32
PONTIO: Y DIWEDDARAF Dwy dudalen yn llawn o’r diweddaraf ynghylch y prosiect CHWARAEON RHYNG-GOL Adroddiad o’r gemau FFASIWN Golwg ar y Brits Y TÎM NEWYDD: Etholiadau UM: Dewch i ’nabod eich Swyddogion Sabothol newydd Rhifyn y Gwanwyn 2014 @y_llef Llef Bangor BUDDU-GOL! am ddim Papur-newydd Cymraeg Myfyrwyr Bangor Ar ôl siomiant yn 2013, doedd dim ond un peth ar feddyliau criw Bangor wrth iddynt ymlwybro tuag Abertawe ar benwythnos Gŵyl Dewi y wyddyn hon – dychwelyd i’r Gogledd fel pencampwyr. Ar ôl wythnosau o baratoi ac ymarfer at uchawynt calendr y myfyrwyr Cymraeg, roedd y colegau i gyd yn barod am ddiwrnod o gystadlu brwd, a dyna’n union a gafwyd. Gan gychwyn yn brydlon amser cinio, roedd yn amlwg o’r cychwyn fod Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abertawe wedi cymryd yr Eisteddfod o ddifrif, gan wahodd yr Archdderwydd Christine James i’w hagor yn swyddogol. Roedd y neuadd o’i blaen dan ei sang, ac roedd brwdfrydedd y colegau i’w deimlo o’r cychwyn. Parhad ar dudalen 4 Gethin Griths Siôn Elwyn Hughes Mae cryn stŵr wedi cael ei godi yn ddiweddar ymysg Cymry Cymraeg Prifysgol Bangor ynghylch amlygrwydd y Gymraeg ar wefan y Brifysgol. Diweddarwyd gwefan Prifysgol Bangor yn ddiweddar i gystadlu â gwefannau prifysgolion eraill gan fod yr hen wefan wedi’i beirniadu am fod yn hen asiwn. Yn ogystal â moderneiddio’r wefan, diweddarwyd gwasanaethau ar-lein i fyfyrwyr y Brifysgol, e.e. newidwyd Bangor360 yn FyMangor a throsglwyddwyd yr hen system e-bost (Webmail) i Outlook 365. Fodd bynnag, er yr holl welliannau, nid yw’r gymuned Gymraeg yn teimlo bod lle amlwg i’r iaith ar y wefan. Parhad ar dudalen 3 Cymreigio gwefan y Brifysgol

Rhifyn y Gwanwyn 2014

  • Upload
    y-llef

  • View
    258

  • Download
    18

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Trydydd rhifyn papur newydd Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Citation preview

Page 1: Rhifyn y Gwanwyn 2014

PONTIO: Y DIWEDDARAFDwy dudalen yn llawn o’r

diweddaraf ynghylch y prosiect

CHWARAEON RHYNG-GOLAdroddiad o’r gemau

FFASIWNGolwg ar y Brits

Y TÎM NEWYDD: Etholiadau UM: Dewch i ’nabod eich Swyddogion

Sabothol newydd

Rhifyn y Gwanwyn 2014 @y_llef Llef Bangor

BUDDU-GOL!am ddim

P a p u r - n e w y d d C y m r a e g M y f y r w y r

Bangor

Ar ôl siomiant yn 2013, doedd dim ond un peth ar feddyliau criw Bangor wrth iddynt ymlwybro tuag Abertawe ar benwythnos Gŵyl Dewi y flwyddyn hon – dychwelyd i’r Gogledd fel pencampwyr. Ar ôl wythnosau o baratoi ac ymarfer at uchafbwynt calendr y myfyrwyr

Cymraeg, roedd y colegau i gyd yn barod am ddiwrnod o gystadlu brwd, a dyna’n union a gafwyd. Gan gychwyn yn brydlon amser cinio, roedd yn amlwg o’r cychwyn fod Undeb Myfyrwyr Cymraeg Abertawe wedi cymryd yr Eisteddfod o ddifrif, gan wahodd

yr Archdderwydd Christine James i’w hagor yn swyddogol. Roedd y neuadd o’i blaen dan ei sang, ac roedd brwdfrydedd y colegau i’w deimlo o’r cychwyn.

Parhad ar dudalen 4

Gethin Griffiths

Siôn Elwyn Hughes

Mae cryn stŵr wedi cael ei godi yn ddiweddar ymysg Cymry Cymraeg Prifysgol Bangor ynghylch amlygrwydd y Gymraeg ar wefan y Brifysgol. Diweddarwyd gwefan Prifysgol Bangor yn ddiweddar i gystadlu â gwefannau prifysgolion eraill gan fod yr hen wefan wedi’i beirniadu am fod yn hen ffasiwn.

Yn ogystal â moderneiddio’r wefan, diweddarwyd gwasanaethau ar-lein i fyfyrwyr y Brifysgol, e.e. newidwyd Bangor360 yn FyMangor a throsglwyddwyd yr hen system e-bost (Webmail) i Outlook 365. Fodd bynnag, er yr holl welliannau, nid yw’r gymuned Gymraeg yn teimlo bod lle amlwg i’r iaith ar y wefan.

Parhad ar dudalen 3

Cymreigio gwefan y Brifysgol

Page 2: Rhifyn y Gwanwyn 2014

GolygyddolHelo bawb! Dyma gyflwyno Rhifyn y Gwanwyn o’r Llef i chi. Uwantih eto yn y rhifyn hwn cynwhysir amrywiaeth o adrannau gwahanol o erthyglau i golofnau arbennig, gyda dwy dudalen wedi’u dynodi i ddathlu buddugoliaeth Bangor yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a dwy dudalen yn adrodd y diweddaraf ynghylch prosiect Pontio. Yn dilyn y newid yn y ffordd o roi’r Llef at ei gilydd, a ddaeth i rym yn y rhifyn diwethaf, rydw i’n falch o ddatgan bod pethau wedi gwella’n sylweddol, gyda phob is-olygydd yn cael mwy o fewnbwn i’w adran ei hun, yna’n cael ei brawfddarllen a’i gysoni gan y Golygydd cyn ei anfon i gael ei argraffu. Gobeithir bod hyn yn rhoi gwedd fwy proffesiynol i’r papur-newydd, ac yn hwyluso ac yn rhoi mwy o foddhad i chi fel darllenwyr wrth bori yn y Papur. Fel bob amser, rydw i’n hynod o ddiolchgar i bawb a gyfrannodd ddeunydd ac a fu ynghlwm â’r broses o roi’r Papur at ei gilydd, ac am eu hamynedd wrth i mi fod yn boen wrth holi am waith ar ben eu dyddiadau cau arferol. Unwaith eto, cofiwch mai’ch papur-newydd chi ydi’r Llef a myfyrwyr y Brifysgol sydd yn gofalu amdano, felly mae croeso i chi gyfrannu ato. Os oes gennych ddawn ysgrifennu, awydd bod yn newyddiadurwr neu os ydych yn awyddus i’n helpu mewn unrhyw ffordd arall (gall hynny fod yn ddylunio neu gynnal gwefan, trefnu hysbysebion a.y.y.b), cysylltwch efo fi neu aelod o dîm Y Llef i fynegi diddordeb! Mwynhewch y rhifyn!

Siôn Elwyn

Is-olygyddion:Llio Mai Is-olygydd CyffredinolCarys Tudor Is-olygydd NewyddionManon Elwyn Is-olygydd AdolygiadauHolly Gierke Is-olygydd FfasiwnFflur Williams Is-olygydd FfasiwnElis Dafydd Is-olygydd y Gornel GreadigolRhys Dilwyn Jenkins Is-olygydd Yr HadauCarwen Richards Is-olygydd ChwaraeonGethin Lewis Green Is-olygydd Chwaraeon

Cyfranwyr: Benjiman AngwinCeris JamesElen HuwsGruffudd AnturElidyr GlynTomos JonesElen IfanAlaw JonesNicola BrownGethin Griffiths

Diolchiadau...Mae fy niolch yn fawr, fel arfer, i bob un o’r Is-olygyddion a’r cyfranwyr sy’n rhoi o’u hamser prin i ysgrifennu a threfnu cynnwys ar gyfer yr adrannau gwahanol a welwch yn Y Llef. Hebddyn nhw, ni fyddai Papur-newydd, felly diolch i chi i gyd am eich gwaith. Daeth y rhifyn at ei gilydd yn weddol ddi-ffwdan, ar y cyfan, ac mae’r broses a ddechreuwyd gyda’r rhifyn diwethaf yn parhau i weithio’n effeithlon. Fel gyda phob rhifyn hyd yn hyn, cafwyd problemau technegol, problemau a ddatryswyd yn gyflym iawn gan Gymorth TGCh y Brifysgol. Hoffwn ddiolch eto i Richard Russell, fy nghyswllt yn NWN Media, am fy rhoi ar ben ffordd pan fu angen.

Nid yw’r farn a fynegir yn y Papur hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Y Llef, Undeb Myfyrwyr Bangor na Phrifysgol

Bangor.

Argreffir Y Llef gan NWN Media, Dinbych.

Cynnwys:Tudalennau:

Newyddion 3-8

Yr Eisteddfod Ryng-golegol 4-5

Diweddaraf Pontio 12-13

Tudalen y Cymdeithasau 14

Yr Hadau 16-18

Y Gornel Greadigol 19-21

Adolygiadau 22-25

Ffasiwn 26-27

Tudalen UMCB 29

Chwaraeon 30-32

6

19

26

22

14

20

Page 3: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 4: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 5: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Yr Eisteddfod Ryng-golegol 5Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Abertawe 20145RHGG� F\ÀH�ZHG\Q� L� I\Q\FKX¶U� IIDLU��QHX�JUZ\GUR� $EHUWDZH�� F\Q� P\Q\FKX¶U� JLJ�J\GD¶U�QRV��<QR��URHGG�F\ÀH�L�I\I\ULZU�DUDOO�R�)DQJRU��,IDQ�'DYLHV��GGDQJRV�HL�GGRQLDX�J\GD�6ɟQDPL��D�FK\GDJ�<U�(LUD�KHI\G��D�I\GG�\Q�VLFU�\Q�K\QRG�J\QK\UFKLRO�\U�KDI�KZQ��5RHGG�KHI\G�J\ÀH�L�JO\ZHG�EDQGLDX�OOHRO�PHJLV� <�%DQGLWRV�� DU� \U� XQ� OOZ\IDQ�D�PDZULRQ�\�VvQ�*\PUDHJ��&RZERLV�5KRV�%RWZQQRJ��5RHGG�\�JLJ��\Q�VLFU��\Q�JRURQ�DU� GGLZUQRG� F\QK\UIXV� D� OOZ\GGLDQQXV�GURV�EHQ�

)HOO\��DU�EHQZ\WKQRV�SU\VXU�D�FK\IIURXV��FDIZ\G�HWR� J\ÀH� L� EUR¿� WDOHQW� P\I\UZ\U� &\PUDHJ�\� JHQHGO�� D� UKDQQX� QHXDGG� k� FK\IHLOOLRQ� �D�JHO\QLRQ�(LVWHGGIRGRO���GURV�DPEHOO�EHLQW��0DH¶U�(LVWHGGIRG� \Q� VLFU� \Q� XFKDIEZ\QW� L� XQUK\Z�I\I\ULZU�&\PUDHJ��DF�QLG�RHGG�\�SHQZ\WKQRV�KZQ�\Q�VLRPLDQW�R�EHOO�IIRUGG��

0DH� GLROFK� PDZU� L¶U� FULZ� FUDLGG� K\QQ\� D�VLFUKDRGG�IRG�%DQJRU�\Q�KDHGGLDQQRO�IXGGXJRO�L�ODZU�\QJ�1JKZP�7DZH��D�E\GG�K\QQ\¶Q�VLFU�\Q�DWJRI�PHO\V�LDZQ�L¶U�P\I\UZ\U�L�J\G�GUZ\�J\GRO�HX�E\Z\GDX�

Cystadleuaeth SafleEnsemble lleisiol 2ilUnawd Merched 3yddGrŵp Llefaru 1afUnawd Bechgyn 3yddUnawd Cerdd Dant 1afUnawd Sioe Gerdd 2ilUnawd Piano 2ilEnsemble Offerynnol 1afLlefaru Unigol 2ilCôr Bechgyn 2ilDawns Stepio Unigol 2ilParti Cerdd Dant 2ilDeuawd Ddoniol 3yddGrŵp Dawnsio Gwerin 2ilGrŵp Dawnsio Creadigol / Disgo 1afMeimio 3yddCôr Sioe Gerdd 2ilCôr Cymysg 2il

&DQO\QLDGDX�

/OZ\IDQ

&DQO\QLDGDX�*ZDLWK�&DUWUHICystadleuaeth SafleY Gadair 1af - Gruffudd Antur, 3ydd - Ceris JamesEnglyn 1af - Siôn Elwyn HughesParodi 3ydd - Tomos JonesLimrig 1af a 3ydd - Siân DavenportY Goron 1af - Elen HuwsLlên Meicro 1af a 3ydd - Awen MairYmson 1af - Manon Elwyn, 2il - Mared BerthAurBrawddeg 1af - Nonni Williams, 2il Mared BerthAur, 3ydd

Einir JonesPortread 1af - Mared BerthAur, 3ydd - Meleri WilliamsY Fedal Gelf 3ydd - MollyY Fedal Ddrama 1af - Ffion HafTlws y Cerddor 1af - Heledd Besent, 3ydd - Siôn Elwyn HughesCyfieithu: Saesneg - Cymraeg 1af Llŷr Titus, 2il - Ceris JamesCyfieithu: Ffrangeg - Cymraeg 3ydd - Gethin GriffithsCyfieithu: Almaeneg - Cymraeg 2il - Gethin Griffiths, 3ydd - Mared BerthAurCyfieithu: Sbaeneg - Cymraeg 1af - Mared BerthAur, 2il - Gethin GriffithsCyfieithu: Ieithoedd Celtaidd - Cymraeg 1af - Gethin Griffiths

JDQ�*HWKLQ�*ULI¿WKV

Page 6: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 7: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 8: Rhifyn y Gwanwyn 2014

PalasP R I N T

AR Y STRYD FAWRAC AR LEINON THE HIGH STREETAND ON LINE

palasprint.com

Edrych am Lyfrau?Tria Ni GyntafCefnoga dy Siop Lyfrau Lleol

Looking for Books?Try Us First!Support your Local Bookshop

170

Stry

dFa

wr/

Hig

hSt

reet

, Ban

gor,

0124

836

2676

10St

ryd

yPl

as, C

aern

arfo

n,01

286

6746

31ei

rian@

pala

sprin

t.com

Page 9: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Etholiadau 9Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

ETHOLIADAU 2014Llio Mai

O’r 3ydd i’r 5ed o Fawrth cynhaliwyd etholiad sabothol Undeb y Myfyrwyr. Roedd pedwar safle i’w lenwi, a bu cystadlu brwd ar eu cyfer. Mae’n bwysig iawn ein bod ni fel myfyrwyr yn mynd ati i bleidleisio ar gyfer yr etholiad hwn, gan mai’r rhai sy’n cael eu hethol fydd yn ein cynrychioli am y flwyddyn academaidd nesaf. Braf yw gweld fod nifer o fyfyrwyr wedi bod yn bwrw’u pleidlais, ac ar y 5ed o Fawrth cyhoeddwyd y canlyniadau. Cawn felly ddweud llongyfarchiadau mawr i Rhys Taylor ar gael ei ethol yn Llywydd yr Undeb; i Lydia Richardson ar gael ei hethol yn Is-Lywydd Addysg a Lles; i Mark Stanley ar gael ei ethol yn Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned, ac i Nicola Pye ar gael ei hethol yn Is-Lywydd Chwaraeon a Byw’n Iach. Ynghyd â Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (sydd eto i’w bennu ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf), y rhain sy’n dod at ei gilydd i greu y Tîm Sabothol. Byddant yn cymryd blwyddyn allan o’u cwrs ac yn rhedeg Undeb y Myfyrwyr ac yn ein cynrychioli ni – y myfyrwyr. Eu swydd yw gwneud yn siŵr bod yr hyn sy’n cael ei wneud gan yr Undeb yn bodloni ein hanghenion a’n dymuniadau yn ystod ein cyfnod yn y Brifysgol. Mae gan bob aelod o’r tîm ei faes penodol, ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau ei hun a byddant hefyd yn ceisio sicrhau ein bod yn cael ein cynrychioli’n deg yn y Brifysgol, yn y gymuned leol, a thu hwnt. Unwaith eto, llongyfarchiadau mawr i’r pedwar sydd wedi eu hethol, a phob lwc iddynt yn eu swydd newydd.

Rhys TaylorLlywydd

Lydia RichardsonIL Addysg a Lles

Mark StanleyIL Cymdeithasau a’r Gymuned

Nicola PyeIL Chwaraeon a Byw’n Iach

“Yr unig beth y medra i ei ddweud yw diolch yn fawr i bawb a bleidleisiodd amdanaf i, ac i’r ymgeiswyr eraill a HSFPEE�CSPôBE�FUIPMJBE�gwych eleni.”

“Fedra i ddim diolch ichi ddigon am bleidleisio BNEBOBG� BN� BJM� õXZE-dyn. Dw i’n edrych ym-laen i dreulio blwyddyn BSBMM� ZO�QSPô�QBN�CPE�dewis Taylor werth pob pleidlais!”

“Diolch yn fawr bawb! Rydw i mor hapus fy mod wedi cael fy ethol ac ni fyddwn wedi gallu gwneud yr hyn y gwnes heb eich cefnogaeth! Dw i’n edrych ymlaen gweithio efo’r tîm!”

“Rydw i wir yn edrych ZNMBFO� BU� õXZEEZO� BSBMM�fel IL Chwaraeon a Byw’n Iach. Byddaf yn parhau i weithio’n galed, ac roedd yn wych i rannu syniadau efo ymgeiswyr eleni, a chael etholiad garnhaol.”

Page 10: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 11: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Adroddiad 11Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Yn ystod tymor yr hydref, fe fuais i’n ddigon ffodus i gael mynd i Brifysgol Harvard i astudio – diolch i gynllun cyfnewid sy’n bodoli rhwng Ysgol y Gymraeg ac Adran Astudiaethau Celtaidd Harvard. Roedd yr holl beth yn brofiad anhygoel, ac rydw i mor falch fy mod i wedi gallu mynd. Treuliais i bron i bedwar mis yno i gyd, yn byw yn neuadd Perkins, un o neuaddau preswyl Harvard ar gy-fer myfyrwyr ôl-radd. Roedd hi’n rhyfedd astudio yn rhywle heblaw Bangor – rydw i wedi bod yma ers dechrau fy nghwrs BA yn 2008! Roedd Perkins yn anhygoel o ryn-gwladol, â’m cyd-fyfyrwyr yn dod o gymaint o wahanol wledydd, gan gynnwys Twrci, yr Eidal, Georgia, Awstralia ac Israel, i enwi rhai yn unig! Diolch i facebook bydd hi’n hawdd cadw mewn cysylltiad â’r holl

ffrindiau a wnes i tra ‘mod i yno, ac rwy’n gobethio cael cyfle i fynd nôl i ymweld – byddan nhw i gyd yno am flynyddoedd eto – mae PhD yn America’n cymryd rhyw 7 mlynedd!

A sôn am waith caled drwy’r holl fl-ynyddoedd hynny! Ym Mangor, ry-dym ni’n arfer â pyb crôls, a mynd i’r llyfrgell ond pan fo rhaid... Yn Har-vard, mae na gymaint o waith i’w wneud, mae’n rhaid gwneud crôl lly-frgell. Mae Widener, y brif lyfrgell yn cau am ddeg y nos, ac felly ar ôl bod yn gweithio yno drwy’r dydd, rhaid symud ‘mlaen i Lyfrgell y Gyfraith, sydd yn aros ar agor tan hanner nos. Os ydych chi’n ddigon hardcore, by-ddwch chi wedyn yn mynd i lyfrgell Lamont, sydd ar agor bedair awr ar hugain. Does dim rhaid dweud nad oeddwn i’n rhan o’r crôls lly-

frgell-aidd..!

Diolch byth, roedd criw Astudi-aethau Celtaidd ychydig yn fwy chilled. Bob nos Fercher, fe fyddai’r criw a oedd yn dysgu Cymraeg yn cwrdd i gael bwyd a pheint, a sgwrs yn y Gymraeg. Profiad rhyfedd, ond cŵl iawn, oedd cael bod yn eistedd mewn bar Americanaidd yn siarad Cymraeg gyda phobl o Ohio, Cali-fornia a Kentucky. Hollol boncyrs – ond mae gen i gymaint o edmygedd tuag atyn nhw yn dysgu iaith, a rhai ohonyn nhw heb fyth wedi bod yng Nghymru! Roeddwn i’n gofyn id-dyn nhw pam yr oedden nhw wedi penderfynu astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaith, ac wedi ymrwymo gy-maint o amser ac ymdrech i’r pwnc. Roedd gan rai gysylltiadau teuluol (‘My great-grandma was half Welsh

and so I decided to study it at col-lege’), ac eraill wedi taro ar y pwnc ar hap (‘I needed some extra credits to make up my first year, and so took this Celtic class’) – mae’n deg dweud nad yw Americanwyr yn neud pethe by halves!

Buaswn i’n gallu mynd ymlaen am dudalennau yn sôn am fy holl bro-fiadau, ond yn anffodus does gen i ddim lle! Cefais i brofiad anhygoel yn Harvard – os cewch chi gyfle i fynd yno, cymrwch e!

Os hoffech chi ddarllen mwy am brofiadau Elen draw yn America, gellwch wneud hynny trwy fynd i’r wefan isod a darllen y blog a fu’n ei gadw pan oedd yno:http://bangorboston.wordpress.com

Prif: Prifysgol Harvard. Mewnol: Elen Ifan

O Fangor i HarvardAdroddiad arbennig gan Elen Ifan a aeth i UDA dros yr hydref

Ddydd Sul, Mawrth 23, bydd Milltir Sport Relief Mile yn dod i Drac Athletau Treborth!

Trefnir y digwyddiad gan Undeb y Myfyrwyr yma ym Mangor, ac mae’n argoeli i fod yn un o’r digwyddiadau mwyaf ar ein calendr eleni. Yn ogystal â hynny, mae’n gyfle gwych i godi arian i achos da! Mae gennym rywbeth i bawb, gyda llwybrau 1, 3 a 6 milltir ar gael, gydg ambell ran ohonynt yn mynd ar hyd y llwybrau arfordirol hyfryd sydd yma yng ngogledd Cymru!

Felly os ydych yn fyfyriwr, aelod o staff neu hyd yn oed yn aelod o’r gymuned leol, byddwn wrth ein boddau yn eich croesawu chi i gyd yn y digwyddiad, a chymryd rhan ynddo, neu gefnogi’ch ffrindiau neu’ch teulu!

Fe’ch gwelwn ni chi ddydd Sul felly!

Am ragor o wybodaethchwiliwch am Milltir Sport Relief Mile 2014 ar Facebook!

Milltir Sport Relief 2014 yn dod i Fangorgan Ash Kierans (Is-Lywydd Cymdeithasau a’r Gymuned Undeb Myfyrwyr Bangor)

Page 12: Rhifyn y Gwanwyn 2014

Sut mae’r adeilad yn dod yn ei flaen erbyn hyn?

Mae yna waith intensif iawn yn mynd ymlaen ar y safle ar hyn o bryd. Bydd y sgaffoldiau yn dod i lawr cyn bo hir ac wedyn bydd modd gweld mwy o’r adeilad ei hun. Dros y misoedd nesaf, un o’r pethau yr ydym ni’n edrych ymlaen ato yw cael yr adeilad yn sychach er mwyn symud ymlaen i’r cam adeiladu nesaf. Mae’r adeilad yn gymhleth gan ei fod ar lethr felly mae’n her, ond rydym ni’n mynd i’r cyfeiriad iawn.

Beth fydd gan Pontio i’w gynnig i fyfyrwyr Bangor?

O ran adnoddau y gofodau perfformio, mi fydd theatr graddfa ganolig yn yr adeilad. Felly, o’r diwedd, bydd gan Fangor lwyfan ar gyfer cynhyrchiadau sy’n teithio, megis Theatr Genedlaethol Cymru. Hefyd, bydd sinema yn dod i Fangor. Mae hynny’n bwysig, ac mi fydd yn gaffaeliad mawr i’r adeilad. Mae’r sinema’n ofod sydd yn cael ei rannu rhwng deunydd y Brifysgol – yn ystod y dydd, bydd y sinema’n ddarlithfa yn ystod y tymor, ond ar brynhawniau Mercher, nosweithiau, a phenwythnosau, bydd yn troi’n sinema i’r cyhoedd. Mae’r stiwdio’n ofod llai, sy’n ffitio 120 o bobl. Gellwch symud y seddi allan, neu eu symud yn ôl er mwyn creu lle gwag defnyddiol a phwrpasol. Mae gwahanol fathau o gyfleodd yn mynd i fod ar gael ar gyfer myfyrwyr. Rydan ni’n bwriadu neilltuo amser i gymdeithasau allu gwneud defnydd o’r stiwdio a’r theatr. Rydan ni mewn trafodaeth efo’r Undeb ar hyn o bryd er mwyn

cynnal perthynas glos rhyngom a chymdeithasau’r Undeb. Hefyd, dw i’n meddwl y bydd posibiliadau yn mynd i ddeillio o ymweliadau gan gwmnïau proffesiynol i fyfyrwyr. Efallai bydd gweithdai’n cael eu cynnig i’r gymuned, gan gynnwys myfyrwyr Prifysgol Bangor. Bydd prosiectau ar gael er mwyn cysylltu’r myfyrwyr efo’r gymuned. Er enghraifft, bydd Gandini Juggling, cwmni teithiol rhyngwladol, yn dod i gynnig gweithdy er mwyn plethu gwahanol fathau o bobl o fewn cymuned Bangor. Mae gan Theatr Genedlaethol Cymru ddiddordeb mewn cydweithio efo Cymdeithas Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor, sydd newydd ailffurfio. I fyfyrwyr, mae yna gyfleodd gwirfoddoli, stiwardio a dosbarthu, a byddem ni wrth ein bodd yn clywed beth mae myfyrwyr ei eisiau allan o’r adeilad.

Beth yw arwyddocad yr adeilad i fyfyrwyr Bangor?

Mi fydd yr adeilad yn gaffaeliad o ran yr hyn sy’n cael ei gynnig i fyfyrwyr, o ran adloniant, lle cyfoes, lle i ymlacio a chwrdd a ffrindiau, a lle, gobeithio, i fod yn falch o hynny.

A oes gennych chi unrhyw

ddatblygiadau diddorol ar y gweill ar hyn o bryd?

Llawer iawn! Ar hyn o bryd, rydw i mewn trafodaethau er mwyn croesawu ‘circuit comedy’ i ddod i Fangor. Mi fydd mewn partneriaeth efo Prifysgol Aberystwyth. ‘Comedy Central Live’ yw ei enw, ac maen nhw’n dod â ‘stand up comedy’ i theatrau a chanolfannau sy’n rhan o Brifysgolion. Myfyrwyr yw eu cynulleidfa nhw, ond mae’n agored i’r cyhoedd hefyd.

Mae’r cynhyrchiad agoriadol o ‘Chwalfa’, gan T. Rowland Hughes, yn rhywbeth eiconig a fydd yn digwydd yn exclusive i Pontio gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth efo Pontio, a Theatr Frân Wen. Mae’n dweud rhywbeth am y ffordd yr ydym yn gweithio efo’n partneriaid er mwyn cael gymaint ag y medrwn allan o brosiectau. Bydd cynhyrchiadau gan Theatr Bara Caws

yn ymddangos ar lwyfan Pontio, pantomeim Nadolig a Gŵyl Dylan Thomas. Bydd hefyd gyfle i ddathlu Theatr Gwynedd. Bydd arddangosfa aml-gyfrwng ar ail lawr Pontio i gofio am straeon difyr a chreadigrwydd Theatr Gwynedd. Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig cofio’r cyswllt rhwng y gorffennol a’r presennol. Bydd cwmni arloesol iawn o Lundain yn ymweld hefyd, cwmni o’r enw Invertigo. Mae un o’r cyfarwyddwyr yn dod o Sir Fôn, ac maen nhw’n mynd i fod yn perfformio Y Tŵr gan Gwenlyn Parry.

Sut mae’r adeilad yn ffitio i mewn i fywyd myfyriwr Cymraeg, ac a fydd unrhyw beth penodol i’w gynnig i’r myfyrwyr Cymraeg?

Mae ethos yr adeilad yn Gymreig, ac mae staff Pontio i gyd yn gorfod bod yn ddwyieithiog, felly rydym ni wirioneddol angen myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol i wirfoddoli efo ni ar hyn o bryd. Mi fydd yr holl hyrwyddo’n ddwyieithog hefyd. Rydym ni wedi penderfynu ein bod am gael yr wyddor Gymraeg ar resi seddi’r theatr. Rydym ni’n trio meddwl am ffordd o wreiddio’r Gymraeg yn y ffordd yr ydym yn gweithredu, nid yn y ffyrdd amlwg. ‘Lle chi’ yw thema’r rhaglen agoriadol. Gall hynny olygu’n y Saesneg, ‘Your place’, ond yn y Gymraeg mae hefyd yn ‘llechi’, ac mae’r cyswllt yna efo’r gymuned yn bwysig, a tharddiad y Brifysgol wrth gwrs, drwy gefnogaeth chwarelwyr i helpu sefydlu’r Brifysgol yn y lle cyntaf. Byddwn i’n hoffi meddwl bod myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor yn gwerthfawrogi’r syniad.

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Aeth un o Is-Olygyddion Y Llef, Manon Elwyn, i gyfweld ag Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio.

12 Pontio...

Rydym ni wirioneddol angen

myfyrwyr Cymraeg y

Brifysgol i wirfoddoli efo ni

ar hyn o bryd.

Y diweddaraf ynghylch adeilad Pontio

Y datblygiad mewn lluniau

Page 13: Rhifyn y Gwanwyn 2014

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

1. Er mwyn i ddarllenwyr ‘Y Llef ’ ddod i’ch adnabod yn well, ellwch chi ddweud gair neu ddau am eich cefndir.

Dwi’n dod o Gaerdydd. Mynychais Ysgol Uwchradd Llanhari, Prifysgol Sheffield, Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall,Llundain a Choleg Frenhinol Cerdd a Drama Cymru

2. Fel cyfarwyddwr artistig Pontio, beth yw’ch swydd o ddydd i ddydd?

Dw i’n gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth artistig y prosiect a’r ganolfan, sy’n cynnwys trefnu’r rhaglen ar gyfer gofodau perfformio Pontio ar draws y sbectrwm celfyddydol: drama, dawns, theatr, cerdd, ffilm.

3. Pa her neu heriau sydd wedi’ch wynebu’n ystod y flwyddyn ddiwethaf ers ichi fod yn y swydd?

Mae’r swydd hon yn swydd newydd sbon ac felly does neb wedi ei gwneud o’r blaen mae hyn yn ei hun yn her. Ond mae hefyd yn gyfle cyffrous i rywun roi ei stamp ei hun arni. Mae hefyd yn fraint cael cyfrannu at y broses o greu

hunaniaeth Gymreig yn y Ganolfan newydd - o recriwtio staff dwyieithog, i roi llythrennau’r wyddor Gymraeg ar resi’r seddi yn y gofodau perfformio dyma dorri cwys newydd o fynegi ein hyder yn ein hunaniaeth mewn ffordd ymarferol! Mae creu rhaglen artistig ar gyfer Canolfan sydd heb ei gorffen yn sialens mae rhywun yn gorfod gweithio oddi ar gynlluniau ar bapur. Mae yna elfen o arbrofi gyda’r hyn sydd yn mynd i weithio a’r hyn sydd ddim yn mynd i weithio, ac felly mae yna, wrth reswm elfen o risg wrth raglennu. Mae yna sialensau ariannol. Dyw’r celfyddydau ddim yn rhad ac mae angen sicrhau cyllid digonnol i’n galluogi i gynnig arlwy o’r radd flaenaf, ynghyd â denu artistiaid a chwmnïau o ansawdd gyda phroffil uchel. Mae llawer o’m hamser wedi bod yn mynd ar geisio am grantiau ar

gyfer prosiectau a gweithgareddau, a hefyd creu achos dros ddod yn gleiant refeniw gyda Chyngor y Celfyddydau. Yr hyn sydd yn fy nghyffroi ac yn fy ysbrydoli yw gweld sut mae cymuned Bangor yn synhwyro’r bwrlwm sydd ar droed gyda dyfodiad Pontio. Mae na awch am ganolfan newydd y medrith bobl gymryd perchenogaeth ohoni. Mae yna edrych ymlaen ymhlith ieuenctid yr ardal ynghyd â myfyrwyr, ac mae yna ddisgwyliadau yn dod yn sgil hynny wrth gwrs!

4. Mi oeddech chi’n gyfarwyddwr artistig Galeri, sut mae Pontio¹n wahanol?

Ni fuaswn wedi gallu ymgymryd â’r gwaith hwn heb fy mod wedi cael profiad o ddatblygu gwelediaeth artistig Canolfan Galeri. Roeddwn yno am wyth mlynedd a dysgais gymaint yn ystod y cyfnod hwnnw am bobl, am yr hyn sy’n denu cynulleidfa, ac am sialensau cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Mae Pontio yn ganolfan mwy o ran maint, yn gymhlethach os rhywbeth. Mae Bangor yn ddinas Prifysgol, ac mae Pontio yn rhan o’r Brifysgol,

felly mae’r cyd-destun yn wahanol mae na fendithion yn dod yn sgil bod yn rhan o Brifysgol ond rydan ni hefyd angen gweithio ychydig bach yn galetach efallai i gyrraedd at y rheiny sydd yn gweld Prifysgol yn rhywbeth dieithr - bydd y sinema yn help garw wrth geisio annog pobl i fentro dros y rhiniog.

5. Be ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf unwaith y bydd yr adeilad wedi agor?

Cael gweld y theatr yn llawn pobl yn mwynhau eu hunain wedi noson o ansawdd artisig - ac ar eu traed eisiau mwy. Llwyddo i wireddu rhai o syniadau da plant a phobl ifanc yr ardal boed yn biano pinc yn y cyntedd, helipad ar y to (ddim mor debygol!) neu Cwtsh Cynganeddu, gan ddangos ein bod, nid yn unig yn gwrando ar ddymuniadau pobl ond ein bod hefyd yn gallu gweithredu arnyn nhw.

Clywais rhywun yn dweud wrth ffrind wrth safle bysus - be oeddan ni’n ei wneud cyn Pontio?

Manon Elwyn

...Pontio 13

Dod i ’nabod: Elen ap Robert

Bryn Terfel yn ymweld â Pontio

Fis Ionawr, ymunodd Bryn Terfel â phlant Ysgol Hirael ac Ysgol Glancegin ar safle Pontio i gydnabod yn swyddogol enwi’r brif theatr ar ei ôl. Cyn y perfformiad, cafwyd cyfle i weld rhannau o’r adeilad newydd. Mae cymysgedd dda o adnoddau, gan gynnwys sinema sy’n

dyblu fel darlithfa, prif ddarlithfa, llawr cyfan i Undeb y Myfyrwyr, Canolfan Arloesedd, stiwdio, ystafell wrthsain, a nifer o ystafelloedd dysgu a bwytai. Dywedodd Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Prifysgol Bangor: ‘Mae’n adeilad eithriadol o

arwyddocaol i fyfyrwyr, ac mae’n rhoi’r Brifysgol ar y map. Rydw i eisiau pwysleisio mai fy nod yw galluogi myfyrwyr i fwynhau’r adeilad.’ Diweddwyd y daith o amgylch yr adeilad â pherfformiad teimladwy gan Bryn Terfel ac Ysgolion Hirael a Glancegin o

‘Anfonaf Angel’ ar y llawr arloesi. Dyma ymweliad cyntaf Bryn Terfel â’r safle, ac meddai: ‘Mae’n fraint gennyf ddod a bwrw golwg ar y Ganolfan newydd unigryw hon a chanu gyda phlant ysgol ifainc Bangor, ac edrychaf ymlaen at ddychwelyd, fel perfformiwr a hefyd fel aelod o’r gynulleidfa’.

Page 14: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 15: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 16: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 17: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Yr Hadau 17Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

This is now the best chance for you to start learning/improving your Welsh, as we have a society available! Y Gymdeithas Llywelyn is open to anyone who wants to learn the Welsh language, or even just to converse in Welsh in an informal setting. Unfortunately, Y Gymdeithas Llywelyn hasn’t been able to run over the last few months, so

it’s excellent to finally have it re-established now. The society is being run by first year Welsh student, Benjiman Angwin, who is a learner of the language himself. He has brought many people together to learn Welsh by organising Welsh Language Film Nights, among other things, not to mention aiding

the learning of Welsh by offering a “word of the day” scheme in order to promote using Welsh in day-to-day life. As the society develops more and more, now is the chance to join. Go to the following link to join the Facebook group and find out more about future meetings etc!

Cymdeithas LlywelynDyma’r cyfle gorau ichi ddechrau dysgu/gwella eich sgiliau Cymraeg, achos y mae cymde-ithas ar gael i chi nawr! Y mae Cymdeithas Lly-welyn ar agor i’r rheiny sydd eisiau dysgu’r iaith Gymraeg, ac i’r rheiny sydd eisiau cyfathrebu a chymdeithasu yn yr iaith Gymraeg mewn awyrgylch a lleoliad anf-furfiol. Yn anffodus, nid oedd hi’n bosib cynnal cymdeithas fel hon dros

y misoedd diwethaf, fel-ly y mae’n anhygoel i’w hail-sefydlu nawr! Cadeirydd y gymdeithas yw Ben-jiman Angwin sef my-fyriwr Cymraeg yn ei flwyddyn gyntaf, ac yn-tau’n ddysgwr yr iaith Gymraeg hefyd. Daeth â nifer o bobl at ei gilydd i ddysgu’r iaith Gym-raeg drwy drefnu No-son Ffilmiau Cymraeg, yn ogystal â digwyddi-adau eraill. Hyrwyddir

y Gymraeg hefyd trwy gynnal “gair y dydd” er mwyn hybu’r rheiny sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg yn eu bywy-dau. Wrth i’r gymde-ithas ddatblygu a thyfu, dyma’r cyfle ichi ymu-no. Mae dolen i’r grŵp Facebook isod, a gell-wch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyfar-fodydd y dyfodol ac yn y blaen!

Haia! Nicola ydw i a dw i yn yr ail flwyddyn yn astudio Cymraeg. Baswn i’n disgrifio fy hun fel fersiwn fenywaidd o Rhod Gilbert (dig a Chymraeg, nid doniol) a’r ansoddair Saesneg mwyaf perthnasol yw ‘easily rattled’. Dyma fy erthygl gyntaf ar gyfer y Llef a hoffwn eich cyflwyno i wythnos arferol yn fy mywyd bach i.

’Na i ddechrau yn y dechrau, dydd Llun. Es i, dau o fy ffrindiau, yn cynnwys Rhys Jenkins sy’n sgwennu ar gyfer yr Hadau, sy’n Gymraeg ‘ail-iaith’, i Cheese yn Academi ac roedden ni’n siarad â hogyn yn Gymraeg yn y lle ysmygu. Pan ffeindiodd allan bod ni i gyd yn ail-iaith (shock horror) penderfynodd siarad â ni yn Saesneg oherwydd nad oedd gennyn ni’r ddawn i siarad yn Gymraeg erbyn hyn yn ei farn o. Swn i’n licio enwi fo ond basai hynny’n andros o amhroffesiynol, ond dyna pam mae’r criw ‘ail-iaith’ yn colli hyder ac yn teimlo’n is mewn

cymhariaeth â’r iaith gyntaf dduwiol.

Yna symud i ddydd Mawrth. Os nad ydych yn fy nabod i, a dwi’n cwyno am hyn yn ddiddiwedd, ar y funud mae fy nhrywn wedi ei dorri (bai geneth o Academi sy’n hoffi dawnsio fel mwnci) a dw i’n brwydro efo’r NHS i gael llawdriniaeth. Felly mi es i i A and E oherwydd y boen ac roeddwn i’n aros am dair awr i rhyw nyrs ddweud wrthaf i bod rhaid imi aros tair awr arall, yn sgîl hyn mi es i adre mewn dipyn o dymer. Y diwrnod nesa, es i at y meddyg i gael mwy o wrthfiotogau ac anti-inflammatories ac roedd yr apwyntiad i fod am 11.10. Arhosais tan 11.45 tan es i at y derbynnydd i ofyn lle oedd fy apwyntiad. ‘Oh we shouted you when

you arrived did we not?’. Naddo. Gwaeddaist ‘Natalie’ ac fy enw i yw NICOLA. ‘Oh we’re terribly sorry I’ll get you an appointment right away’. Hanner awr yn ddiweddarach, dyna fi at ddesg y dderbynfa eto. ‘Oh the receptionist you spoke to has gone on her lunch and hasn’t re-arranged your appointment’. O wel, mae hwnna’n berffaith iawn, dwi’n hoffi eistedd yn yr ystafell aros am ddwy awr i weld y meddyg am 10 munud, plis paid â brysio.

Symud at ddydd Sadwrn. Ces i alwad ffôn gan fy ffrind yn dweud bod rhaid imi symud fy nghar o

fewn 15 munud neu baswn i’n cael dirwy o £300 a buasai fy Micra annwyl i’n cael ei autorecovered gan yr Heddlu. Pam? Oherwydd mi wnaeth rhyw ddyn ffonio’r Heddlu yn dweud bod fy nghar yn ‘blocking the entire lane and he had to reverse the whole way out’. O na, sut wnest ti ymdopi? Roedd fy nghar ar ffordd Y Cilgant ger Ffordd y Coleg, sy’n lôn gul beth bynnag, ond mae maes parcio perffaith addas i droi eich car o gwmpas ynddo felly nid oes rhaid pagio yn ôl o gwbl. Ond y peth a’m gwylltiodd i fwya oedd pam oedd rhaid i ffonio’r Heddlu? Pe bai o wedi mynd i dŷ fy ffrind a gofyn a allwn i symud fy nghar, mi faswn i’n fodlon iawn i wneud hynny. Dwi’n gallu bod yn rhesymol a dw i’n gwybod ei bod hi’n rhwystredigaethus pan mae’n rhaid dreifo heibio ceir ar lôn gul. Mae pobl yn gallu bod mor sbeitlyd ac anystyriol tuag at eraill, a dyna sy’n mynd ar fy nerfau. Trin pobl y ffordd basech chi’n licio cael eich trin, a bydd pawb yn hapus!

Nicola’n dweud ei barn...Yn wreiddiol o Wrecsam, mae Nicola bellach wedi dysgu Cymraeg ac yn byw ar Safle Ffriddoedd ym Mangor, ac yn ei hail flwyddyn yn astudio Cymraeg.

... fersiwn fenywaidd o

Rhod Gilbert - dig a

Chymraeg!

“ “

Trin pobl y ffordd y basech chi’n licio cael eich trin, a bydd pawb yn hapus! “

Page 18: Rhifyn y Gwanwyn 2014

18 Yr Hadau... Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Benjiman Angwin

Hoffwn i dynnu sylw at 3 o bethau y gallai newid a chael newid positif i’r iaith Gymraeg yn y bri-fysgol.

Y llyfrgell. Nid yw'r peiriannau tynny llyfrau'n trinio'r iaith Gymraeg yn gyfartal. Y mae rhaid i ddefnyddiwyr Cymreig pwyso Cymraeg ar waelod y scrin er mwyn cael Cymraeg bob tro. Nid oes rhaid i ddefnyddiwyr Saesneg gwneud

hyn. Yn seicolegol, triniwyd y Gymraeg yn israd-dol i Saesneg. Gallai'r brifysgol newid y gosodia-dau diofyn un o'r ddau beiriannau i Gymraeg yn hawdd ymhlith syniadau eraill.

Argraffyddion. Ni wyddai fyfyriwr yn ei 3edd fl-wyddyn y gallai ddefnyddio'r argraffyddion yn Gymraeg. Mae'r sefyllfa hon yn bodoli oherwy-dd nid oes Cymraeg ar yr argraffyddion ac eithrio pwyso'r botwm 'Languages', ble mae'r Gymraeg yn dod islaw Dansk. Mae hynny'n bitw.

Gwefan. Mae'r Gymraeg ar gael yn y gornel bron yn anhysbys. Ar bob cyfrifiadur y brifysgol, nid yw'r Gymraeg yn amlwg fel iaith gyfartal. Gallai'r defnyddiwr wynebu dewis o'i flaen bob tro, neu well hyd yn oed (o ysyried Gwynedd yw hon) rhoi Saesneg yn y gornel fel dewis ychwanegol i'r iaith frodorol.

Gallai’r pethau hyn newid petach i eisiau hynny a chwyno amdanynt. Pam lai cwyno amdanynt?

Pam lai cwyno?

Benjiman Angwin

I’d like to draw attention to 3 things that could be changed, and that would have a positive impact on the Welsh language in the university.

The Library. The machines used to take a book out do not treat the Welsh language equally. Welsh-language users have to push ‘Cymraeg’ on the bottom of the screen every time. English-language users do not have to do this. Psychologically, the Welsh language in treated as inferior to the English

langauge. The University could change the default settings on one or two of the machines easily.

Printers. 3rd year Welsh students did not know that they could use the printers in Welsh. This situation exists because the Welsh language is not visible on the screen without pressing ‘Languages’, where the Welsh language appears below Dansk. That is spiteful.

Website. The Welsh language, which has to be selected at the top right-hand corner, is almost

invisible. On every computer in the university, the Welsh language is not obvious as an equal language. Could there be an option to choose which language to use before arriving at the main screen, or even better, (considering we are in Gwynedd) placing the English button at the top right-hand corner as an alternative option to the native language.

These things could change if you wanted it enough and if you were willing to complain about them. So why not complain?

Why not complain?

Mae Benjiman Angwin yn dod yn wreiddiol o Houston, Texas ond daeth i Gymru wedi darganfod hoffter tuag at Gymru, y Gymraeg, a’i phobl. Dysgodd yr iath ac mae nawr yn fyfyriwr yn Ysgol y Gymraeg yma ym Mangor.

Benjiman originates from Houston, Taxas, but came over to Wales after discovering his love of Wales, the Welsh and the Welsh language. He learnt the language and is now a student in the School of Welsh here at Bangor.

Rhys Jenkins

Cynhaliwyd Cynhadledd gan Gyngor Caerdydd gyda Phrif Weinidog Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i drafod dyfodol yr iaith yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Mawrth. Cafodd y gynhadledd ei chynnal yn Neuadd y Ddinas, lle’r oedd cynllun gweithredu yn cael ei drafod. Yr oedd yn gyfle cyfoethog i lwyth o sefydliadau’r Gymraeg yng Nghaerdydd ddod at ei gilydd – yn cynnwys S4C.Ar destun Addysg Gymraeg, yr oedd nifer o bobl

yn gobeithio gweld Cyngor Caerdydd yn cadw at eu haddewid a sefydlu dwy ysgol Gymraeg newydd yn Nhrebiwt a Grangetown. Y mae tua £6 miliwn eisioes wedi’i glustnodi ar gyfer darparu’r ddwy ysgol newydd. Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas fod “chwe safle posib ar gyfer ysgol newydd o dan ystyriaeth” mewn cyfweliad diweddar, ac fod y Cyngor yn “ateb galw am addysg Gymraeg yn y brifddinas”. O’i safbwynt ef, y mae “dyfodol disglair iawn i’r Gymraeg yng Nghaerdydd” yn sgil yr

holl gyfarfodydd, a gallem weld newidiadau i’r Gymraeg yn y brifddinas ac ar draws Cymru hefyd. Nod y gynhadledd oedd penderfynu sut allai’r cyngor weithio gyda phartneriaid, er mwyn sicrhau y bydd y brifddinas yn dod yn fwy dwyieithog. Wrth ystyried y syniadau am yr ysgolion newydd, mae’n glir ei bod hi’n gallu fod yn brifddinas ddwyieithog mewn cyfnod byr o amser.

Rhys Jenkins

A conference was held by Cardiff Council with the Prime Minister of Wales and the Commis-sioner of Wales to discuss the future of the Welsh language in Cardiff at the beginning of March. The conference was held in the City Hall, where an action plan was discussed.It was an excellent chance for a lot of Welsh-lan-guage stations in Cardiff to come together – in-cluding S4C.

On the topic of Welsh Education, a lot of people hoped to see Cardiff Council keep to their prom-ise and establish two new Welsh-language schools in Butetown and Grangetown. £6 million has al-ready been earmarked for providing to the new schools.Councilor Huw Thomas said that there were “six possible places for new schools were under con-sidereation” in a recent interview, and that the council was “answering a calling for Welsh-lan-guage education in the capital city”.

From his viewpoint, there was a “bright future for the Welsh Language in Cardiff ” in light of all of the meetings, and we could see changes to the Welsh Language not only in Cardiff but across Wales too.The chief aim of the conference was to decide how the council could work with a partnership, in order to ensure that the capital city will become more bilingual. Considering the ideas about the new schools, it’s clear that Cardiff can be a bilin-gual capital in a short space of time.

Sefyllfa’r Gymraeg yng Nghaerdydd

The state of the Welsh language in Cardiff

Page 19: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Cornel Creadigol 19

���&2�1(/�*5($�,*2/Dyma’r rhifyn cyntaf o’r Llef i ddod o’r wasg ers yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Abertawe lle cipiwyd y tair prif wobr lenyddol gan fyfyrwyr o Fangor. Llongyfarchiadau calonnog i Elen Huws ar ei Choron, i Ffion Haf Williams ar ei Medal Ddrama, ac i Gruffudd Antur am ennill ei bedwaredd Cadair Ryng-golegol - a’i gyntaf fel myfyriwr ym Mangor. Diolch i bawb sydd wedi cytuno i gyhoeddi eu gwaith yn gornel. Braf iawn ydi gweld criw mor awyddus.Rydym wastad yn chwilio am ragor o bobl i gyfrannu felly os oes gennych chi unrhyw beth llenyddol – straeon byrion, llên meicro, ymsonau, cerddi o unrhyw fath – anfonwch nhw ataf i ar [email protected]

Tan y tro nesaf,Elis

Pellter (Detholiad)

Dw i’n cofio teimlo nghlustia’ fi’n mynd yn wirion pan ddeudodd hi wrtha’ i. Fatha taswn inewydd ddod oddi ar awyren ‘lly, a bob dim yn fud heblaw yr un frawddeg fach fer honno. Nes iwirioni’n bot. Nes i ddim meddwl rhyw lawer am y beichiogrwydd, er mawr g’wilydd i mi, y nawmis caled y byddai Elain yn dreulio yn cario’r babi. Na, mi aeth trên fy meddyliau i yn gynt drosy cledrau na hynny, heibio’r enedigaeth hyd yn oed, a dod i stop ar bâr o lygaid tywyll yn syllu ify rhai i yn edmygus, llygaid fyddai’r un spit â rhai fy nghariad. Person bach meddal yn gwingoyn fy nwylo i. Yr hogan fach ddela’ welai neb erioed. Roedd o fel taswn i’n byw ar rhyw gyffurewfforig am bythefnos, yn cael lledaenu’r newyddion da i bawb. Cymysglyd oedd yr ymateb ganrai o’m cyfoedion. Yn methu gweld y pleser yn y cyfrifoldeb. Fy nheulu bach i oedd ar fin egino.Ro’n i’n gallu teimlo cynhesrwydd fy ngwraig yn llenwi’r tŷ fferm, a fy un innau’n llenwi’r buarth.Mor annisgwyl, mor werthfawr oedd yr anrheg hon a roddwyd i ni.

***

Dw i wrth y ffenest yn syllu i lawr ar y buarth, sy’n llawn bywyd. Mae’r defaid yn syllu ar Huw feldosbarth o blant, yn gwthio eu pennau’n rheibus drwy’r giatiau i gyrraedd y bwyd. Mae Nel y ciyn chwarae mig gyda’r mamogiaid barus a chuddio’n siap welingtons fy ngŵr. Gam yn gam ag efheb unwaith fynd ar ei draws, er i’w llygaid lynnu ar y rhes o wynebau gwynion. Gwibia fymeddwl eto, fel y gwna’n aml yn ddiweddar. Bron na alla’ i weld yr hogyn bach yn dilyn camau eidad, yn gwneud ati i gopïo ei osgo, ac yn crefu am sylw’r ast ffyddlon... Dw i’n ysgwyd fy mhen iglirio’n meddwl, rhaid peidio rhoi’r drol o flaen y ceffyl, ac wedyn yn sbio nôl ar y buarth. Ma’r olygfa’n un gwbl wahanol, y defaid i gyd yn bwyta heb wneud smic, a dim golwg o Huw, na’r ci, nac unrhyw enaid arall. Braidd yn annifyr gweld yr holl fywyd yn diflannu mor sydyn, heb i mi sylwi, a distaw-rwydd llethol yn llenwi’r lle. Yna, mi glywaf y brefu. Yn dod yn nes. Y peth cyntaf ydw i’n sylwi arno ydi’r pen. Y bwlch gwag lle ddylai ei lygaid fod yn dwll du. Y clustiau rhacs, y croen wedi’i rwygo, a’r cnawd yn slafan goch. Cysgod y gwlân fel amdo’n glynu i’r ddaear. Brown y pridd yn cuddio’r gwyn. Yn llaw gadarn fy ngŵr, mae’r corff bach yn llonydd. A dacw hi, a’i thrwyn yn sownd i’w gynffon, yn dal i frefu. Greddf ei fam, a’i phwrs yn boenus o llawn. Gwyliaf yr olygfa, wrth i Huw gyrraedd y giat. Ceisio ei chau hi’n sydyn, ond mae’r hen ddafad yn gwthio heibio. Yn gwrthod cael ei gwahanu oddi wrth ei hoen. Yn mynnu ei sylw wrth frefu’n aflafar i glust yr anifail marw. Tybed ydi hi’n deall? Ydi hi’n teimlo? Dw i’n dychryn braidd mod i’n ystyried ei theimladau hi. Gwyliaf y gweddill yn symud yn araf oddi wrth y cafnau gweigion. Eu boliau chwyddiedig a’u carnau’n suddo’n ddyfn i mewn i’r cae gwlyb. Agoraf y ffenestr, a daw chwa o wynt i mewn. Clywaf ogla’r mwd. Y silwair chwyslyd. Y gwlân seimllyd. Mor gyfarwydd ac eto yn codi pwys. Troi’r stumog. Symudaf o’r ffenestr ac anelu am ddrws y stafell molchi am y tro cyntaf bora ‘ma.

* * *

Wedi bod yn porthi o’ni, fel arfer, fymryn yn gynharach na’r arfer gan fod yna fuwch yn ymyl llo. Doedd yna’m golwg o lestri ar bwrdd pan ddois i’r tŷ. Roedd y teciall yn oer, dw i’n cofio sylwi ar hynny. Yn nhraed ’yn sanna, mi gerddish i’n frysiog i fyny’r grisia’, yn teimlo rhyw gwlwm yn fy stumog er na wyddwn i pam yn sicr. A dyna lle roedd hi. Ar lawr y stafall molchi, yn sbio i nunlla. A fedrwn i ddim peidio syllu ar ei choesau hi, a’i dwylo hi. Yn wlyb o waed. A hwnnw’n waed tywyll, tywyll yn staeniau ar hyd ei chroen hi. Ddeudish i ddim byd, dim ond syrthio ar fy mhenaglinia’ a gafael ynddi. Cydio’n dynn, dynn, dynn ynddi. A theimlo’r dagrau fel cyfog yn codi o waelod fy mol.

Elen Huws

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Page 20: Rhifyn y Gwanwyn 2014

20 Cornel Greadigol...

���&2�1(/�*5($�,*2/

Pelydrau

Mae, yn nhafarn oera’r nos, hen wŷr sy’n mynnu aros. Maen nhw’n dod at ddiodydd i wadu’r ’fory a fydd; dod i gau eu dyrnau’n dynn, dod i wadu’r byd wedyn a chael dweud eu dweud o hyd. Hyn a wnaf finnau hefyd ryw fin hwyr ar derfyn haf: anwylo’r gwydryn olaf. Gwasgaf bob dafn o’r gasgen; fe fwynhaf, cyn tyfu’n hen, wanwyn byw pob swigen bur, a gwadaf fod y gwydr yn wag, fod bore’n agos, a’r wawr yn neheulaw’r nos. Gwadaf fod gaeaf i’w gael a gwadu bod rhaid gadael. Gwadaf fod rhew ar gydio yn y gwyll. Wyf un o’i go’ yn edliw mor fyrhoedlog yw’r nos hir yn Nhír na nÓg, ac mor fyr yw awyr iach y rhegfeydd a’r gyfeddach am mai gwynfyd ennyd yw; byw drwy’r byd ar wib ydyw. ***

Mae heulwen loywa’r ennyd yn gorfod darfod o hyd, a rhaid i’r ha’ droi ei hun yn hydref. Pob pelydryn o olau sy’n troi’n niwlen yma mwy, ac yn fy mhen y trai sy’n gwatwar o hyd, yn arafu’r wawr hefyd, a moryd o furmuron yn dal dig hyd ael y don yn yr hwyr. Mae’r tonnau’n rheg, yn torri eu gwatwareg.

Yn y co’, rhyw sŵn cerrynt o wydrau gwag ydi’r gwynt yn ubain, ond rwy’n gwybod fod heulwen y bore’n bod, a bod o hyd funud fach o haul arall disgleiriach, ac er i’r nos agosáu, yn y niwl, mae ’na olau. A, rywle, un bore bach, yn y wawr, caf weld, hwyrach, ennyd o wynfyd a oedd a haul yn toddi’r niwloedd. Af i ail-fyw hwyl a fu unwaith, ac af i fynnu rhywfaint o hen wrthryfel hafau a fu; af i hel cregyn mân fy hafan i a herio’r don sy’n torri. Mi wn i, a minnau’n hen, yn rhywle, fod yr heulwen yn obaith, a bod Aber yma, mi wn, yn fy mêr, a gwn fod yr haf i’w gael yma o hyd, er ymadael.

Gruffudd Antur

Gadael Aberystwyth

Afon Tawe(Englyn buddugol yr Eisteddfod Ryng-golegol)

Fe fu’n araf ei thafod – a hi’n llwyd roedd lli iaith ar ddarfod, Ond mae geiriau’i dafnau’n dod: Nerth Tawe wrth y tywod.

Siôn Elwyn Hughes

Bangor y myfyriwr Cymraeg

Yn y Glôb y mae’r rhai glân – yn ynys o wenau mewn cytgan, Yma caiff claf ei hafan, Yma’r iaith a’i gwaith sy’n gân.

Siôn Elwyn Hughes

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Unwaith eto, daw blodau harddI ardd y byd o’r tir,

Pinciant a pharatoantAr gyfer eu heinioes hir.

Yn barti yn barod am grôl;’Mond unwaith ’ych ifanc a ffôl.

Llifa’r gwyrddni fel tonnau’r môr,Fel côr daw’r adar i’r coed,Goleua olau strôb yr haul

Gr’aduriaid ar ysgafn droed.Rhwng y dawnsio a’r sgwrsio maith,Fydd y chwech ddim adre’ cyn saith.

Daw terfyn i gân yr adarA’u trydar, syrth dail i’r llawr,

Yn raddol, try lliwiau byw’r hafYn llymder a moelni mawr.

Daw hefyd derfyn i hwyl chwech,Peidia’r gân ac amser yn drech.

Hed yr adar ymaith o’r coed,Heb oed, heb edrych yn ôl,

Mae’r brigau’n foel dan awyr lom,A natur yn glyd dan siôl.

Cysga’r ffrindiau dan sêr y nef,Dônt drachefn i liwio’r dref.

Siôn Elwyn Hughes

Noson Allan

Page 21: Rhifyn y Gwanwyn 2014

... Cornel Greadigol 21

���&2�1(/�*5($�,*2/Peintio’r byd yn wynEr cof am Gwenno Fflur Tudor (19 oed), a laddwyd mewn damwain car dridiau cyn ei phen-blwydd yn ugain oed.

Gwenno Fflur- cyfaill cynnes a chariadus,Merch fwyn a hapus!Sbardun pob partia gwregys diogel dy deulu.

Wrth ddilyn heol bywyd yn ddiniwed, ti, y Tudor las, wen, ddrygionusoedd catalydd hoffuscymdeithas glos Llysfasi a Llanilar, heb os.

Modur heb allwedd. Gwacter unigsy’n dilyn dy gollia hynny mewn modd mor annheilwng.

Fferrodd ddŵr y Caron yn anfodlonpan ddatgelwyd y newyddionfod un o’i thrigolionmewn perygl rhwng Llanrhystud a Llanon.

Daeth Ef i rwystro dy daitha gwlith y bore’n flanced fud dros y Sir.Taith bywyd byrhoedlog ond godidog oedd.

Mae’r trisiedi nawr mewn trasiedi,dy ffrindiau mor swnllyd â lilia’th deulu’n dorcalonnus, yn methu â chredu.

Ac wedi dilyn heol bywyd mor ddiniwed,Pam mai hi a’i cosbed?Llosgodd dy gannwyll yn oerond dagrau’r gwêr barha.

Nos da, lili wen.

Carwen Richards

MelinRhod yn troi - meddwl yn chwarae gemau.Darluniau’n driciau.Llafn ar ôl llafn yn batrwm ailadroddus.Crafiad ar ben crafiad, yn greithiau mynych.Grym cerrynt yn gwthio’r dŵr at y dibyn,gan lapio’n dwt dros y dibyn.Gwlithyn yng nghrombil llygedynyn llifo’n ddeigryn.

Awchu am lafn awchlymi gloddio’r gwirionedd a’r boen ddirdynnol.Rasal Gillette ProGlide Dadyn daclus ar rimyn y sinc.Hoff gyllell torri winwns Mama’i charn goch yn sleifio i’m llaw.Cyfleus yw siswrn gwnïo Mam-gu.Cyllell boced Tad-cu wedi hogi’n ddyddiolar garreg isa’r tŷ fferm gwyngalchog.Llafn llyfn miniog.

Maen melin sy’n malu’n gyllell, gan erydu’r cnawd perffaith.Purdeb croen ar freichiau,brest, arddwrn a chluniau.Rhwd yn grachen.Rhwd yn berwi’n grwstyn browngocha chrawn melynwyn.Crafu’r clwyf i ddatgelu’r llif.Cydio mewn llafn cyn cael cyfle i iachau.Melin meddwl yn brwydro â’r elfennau.

Mwsogl yn llawes hir.Rhwygiadau’n chwarae cwato.Cuddio tolc a chraith a rhwd a chrachen.Mwsogl o lawes er gwaethaf arogl chwyslyd,a phelydryn o’r haul gwynnaf berwedig.Anwedd yn codi’n stêm ac oedi’n gysgodion.

Heb felin drafod.Rhod yn troi - heb wybod pam bellach.Darluniau’n driciau.Llafn ar ôl llafn yn batrwm ailadroddus.Crafiad ar ben crafiad, yn greithiau mynych.Grym cerrynt yn fy ngwthio at y dibyn.Gwlithyn sych yng nghrombil llygedyn.Poen? Pleser.

Ceris Mair James

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Page 22: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 23: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Adolygiadau 23

APOLYGIADAU

Mae hwn yn ap y dylai pob myfyriwr ei lwytho i lawr i’w ffônau symudol. Hyd yma, mae wedi profi i fod yn ap defnyddiol tu hwnt, ac yn un sy’n arbed amser. Beth felly y mae’r ap hwn yn ei wneud? Wel – mae’n creu llyfryddiaeth i chi. Mae sgwennu traethawd yn gallu achosi digon o straen, heb sôn am orfod meddwl am y pethau ychwanegol – fel y llyfryddiaeth. Y cyngor y caiff pob myfyriwr gan ei diwtor/ddarl ithydd yw y dylid mynd ati i gadw cofnod o bob llyfr/erthygl ayb. wrth weithio ar y traethawd. Ond, rhaid cyfaddef mai’r llyfryddiaeth (a throednodiadau) yw rhai o’r pethau olaf sy’n cael sylw yn y broses o lunio traethawd. Mae’r ap hwn yn gwneud y broses o greu llyfryddiaeth yn un hawdd ofnadwy.Wedi agor yr ap mae’r sgrin yn edrych fel petaech wedi agor eich ap camera. Yr unig beth sydd rhaid i chi ei

wneud wedyn yw dal eich ffôn fel petaech am dynnu llun o god bar y llyfr. Bydd yr ap yn mynd ati i sganio’r cod bar a phrosesu manylion y llyfr cyn cyflwyno’r manylion ar ffurf eitem o lyfryddiaeth. Bydd yr ap yn cadw cofnod o bob llyfr yr ydych yn ei sganio ar ffurf rhestr, a phan fyddwch wedi gorffen mae modd i chi anfon y rhestr hwnnw at eich cyfrif e-bost. Os nad yw’r llyfr gennych, mae modd i chi ddewis yr opsiwn ‘chwilio’ a theipio enw’r llyfr yno er mwyn cael y manylion.Efallai nad yw’r ap yn cofnodi’r manylion yn union fel y dylent fod ar gyfer eich llyfryddiaeth (mae’n dibynnu pa ddull sydd rhaid i chi ei ddefnyddio), ond mater bach yw ychwanegu cromfachau neu ambell goma. A dyna’ch llyfryddiaeth wedi’i gwblhau!

QUIZUPErbyn hyn, QuizUp yw gêm cwis mwyaf y byd, gyda 150,000 o gwestiynau a 250 o bynciau i ddewis ohonynt! Mae pob gêm yn cymryd ryw funud neu ddau i’w chwarae ar y mwyaf, ac mi fyddwch yn chwarae’n erbyn rhywun gwahanol bob tro, o wledydd gwahanol! Mae’n fonws gwych ein bod ni fel Cymry yn cael yr hawl i chwarae fel gwlad annibynnol, yn hytrach na gorfod chwarae fel rhan o’r Deyrnas Unedig. Gellwch

hefyd herio’ch ffrindiau i chwarae yn eich herbyn, ac mae’r dewis o bynciau’n eang iawn - o feddygaeth i Friends, ac mae mwy yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol! Gyda phob testun, byddwch yn dechrau ar lefel un, ac mae’n rhaid i chi weithio’ch hun i fyny i’r lefel uchaf posib, ac yna, mae posibilrwydd i chi ennill teitl y chwaraewr gorau yn eich gwlad dan y pwnc penodol, neu hyd yn oed, y chwaraewr gorau yn y byd!

Manon Elwyn

Mae llawer iawn o sôn wedi bod am y gêm yma, a gafodd ei datblygu gan Dong Nguyen o Fiet-nam. Daeth yn boblogaidd iawn ddechrau’r flwyddyn yn fyd-eang, ac yn addicting iawn i nifer fawr o bobl. Mae’r gêm wedi’i lawrlwytho fwy na 50 miliwn o weithiau, ond yn ddiweddar, tynnodd Dong Nguyen y gêm oddi ar siopau ar lein. Dywedodd fod y gêm yn difetha ei fywyd syml, gan nad oedd wedi rhagweld y byddai’r ap yn datblygu ledled y byd, a chreu stŵr. Mae’r gêm yn anodd, er ei bod

yn ymddangos yn syml. Mewn gwirionedd, roedd ei symlrwydd yn achosi cur pen mawr i’w holl chwaraewyr! Wrth imi chwarae’r gêm, roedd yn hawdd gweld sut oedd pobl yn methu stopio ei chwarae, gan fy mod yn cael y teimlad o reidrwydd i guro fy sgôr blaenorol bob tro - gêm effeithiol, ond peryg!

Manon Elwyn

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

gan Llio Mai

FLAPPY BIRD

Page 24: Rhifyn y Gwanwyn 2014

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Mae’r ffilm hon wedi’i hanelu at blant, ond wrth imi glywed nifer cynyddol o’m ffrindiau yn ei chanmol i’r cymylau, penderfynais fynd i’w gwylio. Y peth cyntaf sydd gen i i’w ddweud am y ffilm, yw bod y gerddoriaeth yn anhygoel. Wedi dweud hynny, mae’r stori ei hun yn ychwanegu at swyn y caneuon. Stori am ddwy chwaer ydyw, sef Anna ac Elsa, gydag un yn dywysoges a’r llall yn frenhines. Mae gan y frenhines, sef Elsa, bwerau i droi popeth yn rhew. Y drwg ydi, nid yw hi’n gallu rheoli’r pwerau, felly mae ei

theyrnas mewn perygl o ganlyniad i’r holl eira a stormydd eira y mae hi’n ei achosi’n anfwriadol. Mae ei chwaer, Anna, yn gymeriad cymhleth iawn, ond yn y bôn, down i sylweddoli mai stori hyfryd am chwaeroliaeth yw Frozen. Mae neges y stori’n wych i blant, ond mae’r plot a’r ffordd y mae’r stori wedi’i dweud yn apelio’n fawr i oedolion hefyd.

Manon Elwyn

24 Adolygiadau...

Frozen

Bronco gan Gwyn Thomas

Roeddwn wedi clywed sawl peth am y gyfrol hon o straeon byrion cyn mynd ati i’w darllen. Y prif sylwadau oedd ei bod yn gyfrol ‘wahanol’, ac yn ‘rhyfedd’. Yn wir, ni chefais fy siomi. Ceir un ar ddeg stori fer i gyd, a phob un yn cynnwys rhyw elfen od, i ddweud y lleiaf! Does ond angen darllen teitl ambell stori er mwyn cael gwybod ei bod am fod yn stori anghyffredin – e.e. ‘Wynston Draciwla Davies’, ‘Ffrancenstein Taliesin Ifas’ ac ‘Yr Ystlym-fachan’. O’r teitlau hyn, rwy’n siŵr eich bod wedi casglu erbyn hyn fod sawl creadur chwedlonol i’w canfod yn y gyfrol hon. Maent oll yn gymeriadau sy’n cael eu cysylltu â straeon arswyd, ac er i mi fod yn gall iawn a mynd ati i ddarllen y straeon yng ngolau dydd (rhag ofn!), nid ydynt yn straeon i godi braw. I’r gwrthwyneb, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn straeon llawn hiwmor sy’n dod a gwen i’ch wyneb. Ceir ymdriniaeth ddiddorol o grefydd, materion gwleidyddol a themâu megis twyll a bwlio. Wrth gwrs, mae stamp Gwyn Thomas yn amlwg iawn arni. Gwna ddefnydd helaeth o chwarae ar eiriau ac mae dylanwad y diwydiant ffilmiau yn gryf ar nifer o’r straeon, megis ‘Arwr, U.D.A.’, ‘Atrebates Huws’ a ‘Cofiant Crocodeil’. Yr hyn sy’n gwneud i’r gyfrol hol sefyll allan yw’r ffaith ei bod mor wahanol i unrhyw beth arall yw wyf wedi’i ddarllen yn y Gymraeg. Maent oll yn straeon doniol a bywiog ac mae’r elfen od ac anghyffredin yn ychwanegu cymaint atynt.

Llio Mai

Ar ddiwrnod olaf fis Chwefror, i groesawu Dydd Gŵyl Dewi Sant yr oedd Gig Gŵyl Ddewi Arall gan 4 a 6 yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon. I ddechrau’r noson fe berfformiodd Georgia Ruth rai caneuon yn arddangos ei doniau fel cantores a thelynores. Mae gan Georgia Ruth lais swynol sydd wedi mynd â cherddoriaeth Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd ar hyd y lle. Cafodd lwyddiant gyda gwobr ‘Welsh Music Prize’ yn ôl yn yr Hydref ac ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth. Yna daeth Saron i’r llwyfan – wel am berfformiad! Band o’r 70au wedi dod o Saron i berfformio yng Nghlwb Canol Dre oedd y rhain. Fe berfformiwyd sawl cân ganddynt ac roedd yr awyrgylch, ynghyd â’r gwisgoedd yn gwneud i rywun deimlo eu bod wedi mynd yn ôl bedwardeg mlynedd! Roedd y ddwy ferch ifanc yn

perfformio rhai o’u clasuron coll o’r de-orllewin. Llongyfarchiadau i Siwan a Siân – y ddwy ohonynt yn swnio cystal ac yn edrych cystal ag yr oeddynt yn y 70au! I gloi’r noson fe ddaeth Kizzy Crawford draw yn syth ar ôl canu ar Cân i Gymru i mesmereiddio a hudo’r gynulleidfa gyda’i cherddoriaeth newydd. Merch ifanc o Ferthyr yw Kizzy sydd yn wir wedi creu argraff ar Gymru gyfan ac mae’n rhaid cymeradwyo ei thalentau fel cerddor – yn symud o gitâr i greu rhythmau, beat bocsio a chanu. Yn wir i chi, mae hon yn un i’w dilyn ac o wrando arni mae’n bosib iawn y bydd hi’n mynd yn bell yn y dyfodol agos!

Carys Tudor

Gig Gŵyl Ddewi Arall

Page 25: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Adolygiadau 25

Gig yr Eisteddfod Ryng-golegol

Fedar Cwmni Da wneud dim o’i le’n ddiweddar. Dros y misoedd diwethaf rydym wedi cael rhaglenni gwirioneddol afaelgar ganddyn nhw, gan gynnwys Pethe, Darn Bach o Hanes, Afal Drwg Adda, Gerallt, Dafydd Iwan ac, wrth gwrs, Dim Byd. Y ddiweddaraf yw Merêd, sef portread o Dr Meredydd Evans, a braf yw gallu nodi ei bod yn sefyll gyfuwch ag unrhyw gynhyrchiad arall gan Cwmni Da. Mae’n anodd gwybod ble mae dechrau wrth geisio disgrifio Merêd. Dyma’r llanc o Danygrisiau a adawodd yr ysgol yn ifanc, ond a fyddai, ymhen blynyddoedd, yn ennill gradd Ph.D mewn Athroniaeth o Brifysgol Princeton yn yr Unol Daleithiau. Dyma’r canwr gwerin, yr ymgyrchydd iaith, yr hanesydd, y casglwr, ond, yn bennaf oll efallai, y Cymro. Sut, felly, mae gwneud cyfiawnder â dyn mor eithriadol mewn dim ond awr o raglen? Yr unig ffordd ydi drwy adael i’r gwrthrych ei hun adrodd y stori. Ac yntau bellach yn 95 oed, cawn hanes bywyd Merêd yn ei eiriau’i hun, ynghyd â chyfraniadau gan rai o’i gyfeillion a’i gydweithwyr ar hyd y blynyddoedd. Mae’n rhaglen debyg ei naws i’r rhaglen am Gerallt Lloyd Owen, gyda gwaith camera hynod o chwaethus, ac mae’n anodd peidio â theimlo cwlwm yn y gwddw ar y diwedd wrth i Merêd ddychwelyd i fro ei febyd ac i Gwmorthin, a hynny, efallai, am y tro olaf. Dyma raglen sy’n gofnod amhrisiadwy am un o Gymry mwyaf ac amlycaf y ganrif ddiwethaf, ac sy’n bortread tyner o ŵr bonheddig na welwn mo’i debyg am flynyddoedd lawer. Da chi, ewch draw i S4Clic i’w gwylio cyn iddi ddiflannu.

Gruffudd Antur

Merêd

The Delivery ManVince Vaughan yw seren y ffilm hon, ac mi ydw i wrth fy modd efo’r actor yma! Ond, mae’n rhaid imi ddweud fod y ffilm ei hun yn siomedig. Roedd y plot yn dila, gyda Vince Vaughan yn actio cyfrannwr sberm sydd yn darganfod ei fod yn dad biolegol i dros bum cant o blant. Mae’n ergyd fawr iddo, ond nid yw’n barod i ddod yn dad i ddim un ohonynt. Yn hytrach, mae o’n mynd i chwilio amdanynt yn eu tro, gan gymryd arno nad yw’n

adnabod yr un ohonynt, felly nid yw’r plant yn dod i ddeall mai, mewn gwirionedd, eu tad ydyw. Mae’r plant i gyd yn unigryw, sy’n arwain cymeriad Vince Vaughan, David Wozniak, ar daith i ddarganfod y math o dad y gallai fod wedi bod, a pa fath o berson y mae o wedi datblygu i fod. Ar ben popeth, mae cariad cyfredol cymeriad David Wozniak, yn feichiog efo’i blentyn! Manon Elwyn

Yn Abertawe yr oedd yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni ac yn ôl y traddodiad cynhaliwyd Gig wedi’r cystadlu. Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor oedd enillwyr yr Eisteddfod ac fe ddaeth y darian newydd yr holl ffordd yn ôl i’r gogledd. Dyddiad yr Eisteddfod oedd y cyntaf o Fawrth a pha ffordd well i ddathlu dydd ein nawddsant nag yng nghwmni myfyrwyr Prifysgolion Cymru. Pris tocyn mynediad oedd deg punt, pris

rhesymol am y llu o artistiaid a berfformiodd. Yr artistiaid eleni oedd Cowbois Rhos Botwnnog, Sŵnami, Yr Eira, Y Banditos ac Uumar. Artistiaid amrywiol â digonedd o ganeuon at ddant pawb. Bandiau ifanc a chyfoes a oedd yn hollol addas a chyfoes ar gyfer y digwyddiad a’r gynulleidfa. Braf hefyd oedd gweld pobl ifanc di-Gymraeg a nifer oedd yn dysgu’r iaith o Brifysgol Abertawe yn rhan o’r gynulleidfa. Uchafbwynt y

noson i mi oedd gweld Sŵnami ynghyd â Gethin Griffiths yn perfformio’r gân ‘Dydd yn Dod’ ar y llwyfan. Roedd y bechgyn wedi cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru'r noson flaenorol ar Ynys Môn. Rhaid i mi gyfaddef fod yr awyrgylch yn un arbennig, a heb os mai dyma’r Gig gorau i mi fynychu ers dechrau bywyd coleg.

Ceris James

Cyngherddau Coffi Ensemble CymruCerddoriaeth i ffliwt, fiola a thelyn gan Prokofiev,

Mathias, Debussy, Bax a Devienne.

Ebrill 1 | 8yh | Capel Gad, CilcainEbrill 2 | 11yb | Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Ebrill 3 | 10:30yb | Venue Cymru, PwllheliEbrill 4 | 10:30yb | Canolfan Ucheldre, Caergybi

Ebrill 5 | 10:30yb | Venue Cymru, Llandudno

HEFYD!Cerddoriaeth Ym Mangor: Ensemble Cymru gydag aelodau o Bedwarawd Mavron ac aelodau o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.Ebrill 3 | 8yh | Neuadd Powis, Bangor

Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Page 26: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Ff

asiw

n26 Ffasiwn ... Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

7ʪPʝɠ�ɨ�*Zʋʜʨʪɚ ���'ʪPɈ�ʣʪʜLDɍ�ɛ�ɠ�ʋʛʢʪʨLȧHʃɓ�ɛ�ȩHʃKʋɤ�ʣ\Gɍ�ʋɠ�Jȧɰɗ�ʋɠ�ɨ�Vʤʢ\ɍ�Iʋʨɠ�ɨ�ʤʪPʝɠ�ʕʨɚ ���

��� %OʝZɡ� l�����:ʋȾɰKʝXȿɏ6Ȱɏԭ� �� l��� ��)Dɢ)DȪɏ � ���6ʖʨʛȼʑɠ���l���7ʝSʂKʝɞ6Ȱɏԭ���l�����DŽƻǖ6

��� -DȪHɍ� l����VȰɏԭ� l��� ��7ʝSʂKʝɞ

��� &˭ɢ� �� l���:ʋȾɰKʝXȿɏ%Dɒ� �� l��� ��1ʑɦ�/Rɼɖ

���%OʝZɡ�l����5ʖɃʑɠ,ʂOʋQɍ6LɛԯLʋɤ�� l���5ʖɃʑɠ�,ʂOʋQɍ

�� ����

��

��

Page 27: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Ff

asiw

n

Ffasiwn ... 27Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

)IDʣʖʨɚ�&ʋʢȼHɍ�&Rɭɓ<�%ƺ,ǝ6������

Pixie Lott

Lilly Allen

Rita Ora

Ellie Goulding

Kimberley Walsh

Fearne Cotton

'ʪPɈ� ʔʖɞ�ɼʙZɒ� ʋɠ� ՑDʣʖʨɚ� ɨ� FʋʢȼHɍ� FRɭɓ� ʪɚ� <� %ʢLWɡ�ɰȵʑʜɔ ���0ȧɏCɠ� FDVɳʙLDɍ� ʕʨɚ� ʪɚ� ʎʪQʜʨ\ɡ� ՕURʔLʋɤ� Jʋɚ�OɪȩɰOʋɤ� ʑʜZRɒ�� ȷHʔLɡ� 9ʖʧȲʑʜȸɏ� :HVʤZȹRɍ�� *ʨQȧHʃɓ�(ɸʙȲɏ�*ʝʅOʏʖQɒ�ʋUʔUɈՓ�ʋɠ�ɨ�FʋʢȼHɍ�FRɭɓ�Jʋɚ�ʨLVJɛ�ɠ�ՕURɒ�XɭKRɍ�Jʋɚ�9ʖʧȲʑʜȸɏ�:HVʤZȹRɍ��'LVʔʢLʓʨ\ɍ�ɨ�ՕURɒ�Jʋɚ��ɨ�ʎ\ʓʢʪQJʋɤ�ȯɰɗ�ՕURɒ�ʏʪʨ\VRȰHɡ�

*ʋɚ��+ɼɸʙɨ�*Ȳʑʁȴɏ�Ɉ�)Րʦɠ�:ɵɸʙLʋPɡ

Page 28: Rhifyn y Gwanwyn 2014

28 ... Hysbyseb Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Page 29: Rhifyn y Gwanwyn 2014
Page 30: Rhifyn y Gwanwyn 2014

30 ...Chwaraeon Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

Carwen Richards

Dechreuodd Ilan Wyn Evans, sy’n astudio Dylunio a Thechnoleg-QTS, bysgota pan yn 4 oed. Cychwynnodd bysgota pluen pan yn 6 oed, ar ôl i’w Dad ddysgu, ar ôl i’w Dad yntau (Dad-cu Ilan) ddysgu hwnnw. Treulia’i Haf yn pysgota, a chanu wrth wneud, ar yr afon Dyfrdwy, Tryweryn a Llyn Tegid. Âi’n aml i bysgota gyda’i Dad a’i Dad-cu ar Lyn Brenig hefyd, yn ogystal â Thal y Llyn. Bu’n dysgu sut i bysgota’r afon gan griw o Czechoslovakia. Yn 8 oed, dysgodd sut i glymu plu, eto gan ei Dad. Mae Ilan eisoes

wedi ennill nifer o gystadlaethau gyda Chlwb Pysgota Bala. Mynycha wersi clymu plu yn y Clwb pan oedd yn iau- Fe sydd nawr yn dysgu’r gwersi hyn! Cafodd dreialon ar gyfer tîm ieuenctid Cymru yn 16 mlwydd oed, lle daeth yn y 4ydd safle. Aeth ymlaen, felly, i gynrychioli Cymru yn Yr Alban ar Lake of Menteith yn 2011, lle gorffennodd Cymru yn 2il allan o’r 4 gwlad. Daeth Ilan yn bersonol yn 6ed allan o 56 o bysgotwyr, ac yn 3ydd allan o’r Cymry. Derbyniodd wahoddiad i glymu plu yn Ffair Wledig Gogledd Cymru yn 2010, 2011, 2012 a 2013,

a ‘Fly Fairs’ Galway (Iwerddon) a Chymru yn 2012 a 2013. Clyma blu ledled Cymru a thu hwnt mewn sawl ffair wledig a digwyddiadau tebyg. Yn y gorffennol, mae Ilan wedi derbyn gwahoddiadau lu i glymu plu mewn mannau megis Iwerddon, Denmarc a’r British Fly Fair Internation (BFFI). Yn Siop y Gwyniad, Bala mae Ilan yn gwerthu ei blu. Y mae hefyd yn clymu plu ar gyfer gwahanol dimau megis Tîm Ieuenctid Cymru. Gwertha ei blu i bobl o bob cwr o Ewrop, ac mae e hefyd yn gweithio i gwmnïau mawr megis Partrage yn datblygu eu cynnyrch hwy a’u

hysbysebu. Edrycha Ilan ymlaen at sioeau blwyddyn nesaf a dymunwn bob llwyddiant iddo yn ei faes yn y dyfodol.

Pysgotwr yn ein plith

Yn ystod y misoedd cyntaf, fe chwaraeodd y myfyrwyr 9 gem ac enillon nhw 8 ohonynt. Y gêm i ffwrdd yn erbyn Valley FC, y tîm ar frig y gynghrair oedd yr unig siom yn ystod y cyfnod llwyddiannus yma i’r UMCB. Felly wrth i ni gael seibiant o’r pêl-droed dros y gwyliau Nadolig, roedd Valley ar frig y gynghrair ac UMCB yn ail o ddau bwynt, a'r myfyrwyr felly yn gobeithio i drechu eu gelynion yn eu cyfarfod nesaf, adref yn Beach Road i gymryd eu lle ar frig y tabl. Ers y flwyddyn newydd, mae’r tywydd erchyll wedi difrodi y rhan fwyaf o’r caeau pêl-droed lleol, felly dim ond tair gem mae UMCB wedi gallu chwarae hyd yn hyn yn 2014. Roedd y gyntaf o’r rhain adref i Adelphi Vaults (Amlwch). Er bod y garfan yn andros o fyr ar ddydd y gêm fe enillodd UMCB 2-0,

efo goliau gan Guto Ifan a Rhodri Williams. “Business as usual”, tri phwynt arall i’r myfyrwyr yn ogystal â pherfformiad a ddangosodd talent y tîm o chwarae pêl-droed deniadol. Yn bwysicach, fe ddangosodd y gêm yma cryfder y garfan. Roedd llawer iawn o newidiadau i’r tîm gwreiddiol a chwaraewyr amhrofiadol yn gorfod cymeryd eu lle, ond ni ddaru nhw siomi o gwbl wrth iddynt berfformio yn gryf iawn. Ar ôl y gêm yna, fe aeth UMCB am fis heb gêm, ac fe gafodd hyn effaith ar eu gem nesaf sef gem gwpan (Presidents Cup), adref yn erbyn Penbont Celts. Eto, efo llawer o’r garfan yn absennol oherwydd eu cyfraniad i’r Eisteddfod Ryng-golegol, roedd y gêm yma yn erbyn gwrthwynebwyr o gynghrair uwch am fod yn un anodd. Y sgôr terfynol oedd UMCB 0-3 Penbont Celts. Er i

ni fethu chwarae ers mis, yn ogystal â cholli chwaraewyr, doedd hyn ddim yn esgus i berfformiad andros o wan gan y myfyrwyr. Fe sgoriodd Penbont dair gôl o fewn yr ugain munud agoriadol, fe aeth pennau UMCB i lawr, a methon nhw chwarae eu pêl-droed arferol yn enwedig yn nhraean olaf o’r cae. Doedd y perfformiad ddim yn un o gymeriad arferol y myfyrwyr o gwbl, roedd Penbont yn well tîm ar y dydd ac yn llawn haeddu eu buddugoliaeth. Roedd siom y tîm yn amlwg ar ôl y chwiban olaf oherwydd dylai’r myfyrwyr wedi cystadlu llawer gwell o ystyried talent y chwaraewyr yn y crysau coch. O leiaf fe ddaru UMCB ddangos cymeriad i ddod yn ôl i’r gêm a gollwyd yn erbyn Valley cyn y Nadolig, ond dim hyn oedd yr achos i’r gêm yma yn anffodus. Roedd yn rhaid i’r UMCB

godi eu pennau yn ôl i fyny a gweithio yn galed er mwyn parhau i lwyddo yn y gynghrair yn eu gêm ganlynol i ffwrdd yn erbyn Adelphi Vaults. Er i’r tîm chwarae lawer gwell a dangos perfformiad o’r arfer, fe gollodd y myfyrwyr y gêm 1-0. Fe greodd y tîm cyfle ar ôl cyfle am 90 munud, ond yn anffodus ni ddaru ddim un ymdrech daro cefn y rhwyd. Yn amlwg felly yn ddiwrnod anlwcus i’r myfyrwyr, ond mae diwrnodau fel hyn yn digwydd yn aml ym mhêl-droed felly gobeithiwn i Valley gael profiad tebyg rhwng nawr a diwedd y tymor! Gem nesaf UMCB fydd gem gwpan (Division 1 Cup) i ffwrdd yn erbyn Bro Lleu. Mae’r myfyrwyr yn barod ar y blaen 4-0 ar ôl y gornest cyntaf, felly gobeithiwn i ymdrechu yn dda yn y gêm yma er mwyn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol!

Parhad o’r dudalen gefn

Mae'r fformat newydd yn gweld ehangiad o 24 o dimau yn medru cymryd rhan yn y twrnamaint yn 2016, sy'n golygu bod timau sy'n gorffen yn drydydd yn eu grwpiau cymwys yn cael y cyfle i symud ymlaen trwy chwarae mewn ‘’play-off ’’. Golyga hyn fod y gemau rhagbrofol yma yn gyfle euraidd i’r tîm Cymraeg gymryd rhan yn eu twrnamaint rhyngwladol cyntaf ers

Cwpan y Byd 1958. Mae Andorra, Cyprus ac Israel llawer is na Chymru

yn y safleoedd rhyngwladol gan FIFA, ac er bod Bosnia a Gwald Belg yn wledydd a fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd eleni ym Mrasil, fe fydd Cymru yn awyddus iawn am bwyntiau yn eu herbyn wedi iddynt ddal Belgium i gêm gyfartal (1- 1) llynedd yn y rhagbrofion i Frasil. Mae rhaid ystyried hefyd y dalent sydd gan Gymru. Mae’r tîm yn cynnwys cymysgiad o chwaraewyr talentog, profiadol, ifanc ac addawol fel Joe Allen, Ashley Williams, Ben

Davis, Emyr Huws, Joe Ledley a'r ddau seren Aaron Ramsey a Gareth Bale. Efo tîm mor addawol a grŵp rhesymol, gobeithiwn mai hyn fydd y dechreuad o gyfnod llwyddiannus i bêl-droed rhyngwadol Cymru! Mi fydd gan Coleman gem gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar Fehefin y 4ydd er mwyn arbrofi efo’i dim, yna bydd cyfle i’r Cymry fwynhau gwylio Cwpan y Byd dros yr haf cyn ffocysu ar y gêm gyntaf o’r rhagbrofion Ewropeaidd ar Fedi'r 9fed yn erbyn Andorra.

Gobeithio parhau â phêl-droed slic Parhad o’r dudalen gefn

Ewro 2016 - Golwg ar obeithion Cymru

Page 31: Rhifyn y Gwanwyn 2014

...Chwaraeon 31Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

1. Enw llawn?Ruth Jones2. O ble wyt ti’n dod?Dinas Mawddwy3. Pa gamp wyt ti’n chwarae? Rygbi4. Beth wyt ti’n ei astudio ym Mhrifysgol Bangor? Cemeg5. I ba dîm wyt ti’n perthyn? Tîm Prifysgol Bangor/Tim UMCB6. Safle? Mae’n dibynnu pwy sydd ar gael i chware! Dw i fel arfer yn slotio i mewn lle mae nhw fy angen i! Ond dw

i’n chware fel blaenwr gan amlaf. 7. Beth yw dy lwyddiant mwyaf o fewn y gamp? Fy llwyddiant mwyaf oedd sgorio fy nghais cyntaf yn y gêm gyntaf efo’r Brifysgol. 8. Y profiad gorau o fewn y gamp? Cael y cyfle i ymarfer a chware fel rhan o dîm. 9. Dy arwr(es)? Elen Evans sy’n chware rygbi i dîm merched Cymru.

Holi: Ruth

Cydnabyddiaeth i’r Cymry

O’r dudalen gefn

Iwerddon oedd y dasg nesaf i Gymru ac yn anffodus, colli oedd eu hanes. Mae'r gystadleuaeth rhwng Cymru ac Iwerddon bob amser yn un cyffrous ac agos, ond ni chafodd Cymru unrhyw gyfleoedd i sgorio gyda thri phwynt yn unig yn dod gan Leigh Halfpenny. Y sgôr terfynol oedd 26-3 sydd yn adlewyrchiad perffaith o berfformiad Cymru ar y diwrnod yma. Bu sawl un o aelodau UMCB ddigon ffodus i brofi naws

cyffrous y diwrnod yn Nulyn ar drip gan yr Undeb. Y sialens nesaf a oedd yn wynebu Cymru oedd Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm, lle bu cyfle i Gymru ddangos i’r cefnogwyr mai nhw oedd y pencampwyr eto eleni. Chwaraewyd y gêm yn gyflym ac yn gryf yn yr hanner cyntaf – Nid oedd Ffrainc yn gwybod sut i ymateb,gyda’r sgôr yn 20 - 6 ar hanner amser. 27 - 6 oedd y sgôr terfynol gyda cheisiau gan George North (1) a Sam Warbuton (1).

Daeth gweddill y pwyntiau eto o droed Halfpenny. Roedd y gêm nesaf yn erbyn Lloegr am fod yn brawf caled ar Gymru ac yn bosib o benderfynu os oedd y tîm am fod yn bencampwyr eto eto eleni. Yn anffodus, colli wnaeth y tîm. Doedd y ffaith bod y gêm yn cael ei chwarae bant yn Twickenham ddim yn helpu Cymru. Roedd y gêm ei hun yn un cyffrous gyda dim ond ambell gamgymeriad gan Gymru yn caniatáu Lloegr i gipio 2 gais. Y sgôr derfynol oedd 28 - 19 gyda phwyntiau Cymru i gyd yn dod gan Leigh Halfpenny, a gafodd ei anafu yn y munudau olaf. Er bod ennill y bencampwriaeth erbyn hyn allan o’r cwestiwn doedd y chwaraewyr ddim yn barod i roi eu pennau yn eu plu. Chwaraeodd y tîm eu gem gorau yn y bencampwriaeth yn erbyn yr Alban, lle cafodd dros 50 o bwyntiau eu sgorio. Y sgôr terfynol oedd 51 - 3 gyda’r ceisiau’n llifo mewn gan Jamie Roberts (2), George North (2) a Liam Williams (1). Dan Biggar dderbyniodd y ddyletswydd o gicio'r wythnos hon gan fod Halfpenny wedi ei anafu o hyd. Bu Biggar yn llwyddiannus iawn a chiciodd 4 trosiad a 2 gic gosb. Gorffennodd Cymru’n 3ydd

yn y bencampwriaeth ond wedi chwarae bob un gêm gyda chalon ac angerdd. Iwerddon bu’n fuddugol eleni, a phrofwyd Brian O’Driscoll yn chwarae ei gêm olaf dros ei wlad. Er na gipiwyd unrhyw darian mae cyfle i ni'r cefnogwyr wneud yn siwr fod y tîm yn cael rhyw fath o wobr am eu hymdrech. Bydd chwaraewr y bencampwriaeth yn cael ei gyhoeddi ar Ddydd Gwener y 21ain o Fawrth: Yn rhedeg am y wobr o Gymru mae Taulupe Faletau a Sam Warburton.

Pob lwc i’r Undeb Athletau yn nhwrnament Varsity ddydd Sadwrn y 29ain Mawrth, ym Mhrifysgol Aberystwyth. ABER V BANGOR: 40 o chwaraeon, 1000 o fyfyrwyr, ac hyd yma mae’n 3-3.. Pwy aiff â hi eleni?

Carwen RichardsEleni, am yr ail flwyddyn yn olynol, cynhaliwyd digwyddi-adau yn dilyn teitl ‘FeBRAry’, sef ymgais y Brifysgol a’r Undeb Athletau yn benodol i godi ar-ian ac ymwybyddiaeth o Gancr y Fron, a hynny ym mis Chwe-fror. Gwerthwyd crysau â’r geir-iau ‘Save your jugs’ arnynt, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgu-bol. Cafwyd nos Fercher UA penodol ar gyfer yr achos, ar y deuddegfed o Chwefror, a hwn-

nw hefyd yn noson lwyddian-nus dros ben. Cynhaliwyd gêm rygbi cyffrous - Bechgyn rygbi’r undeb yn erbyn bechgyn rygbi’r gynghrair. Chwarae mewn bra a shorts oedd y nod, i godi ymwy-byddiaeth o’r clefyd unwaith yn rhagor. Bu trefniadau ar gyfer twrnamaint pêl-rwyd ar y 23ain hefyd, ond bu rhaid canslo ar fyr rybudd. Mae’r twrnamaint hwn-nw i’w gynnal ar Ddydd Sul olaf mis Mawrth.

FeBRAryYn ogystal â bod yn amddiffynnwr i dîm UMCB, mae Rhydian Owens hefyd yn chwarae i’w dim lleol, C.P.D Llangefni. Nos Wener, Mawrth 14, roedd Llangefni yn rownd derfynol y Dargie Cup yn erbyn C.P.D Morawelon (Caergybi) yn Stadiwm Bookpeople ym Mangor. Roedd y frwydyr yn andros o gyffrous ac roedd y dorf fawr yn creu awyrgylch gwych. Roedd Llangefni ar y blaen 2-0 erbyn hanner

amser, ond yn y deng munud olaf sgoriodd Morawelon ddwywaith i fynd â’r gêm i amser ychwanegol. Efo’r ddau dîm yn amlwg wedi blino, fe aeth y gêm i giciau o’r smotyn. O ganlyniad i’r rheiny enillodd Llangefni gyda’r sgôr terfynol yn 2-2, a Llangefni yn ennill 5-3 ar giciau o’r smotyn. Llongyfarchiadau mawr i Rhydian a gweddill y garfan o Langefni, a phob lwc i chi yn ngweddill y tymor!

Llongyfarchiadau

Page 32: Rhifyn y Gwanwyn 2014

32 ...Chwaraeon Y LLEF | Rhifyn y Gwanwyn 2014

...ChwaraeonCarwen Richards

Ar Ddydd Gwener, Chwefror 28, teithiodd bws o fyfyrwyr UMCB i Abertawe i gystadlu yng ngemau chwaraeon Rhyng-gol 2014. Yn hanner cyntaf y prynhawn, bu’r merched yn chwarae rygbi 7 bob ochr tra roedd y bechgyn yn curo ar y cae pêl-droed. Yn yr ail hanner, symud i’r cyrtiau pêl-rwyd a phêl-droed wnaeth y merched tra aeth y bechgyn ymlaen i chwarae rygbi 7 bob ochr. Yng ngharfan pêl-rwyd y merched a ddaeth yn 2il oedd: Anna Prysor, Heledd Angell, Ceri Hollywood, Chloe Evans, Carwen Richards, Einir Jones, Sera Jones. Yng ngharfan pêl-droed 5-bob-ochr y bechgyn oedd Gruffydd John, Tomos Jones, Dion Davies, Rhodri Williams, Aled Jones ac Einion Edwards, a gipiodd y wobr gyntaf! Enillwyr y drydedd wobr yng nghystadleuaeth rygbi’r bechgyn oedd Mac Jones, Einion, Tomos, Brychan ap Geraint, Rhodri, Aled Jones, Llion Jones ac Ynyr Jones. Y merched a fu’n chwarae rygbi oedd Einir Jones, Awen Mair, Nia Eleni, Carwen, Leusa Dwyfor, Heledd, Chloe a Mared Williams; ac yn chwarae pêl-droed oedd Rhiannon O’Marah, Leusa, Sioned Evans, Nia a Mared. Prifysgol Bangor oedd yr unig brifysgol i anfon tîm i bob cystadleuaeth. 2il oedd safle Bangor yn y tabl chwaraeon.

Cystadlu ar y Caeau

Tomos Jones

Cychwynnodd Cymru eu pencampwriaeth chwe gwlad eleni adref yn Stadiwm y Mileniwm, yn erbyn yr Eidal. Er bod y sialens hon erbyn hyn yn cael ei hadnabod fel un hawdd, gwahanol oedd y stori. Bu’r gêm yn brawf ar Gymru ac yn agoriad llygad o beth oedd o’n blaenau. 23 -15 i Gymru oedd y sgôr terfynol, gyda’r pwyntiau’n dod o droed dibynadwy Leigh Halfpenny a cheisiau Alex Cuthbert (1) a Scott Williams (1). Parhad ar dudalen 31

Y Chwe Gwlad: AdroddiadGethin Lewis Green

Fel nodwyd yn y rhifyn cynt, fe gafodd Clwb

Pel-Droed UMCB hanner cyntaf arbennig o dda i’r

tymor Ngynghrair Sul Môn a Gogledd Gwynedd.

Mae hi’n saff dweud bod pêl-droed sydyn a slic y

tîm, yn ogystal â’u gallu i ymosod yn gyson wedi

cael effaith trawiadol ar weddill y gynghrair. Parhad ar dudalen 30

Pêl-droed UMCBHoli:

RUTH(t.31)

Gethin Lewis Green

“It’s up for grabs!”, dyna oedd geiriau Chris Coleman ar ôl gweld grŵp Cymru i’r gemau rhagbrofol

ar gyfer Euro 2016 yn Ffrainc. Mae Cymru yng ngrŵp B sydd yn cynnwys Andorra, Cyprus, Israel, Bosnia Herzegovina a'r ffefrynnau, Gwlad Belg.

Parhad ar dudalen 30

Ewro 2016: Yno i Gymru ei gydio