10
Ionawr 2017 Annwyl Gyfaill, Diolch i chi am eich diddordeb yn y swydd Staff Bar yn Theatr y Sherman Yn y pecyn hwn, mae rhywfaint o wybodaeth gefndir am Theatr y Sherman, ynghyd â gwybodaeth fanylach am y rôl, swydd-ddisgrifiad a manyleb person. Os hoffech wneud cais am y swydd, lawrlwythwch y ffurflen gais a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal oddi ar ein gwefan (http://www.shermantheatre.co.uk/jobs) a'u hanfon atom. Cyfeiriwch at y swydd-ddisgrifiad a'r fanyleb person yn eich cais, gan ddweud wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd ac amlinellu'r sgiliau a'r profiad y byddech yn eu cyflwyno i'r cwmni; bydd ein panel llunio rhestr fer yn chwilio am dystiolaeth glir bod ymgeiswyr yn bodloni'r meini prawf a nodwyd. Dylai ceisiadau gael eu cyfeirio ataf fi a'u hanfon dros yr e-bost i: [email protected]. Nodwch, yn unol â'n polisi amgylcheddol, ein bod yn ymdrin â cheisiadau electronig yn unig. Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych a diolch i chi unwaith eto am eich diddordeb. Yn gywir, Andrew Lovell Rheolwr Tŷ Senghennydd Road Cardiff CF24 4YE Ffordd Senghennydd Caerdydd CF24 4YE 029 2064 6900 shermantheatre.co.uk @shermantheatre @shermantheatre

Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

Ionawr

2017

Annwyl Gyfaill,

Diolch i chi am eich diddordeb yn y swydd Staff Bar yn Theatr y Sherman

Yn y pecyn hwn, mae rhywfaint o wybodaeth gefndir am Theatr y Sherman,

ynghyd â gwybodaeth fanylach am y rôl, swydd-ddisgrifiad a manyleb person.

Os hoffech wneud cais am y swydd, lawrlwythwch y ffurflen gais a'r ffurflen

monitro cyfle cyfartal oddi ar ein gwefan (http://www.shermantheatre.co.uk/jobs)

a'u hanfon atom. Cyfeiriwch at y swydd-ddisgrifiad a'r fanyleb person yn eich

cais, gan ddweud wrthym pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd ac

amlinellu'r sgiliau a'r profiad y byddech yn eu cyflwyno i'r cwmni; bydd ein panel

llunio rhestr fer yn chwilio am dystiolaeth glir bod ymgeiswyr yn bodloni'r meini

prawf a nodwyd.

Dylai ceisiadau gael eu cyfeirio ataf fi a'u hanfon dros yr e-bost i:

[email protected]. Nodwch, yn unol â'n polisi amgylcheddol,

ein bod yn ymdrin â cheisiadau electronig yn unig.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych a diolch i chi unwaith eto am

eich diddordeb.

Yn gywir,

Andrew Lovell

Rheolwr Tŷ

Senghennydd Road Cardiff CF24 4YE

Ffordd Senghennydd Caerdydd CF24 4YE

029 2064 6900 shermantheatre.co.uk @shermantheatre @shermantheatre

Page 2: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

Cyflog: £7.20 yr awr

Tymor: Cynigir y swydd fel cytundeb dim oriau

Oriau: Amrywiol

Cyfnod Rhybudd: 1 wythnos

Pensiwn: Mae Sherman Cymru yn gweithredu cynllun pensiwn y gweithle

cymwys

Yr hawl i weithio: Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu dogfennau o dan

Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006

Geirdaon: Mae cynigion swydd yn amodol ar dderbyn geirdaon sy'n foddhaol i

Sherman Cymru.

Adleoli: Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fyw o fewn pellter cymudo i'r theatr.

Dyddiad dechrau: Mae'r swydd ar gael ar unwaith

Mae ein bar caffi ar agor yn ystod y dydd (tan 4pm) o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac ar

ddydd Sul pan fydd perfformiadau neu ddigwyddiadau. Mae'r Bar Caffi hefyd ar agor ar

gyfer perfformiadau gyda'r nos. Ar gyfer y rhan fwyaf o berfformiadau gyda'r nos, mae'r bar

ar agor tan ddiwedd yr oriau trwyddedu arferol. Fel arfer, mae'r bar wedi'i drwyddedu tan

12am, ac ar rai achlysuron tan 1.30am. Bydd eich sifft yn dod i ben tua hanner awr ar ôl i'r

bar gau.

Bydd nifer yr oriau y byddai eu hangen i chi eu gweithio yn dibynnu ar nifer y

perfformiadau sy'n cael eu cynnal yn y Sherman. Felly, bydd nifer yr oriau sydd ar gael yn

amrywio o wythnos i wythnos. Bydd disgwyl i staff ymrwymo i o leiaf tair sifft yr wythnos,

ond ni fydd yn ofynnol iddynt weithio cynifer o sifftiau â hynny bob tro (yn dibynnu ar nifer

y sioeau) ac mae disgwyliad y bydd staff yn ymrwymo i o leiaf un sifft penwythnos (dydd

Gwener/dydd Sadwrn) lle y bo'n briodol.

Page 3: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

Gweithio fel rhan o dîm sy'n darparu gwasanaeth o'r ansawdd uchaf i gwsmeriaid, mewn

modd sydd bob amser yn gyfeillgar ac yn agored.

Sicrhau diogelwch a lles yr adeilad a chynnal y safonau uchaf o ofal cwsmeriaid,

ymddangosiad ac arferion gwaith y Staff Bar.

Hyrwyddo lefelau eithriadol o wasanaeth cwsmeriaid, gan weithio gyda'r Rheolwr/Dirprwy

Reolwr Tŷ i gyflwyno Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid ar draws pob agwedd ar ymwneud y

cwmni â'r cyhoedd. Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a'r gallu i ymgymryd â

chyfrifoldebau mewn ffordd sy'n dangos gwerthoedd y cwmni.

Rheolwr Tŷ, Dirprwy Reolwr Tŷ a Rheolwyr ar Ddyletswydd

Tîm Marchnata a Chysylltiadau Cwsmeriaid

Darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf bob amser, yn unol â safonau'r Sherman

1. Dangos gwybodaeth dda am ddigwyddiadau, prisiau, pecynnau, cynigion

hyrwyddo, gweithgareddau yn yr adeilad a rhaglen o newidiadau er mwyn

darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon

2. Gwrando'n ofalus ar gwsmeriaid, casglu adborth a dilyn protocolau a

gweithdrefnau'r cwmni, gan gyfeirio at uwch staff yn ôl yr angen

3. Sicrhau bod stoc lawn ar gael o'r holl daflenni a deunyddiau manwerthu a'u

bod yn cael eu harddangos yn ddeniadol

4. Dilyn ceisiadau'r person sy'n goruchwylio eich gwaith

5. Gweithio fel rhan o dîm yn rhannu eich gwybodaeth gydag eraill.

6. Mynychu hyfforddiant Blaen Tŷ i sicrhau eich bod yn gallu ymgymryd â'ch

cyfrifoldebau mewn ffordd sy'n dangos gwerthoedd y cwmni.

7. Mynychu cyfarfodydd Tîm a chyfrannu atynt yn ôl yr angen.

8. Bod yn barod i weithio mewn unrhyw ardal benodol ar unrhyw adeg

9. Hylendid Bwyd Bod yn ymwybodol o weithdrefnau hylendid bwyd

sylfaenol

10. Gwerthu diodydd Gwerthu diodydd yn y bar cyn/ar ôl y sioe, gan

gynnwys archebion yn ystod yr egwyl

Page 4: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

11. Gwasanaeth Cymryd archebion gan gwsmeriaid ar gyfer bwyd a

diod a gweini diodydd a phrydau bwyd i fyrddau

12. Adnewyddu stoc Sicrhau bod yr holl nwyddau ar gael i'w gwerthu ac

yn cael eu harddangos yn briodol.

13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan

sicrhau cywirdeb

14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau cywirdeb

15. Casglu Sbwriel Cadw ardaloedd y Bar a'r Cyntedd yn lân ac yn

daclus cyn, yn ystod ac ar ôl y perfformiad

16. Gofal Cwsmeriaid Rhoi cyfarwyddiadau a gwybodaeth am y

digwyddiadau a'r adeilad

17. Trefniadau gwagio'r

adeilad:

Darparu allanfa ddiogel i'r cyhoedd mewn argyfwng

18. Deunyddiau Ategol

Caffi/Bar

Sicrhau bod y cyntedd yn cael ei gadw'n daclus drwy

gasglu gwydrau, llestri, cyllyll a ffyrc ac unrhyw

ddeunyddiau ategol y Caffi/Bar a sicrhau eu bod yn

cael eu glanhau yn y peiriant golchi llestri

perthnasol/priodol a'u dychwelyd fel stoc lân - yn

enwedig yn ystod cyfnodau prysur.

19. Gweithdrefn Tân a

Diogelwch

Aros yn ddigynnwrf ym mhob sefyllfa

Hysbysu'r rheolwr llinell priodol am unrhyw beryglon

Ymgymryd â hyfforddiant fel Swyddog Tân os bydd

angen.

Bod yn berson allweddol yn y broses wacáu a

gweithredu fel Cydlynydd Tân mewn argyfwng neu

achos o wacáu.

20. Ymdrin â'r holl drafodion yn ofalus, gan sicrhau eich bod yn gwybod y prisiau cywir a gwirio'r 'fflôt' yn y til cyn cychwyn.

21. Cadw at systemau gweinyddol

22. Ysgwyddo cyfrifoldeb unigol priodol o ran parchu, hyrwyddo, a gweithredu

polisïau Theatr y Sherman ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, Gofal

Cwsmeriaid a Thrwyddedu.

Page 5: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

Rhaid bod ar gael yn ystod y dydd, ar benwythnosau a rhai cyfnodau gwyliau.

Byddai'r swydd hon yn ddelfrydol i ymgeiswyr sy'n allblyg, hyderus a chadarnhaol ac sydd

hefyd yn meddu ar y sgiliau a'r galluoedd allweddol canlynol:

- Profiad da o waith bar

- Barista hyfforddedig

- Profiad o baratoi bwyd a gweithdrefnau a deddfwriaeth perthnasol.

- Profiad o weithio mewn adran Blaen Tŷ mewn theatr neu amgylchedd celf/adloniant

tebyg

- Profiad o weithio mewn amgylchedd theatr gynhyrchu

- Medru'r Gymraeg.

- Sgiliau rhyngbersonol/gofal cwsmeriaid gwych: rhaid bod agored, yn gyfeillgar ac yn

gymwynasgar

- Y gallu i ddarparu lefel uchel o ofal cwsmeriaid

- Y gallu i weithio fel rhan o dîm

- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth

- Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau

- Y gallu i ymateb yn gadarnhaol i newidiadau yn yr amgylchedd gwaith ac i ddelio â

phwysau o fewn y rôl pan fyddant yn codi

- Aros yn ddigynnwrf ac ymddwyn yn broffesiynol mewn sefyllfaoedd llawn straen

- Cydwybodol: Mae gan Staff Blaen Tŷ rôl diogelwch pwysig

- Ymddangosiad taclus: Staff Blaen Tŷ yw wyneb cyhoeddus Theatr y Sherman

- Hyblyg ynghylch oriau gwaith

- 18+ oed

- Gwybodaeth am ofynion Hylendid Bwyd

- Diddordeb yn y theatr

Page 6: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

ŵ

ŷ

ŷ

Page 7: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

ŷ

-

-

-

-

Page 8: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau

ŷ

Page 9: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau
Page 10: Annwyl Gyfaill, Os hoffech wneud cais am y swydd ... · 13. Trafodion Cymryd taliadau arian parod neu gerdyn gan sicrhau cywirdeb 14. Trin arian Cymryd taliadau arian parod gan sicrhau