18
DEALL LLID YR YMENNYDD CANLLAWIAU AR GYFER GWEITHWYR PROFFESIYNOL GYDA R BLYNYDDOEDD CYNNAR

DEALL LLID YR YMENNYDD - Meithrin · 2017. 4. 21. · Cyflwyniad CROESO i lawlyfr canllawiau Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol gyda’r Blynyddoedd

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • DEALL LLID YR YMENNYDD

    CANLLAWIAU AR GYFERGWEITHWYR PROFFESIYNOL

    GYDA’R BLYNYDDOEDD CYNNAR

  • Cynnwys

    Tudalen 1 Cyflwyniad

    Tudalen 2 Sut i ddefnyddio’r llyfryn hwn

    Tudalen 3 Cyflwyniad i lid yr ymennydd a chlefydau meningococaidd

    Tudalen 4 Beth sydd yn achosi llid yr ymennydd?

    Tudalen 5 Sut mae’r claf yn cael llid yr ymennydd a septisemia?

    Tudalen 6 A oes ffactorau risg?

    Tudalen 7 Sut fyddaf i’n gwybod a yw llid yr ymennydd ar blentyn?

    Tudalen 8 Sut mae trin llid yr ymennydd a septisemia?

    Tudalen 9 Brechu – y ffeithiau

    Tudalen 10 Brechu yn erbyn llid yr ymennydd

    Tudalen 12 A oes cymhlethdodau neu ôl-effeithiau ynghlwm wrth lid yr

    ymennydd?

    Tudalen 13 Beth fydd yn digwydd os bydd achos o lid yr ymennydd

    yn fy lleoliad blynyddoedd cynnar?

    Tudalen 14 Beth mae’r Ymddiriedolaeth yn medru ei wneud i helpu?

    Tudalen 15 Ymhle mae mwy o wybodaeth ar gael?

  • Cyflwyniad

    CROESO i lawlyfr canllawiau Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd ar gyfer gweithwyrproffesiynol gyda’r Blynyddoedd Cynnar sydd yn gofalu am fabanod a phlant dan 5 oed.

    Hyd yma, ni chyhoeddwyd gwybodaeth yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gyda’r

    blynyddoedd cynnar, ac felly ein gobaith yw y bydd y llyfryn hwn yn eich helpu i ddeall llid yr

    ymennydd.

    Mae llid yr ymennydd yn glefyd sydd yn achosi cryn lawer o bryder ymysg y cyhoedd,

    gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phawb sydd yn gofalu am fabanod a phlant ifanc. Fel

    gweithwyr proffesiynol gyda’r blynyddoedd cynnar fe fyddwch, mae’n si?r, yn ymwybodol o’r

    ofn a’r pryder yngl?n â llid yr ymennydd ac mae’n bosibl fod rhai ohonoch yn poeni am blant

    sydd dan eich gofal. Mae’n debyg eich bod wedi clywed am lid yr ymennydd ac efallai i chi

    fod yn ddigon anffodus i gael profiad o’r clefyd. O wybod yn bur dda sut i’w adnabod ac

    ymateb iddo byddwch yn fwy hyderus yn eich lleoliad blynyddoedd cynnar a byddwch mewn

    gwell sefyllfa i amddiffyn a helpu’r plant sydd dan eich gofal.

    Yn y llyfryn hwn cewch wybodaeth angenrheidiol am lid yr ymennydd a’r septisemias sydd yn

    gysylltiedig â’r clefyd, ynghyd ag arweiniad yngl?n â beth i’w wneud os digwydd i un o’r plant

    gael y clefyd.

    Wrth ddarllen y llyfryn hwn, fe ddysgwch sut i adnabod arwyddion a symptomau llid yr

    ymennydd a’r ôl-effeithiau a’r cymhlethdodau a all ddod yn ei sgîl. Byddwch hefyd yn deall

    mor bwysig yw ei drin â gwrthfiotigau a’i atal â brechlyn.

    Gobeithio y mwynhewch y llyfryn ac y byddwch yn cael ynddo atebion i lawer o’r cwestiynau

    a ofynnir yn gyson gan weithwyr proffesiynol gyda’r blynyddoedd cynnar.

    ~1~

  • ~2~

    Sut i ddefnyddio’r llyfryn hwn

    • Argymhellwn y dylech ddarllen y Cyflwyniad i Lid yr Ymennydd cyn darllen rhestr cynnwys y llyfryn hwn. Fe gewch yno ffeithiau a fydd yn fan cychwyn i chi.

    • Canllawiau cam-wrth-gam a geir yn y llyfryn hwn; rydym yn awgrymu, felly, y dylech ddarllen y tudalennau yn eu trefn. Os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn rhyw destun medrwch ddychwelyd at y dudalen berthnasol rywdro wedyn.

    • Yng nghefn y llyfryn rhestrir taflenni gwybodaeth am lid yr ymennydd gan yr Ymddiriedolaeth. Gellir defnyddio’r rheini i ychwanegu at y wybodaeth sydd yma.

    • Gellir defnyddio’r adnodd hwn dro ar ôl tro, fel ffordd o atgoffa’r rhai a’i darllenodd o’r blaen neu i addysgu staff newydd.

    Er mwyn medru cyfeirio’n hawdd defnyddiwyd y termau hyn drwy’r llyfryn:

    • Defnyddir y gair ‘plentyn’ neu ‘plant’ i gyfeirio at fabanod a phlant dan 5 oed.

    • Defnyddir y geiriau ‘gweithwyr blynyddoedd cynnar’ i gyfeirio at y bobl sydd yn addysgu ac yn gofalu am blant dan 5 oed.

    • Defnyddir y geiriau ‘lleoliad blynyddoedd cynnar’ i gyfeirio at yr holl sefydliadau lle gofelir am blant dan 5 oed, e.e. meithrinfeydd, grwpiau chwarae a mannau gwarchod plant.

    • Defnyddir y geiriau ‘llid yr ymennydd’ fel term cyffredinol am lid yr ymennydd a/neu gyflyrau cysylltiol yn cynnwys septisemia.

    NODIR RHAI PWYNTIAU isod i’ch helpu

    i gael y gorau allan o’r llyfryn hwn. Yn y

    llyfryn cewch wybodaeth a fydd yn

    gymorth i chi ddeall llid yr ymennydd a’r

    clefydau perthynol.

  • LLID YR YMENNYDD BACTERIOL A CHLEFYDAU MENINGOCOCAIDD. Mewn plant y mae’rclefydau hyn fwyaf cyffredin. Hysbysir am fwy na 1000 o achosion o fewn y grŵp oedran hwn bob

    blwyddyn yn y DG. Er nad yw’r clefydau’n taro ond yn gymharol anaml mae plant yn mynd yn wael yn

    gyflym iawn ac mae’r effeithiau’n aml yn ddramatig a dinistriol. Gall gwybodaeth a dealltwriaeth o lid

    yr ymennydd, medru adnabod arwyddion a symptomau’n gynnar, a chael sylw meddygol yn fuan,

    achub bywydau. Er ei bod yn bosibl i’r clefyd daro ar unrhyw adeg o’r flwyddyn mae’r mwyafrif o’r

    achosion yn digwydd yn y gaeaf.

    Organebau (germau) o’r enw bacteria a firysau yw’r prif achosion. Gall organebau eraill megis

    ffyngau hefyd ei achosi. Bacteria meningococaidd yw’r bacteria sydd yn achosi llid yr ymennydd

    amlaf mewn plant. Yr achos ail fwyaf cyffredin mewn plant yw’r bacteria niwmococaidd. Gall y

    bacteria hefyd achosi septisemia (gwenwyniad gwaed).

    Er bod llid yr ymennydd bacteriol yn glefyd heintus nid yw’n gyffwrdd-ymledol iawn, ac felly mae’r

    mwyafrif o’r achosion yn rhai ar wahân. Weithiau gall nifer o achosion ddigwydd gyda’i gilydd.

    Beth yw llid yr ymennydd?Mae llid yr ymennydd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r llid (y chwydd) yn yr haenau (pilennau’r

    ymennydd) sydd o amgylch yr ymennydd a madruddyn y cefn. Mae’r haenau hyn yn amddiffyn yr

    ymennydd rhag anaf a haint. Gall llid yr ymennydd ddigwydd pan fo organebau’n mynd i mewn i’r

    gwaed ac yn teithio i leinin yr ymennydd.

    Beth yw septisemia?Mae septisemia (a elwir hefyd yn wenwyniad gwaed) yn digwydd pan fo bacteria yn y gwaed yn

    lluosi’n gyflym ac yn achosi haint. Pan mae’r bacteria hyn yn dadfeilio a marw maent yn rhyddhau

    llawer o docsinau gwenwynig (cemegolion). Gallant achosi niwed mawr i feinweoedd ac organau’r

    corff. Mae septisemia fel arfer yn fwy o fygythiad na llid yr ymennydd a gall arwain at fethiant organau

    a cholli aelodau o’r corff.

    Beth yw clefydau meningococaidd?Mae clefydau meningococaidd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio dau salwch difrifol a achosir gan y

    bacteria meningococaidd - llid yr ymennydd a septisemia. Gall llid yr ymennydd a septisemia

    ddigwydd ar wahân ond yn aml maent yn digwydd gyda’i gilydd. Cyfeirir yn aml at glefyd

    meningococaidd fel haint meningococaidd.

    Cyflwyniad i lid yr ymennydd a chlefydau meningococaidd

    ~3~

    Gall llid yr ymennydddaro ar unrhyw adeg acmae’n gallu lladd o fewn

    ychydig oriau

  • Llid yr ymennydd bacteriolMae llawer o wahanol facteria’n gallu achosi llid yr ymennydd. Nodir isod y bacteria sydd yn achosi’r clefyd amlaf

    mewn plant. Gall llid yr ymennydd bacteriol ladd a rhaid cael sylw meddyg ar unwaith.

    BACTERIA MENINGOCOCAIDD yw’r bacteria sydd yn achosi llid yr ymennydd amlaf. Mae pum prif grŵp o’r rhain: A,B, C, W135 ac Y. Yn y DG, grŵp B yw’r achos mwyaf cyffredin am lid yr ymennydd. Mae grŵp C hefyd, er ei fod yn llai

    cyffredin, yn achosi nifer o achosion. Yn anaml iawn yr achosir llid yr ymennydd gan y grwpiau eraill (A, W135 ac Y), er

    eu bod yn achosi llawer o achosion mewn rhannau eraill o’r byd. Mae’r grwpiau hyn mor ddifrifol â’i gilydd a gallant

    achosi marwolaeth. Mae’r bacteria hyn yn achos cyffredin am septisemia. Amcangyfrifir yr hysbysir am 850 o achosion

    o glefydau meningococaidd mewn plant dan 5 oed yn y DG bob blwyddyn. Mae oddeutu 7% o’r rhai sydd yn cael

    clefydau meningococaidd yn marw ac mae 10-15% o’r rhai nad ydynt yn marw yn dioddef ôl-effeithiau difrifol megis

    colli aelod o’r corff, niwed i’r ymennydd neu fyddardod. Achosir oddeutu 90% o’r achosion gan grŵp B.

    BACTERIA NIWMOCOCAIDD yw’r achos ail fwyaf cyffredin am lid yr ymennydd bacteriol. Mae 90 o wahanolrywogaethau ohonynt ond dim ond nifer fach o’r rhain sydd, fel arfer, yn achosi llid yr ymennydd mewn plant. Gall y

    bacteria hyn achosi nifer o heintiau eraill hefyd yn cynnwys septisemia, arthritis/gwynegon septig, llid y glust (otitis

    media), clust ludiog, sinusitis, niwmonia a chlefyd yr ysgyfaint. Gelwir yr heintiau hyn gyda’i gilydd yn glefydau

    niwmococaidd.

    Plant dan 18 mis oed yw’r mwyafrif sydd yn cael llid yr ymennydd niwmococaidd. Nid yw llid yr ymennydd

    niwmococaidd yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn glefyd cyffwrdd-ymledol ac ni chysylltir y clefyd hwn ag ymosodiadau

    o lid yr ymennydd. Mae oddeutu 400 o achosion o lid yr ymennydd niwmococaidd bob blwyddyn yn y DG. Mae

    oddeutu 20% o’r bobl sydd yn cael llid yr ymennydd niwmococaidd yn marw a rhyw 25% o’r gweddill yn cael ôl-

    effeithiau megis byddardod, cymhlethdodau niwrolegol hirdymor ac, os bu septisemia, yn colli aelodau o’r corff. Mae’r

    bacteria niwmococaidd yn cael eu cludo gan hyd at 30% o’r boblogaeth a’r mwyafrif o blant ifanc ar unrhyw adeg.

    HIB (HAEMOPHILUS INFLUENZAE MATH B) Hwn oedd gynt yr achos mwyaf cyffredin am lid yr ymennydd mewnplant dan 5 oed. Gall y bacteria achosi hefyd nifer o haentiadau eraill yn cynnwys septisemia a llid ar ran uchaf y bibell

    wynt (epiglottitis). Gelwir yr heintiadau hyn gyda’i gilydd yn glefyd Hib.

    Llid yr Ymennydd FirysolMae llid yr ymennydd firysol yn llawer mwy cyffredin na llid yr ymennydd bacteriol. Er nad yw’n aml yn glefyd marwol

    gall achosi llesgedd mawr. Gall nifer o firysau achosi llid yr ymennydd, a’r mwyaf cyffredin yw’r rhai a elwir yn

    enterofirysau. Mae enterofirysau’n byw fel arfer yn ein perfedd a gellir eu trosglwyddo drwy ddiffyg gofal am hylendid,

    e.e. peidio â golchi’ch dwylo ar ôl bod yn y toiled. Mae’n bwysig eich bod yn golchi’ch dwylo cyn ac ar ôl newid clwt

    (cewyn) babi. Gwisgwch fenig bob amser a gwaredu’r clwt (cewyn) mewn modd priodol. Cadwch yr amgylchedd yn

    lân bob amser gan roi sylw arbennig i’r mannau newid. Cyn i’r brechiad MMR gael ei gyflwyno, clwy’r pennau oedd yr

    achos mwyaf cyffredin am lid yr ymennydd firysol mewn plant dan 5 oed.

    ~4~

    Beth sydd yn achosi llid yr ymennydd?

    Organebau o’r enw bacteria a firysau yw’r prifachosion. Mae’n debyg y byddwch wedi clywedam rai o’r organebau a ddisgrifir isod ond heb

    wybod eu bod yn achosi llid yr ymennydd.

    Os byddwch yn amau bod llidyr ymennydd ar blentyn ceisiwch

    help meddygol ar unwaith.

  • Mae’r bacteria sydd yn achosi llid yr ymennydd yn gyffredin ac yn byw yng nghefn y llwnc.Bydd y rhan fwyaf ohonom yn cario’r bacteria ar ryw adeg yn ystod ein hoes heb fynd ynsâl. Mewn gwirionedd mae’r bacteria hyn yn fanteisiol i ni gan eu bod yn help i hybuimiwnedd naturiol rhag clefydau. Yn ogystal â hyn, mae gennym nifer o brosesau amddiffyni rwystro bacteria rhag ymosod ar ein cyrff ac achosi clefydau. Nid ydym yn llwyr ddeallpam fod y bacteria hyn weithiau’n medru goresgyn amddiffyniadau’r corff.

    Mae’r bacteria meningococaidd yn cael eu cario gan oddeutu 1 o bob 10 o’r boblogaeth ar unrhyw

    adeg. Amcangyfrifir y gall y ffigwr fod mor uchel ag 1 o bob 3 ymysg pobl yn eu harddegau. Mae’r

    ffigwr yn is o lawer ymysg plant iau a chredir bod hyn oherwydd natur amddiffynnol y bacteria eraill

    sydd yn y llwnc.

    Sut mae’r bacteria’n cael eu trosglwyddo?Mae’r bacteria’n cael eu trosglwyddo o’r naill berson i’r llall drwy besychu, tisian a chusanu clos (lle

    mae poer yn mynd o’r naill i’r llall). Ni fedrant fyw y tu allan i’r corff ac felly ni ellir eu codi o dd?r

    neu oddi ar gyllyll a ffyrc a llwyau, teganau neu offer meithrinfa. Nid oes perygl ychwanegol chwaith

    mewn poer a adewir ar ddillad neu fatiau chwarae.

    Pa mor hir yw’r cyfnod magu?Mae cyfnod deor bacteria llid yr ymennydd rhwng 2 a 10 o ddyddiau. Dyma’r amser rhwng derbyn

    y bacteria ac ymddangosiad y symptomau. Os oes rhywun yn eich lleoliad blynyddoedd cynnar

    wedi ei gael dyma’r amser pan ddylech fod yn arbennig o wyliadwrus. Wedi’r cyfnod hwn does dim

    mwy o risg nag arfer y bydd plentyn yn mynd yn sâl.

    ~5~

    Nid yw bacteria sydd ynachosi llid yr ymennydd yn

    medru byw y tu allan i’r corff..

    Sut mae’r claf yn cael llid yr ymennydda septisemia?

  • Ffactorau risg amgylcheddol

    • CARTREFI GORLAWN Dyma ffactor sydd yn creu risg oherwydd y cyswllt agos am amser hir sydd yn ei gwneud yn haws trosglwyddo’r clefyd. Mae hon yn llai o broblem yn y DG oherwydd

    mae’r tai ar y cyfan yn cyrraedd safon uchel. Mae’n llawer mwy o broblem yn y gwledydd sydd

    yn datblygu lle mae tlodi a’r tai’n orlawn.

    • YSMYGU Dyma ffactor bwysig am ddau reswm:1. Mae ysmygwyr yn fwy tebygol o gludo’r bacteria yng nghefn eu llwnc.

    2. Gall ysmygu ddifetha leinin y trwyn a’r llwnc. Mae’r leinin yn cynnwys blew a mwcws i helpu i

    amddiffyn y corff rhag bacteria sy’n dod i mewn. Felly mae plant sydd yn byw mewn amgylchedd

    llawn mwg mewn mwy o berygl o gael y bacteria a’r clefyd.

    • TEITHIO Mae pobl sydd yn teithio i rannau o’r byd lle mae’r clefyd meningococaidd grŵp A yn gyffredin megis Affrica i’r de o’r Sahara yn eu rhoi eu hunain mewn perygl os na chânt frechiad

    gwrth-heintiad cyn mynd. Mae gwybodaeth am frechiadau a theithio ar gael gan eich Meddyg

    Teulu neu Nyrs Practis. Ceir mwy o wybodaeth yn yr adran ar frechu yn y llyfryn hwn

    Pam mae’r risg yn fwy i fabanod a phlant ifanc?Mae’r plant, ac yn arbennig babanod dan 18 mis oed, mewn mwy o berygl am nad yw amddiffyniadau

    eu cyrff wedi datblygu’n llawn. Os bydd y bacteria’n mynd i’w cyrff ni all eu system imiwnedd frwydro yn

    erbyn haint.

    Mae mwy o berygl i rai babanod a phlant am eu bod wedi eu geni â phroblemau sydd yn gysylltiedig â’u

    system imiwnedd. Mae plant sydd heb ddueg (spleen, sef rhan o’r corff sydd yn gweithredu i ymladd

    haint yn naturiol), neu sydd â’r ddueg wedi ei niweidio, mewn mwy o berygl. Dylech ofalu eich bod yn

    gwybod am broblemau’r plant.

    ~6~

    A oes ffactorau risg?

    OES, mae nifer o ffactorau amgylcheddol yn creu risg

    mewn perthynas â llid yr ymennydd. Rhaid i chi gofio,

    serch hynny, mai cynyddu’r risg yn unig a wna’r

    ffactorau hyn ac nad yw’n golygu, o angenrheidrwydd,

    y bydd pobl yn cael llid yr ymennydd.

    Mae plant sydd yn byw mewnamgylchedd myglyd mewn mwy oberygl o gael llid yr ymennydd.

  • ~7~

    Nid yw bob amser yn hawdd adnabod llid yr ymennydd ar y cychwyn. Gall y symptomau cyntaf fod yn

    debyg iawn i nifer o heintiau plant eraill nad ydynt yn bygwth bywyd, er enghraifft haint yn y glust neu’r

    ffliw. Mae’r arwyddion a’r symptomau cynnar yn cynnwys gwres uchel, cyfogi a chwydu, dolur rhydd,

    ymateb yn flin, diffyg archwaeth/gwrthod bwyd a blinder cyffredinol. Byddwch yn si?r o sylwi ar yr

    arwyddion cynnar hyn a byddwch wedi gweld un neu fwy ohonynt mewn rhai o’r plant dan eich gofal pan

    oeddent yn sâl. Gall yr ymosodiad fod yn araf ond mae’n glefyd sydd yn datblygu’n gyflym.

    Gan nad yw plant bob amser yn medru dweud sut y maent yn teimlo, rhaid i chi fod yn ymwybodol o

    symptomau penodol llid yr ymennydd a septisemia. Fe ddylech, fel gofalwyr, gymryd eich arwain gan

    eich gwybodaeth a’ch greddf, gan fod llid yr ymennydd a septisemia yn argyfyngau meddygol. Dyma’r

    arwyddion y dylech eu cymryd o ddifrif:

    Arwyddion a symptomau cyffredin llid yr ymennydd • Twymyn • Smotiau

    • Gwrthod bwyd neu chwydu • Llesg a di-ymateb

    • Cwynfanus a ddim yn hoffi i neb afael ynddo/i • Cysglyd ac anodd ei dd/deffro

    • Croen gwelw ond cochlyd • Cri anarferol, griddfan

    Arwyddion a symptomau cyffredin septisemia• Twymyn, dwylo a thraed oer • Llipa, llesg, di-ymateb

    • Gwrthod bwyd neu chwydu • Anadlu cyflym neu rochian

    • Croen gwelw ond cochlyd • Cysglyd ac anodd ei dd/deffro

    • Ymateb yn flin

    • Brech, smotiau/cleisiau coch neu biws sydd ddim yn diflannu wrth bwyso arnynt (gweler y

    prawf gwydryn

    Ni fydd y symptomau’n ymddangos mewn unrhyw drefn ac mae’n bosibl na fyddant i gyd ynymddangos

    A fydd pob plentyn yn cael brech?Na fyddant, ond mae plant sydd yn cael septisemia meningococaidd yn aml yn datblygu brech

    septisemaidd (mae’r math hwn o frech yn llawer llai cyffredin gyda septisemia niwmococaidd neu Hib).

    Gall ddechrau ar unrhyw ran o’r corff fel clwstwr o smotiau bach gwaed dan y croen a gall ddatblygu’n

    gyflym nes bydd yn edrych fel cleisiau newydd. Os oes gan y plentyn groen tywyll edrychwch am y

    smotiau neu’r cleisiau ar y rhannau goleuaf, er enghraifft, cledr y llaw, gwadnau’r traed neu ar y llygad.

    Gellir defnyddio’r prawf gwydryn (gweler isod) i weld ai septisemia meningococaidd sydd yn achosi’r

    frech. Os pwyswch ochr gwydryn yfed clir yn weddol galed ar y croen ni fydd y frech yn diflannu. Y

    rheswm am hyn yw bod y smotiau neu’r cleisiau’n cael eu hachosi gan waed sydd yn gollwng o bibelli

    gwaed bach dan y croen.

    Peidiwch ag aros am y frech oherwydd efallai mai hwn fydd yr arwydd olaf, ac efallai na welwch frech o

    gwbl. Os byddwch yn pryderu, gofynnwch am help meddyg ar unwaith.

    Sut fyddaf i’n gwybod a yw llid yr ymennyddar blentyn?

    Nid yw bacteria sydd yn achosillid yr ymennydd yn medru byw y tu

    allan i’r corff.

  • Rhaid trin llid yr ymennydd a septisemia bacteriol ar unwaith â gwrthfiotigau a rhaid i’r claf fynd i’rysbyty ar unwaith. Mae llid yr ymennydd a septisemia yn llai tebygol o fygwth bywyd os cânt eu trin

    yn brydlon. Bydd triniaethau, gweithrediadau ac archwiliadau eraill yn digwydd pan fydd y claf yn yr

    ysbyty, yn ddibynnol ar gyflwr y plentyn. Mae’r rhagolygon yn llawer gwell os bydd y driniaeth yn

    cychwyn yn fuan.

    Os bydd plentyn yn mynd yn wael iawn, bydd angen gofal a thriniaeth arbenigol mewn uned gofal

    dwys. Gall y meddygon a’r nyrsys fonitro cyflwr y plentyn yn fanwl, ymateb i sefyllfa argyfyngus a rhoi

    cymorth angenrheidiol ar unwaith.

    Mae’r rhan fwyaf o’r plant sydd yn cael llid yr ymennydd a septisemia yn gorfod aros yn yr ysbyty am

    wythnos o leiaf; gallai’r cyfnod fod yn hwy na hynny os bu’r plentyn yn wael iawn. Yn ystod y cyfnod

    hwnnw bydd aelodau’r teulu angen llawer o gefnogaeth i’w cynnal drwy’r amser brawychus.

    A yw llid yr ymennydd firysol yn cael ei drin yn wahanol?Ydy, mae llid yr ymennydd firysol yn cael ei drin yn wahanol. Nid yw firysau’n ymateb i wrthfiotigau.

    Os bydd angen i’r claf fynd i’r ysbyty, y driniaeth fydd gorffwys a meddyginiaeth i ladd poen, er

    enghraifft, cyffur i leddfu poen pen.

    Sut mae trin llid yr ymennydd aseptisemia?

    ~8~

    Brechlynnau yw’runig ffordd i rwystro

    llid yr ymennydd.

  • A ellir rhwystro llid yr ymennydd?Gellir rhwystro llid yr ymennydd gyda brechlynnau. Nid oes brechlynnau i amddiffyn rhag pob math o lid yr ymennydd.

    Mae nifer o frechlynnau sydd yn amddiffyn rhag tri phrif fath o facteria sydd yn achosi llid yr ymennydd:

    meningococaidd, niwmococaidd a Hib. Er bod gennym rai brechlynnau, nid oes gennym un yn erbyn llid yr ymennydd

    meningococaidd grŵp B, sydd yn achosi 90% o’r achosion yn y DG.

    Beth yw brechlynnau a sut maent yn gweithio?Rhoddir brechlynnau i helpu system imiwnedd ein corff i ymladd yn erbyn clefydau. Maent yn cynnwys darnau bach o

    germau (bacteria neu firysau) sydd yn gallu achosi clefyd neu fymryn bach iawn o’r tocsinau y maent yn eu cynhyrchu.

    Ar wyneb y germau mae sylweddau a elwir yn antigenau ac mae’r rhain yn bresennol mewn brechlynnau. Pan

    chwistrellir y brechlyn i’r corff mae’r system imiwnedd yn cynhyrchu gwrthgyrff sydd yn adnabod yr antigenau hynny.

    Mae pob gwahanol germ yn cynhyrchu ei antigen benodol ei hun ac mae angen i’r system imiwnedd gynhyrchu

    gwrthgorff penodol i’w adnabod. Felly mae angen brechlyn gwahanol i amddiffyn yn erbyn pob gwahanol glefyd. Os

    daw person i gysylltiad â’r clefyd ar ôl cael brechiad bydd y corff yn ei adnabod a bydd yn medru ymladd yn ei erbyn.

    Mae angen rhoi rhai brechlynnau fwy nag unwaith er mwyn sicrhau yr amddiffynnir y person yn ddigonol.

    A yw brechlynnau’n ddiogel?Ydyn. Cyn y rhoddir trwydded i frechlyn gael ei ddefnyddio yn y DG caiff ei brofi’n drylwyr i sicrhau ei fod yn ddiogel ac

    yn effeithiol. Mae’r holl frechlynnau sydd ar gael i rwystro llid yr ymennydd wedi bod yn cael eu defnyddio ers llawer o

    flynyddoedd ac wedi ei roi laweroedd o weithiau. Mae’r brechlynnau’n cael eu monitro’n gyson i sicrhau y cofnodir

    unrhyw adwaith anffafriol a sgil effeithiau er mwyn archwilio iddynt ymhellach.

    Mae’r symptomau sydd yn digwydd yn gyffredin ar ôl brechiad, er enghraifft, twymyn neu gochni a chwydd o gwmpas

    y man lle rhoddwyd y pigiad, yn adwaith naturiol gan system imiwnedd y corff.

    Bydd y symptomau fel arfer yn cilio’n fuan iawn ac maent yn arwydd bod y brechiad yn un llwyddiannus.

    Pa mor effeithiol yw’r brechlynnau?Mae brechlynnau wedi llwyddo i leihau’r nifer o achosion o lid yr ymennydd, ac maent wedi bod yn ffordd o achub

    miloedd o fywydau. Yn y DG mae llawer o glefydau nad ydynt bellach yn fygythiad ac mae hynny oherwydd y nifer

    helaeth sydd yn cael eu brechu. Mae brechlynnau’n amddiffyn nid yn unig y person sydd yn eu cael ond maent hefyd

    yn gymorth i amddiffyn eraill yn y gymuned, yn arbennig plant, na ellir, am resymau meddygol, eu brechu.

    A yw’n bosibl i frechiad achosi i chi gael llid yr ymennydd?Nac ydy. Darnau bach iawn o’r bacteria ‘marw’ neu’r tocsinau a gynhyrchir ganddynt a ddefnyddir yn y brechlynnau.

    Nid yw’n bosibl i frechlynnau llid yr ymennydd achosi’r clefyd.

    ~9~

    Brechu: y ffeithiau

  • Mae’r brechlynnau canlynol yn amddiffyn rhag y tri phrif facteriwm sydd yn achosi llid yr ymennydd.

    MeningococaiddGall bacteria meningococaidd achosi llid yr ymennydd a septisemia. Mae pum grŵp A, B, C, W135 ac Y, sydd yn

    arferol yn achosi clefydau. Grŵp B yw’r un mwyaf cyffredin yn y DG. Cyn i’r brechlyn meningococaidd grŵp C (MenC)

    gael ei gyflwyno ym 1999, bacteria grŵp C oedd yn achosi yn agos at 1500 o’r achosion o lid yr ymennydd a

    septisemia (gwenwyniad gwaed) a 150 o farwolaethau. Bu gostyngiad o ryw 95% yn y nifer o achosion o glefyd grŵp

    C. Mae oddeutu 90% o’r holl achosion yn cael eu hachosi gan grŵp B.

    Mae brechlynnau meningococaidd ar gyfer teithio ar gael hefyd i bobl sydd yn ymweld â rhannau o’r byd lle byddant

    mewn perygl o gael y clefyd. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bererinion sydd yn mynd ar yr Hajj i Mecca gael brechlyn

    polysacarid sydd yn amddiffyn rhag grŵpiau meningococaidd A, C, W135 ac Y. Mae mwy o wybodaeth am

    frechlynnau teithio ar gael gan y meddyg teulu.

    NiwmococaiddGall bacteria niwmococaidd achosi llid yr ymennydd, a septisemia yn llai aml. Mae’r perygl mwyaf i fabanod a phlant

    dan 18 mis oed. Mae mwy na 90 o wahanol fathau o facteria niwmococaidd.

    Mae dau frechlyn niwmococaidd ar gael i helpu i amddiffyn rhag clefyd niwmococaidd:

    BRECHLYN CYFIAU NIWMOCOCAIDD (PNEUMOCOCCAL CONJUGATE VACCINE neu ‘PCV’) Gellir amddiffynplant a babanod yn erbyn rhai o’r mathau mwyaf cyffredin o facteria niwmococaidd drwy ddefnyddio’r math hwn o

    frechlyn. Mae’n cynnwys rhannau o’r araen polysacarid (siwgr) o saith math neu falent o facteria niwmococaidd

    (brechlyn 7 falent) a unwyd â phrotein i’w wneud yn fwy effeithiol a hynny am fwy o amser. Derbyniodd PCV drwydded

    yn y DG yn y flwyddyn 2001. Ers 2002, mae wedi cael ei argymell ar gyfer plant sydd mewn perygl mwy na’r arferol o

    ddal clefydau niwmococaidd oherwydd cyflwr meddygol, er enghraifft problemau anadlu difrifol megis broncitis cronig

    neu emffysema neu gyflyrau difrifol ar y galon. Fe’i cymeradwyir bellach ar gyfer pob plentyn ifanc fel rhan o raglen

    frechu arferol er mwyn creu imiwnedd mewn plant. Mae’r brechlyn hwn yn cynnig amddiffyniad dros gyfnod hir ac yn

    amddiffyn rhag niwmonia ac otitis media (heintiadau’r glust).

    BRECHLYN POLYSACARID NIWMOCOCAIDD (‘PPV’) yw’r ail frechlyn. Mae’r brechlyn hwn ar gael ers nifer oflynyddoedd a hwn a argymhellir ar gyfer oedolion sydd dros 65 oed a phlant sydd yn 2 flwydd oed neu fwy ac sydd

    mewn grwpiau risg penodol. Mae’n frechlyn polysacarid sy’n cynnwys 23 falent (neu fath) nad ydynt yn ysgogi ymateb

    gwrthgorff hirdymor mewn plant ifanc ac felly nid yw’n addas ar gyfer plant dan 2 flwydd oed. Mae’n effeithiol am

    gyfnod o rhwng 3 a 5 mlynedd.

    Cyflwynwyd y brechlyn niwmococaidd i’r rhaglen imiwneiddio plant ym Medi 2006.

    © Meningitis Trust 2006 Registered Charity Number 803016

    Brechu yn erbyn llid yr ymennydd

    ~10~

    Pa frechlynnau sydd ar gael

    i amddiffyn rhag llid yr ymennydd?

  • HibGall bacteria Haemophilus influenza math b (Hib) achosi llid yr ymennydd a

    septisemia. Cyn i’r brechlyn gael ei gyflwyno ym 1992, Hib oedd prif achos llid yr ymennydd mewn plant

    dan bump oed. Roedd oddeutu 800 o achosion a 25 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae achosion o lid

    yr ymennydd Hib bellach yn anaml iawn a dim ond 40 o achosion yn digwydd bob blwyddyn. Mae Hib yn

    rhan o’r brechlyn cyfun sydd yn amddiffyn rhag Difftheria, Tetanws, Pertwsis (y pâs), Polio a Hib.

    Rhoddir y brechlyn cyfun hwn i blant fel rhan o’u rhaglen imiwneiddio.

    Brechlynnau a llid yr ymennydd firysolGall rhai firysau sydd yn achosi clefydau megis y frech goch a chlwy’r pennau achos llid yr ymennydd

    hefyd. Mae’r brechlyn MMR a roddir yn arferol i blant yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a

    rwbela (y frech Almaenig). Cyn dyfodiad y brechlyn, clwy’r pennau oedd achos mwyaf cyffredin llid yr

    ymennydd firysol mewn plant. Rhoddir y brechlyn MMR fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio plant.

    Brechlynnau’r dyfodolDatblygu brechlyn effeithiol i rwystro llid yr ymennydd meningococaidd grŵp B a septisemia yw’r brif

    flaenoriaeth yn y DG. Nid oes modd dweud faint o amser a gymerir i ddatblygu a chyflwyno’r brechlyn

    hwnnw. Mae’r arbenigwyr yn credu y bydd yn cymryd rhwng tair a phum mlynedd.

    Mae’r rhaglen imiwneiddio plant yn gyfres o frechlynnau a roddir i fabanod. Cysylltwch â’ch meddyg

    teulu neu’r nyrs practis am fwy o wybodaeth neu ewch i’r wefan www.immunisation.nhs.uk

    Yn y DG maebrechlynnau wedi rhwystromiloedd lawer o achosion o

    lid yr ymennydd ac wediatal miloedd ofarwolaethau.

    Mae bacteriameningococaidd grŵp B yn

    achosi oddeutu 90% o’rachosion o lid yr ymennydd yn

    y DG. NID OES brechlyn irwystro’r math hwn.

    ~11~

  • Bydd y mwyafrif o blant sydd yn cael llid yr ymennydd yn gwella’n llwyr ac yn mynd ymlaen i fyw bywyd normal aciach. Mewn rhai achosion, ysywaeth, bydd cymhlethdodau ac ôl-effeithiau. Gall ôl-effeithiau corfforol llid yr ymennydd aseptisemia fod yn rhai dros dro neu’n barhaol. Gallant amrywio o rai ysgafn i ganolig i ddifrifol. Pan mae’rcymhlethdodau’n ddifrifol gall y plant gael eu gadael ag anabledd difrifol a pharhaol.

    Nid yw’r union nifer o bobl sydd yn cael ôl-effeithiau’n hysbys ond gall eu hyd a’u difrifoldeb amrywio yn ôl yr organeb.Er enghraifft, mae ôl-effeithiau llid yr ymennydd niwmococaidd yn fwy tebygol o barhau’n hir ac o fod yn fwy difrifol nallid yr ymennydd a achosir mewn plant gan facteria eraill.

    Marwolaeth yw’r canlyniad mwyaf arswydus wrth gwrs. Gall marwolaeth plentyn effeithio’n ddifrifol ac yn hirbarhaol ardeuluoedd ac ar y gymuned ehangach. Gall fod yn brofiad trawmatig ac emosiynol iawn i ofalwyr mewn unrhyw leoliadblynyddoedd cynnar a dylid ceisio cymorth gan gydweithwyr. Dylai pawb gael cyfle i alaru a delio â phrofedigaeth. Maegan Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd linell gymorth am ddim 24awr, dan arweiniad nyrsys, ar gyfer staff, rhieni aphlant, a rhoddir cefnogaeth a gwybodaeth i unrhyw un. Ffoniwch 0800 028 18 28.

    Ôl-effeithiau llid yr ymennyddMae ôl-effeithiau llid yr ymennydd yn digwydd fel arfer oherwydd niwed i wahanol rannau’r ymennydd. Mae’r mwyafrifo’r cymhlethdodau hyn yn hawdd eu hadnabod ac yn cynnwys: colli rhywfaint o’r clyw neu fyddardod, nam ar y golwgneu ddallineb, epilepsi, parlys yr ymennydd, anawsterau dysgu a phroblemau ymddygiad.

    Ôl-effeithiau septisemiaGall septisemia arwain at rannau helaeth o niwed i’r croen a’r meinwe oddi tano. Gall hyn achosi creithiau a all olygu ybydd angen am impio croen. Mewn achosion difrifol rhaid torri bysedd, bysedd traed neu aelod arall o’r corff i ffwrdd.Gall septisemia achosi niwed i brif organau’r corff hefyd megis yr iau/afu a’r arennau.

    Ystyriwch yr ôl-effeithiau hyn a’r problemau seicolegol ac emosiynol y bydd y plentyn a’r teulu’n gorfod ymdrin â hwy.Gall problemau emosiynol eu hamlygu eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Gall fod yn anodd gwybod a ydynt ynganlyniad y clefyd ei hun neu’n ganlyniad yr arhosiad yn yr ysbyty. Gall problemau ymddygiad fod yn anodd hefyd.Bydd rhai plant yn mynd yn ôl i ymddwyn yn fabïaidd, er enghraifft gwelir dirywiad yn eu siarad neu wlychu’r gwely.Weithiau bydd y plentyn yn strancio ac yn ceisio sylw. Gadewch i’r plentyn fynd yn ôl i’w amgylchfyd arferol a’i annog iryngweithio’n ddiogel. Byddwch yn ymwybodol o’r problemau gan addasu eich ymateb i’r plentyn i gyd-fynd â hynny.Rhaid ceisio deall y plentyn.

    Gall gofalu am blentyn a fu’n ddifrifol wael fod yn dasg heriol iawn. Bydd angen llawer o help a chymorth gennych chi,o bosib, wrth fynd â’r plentyn yn ôl i’r lleoliad blynyddoedd cynnar a bydd galw am amynedd ac ymroddiad i helpu’rplentyn deimlo’n ddiogel a chyfforddus yn yr amgylchedd hwnnw.

    Gall gymryd wythnosau neu fisoedd i’r plentyn wella’n iawn. Yn ystod yr amser hwnnw bydd ar y plentyn a’r teuluangen llawer o ofal parhaus a chefnogaeth gan eu teulu, ffrindiau a gweithwyr iechyd proffesiynol. Beth bynnag fo’r ôl-effaith, boed ysgafn neu ddifrifol, gall llid yr ymennydd newid bywyd plentyn am byth.

    A oes cymhlethdodau neu ôl-effeithiauynghlwm wrth lid yr ymennydd?

    Mae rhai ôl-effeithiau’n amlwg megiscolli aelod o’r corff neu greithiau. Mae

    eraill yn llai amlwg ond yr un moranodd, megis problemau emosiynol a

    phroblemau ymddygiad.

    ~12~

  • Os digwydd i chi gael achos o lid yr ymennydd yn eich lleoliad blynyddoedd cynnar, rhaid i chi fod ynbarod i reoli’r sefyllfa mor effeithiol ag y bo modd. Os byddwch yn amau fod plentyn yn dangosarwyddion a symptomau llid yr ymennydd rhaid i chi:

    1. Weithredu ar unwaith i gael sylw meddygol drwy gysylltu ar unwaith â’r Meddyg Teulu. Os na fydd yMeddyg Teulu ar gael dylech fynd â’r plentyn yn syth i’r adran Damweiniau ac Argyfwng agosaf neuddeialu 999.

    2. Cysylltwch â rhieni’r plentyn i ddweud wrthynt beth yw eich pryder a’r hyn a wnaethoch. Dywedwchwrthynt fod angen i chi fynd gyda’r plentyn i’r ysbyty os yw’r rhieni’n rhy bell i ffwrdd.

    3. Ceisiwch dawelu meddwl y staff, y rhieni a’r plant drwy ddweud wrthynt fod achosion fel arfer yn rhaiunigol ac mai bach iawn yw’r tebygrwydd y bydd ail achos o lid yr ymennydd. Gall achos o lid yrymennydd mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, neu hyd yn oed sôn am bosibilrwydd bod achos yno, greupanig ac aflonyddwch ymysg y staff a’r rhieni.

    4. Bydd meddyg sydd yn arbenigo mewn rheoli clefydau heintus o safbwynt iechyd cyhoeddus yn rhoihysbysiad swyddogol i chi bod angen gweithred iechyd cyhoeddus. Bydd yn rhoi gwybod i chi beth i'wwneud wrth i bob achos gael ei drin yn unigol.

    5. Does dim angen cau’r lleoliad blynyddoedd cynnar. Efallai y bydd rhai rhieni, serch hynny, yn dewiscadw eu plant gartref.

    6. Does dim angen gwaredu na diheintio offer na theganau y cyffyrddodd y plentyn â hwy.

    7. Bydd y tîm iechyd cyhoeddus (meddygon a nyrsys) yn cysylltu â’r person sydd yn gyfrifol am y lleoliadblynyddoedd cynnar i gynnig cyngor a chyfarwyddyd bob amser.

    8. Bydd y tîm iechyd cyhoeddus fel arfer yn darparu llythyr ar gyfer y rhieni eraill i roi gwybod iddynt amy sefyllfa a gwybodaeth am lid yr ymennydd.

    9. Efallai y cynigir gwrthfiotigau i’r bobl a ystyrir yn rhai a fu mewn ‘cysylltiad agos’, sef, fel arfer y teuluagosaf a’r cysylltiadau yn y ‘cartref’. Rhoddir y gwrthfiotigau i ladd y bacteria y gellir eu cludo yng nghefny llwnc; mae hyn yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r bacteria i eraill. Mewn rhai sefyllfaoedd cynigirbrechlyn. Y tîm iechyd cyhoeddus fydd yn cydlynu’r gweithredoedd hyn.

    10. Mae’r tebygrwydd y bydd ail achos o lid yr ymennydd yn fach dros ben. Serch hynny, os bydd dauachos neu fwy yn yr un lleoliad blynyddoedd cynnar mae’n bosibl y cynigir gwrthfiotigau i’r plant a’r staffyn unol â chyngor y meddyg iechyd cyhoeddus.

    Dylech barhau’n wyliadwrus yn ystod y cyfnod hwn. Dylid cynghori’r rhieni i gysylltu â’u Meddyg Teulu osbydd plentyn yn sâl.

    11. Os bydd plentyn yn mynd yn sâl gartref ac os ofnir mai llid yr ymennydd sydd arno, mae’n bosibl ybydd rhiant neu ofalwr yn rhoi gwybod i chi am y salwch ac mae’n bosibl hefyd y bydd y tîm iechydcyhoeddus yn cysylltu â chi (gweler pwyntiau 6-10).

    Mae mwy o wybodaeth a chefnogaeth ar gael gan Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd (Meningitis Trust)drwy gysylltu â’r llinell gymorth am ddim 24awr, dan arweiniad nyrsys: 0800 028 18 28. Mae’r wybodaethar gael am ddim. Gellir dod o hyd i wybodaeth hefyd ar wefan yr Ymddiriedolaeth www.meningitis-trust.org

    Beth fydd yn digwydd os bydd achos o lidyr ymennydd yn fy lleoliad blynyddoeddcynnar?

    ~13~

    Bydd y meddygon a’rnyrsys Iechyd Cyhoeddus yn

    cydweithio â chi i reoli’rsefydllfa ac i hysbysu eraill.

  • Rydym o’r cychwyn wedi dod i gael ein cydnabod yn elusen a gydnabyddir ac a berchir yn rhyngwladol.Rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a’uhaddysgu, i ariannu ymchwil hanfodol ac i gefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan lid yr ymennydd.

    Beth mae’r Ymddiriedolaeth yn medru ei wneud i helpu?Mae llawer o bethau y gall Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd eu gwneud i helpu. Gweler rhestr isod o’rgwasanaethau cefnogi a gynigiwn:

    • Llinell Gymorth am Ddim 24 Awr – 0800 028 18 28Llinell gymorth yn benodol gyda nyrsys hyfforddedig yn ateb y ffôn ac yn cyflwyno gwybodaeth achefnogaeth i unrhyw un sydd â phryder ynghylch llid yr ymennydd.

    • Grantiau AriannolMae grantiau ariannol ar gael i breswylwyr y DG a’u nod yw gwella ansawdd bywyd y rhai a gafodd lidyr ymennydd, a chynorthwyo eu teuluoedd. Mae grantiau ariannol wedi eu rhoi ar gyfer gofal seibiant,cymhorthion ac offer arbenigol, ail-addysgu a chostau angladd.

    • Rhaglen Ymweliadau â’r CartrefMae ymweliadau â’r cartref ar gael i unrhyw un sydd wedi cael profiad uniongyrchol o lid yr ymennydd.Prif nod y rhaglen ymweliadau â’r cartref yw rhoi cefnogaeth a gwybodaeth.

    • Gwasanaeth CwnselaGwasanaeth proffesiynol ar gyfer y rhai sydd mewn angen am gefnogaeth ddwys o ganlyniad i drawmallid yr ymennydd.

    • Grwpiau Help CymunedolMae llawer o gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth yn y gwaith cymunedol yn gweithio o fewn grwpiau helpcymunedol. Maent yn cydweithio’n agos â staff yr Ymddiriedolaeth ac yn cefnogi ein gwaith drwy godiymwybyddiaeth, cefnogi eraill a chynnal digwyddiadau i godi arian.

    • Cyswllt Un i UnMae’n rhoi cyfle i bobl rannu eu profiad gyda rhywun arall sydd wedi bod mewn sefyllfa gyffelyb.

    Mae Llid yr Ymennydd yn glefyd arswydus ac er mwyn i ni barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodolmae arnom angen eich help chi, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr i godi arian ac i gefnogi’rYmddiriedolaeth. Medrwch wneud gwahaniaeth, felly cysylltwch â ni yn y brif swyddfa neu drwy ffonio0800 028 18 28.

    Os byddwch yn dymuno cael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau cefnogi a gwaith YmddiriedolaethLlid yr Ymennydd (Meningitis Trust), neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod i wybod sut y medrwchhelpu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

    Beth mae’r Ymddiriedolaeth yn medru eiwneud i helpu?

    Mae YMDDIRIEDOLAETH LLID YR YMENNYDD

    (MENINGITIS TRUST) yn elusen gofrestredig a

    sefydlwyd ym 1986 gan bobl a oedd â phrofiad

    uniongyrchol o lid yr ymennydd

    ~14~

  • Ymhle mae mwy o wybodaeth ar gael?Mae llawer o wybodaeth am lid yr ymennydd a chlefydau meningococaidd ar gael i’r cyhoedd, yn arbennig ar yRhyngrwyd. Gall fod yn anodd dod o hyd i ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth. Felly rydym yn gobeithio y bydd yradnoddau a restrir isod yn gymorth. Ceir gwybodaeth yn y gwefannau a’r llyfrau hyn a fydd yn ychwaneguat eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r testunau a godwyd yn y llawlyfr hwn.

    Gwefannau defnyddiol Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd (Meningitis Trust) www.meningitis -trust.orgGwybodaeth am lid yr ymennydd a gwaith Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd.

    Gwefan Addysg Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd www.meningitis -learning.orgGwefan ar gyfer disgyblion, athrawon a rhieni plant ysgolion cynradd ac uwchradd. Ceir adnoddau a deunyddaddysgol.

    Gwefan Inmed www.inmedonline.comGwefan arbennig ar gyfer addysgu gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr ym myd iechyd am lid yr ymennydd a chyflyraucysylltiol megis septisemia. Ceir adnoddau a deunydd addysgol.

    Imiwneiddio www.immunisation.nhs.ukGwybodaeth am frechu, cyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd.

    Surgery Door www.surgerydoor.co.ukGwefan iechyd sy’n ymwneud â llawer o faterion iechyd yn cynnwys llid yr ymennydd.

    Galw IECHYD Cymru www.nhsdirect.wales.nhs.uk/nhsdirectw.aspxGwybodaeth, cwestiynau cyffredin a dolennau defnyddiol ar destunau sydd yn ymwneud ag iechyd yn cynnwys llid yrymennydd.

    NHS 24 www.nhs24.comGwasanaeth sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol ar gyfer pobl yr Alban.

    Yr Asiantaeth Amddiffyn Iechyd (gynt y Gwasanaeth Labordy Iechyd Cyhoeddus) www.hpa.org.ukYstadegau a gwybodaeth am glefydau heintus (yn cynnwys llid yr ymennydd) yng Nghymru a Lloegr

    Scottish Centre for Infection and Environmental Health www.hps.scot.nhs.ukYstadegau a gwybodaeth am glefydau heintus (yn cynnwys llid yr ymennydd) yn yr Alban

    Communicable Disease Surveillance Centre for Northern Ireland www.cdscni.org.ukYstadegau a gwybodaeth am glefydau heintus (yn cynnwys llid yr ymennydd) yng Ngogledd Iwerddon

    RAPPID www.rappid.org.ukGwybodaeth am glefydau niwmococaidd (yn cynnwys llid yr ymennydd) mewn plant

    LlyfrauMeningitis - a guide for families, 1997J Simon Kroll, Andrew J Pollard, Parviz HabibiCyhoeddwyd gan Publishing Solutions Ltd. (UK)Yn y llyfr hwn ceir trosolwg ardderchog o lid yr ymennydd a chlefydau meningococaidd drwy gyfrwng ffeithiau am yclefydau ac astudiaethau achos. Mae’n llyfr y gellir ei argymell ar gyfer pob rhiant.

    Need to Know-MeningitisKristina RouthCyhoeddwyd gan Heinemann Library, 2004.Yn y llyfr hwn ceir gwybodaeth hanfodol am lid yr ymennydd mewn dull agored ac onest. Mae’n egluro’r gwahanolfathau a sut i’w hadnabod. Llyfr hawdd ei ddarllen.

    ~15~

    Ymwadiad - Nid yw’r gwefannau a’r llyfrau a restrwyd yma dan reolaeth Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd (ar wahân i’n gwefannau ni ein hunain) ac nid yw’n

    gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn. Fe’u nodir yn unig er hwylustod i ddefnyddwyr y llyfryn hwn.

  • DeallLlid yr Ymennydd

    Canllawiau ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol gyda’r

    Blynyddoedd Cynnar

    Cynhyrchwyd gan

    the Meningitis Trust

    Cyfranwyr: Sarah-Jane Smallpage RGN Dip Surg,Rheolwr Addysg a Hyfforddiant

    Pauline Fairlie RGN,Rheolwr yr Alban

    Beverley Corbett RGN, BSc, MSc

    Cefnogwyd gan: Grant addysg diamod gan Wyeth Vaccines

    Rhif elusen: 803016 Hawlfraint 2006 Meningitis Trust (Ymddiriedolaeth Llid yr Ymennydd)

    President Royal Patron Patron

    Andrew Harvey Her Royal Highness The Archbishop of Canterbury The Countess of Wessex Dr Rowan Williams

    the Meningitis Trust Head Office Fern House Bath Road Stroud Gloucestershire GL5 3TJ UK

    tel: 01453 768000 minicom: 01453 768003 fax: 01453 768001 e-mail: [email protected] helpline UK: 0800 028 18 28 international: +44 870 124 7000 web: www.meningitis-trust.org

    England • Ireland • New Zealand • Northern Ireland • Scotland • Wales

    Company limited by guarantee Registered in England and Wales number 2469130 Registered charity number 803016