.uk/news/business-38713939

1. Pam fyddai cynyddu hyfforddiant yn helpu busnesau i ddelio â chwynion cwsmeriaid?

2. Beth yw'r prif gwynion gan gwsmeriaid wrth ddelio â busnesau ar-lein?

3. Beth a olygir gan “mae ymgysylltu trwy ddulliau digidol fel swyddogaethau e-bost, tecstio, aps a gwe-sgwrsio wedi cynyddu, bob un”?

Page 50: Dulliau cynhyrchuresource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/... · Web viewMae tebotau a nwyddau cerameg gyda'r logo Yorkshire Tea arnynt yn cael eu hadalw ar ôl i gwsmeriaid

TGAU Busnes • Gweithrediadau

4

CydnabyddiaethClawr; erhui1979 / gettyimagesMesur ar gyfer siaced; shironosov / getty images Sgons ffres; urbancow / getty imagesCwcis; sykono / getty imagesCar Morgan Motor; Wikimedia Creative Commons http://bit.ly/2vxJlYJCeir Nissan; Tramino / getty imagesArolygydd Ansawdd; milanvirijevic / getty images Sticeri gwrthod; AdShooter / getty imagesISO 9001; NicoEINo / getty imagesYorkshire Tea; Flickr Creative Commons http://bit.ly/2u5u8QEBusnes gydag arferion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR); weerapatkiatdumrong / getty imagesCynhaeaf te; Pixabay Public Domain http://bit.ly/2u7AJc5Bocsys yn symud ar felt cludo; Maxiphoto / getty imagesArwydd Diogelwch Teledu Cylch-Cyfyng (CCTV); northlightimages / getty images Gweithiwr yn gwirio bocs mewn warws; xavierarnau / getty imagesCludwr ceir ar y briffordd; Tramino / getty imagesGweithwyr warws mewn oferôls gwaith; tempura / getty images Dyn yn symud bocsys; xavierarnau / getty imagesDylunydd yn lluniadu datblygiad gwefan; scyther5 / getty images Cargo; Tryaging / getty imagesRobotiaid retro; Vladyslav Otsiatsia / getty images Fan ddosbarthu DHL; Adrianhancu / getty images Cynorthwyydd Siop; mediaphotos / getty images Siopa ar-lein; grinvalds / getty imagesArolwg gwasanaeth i gwsmeriaid; Kenishirotie / getty images Cartrefi Bovis; Peter Facey / www.geography.org.uk