16
Rhifyn 65 Gaeaf 2014 Cylchlythyr Interlink ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn RCT Cylchlythyr Interlink ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn RCT Rhifyn 65 Gaeaf 2014 Dyfodol y Fenter

Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: [email protected] Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Rhifyn 65 Gaeaf 2014

Cylchlythyr Interlink ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn RCTCylchlythyr Interlink ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn RCT

Rhifyn 65 Gaeaf 2014

Dyfodol y Fenter

Page 2: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

......i rifyn y gaeaf o Gylchlythyr Interlink. Os hoff ech chi gyfrannu at y rhifyn nesaf, anfonwch eich erthyglau, gwybodaeth, swyddi gwag neu hysbysebion erbyn:

27 Chwefror 2015 i Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: [email protected]

Yn y rhifyn hwn:

Rhifyn Menter Gymdeithasol

2

Cyfl wyniad 3

Cymunedau Menter yn y Rhondda

4-5

Cymunedau 6

Menter Lleol - Phoenix Ini a ve

7

Cymunedau Menter yn y Taf Ely

8-9

Adeiladau Cynunedd 10

Menter Lleol - Big Click

11

De Cymunedol ddwyrain Cymru Grant Datblygu Economaidd

12-13

Social Enterprise - Cra of Hearts

14

Newyddion Lleol 15

Hyff orddiant 16

Ein Cyfeiriad:6 Melin Corrwg, Cardiff RoadUpper Boat, PontypriddCF37 5BE

Rhif Ffon:01443 846200Facs: 01443 844843E-bost: [email protected]: www.interlinkrct.org.uk

Oriau agor y swyddfa yw:Llun - Iau: 9.00am - 5.00pmGwener: 9.00am - 4.30pm

Croeso

Interlink News Rhifyn Menter Gymdeithasol

Tudalen 2

Cymorth i Fentrau CymdeithasolWrth i raglenni Cymorth i Fentrau Cymdeithasol sy'n cael eu hariannu gan Ewrop ddod i ben yn y gwanwyn, rydyn ni'n gofyn pa gymorth sy'n debygol o fod ar gael i Entrepreneuriaid Cymdeithasol yng Nghwm Taf.

Yn gynharach eleni, trefnodd Interlink gyfarfod rhwng partneriaid allweddol sy'n darparu arian a chymorth i fentrau cymunedol a chymdeithasol yn toogoodtowaste yn Ynys-hir. Ymysg y cynrychiolwyr roedd Llywodraeth Cymru (EST), Awdurdodau Lleol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr - SEWCED), Cynghorau Gwirfoddol Sirol (Interlink a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful), Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, Canolfan Arloesi mewn Menter Cymru (Welsh ICE), Capacitas a mentrau cymdeithasol lleol.

Trefnwyd y gweithdy yn sgil trafodaeth am ddyfodol cymorth i fentrau cymdeithasol ar lawr gwlad gyda Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.

Mae Mentrau Cymdeithasol yn bwysig iawn i fynd i'r afael â thlodi a gwella lles, er enghrai drwy gynnig cyfl eoedd gwirfoddoli, hyff orddiant a chyfl ogaeth. Yn amlach na pheidio, maen nhw'n gyfrifol am gynnal gwasanaethau cymunedol hanfodol - nifer ohonynt sydd mewn perygl oherwydd toriadau yn y sector cyhoeddus. Mae angen mentrau cymdeithasol newydd nawr yn fwy nag erioed; mae'r galw i'w cefnogi yn cynyddu tra bod yr arian i ddarparu'r gefnogaeth honno'n lleihau.

Felly pa gymorth a fydd ar gael gan y sefydliadau cefnogi presennol?

• Bydd Interlink a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful yn parhau i gynnig cymorth gan swyddogion datblygu i grwpiau cymunedol a sefydliadau ac yn parhau i gwrdd ag unigolion sy'n bwriadu datblygu mentrau cymunedol a chymdeithasol.

• Bydd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn parhau i gynnig cymorth gan swyddogion datblygu a Gran au Cymunedol ond ni fyddant yn gallu cynnig cymorth ymgynghori drwy'r rhaglen Rhwydweithiau Menter Cymunedol.

• Bydd Valleys Kids yn parhau i gefnogi'r rheini sy'n datblygu Mentrau Cymdeithasol sy'n canolbwyn o ar y Diwydiannau Creadigol o'r Ffatri Bop.

• Mae Canolfan Cydweithredol Cymru hefyd yn dechrau dod â'i gwasanaeth cymorth ymgynghorol presennol i ben cyn i raglen newydd ddechrau.

• Mae Awdurdod Lleol Merthyr Tudful yn darparu cymorth cyfrinachol i fusnesau embryonig, busnesau newydd a busnesau sefydledig drwy Fwrdd Adnoddau Gwirfoddolwyr, ‘Enterprise Facilita on For Eff ec ve Community Transforma on’ (EFFECT) Sirolli.

Page 3: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Cyfl wyniad

Tudalen 3

‘Byddaf yn parhau i ddarparu cyllid i sefydliadau cymorth busnes arbenigol yng Nghymru er mwyn eu galluogi i gefnogi datblygiad cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol newydd. Byddaf hefyd yn darparu cyllid i Ganolfan Cydweithredol Cymru arwain ar ddatblygu cymorth busnes arbenigol i’r sector. Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda’r sector. Defnyddir pla form Busnes Cymru i sefydlu porthol ar y we a fydd yn rhoi cyngor priodol a chymorth ar gyfer cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol, boed yn rhai arfaethedig neu wedi’u sefydlu’n barod.’ Datganiad Gweinidogol gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, 25 Mehefi n 2014

Mae’n hanfodol felly bod y sector ehangach yn dod o hyd i ddulliau amgen o ddarparu Cymorth i Fentrau Cymdeithasol yng Nghwm Taf, fel y gallwn ni barhau i ddarparu datblygiad mwy hirdymor gan symud i ff wrdd o fod yn ddibynnol ar gran au tuag at gynaliadwyedd ariannol. Mae hefyd angen cyfl eoedd ar lefel leol i fentrau dderbyn cymorth hwyluso i’w galluogi i ddatblygu syniadau, ymateb i gyfl eoedd, gweithio a dysgu gyda’i gilydd fel cyfoedion, gyda mynediad at wasanaethau cymorth, gan gynnwys costau swyddogaethau swyddfa gefn isel a chyngor proff esiynol, er enghrai , cyngor cyfreithiol a chyfrifyddu.

Eich Cyfl e Chi i Gymryd RhanBydd yr awdurdod yn cynnal digwyddiad ymgysylltu ar gyfer sefydliadau a grwpiau trydydd sector a fydd yn edrych ar y mater yma. Wrth symud ymlaen, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cydnabod y bydd angen adnoddau ar gyfer hyn.

Rhannu man gwaith gyda @IndyupperboatMae Indycube yn gymuned o gydweithwyr yn y de sy’n tyfu ac sydd bellach yn cynnwys Interlink h ps://twi er.com/indycube, yn ein swyddfeydd Indycube yng Nglan-bad @Indyupperboat

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd swyddfa proff esiynol, yn ôl yr angen. Ond rhan o’r stori yw hyblygrwydd a chyfl eusterau swyddfa o’r radd fl aenaf - beth sy’n denu pobl yn ôl aton ni dro ar ôl tro yw’r teimlad cymunedol maen nhw’n ei gael wrth fod yn rhan o Indycube. Mae rhai o’r buddion yn cynnwys cael cyngor a chymorth gan gyfoedion, rhwydweithio, dysgu, cymdeithasu a chreu cyfl eoedd busnes newydd hyd yn oed.

Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, nid elw sy’n bwysig i ni - os oes angen desg llawn amser arnoch chi, lle achlysurol i weithio, neu unrhyw beth rhwng y ddau, manteisiwch ar bopeth sydd gan Indycube i’w gynnig.

I gael rhagor o wybodaeth, ff oniwch ni ar 02921 690023, galwch draw, neu anfonwch e-bost aton ni!

Gallwch archebu diwrnod mewn unrhyw Indycube gyda GoCardless h ps://twi er.com/indycube - yna fydd dim ond angen i chi roi galwad i ni pan fyddwch chi’n dod!

Os hoff ech chi gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu cymorth i fentrau yn Rhondda Cynon Taf

yn y dyfodol, cysylltwch ag Interlink drwy ff onio 01443 846200.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o blaid trosglwyddo gwasanaethau lleol i gymunedau lleol drwy sefydlu proses gadarn a chlir. Er bod hon yn her fawr i ni i gyd, mae'r toriadau o 30% a ddisgwylir i gyllideb cyrff cyhoeddus yn cynnig cyfl e unigryw i gymunedau ddarparu gwasanaethau yn eu hardaloedd lleol. Wrth i lefelau cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd ddisgyn, mae angen i ni weithio ledled y sector i edrych ar ff yrdd y gallwn ni gefnogi ein gilydd. Gallai hynny olygu bod cyfl eoedd i adeiladau cymunedol fod yn ganolfannau menter.

Byddai canolfan o'r fath yn darparu man lle gall entrepreneuriaid newydd gefnogi ei gilydd a chael cymorth yn ôl yr angen i helpu gyda sefydlu a sicrhau cyllid cychwynnol a benthyciadau.

Page 4: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Joanna Markham, Swyddog Cymunedau Menter. Mae Joanna yn cynorthwyo mentrau cymunedol a chymdeithasol yn y Rhondda. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn chwilio am gymorth gyda nawdd a chodi arian, ond yn aml er mwyn cael cyllid, mae angen cymorth ar bobl gyda pholisïau ac i edrych ar eu strwythur gyfreithiol.

Gall Joanna gynorthwyo grwpiau sy’n cwblhau ceisiadau am gyllid drwy ei harbenigedd o reoli ac asesu ceisiadau am gyllid gan noddwyr. Mae Interlink yn lwcus o gael Gran inder, sef cronfa ddata ar-lein sy’n eich cynorthwyo i chwilio am noddwyr perthnasol ar gyfer prosiectau penodol. Mae nifer o grwpiau’n defnyddio’r adnodd hwn drwy Interlink, OND NID CYMAINT O GRWPIAU AG Y BYDDEM YN EI DDYMUNO! Felly, os ydych chi wedi eich lleoli yn y Rhondda, cysylltwch â fi drwy ff onio 01443 846200 neu drwy e-bost: [email protected].

Cymunedau Menter yn y Rhondda

Tudalen 4

i ffaaa ddolololollol..

Ystrad Old Age

Ymatebodd Joanna: ‘Heb waith y grwpiau yma yn y gymuned, byddai pobl hŷn yn aml yn cael eu hynysu yn eu cartrefi eu hunain - mae’r neuadd yma’n achubiaeth i lawer o bobl leol. Mae Cynthia a’i grŵp yn ysbrydoliaeth i weithio gyda nhw yn cefnogi pobl eraill yn eu cymuned.’

Os oes angen cymorth gyda’ch cais am arian, cysylltwch â Joanna drwy ff onio 01443 846200.

Dywedodd Cynthia: ‘Heb gymorth Interlink, ni fydden ni wedi llwyddo i gwblhau’r ff urfl en gais.’

Roedd y Neuadd yn eithaf adfeiliedig gyda thros 45 o bobl dros 65 oed yn ei defnyddio bob wythnos.

Drwy weithio gyda Joanna, fe wnaethon nhw gwblhau’r cais, cael dyfynbris gan adeiladwr lleol am y gwaith a chafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Tachwedd 2014.

Cynthia Lewis, sy'n 84 oed, yw ysgrifenyddes Ystrad Old Age. Gofynnodd am gymorth gan Gymunedau Menter i gwblhau cais am gyllid o Gronfa Eglwysi Cymru.

Cafodd y Neuadd ei throsglwyddo i bensiynwyr Ystrad ym 1953 ond mae gweithgarwch wedi bod yn digwydd yn y Neuadd ers y tridegau. Cafodd ei hadeiladu gan grŵp o ddynion o'r enw y Frawdoliaeth.

Ers y pumdegau, mae wedi cael ei defnyddio gan bensiynwyr yn rheolaidd ac maent yn berchen ar y Neuadd a'r r, ac yn rhedeg popeth eu hunain. Yn 2003, cafodd yr adeilad ei ail-wifro ond nid oes gwaith paen o wedi cael ei wneud ers degawdau.

Page 5: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Cymunedau Menter yn y Rhondda

Tudalen 5

Ysblander Tylorstown yn Dychwelyd Mae Interlink wedi bod yn gweithio gyda Neuadd Tylorstown drwy gydol y prosiect Cymunedau Menter gyda busnesau lleol i roi cyfl e arall i’r theatr olaf yn y Rhondda Fach i gyrraedd y brig unwaith eto.

Mae dros ddwsin o fusnesau lleol wedi darparu eu gwasanaethau proff esiynol i’r prosiect o adfer adeilad rhestredig Gradd II Neuadd Les Tylorstown, a hynny am ddim. Roedd y Neuadd Les, a adeiladwyd 80 mlynedd yn ôl, mewn perygl o gau yn 2013 gan nad oedd neb ar gael i reoli’r adeilad, a oedd wedi mynd i gyfl wr gwael.

Gadawodd Rebecca Sullivan, sy’n wraig leol, ei swydd ddiogel gyda Chymunedau yn Gyntaf i helpu i ofalu am yr adeilad, a oedd yn dal i ddarparu gwasanaethau, digwyddiadau ac adloniant i’r cymunedau cyfagos. Cafodd Rebecca gefnogaeth gan Meadow Prospect, yr elusen a sefydlwyd gan y sefydliad tai lleol, Cartrefi Rhondda Cynon Taf, i godi arian er mwyn adfer yr adeilad i’w hen ogoniant.

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae cwmnïau o Gymru wedi darparu gwerth bron i £30,000 o wasanaethau, yn rhad ac am ddim, er mwyn helpu i droi Neuadd Les Tylorstown yn ddiogel unwaith eto. Mae’r gwasanaethau wedi cynnwys rheoli prosiectau, cefnogaeth bensaernïol, gwasanaethau peirianneg mecanyddol a thrydanol, mesur mein au a chymorth peirianyddol strwythurol.

Mae’r Neuadd bellach yn barod i’w hadnewyddu ac mae Rebecca’n gweithio’n agos gyda Meadow Prospect ac Interlink i wneud cais am gyllid gan Gronfa Dre adaeth y Loteri ar gyfer y cam nesaf, a fydd yn golygu adnewyddu’r Neuadd yn gyfl awn gan wneud y lleoliad poblogaidd yn rhywle cynaliadwy a hyfyw ar gyfer y Cymoedd.

Mae Penseiri Powell Dobson, sydd wedi’u lleoli yn Llaneirwg yng Nghaerdydd, wedi darparu gwerth bron i £3,000 o wasanaethau rheoli prosiectau a rheoli dylunio adeiladu i’r prosiect.

Dywedodd Lynsey: ‘Mae Neuadd Les Tylorstown dros 80 oed a thros y degawdau diwethaf, mae’r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio’r adeilad wedi mynd yn ormod. Rydyn ni’n gwybod bod gan y theatr a’i thre adaeth le arbennig yn y Rhondda. Gyda thros fi l o bobl yn dod drwy ei drysau bob mis, mae ei phoblogrwydd yn ddigamsyniol.

Byddai’r cymorth a ddarparwyd gan bob busnes wedi bod allan o gyrraedd y Neuadd petai wedi gorfod talu am y gwasanaethau. Drwy gysylltu cwmnïau sydd ag agwedd fusnes gyfrifol a moesegol, mae’n golygu y gall prosiectau fel Neuadd Tylorstown ff ynnu, gan gynnig budd i fusnesau a chymunedol lleol.

Mae’r gwasanaethau proff esiynol wedi gosod y Neuadd yn y man cywir i wneud cais am arian ar gyfer ei hadnewyddu. Gyda diolch i ymrwymiad Rebecca a’r busnesau dan sylw, mae’r unig theatr sydd ar ôl yn y Rhondda Fach yn gallu cynnig dyfodol disglair i bobl leol.’

Dywedodd Kevin Morgan o Benseiri Powell Dobson: ‘Mae Neuadd Les Tylorstown yn rhan bwysig o ddiwylliant a thre adaeth y Rhondda. Rydyn ni’n falch iawn o gael cyfl e i fod yn rhan o’r prosiect yma, sydd eisoes wedi gweld lefel uchel o ymroddiad ac ymrwymiad, er mwyn sicrhau bod ganddo ddyfodol cynaliadwy.’

Lynsey Holley-Ma hews yw Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corff oraethol Meadow Prospect. Mae Lynsey wedi cydlynu’r busnesau sy’n rhan o’r prosiect, gan gefnogi eu harferion busnes cyfrifol. Y cwmnïau a roddodd eu gwasanaethau am ddim yw Penseiri Powell Dobson; Prifysgol De Cymru; Architexture; DRAC; Cartrefi Rhondda Cynon Taf; GO.qs; Partneriaeth Aus n; AICR Health and Safety Ltd; Cynllunio Asbri; San a; M Delacey ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo.

Page 6: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Cymunedau

Tudalen 6

Ar ôl cael fy ngwneud yn ddi-waith roedd hi’n amser i mi ystyried fy opsiynau. Un opsiwn oedd gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol wrth chwilio am swydd newydd. Penderfynais weithio gydag Interlink yn Rhondda Cynon Taf am ddau reswm:

a) gan mai nhw oedd y cyngor gwirfoddol sirol yn Rhondda Cynon Taf a b) eu bod yn caniatáu i mi gefnogi’r gymuned drwy wneud gwaith roeddwn i’n teimlo’n gyff orddus yn ei wneud.

Fel uwch reolwr roedd ysgrifennu cynlluniau busnes yn gyff redin i mi a hyd yma rydw i wedi bod yn ff odus i gael cynorthwyo dau sefydliad elusennol sy’n llunio eu cynlluniau busnes a fydd, gobeithio, yn eu helpu i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy.

Rydw i hefyd wedi bod yn ff odus yn cael cynnal gwaith ymchwil ac ysgrifennu papur ar gynaliadwyedd ariannol y sefydliad. Wrth i’r rhan fwyaf o elusennau a sefydliadau cymunedol wynebu dyfodol ansicr oherwydd toriadau ariannol ar bob lefel bron, rwy’n gobeithio y gall y prosiectau rydw i’n gweithio arnyn nhw ddefnyddio ychydig o fy ngwybodaeth gweinyddu busnes i’w helpu i symud ymlaen.

Paul Robinson - Gwirfoddolwr gydag Interlink

Ffynnon Taf yw’r unig ff ynnon thermol (dŵr cynnes) yng Nghymru ac mae’n un o lond dwrn o ff ynhonnau o’r fath drwy Brydain. Mae’r dŵr yn cadw ar dymheredd cyson o 21°C, ddwywaith mor gynnes â ff ynnon arferol, wrth i’r dŵr gael ei gynhesu yn ddwfn islaw’r Cymoedd. Er nad oes tys olaeth bod y Rhufeiniaid wedi heidio i Ffynnon Taf, roedd gan y Fictoriaid yn sicr ddiddordeb, wrth i resi o bobl aros eu tro i gael ymdrochi yn y dŵr, a arweiniodd at adeiladu’r strwythur carreg sydd ar y safl e ym 1890.

Yn ystod dirwasgiad mawr y dauddegau, sefydlodd glowyr a llafurwyr di-waith gwmni Taff s Well Spa Ltd a oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o adeiladu pwll nofi o awyr agored a gafodd ei lenwi A’I wresogi gan y ff ynnon. Roedd y pwll yn llwyddiant mawr a bu’n cael ei ddefnyddio tan y pumdegau. Ers yr haf poeth a hir ym 1970, mae’r gymuned leol wedi edrych ar gynlluniau gwahanol i ailagor pwll nofi o ar y safl e ac i botelu’r dŵr hyd yn oed.

Ffynnon Gynnes Ffynnon Taf? Gweledigaeth un gymuned i ddefnyddio pŵer y Ffynnon

Unwaith eto, mae yna ddiddordeb gwyddonol a chyhoeddus sylweddol yn y ff ynnon, ac mae’r adeilad ar agor i’r cyhoedd. Mae gwirfoddolwr gydag Interlink, Paul Robinson, wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Datblygu Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw i ddatblygu cynlluniau i osod pwmp gwresogi o’r ddaear a fydd yn defnyddio cynhesrwydd y ff ynnon at ddefnydd y pafi liwn gerllaw.

Rydw i’n parhau i fwynhau gweithio gyda staff Interlink Rhondda Cynon Taf, sydd wedi rhoi croeso cynnes i mi a gwneud i mi deimlo fel rhan o’u m. Mae gwaith y sefydliad yn werthfawr i’r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd, ond yn bwysicach fyth, yn cynorthwyo’r gymuned i gynnal a datblygu prosiectau a fyddai o bosibl yn methu fel arall ar draul cymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chymdeithas Datblygu Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw drwy e-bost: [email protected]

Page 7: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Menter Leol - Phoenix Ini a ve

Tudalen 7

Syniad gan Jonathan Thorne a Janet Mulcock oedd Phoenix Ini a ve. Cafodd ei ddatblygu drwy gyfuniad o waith gwirfoddol gydag aelodau o’r gymuned o wahanol gefndiroedd a gweld y problemau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd; a’r angerdd o fod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Dyma beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud:Yn ein Clybiau Swyddi, mae ein mentoriaid a’n hyff orddwyr yn darparu’r gefnogaeth a’r hyff orddiant sydd eu hangen. Mae’n helpu pobl sy’n teimlo eu bod nhw’n gorfod wynebu newidiadau i fudd-daliadau ar eu pen eu hunain, a datblygu’r sgiliau cyfrifi adurol sydd eu hangen arnyn nhw i ddefnyddio system fudd-daliadau ar-lein yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddwn ni hefyd yn helpu gydag awgrymiadau ar gyllidebu, ac yn dangos sut i sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog fel y gall pobl sicrhau bod eu biliau’n cael eu talu ar amser, ac i beidio â bod ofn rheoli eu harian.

Phoenix Ini a ve

Cymdeithas Dai y Rhondda ‘Gwneud iddo Weithio’ Dyma lle mae grŵp o bobl ifanc lleol yn mynd drwy ein rhaglen sefydlu cyn iddyn nhw ddechrau ar eu pythefnos o brofi ad gwaith gyda gwahanol adrannau yng Nghymdeithas Dai y Rhondda. Maen nhw’n magu sgiliau newydd, yn datblygu ac yn rhannu eu sgiliau presennol, a hefyd yn magu hyder. I gyd-fynd â’r profi ad gwaith ymarferol, rydyn ni’n trefnu lle iddyn nhw ar gyrsiau Gwasanaethau i Gwsmeriaid drwy LearnDirect. Bydd hyn oll yn helpu i’w paratoi ar gyfer symud yn nes at y farchnad waith.

‘Mae Janet a Jonathan yn diwtoriaid hawdd mynd atyn nhw ac mae’r cwrs yn sicr o fudd i ni gan fod angen dealltwriaeth am dechnoleg gwybodaeth ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi erbyn hyn (ac ar gyfer y system budd-daliadau). Dydw i ddim yn teimlo’n dwp wrth ofyn cwes ynau bellach, gan eu bod nhw’n gwneud i mi deimlo mor gyff orddus. Mae hynny’n rhywbeth anodd i’w wneud!’

‘Mae’r wtoriaid yn amyneddgar ac ar yr un lefel â chi. Dydyn nhw ddim yn defnyddio jargon pan fyddan nhw yn eich dysgu chi ac mae’r gwersi ar fy nghyfl ymder i. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus erbyn hyn a dydw i ddim ofn gofyn am gymorth.’

I gael rhagor o wybodaeth gallwch ff onio 07800 665967 i gael sgwrs anff urfi ol a chyfeillgar, neu

Bydd ein gweithdai yn helpu dysgwyr i ddeall fod ganddyn nhw EU HUNAIN rywbeth gwerthfawr i’w gyfrannu at y gymdeithas! Nes i bobl sylweddoli’r cam cyntaf pwysig yma, ni fyddan nhw’n gallu cyrraedd eu llawn botensial. Gyda chymorth ein partneriaethau gwaith, BYDDWN NI YN eu helpu i ddatblygu a dysgu sgiliau i godi eu hunan-barch, i fagu hyder a’u helpu i ddod yn agosach at gyfl ogaeth, wrth eu helpu i gychwyn ar y daith o ddatblygu’u hunain ymhellach.

‘Rydw i’n teimlo’n gyff orddus, ac rwy’n gwybod y byddaf yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arna i.’

Page 8: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Ken Moon, Swyddog Cymunedau Menter. Mae Ken yn gweithio ar y cyd â Jo a Meriel i gynorthwyo unrhyw grŵp sydd am fod yn fenter! Ken sy’n ysgrifennu’r Bwle n Menter Cymdeithasol wythnosol. Mae Ken yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau cymunedol newydd a phresennol yn Nhaf Elái yn y gwanwyn.

Cysylltwch â Ken drwy ff onio 01443 846200 neu drwy e-bost: [email protected]

Cymunedau Menter yn y Taf Ely

Tudalen 8

Trosglwyddo Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymunedau Lleol yn Rhondda Cynon Taf Mae’r toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn her enfawr i ni i gyd. Gyda gostyngiad disgwyliedig o 30% mewn gwariant cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf, beth allwn ni ei ddysgu o’r rownd gyntaf o doriadau i wasanaethau cyhoeddus a welwyd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2013/14 a sut mae’r sector yn ymateb i’r her? Bu Interlink yn gweithio gyda nifer o’r grwpiau hyn ac rydyn ni am arddangos dau o’r rhain, tynnu sylw at rai o’r problemau roedden nhw’n eu hwynebu cyn mynd ymlaen i edrych ar beth sy’n cael ei wneud i wella’r broses ac edrych ar beth fydd yn ein hwynebu yn y dyfodol o bosibl...

Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thŷ NantYn y Beddau a Thŷ Nant, ymunodd y gymuned leol â grŵp newydd a ddaeth at ei gilydd i achub eu llyfrgell leol. Bu Interlink ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn gweithio gyda’r grŵp o’r cychwyn, er enghrai eu helpu i ymgysylltu â’r gymuned ehangach am ddyfodol y cyfl euster. Cynhaliwyd diwrnod agored a ddangosodd faint o bobl leol oedd yn barod i gynnig eu sgiliau a chefnogi’r grŵp ac i redeg y gwasanaeth. Darparodd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo gymorth pellach drwy’r rhaglen Rhwydweithiau Menter Cymunedol i sicrhau ymgynghorydd ac i ysgrifennu achos busnes fel rhan o gais prydles y grŵp.

‘O’r dechrau, mae Interlink wedi bod yn darparu cymorth, arweiniad a hyff orddiant i ni ac yn ein cyfl wyno i gysyll adau perthnasol er mwyn ein galluogi i lunio cynllun busnes eff eithiol. I ddechrau, fe wnaethon nhw ein helpu i gynnal cyfarfod cymunedol i sicrhau bod y prosiect yn ddichonadwy, a bod digon o gefnogaeth iddo gan y gymuned a gwirfoddolwyr.’Helen Boldero – Ysgrifenyddes (Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thŷ Nant)

Treherbert Regenera on LtdYn Nhreherbert, daeth Cylch Meithrin Tynewydd, aelod o CwmNi Ltd a phartner yn y sector preifat ynghyd i edrych ar y posibilrwydd o gymryd cyfrifoldeb dros Ganolfan Ieuenc d Treherbert. Cafodd Interlink gyfarfod gyda’r grŵp a’u helpu i edrych ar opsiynau strwythur cyfreithiol. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu cwmni rheoli cyfl euster, Treherbert Regenera on Ltd, a fyddai’n gweithredu ar ran y gymuned leol. Bu Interlink hefyd yn gweithio gyda’r grŵp i sicrhau cefnogaeth ymgynghorol gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i ddatblygu’r Cynllun Busnes fel rhan o’u cais i drosglwyddo’r brydles gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a darparu cymorth parhaus drwy gydol y broses.

‘Mae cyngor gan staff Interlink wedi bod yn allweddol wrth helpu Cylch Meithrin Tynewydd i gymryd gofal dros adeilad Clwb Ieuenc d Treherbert sydd wedi cau. Mae Interlink wedi darparu cysyll adau i sefydliadau ac arbenigeddau eraill a oedd eu hangen yn fawr. Heb gymorth Interlink, ni fyddwn wedi gallu cyfl awni’r hyn rydw i wedi’i wneud hyd yma eleni. Byddwn yn argymell i unrhyw fenter newydd gysylltu ag Interlink am gyngor a chefnogaeth.’ Paul Russell, Ysgrifennydd CwmNi Ltd

Llyfrgell Gymunedol Beddau a Thŷ Nant

Page 9: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Cymunedau Menter yn y Taf Ely

Tudalen 9

Nodwyd materion a heriau gan y grwpiau ynghylch y broses o drosglwyddo asedau unwaith roedd y grwpiau wedi cael caniatâd i gychwyn trafodaethau i brydlesu eiddo. Bu Interlink yn cefnogi grwpiau mewn meysydd fel edrych ar strwythurau cyfreithiol priodol a chynghori ar gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ac yn gwneud sylwadau am agweddau ar brydlesi. Er bod y grwpiau wedi gwneud cynnydd anhygoel dros y fl wyddyn ddiwethaf, mae trafodaethau prydles yn dal i fynd ymlaen rhyngddyn nhw â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae’r ddau gyfl euster yn dal i fod ar gau.

Roedd y materion a godwyd gan y grwpiau yn cynnwys:

• Diff yg ymgysylltu a thrafod, cyn ac yn ystod y broses.

• Diff yg dull cydlynol/amserol ar gyfer rheoli’r cyfnod pon o.

• Oedi wrth ddatrys cytundebau prydles a chymalau prydlesi afrealis g neu amhriodol.

• Cael gwared ar asedau o eiddo.• Mynediad cyfyngedig iawn i’r eiddo sy’n achosi

anawsterau cynyddol i grwpiau wrth sicrhau dyfynbrisiau ar gyfer off er.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn agored i’r syniad o weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf yn dal i gael eu cynnig yn barhaus, ac mae hyn i’w groesawu.

Beth fydd y dyfodol?I fynd i’r afael â’r materion hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi sefydlu Grŵp Cynghori Trydydd Sector newydd yn ddiweddar i adeiladu ar y cyfl eoedd a pherthnasoedd sy’n bodoli eisoes i alluogi’r

Gan symud ymlaen felly o’r gwersi a ddysgwyd yn ystod cam cyntaf y broses drosglwyddo, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi dangos parodrwydd gwirioneddol i weithio gyda’r sector gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf er mwyn gwella pethau. O’r hyn rydyn ni’n ei ddeall, mae grwpiau sydd wedi bod yn mynd drwy’r ail rownd o drosglwyddo asedau, fel Canolfan Gelf y Miwni, Amgueddfa Cwm Cynon a Phwll Padlo Abercynon wedi elwa o gael un pwynt cyswllt gyda’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae’r holl sefydliadau sydd yng nghyfnod 1 a 2 o’r broses wedi elwa o’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’r gronfa Gydgyfeirio Ewropeaidd ar gyfer cefnogi mentrau cymdeithasol.

Cylch Meithrin Tynewydd

Muni Arts Centre

Caiff y Prosiect Cymunedau Menter ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor

Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Cyngor Sir a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd a helpu i sicrhau proses drosglwyddo fwy llyfn. Mae’r datblygiad yma i’r sector i’w groesawu’n fawr.

Page 10: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Adeiladau Cymunedol

Tudalen 10

Help! Mae fy Adeilad Cymunedol yn Cau!Dyfodol Cyfl eusterau Cymunedol yn Rhondda Cynon TafMae’r toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn her enfawr i ni i gyd. Mae adeiladau cymunedol a chyfl eusterau cymunedol eraill yn wynebu gostyngiadau yn eu cyllidebau blynyddol, naill ai drwy gymorth ariannol uniongyrchol neu drwy golli incwm rhent gan y sector cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae costau cynnal fel gwresogi a goleuo sy’n codi yn gwneud y sefyllfa’n waeth ar gyfer llawer o grwpiau sy’n rhoi nifer sylweddol o’n hadeiladau cymunedol mewn perygl o gau. Mae’r sefyllfa yma’n debygol o waethygu’n ddifrifol dros y blynyddoedd nesaf.

Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall adeiladau cymunedol fod yn gartref i amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n darparu ar gyfer pob rhan o’r gymuned - o blant ifanc iawn i bobl hen iawn. Yn aml, dyna fydd yr unig gyfl euster cymunedol mewn ardal. Er bod gwahaniaethau rhwng yr adeiladau o ran oedran, maint a lleoliad, mae’r problemau a’r anawsterau sy’n wynebu eu pwyllgorau rheoli yn debyg. Er bod adeiladau cymunedol yn gallu chwarae rhan allweddol wrth gry au cymunedau lleol - a’u bod yn gwneud hynny - mae angen rhagor o adnoddau, a gwell mynediad at wybodaeth a chyngor arbenigol, os ydyn nhw i ehangu a datblygu eu gweithgareddau.Ffynhonnell: Sefydliad Joseph Rowntree www.jrf.org.ukFfynhonnell: www.thirdsector.co.uk

Dyma amlinelliad o rai camau y gall mudiadau cymunedol eu cymryd i newid pethau a sut y gall y gweddill ohonom ni eu cefnogi:

Ar gyfer pwy mae’r cyfl euster?Bydd cyfl euster cymunedol sydd ond yn cael ei ddefnyddio gan ran fach o’r gymuned yn annhebygol o gynhyrchu digon o incwm neu fod mewn sefyllfa gryf i wneud cais am gran au. Pwy arall yn eich cymuned fyddai’n cael budd o gael mynediad i’r cyfl euster ac ar ba sail?

Mynnwch Gymorth Proff esiynolPwyllgor rheoli prin iawn sydd â’r holl sgiliau a’r profi ad sydd eu hangen i gynnal cyfl euster cymunedol. Ni fydd hyn yn syndod i chi pan fyddwch yn ystyried pa arbenigedd sydd ei angen arnoch - datblygu cymunedol, codi arian, rhedeg busnes cymunedol a rheoli eiddo. Holwch yn eich cymuned, dysgwch pwy all eich helpu - mae cysyll adau yr un mor bwysig â gwybodaeth!

Byddwch yn Greadigol gydag ArianUn o’r prif bwyn au anodd i nifer o adeiladau cymunedol yw bod yn ddibynnol ar sicrhau gran au. Wrth feddwl am gynnwys y gymuned, estynnwch wahoddiad i fusnesau lleol i gyfrannu eu cefnogaeth i’ch cyfl euster cymunedol. Gyda buddsoddiadau mwy, fel mesurau eff eithlonrwydd ynni, yna efallai y byddai benthyciad yn golygu eich bod yn arbed arian wrth i fi liau ynni godi.

Cynhyrchu IncwmGall gran au bach a chodi arian yn lleol ariannu gwasanaethau, ond ni fydd yn sicrhau bod y drysau’n aros ar agor am byth. Bydd cael y gymuned i defnyddio’r adeilad a bod cost defnyddio’r adeilad yn gywir, yn ff ordd dda o sicrhau defnydd cyson ac o gadw’r drysau ar agor.

Cael y Gymuned i Gymryd Rhan! Un o’r agweddau sy’n cael ei hanwybyddu amlaf, ond sy’n un o’r agweddau pwysicaf o gynnal adeilad cymunedol, yw cael y gymuned i gymryd rhan. Nid yw hyn yn golygu gorfod mynd i gyfarfodydd (mewn gwirionedd, mae’n annhebygol mai dyma fydd angen). Siaradwch gyda’r gymuned a gofyn a ydyn nhw’n gwerthfawrogi’r adeilad, beth maen nhw’n gwerthfawrogi am y lle, sut y gallai fod yn well, pa ddefnydd fydden nhw’n hoffi ei weld o’r adeilad a sut y bydden nhw’n hoffi bod yn rhan o’r gwaith o helpu i’w gynnal a darparu gwasanaethau ohono. Siaradwch gyda chymaint o bobl â phosibl, a chael cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gymryd rhan!

Page 11: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Menter Leol

Tudalen 11

Ar ôl cael ei lansio yn gynharach eleni, mae ap poblogaidd Flappy Bird wedi cael llwyddiant byd-eang. Erbyn hyn, mae pobl wedi datblygu fersiwn tafod mewn boch i Gymru. Farty Sheep yw’r ap symudol diweddaraf i gael ei ddatblygu gan brosiect Click Big Partneriaeth Penrhys (elusen yn y Rhondda). Cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc. Mae Farty Sheep yn ddathliad eofn o Gymreictod ac mae’r holl elw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith Partneriaeth Penrhys i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddatblygwyr technoleg yn y de.

Fe ddatblygodd m Big Click eu syniad o greu fersiwn Gymreig o Flappy Bird drwy gynnwys pobl ifanc yn y broses o feddwl am y syniad cychwynnol, dylunio, datblygu, codio, recordio eff eithiau sain a marchnata. Yn yr ap mae dafad unig, o’r enw Elwyn, ar antur i geisio dianc o gae yng Nghymru a mynd i deithio’r byd. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid iddo ddianc dros furiau castell ac osgoi cymylau o law, gydag ymadroddion Cymreig cyfarwydd i’w clywed ar eich taith. Mae hon yn gêm ddifyr iawn ar gyfer unrhyw un sy’n hoff o Gymru!

Mae Big Click yn fenter ddigidol sy’n creu apiau symudol newydd i gefnogi adfywio cymunedol drwy ddefnyddio pŵer technoleg i eff eithio ar newid.

Mae prosiectau blaenorol wedi cynnwys gwaith i Lywodraeth Cymru i greu tri o apiau Cymraeg i blant ifanc.

Ap Flappy Bird yn cael gweddnewidiad Cymreig diolch i bobl ifanc y Rhondda

Dros y fl wyddyn ddiwethaf, mae staff hefyd wedi helpu mwy na 30 o fusnesau bach a chanolig i fynd ar-lein a hyff orddi mwy na 60 o bobl ifanc gyda datblygu technoleg, gan gynnwys roboteg a chodio, a hefyd datblygu cynnyrch ap i’w gwerthu ar iTunes a Google Play.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: h p://bigclick.org.uk/project/farty-sheep-app Mae’r llun ar y clawr yn ddelwedd o’r ap

‘Rydyn ni am ddangos enghrei iau o’r hyn y gellir ei greu yn ein cymunedau a sut y gall mudiadau bach hyd yn oed herio’r sefyllfa sydd ohoni o ran datblygu technoleg, gan ddod a hynny i galon y Cymoedd. Mae Cymru yn sefydlu ei hun fel canolfan dechnoleg ar gyfer Ewrop, sy’n golygu bod mwy o alw am bobl â sgiliau sy’n gallu creu a thrin technoleg - mae pobl ifanc mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer y swyddi yma sydd i ddod, ond mae angen ysbrydoliaeth arnyn nhw nawr.’ Ben Treharne-Foose, Rheolwr Technolegau Digidol

‘Mae gweithio gyda Big Click wedi rhoi cyfl eoedd gwych i fi ddatblygu fy sgiliau codio. Rydw i wedi eu helpu i ddatblygu dau ap yn barod, gan gynnwys fersiwn Android o ap Farty Sheep. O ganlyniad, mae gen i bellach bor folio o waith ac rydw i wedi cael cyfweliadau am swyddi gyda chwmnïau ym Mae Caerdydd.’ Robert Pengelley o Ynys-hir

Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan www.interlinkrct.org.uk/helpfulinfo neu ff oniwch ni ar 01443 846200 neu cysylltwch â Community Ma ers ar 0845 847 4253 neu ewch i www.communityma ers.org.uk

Rheolaeth ar y cyd a Marchnata ar y Cyd:Mae nifer o adeiladau cymunedol yn Rhondda Cynon Taf wedi dod i'r casgliad na allan nhw reoli'r cyfl euster ar eu pen eu hunain ac mae angen cael rhagor o'r Gymuned i fod yn rhan o'r gwaith o gynnal yr adeilad. Ffordd arall o ysgafnhau'r baich yw hyrwyddo nifer o adeiladau cymunedol ar y cyd mewn ardal benodol, gan rannu hysbysebu a threfniadau archebu.

Felly beth mae Interlink yn ei wneud i helpu?Mae Interlink yn gweithio'n uniongyrchol gyda phwyllgorau rheoli adeiladau cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf i gynnal cyrsiau hyff orddiant ar 'Sut i Reoli Eich Cyfl euster Cymunedol' a 'Rolau a chyfrifoldebau' yn ystod y dyddiau cynnar, drwy helpu grwpiau yn rheolaidd gyda cheisiadau am arian i helpu gyda strategaethau goroesi ar adeg o argyfwng.

Page 12: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Meriel Gough, Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol. Mae Meriel yn canolbwyn o ar Raglen Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru. Mae Meriel yn annog grwpiau i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cyfl eoedd mentrau cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau, cyfl eusterau a chynnyrch newydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu â’r mentrau yma, cysylltwch â Meriel drwy ff onio 01443 846200 neu drwy e-bost: [email protected]’r prosiect wedi ei ariannu gan Raglen Gydgyfeirio Ewropeaidd Cymru drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol RCT.

De Cymunedol ddwyrain Cymru Grant Datblygu Economaidd

Tudalen 12

Rhwydwaith Pobl o Bwys PontypriddDechreuodd Rhwydwaith Pobl o Bwys Pontypridd yn dilyn trafodaethau rhwng Wendy York - Cymuned Ar s; Hayley Fiddler - YMCA Pontypridd a Meriel Gough - Interlink, yn ystod hydref 2013.

Ar y pryd, roedd y YMCA ac Cymuned Ar s yn gweithio ar eu cais i Gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru a hefyd i Gyngor Celfyddydau Cymru am arian datblygu sylweddol i drawsnewid adeilad y YMCA ym Mhontypridd yn llwyr.

Mae’r ddau gais am arian wedi cael derbyniad cadarnhaol iawn, felly rydyn ni’n croesi ein bysedd!

Bydd adeilad y YMCA ym Mhontypridd yn dod yn ganolbwynt ac yn fwrlwm o weithgarwch i ymgysylltu â phobl Rhondda Cynon Taf mewn lleoliad hygyrch iawn sy’n darparu beth mae pobl ei eisiau. Nod y ganolfan yw cysylltu cymaint o grwpiau gwirfoddol a mentrau gyda’i gilydd mewn un lle fel y gall pawb gefnogi ei gilydd a dod yn gorff cryf i gynrychioli’r Trydydd Sector ym Mhontypridd - nifer fawr o wasanaethau i drigolion Rhondda Cynon Taf o dan yr un to! Bu’r rhwydwaith Pobl o Bwys yn cefnogi ei gilydd:

• Drwy logi gofod/darparu gweithdai• Drwy ddarparu gweithdai e.e. helpu i uwchsgilio

mewn celfyddydau gweledol/llwybrau gyrfa i’r diwydiannau creadigol

• Drwy gyfeirio gwirfoddolwyr rhwng grwpiau i uwchsgilio a chefnogi

• Drwy gyfeirio unigolion• Drwy roi cleien aid ar leoliadau - profi ad gwaith• Drwy ddosbarthu gwybodaeth i grwpiau eraill • Drwy edrych ar gyfl eoedd cymorth a rhannu

adnoddau, ynghyd ag ymgynghori â gofalwyr a phrosiectau, a cheisiadau am arian

• Drwy hysbysu staff am weithgareddau cymunedol i’w pasio ymlaen i ofalwyr am y cyfl eoedd cymdeithasol cynhwysol sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd

• Drwy hysbysebu ein digwyddiadau a gwasanaethau i bartneriaid, grwpiau a defnyddwyr gwasanaeth

Roedd Wendy, Hayley a Meriel yn ymwybodol iawn o faint o grwpiau Trydydd Sector a mentrau oedd wedi’u lleoli ym Mhontypridd, ond fe sylweddolon nhw nad oedden nhw’n cyfathrebu gyda’i gilydd yn rheolaidd neu’n dod at ei gilydd i ddysgu am ddarpariaethau gwasanaethau ei gilydd yng nghanol tref Pontypridd.

Cynhaliwyd y Digwyddiad Rhwydweithio Pobl o Bwys cyntaf ym mis Hydref 2013, gyda chynrychiolaeth gan 15 o grwpiau. Dri digwyddiad rhwydweithio’n ddiweddarach ac mae dros 40 o grwpiau yn aelodau!

Mae grŵp Pobl o Bwys Pontypridd wedi bod mewn cyfarfod rhwydwaith gyda Mentrau sy’n cael eu hariannu gan Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru, sydd wedi ymestyn rhwydweithiau’r grŵp ymhellach.

Bellach, mae grwpiau yn fwy gwybodus ac felly mewn gwell sefyllfa i gefnogi ei gilydd er mwyn helpu pobl i mewn i grwpiau cymdeithasol, grwpiau hobi a chyfl eoedd gwirfoddoli, hyff orddi a chyfl ogaeth: gyda’i gilydd mae ganddynt lawer mwy i’w gynnig.

uu

ttuuu

Page 13: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

De Cymunedol ddwyrain Cymru Grant Datblygu Economaidd

Tudalen 13

Grwpiau sydd wedi’u cysylltu ac sy’n darparu cymorth:• YMCA: VIVA! Adref, RNIB Cymru, Prosiect

Gofalwyr, Partneriaeth Adfywio Cymuned Glyncoch – mae’r grwpiau yma’n defnyddio’r gampfa yn y YMCA

• Eglwys Santes Catherine: Age Connects, Cymuned Ar s, Amgueddfa Pontypridd, Neuadd Eglwys Santes Catherine

• Purple Shoots: Theatr Spectacle• Age Connects Morgannwg: yn hysbysebu eu

digwyddiadau i Bobl Hŷn yn rheolaidd drwy rwydweithiau Interlink

• Mind Merthyr a’r Cymoedd yn cymysgu gyda’r Kni ng Nanas

• Grŵp Pwytho yn cysylltu â grŵp canu Mind• Tydfi l Training yn creu cysyll adau gyda Home

Start - Referrals• Kni ng Nanas wedi’u cysylltu â Home Start

Rhondda Cynon Taf a ‘Got orders in!’• RNIB: YMCA Pontypridd, Cyngor ar Bopeth

(rhannu gwybodaeth), Cymdeithas Hanes Teuluoedd Morgannwg (rhannu ff otograff au), Age Connects Morgannwg

• Gweithredu dros Blant wedi cysylltu â Cra of Hearts.

Yn y pedwerydd digwyddiad, gwnaeth toogoodtowaste gysyll ad ag Age Connect Morgannwg ynghylch darparu gwasanaeth glanhau tai moesol a gyda Crossroads sy’n gallu darparu gwasanaeth ailaddurno’r tai drwy eu menter gymdeithasol, Total Care Support Solu ons Ltd, a Menter Tyfu CIC (Cymorth Cyff uriau) i glirio’r gerddi!

Adborth o Ddigwyddiadau Rhwydweithio Pobl o Bwys Pontypridd:• Campfa YMCA i gefnogi gwella iechyd - nawr rydw

i’n dod i wybod amdano!• Diddorol• Mae mwy o bethau’n digwydd nag o’n i’n ddisgwyl -

mae’n dda bod drysau’n agor i ddysgu rhagor• Wedi cysylltu â grwpiau newydd• Popeth! Gwybod beth sy’n digwydd ym

Mhontypridd• Cysylltu defnyddwyr gwasanaeth gyda grwpiau

cymunedol• Syndod dysgu beth sy’n digwydd ym Mhontypridd!

Llawer o gysyll adau diddorol ar gyfer ein menywod ifancCysylltu â phobl sydd angen ein cymorth

Dywedodd Hayley Fiddler o YMCA Pontypridd:‘Mae wedi bod yn agoriad llygad gweld yn union faint o waith da sy’n cael ei wneud yn ardal Pontypridd. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r YMCA ac mae gallu rhoi gwybod i bobl am yr amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael yno yn ein helpu i gyfeirio pobl yn fwy eff eithlon.’

Y camau nesaf ar gyfer rhwydwaith Pobl o Bwys Pontypridd Bydd Naz Syed, Cymuned Ar s, a Meriel Gough, Interlink, yn cynnal Gwerthusiad o’r Rhwydwaith yn gynnar yn

y fl wyddyn newydd i’w ddilyn gan gyfarfod o’r rhwydwaith.

Bydd Interlink yn datblygu grwpiau rhwydwaith tebyg yn Nhonypandy ac Aberdâr yn y fl wyddyn newydd. Oes gyda chi ddiddordeb? Anfonwch e-bost ataf i, Meriel, yn: [email protected]

Rhestr o Bobl o Bwys Pontypridd:Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf; Gweithredu dros Blant; Eglwys Teml y Bedyddwyr; Eglwys Uno Dewi Sant; YMCA Pontypridd; Cymorth i Ferched Rhondda Cynon Taf; Crossroads Cwm Taf; Interlink Rhondda Cynon Taf; Broydd Caerdydd a’r Cymoedd; RNIB; Tydfi l Training; Cymuned Ar s; Gofal Canser Rowan Tree; Prosiect VIVA; Posi vely Ponty; Hafan Cymru; Home Start; Purple Shoots; Mind Merthyr a’r Cymoedd; Drug Aid; Age Cymru; Hanes Teuluoedd Morgannwg; Kni ng Nanas; ADREF; Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Rhondda Cynon Taf; Age Connects Morgannwg; Teapot Cra ers; Cymdeithas Gorawl Pontypridd; Cross S tch Crazy; Llamau; Cartrefi Rhondda Cynon Taf; Gyrfa Cymru; Amgueddfa Pontypridd; Eglwys Santes Catherine; Café Connect Santes Catherine; Cynllun Galw Heibio Nam ar y Synhwyrau (SIDS) Rhydyfelin; Cylch Cymreig; Pit Pony Sanctuary; Beyond Everything there is Hope (BETH); Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).

Page 14: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Menter Gymdeithasol - Cra s of Hearts

Tudalen 14

Jo Roe, Sylfaenydd a Rheolwr menter gymdeithasol Cra of Hearts Ltd yn Nhonypandy sy’n dweud ei stori.

Pan gwrddais i ag Annie * am y tro cyntaf, roedd hi’n cuddio o dan y grisiau mewn lleoliad cymunedol mewn ff air gre au. Roedd Annie yn ei chael hi’n anodd siarad am ei chre ond cyfeiriodd fi at ddarnau o emwaith ei ff rind a oedd wedi’u gosod ar y bwrdd wrth ei gemwaith hi.

Gofynnais i Annie gysylltu â ni yn Cra of Hearts yn Nhonypandy unwaith y bydden ni wedi agor ym mis Chwefror 2013. Ro’n i’n falch iawn o dderbyn neges gan Annie dros gyfryngau cymdeithasol ym mis Mawrth 2013. Estynnais wahoddiad iddi ddod i’r siop ac i ddod â rhai o’i gemwaith gyda hi. Er bod hyn yn beth anodd iawn iddi ei wneud, gwnaeth Annie hyn drwy sbecian drwy ddrws y siop a chuddio o dan ei gwallt hir a’i het wedi’i gwau. Gofynnais i gael gweld ei gemwaith ac er oedi am ychydig, dangosodd i mi beth oedd hi wedi bod yn gweithio arno. Esboniais wrthi sut roeddwn i’n mwynhau ei gwaith a gofynnais a fyddai’n fodlon gwneud darn arall a dod ag ef i’w ddangos dros yr wythnos nesaf. Nid oedd Annie’n siŵr a fyddai’n gallu gwneud hyn - roedd ei hyder hi’n isel iawn. Fodd bynnag, cytunodd y byddai’n dod â mwy o’i gwaith i’r siop yr wythnos ganlynol. Ar y foment honno, roedd Annie yn gallu gweld fy mod i’n gwisgo un o’i darnau. Daeth hyn fel syndod iddi a gadawodd y siop yn falch iawn bod rhywun yn gwerthfawrogi ei gwaith a chytunodd i ddod yn ôl yr wythnos ganly-nol. Parhaodd hyn am beth amser; roedd Annie a fi yn edrych ymlaen at weld ein gilydd bob wythnos a byddem yn siarad am y gwahanol agweddau o redeg menter gymdeithasol Cra of Hearts.

Un o’r agweddau hyn oedd darparu gweithdy gwneud gemwaith ar gyfer ein cwsmeriaid. Cytunodd Annie i helpu gyda’r grŵp gwneud gemwaith cyntaf - grŵp o blant. Roedden nhw wrth eu boddau gyda’i chamau araf a chyfarwyddyd clir. Llwyddodd pob plentyn yn y grŵp i greu darn eithriadol o emwaith i fynd gyda nhw ac roedden nhw’n falch o’u dangos i’w teuluoedd a’u ff rindiau. Yn raddol, daeth Annie i sylweddoli na

Dechreuodd Annie gynnal llawer mwy o sesiynau cre . Dechreuodd hefyd helpu yn y siop o ddydd i ddydd, gan hyd yn oed gefnogi’r staff drwy edrych ar ôl y siop ar ei phen ei hun fel eu bod nhw’n gallu cynnal gweithdai allgymorth i helpu pobl e.e. Gofal Canser Rowan Tree - grŵp o ferched sy’n dod at ei gilydd i wneud gweithgareddau cre - mae pob un ohonyn nhw wedi profi canser mewn rhyw ff ordd.

Dechreuodd Annie ddod i ddeall cymhlethdodau rhedeg menter gymdeithasol gymunedol gyda phoblogaeth amrywiol Cymoedd y de. Gyda dealltwriaeth ddyfnach, sylweddolodd Annie ei bod yn gallu cefnogi’r Fenter mewn ff ordd fwy ystyrlon fyth ac roedd hi’n falch iawn pan ofynnwyd iddi fod yn Gyfarwyddwr gwirfoddol gyda Cra of Hearts Ltd. Yn dilyn ei phrofi adau blaenorol, roedd Annie’n awyddus iawn i barhau gyda’i mewnbwn ymarferol yn y siop ac mae bellach yn aelod ymroddgar o’r fenter, yn agor y siop yn rheolaidd, yn rhedeg y siop yn ôl yr angen ac yn cyfl wyno gweithdai cre fel gwirfoddolwr i aelodau gan gynnwys pobl ag anghenion ychwanegol.

Erbyn hyn, mae Annie yn cymryd balchder yn ei hymddangosiad, wedi newid steil ei gwallt, yn cyfarch pobl gyda gwên gyfeillgar a chyswllt llygad hyderus - mae clywed ei chwerthin tra mae yn y siop yn bleser mawr i ni i gyd!

Mae Annie hefyd wedi bod yn datblygu ei hamrywiaeth o emwaith ac yn creu eitemau pwrpasol ar gyfer staff a chwsmeriaid. Mae hi wedi cael gwahoddiad i gyfarfodydd gyda sefydliadau fel Interlink a Busnes mewn Ffocws: mae’r cyfarfodydd hyn wedi ei helpu i ganolbwyn o ar ei dyfodol - nid helpu gyda Cra of Hearts yn unig oedd hynny, ond gyda’i menter ‘Heart of The Phoenix’ ei hunan hefyd. Mae Karen Davies o Purple Shoots wedi ariannu Annie’n rhannol er mwyn ei galluogi i gael benthyciad tymor byr cost isel i brynu deunyddiau cychwynnol i wneud gemwaith i’w gwerthu!!

Mae Cra of Hearts wedi cefnogi 37 o wirfoddolwyr dros y ddwy fl ynedd ddiwethaf. Mae pump o’r gwirfoddolwyr hyn wedi symud ymlaen i waith cyfl ogedig ac mae deg arall yn defnyddio’r sgiliau cre maen nhw wedi’u datblygu gyda Cra of Hearts Ltd i ychwanegu at eu hincwm. * Nid Annie yw ei henw go iawn.

I gael rhagor o wybodaeth am Cra of Hearts, ewch i www.facebook.com/Cra OfHeartsLtd

Menter sy’n cael ei hariannu gan grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru - Magu sgiliau ac agweddau, newid credoau a gwerthoedd - creu dyfodol cryf

Cra of Hearts

RoRoededdd AnAnniniee ynyn eeii cch

fyddai’r gweithdy wedi bod yn bosibl heb ei mewnbwn hi. Dechreuodd ddeall yr eff aith gadarnhaol a phellgyrhaeddol roedd ei gwaith gwirfoddol wedi ei chael ar y gymuned.

Page 15: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Newyddion Lleol

Tudalen 15

Mae Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo wedi bod mewn tri digwyddiad Pobl o Bwys yn y YMCA ym Mhontypridd.

Mae pob digwyddiad wedi rhoi cyfl e i ni gwrdd â sefydliadau sy’n rhannu gwerthoedd tebyg i ni. Fel cyfrifwyr sy’n targedu cyrff y trydydd sector, mae’n hanfodol ein bod yn deall yr amgylchedd mae ein cleien aid yn gweithredu ynddo, mae clywed grwpiau gwahanol yn rhannu eu gwybodaeth a’u profi adau yn ein helpu i gydymdeimlo gyda’n cleien aid, ac i ddeall yr heriau sy’n ein hwynebu.

Mae rhwydwaith Pobl o Bwys wedi ein helpu i hyrwyddo ein gwasanaethau, ac o ganlyniad, mae nifer wedi manteisio ar ein cynnig o wasanaethau cyfrifeg rhatach, sy’n fwy ff orddiadwy.

Beth mae’r rhwydwaith Pobl o Bwys wedi’i wneud i ni?

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Rhys Williams, y Prif Gyfrifydd Cymunedol, Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo, drwy ff onio 01443 485233 neu ewch i www.ccaw.org.uk

busnes, gan eu galluogi i ganolbwyn o ar yr hyn maen nhw’n ei wneud orau.

Nid ni yn unig sy’n ‘gwerthu’ ein gwasanaethau mewn digwyddiadau Pobl o Bwys, rydyn ni wedi cyfl ogi gwasanaethau mentrau cymdeithasol eraill i wneud gwaith ar ein rhan. Mae’r cyfan yn ymwneud â helpu ein gilydd.

Drwy gysyll adau a ff urfi wyd mewn digwyddiadau rhwydweithio Pobl o Bwys ym Mhontypridd, mae gwasanaethau cyngor Cyfrifeg Cymdeithasol Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo wedi bod o fudd i Cra of Hearts, Have Heart, Awyr Dywyll Cymru a Theatr Spectacle. Mae Cyfrifeg Cymdeithasol Cymru Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo hefyd yn fenter sydd wedi’i hariannu gan Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru.

Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog: ‘Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol ar gyfer ein heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynlluniau hyff orddi fel pren siaethau ond maent yn gyfrifoldebau sy’n cael eu rhannu rhwng y sectorau addysg, busnesau, unigolion yn ogystal â’r llywodraeth.’

Lynda Davies, Julie James, Tomos Woods a Regan May

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â toogodtowaste drwy ff onio 01443 680090 neu ewch i www.toogoodtowaste.co.uk

toogoodtowaste yn Croesawu Pren siaid NewyddAeth y Dirprwy Weinidog draw i ymweld â changen Ynys-hir o toogoodtowaste i groesawu’r ddau bren s newydd ac i gael dysgu rhagor am y sefydliad. Yn ystod ei hymweliad, roedd y Dirprwy Weinidog wedi’i phlesio gan y gwaith a’r gwasanaethau roedd toogoodtowaste yn eu cynnig i’r gymuned leol.

Roedd toogoodtowaste wedi’u plesio gymaint gan yr ymgeiswyr nes iddynt benderfynu cynnig cyfl e i ddau bren s. Ar hyn o bryd, mae Tomos Woods a Regan May yn ehangu ar eu gwybodaeth a’u sgiliau ar sut i atgyweirio eitemau trydanol yn y cartref fel peiriannau golchi, poptai ac oergelloedd. Wrth ddysgu’u cre gyda toogoodtowaste, maen nhw hefyd yn parhau i astudio ar gyfer NVQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Trydanol yng Ngholeg y Cymoedd, yn dilyn astudio Diploma Cenedlaethol Lefel 3 estynedig mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ac NVQ

Dywedodd Lynda Davies, Prif Weithredwr toogoodtowaste: ‘Ym mis Rhagfyr 2013, roedd y penawdau newyddion yn edrych yn ddu iawn i bobl ifanc ddi-waith yng Nghymru. Ro’n i’n teimlo pe bai modd i bob busnes bach greu un cyfl e, y gallen ni wneud cymaint o wahaniaeth i bobl ifanc. Gyda chyllid gan Grant Datblygu Economaidd Cymunedol De-ddwyrain Cymru roedden ni’n gallu mynd gam yn well a chynnig cyfl ogaeth a hyff orddiant i’r ddau unigolyn ifanc yma.’

Mae’r sefydliadau hynny yn gallu gwneud arbedion sylweddol gan wybod ein bod ni’n gofalu am eu

Page 16: Dyfodol y Fenter · Cara Jordan-Evans yn Interlink gan E-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn: Rhifyn Menter Gymdeithasol 2 Cyfl wyniad 3 Cymunedau Menter yn y

Rhyfi n nesaf: Ebrill 2015

Rhif Elusen 1141143Rhif Cwmni 07549533

Mae’r holl gyrsiau a gynhelir yn Interlink oni nodir yn wahanol. Am fwy o wybodaeth ff oniwch 01443 846200 neu ewch i www.interlinkrct.org.uk

i lawrlwytho rhaglen hyff orddiant a ff urfl en archebu

Ehangwch eich gorwelion ..... gyda hyff orddiant Interlink

Hyff orddiant goruchwyliaeth13 Ionawr 20159.30am - 4.30pm

Cyfl wyniad i Wirfoddoli aParatoi ar gyfer Gwirfoddolwyr14 & 15 Ionawr 20159.30am - 4.30pmat VAMT

Recriw o Gwirfoddolwyr, Dewis a Sefydlu28 & 29 Ionawr 20159.30am - 4.30pm

Diogelu Plant a Phobl Ifanc5 Chwefror 20159.30am - 1.00pm

Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed5 Chwefror 20152.00pm - 4.30pm

Cael y Gorau o’ch Gwirfoddolwyr16 & 17 Chwefror 20159.30am - 4.30pm yn VAMT

Datblygu CymunedolLefel 3 a 416, 23 & 30 Mawrth 20159.30am - 4.00pm

Hoff ai pawb yn Interlink ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl aelodau!

Llawdriniaeth Ariannu10 Chwefror 2015Funders Surgery at Bryncynon Strategy including Coalfi elds and Big Lo ery (more info to Follow)

24 Mawrth 2015Funders Surgery in Taf Ely

Digwyddiad Ymddiriedolwr - Cyfl ogi Staff a Dealltwriaeth Prydlesi16 Mawrth 20159.30am - 1.00pm

Llywodraeth Cymru wedi lansio Gwasanaeth Cymru Eff eithlon Adnoddau rhoi pobl yn cefnogi ar ddefnyddio adnoddau (ynni, gwastraff a dŵr) yn fwy eff eithlon. Yn ogystal â chyngor ar gyfer gwella eich cartref eich hun, mae cymorth ar gael ar gyfer adeiladau cymunedol ac ar gyfer pobl a grwpiau

sydd am weithredu gyda’i gilydd i wella defnydd o adnoddau ar draws eu cymuned leol.

Ar gyfer ymholiadau cymunedol yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffi li, Torfaen, Blaenau Gwent a De Powys, cysylltwch â Gareth Ellis ar 01874 611039 neu

drwy e-bost: [email protected] neu’r cymorth desk0300 123 2020 ar gyfer y cartref