2
Y diweddaraf am y bartneriaeth Jim Moore, Rheolwr y Bartneriaeth, WRCRP Gan Bwyll www.ganbwyll.org Croeso i rifyn y gaeaf o Fflach Newyddion. FFLACH NEWYDDION Cylchlythyr Gan Bwyll Rhagfyr 2010 Rhifyn 05 Am gyfrannu? Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau darllen ein cylchlythyr, ond, os oes gennych unrhyw syniadau am sut i’w wella neu os hoffech gyfrannu at rifyn yn y dyfodol, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch hi ar 01792 637764. Unwaith eto, mae’r sbotolau ar ddyfodol camerâu diogelwch yn y DU gyda Heddlu Thames Valley a Chyngor Sir Swydd Rhydychen yn cytuno ar drefniant newydd lle mae camerâu ar ffyrdd y sir yn gweithio eto, dri mis yn unig ar ôl iddynt gael eu diffodd. Rydym hefyd yn croesawu canfyddiadau adroddiad newydd gan yr Athro Richard Allsop o Goleg Prifysgol Llundain ar ran Sefydliad RAC, sy’n honni y gallai 800 neu fwy o bobl gael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol bob blwyddyn ar ffyrdd Prydain petai’r holl gamerâu cyflymder sefydlog a theithiol yn cael eu digomisiynu. Rydym bob amser wedi dweud nid ar chwarae bach y dylid torri neu atal gorfodi, ac mae’r astudiaeth hon yn amlygu manteision diogelwch ffyrdd parhaus camerâu a’r canlyniadau posib os cânt eu gwaredu. Roedd hi’n galonogol gweld cynifer o’n partneriaid a’n cefnogwyr yn y lansiad diweddar o’n Hymgyrch Deadly Mates o’r DVLA a DSA. Ymunodd y fam, Angela Smith, â ni i siarad am golli ei mab Kyle, pan oedd yn deithiwr yng nghar ei ffrind. Byddai Kyle wedi bod yn 21 oed erbyn hyn ac roedd geiriau Angela’n taro deuddeg am yr hyn yw colli rhywun rydych yn ei garu, yn enwedig plentyn. Rydym yn gobeithio bod pobl ifanc ar draws Cymru yn gwrando ar y neges a pheidio ag ofni dweud wrth eu ffrindiau sy’n gyrru’n rhy gyflym neu’n esgeulus. I gloi, Nadolig llawen a blwyddyn newydd ddiogel i chi a’ch teuluoedd. Dyma gylchlythyr chwarterol Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, sy’n rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am newyddion diogelwch ffyrdd yng Nghymru. Yn y rhifyn hwn........ l DVLA a DSA yn cefnogi’r ymgyrch Deadly Mates l Mynd i’r afael â chyflymder ym Mlaendulais

Go Safe December Newsletter

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Winter Edition

Citation preview

Page 1: Go Safe December Newsletter

Y diweddaraf am y bartneriaethJim Moore, Rheolwr y Bartneriaeth, WRCRP

Gan Bwyll www.ganbwyll.org

Croeso i rifyn y gaeaf o Fflach Newyddion.

FFLACH NEWYDDIONCylchlythyr Gan Bwyll Rhagfyr 2010 Rhifyn 05

Am gyfrannu?

Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau darllen ein cylchlythyr, ond, os oes gennych unrhyw syniadau am sut i’w

wella neu os hoffech gyfrannu at rifyn yn y dyfodol, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch hi ar

01792 637764.

Unwaith eto, mae’r sbotolau ar ddyfodol camerâu diogelwch yn y DU gyda Heddlu Thames

Valley a Chyngor Sir Swydd Rhydychen yn cytuno ar drefniant newydd lle mae camerâu ar ffyrdd

y sir yn gweithio eto, dri mis yn unig ar ôl iddynt gael eu diffodd.

Rydym hefyd yn croesawu canfyddiadau adroddiad newydd gan yr Athro Richard Allsop o Goleg

Prifysgol Llundain ar ran Sefydliad RAC, sy’n honni y gallai 800 neu fwy o bobl gael eu lladd neu

eu hanafu’n ddifrifol bob blwyddyn ar ffyrdd Prydain petai’r holl gamerâu cyflymder sefydlog a

theithiol yn cael eu digomisiynu. Rydym bob amser wedi dweud nid ar chwarae bach y dylid torri

neu atal gorfodi, ac mae’r astudiaeth hon yn amlygu manteision diogelwch ffyrdd parhaus

camerâu a’r canlyniadau posib os cânt eu gwaredu.

Roedd hi’n galonogol gweld cynifer o’n partneriaid a’n cefnogwyr yn y lansiad diweddar o’n

Hymgyrch Deadly Mates o’r DVLA a DSA. Ymunodd y fam, Angela Smith, â ni i siarad am golli ei

mab Kyle, pan oedd yn deithiwr yng nghar ei ffrind. Byddai Kyle wedi bod yn 21 oed erbyn hyn

ac roedd geiriau Angela’n taro deuddeg am yr hyn yw colli rhywun rydych yn ei garu, yn enwedig

plentyn. Rydym yn gobeithio bod pobl ifanc ar draws Cymru yn gwrando ar y neges a pheidio ag

ofni dweud wrth eu ffrindiau sy’n gyrru’n rhy gyflym neu’n esgeulus.

I gloi, Nadolig llawen a blwyddyn newydd ddiogel i chi a’ch teuluoedd.

Dyma gylchlythyr chwarterol Partneriaeth Lleihau

Anafiadau Ffyrdd Cymru, sy’n rhoi’r newyddion

diweddaraf i chi am newyddion diogelwch ffyrdd yng

Nghymru.

Yn y rhifyn hwn........

l DVLA a DSA yn cefnogi’r ymgyrch Deadly Mates

l Mynd i’r afael â chyflymder ym Mlaendulais

Page 2: Go Safe December Newsletter

2Gan Bwyll www.ganbwyll.org

MYND I’R AFAEL Â CHYFLYMDER YM MLAENDULAIS

Rydym ar fin dechrau gorfodi cyflymder ar Rodfa Wembley, Onllwyn ar ôl i arolwg ganfod y ceir

cyflymder hyd at 78mya ar hyd y ffordd 30mya.

Yn dilyn pryderon a godwyd gan drigolion am oryrru, cynhaliwyd arolwg, gyda chyflymder o

43mya neu’n uwch yn cael ei gofnodi’n gyson - a nifer sylweddol yn gyrru dros ddwywaith y

cyfyngiad cyflymder.

Meddai Kate Hopkins, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yng ngorsaf heddlu Blaendulais,

“Mae hyn wedi bod yn bryder mawr i’r trigolion, nid yn unig mewn cyfarfodydd PACT ond mae

llawer wedi dod i siarad â mi pan wyf yn cerdded ar hyd y strydoedd. Mae hon yn ardal adeiledig

gyda cheir wedi parcio ar y ddwy ochr a chlwb lles prysur ar y ffordd. Mae llawer o ddamweiniau

bron wedi digwydd ac rydym am wneud rhywbeth cyn i ni gael damwain ddifrifol.”

Ychwanegodd Sarsiant Stuart Matthews, cydlynydd Heddlu De Cymru i Gan Bwyll – Partneriaeth

Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru, sy’n gyfrifol am orfodi camerâu cyflymder a goleuadau traffig,

“Mae’n codi ofn arnaf nad yw gyrwyr yn cymryd sylw o’r cyfyngiadau cyflymder ac yn peryglu

bywydau, gyda’r arolwg yn canfod bod nifer mawr yn gyrru dros ddwywaith y cyfyngiad 30mya.

Bydd ein camerâu teithiol yn gorfodi’n rheolaidd ar y safle mewn ymgais i arafu’r bobl sy’n teithio

ar hyd Rhodfa Wembley.”

DVLA A DSA YN CEFNOGI’R YMGYRCH DEADLY MATES

Nadolig Llawn a Blwyddyn Newydd Dda, gyrrwch yn ofalus y Nadolig hwn.

Mae’r DVLA a’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn cefnogi’r ymgyrch Deadly Mates ar ôl iddi

ddatgelu bod trwyddedau gyrru mwy nag 8,000 o yrwyr ifanc rhwng 17 a 24 wedi’u dirymu dan

reolau’r Ddeddf Gyrwyr Newydd yn ystod naw mis cyntaf 2010.

Mae 22 Canolfan Prawf Gyrru DSA Cymru’n cefnogi’r ymgyrch, gan ddosbarthu’r daflen ‘10

Ffordd i Golli’ch Trwydded’ gan Deadly Mates i gwsmeriaid ifanc ac yn gosod posteri ar eu

hysbysfyrddau. Mae’r DVLA hefyd yn cefnogi’r ymgyrch yn

ei chanolfannau yng Nghymru – Abertawe, Caerdydd a

Bangor.

Meddai Rosemary Thew, prif weithredwr DSA, “Rydym yn

gweithio’n galed iawn i helpu pobl ifanc fod yn yrwyr diogel

a chyfrifol. Os ydych yn cyrraedd chwe phwynt cosb neu

fwy yn ystod y ddwy flynedd ar ôl i chi lwyddo yn y prawf,

byddwch yn colli’ch trwydded ac yn gorfod sefyll y profion

theori ac ymarferol eto. Mae DSA yn cefnogi ymgyrch

Deadly Mates, oherwydd mae’n helpu ffrindiau gyrwyr

newydd i ddeall eu rôl i gadw ein ffyrdd yn ddiogel.”

Ychwanegodd prif weithredwr y DVLA, Simon Tse, “Ffyrdd Prydain yw’r rhai mwyaf diogel yn y

byd, ond ni allwn fod yn hunanfodlon. Dyna pam y mae’r DVLA yn cefnogi ymgyrch Deadly

Mates: ffrindiau gyrwyr sydd newydd gymhwyso yw’r rhai yn y sefyllfa orau i annog gyrru da a

herio ymddygiad gwael.”

Julie Palmer DVLA, Angela Smith, Jim Moore Gan Bwyll, Garry Monk

Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, PGC Nick Croft Heddlu De Cymru