32
Hawlio’n hawliau Deall hawliau dynol

Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Nod y canllawhwn ywbwrwgolwg ar ystyr hawliau dynol yng nghyddestun bywyd bob dydd, sutmaen nhwwedi effeithio ar bobl go iawn a phamfelly eu bodmor bwysig.

Citation preview

Page 1: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Hawlio’nhawliauDeall hawliau dynol

Page 2: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol
Page 3: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Cyflwyniad 2

Beth yw hawliau dynol ac o ble maen nhw'n dod? 6

I bwy y mae hawliau dynol yn berthnasol? 11

Sut mae hawliau dynol yn gweithio? 13

A yw hawliau'n gallu bod yn anghywir? 16

Dysgu mwy am hawliau dynol 26

Sut gallwn ni helpu 27

Sut mae cysylltu â ni 28

Page 4: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Nid yw’n hawdd siarad am hawliau dynol bob tro. Gall deall sut y cânt eurhoi hyn ar waith yn ymarferol fod hyd yn oed yn anoddach. Mae llawer owybodaeth am hawliau dynol ar gael o sawl ffynhonnell wahanol – o’rllywodraeth a llysoedd barn i’r cyfryngau a mudiadau gwirfoddol – ond ynaml mae’r wybodaeth hon yn anghyson, dryslyd, yn llawn jargoncyfreithiol neu nid yw’n ddigon cyflawn i alluogi i ni wneud synnwyr o bethyn union yw hawliau dynol a sut y cânt eu rhoi ar waith.

Nod y canllaw hwn yw bwrw golwg ar ystyr hawliau dynol yng nghyd-destun bywyd bob dydd, sut maen nhw wedi effeithio ar bobl go iawn apham felly eu bod mor bwysig.

Mae’n ceisio rhoi esboniad clir i chi o beth yw hawliau dynol a sut maennhw’n ymwneud â’ch bywyd chi a bywydau pawb ym Mhrydain, ynogystal ag ambell i enghraifft o hawliau dynol annisgwyl o bosibl. Maehefyd yn bwrw golwg ar rai o’r cwynion cyffredinol am hawliau dynol iweld pa mor gywir yw’r rhain. Ar y diwedd mae rhestr o sefydliadau a allroi gwybodaeth i chi am hanes deddfwriaeth hawliau dynol neuganllawiau ar eich hawliau cyfreithiol.

Nid rhywbeth newydd yw hawliau dynol ym Mhrydain. Maen nhw mor henâ’r Magna Carta, sy’n cael ei chydnabod gan lawer fel y siarter hawliau

2

Cyflwyniad gan Francesca Klug

Page 5: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

cyntaf yn y byd. Ond yn ystod y degawd diwethaf nid oes sefydliadcenedlaethol wedi bod yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth adealltwriaeth o beth yn union yw hawliau dynol – ac efallai’r un morbwysig, beth nad ydyn nhw.

Sefydlwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn 2007 i lenwi’rbwlch hwnnw i ryw raddau. Ein swyddogaeth yw cyflwyno’r achos droshawliau dynol a pham eu bod yn bwysig i ni oll. Mae hyn yn golygu eglurobeth ydyn nhw a sut maen nhw’n gweithio mewn iaith y gall pawb ei deall.Mae’n golygu dangos sut maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth i’nbywydau a sut maen nhw’n gosod fframwaith ar gyfer cymdeithasgyfiawn a theg. Mae hyn yn golygu cydnabod yn onest ac ymchwilio i’rrhesymau pam fod rhai pobl yn feirniadol o hawliau dynol.

Dim ond un o’r pethau rydyn ni’n ei wneud fel rhan o’n gwaith ar hawliaudynol yw’r canllaw hwn. Gobeithio y byddwch yn ei weld yn ddiddorol,defnyddiol a hyd yn oed yn annisgwyl o bryd i’w gilydd.

Comisiynydd, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

3

Page 6: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

4

Mae eich rhieni, sydd wedi byw gyda’igilydd ymhell i’w saithdegau, bellach yncael trafferth ymdopi’n annibynnol. Mae unyn gorfod gofalu fwyfwy am y llall, ond wrthi’r ddau heneiddio nid ydynt yn galluymdopi mwyach. Mae eich cyngor lleol yndweud y gall gynnig lle i’ch tad mewncartref gofal cyfagos o eiddo’r cyngor, onddoes dim lle i’ch mam. Mae’r syniad o gaeleu gwahanu yn torri eu calonnau ac rydychchi’n protestio, ond mae’r cyngor yndweud na all wneud dim mwy ac nad oesrheidrwydd arno’n gyfreithiol i’w cadwgyda’i gilydd.

Oni allai hyn ddigwydd i unrhyw un?

Fel mae’n digwydd, diolch i ddarn penodolo ddeddfwriaeth, gallai sefyllfaoedd fel hynberthyn i'r gorffennol.

Mae’r hawliau yn y Ddeddf Hawliau Dynolyn eich amddiffyn mewn sawl ffordd nad

ydych chi’n ymwybodol ohonyn nhw obosibl. Mae’r Ddeddf yn wahanol iddeddfau eraill. Fel mesurau iawnderaumewn gwledydd democrataidd ledled ybyd, mae’n pennu’r fframwaith ar gyferdeddfau eraill a’r egwyddorion parhausddylai fod wrth wraidd penderfyniadaumewn bywyd cyhoeddus. Mae’r hawliau yny Ddeddf yn golygu na ddylai unrhyw uneich trin mewn ffordd annynol neuddiraddiol, beth bynnag fo’r sefyllfa. Maennhw’n rhoi’r hawl i chi i breifatrwydd ac ifwynhau eich bywyd teuluol. Maen nhw’ncefnogi’r dewisiadau rydych chi’n eugwneud mewn llawer o feysydd pwysig, felâ phwy i gymysgu â nhw neu’r rhyddid ifynegi eich credoau. Gan fod yr hawliau yn yDdeddf yn cydnabod yn benodol nadunigolion yn unig ydyn ni, ond ein bod ynbyw mewn cymdeithas ddemocrataidd,mae eich hawliau chi ac unigolion eraill yncael eu cydbwyso ag anghenion ehangach ygymuned rydych chi’n byw ynddi.

Dychmygwch y sefyllfa ganlynol...

Page 7: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Yn 2005, gwahanwyd Mr a Mrs D, 89 oed, panbenderfynwyd bod Mr D angen gofal preswyl a nyrsio.Dywedwyd wrth Mrs D nad oedd hi’n gymwys i gael lle âchymhorthdal yn y cartref sy’n eiddo i’r cyngor ac aeth i fywgyda’i mab.

Dywedodd arbenigwyr hawliau dynol a sefydliadau pobl hŷnbod hyn yn mynd yn groes i hawl y cwpl i barch i’w bywydpreifat a theuluol (Erthygl 8), a amddiffynnir gan y DdeddfHawliau Dynol.

Yn dilyn y cyhoeddusrwydd ac ymgyrch gan y teulu,aseswyd anghenion Mrs D a chynigiodd Cyngor Sir Gaerloywle â chymhorthdal iddi yn yr un cartref gofal â’i gŵr.

1egwyddorionar waith

Page 8: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Beth ywhawliau dynol ac o blemaen nhw'n dod?

Page 9: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Ym 1948 daeth grŵp o ddynion a menywod blaenllaw o bedwar ban bydat ei gilydd i ddrafftio un o’r siarteri hawliau enwocaf hyd heddiw. Mae’rDatganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn seiliedig ar syniad syml – sef einbod i gyd yn ddynol ac felly’n haeddu hawliau a rhyddid sylfaenol. Yngngoleuni erchyllterau’r Ail Ryfel Byd ceisiodd atal gormes ac erchyllterauyn y dyfodol drwy nodi’r gwerthoedd sy’n sail i werth cyfartal ac urddasdynol.

Gan ystyried egwyddorion sylfaenol holl brif grefyddau’r byd, drafftiwyd yDatganiad yn benodol i hyrwyddo parch at ein gilydd a rhannu cyfrifoldebâ’n gilydd, ynghyd â chyfyngu ar bŵer mympwyol dros unigolion ganwladwriaethau. Mae wedi ysbrydoli’r holl gytundebau a siarteri hawliaudynol sydd wedi’i ddilyn.

Nawr mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn pennu swyddogaeth hawliau dynolyng nghymdeithas a deddfwriaeth Prydain. Ei nod yw sicrhau bod yregwyddorion arweiniol sydd wrth wraidd hawliau dynol yn rhan o’ncyfraith ac yn rhan o’r ffordd rydyn ni’n trin ein gilydd.

7

Page 10: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Mae rhai yn galw hawliaudynol yn synnwyrcyffredin. Mae eraill yn euhystyried fel moesau da.Maen nhw wedi’u seilio arbum egwyddor:

8

O ran y gyfraith, mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi’rhawliau a ddeilliodd o Gonfensiwn Ewropeaidd ar HawliauDynol 1950 (a ddrafftiwyd yn bennaf gan gyfreithwyr oBrydain a’i gefnogi gan arweinwyr o Brydain fel WinstonChurchill) ar waith. Mae’n dod â hawliau dynol i Brydain ermwyn i’n llysoedd ni allu ymdrin â materion hawliau dynolac fel nad yw pobl yn gorfod mynd i’r llysoedd Ewropeaiddi gyflwyno’u hachosion.

Efallai nad oeddech chi’n gwybod ond nid rhywbethnewydd yw hawliau dynol. Cydnabyddir yn eang maiMagna Carta 1215 oedd y siarter hawliau gyntaf aphasiwyd y mesur iawnderau cyntaf ym Mhrydain ym1689. Defnyddiodd y Confensiwn elfennau o’r dogfennauhanesyddol hyn a chyfraith gwlad Lloegr ond eudiweddaru ar gyfer yr ugeinfed ganrif i adlewyrchu llawero’r gwerthoedd a’r safonau yn y Datganiad.

Page 11: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

9

Tegwch.Parch.Cydraddoldeb.Urddas.Ymreolaeth.

Y rheswm dros greu hawliaudynol oedd rhoi’r egwyddorionhyn ar waith drwy nodi cyfres ohawliau a sawl rhyddid y maegan bawb hawl iddyn nhw ynsgil ein dynoliaeth gyffredin.

Yn eu hanfod mae hawliaudynol yn ymwneud â’r fforddrydyn ni’n trin ein gilydd. Oganlyniad i hynny maen nhw’nbwysig iawn i’r bobl fwyafagored i niwed neu leiafpwerus yn ein cymdeithas, felpobl mewn gofal, plant ifancneu bobl ag anawsterau dysgu.

Page 12: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

2Derbyniwyd N, merch anabl 10 oed, i’r ysbyty gyda haint aryr ysgyfaint a ddatblygodd yn niwmonia. Yn groes iddymuniadau mam y ferch, gwrthododd yr ysbyty roicymorth anadlu iddi a rhoi gorchymyn ‘Peidiwch ag Adfywio’ar ei ffeil. Wedi hynny trosglwyddwyd N i ysbyty arall lle’irhoddwyd ar beiriant anadlu am bythefnos a’i rhyddhau o’rysbyty dri mis yn ddiweddarach a hithau’n holliach.

Roedd yr hen Gomisiwn Hawliau Anabledd eisoes ynbryderus bod penderfyniadau gweithwyr iechyd proffesiynolynglŷn â gofal pobl anabl yn cael eu dylanwadu o bryd i’wgilydd gan eu barn ar ansawdd bywyd yr unigolyn anabl.Rhoddwyd caniatâd i’r DRC herio penderfyniadau’r ysbytycyntaf yn y llys, gan ddefnyddio dadleuon am hawliau dynolyn seiliedig ar yr hawl i fywyd (Erthygl 2) a’r hawl i beidio âchael eich trin yn annynol neu ddiraddiol (Erthygl 3). Cafoddyr achos ei setlo gyda thelerau cyfrinachol.

egwyddorionar waith

Page 13: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Mae hawliau dynol ynberthnasol i bawb, ergwaethaf y newyddion agawn amdanynt o bryd i’wgilydd. Maen nhw’nperthyn i bob un ohonomni ac yn berthnasol gartrefa thramor.

Os ydych chi’n gweldymgyrch dros hawliaucleifion, galw am wellcraffu i atal cam-drin mewncartrefi hen bobl neubrotest am driniaeth plantag anableddau dysgu –rydych chi’n gweld hawliaudynol ar waith.

11

I bwyymaehawliau dynol ynberthnasol?

Page 14: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Nid oedd Diane Blood yn cael cofrestru eidiweddarŵr fel tad ei dau blentyn ar eutystysgrifau geni. Roedd hyn oherwydd eubod wedi’u cenhedlu drwy driniaeth IVF arôl i’w tad farw. Roedd y DdeddfFfrwythloni Dynol ac Embryoleg ar y prydyn cynnwys rheolau a oedd yn atalychwanegu enw tad marw ar dystysgrifgeni plentyn.

Yn 2003, heriodd Diane Blood ydarpariaethau’n llwyddiannus mewn llys achanfuwyd bod y Ddeddf yn anghydnawsâ’r Ddeddf Hawliau Dynol ar sail hawl yplentyn i barch at fywyd teuluol o danErthygl 8. Yn sgil hynny, diwygiwyd ygyfraith a bu modd i Diane gofrestru ei gŵrmarw fel tad y plant.

3egwyddorionar waith

Page 15: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Drwy wneud awdurdodau cyhoeddus yn atebol am eu penderfyniadau,gall hawliau dynol gynorthwyo i amddiffyn unigolion sy’n agored i niwedyn erbyn cyrff cyhoeddus fel adrannau’r llywodraeth, ysbytai, ysgolion achynghorau lleol. Maen nhw’n darparu dull cyson a theg o bwyso a mesursefyllfaoedd i helpu i fynd i’r afael â materion cymdeithasol pwysig drwyganfod yr ateb gorau i bawb dan sylw. Maen nhw hefyd yn ein galluogi isicrhau cydbwysedd rhwng amddiffyn hawliau unigolyn a hawliau’rgymuned ehangach.

Mae rhai hawliau dynol yn gyfyngedig ac yn newid o dan amgylchiadaupenodol lle mae’n rhaid cydbwyso hawliau gydag ystyriaethau ehangach,fel diogelwch eraill. Mae’r hawliau yn y Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi’rddyletswydd ar y llywodraeth i’n hamddiffyn rhag unigolion a grwpiau afyddai’n camddefnyddio ein hawliau sylfaenol. Mae gennych chi’r hawl iryddid mynegiant, er enghraifft, ond mae’r hawl hwnnw’n cael ei gyfynguos ydych chi’n peryglu eraill drwy ddefnyddio’ch hawl yn anghyfrifol – feldrwy annog rhywun i achosi niwed i rywun arall. Mae ambell i hawl ynddiamod: ni ellir byth cyfiawnhau arteithio neu gaethiwo rhywun arall.

Mae hawliau dynol yn gweithio mewn ffyrdd syml ac ymarferol, gan ddodâ synnwyr cyffredin i sefyllfaoedd lle mae gweithdrefnau a systemaubiwrocrataidd wedi colli golwg ar bobl a’u hanghenion unigol.

13

Sutmae hawliau dynol yn gweithio?

Page 16: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Nid oes angen i chi gymryd camau cyfreithiol i wneud i hawliau dynolweithio bob tro – mae gwybod beth yw'ch hawliau'n ddigon i newidsefyllfa'n aml. Yn wir, nid bwriad y Ddeddf Hawliau Dynol oedd annogmwy o bobl i fynd i'r llysoedd. Ei diben yw atal camddefnyddio hawliaudynol drwy annog awdurdodau cyhoeddus i ddefnyddio hawliau dynol i'wcynorthwyo i wneud eu gwaith yn iawn.

Mae hawliau dynol yn berthnasol mewn amrywiaeth hynod o eang o gyd-destunau – nid mewn rhyfel a gwrthdaro'n unig. Weithiau gall hawliaudynol eich amddiffyn mewn sefyllfa lle nad ydych chi hyd yn oed ynsylweddoli eich bod angen hawliau.

Mae hawliau dynol yn rhoi mwy o ryddid i chi ddewis y math o fywyd yrydych yn ei fyw, gan gydnabod bod gan bobl fathau gwahanol o berthynasa chredo a'u galluogi i fyw bywydau sy'n addas iddyn nhw heb niweidioeraill. Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhoi dyletswydd ar awdurdodaucyhoeddus i gydnabod y gwahanol fathau o berthynas lle bo angen ac ibeidio â gwneud rhagdybiaethau am fywydau preifat pobl. Maeenghreifftiau o sefyllfaoedd lle gallai hyn weithio'n ymarferol wedicynnwys cydnabyddiaeth swyddogol o gyplau mewn perthynas un rhywfel y berthynas agosaf a chydnabod y dylai unigolion wneud eu dewisiadaueu hunain ynglŷn â phwy i'w cynnwys mewn penderfyniadau pwysig sy'neffeithio arnyn nhw, fel y dengys enghraifft 4.

14

Page 17: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

4egwyddorionar waith

Roedd S yn bartner o'r un rhyw gyda menyw â chyflwriechyd meddwl a oedd wedi’i chadw fel claf dan orchymyn.Gwrthododd Cyngor Lerpwl gydnabod S fel ei ‘pherthynasagosaf’. Mae bod yn berthynas agosaf yn swyddogaethstatudol gyda chyfrifoldebau pwysig wrth wneudpenderfyniadau am gadw claf dan orchymyn a’i driniaeth.

Gyda chyplau heterorywiol, mae’r wraig neu’r gŵr yn cael eidderbyn yn awtomatig fel y berthynas agosaf ac mae cyplausy’n cydfyw yn gymwys ar ôl chwe mis. Ar gyfer unrhywgategorïau eraill o berthynas mae’r Ddeddf Iechyd Meddwlyn nodi bod yn rhaid i bobl fod wedi cydfyw am o leiaf bummlynedd. Dim ond ers tair blynedd yr oedd S wedi bywgyda’i phartner. Dadleuodd bod yr hawl i barch at fywydpreifat a theuluol (Erthygl 8) yn cynnwys materiontueddfryd rhywiol, hunaniaeth a dewis personol.

Yn dilyn ei hachos, penderfynwyd bod y diffiniad oberthynas agosaf yn wahaniaethol a phennodd y llys gyfnodcymhwyso’r un fath ar gyfer pob cwpl, beth bynnag eucyfeiriadedd rhywiol.

Page 18: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

16

A ywhawliau'n gallu bod yn anghywir?

Page 19: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Does dim osgoi hyn: mae hawliau dynol yn denu rhywfainto feirniadaeth gan sawl ffynhonnell wahanol. Mae rhai o’rfarn mai dim ond i’r rhai hynny sy’n ufuddhau’n deddfauneu sy’n ddinasyddion Prydeinig y dylai hawliau dynol fodyn berthnasol. Mae eraill yn credu bod hawliau dynol ynbroblem i unbenaethau tramor, dim byd i ni boeni amdanoyma. Mae llawer yn cwyno bod deddfwriaeth hawliaudynol yn peryglu ein diogelwch cenedlaethol ac yn einhatal rhag rhoi cyfraith a threfn ar waith.

Ni fydd diwedd ar bobl yn anghytuno ar fater fel hawliaudynol. Ond o leiaf fe allwn sicrhau ein bod yn cychwyn ar ydroed gywir. Mae hynny’n golygu ystyried a oes sail i rai o’rrhagdybiaethau a'r cwynion cyffredin am hawliau dynol,yn hytrach na’u cymryd yn ganiataol.

17

Page 20: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

‘Rhywbeth i droseddwyr achyfreithwyr yw hawliau dynol:dyma enghraifft o orffwylltracywirdeb gwleidyddol’

Rydynnigydwedi clywed ystraeonarswydamsut mae hawliaudynol yn ffafrio troseddwyryn hytrach na diogelwch, urddas dioddefwyra synnwyr cyffredin syml. Does dim rhyfeddfod llawer ohonom ni’n cwestiynu eu diben.Ond beth sy’n digwydd os yw’r ffynhonnellrydyn ni’n seilio ein barn ar hawliau dynolarni’n anghywir? Dengys y dystiolaeth nadyw llawer o’r gohebu am hawliau dynol ynffeithiol gywir yn aml. Dim ond ar y dechrau ymae rhai achosion yn cael sylw ac mae’rcanlyniadau’n cael eu hanwybyddu. Gallawdurdodau cyhoeddus sy’n orofalus neu’ncamgymryd rhywbeth ddarparugwybodaeth anghywir heb yn wybod, ganarwain at gyhuddo’r Ddeddf Hawliau Dynolar gam pan fo pethau’n mynd o chwith.

18

Page 21: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Yn sgil hyn mae ambell i stori gyffredin ond celwyddog i’w chlywed ynaml. Dyma ambell i enghraifft:

• Flwyddyn neu ddwy’n ôl adroddwyd bod dyn a oedd dan amheuaeth oddwyn ceir yng Nghaerloyw a fu’n taflu brics a theils at yr heddlu ynystod gwarchae ar ben to wedi derbyn pryd ‘Kentucky Fried Chicken’gan heddweision i sicrhau ei ‘les a’i hawliau dynol’. Mewn gwirionedd,dywedodd datganiad gan yr heddlu mai rhan o’u strategaeth drafod, adim mwy na hynny, oedd y bwyd.

• Gwrthododd awdurdod heddlu gyhoeddi lluniau o garcharorion oeddwedi dianc mewn achos adnabyddus iawn. Camddehonglodd rhai yn ycyfryngau hyn gan dybio bod angen gwneud hyn er mwyn peidio âthorri hawliau dynol y carcharorion. Mewn gwirionedd, penderfynoddyr heddlu beidio â chyhoeddi’r lluniau am resymau gweithredol – ac nifyddai deddfwriaeth hawliau dynol wedi eu hatal rhag gwneud hynny.

• Heriodd y llofrudd lluosog Dennis Nilsen benderfyniad gan reolwrcarchar Whitemoor i atal mynediad iddo i ddeunydd pornograffig ganddadlau bod y gwaharddiad yn groes i’w hawl dynol i ryddid mynegiant.Methodd yr achos cyn cychwyn bron: ni chafodd ei ystyried yn y systemfarnwrol o gwbl, ar wahân i’w wrthod. Wrth reswm ni fyddaideddfwriaeth hawliau dynol yn cyfreithloni ei gais am bornograffi.

19

Maeadroddhanner ystori’nunig, neuosgoi rhaielfennauos nadydynnhw’ncefnogiachosarbennig,yn gwneudtro gwael âni i gyd.

Page 22: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

‘Nid yw rhai pobl yn haeddu hawliau dynol’

Un o egwyddorion sylfaenol hawliau dynol yw eu bod ynrhywbeth i bawb. Nid gwobr ydyn nhw am ymddygiad da,ond fframwaith ar gyfer cymdeithas gyfiawn a theg.

Eu cryfder yw eu bod yn amddiffyniad rhag creulondebneu sarhad, er eu bod yn gallu, ac y dylent o bryd i’wgilydd, gael eu cyfyngu i amddiffyn eraill rhag niwed. Maewedi bod yn un o egwyddorion ein democratiaeth ers trobyd y dylai pobl sy’n beryglus i eraill golli eu rhyddid, ondni ddylid byth eu harteithio neu atal eu hawliau igyfathrebu â’u teuluoedd neu gyfreithwyr.

Rydyn ni gyd ar ein hennill o wybod bod gennym nihawliau dynol os byth bydd angen i ni ddibynnu arnyn nhw– ond mae hynny’n golygu derbyn bod gan eraill hawliddyn nhw hefyd. Weithiau bydd y bobl eraill hynny’n boblsy’n amlwg yn haeddu hawliau, fel dioddefwyr troseddau,pobl anabl sy’n cael eu gwahanu gan gyfleusterauanhygyrch, plant mewn gofal neu bobl hŷn mewn ysbytai.Ond mae pobl hefyd sydd yn yr un faint o berygl ond nadydyn nhw’n cael eu hystyried yr un mor deilwng bob tro,

20

Page 23: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

fel ceiswyr lloches amddifad,cleifion seiciatrig a gedwir danorchymyn neu Sipsiwn neuDeithwyr sy’n cael eu gyrruymaith.

Beth bynnag fo’nhamgylchiadau penodol, maehawliau dynol yn ymwneud âchydnabod ein dynoliaethgyffredin. Nid yw hynny’ngolygu bod gan bob unohonom drwydded i wneud fely mynnom neu fod ein hawliauni’n bwysicach na hawliaupawb arall. Mae’r DdeddfHawliau Dynol yn cydnabodbod gennym ni oll hawliau acyna’n rhoi modd i nigydbwyso’r rhain yn erbyn eigilydd er lles cyffredinolcymdeithas.

21

Page 24: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

‘Mae hawliau dynol yn ein gwneud yn llai diogel’

Yn hytrach na bod y tu hwnt i bob rheolaeth, maededdfwriaeth hawliau dynol ym Mhrydain yn cael eichyfyngu a’i monitro’n ofalus. Mae’n rhaid pwyso a mesurhawliau unigolion yn ofalus yn erbyn buddiannaucymunedol ehangach i sicrhau nad ydyn nhw’n achosiniwed. Dyna pam bod y mwyafrif o ddeddfau sy’n cyfynguar hawliau unigol i’n diogelu rhag troseddau neu anhrefncyhoeddus yn cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Oeddech chi’n gwybod nad yw’r Ddeddf yn ymwneud ynuniongyrchol â materion rhwng unigolion – ni allwch chierlyn eich cymydog am dorri eich hawliau dynol, ercymaint y gallech ddymuno gwneud hynny! Nid ywsefydliadau preifat yn dod o dan ei chylch gwaith chwaith,heblaw am amgylchiadau penodol, megis lle maen nhw’ndarparu gwasanaethau ar ran awdurdod cyhoeddus.

Mae’r hawliau yn y Ddeddf yn rheoleiddio’r berthynasrhwng unigolion ac awdurdodau cyhoeddus (feladrannau’r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus,

22

Page 25: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

ysbytai a chynghorau lleol) i’chamddiffyn drwy sicrhau bodsefydliadau o’r fath yndefnyddio’u pwerau’n gyfrifol.Mae’n ofynnol i rai cyrffcyhoeddus, fel yr heddlu, eichamddiffyn rhag gweithredoeddgan eraill sy’n bygwth bywyd agellir eu gwneud yn atebol o danamgylchiadau penodol os ydynnhw’n methu â gwneud hynny.

Mae mwyafrif yr hawliau yn yDdeddf Hawliau Dynol ynamodol ar gyfyngiadau i sicrhau‘diogelwch cyhoeddus’ neu‘ddiogelwch cenedlaethol’.Mae’r mecanweithiau cydbwysosy’n rhan ohoni hefyd ynhelpu i atal llywodraethaurhag camddefnyddio’rcyfyngiadau hyn.

‘Mater i wledydd eraill yw hawliaudynol: does neb yn cael eu cam-drinyma’

Mae’r mwyafrif ohonom ni’n meddwl bodangen hawliau dynol mewn rhannau eraillo’r byd, mewn sefyllfaoedd o hil-laddiad,unbenaethau creulon neu newyn mewngwledydd sy’n datblygu – dydy nhw ddimyn berthnasol yma mewn gwirionedd.

Fel y gwelwch o’r enghreifftiau yn y canllawhwn, mae hawliau dynol yr un morberthnasol ym Mhrydain ag unrhyw le arall.

Mae hawliau dynol yn ymwneud â chi. Osoes gennych chi blant sy’n mynd i’r ysgol, osoes gennych chi berthynas mewn gofal, osydych chi’n cael eich cadw dan orchymyn yrheddlu neu os ydych chi angen triniaethfeddygol – gellir effeithio’n uniongyrchol areich hawliau dynol chi a rhai eich teulu.

23

Page 26: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

5egwyddorionar waith

Roedd Mr PL yn athro ysgol uwchradd a gollodd ei ben gydadisgybl 15 oed, A. Bu Mr PL yn stelcio A ac yn ei fygwth ef a’ideulu. Ym 1988, lladdodd Mr PL dad A ac anafu A. Fe’i cafwydyn euog o ddynladdiad gan nad oedd yn llawn gyfrifol a’igarcharu am gyfnod amhenodol mewn ysbyty meddwl diogel.

Roedd teulu A wedi dweud wrth yr heddlu drosodd a throsoddam fygythiadau Mr PL yn eu herbyn yn y misoedd cyn yrymosodiad, ond ni wnaeth yr heddlu unrhyw beth i’whamddiffyn nhw. Er cael gwybodaeth a oedd yn dangos yn glirbod y teulu mewn perygl, ni wnaeth yr heddlu restio nachyfweld Mr PL, chwilio trwy ei gartref na’i gyhuddo o unrhywdrosedd cyn yr ymosodiadau.

Yn y lle cyntaf, cyflwynodd A a’i fam achos i lysoedd y DU acyna ger bron Llys Hawliau Dynol Ewrop, gan ddadlau o danErthygl 2 (yr hawl i fywyd) y dylai’r heddlu fod wedi gwneudmwy i’w hamddiffyn nhw. Er na chadarnhaodd y Llys euhawliad, ers hynny mae’r achos wedi dylanwadu ar bolisïau’rheddlu ar bobl sydd mewn perygl oherwydd gweithgareddautroseddol pobl eraill. Arweiniodd at gyflwyno ‘rhybuddionOsman’, lle mae’r heddlu yn rhybuddio pobl y gall eu bywydaufod mewn perygl.

Page 27: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Mae llawer o sefydliadau eraill ym Mhrydain sy'ncynnig gwybodaeth neu gyngor ar hawliau dynol.Ewch i'w gwefannau am ragor o wybodaeth:

• Sefydliad Hawliau Dynol Prydain: www.bihr.co.uk

• Liberty: www.liberty-human-rights.org.uk

• Amnesty: www.amnesty.org.uk

• Justice: www.justice.org.uk

• Y Cydbwyllgor Seneddol ar Hawliau Dynol:www.parliament.uk/ parliamentary_committees/joint_committee_ on_human_rights.cfm

• Y Weinyddiaeth Gyfiawnder:www.justice.gov.uk/guidance/humanrights.htm

Mae rhagor o wybodaeth am gyrff hawliau dynolrhyngwladol ar wefan Hawliau Dynol yCenhedloedd Unedig: www.ohchr.org

Dysgumwyamhawliau dynol

I ddysgu mwy am hawliau dynol,beth mae’r gyfraith yn ei ddweud,beth yw ystyr amddiffyniad yn ymeysydd amrywiol, a sut maehawliau dynol yn effeithio ar einsefydliadau a’n gwasanaethaucyhoeddus, ewch i’n gwefan:www.equalityhumanrights.com.Os ydych chi’n teimlo y gall eichhawliau dynol fod wedi’u torri,mae gennych sawl opsiwn. Efallaiy byddwch yn gallu ymdrin â’rbroblem yn anffurfiol neu drwywneud cwyn ffurfiol neu gymrydcamau cyfreithiol. Gan amlafmae’n syniad da cael cyngor yn ylle cyntaf. Mae amrywiaeth oasiantaethau, sefydliadauhawliau dynol ac ymgynghorwyrcyfreithiol a allai’ch helpu. Iddechrau gallech gysylltu ag uno’n llinellau cymorth amwybodaeth ac arweiniad (gwelertudalen 28). 25

Page 28: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Yn Nwyrain Sussex, bu anghydfod rhwng dwy chwaeranabl a oedd yn byw gyda’u rhieni mewn tŷ a oedd wedi’iaddasu’n arbennig ac awdurdod lleol. Roedden nhwangen cymorth i symud o gwmpas ond honnodd yrawdurdod lleol bod codi â llaw yn ormod o berygl iechyd adiogelwch i’w weithwyr. Yn sgil hynny ni allai’r chwioryddsymud neu adael eu cartref.

Defnyddiodd y barnwr a wrandawodd ar yr achosegwyddorion hawliau dynol i bennu rhwymedigaeth ywladwriaeth i alluogi pobl anabl i gymryd rhan mewnbywyd cymunedol. Dywedodd bod gan yr awdurdodgyfrifoldeb i barchu eu hurddas tra’n gwneud hynny.Gorchmynnodd yr awdurdod lleol i ailystyried ei bolisi isicrhau cydbwysedd rhwng hawliau dynol defnyddwyrgwasanaethau a hawliau gofalwyr i amgylchedd gwaithdiogel.

O ganlyniad i’r achos, diwygiodd awdurdod lleol DwyrainSussex ei god ymarfer ar drin â llaw i gynnwys urddas ahawliau’r sawl oedd yn cael eu codi. Dosbarthwyd y cod iawdurdodau lleol eraill, ymddiriedolaethau GIG adarparwyr gofal.

6egwyddorionar waith

Page 29: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

27

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ddyletswydd benodoli hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol, a bydd hyn yn rhan bwysig o’ngwaith yn y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n rhannu cyfrifoldeb amhyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol yn yr Alban gyda ChomisiwnHawliau Dynol yr Alban. Mae cynyddu’r ymwybyddiaeth o hawliau dynola’u rhoi ar waith yn broses barhaus – mae’n ‘brosiect i’n cymdeithas’. Osydyn ni’n deall mwy am hawliau dynol gallwn gynorthwyo ein sefydliadaucyhoeddus i roi’r hawliau hyn ar waith a gwneud gwahaniaethgwirioneddol i ansawdd bywyd pobl.

Ymchwiliad hawliau dynol

Ym mis Ebrill 2008 lansiwyd ymchwiliad annibynnol i weld pa mor ddamae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gweithio yng Nghymru a Lloegr. Bydd yrymchwiliad yn para gydol 2008, ac yn adrodd ar ei ganfyddiadau yngynnar yn 2009. Rydyn ni’n casglu tystiolaeth gan unigolion ynghyd âsefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau sy’ncynrychioli pobl, ac rydyn ni’n comisiynu ymchwil ychwanegol i fwrwgolwg fanylach ar faterion penodol. Bydd yr ymchwiliad hwn yn llywio’ngwaith ar hawliau dynol yn y dyfodol ac yn ein cynorthwyo i’w hyrwyddo’nfwy effeithiol er budd pawb. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan:www.equalityhumanrights.com/humanrightsinquiry

Sut gallwnni helpu

Page 30: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

Comisiwn Cydraddoldeb aHawliau Dynol

www.equalityhumanrights.com

Mae’r ddogfen hon ar gael hefyd ynSaesneg. Os ydych chi am gael copi mewniaith neu fformat arall (fel braille, CD sain,fersiwn hawdd i’w darllen neu brint bras)ewch i’n gwefan neu cysylltwch ag un o’nllinellau cymorth.

Mae ein holl linellau cymorth ar agorrhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddyddGwener, ond rhwng 9am a 8pm ar ddyddMercher.

Llinell Gymorth – Cymru

E-bost: [email protected]ôn: 0845 604 8810Ffôn: 0845 604 8820Ffacs: 0845 604 8830

Llinell Gymorth – Lloegr

E-bost : [email protected]ôn : 0845 604 6610Ffôn : 0845 604 6620Ffacs : 0845 604 6630

Llinell Gymorth – Yr Alban

E-bost :[email protected]ôn : 0845 604 5510Ffôn : 0845 604 5520Ffacs : 0845 604 5530

28

Sutmae cysylltu â ni

Page 31: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol
Page 32: Hawlio'r Dynol - Deall Hawliau Dynol

© Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynolwww.equalityhumanrights.comCyhoeddwyd Medi 2008ISBN 978-1-84206-081-0

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – yr eiriolwrannibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ymMhrydain

Nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw lleihauanghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, meithrincysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo ac amddiffynhawliau dynol.

Mae’r Comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb arsail oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, achyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog sefydliadau igydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Sefydlwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol odan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a dechreuodd weithreduym mis Hydref 2007. Mae’n gorff cyhoeddus anadrannol,sy’n atebol am ei gronfeydd cyhoeddus, ond ynannibynnol ar y llywodraeth.