2
Dywedodd bobl Cymru IE wrth bleidleisio o blaid cryfhau’r Cynulliad yn y ref- ferendwm ar y 3ydd o Fawrth. Am rhy hir, roedd y sustem wedi costio gormod o arian a gwastraffu amser. Roedd pethau pwysig fel gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoed- dus, sicrhau tai fforddiadwy, rhoi sprinclyrs yn erbyn tân mewn tai newydd yn cymryd blynyddoedd i gael eu derbyn oherwydd gormod o fynd nôl a ‘mlaen i San Steffan. Mae’r ffaith erbyn hyn na fydd yn rhaid gofyn am ganiatâd San Steffan i gyflwyno dedd- fau er lles Cymru yn gam mawr ymlaen i ddemocrati- aeth yng Nghymru. Mae’r Blaid yn credu y dylai deddfau sydd ‘mond yn effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Dros wythnosau nesaf yr ymgyrch ar gyfer yr etholiad ar y 5ed o Fai, bydd Plaid Cymru’n cyflwyno ei gweledigaeth am greu Cymru well. Rŵan fod gennym Gynulliad mwy pwerus, gall y Blaid wireddu rhai o’u syniadau radical ar gyfer trawsnewid Cymru. Yn y Rhifyn yma: Pob Plentyn yn Cyfri’ . Bydd y Blaid yn sicrhau bod ein plant yn cael y sgiliau sylfaenol yn iawn Ieuan Wyn Jones yn trafod blaenoriaethau’r Blaid sef creu swyddi a chodi safonau Ymunwch gyda ni.... Dydd Iau y 5ed o Fai 2011 yw diwrnod etholiad Cymru. Dyma’ch cyfle i bleidleisio am lywodraeth uchelgeisiol i Gymru. Ar y 5ed o Fai, rhowch ddwy groes i’r Blaid dros Gymru well. ‘Mae gennym Gynulliad mwy pwerus. Nawr rhaid bwrw ati gyda’r gwaith’ meddai Arweinydd Plaid Cymru Plaid. Dros Gymru well. I gael mwy o wybodaeth am ein polisïau uchelgeisiol dros Gymru well, ewch i: Etholiad Cymru yw hwn, a’ch cyfle chi i helpu i newid ein gwlad er gwell. Nawr fod gennym Gynulliad cryfach, rhaid i ni roi blaenoriaeth dros y blynyddoedd nesaf i’w ddef- nyddio i’w lawn botensial - gwella safonau mewn ysgolion a chreu swyddi o safon ym mhob cwr o Gymru. Yn yr am- seroedd heriol hyn, mae ar Gymru angen plaid gref ac uchelgeisiol mewn llywodra- eth, nid mwy o’r un fath gan y lleill. Petai popeth yn eu dwylo hwy, buasai Llafur yn parhau i adael i Gymru fod ar ei hôl hi. Mae ar Gymru angen y Blaid mewn llywodraeth. Rydym wedi dangos beth fedrwn wneud i amddiffyn Cymru yn ystod y blynyddoedd anodd, ac mae bellach yn bryd gwneud mwy. Rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau mewn ysgolion, creu swyddi newydd a gwella ein hysbytai. Os ydych eisiau llywodraeth uchelgeisiol yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r gwaith, yna pleidleisiwch drosti. Yn etholiad Cymru, pleidleisiwch i Blaid Cymru – dros Gymru well. www.plaidcymru.org Talwyd am y daflen hon gan y Blaid. Caiff y daflen ei dosbarthu gan wirfoddolwyr yn eich cymuned sydd am weld Cymru well. Dros Gymru Well Cymru’n Dweud Ie!

For a Better Wales

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Plaid Cymru's national newspaper

Citation preview

Page 1: For a Better Wales

Dywedodd bobl Cymru IE wrth bleidleisio o blaid cryfhau’r Cynulliad yn y ref-ferendwm ar y 3ydd o Fawrth. Am rhy hir, roedd y sustem wedi costio gormod o arian a gwastraffu amser. Roedd pethau pwysig fel gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoed-dus, sicrhau tai fforddiadwy, rhoi sprinclyrs yn erbyn tân mewn tai newydd yn cymryd blynyddoedd i gael eu derbyn oherwydd gormod o fynd nôl a ‘mlaen i San Steffan.

Mae’r ffaith erbyn hyn na fydd yn rhaid gofyn am ganiatâd San Steffan i gyflwyno dedd-fau er lles Cymru yn gam mawr ymlaen i ddemocrati-aeth yng Nghymru. Mae’r Blaid yn credu y dylai deddfau

sydd ‘mond yn effeithio ar Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Dros wythnosau nesaf yr ymgyrch ar gyfer yr etholiad ar y 5ed o Fai, bydd Plaid Cymru’n cyflwyno ei gweledigaeth am greu Cymru well. Rŵan fod gennym Gynulliad mwy pwerus, gall y Blaid wireddu rhai o’u syniadau radical ar gyfer trawsnewid Cymru.

Yn y Rhifyn yma: Pob Plentyn yn Cyfri’. Bydd y Blaid yn sicrhau bod ein plant yn cael y sgiliau sylfaenol yn iawn

Ieuan Wyn Jones yn trafod blaenoriaethau’r Blaid sef creu swyddi a chodi safonau

Ymunwch gyda ni....

Dydd Iau y 5ed o Fai 2011 yw diwrnod etholiad Cymru. Dyma’ch cyfle i bleidleisio am lywodraeth uchelgeisiol i Gymru.

Ar y 5ed o Fai, rhowch ddwy groes i’r Blaid dros Gymru well.

‘Mae gennym Gynulliad mwy pwerus. Nawr rhaid bwrw ati gyda’r gwaith’ meddai Arweinydd Plaid Cymru

Plaid. Dros Gymru well.

I gael mwy o wybodaeth am ein polisïau uchelgeisiol dros Gymru well, ewch i:

Etholiad Cymru yw hwn, a’ch cyfle chi i helpu i newid ein gwlad er gwell. Nawr fod gennym Gynulliad cryfach, rhaid i ni roi blaenoriaeth dros y blynyddoedd nesaf i’w ddef-nyddio i’w lawn botensial - gwella safonau mewn ysgolion a chreu swyddi o safon ym mhob cwr o Gymru. Yn yr am-seroedd heriol hyn, mae ar Gymru angen plaid gref ac uchelgeisiol mewn llywodra-eth, nid mwy o’r un fath gan y lleill. Petai popeth yn eu dwylo hwy, buasai Llafur yn parhau i adael i Gymru fod ar ei hôl hi. Mae ar Gymru angen y Blaid

mewn llywodraeth. Rydym wedi dangos beth fedrwn wneud i amddiffyn Cymru yn ystod y blynyddoedd anodd, ac mae bellach yn bryd gwneud mwy. Rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau mewn ysgolion, creu swyddi newydd a gwella ein hysbytai. Os ydych eisiau llywodraeth uchelgeisiol yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r gwaith, yna pleidleisiwch drosti.

Yn etholiad Cymru,

pleidleisiwch i Blaid Cymru – dros Gymru well.

www.plaidcymru.org

Talwyd am y daflen hon gan y Blaid. Caiff y daflen ei dosbarthu gan

wirfoddolwyr yn eich cymuned sydd am weld Cymru well. Dros Gymru Well

Cymru’n Dweud Ie!

Page 2: For a Better Wales

Ni fydd yr un plentyn yn gadael yr ysgol gynradd h e b a l l u d a r l l e n , ysgrifennu a chyfrif.

Ar hyn o bryd mae gormod o

blant yn gadael yr ysgol heb feddu ar y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i lwyddo - all hyn ddim parhau. Bydd cynllun addysg y Blaid, Pob Plentyn yn Cyfrif, yn codi safonau yn ein hysgolion ac yn gofalu fod ein plant yn mynd i’r afael â’r sylfeini. Meddai arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones: “Rwy’n sicr mai gwella addysg ein plant yw’r un pwnc pwysicaf os ydym a m s i c r h a u l l w y d d i a n t economaidd Cymru yn y degawdau i ddod. Mae plant Cymru yn haeddu’r sustem

addysg orau yn y byd a rhaid i hyn gychwyn gyda gofalu fod gan ein plant y sylfeini. Fel rhiant a thaid, rwy’n fwy penderfynol nac erioed o sicrhau y caiff cenedlaethau’r dyfodol y cychwyn gorau posib mewn bywyd. Ymhen degawd, rwyf am fedru edrych yn ôl ar y modd y gosododd 2011 Gymru ar lwybr

newydd - llwybr sy’n gweld Cymru hyderus yn ein gallu ein hunain i wella bywydau pobl ein cenedl. Dylai 2011 fod yn flwyddyn pryd y cymerwyd camau pendant i godi safonau addysgol fydd yn help i ddatblygu ein heconomi a chreu gwell cymdeithas.”

Pob plentyn yn cyfrif i Blaid Cymru

Bydd cynllun swyddi newydd y Blaid yn helpu i godi Cymru ar ei thraed yn y blynyddoedd heriol o’n blaenau.

Mewn llywodraeth, mae camau pendant y Blaid wedi arbed miloedd o swyddi yn ystod y dirwasgiad caled. Bydd ein cynllun dros y 4 blynedd nesaf yn helpu Cymru i ddod ati’i hun

t r w y ’ r b l y n y d d o e d d a n o d d o ’ n blaenau. Bydd Cynllun Swyddi Newydd y Blaid yn help i greu miloedd o swyddi newydd ym mhob rhan o’r wlad. Plaid Cymru yw’r u n i g b l a i d llywodraeth yng Nghymru sydd wedi derbyn fod ein heconomi yn tangyflawni, fod yn rhaid iddi

wneud yn well ac y gall wneud hynny. Mae’r Blaid eisiau gweld cyfoeth yn tyfu yng Nghymru, nid fel diben ynddo’i hun, ond er m w y n t r a w s n e w i d l l e s economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol teuluoedd a chymunedau. Gwyddom o brofiad chwerw pa effaith gaiff diweithdra a swyddi gwael ar iechyd a hapusrwydd ein dinasyddion. Mae iechyd da yn

mynd law yn llaw â chyflogau da a ffyrdd da o fyw. Yn nyfnder y dirwasgiad, dangosodd y Blaid ei gwerth mewn llywodraeth. Trwy weithio gydag eraill, arbedwyd dros 10,000 o swyddi mewn mwy na 200 o gwmnïau Cymreig trwy ein cynllun cymhorthdal cyflogau a hyfforddi. Cefnogwyd 15,000 eraill o weithwyr a gollodd eu swyddi a rhai di-waith trwy ail-sgilio a hyfforddi.

Yn 2010 datgelodd y Blaid

mewn llywodraeth hefyd gynllun radical am adferiad economaidd. Gydag “Adfywio Economaidd: C y f e i r i a d N e w y d d ” , trawsnewidiwyd y modd mae llywodraeth yn cefnogi busnesau i dyfu a ffynnu. Ein haddewid am dymor nesaf y Cynulliad yw trawsnewid yr amodau i fusnesau yng Nghymru fel y gall y sector breifat ffynnu yn gynaliadwy.

Darllenwch fwy am ein polisïau trwy ymweld â www.plaidcymru.org

Rhaid mynd i’r afael â phris tanwydd

Prisiau petrol y DG yw’r rhai ail uchaf yn yr Undeb Ewro-peaidd, ac y mae’r dreth ar ddisel yn uwch nac yn unman.

Cafwyd codiad enfawr yng nghôst tanwydd yn ddiweddar - ond nid cynnydd ym mhris olew sydd i gyfrif am hyn oll. Mae’r codiad mewn TAW ym mis Ionawr a’r cynnydd ar yr un pryd yn y dreth ar danwydd, yn golygu fod modurwyr wedi gweld ychwanegu 3.5c at gost litr - a than gynlluniau lly-wodraeth y DG, bydd prisiau’n codi’n uwch fyth ym mis Ebrill pan ddaw’r codiad o 1 geiniog eto ar y dreth tanwydd i rym.

Yr ardaloedd gwledig, lle mae car yn anghenraid ac nid yn foethusrwydd, sydd yn ysgwy-ddo pen tryma’r baich hwn. Nid yw Plaid Cymru yn credu fod hyn yn deg.

Nid dim ond modurwyr teu-luol sydd yn ceisio ymdopi gyda phrisiau yn codi i’r entrychion (ar ben cyllidebau tynnach o lawer) ond mae cwmnïau cludi-ant cyhoeddus, cwmnïau bysus a thacsi hefyd yn teimlo’r straen ariannol.

Cyflwyno Rheoleiddiwr Pris Tanwydd yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â hyn, am y rheswm syml y byddai’n gosod cap ar brisiau wrth y pwmp petrol fel nad yw pobl gyffredin yn cael trafferth o ganlyniad i natur gyfnewidiol prisiau olew.

Nid dadlau yr ydym am rywbeth newydd heb ei brofi, oherwydd mae gan lawer gwlad fecanweithiau i reoleiddio pris tanwydd - mae gan Ffrainc reoleiddiwr tanwydd, ac y mae prisiau tanwydd rhanbarthol, hyd yn oed, yng Nghanada.

Cynllun swyddi newydd yn ganolog i ymgyrch y Blaid

Argraffwyd gan Trinity Mirror, Caerdydd, CF24 5HJ; hyrwyddwyd gan Plaid Cymru, Ty Gwynfor, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4AL