8
YSGOL DIWYDIANNAU CREADIGOL A DIWYLLIANNOL CAERDYDD GRADD SYLFAEN MEWN ENTREPRENEURIAETH YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH

Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Y cwrs hwn yw’r unig un o’i fath yn y DU. Ei nod yw rhoi achrediad cydnabyddedig am ddysgu blaenorol ar gyfer y sgiliau rydych eisoes wedi’u datblygu yn y diwydiant cerddoriaeth, tra’n dysgu sgiliau newydd yn yr ystafell ddosbarth a’r gweithle.

Citation preview

Page 1: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

YSGOL DIWYDIANNAU CREADIGOL A DIWYLLIANNOL CAERDYDD

GRADD SYLFAEN MEWN ENTREPRENEURIAETH YN Y DIWYDIANT CERDDORIAETH

Page 2: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

2

Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

Y cwrs hwn yw’r unig un o’i fath yn y DU. Ei nod yw rhoi achrediad cydnabyddedig am ddysgu blaenorol ar gyfer y sgiliau rydych eisoes wedi’u datblygu yn y diwydiant cerddoriaeth, tra’n dysgu sgiliau newydd yn yr ystafell ddosbarth a’r gweithle. Mae’r Radd Sylfaen mewn Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant Cerddoriaeth wedi’i hanelu at unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth sydd â phrofiad blaenorol yn y sector. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

• gerddorionhunangyflogedig• athrawonofferynnol• gwerthwyrcerddoriaeth• labelirecordiaubychain• technegwyr• hyrwyddwyra• rheolwyr.

Mae’r dyfarniad hwn yn bosibl oherwydd Cronfa Cydgyfeiriant Cymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd (ESF) drwy Lywodraeth Cymru.

YNGLY N Â’R CWRS

Page 3: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

3

Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

Page 4: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

Y Diwydiant Cerddoriaeth ar Waith Mae’r modiwl hwn yn rhoi trosolwg o sut mae’r diwydiant yn gweithredu, cysyniadau realistig am y buddion ariannol a chanllaw i’r cyfreithiau contract ac eiddo deallusol hynod o gymhleth.

Astudiaethau’r Diwydiant Cerddoriaeth Nod y modiwl hwn yw helpu myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol am y protocolau, sefydliadau a chyrff proffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth.

Hanes Cerddoriaeth Boblogaidd yn y Diwydiant Recordio Mae’rmodiwlhwnwedi’igynllunioiroicyflwyniadifyfyrwyri’r prif ddatblygiadau yn hanes cerddoriaeth boblogaidd. Astudiaethau Ensemble 1 a 2 Mae’rmodiwlauhynynrhoicyfleifyfyrwyrddatblygueusgiliau ymarfer, trefnu a pherfformio yn ymarferol ac yn academaidd. Astudiaethau Offerynnol 1 a 2 Mae’r modiwlau hyn wedi’u cynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu gallu wrth ganu offerynnau. Theori Gerddorol Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau dadansoddi angenrheidiol a geirfa gerddorol i fyfyrwyr i gyfranogi mewn cerddoriaeth o safbwynt academaidd, creadigol neu ymarferol.

Archwiliad Clywedol Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu methodoleg canfyddiad clywedol fel gwrando’n effeithiol, protocolau nodiant, dadansoddiad rhythmig/melodig/harmonig a thechnegau trawsgrifiad. Theori ac Archwiliad Clywedol Uwch Mae’r modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu cysyniadau damcaniaethol pellach ynghyd â chymwysiadau ymarferol a chlywedol. Technoleg Gerddorol Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â defnydd creadigol o feddalwedd dilyniant cerddoriaeth, yn ogystal â chaledwedd, storio, iechyd a diogelwch a systemau rhwydwaith.

MODIWLAU’R CWRS

Gweithredu a Chynhyrchu Stiwdio Mae’rmodiwlhwnyncyflwynoamgylcheddrecordioproffesiynol i fyfyrwyr lle y cânt ddealltwriaeth gynhwysfawr ar weithrediad stiwdio.

Technegau Trefnu Mae’rmodiwlhwnyncyflwynomeysyddnodiant,trefnuapastiche cyfansoddol. Prosesau Cyfansoddi Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn archwilio strwythurau a phrosesau cyfansoddi/ysgrifennu caneuon/geiriau a datblygu eu meistrolaeth drostynt, yn ogystal â deall cymhwyso harmoni, melodi, gweadedd, ffurf ac arddull. Cynhyrchu Cerddoriaeth 1 a 2 Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â chysyniadau theori gerddorol ar lefel sy’n uchafu a/neu’n datblygu sgiliau presennol y myfyriwr. Rhoddir pwyslais ar gydnabod, defnyddio a dehongli rhythmau sylfaenol, ffurfio, strwythurau harmonig a dulliau melodig. Peirianneg Sain Fyw 1 a 2 Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth am natur sain a’i systemau technolegau cysylltiedig. Bydd yn archwilio ffisioleg glywedol, sain, microffonau, desgiau cymysgu a systemau Anerchiad Cyhoeddus (PA).

Peirianneg Sain 1 a 2 Mae’r modiwl hwn yn archwilio sain fel tonffurf, ffisioleg sylfaenol clywed a seicoleg canfyddiad sain, y mecanweithiau sylfaenol sy’n trosi sain yn signalau trydanol, a’u cadw drwy recordio analog a digidol.

Cerddoriaeth Gymunedol Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth am sut i sefydlu a chynnal amrywiaeth o brosiectau cerddoriaeth yn y gymuned o safbwynt cynllunio rhaglenni, lleoliadau a chyfyngiadau ariannol.

Gweithio fel Cerddor Llawrydd Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r ffactorau creadigol a damcaniaethol mewn amrywiaeth o waith llawrydd posibl o fewn y diwydiant cerddoriaeth.

Bydd myfyrwyr yn gallu ennill achrediad ar gyfer sgiliau maen nhw eisoes wedi’u datblygu yn y diwydiant drwy baru eu profiad blaenorol â chanlyniadau dysgu mewn ystod o fodiwlau.

I gael mynediad i’r Radd Sylfaen, mae’n rhaid hawlio am o leiaf 30 credyd ar gyfer eich profiad proffesiynolynyflwyddyngyntaf.

Mae’r rhestr modiwlau isod yn nodi’r math o weithgarwch y gallwch ei baru eich profiad blaenorol ag ef i hawlio credyd academaidd. Gwelwch ein gwefan am ragor o wybodaeth.

Page 5: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

5

Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

Ar ôl hawlio credyd ar gyfer eich profiad blaenorol, byddwch yn astudio’r modiwlau canlynol:

Y Diwydiant Cerddoriaeth Byd Eang 1Nod y modiwl hwn yw rhoi cyd-destun i fyfyrwyr ar gyfer eu gwaith ac yn canolbwyntio ar fagu dealltwriaeth gyfannol a chynhwysfawr ar y diwydiant cerddoriaeth fel mae’n bodoli heddiw. Y Diwydiant Cerddoriaeth Byd Eang 2Mae’r uned hon yn dilyn Y Diwydiant Cerddoriaeth Byd Eang 1 ac yn canolbwyntio ar y ddwy agwedd bwysicaf ar y diwydiant cerddoriaeth dros y pymtheg mlynedd diwethaf yn ddiamau, sef twf y maes digidol a’r diwydiant cerddoriaeth fyw. Sgiliau Astudio Mae’r modiwl hwn yn pwysleisio gwella perfformiad myfyrwyr yn y dyfarniad yn gyffredinol, felly bydd asesiad a chynnwys yn dibynnu ar anghenion unigol myfyrwyr. Fel arfer, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar y prosesau a chonfensiynau llunio traethodau a dyddiaduron myfyriol personolarhoicyflwyniadau. Prosiect Ymarferol yn y Diwydiannau Creadigol Mae’r modiwl hwn yn cael ei gynnal yn y gweithle ac yn helpu myfyrwyr i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd yn y cwrs i’w hymarferion gwaith.

Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant Cerddoriaeth 1 Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau entrepreneuriaeth a chreadigol angenrheidiol i fyfyrwyr ffurfio a manteisio ar eu doniau creadigol, eiddo deallusol a syniadau cerddorol. Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant Cerddoriaeth 2Gan adeiladu ar ben Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant Cerddoriaeth 1, bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ariannol, rheoli ac arwain angenrheidiol i fanteisio ar gysyniadau ac arteffactau entrepreneuraidd.

Lleoliad Gwaith yn y Diwydiannau Creadigol Mae’r modiwl 60 Credyd estynedig hwn yn cael ei gynnal yn y gweithle. Bydd disgwyl i fyfyrwyr archwilio ymarferion yn y gweithle yn feirniadol ac archwilio sut y gellir eu cyd-destunoli a’u gwella.

Page 6: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

6

Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

GOFYNION MYNEDIAD Mae’r cwrs Gradd Sylfaen hwn yn bosibl oherwydd Rhaglen Gydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n bosibl y bydd hawl gan ymgeiswyr llwyddiannus sy’n bodloni’r meini prawf canlynol i gael lle ar y cwrs a gyllidir yn llawn neu’n rhannol: 1. Mae’n rhaid i chi fyw a/neu weithio yn un o Ardaloedd Cydgyfeiriant Cymru, ac

2. mae’n rhaid bod gennych ddigon o brofiad o unrhyw faes yn y diwydiant cerddoriaeth a fyddai’n eich galluogi i ennill o leiaf 60 credyd drwy achrediad am ddysgublaenoroldrosflwyddynahanner,sefcyfnody Radd Sylfaen.

3. Mae’nrhaidbodyngyflogedigneu’nhunangyflogedig (amser llawn neu’n rhan-amser). Bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi ameichstatwscyflogaeth.Osydychynbywytu allan i Ardal Gydgyfeiriant mae’n rhaid bod eich cyfeiriad Cyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn Ardal Gydgyfeiriant.

4. Mae’nrhaidi’chcyflogwrfodynFenterBachneu Ganolig ei Faint (SME) a heb fod yn y sector cyhoeddus.

Ardaloedd cydgyfeiriant Cymru yw:

• BlaenauGwent• Pen-y-bontarOgwr• CaerffiliaThorfaen• SirGaerfyrddin• Ceredigion• Conwy• SirDdinbych• Gwynedd• YnysMôn• MerthyrTudful• Castell-neddPortTalbot• SirBenfro• RhonddaCynonTaf• Abertawe

Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach am feini prawf mynediad y cwrs.

Page 7: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

7

Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

POTENSIAL GYRFA

Ar ôl cwblhau’r cwrs, cewch fynd ymlaen i ddefnyddio’ch sgiliau newydd yn y gweithleneuastudioarflwyddynolafgraddisraddedigberthnasol.

SUT BYDDWCH YN ASTUDIO Mae’rcwrsyncaeleiddysgufelcyfresofodiwlausy’ncaeleucyflwynodrosyflwyddynahannerdrwywythgweithdyundyddachefnogaethdrwyddysguobell.

BLE BYDDWCH YN ASTUDIO Caiff y cwrs hwn ei gynnal yng nghampws ATRiuM Prifysgol Morgannwg yng Nghaerdydd. Bydd myfyrwyr y Radd Sylfaen mewn Entrepreneuriaeth yn y Diwydiant Cerddoriaeth ym Morgannwg yn cael mynediad i stiwdios recordio pwrpasol gyda’r offer diweddaraf ac ystafelloedd ymarfer penodol. Mae ynysiad sain ym mhob ystafell ac maen nhw wedi cael triniaeth acwstig hefyd. CaiffyrhagleneichyflwynoyngNgogleddCymruofisMedi2012acyngNgorllewin Cymru o fis Medi 2013. Bydd manylion am leoliadau ar gael ar ein gwefan yn y man.

DULL ASTUDIO Cwrs rhan-amser yw hwn, sy’n galluogi myfyrwyriarosmewncyflogaethabyddyn cymryd rhwng 15 a 18 mis i’w gwblhau, gan ddibynnu ar y lefel o brofiad sydd gan yr ymgeisydd.

BETH NESAF? Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â Dr Paul Carr, Pennaeth yr Academi Cerddoriaeth

01443 668 [email protected] neu gwelwch ein gwefan: http://cci.glam.ac.uk/musicindustry

Page 8: Gradd Sylfaen Mewn Entrepreneuriaeth Yn Y Diwydiant Cerddoriaeth

MEDDWL YN WAHANOL BYW YN WAHANOL

Rhif ffôn DU: 08456 434 030 Rhif ffôn Dramor: +44 (0)1443 654 450 ATRiuM, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Stryd Adam, Caerdydd

CF24 2FN, DU

Mae Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd yn gyfadran o Brifysgol Morgannwg. Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.