22
Assisted Prison Visits Scheme Customer Guide Welsh version Cynllun Cymorth Ymweliadau Carchar Llawlyfr i Gwsmeriaid Help gyda chost ymweliadau carchar os ydych chi ar incwm isel.

Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Assisted Prison Visits Scheme Customer Guide – Welsh version Cynllun Cymorth Ymweliadau Carchar

Llawlyfr i Gwsmeriaid

Help gyda chost ymweliadau carchar os ydych chi ar incwm isel.

Page 2: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Cynnwys 1. Cyflwyniad 1 2. Pwy all wneud cais? Perthnasau agos 2.1 Partner 2.2 Unig ymwelydd 2.3 Rhywun sy’n danfon plentyn neu berson ifanc cymwys 2.4 Rhywun sy’n danfon oedolyn cymwys 2.5 3. Incwm Incwm cymhwyso 3.1 Cymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn Seiliedig ar Incwm) 3.2 Credyd Cynhwysol 3.3 Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant 3.4 Credyd Pensiwn 3.5 Tystysgrif Iechyd 2 neu 3 3.6 4. Sefydliadau carcharu Carchardai yng Nghymru, Lloegr a’r Alban 4.1 Carchardai yng Ngogledd Iwerddon 4.2 Carchar Guernsey 4.3 Carchar Jersey 4.4 5. Cymorth at ymweliadau carchar Hawl 5.1 Ymweliadau ychwanegol 5.2 Cyrraedd y carchar yn hwyr 5.3 Ymweliadau sy’n cael eu canslo 5.4 6. Pa help ariannol allaf i ei gael? Gwybodaeth Gyffredinol 6.1 Pryd i wneud cais am gymorth at ymweliad carchar a) Prawf gwariant b) Taliad ymlaen llaw c) Anghenion arbennig d) Cadarnhau ymweliadau e) Teithio 6.2 Bws / Coets a)

Page 3: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Trên / trên danddaearol b) Car / Beic Modur c) Ymweliadau â charchar ar Ynys Wyth d) Llogi car e) Tacsi f) Bws cymunedol neu debyg g) Teithio mewn awyren h) Lwfans lluniaeth ysgafn 6.3 Llety dros nos 6.4 Gwarchod plant / Clwb ar ôl ysgol 6.5 7. Gwneud cais am gymorth ymweliad carchar Gwybodaeth a help 7.1 Cwblhau ffurflen gais 7.2 Taliad cymorth ymweliad charchar 7.3 Seiciau giro yn cael eu colli neu eu dwyn 7.4 Cyffredinol 7.5 8. Safonau gwasanaeth Ein safonau ni 8.1 Trefn gwynion 8.2 Clawr cefn – Symiau taladwy / uchafsymiau incwm

Page 4: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Adran 1. CYFLWYNIAD Mae’r Cynllun Cymorth Ymweliadau Carchar yn cynnig cymorth ariannol i berthnasau agos, partneriaid neu unig ymwelwyr carcharorion sy’n derbyn budd-daliadau cymwys neu incwm isel wrth wneud ymweliadau cymwys â charchardai. Caiff y cynllun ei ariannu gan y Cynllun Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (National Offender Management Service neu NOMS) a chaiff ei reoli gan yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar (Assisted Prison Visits Unit neu APVU) ar ran NOMS a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae’r Uned Cymorth Ymweliadau Carchar yn gweinyddu’r cynllun ar ran Gwasanaeth Carchardai’r Alban yn ogystal. Gall ymwelwyr sy’n gymwys wneud cais am gymorth at ymweliad carchar â charchar ar un o Ynysoedd y Sianel er bod rhai cyfyngiadau ynglŷn â hyn. Rhaid i ymwelwyr fod yn breswylwyr yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban i fod yn gymwys am gymorth ymweliad carchar. Mae cynllun gwahanol i breswylwyr Gogledd Iwerddon, ac mae llawlyfrau cwsmeriaid a ffurflenni cais ar gyfer y cynllun hwnnw ar gael o’r carchar yr ymwelir ag ef neu’r Uned Cymorth Ymweliadau Carchar. Adran 2. PWY ALL WNEUD CAIS? I fod â hawl cael cymorth rhaid i chi fod yn un o’r catergorïau sy’n cael eu rhestru yn yr adran hon a bodloni’r rheolau incwm yn Adran 3. 2.1 Perthnasau agos Mae perthynas agos yn golygu: gwraig, gŵr, partner sifil, mam, tad, chwaer, brawd, mab, merch, taid neu nain neu hanner/llys frawd / chwaer mabwysiedig, llys blentyn neu lys riant neu rywun a oedd in loco parentis am gyfnod sylweddol yn ystod plentyndod y carcharor. Yr isafswm oed i wneud cais am gymorth ymweliad carchar yw 18 oed (16 wrth ymweld â charchar yn yr Alban) ond gellir hepgor y cyfyngiad yma pan mae’r llywodraethwr neu’r cyfarwyddwr yn rhoi caniatâd i berthynas agos neu bartner neu unig ymwelydd cymwys 16 neu 17 oed ymweld ar eu pennau eu hunain. 2.2 Partner Mae partner yn golygu person yr oedd y carcharor yn byw gydag ef neu hi, fel cwpl, mewn perthynas sefydlog, yn union cyn cychwyn y cyfnod yn y ddalfa neu garchar. Mae cyfyngiad oed i hyn. Gweler Adran 2.1. Mae unrhyw blant sy’n byw o fewn yr uned deuluol hefyd yn gymwys i dderbyn cymorth.

Page 5: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

2.3 Unig ymwelydd Unig ymwelydd yw rhywun nad yw’n berthynas agos nac yn bartner ond sydd yr unig un i ymweld â’r carcharor yn ystod cyfnod o bedair wythnos yn union cyn dyddiad yr ymweliad cyntaf â gynorthwyir. Mae cyfyngiad oed. Gweler Adran 2.1. 2.4 Rhywun sy’n danfon plentyn neu berson ifanc cymwys Mae tri math o berson sy’n danfon plentyn/plant carcharor:

Priod neu bartner y carcharor

Gofalwr

Rhywun sydd wedi cael awdurdod y naill neu’r llall o’r uchod i ddanfon y plentyn / plant i’r carchar ar eu rhan.

Priod neu bartner y carcharor

Dylai plant cymwys gael eu cynnwys ar eich ffurflen gais ond gallwch drefnu i rywun arall gymryd y plentyn/plant cymwys i’r carchar ar eich rhan. Maent yn gwneud cais am gymorth fel rhywun sy’n danfon. Fodd bynnag, rhaid ichi ysgrifennu atom ni i roi awdurdod i’r sawl sy’n danfon trwy roi gwybodaeth, fel y dangosir isod, a thystiolaeth i gadarnhau mai’r carcharor yw mam/tad y plentyn/plant sy’n cael eu hebrwng i’r carchar. Gweler isod*

eich enw, cyfeiriad a Rhif Yswiriant Gwladol

enw a dyddiad geni eich plentyn/plant sy’n cael eu danfon i’r carchar a’u perthynas â’r charcharor. Gweler isod*

manylion eich incwm. Gweler adran 3. Os ydych chi’n derbyn Cymorth Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn Seiliedig ar Incwm) efallai y bydd angen inni gysylltu â’r swyddfa leol a wnaeth y dyfarniad i ganiatáu hyn. I roi eich caniatâd, nodwch enw a chyfeiriad y swyddfa leol.

Enw, rhif carchar a lleoliad y fam/tad sydd yn y carchar

Enw a chyfeiriad y sawl sy’n danfon. Oni bai eich bod chi’n tynnu’r caniatâd yn ôl trwy ysgrifennu atom, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod y person a enwir wedi ei awdurdodi i fynd â’ch plentyn/plant ar bob ymweliad carchar y gwneir cais am gymorth. *Mae un o’r canlynol yn brawf derbyniol o fod yn rhiant trwy gadarnhau bod cyfenw’r plentyn/plant yr un fath â’r carcharor ar un o’r canlynol:

tystysgrif geni byr gwreiddiol

tystysgrif geni hir gwreiddiol

cerdyn meddygol gwreiddiol

dyfarniad Budd-dal Plant

llythyr swyddogol ee oddi wrth ysgol, canolfan iechyd etc

Page 6: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Os nad ydych chi’n gallu anfon prawf i gadarnhau mai’r carcharor yw’r tad dylech gysylltu â’ch Swyddfa Gofrestru leol am gyngor ar gyfer ychwanegu manylion y tad at gofnod y geni. Rhaid i ddogfennaeth wreiddiol o’r Swyddfa Gofrestru i gadarnhau bod cofnod y geni wedi cael ei newid gael ei hanfon atom.

Gofalwr Os nad ydych chi’n cymhwyso fel priod neu bartner ond yn edrych ar ôl plentyn/plant y carcharor efallai y gallwch chi hawlio cymorth fel ‘danfonwr’. Rhaid ichi fodloni’r rheolau cymhwyso ar incwm. Gweler Adran 3. Rhaid i brawf sy’n cadarnhau mai’r carcharor yw mam neu dad y plentyn/plant sy’n cael eu danfon gael ei anfon gyda’r ffurflen gais. Gweler uchod. Os ydych chi’n penderfynu gofyn i rywun arall weithredu fel rhywun sy’n danfon, rhaid ichi gydymffurfio â holl ofynion “priod neu bartner y carcharor”. Oni bai eich bod chi’n tynnu’r caniatâd yn ôl trwy ysgrifennu atom, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod y person a enwir wedi ei awdurdodi i fynd â’ch plentyn/plant ar bob ymweliad carchar y gwneir cais am gymorth tuag atynt. Mae’n ofynnol i’r sawl sy’n danfon gwblhau ffurflen gais. Person awdurdodedig Cyn y gellir asesu unrhyw gais mae arnom angen llythyr o awdurdod a gwybodaeth benodol fel yr amlinellir uchod gan y rhiant neu bartner neu ofalwr. Nid oes angen i chi fodloni’r rheolau incwm cymhwyso. 2.5 Rhywun sy’n danfon oedolyn cymwys Gall ymwelwyr sy’n oedolion fod yn gymwys am rywun i’w danfon. Gweler Adran 6.1d. Rhaid i’r sawl sy’n danfon gwblhau ffurflen gais a lle bynnag bo hynny’n bosibl dylai hon gael ei hanfon atom yr un adeg â’r ffurflen ymwelwyr. Mae taith ddwy-ffordd rhwng cartref y danfonwr a’r ymwelydd cymwys yn daladwy hyd at gyfradd uchafswm. Lle bo taith mewn car yn cael ei hawlio, bydd y cyfanswm lwfans fesul milltir yn cael ei dalu’n arferol i’r ymwelydd cymwys os na ofynnwyd yn wahanol. Yr unig adeg y mae’r gyfradd i yrwyr gwirfoddol yn cael ei thalu yw pan nad yw’r danfonwr ei hun yn mynd i ymweld. Adran 3. INCWM 3.1 Incwm cymwys

Page 7: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

I fod yn gymwys am gymorth rhaid ichi fodloni’r rheolau yn Adran 2 a bod yn derbyn un o’r canlynol neu ddal Tystysgrif Iechyd 2 neu 3:

Cymorth Incwm

Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn Seiliedig ar Incwm)

Credyd Cynhwysol

Credyd Treth (gweler isod)

Credyd Pensiwn. Os yw rhywun arall yn hawlio unrhyw un o’r uchod rhaid ichi roi eu manylion personol yn Rhan 2 o’r ffurflen gais. Rhaid rhoi gwybod inni ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich incwm. 3.2 Cymorth Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm / Cymorth Cyflogaeth a Chymorth (yn Seiliedig ar Incwm) Rydym yn cadarnhau gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau pa fudd-dal yr ydych chi’n ei dderbyn ac yn cynnal gwiriadau rheolaidd. 3.3 Credyd Cynhwysol Rhaid i hysbysiad dyfarnu gwreiddiol gael ei anfon atom pan ydych chi’n hawlio am y tro cyntaf a rhaid ichi anfon hysbysiad dyfarnu newydd bob pedwar mis ar ôl hynny. Mae uchafswm incwm mewn grym. 3.4 Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant I fod yn gymwys rhaid i chi fod yn derbyn un o’r canlynol:

Credyd Treth Plant

Yr elfen anabledd mewn Credyd Treth Gwaith

Credyd Treth Gwaith gyda Chredyd Treth Plant. Ym mhob achos rhaid i incwm gros y cartref fel y dangosir ar yr hysbysiad dyfarnu credyd treth beidio â bod yn uwch nag uchafswm a gyhoeddwyd. Rhaid i’r hysbysiad dyfarnu gwreiddiol gael ei anfon atom wrth hawlio am y tro cyntaf a rhaid anfon hysbysiad dyfarnu newydd bob pedwar mis ar ôl hynny. 3.5 Credyd Pensiwn Mae gan dderbynwyr Credyd Pensiwn hawl i gymorth ymweliadau carchar yn amodol ar fodloni’r meini prawf yn Adran 2. Rhaid i’r hysbysiad dyfarnu gwreiddiol gael ei anfon atom wrth hawlio am y tro cyntaf a rhaid anfon hysbysiad dyfarnu newydd bob pedwar mis ar ôl hynny. 3.6 Tystysgrif Iechyd 2 neu 3

Page 8: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi. Gellir ôl-ddyddio cymorth ymweliadau carchar hyd at dri mis cyn cychwyn y dystysgrif iechyd, yn amodol ar fodloni’r holl amodau eraill. Caiff y cyfraniad a ddangosir ar y Dystysgrif Iechyd 3 at deithio i dderbyn triniaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei dynnu o daliad cymorth ymweliad carchar. Mae’r ffurflen gais am Dystysgrif Iechyd ar gael gan yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rheolau cymhwyso, cysylltwch â’r Uned Cymorth Ymweliadau Carchar: Llinell gymorth: 0300 063 2100 rhwng 9am a 5pm

Dydd Llun i Ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau’r Banc)

Ffacs: 0121 626 3474 (24 awr) E-bost: [email protected] Adran 4 SEFYDLIADAU CARCHARU 4.1 Carchardai yng Nghymru, Lloegr a’r Alban Mae pob sefydliad carcharu (gan gynnwys Sefydliadau Troseddwyr Ifanc) yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn dod o dan y cynllun hwn. 4.2 Carchardai yng Ngogledd Iwerddon Gall ymwelwyr cymwys sy’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban wneud cais am gymorth i ymweld â charcharor sy’n cael ei ddal mewn carchar yng Ngogledd Iwerddon. Gall preswylwyr Gogledd Iwerddon gael llawlyfr a ffurflen gais ar gyfer Cynllun Ymweliadau Carchar Gogledd Iwerddon o’r carchar yr ymwelir ag ef neu gan yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar (mae rheolau gwahanol ynglŷn â thaliadau). 4.3 Carchar Guernsey Gall ymwelwyr cymwys sy’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban wneud cais am gymorth i ymweld â charcharor sy’n cael ei ddal yng ngharchar Guernsey. Mae dwy amod i hyn:

rhoddir cymorth am un ymweliad bob 6 mis gydag uchafswm o 3 oedolyn cymwys a phlant cymwys i bob ymweliad

un ymweliad yn unig a fydd yn cael cymorth pan fo’r carcharor yn gwasanaethu dedfryd o 6 mis neu lai.

Page 9: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Wrth gael ei ddedfrydu gall dinesydd y DU wneud cais am drosglwyddo’n ôl i garchar yn y DU. Mae Carchar Guernsey yn gweithredu polisi o ailwladoli i bawb o’r rheini a ddedfrydir i 5 mlynedd a mwy. Gellir cael help a chyngor gan y Swyddog Prawf sy’n gweithio yng Ngharchar Guernsey (rhif ffôn 01481 248376). 4.4 Carchar Jersey Gall ymwelwyr cymwys sy’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban wneud cais am gymorth i ymweld â charcharor sy’n cael ei ddal yng ngharchar Jersey. Mae’r un ddwy amod ar gyfer ymweld â charchar Guernsey yn berthnasol. Gellir cael help a chyngor yn uniongyrchol gennym ni. Adran 5 CYMORTH AT YMWELIADAU CARCHAR 5.1 Hawl Rhoddir cymorth fel arfer tuag at ymweliad pob pythefnos a hyd at 26 o ymweliadau a gynorthwyir ar gyfer pob cyfnod o 12 mis. Mae hyn yn cychwyn ar ddyddiad yr ymweliad cyntaf y cafwyd cymorth ato. Gellir cronni ymweliadau a gynorthwyir er mwyn galluogi i ddau neu fwy o ymweliadau olynol gael eu gwneud yn ystod un daith yno ac yn ôl. Bydd cyfraniad tuag at le i aros dros nos yn cael ei ystyried. Bydd pob diwrnod o ymweld yn cyfrif tuag at y lwfans blynyddol. Gellir caniatáu cymorth tuag at ymweliadau wedi’u cronni, cysylltwch â ni am gyngor. Gellir defnyddio ymweliad carchar a gynorthwyir i gyfarfod, yn y sefydliad, carcharor sy’n cael ei ryddhau ar drwydded dros dro. Rhaid i’r ffurflen Cadarnhau Ymweliad gael ei stampio gyda’r dyddiad arni yn y carchar. Gweler Adran 6.1e. Bydd pob taith ddwyffordd yn cyfrif tuag at y lwfans blynyddol a bydd y treuliau a delir yn cael eu cyfyngu i gost ymweliad arferol. Mae’n bosibl i uchafswm o 13 o ymweliadau carchar a gynorthwyir na chafodd eu defnyddio gael eu trosglwyddo ymlaen ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. 5.2 Ymweliadau ychwanegol Gall llywodraethwr y carchar awdurdodi ymweliadau ychwanegol os bernir bod hyn yn angenrheidiol i ddibenion ailsefydlu neu les y carcharoror neu’ch lles chi. Ni fydd yr hyn a delir yn cyfrif tuag at y lwfans blynyddol. Gweler adran 5.1. 5.3 Cyrraedd y carchar yn hwyr

Page 10: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Gall rhai carchardai wrthod caniatáu i ymweliad ddigwydd os ydych chi’n cyrraedd yn hwyr. Yn yr achosion hyn ni fyddwch fel arfer yn gymwys am ymweliad carchar a gynorthwyir. 5.4 Ymweliadau sy’n cael eu canslo Bydd cymorth yn cael ei awdurdodi fel arfer os ydych chi’n teithio i’r carchar a’r ymweliad yn cael ei ganslo am resymau gweinyddol neu bod y carcharor wedi cael ei drosglwyddo i garchar arall. Rhaid i’r ffurflen Cadarnhau Ymweliad gael ei stampio gyda’r dyddiad arni ac os yn bosibl rheswm wedi’i nodi am y canslo. Ni fydd y taliad yn cyfrif tuag at y lwfans blynyddol. Gweler Adran 5.1. Adran 6 PA HELP ALLANOL ALLAF I EI GAEL? 6.1 Gwybodaeth gyffredinol

a. Pa bryd i wneud cais am gymorth ymweliadau carchar Dylai pob ymwelydd cymwys a lle bo’n berthnasol, rhywun sy’n danfon (gweler Adran 2.4 a 2.5) gwblhau ffurflen gais unigol a rhaid i hon gael ei hanfon atom o fewn 28 diwrnod o’r ymweliad cyntaf a hawlir. b. Prawf gwariant Ni fydd costau trafnidiaeth gyhoeddus, meysydd parcio, tollau pontydd/twneli, llety na gofal plant yn cael eu talu oni bai bod derbyniadau a/neu docynnau a ddefnyddiwyd yn cael eu cyflwyno gyda’r ffurflen gais. Rhaid ichi deithio ar y dull rhataf o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael. Bydd yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar yn ad-dalu’r costau am y dull rhataf o deithio os ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, hyd yn oed os yw eich derbyniadau’n dangos cost uwch. c. Taliad ymlaen llaw Gellir hawlio taliad ymlaen llaw tuag at un neu ddau ymweliad. Dylech ddefnyddio’r dull rhataf o deithio sydd ar gael, gan ddefnyddio trenau y tu allan i’r oriau brig lle bo’n bosibl. Bydd yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar yn darparu tocynnau trên ar gyfer y siwrnai rataf bosibl; gall hyn olygu aros yn hirach yn yr orsaf am y trên rhatach. Os ydych chi’n teithio ar y trên bydd angen i chi roi dyddiad(au) yr ymweliad, gorsafoedd ac amserau’r trenau ar gyfer eich taith ar y ffurflen hawlio, gan ganiatáu amser i fynd i’r carchar. Mae’n bwysig iawn eich bod yn hysbysu’r Uned Cymorth Ymweliadau Carchar os yw dyddiad(au) eich ymweliad yn newid cyn i chi gael y tocynnau; ffoniwch 0300 063 2100, rhwng 09.00 a 17.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau’r Banc) neu e-bostiwch: [email protected]

Page 11: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Os yw’r tocynnau rydych chi’n eu derbyn yn rhai ar gyfer y dyddiad anghywir, dylech eu dychwelyd at yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar ynghyd â llythyr wedi’i gyfeirio at y Gwasanaethau Cwsmeriaid, bydd angen ichi hefyd wneud cais newydd os oes arnoch eisiau mynd ar ddyddiadau gwahanol. Efallai y bydd yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar yn gofyn ichi dalu am docynnau sydd wedi cael eu rhoi ichi os nad ydych chi’n dweud wrthynt am ymweliadau sydd wedi eu newid neu eu canslo. Bydd tocynnau’n cael eu postio atoch gydag unrhyw daliad arall sy’n ddyledus. Bydd y cod casglu ar gyfer tocynnau sy’n cael eu casglu o beiriant Fastticket yn yr orsaf yn cael ei bostio neu e-bostio atoch. I ddefnyddio’r peiriant Fastticket rhaid ichi roi eich cerdyn debyd neu gerdyn credyd i mewn i gadarnhau pwy ydych chi. Caiff gwarantau rheilffordd eu cyfnewid am docynnau yn yr orsaf (mae’r defnydd o warantau rheilffordd yn dod i ben yn raddol); gofynnwch am dderbynneb bob amser wrth gyfnewid y gwarant yn yr orsaf. Os penderfynwch wneud cais am ddau daliad ymlaen llaw yr un pryd, ac yn bwriadu ymweld pob 14 diwrnod, efallai y bydd yn ddefnyddiol ichi wneud cais am daliad ymlaen llaw arall yn union ar ôl y cyntaf o’r ddau ymweliad. Rhaid ichi gynnwys ffurflen Cadarnhau Ymweliad wedi’i chwblhau a lle bo’n berthnasol unrhyw docynnau/derbynebau teithio/llety ar gyfer yr ymweliad yr ydych newydd ei wneud. Gallwch barhau i wneud cais pob pythefnos a bydd y dyddiad y gwneir cais amdano yn y dyfodol fel arfer mewn tua 4 wythnos. Ni fyddwn yn caniatáu ichi gael mwy na dau daliad ymlaen llaw ar unrhyw un adeg. Rhaid i bob tocyn/derbynneb gael eu cadw a’u hanfon atom gyda ffurflen Cadarnhau Ymweliad wedi’i chwblhau (gweler Adran 6.1e) o fewn 28 diwrnod o ddyddiad/au yr ymweliad neu gallant gael eu cyflwyno gyda’r hawliad nesaf os yw hynny’n gynt. Os ydych chi’n canslo neu os nad ydych chi’n ymweld o fewn 7 diwrnod o’r dyddiad a ddangosir ar y ffurflen gais, rhaid i’r holl arian, ac os yn berthnasol, y gwarant rheilffordd / tocynnau, gael eu dychwelyd atom neu anfonwch siec/archeb bost yn daladwy i “APVU”. Cysylltwch â’n Llinell Gymorth i Gwsmeriaid os oes arnoch angen unrhyw gyngor neu help wrth ymgeisio am daliad ymlaen llaw. d. Anghenion arbennig Os ydych chi’n rhy sâl neu â chyflwr meddygol sy’n peri problemau difrifol i fynd ar ymweliad neu os ydych chi dros 75 oed gallwch wneud cais am un o’r canlynol:

Page 12: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

rhywun i’ch danfon (perthynas neu ffrind) i’ch helpu chi yn ystod y daith. Gweler Adran 2.5

llogi car. Ni fydd hyn yn cael ei gyfyngu i gost trafnidiaeth gyhoeddus. Gweler Adran 6.2e.

defnyddio tacsi am deithiau byr ee at arosfannau bws neu orsafoedd rheilffordd. Gweler Adran 6.2f.

mynd â’r car ar fferi i Ynys Wyth wrth ymweld â charcharor yng Ngharchar Ei Mawrhydi Ynys Wyth. Gweler Adran 6.2d.

Ym mhob achos meddygol byddwn angen llythyr oddi wrth eich meddyg, a rhaid i’r llythyr ddatgan yn glir bod arnoch angen rhywun i’ch danfon neu dacsi at y bws agosaf neu orsafoedd rheilffordd i ddiben yr ymweliad carchar. Oni chaiff y cyflwr ei nodi fel un parhaol bydd angen llythyr pellach bob pedwar mis. e. Cadarnhau ymweliadau Rhaid i ffurflen Cadarnhau Ymweliad wedi’i chwblhau gael ei chynnwys gyda ffurflen gais ar gyfer pob ymwelydd a lle bo’n briodol, hebryngwr, sy’n gwneud cais am gymorth. Os ydych chi’n gwneud cais am daliad ymlaen llaw, gweler Adran 6.1c. Mae dwy ffurflen Cadarnhau Ymweliad wedi eu hamgáu gyda’r pecyn cais. Cwblhewch Rhan A ac ewch ag un ffurflen gyda chi i’r carchar, rhaid iddi gael ei stampio gyda’r dyddiad er mwyn profi bod yr ymweliad wedi digwydd. Pan fyddwch yn cyrraedd y carchar neu Ganolfan Ymwelwyr (nid oes canolfan ymwelwyr ym mhob carchar), holwch pwy sy’n gyfrifol am gwblhau Rhan B. Bydd y ffurflen yn cael ei rhoi’n ôl ichi ar ôl ei stampio gyda’r dyddiad. Darllenwch y nodiadau canlynol yn ofalus gan y gall rhai cyfyngiadau fod yn berthnasol i Adran 6.1 a-e uchod. 6.2 Teithio Gallwch fynd mewn car, ar feic modur neu drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid ichi ddefnyddio’r dull rhataf o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael ar gyfer y daith yr ydych chi’n ei gwneud. Edrychwch i weld os gallwch fynd mewn bws neu goets, neu os ydych chi’n mynd ar y trên, defnyddiwch drenau dosbarth safonol, gan deithio’r tu allan i oriau brig lle bo’n bosibl. Os ydych chi’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae gan yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar yr hawl i gyfyngu’ch taliad i’r dull rhataf sydd ar gael. Gwnewch yn sicr eich bod chi’n cael derbynebau a hefyd yn amgáu’r holl docynnau a ddefnyddiwyd gyda’ch ffurflen gais.

a. Bws / Coets

Page 13: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Edrychwch i weld os gallwch chi fynd ar fws neu goets, os ydych chi’n mynd ar y trên, defnyddiwch drenau dosbarth safonol, gan deithio’r tu allan i oriau brig lle bo hynny’n bosibl. Gall rhywun sy’n defnyddio’r bws yn rheolaidd wneud cais am ad-daliad o gost cerdyn teithio disgownt. Fodd bynnag, rhaid inni gael ein bodloni y bydd cost y cerdyn yn cael ei adfer trwy docynnau rhatach wrth ymweld â charchar. Gofynnwch i’r cwmni bysiau am fanylion unrhyw gynlluniau lleol. b. Trên / Trên tanddaearol

Chwiliwch am y trên rhataf ar gyfer eich taith i’r carchar, edrychwch ar drenau safonol neu’r tu allan i’r oriau brig yn gyntaf. Byddwch yn cael eich talu am y tocyn trên rhataf sydd ar gael, bydd yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar yn cyfyngu eich taliad os ydych yn dewis defnyddio trên drutach. Gall rhywun sy’n defnyddio’r trên yn rheolaidd wneud cais am ad-daliad o gost cerdyn teithio disgownt. Fodd bynnag, rhaid inni gael ein bodloni y bydd cost y cerdyn yn cael ei adfer trwy docynnau rhatach wrth ymweld â charchar. Gofynnwch yn yr orsaf drenau am fanylion unrhyw gynlluniau lleol. c. Car / Beic Modur Telir graddfa sefydlog am bob milltir. Bydd pellter y daith yno ac yn ôl (fel arfer y ffordd fyrraf) yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio rhaglen gyfrifiadur i gynllunio taith. Pan fyddwch yn rhannu car gyda rhywun y mae ef neu hi hefyd yn gwneud cais am gymorth, dylid anfon y ddwy ffurflen atom gyda’i gilydd. Rhaid nodi “gyrrwr” ar un o’r ffurflenni hyn. Bydd taliadau parcio sydd â derbynebau iddynt yn cael eu had-dalu mewn ymweliadau â’r sefydliadau hynny lle nad oes lle parcio neu ddim ond lle parcio cyfyngedig. Gellir hawlio ad-daliadau am dollau pontydd a thwneli. Bydd cost gwasanaeth bws “parcio a theithio” yn cael ei dalu lle amgaeir tocynnau wedi’u defnyddio neu dderbynneb. Efallai y bydd angen addasu cyfanswm milltiroedd y daith. Nid yw’r gyfradd gyrwyr gwirfoddol i bobl sy’n danfon ymwelwyr gyda chyflyrau meddygol ond yn cael ei thalu os nad ydynt hwy’n mynd i ymweld. Gweler Adran 2.5. Gall fod hawl gan yrwyr car a ddarparwyd o dan gontract Cyllid Motability i help ariannol tuag at unrhyw dâl milltiroedd ychwanegol. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.

d. Ymweliadau â charchar ar Ynys Wyth

Page 14: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Mae taliadau parcio car yn y porthladd ar y tir mawr yn ad-daladwy. Ni fydd y gost o fynd â char ar y fferi’n cael ei ad-dalu oni bai fod cyflwr meddygol yn eich rhwystro rhag defnyddio bws ar Ynys Wyth. Mae teithwyr ar droed wedi’u cyfyngu i’r fferi rhataf y gellir ei defnyddio ar gyfer yr ymweliad. Gellir hawlio ad-daliad am gost y tocyn dwyffordd mewn bws o’r porthladd i’r carchar.

e. Llogi car

Gallwch drefnu llogi car gan gwmni preifat.

Rhaid i gost llogi car a’r lwfans petrol beidio â bod yn fwy na chost yr un daith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn ystyried y nifer o ymwelwyr a gynorthwyir sy’n teithio gyda chi ac unrhyw arbedion mewn tocynnau, lwfans lluniaeth ysgafn etc.

f. Tacsi

Ni fydd ceisiadau am ad-daliadau costau tacsi am deithio o arosfannau bws/gorsafoedd trên yn cael eu hystyried oni bai fod y pellter cerdded yn fwy na 20 munud mewn un cyfeiriad neu os ydych chi’n 75 oed neu’n hŷn. Dylai teithiau tacsi gael eu harchebu trwy swyddfa tacsi lle bynnag y bo’n bosibl. Mae gwiriadau’n cael eu cynnal yn rheolaidd gyda’r cwmni tacsi i ddilysu ceisiadau am ad-daliadau tacsi. Dylai derbynebau tacsi, lle bynnag bo hynny’n bosibl, gynnwys y manylion canlynol:

dyddiad y daith

enw, cyfeiriad a rhif ffôn y cwmni tacsi

enw/llofnod y gyrrwr

manylion y daith

y swm a dalwyd.

g. Bws cymunedol neu debyg Bydd y taliad yn cael ei gyfyngu i’r swm gwirioneddol a godwyd, neu os yw hynny’n rhatach, cost yr un daith gyda thrafnidiaeth gyhoeddus.

h. Teithio mewn awyren Ni fydd cost teithio mewn awyren yn cael ei dalu oni bai bod cyfanswm cost yr ymweliad yn llai na dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn argymell eich bod chi’n cysylltu â ni cyn gwario dim.

Page 15: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

6.3 Lwfans lluniaeth ysgafn Os oes arnoch chi angen prynu bwyd neu ddiod ar ddiwrnod yr ymweliad, a’ch bod oddi cartref am fwy na 5 neu dros 10 awr, gallwch fod yn gymwys am bryd ysgafn. Ticiwch y blwch ar y ffurflen gais a nodwch eich amserau teithio. Mae’r Uned Cymorth Ymweliadau Carchar yn cadw’r hawl i ofyn am dderbynebau. 6.4 Llety dros nos Os ydych chi’n gwneud cais am dalu costau llety dros nos, byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r ffactorau canlynol cyn cymeradwyo taliad:

pa mor hir ydych chi oddi cartref

pa mor anodd yw’r daith

nifer ac oedrannau unrhyw blant cymwys

eich oedran

y graddau y mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael

anghenion meddygol. Gweler Adran 6.1d. Mae’r gost o deithio rhwng cyfeiriad y llety a’r carchar yn daladwy ond mae iddo gyfradd uchafswm sy’n cael ei chyhoeddi. Rhaid ichi gael cymeradwyaeth gan yr Uned Cymorth Taliadau Carchar cyn gwneud unrhyw wariant. Gall lwfans lluniaeth ysgafn fod yn daladwy. Mae gwiriadau rheolaidd yn cael eu gwneud er mwyn dilysu costau llety dros nos. 6.5 Gofal plant Bydd cost gwarchodwr plant cofrestredig neu glwb brecwast / ar ôl ysgol neu debyg yn cael ei ystyried os penderfynwch beidio mynd ag ymwelydd cymwys sydd o dan 16 oed i’r carchar. Dylid anfon y manylion canlynol gyda’ch ffurflen gais:

enw a chyfeiriad yr ysgol / gwarchodwr plant

rhif cofrestru’r gwarchodwr plant ac enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol (os yn berthnasol)

enw’r plant a’r dyddiad gofalu

cost yr awr. Rhaid cael derbynneb a chyflwyno hon gyda’r ffurflen gais. Nid yw’n arferol gennym gysylltu â’r gwarchodwr neu’r ysgol yn uniongyrchol.

Page 16: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Adran 7 GWNEUD CAIS AM GYMORTH YMWELIAD CARCHAR 7.1 Gwybodaeth a help Mae gwybodaeth am y cynllun ac am sefydliadau carcharu ar gael ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder: www.justice.gov.uk a www.gov.uk Cysylltwch â ni’n uniongyrchol:

os oes arnoch angen help wrth gwblhau’r ffurflen

os oes gennych ymholiad cyffredinol am y cynllun neu os ydych yn gwneud cais am daliad ymlaen llaw

os ydych chi’n bryderus am gais cyfredol neu daliad diweddar

os ydych yn dymuno rhoi gwybod am siec giro sydd wedi cael ei cholli neu ei dwyn.

Ein cyfeiriad yw: APVU, PO Box 2152, Birmingham B15 1SD. Ffôn: 0300 063 2100 rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd

Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc) Ffacs: 0121 626 3474 (24 awr) E-bost: [email protected] Gellir cael cyngor annibynnol, gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd â pherthynas neu ffrind yn y carchar (ac eithrio ymholiadau gwaith achos cymorth ymweliad carchar) drwy’r canlynol: Llinell Gymorth Teuluoedd Troseddwyr (i garchardai yng Nghymru a Lloegr) Rhif ffôn: 0808 8082003 (mae’r galwadau am ddim) Gwefan: www.prisonersfamilieshelpline.org.uk Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion yr Alban (i garchardai yn yr Alban) Rhif ffôn: 0500 839383 (mae’r galwadau am ddim) Gwefan: www.familiesoutside.org.uk E-bost: [email protected] Gall fod gwybodaeth a chymorth ar gael yn lleol gan: Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Tîm Troseddwyr Ifanc, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Ganolfan Ateb i Bopeth. 7.2 Cwblhau ffurflen gais Cyn ei phostio, ewch trwyddi i sicrhau bod:

pob adran wedi ei chwblhau

y datganiad wedi’i arwyddo

Page 17: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

y tocynnau/derbynebau a ffurflen Cadarnhau Ymweliad wedi’i chwblhau wedi eu hamgàu am ymweliadau a wnaed eisoes

dogfennau atodol (lle bo’n berthnasol) wedi eu cynnwys. 7.3 Taliad cymorth ymweliad carchar Unwaith y bydd eich cais wedi’i asesu a’i gymeradwyo, byddwch yn derbyn y canlynol:

siec giro a / neu warant rheilffordd / cyfeirnod casglu Fastticket

bydd tocynnau trên yn cael eu hanfon allan ar wahân am ymweliadau ymlaen llaw oni bai y defnyddir Fastticket

llythyr i esbonio sut y cafodd y taliad ei gyfrifo

ffurflen gais am ymweliad arall

dwy ffurflen Cadarnhau Ymweliad. Rhaid i’r siec giro gael ei chyfnewid yn y swyddfa bost a nodwyd o fewn 3 mis iddi gael ei hanfon. Efallai y bydd angen ichi brofi pwy ydych. 7.4 Sieciau giro a thocynnau trên yn cael eu colli neu eu dwyn Dylech ddweud wrth yr heddlu am unrhyw siec giro, gwarant rheilffordd neu docynnau trên sy’n cael eu colli neu eu dwyn, wedyn ysgrifennwch atom i gadarnhau’r manylion canlynol: amgylchiadau’r golled neu ladrad, y dyddiad y cafodd hyn ei adrodd wrth yr heddlu, rhif cyfeirnod y drosedd, enw’r swyddog heddlu a fu’n ymdrin â chi a chyfeiriad yr orsaf heddlu. Bydd siec giro newydd yn cael ei hanfon fel arfer atoch o fewn 8 diwrnod gwaith o gael ein hysbysu o’r golled neu’r lladrad. 7.5 Cyffredinol Canllaw ar gyfer y Cynllun Cymorth Ymweliadau Carchar yw’r llyfryn hwn; nid yw’n cynnwys holl reolau’r cynllun. Fe wnaed pob ymgais i sicrhau bod yr wybodaeth a roddwyd yn gywir ar yr adeg y cafodd ei chyhoeddi. Gall y rheolau a’r cyfraddau tâl yn y llyfryn hwn newid, a bydd eich cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio’r rheolau a’r cyfraddau a fydd mewn grym ar yr adeg y bydd yn cael ei gyflwyno. Adran 8 SAFONAU GWASANAETH 8.1 Ein safonau ni Anelwn at ddarparu’r gwasanaeth gorau bosibl trwy gyrraedd y safonau a nodir isod:

bydd y staff yn foesgar ac yn barod i helpu

byddwch yn cael eich trin gyda pharch, dealltwriaeth a heb ragfarn

Page 18: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

bydd eich cais yn cael ei asesu fel arfer o fewn 3 wythnos i’w dderbyn

bydd eich llythyrau a’ch negeseuon e-bost yn cael eu hateb yn llawn fel arfer o fewn 8 diwrnod gwaith o’u derbyn neu bydd cydnabyddiaeth yn cael ei hanfon os byddwn angen gwybodaeth bellach

mae gwasanaeth ffôn fel arfer yn gweithredu rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau’r Banc). Bydd galwadau’n cael eu hateb o fewn 10 eiliad. Bydd peiriant ateb yn cynghori’r galwr i ffonio ar adeg arall os yw’r llinell yn brysur neu os nad yw’r gwasanaeth ar gael am resymau gweinyddol. Caiff galwadau eu cofnodi i ddibenion hyfforddi ac i gynorthwyo gyda datrys cwynion.

Bydd aelodau staff yn rhoi eu henwau wrth ateb y ffôn neu wrth ysgrifennu atoch

Byddwn yn cynnal arolygon cwsmeriaid ac yn cyhoeddi’r canlyniadau mewn cylchlythyr

Byddwn yn dweud wrthych os yw’n safonau’n cael eu cyrraedd trwy gylchlythyr, ac os yw’n berthnasol, y camau’r ydym yn eu cymryd i wella’n gwasanaeth

Byddwn yn dweud wrthych am unrhyw newidiadau i’r cynllun trwy gylchlythyr

Bydd Pennaeth yr Adran yn croesawu’ch awgrymiadau am welliant a sylwadau am ein gwasanaeth

Byddwn yn cyhoeddi trefn apeliadau a chwynion. Eich cyfrifoldeb chi i ni:

trin pawb o’n staff gyda chwrteisi. Ni fyddwn yn goddef:

ymddygiad sarhaus, difrïol na bygythiol

rhegi, gweiddi nac iaith dramgwyddus

sylwadau sarhaus ynglŷn â rhyw, hil, cenedligrwydd, statws anabledd, crefydd neu gred wirioneddol neu ganfyddedig na chyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol neu ganfyddedig neb.

8.2 Trefn gwynion Os ydych chi’n anfodlon gyda’n gwasanaeth neu’n dymuno gwneud cwyn, byddwch cystal ag ysgrifennu at: APVU, PO Box 2152, Birmingham, B15 1SD neu e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 0300 063 2100 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau’r Banc). Byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn a byddwch yn derbyn ateb ar y ffôn neu ateb ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn y gwyn neu adroddiad cynnydd os yw’r ymchwiliad yn cymryd mwy o amser. Byddwn yn gwneud ein gorau i gywiro’r mater, rhoi esboniad a, lle bo’n briodol, ymddiheuriad.

Page 19: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Pe baech chi’n teimlo bod yr ymateb yn anfoddhaol, gallwch ysgrifennu at: Head of Assisted Prison Visits Unit, PO Box 2152, Birmingham, B15 1SD (ar gyfer carchardai yng Nghymru a Lloegr). Directorate of Partnerships and Commissioning, Scottish Prison Service, Calton House, 5 Redheughs Rigg, Edinburgh, EH12 9HW (ar gyfer carchardai yn yr Alban). Os byddwch chi’n dal i deimlo nad ymdriniwyd â’ch cŵyn yn foddhaol, cysylltwch â’ch Aelod Seneddol lleol a gofynnwch iddynt godi’r mater gyda’r Gweinidog Gwladol sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (ar gyfer carchardai yng Nghymru a Lloegr) neu gyda’r Gweinidog Gwladol sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Carchardai yn yr Alban (ar gyfer carchardai yn yr Alban). Gallwch hefyd gwyno wrth yr Ombwdsmon Seneddol a fydd yn ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd ynghylch y ffordd y maent wedi cael eu trin gan adrannau’r llywodraeth a/neu eu hasiantaethau gweithredol. Gelir cael gwybodaeth bellach gan: Office of the Parliamentary Commissioner for Administration Millbank Tower Millbank London, SW1P 4QP Llinell gymorth: 0845 015 4033, Ffacs: 020 7217 4160, Gwefan: www.ombudsman.org.uk Diogelu data Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi) yn defnyddio ac yn cadw data cwsmeriaid y Cynllun Cymorth Ymweliadau Carchar i ddibenion darparu costau o’r cynllun. Ni ellir caniatáu cymorth gan y Cynlllun Cymorth Ymweliadau Carchar ond trwy ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani er mwyn galluogi i geisiadau gael eu hasesu ac i unrhyw wiriadau angenrheidiol gael eu gwneud. Mae gennych yr hawl i ofyn manylion am yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal amdanoch; ac i ofyn wedyn inni gywiro unrhyw wybodaeth bersonol y canfyddir ei bod yn anghywir neu heb fod yn gyfoes. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill oni bai fod hyn yn ofynnol i ddibenion atal a datrys troseddau; dal, erlyn a rheoli troseddwyr; atal terfysgaeth; Diogelwch Cenedlaethol; neu os yw’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Cynrychiolydd Mynediad at Wybodaeth yn yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar, PO Box 2152, Birmingham, B15 1SD. Neu gweler ein Polisi Preifatrwydd ar ein gwefan http://www.justice.gov.uk/global/privacy/index.htm

Page 20: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Datganiad Cyfle Cyfartal Mae’r Uned Cymorth Ymweliadau Carchar wedi ymrwymo i drin staff a chwsmeriaid mewn modd agored, cwrtais a pharchus ac ymdrinir yn ddiragfarn ag unrhyw un sy’n cysylltu â ni.

Page 21: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

CYFRADDAU TALADWY / UCHAFSYMIAU INCWM Noder – gall y cyfraddau newid heb rybudd ymlaen llaw. Lwfans milltiroedd 13c y filltir Lwfans Lluniaeth Ysgafn Dros 5 awr £2.55 } yr oedran cymhwyso am daliad i blant Dros 10 awr £5.10 } cymwys yw 1 mlwydd oed a hŷn Lwfansau Dros Nos Llundain a De-ddwyrain Lloegr Oedolyn £34 y noson (uchafswm) } mae oedolyn yn cynnwys Plentyn £17 y noson (uchafswm) } plant cymwys 14 oed a hŷn Lleoedd eraill: Oedolyn £28 y noson (uchafswm) } mae plentyn yn cynnwys plant Plentyn £14 y noson (uchafswm) } cymwys 3 oed a hŷn a hyd at 13 oed Uchafswm y gost sy’n cael ei thalu am daith un-ffordd rhwng y carchar a chyfeiriad y llety (neu fel arall) yw £10. Llogi Car £40 y diwrnod (cynwysedig) a 13 ceiniog y filltir ar ben hynny Gwarchod Plant Ni fydd y gyfradd yn uwch na £3.75 yr awr fel arfer Ceir Motability 5 ceiniog am bob milltir ychwanegol a godir Gyrrwr Gwirfoddol 27 ceiniog y filltir Rhywun sy’n danfon Ni fydd y tâl am daith ddwyffordd rhwng cartref y sawl sy’n danfon a’r ymwelydd yn fwy na £27 fel arfer.

Page 22: Llawlyfr i Gwsmeriaid - Families Outside...Rhaid i’r dystysgrif wreiddiol gael ei hanfon wrth wneud cais am y tro cyntaf ac wedyn pan fo tystysgrif newydd neu ddiwygiedig yn cael

Uchafswm incwm blynyddol y cartref ar gyfer 2013/14 fel y’i dangosir ar yr hysbysiad dyfarnu Credyd Treth yw £17,474. Caiff yr uchafswm hwn ei adolygu’n flynyddol yn unol â gwybodaeth a chyngor gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae’r uchafswm incwm Credyd Cynhwysol ar gael gan yr Uned Cymorth Ymweliadau Carchar. Yn gywir ar 1 Hydref 2013.