8
Janus, oedd duw drysau, pyrth, dechreuadau a diwedd digwyddiadau. (Yn y cerflun fe’i gwelir yng nghwmni Bellona, duwies rhyfeloedd.) O enw’r duw Rhufeinig ‘Janus’ y deillia’r gair Ionawr. Janus yw’r duw â dau wyneb – un ohonynt yn edrych yn ôl i’r gorffennol a’r llall yn edrych ymlaen at y dyfodol. Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae’n werth edrych yn ôl fel y gwna Janus ar sut y treuliasom ein bywyd a’n hamser yn 2020. Asesu Fel man cychwyn, efallai byddai’n dda o beth ystyried y pethau a ganlyn: • Pa mor ymroddedig oeddem ni yn ein perthynas â Duw, trwy weddi, myfyrdod a gweithgaredd ysbrydol eraill? • Pa mor ymrwymedig oeddem ni i dreulio amser gyda’n teulu a’n ffrindiau? • Pa mor elusennol a thrugarog oeddem ni tuag at bobl eraill? • Beth oedd ein hagwedd tuag at ein gwaith a pha mor effeithiol oeddem ni? • Beth oedd ein cryfderau a’n ffaeleddau? Mae’n arfer da gwerthuso’n bywyd o bryd yw gilydd, ac mae dechrau blwyddyn newydd yn gyfle euraidd i ni wneud hyn! Rhan annatod o unrhyw werthusiad yw gwneud addunedau a gosod nodau ar gyfer y dyfodol. Weithiau, cawn hen ddigon o wneud addunedau, oherwydd yn hwyr neu’n hwyrach, rydym fel arfer yn syrthio’n ôl i wneud yr un hen bethau. Serch hynny, mae’n well o lawer gosod nodau a gwneud addunedau na dibynnu ar dynged. Adduned a dymuniad Mae yna wahaniaeth rhwng adduned a dymuniad. Ond mae’r ddau’n gysylltiedig â’i gilydd oherwydd os ydym yn benderfynol ac yn ymrwymedig i’n hadduned gallwn droi’r dymuniad yn realiti. Os taw bod yn fwy ymrwymedig i’n ffydd yw’r dymuniad, gallai’r adduned gyd-fynd â’r dymuniad hwn: ‘Er mwyn gwella fy mherthynas â Duw, neilltuaf hanner awr i weddïo a myfyrdod bob dydd.’ Mae dymuniad yn debyg i freuddwyd a’r adduned yw’n parodrwydd i dalu’r pris am beth rydym am ei gyflawni. Gobeithion Gobeithiwn y gorau am 2021, gan wybod fod gan yr Arglwydd gynlluniau arbennig ar ein cyfer, cynlluniau er ein budd ac nid er ein colled, bwriadau fydd yn rhoi gobaith a dyfodol inni. Dechreuwn y flwyddyn newydd yn hyderus yn addewid yr Arglwydd. Dywed Ef, ‘Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth; ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden, a’m hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo. Ni fyddant yn llafurio’n ofer, nac yn magu plant i drallod; cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt, hwy a’u hepil hefyd. Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw, ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru.’ (Eseia 65: 21-24). Ffydd ac ymdrech Wrth inni agosáu at ein nod gwyddom na ddaw unrhyw beth da yn rhwydd ac yn rhad. Felly, bydd yn rhaid gweithio’n galetach nag y gwnaethom y llynedd er mwyn cyrraedd y nod. Diau, bydd brwydrau i’w hymladd a chythreuliaid i’w hwynebu eto eleni. Ni ddaw unrhyw lwyddiant neu fuddugoliaeth heb ddyfalbarhad, gweddi a gras Duw. Cawn ein hatgoffa gan yr Apostol Paul, ‘Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd. Gan hynny, ymarfogwch â holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn. Safwch, ynteu, â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed. Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg. Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw. CYFROL CXLIX RHIF 3 DYDD GWENER, IONAWR 15, 2021 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Y Silff Lyfrau … t. 2 • Mae’r Nadolig wedi ei ganslo … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 Janus, Ionawr a dechreuadau newydd Porth Janus, Rhufain Mark Cartwright, published on 04 August 2013 under the following license: Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike Dywedodd yr Arglwydd Iesu Grist amdano’i hun, ‘Myfi yw’r Alpha a’r Omega, y dechrau a’r diwedd’. (parhad ar dudalen 2)

Janus, Ionawr a dechreuadau newydd · 2021. 1. 21. · Janus, Ionawr a dechreuadau newydd Porth Janus, Rhufain Mark Cartwright, published on 04 August 2013 under the following license:

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Janus, oedd duw drysau, pyrth,dechreuadau a diwedd digwyddiadau.(Yn y cerflun fe’i gwelir yng nghwmniBellona, duwies rhyfeloedd.)

    O enw’r duw Rhufeinig ‘Janus’ ydeillia’r gair Ionawr. Janus yw’rduw â dau wyneb – un ohonyntyn edrych yn ôl i’r gorffennol a’rllall yn edrych ymlaen at ydyfodol. Ar ddechrau blwyddynnewydd, mae’n werth edrych ynôl fel y gwna Janus ar sut ytreuliasom ein bywyd a’n hamseryn 2020.

    Asesu

    Fel man cychwyn, efallaibyddai’n dda o beth ystyried ypethau a ganlyn:

    • Pa mor ymroddedig oeddemni yn ein perthynas â Duw,trwy weddi, myfyrdod agweithgaredd ysbrydol eraill?

    • Pa mor ymrwymedig oeddemni i dreulio amser gyda’nteulu a’n ffrindiau?

    • Pa mor elusennol a thrugarogoeddem ni tuag at bobl eraill?

    • Beth oedd ein hagwedd tuagat ein gwaith a pha moreffeithiol oeddem ni?

    • Beth oedd ein cryfderau a’n ffaeleddau?

    Mae’n arfer da gwerthuso’n bywyd o brydyw gilydd, ac mae dechrau blwyddynnewydd yn gyfle euraidd i ni wneud hyn!Rhan annatod o unrhyw werthusiad ywgwneud addunedau a gosod nodau argyfer y dyfodol. Weithiau, cawn hen ddigono wneud addunedau, oherwydd yn hwyrneu’n hwyrach, rydym fel arfer yn syrthio’nôl i wneud yr un hen bethau. Serch hynny,

    mae’n well o lawer gosod nodau a gwneudaddunedau na dibynnu ar dynged.

    Adduned a dymuniad

    Mae yna wahaniaeth rhwng adduned adymuniad. Ond mae’r ddau’n gysylltiedigâ’i gilydd oherwydd os ydym ynbenderfynol ac yn ymrwymedig i’nhadduned gallwn droi’r dymuniad yn realiti.

    Os taw bod yn fwy ymrwymedig i’n ffyddyw’r dymuniad, gallai’r adduned gyd-fyndâ’r dymuniad hwn: ‘Er mwyn gwella fymherthynas â Duw, neilltuaf hanner awr iweddïo a myfyrdod bob dydd.’

    Mae dymuniad yn debyg i freuddwyd a’radduned yw’n parodrwydd i dalu’r pris ambeth rydym am ei gyflawni.Gobeithion

    Gobeithiwn y gorau am 2021, gan wybodfod gan yr Arglwydd gynlluniau arbennig arein cyfer, cynlluniau er ein budd ac nid erein colled, bwriadau fydd yn rhoi gobaith adyfodol inni. Dechreuwn y flwyddynnewydd yn hyderus yn addewid yrArglwydd.

    Dywed Ef,

    ‘Byddant yn adeiladu tai ac yn bywynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac ynbwyta’u ffrwyth; ni fydd neb yn adeiladu iarall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall ynbwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd âchoeden, a’m hetholedig yn llwyr fwynhaugwaith eu dwylo.

    Ni fyddant yn llafurio’n ofer, nac yn magu plant idrallod; cenhedlaeth a fendithiwyd gan yrARGLWYDD ydynt, hwy a’u hepil hefyd.

    Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw, ac yneu gwrando wrth iddynt lefaru.’ (Eseia 65:21-24).

    Ffydd ac ymdrech

    Wrth inni agosáu at ein nodgwyddom na ddaw unrhywbeth da yn rhwydd ac yn rhad.Felly, bydd yn rhaid gweithio’ngaletach nag y gwnaethom yllynedd er mwyn cyrraedd ynod. Diau, bydd brwydrau i’whymladd a chythreuliaid i’whwynebu eto eleni. Ni ddawunrhyw lwyddiant neufuddugoliaeth hebddyfalbarhad, gweddi a grasDuw. Cawn ein hatgoffa ganyr Apostol Paul, ‘Nid âmeidrolion yr ydym yn yr afael,ond â thywysogaethau acawdurdodau, â llywodraethwyrtywyllwch y byd hwn, âphwerau ysbrydol drygionus yny nefolion leoedd.

    Gan hynny, ymarfogwch â hollarfogaeth Duw, er mwyn ichwifedru gwrthsefyll yn y dydddrwg, ac wedi cyflawni pobpeth, sefyll yn gadarn.

    Safwch, ynteu, â gwirionedd ynwregys am eich canol, a chyfiawnder ynarfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd igyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiauam eich traed.

    Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharianffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd hollsaethau tanllyd yr Un drwg.

    Derbyniwch helm iachawdwriaeth achleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.

    CYFROL CXLIX RHIF 3 DYDD GWENER, IONAWR 15, 2021 Pris 50c

    yn calonogi

    yn ysbrydoli

    yn adeiladu

    yGOLEUADE G LW Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

    Y Silff Lyfrau … t. 2 • Mae’r Nadolig wedi ei ganslo … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

    Janus, Ionawr adechreuadau newydd

    Porth Janus, RhufainMark Cartwright, published on 04 August 2013 under the following license:

    Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike

    Dywedodd yr Arglwydd Iesu Grist amdano’i hun, ‘Myfi yw’r Alpha a’r Omega, y dechrau a’r diwedd’.

    (parhad ar dudalen 2)

  • 2 Y Goleuad Ionawr 15, 2021

    Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïobob amser yn yr Ysbryd. I’r diben hwn,byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ymmhob math o ymbil dros y saint i gyd.’(Eff. 6: 12-18).

    Colli ac ennill

    Ymddengys weithiau, fel pe baem ar fincolli’r frwydr. Os digwydd hynny, y cyfansydd angen i ni ei wneud yw cilio,ail-grynhoi a bwrw ymlaen. Maegwydnwch yn bwysig ar gyfer unrhywfuddugoliaeth cans gwyddom yn iawnnad yw’r rhai sy’n ildio yn ennill a bod yrhai sy’n ennill byth yn ildio. Gwyddomnad trwy’n hymdrechion yn unig, y daw’rfuddugoliaeth ond hefyd trwy nerth yrArglwydd Dduw. Rhydd Duw sicrwydd i’wbobl, ‘ “Ymladdant yn dy erbyn, ond ni’th

    orchfygant oherwydd yr wyf fi gyda thii’th waredu” medd yr ARGLWYDD.’(Jeremeia. 1:19).

    Gweddi am y Flwyddyn Newydd:

    ‘Bydded i’r ARGLWYDD dy ateb yn nyddcyfyngder, ac i enw Duw Jacob dyamddiffyn. Bydded iddo anfon cymorth i tio’r cysegr, a’th gynnal o Seion. Byddediddo gofio dy holl offrymau, ac edrych ynffafriol ar dy boethoffrymau. Bydded iddoroi i ti dy ddymuniad, a chyflawni dy hollgynlluniau. Bydded inni orfoleddu yn dywaredigaeth, a chodi banerau yn enw einDuw. Bydded i’r ARGLWYDD roi i ti’rcyfan a ddeisyfi.’ (Salm 20: 1-5).

    Ian Sims,Llywydd y Gymdeithasfa yn y De

    Dyfynnwyd sylw Clemens o Alecsandriao’r ail ganrif am Efengyl Ioan lawergwaith, sef mai ‘Efengyl ysbrydol’ ydyw,a hynny mewn gwrthgyferbyniad â’r dairEfengyl Synoptaidd a oedd wedicofnodi’r ffeithiau materol am fywydIesu yn unig. Wrth gwrs, yn sgil ydyfarniad hwn mae perygl inni gael eincamarwain i gredu mai ar bethauysbrydol yn unig y hoelir sylw ynddi. Ynsicr, ni allai dim fod yn bellach oddi wrthy gwirionedd: wedi’r cyfan yr efengylhon sy’n cyflwyno’r cysyniad oymgnawdoliad inni (gw.1.14). Fe’nhatgoffwyd gan y gyfrol y soniaisamdani y tro diwethaf pa morberthnasol, ac yn wir heriol, y gall fodwrth inni drafod materion cyfoes. Fellyhefyd, mae’r gyfrol sydd dan sylw y trohwn wedi’i chyfeirio at broblemaucyfoes, yn benodol at rai ynglªn âdiogelu’r amgylchfyd ac am ofalu am ytlawd. Ac mae’n ceisio dangos sut ymae’r efengyl hon yn gallu ein ysgogi iystyried y modd y gallwn weithredumewn perthynas â’r ddeubeth hyn.

    The Cry of the Earth and the Cry of thePoor: HearingJustice inJohn’s Gospelyw teitl ygyfrol, a lleianPabyddol oSelandNewydd,Kathleen P.Rushton, yw’rawdur (ISBN978-0-334-05905-9,London: SCM,2020, £25.00,xxxi + 242 pb.)

    Cyfres o fyfyrdodau ar y rhannauhynny o’r efengyl a ymddengys yn yLlithiadur Diwygiedig (fel sydd yn einLlyfr Gwasanaethau ni fel enwad),gyda’r ychydig o wahaniaethau syddyn y Llithiadur Rhufeinig, a geir yn ygyfrol hon, a mae’r rhain yn cynnwyscrynswth yr efengyl ei hun. Dilynir dullyr hyn a elwir yn lectio divina, sefdarllen cysegredig, wrth ymdrin â phobdarlleniad, gan ddechrau drwy eiddarllen ac yna fyfyrio arno wrth eiesbonio; arwain hyn at weddïo ac arosym mhresenoldeb Duw cyn derbynyr ysgogiad i roi’r cyfan ar waith. Ar

    Y Silff LyfrauDathlu’r Dolig

    Cafwyd oedfa fendithiol iawn wrth i dros gant o bobl ymuno ar ZOOM i fwynhau oedfaNadolig y plant yma yn Llundain. Daeth tair Ysgol Sul y ddinas at ei gilydd yn rhithiol igyflwyno stori’r geni mewn ffordd ddyfeisgar iawn. Buodd Ysgolion Sul Seion, EalingGreen, Capel Clapham ac Eglwys y Drindod yn recordio sawl eitem o flaen llaw achymysgu hyn gydag eitemau byw gan blant, rhieni ac athrawon. Roedd yr hollwasanaeth yn fendigedig ac roedd yn amlwg fod y plant wrth eu boddau ynghyd â’rgynulleidfa eang. Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran.

    Susan Harston

    (parhad ar dudalen 7)

    Janus, Ionawr a dechreuadau newydd (parhad)

  • Gwers 27

    Y Sêr-ddewiniaidGweddiNefol Dad, diolch am hanes y geni fel ymae Mathew yn cyflwyno’r stori. Helpani i amgyffred pwysigrwydd yr hanesi’r efengylydd a pherthnasedd yr hanesi’n byd soffistigedig ac i’n cymdeithasgymhleth. Agor ein clustiau i wrandoa’n llygaid i weld. Amen.

    Darlleniad Mathew 2:1–12

    CyflwyniadMathew yn unig sy’n rhannu hanesymweliad y sêr-ddewiniaid âBethlehem er mwyn gweld y babanIesu. Efallai nad oedd Luc wedi clywedyr hanes, neu nad oedd y stori ynbwysig iddo. Ceir awgrym mewnmannau eraill eu bod wedi teithio oBersia, ac yn frenhinoedd yn eugwledydd eu hunain. Cyfeirir atynt fely Magi, a bod ganddynt ddoniaulledrithiol. Nid dyna bwyslais storiMathew. Roedd ef yn ysgrifennu argyfer pobl o dras Iddewig a oedd yngwybod fod Jerwsalem wedi syrthio yn70 OC a bod yr Iddewon wedi profigorthrwm a chaledi. Byddent yngyfarwydd â thª brenhinol Herod, ac nafu’r teulu hwn yn llywodraethu’n deg.Lladdwyd llawer o fechgyn dan

    ddwyflwydd oed oherwydd mympwyHerod, a dienyddiwyd Ioan Fedyddiwroherwydd twyll Herodias wrth hawliopen Ioan Fedyddiwr fel gwobr amddawnsio Herodias, eu merch (Marc6:21–9). Yn hanes ymweliad y sêr-

    ddewiniaid, tybiwyd mai tri ohonyntoedd yno, a hynny oherwydd enwir tairrhodd, er nad yw’r efengylydd ei hunyn dweud mai tri oedd yna. Onid ergydfawr Mathew wrth adrodd yr hanesoedd dweud bod Iesu yn fwy o freninna breniniaethau Israel, ac yn sicr ynfwy na’r sawl a wisgai goronbrenhiniaeth yr Iddewon adeg geni Iesua’r sawl a geisiodd ymddangos ynfrenin adeg croeshoelio Iesu.

    MyfyrdodMewn oes lle nad oes cymaint â hynnyo wledydd yn eu hystyried eu hunainfel brenhiniaeth, mae’r syniad o freninyn ddieithr i lawer. Prin y byddai sônam arlywydd chwaith yn helpu, gan fody brenin, mewn sefyllfa ddelfrydol, yncynnwys sofraniaeth ac undod ygenedl. Bydd y brenin a’i deulu y tuallan i gylch ‘y bobl’, ac eto, bu’rfrenhiniaeth ym Mhrydain ac mewngwledydd eraill yn y cyfnod diweddaryn ymdrechu’n galed i osgoi bod ynbell o’r bobl chwaith.Wrth gyfeirio at Iesu fel brenin, bydd

    yr eglwys yn cydnabod bod iddoawdurdod a grym na all aelodau’reglwys eu hawlio, a bod y ‘deyrnas’ ynun yng Nghrist. Gwelir y brenin fel unsy’n amddiffyn a chynnal ei deyrnas acyn llywodraethu mewn modd sydd erlles ei ddeiliaid. Wrth gyfeirio at y sêr-ddewiniaid fel brenhinoedd, roedd eustatws yn hawlio sylw a pharch, abyddai Mathew yn cyhoeddi bodbrenhinoedd y tu allan i Iddewiaeth yncydnabod brenhiniaeth Iesu. Wrthiddynt blygu o’i flaen, gwelid y babanyn uwch na’r brenhinoedd oll. Pwy yw brenin ein byd ni, nid yn yr

    ystyr wleidyddol o reidrwydd, ond fel ysawl sy’n llywodraethu ein bywydau?Gallai amryw gyfeirio at ‘fasnach’ felbrenin, neu ‘arfau niwclear’ fel y grympennaf. Byddai llawer yn gweld y‘drefn ddigidol’ fel arglwyddiaeth

    gyfoes, tra mae eraill yn gweld‘gwyddoniaeth’ fel sylfaen ystyr bywydyn ei holl gymhlethdodau. Efallai fodcyfeiriad at y sêr-ddewiniaid yn einhannog i ofyn beth yw dylanwadastronomeg a theithio’r gofod ar einffordd o feddwl a byw. Pwy yw breninein byd, ac yn arbennig ein byd bachni?Adeg y Nadolig a’r Ystwyll, nid

    manylion stori’r geni a ‘drama plant yfestri’, fel y cyfeiriodd Dr GwynThomas ati yn ei gerdd enwog, ddylaifod yn ganolog, ond yr Efengyl oddimewn i’r hanesion hyn, sef bod Duwyng Nghrist yn achub y byd yr oedd ynei garu. Yn Ioan 3:16, cawn galon ydweud, a chalon hanes genedigaethIesu hefyd.

    GweddiDduw y datguddiad rhyfeddaf a fuerioed, hawliaist dy fyd, ac rwyt ynhawlio ein hamser a’n hymroddiad nihefyd. Plygwn, fel yr ymwelwyr o bell,wrth grud Iesu ac addoli mewnrhyfeddod syfrdan. Amen.

    Trafod ac ymateb

    • A gawsoch chi erioed eich cyflwynoi rywun enwog neu bwysig iawn?Rhannwch eich teimladau oscawsoch brofiad o’r fath.

    • Pa un yw’r hawsaf i benlinio ger eifron: y plentyn bychan fel a welir ynhanes y doethion yma gan Mathew,neu’r un a ddarlunnir gan Ioan yn eiDdatguddiad (1:12–16) ymysg ycanwyllbrennau a’i lygaid yn fflamdân?

    • A yw’r syniad o ‘frenhiniaeth’ yndal yn un y gellir uniaethu ag efheddiw?

    • Beth mae’n ei olygu i gydnabodIesu fel y Brenin a wasanaethwn ynein byw bob dydd?

    Ionawr 15, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    EGLWYSI CYLCH CARN INGLI(Bethlehem, Caersalem, Ebeneser,

    Jabes, Tabor)

    Mae’r Gweinidog, y Parchg Alwyn Daniels,bellach wedi ymddeol wedi deugainmlynedd o weinidogaeth ymroddedig athystiolaeth loyw yn ein cylch a thu hwnt.

    Byddwn yn cyflwyno tysteb i ddangos eingwerthfawrogiad o’i waith a’i wasanaeth efa Jean, ei briod, pan fydd amgylchiadau’ncaniatáu.

    Os carech chi gyfrannu, gellir anfon siec,taladwy i “Cyfrif Tabor, Bethlehem,Caersalem a Jabes”, at Gwenno Eynon,Glan Gwaun, Pontfaen, Abergwaun, SirBenfro SA65 9SG, cyn CHWEFROR 28,2021.

    DIOLCH YMLAEN LLAW.

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • CroesoMae ein lles ysbrydol yr un mor bwysigâ’n lles corfforol. Yn ystod y flwyddyna aeth heibio, bu her ddifrifol i’rddeubeth: mae pandemig COVID-19wedi peri i ni fod yn ofalus ynglªn â’nhiechyd, gan gymryd camau diogelwchmegis golchi’n dwylo, gwisgo mygydaua chadw pellter cymdeithasol. Bu rhaiohonom yn wael a chollodd eraillohonom rywun agos i ni. Amharwydhefyd ar fywyd gwaith llawer ohonom achadwyd teuluoedd ar wahân, yn aml argost bersonol ddifrifol. Efallai i hyn ollein gwneud yn fwy pryderus ynghylchein hiechyd ac yn fwy ymwybodol pamor fregus ydym. Ar yr un pryd buadeiladau eglwysig ar gau, gydagaddoli’n digwydd ar-lein. Prin fu’rcyfleoedd i gydaddoli ac i weddïo

    gyda’n gilydd. Mae’n ddigon posibl einbod yn teimlo ein bod wedi’n hynysuoddi wrth Dduw yn ogystal ag oddiwrth ein cymydog.Mae’r cyfnod clo yr ydym wedi byw

    drwyddo wedi achosi i ni gymryd camyn ôl i feddwl eilwaith am einblaenoriaethau ac am y bobl a’r pethausy’n bwysig i ni, sydd yn gwneud einbywydau’n gyflawn. Mae’r cyfnodauhir heb weld ein teuluoedd estynediga’n cyfeillion a’r diffyg cyfle i rannupryd neu gyd-ddathlu pen-blwydd neubriodas yn enghreifftiau o hynny. Yn achos ein bywyd ysbrydol, beth

    yw’r peth pwysicaf ar gyfer ein lles?Wrth i fywyd eglwysig ddod i ben iraddau helaeth, am y tro cyntaf i’r rhanfwyaf o bobl, beth mae’n ei olygu i fodyn rhan o’r Un Eglwys, o Gorff Crist,pan mai dim ond ar sgrin y gliniadurrydym yn gweld ein chwiorydd a’nbrodyr? Pan fu i Gyngor Eglwysi’r Byd a

    Chyngor y Pab er Hyrwyddo UndodCristnogol wahodd ChwioryddCymuned Grandchamp yn y Swistir ilunio’r deunydd ar gyfer yr WythnosWeddi am Undeb Cristnogol yn 2021,ni fyddent wedi gallu rhag-weld ypandemig a’i effeithiau. Eto, maeChwiorydd Grandchamp wedi cynnig ini rywbeth unigryw a gwerthfawr, sefcyfle i brofi dull o weddïo sydd ar yr unpryd yn hen iawn ac eto mor addas argyfer ein cyfnod ninnau. Mae rhythmauhynafol gweddi, a ganfyddir mewnllawer o urddau crefyddol a’utraddodiadau, yn ein dysgu ein bod, panfyddwn yn gweddïo, yn gwneud hynnynid yn unig ar ein pen ein hunain neu

    gyda’r rhai sydd yn y fan a’r lle gyda niond gyda’r Eglwys gyfan, Corff Crist,gydag aelodau’r teulu Cristnogol mewnlleoedd eraill a chyfnodau gwahanol. Gallai’r patrwm gweddi hwn, gyda’i

    strwythurau traddodiadol, ei emynau a’isalmau ac, efallai’n bwysicaf oll, eiysbeidiau tawel, yn wir fod yn rhoddbwysig oddi wrth Eglwys yr hen fyd i’rEglwys heddiw wrth iddi ymgodymu âheintiau a chyfnodau clo ac ynehangach gyda rhai o’r heriau dwyssy’n wynebu’r byd, yn fwyaf penodolnewid hinsawdd, hiliaeth a thlodi.Mae’r traddodiad hwn o weddi acysbrydolrwydd yn ein gwahodd, ergwaethaf y pethau sydd yn ein brifo acyn ein gwahanu, i rannu gweddi athawelwch â’n gilydd. Heb os, dynarodd hynod werthfawr yn y dyddiauhelbulus hyn. Dewch gyda ni yn ystodyr Wythnos Weddi am UndebCristnogol eleni a chamu i fan lle maecymdeithas a bendith. Yma cewch ‘fod’fel yr ydych a phrofi cynhaliaethgweddi a gwybod mai Duw, yngNghrist a thrwy’r Ysbryd Glân, sy’n eincynnal ac yn cyd-deithio â ni. Bobamser.

    Bob Fyffe,Ysgrifennydd Cyffredinol, EglwysiYnghyd ym Mhrydain ac Iwerddon

    Allan o’r cyflwyniad i adnoddau’rWythnos Weddi am Undeb Cristnogol.Nid oes adnoddau print ar gael i’whanfon allan eleni. Gellir dod o hyd i’rcyfan sydd ar gael yn y Gymraeg argyfer yr wythnos o ddilyn y ddolen hon:

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 15, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Mae astudiaeth newydd gan YouGov ynnodi bod y rhai yn eu harddegau hwyra’u hugeiniau cynnar (Cenhedlaeth Z,fel y’u gelwir) yn fwy tebygol o greduyn Nuw na phobl yn eu hugeiniau hwyra’u tridegau. Yn ôl yr astudiaeth, mae’rffaith fod pobl ifanc yn gallu cael gafaelar wybodaeth am ffydd mor rhwydd ar-lein yn un rheswm allweddol dros ynewid yn y duedd i ystyried pobl iau felrhai llai crefyddol.Mae ffactorau eraill yn cynnwys llai

    o ‘stigma’ am gredoau crefyddolymhlith grwpiau cymheiriaidCenhedlaeth Z, gan arwain atdrafodaethau mwy agored am ffydd.Mae arbenigwyr hefyd yn credu ygallai’r pandemig fod wedi peri i lawero bobl ifanc feddwl yn fwy difrifol amyr hyn maen nhw’n ei gredu, gan arwainat gynnydd mewn cysylltiad crefyddol.

    Cynyddodd nifer y rhai yn y grfipoedran 16 i 24 oed sy’n eu hystyried euhunain yn grefyddol i 23 y cant yn yrastudiaeth ddiweddaraf. Pan ofynnwydy cwestiwn i bobl ifanc 18 i 24 oed ymmis Ionawr, roedd y ffigur yn 21 y cant.Ar gyfer pobl 40 i 59 oed a 25 i 39 oed,

    fe ddisgynnodd i 26 y cant ac 19 y cant,yn y drefn honno.Dywedodd Dr Lois Lee, Cymrawd

    yn Adran Astudiaethau CrefyddolPrifysgol Caint, wrth y Times ei bod yn‘debygol iawn bod y pandemig wedieffeithio ar gredoau ac arferion dirfodolpobl’ ond nad oedd ‘wedi eihargyhoeddi eto y bydd wedi gwneudunrhyw grfip yn fwy neu’n llaicrefyddol yn y tymor hwy’.Nododd y gall amseroedd o argyfwng

    fod yn ‘amser archwilio’ o ran systemaucred personol. ‘O bosib mae data eleniyn dangos bod pobl ifanc yn mynddrwy’r math hwnnw o gyfnod archwilioyn fwy nag eraill,’ meddai.Nododd Stephen Bullivant, Athro

    Cymdeithaseg Crefydd ym MhrifysgolSt Mary’s, Twickenham, fod ffigurau

    Yr Wythnos Weddiam Undeb Cristnogol 2021

    18–25 Ionawr

    Pobl ifanc yn troi at Dduw yn y pandemig?

    Llun: Unsplash

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • Wrth wylio’r rhaglen Am Dro Selebs arS4C a gweld y cerddor AlwynHumphreys yn arwain taith gerdded ynYnys Môn o Biwmares i Benmon feaeth fy meddwl yn ôl i 1994. Roeddwni wedi cerdded y rhan honno o’r arfordirbron i bum mlynedd ar hugain yn ôl ardaith noddedig o gwmpas yr ynys gydarhai o aelodau Capel y Groes, Wrecsam,er mwyn codi arian i gynnal llochesnewydd i’r digartref yn y dref o’r enw StJohn’s.Dyna oedd dechrau’r gwaith o

    helpu’r rhai oedd yn cysgu allan ar ystrydoedd gan fod eglwys St John’s ynWrecsam yn cynnig llety dros nos i hydat 15 o ddynion, os ydw i’n cofio’niawn. Ers y dyddiau hynny mae llawerwedi newid, ac mae cymaint o fudiadau,eglwysi ac unigolion yn cynnig cymorthi’r digartref.Mae 2020 wedi bod yn gyfnod heriol

    i bawb oherwydd Covid-19, ond maesialensau gwahanol iawn wediwynebu’r sawl sy’n rhoi cymorth i’rdigartref. Pan oedd y don gyntaf o’rpandemig yn ymledu ym mis Mawrth,roedd cynllun Llety’r Gaeaf ynweithredol gan elusen Cyfiawnder TaiCymru. Ond roedd yn rhaid dod â’rcynllun hwn i ben bythefnos yn fuan, ac roedd nifer ohonom yn poeni beth oedd

    yn mynd i ddigwydd i’r ‘gwesteion’, felroeddem yn eu galw. Y peth olafroeddwn i eisiau oedd eu troi allan, ynôl ar y strydoedd. Ond derbyniodd pobCyngor Sir gymorth ariannol ganLywodraeth Cymru i ddarparu llety drosdro i’r rhai oedd yn dewis cysgu ar einstrydoedd fel nad oeddent yn lledaenu’rfirws. Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsamroedd hyn yn wreiddiol yn golygudarparu llety mewn tri lleoliad: fflatiaumewn hostel myfyrwyr gan eu bod ynwag ac ar fin cael eu dymchwel cyncyfnod y clo, fflatiau gwarchodol sy’ncael eu rheoli gan elusen, a gwesty drosy ffin yn Swydd Caer. Roedd y trilleoliad yma’n rhoi llety cynnes i hyd at45 o bobl – dynion a merched o boboed. Yn fuan, fe gafwyd cytundeb gydanifer o grwpiau oedd yn gweithio gyda’rdigartref yn y dref yn barod i gynnigparatoi prydau bwyd a’u dosbarthu i’rlleoliadau hyn. Y newyddion da ydi fod y cyfnod

    hwn wedi rhoi amser i staff y Cyngorddod o hyd i lety parhaol i rai, agobeithio bod rhywfaint osefydlogrwydd bellach ym mywydaurhai sydd wedi treulio blynyddoedd ynddigartref. Erbyn hyn mae pryd poethamser cinio a bwyd dros y penwythnosyn cael ei ddosbarthu gan wahanol

    grwpiau i’r lleoliadau hyn ac i ambellunigolyn sy’n byw mewn llety’n cael eiddarparu gan y Cyngor. Ar ôl bod yncysgu allan ar y strydoedd am nifer oflynyddoedd, mae rhai unigolion yn eichael yn anodd trefnu siopa a pharatoibwyd, ac felly maent yn cael bwyd fel yrhai sydd mewn hosteli neu westy drosdro. Rydym yn croesawu dyhead y

    llywodraeth i gadw’r digartref oddi arein strydoedd ac yn gweddïo y byddrhywfaint o fendith yn dod allan o’rcyfnod anodd hwn wrth roi cyflegwirioneddol i’r digartref gaelsefydlogrwydd unwaith eto yn eubywydau. Diolch i staff yr hollGynghorau ac i’r cannoedd owirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser igeisio gwella bywydau’r rhai mwyafbregus yn ein cymdeithas.

    Geraint W. Jones, Rhosllannerchrugog

    Ionawr 15, 2021 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Covid 19 yn cynnig cyfle newydd i’r digartref

    Doedd dim modd tynnu lluniau’r rhaioedd yn eu bwyta, ond dyma’r

    brechdanau wedi eu paratoi ac ynbarod i fynd i’r lleoliadau gwahanol

    astudiaeth YouGov yn ‘torri ar draws ydisgwyliad tymor hir’ fod grwpiauoedran yn ‘raddol yn llai crefyddol’wrth iddynt fynd yn iau.Roedd yr arolwg, a gynhaliwyd

    ar-lein ddiwedd mis Tachwedd, yncynnwys sampl o 2,169 o bobl ac roeddyn cynnwys pedwar cwestiwn: aoeddent yn credu yn Nuw; os nadoeddent yn credu yn Nuw, a oeddent yncredu mewn rhyw fath o bfier ysbrydoluwch; a oeddent heb gredu yn ynaill na’r llall, neu nad oeddent yngwybod.

    (Ffynhonnell: Premier Christian News.Dolen i’r safle newyddion Cristnogol:https://premierchristian.news. Ceirgweddi fer ar ddiwedd pob erthygl, ganamlaf gydag anogaeth ar ôl hon i ofyn iDduw:

    Gweddïwn y bydd pobl ifanc yn parhaui ofyn cwestiynau sylfaenol bywyd, acy byddant yn cael eu harwain tuag atatti wrth iddynt wneud hynny. Tywallt dyysbryd ar Genhedlaeth Z yn ygwledydd hyn a gweddïwn y gallantddod ag adfywiad i’w cenhedloedd!)

    Sul, 17eg IonawrOedfa

    Dechrau Canu Dechrau Canmolam 11:00ybyng ngofal

    Parch. Evan Morgan, Caerdydd

    ––––––––––

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Nos Sul, Nia fydd yn cwrdd â CarolHardy, un sydd wedi trechu caethiwedalcohol ac erbyn hyn yn cynnigcymorth ac yn ysbrydoliaeth i erailldrwy ei gwaith yng nghanolfan adferStafell Fyw. A chawn fwynhauperfformiad tangnefeddus o Weddi’rArglwydd gan Joy Cornock.–––––––––––––––––––––––––––––

    Caniadaeth y CysegrSul, 17eg Ionawr7:30yb a 4:30yp

    Y Parchedig R. Alun Evans sy’ncyflwyno emynau am obaith

    ––––––Oedfa Radio Cymru17 Ionawr am 12:00yp

    yng ngofalJudith Morris, Penrhyn-coch

    Pobl ifanc yn troi at Dduw yny pandemig? (parhad)

  • Mae adroddiad newydd gan GymorthCristnogol: Cyfrif y Gost 2020:blwyddyn drychinebus i’n hinsawdd(Counting the Cost 2020: a year ofclimate breakdown) yn nodi 15 o’rtrychinebau mwyaf dinistriol a welwydyn ystod y flwyddyn.Roedd cost deg o’r digwyddiadau

    hyn yn $1.5 biliwn neu fwy, gyda nawohonynt yn creu difrod gwerth o leiaf$5 biliwn. Mae’r rhan fwyaf o’ramcangyfrifon hyn wedi eu seilio argolledion yswiriant, sy’n golygu bod ygwir gost yn debygol o fod yn llaweruwch eto.

    Un o’r rhain oedd storm Ciara adrawodd y Deyrnas Gyfunol, Iwerddona gwledydd eraill yn Ewrop ym misChwefror, gan gostio $2.7 biliwn a lladd14 o bobl. Cyhoeddodd AsiantaethAmgylchedd y Deyrnas Gyfunol 251 orybuddion ynghylch dfir yn gorlifo ynei sgil.Tra bo’r adroddiad yn canolbwyntio

    ar gostau ariannol, sydd fel arfer ynuwch mewn gwledydd cyfoethogoherwydd bod ganddynt eiddo mwygwerthfawr, roedd rhai o’rdigwyddiadau tywydd eithafol hyn yndrychinebus mewn gwledydd tlawd, erbod y gost ariannol yn llai. Profodd DeSwdan, er enghraifft, ei llifogyddgwaethaf erioed; lladdwyd 138 o bobl adinistriwyd cnydau eleni.Digwyddodd rhai o’r trychinebau yn

    sydyn iawn, fel Seiclon Amphan, adrawodd Fae Bengal ym mis Mai acachosi difrod gwerth $13 biliwn mewn

    ychydig ddyddiau. Digwyddiadau erailla ddatblygodd dros fisoedd oedd yllifogydd a gafwyd yn China ac India, agostiodd $32 biliwn a $10 biliwn yr un.Yn Asia y bu chwech o’r deg

    digwyddiad hyn, pump ohonynt yngysylltiedig â thymor monsfin anarferolo wlyb. Ac yn Affrica dinistrioddheidiau enfawr o locustiaid gnydau allystyfiant ar draws sawl gwlad, gangreu difrod gwerth $8.5 biliwn. Mae’rdigwyddiad hwn wedi ei gysylltu âchyflwr gwlyb a grëwyd gan lawogyddanarferol o drwm oherwydd newid ynyr hinsawdd.

    Ond mae effaith y tywydd eithafolwedi ei brofi ledled y byd. Yn Ewroproedd cost y seiclonau Ciara ac Alex ynbron i $6 biliwn. Ac fe ddioddefodd yrUnol Daleithiau dymor o gorwyntoedda dorrodd bob record a thymor tebyg odanau, â chost o dros $60 biliwn.Dioddefodd rhai mannau llai poblog

    effeithiau byd sy’n cynhesu. Yn Siberia,cafwyd record o 38 gradd Celsius ynninas Verkhoyansk yn ystod cyfnod owres mawr. Fisoedd yn ddiweddarach,ar ochr arall y byd, roedd gwres asychder yn gyfrifol am achosi tanau ynBolivia, yr Ariannin a Brasil. Er nachofnodwyd colledion dynol yn ydigwyddiadau hynny, gall difrod o’rfath gael effaith fawr ar fioamrywiaeth agallu’r blaned i ymateb i fyd sy’ncynhesu.Er bod newid hinsawdd wedi

    effeithio ar y digwyddiadau hyn igyd, cafodd llawer o wledydd nad

    ydyn nhw wedi gwneud fawr ddim igreu’r broblem eu heffeithio hefyd. Yneu plith yr oedd Nicaragua, addioddefodd yn sgil Corwynt Iota,storm gryfaf tymor corwyntoedd yrIwerydd, a’r Philipinas, lle ycyrhaeddodd corwyntoedd Goni aVamco’r tir gefn wrth gefn, bron.Tanlinellodd y digwyddiadau hyn yr

    angen am weithredu brys ynglªn â’rhinsawdd. Mae Cytundeb Paris, lle ygosodwyd y nod o gadw’r cynnydd yn ytymheredd i ‘dan 2 gradd Celsius’ ac i1.5 gradd yn ddelfrydol, o’i gymharu â’rlefelau cyn-ddiwydiannol, bellach yn5 mlwydd oed. Mae’n allweddol fodgwledydd yn cytuno ar dargedauuchelgeisiol newydd cyn y gynhadleddhinsawdd nesaf, a fydd yn cael eichynnal yn Glasgow ym mis Tachwedd2021.Meddai awdur yr adroddiad, Dr Kat

    Kramer, sy’n arwain ar bolisi’rhinsawdd i Gymorth Cristnogol:‘Mae pandemig Covid-19 yn naturiol

    wedi bod yn bryder mawr eleni. Ifiliynau o bobl yn rhai o rannau bregusy byd, mae’r chwalfa sy’n digwyddoherwydd y newid yn yr hinsawdd wedigwneud hyn yn waeth. Y newydd da, ynunion fel yn achos y brechlyn ar gyferCovid-19, yw ein bod yn gwybod sut idrin yr argyfwng hinsawdd. Mae’nrhaid inni gadw tanwydd ffosil yn yddaear, cynyddu’r buddsoddiad mewnynni gwyrdd a helpu’r rhai sy’n dioddefwaethaf.‘Boed yn llifogydd yn Asia,

    locustiaid yn Affrica neu’n stormydd ynEwrop ac America, gwelwyd effeithiaucynyddol ddinistriol y newid yn yrhinsawdd yn ystod 2020. Mae’nhollbwysig fod 2021 yn dod â chyfnodnewydd o weithredu yn ei sgil. Gyda’rArlywydd-etholedig Joe Biden yn y TªGwyn, mudiadau cymdeithasol ardraws y byd yn galw am weithredu,buddsoddiad adferiad gwyrdd yn dilynCovid ac uwchgynhadledd hinsawdd yncael ei cynnal yn y Deyrnas Gyfunol,mae yna gyfle euraid i’r gwledydd hynein gosod yn ôl ar lwybr i ddyfodolmwy diogel.’Gellid lawrlwytho’r adroddiad o’n

    gwefan:

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 15, 2021Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Tywydd eithafol yn sgil newid hinsawdd yncostio biliynau i’r byd yn 2020 – adroddiad

    • Storm Ciara yn y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop ym mis Chwefror wedi costio $2.7 biliwn a lladd 14 o bobl• Miloedd wedi eu lladd ledled y byd gan lifogydd, stormydd gwynt, seiclonau a thanau• Yr Unol Daleithiau’n wynebu’r costau uchaf oherwydd y tymor corwyntoedd a’r tanau gwaethaf erioed

    Bugail sy’n gorfod cloddio am ddfir mewn gwely afon sych yn Ethiopia

  • Sawl tro glywsoch chi’r geiriau uchod ynystod mis Rhagfyr? Gwleidyddion,newyddiadurwyr ar deledu a radio, acunigolion, yn mynnu na fyddai Nadolig2020 yn cael ei gynnal.

    Dyna oedd pennawd y newyddion arddechrau cyflwyniad Nadolig un-ar-hugaino bobl ifanc capeli Colwyn, Capel y Rhos(Presbyteriaid), Ebeneser (Annibynwyr),Hebron (Presbyteriaid), Horeb(Methodistiaid), a Pensarn (Presbyteriaid),Y Gyffordd. Doedden nhw ddim mewncapel ond yn nedwyddwch eu cartrefi, ynrhan o oedfa zoom wedi ei threfnu gan yParchedig Helen Wyn Jones.

    Aeth darllenydd y newyddion ymlaen.‘Oherwydd y pandemig, Covid19, ni allai’rdoethion deithio heb orfod hunan ynysu,doedd ’na ddim lle yn y llety oherwyddroedd pawb yn gorfod aros yn eu ‘bubble’.Nid ystyrid aur, thus na myrr fel pethauangenrheidiol. Darlithoedd a gwersi dros ywe. Felly, mae’r Nadolig eleni wedi eiGANSLO. Fyddai ’na ddim ffwdanoherwydd anghofio cerdyn i Anti Jinnie.Dim rhuthro’n wallgo’ yma ac acw.

    Mae’r Nadolig yn medru bod yn hynod ofasnachol, ac wedi’i diraddio i fod yn fiylseciwlar, ond ddylai hynny ddim bod ynrheswm dros gael gwared ohoni. Cofiwnfod mwy i’r Nadolig nag anfon cardiau achyfnewid anrhegion, mwy na’r goeden a’rgoleuadau llachar. Byddai rhyw wactermawr yn ein byd heb fiyl y Nadolig. Y maegan fiyl y Geni ystyr ddyfnach acehangach o lawer a neges bwysig fodDuw wedi dod yn agos atom yn ei Fab,Iesu Grist.

    Daeth Crist i’n byd er mwy ein dysgu sut ifyw yn debyg iddo. Dangosodd gariadDuw tuag atom wrth fynd o Fethlehem i’rGroes. Daeth at bawb a chymysgu âphobl ddifreintiedig. Bugeiliaid oedd y rhaicyntaf i glywed am ei enedigaeth,pysgotwyr a chasglwyr trethi a alwydganddo. Tybed, felly, ai’r tlodion a’rdigartref, yr alcoholiaid a defnyddwyr

    cyffuriau fyddai ei gyfeillion pennaf?Gwyddai nad yr hyn a allent hwy ei wneudiddo ef oedd yn bwysig, ond yr hyn a allaief ei wneud iddynt hwy.

    Felly, dydyn ni ddim am ganslo’r Nadoligeleni? Nac ydym yn wir a hynny ergwaethaf pawb a phopeth!’

    Aeth y bobl ifanc ymlaen i adrodd yrhanes drwy garolau traddodiadol amodern, a darlleniadau cyfarwydd amdaith Joseff a Mair i Fethlehem, lle’r oeddcriw o fugeiliaid yn gofalu am y praidd.Daeth seryddwyr o’r dwyrain yn chwilioam frenin newydd oherwydd iddynt weldseren arbennig (tebyg i’r un a welwyd ynyr awyr dros Nadolig 2020), a brenin yngwylltio’n gacwn oherwydd perygl i’worsedd.

    ‘Mae hanes y Nadolig cyntaf yn gyfarwyddond beth yw ei neges i ni heddiw? A bethddylai ein hymateb ni fod? Llawenhau amfod Duw wedi anfon rhodd mor werthfawr ini, Iesu Grist. Nid drwy gân a geiriau’nunig, ond drwy roi i eraill yn ei enw ef.Darllenwyd Mathew 24: 35-40. Y Nadolighwn bydd miloedd ar filoedd o bobl ynmarw o newyn, miloedd yn ddigartref hebfwyd na chysgod.

    Gallwn gynorthwyo mewn sawl ffordd.Cyfrannu at y banc bwyd neu gyfrannutuag at wahanol elusennau fel CymorthCristnogol. Cais Duw arnom i gysegru’nbywydau i’w wasanaethu gan roi einhamser i sôn am Iesu Grist. Golyga hynroi ein doniau i wneud ei waith a gofalunad ydym yn colli cyfle i rannu a gweddïoa gwneud ein gorau dros eraill.

    Y Nadolig wedi ei ganslo? NA.’

    Diolch i ieuenctid Colwyn am ein sicrhaumai ffêc niws oedd y cyfan wnaeth ygwleidyddion a’r newyddiadurwyr eiddarogan.

    Trefor Lewis

    Addaswyd y LLUN – CC BY-SA 3.0 https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9a/Al_Jazeera_English_Newsdesk_%28cropped%29.jpg/1024px-Al_Jazeera_English_Newsdesk_%28cropped%29.jpg

    Ionawr 15, 2021 Y Goleuad 7

    ddiwedd pob pennod codir cwestiynauynglªn â’r modd y dylid gweithreduymhellach, ac, yn wir, drwy gydol ygyfrol cynhelir deialog â’r darllenyddynglªn â’r materion canolog hyn.Fel y crybwyllwyd eisoes meithrinir yrangen i ddeffro’r gydwybod a’r awydd iweithredu o blaid y blaned a chyd-ddyngan yr holl fyfyrio hwn ar gynnwysEfengyl Ioan. Dyfyniad yw teitl y gyfrol ogylchlythyr (encyclical) y Pab Ffransis,Laudato Si’ (2015), ar ecoleg a newidhinsawdd. Pwysleisiodd fod angencyfiawnder i’r amgylchfyd yn ogystal agi’r tlodion: yn wir, mae’r ddeubeth yngnghlwm yn ei gilydd. Gwell gan yrawdur y disgrifiad ‘pobl yr ymylon’(marginalized) yn hytrach na’r gairtlodion ar gyfer y rheiny y mae angeneu gwarchod.

    Yn yr efengyl darlunnir y modd y maeIesu’n gyson yn goresgyn ffiniaucymdeithasol er mwyn creu cymod.Pwysleisir hefyd nad digon yw datgancred ynddo: mynnir fod yn rhaid cyfleu’rweithred o gredu ‘i mewn iddo’. Honnirfod credu felly’n golygu cysegru einbywyd iddo a chydweithio ag ef igyflawni gweithredoedd Duw drwywrando ar gri’r ddaear a’r anghenus. Ermwyn tynnu sylw at bwysigrwydd ygreadigaeth yn Efengyl Ioan fe’nhatgoffir dro ar ôl tro o ffigwr Doethinebmewn llenyddiaeth Iddewig ac o’r moddy cyplysir Iesu ei hun â’r weithred ogreu y byd o agoriad yr efengyl ymlaen.Cyfeirir hefyd o hyd at gyffelybiaethau âchynnwys Genesis 1-3. CysylltirDoethineb hefyd â’r awydd i gyfrannucyfiawnder a bywyd i’r rhai ar y cyrion,ac fe’n hatgoffir mai hi (ffigwrbenywaidd ydyw yn y traddodiadIddewig) a ystyrid yn ‘ffordd’ ynddo. Fe’ichysylltir hefyd â’r cysyniad o aros (gairsy’n digwydd cryn deugain o weithiauyn yr efengyl hon) ac â chyfeillgarwch.

    Gwna’r awdur ddefnydd helaeth oadroddiadau gan Gyngor Eglwysi’r Byda‘r Cenhedloedd Unedig am angheniony byd cyfoes, a chyfeiria’n ogystal atsefyllfaoedd penodol mewn gwahanolrannau o’r byd heddiw. Ar ddiwedd ygyfrol darperir rhestr o’r pymtheg gair aymddengys fwyaf aml yn yr efengyl honynghyd â rhestr o dermau a fydd ogymorth i’r rhai sy’n llai cyfarwydd â’rmath o ddeunydd a geir mewn cyfrol felhon. Gellir cymeradwyo’n galonnog ygyfrol hon ar gyfer astudiaethauBeiblaidd yn ein heglwysi.

    John Tudno Williams

    MAE’R NADOLIG WEDI EI GANSLO!(gwerthfawrogiaid Trefor Lewis o gyfraniad pobl ifanc Colwyn)

    Newyddion sy’n torri ar hyn o bryd ... Mae’r Nadoligwedi ei ganslo ... Bydd mwy o fanylion yn dilyn!...

    Y Silff Lyfrau(parhad o dudalen 2)

    Ymwelwch â gwefanEglwys Bresbyteraidd Cymru:

    www.ebcpcw.cymru

  • 8 Y Goleuad Ionawr 15, 2021

    • Wythnos nesaf – Traddodiad byw ym Mhenfro •

    GweddiArglwydd Dduw, yn Dad, yn Fab, ynYsbryd Glân cydnabyddwn ynnhywyllwch ein hofnau, yn niffygeglurder ein dealltwriaeth, yngnghaethiwed ein gwrthryfel a’n pechodmai yn dy Oleuni di y gwelwn Oleuni.Ddatguddiwr dirgel a pherffaith,cydnabyddwn nad yw dy feddwl di felein meddyliau ni; plygwn ger dy fron. TiArglwydd Iesu Grist, y datguddiadperffaith a dirgel, yr hwn wyt yn wiroleuni sy’n goleuo pob un, yr hwn addaethost i’n byd, gweddïwn y cawnadnabod dy oleuni eto heddiw. Disgleiriadrosom, disgleiria ynom drwy dy YsbrydGlân fel y medrwn ninnau fod yn oleuniyn ein byd, yn ffaglau sy’n dwyngwirionedd a gras a thosturi. Goleua’rgreadigaeth gyfan gyda’th gyfiawnder a’thdrugaredd. Disgwyliwn amdanat drwyIesu Grist ein Harglwydd.

    EMYN 222: Tyrd atom ni

    CyflwyniadMae un edefyn yn ymddangos yn eindarlleniadau heddiw. Cawn ein cyflwyno i’rArglwydd sy’n ein hadnabod yn berffaith,a’n prynodd yn berffaith, ac addatguddiodd ei hun yn berffaith yn IesuGrist. Mae pob un o’r adrannau yn haeddusylw unigol. Nid yw hynny’n bosib o fewnrhychwant ein myfyrdod!

    DARLLENIAD 1: Salm 139:1-18 –Creadigaeth Duw

    Nid gwerslyfr bioleg na seicoleg yw’r hyna welwn yn y Salm ond datganiadbarddonol a diwinyddol o’n statws a’nhurddas fel pobl gerbron yr Arglwydd.Nid opsiwn y medrwn dicio blwch wrthfynd ar lein, ar wefan newydd, sy’n gofynam ganiatâd i storio gwybodaethamdanom yw’r Hollalluog. Mae disgleirdebei bresenoldeb yn mynnu adnabod,datgelu a chofleidio am na all beidio â bodyr hyn ydyw.

    ad 1-6 Yr Arglwydd sy’n gweld : Mae’ndebyg yr hoffem feddwl bod yna bethauamdanom nad oes unrhyw un arall yngwybod amdanynt. Gallwn wisgo’r ‘wyneb’sydd ei angen, neu’r wisg addas ar gyferamgylchiadau gwahanol, a hyd yn oedfabwysiadau’r iaith sydd fwyaf addas argyfer sefyllfaoedd amrywiol ein bywydau.Gallwn guddio. Cuddio ein hofnau, einhagweddau, ein siomedigaethau, eingalar, ein chwerwedd, ein sinigrwyddayyb. Bydd y rhai sydd agosaf atom yngweld heibio i’r mwgwd, ambell i waith.Ond mae’r Arglwydd yn adnabod – yn‘deall’ yn ‘mesur’ ein cerddediad a’n

    geiriau i gyd. Dyma un sy’n adnabod acyn gosod ei law arnom er gwaethaf yr hynmae’n ei weld.

    ad 7-12 Yr Arglwydd sy’n hollbresennol :Weithiau, fe hoffem guddio oddi wrth yrArglwydd a’i drem. Weithiau fe deimlwnein bod wedi colli presenoldeb yrArglwydd mewn tywyllwch neu yn nuwchein profiadau. Y gwir yw na all y tywyllwch,y wawr, y nefoedd na Sheol ein cuddioo’i olwg. Os yw’r nos yn cau amdanom(ad11) ni all y nos symud gofal ‘dy lawdrosof.’ (ad 5) Neu yng ngeiriau’rTestament Newydd, ‘Pwy a’n gwahanani oddi wrth gariad Crist?’

    ad 13-18 Yr Arglwydd sy’n weithredolgreadigol : Mae deall arwyddocâd yrwybodaeth yma am ddaioni’r Arglwydd ynchwyldroadol. Ei adnabyddiaeth a’i allucreadigol a roddodd fod i ni – yn gorff,meddwl ac enaid – yn y lle cyntaf, ac arddiwedd ein hoes bydd ei ddaioni’nparhau i roddi urddas i’r hyn ydym!

    DARLLENIAD 2: Ioan 1:43-51 –Teml Dduw

    O’r holl bethau a roddodd ‘urddas’ neu‘werth’ neu ‘bris’ arnom fel bodau dynolnid oes dim i’w gymharu â hyn, sef, body ‘Gair,’ trwy’r hwn y crëwyd y byd, wedigwisgo cnawd dynol. Ar ddiwedd eigyflwyniad i weinidogaeth Iesu Gristmae Ioan yn ein tywys at sgwrs rhwngNathanael ag Iesu. Prin y gallai’r‘Israeliad gwerth yr enw, heb ddim twyllynddo’ fod wedi sylweddoli arwyddocâdei gyffes mai ‘ti yw Mab Duw, ti yw breninIsrael.’ (ad 49)

    Newidiwyd Jacob, y twyllwr, wrth iddoymgodymu gydag angel a rhoddwyd yrenw Israel iddo. (Genesis 32:28) RoeddNathanael yn Israeliad heb dwyll!

    Ond roedd Jacob, pan oedd ar ffo rhagei frawd Esau am iddo ei dwyllo ac amiddo ddwyn ei enedigaeth fraint oddiwrtho wedi cyfarfod â’r Arglwydd Dduwmewn breuddwyd. (Genesis 28) Yno ymMethel gwelodd ‘ysgol wedi ei gosod ar yddaear, a’i phen yn cyrraedd i’r nefoedd,ac angylion Duw yn dringo a disgyn arhyd-ddi.’ Lle ofnadwy oedd Bethel –‘tª Dduw a dyma borth y nefoedd.’

    Wrth atgoffa Nathanael o’r digwyddiadhawliodd Iesu mai ef ei hun bellach ywTeml Dduw – y man y mae Duw’npreswylio, mai ef yw Bethel Duw sydd a’idraed ar y ddaear ond sy’n borth i’r nef. Dyma’r Gair a ddaeth i’n plith, mewncnawd meidrol, yn llawn gras agwirionedd tuag atom.

    DARLLENIAD 3: 1 Corinth 6:12-20 –Teml yr Ysbryd Glân

    Ar hyd canrifoedd cred mae rhai weditybied bod cyffyrddiad gras â chalonrhywun rhywsut yn cyffwrdd â’i enaid ynunig. Marwol yw’r corff. Anfarwol yw’renaid. Ond fel y gwelsom yn Salm 139mae’r Arglwydd yn grëwr corff, meddwl,ysbryd. Mae’n adnabod y cwbl ydym mordrwyadl fel nad oes cyfrinach yn bosibrhyngom â Duw. Yng Nghrist daeth y Gairyn gnawd. I Gristnogion cyntaf Corinth,oedd yn naturiol wedi eu dylanwadu ganfeddyliau Groegaidd am ‘gorff’ ac ‘enaid,’a’r ddeuoliaeth rhwng yr ysbrydol ‘da’, a’rmaterol ‘drwg’ a’r corfforol ‘gwael’, hawddbyddai synied nad oedd anfoesoldebcnawdol yn effeithio ar feddwl nac arenaid person.Ond mae dysgeidiaeth yr apostol ynbellgyrhaeddol. Cawsom ein prynu’nllwyr – gorff, meddwl ac ysbryd gandrugaredd Duw. Nid yn unig y cawsom ein‘creu’ gan Dduw ond cafodd ein cyrff hydyn oed eu prynu am bris gan aberth IesuGrist. Fel yr atgyfodwyd ef caiff ein cyrffeu codi drachefn gyda Christ. (ad 14) Ynwir ‘aelodau’ o Grist ydym. Nid einheneidiau’n unig a brynwyd ond ein cyrffhefyd fel ein bod fel unigolion ac felcynulleidfaoedd rhywsut yn ‘deml’ llemae’r Ysbryd Glân yn cartrefu. Gwyddai’rCorinthiaid beth oedd temlau ac allorau i’rduwiau a’r eilunod gwahanol a gartrefaiynddynt. Gwyddent fod gan bob un eiaberthau, ei berarogl, ei eilun igynrychioli’r duw. Temlau statig oeddynt idduwiau marw. Yn awr, trwy bryniant, trwyfewn-gartrefiad yr Ysbryd Glân daethant iadnabod Iesu, a daethant yn demlau bywiddo, yn demlau oedd yn dwyn yr YsbrydGlân i bob cylch o fywyd. Fe’n prynwyd, gorff ac enaid. Adferwyd yreilun syrthiedig. Yn awr y mae Duw mewnffordd ddirgel wedi dod i mewn i gnawddynol.

    Myfyrdod tawel a gweddi dros ein byd...

    Gweddi i gloiSanctaidd Dduw, yr wyt yn cynnal yr hollgreadigaeth yn nisgleirdeb dybresenoldeb ac yr wyt yn datguddio dyhun i ni drwy Iesu Grist fel ein Gwaredwr.Tyrd a’th iachâd i friwiau’n hoes, gangyfannu’r hyn sy’n ddrylliedig, gan lefarugair o wirionedd i’r rhai sy’n cael eu twylloa disgleirio lle mae tywyllwch. Cyflawnady waith drwy’r greadigaeth newydd athrwy’r greadigaeth oll drwy Iesu Grist,Amen.

    EMYN 731: Gariad dwyfol uwch pob cariad

    Dyma gyfarfod hyfryd iawn…

    Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

    Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.