8
Yn y newyddlen ddiwethaf fe wnaethom ni sôn am daith Ysgol Tan y Marian i Chwarel Aber i weld y garreg a fydd yn cael ei gosod ger mynedfa Parc Peulwys. Fel y gwelwch chi o'r llun mae’r garreg bellach yn ei lle ac mae’r gwaith amgylcheddol ym Mharc Peulwys wedi ei gwblhau. Ar ôl 8 mis o waith dwys i ailgynllunio'r mannau agored ar y stâd, ddiwedd mis Mai cawsom gyfle i ddathlu ein hymdrechion. Cafodd yr holl breswylwyr wahoddiad i ddiwrnod hwyl i agor 'Parc Peulwys yn swyddogol ac i ddiolch iddyn nhw am fod mor amyneddgar. Daeth y diwrnod i ben gyda mochyn rhost a pherfformiad gan fand byw ar gae'r ysgol. Mae'r gwelliannau, a oedd yn cynnwys ail-wneud y ffyrdd, creu llwybrau newydd, plannu cannoedd o lwyni a choed blodeuol, gosod deial haul dynol, creu cwmpawd cerrig/man eistedd a chreu mynedfa fawreddog, wedi cael croeso brwd gan y trigolion. Mae'r gwaith wedi ailfywiogi’r Gymdeithas Go Green, sydd wedi creu lleiniau tyfu ac yn cynllunio prosiectau amgylcheddol eraill. Maen nhw’n awyddus i gynnwys pawb yn yr ardal sydd eisiau helpu i gadw'r 'Parc' ym Mheulwys. Mae Cartrefi Conwy bellach yn y camau olaf o benderfynu ar yr ardal nesaf a fydd yn elwa o welliannau amgylcheddol mawr. Byddwn yn cyhoeddi enw’r ardal yn ystod y Diwrnod i'r Teulu ar 27 Awst. Hydref 2014 Cysylltiadau Gwasanaeth Cwsmer 0300 124 0040 [email protected] Mae copïau sain o’r cylchlythyr hwn ar gael Gofynnwch am gopi drwy ffonio 01745 335345 CYMERWCH OLWG Y TU MEWN Llongyfarchiadau. Tudalen 4 Parc Peulwys yn denu ystafell ddosbarth o ymwelwyr tramor . Tudalen 2 Dathliad Parc Peulwys creu cymunedau i fod yn falch ohonynt Cystadleuaeth Luniau. Tudalen 4 Ie cadarn ar gyfer Lleisiau@CartrefiConwy Tudalen 8

Gyda'n gilydd Hydref 2014

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Gyda'n gilydd Hydref 2014

Yn y newyddlen ddiwethaf fe wnaethom ni sôn am daithYsgol Tan y Marian i Chwarel Aber i weld y garreg a fydd yncael ei gosod ger mynedfa Parc Peulwys. Fel y gwelwch chio'r llun mae’r garreg bellach yn ei lle ac mae’r gwaithamgylcheddol ym Mharc Peulwys wedi ei gwblhau. Ar ôl 8mis o waith dwys i ailgynllunio'r mannau agored ar y stâd,ddiwedd mis Mai cawsom gyfle i ddathlu ein hymdrechion.Cafodd yr holl breswylwyr wahoddiad i ddiwrnod hwyl i agor'Parc Peulwys yn swyddogol ac i ddiolch iddyn nhw am fod moramyneddgar. Daeth y diwrnod i ben gyda mochyn rhost apherfformiad gan fand byw ar gae'r ysgol. Mae'r gwelliannau, aoedd yn cynnwys ail-wneud y ffyrdd, creu llwybrau newydd,plannu cannoedd o lwyni a choed blodeuol, gosod deial hauldynol, creu cwmpawd cerrig/man eistedd a chreu mynedfafawreddog, wedi cael croeso brwd gan y trigolion. Mae'r gwaithwedi ailfywiogi’r Gymdeithas Go Green, sydd wedi creu lleiniautyfu ac yn cynllunio prosiectau amgylcheddol eraill. Maen nhw’nawyddus i gynnwys pawb yn yr ardal sydd eisiau helpu i gadw'r'Parc' ym Mheulwys. Mae Cartrefi Conwy bellach yn y camauolaf o benderfynu ar yr ardal nesaf a fydd yn elwa o welliannauamgylcheddol mawr. Byddwn yn cyhoeddi enw’r ardal ynystod y Diwrnod i'r Teulu ar 27 Awst.

Hydref 2014

Cysylltiadau Gwasanaeth Cwsmer 0300 124 0040 [email protected]

Mae copïau sain o’rcylchlythyr hwn ar gael

Gofynnwch am gopi drwyffonio 01745 335345

CYMERWCH OLWGY TU MEWN

Llongyfarchiadau.Tudalen 4

Parc Peulwys yn denu ystafellddosbarth o ymwelwyrtramor. Tudalen 2

Dathliad Parc Peulwys

c r e u c y m u n e d a u i f o d y n f a l c h o h o n y n t

Cystadleuaeth Luniau.Tudalen 4

Ie cadarn ar gyferLleisiau@CartrefiConwy

Tudalen 8

Page 2: Gyda'n gilydd Hydref 2014

GRW^ P GO GREENPEULWYS

Mae Cymdeithas Go GreenPeulwys wedi ei sefydlu ers bron ichwe blynedd ac rydym ni bellachyn bwriadu caffael darn o dir cyfagosgan Gartrefi Conwy; sydd wedi bodyn gefnogol iawn i amcanion yGymdeithas i ddatblygu garddgymunedol a lleiniau tyfu gydachwch gwenyn cymunedol. Ynghydâ Cartrefi Conwy rydym ni hefyd yngweithio mewn partneriaeth âFfederasiwn Ffermydd Dinas aGerddi Cymunedol, Groundworksa Bwrdd Partneriaeth Peulwys a'rCylch.

Yn ddiweddar, oherwydd oedi wrthdderbyn prydles y tir, rydym ni wedicael defnyddio tir yr ysgol gynraddleol, sef Ysgol Tan Y Marian, ermwyn manteisio ar y tymor tyfu ac i

roi cyfle i aelodau o’r gymuned gael mynediad i leiniau bach o dir i dyfu llysiau ablodau. Gan ein ni’n defnyddio tir yr ysgol, rydym ni’n helpu disgyblion yr ysgoliau ac Ysgol Fabanod Penmaenrhos i blannu hadau a thyfu llysiau ac yna i godi’rllysiau ar ddiwedd y tymor tyfu.

Ein gweledigaeth yn y tymor hir ydi creu canolfan gymdeithasol fawr gyda garddgymunedol sy’n rhoi cyfle i’r gymuned leol ddefnyddio lleiniau tyfu. Byddai hynnyyn ei dro yn annog mentrau cymdeithasol, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddolier budd y gymuned leol a hynny ar garreg eu drws.

Bu i fyfyrwyr a ddefnyddion nhw eu gerddi eu hunain fel dosbarth yn ystodcwrs garddwriaethol ddenu ystafell ddosbarth o ymwelwyr tramor i weldcanlyniadau gwych eu hymdrechion.

Daeth 19 cynrychiolydd o 7 gwlad Ewropeaidd i Landudno ar ymweliadtridiau fel rhan o Brosiect Partneriaeth Grundtvig a ariennir gan yr UndebEwropeaidd. Roedd yr ymwelwyr yn dod o sefydliadau cenedlaethol a lleolo Lithwania, Hwngari, yr Iseldiroedd, Slofenia, y Swistir, y Ffindir a'rWeriniaeth Tsiec.

Roedd yr ymweliad hwn yn rhan o brosiect Partneriaeth Grundtvig agydlynwyd gan NIACE Cymru. Dywedodd Rheolwr y Rhaglen, Kay Smith oNIACE Cymru: “Rydym ni’n ffodus iawn bod gennym ni rywfaint oddarpariaeth ragorol yn y maes hwn i arddangos prosiect cymunedol acestyn allan, arferion dysgu yn y teulu a’r gweithle a phartneriaethau effeithiol”.

Bu i’r ymwelwyr gyfarfod â thenantiaid Cartrefi Conwy a oedd wedicofrestru ar y cwrs fel rhan o gynllun amgylcheddol gwerth £1.1 miliwn arstad Parc Peulwys.

Yn sgil y cyfle i ennill cymwysterau yn eu cymuned eu hunain, mae un tenantwedi cael swydd barhaol gyda'r contractwr tirlunio a oedd yn gweithio ar ycynllun ym Mharc Peulwys. Cafodd Steve McLeod waith ar ôl iddo gofrestruar gwrs garddwriaeth a gwirfoddoli.

Dywedodd: “Symudais yma i stâd Peulwys efo Morwenna fy ngwraig a Katlinfy merch fach chwe blwydd oed, o Lerpwl tua phedair blynedd yn ôl. Rydwi’n wreiddiol o Bootle ond mae Morwenna yn Gymraes.

“Roeddwn i wedi bod yn ddi-waith ers peth amser ac wedi gwneud cais amgannoedd, neu hyd yn oed filoedd o swyddi. Roeddwn i wedi anfon cymainto CVs at bobl, roedd y peth yn chwerthinllyd. Yna, cofrestrais ar y cwrsgarddwriaeth a oedd yn cael ei redeg gan Cartrefi Conwy a bu i mi fwynhau’rcwrs yn fawr iawn. Roeddwn i wrth fy modd efo'r gwaith ac yn awyddusiawn i ddod o hyd i swydd lawn amser yn gwneud gwaith tirlunio a gwaithtir arall. Ar ôl i ni ddechrau gweithio ar y llwybr natur cefais gynnig swyddlawn amser efo Brenig Construction ."

Tenant arall ddaru gofrestru ar y cwrs oedd Phyllis Higgins, sy’n 69 oed.Roedd hi'n falch iawn pan gytunodd Chris Joynson y tiwtor ei bod hi, a’ichyd-fyfyrwyr, yn cael mynd i'r afael â phroblemau yn ei gardd hi fel rhan o'ugwaith cwrs. Mae Phyllis wedi bod yn denant ym Mheulwys ers droschwarter canrif a bellach wedi ymddeol o’i swydd fel GoruchwyliwrDomestig Ysbyty Bodelwyddan.

Dywedodd Phyllis: “Bu i mi gofrestru ar gyfer y cwrs gan fod fy ngŵr, Brian,wedi marw. Roedd o mor wael ac nid oeddwn i'n gallu ei adael. Feddechreuodd fy ngardd dyfu'n wyllt, roedd gen i gywilydd ohoni onddoeddwn i ddim yn gallu garddio oherwydd bod yn rhaid i mi aros efo Brian.Ar ôl iddo farw bu i mi drio tocio’r planhigion a thacluso’r ardd. Yna, undiwrnod, cefais daflen drwy'r drws yn sôn am gwrs garddwriaethol acroeddwn i’n meddwl ei fod yn syniad da. Rydw i wedi dysgu cymaint - adoeddwn i ddim yn sylweddoli cyn lleied roeddwn i’n gwybod amblanhigion, pridd a chwyn. Ond efallai mai'r peth gorau sydd wedi dod o’rcwrs ydi'r ffaith fy mod i wedi gwneud ffrind newydd.”

Dywedodd Ruth, ymwelydd o'r Swistir: “Diolch yn fawr am rannu’chprofiadau efo ni. Gwaith gwych.”

Dywedodd ymwelydd arall o'r Ffindir: “Roedd yn braf eich gweld chi’n creugerddi ac amgylchoedd prydferth. Mae harddwch yn rhoi mwy o egni ahapusrwydd i ni. Gwaith gwych.”

Parc Peulwys yn denuystafell ddosbarth oymwelwyr tramor

Gofod Ieuenctid Bae CinmelAr 16 Gorffennaf am 6.30pm cynhaliwyd sioe arbennig i’r teulu cyfan yng NgofodIeuenctid Bae Cinmel o’r enw Circo Rum Ba Ba. Ariannwyd a chyflwynwyd ydigwyddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r cynllun Noson Allan.

Bu i dros 50 o denantiaid a phreswylwyr fwynhau’r sioe a oedd yn cynnwyscomedi, acrobatiaid a thaflu cacen allan o sgert anferth!!! Roedd y gynulleidfa hefydyn gallu cymryd rhan yn y perfformiad.

Cynhaliwyd y sioe ar noson fendigedig o haf ym Mharc Rhodfa Caer ac roedd ynafarbeciw a stondin lluniaeth wedi ei drefnu gan Collette Gaskell o'r GwasanaethIeuenctid. Roedd hwyl a chwerthin i’w glywed ar draws y stâd.

Derbyniodd yr holl blant a oedd yn rhan o’r perfformiad dystysgrifau. Mae ar VickyWelsman, Rheolwr Datblygu’r Ty Cymunedol, eisiau diolch i bawb ddaru drefnu'rdigwyddiad gwych yma.

2

Page 3: Gyda'n gilydd Hydref 2014

3

Yn syth ar ôl ennillgwobr genedlaethol argyfer prosiect gwau,mae’r grw^p o boblifanc o ystâd dai BaeCinmel unwaith etowedi troi at bobl hynam help, y tro yma igreu campwaith allano ddarnau bychain odeils.

Gweithiodd deg oddisgyblion YsgolMaes Owen, ynghyd âdeg aelod o grw^pcrefft Ty^ Cymunedol

Rhodfa Caer, gyda’i gilydd am ddeg wythnos, gan gyfarfod pob dydd Merchermewn clwb ar ôl ysgol, i greu mosaig crwn 5 troedfedd gyda logo’r ysgol arno.

Gyda miloedd ar filoedd o ddarnau bach yn disgleirio yn haul yr haf ac yn cymrydei le gyda balchder ar gorm simnai’r ysgol, cafodd y mosaig ei ddadorchuddio i'rgymuned ddydd Iau 17 Gorffennaf.

Roedd yna ddathliad arbennig arall y diwrnod hwnnw hefyd, roedd Ed O'Keeffe,peiriannydd wedi ymddeol, yn cael ei ben-blwydd yn 70 oed. Ed oedd yr artistddaru dynnu llun o’r cynllun ar gyfer y mosaig 5 troedfedd ar ôl derbyn delwedd5cm o logo Ysgol Maes Owen – a hynny ar lawr yn ei ystafell fyw!

Meddai Jacqueline Richmond, Maer Tywyn a Bae Cinmel: “Mae’n bleser mawrgweld prosiect mor wych yn y gymuned leol.

“Bydd y logo yno i bawb ei weld ac yn dyst bod grwpiau sy'n pontio'r cenedlaethauyn gweithio'n dda er lles yr hen a’r ifanc yn ein cymuned. Fe ddylai pawb sydd wedibod yn rhan o’r prosiect yma fod yn falch iawn o’u camp."

Pan ofynnodd y pennaeth i’r disgyblion beth oedden nhw wedi ei fwynhau fwyaf amy prosiect fe gafodd gymysgedd o ymatebion brwdfrydig yn sôn am ba mor lliwgara blêr oedd y prosiect a pha mor anodd oedd trio dod o hyd i ddarnau bychainlliwgar sy’n cyd-fynd â lliwiau logo’r ysgol.

Canmolodd Vicky Welsman, Rheolwr Datblygu Ty^ Cymunedol Rhodfa CaerCartrefi Conwy, ymrwymiad y grw^p crefftau a phlant yr ysgol wrth ddewis a detholy miloedd ar filoedd o ddarnau bychain o deils i wneud y mosaig.

Canmolodd Vicky aelod o'r Grwp Crefft, Jo O'Keeffe, gan ddweud: “Nid yn unig yroedd Jo yn wych yn greadigol, ond roedd Jo hefyd yn help mawr i mi gydlynupopeth.

“Mae hwn wedi bod ynbrosiect partneriaethgymunedol gwych ac nifyddai wedi bod ynbosibl heb gydweithiollwyddiannus.

“Hoffaf ddiolch ynarbennig i Gymunedauyn Gyntaf a roddodd£300 o arian 'ThemaDysgu' i ni ac i’rmasnachwr adeiladulleol, Roger Jones a gyflenwodd y deunyddiau am ddim ac i K & C Construction,adeiladwyr lleol, am osod y Mosaic.

Dywedodd Aled Owen Rheolwr Safle K & C Construction: “Roedd yn dda bod ynrhan a helpu i osod y mosaig. Mae llawer o ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol ymayn byw yn un o'n datblygiadau cyfagos ac rydym ni’n weithgar iawn wrth gefnogi ahelpu cymunedau yn ein hardal adeiladu.”

Dywedodd pennaeth Ysgol Maes Owen, Catrin Foulkes: “Mae hi wedi bod ynwych unwaith eto gweld amrywiaeth o oedrannau yn gweithio efo’i gilydd. Mae hynwedi bod yn hwb i hunan-barch y plant gan eu bod wedi gallu gweld eu gwaithcaled a’u hymdrechion yn dwyn ffrwyth.

“Rydw i’n hynod falch o'r gwaith rydym ni wedi ei wneud gyda Chartrefi Conwy a’uhymrwymiad i adeiladu cysylltiadau cymunedol ac asiantaeth.

“Unwaith eto, mae'r gwaith mae ein plant wedi ei wneud gyda gwirfoddolwyr Ty^

Cymunedol Rhodfa Caer wedi bod yn wych a’r cwestiwn sydd ar wefusau pawbrwan ydi beth nesaf?"

Miloedd o ddarnau Mosaig yn troi logoysgol yn gampwaith

Oes yna fan agored yn eich cymdogaeth chi sy’n difetha harddwch eich ardal? Ydych chi a'chcymdogion wedi siarad am wneud rhai newidiadau i'r ffordd y mae’ch cymdogaeth yn edrych?Efallai mai SOS Amgylcheddol ydi’r ateb rydych chi’n chwilio amdano. Mae dros 40 o

brosiectau, sy’n dod i gyfanswm o £100,000, wedi eu cymeradwyo yn ystod y tair blynedd diwethaf sydd wedi gwneudnewidiadau cadarnhaol i fannau agored yn ein cymdogaethau. Mae'r prosiectau hyn wedi amrywio o greu man cyfarfod ar

gynllun tai gwarchod a chreu mannau cymunedol ar gyfer y gymuned gyfan i fuddsoddi mewn prosiectau ysgolion sy'nagos at ein stadau tai. Os ydych chi’n meddwl y gallai SOS Amgylcheddol achub y dydd yn eich ardal chi, yna ffoniwchCartrefi Conwy a gofynnwch am y ffurflen gais syml a’r daflen wybodaeth. Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais, byddwnyn edrych ar eich cynnig gyda phanel o denantiaid. Os ydi’ch prosiect chi’n cael ei gymeradwyo, yna bydd yn rhaid ichi gyflwyno eich syniad, efo nifer o syniadau eraill, yn ystod digwyddiad tenantiaid. Yno, bydd yr holl bobl sy'nbresennol yn pleidleisio dros eu hoff brosiect. Felly, mae’r pw^er i wneud penderfyniadau ac i ddewis pwy sy’n cael yr

arian yn nwylo’r tenantiaid. Gall brosiectau unigol gael hyd at £4,000 a chyda cyfanswm o £50,000 ar gael mi fydd ynaddigon o enillwyr. Peidiwch â cholli'r cyfle yma i gael cymorth SOS Amgylcheddol yn eich cymdogaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ydi dydd Gwener 10 Hydref 2014.

Gwella MynedfeyddCymunedol Ydi’r fynedfa gymunedol yn eich fflatiau chi yn edrych hyll ac yn ddiflas? Na phoener!Rydym ni newydd ddechrau rhaglen i wella mannau mynediad cymunedol nifer o'n fflatiauaml-lawr. Gallai'r gwaith yma gynnwys gosod lloriau newydd, addurno a gosodbalwstradau newydd. Dros y misoedd nesaf byddwn yn ymweld â fflatiau aml-lawrperthnasol ym Mae Colwyn, Hen Golwyn, Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Llandudno aPhenmaenmawr. Cyn y bydd unrhyw waith yn cael ei wneud bydd Swyddog CyswlltTenantiaid G Purchase yn cysylltu efo chi ac yn gofyn am eich barn chi ynghylch lliwiau alloriau posibl. Bydd hefyd yn dweud wrthoch chi sut bydd y gwaith yn effeithio arnoch chi.

MA G Y L C H E D D LO

NodynAtgoffa Mae’r

gwasanaeth SMS argyfwng yncaniatáu i bobl fyddar, trwm eu

clyw ac efo nam ar y lleferydd yn y DU ianfon neges destun SMS i’r gwasanaeth999 yn y DU. Mae angen i chi gofrestrueich ffôn symudol cyn defnyddio’r

gwasanaeth. Ewch ihttp://www.emergencysms.org.uk

Page 4: Gyda'n gilydd Hydref 2014

4

GwelliannauAmgylcheddol Bryn Eglwysa Maes GlasMannau cymunedol wedi tyfu'n wyllt, biniau olwynwedi eu chwythu i bob man, dim lein ddillad a dimlle i eistedd allan i fwynhau'r tywydd braf. Dyma raio'r sylwadau a gawsom gan denantiaid Bryn Eglwysa Maes Glas yn Llandrillo-yn-Rhos. Yn dilyn cyfnodo ymgynghori, lluniwyd rhaglen o welliannauamgylcheddol ar gyfer yr ardal i geisio mynd i’rafael â rhai o'r materion yma. Roedd y rhaglen yncynnwys creu saith man caeedig i finiau olwyn agwella tair gardd gymunedol – a oedd yn cynnwys lefelu'r tir, codi ffensys a giatiau a gosodleiniau dillad. Rydym ni bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella mannau gwyrdd a sutgallwch ddefnyddio’r mannau yma. Felly, os oes gennych chi syniad fe allwch chi naill aifanteisio ar y cynllun SOS Amgylcheddol neu fynd at eich Cydlynydd Cymdogaeth.

Rhowch eich sgiliau ffotograffiaeth ar brawf! Fel rhan o'ngwelliannau arfaethedig i fynedfeydd cymunedol einfflatiau aml-lawr, rydym ni’n chwilio am ffotograffwyrbrwd i dynnu lluniau o olygfeydd neu dirnodau lleol.Bydd y ffotograffau yma wedyn yn cael eu defnyddio iaddurno’r mynedfeydd perthnasol. I fod yn rhan o'rgystadleuaeth, anfonwch eich lluniau [email protected] ac os ydi’ch llunneu’ch lluniau chi’n cael eu dewis, nid yn unig y byddannhw’n cael eu harddangos yn yr ardaloedd mynediad amflynyddoedd i ddod, ond byddwch hefyd yn derbyn talebgwobr.

CystadleuaethFfotograffiaeth

LlongyfarchiadauFel rhan o ddathliadaucenedlaethol Wythnos yGwirfoddolwyr, cynhalioddCanolfan GwirfoddoliCGGC ddigwyddiad dathluar 4 Mehefin, a gefnogwydgan Gymunedau yn Gyntaf,i gydnabod y cyfraniadanhygoel y mae’r hollwirfoddolwyr yngNghonwy wedi ei wneud.

Llongyfarchiadau i driawdCartrefi Conwy, SylviaDuxbury, Tina Turner aJoan O'Keeffe (tenantiaid) a dderbyniodd dystysgrifau i gydnabod yr oriau o waith gwirfoddola'r gwahaniaeth y maent wedi ei wneud yn ein cymunedau.

Gwobrau TPASDaeth Lara Fox, Tenant Cartrefi Conwy, yndrydydd yng nghategori Tenant Ifanc yFlwyddyn.

Daeth Lara yn gefnogwr digidol gan helpullawer fynd ar y “rhaglen cymryd rhan ynddigidol” yn ei chymuned ym Mae Cinmel.

Cyflogwr Coleg Cambria a DyfarniadauMyfyrwyr Cymunedol 2014

Mae ein sefydliad yn falch iawn oZara Roberts, enillydd gwobrDysgwr Tai y Flwyddyn 2014.Roedd Carl Sergeant, yGweinidog Tai, yn bresennol yn ygwobrau a bu iddo longyfarchZara ar ei llwyddiant.

Cyfle i ennill tocyn teulu(5 o bobl) ar gyfer gêmgartref RGC o'ch dewischi a bag nwyddau RGCUndeb Rygbi Cymru. Y cyfan sydd arnoch chi angen ei wneud ydi ateby cwestiwn canlynol.

Beth oedd safle terfynol RGC1404 yngNghynghrair Pencampwriaeth SWALEC ytymor diwethaf 2013/14?

I gystadlu, anfonwch eich ateb [email protected] neuffoniwch y tîm cyfathrebu ar 01745 335345erbyn 1 Hydref 2014 fan bellaf.

Cofiwch gynnwys eich enw llawn, eichcyfeiriad a’ch rhif ffôn. Pob lwc!

Cystadleuaeth

Page 5: Gyda'n gilydd Hydref 2014

5

Gyda'r haul yn boeth ar ein hysgwyddau a’rgerddi yn llawn hyd yr ymylon o flodau lliwgar,bu i ni gael sgwrs efo rhai o’r merched hyfryd yneu cartrefi yng nghanol Cyffordd Llandudno.Roedd Lillian?, Yvonne Cox ac Iona Roberts ofyngalos Marl Crescent wedi ein gwahodd isgwrsio am 'Marl Crescent Cruisers', clwb ymaen nhw a chyd breswylwyr eraill wedi eisefydlu yn ddiweddar gyda chymorth grantsefydlu Cartrefi Conwy.

“Y prif reswm dros sefydlu'r clwb mewngwirionedd oedd i gymdeithasu ac i gael arian idalu am gludiant i fynd allan efo’n gilydd am deprynhawn.

Dydi Lilian ddim yn gallu symud cystal â rhaiohonom ni, ond mae bod yn rhan o’r clwb yngolygu nad ydi hi’n colli allan ar sgwrs a phaned ode. Ac rydym ni wrth ein bodd yn clywed eihanesion difyr, yn enwedig y rhai am adeg y rhyfel."

Bu i Lilian, sy’n 83 mlwydd oed ac wedi bod ynbyw yn y byngalos ers 14 mlynedd bellach,gwrdd â'i gwr pan oedd hi'n aelod o’r AwyrluBrenhinol. Cytunodd, mae hi’n hoff iawn o helatgofion, yn arbennig o flynyddoedd y rhyfel.Treuliodd Lilian ei phlentyndod yn Lerpwl a buiddi orfod ymgilio deirgwaith yn ystod y rhyfel.Chwarddodd pan adroddodd hanes yr ymgiliadolaf a’r helbul y bu iddi achosi.

“Yn wlyb domen dail ar ôl neidio i mewn i bwll

mawr o ddwr ar y ffordd yn ôl i gartref y rheinya oedd yn edrych ar fy ôl i, roedd gen i ofnmawr cael ffrae ganddyn nhw. Felly, mibenderfynais mai’r peth gorau i mi ei wneudoedd ffoi yn ôl am adref, i Lerpwl.

Yn ffodus, ar y ffordd o Benbedw mi nes igyfarfod cwpwl caredig ddaru gynnig mynd â fiefo nhw, ond gan ei bod hi mor hwyr pangyrhaeddais i roedd yn rhaid i mi aros dros nosefo nhw. Erbyn cyrraedd Lerpwl drannoethroedd fy mam yn poeni yn arw amdanaf gan fodrhywun wedi dweud wrthi fy mod i ar goll.

Ar ôl hynny roedd mam wedi cael digon ar yrymgilio a bu iddi anfon neges at fy nwy chwaer iddychwelyd adref i Lerpwl i fyw efo hi a’mbrawd bach hyd ddiwedd y rhyfel."

Mae Marl Crescent Cruisers yn edrych ymlaen atwneud y gorau o fisoedd yr haf ac yn prysur drefnuboreau coffi gyda stondinau trugareddau i godiarian ar gyfer teithiau’r clwb yn yr hydref a'r gaeaf.

Marl Crescent Cruisers

Ein thema eleni ydi ‘Awch at Fywyd’, rhaglen newydd sbongyffrous Cartrefi Conwy wedi ei theilwra'n benodol ar eichcyfer chi. Mae Awch at Fywyd wedi ei gynllunio i wella eichiechyd a'ch lles drwy sesiynau hwyliog, thema a rhyngweithiol.Dewch draw i ddysgu mwy yn y gweithdai Awch am Fywydsy'n cynnwys:

• Aerobeg a Symud i Gerddoriaeth ar eich Eistedd• Sesiynau blasu pampro, gan gynnwys tylino • Gweithdy deall arian a’r rhyngrwyd• Celf a Chrefft

Dewch draw, gallwch gymryd rhan cymaint neu gyn lleied agyr hoffech. Cofiwch, chi piau’r dewis. Eich diwrnod chi ydi o felly mae’nbwysig eich bod chi’n teimlo’n gyfforddus.

Byddwch yn derbyn eich gwahoddiad personol i’r digwyddiadcyffrous yma yn y post yn fuan. Cysylltwch â'ch CydlynyddByw'n Annibynnol neu Nerys Veldhuizen am fwy o fanylion ar01745 335572

Diwrnod Pobl Hy^n

Gwasg y Bobl Hy^n

Y canlyniad gorauposibl i Tina Turnera oedd wedigwirioni panddywedodd hiwrthym ni amlwyddiant ei grw^pBryn Difyr yngnghystadleuaeth'Pen yn ei Blodau'.

“Dyna’r tro cyntaf ini gystadlu acroeddem ni wedigwirioni’n lân amgael 1af a dau 2il,rhywbeth na fu i nierioed ddisgwyl.

“Roeddem ni’nffodus iawn idderbyn £840drwy’r Gist Gymunedol ym mis Ebrill, y tro cyntaf ini wneud cais. Bu i ni wario £500 ar fasgedi crog,hadau planhigion a phridd – ac mae’r blodau bellachyn wledd i’r llygaid. Mae’r lle’n edrych yn wych ac ynneis iawn.

Roedd o’n waith caled iawn ond roedd yn werth ydrafferth. Rydym ni’n bwriadu defnyddio gweddill yrarian i gynllunio teithiau i’r preswylwyr. Oherwyddein llwyddiant eleni rydym ni’n gobeithio ymgeisioam fath arall o gyllid i gynnal a chadw’r ardal."

Am fwy o wybodaeth am grantiau Cartrefi Conwy,gan gynnwys y grant sefydlu a grant y GistGymunedol, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu ar01745 335345 neu anfonwch e-bost [email protected]

PEN ACYSGWYDDAUAR Y BLAEN

Byddwch ynbarod i ddathlu!

Dyddiad i’ch dyddiadur!Bydd ein Diwrnod PoblHŷn ar 1 Hydref 2014 ynKinmel Manor, Abergele o

11am tan 5pm.Peidiwch â cholli

allan!

Page 6: Gyda'n gilydd Hydref 2014

6

Datrysiadau Tai Conwywedi ei lansio!

• Cyngor ar Op

siynau Tai

• Cymorth gyda

’ch

Tenantiaeth

• Gwasanaethau

Atal

Digartrefedd

• Datgan Digar

trefedd

• Ymholiadau

Cofrestr Tai

CBSC

• Gwasanaeth

Canfod Cartref

• Gwasanaethau

Cwsmeriaid

Cartrefi Conwy

• Asiantaeth

Gosod Tai

Cymdeithasol

Ddydd Llun, 30 Mehefin, lansiwyd Datrysiadau Tai Conwy sydd wedi ei leoli yn 41 FforddConwy, Bae Colwyn. Mae Datrysiadau Tai Conwy yn bartneriaeth newydd rhwng CartrefiConwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cynnig siop un alwad ar gyfer eich hollopsiynau tai, gan roi’r cwsmer wrth wraidd eu gwasanaeth.

Beth fydd hyn yn ei olygu i chi?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwya Chartrefi Conwy yn rhannu swyddfa41 Ffordd Conwy, lle byddwch chi’ngallu cael mynediad i'r gwasanaethaucanlynol fel y rhestrir ar y tabled (ardde):

Am fwy o wybodaeth amwasanaethau Datrysiadau TaiConwy, cysylltwch â 0300 1240050 neu ewch i wefanwww.taiconwy.co.uk

Gall GwasanaethHawliau Lles aChynhwysiant AriannolCartrefi Conwy helputenantiaid• Gwneud cais ar gyfer budd-daliadau e.e. budd-dal tai, budd-dal Treth y Cyngor a budd-dal anabledd

• Rheoli dyledion a chysylltu â chredydwyr • Derbyn y bargeinion ynni gorau • Gwiriad iechyd ariannol am ddim i edrych ar eich incwm a’chgwariant.

Mae Lisa Jones, Mike Thomas a Linda Holmes yn ceisio helputenantiaid i wella eu sefyllfa ariannol ac mae'r gwasanaeth ynrhad ac am ddim i denantiaid Cartrefi Conwy.

Rydym ni wedi gweld dros 200 o denantiaid ers mis Medi yllynedd.

Os hoffech chi ein cymorth ni, ffoniwch GwasanaethCwsmeriaid Cartrefi Conwy ar 0300 124 0040. Fel arall, feallwch chi siarad efo’ch Swyddog Incwm, eich CydlynyddCymdogaeth neu’ch Cydlynydd Byw'n Annibynnol.

Cydweithfeydd bwyd - Beth yw Cydweithfa Fwyd?

Mae cydweithfa fwyd yn ffordd syml o brynu ffrwythau a llysiau ffres yn eich cymuneda chefnogi busnesau lleol ar yr un pryd. Mae’r cydweithfeydd bwyd yn cael eurhedeg yn wythnosol gan wirfoddolwyr mewn lleoliadau cymunedol fel ysgolion,canolfannau neu weithleoedd.

Mae'r holl gynnyrch a gyflenwir drwy'r cydweithfeydd bwyd yn dod o gyflenwyr lleolsy'n dewis ffrwythau a llysiau ffres yn ôl y tymor, argaeledd a gwerth.

Y cwbl sydd arnoch chiangen ei wneud ydi galwheibio’ch cydweithfa fwyd,archebu’ch nwyddau, talu,ac yna nôl y nwyddau ffresyr wythnos ganlynol.

Mae yna oddeutu 300 ogydweithfeydd bwydcymunedol yng Nghymru.Yn ogystal â’ch helpu ifwyta'n iach, mae’r cydweithfeydd bwyd hefyd yn eich helpu i arbed arian. Mae rhaicydweithfeydd bwyd hefyd yn cynnig cynnyrch fel wyau yn ychwanegol at lysiau affrwythau. Mae llawer ohonyn nhw’n gysylltiedig â gweithgareddau cymunedol eraill.

Ewch i www.foodcoopswales.org.uk i ddod o hyd i gydweithfeydd bwydyn eich ardal chi.

Page 7: Gyda'n gilydd Hydref 2014

CANOLFAN ADNODDAUANABLEDDDyma Elusen a sefydlwyd yn 1988 i gefnogi pobl ag anableddau a namau ar ysynhwyrau yng ngogledd Cymru.

“RYDYM NI’N YMFALCHÏO YN EIN GALLU I DDARPARU CANOLFANSY’N CANOLBWYNTIO AR Y PERSON AC I GYNNIG DATRYSIADAUYMARFEROL I GEFNOGI BYW BOB DYDD"

Rydym ni ar Twitter a Facebook! www.facebook.com/drcshop29

www.twitter.com/drcshop29 neu @ drcshop29

Hoffwch a dilynwch ni i dderbyn y newyddion a’r cynigion diweddaraf yn y ganolfan.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn: 01745 448288neu ar e-bost: [email protected]

7

Popeth sydd arnoch chi angen ei wybod am ddyled: Rhan 1Mae llawer o bobl yn cael trafferthion ariannol. Os ydych chi yn y sefyllfa yma,dyma ychydig o awgrymiadau i wneud pethau’n haws i chi.

Cyngor - os ydych chi’n cael problemau ariannol gofynnwch am gyngor ar unwaith.Cysylltwch â Thîm Hawliau Lles Cartrefi Conwy drwy'r Gwasanaethau Cwsmeriaidar 0300 124 0040. Neu ffoniwch eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol ar 0844 4772020 neu elusen Step Change ar 0800 138 1111 cyn gynted ag y gallwch.

Cyllidebu - gwnewch restr o'r arian sydd gennych chi’n dod i mewn ac unrhywwariant, gan gynnwys arian sy'n ddyledus i gredydwyr. Gallwch ddefnyddio’chcyllideb i lunio cyfriflen y gallwch chi ei rhoi i gredydwyr i ddangos eich bod chimewn trafferthion ariannol.

Undebau Credyd – mae'r rhain yn aml yn cynnig benthyciadau rhatach nabenthycwyr carreg drws neu gwmnïau benthyciad diwrnod cyflog. Cysylltwch agUndeb Credyd Gogledd Cymru ar 0333 200 0601.

Cynlluniau Rheoli Dyled - mae rhai cwmnïau yn cynnig rhoi’ch holl ddyledioni mewn i un Cynllun Rheoli Dyledion. Rydych chi’n talu ffi fisol iddyn nhw ac maennhw wedyn yn anfon yr arian sy’n ddyledus at eich credydwyr. Ond ble mae’r fagl?Mae rhai cwmni rheoli dyledion yn codi hyd at 50% ar gyfer y gwasanaeth, sy'n

golygu mai dim ond hanner yr hyn rydych chi’n ei dalu sy’n cael ei anfon at eichcredydwyr. O ganlyniad, bydd yn cymryd dwywaith yn fwy o amser i chi dalu’chdyledion. Mae Step Change yn cynnig Cynllun Rheoli Dyledion am ddim.Ffoniwch nhw ar 0800 138 1111.

Cwmnïau Ynni - mae'r rhan fwyaf o gwmnïau ynni yn cynnig cymorth igwsmeriaid mewn trafferthion ariannol. Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni os ydychchi’n cael trafferth talu’ch bil.

Awdurdod Ymddygiad Ariannol – maen nhw’n cynnig cyngor arwasanaethau ariannol megis cwmnïau benthyciad. Ewch i’w gwefan:www.fca.org.uk.

Hurbrynu - cytundeb ydi hwn sy'n llogi nwyddau i gleientiaid am gyfnodpenodol. Ar ddiwedd y cyfnod gall y cleient brynu'r nwyddau am bris bychan.Mae’r cynllun yma’n aml yn cael ei ddefnyddio i brynu ceir.

Llog - dyma'r swm y mae credydwr yn ei godi arnoch chi ar ben y swm rydychchi wedi ei fenthyg. Gwiriwch y cyfraddau llog cyn cytuno ar unrhyw fenthyciadneu gynnyrch ariannol arall er mwyn i chi weithio allan faint yn union faint fydd ynrhaid i chi dalu'n ôl.

YDYCH CHI'NBERCHEN AR GI HEBFICROSGLODYN?Efallai eich bod chi wedi darllen neu glywed llu o straeon arswyd am gw^n yn cael eudwyn o erddi pobl. Yn anffodus mae’r drosedd hon yn dod yn fwyfwy cyffredin ac nidyw wedi ei chyfyngu i ddinasoedd mawr yn unig. Mae pob mathau o gw^n yn cael eudwyn ac ni ddylem ni gymryd yn ganiataol na fydd yn digwydd i ni oherwydd bodgennym ni gi 'mwngrel' ac nid ci o frîd.

Gwnewch yn siw^r bod eich ci yn cael microsglodyn. Fel hyn, os ydi’ch ci yn cael eiddwyn neu’n mynd ar goll, fe ellir adnabod y ci drwy ei ficrosglodyn a’i ddychwelyd i chiyn gynt. Gall talu am loches ci tra bod yr awdurdodau yn ceisio dod o hyd i'rperchennog, fod yn gostus iawn.

O fis Mawrth 2015 yng Nghymru ac o fis Ebrill2016 yn Lloegr, mi fydd yn rhaid i BOB ci gaelmicrosglodyn. Os nad ydych chi'n gallu fforddiotalu am hyn efallai y byddwch chi’n gymwys igael microsglodyn yn rhad ac am ddim. Osoes gennych chi fynediad i'r rhyngrwyd ewchi www.chipmydog.org.uk i gael rhestr ofilfeddygon sy'n cynnig hyn yn eich ardal chi.Os nad oes gennych chi fynediad i'rrhyngrwyd, ffoniwch 0330 123 0334.

YMDDIRIEDOLAETH GIGGWASANAETHAU AMBIWLANSCYMRUMae gan bawb ei stori, ond beth ydi’ch stori chi? Ydych chi wedidefnyddio Gwasanaethau Ambiwlans Cymru neu Galw Iechyd Cymru? Ihelpu i wella’r gwasanaethau yma ewch i adran dweud eich dweudwww.ambulance.wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at WasanaethAmbiwlans Cymru / Galw Iechyd Cymru, RHADBOST NAT6805,Abertawe SA7 9ZZ neu cysylltwch â’r Tîm Partneriaid Gofal Iechyd ar01792 311773 neu [email protected].

Rhybudd am wefru E-Sigarets• defnyddiwch y gwefrydd a roddwyd gyda’ch pecyn • peidiwch â chymysgu gwahanol ddarnau • peidiwch â thynhau batri’n rhy dynn ar y gwefrydd • peidiwch â’u gadael heb neb yn yr ystafell

Ar gael yn gymraeg ar gais

Page 8: Gyda'n gilydd Hydref 2014

Cymeradwywyd cynlluniau iwella'r ffordd y gall tenantiaid athrigolion gymryd rhan ynCartrefi Conwy ddydd Iau 14Awst 2014 gan denantiaid afynychodd gyfarfod cyffredinolarbennig o Fforwm TenantiaidCartrefi Conwy'.

Am lawer o fisoedd a gydachefnogaeth annibynnol ganTPAS Cymru (y GwasanaethYmgynghorol Cyfranogiad

Tenantiaid), mae aelodau o Bwyllgor Rheoli'r Fforwm Tenantiaid ynghyd agAelodau’r Bwrdd a staff Cartrefi Conwy wedi bod yn archwilio ffyrdd o wellacyfleoedd cymryd rhan.

Bydd y newidiadau yn symud i ffwrdd o strwythur ffurfiol a phrosesau cysylltiedig,ac yn eu lle bydd fframwaith mwy hyblyg a Chylch Gorchwyl a fydd yn cael eifrandio fel 'Lleisiau@Cartrefi Conwy'.

Mae'r fframwaith 'Lleisiau@CartrefiConwy' newydd wedi ei anelu at sicrhau mwyo gynrychiolaeth a hygyrchedd ar draws ystod eang o weithgareddau ymgysylltu â'rgymuned a chyfranogiad tenantiaid yn Cartrefi Conwy.

Bydd gweithgareddau yn gysylltiedig â Gweithredu Cymunedol, GwellaGwasanaeth a Datblygiad Personol yn cael eu hyrwyddo o dan y teitl'Lleisiau@CartrefiConwy' er mwyn annog mwy o bobl i rannu eu barn a chaelgwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â'rcartrefi a’r gwasanaethau mae CartrefiConwy yn ei ddarparu i'w tenantiaid a'rgymuned ehangach ledled Conwy.

Dywedodd Cydlynydd LlywodraethuCymunedol Cartrefi Conwy, LauraThomas: “Mae'n bwysig i denantiaid arfer euhawl i ddylanwadu ar wasanaethau. Rydymyn credu y bydd y fframwaithLleisiau@CartrefiConwy newydd yn eigwneud yn llawer haws i'n tenantiaid iwneud hynny.

“Rydym am i fwy o denantiaid deimlo ygallant gael dweud eu dweud, bod eu barnyn bwysig ac yn gallu gwneud gwahaniaeth.

“Rydym yn gobeithio bydd rhoi mwy oeglurder am y cyfleoedd ymgysylltu sydd argael ar gyfer ein tenantiaid ac eraill yn ygymuned ehangach yn annog mwy ogyfranogiad a dull mwy cydweithredol a chynhwysol lle gall prydleswyr, staff,trigolion ac asiantaethau a rhwydweithiau cefnogol weithio'n well gyda'i gilydd yn eincymunedau i ddylanwadu, siapio a gwella ein gwasanaethau er budd pawb."

Gweinyddwyd y bleidlais gan David Lloyd, Cyfarwyddwr TPAS Cymru, achadarnhaodd i’r newidiadau arfaethedig fynd yn eu blaen. Dywedodd:

“Mae fy nghydweithwyr a minnau yn swyddfa TPAS Cymru Gogledd Cymru wedimwynhau bod yn rhan gyda thenantiaid a staff Cartrefi Conwy ers y Trosglwyddiad.Mae'n arfer da i adolygu eich dull o ymgysylltu â'r gymuned a chyfranogiad tenantiaido bryd i’w gilydd, ac mae’r penderfyniadau a wnaed gan y tenantiaid heno wedi euhanelu at adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn a helpu i sicrhau canlyniadaucadarnhaol ar gyfer tenantiaid a'r cymunedau i'r dyfodol.

Mae'r heriau a wynebir a'r camau sy'n cael eu cymryd yma yn Cartrefi Conwy ihelpu gwneud cyfranogiad yn fwy cynhwysol a hygyrch yn gyson â'r hyn yr ydym ynei weld ar draws y sector, yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Caiff eichtenantiaid eu canmol am yr ymrwymiad a roddwyd i ddod mor bell â hyn acedrychaf ymlaen at barhau ein perthynas gyda chi i gyd yn y dyfodol".

Mae rhai tenantiaid eisoes yn gyfarwydd â'r cyfleoedd a gynigir gan Gartrefi Conwyi gymryd rhan ac maent wedi elwa o gyfranogiad trwy;

• gael gwell dealltwriaeth ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan Cartrefi Conwy

• bod yn fwy hyderus ynghylch mynegi pryderon neu gwynion, sy'n sicrhau eu bodyn cael eu trin drwy'r sianelau cywir

• ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol fel hylendid bwyd, cyfrifiaduron, cyrsiaugarddwriaeth a ffotograffiaeth,

• gwneud ffrindiau newydd a chynyddu eu hunanhyder, i gyd o gymryd rhan

Mae'r dull newydd yn cydnabod bod unigolion yn dewis cymryd rhan mewnamrywiaeth o ffyrdd i weddu i'w hamgylchiadau unigol, diddordebau a dewisiadau.I'ch helpu i benderfynu os ydych am gymryd rhan, ac yna i'ch helpu os gwnewch;

Pwy? Mae cyfleoedd i gymryd rhan yn agored i bawb sy'n byw yng nghartrefiCartrefi Conwy - nid y rhai a enwir ar y Cytundeb Tenantiaeth yn unig - ac rydymhefyd yn croesawu sylwadau gan drigolion ac asiantaethau eraill. Os ydych yn teimloeich bod angen cymorth ychwanegol i leisio eich barn neu gymryd rhan gallwchddod â rhywun gyda chi, megis ffrind, gofalwr neu aelod arall o'r teulu.

Beth? Byddwn yn cyhoeddi dewislen o gyfleoedd â chalendr o weithgareddau acyn gwneud pwrpas ygweithgareddau yn gliriach,er mwyn eich helpu i ddeallyr hyn y gallech fod yn eiwneud a'r hyn y gellir eigyflawni.

Ble? Byddwn yn gliriachynghylch ble y byddgweithgareddau neuddigwyddiadau yn cael eucynnal; er enghraifft, Yn yCartref, rhywle yn eich ArdalLeol, neu yn rhywle y gall fodangen i chi i deithio ychydigbellter iddo. Gallwn hyd yn oed eich cynorthwyo gyda threfniadau teithio achostau cludiant.

Faint o amser? Byddwn yn fod yn gliriach ynghylch pa mor hir rydym yn disgwyl iweithgaredd penodol bara a cheisio eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau igymryd rhan ynddynt sy'n cyd-fynd â faint o amser y teimlwch y gallwch roi.

I gael gwybod mwy am y cyfleoedd i gymryd rhan yn Cartrefi Conwy;

Ffoniwch: 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad â Laura Thomas.

E-bost: [email protected]

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefanwww.cartreficonwy.org - edrychwch ar yr adran 'Newyddion' ar gyferdigwyddiadau sydd ar y gweill a’r dudalen 'Dweud eich Dweud'.

8

• Y diweddaraf gan Steve Mc Leod sydd wedi llwyddo i sefydlu ei fusnesgarddwriaeth ei hun. Dewch i wybod beth oedd ei ysbrydoliaeth igyflawni hyn ar ôl manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli ac ennillcymwysterau ar garreg ei ddrws ei hun!

• Popeth sydd arnoch chi angen ei wybod am ddyled: Rhan 2

• Crynodeb o’r Digwyddiad Pobl Hy^n

• Dewch i weld sut hwyl cafodd Zara Roberts, Dysgwr Iau y Flwyddyn,pan fu iddi gyfarfod â’r Gweinidog Tai, Carl Sargeant, yn ystod cinio yny Senedd yng Nghaerdydd (i'w gadarnhau)

• A llawer mwy...

'Gyda'n Gilydd' ydi’ch newyddlen chi, a bydd y rhifyn nesaf ar gael ym misRhagfyr. I roi gwybod i ni beth hoffech chi ddarllen amdano neu os oesgennych chi fwy o wybodaeth, erthygl neu stori ddiddorol i’w chynnwysyn rhifyn y Gaeaf, cysylltwch â ni!

Cysylltwch â'r Tîm Cyfathrebu ar 0174335345 neu [email protected]

Yn Rhifyn y Gaeaf

Tenantiaid! Dewch i ddweud eich dweud Lleisiau@CartrefiConwy