36
DYSGU AM DDEMENTIA

DYSGU AM DDEMENTIA

  • Upload
    nishan

  • View
    85

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

DYSGU AM DDEMENTIA. AMCANION. Rhoi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i’r gofalwyr. Canlyniadau’r Dysgu. Byddwch yn deall beth yw ystyr y term dementia; yr achosion cyffredin; eu harwyddion a’u symptomau a ffactorau risg perthnasol; a’r hyn y mae pobl yn ei alw’n ddementia ar gam yn aml iawn - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: DYSGU AM DDEMENTIA

DYSGU AM DDEMENTIA

Page 2: DYSGU AM DDEMENTIA

AMCANION

Rhoi dealltwriaeth sylfaenol o ddementia i’r gofalwyr.

Page 3: DYSGU AM DDEMENTIA

Canlyniadau’r Dysgu

Byddwch yn deall beth yw ystyr y term dementia; yr achosion cyffredin; eu harwyddion a’u symptomau a ffactorau risg perthnasol; a’r hyn y mae pobl yn ei alw’n ddementia ar gam yn aml iawn

Byddwch yn gwybod beth yw’r gyfraith mewn perthynas â chefnogi pobl gyda dementia a’u gofalwyr

Byddwch yn deall sut y gallai gwahanol bobl ddioddef o ddementia oherwydd ffactorau megis oed, math a lefelau gallu ac anabledd

Page 4: DYSGU AM DDEMENTIA

Canlyniadau’r Dysgu

Byddwch yn deall sut y gallai’r amgylcheddau cymdeithasol a chorfforol alluogi pobl gyda dementia i gyflawni eu potensial a deall a rheoli risgiau

Byddwch yn deall y gwahanol ffyrdd o gwrdd ag anghenion cyfathrebu a blaenoriaethau pobl a hyrwyddo rhyngweithio positif

Byddwch yn ymwybodol o’r Modelau Meddygol a Chymdeithasol o ddementia

Byddwch yn deall rhai agweddau o’r gwasanaethau e.e. cynllunio sy’n canolbwyntio ar y person a sut i gyfranogi

Byddwch yn rheoli eich teimladau eich hun ac yn sicrhau cymorth a chyngor

Page 5: DYSGU AM DDEMENTIA

Beth yw Dementia?

Rydym yn defnyddio’r gair Dementia i ddisgrifio’r symptomau sy’n ymddangos pan fydd yr ymennydd yn cael ei effeithio gan glefydau a chyflyrau penodol. Mae dementia’n broblem raddol a thymor hir yn yr wybyddiaeth, ac mae’n broblem sy’n achosi i waith yr ymennydd fethu.

Mae dementia’n effeithio ar bobl ar wahanol gamau mewn bywyd, yn effeithio ar wahanol rannau o’r ymennydd ac yn digwydd yn gyflymach mewn rhai pobl nag eraill.

Page 6: DYSGU AM DDEMENTIA

Ffeithiau am ddementia

Mae 2/3 o’r bobl sydd â dementia yn ferched Mae 15,000 o’r rhain yn iau na 65 Ar hyn or byd, amcangyfrifir bod gan 700,000 o

bobl ryw fath o ddementia, sef 1/120 o bobl. Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd gan fwy na 34

miliwn o bobl ledled y byd ryw fath o ddementia erbyn y flwyddyn 2025. (ystadegau gan NICE)

Page 7: DYSGU AM DDEMENTIA

Beth allai gael ei gamgymryd fel dementia?

Nam sy’n ymwneud ag oedran Iselder Deliriwm Mathau eraill o salwch

Page 8: DYSGU AM DDEMENTIA

Rhai mathau cyffredin o ddementia

Clefyd Alzheimer Clefyd Parkinson gyda Dementia Dementia fasgwlar Dementia blaen-dalcennol (PICKS) Cyrff Lewy Syndrom Korsakoff

Page 9: DYSGU AM DDEMENTIA

Clefyd Alzheimer

Dyma’r math mwyaf cyffredin o Ddementia Mae clefyd Alzheimer yn newid strwythur yr

ymennydd, sy’n arwain at farwolaeth celloedd yn yr ymennydd ac mae hyn yn amharu ar weithgareddau arferol yr ymennydd.

Mae pobl gyda Chlefyd Alzheimer yn fyr o gemegau hefyd sy’n ymwneud â throsglwyddo negeseuon i’r ymennydd.

Page 10: DYSGU AM DDEMENTIA

Dementia Fasgwlar

Mae Dementia Fasgwlar yn ffurf gyffredin arall o ddementia a chaiff ei sbarduno gan rwystrau yn y gwythiennau (System Fasgwlar) yn yr ymennydd.

Does dim digon o waed ac ocsigen yn cyrraedd y celloedd nerfol felly maen nhw’n marw.

Enw’r mannau ym meinweoedd yr ymennydd sydd wedi marw yn y ffordd yma yw cnawdnychiadau, felly’r enw arall ar ddementia fasgwlar yw dementia amlgnawdychol.

Mae’n haws meddwl am ddementia fasgwlar fel cyfres o strociau sy’n codi o broblemau iechyd eraill, megis pwysedd gwaed uchel, TIA.

Page 11: DYSGU AM DDEMENTIA

Dementia blaen-dalcennol a PICKS

Mewn dementia blaen-dalcennol mae’r niwed wedi’i ganolbwyntio yn rhan flaen yr ymennydd.

Mae’r bersonoliaeth a’r ymddygiad yn cael eu heffeithio’n fwy na’r cof i ddechrau

Clefyd Pick’s yw’r enw am yr hyn a alwn erbyn hyn yn fath o Ddementia Blaen-dalcennol

Fel arfer, mae’n cychwyn rhwng 40 a 70 oed.

Page 12: DYSGU AM DDEMENTIA

Dementia gyda Chyrff Lewy

Mae Dementia gyda Chyrff Lewy yn ffurf gyffredin arall o ddementia a gall effeithio cymaint ag un ymhob deg o bobl sydd â dementia.

Mae Cyrff Lewy yn ymddangos yn y niwronau sy’n dirywio.

Pan fo cyrff Lewy ym mharthau dwfn yr ymennydd sy’n effeithio ar reoli symudiad, maent yn achosi Clefyd Parkinson.

Page 13: DYSGU AM DDEMENTIA

Syndrom Korsakoff

Mae syndrom Korsakoff yn anhwylder yn yr ymennydd sydd fel arfer yn gysylltiedig ag yfed trwm a chamdrin cyffuriau dros gyfnod hir o amser.

Er nad yw hwn yn Ddementia mewn gwirionedd, mae pobl gyda’r cyflwr yma’n methu cofio atgofion tymor byr ac, am nad yw’r person yn edrych ar ôl ei iechyd, gall hwn ddatblygu’n Ddementia Fasgwlar/Clefyd Alzheimer

Mae modd gwella’r math yma o ddementia, yn wahanol i’r mathau eraill sydd wedi bod dan sylw. I wneud diagnosis o hwn mae’n rhaid i’r person fod heb alcohol neu gyffuriau am 6 wythnos.

Page 14: DYSGU AM DDEMENTIA

Risgiau cysylltiedig

Ddim yn symud yn dda – yn golygu bod mwy o duedd i syrthio.

Yn methu barnu’n dda – gall hyn olygu eu bod yn gollwng eitemau, bod eu golwg yn ddrwg ac nad ydynt yn gallu adnabod eitemau.

Yn crwydro allan o’u cartrefi. Y person yn mynd yn gorfforol ymosodol.

Page 15: DYSGU AM DDEMENTIA

Sut allwn ni reoli’r risgiau?

Cynllunio ymlaen llaw

Adnabod y risgiau a sut i’w hosgoi nhw neu

eu lleihau nhw

Sicrhau cefnogaeth

Page 16: DYSGU AM DDEMENTIA

Y model meddygol a chymdeithasol o Ddementia.

Y model meddygol- mae hwn yn creu dibyniaeth, yn cyfyngu ar ddewis, yn dirymu, yn dibrisio, yn cryfhau stereoteipiau a gellir ei ystyried yn ormesol. Mae’r model meddygol yn canolbwyntio ar y nam fel y broblem ac yn canolbwyntio ar ei wella.

Model cymdeithasol – mae gan hwn ganolbwynt personol, mae’n canolbwyntio ar hawliau’r unigolyn, gan roi grym i’r unigolyn yn ei dro, hybu annibyniaeth, cynnig dewis ac edrych ar yr hyn y gall yr unigolyn ei wneud.

Page 17: DYSGU AM DDEMENTIA

Camau Dementia

Bydd profiad pawb o Ddementia’n wahanol, bydd yn datblygu’n araf mewn rhai pobl a gall eraill waethygu’n gyflym.

Mae’r model o gamau Dementia wedi’i seilio ar Glefyd Alzheimer am mai yma un o’r mathau mwyaf cyffredin o dan yr ymbarél dementia.

Page 18: DYSGU AM DDEMENTIA

Gweithgaredd

Meddyliwch am eich perthynas a cheisiwch enwi’r arwyddion/symptomau sydd ganddynt ac enwi’r camau y maen nhw arnynt.

Oes unrhyw newidiadau allai gael eu gwneud i’r gefnogaeth a gânt?

Page 19: DYSGU AM DDEMENTIA

Camau Dementia

Cynnar

Gallent ymddangos wedi drysu

ychydig

Efallai y byddent

angen rhywfaint o gefnogaethychwanegol

Newidiadau bach mewn

ymddygiad

Gallech gamgymryd y

salwch gan feio henaint neu

haint

Page 20: DYSGU AM DDEMENTIA

Camau Dementia

Y cam canol

Mae’r newidiadau’n fwy amlwg, gallent

fynd yn fwy anghofus

Bydd angen mwy o gefnogaeth gyda thasgau byw dyddiol

Ar y cam yma gall y bobl

fynd yn ofidus, blin ac ymosodol

yn hawdd iawn

Page 21: DYSGU AM DDEMENTIA

Camau Dementia

Hwyr

Ni fydd y person yn gallu gwneud

tasgau syml

Gallai’r person golli’r gallui gyfathrebu

Bydd yn effeithio ar eu gallu i symud, Gallai eu caethiwo

mewn gwely neu gadair olwyn

Page 22: DYSGU AM DDEMENTIA

Strategaethau dementia

Mae’r llywodraeth wedi llunio strategaeth 5 mlynedd genedlaethol o’r enw “Byw’n Dda gyda Dementia”. Mae’r strategaeth yma wedi’i seilio ar argymhellion gan ddau gorff sy’n gweithio gyda’r adran iechyd, sef y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol, a’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.

Page 23: DYSGU AM DDEMENTIA

Y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i bobl sy’n dioddef o ddementia a’u gofalwyr

Y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 Y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 DOLS (Trefniadau diogelu rhag colli rhyddid) Y Ddeddf Atwrneiaeth Barhaus 1985 Y Ddeddf Gofal Cymunedol 1990 Y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 Y Ddeddf Safonau Gofal 2000 Y Ddeddf Diogelu Data 1998 Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Y Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004

Page 24: DYSGU AM DDEMENTIA

Y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframwaith statudol i rymuso ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed sy’n methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae’n dangos yn glir pwy sy’n gallu gwneud penderfyniadau, ym mha sefyllfaoedd a sut y dylent wneud hyn.

Mae’n galluogi pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyfnod pan fyddent efallai wedi colli’r gallu.

Page 25: DYSGU AM DDEMENTIA

D.O.L.S.

Mae rhai pobl sydd naill ai yn yr ysbyty neu’n byw mewn cartrefi gofal yn methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain am nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud hynny.

O dan y ddeddf yma mae’n rhaid gwneud asesiad os oes rhywun yn colli eu rhyddid. Bydd asesydd annibynnol yn gwneud hyn a bydd yn asesu gallu’r person ac yn penderfynu a yw’r colli rhyddid yma er budd gorau’r person. Bydd amserlen ar gyfer adolygu hyn.

Mae’r gallu’n mynd a dod weithiau ac mae angen asesu’r unigolyn ar yr amser penodol hwnnw

Page 26: DYSGU AM DDEMENTIA

Cynlluniau gofal

Os yw eich perthynas yn derbyn gwasanaeth gan yr Adran Gofal Cymdeithasol, dylid llunio Cynllun Gofal. Dylai’r gofalwyr gymryd rhan ac isod mae cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun am hyn:-

Pa wybodaeth mae hi’n bwysig ei rhoi i ddarparwyr gwasanaeth i’w galluogi i gefnogi ein perthnasau’n gywir?

Pwy ddylai fod yn cyfranogi yn y cynllun gofal ar gyfer ein perthnasau?

Pam fo asesiadau risg yn bwysig i unigolion? Pam ei bod hi’n bwysig asesu gallu meddyliol?

Page 27: DYSGU AM DDEMENTIA

Sut allwn ni helpu?

Pa dasgau dyddiol allai’r perthnasau gyda dementia a gefnogwn eu cael yn anodd.

Meddyliwch am y gefnogaeth y byddent ei hangen ar gyfer pob un a’r cymhorthion y gallwch eu defnyddio i’w galluogi i gadw rhywfaint o’u hannibyniaeth.

Page 28: DYSGU AM DDEMENTIA

Teulu ac eraill

Bydd cefnogi aelodau’r teulu ac eraill, megis ffrindiau, i ddeall Dementia a’r arwyddion/symptomau yn eu paratoi ac hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o’r math o gefnogaeth y mae gwasanaethau’n eu rhoi i’w perthnasau.

Dylai gofalwyr/teulu/eraill fod yn ymwybodol hefyd o’u hawliau a’r gefnogaeth y gallent gael gafael arni.

Page 29: DYSGU AM DDEMENTIA

Cyfathrebu – rhai cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun

Pa mor bwysig yw cyfathrebu? Ydych chi’n teimlo ein bod yn cyfathrebu’n

effeithiol gyda’r berthynas a gefnogwn? Pa ddulliau o gyfathrebu ydyn ni’n eu

defnyddio? A yw ein perthnasau’n cael y cyfle i

gyfathrebu eu hanghenion a’u dewisiadau?

Page 30: DYSGU AM DDEMENTIA

Lleihau Gofid

Dydy hi ddim bob amser yn amlwg beth yw’r rhesymau am y gwahanol ymatebion ac ymddygiad a geir gan bobl sy’n dioddef o ddementia. Efallai eu bod yn ymwneud yn rhannol â datblygiad y dementia ac yn rhannol oherwydd gofid.

Er mwyn i ni leihau gofid, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cydnabod ei fod yn bodoli.

Page 31: DYSGU AM DDEMENTIA

Dyletswydd Gofal: Y Cod Ymarfer

Mae staff Gofal Cymdeithasol wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal y Llywodraeth ac maent wedi’u cyfyngu gan ei God Ymarfer. Mae’n rhaid iddynt:-

amddiffyn hawliau, hybu dewis a sicrhau fod dewisiadau’r unigolyn yn cael parch.

ennill a chynnal ymddiriedaeth unigolion i gynnal perthnasoedd gwaith.

cadw unigolion yn ddiogel rhag niwed.

Page 32: DYSGU AM DDEMENTIA

Dyletswydd Gofal: Cod Ymarfer

Mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol helpu unigolion i fod yn annibynnol a chymryd risgiau mewn ffordd ddiogel.

Mae’n rhaid i weithwyr gofal cymdeithasol wneud y gorau gallent i sicrhau bod unigolion yn derbyn cefnogaeth yn y ffordd orau bosib ac i’r safon uchaf sydd wedi’i nodi yn y cod ymarfer.

Page 33: DYSGU AM DDEMENTIA

Yr Ymennydd

Mae gan yr ymennydd nifer o rannau, a chan bob un ei bwrpas eu hun.

Gall yr ymennydd ddirywio ar wahanol amseroedd, ar wahanol gyflymder a bydd pob unigolyn yn colli rhywfaint o reolaeth ar y rhannau yma.

Page 34: DYSGU AM DDEMENTIA

3 prif ddarn yr Ymennydd

Y llabedau blaen yw ein rheolydd, gall niwed i’r llabedau blaen arwain at sefyllfa lle nad yw’r unigolyn yn ymwybodol bellach o’r ymddygiad y mae eraill yn eu hystyried yn anaddas.

Bydd niwed i’r llabedau parwydol oherwydd Dementia yn achosi i’r unigolyn gael anhawster gydag iaith, eu golwg neu gyda gwybod beth yw pwrpas pethau.

Page 35: DYSGU AM DDEMENTIA

3 prif ddarn yr Ymennydd

Llanedau’r arlais – mae niwed i’r rhan hwn o’r ymennydd yn achosi i’r unigolyn gael problemau gyda’r cof tymor byr ac, mewn amser, gallai’r atgofion tymor hir bylu hefyd wrth i’r niwed gynyddu ymhellach i ranbarthau dyfnach yr ymennydd

Page 36: DYSGU AM DDEMENTIA

Pedwar rhan

Chwith basal- prosesu, arferion a chofio

Dde basal – greddf, empathi a rhythm

Chwith blaen- rhesymeg a chanlyniadau

Dde blaen- golwg a chreadigedd