Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
1
Heneiddio’n Dda yng
Nghymru
Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad
Mehefin 2017
Sicrhau bod Cymru’n wlad dda i bawb
fynd yn hŷn ynddi
2
Amdan Heneiddio’n Dda yng
Nghymru Rhaglen bartneriaeth genedlaethol yw Heneiddio’n Dda yng Nghymru,
wedi’i chadeirio a'i rhedeg gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’n
dod ag unigolion a chymunedau ynghyd â’r sectorau cyhoeddus, preifat
a gwirfoddol at ei gilydd i ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd arloesol ac
ymarferol o wneud Cymru’n wlad dda i bawb fynd yn hŷn ynddi.
Beth y mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru eisiau ei gyflawni?
Gwneud Cymru’n genedl o gymunedau cyfeillgar i oed
Gwneud Cymru’n genedl o gymunedau cefnogol o ddementia
Lleihau nifer yr achosion o godwm
Lleihau unigrwydd ac unigedd dieisiau
Mwy o gyfleoedd dysgu a chyflogaeth
Beth y mae’r rhaglen Heneiddio’n Dda yn ei wneud?
Creu rhwydweithiau: sefydlwyd rhwydwaith cynyddol o gannoedd o
unigolion a sefydliadau i rannu syniadau a gweithio gyda’i gilydd
Rhannu arferion da: mae gwefan Heneiddio’n Dda yng Nghymru'n
cynnwys arferion da ledled Cymru, y DU, Ewrop a thu hwnt
Dod â phobl at ei gilydd: mae cynadleddau, gweithdai a sesiynau
hyfforddiant yn cael eu trefnu ar draws Cymru
Gwneud i newid ddigwydd: Cefnogir Heneiddio’n Dda yn
weithredol gan Lywodraeth Cymru, cyrff cenedlaethol allweddol a'r
holl Awdurdodau Lleol
Heneiddio’n Dda yng Nghymru
Adeiladau Cambrian // Sgwâr Mount Stuart // Caerdydd // CF10 5FL
029 2044 5030
http://www.ageingwellinwales.com/wl/home.
E-bost: mailto:[email protected]
Twitter: @HeneiddioynDda
http://www.ageingwellinwales.com/wl/homemailto:[email protected]
3
Cynnwys
Rhagair
4
Y Prif Lwyddiannau
- Cymunedau Cyfeillgar i Oed
- Cymunedau Cefnogol o Ddementia
- Atal Codwm
- Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth
- Unigrwydd ac Unigedd
6 12 17 22 26
4
Rhagair
Ers ei lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2014, mae
rhaglen pum mlynedd Heneiddio'n Dda yng Nghymru
wedi mynd o nerth i nerth. Cyhoeddwyd y Cynllun
Gweithredu ar gyfer Cam Dau ym mis Hydref 2016 ac
mae’r adroddiad hwn yn nodi rhai o’r prif bethau a
gyflawnwyd hyd yma ar draws y rhaglen.
Mae cynnydd da’n cael ei wneud ar bob lefel o Heneiddio’n Dda. Ar lefel
Ewropeaidd, mae’r statws Safle Cyfeiriol 4* yn sefydlu Cymru fel un o’r
gwledydd enghreifftiol yn Ewrop, drwy’r Bartneriaeth Arloesi
Ewropeaidd, ar Heneiddio’n Iach a Chadw’n Heini (EIP-AHA). Ar lefel
strategol, mae partneriaeth sy’n tyfu o hyd (gyda dros 60 ar hyn o bryd)
yn cynnwys partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac
yn gynyddol, o'r sector preifat, yn gweithio ar weithredu ar draws y pum
thema flaenoriaeth.
Ar lefel Awdurdod Lleol, mae cydweithwyr yn gweithio ar eu cynlluniau
Heneiddio’n Dda lleol ac yn gwneud cynnydd da mewn cydweithrediad â
phartneriaethau / asiantaethau eraill a phobl hŷn eu hunain. Ar lefel
rhwydweithiau cymunedol, mae dros 1,300 o unigolion yn cynrychioli
dros 500 o grwpiau a sefydliadau bellach yn rhan o’r rhaglen
Heneiddio'n Dda ac yn gweithio ar eu hatebion cymunedol eu hunain i
helpu i rymuso a galluogi pobl hŷn i fyw bywydau iach a heini yn eu
cymunedau.
Mae Heneiddio’n Dda hefyd yn cyd-fynd ag effaith deddfwriaeth bwysig
fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel llwyfan allweddol i
ddod â phartneriaid at ei gilydd i weithio tuag at ganlyniadau ataliol a
chynaliadwy i bobl o bob oed, rwyf hefyd wedi ymgysylltu â’r Byrddau
Gwasanaethau Lleol (PSB), ac yn dilyn cyhoeddi fy Nghanllawiau1,
cefais fy nghalonogi bod themâu Heneiddio'n Dda allweddol wedi eu
cynnwys yn eu hasesiadau drafft o lesiant lleol, bod angen gwneud
penderfyniadau gyda, ac nid dros, pobl leol, a phwysigrwydd ystyried
anghenion ac amgylchiadau pobl hŷn ar wahân i rai iechyd a gofal
cymdeithasol.
1 http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/16-10-
05/Preparing_Local_Wellbeing_Plans_Guidance_for_Public_Services_Boards.aspx#.WSbeVuvyuM9
http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/16-10-05/Preparing_Local_Wellbeing_Plans_Guidance_for_Public_Services_Boards.aspx#.WSbeVuvyuM9http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/16-10-05/Preparing_Local_Wellbeing_Plans_Guidance_for_Public_Services_Boards.aspx#.WSbeVuvyuM9
5
Yn ogystal, bydd Strategaeth Pobl Hŷn ddiwygiedig Llywodraeth Cymru
ar gyfer 2013-23 yn rhoi impetws ychwanegol i waith Heneiddio’n Dda
gan helpu i osod cyfeiriad strategol a sefydlu cymunedau cyfeillgar i oed
ar draws Cymru. Mae blaenoriaethau Heneiddio’n Dda’n parhau i gael
sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol gydag ymgysylltu helaeth
yn parhau â gwleidyddion ar bob lefel.
I bobl hŷn sydd ar-lein, mae’r wefan Heneiddio’n Dda’n parhau i
ddatblygu fel canolbwynt gwerthfawr ar gyfer adnoddau defnyddiol, i
gyfeirio pobl ymlaen at bartneriaid perthnasol, ar gyfer canllawiau a
chyhoeddiadau defnyddiol, ac i dynnu sylw at arferion da2.
Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n parhau i fod yn rhaglen
genedlaethol ac rwyf wrth fy modd bod unigolion, grwpiau cymunedol,
mentrau cymdeithasol ac ystod eang ac amrywiol o bartneriaid o bob
sector ledled Cymru yn ei chymeradwyo. Dangosodd y digwyddiadau
‘Dathlu Cymunedau’ a gynhaliwyd ym Mangor a Chaerdydd ar ddiwedd
2016 y teimlad cadarnhaol, y brwdfrydedd a’r ysfa sydd gan gydweithwyr
i wneud mwy a gweithio mewn partneriaeth gyda phobl hŷn. Mae gan
bawb rywbeth i’w gynnig, a thrwy weithio gyda’n gilydd, tynnu sylw at
arferion da a chanfod atebion arloesol, effeithiol a chost isel, gall pawb
wneud cyfraniad sylweddol i iechyd a lles pobl 50+ oed yng Nghymru.
Wrth edrych tua’r dyfodol, byddaf yn parhau i ymgysylltu a chefnogi
partneriaid i wneud cynnydd pellach o ran gweithredu ac ymateb i'r
heriau a'r cyfleoedd sydd i ddod yn ystod Cam Dau, gan adeiladu ar y
cydweithredu sy’n digwydd eisoes i sicrhau bod Cymru'n wlad dda i
bawb fynd yn hŷn ynddi.
Sarah Rochira Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru // Cadeirydd, Heneiddio’n Dda yng Nghymru
2 http://www.ageingwellinwales.com/wl/home
http://www.ageingwellinwales.com/wl/home
6
Y Prif Lwyddiannau
Cymunedau Cyfeillgar i Oed
Datblygu cymunedau cyfeillgar i oed ar draws Cymru yw thema
allweddol Heneiddio’n Dda. Os yw Cymru i fod yn wlad dda i bawb fynd
yn hŷn ynddi, rhaid cael nod o rymuso a galluogi pobl hŷn, a chefnogi
datblygu cymunedau cyfeillgar i oed yn ein pentrefi, trefi a'n dinasoedd.
Er bod cynnydd da wedi’i wneud hyd yma, a phwysigrwydd datblygu
trafnidiaeth, tai a chynllunio cyfeillgar i oed yn cael ei gydnabod yn
gynyddol gan bartneriaid strategol, mae angen gwaith pellach ar bob
lefel. Bydd yr adroddiad a baratowyd gan Grŵp Arbenigol Llywodraeth
Cymru ar Ddarparu Tai i Bobl Hŷn yng Nghymru'n rhoi peth eglurder a
chyfeiriad strategol ar beth sydd ei angen i ddatblygu tai cyfeillgar i oed3,
a bydd sefydlu Panel Llywodraeth Cymru ar Drafnidiaeth Hygyrch yn
helpu i wthio’r agenda ar drafnidiaeth gyfeillgar i oed gan sicrhau bod ein
trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys bysiau, trenau a gorsafoedd
cyhoeddus, yn fwy cynhwysol a hygyrch i bobl o bob oed.
“Mae’r Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR), sydd
wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gweithio’n
agos â Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Mae’n helpu i greu sianel
sy’n cysylltu polisi, arferion a phobl hŷn gyda’r ymchwil
ddiweddaraf. Mae’n golygu bod yr ymchwil a ddarparwn yn
uniongyrchol berthnasol i anghenion a’r materion sy'n effeithio ar
bobl hŷn ac i elusennau a chyrff trydydd sector perthnasol yng
Nghymru. Mae’r berthynas wedi caniatáu i grwpiau o’r fath
ddylanwadu ar agendâu ymchwil ac, yn ei dro, i wybod beth yw’r
canfyddiadau ymchwil diweddaraf. O ran fy ymchwil fy hun ar
drafnidiaeth a symudedd, bu’n ddefnyddiol rhoi gwybodaeth i
elusennau a grwpiau trydydd sector drwy waith Cymunedau
Cyfeillgar i Oed y rhaglen Heneiddio’n Dda. Rwyf hefyd wedi
gweithio gyda sefydliadau newydd a datblygu ymchwil i gyd-fynd
â'u hanghenion." (Dr. Charles Musselwhite, Y Ganolfan Ymchwil
Heneiddio a Dementia / Y Ganolfan Heneiddio Arloesol)
3 http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf
http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf
7
Mae canllaw newydd gan Heneiddio’n Dda,
‘Gwneud Cymru’n wlad o gymunedau cyfeillgar i
oed’4 yn rhoi cyngor a chymorth ymarferol i
unigolion, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol
ar sut i greu cymuned gyfeillgar i oed. Bydd
Heneiddio’n Dda yn hyrwyddo’r canllaw mewn
digwyddiadau cymunedol ledled Cymru drwy
gydol 2017/18 ac yn cefnogi cynllun i gydnabod
ymdrechion cymunedau i fod yn fwy cyfeillgar i
oed, sy’n cael ei redeg gan Gynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA).
“Mae Cymunedau Cyfeillgar i Oed yn elfen hanfodol o’r rhaglen
Heneiddio’n Dda yng Nghymru, ac yng Nghymru rydyn ni'n dathlu
heneiddio ac yn gwerthfawrogi cyfraniad pobl hŷn i gymdeithas.
Mae gan Gynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA) gysylltiadau â
Fforymau ar draws Cymru ac yn gallu cylchredeg y gwaith gwych
sy’n cael ei wneud ledled Cymru gan bobl hŷn. Yng Nghasnewydd,
Sir Benfro, rydyn ni’n chwilio am ffyrdd o wneud y dref yn fwy
cyfeillgar i oed drwy ehangu’r cynllun Cymydog Da i ddatblygu
canolfan ‘galw heibio’ lle gall pobl hŷn ddod i gyfarfod am de,
cacen, gweithgareddau cymdeithasol a digon o sgwrs a chlonc."
(Gaynor a Ken Davies, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru)
Bydd y ‘Canllaw ynghylch bod yn fusnes
cyfeillgar i oed’ 5 yn helpu i sicrhau bod
busnesau lleol yn ystyried anghenion
cwsmeriaid o bob oed. Mae cardiau ffeithiau6 yn
cyfeirio pobl at y canllaw wedi eu datblygu
mewn partneriaeth â grwpiau pobl hŷn fel bod
pobl hŷn yn gallu ymgysylltu'n uniongyrchol â'u
busnesau lleol i hyrwyddo busnesau cyfeillgar i
oed ac ystyried anghenion pobl o bob oed.
Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru, mewn partneriaeth ag Age Cymru,
Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru,
wedi lansio Rhwydwaith Diwylliant Cyfeillgar i Oed cenedlaethol. Bydd y
rhwydwaith newydd yn helpu i sicrhau bod ystod amrywiol o leoliadau
diwylliant ar draws Cymru, yn cynnwys amgueddfeydd, orielau,
4 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Creating-Age-Friendly-Communities-cym.pdf
5 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf
6 http://www.ageingwellinwales.com/wl/business
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Creating-Age-Friendly-Communities-cym.pdfhttp://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdfhttp://www.ageingwellinwales.com/wl/business
8
llyfrgelloedd, theatrau a chlybiau chwaraeon,
yn dod yn gyfeillgar i oed a mwy cynhwysol o
bobl o bob oed, ac i bobl sy’n byw gyda
dementia.
“Gall mynychu a chymryd rhan yn y
celfyddydau gael effaith bwerus ar leihau
unigedd ymhlith pobl hŷn gan fagu hyder a gwydnwch ac
ailgysylltu pobl â hanes eu bywyd. Yng Nghyngor Celfyddydau
Cymru mae gwella mynediad a chyfle cyfartal i bobl gael profi'r
celfyddydau yn un o'n prif flaenoriaethau. Mae partneriaeth yn
hollbwysig i wneud hyn felly rydym wrth ein bodd o ymuno â'n
partneriaid yn y Rhwydwaith Diwylliant Cyfeillgar i Oed. Gyda’n
gilydd gallwn ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ymgysylltu â phobl hŷn
i wella ansawdd bywyd a lles.” (Dr Phil George, Cadeirydd, Cyngor
Celfyddydau Cymru)
Mae cyfranogiad cymdeithasol, gwybodaeth ac ymgysylltu’n bethau
hanfodol mewn cymuned gyfeillgar i oed. Mae sicrhau bod grwpiau a
fforymau pobl hŷn yn parhau i gyfranogi’n eithriadol bwysig, gan
gynnwys y rhwydweithiau 50+ Awdurdod Lleol a Chynghrair Pobl Hŷn
Cymru (COPA) ar ei newydd wedd. Dylid bob amser gwneud
penderfyniadau am gymunedau a gwasanaethau lleol gyda, ac nid dros,
pobl hŷn ac mae ymgysylltu ac ymgynghori'n effeithiol rhwng darparwyr
a phobl hŷn yn parhau i fod yn egwyddor allweddol gan Heneiddio'n
Dda.
Un enghraifft o ymgysylltu yw arolwg Walkability Heneiddio’n Dda sydd
wedi’i wneud mewn partneriaeth â Strydoedd Byw a’r Ganolfan Ymchwil
Heneiddio a Dementia (CADR)7, sy’n annog pobl hŷn ar draws Cymru i
asesu pa mor hawdd yw cerdded o gwmpas eu cymuned leol. Bydd y
canfyddiadau hefyd yn helpu i ddatblygu’r agenda gyfeillgar i oed gyda
phartneriaid allweddol, gan gynnwys Awdurdodau Lleol a chynghorau
tref / cymuned.
Mae Canolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe wedi dylunio a
chyhoeddi OPERAT (Offeryn Asesu Preswyl Allanol Pobl Hŷn)8. Drwy
ddefnyddio’r offeryn newydd hwn, gall pobl wneud asesiadau syml o ba
7 http://www.ageingwellinwales.com/wl/age-friendly-streets
8 http://www.swansea.ac.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/ymchwil-
diweddaraf/offerynnewyddafyddynhelpupoblhniraddioeucymuned.php
http://www.ageingwellinwales.com/wl/age-friendly-streetshttp://www.swansea.ac.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/ymchwil-diweddaraf/offerynnewyddafyddynhelpupoblhniraddioeucymuned.phphttp://www.swansea.ac.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/ymchwil-diweddaraf/offerynnewyddafyddynhelpupoblhniraddioeucymuned.php
9
mor dda y mae eu cymdogaeth yn cwrdd ag anghenion pobl hŷn. Ar y
cyd â Heneiddio’n Dda yng Nghymru, bydd Prifysgol Abertawe’n
hyfforddi grwpiau o bobl hŷn i gyflawni asesiadau yn eu cymunedau, a
hefyd yn casglu canlyniadau asesiadau ar sail genedlaethol.
“Drwy Heneiddio’n Dda yng Nghymru rydym wedi hybu OPERAT i
helpu i gynllunio amgylchedd adeiledig sy’n ‘gyfeillgar i bob oed’ –
gyda'n gilydd bydd ein gwaith yn helpu cynllunwyr i ragweld effaith
yr amgylchedd ar ddefnyddwyr gyda gwahanol alluoedd gwybyddol
a chorfforol yn hytrach na dylunio i’r ‘corfforol abl’ yn unig. Fel
rhan o Heneiddio’n Dda yn 2017 bydd pobl hŷn yn cael eu hyfforddi
i addysgu ei gilydd ar ddefnyddio OPERAT er mwyn cyflawni
archwiliadau lleol ar draws Cymru." (Yr Athro Vanessa Burholt,
Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia;
Cyfarwyddwr y Ganolfan Heneiddio Arloesol)
Mae galluogi pobl i aros yn annibynnol a pharhau i fyw’n dda yn eu
cymunedau’n elfen graidd o gymunedau cyfeillgar i oed. Mae llawer o
gymdeithasau tai yng Nghymru’n ymgysylltu’n rhagweithiol â
phreswylwyr hŷn ac yn eu helpu i newid eu cartrefi a’u cymunedau. Mae
Tai Cymunedol Bron Afon yn Nhorfaen yn cefnogi fforwm ymddeol lle
mae pobl hŷn yn arwain ar sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ar
faterion sy’n effeithio arnynt. Mae’r fforwm wedi helpu i sicrhau bod
datblygiadau’n cwrdd ag anghenion a dymuniadau preswylwyr hŷn, gan
lwyddo i sicrhau bod materion pwysig yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol i
breswylwyr hŷn, gan wella diogelwch a helpu i ddatblygu offeryn ar-lein i
helpu pobl gyda thrafferthion gweld, iaith neu lythrennedd.
“Do rydyn ni wedi ymddeol ond nid yw’n golygu na allwn wneud
gwahaniaeth. Mae gan bawb brofiadau bywyd pwysig ac mae’n
bwysig bod pobl yn gwrando arnom.” (Ricky Edwards, Cadeirydd
Fforwm Ymddeol Afon)
“Mae bod yn rhan o’r fforwm wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol.
Rwy'n teimlo bod pobl yn gwrando arnaf a gallwn ddylanwadu ar
benderfyniadau." (Mary Edwards, Fforwm Ymddeol Afon)
Mae gwaith hefyd yn parhau ar ddarparu’r cynigion cyfeillgar i oed yng
nghynlluniau Heneiddio’n Dda lleol9. Er enghraifft, mae gwaith pellach yn
cael ei wneud i sefydlu Abergwaun a Wdig fel cymunedau cyfeillgar i
9 http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
10
oed. Roedd y ddwy gymuned yn rhan o beilot gan Sefydliad Iechyd y
Byd (WHO)10 gyda chyfleusterau a seilwaith cyfeillgar i oed yn cael eu
datblygu yn ogystal â gwaith pontio’r cenedlaethau’n cael ei annog
rhwng pobl iau a hŷn. Yn Sir y Fflint mae gwaith tebyg ar y gweill i
ddatblygu Coed-llai a Phontblyddyn fel cymunedau cyfeillgar i oed 11.
"Rydw i'n falch iawn o gefnogi'r rhaglen Heneiddio’n Dda yng
Nghymru. Dod â phobl, cymunedau, a'r sectorau cyhoeddus, preifat
a gwirfoddol ynghyd yw'r ffordd orau o sicrhau dealltwriaeth
gyffredin o bryderon pobl hŷn, a dod o hyd i'r ffyrdd gorau o fynd i'r
afael â'r pryderon hyn. Mewn gwirionedd, yr unig ffordd o allu
sicrhau'r math o ganlyniadau sydd eu hangen yw gwneud yn siŵr
bod y grwpiau hyn i gyd yn gweithio gyda'i gilydd.
Mae pob un ohonom ni am i Gymru fod yn wlad sy'n gwerthfawrogi
pobl hŷn ac yn eu galluogi i chwarae rhan lawn yn eu cymunedau,
nid yn wlad sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod ar y cyrion, neu'n
achosi iddynt brofi unigrwydd ac ynysiad. Bydd rhwydwaith o
gymunedau sy'n ystyriol o oedran ac yn cefnogi pobl â dementia yn
helpu i wireddu'r gobaith hwn." (Rebecca Evans AC, Gweinidog
Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol)
Mae’r rhaglen dreigl o ddigwyddiadau
rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn parhau
ar draws Cymru. Mae rhai o’r
digwyddiadau hyn, yn ogystal ag eraill a
gynhelir gan Awdurdodau Lleol a
phartneriaid allweddol, yn trafod
cyfeillgar i oed allweddol fel trafnidiaeth
leol, tai a seilwaith i ateb anghenion pobl
o bob oed. Er enghraifft, y digwyddiad
trafnidiaeth gyfeillgar i oed gan Age
Cymru yn Rhagfyr 2016 a’r digwyddiad Cyfeillgar i Oed yng
Nghasnewydd yn Chwefror 2017. Denodd yr olaf ystod eang o bobl hŷn
a sefydliadau lleol allweddol i drafod beth y gellir ei wneud i gefnogi
Cyngor y Ddinas a phartneriaid eraill yn eu gwaith i sefydlu Casnewydd
fel dinas gyfeillgar i oed.
10
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Fishguard-Goodwick-Indicator-Report-cym.pdf 11
http://www.flvc.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/50AGNewsletterMarch17.pdf
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Fishguard-Goodwick-Indicator-Report-cym.pdfhttp://www.flvc.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/50AGNewsletterMarch17.pdf
11
Cymunedau Cefnogol o Ddementia
Fel y mae adroddiad ‘Dementia: mwy na dim
ond colli’r cof’12 y Comisiynydd yn 2016 yn ei
nodi, mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau
bod gan bobl sy’n byw gyda dementia, eu
teuluoedd a’u gofalwyr, fynediad at
wasanaethau, cyfleusterau a seilwaith sy’n ateb
eu hanghenion fel y medrant fyw eu bywydau
yn, a chyfrannu i’w, cymuned. Mae aelodau o
rwydweithiau Heneiddio’n Dda yng Nghymru
wedi bod yn weithgar iawn ar yr ochr
cymunedau cefnogol o ddementia, ac mae gan y rhaglen dreigl o
ddigwyddiadau ledled Cymru ffocws cryf ar ddementia.
Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys digwyddiadau ym Mhen-y-bont
ar Ogwr a Dinbych ym Mawrth 2017 i drafod pwysigrwydd sefydlu
cymunedau cefnogol o ddementia a sut y gall grwpiau lleol a
gwirfoddolwyr wneud eu rhan. Drwy gydol 2016/17 cynhaliodd
Heneiddio’n Dda ddigwyddiadau cymunedol ledled Cymru mewn
partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, y Gymdeithas Alzheimer a’r Prosiect
Ymgysylltu a Grymuso Dementia (DEEP), gan siarad gyda thros 400 o
bobl am sut y medrant weithio i wneud eu cymuned a’u gweithle’n fwy
cefnogol o ddementia.
“Y ffaith yw mai dementia bellach yw’r prif achos marwolaeth ond
eto nid oes mwy o arian ar gyfer dementia. Mae’n bwysicach nag
erioed felly ein bod yn torchi llewys i weithio gyda’n gilydd i ddod o
hyd i atebion creadigol. Dengys digwyddiadau sy’n cael eu rhedeg
gan Heneiddio’n Dda yng Nghymru fod cannoedd o bobl yn
gwneud pethau gwyrthiol mewn grwpiau bach. Maen nhw’n ei chael
yn anodd cael deupen llinyn ynghyd ond eto maen nhw’n
achubiaeth i’w cymunedau lleol nad ydynt yn denu cyllid ac sy’n
dibynnu’n unig ar angerdd ac ymroddiad personol y bobl sy’n eu
harwain.” (Nigel, byw gyda dementia, Abertawe)
12
http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/16-03-14/Dementia_More_Than_Just_Memory_Loss.aspx#.WSWQ8-vyuM8
http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/16-03-14/Dementia_More_Than_Just_Memory_Loss.aspx#.WSWQ8-vyuM8http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/16-03-14/Dementia_More_Than_Just_Memory_Loss.aspx#.WSWQ8-vyuM8
12
Mae ‘Canllaw cryno ar gefnogi pobl gyda dementia’ 13 Heneiddio’n Dda
wedi bod yn boblogaidd iawn ac yn rhoi cyngor a chymorth ymarferol i
unigolion, gwirfoddolwyr a grwpiau ar sut i sefydlu cymunedau cefnogol
o ddementia mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd a lled Cymru.
Dosbarthwyd dros 10,000 copi o’r canllaw i unigolion a grwpiau ar draws
Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf, a mae nifer o partneriaid e.e. Barclays
yn helpu i rannu’r canllaw a chodi ymwybyddiaeth.
“Rwyf am gynnal sesiwn ffrindiau dementia i’m cydweithwyr yng
Nghyngor Wrecsam cyn bo hir ac am ddefnyddio’r Canllawiau
Cryno gan Heneiddio’n Dda ar fod yn Gefnogol o Ddementia fel
adnodd ymarferol i’w ddosbarthu ar ddiwedd y sesiwn. Mae’r
canllaw’n ffordd ddefnyddiol iawn o symud ymlaen â’r sgwrs, fel y
medrant ddechrau meddwl am y camau ymarferol nesaf, fydd
wedyn yn dod yn rhan o sut y darparwn wasanaethau yng
Nghyngor Wrecsam, wrth i ni weithio â'n partneriaid cymunedol i
ddod yn lle cyfeillgar i ddementia." (Michael T Cantwell, Uwch
Swyddog Cynaliadwyedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
Ar lefel strategol mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar ymgysylltu â
phartneriaid a phobl sy’n byw gyda dementia ar yr ymgynghoriad ar
strategaeth ddementia genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru14.
Dylai’r strategaeth roi arweiniad a strwythur ar sut y gall partneriaid
weithio gyda’i gilydd i helpu i wneud Cymru’n wlad gefnogol o
ddementia. Yn 'rhanbarth' Gwent, mae'r Bwrdd Dementia rhanbarthol
wedi llunio strategaeth dementia ddrafft er mwyn nodi sut bydd
argymelliadau'r strategaeth dementia genedlaethol yn cael eu cyflawni
ar gyfer trigolion Gwent. Bydd y
strategaeth ranbarthol, a gefnogir gan
Aelodau’r Cynulliad lleol, yn cynnwys
cynllun gweithredu yn nodi'r camau
gweithredu i'w cyflawni, a bydd y
strategaeth ranbarthol yn cael ei
lansio ar y cyd â'r strategaeth
dementia genedlaethol.
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymfalchïo yn ymrwymiad parhaus ein
Tîm Plismona Cymdogaeth i gefnogi Cymunedau Cefnogol o
13
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-cym.pdf 14
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/drafft-strategaeth-ddementia-genedlaethol
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-cym.pdfhttp://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-cym.pdfhttps://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/drafft-strategaeth-ddementia-genedlaethol
13
Ddementia ar draws ardal yr Heddlu, ac i gael eu cydnabod fel
Ffrindiau Dementia i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth
gwybodus i bobl sy’n byw gyda dementia. Rydym wedi ymrwymo i
gynnal sesiynau Ffrindiau Dementia i’r holl blismyn yn y rheng
flaen fel rhan o’n hymrwymiad i’r Gymdeithas Alzheimer i ‘Weithio
tuag at ddod yn Gorff Cyfeillgar i Ddementia’. Fel rhan o’r sesiynau
ymwybyddiaeth hyn, byddwn yn dosbarthu’r Canllaw Cryno gan
Heneiddio’n Dda ar gefnogi pobl gyda dementia er mwyn codi mwy
ar ymwybyddiaeth y staff a’r plismyn sy’n derbyn y sesiynau
Ffrindiau Dementia.” (Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Liane James)
Mae'r gwaith o gefnogi cynllun
Pencampwyr a Ffrindiau
Dementia’r Gymdeithas Alzheimer
yng Nghymru’n parhau ac mae gan
y cynllun bellach tua 45,000 o ffrindiau dementia, un i bob person gyda
diagnosis o ddementia yng Nghymru15. Bydd Heneiddio’n Dda yn parhau
i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia’r Gymdeithas
Alzheimer, gyda’r ddiweddaraf wedi’i chynnal ym mis Mai 201716. Mae’r
wythnos yn gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth pobl o ddementia ac i
dynnu sylw at y gefnogaeth a’r cymorth sydd ar gael i bobl hŷn sy’n byw
gyda dementia, ac i’w teuluoedd a’u gofalwyr.
“Cymuned Gyfeillgar i Ddementia
Aberhonddu oedd y gymuned
gyntaf yng Nghymru i gael ei
chydnabod yn swyddogol gan y
Gymdeithas Alzheimer fel un sy’n
‘gweithio i ddod yn gyfeillgar i
ddementia’. Drwy ddysgu o enghreifftiau y tu allan i Gymru, roedd
awydd yn lleol i wneud rhywbeth i helpu pobl sy’n byw gyda
dementia. Tyfodd rhywbeth a ddechreuodd gyda chriw bach o
wirfoddolwyr brwdfrydig i fod yn bartneriaeth gymunedol eang ac
amrywiol. Mae’r partneriaethau hyn wedi arwain at fwy o
ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r angen ac, o ganlyniad, mae
Aberhonddu’n lle llawer mwy cynhwysol a chefnogol o bobl sy’n
byw gyda dementia yn y gymuned. Mae’r cynllun hefyd wedi ysgogi
15
https://www.alzheimers.org.uk/info/20089/campaigns_in_wales/239/45000_reasons_wales_needs_a_dementia_strategy 16
https://www.alzheimers.org.uk/info/20167/dementia_awareness_week
https://www.alzheimers.org.uk/info/20089/campaigns_in_wales/239/45000_reasons_wales_needs_a_dementia_strategyhttps://www.alzheimers.org.uk/info/20089/campaigns_in_wales/239/45000_reasons_wales_needs_a_dementia_strategyhttps://www.alzheimers.org.uk/info/20167/dementia_awareness_week
14
nifer sylweddol o brosiectau pontio'r cenedlaethau - gyda'r gwaith
a wnaed gan Ysgol Gynradd Sirol Llanfaes wedi'i gydnabod yn
seremoni wobrwyo Cyfeillgar i Ddementia'r Gymdeithas Alzheimer
yn 2016. Yr hyn sy’n wir dda yw bod yr effaith yma wedi ymledu y tu
allan i Aberhonddu. Mae’n galonogol iawn gweld mwy o bentrefi a
threfi ym Mhowys, gan gynnwys Trefyclo a’r Drenewydd, hefyd yn
cael eu cydnabod erbyn hyn am eu gwaith cyfeillgar i ddementia ac
rwy'n siŵr y bydd mwy a mwy’n cofleidio’r gwaith hwn. Rydym wrth
ein bodd o fod yn rhan o Heneiddio’n Dda yng Nghymru ac yn
cefnogi pob ymdrech i sefydlu cymunedau cefnogol o ddementia ar
draws Cymru.” (Rhiannon Davies, Prif Swyddog Dementia Matters
in Powys, a chyn-gadeirydd Cymuned Cyfeillgar i Ddementia
Aberhonddu)
Mae partneriaid Heneiddio’n Dda hefyd yn derbyn hyfforddiant staff
cyfeillgar i ddementia, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, y Gwasanaeth
Tân ac Achub ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru. Hefyd mae pob heddlu yng Nghymru bellach yn gweithredu
‘Protocol Herbert’ Heddlu Gwent fel y gellir dod o hyd yn gynt i bobl hŷn
sy’n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal ac sy’n mynd ar goll.
Parhau y mae gwaith y Sefydliad Atgofion Chwaraeon yng Nghymru,
gyda mwy o glybiau chwaraeon o hyd yn dilyn esiampl Clwb Criced
Morgannwg ac eraill i roi mwy o gyfle i bobl sy’n byw gyda dementia i
gymryd rhan mewn chwaraeon a derbyn cefnogaeth a chymorth yn y
gymuned drwy chwaraeon.
O’r Barri i Aberhonddu, Aberaeron i Fwcle,
Pontyberem i Brestatyn ac o Faerdy i
Borthmadog, mae’r gwaith o sefydlu
pentrefi, trefi a dinasoedd cefnogol o
ddementia'n parhau ar draws Cymru
drwy'r cynlluniau Heneiddio'n Dda lleol17. Mae’r cynlluniau hefyd yn
canolbwyntio ar wella gwasanaethau i bobl sy’n byw gyda dementia. Ar
Ynys Môn er enghraifft, mae model comisiynu cymunedol yn cael ei
dreialu fel prosiect peilot i ddarparu gwasanaethau gofal dydd wedi eu
teilwrio i bobl sy’n byw gyda dementia. Yn Llanelli mae partneriaid wedi
adeiladu ar lwyddiant prosiectau cymunedol drwy, er enghraifft, sefydlu
marchnad gyfeillgar i ddementia gyntaf Cymru sef ‘Bywydau Bodlon’,
17
http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
15
gwasanaeth comisiynu seiliedig ar ganlyniadau. Mae’r prosiect yn
cynnwys cydgysylltwyr gwydnwch cymunedol sy’n gweithio gyda
darparwyr gofal cartref i gefnogi lleoliadau cyfeillgar i ddementia ar sail
anghenion a buddiannau’r unigolion.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae Grŵp Iechyd a Llesiant staff y
Cyngor wedi noddi sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia Alzheimer’s
Society Cymru i bob aelod o staff, gan fod llawer yn ofalwyr, neu'n
adnabod rhywun sy'n byw â dementia efallai, ac fel cyflogwr mawr mae
hyn wedi codi ymwybyddiaeth ymysg y gymuned. Mae Gwasanaeth
Hamdden Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am redeg y cynllun DementiaGo
arloesol, sydd â'r nod o wneud gwahaniaeth corfforol a meddyliol i'r
rheini sy'n byw â dementia, a'r rheini sy'n gofalu amdanynt. Mae'r cynllun
yn rhedeg mewn pum canolfan ar hyn o bryd, ac mae cyfranogwyr yn
cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chymdeithasol yn y
canolfannau.
Yn 'rhanbarth' Gwent, mae'r pum
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus18,
drwy gysylltiadau â'r Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol, yn gweithio
gyda'i gilydd i fabwysiadau achrediad
sy'n ystyriol o ddementia drwy
Alzheimer’s Society Cymru. Mae'r
achrediad yn cynnwys staff yn cael
hyfforddiant ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia, dynodi prif hyrwyddwr
yn y sefydliad, a hyrwyddo arferion sy'n ystyriol o ddementia. Hyd yma,
mae 11,000 o bobl wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Ffrindiau
Dementia, ac mae 200 o bobl wedi hyfforddi fel hyrwyddwyr. Ysgol
Uwchradd Gatholig Joseff Sant yng Nghasnewydd yw'r gyntaf hefyd i
gael ei hachredu fel ysgol ystyriol o ddementia yng Nghymru. Hefyd,
mae Prosiect Rhaglan yn Sir Fynwy yn cyflwyno ymagwedd newydd i
gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia19. Mae’r prosiect yn cefnogi pobl
sy’n byw yn eu cartrefi ac yn symud i ffwrdd o’r model presennol o
ddarpariaeth gwasanaeth tuag at un sy’n rhoi’r defnyddiwr wrth galon
gwasanaethau yn nhermau amserlenni a’r gweithgareddau a
gyflawnwyd.
18
Y pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw: Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy. 19
http://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/sites/11/2014/05/6a-Select-Committe-Report-The-Raglan-Domiciliary-Care-Model.-Appendix-1-Evaluation-Short-Summary.pdf
http://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/sites/11/2014/05/6a-Select-Committe-Report-The-Raglan-Domiciliary-Care-Model.-Appendix-1-Evaluation-Short-Summary.pdfhttp://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/sites/11/2014/05/6a-Select-Committe-Report-The-Raglan-Domiciliary-Care-Model.-Appendix-1-Evaluation-Short-Summary.pdf
16
Atal Codwm
Caiff ei gydnabod yn gynyddol gan bartneriaid allweddol bod angen
gwneud mwy i fynd i’r afael ag achosion codwm mewn pobl hŷn yng
Nghymru. Mae’r dull ataliol hwn o fudd i bawb: mae’n gwneud unigolion
yn fwy gwydn ac yn gwella ansawdd eu bywydau ac yn golygu bod llai o
angen ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol drud.
Un datblygiad pwysig yw sefydlu Tasglu Cenedlaethol Atal Codwm Gofal
Iechyd Darbodus Llywodraeth Cymru20, sy’n dod â’r holl bartneriaid
perthnasol at ei gilydd i gydgysylltu ymdrechion i sicrhau dull
cenedlaethol cyson o leihau'r risg o gael codwm ar draws Cymru. Mae’r
Tasglu’n seiliedig ar Grŵp Cynghori Atal Codwm Arbenigol blaenorol
Heneiddio’n Dda ac yn cynnwys nifer o bartneriaid Heneiddio’n Dda a
chynrychiolwyr o bob un o’r Byrddau Iechyd yng Nghymru.
Un o brif amcanion y grŵp newydd hwn yw adeiladu ar yr ymgyrch
ymwybyddiaeth gyhoeddus ‘Sadiwch......i gadw’n SAFF’ 21 sef ymgyrch
ymwybyddiaeth gyhoeddus wedi’i datblygu gan Grŵp Cynghori
Arbenigol Heneiddio’n Dda yng Nghymru i sicrhau bod atal codwm wedi’i
wreiddio yn yr holl gysyniadau am ofal iechyd darbodus. Mae 1000 o
Fywydau a Mwy, mewn partneriaeth â Heneiddio'n Dda yng Nghymru a'r
Tasglu Cenedlaethol, wedi cynnal gweithdai ym mhob Bwrdd Iechyd yng
Nghymru i rannu arferion da a hyrwyddo'r agenda Atal Codwm drwy
gymunedau ledled Cymru.
“Hoffwn longyfarch Heneiddio’n Dda yng Nghymru ar eu llwyddiant
ysgubol yn datblygu a chynnal ymgyrch genedlaethol bwysig ar
atal codwm. Mae galwad corn gwlad yr ymgyrch ‘Sadiwch....i
gadw’n SAFF’ wedi ysbrydoli ystod eang o gyrff gwasanaethau
cyhoeddus a grwpiau dinasyddion i ganolbwyntio ar ddarparu
enghreifftiau cadarnhaol o heneiddio a hyrwyddo’r syniad hanfodol
nad yw cael codwm yn anochel wrth fynd yn hŷn. Mae’r Tasglu
Cenedlaethol ar Atal Codwm wedi esblygu i wneud gwahaniaeth i
fywydau pobl. Un o gonglfeini ein hagenda yw gofal iechyd
darbodus: helpu'r rhai sydd fwyaf angen help arnynt i atal y risg o
gael codwm. Ei siawns fwyaf o lwyddo yw bod y dull yn syml,
seiliedig ar dystiolaeth a pherthnasol i bawb. Mae fy sefydliad i,
20
http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/falls 21
http://www.publichealthnetwork.cymru/cy/news/steady-on-stay-safe1/
http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/fallshttp://www.publichealthnetwork.cymru/cy/news/steady-on-stay-safe1/
17
Gofal a Thrwsio Cymru, yn falch o wneud ei ran. Gwyddom fod
cartrefi gwael yn gallu arwain at godwm: Mae 500 o bobl hŷn yn
cael codwm yn eu cartref bob dydd, mae llawer yn gorfod mynd i'r
ysbyty, a rhai'n marw. Gydag arian gan Lywodraeth Cymru ac
Awdurdodau Lleol gallwn helpu ac atal codwm. Gyda’n gilydd
gallwn wneud Cymru’n wlad fwy diogel ac iach i bawb fynd yn hŷn
ynddi.” (Neil Williams, Cadeirydd y Tasglu Cenedlaethol ar Atal
Codwm)
Yn Chwefror eleni lansiodd partneriaid
Heneiddio’n Dda, sef Age Connects
Cymru, Age Cymru a Gofal a Thrwsio
Cymru, yr Wythnos Genedlaethol Atal
Codwm22. Roedd yr ymgyrch yn cyd-
ddigwydd â chefnogaeth Fferylliaeth
Gymunedol Cymru i ‘Sadiwch...i
gadw’n SAFF’ ar draws 700+ o
fferyllfeydd ledled Cymru ynghyd â’i neges allweddol i leihau’r risg o gael
codwm a chwalu’r myth bod cael codwm yn rhan anochel o fynd yn hŷn:
cadw i fynd; os cewch godwm, dywedwch wrth rywun; byddwch yn
ymwybodol o beryglon baglu. Daeth ystod o bartneriaid Heneiddio’n Dda
i lansiad yr wythnos Atal Codwm, ynghyd â Rebecca Evans AC, y
Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd yn
Llywodraeth Cymru. Parhau y mae’r gwaith o dynnu sylw at yr ymgyrch
ac at gynlluniau a chyhoeddiadau eraill i helpu pobl hŷn, er enghraifft
drwy'r gwasanaeth Gwella 1000 o Fywydau23, canllaw Age Cymru ar
‘Osgoi cwympo, baglu a llithro’24, a chanllaw ‘Get up and Go’
Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion25.
“Pob blwyddyn yng Nghymru bydd tua 250,000 o bobl dros 65 oed
yn cael codwm. Mae modd atal codwm, nid yw’n rhan annatod o
fynd yn hŷn. Drwy wella a chynnal cryfder a chydbwysedd y corff,
siarad am droeon eraill pryd y cafwyd codwm gyda gweithwyr gofal
iechyd, a gwneud asesiadau o ddiogelwch y cartref, gellir lleihau'r
risg o gael codwm. Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi
chwarae rôl bwysig iawn mewn datblygu a chefnogi'r Rhaglen
22
http://www.careandrepair.org.uk/cy/newyddion/falls-awareness-week/ 23
http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/home 24
http://www.flvc.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/Age-Cymru-Avoiding-slips-trips-and-falls-leaflet-Welsh.pdf 25
http://www.csp.org.uk/publications/get-go-guide-staying-steady
http://www.careandrepair.org.uk/cy/newyddion/falls-awareness-week/http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/homehttp://www.flvc.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/Age-Cymru-Avoiding-slips-trips-and-falls-leaflet-Welsh.pdfhttp://www.flvc.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/Age-Cymru-Avoiding-slips-trips-and-falls-leaflet-Welsh.pdfhttp://www.csp.org.uk/publications/get-go-guide-staying-steady
18
Gofal Iechyd Darbodus: Atal Codwm ar gyfer Pobl Hŷn. Cynnwys
atal codwm mewn Heneiddio’n Dda a arweiniodd at greu’r neges
wedi’i chyd-gynhyrchu o ‘Sadiwch....i gadw’n SAFF’. Mae
Heneiddio’n Dda’n cyd-fynd â Rhaglen Gofal Iechyd Darbodus
Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhaglenni eraill fel rhaglen Hyfforddi’r
Hyfforddwr sy’n rhan o’r Ymyriad Byr Atal Codwm. Drwy godi
ymwybyddiaeth o ‘Sadiwch...i gadw’n SAFF’, mae Heneiddio’n Dda
yn rhoi cyfle delfrydol i gydgysylltu hyn â gwaith atal codwm Gofal
Iechyd Darbodus ac agendâu iechyd a thai PHW fel y medrant
symud ymlaen yn gynt ac ehangach nag a fyddai'n bosib drwy
unrhyw un o'r tair agenda ar eu pen eu hunain." (Dr Tracey Cooper,
Prif Weithredwr, Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Mae Byrddau Iechyd Lleol yn parhau i roi sylw i atal codwm ac yn
gweithio ar nifer o gynlluniau ac ymyriadau i godi ymwybyddiaeth a
lleihau’r risg o gael codwm. Er enghraifft, hyfforddiant atal codwm
gorfodol i staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a
hyrwyddo ac ehangu’r Rhaglen Ymarfer Corff Otago ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a’r Fro26.
Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn gweithio
ar atal codwm drwy eu cynlluniau
Heneiddio’n Dda lleol27. Mae enghreifftiau’n
cynnwys hyfforddiant atal codwm i staff
cartrefi gofal yn Abertawe, cydgysylltwyr
lles cymunedol ym Mro Morgannwg yn
gweithio gyda Meddygon Teulu i gyfeirio
pobl ymlaen at raglenni atal codwm, a
chynllun peilot y Tîm Cymorth Cymunedol (CAT) yng Nghonwy a Sir
Ddinbych i helpu pobl a gafodd godwm yn y cartref. Mae Awdurdodau
Lleol hefyd yn parhau i gyfeirio pobl ymlaen at ddosbarthiadau ymarfer
corff, cryfder a chydbwysedd i bobl hŷn, gan gynnwys y Cynllun
Atgyfeirio Cenedlaethol i Wneud Ymarfer Corff a’r dosbarthiadau
ymarfer corff Hyfforddiant Llai Heriol.
“Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol (CAT) yn gydweithrediad eang
rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Llywodraeth
Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chynghorau
26
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/falls-prevention 27
http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/falls-preventionhttp://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
19
Conwy a Sir Ddinbych. Peilot wyth mis oedd hwn gyda phobl a
gafodd godwm heb frifo oedd wedi eu hadnabod gan gydweithwyr
yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST). Mae
galwadau cynyddol ar WAST i ymateb yn brydlon i ystod eang o
gleifion sydd ag anghenion cymhleth, i wella profiad y claf ac, yn
anad dim, y canlyniad clinigol. Mae ein gwasanaeth yn helpu pobl
hŷn drwy roi gwasanaeth mwy person-ganolog iddynt. Gallwn
dreulio mwy o amser gyda'r claf i roi cyngor ar fod yn ddiogel yn y
cartref, atal troseddu a hefyd eu cyfeirio ymlaen at dimau atal
codwm, gwasanaethau cymdeithasol a Meddygon Teulu. I berwyl y
peilot ei hun rydym wedi cyfrifo ein bod wedi rhyddhau a rhoi 540 o
oriau'n ôl i adnoddau WAST." (Steven Roberts, Rheolwr
Integreiddio Gwasanaethau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd
Cymru)
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cynhaliodd yr
Awdurdod Lleol a phartneriaid y
digwyddiad OlympAGE yn Rhagfyr 201628.
Daeth dros 200 i’r digwyddiad i ddysgu
mwy am sut y gall pobl hŷn gadw’n heini.
Cymrodd grwpiau o gartrefi gofal a
chanolfannau dydd lleol ran yn y
digwyddiad "Olympaidd" hwn, gydag ystod
o wahanol weithgareddau a gemau drwy'r dydd i helpu i wella lles
corfforol a meddyliol.
“Rydym wedi gweithio, ac yn gwbl
ymroddedig, i gyflawni’r camau
gweithredu yng Ngham Dau Cynllun
Gweithredu Heneiddio’n Dda yng
Nghymru. Mae’r cynllun wedi rhoi
fframwaith a ffocws i’n cynlluniau
ymgysylltu i gyflawni llawer o’r
llwyddiant a gawsom yn gwella profiadau pobl hŷn yng Nghymru
sydd angen ein gwasanaethau. Mae ein ‘Addewidion i Bobl Hŷn’,
sy'n seiliedig ar werthoedd, yn sicrhau bod pobl yn derbyn
gwasanaeth o ansawdd a phrofiad da wrth fod yn ein gofal. Rydym
yn parhau i ymgysylltu â phobl a phartneriaid fel bod Heneiddio’n
28
http://www.bridgend.gov.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/2016/rhagfyr-2016/15-12-2016-gemau-olympage-yn-darparu-g%C5%B5yl-o-chwaraeon-llawn-hwyl-i-bobl-h%C5%B7n.aspx
http://www.bridgend.gov.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/2016/rhagfyr-2016/15-12-2016-gemau-olympage-yn-darparu-g%C5%B5yl-o-chwaraeon-llawn-hwyl-i-bobl-h%C5%B7n.aspxhttp://www.bridgend.gov.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/2016/rhagfyr-2016/15-12-2016-gemau-olympage-yn-darparu-g%C5%B5yl-o-chwaraeon-llawn-hwyl-i-bobl-h%C5%B7n.aspx
20
Dda gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ystyrlon i bobl yng
Nghymru.” (Claire Bevan, Cyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch a
Phrofiad y Claf, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans
Cymru)
“Rydym wedi datblygu Pecyn Adnoddau a
Llawlyfr ar gyfer Cynlluniau Tai Gwarchod,
Cymunedau’n Gyntaf a grwpiau cymunedol i
redeg cwrs deg wythnos er mwyn addysgu, rhoi
gwybodaeth a chyngor ymarferol ar atal
codwm. Rydym wrthi’n cyflwyno’r prosiect hwn
gan weithio mewn partneriaeth â Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig ar draws Cwm Taf.
Mae llawer o’r sesiynau wedi cynnwys
gweithgaredd, er enghraifft sesiwn blasu
ymarfer tebyg i tai chi. Mae’r prosiect nid yn unig yn trafod atal
codwm ond hefyd yn adlewyrchu ethos Heneiddio’n Dda, yn
enwedig trechu unigrwydd ac unigedd. Roedd yn wych bod yn rhan
o brosiect a gafodd ganlyniadau cystal – ar ddiwedd y deg wythnos
roedd y cyfranogwyr wedi cael profion golwg a chlywed, roedden
nhw i gyd yn yfed mwy o ddŵr ac yn teimlo eu bod yn gwybod mwy
am atal codwm.” (Rhian Webber, Rheolwr Gwella Iechyd a Lles,
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf)
Hefyd, mae partneriaid Heneiddio’n Dda gan
gynnwys Gofal a Thrwsio a’r gwasanaethau
brys, yn gweithredu’r dull ‘Gwneud i Bob
Cyswllt Gyfrif’ gan roi cyngor ymarferol i
bobl hŷn ar sut i leihau eu risg o gael codwm
a hefyd yn cyflawni asesiad risg o gael
codwm, wrth fynd i mewn i gartrefi pobl29.
29
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/65550
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/65550
21
Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth
Mae Ymchwiliad y Cynulliad Cenedlaethol i Gyfleoedd Cyflogaeth ar
gyfer Pobl Dros 50 wedi rhoi momentwm i’r agenda hon30. Fodd bynnag
mae diffyg defnydd a diffyg gwerthfawrogiad o hyd o weithlu hŷn Cymru
ynghyd â diffyg gwerthfawrogiad o’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd
gan bobl hŷn nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET).
Mae nifer o ddatblygiadau cadarnhaol wedi bod ers yr
Ymchwiliad, gan gynnwys prentisiaethau pob oed a
chynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru31 32, ac mae
Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu ymchwil i
edrych ar y rhwystrau penodol sy’n wynebu pobl hŷn
sydd am ail-ymuno â’r gweithle, ynghyd ag ymgyrch
‘Oes o Fuddsoddi’ Llywodraeth Cymru i drechu
gwahaniaethu ar sail oed yn y gweithle, mynd i’r afael â’r
mythau a’r camsyniadau am weithwyr hŷn a hyrwyddo
manteision gweithle amrywiol o ran oed ac aml-genhedlaeth33 34.
Yn y 12 mis diwethaf mae
Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi
cefnogi nifer o weithgareddau i dynnu
sylw at gefnogi pobl hŷn i ddod o hyd
i a chadw gwaith, gan gynnwys
cynnal gweithdai gyda TUC Cymru a
chefnogi rhaglen Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg a fu’n darparu
hyfforddiant am ddim i ferched 54+ oed yn y gweithle35.
“Un o brif amcanion y Strategaeth Pobl Hŷn yw galluogi pobl 50+ i
barhau i weithio, dysgu a bod yn weithgar yn eu cymunedau. Mae
Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi gweithio’n agos â Llywodraeth
Cymru a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddylanwadu
ar bolisi ac ymarfer. Mae rhaglen brentisiaethau pob oed
Llywodraeth Cymru i’w chroesawu. Nid yw pobl hŷn yng
Nghymru’n disgwyl ffafriaeth, dim ond cael eu trin yn gyfartal a
30
http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10305/cr-ld10305-w.pdf 31
http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?skip=1&lang=cy 32
http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/employability-plan-for-wales/?skip=1&lang=cy 33
https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/oes-o-fuddsoddi 34
http://gov.wales/newsroom/educationandskills/2017/170517-no-best-before-date-for-welsh-workers/?skip=1&lang=cy 35
https://www.agilenation2.org.uk/
http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10305/cr-ld10305-w.pdfhttp://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?skip=1&lang=cyhttp://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/employability-plan-for-wales/?skip=1&lang=cyhttps://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/oes-o-fuddsoddihttp://gov.wales/newsroom/educationandskills/2017/170517-no-best-before-date-for-welsh-workers/?skip=1&lang=cyhttp://gov.wales/newsroom/educationandskills/2017/170517-no-best-before-date-for-welsh-workers/?skip=1&lang=cyhttps://www.agilenation2.org.uk/
22
phriodol. Rwyf yn siŵr y gall Heneiddio’n Dda barhau i weithio
mewn partneriaeth i sicrhau bod gan bobl hŷn gyfle i ddysgu, ennill
incwm a chwarae rhan lawn ym mywyd Cymru.” (Terry Mills,
Cadeirydd Dros Dro, Fforwm Cynghori Gweinidogol ar Heneiddio
(MAFA))
Mae wythnosau thematig wedi bod yn ddefnyddiol i godi ymwybyddiaeth
a thynnu sylw at gyfleoedd sydd ar gael i bobl hŷn. Er enghraifft,
cyfleoedd i bobl hŷn fynd ar gyrsiau prentisiaeth yn ystod Wythnos
Brentisiaethau Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 201736, pwysigrwydd
recriwtio, cadw ac ailhyfforddi pobl 50+ yn y gweithle yn ystod Wythnos
Sgiliau Gweithio’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ym mis Mai 201737, a
thynnu sylw at y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i bobl hŷn yn ystod yr Ŵyl
Ddysgu ym mis Mehefin 201738. Mae partneriaid eraill Heneiddio’n Dda,
gan gynnwys TUC Cymru a Busnes yn y Gymuned, hefyd yn gweithio ar
gynlluniau a phrosiectau i helpu i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl hŷn.
“Mae TUC Cymru eisiau i Gymru ddod yn wlad gwaith teg. Credwn
fod angen i gyflogwyr wneud defnydd gwell o sgiliau a phrofiad eu
gweithwyr hŷn a datblygu dulliau gweithio mwy cynaliadwy wrth i
bobl fynd yn hŷn. Mae’r undebau mewn sefyllfa allweddol i
hyrwyddo dulliau cynhwysol i oed wrth recriwtio, datblygu
gyrfaoedd a dylunio swyddi a’r gweithle. Mae TUC Cymru wedi
gweithio mewn partneriaeth â Heneiddio’n Dda i briffio eu
cynrychiolwyr undebol ar faterion allweddol fel heneiddio’n dda yn
y gweithle ac ymwybyddiaeth o ddementia, gwybodaeth y mae’r
cynrychiolwyr wedi mynd yn ôl gyda nhw i’w gweithleoedd ar
draws Cymru. Fel sefydliad rydym wedi bod yn werthfawrogol iawn
o’r cyfle i gydweithio fel bod cynrychiolwyr gweithle wedi gallu
elwa o arbenigedd Heneiddio’n Dda. Edrychwn ymlaen at barhau i
weithio mewn partneriaeth yn y dyfodol.” (Julie Cook, Swyddog
Cenedlaethol, TUC Cymru)
Parhau y mae’r gwaith i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cynnwys yn
llawn yn yr agenda cynhwysiant digidol ac yn cael pob cyfle i wella eu
sgiliau digidol drwy Fframwaith Strategol Cynhwysiant Digidol
Llywodraeth Cymru, fel bod ganddynt y sgiliau digidol iawn i helpu i
36
https://twitter.com/AgeingWellCymru/status/839885194354122758 37
http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ein-gwaith/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau/wythnos-sgiliau-gwaith-14-21-mai-2017/ 38
http://www.learningandwork.org.uk/our-work/promoting-learning-and-skills/festival-of-learning/
https://twitter.com/AgeingWellCymru/status/839885194354122758http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ein-gwaith/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau/wythnos-sgiliau-gwaith-14-21-mai-2017/http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ein-gwaith/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau/wythnos-sgiliau-gwaith-14-21-mai-2017/http://www.learningandwork.org.uk/our-work/promoting-learning-and-skills/festival-of-learning/
23
wella eu rhagolygon gwaith39. Parhau hefyd y mae’r gwaith i wella sgiliau
ariannol a gwydnwch pobl hŷn drwy Strategaeth Cynhwysiant Ariannol
Llywodraeth Cymru40 a thrwy Strategaeth Galluedd Ariannol Cymru gan
y Gwasanaeth Cynghori Ariannol41. Mae ymarfer da ar lefel leol yn
cynnwys prosiect ‘Cronfa Beth sy’n Gweithio’ newydd y Gwasanaeth
Cynghori Ariannol mewn partneriaeth ag Age Cymru Bae Abertawe42.
Bydd y prosiect yn cefnogi pobl 65+ oed yn Abertawe i fagu mwy o
hyder wrth gynllunio’n ariannol ac i ddeall sut i ddefnyddio
gwasanaethau ariannol ar-lein, sut i gynllunio ymlaen llaw a rheoli eu
harian drwy ddigwyddiadau yn eu bywydau.
Ar yr ochr ddysgu, mae’r cyhoeddiad
‘Canllaw i sefydlu clwb dysgu cymunedol’ 43
gan Heneiddio’n Dda yn rhoi cefnogaeth a
chymorth ymarferol i unigolion,
gwirfoddolwyr a grwpiau i sefydlu clwb
dysgu cymunedol lleol. Mae partneriaid
Heneiddio’n Dda, gan gynnwys y Sefydliad
Dysgu a Gwaith, U3A, Men’s Sheds a’r Brifysgol Agored, hefyd yn
parhau i weithio ar wella cyfleoedd addysg oedolion yn y gymuned i bobl
hŷn ac i gynnig atebion newydd ac arloesol i ddatblygu dysgu gydol oes
yn y gymuned. Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn
bwriadu lansio’r canllaw’n ffurfiol fel rhan o’r
Wythnos Addysg Oedolion ym mis Mehefin 2017,
a’i ddosbarthu i bartneriaid allweddol ledled Cymru.
Bydd Heneiddio’n Dda yn parhau i gefnogi a
thynnu sylw at arferion da gan ddysgwyr hŷn ac i
ennill ysbrydoliaeth o enillwyr gwobrau yn y
gorffennol, er enghraifft Gwobrau Addysg Oedolion
y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
“Mae tua 14,000 o bobl hŷn yn perthyn i’r 59 o brifysgolion U3A yng
Nghymru lle mae aelodau’n cyfrannu i amrywiaeth eang o grwpiau
budd mewn awyrgylch o gyd-gefnogaeth a chwmpeini. Mae llawer
yn sôn am y gwahaniaeth y mae perthyn i’r U3A wedi'i wneud
iddynt, yn enwedig ar adegau anodd neu os ydynt ar eu pen eu
39
http://gov.wales/topics/science-and-technology/digital/digital-inclusion/?skip=1&lang=cy 40
http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/debt/?skip=1&lang=cy 41
https://www.fincap.org.uk/cymru 42
http://www.ageuk.org.uk/cymru/swanseabay/news/mas-funding-won/ 43
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Learning-Club-Guide-cym.pdf
http://gov.wales/topics/science-and-technology/digital/digital-inclusion/?skip=1&lang=cyhttp://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/debt/?skip=1&lang=cyhttps://www.fincap.org.uk/cymruhttp://www.ageuk.org.uk/cymru/swanseabay/news/mas-funding-won/http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Learning-Club-Guide-cym.pdf
24
hunain. Mae gan bobl hŷn gymaint i’w gynnig gyda’u sgiliau a’u
profiad o fywyd; mae dod at ei gilydd drwy’r U3A o fudd eithriadol
i'w lles corfforol a meddyliol. Mae’r U3A yn falch iawn o fod yn
bartner i Heneiddio’n Dda yng Nghymru i sicrhau bod pobl hŷn yng
Nghymru’n elwa o’r holl sydd at gael iddynt." (Hilary Jones,
Ymddiriedolwr U3A yng Nghymru)
Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru
yn cefnogi’r Gwasanaeth Gwirfoddol
Brenhinol (RVS) i ddod â ‘GrandFest’
44 i Gymru. Gŵyl undydd yw
GrandFest sy’n dathlu sgiliau a
thalentau pobl hŷn ac yn eu rhannu â
chenedlaethau iau. Bydd yr ŵyl
GrandFest Cymru gyntaf yn cael ei
rhedeg mewn partneriaeth ag
Amgueddfa Cymru a'i chynnal yn Amgueddfa Werin Cymru yn San
Ffagan ym mis Gorffennaf 2017.
Mae Awdurdodau Lleol hefyd yn parhau i weithio ar eu gweithredu
dysgu a chyflogaeth drwy eu cynlluniau Heneiddio’n Dda lleol45. Mae
enghreifftiau’n cynnwys gwella sgiliau ariannol a digidol pobl hŷn drwy’r
ymgyrch codi ymwybyddiaeth ‘Simon yn Dweud’ yng Nghaerffili; cymorth
i grwpiau dysgu lleol drwy ddarparu lleoliadau a deunyddiau dysgu ym
Mro Morgannwg; mentoriaid pobl hŷn i sefydlu cysylltiadau â busnesau
lleol ac i wella rhagolygon gwaith pobl hŷn drwy prosiect Cronfa
Gymdeithasol Ewrop OPUS Cyngor Ynys Môn; darparu cyfleoedd i bobl
hŷn yn Nhorfaen i ddychwelyd i'r gweithle drwy brosiect Her Newydd
WCVA, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, er enghraifft
cyflwyno lleoliadau gwaith i unigolion â chwmnïau 'lletya', yn ogystal â
chyfleoedd hyfforddi a sgiliau wedi'u targedu drwy'r Cyngor; a hyrwyddo
busnesau cyfeillgar i oed a sut i fod yn fusnes sy’n gynhwysol o bob oed
yng Nghwm Taf.
44
https://grandfest.royalvoluntaryservice.org.uk/ 45
http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
https://grandfest.royalvoluntaryservice.org.uk/http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans
25
Unigrwydd ac Unigedd
Ers lansio Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n swyddogol yn 2014, caiff ei
gydnabod yn gynyddol bod unigrwydd yn risg ddifrifol i iechyd pobl a’i
fod yn cael effaith ddifrifol a dinistriol ar bobl hŷn.
Mae llywodraeth ar bob lefel, Byrddau Iechyd Lleol a phartneriaid
allweddol eraill bellach yn cydnabod na all Cymru fforddio â chael
cenhedlaeth o bobl hŷn yn wynebu risg o unigrwydd ac unigedd. Mae’r
gost i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac i’r unigolyn, yn
ormod.
“Mae gen i brofiad personol o unigrwydd a gwn pa mor andwyol y
gall fod. Mae’n effeithio ar sut yr ydych yn teimlo, yn meddwl ac yn
cael effaith ddifrifol ar eich iechyd a’ch lles. Mae gormod o bobl hŷn
yng Nghymru’n teimlo’n unig ac ynysig ac mae’n bryd gwneud
rhywbeth am y peth. Rwyf yn falch bod trechu unigrwydd ac
unigedd yn flaenoriaeth gan Heneiddio’n Dda yng Nghymru a
chefnogaf bob ymdrech i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu mynd o
gwmpas a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol gan
leihau effaith andwyol unigrwydd.” (Phyllis Preece, Cadeirydd,
Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol)
Yn ogystal â Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni 2016-19
Llywodraeth Cymru46, sy'n nodi'n glir bod angen lleihau unigrwydd ac
unigedd dieisiau, bydd y strategaeth genedlaethol ar unigrwydd sydd i’w
chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2017/18 yn rhoi peth eglurder a
strwythur fel bo’r holl bartneriaid yn gallu dod at ei gilydd a datblygu dull
cydgysylltiedig o drechu unigrwydd ac unigedd yng Nghymru. Mae
Ymchwiliad Unigrwydd ac Unigedd y Cynulliad yn 2017 hefyd yn
ddefnyddiol i dynnu sylw at y prif faterion o bwys a chynnig argymhellion
sydd angen i bartneriaid allweddol weithredu arnynt47.
"Mae fy swyddogion yn dechrau cymryd golwg arall ar y
Strategaeth Pobl Hŷn, gan ystyried yr adborth rydyn ni wedi'i gael
ers ei lansio am y tro cyntaf, a'n gobaith yw y bydd grwpiau pobl
hŷn yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses hon. Bydd y gwaith o
ddiwygio'r strategaeth a'r rhaglen Heneiddio'n Dda yn cael ei
wneud ochr yn ochr â'r gwaith ychwanegol rydyn ni'n ei wneud ar 46
http://gov.wales/docs/dhss/publications/161010deliverycy.pdf 47
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16359
http://gov.wales/docs/dhss/publications/161010deliverycy.pdfhttp://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16359
26
ynysu ac unigrwydd, er mwyn helpu i wella bywydau pobl hŷn
mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru." (Rebecca Evans AC,
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol)
Mae’r canllaw gan Heneiddio’n Dda ar ‘Gwneud Gwahaniaeth: canllaw
cryno i’ch helpu i ymdrin ag unigrwydd’ 48 yn rhoi cyngor a gwybodaeth
ddefnyddiol i bobl hŷn sy'n teimlo'n unig ac mewn perygl o fod yn unig.
Datblygwyd y canllaw mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ymchwil
Heneiddio a Dementia (CADR), y Groes Goch Brydeinig a’r Gwasanaeth
Gwirfoddol Brenhinol.
“Rwyf yn cyflawni Adolygiad Lles a Chymorth gyda’n pobl hŷn.
Bydd yn mynd i’w gweld am sgwrs anffurfiol am eu lles yn
gyffredinol ac yn siarad am unrhyw gymorth y byddent yn hoffi ei
dderbyn neu eisoes yn ei gael gan deulu, ffrindiau ac eraill. Bydden
ni’n hoffi helpu i wella eu teimlad o les a rhoi sylw i lawer o’r pethau
eraill y mae pobl hŷn yn ei brofi fel unigrwydd, unigedd ac allgau
digidol. Yn aml iawn y cwbl y bydd yn ei wneud yw eu hatgoffa ein
bod yn landlord y medrant ddod atom am gymorth.” (Mandy Carr,
Swyddog Tai Pobl Hŷn, Tai Gogledd Cymru)
Mae partneriaid Heneiddio’n Dda yn parhau i geisio trechu unigrwydd ac
unigedd ymhlith pobl hŷn drwy wahanol gynlluniau, ymyriadau a
phrosiectau. Er enghraifft, mae’r Groes Goch Brydeinig a’r Gwasanaeth
Gwirfoddol Brenhinol yn gweithio gyda’i gilydd ar ‘Camau Cadarn’,
rhaglen tair blynedd i ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn mewn perygl o
unigrwydd ac unigedd ac sydd angen help arnynt i adennill eu
hannibyniaeth49.
“Os yw partneriaeth i weithio, rhaid iddi gael pwrpas cyffredin.
Gwella bywydau unigolion ddylai fod y pwrpas hwnnw o hyd ac
mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n dod â’r sefydliadau hynny
gyda ffocws mwy person-ganolog at ei gilydd. Ar ein pen ein
hunain ni allwn wneud llawer ond, gyda’n gilydd, gallwn gyfuno ein
sgiliau a, gobeithio, gwella bywydau pobl hŷn. Mae Heneiddio’n
Dda yn canolbwyntio ein hymdrechion i wneud Cymru’n wlad well i
bobl hŷn.” (Dave Worrall, Rheolwr Gweithredol Byw’n Annibynnol –
Cymru, Y Groes Goch Brydeinig)
48
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Loneliness-pocket-guide-cym.pdf 49
http://www.redcross.org.uk/About-us/Media-centre/Press-releases/Regional-press-releases/Wales-and-western-England/British-Red-Cross-and-Royal-Voluntary-Service-improve-the-independence-of-older-people
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Loneliness-pocket-guide-cym.pdfhttp://www.redcross.org.uk/About-us/Media-centre/Press-releases/Regional-press-releases/Wales-and-western-England/British-Red-Cross-and-Royal-Voluntary-Service-improve-the-independence-of-older-peoplehttp://www.redcross.org.uk/About-us/Media-centre/Press-releases/Regional-press-releases/Wales-and-western-England/British-Red-Cross-and-Royal-Voluntary-Service-improve-the-independence-of-older-people
27
Gŵyl sy’n para mis a gynhelir ar
draws Cymru bob mis Mai yw Gŵyl
Wanwyn Age Cymru50 i ddathlu
creadigrwydd mewn pobl hŷn a
chynnig cyfleoedd i bobl hŷn gael
cymryd rhan yn y celfyddydau. Mae
Age Cymru bellach yn meddwl sefydlu clybiau Gwanwyn fel bod gwaith
y prosiect hwn yn gallu digwydd drwy’r flwyddyn. Mae Cerddoriaeth
mewn Ysbyty51, partner arall gan Heneiddio'n Dda, yn trefnu
perfformiadau cerddoriaeth fyw am ddim mewn ysbytai a chartrefi gofal
ar draws Cymru i wella lles pobl hŷn sy’n sâl ac ynysig. Mae Spice
Timebanking52 hefyd yn parhau i gefnogi ymgysylltu a chyfranogiad
cymunedol mewn cymunedau ar draws Cymru drwy eu cynllun credydau
amser, sy'n meithrin gwirfoddoli.
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi
bod yn amhrisiadwy i ni. Yn y bôn rydym am i bawb a allai elwa o’n
gwasanaeth – cerddoriaeth fyw broffesiynol wedi’i pherfformio gan
artistiaid y cawsant eu dewis yn arbennig am eu gallu i weithio
mewn amgylchedd gofal iechyd – ddod i wybod amdano. Mae
Heneiddio’n Dda yn gweithio gyda Cerddoriaeth mewn Ysbytai i
ddatblygu eu prosiect nesaf, sef Ar Agor Am Fiwsig, fydd yn cynnal
cyngherddau am ddim mewn cartrefi gofal i aelodau o'r gymuned
leol yn ogystal â phreswylwyr. Cadwch lygad allan!” (Robert Aitken,
Cyfarwyddwr, Cerddoriaeth mewn Ysbytai Cymru)
Mae’r prosiect ‘Ffrind i Mi’ yn cael
ei harwain gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan ac yn
helpu pobl hŷn a chyn-filwyr yn ne-
ddwyrain Cymru sy’n teimlo’n unig
neu’n ynysig drwy weithio mewn
partneriaeth, gwirfoddoli a gwasanaethau cyfeillio53.
“Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant ‘Ffrind i Mi’ hyd yma. Mae’r
prosiect yn dangos addewid mawr o ran creu symudiad
cymdeithasol fydd yn ailgysylltu pobl hŷn â’u cymunedau. Gall 50
http://gwanwyn.org.uk/cy/
51 http://www.musicinhospitals.org.uk
52 http://www.justaddspice.org
53 https://www.ffrindimi.co.uk/copy-of-home
http://gwanwyn.org.uk/cy/http://www.musicinhospitals.org.uk/http://www.justaddspice.org/https://www.ffrindimi.co.uk/copy-of-home
28
gweithio mewn partneriaeth droi ‘angerdd yn weithredu’ gan annog
cymunedau i ddod at ei gilydd i gefnogi unrhyw un sydd mewn
perygl o fod yn unig a chymdeithasol ynysig.” (Tanya Strange, Nyrs
Adrannol, Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru'n parhau i gryfhau ei bartneriaeth â’r
Ymgyrch Traws-Deyrnas Unedig i Drechu Unigrwydd. O fis Mehefin
2017 ymlaen, bydd gan yr Ymgyrch Trechu Unigrwydd reolwr ymgyrch
llawn amser yng Nghymru, gan weithio’n agos â Heneiddio’n Dda yng
Nghymru. Bydd y swydd newydd hon, wedi’i hariannu gan Gronfa’r
Loteri Fawr, yn cefnogi prosiectau peilot yn Sir Gâr a Sir Benfro i drechu
unigrwydd drwy gydweithrediad cymunedol54.
“Drwy weithio ochr yn ochr â Heneiddio’n Dda yng Nghymru, mae’r
Ymgyrch Trechu Unigrwydd wedi gallu cyrraedd yn bellach ac
ehangu ei gweledigaeth i helpu i drechu unigrwydd. Maen nhw wedi
chwarae rhan fawr yn ein helpu i sicrhau ein grant diweddar o
£2.65m gan y Gronfa Loteri Fawr ac edrychwn ymlaen at weithio’n
agosach fyth â Heneiddio’n Dda wrth i ni redeg ein rhaglen waith
newydd a chyffrous yn Sir Gâr a Sir Benfro.” (Marcus Rand,
Ymgyrch Trechu Unigrwydd)
Mae pobl hŷn gyda risg o unigrwydd ac unigedd yn fwy agored i
beryglon sgamiau ac o ddioddef cam-drin a throseddu ariannol. Yn aml
iawn mae troseddwyr yn targedu pobl hŷn sy'n gymdeithasol ynysig ac
yn poenydio pobl hŷn drwy sgamiau ar stepan y drws, dros y ffôn, ar-lein
neu drwy’r post. Mae Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau (WASP), a
lansiwyd yn 2016, yn dod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i helpu i
wneud pobl hŷn yn fwy gwydn, i godi eu hymwybyddiaeth o beryglon
sgamiau a gwneud Cymru’n lle gelyniaethus i sgamwyr a throseddwyr55.
“Rwyf wedi gweithio gyda Heneiddio’n Dda ar nifer o
ddigwyddiadau ac roedd eu cyfraniad yn hanfodol i ni allu cyrraedd
cynulleidfa ehangach. Mae’r tîm Heneiddio’n Dda wedi bod yn
ffynhonnell gymorth hollbwysig gan fy helpu i adnabod grwpiau
cymunedol perthnasol i’w gwahodd i’r digwyddiadau hyn. Mae
Heneiddio’n Dda wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu llyfryn ar
ymdopi ag unigrwydd. Cefais gymorth allweddol ganddynt i drosi fy 54
http://campaigntoendloneliness.rspmbr9ezvmofjn.netdna-cdn.com/wp-content/uploads/CAMPAIGN-TO-END-LONELINESS-RECEIVES-LOTTERY-FUNDING-_FINAL.pdf 55
http://www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-networks-1/wales-against-scams-partnership-wasp/
http://campaigntoendloneliness.rspmbr9ezvmofjn.netdna-cdn.com/wp-content/uploads/CAMPAIGN-TO-END-LONELINESS-RECEIVES-LOTTERY-FUNDING-_FINAL.pdfhttp://campaigntoendloneliness.rspmbr9ezvmofjn.netdna-cdn.com/wp-content/uploads/CAMPAIGN-TO-END-LONELINESS-RECEIVES-LOTTERY-FUNDING-_FINAL.pdfhttp://www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-networks-1/wales-against-scams-partnership-wasp/http://www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-networks-1/wales-against-scams-partnership-wasp/
29
ngwaith yn fformat haws ei ddefnyddio a mwy hygyrch i helpu pobl
yng Nghymru i gael sgwrs am unigrwydd.” (Dr. Deborah Morgan,
Cynorthwy-ydd Ymchwil, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a
Dementia / Y Ganolfan Heneiddio Arloesol)
"Rydw i wedi cael profiad o effaith enbyd unigrwydd ar ôl
marwolaeth ddirybudd, drist a thrawmatig fy ngwraig annwyl Diane.
Gan weithio gyda Heneiddio’n Dda yng Nghymru, rydw i wedi
siarad yn gyhoeddus sawl gwaith, gan rannu fy hanes a thynnu
sylw at y loes a'r iselder erchyll mae unigrwydd yn gallu ei achosi.
Roeddwn i'n meddwl y byddai siarad am fy mywyd yn hawdd, ond
mae'r boen yn dal yno, fel y bydd unrhyw un sydd wedi fy ngweld
yn siarad yn gwybod. Mae llawer o bobl o bob oedran a chefndir
wedi dweud wrthyf i fod fy sgyrsiau wedi cyffwrdd â'r galon, ac
rydw i'n gobeithio eu bod yn gwneud i bobl ddeall realiti
unigrwydd, ac yn cynnig cysur i'r rheini sydd mewn sefyllfa debyg.
Mae'n rhaid i mi fyw ar fy mhen fy hun bob dydd, ac weithiau rydw
i'n teimlo anobeithiol, dim ond eisiau cwmni ydw i. Mae Heneiddio’n
Dda yng Nghymru yn gwneud i mi deimlo'n werthfawr, ac rydw i'n
gobeithio bydd fy mhrofiadau yn gallu ein helpu ni i wneud mwy i
fynd i'r afael ag effaith enbyd unigrwydd.” (Vic, canolbarth Cymru)
Mae Awdurdodau Lleol yn parhau i weithredu i geisio trechu unigrwydd
ac unigedd drwy eu cynlluniau Heneiddio’n Dda lleol56. Er enghraifft mae
‘map gwres' wedi'i greu yn Sir y Fflint i helpu i adnabod pobl mewn
perygl o fod yn unig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Agorwyd
caffis dros dro i leihau’r risg o unigrwydd ymhlith pobl hŷn yng nghefn
gwlad Ynys Môn. Yn Sir Gâr, mae rhaglenni gweithgareddau wythnosol
wedi eu datblygu i fynd i’r afael ag unigrwydd mewn cartrefi gofal a thai
gofal ychwanegol, ac mae gweithgareddau a chymorth tebyg wedi eu
datblygu i helpu pobl hŷn mewn tai gwarchod sydd mewn perygl o fod yn
unig ac ynysig. Yn Sir Benfro, mae Cyngor Cymunedol Solfach wedi
sefydlu Gofal Solfach57. Wedi’i seilio ar Gynllun y Cymydog Da, mae
Gofal Solfach yn cynnwys gwirfoddolwyr yn y gymuned yn helpu eraill,
ac mae wedi helpu mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd
cymdeithasol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cyflwyno
gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol mewn meddygfeydd fel bod pobl
ynysig yn gallu cael eu cyfeirio at wasanaethau cymunedol anghlinigol.
56
http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans 57
http://solvacare.co.uk/
http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplanshttp://solvacare.co.uk/