28
Cynghrair o 6 awdurdod lleol yw ERW a reolir gan gyd-bwyllgor cyfansoddiadol cyfreithiol. Y nod yw gweithredu strategaeth a chynllun busnes rhanbarthol cytunedig a chefnogi gwelliant ysgolion. ERW Yr Ysgol Gymorth ‘1

Home | Education Through Regional Working · Web viewDefnyddio arian y GAD i gynnal rolau parhaol yng nghyswllt gweithgareddau craidd ysgol na defnyddio arian y GAD i dalu cost diswyddiadau

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

‘17

ERW

Yr Ysgol Gymorth

Cynghrair o 6 awdurdod lleol yw ERW a reolir gan gyd-bwyllgor cyfansoddiadol cyfreithiol.

Y nod yw gweithredu strategaeth a chynllun busnes rhanbarthol cytunedig a chefnogi gwelliant ysgolion.

ERW is an alliance of 6 local authorities governed by a legally constituted joint committee.

Its aim is to implement the agreed regional strategy and business plan to support school improvement.

Adran 1

· Rhagair y Cyfarwyddwr Rheoli

· Cyflwyniad

Adran 2

· Categoreiddio

Adran 3

· ERW: Hawl a Disgwyliad

· Lleihau Effaith Tlodi ar Gyrhaeddiad

· Datblygu ar sail Systemau sy’n Gwella eu Hunain

· Cymorth, Her ac Ymyrraeth

Adran 4

· Ymweliadau’r Ysgol Cymorth, Her ac Ymyrraeth – Chwalu’r Chwedlau

1

ADRAN 1

Rhagair y Cyfarwyddwr Rheoli

Annwyl bawb,

Diolch yn fawr am eich gwaith yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Wrth i ni symud tuag at system gymorth sy’n gwella ei hun ar gyfer ysgolion, bydd cael y wybodaeth gywir am ysgolion a lefelau cymorth priodol yn hollbwysig. Mae’r broses hon yn un hanfodol ar gyfer cael gafael ar y wybodaeth honno’n barhaus.

Nod y ddogfen hon yw cyflwyno’n glir yr hawl i gymorth i ysgolion a’r trefniadau ar gyfer ymgymryd â’n gwaith craidd dros y flwyddyn sydd i ddod.

Yn gywir

Betsan O’Connor

Cyfarwyddwr Rheoli ERW

Cyflwyniad

Mae ERW yn ceisio cyflwyno un gwasanaeth gwella ysgolion proffesiynol, cyson ac integredig i blant a phobl ifanc 3-19 oed mewn amrywiaeth o leoliadau yn y chwe Awdurdod Lleol. Gweledigaeth ERW yw cael rhwydwaith ysgolion sy’n perfformio’n ar lefel uchel yn gyson ar draws y rhanbarth, lle mae pob ysgol yn dda ac yn cynnig safonau addysgu uchel a lle y mae’r holl ddysgwyr yn cyrraedd eu llawn botensial. Nod yr Ysgol Gymorth yw darparu un man cyfeirio clir ar gyfer swyddogaethau craidd ERW.

Mae Ysgol Gymorth ERW wedi hen ymsefydlu ar draws y rhanbarth, ac mae’r ddogfen ganllaw wedi’i mireinio bob blwyddyn i adlewyrchu disgwyliadau a blaenoriaethau cenedlaethol a lleol. Dylid darllen y ddogfen yma ar y cyd gyda’r Canllawiau Ymweliadau Cefnogi Craidd, a’r Llawlyfr Ymgynghorwyr Her.

Ar ben hynny, bydd yn darparu fframwaith i ysgolion ac ymgynghorwyr weithio yn unol ag ef ac yn peri bod modd canolbwyntio ar flaenoriaethau rhanbarthol, lleol a chenedlaethol allweddol.

Er mwyn galluogi’r holl ddysgwyr i gyrraedd eu potensial yn y rhanbarth hwn, mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu cymorth i ysgolion da fod yn ardderchog a meithrin gallu ysgolion i wella’u hunain. Hefyd, mae angen cytundeb ar y cyd arnom i gefnogi ac ymyrryd mewn ysgolion sy’n tanberfformio. Mae hyn yn cynnwys continwwm o gymorth ac ymyrraeth sy’n amrywio o rannu arfer yn anffurfiol i hysbysiadau ffurfiol o gydweithrediad. I raddau cynyddol yn ERW, wrth i ni ddatblygu system ysgolion sy’n gwella ei hun, byddwn yn darparu cymorth rhwng ysgolion sydd wedi’i hwyluso a’i frocera, ac yn cefnogi seilwaith sy’n seiliedig ar gydweithio. Rhagwelir y bydd mwy o gymorth rhwng ysgolion wedi’i gynnwys yn rhan o’r rhaglen gymorth yn y blynyddoedd nesaf. Nawr mae disgwyliad clir y bydd ysgolion yn cydweithio er mwyn gwella eu darpariaeth.

Diben y ddogfen hon yw mynegi mor glir ag y bo modd lefel y cymorth a gaiff ei hwyluso ar gyfer yr ysgolion sydd wedi’u rhoi yn y pedwar categori cymorth cenedlaethol cytunedig. Fodd bynnag, mae’n rhaid nodi y caiff pob achos ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun a chaiff proses wella ysgolion unigol ei brocera yn unol â hynny, gan gael ei llywio gan waith hunanwerthuso’r ysgol a chynllunio’r broses ddatblygu. Bydd lefelau’r cymorth a’r adnoddau a nodwyd yn llywio rhaglen weithredu â ffocws, wedi’i brocera, i godi safonau ysgol ar draws y rhanbarth ac yn ôl anghenion pob ysgol unigol. Yr her i ni yw cyflymu’r gwelliant i’r holl ysgolion a sicrhau bod ysgolion sy’n tanberfformio yn cyflwyno’r newidiadau angenrheidiol cyn gynted ag y bo modd, gan wella’r holl ysgolion. Wrth gryfhau gwelliant a arweinir gan ysgol mewn ysgolion eraill a chanddynt, rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd ymgymryd â gweithgareddau o’r fath ar adegau. Ein her fydd rheoli’r gallu ynghyd â threfn sy’n peri bod arferion ac arbenigedd yn gallu cael eu trosglwyddo, a chefnogi arloesedd ac atebion technegol.

ADRAN 2

Categoreiddio

Pennir cwmpas a lefel y cymorth a’r ymyrraeth ar gyfer pob ysgol gan y System Genedlaethol ar gyfer Gwella a Chategoreiddio Ysgolion.

Er mwyn sbarduno gwelliant i ddysgwyr, ac i adnabod yn gyflym ac yn gyson yr ysgolion hynny sy’n codi safonau a’r rhai nad ydynt yn codi safonau, mae cynrychiolwyr allweddol Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol wedi mireinio’r model categoreiddio ar y cyd.

Yn ystod Ymweliad Cefnogaeth Craidd 1 yn yr Hydref, bydd pob ysgol yn ERW yn cymryd rhan mewn deialog â’r Ymgynghorydd Her i ddod i farn gytunedig ar y gallu i wella (llythyr) a chategori cymorth (lliw). Bydd hyn wedi’i gyfuno â’r farn ar safonau (rhif) a lunnir yn ganolog gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r system gategoreiddio yn arwain proses weddnewid uchelgeisiol, ac yn sbarduno proses o wella ysgolion o’r tu mewn.

Nod y system gwella ysgolion a chategoreiddio genedlaethol yw:

· galluogi consortia i nodi’n gyflym y cymorth, yr her a’r ymyrraeth angenrheidiol i godi safonau i ddysgwyr;

· bod yn broffil dibynadwy, deallus a gwrthrychol

· bod yn offeryn gwella i ysgolion a chonsortia i fesur perfformiad a gwelliant;

· sicrhau bod her ac ymyrraeth gywir ac amserol yn sicrhau gwelliant i ddeilliannau i’r holl ddysgwyr;

· meithrin gallu a gwydnwch yr ysgol i wella’i hun a hwyluso cymorth ysgol i ysgol trwy ddull partneriaeth;

· grymuso ysgolion i fod yn fwy gwydn a bod â’r gallu i wella’u hunain;

· sicrhau defnydd effeithiol, effeithlon a darbodus o adnoddau;

· bod yn ddull tryloyw, hawdd ei ddeall o drafod perfformiad cyffredinol ysgol a’i gallu i wella.

Yr egwyddorion craidd yw:

· bod yn broses gydweithredol, a luniwyd ar y cyd gan ddechrau gyda hunanwerthusiad yr ysgol;

· bod yn seiliedig ar ddata cynhwysfawr ynghylch perfformiad presennol – cynnydd diwedd cyfnod allweddol ac yn ystod y flwyddyn;

· bod yn offeryn effeithiol ar gyfer gwella safonau cyflawniad a chyrhaeddiad;

· bod yn offeryn diagnostig i wella arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu;

· bod yn seiliedig ar ymyrraeth gynnar lle y bo angen;

· bod â threfniadau atebolrwydd clir ar bob lefel – yr ysgol, consortia a’r awdurdod lleol.

· bod â chategoreiddio cyffredin, diagnosis cyffredin, ynghyd â hyblygrwydd rhanbarthol o ran defnyddio adnoddau i greu gwelliant i sicrhau’r arloesedd mwyaf, ymgymryd â risgiau priodol a bodloni anghenion lleol.

Figure 1

Mae categoreiddio cenedlaethol yn cyflawni dau bwrpas ategol. Yn gyntaf, mae’n sicrhau man cytunedig ar daith wella ysgol sy’n seiliedig ar asesiad cyson y cytunir arno’n genedlaethol o berfformiad ysgol a phenderfyniad ar allu ysgol i wella yn ôl meini prawf y cytunir arnynt yn genedlaethol. Dylai’r asesiad hwn gael ei gytuno arno gan yr ymgynghorydd ac arweinwyr yr ysgol[footnoteRef:1]. Yn ail, mae’n galluogi’r rhanbarth, yr ALl ac uwch-arweinwyr ysgolion i flaenoriaethu camau gweithredu ac adnoddau i sicrhau gwelliant. Er y byddwn yn brocera ac yn teilwra cymorth ac ymyrraeth i bob ysgol yn unigol, yn genedlaethol, mae gofyniad disgwyliedig o ran diwrnodau Ymgynghorydd Her fesul pob categori cymorth. [1: *Os, mewn achosion eithriadol, nad yw cyd-drafod yn arwain at gytundeb, mae’r ALl a/neu’r rhanbarth yn cadw’r hawl i gategoreiddio ysgol yn ôl ei farn ei hun. ]

Gall holl ysgolion ERW ddisgwyl rhaglen cymorth ac ymyrraeth wedi’i chyd-drafod yn ôl angen. Dylai rhaglen bwrpasol wedi’i llunio a’i brocera gan yr Ymgynghorydd Her ar y cyd â’r ysgol ddilyn yr angen a nodwyd. Ar sail continwwm yn ôl gallu’r ysgol i wella’i hun, bydd mwy o gyfrifoldeb ar ysgolion i arwain eu cymorth eu hunain, a bydd hyn wedi’i alinio ag atebolrwydd. Dyma symudiad i ffwrdd o hawl gyffredin i ddefnydd pwrpasol â ffocws o adnoddau i godi safonau.

Bydd pob ysgol yn cael ei chategoreiddio’n flynyddol a bydd y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar Fy Ysgol Leol. Yn rhanbarthol, byddwn hefyd yn darparu categori cymorth ar gyfer ysgolion na fyddant yn gallu symud i gategorïau uwch oni bai bod deilliannau’n gwella – bydd y farn ynghylch arweinyddiaeth â chyswllt agos â gwella deilliannau i ddysgwyr.

Mae’r system newydd wedi’i seilio ar dri cham:

1. Categoreiddio deallus wedi’i sbarduno gan ddata, yn ogystal a gwybodaeth leol am safonau yn yr ysgolion

· Mae’n lleihau natur oddrychol y farn gychwynnol ac yn ei dileu yn y pen draw

· Mae’n glir ac yn gyson

· Mae’n sicrhau bod y ffocws ar safonau i ddysgwyr

2. Rhagor o ddadansoddiad o’r meysydd i’w gwella yn seiliedig ar allu ysgol i greu gwelliannau

· Arweinyddiaeth

· Dysgu ac addysgu

Bydd y ffactorau canlynol yn dylanwadu ar y farn am arweinyddiaeth:

· hunanwybodaeth a hunanwerthuso

· effeithiolrwydd/hanes wrth fynd i’r afael ag achosion o danberfformio o ran deilliannau i ddysgwyr a staff

· arweinyddiaeth sy’n sicrhau darpariaeth llythrennedd, rhifedd a chynhwysiant o safon

· arweinyddiaeth ganol

· parodrwydd, gwydnwch a gallu i gymryd rhan mewn cymorth ysgol i ysgol

· diogelu

· llywodraethu

Bydd y ffactorau canlynol yn dylanwadu ar y farn am ddysgu ac addysgu:

· dysgu – cynnydd yn y dosbarth, craffu ar waith disgyblion, adborth i ddysgwyr er mwyn arwain at welliant

· ansawdd yr addysgu,

· ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer datblygu llythrennedd a rhifedd

· cysondeb a chywirdeb asesiadau athrawon, gan fod yn gyson â’r profion darllen a rhifedd cenedlaethol.

Mae gan ranbarthau wybodaeth eisoes am allu’r ysgol i gyflwyno gwelliant, a byddant yn gallu gweithredu’n gyflym i ddarparu cymorth, her ac ymyrraeth briodol wrth wella’u gwybodaeth.

Gall risgiau eraill sbarduno newid mewn cymorth, her neu ymyrraeth

· Pennaeth newydd

· Aildrefnu ysgolion

· Trefniadau ariannol

· Arolygiad Estyn

· Diffyg hyder yn yr ysgol

3. Cymorth, her ac ymyrraeth bwrpasol i sicrhau’r cynnyrch mwyaf

· Symud i ffwrdd o hawl a dyraniad diwrnodau heb ffocws

· Brocera’r ymyrraeth orau ar gyfer y sefyllfa

· Hyblygrwydd rhanbarthol ar gyfer arloesedd

· Defnyddio adnoddau i gyflawni’r deilliannau gorau i’r nifer mwyaf o ddysgwyr

Mae’r canfyddiad ar safonau, ynghyd â’r farn am y gallu i gyflwyno gwelliant, yn pennu categori (lliw) yr ysgol ac, yn bwysicaf oll, natur a graddau’r cymorth, her ac ymyrraeth.

Bydd y cam cyntaf ac arweiniad ar roi’r ail a’r trydydd cam ar waith yn gyffredin ar draws yr holl ranbarthau. Fodd bynnag, caiff y fethodoleg ynghylch rhoi’r trydydd cam ar waith ei dyfeisio a’i rhoi ar waith yn rhanbarthol. Mae cysondeb rhanbarthol a sicrhau ansawdd ar gyfer y camau hyn yn hanfodol i lwyddiant y model.

Mae grŵp cymedroli cenedlaethol wedi ei sefydlu ar gyfer y System Gwella Ysgolion a Chategoreiddio Genedlaethol er mwyn sicrhau cysondeb ar draws Cymru a safoni’r defnydd o’r model.

Bydd ysgolion yn cael eu categoreiddio yn ôl lliw. Mae’r lliw’n dangos swm y cymorth, ond mae’r defnydd ohono a’i gynnwys yn bwrpasol ac yn deillio o amrywiaeth bosib o’r gefnogaeth a’r ymyrraeth sydd ar gael yn lleol. Rhagwelir y bydd natur y cymorth a’r ymyrraeth yn cael ei chytuno ar y cyd yn achos ysgolion sydd â threfniadau aeddfed ar gyfer hunanwybodaeth a gwerthuso. Fodd bynnag, mae’n debyg y bydd lefel gynyddol o agweddau na ellir eu trafod ar gyfer ysgolion sy’n tanberfformio.

Ni ddylid priodoli lliwiau’r categorïau’n uniongyrchol i farn nac iaith Estyn. Mae’r lliwiau’n dangos lefel o gymorth.

Yn ystod yr Ymweliad Cefnogi Craidd cyntaf, bydd pob ysgol yn ERW yn cymryd rhan mewn deialog â’r Ymgynghorydd Her i ddod i farn gytunedig ar y gallu i wella (llythyr) a chategori cymorth (lliw). Bydd ysgolion yn y 4 categori cymorth yn meddu ar y nodweddion canlynol.

Ysgolion Gwyrdd

Mae ysgolion mewn categori cymorth gwyrdd yn debygol o feddu ar y nodweddion canlynol:

· strategaeth a gweledigaeth glir iawn sydd wedi gwella deilliannau i’r holl ddysgwyr

· arweinwyr sydd â gallu cryf iawn i gynllunio a gweithredu newid yn llwyddiannus ac i gynnal gwelliant

· dull hunanwerthuso cadarn, systematig ac sydd wedi hen ymsefydlu

· yn hynod effeithiol o ran eu modd o ddefnyddio’r holl ddata sydd ar gael am berfformiad a’r dystiolaeth ynghylch ansawdd y dysgu a’r addysgu

· hanes da iawn o wella cyflawniad pob grŵp o ddisgyblion

· mae arweinwyr a staff yn gweithio’n llwyddiannus iawn gyda phartneriaid ac ysgolion eraill i wella’n sylweddol eu gallu eu hunain a gallu eraill i greu gwelliannau a meithrin gwydnwch

· mae gan lywodraethwyr ddealltwriaeth ragorol o gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w gwella ac maent yn hynod effeithiol o ran cefnogi perfformiad yr ysgol a’i herio

· mae datblygu’r gweithlu yn un o brif flaenoriaethau arweinwyr yr ysgol: mae gwaith rheoli perfformiad a datblygu proffesiynol yn hynod lwyddiannus o ran meithrin arferion effeithiol ac wrth ymdrin ag achosion o danberfformio

· mae gan yr holl staff gyd-ddealltwriaeth o nodweddion addysgu rhagorol ac addysgu da

· mae asesiadau athrawon yn gyson ac yn gywir.

Ysgolion Melyn

Mae ysgolion mewn categori cymorth melyn yn debygol o feddu ar y nodweddion canlynol:

· gweledigaeth a rennir a strategaeth glir sydd wedi gwella deilliannau i fwyafrif y dysgwyr

· arweinwyr sy’n cynllunio newid ac yn ei weithredu, ac sy’n llwyddo i gynnal gwelliannau ym mwyafrif yr agweddau

· mae hunanwerthuso yn arfer reolaidd a thrylwyr ym mwyafrif y meysydd

· defnydd da o ddata am berfformiad a thystiolaeth am ansawdd y dysgu a’r addysgu

· hanes da o wella cyrhaeddiad mwyafrif y disgyblion, gan gynnwys dysgwyr bregus

· mae’r broses gydweithio yn datblygu’n dda ac mae cyfleoedd i weithio gydag ysgolion yn cael eu defnyddio’n effeithiol

· mae gan lywodraethwyr ddealltwriaeth dda o gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w gwella

· mae gwaith rheoli perfformiad a datblygu proffesiynol yn cyfrannu llawer at wella arferion a chodi safonau. Mae’r ysgol yn herio achosion o danberfformio yn effeithiol ac mae’n llwyddo i sicrhau gwelliant yn gyffredinol

· mae gan fwyafrif y staff gyd-ddealltwriaeth o nodweddion addysgu rhagorol ac addysgu da

· mae asesiadau athrawon yn gyson ac yn gywir yn gyffredinol.

Ysgolion Ambr

Mae ysgolion mewn categori cymorth ambr yn debygol o feddu ar y nodweddion canlynol:

· mae anghysondebau o ran y modd y caiff gweledigaeth ac amcanion strategol eu rhannu

· mae arweinwyr yn rheoli newid yn llwyddiannus mewn ychydig o feysydd

· nid yw prosesau ar gyfer monitro a gwerthuso gwaith yr ysgol yn cael eu gweithredu’n gyson

· nid yw gweithgareddau gyda phartneriaid ac ysgolion eraill ar gyfer gwella’r ysgol yn cael effaith lawn ar safonau a’r ddarpariaeth

· nid yw gwaith rheoli perfformiad a datblygu proffesiynol bob amser wedi’u cysylltu’n ddigon agos â blaenoriaethau. Mae’r effaith ar wella perfformiad yn amrywio. Nid yw’r ysgol yn herio achosion o danberfformio yn effeithiol bob amser

· mae nodweddion addysgu da ac addysgu rhagorol wedi’u diffinio’n dda ond cânt eu gweithredu’n anghyson

· mae rhai anghysondebau o ran dibynadwyedd a chywirdeb asesiadau athrawon.

Ysgolion coch

Mae ysgolion mewn categori cymorth coch yn debygol o feddu ar y nodweddion canlynol:

· nid yw’r gwaith o bennu gweledigaeth y cytunir arni wedi’i ddatblygu ddigon ac mae diffyg eglurder o ran cyfeiriad strategol yr ysgol

· nid yw arweinwyr yn dangos gallu digonol i gynllunio a gweithredu newidiadau’n llwyddiannus

· mae ychydig o brosesau ar gyfer monitro a gwerthuso gwaith yr ysgol wedi’u datblygu ond nid yw’r rhain yn drylwyr nac yn eang

· mae amrywiadau mawr o ran y modd y mae data am berfformiad a thystiolaeth am ansawdd y dysgu a’r addysgu a gwaith disgyblion yn cael eu defnyddio i sicrhau gwelliant

· nid oes gan yr ysgol hanes da o wella deilliannau gan gynnwys ar gyfer dysgwyr bregus

· mae arweinwyr a staff yn ymwneud i raddau cyfyngedig â gweithgareddau cydweithredol gwerthfawr gydag ysgolion

· mae gwaith rheoli perfformiad a datblygu proffesiynol yn cael effaith gyfyngedig ar wella perfformiad. Nid yw’r ysgol yn herio achosion o danberfformio yn effeithiol

· ychydig o gyd-ddealltwriaeth sydd o nodweddion addysgu rhagorol ac addysgu da

· mae anghysondebau sylweddol o ran dibynadwyedd a chywirdeb asesiadau athrawon.

ADRAN 3

ERW: Hawl a Disgwyliad

Categori Cymorth

Fel y nodwyd yn yr adran flaenorol, dyrennir lefel sylfaenol o gymorth, her ac ymyrraeth i bob ysgol. Caiff hyn ei fonitro’n rheolaidd a’i seilio ar ddadansoddiad o angen.

Mae’r canllawiau ynghylch Categoreiddio Cenedlaethol yn nodi y dylai ysgolion fod yn destun uchafswm o ddiwrnodau o gymorth craidd gan yr Ymgynghorydd Her.

Categori Cymorth Gwyrdd

Gall ysgol yn y categori hwn gael hyd at 4 diwrnod o amser yr Ymgynghorydd Her.

Categori Cymorth Melyn

Gall ysgol yn y categori hwn gael hyd at 10 diwrnod o amser yr Ymgynghorydd Her.

Categori Cymorth Ambr

Gall ysgol yn y categori hwn gael hyd at 15 diwrnod o amser yr Ymgynghorydd Her.

Categori Cymorth Coch

Gall ysgol yn y categori hwn gael hyd at 25 diwrnod o amser yr Ymgynghorydd Her.

Bydd yr ysgol yn cael llythyr yn awtomatig gan yr Awdurdod Lleol, pan fo’n bosibl y bydd pwerau statudol priodol yn cael eu defnyddio.

Yn ERW, gall y cymorth fod yn fwy na’r dyraniad a nodwyd, neu’n llai nag ef, ond bydd yn cynnwys cymorth gan staff eraill mewn Awdurdodau Lleol, yn ERW neu mewn ysgolion eraill.

Bydd hyn yn cynnwys ymateb cymesur, yn ôl angen yr ysgol a’i maint.

Yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol, byddwn yn canolbwyntio’r cymorth ar:

· adeiladu system sy’n gwella ei hun;

· lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad;

· y gallu i ymateb i Ddyfodol Llwyddiannus a chwricwlwm ac addysgeg newydd gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol; ac

· arweinyddiaeth.

10

19

Adeiladu System sy’n Gwella Ei Hun

Bydd ERW yn canolbwyntio cymorth ar feithrin dibyniaeth ar ysgolion a’u gallu i adeiladu system sy’n gwella ei hun. Ar adegau efallai y bydd canfyddiad bod hyn yn gosod gofynion ychwanegol ar ysgolion. Fodd bynnag, wrth i ni drefnu i fwy o adnoddau fod ar gael ar gyfer gwaith ysgol i ysgol a lleihau capasiti ymgynghorwyr arbenigol, bydd angen i ysgolion feithrin y gallu i ymateb i anghenion disgyblion a chreu sefydliadu sy’n gwella eu hunain.

Lleihau Effaith Tlodi ar Gyrhaeddiad

Dylai lefel yr her a’r dadansoddi ynghylch perfformiad a chynnydd plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a disgyblion bregus eraill fod yr un fath i bob ysgol yn ERW. Dylai’r drafodaeth broffesiynol rhwng yr ysgol a’r ymgynghorydd bob amser ddadansoddi effaith tlodi ar gyrhaeddiad a chyflawniad.

Wrth adolygu effaith tlodi ar gyrhaeddiad dylai ymgynghorwyr farnu i ba raddau y mae ysgolion:

· yn lliniaru effaith amddifadedd yn y blynyddoedd cynnar a thrwy gydol eu gyrfa ysgol fel bod dysgwyr yn ‘barod i fynd i’r ysgol’ ac yn meddu ar sgiliau iaith cynnar sydd wedi datblygu’n dda

· yn cynnwys teuluoedd yn effeithiol ym mhroses ddysgu plant ac ym mywyd yr ysgol er mwyn cael effaith ar eu deilliannau

· yn paratoi gweithlu’r ysgol yn well i ddeall a goresgyn yr heriau y mae dysgwyr o gefndiroedd o amddifadedd yn eu hwynebu

· yn sicrhau bod dysgwyr o gefndiroedd o amddifadedd yn cael gafael ar y broses ddysgu a’r addysgu o’r safon orau yn gyson a’u bod yn elwa ar ymyriadau wedi’u targedu yn ôl angen

· yn darparu profiadau dysgu digidol o ansawdd uchel i ddysgwyr i sicrhau eu bod yn meddu ar sgiliau i allu rhagori

· yn ysgogi dyheadau uchel

· yn dyrchafu disgwyliadau ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd o amddifadedd

Dylai pob ysgol yn ERW:

· osod y gwaith o fynd i’r afael â thangyflawni gan ddysgwyr o gefndiroedd o amddifadedd wrth galon y gwaith o gynllunio datblygiad yr ysgol, gan feddwl am sut i ddefnyddio adnoddau a sut i ddatblygu’r gweithlu i gyflawni’r her

· cynllunio’n effeithiol ar gyfer defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) yng nghyd-destun mabwysiadu dull sy’n ystyried yr ysgol gyfan o fynd i’r afael ag anfantais. Dylid targedu’r GAD at ddysgwyr er mwyn lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Dylai ymyriadau a rhaglenni fod yn gynaliadwy a chael effaith yn y tymor byr a’r tymor hir

· pennu’r disgwyliadau mwyaf ar gyfer pob dysgwr a chyfleu’n glir i ddysgwyr y gallant gyflawni deilliannau mawr a gwireddu eu huchelgeisiau. Sicrhau bod dysgwyr yn gwybod am eu cynnydd, eu targedau a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyflawni’r targedau hynny. Defnyddio dulliau dilyn cynnydd effeithiol i fonitro cynnydd yn ôl targedau a darparu adborth

· addysgu plant sut i gynllunio, monitro a gwerthuso eu dysgu eu hunain. Dangoswyd bod hyn yn peri iddynt wneud rhwng saith a naw mis o gynnydd ychwanegol. Mae’n arbennig o effeithiol i ddysgwyr sy’n cyflawni i raddau llai a dysgwyr o gefndiroedd o amddifadedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi deunyddiau adnodd ar wefan Dysgu Cymru i gynorthwyo ysgolion i ddefnyddio metawybyddiaeth yn yr ystafell ddosbarth: http://learning.gov.wales/resources/learningpacks/pisa/introduction-to-metacognition/?skip=1&lang=cy .

· ystyried sut y gellir defnyddio dysgu digidol i gynorthwyo gyda dysgu yn yr ysgol a’r cartref i bob dysgwr.

Mae ysgolion cynradd / ysgolion her ac ysgolion arbennig hefyd yn:

· creu’r ddarpariaeth ar gyfer brecwast am ddim, ac yn hyrwyddo’r defnydd ohoni, yn enwedig ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd o amddifadedd. Mae plant y mae arnynt eisiau bwyd yn canolbwyntio llai ac maent yn fwy tebygol o ymddwyn yn wael. Canfuwyd bod darparu brecwast i bawb yn gwella ymddygiadau deietegol plant o ysgolion a theuluoedd â statws cymdeithasol-economaidd is i raddau anghymesur. Bwriad darparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yw helpu i wella iechyd plant a’u gallu i ganolbwyntio er mwyn helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad, a hynny drwy ddarparu dechrau iach i’r diwrnod i blant. Dylai pob ysgol gynradd sy’n gofyn amdano gael yr arian i ddarparu brecwast iach am ddim yn yr ysgol, a hynny bob dydd, i’r holl ddysgwyr o oedran ysgol gynradd sydd wedi’u cofrestru mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru.

Dylai lleoliadau nas cynhelir, a phob ysgol:

· gynllunio ar gyfer cyfnod pontio effeithiol. Gall cyfnod pontio gwael niweidio ar gynnydd a hyder

· gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni / gofalwyr, teuluoedd, lleoliadau blynyddoedd cynnar, Dechrau’n Deg ac ysgolion eraill i gynllunio’r broses o bontio rhwng lleoliadau / ysgolion i’r Cyfnod Sylfaen, ac ymlaen i Gyfnod Allweddol 2

· creu cysylltiadau da rhwng ysgolion a monitro cynnydd parhaus dysgwyr

· gall nodweddion allweddol cyfnod pontio da gynnwys:

· rhannu gwybodaeth am gyflawniad ac anghenion penodol

· cynllunio cwricwlwm ar y cyd a/neu addysgu ar draws Cyfnodau Allweddol 2 a 3

· cymedroli safonau ar y cyd mewn grwpiau clwstwr o ysgolion cynradd / uwchradd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2

Dylid nodi’r defnydd effeithiol o’r GAD a’r gwerth am arian a ddangosir gan yr effaith ar ddeilliannau ym mhob ymweliad craidd.

Crynodeb o Ganllawiau GAD Estyn

Defnyddio’r GAD i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Rhaid i ysgolion:

· Ddefnyddio arian y GAD â’r prif ddiben o wella cyrhaeddiad dysgwyr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim neu ddysgwyr sy’n blant sy’n derbyn gofal; gall dysgwyr eraill hefyd elwa ar ddarpariaeth a ariennir gan y GAD ond ni ddylent fod yn brif darged y ddarpariaeth

· Cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer defnyddio’r GAD ar eu gwefan eu hunain, ar wefan y consortiwm neu ar bapur.

Ni ddylai ysgolion:

· Ddefnyddio arian y GAD i gynorthwyo gyda chaffael seilwaith TGCh neu gostau cysylltedd

· Defnyddio arian y GAD i gynnal rolau parhaol yng nghyswllt gweithgareddau craidd ysgol na defnyddio arian y GAD i dalu cost diswyddiadau.

Gellir defnyddio’r GAD ar gyfer mentrau’r ysgol gyfan a fydd o fudd arbennig i ddysgwyr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ac sy’n blant sy’n derbyn gofal. (Mae angen ystyried hyn yn ofalus oherwydd ei fod yn creu ychydig o le i fynd ar drywydd gwahanol os bydd yn cael ei ddehongli’n anghywir, a gallai arwain at yr un materion ag arian Rhagori, sef bod y manteision i ddisgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn cael eu colli yn y ddarpariaeth gyffredinol a ariennir gan Rhagori).

Nid oes rhaid canfod i ba ddysgwyr unigol y rhoddwyd y grant.

Effaith

Er mwyn i’r ysgol honni y cafwyd deilliannau/effaith gadarnhaol mewn cysylltiad â’r GAD, dylai’r ysgol allu dangos, yn un o’r meysydd a ganlyn, neu ragor:

· Bod y bwlch o ran cyrhaeddiad rhwng plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a disgyblion eraill wedi lleihau dros y cyfnod 3 blynedd;

· Bod y bwlch o ran cyrhaeddiad rhwng plant sy’n derbyn gofal a’r holl ddisgyblion wedi lleihau dros y cyfnod 3 blynedd:

· Bod lefelau presenoldeb plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a dysgwyr sy’n blant sy’n derbyn gofal a gefnogir gan y grant wedi gwella.

Darpariaeth

Dylai ysgolion allu darparu tystiolaeth bod yr arferion canlynol ar waith a bod arweinwyr a rheolwyr yn gwybod am yr effaith y maent wedi ei chael ar ddeilliannau i ddisgyblion.

Wedi mabwysiadu dull strategol sy’n cynnwys yr ysgol gyfan o fynd i’r afael ag anfantais, a all gynnwys defnyddio datblygu proffesiynol parhaus i wella dulliau penodol o addysgu a fydd o fudd i ddisgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a disgyblion sy’n blant sy’n derbyn gofal (ceir defnyddio’r grant ar gyfer hyn)

Wedi defnyddio systemau dilyn data yn effeithiol i ganfod anghenion dysgwyr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim, i dargedu ymyriadau ac i fonitro’r effaith

Wedi mabwysiadu strategaethau sy’n cynnwys rhieni/gofalwyr yn addysg dysgwyr;

Wedi cynnwys cymunedau ym mywyd yr ysgol a’r ysgol ym mywyd y gymuned drwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth, yn enwedig mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf

Wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd a chyda sefydliadau eraill;

Wedi defnyddio ymyriadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau a/neu les disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim.

Materion ymarferol

Sicrhewch fod yr ysgol yn rhoi tystiolaeth i chi i ddangos pa wahaniaeth y mae’r arian yn ei wneud ar gyfer pob maes o wariant yr ysgol a’i fod wedi’i gynnwys yng nghynllun datblygu’r ysgol (CDY).

Y Gallu i Ymateb i Ddyfodol Llwyddiannus

Wrth i ni frocera cymorth i ysgolion, dylem ystyried sut rydym yn eu cynorthwyo i feithrin gallu cynaliadwy i ymateb i anghenion Dyfodol Llwyddiannus.

http://gov.wales/docs/dcells/publications/150317-successful-futures-cy.pdf

Mae ein hymrwymiad i sicrhau arweinyddiaeth, addysgu a dysgu effeithiol a chymorth ar gyfer dysgu yn glir yn ein cynlluniau a’n rhaglen gymorth, ac wrth i ni sefydlu trefniadau cynaliadwy i newid y cwricwlwm ac addysgeg ar gyfer y dyfodol byddwn yn ymateb yn rhagweithiol i egwyddorion Cymwys am Oes ac adroddiad Furlong. Rydym wedi ymrwymo i arwain hinsawdd sy’n newid ym myd addysg.

Mae gwireddu’r cysyniad o un system addysg yr eir drwy’r cyfan ohoni ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed neu 3 a 19 oed yn hollbwysig er mwyn hwyluso continwwm dysgu i bob dysgwr. Mae’r nod o leihau effaith newidiadau diangen o ran dulliau darparu ac addysgeg pan fo disgyblion yn 11 oed yn golygu y bydd angen i ysgolion gydweithio’n agosach. Bydd angen i athrawon addysgu ar draws ffiniau traddodiadol a dysgu dulliau ac addysgeg newydd i ymateb i anghenion dysgu digidol dysgwyr a chwricwlwm sy’n seiliedig ar sgiliau.

Dylai dysgwyr gamu ymlaen drwy gontinwwm o ddysgu, gan ennill sgiliau mewn llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol a’r Gymraeg. Yn y pen draw, byddant yn ennill gwybodaeth fanwl am bynciau penodol ar ben sylfaen gadarn o wybodaeth ym maes y celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; y dyniaethau; ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg.

Bydd angen dysgu a datblygu proffesiynol ar athrawon wrth iddynt fynd i’r afael â phroses o newid i system newydd. Bydd hyn yn cael ei groesawu gan y mwyafrif a bydd yn adeiladu ar waith yn y Cyfnod Sylfaen ac mewn gwaith trawsgwricwlaidd sydd wedi’i wreiddio ym maes cymhwysedd digidol, llythrennedd, a rhifedd.

Wrth i ni frocera cymorth ar gyfer Ysgolion Arloesi a nodwyd ac eraill, rydym yn rhagweld y bydd yr arferion effeithiol a welwn o ran dylunio cwricwlwm yn rhai o’n hysgolion mwyaf effeithiol yn ein harwain at feithrin arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ERW yn hyderus ynghylch mynd i’r afael â heriau a nodwyd ac adeiladu ar ein cryfderau. Bydd ymateb yn rhagweithiol i’r amcanion a nodir yn Cymwys am Oes a’r newidiadau cwricwlaidd sy’n ein hwynebu yn sgil adroddiad Donaldson yn gofyn am ganolbwyntio’n sylweddol ar gefnogi a datblygu’r gweithlu. Croesewir y Fargen Newydd ac argymhellion Furlong. Mae’r materion allweddol hyn sy’n llywio byd addysg yng Nghymru ar hyn o bryd yn adlewyrchu’n dda y cyfeiriad y mae ERW wedi cael ei lywio ynddo dros y blynyddoedd diwethaf. Fel rhanbarth, rydym yn cryfhau partneriaethau presennol ag addysg uwch ac yn cynorthwyo staff ysgolion i ail-feithrin hyder a morâl gan ennill sgiliau newydd ar gyfer dyfodol digidol ar yr un pryd. Mae’n hollbwysig gwella ein cymhwysedd digidol ym mhob maes cyflawni er mwyn gweithio’n fwy effeithlon ac effeithiol. Mae rhan technoleg mewn addysgeg yn dod yn fwyfwy hanfodol a bydd datblygu methodolegau effeithiol yn hollbwysig er mwyn llwyddo mewn ysgolion. Bydd cynllunio’r cwricwlwm a datblygu addysgeg newydd ac arloesol sy’n esblygu ac sy’n addas ar gyfer cwricwlwm newydd yn her genedlaethol. Yn rhanbarthol, rydym wedi ymrwymo i geisio atebion a chreu cyfleoedd i gynllunio a dysgu gyda’n gilydd.

Bydd y system addysg sy’n gwella ei hun yn gofyn am bartneriaethau strategol rhwng ysgolion i gydweithio’n greadigol fel bod y system yn llunio’i gweithlu medrus ei hun. Bydd codi safonau addysgu i bawb yn un o brif flaenoriaethau’r rhanbarth. Rydym yn anelu at sicrhau bod pob athro yn athro da dros amser, a bod disgyblion yn cael eu haddysgu’n dda neu’n well bob diwrnod, ym mhob gwers. Bydd cefnogi a datblygu Bargen Newydd y Gweinidog i ddatblygu athrawon ac arweinwyr ysgolion yn cyd-fynd â’n gwaith ar wella addysgu. Bydd ERW yn cynorthwyo athrawon i anelu at ragoriaeth a gweithredu a darparu meysydd gwaith newydd a newidiadau cwricwlaidd. Gwyddom fod mwyafrif ein hathrawon yn dda, ac yn addysgu’n dda’n gyson, ond rydym yn parhau i gynnig cymorth yn ein gwaith o sbarduno rhagoriaeth. Mae darpar Ysgolion Arloesi y Fargen Newydd yn gweithio gyda ni ac eraill eisoes ar ffurf galluogwyr dysgu proffesiynol yng nghymuned yr ysgol.

Cymorth, Her ac Ymyrraeth

Mae’r adran hon yn amlinellu’r disgwyliad sylfaenol. Bydd y cymorth yn rhaeadru o un lliw i’r lliw nesaf, a gall pob ysgol ddisgwyl yr hyn a nodir ar gyfer y categorïau uwch.

Categori cymorth ysgol - Gwyrdd

Lefel y cymorth

Lefel yr ymyrraeth / cymorth wedi’i frocera

Cymorth

Y ffordd ymlaen

Tri ymweliad Ymgynghorydd Her blynyddol (yn ôl hawl graidd yr Ysgol Cymorth, Her ac Ymyrraeth) sy’n cynnwys ymweliad monitro craidd yr hydref (a rheoli perfformiad y pennaeth) ac ail ymweliad i adolygu’r ddarpariaeth yn ôl y ffocws rhanbarthol (e.e. addysgu a dysgu)

Ysgolion i gyflwyno adroddiad hunanwerthuso (AHW), cynllun datblygu’r ysgol (CDY) a dogfennau perthnasol eraill i’r ALl.

Mae’r Ymgynghorydd Her yn craffu ar ddogfennaeth berthnasol ac yn darparu ymateb ysgrifenedig.

Cymorth wedi’i frocera y cytunir arno ar y cyd yn ôl yr AHW a’r CDY pan fo angen.

4 diwrnod o gymorth craidd:

Yr hawl graidd, gan gynnwys paratoi a chofnodi:

· Ymweliad Craidd Cynorthwyol 1 yr hydref (diwrnod llawn fydd hwn ym mwyafrif yr achosion gan y bydd yr Ymgynghorydd Her hefyd yn rhan o banel rheoli perfformiad y pennaeth, y trefnir ei gynnal ar yr un diwrnod fel arfer);

· Adolygu’r ddarpariaeth;

· Adolygu dogfennaeth berthnasol yr ysgol;

· Cymorth pwrpasol yn ôl angen

Gellir comisiynu ysgolion i gefnogi ysgolion yn y categorïau eraill fel y bo’n briodol.

Bydd disgwyl i ysgolion gymryd rhan mewn agweddau ar ddarparu cymorth ysgol i ysgol a chânt eu hannog i wneud hyn.

Ar ben hynny, gall ysgolion fod mewn sefyllfa i ryddhau staff i gynorthwyo gyda datblygiadau, fel ar ffurf ymarferydd arweiniol neu arweinwyr dysgu. Yn 2017, disgwylir y bydd ysgolion yn gallu dangos fod eu cefnogaeth yn cael effaith ar ysgolion eraill.

Categori cymorth ysgol - Melyn

Lefel y cymorth

Lefel yr ymyrraeth/cymorth wedi’i frocera

Cymorth

Y ffordd ymlaen

Rhoddir gwybod i ysgolion am y blaenoriaethau gwella allweddol a chânt eu cefnogi gyda nhw.

Ysgolion i gyflwyno AHW, CDY a dogfennau perthnasol eraill i’r ALl.

Mae’r Ymgynghorydd Her yn adolygu’r ddogfennaeth ac yn rhoi adborth i Uwch Dîm Arwain (UDA) yr ysgol a Chadeirydd y Llywodraethwyr fel y bo’n briodol. Cytunir ar feysydd penodol i’w gwella.

Cynllunio ar gyfer gwella i gynnwys isafswm cymorth yr ALl ac, os bydd angen, gymorth ychwanegol a gomisiynir o adnoddau presennol yr ysgol.

Rhaglen gymorth bwrpasol y mae’r ysgol a'r Ymgynghorydd Her yn cytuno arni yn ôl y meysydd i'w datblygu a nodir yn YCC1.

Caiff gwaith cynllunio gwelliant yr ysgol ei fonitro i sicrhau ei fod yn nodi camau gweithredu ac adnoddau a fydd yn arwain at safonau a/neu arweinyddiaeth a darpariaeth well, fel y bo’n briodol.

Cymorth wedi’i frocera y cytunir arno ar y cyd yn ôl yr AHW a CGY (cynllun gwella’r ysgol) pan fo angen.

10 diwrnod o gymorth, i gynnwys:

· yr hawl graidd a amlinellir ar gyfer ysgolion gwyrdd; a

· rhaglen gytunedig o waith cynorthwyo, herio ac ymyrraeth dilynol sy’n canolbwyntio ar wella deilliannau disgyblion a/neu arweinyddiaeth a darpariaeth fel y bo’n briodol.

SYLWER

Pan nad yw’r farn gyntaf a’r ail (safonau a’r gallu i wella, yn ôl eu trefn) yn cydweddu, mae’n rhaid cynllunio’r rhaglen gymorth yn ôl y prif feysydd y mae angen eu gwella, h.y. y farn wannaf.

Caiff ysgolion eu herio i fod yn ysgolion sy’n gwella’u hunain a symud i’r categori gwyrdd.

Gellir defnyddio’r ysgolion hyn i ddarparu cymorth ysgol i ysgol.

Mewn rhai achosion, efallai y caiff yr ysgolion hyn gymorth ysgol i ysgol gan ysgolion yn y categori gwyrdd i gefnogi eu gwelliant parhaus.

Categori’r ysgol: Ysgolion Ambr sydd mewn perygl o beri pryder

Lefel y cymorth

Lefel yr ymyrraeth

Cymorth

Y ffordd ymlaen

Rhoddir gwybod i’r ysgolion am y blaenoriaethau allweddol i’w gwella os nad ydynt wedi’u nodi’n gywir.

Ysgolion i gyflwyno’r AHW, CDY a dogfennau perthnasol eraill i’r ALl;

Mae’r Ymgynghorydd Her yn adolygu’r ddogfennaeth ac yn darparu adborth i UDA yr ysgol a Chadeirydd y Llywodraethwyr fel y bo’n briodol.

Gwaith cynllunio gwelliant i gynnwys isafswm cymorth yr ALl ac, os bydd angen, gymorth ychwanegol a gomisiynir o adnoddau presennol yr ysgol.

Darperir cymorth a her bwrpasol yng nghyswllt arweinyddiaeth yn ôl y galw. Mae hyn yn debygol o gynnwys llywodraethwyr a grŵp arweinyddiaeth ehangach.

Darparu cymorth a/neu ymyrraeth i athrawon sy’n tanberfformio.

Cynllun gwella’r ysgol i’w fonitro i sicrhau ei fod yn nodi’r camau gweithredu a’r adnoddau a fydd yn arwain at safonau gwell.

Gall arian y GEY (Grant Effeithiolrwydd Ysgolion) a’r GAD gael ei ddal yn ôl nes bod yr ALl yn fodlon bod cynlluniau gwella’r ysgol yn nodi’r camau gweithredu ac yn neilltuo adnoddau’n briodol.

Gall fod angen adolygiad canol cylch neu adolygiad arweinyddiaeth; mae’r ALl yn cadw’r hawl i ddechrau adolygiad ysgol yn ôl y galw ar unrhyw adeg yn y cylch arolygu.

Gellir defnyddio bwrdd gwella carlam i gynorthwyo gyda chyflymder y gwelliant yn yr ysgol.

15 diwrnod o gymorth, i gynnwys:

· yr hawl graidd a amlinellir ar gyfer ysgolion gwyrdd a melyn; a

· gwaith cefnogi, herio ac ymyrraeth dilynol sy’n canolbwyntio ar wella safonau a/neu ansawdd ac effaith arweinyddiaeth a/neu ddarpariaeth.

SYLWER

Pan nad yw’r farn gyntaf a’r ail (safonau a gallu i wella’n ôl eu trefn) yn cydweddu, mae’n rhaid cynllunio’r rhaglen gymorth yn ôl y prif feysydd y mae angen eu gwella, h.y. y farn wannaf.

Bydd ysgolion sy’n methu â gwella dros gyfnod rhesymol, neu sy’n methu â rheoli eu gwelliant yn effeithiol, yn niffyg y cyflawni, yn ysgolion sy’n peri pryder.

Yn y fath achosion, gall y Cyfarwyddwr Addysg ystyried cyhoeddi hysbysiad o rybudd statudol yn ôl darpariaethau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Fe fydd ysgolion sydd wedi bod mewn categori ambr am fwy na blwyddyn yn cael eu hystyried yn ofalus er mwyn deall sut mae modd dileu rhwystrau sy’n atal yr ysgol rhag gwella.

Categori cymorth yr ysgol – Coch: Ysgolion sy’n peri pryder

Lefel y cymorth

Lefel yr ymyrraeth

Cymorth

Y ffordd ymlaen

Yn ychwanegol at y cymorth a ddarperir ar gyfer y categorïau eraill:

Bydd y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr yn cyfarfod ag Uwch Dîm Rheoli (UDRh) y Gwasanaeth Dysgu / y Gyfarwyddiaeth Addysg ac aelodau perthnasol y Tîm Gwella Ysgolion i drafod perfformiad a gwella.

Caiff ymyrraeth yr ALl i gefnogi gwelliant ei chadarnhau.

Caiff cynllun gweithredu’r ALl o gymorth cydlynol ei lunio, gan fanylu ar natur a lefel y cymorth, amserlen y gweithredu a’r deilliannau disgwyliedig. Bydd y rhaglen yn cyd-fynd â rhaglen wella’r ysgol ei hun.

Rhoddir gwerthusiad bob hanner tymor ar gynnydd i’r Cyfarwyddwr Addysg neu’r person cyfatebol.

Dwys:

Ymweliad Ysgolion sy’n Peri Pryder (YPP) dau ddiwrnod. Mae’n rhaid cynnwys yr argymhellion yn yr CDY

Bydd y Cyfarwyddwr Addysg neu’r person cyfatebol yn ystyried cyhoeddi hysbysiad o rybudd yn ôl darpariaethau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Dim ond mewn achosion eithriadol na fydd hyn yn digwydd.

Bydd hysbysiadau o rybudd yn cynnwys:

· y rhesymau dros ymyrryd;

· y rhesymau y mae’r awdurdod yn fodlon bod y rhesymau’n bodoli;

· y camau gweithredu y mae angen i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r rhesymau dros yr ymyrraeth;

· y cyfnod pan fydd y corff llywodraethu’n cymryd y camau gweithredu (‘y cyfnod cydymffurfio’); a’r

· camau gweithredu y bydd yr awdurdod lleol yn eu hystyried os nad yw’r corff llywodraethu’n cymryd y camau gweithredu gofynnol.

Bydd yn ofynnol i bob ysgol sy’n peri pryder gael diwrnodau ychwanegol gan ymgynghorwyr her i gynorthwyo gyda’r broses wella, a’i chyflymu.

Os bernir y bydd ei angen, caiff cymorth arweinyddiaeth penodol pellach ei ystyried fesul achos. Mae hyn yn debygol o gynnwys bwrdd gwella carlam.

25 o ddiwrnodau o gymorth, i gynnwys:

· yr hawl graidd;

· gwaith cynorthwyo, herio ac ymyrraeth dilynol sy’n canolbwyntio ar wella deilliannau disgyblion, ansawdd yr arweinyddiaeth a/neu’r ddarpariaeth;

· ymweliadau rheolaidd, e.e. bob hanner tymor i fonitro’r cynllun gweithredu a chasglu tystiolaeth er mwyn rhoi gwybod i’r Cyfarwyddwr Addysg neu’r person cyfatebol; a

· diwrnodau cymorth gorfodol gan yr Ymgynghorydd Her

Bydd yr ALl yn monitro’n ofalus i sicrhau bod cynnydd digonol yn cael ei wneud i gyflwyno gwelliant cyflym mewn deilliannau, arweinyddiaeth a darpariaeth. Dangosydd allweddol o hyn fydd brys a thrylwyredd gwaith y pennaeth, yr UDA a’r corff llywodraethu o roi camau gweithredu i wella ar waith.

Os oes angen ymyrryd ar frys, gall yr awdurdod lleol gymryd camau gweithredu.

Gallai’r ymyrraeth gynnwys:

Gofyniad i gael cyngor neu i gydweithio

Penodi llywodraethwyr ychwanegol

Penodi Bwrdd Gweithredol Dros Dro (IEB) – corff llywodraethu wedi’i ffurfio’n arbennig sy’n disodli corff llywodraethu presennol yr ysgol.

Atal awdurdod dirprwyedig y corff llywodraethu i reoli cyllideb yr ysgol.

Y grym i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau.

Bydd methu â sicrhau gwelliant yn arwain at ddefnyddio rhagor o brosesau ymyrryd, gan gynnwys, pan fo angen, wneud cais i Weinidogion Cymru i orchymyn y dylid ffedereiddio ysgol sy’n peri pryder neu y dylid cau ysgol sy’n destun mesurau arbennig.

Sylwer Rheoli perfformiad y pennaeth

Bydd y dyraniad hwn yn cynnwys y cymorth canlynol ar gyfer rheoli perfformiad y Pennaeth:

Ysgolion gwyrdd1 sesiwn

Ysgolion melyn1 sesiwn

Ysgolion ambr1 sesiwn + 1 ymweliad monitro + trafodaeth â’r Corff Llywodraethu

Ysgolion coch1 sesiwn + 2 ymweliad monitro + trafodaeth â’r Corff Llywodraethu

ADRAN 4

Ymweliadau Cefnogi Craidd ERW 2017 – 20178 – Chwalu’r Chwedlau

Ymweliadau Cefnogi Craidd ERW 2017 – 2018

Mae gwaith ERW mewn ysgolion yn ….

· gyfle i gydweithio ochr yn ochr ag ysgolion i gefnogi proses hunanwerthuso’r ysgol;

· cyfle i drafod cryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu o ran Addysgu a Dysgu ac Arweinyddiaeth;

· cyfle i ddilysu gwerthusiad yr ysgol ei hun;

· cyfle i gytuno ar gymorth parhaus pellach;

Nid yw gwaith ERW mewn ysgolion ….

· yn arolygiad ‘bach’ neu’n arolygiad ffug;

· yn paratoi ysgolion ar gyfer arolygiad;

· ni fyddwn yn caniatáu i ysgolion ddefnyddio tystiolaeth o’r ymweliadau hyn i fod yn sail i unrhyw weithdrefnau cymhwysedd ffurfiol neu anffurfiol, neu’n rhan ohonynt;

· yn anelu at beri i athrawon fod yn destun arsylwadau mewn mwy na thair gwers y flwyddyn.

CONTENTS

CONTENTS