4
Gwasanaethau Cwsmer Croeso i Dîm Gwasanaethau Cwsmer Cartrefi Conwy Mae’r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i chi am yr ystod o wasanaethau a ddarperir gan ein Tîm Gwasanaethau Cwsmer. Maent yma i'ch helpu chi gyda cyswllt dyddiol â Cartrefi Conwy. Cyswllt dyddiol â Cartrefi Conwy 0300 124 0040

Gwasanaethau Cwsmer

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Welsh Customer Services

Citation preview

Page 1: Gwasanaethau Cwsmer

GwasanaethauCwsmer

Croeso i Dîm Gwasanaethau Cwsmer Cartrefi ConwyMae’r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i chi am yr ystodo wasanaethau a ddarperir gan ein Tîm Gwasanaethau Cwsmer. Maentyma i'ch helpu chi gyda cyswllt dyddiol â Cartrefi Conwy.

Cyswllt dyddiol â Cartrefi Conwy

0300 124 0040

Page 2: Gwasanaethau Cwsmer

Cysylltu â Cartrefi Conwy

Ffoniwch ni ar 0300 124 0040

Anfonwch e-bost at:[email protected]

Ysgrifennwch atom ni: Gwasanaethau CwsmerCartrefi Conwy, Morfa Gele, Parc Busnes GogleddCymru, Cae Eithin, Abergele, Conwy LL22 8LJ

15-17 Stryd Madoc, Llandudno LL30 2TL

41 Ffordd Conwy, Bae Colwyn LL29 7AA

Oriau Agor y Swyddfa: Dydd Llun - Dydd Iau:8.45yb tan 5.15yp, Dydd Gwener: 8.45yb tan 4.45yp

Llinell Ffôn Gwasanaethau Cwsmer: Dydd Llun -Dydd Iau: 9.00yb tan 5.00yp, Dydd Gwener: 9.00yb tan 4.45yp

Mewn argyfwng: Mewn argyfwng, y tu allan i’r oriauarferol, ffoniwch 0300 124 0040

Mae'r Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn siarad Cymraeg aSaesneg ac yn gallu’ch helpu gyda'r canlynol:• Ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â holl wasanaethau Cartrefi Conwy

• Canfod pa waith atgyweirio sydd angen ei wneud athrefnu apwyntiadau cyfleus

• Gweinyddu taliadau rhent ac archebion cardiau AllPay, neu ddelio ag ymholiad ynglyn â’ch balans

• Llogi Canolfan Gymunedol • Diweddaru eich manylion cyswllt a gwybodaeth berthnasol arall

• Gwaith brys y tu allan i oriau arferol sydd angen eiddilyn i fyny

Gwasanaethau Cwsmer

Page 3: Gwasanaethau Cwsmer

Ymholiadau CyffredinolFfoniwch y Tîm Gwasanaethau Cwsmer ar 0300 124 0040 gyda'ch ymholiad.Maent yn medru ateb a delio a’ch cais yn uniongyrchol neu sicrhau eich bodyn cael eich trosglwyddo yn sydyn ac yn effeithlon i’r swyddog neu dîmperthnasol i ddelio â’ch cais.

Canfod pa waith atgyweirio sydd angen ei wneud a threfnuapwyntiadau cyfleusMae'r Tîm GwasanaethauCwsmer yn gweithio gydagUned Cynnal a ChadwAdeiladau Cartrefi Conwy acyn cynnig gwasanaeth atgyweiriohyblyg. Bydd ein ymgynghorwyrgwasanaeth cwsmer yn trin eich hollgeisiadau am atgyweiriadau ac yn eich helpu i ganfod pa waithatgyweirio sydd ei angen, yn gwirio datblygiad y gwaith ac ynmonitro’r gwasanaeth a ddarperir i chi.

Helpwch ni i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Cyn ffonio, sicrhewchbod gynnych cymaint o wybodaeth a phosibl am eich cais ac unrhywfanylion cyswllt. Os ydych chi wedi trefnu gwaith atgyweirio ac angen newiddyddiad yr apwyntiad, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Asesu AtgyweiriadauRydym ni’n asesu ceisiadau amatgyweiriadau ac yn eu categorieddionaill ai fel Atgyweiriadau Brys neuAtgyweiriadau Safonol.

Mae Cartrefi Conwy yn cynnig gwasanaeth ymatebolatgyweiriadau brys 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mewn achos o argyfwng, byddwn yn anelu at gyrraedd eich cartref agwneud y sefyllfa'n ddiogel o fewn 4 awr.

Os yn bosibl, byddwn yn cwblhau’r atgyweiriadau argyfwng sydd euhangen. Os oes angen trefnu apwyntiad arall, bydd yn cael ei nodi felgwaith Atgyweirio argyfwng Safonol.

Gwasanaethau Cwsmer

Page 4: Gwasanaethau Cwsmer

Gwneud taliad rhent, archebu cardiau AllPay neu holi am eich balansMae talu’ch rhent trwy’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn hawdd ac yngyfleus. Gwnewch yn siwr bod eich cerdyn debyd neu gredyd wrthlaw, ynghyd â'ch cyfeiriad llawn a’ch manylion cyswllt. Fe allwch chihefyd archebu cerdyn AllPay neu wirio’ch balans ar yr un pryd.

Llogi Canolfan GymunedolMae gennym ni Ganolfannau Cymunedol yn yr ardaloedd canlynol: BaeColwyn, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Cyffordd Llandudno. Maegennym hefyd ystafell wely ar gael i’w llogi ym Maes Cwstennin,Cyffordd Llandudno ar gyfer ffrindiau neu deulu preswylwyr. Mae'rystafelloedd hyn ar gael i denantiaid, trigolion a grwpiau lleol eu llogiam dâl bychan. Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Cwsmer i wirioargaeledd, cyfleusterau’r canolfannau a threfniadau llogi.

Proffil CwsmerMae Cartrefi Conwy yn darparu ystod o wasanaethau a chymorth yn ygymuned. Rydym ni’n teimlo ei bod yn bwysig i ni feddu ar yr wybodaethddiweddaraf am eich cartref fel y gallwn ni gynnig y lefel uchaf o ofalcwsmer, gwasanaeth a chefnogaeth i chi. O bryd i'w gilydd, bydd ein tîmgwasanaeth cwsmer yn cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth am eich cartref.

Rydym ni hefyd yn gofyn i chi roi gwybod i ni os yw eich manylioncyswllt neu’ch amgylchiadau yn newid – rhag ofn i chi golli allan argymorth, cefnogaeth neu gynigion sydd ar gael ichi.

Gwaith brys y tu allan i oriau arferol sydd angen eu dilyn i fynyOs oes gwaith brys wedi ei wneud yn eich cartref y tu allan i’r oriauarferol, bydd y gweithiwr yn rhoi gwybod i’r tîm GwasanaethauCwsmer a oes angen gwaith dilynol. Bydd y tîm yn cysylltu â chi idrefnu amser cyfleus i gwblhau’r gwaith yma.

Safon ein GwasanaethRydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'n preswylwyr.Gallwch ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf drwyddychwelyd unrhyw arolwg boddhad cwsmer neu holiadur a anfonwn atochchi. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl ein bod ni wedi methu darparugwasanaeth boddhaol yna defnyddiwch ein gweithdrefn gwyno sydd wedi eichynllunio i ddatrys cwynion cyn gynted ag y bo modd. Cysylltwch â'r TîmGwasanaethau Cwsmer i ofyn am gymorth ynglyn â’n gweithred gwyno.

Gwasanaethau Cwsmer