89
FFEIL ADNODDAU THERAPI LLEFERYDD AC IAITH

FFEIL ADNODDAU THERAPI LLEFERYDD AC IAITH...tegan. Bydd y plentyn yn cynnwys person arall, hefyd er enghraifft brwsio gwallt ei fam. Gall ddefnyddio pethau gyda doli neu dedi, er enghraifft

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • FFEIL ADNODDAU

    THERAPI LLEFERYDD

    AC IAITH

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 2

    Cynnwys

    RHAGARWEINIAD Cyflwyniad 4 Dysgu Siarad 5 Cyfathrebu Swyddogaethol 6 Datblygu Chwarae 7 Annog Sgiliau Chwarae 9 Y CYFATHREBWYR CYNNAR Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cynnar 11 Cyd-sylwi – Strategaethau Cyffredinol 14 Sylwi a Gwrando - Strategaethau Cyffredinol 16 Sylwi a Gwrando – Syniadau am Weithgareddau 18 Sylwi a Gwrando – Gweithgareddau Grŵp 20 Datblygu Achos ac Effaith 22 Cymryd Tro – Strategaethau Cyffredinol 23 Dealltwriaeth Weledol 24 Amserlenni Gweledol 25 Datblygu Sgiliau Dewis 27 Dynwared Synau 28 Pwyntio 30 Creu Cyfle i Gyfathrebu 31 Dal Llygaid – Strategaethau Cyffredinol 33 Dynwared Symudiadau 34 Defnyddio Eitemau Cyfeirio 36 Y GEIRIAU CYNTAF Datblygu Geiriau Proto 38 Annog y Geiriau Cyntaf 39 Rhannau’r Corff 40 Gweithgareddau i Annog y Geiriau Cyntaf 41 Berfau 44 Dilyn Cyfarwyddiadau (Lefel 1 Gair) 45 CYFUNO GEIRIAU Annog cyfuniadau o ddau air 47 Mawr a Bach 48 Arddodiaid 49 CYNLLUNIAU AR GYFER SESIYNAU Cynlluniau Chwarae Unigol i Hybu Cyfathrebu 51 Y Camau Cyfathrebu Cyntaf 53 Sampl o Gynlluniau ar gyfer Sesiynau – Y Cyfathrebydd Cyntaf 54 Sampl o Gynlluniau ar gyfer Sesiynau – Y Geiriau a’r Arwyddion Cyntaf 58 Sampl o Gynlluniau ar gyfer Sesiynau – Adeiladu Geirfa a Dealltwriaeth 61 CYNLLUNIAU YCHWANEGOL AR GYFER SESIYNAU Cynlluniau Sgiliau Sylfaenol 1-5 Adran I 65 Cynlluniau Geiriau Targed 6-10 Adran II 75 Cynllun Anghenion Cymhleth 11 Adran III 85

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 3

    RRHHAAGGAARRWWEEIINNIIAADD

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 4

    Cyflwyniad

    Lluniwyd y Ffeil Adnoddau Therapi Lleferydd ac Iaith ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant yn rheolaidd, megis staff meithrin, staff cylchoedd chwarae, ymwelwyr iechyd ac ati. Diben y ffeil yw rhoi cyngor ac awgrymu gweithgareddau i hybu sgiliau yn y cyfnod cyn i blant ddechrau siarad a hybu sgiliau ieithyddol cynnar. Y rheswm dros greu’r ffeil oedd rhoi gwybodaeth ychwanegol am gyfathrebu i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant, ac i awgrymu gweithgareddau priodol. Rhannwyd y ffeil yn adrannau yn ôl lefel sgiliau cyfathrebu’r plant. Dechreuir gyda’r cyfnod cyn llafar hyd at gyfathrebu gyda dau air. Ym mhob adran, mae cyfuniad o strategaethau i hybu cyfathrebu, a gweithgareddau penodol i’w defnyddio gyda phlant unigol. Mae ymyrraeth gynnar yn seiliedig ar yr ethos fod plant yn dysgu drwy chwarae, a chaiff hyn ei gynorthwyo’n fawr wrth iddynt fod yng nghwmni oedolyn sy’n esiampl o gyfathrebu da. Yn y Ffeil Adnoddau Therapi Lleferydd ac Iaith mae amryw o strategaethau i hybu’r elfennau sy’n sail i sgiliau cyfathrebu o fewn trefn ddyddiol lleoliad gofal y plentyn. Cofiwch ymlacio a CHAEL HWYL oherwydd dyna’r ffordd orau i ni oll ddysgu. Awduron y Ffeil Adnoddau Therapi Lleferydd ac Iaith yw Clare Price, Emily Evans a Suzy Brown,Therapyddion Lleferydd ac Iaith Cychwyn Cadarn Sir Gaerfyrddin. Mae’n rhan o’n pecyn ymyrraeth gynnar ar gyfer rhoi gwybodaeth i weithwyr gofal plant a rhoi’r cyfle gorau posibl i blant ddysgu iaith a datblygu sgiliau bywyd.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 5

    Dysgu Siarad Mae babi yn dechrau dysgu siarad yn union wedi iddo gael ei eni, ond nid yw, o reidrwydd, yn beth rhwydd. Mae’r broses yn cynnwys: � Gwrando � Deall � Meddwl � Eisiau siarad a’r angen i siarad � Cyd-symud cyhyrau Bydd plant yn dysgu siarad ar wahanol oedrannau. Bydd rhai yn dweud eu gair cyntaf yn flwydd oed, tra bydd eraill dros ddwy flwydd oed. Ond ar y cyfan, bydd y rhan fwyaf o blant wedi dechrau siarad erbyn iddynt gyrraedd 18 mis oed. Mae angen i blant gael eu hannog i siarad gymaint ag y maen nhw’n cael eu hannog i gerdded. Fel y gallan nhw ddysgu siarad, mae angen i blant glywed pobl yn siarad, ac mae angen i bobl siarad gyda nhw. Mae’n bosibl y bydd y geiriau cyntaf yn aneglur. Mae hynny’n berffaith normal. Mae’n bwysig bod yn amyneddgar a rhoi digon o gyfleoedd i blentyn siarad. Cyngor: 1. Siaradwch â’r plentyn pan fyddwch yn chwarae gyda’ch gilydd. Anogwch y plentyn i

    chwarae a dilynwch ei arweiniad ond peidiwch â chymryd drosodd. 2. Canwch hwiangerddi a chaneuon actol. Dyma ffordd dda o ymarfer seiniau llafar heb

    roi pwysau ar y plentyn. Bydd hefyd yn eu gwneud yn fwy ymwybodol o iaith. 3. Anogwch y plentyn i wrando ar wahanol seiniau ee, awyrennau, anifeiliaid,

    synau bob dydd. Gwnewch gêm o ddynwared y seiniau. 4. Gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn canolbwyntio arnoch chi pan fyddwch

    yn siarad gyda’ch gilydd. 5. Diffoddwch y teledu rhag iddo darfu arnoch. 6. Anogwch y plentyn i gyfathrebu mewn unrhyw ffordd bosibl er enghraifft,

    yn llafar, drwy luniau, arwyddion, ystumiau ac ati 7. Mae ystumiau’n help i gryfhau’r cysylltiad rhwng geiriau a’u hystyron ac yn helpu i’r

    plentyn i gofio’r gair. 8. Rhowch ddewisiadau i’r plentyn i helpu i ehangu eu geirfa a’r angen i fynegi eu dewis. 9. Siaradwch am weithgareddau wrth iddyn nhw ddigwydd, er enghraifft yn y bath. 10. Cynhwyswch y plentyn mewn gweithgareddau diddorol fel bod ganddyn nhw destun

    siarad, ee tro i’r parc. 11. Rhowch gyfle i’r plentyn orffen yr hyn y mae’n ceisio’i ddweud a gwrandewch yn

    ofalus. Peidiwch â rhagweld ei anghenion a chymrwch eich tro i siarad. 12. Rhowch gyfle i’r plentyn siarad gyda chyfoedion ac oedolion cyfarwydd. Gallai hyn

    helpu drwy roi esiamplau da a modelau iaith iddo. 13. Ychwanegwch eiriau at gynigion y plentyn, ee ‘pêl’ � ‘taflu pêl’, ‘pêl wedi mynd’. 14. Os bydd y plentyn yn dweud rhywbeth yn anghywir, atebwch y plentyn drwy

    ddefnyddio’r gair yn y ffordd gywir, ee ‘basgeti’, ‘ie, sbageti’. Peidiwch â mynnu fod y plentyn yn dweud ‘sbageti’ neu’n ailadrodd geiriau. Gallai hyn greu agwedd negyddol tuag at siarad.

    15. Trefnwch amser i’w dreulio gyda’r plentyn bob dydd i chwarae gyda’ch gilydd ac i edrych ar lyfrau.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 6

    Cyfathrebu Swyddogaethol

    Mae angen dull o gyfathrebu ar blant, rheswm dros gyfathrebu a’r cyfle i gyfathrebu. Mae’n bwysig myfyrio ar yr holl feysydd cyfathrebu hyn. DULL RHESWM

    Lleferydd Bod yn llafarog Arwyddion Geiriau ysg. Symbolau Pethau i gyfeirio Yr wyneb Dal llygad Ystum Symud.corff Cyffyrddiad Corfforol Ymddygiad Ystum y corff Sut?

    Pam?

    CYFLE

    Pryd? Ble?

    Gyda phwy? Llyfryddiaeth: Money, D. (1997) A comparison of three approaches to delivering a speech and language therapy service to people with learning disability, European Journal of Disorders of Communication, 32 (4), p449-466.

    Anghenion sylfaenol – gofyn am/gwrthod rhywbeth, mynegi

    teimladau, tynnu sylw, am i rywbeth ddigwydd neu beidio â

    digwydd, rhoi a derbyn gwybodaeth, gwneud

    perthnasau a’u cynnal, y pleser o sgwrsio, cymdeithasu.

    Amser a lle, dewisiadau/opsiynau go-iawn, pobl ymatebol ac

    amgylchedd, iaith a diddordebau cyffredin.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 7

    Datblygu Chwarae Mae datblygiad chwarae plentyn yn dilyn llwybr penodol, ac mae iddo gysylltiad agos â datblygiad iaith. Yn y bôn systemau o symbolau yw lleferydd ac iaith. Caiff seiniau eu rhoi at ei gilydd i greu geiriau, ac mae ystyr i’r geiriau hynny. Rhaid dysgu’r cysylltiad rhwng y gair a’r ystyr, oherwydd nid yw’r gair ar ei ben ei hun yn golygu dim. Er mwyn i blentyn ddysgu iaith, rhaid iddo ddod i ddeall beth yw symbol pethau, hynny yw beth yw eu hystyr, ac mae’r pethau hynny’n mynd yn fwy cymhleth a mympwyol o hyd. Bydd plentyn yn dysgu ystyr symbolau drwy chwarae. Chwarae Archwiliadol a Chysylltiadol 1. Edrych ar degan 2. Ymestyn am deganau, cydio ynddynt, eu hysgwyd Chwarae 3. Rhoi teganau yn eu ceg archwiliadol 4. Trin teganau, teimlo a rhwbio 5. Gwasgu, ymestyn, taflu teganau neu eu gadael i ddisgyn Pan fydd plentyn yn medru cynnal diddordeb mewn 2 degan yr un pryd, daw gweithgareddau eraill i’r amlwg 6. Bwrw teganau yn erbyn ei gilydd Chwarae 7. Rhoi un tegan ar ben y llall cysylltiadol 8. Rhoi un tegan y tu fewn i’r llall Chwarae Cynrychiadol Swyddogaethol Defnyddir pethau neu deganau yn ystyrlon, er enghraifft brwsio’i wallt ei hun gyda brws tegan. Bydd y plentyn yn cynnwys person arall, hefyd er enghraifft brwsio gwallt ei fam. Gall ddefnyddio pethau gyda doli neu dedi, er enghraifft brwsio gwallt doli. Wrth i’r plentyn ddatblygu, gellir cyfuno’r gweithgareddau mewn dilyniannau chwaraeon. Chwarae Symbolaidd Nid yw’r plentyn yn defnyddio pethau at y diben priodol er enghraifft, gwneud teisen o dywod a’i phobi. Chwarae symbolaidd yw hwn. Fel iaith, mae chwarae sy’n ymwneud ag esgus yn cynnwys defnyddio symbolau. Dyna pam y caiff ei alw’n chwarae symbolaidd. Wrth esgus rhywbeth bydd y plentyn yn defnyddio pethau fel symbolau i gynrychioli pethau eraill er enghraifft, esgus mai car yw bocs esgidiau. Tybir fod y gallu i ddefnyddio pethau’n symbolaidd ac i fod yn rhywbeth arall yn rhan bwysig o ddatblygiad gwybyddol ac ieithyddol y plentyn. Mae’r plentyn yn deall fod un llun neu wrthrych yn medru cynrychioli un arall, yn union fel y mae’r gair llafar yn cynrychioli gwrthrych. Fel rheol mae plant nad ydyn nhw’n gallu defnyddio symbolau’n dda iawn (fel plant gydag oedi datblygiadol) yn hwyrach yn datblygu iaith a chwarae.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 8

    Wrth chwarae bydd y plentyn dechrau creu dilyniant ac yn aml iawn bydd yn gwneud yr un peth drosodd a throsodd, er enghraifft, plentyn sy’n esgus bod yn athro. Chwarae Cymdeithasol Gydag oedolion y bydd sgiliau chwarae cymdeithasol yn datblygu gyntaf, ac yna gyda phlant. � Chwarae gydag oedolion

    - Bydd chwarae cymdeithasol cynnar yn digwydd drwy ddynwared gweithgareddau a seiniau oedolion.

    - Mae gemau fel ‘pat-a-cake’ a ‘bi-po’ yn enghreifftiau o gemau cymdeithasol cynnar.

    - Yn ddiweddarach bydd plant yn edrych ar lyfrau lluniau gydag oedolion ac yn dechrau rhoi cynnig ar gymryd eu tro.

    - Bydd plant yn dechrau dynwared y pethau fydd oedolion yn eu gwneud gyda theganau, er enghraifft gwthio car yn ei flaen a dweud ‘brym brym’.

    � Chwarae gyda Phlant

    - I ddechrau bydd plant yn chwarae ochr yn ochr â phlant eraill yn hytrach na gyda nhw. Yn aml iawn, byddan nhw’n chwarae gemau gwahanol.

    - Bydd gweithgareddau grŵp, er enghraifft amser stori yn y cylch meithrin, yn annog plant i ddynwared yr hyn y mae eu cyfoedion yn eu gwneud.

    - Mae gweithgareddau sy’n annog plant i gymryd eu tro yn dda ac yn sicrhau fod plant yn chwarae gyda’u cyfoedion yn yr un gêm. Chwarae cydweithredol yw hynny.

    - Mewn chwarae cymdeithasol, bydd plant yn dysgu dilyn rheolau syml wrth chwarae.

    Chwarae yw’r dull pwysicaf i ddysgu plant i gyfathrebu a dod ymlaen gydag eraill. Ceisiwch dreulio peth amser yn chwarae gyda’r plentyn mewn man tawel heb ormod o bethau i darfu arnoch. Mae chwarae gyda chyfoedion hefyd yn ffordd bwysig o ddatblygu plant.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 9

    Annog Sgiliau Chwarae

    Mae chwarae yn allweddol wrth ddatblygu iaith ac ymwneud ag eraill yn gymdeithasol. Gweler yr adran ar ‘ddatblygu chwarae’ am wybodaeth am y camau chwarae canlynol. Gweler isod rai syniadau i annog sgiliau ar bob cam. Chwarae Archwiliadol: � Profiadau chwarae synhwyraidd megis cyffwrdd â gwahanol weadau. Gallech seilio

    hyn ar thema benodol, er enghraifft yn yr hydref gallech annog y plant i deimlo dail crin, neu’r rhisgl cras ar y coed. Gallai chwarae synhwyraidd gynnwys blasu, arogli a chyffwrdd.

    � Defnyddiwch nifer o deganau cyffrous, fel teganau sy’n goleuo neu sy’n gwneud synau. Mae teganau neu lyfrau sydd â gwahanol weadau neu rannau gwahanol i’[w pwyso yn ardderchog i blant eu harchwilio.

    � Peidiwch â phoeni os bydd plant yn rhoi pethau (diogel) yn eu ceg. Dyma sut mae plant yn archwilio’u byd ac maen nhw’n cael llawer o symbyliad drwy roi pethau yn eu ceg.

    � Yn y cyfnod hwn bydd plant yn dechrau gwneud cysylltiad rhwng gwahanol deganau. Gellir annog hyn ee drwy daro blociau yn erbyn ei gilydd, rhoi pethau mewn bocsys, neu dynnu pethau allan o bethau eraill.

    Chwarae Cynrychiadol Swyddogaethol: � Pan fydd plant wedi dysgu swyddogaeth pethau go-iawn, byddan nhw’n dysgu bod yn

    fwy creadigol a chwarae gyda theganau cynrychiadol, hynny yw teganau sy’n cynrychioli pethau go-iawn.

    � Defnyddiwch deganau sy’n cynrychioli pethau go-iawn ac anogwch y plentyn i’w defnyddio arnyn nhw’u hunain neu mewn perthynas â’i gilydd, ee cyfarpar cegin degan, offer tegan, bwyd tegan ac ati

    � Lluniwch ‘sefyllfa chwarae’, ee tedi a dillad tegan. Ceisiwch ddilyn arweiniad y plentyn ond gallwch hefyd ddangos iddo sut mae defnyddio gwahanol bethau gyda’i gilydd.

    � Dyma rai syniadau eraill: doli a thedi yn cael te parti, teganau sy’n gysylltiedig ag ysbyty a ‘tedi’r doctor’, teganau cegin a doli, pethau sy’n ymwneud â’r ysgol a ffigur o athro/athrawes.

    � Pan fydd y plentyn yn dechrau gweld cysylltiad priodol rhwng yr eitemau, gallwch eu hannog i ddechrau dilyniannau chwarae, ee esgus arllwys llaeth i gwpan tegan, yna arllwys te o depot, a’i droi gyda llwy. Syniad arall fyddai ymolchi a gwisgo doli neu gasglu eitemau mewn basged siopa ac esgus talu.

    Chwarae Symbolaidd: � Yn y cyfnod hwn, bydd y plentyn yn dechrau chwarae’n fwy creadigol, ee esgus fod y

    pethau y mae'n chwarae gyda nhw yn real. � Gellir defnyddio pentwr o focsys cardfwrdd fel tŷ, bws neu siop. � Gellir defnyddio amryw o ddeunyddiau i wisgo fyny, ac i chwarae cymeriadau. � Gall llinell o gadeiriau fod yn drên gyda theithwyr yn esgyn iddo a disgyn oddi arno. � Bydd cornel o’r cartref neu siop fach yn helpu plant i chwarae’n symbolaidd. � Gwnewch fasgiau o anifeiliaid i’r plant i’w helpu i chwarae rôl.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 10

    YY CCYYFFAATTHHRREEBBWWYYRR

    CCYYNNNNAARR –– SSGGIILLIIAAUU

    AALLLLWWEEDDDDOOLL

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 11

    Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cynnar 1. Anogwch blant i fod yn llafar a dangoswch eich b od yn gwrando

    � Ailadroddwch synau’r plentyn a’r hyn mae’n ei wneud � Rhowch ystyr i synau, ee os bydd plentyn yn dweud ‘ah’ ac yn codi’i

    freichiau, rhowch ystyr i hynny a dywedwch ‘lan’, ‘ti am fynd lan?’ ‘lan â ni’. Does dim ots bod ‘ah’ ddim yn air go-iawn. Drwy roi iddo eich ystyr eich hun, mae’n annog geiriau yn y dyfodol.

    2. Anogwch blentyn i ddynwared, sy’n sgil bwysig ar gyfer dysgu iaith

    � I ddechrau dynwaredwch yr hyn mae’r plentyn yn ei wneud a’r synau mae’n eu gwneud. Y ffordd orau o wneud hyn yw wyneb yn wyneb, ar yr un lefel, ee ar y llawr.

    � Mae caneuon a rhigymau yn annog plant i ddynwared, ee clapio dwylo, ‘i, ai, i, ai

    o’. � Defnyddiwch synau syml wrth chwarae, ee ‘ww’ – swigod ‘mm’ – bwyta ‘ah’ – cofleidio doli Cofiwch fod plant yn dysgu drwy ailadrodd pethau a’ch bod chi’n fwy tebygol o ddiflasu cyn y gwnân nhw.

    3. Dysgu Cymryd eu Tro

    � Cymrwch dro i godi tyrau o flociau, gan ddweud ‘fy nhro i’, ‘dy dro di’, fel eich bod chi’n sefydlu trefn.

    � Postiwch deganau neu luniau mewn bocs. � Cymrwch eich tro os bydd y plentyn yn gwneud sŵn drwy ddynwared.

    4. Anogwch symudiadau gyda’r geg a chwythu

    � Gwnewch synau fel clicio’r tafod, smacio gwefusau, cusanu, ac ati. � Dysgwch y plentyn i chwythu, ee chwythu swigod yn y bath,

    gwneud swigod, chwythu paent ar bapur, chwythu plu oddi ar y dwylo ac ati.

    � Diddyfnwch y plentyn oddi ar ddymi cyn gynted â phosibl ac anogwch arferion

    bwydo da fel yfed o gwpan a chnoi bwyd.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 12

    5. Gwnewch eich llais yn ddiddorol a gwnewch ystumi au eithafol gyda’ch wyneb a’ch dwylo

    � Ceisiwch drefnu amser tawel heb sŵn yn y cefndir fel y gall y plentyn wrando arnoch chi heb i bethau eraill dynnu ei sylw.

    � Mae rhythm a thonau naturiol i rigymau a hwiangerddi. Ceisiwch eu canu’n araf a

    phan fydd y plant yn gyfarwydd â’r gân, anogwch nhw i gymryd rhan, ee cynnwys saib i annog y plant i wneud sŵn neu ystum.

    � � Anogwch y plant i symud gyda’r gân ee, yr olwynion ar y bws. � Defnyddiwch leisiau gwahanol, ee tawel, uchel, wrth ddarllen. Addaswch y llyfrau

    i lefel y plentyn oherwydd byddan nhw’n diflasu os bydd y llyfr yn rhy anodd. 6. Datblygu cysyniadau

    � Cysondeb gwrthrychau Ystyr hyn yw’r syniad mai cwpan yw cwpan p’un a yw’n wyrdd, yn las, gartref neu mewn caffi.

    � Parhad gwrthrychau

    Ystyr hyn yw’r syniad fod person neu wrthrych yn dal i fod er nad oes modd ei weld bellach, ee tegan sydd wedi disgyn o’r gadair uchel.

    � Hunaniaeth gwrthrychau

    Dyma syniad fod enw ar bob gwrthrych, a bod modd ei adnabod pan gaiff ei enwi. Bydd plentyn yn dysgu cysylltu geiriau â gwrthrychau neu ddigwyddiadau cyfarwydd.

    � Cysyniadau perthynol

    Mae rhai cysyniadau cynnar yn cynnwys: mae pethau yma (yma), mae pethau wedi diflannu (mynd), ac mae pethau’n dod nôl (nôl)

    � Achos ac effaith

    Dyma’r ddealltwriaeth y bydd rhywbeth yn digwydd yn rheolaidd yn ôl beth a wneir ee pwyso botwm, daw golau ymlaen.

    Gellir gweithio ar bob un o’r cysyniadau uchod mewn sefyllfaoedd chwarae: � Gemau trefnu lle byddwch chi’n rhoi trefn ar ddau beth gwahanol ee cwpan/llwy,

    ceir/pobl. � Cuddiwch rannau o deganau diddorol neu eitemau o fwyd o dan liain. All y

    plentyn ddatgelu’r tegan? Cuddiwch y tegan gyda nifer o bethau gwahanol, ee bocsys, lliain gwahanol, dwylo, cynwysyddion caeedig ac ati. Gadewch i’r plentyn ddod o hyd i’r eitemau.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 13

    � Enwch wrthrychau, anifeiliaid, pobl mewn bywyd pob dydd. � Gemau postio, gemau cuddio ac ailadrodd y geiriau ‘nôl’, ‘mynd’, ‘yma’ ac ‘yna’ yn

    aml. � Defnyddiwch deganau sy’n gwneud rhywbeth ee jac yn y bocs, ceir gwthio i lawr,

    pethau sy’n gwneud sŵn ac ati.

    7. Datblygu Sgiliau Gwrando a Chanolbwyntio

    � Fel arfer, nid yw plant bach yn medru rhoi sylw i rywbeth am gyfnod hir ond mae hyn yn datblygu wrth i’r plentyn dyfu ac mae’n sail hanfodol i ddatblygiad iaith.

    � Gwnewch gysylltiad rhwng synau amgylcheddol â’u ffynhonnell ee

    ‘gwranda, dŵr’, ‘ffôn’ ac ati. � Gwnewch bethau i’w hysgwyd sydd â sŵn gwahanol ee reis, tywod, pasta, cnau

    coco. Amrywiwch rhwng tawel a swnllyd a gwnewch gysylltiad rhwng synau sydd yr un peth.

    � Anogwch y plentyn i adnabod ei enw pan gaiff ei alw. � Chwaraewch gemau fel un, dau, tri er mwyn i’r plentyn orfod aros ychydig cyn y

    bydd gweithgarwch diddorol yn cychwyn.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 14

    Cyd-sylwi – Strategaethau Cyffredinol Byddwch chi’n cyd-sylwi pan fyddwch chi a’r plentyn yn canolbwyntio ar yr un peth. Efallai na fydd llawer o siarad ond mae dal llygaid eich gilydd yn bwysig ee chwythu swigod gyda’ch gilydd, edrych ar lyfr, chwarae gyda theganau. Mae cyd-sylwi yn bwysig i ddatblygu rhyngweithiad cymdeithasol ac i ddatblygu iaith oherwydd caiff iaith ei dysgu yng nghyd-destun rhannu gwybodaeth. Pan fydd y plentyn wedi cael eich sylw bydd rhyngweithiad cymdeithasol ac iaith yn dechrau gyda’i gilydd. Mae’n bosibl na fydd plentyn sy’n hunanfodlon ac yn hapus i chwarae wrtho’i hun yn datblygu sgiliau cyd-sylwi ac ni fydd felly’n creu cyfleoedd i ddysgu iaith. Mae ar y plentyn hwn angen ein cyfraniad ymarferol ni i ddechrau rhyngweithio’n gymdeithasol ac i gyd-sylwi. Pan fydd y plentyn wedi dechrau cyd-sylwi ac yn gadael i chi rhyngweithio gydag ef, bydd yn dangos diddordeb yn yr hyn rydych chi’n ei wneud. 1. Rhowch ganmoliaeth a sylw uniongyrchol i’r hyn a wna’r plentyn ar y pryd.

    2. Gwnewch eich presenoldeb yn amlwg ac yn ddiddorol. Gwnewch bethau i chi’n hun y gallai ennyn diddordeb y plentyn. Dewch â’r hyn rydych chi’n ei wneud yn nes ato a thynnwch ei sylw.

    3. Pan fyddwch yn mynd am dro, dangoswch bethau i’r plentyn yn enwedig os gallwch eu cyffwrdd. Dangoswch un peth ar y tro a chadwch eich iaith yn syml a defnyddiwch ddulliau ychwanegol o gyfathrebu ee iaith y corff ac ystumiau fel pwyntio.

    4. Os yw’r plentyn yn dal tegan ac yn sefyll gyferbyn â chi, gallwch ymddwyn fel petai’n

    dangos y tegan i CHI. Dangoswch ddiddordeb a siaradwch am y tegan cyn ei roi’r ôl.

    5. Ceisiwch ddilyn arweiniad y plentyn hyd y gallwch, a chymrwch ddiddordeb yn yr hyn sy’n eu diddori nhw.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 15

    6. Os gwelwch fod y plentyn yn canolbwyntio ar rywbeth, dangoswch ddiddordeb a brwdfrydedd. Gadewch iddo wybod eich bod yn ceisio rhannu rhywbeth gydag ef.

    7. Defnyddiwch lyfrau ee llyfrau gyda fflapiau. Dangoswch i’r plentyn fod gennych

    ddiddordeb yn y llyfr, siaradwch am yr hyn y gallwch chi’ch dau ei weld. Arhoswch i weld a fydd y plentyn y pwyntio at rai o’r lluniau hefyd.

    8. Pwyntiwch at bethau i annog y plentyn i ganolbwyntio ar yr un peth â chi. 9. Anogwch y plentyn i ddangos i chi/eraill pan fydd wedi gorffen rhywbeth.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 16

    Sylwi a Gwrando – Strategaethau Cyffredinol

    1. Cadwch unrhyw beth all darfu arnoch chi i’r lleiafswm.

    Diffoddwch y teledu a’r radio a dewiswch adeg dawel pan fyddwch chi’n debygol o gael sylw llawn eich plentyn.

    2. Da o beth fyddai i chi weithio wrth ford mewn cadair sy’n llesol

    i’ch cefn a’ch traed ar y llawr. Bydd angen byrddau a chadeiriau llai ar blant bach.

    3. I ddechrau, mae’n bosibl y bydd y plentyn yn anfodlon

    eistedd ar gadair neu hyd yn oed yn gwrthod gwneud hynny. Os felly bydd rhaid i chi ei gynnal yn dyner (ond yn gadarn) yn y gadair a’i helpu i gwblhau’r gweithgarwch cyn ei ganmol a gadael iddo godi.

    4. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod bob amser beth

    fyddwch chi’n ei wneud ym mhob sesiwn a gofalwch fod y teganau sydd arnoch eu hangen wrth law fel na fydd rhaid i chi godi i fynd i chwilio am rywbeth, neu chwilota am ddarnau o degan penodol. Bydd y plentyn yn diflasu’n gyflym ac yn colli diddordeb os bydd rhaid iddo aros i chi gael trefn ar bethau!

    5. Ar ddechrau’r sesiwn dywedwch wrth y plentyn eich bod yn mynd i chwarae ac

    anogwch y plentyn i ddod i eistedd wrth y ford. Cofiwch ddechrau bob amser gyda gweithgarwch cyffrous yr ydych chi’n gwybod fydd yn ysgogi’r plentyn.

    6. Ceisiwch ddefnyddio teganau/chwarae gemau sydd â dechrau a diwedd pendant ee

    pos, postio nifer benodol o gardiau fel y gall y plentyn weld am ba hyd y mae disgwyl iddo gymryd rhan. Os bydd yn dechrau colli diddordeb dangoswch iddo ee faint o ddarnau o’r pos sy’n weddill cyn gorffen. Dechreuwch gyda gweithgareddau byr a chynyddwch yr hyd yn raddol wrth i’w sgiliau sylwi a gwrando wella.

    7. I ddechrau, mae’n well cynnwys y plentyn mewn nifer o weithgareddau byr a diddorol

    yn hytrach nag un hir. 8. Mae’n bwysig fod gennych focs mawr sy’n cynnwys y teganau yr ydych yn bwriadu eu

    defnyddio y diwrnod hwnnw. Anogwch y plentyn i gadw’r teganau wedi iddo orffen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y plentyn pan fydd y gweithgarwch wedi ‘gorffen’ ac anogwch ef i roi’r tegan i gadw os nad yw’n gwneud hynny o’i wirfodd.

    9. Gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn edrych arnoch pan fyddwch chi’n siarad/rhoi

    cyfarwyddiadau. 10. Rhowch gymaint o help a chyfarwyddyd ag sydd ei angen rhag i’r plentyn ddigalonni a

    chofiwch ganmol ei lwyddiannau mewn llais cadarnhaol. Cofiwch ganmol hyd yn oed os nad yw’r sesiwn wedi mynd rhagddi yn ôl y disgwyl neu os yw’n edrych yn debyg mai chi wnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 17

    11. Os bydd y plentyn yn codi o’r ford, gofynnwch iddo ddychwelyd. Os na fydd yn gwneud hynny, dechreuwch glirio’r teganau. Os bydd yn dychwelyd at y ford cyn i chi orffen clirio’r teganau, canmolwch ef cyn parhau â’r sesiwn. Os nad yw’r plentyn yn dychwelyd ac os bydd wedi colli diddordeb yn llwyr, peidiwch â phoeni, rhowch gynnig arni eto yn ystod y sesiwn nesaf.

    12. Ceisiwch gadw cofnod o’r amser a dreuliodd y plentyn yn eistedd ac yn chwarae gyda

    chi, hyd yn oed os nad oedd hynny fwy na munud neu ddwy. 13. Defnyddiwch yr ymadroddion canlynol: Sylwi da Gwrando da Eistedd da Aros da

    Gellir defnyddio’r rhain naill ai fel hwb i’r plentyn os yw’n digalonni, neu fel canmoliaeth os bydd y plentyn ee wedi gwrando’n dda ar gyfarwyddyd neu wedi eistedd wrth y ford am gyfnod hirach nag arfer.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 18

    Sylwi a Gwrando – Syniadau am Weithgareddau

    Balwnau: Tynnwch sylw’r plentyn drwy eu galw, a chwythu balŵn i bwysleisio’ch symudiadau. Gadewch i’r plentyn deimlo’r awyr yn dod allan o falŵn, taflwch nhw a daliwch nhw, tynnwch lun wynebau arnyn nhw, byrstiwch nhw gyda’ch gilydd! Bocsys teimlo: Rhowch eitem o ddiddordeb yn y bocs ac agorwch y clawr yn araf. Gadewch i’r plentyn roi ei law i mewn a theimlo’r eitem. Yna tynnwch yr eitem allan gyda’ch gilydd, edrychwch arno a chwaraewch ag ef gyda’ch gilydd. Dyma rai eitemau posibl: � Pyped llaw � Afal � Toes chwarae � Tegan sy’n gwichian

    Toes chwarae: Rholiwch y toes a thorrwch ef yn siapiau gydag offer torri. Gwnewch beli, selsig neu fodelau o gathod, nadroedd neu bobl.

    Posau: Dechreuwch gyda phosau sydd â dim ond rhai darnau (ee. 3 neu 4). Gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn gallu gweld nifer y darnau sy’n weddill fel eu bod yn gwybod beth sydd i’w ddisgwyl ganddyn nhw. Cynyddwch nifer y darnau yn y pôs yn raddol. Blwch cerdd/ tâp

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 19

    Rhowch fiwsig ymlaen a gwyliwch ymateb y plentyn. Siaradwch am y gerddoriaeth mewn iaith syml, ee “gwranda, miwsig!” Os nad yw’r plentyn yn edrych i gyfeiriad y miwsig, dangoswch iddo o ble mae’n dod. Diffoddwch y miwsig yn sydyn a byddwch yn llonydd. Anfonwch y plentyn i chwilio am y miwsig gan ddweud “Ble mae’r miwsig wedi mynd?” Rhowch y miwsig yn ôl ymlaen ac ailadroddwch hyn fwy nag unwaith. Edrychwch a fydd y plentyn yn rhoi gwybod i chi a yw am i’r miwsig ddod nôl ymlaen drwy edrych neu wneud ystum. Gemau ‘un, dau tri, go!’: Chwaraewch gyda theganau fel ceir neu swigod. Ar ôl i chi ddweud “un, dau, tri…” arhoswch ac edrychwch ar y plentyn i weld a yw’n canolbwyntio ac yn aros. Os bydd yn dweud ‘go!’, gadewch y car i fynd. Pan fydd y plentyn yn deall trefn y gêm, gadewch iddo reoli’r gêm, a rhaid iddo aros am y gair ‘go!’ cyn gweithredu. Gemau gwrando: Parwch synau (ee synau anifeiliaid, cerbydau ac ati…) i luniau neu bethau. Gallwch naill ai wneud y synau eich hun neu gallwch brynu tapiau o’r mathau hyn o synau.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 20

    Sylwi a Gwrando – Gweithgareddau Gr ŵp

    Gweler isod rai gweithgareddau y gallwch eu gwneud mewn grŵp (mae tua 4-5 o blant yn nifer dda). Gallwch gynnwys plant sy’n ei chael hi’n anodd gweithio fel grŵp ond ceisiwch gael o leiaf 2 blentyn sy’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio a gwrando mewn sefyllfa grŵp. Dewiswch tua 3 gweithgaredd ar gyfer sesiwn.

    Newid Cadeiriau: Cyfarpar: Offeryn cerdd neu dâp o ganeuon. Cyfarwyddiadau: Bydd y plentyn yn eistedd mewn cylch ar eu cadeiriau gyda’u cefnau yn

    wynebu canol y cylch. Bydd oedolyn yn sefyll yng nghanol y cylch gyda’r offeryn neu recordydd tâp. Dywedwch wrth y plant fod rhaid iddynt gerdded o gwmpas y cadeiriau pan fyddant yn clywed y miwsig ac eistedd pan ddaw’r miwsig i ben. Amrywiadau: a. Gofynnwch i’r plant wneud pethau gwahanol pan fyddant yn clywed y miwsig ee.

    parhau ar eu heistedd ond taro’u traed ar y llawr. b. Defnyddiwch ddau offeryn a gofynnwch i’r plant wneud pethau gwahanol pan fyddwch

    chi’n chwarae pob offeryn ee. cerdded pan fyddwch chi’n chwarae’r recorder, neidio pan fyddwch chi’n chwarae’r tambwrîn.

    Tapio’r Tambwrîn: Cyfarpar: Tambwrîn. Cyfarwyddiadau: Rhowch y plant i eistedd mewn cylch. Bydd yr oedolyn yn dechrau drwy daro rhythm ar y tambwrîn (cadwch e’n syml i ddechrau ee un - dau). Rhowch y tambwrîn i’r plentyn ar y dde a gofynnwch iddo gopïo’r rhythm a’i roi i’r plentyn nesaf ato. Amrywiadau: Bydd yr oedolyn yn dechrau’r gêm fel uchod a bydd pob plentyn wedyn yn cymryd ei dro i daro rhythm i’r lleill ei gopïo.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 21

    Bananas ac Afalau: Cyfarpar: Dim. Cyfarwyddiadau: Rhannwch y grŵp yn ddau – galwch un yn ‘bananas’ a’r llall yn

    ‘afalau’. Dywedwch wrth y grŵp fod rhaid i’r ‘bananas’ wneud siâp banana ar y llawr a bod rhaid i’r ‘afalau’ gwrlio i fyny fel afal. Rhowch gyfle i’r plant ymarfer. Gofynnwch i’r plant sefyll. Rhowch gyfarwyddiadau i bob grŵp ee “ Rwy am i’r afalau neidio lan a lawr”. Bob yn hyn a hyn dywedwch “bananas!”, neu “afalau!”. Pan fyddan nhw’n clywed hyn, rhaid i’r holl blant yn y ddau grŵp wneud y siâp hwnnw. Amrywiadau: I wneud y gêm yn anoddach cyflwynwch orchymyn newydd ee “orennau!”. Wedi clywed hyn bydd y ‘bananas’ yn troi’n ‘afalau’, a’r afalau yn troi’n ‘fananas’. Blociau Adeiladu: Cyfarpar: Blociau o liwiau gwahanol; un lliw i bob aelod o’r grŵp. Lluniau o dyrrau wedi’u hadeiladu o flociau lliw. Cyfarwyddiadau: Bydd yr athro/athrawes/arweinydd yn cadw’r cardiau ac yn rhoi pentwr o flociau i bob plentyn. Tynnwch sylw bob plentyn at liw eu blociau. Dewiswch gerdyn a dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i’w helpu i adeiladu’r tŵr yn y llun. Dywedwch wrthyn nhw sut i’w wneud gam wrth gam ee. “Rwy eisiau bloc coch yn gyntaf”, “nawr rhowch un melyn ar ei ben” ac ati Rhaid i bob plentyn wrando am eu lliw a dilyn y cyfarwyddiadau. Gallwch wneud y gêm cyn hawsed neu cyn anodded ag y mynnwch drwy ddewis lluniau tyrrau symlach neu anoddach. Cyfnewid Lle: Cyfarpar: Dim. Cyfarwyddiadau: Rhowch y plant i eistedd mewn cylch. Bydd yr athro/athrawes yn gweiddi gorchmynion fel “Jake i newid gyda Sophie”, “Andrew i newid gyda Becky” ac ati Rhaid i’r plant wrando am eu henwau a chyfnewid lle gyda’r person priodol. Amrywiadau: Rhowch lun o anifail gwahanol i bob plentyn am yn ail. Bydd yr oedolyn yn galw enw anifail a rhaid i’r plant sydd â’r anifeiliaid cyfatebol gyfnewid lle.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 22

    Datblygu achos ac effaith

    Mae achos ac effaith yn sgil gyfathrebu bwysig i’w dysgu’n gynnar oherwydd mae angen i blant ddysgu eu bod yn gallu gwneud i bethau ddigwydd a rheoli eu hamgylchedd. Hynny, yw bod yr hyn maen nhw’n ei wneud yn effeithio ar rywbeth arall. Mae hwn yn gysyniad pwysig ar gyfer cyfathrebu, oherwydd os yw plant yn dysgu eu bod nhw’n gallu dylanwadu ar eraill, byddan nhw am gyfathrebu! Gweler isod rai syniadau a fydd yn helpu i ddatblygu achos ac effaith: � Dewch i hyd i bethau sy’n debygol o ysgogi’r plentyn, ac sy’n ei

    gwneud yn ofynnol iddo wneud rhywbeth i wneud iddo weithio ee, cerddoriaeth, allweddell, tegan gyda botwm neu swîts sy’n gwneud iddo weithio.

    � Yn gyntaf dangoswch i’r plentyn sut mae’r tegan yn gweithio drwy bwyso’r botwm a

    mwynhau’r tegan gyda’ch gilydd. � Gwnewch i’r tegan aros, ac edrychwch yn ddisgwylgar ar y plentyn. Os nad yw’r

    plentyn yn ymestyn am y tegan i’w weithredu helpwch ef i wneud hynny. � Defnyddiwch ystum a chamau gweithredu syml a derbyniwch

    unrhyw ymateb gan y plentyn ee ei fod yn dal eich llygaid neu’n llefaru fel arwydd ei fod am i chi ddechrau’r tegan eto.

    � Pan fydd y plentyn yn dechrau sylweddoli fod angen iddo wneud rhywbeth i

    weithredu’r tegan, chwaraewch gêm o ‘aros’ a ‘dechrau’, lle mae’n rhaid i’r plentyn aros cyn dechrau’r tegan.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 23

    Cymryd Tro – Strategaethau Cyffredinol Rhaid i blant ymwneud ag eraill er mwyn dysgu cyfathrebu a defnyddio iaith. Pan fydd y rheolau sylfaenol o ymwneud ag eraill wedi’u sefydlu ee cymryd eu tro, edrych, gwrando, mae’r gallu i gymryd rhan mewn sgyrsiau yn gwella ac mae hyn yn rhoi mwy o gyfle i ddysgu iaith. Gallwch helpu drwy roi mwy o gyfle i’r plentyn ymwneud ag eraill a

    defnyddio strategaethau sy’n eu helpu i gymryd rhan ymarferol. Drwy chwarae gemau’n aml gallwch sefydlu ‘arferion cymdeithasol’ cyfarwydd ee ‘pi-po’, ‘Gee, ceffyl bach’, ‘dawns y bysedd’, ‘adeiladu tŷ bach’ ac ati. Bydd y plant yn dysgu sut i gymryd eu tro ac yn dysgu geiriau ailadroddus, syml sy’n eu helpu i ddysgu eu geiriau cyntaf. Y CAM CYNTAF – Rhaid i chi sefydlu trefn a’i gwneud yn hawdd i’r plentyn gymryd ei dro. Safwch wyneb yn wyneb, galwch enw’r plentyn mewn ffordd hwyliog, cyffyrddwch â’r plentyn neu dangoswch degan iddo os oes un wrth law. Tynnwch sylw’r plentyn. Chwaraewch y gêm/cân mewn ffordd hwyliog fel bod y plentyn yn dod yn gyfarwydd â’r hi. YR AIL GAM – gydag ymarfer bydd y plentyn yn dod yn gyfarwydd â’r drefn ac yn cymryd ei dro heb ei gymell. Arhoswch ar yr adeg briodol ac edrychwch yn ddisgwylgar ar y plentyn gystal â dweud ‘dy dro di yw hi i wneud rhywbeth’. Os cewch unrhyw ymateb ee edrychiad, gwên, ynganiad, ystyriwch fod y plentyn wedi cymryd ei dro. Os nad oes unrhyw ymateb o gwbl ewch ymlaen â’r gêm. Mae’r plentyn yn dysgu’r drefn ac efallai bydd yn cymryd ei dro y tro nesaf. Y TRYDYDD CAM – Bydd y plentyn yn dechrau’r gêm a byddwch chithau’n dilyn. Efallai y bydd y plentyn yn dangos ei fod yn edrych ymlaen at hwyl y gêm ee ‘cwympo ni’n dau’ yn ‘Gee ceffyl bach’. Efallai y bydd yn gofyn am hyn drwy gymryd eich llaw neu ddechrau’r diwn. Os nad yw’r plentyn yn dechrau’r gêm, ewch i’ch lle ac arhoswch am yr arwydd i ail-ddechrau’r drefn.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 24

    Dealltwriaeth Weledol Mae llawer o blant yn dysgu trwy weld pethau a gall defnyddio dull gweledol o gyfathrebu fod yn help mawr iddyn nhw ddeall iaith a chyfathrebu. Yn wahanol i’r iaith lafar, sydd drosodd mewn llai nag eiliad, mae llun i’w weld cyhyd ag y bydd y plentyn yn edrych arno. Mae datblygiad strwythuredig o ddealltwriaeth weledol: anoddaf � Deall geiriau ysgrifenedig neu lafar � Deall lluniadau du a gwyn a symbolau � Deall llun lliw � Deall ffotograff lliw o’r gwrthrych ei hun � Deall arwyddion ac ystumiau � Deall gwrthrychau bach � Deall y gwrthrych ei hun hawsaf Wrth ddewis system weledol mae angen ystyried lefel dealltwriaeth y plentyn yn ogystal â’r ymarferoldeb o ddefnyddio’r system bob dydd.

    afal

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 25

    Amserlenni Gweledol

    Mae amserlen weledol yn helpu plentyn i weld yr hyn sy’n digwydd dros gyfnod ee diwrnod, bore, sesiwn waith. Bydd hyn yn help i’r plentyn ‘weld’ y drefn a lle mae’r gwobrau a’r cymhelliant. Maen nhw hefyd yn annog plant i symud o un gweithgarwch i un arall a newid. Mae’r plentyn yn gweld hefyd ei fod yn symud drwy’r gweithgareddau ac y bydd y tasgau’n dod i ben. Sut i wneud amserlen weledol 1. Tynnwch ffotograffau neu gwnewch symbolau/lluniau o unrhyw weithgareddau y bydd

    y plentyn yn eu gwneud yn ystod y dydd ee gartref, cylch meithrin. Cynhwyswch bethau fel toiled, cinio, mynd adref, coginio, amser stori, gweithio wrth y ford, amser chwarae, amser egwyl, arlunio, cysgu ac ati.

    2. Gwnewch stribed o Felcro i ddal y cardiau. Gall y stribed fod o ochr o ochr neu o’r

    llawr i fyny. Gwnewch e’n ddigon hir i ddal o leiaf bedwar llun. Wrth i’r plentyn ddod yn fwy hyderus gydag amserlen efallai yr hoffech wneud y stribed yn ddigon hir i ddal holl weithgareddau’r diwrnod.

    3. Gallech wneud rhan o’r amserlen yn sgwâr ‘nawr’ lle byddwch chi’n rhoi llun o’r

    gweithgaredd sy’n cael ei wneud ar yr adeg honno. 4. Gwnewch focs neu amlen ar gyfer diwedd yr amserlen i ddal y gweithgareddau sydd

    wedi gorffen. Dyma rai enghreifftiau o amserlenni gweledol:

    NAWRW

    WEDI GORFFEN

    NAWR

    WEDI GORFFEN

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 26

    Sut i ddefnyddio’r amserlen 1. Ar ddechrau’r gweithgarwch gofynnwch i’r plentyn ‘Beth nesa?’. Arweiniwch y plentyn

    at yr amserlen ac at y llun/symbol sydd gyntaf. Gallwch ei roi yn y bocs ‘nawr’ os oes un ar yr amserlen. Dywedwch pa weithgaredd yw e a dechreuwch ar unwaith.

    2. Pan ddaw’r gweithgaredd i ben, dywedwch ei fod wedi gorffen. Arweiniwch y plentyn

    at yr amserlen eto a rhowch y gweithgaredd sydd wedi gorffen yn y bocs/amlen ‘wedi gorffen’. Dywedwch eto fod y gweithgaredd wedi gorffen.

    3. Gofynnwch i’r plentyn ‘Beth nesa?’ a gadewch iddo edrych ar yr amserlen. Rhowch y

    llun/symbol nesaf yn y sgwâr ‘nawr’ a dechreuwch y gweithgaredd. Gwnewch hyn sawl gwaith yn ystod y dydd. I ddechrau mae’n bosibl mai dim ond rhyw dri neu bedwar gweithgaredd fydd ar yr amserlen ond gallwch gynyddu’r rheini wrth i’r plentyn dod yn gyfarwydd â’r broses ac yn dod i ddeall y drefn yn well. Efallai’ch bod chi’n teimlo yr hoffech chi gael amserlen weledol ar gyfer digwyddiadau bob dydd ee ymolchi dwylo. Gallech roi’r amserlenni bach hyn ger y fan lle caiff y gweithgaredd ei wneud ee y sinc, a gallan nhw helpu’r plentyn drwy’r drefn. Ni fydd angen bocs ‘nawr’ a ‘wedi gorffen’ ar y gweithgareddau hyn a gellir eu lamineiddio fel eu bod yn para’n hwy. Pwyntiau i’w cofio 1. Gydag amser dim ond weithiau y bydd angen i chi helpu’r plentyn i symud y

    lluniau/symbolau. Yn raddol, rhowch lai a llai o help . 2. Dylai pob un sy’n ymwneud â’r plentyn ddefnyddio’r un iaith neu’r un ymadroddion.

    Bydd hyn yn helpu’r plentyn i ddysgu trefn yr amserlen oherwydd bydd yn clywed pethau fel ‘Mae [gweithgaredd] wedi gorffen’, ‘Beth nesa?’ drosodd a thro ac yn dod yn fwyfwy annibynnol wrth ddefnyddio’r amserlen.

    3. Er mwyn sicrhau fod yr amserlen yn llwyddiant, gwnewch yn siŵr fod yr un geiriau’n

    cael eu defnyddio wrth newid pob gweithgaredd. 4. Yn y dechrau, gwnewch yn siŵr fod o leiaf un gweithgaredd ar yr amserlen sy’n llawn

    cymhelliant i’r plentyn. Bydd hyn yn eu helpu i weld at beth maen nhw’n gweithio ac yn eu cymell i weithio tuag at y pwynt hwnnw.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 27

    Datblygu Sgiliau Dewis

    Mae gwneud dewis yn sgil bwysig i blant oherwydd byddant yn dysgu y gallan nhw reoli eu hamgylchedd ac mae’n eu hysgogi i gyfathrebu ag eraill.

    Gallwch ddysgu sgiliau dewis fel a ganlyn:

    � Dangoswch 2 beth y bydd y plentyn yn hoffi eu cael neu chwarae â nhw. Dyma rai syniadau: bwyd, ee dewis o fyrbrydau neu fyrbryd a diod, 2 degan cyffrous, 2 lyfr.

    � Os bydd yn ymestyn am un o’r eitemau ac yn ei gymryd, grêt! Rhowch ganmoliaeth

    iddo a rhowch yr eitem i’r plentyn. � Os bydd yn cael hyn yn anodd ee ddim yn ymateb, gallech ddweud enwau’r teganau:

    “Wyt ti eisiau X neu Y?”, a symudwch y teganau wrth i chi ddweud eu henwau. Gallech symud un ymlaen neu weithredu’r tegan.

    � I ddechrau gallech dderbyn edrychiad neu symudiad tuag at un o’r eitemau fel

    cadarnhad fod y plentyn yn gwneud ei ddewis, ond yn raddol dylech ddisgwyl i’r plentyn edrych yn hirach ar y dewis, neu ymestyn amdano.

    � Os bydd y plentyn yn ymestyn am y ddwy eitem yn aml, gallech

    ddangos eitem nad yw’r plentyn ei hoffi ac eitem yr ydych yn gwybod y bydd yn ei ddewis. Wrth i’w sgiliau i ddewis ddatblygu gydag eitemau y maen nhw’n eu hoffi ac eitemau eraill, gallech gynnig dwy eitem y mae’n plentyn eu hoffi.

    � Pan fydd y plentyn yn medru gwneud dewis clir gallwch

    gynyddu nifer yr eitemau sydd i ddewis o’u plith neu ddefnyddio rhywbeth sy’n cynrychioli’r eitem, ee ffotograff neu lun.

    � Bydd y plentyn yn dechrau sylweddoli y gall gael effaith ar yr hyn mae’n ei gael a’r hyn

    mae’n ei wneud. Y cam nesaf yw dechrau gofyn am bethau drostynt eu hunain

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 28

    Dynwared Synau Gellir cyflwyno’r syniad o synau drwy chwarae. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu plant i archwilio’r amrywiaeth o wahanol synau a wnawn gyda’n cegau a’n lleisiau (synau llafar yn ogystal â synau eraill). Peidiwch â phoeni os na all y plentyn wneud yr holl synau a awgrymir. Byddan nhw’n dysgu drwy edrych a gwrando arnoch chi. Anogwch y plant a chanmolwch unrhyw synau maen nhw’n ei wneud, er enghraifft does dim ots os byddan nhw’n dweud ‘ah’ ar gyfer defaid - y llwyddiant yw bod y plentyn wedi ymateb drwy wneud sŵn. Gallech weithio ar synau penodol yn nes ymlaen. Gweithgareddau 1. Meicroffon: rhowch gynnig ar wneud gwahanol synau mewn meic ‘eco’,

    gan fod plant wrth eu bodd â hyn. 2. Pypedau: gwnewch i’r pyped wneud sŵn, a gwrandewch ar y plant i weld a allan nhw

    wneud i’w pyped nhw wneud sŵn tebyg. Mae rhai plant yn ei chael hi’n haws ymuno yn y gêm os na fydd pwysau arnyn nhw i siarad.

    3. Pypedau: bwydwch wahanol fwydydd i’r pyped (bwyd tegan, ffrwythau a llysiau go-

    iawn, eitemau gwirion fel corynnod tegan a theganau ac ati) a gwneud i’r pyped ddweud ‘mmmm’ neu ‘ych-a-fi!’ yn dibynnu a fyddan nhw’n hoffi’r bwyd ai peidio.

    4. Gwnewch sŵn gweryru gyda’ch gwefusau neu gusanau swnllyd (gallech wneud hyn

    gyda doliau a thedis). 5. Synau anifeiliaid:

    Wrth chwarae gyda theganau neu luniau anifeiliaid, anogwch y plant i wneud sŵn anifail ee. Cath – miaw Ci – bow wow Buwch – mŵ Dafad – baaa Asyn – i-o, i-o Tylluan – tw whit tw whwww Gwenyn – bss bss Neidr – ssssss Llew – rrrrrrrr

    6. Sŵn cerbydau:

    Wrth chwarae gwnewch sŵn cerbydau, ee Car – brwm brwm Ambiwlans – niii no, niii no Trên – tsh tsh tsh tsh

    7. Preblian: gosodwch y plentyn wyneb yn wyneb â chi (hynny yw, yn eich côl, ar yr un

    lefel ar y llawr) a gwnewch sŵn preblian ee ba ba ba, ga ga ga, da da da. Anogwch y plentyn i’ch copïo chi a phan fyddan nhw’n gwneud hynny, gwneud yr un sŵn eto.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 29

    Mae hynny’n aml yn annog y plentyn i wneud mwy o synau. Mae’n ymarfer da ar gyfer cynnal ‘sgwrs’ yn nes ymlaen.

    8. Bŵ: cuddiwch eich wyneb yn eich dwylo, dadorchuddiwch ef a dywedwch ‘bŵ’.

    Anogwch y plentyn i’ch copïo. 9. Amser bwyd: dywedwch ‘mmm’ pan fydd y bwyd yn neis ac anogwch y plentyn i

    wneud yr un peth. 10. Drych: chwaraewch gyda synau o flaen drych; defnyddiwch synau lle

    mae modd gweld y geg yn symud ee ‘ww’, ‘ee’, ‘aaa’, ‘p’, ‘b’, ‘mm’, ‘f’, ‘l’ 11. Gweithgareddau yn y t ŷ: Gwrandewch ar y synau sy’n cael eu gwneud

    gan wahanol weithgareddau a cheisiwch eu copïo. Hwfyr – fy…. fy…. fy…. fy…. Golchi llestri – sh…sh…. sh…. sh…. Sŵn plygiau – glyg, glyg/g-g-g-g Glaw/tap yn diferu – t…. t…. t…. Cloc – tic toc tic toc Gwynt – sŵn chwibanu (gwneud y geg yn grwn a chwythu) Tawelwch – shsh Pêl yn bownsio – by…. by…. by….

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 30

    Pwyntio Mae pwyntio’n fath o enwi cyn bod yr iaith lafar wedi datblygu. Mae pwyntio at rywbeth i rywun arall ei weld yn fynegiant cynnar o ddeisyfiad i rannu gyda rhywun arall yr hyn welwn ni, yr hyn rydyn ni’n ei feddwl neu’r hyn rydyn ni am i’r person arall wybod amdano. Yng nghyd-destun ‘sylwi ar y cyd’ gyda pherson arall y mae iaith ystyrlon yn datblygu (bydd y plentyn yn pwyntio a’r oedolyn yn enwi). Ni fydd rhai plant yn pwyntio at eitemau i bobl eraill eu henwi. Mae’r plant hynny’n colli cyfle pwysig i ddysgu iaith. Da o beth felly yw bod pwyntio’n cael ei hyrwyddo’n sgil sylfaenol ar gyfer datblygu iaith. 1. Mae ymchwil yn awgrymu fod yr ystum o bwyntio ond yn digwydd mewn plant sydd

    wedi datblygu’r gallu i afael mewn pethau fel blociau gyda’r mynegfys a’r bawd. Gall gweithgareddau sy’n annog hynny ynghyd â’r gallu i ddefnyddio’r mynegfys ar ei ben ei hun helpu i ddatblygu pwyntio.

    � Gwthiwch rannau o jig-so caled o’r cefn. � Gwthiwch eitemau drwy dyllau ee gwthiwch resins drwy dyllau mewn blwch wyau

    sydd â’i ben i waered. Dangoswch sut i afael mewn pethau gyda bys a bawd. � Gall postio a didoli bocsys hybu sgiliau motor. � Gwnewch fyrddau gyda dolenni arnyn nhw i godi darnau allan a’u rhoi’n ôl. � Peintio gyda’r bysedd, toes chwarae, rhoi mwclis ar linyn, gweithgareddau crefft ac

    ati. � Caneuon lle mae angen defnyddio’r bysedd neu bwyntio ee. ‘Dawns y Bysedd’,

    ‘Dau Dderyn Bach’, ac ati � Gwnewch ganeuon gydag ystumiau sy’n mynd gyda gweithgareddau pob dydd fel

    ymolchi, gwisgo ac ati. 2. Dangoswch lawer o sgiliau pwyntio. Pwyntiwch at bethau y mae gan y plentyn

    ddiddordeb ynddyn nhw ac y mae eisoes yn edrych arnyn nhw, fel eich bod yn ‘sylwi ar y cyd’, hynny yw lle mae’r ddau ohonoch yn edrych ar yr un peth.

    � Cyn rhoi bisged neu gôt neu rywbeth arall i’r plentyn, arhoswch gam neu ddau o’r

    eitem a phwyntiwch at yr hyn y mae’r plentyn yn edrych arno. Gwnewch eich llais a’ch ystumiau’n eithafol i dynnu sylw’r plentyn ee. ‘côt’, ‘edrycha, côt’, ‘côt Jo’ a phwysleisiwch yr ystum pwyntio bob tro.

    � Mae llyfrau lluniau yn gyfle da i bwyntio. Gallech chi gymryd bys y plentyn a phwyntio at y llun.

    � Pwyntiwch at eitemau diddorol wrth chwarae y tu allan ee awyrennau, anifeiliaid, adeiladau ac ati. Pwyntiwch at yr hyn y mae’r plentyn yn edrych arno ac enwch e.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 31

    Creu Cyfle i Gyfathrebu Gall fod yn demtasiwn siarad ar ran plentyn nad yw’n cyfathrebu’n dda neu fod yn rhy eiddgar i ragweld anghenion y plentyn. Gall hyn effeithio ar fod y plentyn ddim yn cyfathrebu gan achosi oedi yn ei ddatblygiad ieithyddol. Mae angen ymdrech ac amynedd i aros i blentyn wneud rhywbeth drosto’i hun. Mae rhai plant, wrth natur, yn amharod i gymdeithasu neu gyfathrebu ac mae’n hollbwysig fod cyfleoedd i gyfathrebu yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf. Mae angen disgresiwn wrth ystyried unrhyw rai o’r awgrymiadau isod ee nid yw’n ddoeth bwyta o flaen plentyn sy’n awchu am fwyd neu danseilio gweithgaredd pan fydd y plentyn wedi blino neu wedi cyffrôi. Strategaethau Hyrwyddo: 1. Rhowch hoff eitemau allan o gyrraedd Rhowch hoff eitemau’r plentyn allan o’i gyrraedd ond yn gwbl weladwy. Rhowch yr eitemau ar silff uchel, ar ben cownter, mewn cynwysyddion clir gyda chloriau tynn ac ati. Peidiwch a chynnig eitemau’n awtomatig. 2. Rhowch eitemau bach Adeg prydau neu fyrbrydau, cynigiwch ddognau bach. Torrwch frechdan yn ddarnau a rhowch ddarn i’r plentyn ar y tro. Rhowch ddim ond un neu ddau lond ceg o ddiod mewn cwpan ar y tro. Helpwch eich plentyn i ddeall fod rhagor ar gael drwy roi cliwiau bach fel gwneud synau, defnyddio ystumiau neu arwyddion, neu ddefnyddio geiriau i ofyn. 3. Bwytwch neu yfwch gyfran o hoff fwyd/diod o flae n y plentyn O flaen y plentyn bwytwch neu yfwch gyfran o’r eitem y maen nhw ei heisiau. Dangoswch eich pleser wrth fwyta’r eitem ee ‘mmm’. 4. Crëwch yr angen am help Rhowch gyfle i’r plentyn gael hoff eitem y mae angen eich helpu chi arno i’w fwynhau. Anogwch y plentyn i ofyn am eich help chi i weindio’r tegan, troi’r teledu ymlaen, agor cynhwysydd ac ati. 5. Torrwch ar draws hoff weithgaredd ar y cyd

    Dechreuwch hoff weithgaredd y gallwch chi a’r plentyn ei wneud gyda’ch gilydd. Pan fyddwch chi’n mwynhau’ch hunain, stopiwch y gweithgaredd ac anogwch y plentyn i ddangos i chi ei fod am barhau ee wrth wthio’ch plentyn ar y siglen, stopiwch y siglen yn yr awyr.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 32

    6. Cynigiwch rywbeth i’r plentyn nad yw’n ei fwynha u Cynigiwch weithgaredd neu eitem i’r plentyn nad yw’n ei hoffi ac anogwch ef i ddweud ‘na’ wrthych mewn ffordd briodol. 7. Cynigiwch ddewis Cydiwch mewn dwy o hoff eitemau’r plentyn a dywedwch ddim. Anogwch y plentyn i ddweud wrthych chi pa un mae am ei gael mewn unrhyw ddull posib ee edrych, pwyntio, dweud gair. 8. Tanseilio Trefnwch weithgaredd ee peintio, ond peidiwch â chynnwys eitem allweddol ee y brws. Arhoswch i’r plentyn ddangos i chi fod rhywbeth o’i le ac i ofyn i chi am yr eitem ym mha fodd bynnag y gall wneud hynny.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 33

    Dal Llygaid – Strategaethau Cyffredinol

    Mae dal llygaid yn sgil bwysig i ddatblygu’r gallu i ymwneud ag eraill ac i ddysgu. Mae’n hanfodol fod plentyn yn edrych ac yn gwrando er mwyn dysgu iaith. Trwy ddal llygaid gallwn roi gwybod i eraill ein bod am gyfathrebu â nhw a bod gennym ddiddordeb mewn gwrando. Mae angen help ar rai plant i ddatblygu’r sgil o ddal llygaid ee plant prysur iawn neu blant ‘anodd i’w cyrraedd’.

    Dyma rai awgrymiadau i annog plant i ddal llygaid:- 1. Gosodwch eich hun yn agos i’r plentyn, wyneb yn wyneb ag e. Gwnewch ystumiau a

    siaradwch mewn llais eithafol i dynnu sylw at eich llygaid. Mae rhoi’r plentyn ar eich glin yn lle da i ymarfer dal llygaid. Mae caneuon a rhigymau (yn enwedig rhai lle mae angen gwneud rhywbeth) yn ardderchog ar gyfer hybu’r sgil o ddal llygaid a gwrando.

    2. Gallech ddal teganau wrth eich llygaid cyn chwarae. Arhoswch i’r plentyn ddal eich

    llygaid (hyd yn oed am eiliad) cyn rhoi’r tegan i’r plentyn. 3. Daliwch degan sy’n gwichian wrth eich wyneb a gwasgwch e i wneud sŵn. Stopiwch y

    sŵn ac arhoswch i’r plentyn ddal eich llygaid cyn dechrau eto. 4. Mae gemau ‘pi-po’ yn gallu ysgogi a hybu’r plentyn i ddal llygaid. Gallan nhw fod yn

    rhan o weithgareddau ‘pob dydd’ ee gwisgo, gwneud gwely ac ati 5. Mae tynnu eitemau oddi ar eich wyneb neu’ch pen yn annog

    plentyn i edrych yn fanylach ar eich wyneb a’ch llygaid ee sbectol haul, masgiau, hetiau. Efallai y bydd y plentyn yn mwynhau chwarae gyda’r rhain ac edrych yn y drych.

    6. Mae plant yn mwynhau edrych drwy eitemau fel pibau, sbienddrychau, rholiau toiled ac ati. Gallech gymryd eich tro yn edrych drwy’r eitemau.

    7. Chwaraewch gêm y mae’r plentyn yn ei mwynhau ee, chwythu swigod, gemau goglais, a stopiwch y gweithgaredd am eiliad. Arhoswch i’r plentyn ddal eich llygaid a dechreuwch eto. Mae hyn yn ei annog i ddal eich llygaid yn ogystal ag annog sgiliau ysgogi a bwriad.

    8. Pan fyddwch am i’r plentyn edrych arnoch chi, symudwch o’u blaen a dywedwch ee “Jac, edrych”.

    9. Efallai y bydd cyffwrdd ag wyneb y plentyn a’i droi tuag atoch yn dyner yn helpu. Wrth wneud hynny, dywedwch eu henw.

    10. Os gwelwch fod y plentyn yn edrych ar rywbeth, siaradwch ag ef amdano a symudwch o’i flaen wrth i chi siarad. Os bydd y plentyn yn edrych arnoch chi, gwenwch a chyfarchwch ef neu dechreuwch sgwrsio. Trowch ymaith yn naturiol ond ceisiwch ddal ei lygaid a gwnewch yr un peth eto.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 34

    Dynwared Symudiadau Mae hon yn agwedd bwysig at ddatblygu – nid dim ond o ran datblygu cyfathrebu

    ond hefyd ar gyfer dysgu gan ei fod yn ein hannog i ‘wneud fel y gwna eraill’. Mae dysgu dynwared yn rhagflaenu dysgu copïo synau a geiriau. Gallwch ddechrau dysgu plant i ddynwared drwy ddynwared yr hyn maen nhw’n ei wneud i ddechrau ee os bydd y plant yn chwifio’u

    dwylo, chwifiwch chithau yn yr un modd. Arhoswch i weld a fyddan nhw’n ail-adrodd hyn a’i droi’n gêm. Gallwch wneud gweithgareddau 1:1 gyda’r plentyn (yn enwedig os yw’n colli diddordeb yn hawdd), ond mae tasgau grŵp hefyd yn dda gan fod plant yn mwynhau gweithgareddau gyda phlant eraill. Cofiwch wobrwyo a chanmol y plentyn! Dyma rai syniadau i annog plentyn i ddynwared: Offerynnau Cerdd: Tarwch ddrwm ac anogwch y plentyn i’ch dynwared. Gallech newid nifer y trawiadau i amrywio’r gêm. Ysgwyd ratls. Taro offerynnau gyda’ch gilydd. Gwasgu tegan sy’n canu. Chwarae allweddell. Caneuon actol: Canwch ganeuon lle mae angen gwneud llawer o symudiadau ee Y Bwgan Brain Dyma sut ryn ni’n…(gellir defnyddio hwn i ganu am lawer o bethau). Os wyt ti’n hapus ac yn gwybod. Yr olwynion ar y bws. Het dri chornel.

    Chware gyda drych:

    Edrychwch yn y drych gyda’ch plentyn. Gwnewch ystumiau rhyfedd ee tynnu tafod, agor a chau’ch llygaid a chwythu’ch bochau allan.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 35

    Mae Seimon yn dweud: Chwaraewch gêm ‘Mae Seimon yn dweud’ a dangoswch y gweithgareddau i’r plentyn/plant yn ogystal â’u disgrifio. Dyma rai syniadau: Clapio Gorchuddio’r llygaid â’r dwylo. Chwifio breichiau. Cyffwrdd â rhannau o’r corff. Taro traed. Neidio. Cynhwyswch bethau i’w dynwared mewn gweithgareddau pob dydd: Anogwch y plentyn i ddynwared pethau pob dydd. ee rhwbio’ch bol wrth fwyta Esgus troi wrth goginio. Esgus brwsio’r llawr neu sychu’r ffenest wrth lanhau. Tapio rhannau o’r corff wrth wisgo ee y pen wrth wisgo het. Rhwbio’r llygaid wrth fynd i’r gwely. Chwythu cusanau a chodi llaw wrth ffarwelio.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 36

    Defnyddio Eitemau Cyfeirio Mae’r eitemau hyn yn cyfeirio at wrthrych ag iddo ystyr ee lleoliad, digwyddiad neu berson ee gallai cwpan gyfeirio at ddiod. Mae eitemau cyfeirio’n bwysig i ddysgu cyfathrebu’n gynnar gan y gall plentyn ddysgu adnabod y gwrthrychau hyn a dysgu ystyr y gwrthrych cyn y gallan nhw ddeall geiriau. Gallech ddefnyddio eitemau cyfeirio: • Yn y lle cyntaf i helpu’r plentyn ddeall beth sy’n digwydd

    neu beth sydd ar fin digwydd ee mae dangos rhaw i blentyn yn golygu ei fod yn cael ei annog i symud i’r pwll tywod.

    • Yn raddol, i helpu’r plentyn i ddewis pethau ee gellid

    dangos rhaw a chan dŵr i’w helpu i ddangos a yw am chwarae gyda thywod neu gyda dŵr.

    • Maes o law, i helpu’r plentyn ddeall cyfres o ddigwyddiadau ee mae teimlo’r rhaw ac

    yna’r cwpan yn golygu ei bod nawr yn amser chwarae yn y tywod ac wedyn mae’n amser diod.

    • Yn olaf, i greu pont rhwng deall ystyr gwrthrych i ddeall ffotograffau, lluniau a

    symbolau. Gweler isod rai syniadau sut y gallwch chi weithio gydag eitemau cyfeirio: � Gallwch ddechrau drwy benderfynu ar rai eitemau a beth maen nhw ei gynrychioli.

    Mae’n bwysig dewis yr eitem yn ofalus a gwneud yn siŵr ei fod yn golygu rhywbeth i’r plentyn.

    � Defnyddiwch yr eitemau’n gyson fel bod y plentyn yn dechrau cysylltu’r gwrthrych

    gyda’r eitemau/gweithgaredd maen ei gynrychioli. � Efallai y byddai’n help i chi ddefnyddio teganau o’r gwrthrych neu eitemau llai fel y

    gallwch fynd â nhw gyda chi. � Gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn medru mynd at yr eitemau ee trwy eu cadw ar silff

    arbennig neu mewn blwch ag iddo label penodol. Drwy wneud hyn bydd y plentyn yn medru mynd i ymofyn un o’r eitemau os bydd am gyfathrebu gyda chi.

    Mae eitemau cyfeirio’n ffordd ardderchog o gynyddu dealltwriaeth plentyn a hefyd i annog y plentyn i ddefnyddio’r eitemau ei hun i ofyn am rywbeth. Er enghraifft os bydd y plentyn am roi gwybod i chi ei fod am fynd i nofio gallai fynd i ymofyn cylch rwber.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 37

    YY GGEEIIRRIIAAUU CCYYNNTTAAFF

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 38

    Datblygu Geiriau Proto

    Geiriau proto yw synau sy’n cynrychioli gair. Mae’r sŵn fel arfer yn swnio fel y gwrthrych/digwyddiad. Mae geiriau proto yn dod cyn y geiriau iawn yn aml ond gallant fod yn gysylltiedig â’r gwrthrych. Dyma rai enghreifftiau o eiriau proto a sut y gallwch chi eu cynnwys wrth chwarae: Chwarae anifeiliaid:

    Gallech dynnu anifeiliaid tegan o sach a gwneud synau gyda’ch gilydd neu gallech eu cuddio o gwmpas yr ystafell.

    � Cath “miaw” � Ci “bow wow” � Buwch “mŵ” � Mochyn “soch soch” � Ceffyl sŵn gweryru � Neidr “sssss” � Aderyn “twit twit” � Hwyaden “cwac cwac” � Dafad “ba” � Ac unrhyw rai eraill y gallwch feddwl amdanyn nhw! Chwarae gyda theganau: � Esgus arllwys te a dweud “psshhhhh”. � Gwnewch ddiod i tedi a chliciwch eich tafod i wneud sŵn yfed. � Wrth i ddoli fwyta gallwch lyfu’ch gwefusau a dweud

    “mmmmmm”. � Dychmygwch awyren yn disgyn a dywedwch “niiiiooooow” � Gwthiwch drên o gwmpas a dywedwch “choo choo”. � Gwthiwch injan dân o gwmpas a dywedwch “ni naw ni naw”. � Gwthiwch gar o gwmpas a dywedwch “beep”. � Tarwch bethau yn erbyn ei gilydd a dweud “bang!” Mae llawer o synau eraill y gallech eu defnyddio mewn bywyd bob dydd ee. rhwbio’r stumog a dweud “iym iym” wrth fwyta, codi’r plentyn a dweud ‘lan â ti’, rhywbeth cyffrous “wwwww” neu rywbeth sy’n achosi syndod “wow!”. Defnyddiwch eich dychymyg a cheisiwch ddefnyddio’r un synau bod tro fel bod eich plentyn yn dod yn gyfarwydd â nhw ac yn eich dynwared!

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 39

    Annog y Geiriau Cyntaf Bydd y syniadau canlynol yn help i annog y plentyn i wrando, deall a dechrau defnyddio’r geiriau cyntaf. 1. Helo:

    Chwaraewch gêm o guddio’ch wyneb y tu ôl i’ch dwylo, neu tu ôl i flanced, neu guddio tu ôl i gadair, a dywedwch ‘Helo!’ pan fyddwch yn ailymddangos. Anogwch y plentyn i ymuno. Gallwch chwarae’r gêm hon hefyd drwy guddio teganau fel tedi. Syniad arall yw rhoi lliain neu flanced dros wyneb y plentyn a dweud y gair targed bob tro y byddwch chi neu’r plentyn yn tynnu’r flanced.

    2. Mwy:

    Gallwch ddefnyddio ‘mwy’ lawer gwaith yn ystod y dydd yn enwedig wrth yfed a bwyta. Gallech roi ychydig bach o laeth yn unig, fel bod y plentyn yn gofyn am fwy. Gallech ddangos iddyn nhw sut mae dweud y gair a’u hannog i’ch dynwared. Gellir defnyddio ‘mwy’ mewn gemau lle mae llawer o ailadrodd fel goglais, siglo, defnyddio teganau swnllyd. Unwaith eto, rhowch lawer o gyfleoedd i’ch plentyn glywed y gair a’r troeon cyntaf derbyniwch unrhyw ymateb fel bod y plentyn yn edrych i’ch llygaid neu wneud sŵn a ‘ie’. Arhoswch cyn i chi ail-wneud rhywbeth i weld a fydd y plentyn yn gofyn am ‘fwy’.

    3. Mynd:

    Gallech gynnwys y gair hwn wrth fwyta ac yfed. Gallech edrych ar y plât neu’r cwpan gwag a dweud “mynd”. Fel gyda ‘ta ta’ gallech guddio pethau a dweud “mynd!”.

    4. Go!:

    Gallech ddefnyddio hwn yn arwydd i ddechrau tegan, gwthio siglen, rholio pêl ac ati. Dechreuwch drwy ddweud ‘un, dau tri, go!” ac yna gwneud yr un peth eto. Pan fydd y plentyn wedi gwrando ar hyn sawl tro, arhoswch cyn dweud ‘go!’ ac edrychwch ar y plentyn i weld a fydd yn dynwared yr hyn mae wedi’i glywed.

    5. Rhannau o’r corff:

    Wrth i chi ymolchi wyneb y plentyn, enwch y gwahanol rannau. Gallech chi gael sebon ewynnog neu ewyn eillio a’i roi ar wahanol rannau o ddoli neu dedi gyda’ch gilydd ac enwi’r rhannau wrth i chi wneud hynny. Yna gallech wneud yr un peth ar eich corff eich hun neu gorff y plentyn. Gallech ganu caneuon fel “Dyma sut ryn ni’n…” a chanu rhigymau sy’n enwi rhannau’r corff fel “Troed yn taro”.

    6. Ta- ta:

    Dywedwch ‘ta-ta” a chodwch law pan fydd pobl yn gadael. Gallech hefyd wneud i degan fynd o’r golwg a dweud ‘ta-ta’ a chodi llaw arno wrth iddo fynd.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 40

    Rhannau’r corff

    Mae sawl ffordd o ddysgu rhannau’r corff. Dyma un ohonyn nhw.

    Deall rhannau’r corff: Rhowch dedi gweddol fawr o flaen y plentyn. Rhowch sticer i’r plentyn a dywedwch “Rho fe ar y trwyn”. Os bydd yn gwneud hynny, canmolwch y plentyn. Os bydd yn cael anhawster, dangoswch iddo sut mae gwneud ee rhowch y sticer ar drwyn tedi a dywedwch ‘trwyn’. Os nad yw’r plentyn yn awyddus i roi sticeri ar tedi, rhowch gynnig ar ofyn iddo roi sticeri arnoch chi - efallai y cewch chi fwy o lwyddiant. Dewiswch rannau hawdd o’r corff i ddechrau a gweithiwch eich ffordd at rannau anoddach ee llygad, trwyn, clust, ceg, pen, braich, llaw, coes, troed, bol, cefn, gwddf, penelin, pen-glin, pen-ôl, bys, bawd ac ati Efallai yr hoffech chi ddefnyddio symbolau i gymell y plentyn ee os ydych am i’r plentyn roi’r sticer ar drwyn tedi, dangoswch symbol o drwyn i’r plentyn pan fyddwch yn gofyn iddo roi’r sticer ar y trwyn. Defnyddio rhannau o’r corff :

    Eto, mae sawl ffordd o gael eich plentyn i gyfathrebu am rannau o’r corff. Dyma un ohonyn nhw. Defnyddiwch dedi neu ddoli. Y tro hwn byddwch chi naill ai’n pwyntio neu’n rhoi sticer ar ran benodol o gorff tedi. Yna pwyntiwch at ran o’r corff a gofynnwch ‘Be ydi hwn?’ neu ‘Ble mae’r sticer?’. Anogwch y plentyn i labelu’r corff ar lafar neu

    ddewis o blith symbolau o rannau o’r corff a dewis yr un priodol. Os bydd y plentyn yn anghywir, enwch y rhan honno o’r corff a symudwch at un arall. Yn yr un modd, dechreuwch gyda rhannau haws o’r corff a gweithiwch tuag at y rhannau anoddach. Hefyd, mewn sgwrs bob dydd gyda’ch plentyn siaradwch dipyn am rannau o’r corff. Er enghraifft, ‘Trwyn fi’n cosi’ neu “Bys bach fi’ – defnyddiwch ymadroddion syml a phwysleisiwch y gair sy’n ymwneud â’r corff.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 41

    Gweithgareddau i Annog y Geiriau Cyntaf: ‘Mynd’, ‘Mwy’, ‘Lan’

    Mynd: Byddwch yn fywiog a rhowch bwyslais arbennig ar y gair ‘mynd’ gyda’ch llais. Gallwch ychwanegu ystum hefyd os bydd hynny’n helpu ee rhoi dwy law lan gyda’r cledrau’n uchaf. Rhowch gyfle i’r plentyn ymateb i chi a cheisiwch ymateb iddo ef mewn iaith gadarnhaol a chanmoliaeth. Byddwch yn barod i addasu unrhyw weithgaredd a pheidiwch â mynnu parhau gyda ‘mynd’ os bydd y plentyn yn dechrau rhywbeth newydd. Bydd sawl cyfle yn ystod y dydd i ailadrodd ‘mynd’ a dangos sut mae’n gweithio. � Enwi lluniau neu bethau, wedyn eu postio gyda’ch gilydd a dweud ‘mynd’ a ‘esgid

    mynd’ ac ati. � Cuddio rhywbeth yn yr ystafell a gofyn ‘Ble mae tedi wedi mynd?’ (gan bwysleisio

    ‘mynd’) “Tedi wedi mynd!” ac anogwch y plentyn i chwilio am tedi. Wedi iddo ddod o hyd iddo, rhowch ganmoliaeth a dywedwch ‘Tedi ddim wedi mynd!’.

    � Dewiswch ddwy eitem. Cuddiwch un dan liain neu focs a gofynnwch ‘Be sy wedi

    mynd?’ Gadewch i’r plentyn ddyfalu beth yw’r eitem, dangoswch e a dechreuwch y gêm eto.

    � Rholiwch bêl ar draws y ford i’r bin a dywedwch “Pêl wedi mynd!”. Ceisiwch rolio neu

    chwythu eitemau gwahanol ee plu, pysgod papur. � Chwaraewch gyda thegan meddal, set de a bwyd tegan. Gwnewch i’r tegan esgus

    bwyta a dywedwch “Banana wedi mynd! Selsig wedi mynd!”. � Tynnwch luniau syml ar ‘fwrdd hud’ a gwnewch iddyn nhw ddiflannu. Dywedwch

    “Mynd!’ a “Dechrau eto!”. � Popiwch swigod gyda’ch gilydd a dywedwch ‘mynd!’ bob tro.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 42

    Mwy:

    Y prif nod yw dysgu’r plentyn i ddeall y gair/arwydd ‘mwy’ drwy ei ail-adrodd yn gyson mewn ffordd ystyrlon. Yn nes ymlaen gallwch aros i weld a fydd y plentyn yn dweud/arwyddo ‘mwy’ yn ystod gweithgaredd y maen ei fwynhau neu ddigwyddiad pob dydd ee. caneuon, goglais, sblasio yn y bath, amser bwyd. � Gyda thoes chwarae, bwyd a diod rhowch ychydig bach ar y tro fod bod y plentyn yn

    debygol o ofyn am fwy. � Dechreuwch weithgaredd sy’n ysgogi’r plentyn ee swigod, ac arhoswch am eiliad i

    weld a fydd y plentyn yn dweud ‘mwy’. Unwaith eto, defnyddiwch y gair ‘mwy’ yn aml yn enwedig os nad yw’r plentyn wedi dechrau ei ddweud.

    � Adeiladwch dyrrau o flociau neu bostiwch bethau mewn bocs, dywedwch ‘mwy?’ a

    daliwch floc i fyny gan annog y plentyn i’ch dynwared pan fydd e’n ymestyn am y bloc. � Rhowch arian tegan mewn cadw-mi-gei, postiwch lythyrau mewn blwch llythyrau ac ati

    a gofynnwch ‘Mwy?’ bob tro. � Chwythwch falŵn yn araf, a rhwng pob anadliad gofynnwch ‘Mwy?’ cyn parhau. � Mae’r gêm hwyaid lwcus neu gêmau pysgota yn gyfle i gyflwyno sawl esiampl o’r gair

    ‘mwy’. � Defnyddiwch deganau sy’n gwneud rhywbeth neu deganau ymatebol ee teganau

    meddal sy’n canu, er mwyn cymell y plentyn i ddefnyddio’r gair ‘mwy’.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 43

    Lan: Fel yn achos y geiriau targed eraill a drafodwyd uchod, cofiwch gynnwys y gair ‘lan’ mewn sefyllfaoedd a sgyrsiau pob dydd. Gallwch wneud ystum ee symud eich llaw tuag i fyny. � Chwaraewch gemau fel codi’ch plentyn i fyny ac i lawr gan ddweud ‘lan’ wrth i chi ei

    godi. � Pryd bynnag y bydd y plentyn am gael ei godi, ewch i lawr at ei lefel e a dywedwch

    ‘un, dau, tri …” ac yna oedi i aros iddyn nhw ddweud “lan!” cyn i chi eu codi. � Mae teganau sy’n dringo yn gyfle da i ailadrodd ‘lan’ ee mwnci tegan sy’n dringo i fyny

    wal neu goeden. Dywedwch ‘lan’ bob tro mae’n mynd i fyny. Arhoswch i weld a fydd y plentyn yn eich dynwared, yna dechreuwch y gêm eto. Gellir chwarae’r gêm hon gyda llithren, ysgol, dodrefn ac ati.

    � Gallech adeiladu blociau a dweud ‘lan’ bob tro y bydd bloc newydd yn cael ei

    ychwanegu. Bwriwch y tŵr i lawr, dywedwch ‘lawr!’ a dechreuwch eto. � Gallech chwythu swigod i fyny neu i lawr. Rhowch ddewis i’r plentyn: “Swigod lan neu

    lawr?” a phwysleisiwch y ddau air. Yn nes ymlaen gallech ofyn i’r plentyn “Ble wyt ti am i ni chwythu’r swigod?’

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 44

    Berfau Fel rheol, disgrifir berfau yn eiriau sy’n ‘gwneud’ rhywbeth, er enghraifft, cysgu, eistedd, bwyta, yfed, brwsio, cerdded, neidio, rhedeg. Mae dysgu berfau’n anoddach na dysgu enwau, oherwydd eu bod nhw’n cyfeirio at wneud pethau yn hytrach nag at bethau sydd i’w gweld a’u cyffwrdd. 1. Gallech wneud i ddolis a thedis neu ‘action man’ i gyflawni

    llawer o bethau gwahanol ee bwyta, cysgu, dringo. Mae chwarae yn gyfle da i ailadrodd geiriau fel ‘tedi yn bwyta afal’ ac ati.

    2. Mae caneuon a hwiangerddi yn aml yn cynnwys berfau ee ‘Dyma sut ryn ni’n neidio

    lan” ac ati. Gallech adael bwlch i’r plentyn ei lenwi ee “Dyma sut ryn ni’n ____ lan”. Gallech greu penillion eraill ee ‘Dyma sut ryn ni’n cerdded i’r siop”.

    3. Mae gemau fel ‘Mae Seimon yn dweud’ neu ‘Gwnewch yr un fath â fi’ yn ddefnyddiol i

    gysylltu’r geiriau â gweithgareddau go-iawn ee “Dadi neidio’, “Mari neidio”. 4. Gallech ddefnyddio llyfrau lluniau syml i ddysgu enwau pethau i blant. Gallech

    ddefnyddio’r lluniau gyda berfau ee “ci yn eistedd”, “cath yn cysgu”. Gwnewch lyfr sgrap o bobl yn gwneud gwahanol bethau, dynwaredwch nhw eich hun a gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn eu deall.

    5. Mae rhoi dewis yn ffordd dda o annog geiriau newydd ee “Wyt ti am i fi daflu neu

    gicio’r bêl?”. Pwysleisiwch y berfau wrth i chi eu dweud. 6. Os bydd y plentyn yn ymateb gyda gweithred neu ystum, derbyniwch yr ymateb

    hwnnw ac ychwanegwch y geiriau eich hun ee “Ie, tedi’n neidio”. 7. Rhowch ddau degan i’r plentyn a gofynnwch iddo orffen gorchmynion ee “gwna tedi i

    ddawnsio”, “rho doli i eistedd”. Unwaith eto dangoswch sut mae gwneud os yw’r plentyn yn ansicr neu ddim yn deall rhywbeth ar ôl ei ailadrodd.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 45

    Dilyn cyfarwyddiadau (Lefel 1 gair)

    Mae angen i blant ddeall geiriau cyn y gallan nhw eu defnyddio. Rhowch 2 - 3 eitem gyfarwydd (neu ffotograffau neu luniau) o flaen y plentyn. Daliwch eich llaw allan a gofynnwch am un o’r eitemau. Dywedwch ‘pêl’ (does dim angen dweud ‘dere â pêl i fi’ neu unrhyw beth arall yn y cam hwn, oherwydd gall gormod o eiriau fod yn anodd iddyn nhw eu deall). Edrychwch yn ddisgwylgar a dywedwch y gair fwy nag unwaith lle bo angen. Os byddan nhw’n rhoi’r eitem iawn i chi, rhowch ganmoliaeth iddyn nhw. Bob 2-3 gwaith y bydd y plentyn yn gwneud y dewis iawn gallech roi gwobr iddo (ee darn o bos neu dro ar chwarae gêm, chwythu swigod ac ati). Gyda gwobr, mae’r plentyn yn fwy tebygol o gael ei ysgogi i gyflawni’r dasg, ond byddwch yn ofalus nad yw’n colli diddordeb ynddi. Os cewch chi ddim byd gan y plentyn, rhowch gynnig ar y canlynol: a) Defnyddiwch symbol neu ffotograff o’r eitem a daliwch e’n agos at eich llaw agored i

    gymell y plentyn. Enwch yr eitem yr ydych am i’r plentyn ei roi i chi. b) Dangoswch y wobr y bydd y plentyn yn ei chael os bydd

    yn rhoi’r eitem iawn i chi, ond daliwch y wobr oddi wrtho ac enwch yr eitem yr ydych am ei chael unwaith eto. Cofiwch ddal eich llaw allan fel cliw bod angen iddo roi rhywbeth i chi.

    c) Ailadroddwch y cyfarwyddyd a chydiwch yn llaw’r plentyn er mwyn iddo godi’r eitem a’i rhoi yn eich llaw agored. Canmolwch y plentyn ar unwaith a rhowch wobr iddo hefyd (fel uchod).

    • Dechreuwch drwy gyflwyno eitemau cyfarwydd neu gyffredin (neu ffotograffau neu

    luniau). Yn nes ymlaen gallech gyflwyno eitemau llai cyfarwydd. • Pan fydd y plentyn yn medru adnabod yr hyn mae am ei gael gennych chi o blith 2-3

    eitem, rhowch gynnig ar roi 4-6 eitem o’i flaen a gofyn iddo ddewis un. NODER: mae pethau cyfarwydd yn cynnwys pethau y mae’r plentyn yn eu hadnabod yn dda ac sydd i’w gweld bob dydd ee cwpan, fforc, llwy, cadair, pêl, het, esgid, allwedd, pensil, llyfr ac ati.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 46

    CCYYFFUUNNOO GGEEIIRRIIAAUU

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 47

    Annog Cyfuniadau o Ddau Air

    Bydd dysgu rhoi dau air gyda’i gilydd yn helpu’r plentyn i ddefnyddio iaith mewn amrywiaeth ehangach o sefyllfaoedd. Dyma rai rhesymau dros fod angen i’r plentyn gyfuno 2 air: 1. Gofyn: ee. “eisiau bisged”.

    Rhai geiriau pwerus ar gyfer y grŵp hwn yw berfau ee ‘eisiau’, ‘dod’, ‘mynd’, ‘cael’ a geiriau fel ‘mwy.

    2. Gwrthod ee. “dim mwy”.

    Rhai geiriau pwerus ar gyfer y grŵp hwn yw geiriau negyddol fel “na”, “methu”, neu “paid”.

    3. Gwneud sylwadau: ee “car coch”.

    Rhai geiriau pwerus ar gyfer y grŵp hwn yw geiriau sy’n disgrifio, ee lliwiau, maint, golwg.

    4. Rhesymau cymdeithasol: ee. “ta-ta mami”.

    Rhai geiriau pwerus ar gyfer y grŵp hwn yw geiriau rydyn ni’n eu defnyddio ee i gyfarch a ffarwelio ac i fod yn gwrtais.

    Addysgu Cyfuniadau o Ddau Air: Dewiswch rai cyfuniadau targed y credwch chi fydd yn ddefnyddiol i’r plentyn, fydd yn dod â budd iddyn nhw ac yn cynnwys geiriau maen nhw eisoes yn eu gwybod. Er enghraifft, yn achos plentyn sy’n hoff o’i dedi, gallech chi ei annog i ddweud “tedi fi”, “tedi mwy”, neu “tedi edrych!” Ceisiwch feddwl am un cyfuniad o bob categori a gweithio ar y rheini hyd nes byddan nhw wedi ymwreiddio. Gweler isod y camau ar gyfer addysgu eich dewis o gyfuniadau: 1. Ceisiwch roi’ch ymadroddion dewisol mewn sefyllfaoedd pob dydd. Efallai y bydd yn help i chi

    ddefnyddio cliwiau gweledol yn ogystal â geiriau ee codi llaw ar gyfer ‘ta-ta’ ac ysgwyd eich pen ar gyfer ‘na’. Ceisiwch ddefnyddio iaith syml a phwysleisio’r geiriau targed. Gwnewch hyn mor aml â phosibl fel bod y plentyn yn cael digon o gyfle i glywed yr ymadroddion yn cael eu defnyddio.

    2. Ceisiwch gynnwys yr ymadroddion hyn mewn ‘gemau’ ee gallech wthio car o gwmpas a’i

    annog i ddweud ‘car mwy’. Gallech hefyd wobrwyo drwy ddefnyddio’r geiriau targed gyda gwobrau naturiol ee bydd “eisiau diod” yn golygu fod y plentyn yn cael rhagor o ddiod.

    3. Pan fydd y plentyn yn medru defnyddio’r cyfuniadau hyn o eiriau mewn gweithgaredd gallech

    ddechrau amlhau’r ymadroddion fel bod disgwyl i’r plentyn eu defnyddio mewn sefyllfaoedd pob dydd. Gallech annog hyn drwy ee ddal tegan yn ôl fel bod yn rhaid i’r plentyn ofyn amdano, neu roi rhywbeth i’r plentyn nad yw am ei gael fel ei fod yn ei wrthod.

    4. Ailadroddwch eiriau gweithred yn aml mewn gemau fel ‘Mae Seimon yn dweud’ a gemau pob

    dydd ee chwarae yn y parc, ‘Sali neidio’, ‘Sali eistedd’ ac ati.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 48

    Mawr a bach

    Mae ‘mawr’ a ‘bach’ yn gysyniadau cynnar i blant. Maen nhw’n bwysig i ddatblygu iaith oherwydd pan fydd plant yn medru defnyddio’r geiriau hyn gallan nhw ddechrau rhoi geiriau eraill atyn nhw ee “tedi mawr”. Gweler isod rai syniadau sut y gallwch chi ddysgu plentyn i ddweud ‘mawr’ a ‘bach’. � Defnyddiwch y geiriau hyn i ddisgrifio eitemau pob dydd a phwysleisiwch ‘mawr’/’bach’

    yn eich brawddegau. Ee wrth roi trefn ar y golch gallwch siarad am sanau mawr dadi sanau bach Jac.

    � Wrth gael diod siaradwch am gwpanau mawr a chwpanau bach neu wrth chwarae

    gyda theganau siaradwch am dedi mawr/bach neu ddoli fawr/bach. � Trefnwch wahanol eitemau yn ôl maint. Bydd arnoch angen cynhwysydd ar gyfer

    pethau mawr ac un arall ar gyfer pethau bach. Siaradwch am bob eitem a’i faint ac anogwch y plentyn i’w roi yn y cynhwysydd iawn. Dyma rai syniadau ar gyfer eitemau y gallech eu defnyddio: - Llwyau - Blociau - Peli - Darnau o does chwarae

    � Pan fydd y plentyn yn medru DEALL a gwahaniaethu rhwng pethau mawr a bach ee yn ateb yn gywir os byddwch yn dangos eitem fawr ac eitem fach iddo a gofyn iddo ‘Ble mae’r un mawr?” Gallech symud ymlaen wedyn i’w hannog i DDEFNYDDIO’R geiriau hyn. � Fel o’r blaen, defnyddiwch eitemau mawr a bach ond y tro hwn anogwch y plentyn i ddisgrifio’r llun. Os bydd yn ei enwi, rhowch ddewis iddo ee “Ydy e’n fawr neu'n fach?”. Gallwch hefyd roi esiampl o’r ymadrodd cywir iddo os yw’n cael anhawster ee. “Ie! Tedi MAWR!”.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 49

    Arddodiaid Geiriau sy’n dynodi lle yw arddodiaid ac maen nhw’n cynnwys: ar, mewn, o dan, tu ôl, nesaf at, tu blaen. Deall arddodiaid : • Byddwch angen 2 gwpan/bocs. Rhowch un a’i ben i lawr. Byddwch angen bloc

    hefyd. • Gofynnwch i’r plentyn roi’r bloc naill ai ‘mewn’ neu ‘ar’ ee. “Rho’r bloc i mewn yn y…”

    (neu ‘ar y…’ ). Os bydd yn gywir, rhowch ganmoliaeth iddo. Bob 2-3 gwaith y bydd y plentyn yn gwneud y dewis iawn gallech roi gwobr iddo (ee darn o bos neu dro ar chwarae gêm, chwythu swigod ac ati). Gyda gwobr, mae’r plentyn yn fwy tebygol o gael ei ysgogi i gyflawni’r dasg. Os yw’n anghywir, cydiwch yn y bloc a dangoswch iddo gan ddweud y gair ‘mewn’ yn glir. • Pan fydd y plentyn yn medru dilyn eich cyfarwyddiadau’n dda, gallwch symud ymlaen

    i’r arddodiad nesaf ar y rhestr uchod (ee o dan) ac ymarfer yn yr un modd. Cofiwch beidio â gweithio ar fwy na dau arddodiad yr un pryd, ee ‘mewn’ ac ‘ar’, ‘ar’ ac ‘o dan’, ‘o dan’ a’r ‘tu ôl’, ac ati.

    Defnyddio arddodiaid : Pan fydd y plentyn yn medru dilyn eich cyfarwyddiadau uchod ar gyfer sawl arddodiad… • Gofynnwch iddo enwi’r arddodiad yr ydych chi’n ei ddangos, ee rhowch floc ‘ar’

    gwpan/bocs a gofynnwch ‘Ble mae’r bloc?’. Os bydd y plentyn yn ateb yn gywir, rhowch ganmoliaeth a gwobr iddo (fel uchod). Os nad yw’n ateb yn gywir, gofynnwch ‘Ble mae’r bloc… ydy e ar y bocs neu o dan y bocs?’ neu gofynnwch “Ar neu o dan y bocs?” a phwyntiwch at y bloc. Os yw hyn yn dal yn rhy anodd, efallai y bydd angen i chi ddangos drwy roi’r bloc ar y cwpan a gofyn “Ble mae e?…Ydy e ar y cwpan?” Drwy wneud hyn rydych chi’n rhoi esiampl o’r cwestiwn ac yn dangos y ffordd fwyaf priodol o’i ateb. Yna rhowch y bloc yn y cwpan a gofynnwch ‘”Ble mae e?” ac arhoswch am ymateb. NODER: Gallech ddefnyddio eitemau eraill i ymarfer arddodiaid ee tedi a chadair, pêl a bocs ac ati cyn belled â bod gennych un eitem sy’n cael ei rhoi yn rhywle.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 50

    CCYYNNLLLLUUNNIIAAUU AARR

    GGYYFFEERR SSEESSIIYYNNAAUU

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 51

    Cynlluniau Chwarae Unigol i Hybu Cyfathrebu

    Gall plant sy’n araf yn dysgu iaith gael budd o sesiynau unigol byr gydag oedolyn i hybu’r sgiliau cyfathrebu. Ar y tudalennau nesaf cewch gyngor ynghylch cynnal sesiwn lwyddiannus. Yn aml iawn nid yw plant ag anawsterau cyfathrebu yn medru canolbwyntio am gyfnod hir a dydyn nhw ddim yn gwrando’n dda iawn, felly mae’n bwysig trefnu’r sesiwn yn ofalus.

    Lleoliad y sesiwn: • Dewiswch le cymharol dawel, heb fod yno ormod o bethau i dynnu sylw. • Gwnewch yn siŵr fod y ddau ohonoch yn gyffyrddus. Gallech weithio ar fat ar y llawr

    neu ar gadeiriau wrth ford fach. • Gallai lefel y golau fod yn bwysig i blentyn â nam ar y synhwyrau.

    Amser y sesiwn: • Dewiswch adeg o’r dydd pan fydd y plentyn yn fwy effro. • Ni ddylai’r sesiwn bara am fwy na 10-15 munud. Os yw’r plentyn yn cael anhawster i

    ganolbwyntio a gwrando gallai’r sesiwn beidio â bod dim mwy na 5 munud i ddechrau.

    • Mae ymarfer bob dydd yn fwy buddiol na sesiynau hir. • Weithiau bydd y plentyn yn colli diddordeb ac efallai y bydd angen ail-drefnu’r sesiwn

    ar adeg arall, ond mae’n bwysig nad ydych yn gadael i’r plentyn eithrio’i hun o weithgaredd ffurfiol yn rhy aml.

    Cyfarpar/Teganau: • Dewiswch deganau sy’n addas i lefel datblygiad y plentyn ac a fydd yn ei ysgogi ee

    efallai y bydd plentyn teirblwydd yn y cam archwilio wrth ei fodd â phethau y gall eu cyffwrdd.

    • Cadwch yr holl gyfarpar o’r golwg mewn bocs – bydd hyn yn eich helpu chi reoli’r sesiwn. Tynnwch nhw allan un ar y tro a dangoswch ddiddordeb yn y tegan ei hun.

    • Peidiwch fyth a dychwelyd at degan pan fydd y sesiwn ar ben. Mae’n bwysig fod plant yn dysgu gorffen gweithgareddau.

    • Gwnewch yn glir fod y gweithgaredd ar ben drwy ganmol y plentyn a dweud/arwyddo ‘wedi gorffen’ a rhoi’r tegan i gadw.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 52

    Trefn y sesiwn: • Dechreuwch y sesiwn yn yr un ffordd bob tro, fel bod y plentyn yn dysgu’r drefn. • Dylai’r gweithgaredd cyntaf dynnu sylw’r plentyn fel ei fod yn barod i eistedd ac

    edrych. • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod trefn y gweithgareddau i gadw’r sesiwn i lifo

    ac i ennyn diddordeb y plentyn drwy gydol y sesiwn. • Cofiwch orffen y sesiwn yn yr un ffordd bob tro gyda rhywbeth y mae’r plentyn yn ei

    fwynhau.

    Yr oedolyn: • Cadwch eich iaith ar lefel y plentyn ee geiriau unigol. • Byddwch yn llon a bywiog. • Rhaid i’r sesiwn fod yn hwyl i’r ddau ohonoch. • Defnyddiwch ystumiau/arwyddion i ategu’r hyn rydych chi’n ei ddweud.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 53

    Y Camau Cyfathrebu Cyntaf Cam 1: Cyfathrebu Cyn-fwriadol

    Yn y cam cyfathrebu cyn-fwriadol bydd plentyn yn ymateb i newid yn ei gorff ei hun (cysur/anghysur) a newidiadau yn yr amgylchedd o’i gwmpas ee oerfel, sŵn. Ni all y plentyn reoli’r adweithiau hyn ac nid yw’n anfon negeseuon bwriadol hyd yma. Bydd rhiant neu ofalwr yn dehongli symudiadau a seiniau’r plentyn ac yn ceisio diwallu ei anghenion. Mae’r plentyn yn dysgu gwneud synnwyr o’r byd ac yn storio profiadau. Mae’r gofalwr a’r plentyn hefyd yn dysgu ymwneud â’i gilydd a datblygu perthynas. Cam 2: Cyfathrebu drwy Ragweld Bydd y plentyn yn dechrau cofio digwyddiadau rheolaidd ac yn dangos ei fod yn rhagweld beth fydd yn digwydd nesaf. Mae rhagweld pethau yn dangos fod y plentyn yn cofio digwyddiad. Pan fydd y plentyn yn medru cyflwyno neges drwy gyfrwng ystum a mynegiant wynebol, yna mae’n datblygu cyfathrebu bwriadol. Cam 3: Cyfathrebu Bwriadol Mae plant sy’n cyfathrebu’n fwriadol wedi ennill rhai sgiliau allweddol sy’n cynnwys: • Rhoi sylw i berson arall am gyfnod byr • Cyd-sylwi gyda pherson arall • Cymryd eu tro • Defnyddio a deall cyfathrebu nad yw’n gyfathrebu llafar ee dal llygaid, mynegiant

    wynebol, pwyntio, goslef y llais • Defnyddio a deall amryw o leisiadau Nod y cynlluniau canlynol yw datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar blentyn i symud o’r cam cyfathrebu bwriadol i ynganu ei eiriau cyntaf.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 54

    Sampl o Gynlluniau ar gyfer Sesiynau

    Y Cyfathrebydd Cynnar

    Sesiwn Un

    Y cyfarpar sydd ei angen: � Tegan sydd addas i oed y plentyn � Cwdyn o ddeunyddiau o wahanol weadau � Swigod � Balwnau � Darn o ddefnydd � Pethau sy’n gwneud sŵn wrth eu hysgwyd Gweithgaredd rhagarweiniol: � Nod: Hybu achos ac effaith. � Dechreuwch gyda thegan diddorol ee un ag iddo sŵn a golau. Dywedwch enw’r

    plentyn ac anogwch e i ddal eich llygaid (wyneb yn wyneb). Chwaraewch gyda’r tegan sawl gwaith ac edrychwch ar ymateb y plentyn. Oedwch wrth chwarae ac arhoswch i’r plentyn ymateb. Dehonglwch yr ymateb fel “mwy” (dywedwch y gair hefyd) a gwnewch i’r tegan weithio eto. Gwnewch hyn fwy nag unwaith.

    � All y plentyn wneud i’r tegan weithio? Anogwch hyn drwy ddal eich llaw’n dyner dros law’r plentyn i’w helpu i bwyso’r botymau.

    Gweithgaredd dau: � Nod: Annog sgiliau chwarae drwy archwilio. � Trefnwch fod gennych gwdyn o ddeunyddiau o wahanol weadau a phriodoleddau wrth

    law ee golau, sain, crynu. Tynnwch yr eitemau allan fesul un a daliwch nhw o flaen y plentyn. All y plentyn ymestyn am yr eitemau? Os byddwch yn ei symud o ochr i ochr neu lan a lawr a all y plentyn ei ddilyn wrth iddo symud?

    � Gadewch i’r plentyn gyffwrdd a’r eitemau a’u harchwilio. Nodwch y teimladau roddodd bleser i’r plentyn a’r rhai nad oedd yn eu hoffi. Mwynhewch chwarae gyda’r deunyddiau a dilynwch arweiniad y plentyn.

    Gweithgaredd tri: � Nod: Helpu’r plentyn i leisio ac i ystumio. � Defnyddiwch swigod a balwnau i dynnu sylw’r plentyn ac i annog lleisiadau. � Chwythwch lawer o swigod i ddechrau fel bod y plentyn yn eu gweld a’u teimlo.

    Daliwch ambell un ar y ffon a gadewch i’r plentyn eu byrstio. Pwyntiwch tuag i fyny wrth chwythu swigod. Dywedwch “lan, lan” neu “lawr, lawr”. Arhoswch i weld a fydd y plentyn yn dangos ei fod eisiau mwy ee drwy ddal eich llygaid, ystumio, lleisio ac ati yna chwythwch ragor o swigod.

    � Mae’n hwyl arbrofi gyda balwnau ac mae’n ffordd wych o dynnu sylw plentyn ar eich wyneb. Chwythwch y falŵn a gadewch y gwynt allan ohoni sawl tro. Chwythwch y falŵn yna gadewch hi’n rhydd iddi wneud sŵn chwibanu. Chwythwch y falŵn a chlymwch hi er mwyn i’r plentyn gydio ynddi.

    � Dynwaredwch unrhyw synau a wna’r plentyn er mwyn ei ysgogi i leisio.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 55

    Gweithgaredd pedwar: � Nod: Hybu sgiliau dal llygaid a chymryd tro. � Chwaraewch ‘pi-po’ gyda darn o ddefnydd lliwgar ac ysgafn. Rhowch y defnydd dros

    eich pen a gadewch i’r plentyn dynnu’r defnydd ymaith. Dywedwch ‘pi-po!’ mewn ffordd fywiog. Os bydd y plentyn yn gadael i chi wneud hynny, rhowch y defnydd dros ei ben yntau fel y gallwch chi gymryd tro.

    Gweithgaredd pump: � Nod: Datblygu sgiliau gwrando. � Helpwch y plentyn i ddatblygu sgiliau gwrando drwy archwilio synau ee taclau ysgwyd

    tawel/swnllyd. Cyflwynwch synau cyferbyniol ee gwnewch sŵn uchel ac arhoswch 10 eiliad cyn gwneud yr un sŵn eto.

    � Rhowch offer fel taclau ysgwyd a chlychau i’r plentyn. Chwaraewch fiwsig a gadewch i’r plentyn ymuno gyda’r offeryn. Pan fydd y miwsig yn peidio dylai’r plentyn beidio hefyd. Arhoswch ychydig bach cyn gwneud yr un gweithgaredd eto.

    Gweithgaredd ymdawelu: � Dewch â’r sesiwn i ben drwy ganu caneuon sy’n golygu bod wyneb yn wyneb ac sydd

    â gweithred hefyd ee ‘Olwynion ar y bws’, ‘Gee ceffyl bach’, ‘Mi welais Jac y Do’, ‘Dewch am dro i Fferm Tad-cu’. Arafwch y geiriau a byddwch yn fywiog. Pan fydd y plentyn yn gyfarwydd â’r gân gallwch oedi i weld a fydd yn ymuno ee gyda seiniau ‘i-ai-i-ai-o”, lleisiadau, ystumiau.

    � Gallech greu can ‘ffarwél’ i ddangos fod y sesiwn wedi dod i ben.

  • © 2008 Clare Price, Emily Evans, Suzy Brown 56

    Sesiwn Dau Y cyfarpar sydd ei angen: � Anifeiliaid tegan � Drych � Torts � Peli � Hetiau Gweithgareddau: 1. Anifeiliaid tegan sy’n gwneud synau. 2. Drych a thorts, defnyddiau llachar. Arbrofi gyda golau a gwneud wynebau/synau yn y

    drych. 3. Pasio peli yn ôl ac ymlaen. 4. Rhoi peli gweadog neu sachau ffa mewn cynwysyddion neu eu tynnu allan. 5. Tynnu hetiau neu eu gwisgo. Cymryd tro. 6. Canu caneuon a rhigymau.

    Sesiwn Tri Y cyfarpar sydd ei angen: � Bwyd tegan � Pyped � Pibell � Peli � Teganau � Lliain � Sachau ffa a chynwysyddion � Pypedau bysedd Gweithgareddau: 1. Bwydwch fwyd tegan i byped. Gwnewch lawer o synau fel ‘iym, iym’, ‘aw! ‘twym’, ‘brrr,

    oer!’, ‘mmm, neis’, ‘ych! cas’. 2. Anfonwch eitemau bach i lawr y bibell. Anogwch y plentyn i ddal eich llygaid