19
1 Eisteddfod Bro Hydref-Trevelin 2014 Yn y rhifyn hwn: Te yn y Ganolfan—tudalen 5 Cystadleuaeth—tudalen 10 Cyfweliad—14 Eluned Evans Grandis Papur Bro Hydref (Trevelin ac Esquel) Gorffennaf 2014 Pris: $10 Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn yn Nhrevelin eleni. Darllenwch adroddiad Eluned Jones ar dudalen 9.

Llais yr Andes gorffennaf 2014

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Dyma rifyn mis Gorffennaf o 'Llais yr Andes'. Darllenwch a mwynhewch! This July edition of 'Voice of the Andes'. Read and enjoy! La version de Julio de "Llais yr Andes"

Citation preview

Page 1: Llais yr Andes gorffennaf 2014

1

Eisteddfod Bro

Hydref-Trevelin 2014

Yn y rhifyn hwn:

Te yn y Ganolfan—tudalen 5

Cystadleuaeth—tudalen 10

Cyfweliad—14

Eluned Evans Grandis

Papur Bro Hydref (Trevelin ac Esquel) Gorffennaf 2014

Pris:

$10

Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn yn Nhrevelin

eleni. Darllenwch adroddiad Eluned Jones ar dudalen

9.

Page 2: Llais yr Andes gorffennaf 2014

2

Oedfaon

Daeth gynulleidfa dda ynghyd ddydd Sul yr 22ain o Orffennaf yng nghapel Bethel

Trevelin am 11 y bore. Trefnwyd y gwasanaeth gan Eluned ac Isaías a chafwyd eitem

arbennig gan blant meithrin Ysgol Gymraeg Trevelin. Yn y prynhawn cafwyd oedfa

yng nghapel Seion Esquel gyda the yn y Ganolfan i ddilyn. Diolch i Vilma Eleri am ei

chymorth mawr.

Eich papur bro chi ydy hwn, felly cofiwch anfon eich cyfraniadau ar gyfer y rhifyn nesaf

at Eluned - [email protected]. Diolch yn fawr.

Cymraeg yn y gweithle

Ers cwpwl o fisoedd, dw i wedi bod yn dilyn cwrs Cymraeg ar gyfer pobl

sydd yn gweithio ym myd twristiaeth yn Swyddfa Dwristiaeth Esquel.

Ro’n i wedi clywed yr iaith hon yn cael ei siarad gan deuluoedd a

ffrindiau ers dipyn o amser ac ro’n i’n meddwl ei bod hi’n hen bryd i

minnau hefyd geisio dysgu siarad yr iaith. Hyd yn hyn, dw i ddim yn ei

gweld yn rhy anodd a gydag athrawes dda fel Soraya Williams i’m helpu,

dw i’n dysgu mwy a mwy drwy’r amser. I mi, y geiriau allweddol sydd yn

agor drysau ac sydd yn gwneud i bobl fod mewn hwyliau da ydy ‘os gwelwch yn dda’ a ‘diolch’.

Luis Carrizo

Eleni, dw i wedi cael cyfle i roi dosbarthiadau Cymraeg i staff Swyddfa

Dwristiaeth Trevelin. Diolch i Alexis Tiznado, pennaeth Twristiaeth Trevelin

am gytuno i hyn. Dw i’n eu dysgu nhw i ynganu enwau megis Capel Bethel,

Bedd Malacara a llawer o lefydd eraill yn gywir ac hefyd yn dysgu nhw sut i

gyfarch yn y Gymraeg. Mae’r pedwar ohonyn nhw yn dda iawn ac yn hoffi

dysgu’r pynciau gwahanol. Mae’n brofiad hyfryd i fi hefyd.

Estela Jones

Page 3: Llais yr Andes gorffennaf 2014

3

Sioe Frenhinol Cymru Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi rhoi stondin i Esquel

a Threvelin yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Bydd dirprwyaeth o 6 aelod o

Gymuned Gymraeg Esquel a Threvelin yn gyfrifol am eu stondin yn y

Pafiliwn Rhyngwladol, gan gynnwys 3 ffermwr sy’n siarad Cymraeg a 3

thiwtor Cymraeg o Ysgol Gymraeg yr Andes Esquel a Threvelin.

Mae Jeremy Wood, 62 oed, yn byw yn Esquel gyda’i wraig Cristina a’u mab ifanc Tomos. Mae Jeremy yn

ysgrifennu am hanes y Cymry ym Mhatagonia ac mae’n gweithio ym maes twrsitiaeth leol. Y mae’n aelod

o Bwyllgor Cymraeg Trevelin. Jeremy drefnodd deithiau Siân Lloyd a Rhys Meirion (ddwywaith) i

Batagonia. Ymfudodd gyndadau Jeremy a Cristina o Orllewin Cymru.

Ffermwraig (gwartheg Henffordd) o Drevelin ydy Margarita Jones de Green, 59 oed, a hi hefyd ydy

sylfaenydd "Patagonia Céltica", yr ŵyl Geltaidd a gynhelir yn Nhrevelin bob blwyddyn ar y penwythnos

agosaf at Ddydd Gŵyl Dewi. Mae Margarita yn briod â Charlie ac mae ganddynt 3 mab. Daeth ei

chyndadau o Lanarmon-yn-Iâl yn Sir Ddinbych. Mae’n aelod o Orsedd Beirdd Y Wladfa.

Ffermwr o Drevelin ydy Alejandro Jones, 32, yn ogystal ag un o gantorion a chyfansoddwyr mwyaf

adnabyddus yr ardal, a hynny fel unawdwr a deuawdwr gyda’i frawd Leonardo. Mae’n briod ag Erica ac

mae ganddynt un mab ac un ferch. Treuliodd Alejandro ddwy flynedd yn ffermio yn Llanuwchllyn yn

2005 a 2006, a bu hefyd yn canu gyda Chôr Cymysg Llanuwchllyn a Chôr Godre'r Aran. Daeth un o

gyndadau Alejandro, John Daniel Evans (Aberpennar) i Batagonia ar long y Mimosa yn 1865 ac mae

cyndadau eraill iddo a’u gwreiddiau yn Nhroedrhiwdalar a Betws y Coed.

Mae Sara Borda Green, 26, yn athrawes o Drevelin ac yn dod o deulu ffermio lleol (defaid, gwartheg a

chnydau porthi). Mae’n dysgu yn Ysgol Gymraeg yr Andes, mewn ysgol gyfun leol ac mewn Canolfan

Saesneg breifat. Hi sydd y tu ôl i wefan y fro, www.patagonia2015.com. Dyma fydd ei thrydydd

ymweliad â Chymru– treuliodd gyfnod fel disgybl yn Ysgol Gyfun Gwyr ac yn fyfyrwraig ar gwrs haf ym

Mhrifysgol Caerdydd. Un o’i chyndadau enwocaf ydy Richard Jones "Berwyn" o Glyn Ceiriog, a ddaeth i

Batagonia ar y Mimosa ac a oedd yn groniclwr i’r Wladfa ac yn athro cyntaf yno. Mae hi hefyd yn

ddisgynnydd i ymfudwyr o Aberdâr a Chaer.

Ganwyd Liliana Celia Carballo, 58 oed, ym Muenos Aires a dysgodd hi Gymraeg pan ddaeth i fyw i

Esquel. O ystyried ei bod eisoes yn siarad Sbaeneg, Rwsieg, Saesneg a Ffrangeg, does dim syndod iddi

hi lwyddo i feistroli’r iaith yn eithaf cyflym, ac ers hynny y mae wedi ennill ysgoloriaeth i astudio’r

Gymraeg yn ysgol haf Prifysgol Caerdydd ddwywaith. Y mae hi bellach wrth gwrs yn diwtor Cymraeg yn

Ysgol Gymraeg yr Andes Esquel. Mae'n briod gydag un mab ac un ferch. Nid oes ganddi unrhyw waed

Cymraeg ond, yn ei geiriau ei hun, “Y Gymraeg ydy iaith fy nghalon”.

Cafodd Isaías Grandis, 31, ei eni yn nhalaith Córdoba yng Nghanolbarth yr Ariannin a symudodd ef a’i

deulu i fyw i Drevelin pan oedd yn bedair oed, lle ddaeth mewn cysylltiad â’r iaith Gymraeg a’r

diwylliant Cymreig am y tro cyntaf. Ymddiddorodd yn fawr yn yr iaith Gymraeg ac y mae bellach yn

diwtor Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes Trevelin. Mae Isaías hefyd yn athro twristiaeth, yn

dywysydd dwyieithog trwyddedig ac yn pregethu’n y capeli lleol. Y mae wedi cofrestru fel myfyriwr

dysgu o bell gyda Choleg Gwyn Bangor er mwyn ennill cymwysterau pellach drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n briod ag Eluned, o Sir Gaerfyrddin. Isaías oedd enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod

Genedlaethol Bro Morgannwg 2012. Mae’n aelod o Orsedd Beirdd y Wladfa a bydd yn cael ei dderbyn

yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gaerfyddin, Llanelli eleni.

Y criw yn cael croeso

cynnes yng nghartref

Dafydd a Meri

Griffiths ar eu noson

gyntaf yng Nghymru.

Page 4: Llais yr Andes gorffennaf 2014

4

Cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol 2015

Dyma eiriau cystadleuaeth 2015 - sylwer fod y gystadleuaeth ar gyfer rhai sydd wedi dysgu

Cymraeg fel ail iaith.

“Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr

Ariannin” (yn gyfyngedig i rai sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith).

Y Wladfa ddoe, heddiw ac yfory

Beirniad: Shirley Williams

Gwobr: £200 (Cymdeithas Cymru-Ariannin Gwobr goffa Shan Emlyn: rhodd gan ei merched,

Elin Edwards a Mari Emlyn)

Dyddiad cau: 1 Ebrill 2015

I'w gyrru i: Ceris Gruffudd (Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin)

Ysgoloriaeth Tom Gravell

Y mae Ysgoloriaeth Tom Gravell yn rhan bwysig iawn o’r cysylltiad rhwng

Cymru a’r Wladfa. Ers ei sefydlu yn 2003, y mae deuddeg disgybl o

Batagonia wedi cael profiad bythgofiadwy fel myfyrwyr yn y coleg

adnabyddus hwn yn Sir Gaerfyddin. Rhoddir ysgoloriaeth flynyddol i

fyfyriwr o’r Wladfa i fynychu Coleg Llanymddyfri am dymor, ac os ydych

chi am gael eich ystyried am 2015, gofynnwch i Eluned am ffurflen gais os

nad ydych chi wedi gwneud eto.

Eryri: Nel Bere Coleg Meirion Dwyfor Sara Alis William Ysgol Tryfan Bangor Ceredigion: Rhian Eleri Floyd Ysgol Gyfun Aberaeron Carys Mair Jones Ysgol Bro Pedr Jemma Hennighan – Ysgol Penglais Dinbych: Sion Ifan McKee Ysgol Brynhyfryd Dafydd Allen Ysgol Glan Clwyd Meirionnydd: Tomos Dafydd Roberts Coleg Meirion Dwyfor Powys: Lleu Bleddyn Ysgol Bro Ddyfi Gwen Marged Jones Ysgol Uwchradd Llanfyllin Conwy: Erin Maelor Williams Ysgol y Creuddyn Dafydd Rhodri Evans Ysgol y Creuddyn

Fflint: Ciara Wyn Conlon Ysgol Maes Garmon Môn: Ffion Haf Thomas Ysgol David Hughes De Ddwyrain: Tyler Nicole Richards Ysgol Cymer Rhondda George Marsden Ysgol Cwm Rhymni Charly Ann Brookamn Ysgol Gyfun Garth Olwg Nannon Evans Ysgol Gyfun Glantaf Rhydian Jenkins Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd Caerdydd: Cadi Dafydd Ysgol Plas Mawr Bedwyr ab Ion Thomas Ysgol Plas Mawr Caerfyrddin: Elen Martin Ysgol Bro Myrddin Sadie Davies Ysgol y Strade Sir Benfro: Lisa Penfold Ysgol Preseli Mari Llewelyn Ysgol Preseli

Dyma enwau’r bobl ifanc fydd yn ymweld â Phatagonia ar Daith yr Urdd eleni. Edrychwn

ymlaen at eu croesawu i’r Andes:

Page 5: Llais yr Andes gorffennaf 2014

5

Te yn y Ganolfan Roedd hi’n heulog ac oer. Cafwyd yr Acto yn y bore yng nghanolfan hamdden Ysgol 112 lle y cariwyd baneri’r Ariannin a Chymru, yn cynrychioli Cymdeithas Gymraeg Esquel a’r Ysgol Gymraeg, gan fechgyn y cwrs Wlpan. Trefnwyd te traddodiadol yng Nghanolfan Hazel Charles Evans i ddathlu’r achlysur bwysig yma yn hanes ein gwlad, a fuodd am flynyddoedd yn brwydro dros ein hannibyniaeth dros ddau gant o flynyddoedd yn ôl. Roedd y Ganolfan dan ei sang am bump o’r gloch, a merched y Gymdeithas wedi paratoi y byrddau yn ofalus. Roedd y platiau yn llawn bara menyn, sgons, jam, caws a phob math o gacennau yn eich gwahodd i dreulio prynhawn bythgofiadwy yng nghwmni ffrindiau a cherddoriaeth glasurol. Ar ôl mwynhau’r fath wledd, cafwyd y pleser o edrych ar sioe ffasiwn. Yr oedd merched ifanc yn dangos hen ffrogiau priodas a phen-blwydd pymtheg oed rhai gwragedd yr ardal. Synnwyd wrth weld y ffrogiau wedi cael eu cadw mor dda dros gymaint o flynyddoedd. Hyfryd oedd gweld bod y rhan fwyaf o’r gwragedd yn bresennol yn y neuadd. Cafodd rai ohonynt y fraint o orymdeithio gyda’r top models oedd yn gwisgo eu ffrogiau. Emosiynol iawn oedd gweld Esther gyda’i hwyres; Gweni, Lizzie ac Aira yn cerdded trwy’r neuadd fraich ym mraich gyda’r fodel a oedd yn gwisgo’u ffrog. Diolch am garedigrwydd Juliana, Rocío, Juana a Nuria a wisgodd y dillad hyfryd yma. Treuliodd bawb amser gwych ar bnawn Sul y 25ain o Fai. Efallai y bydd mwy i gael y flwyddyn nesaf i ddathlu canmlwyddiant a hanner y Wladfa. Gladys Jones

Page 6: Llais yr Andes gorffennaf 2014

6

Eisteddfod Ddwl Trevelin

Er gwaetha'r tywydd gaeafol nôl ym mis Mehefin, daeth grŵp bach da ohonom ynghyd

yn Ysgol Gymraeg Yr Andes Trevelin, a chafwyd noson o adloniant yng nghwmni

athrawon a myfyrwyr. Beirniad yr Eisteddfod Ddwl oedd Clare a chyflwynwyd y

cystadlaethau gan Eluned. Ynghyd ag hen ffefrynnau megis adrodd am nôl a stori a

meim, cafwyd cystadlaethau eraill a oedd yn cynnwys côr Meithrin, garglio Sosban Fach

a gwneud siapau arbennig allan o ddarnau o gaws! Uchafbwynt y noson oedd y

gystadleuaeth dawnsio i bensiynwyr. Roedd pawb yn rhowlio chwerthin a'r 'pensiynwyr'

yn mynd amdani! Noson fach lwyddiannus iawn - diolch i bawb am ddod!

Twmpath Esquel

Cafodd Ysgol Gymraeg Yr Andes Esquel gyfle i groesawu rhai o fyfyrwyr ifanc Ysgol

Gymraeg Trevelin mewn Twmpath a drefnwyd er mwyn codi arian i'r ysgol. Jessica

Jones oedd yn galw. Braf oedd gweld rhai o blant bach y dosbarth Meithrin yn

bresennol gyda'u rhieni yn ogystal ag arddegau Wlpan 1 a 2 (er bod un neu ddau ohonyn

nhw'n swil i ddawnsio!) Diolch i Gladys a Marina a fu'n brysur yn y gegin yn paratoi cŵn

poeth blasus i ni. Cafwyd cyfle hefyd i fwyta llond bol o hufen iâ yn ogystal â chanu

pen-blwydd hapus i Tomi Wood a oedd yn dathlu'i ben-blwydd yn bedair. Diolch iddo am

rannu'i gacen gyda ni! Edrychwn ymlaen at fwy o ddawnsio gwerin yn y gwanwyn pan

fydd plant a phobl ifanc y ddwy ysgol yn gwneud gweithgareddau hwyliog ar y cyd yn

Nhrevelin fel a wnaethpwyd yn Esquel y llynedd.

Page 7: Llais yr Andes gorffennaf 2014

7

Llŷr Gwyn Lewis

Treuliodd drigolion Esquel a Threvelin noson ddifyr iawn yng nghwmni'r bardd ifanc

Llŷr Gwyn Lewis ar y 23ain o Fai yn y Ganolfan yn Esquel. Cafwyd noson o ddadansoddi

a gwerthfawrogi barddoniaeth cyn mynd ati i farddoni eu hunain. Roedd yr awen yn llifo

i bobl Yr Andes wrth iddyn nhw grefftio cwpledi a phenillion! Yn wir, treuliwyd orig

hwyliog iawn yng nghwmni Llŷr a’i gariad Lowri.

Dyma’r cerddi a gyfansoddwyd ganddynt:

Y Deinasôr

Yn yr Allora darganfod wnawn

Yr hen ddeinosôr yn y pnawn.

Fo ydy’r mwya’ yn y tir

Ei gynffon a’i wddw hir.

Yn Fferwglio gwelwn o

Yn cysgu’n dawel dan y to.

Ym mynwent yng nghanol y Paith

Byddent yn treulio eu dyddiau

maith.

Sonza Nigro yn hapus o hyd

Ymwelwyr o ddaw o ben draw’r

byd.

Veronica hefyd sy’n llawenhau

Achos bod gwaith i’w gwblhau!

Yr Andes

Pan fydd hi’n eira ym mis

Mehefin

Dewch i sgïo i Drevelin.

Pobl Nantfach sydd â golwg iach,

Braf yw mynd yno i gael te bach.

Croesi’r ffin i gyrraedd Chile,

Bwyta empanadas poeth â tsili.

Cychwynwn wedyn am Bariloche,

Edrychwn ymlaen at gael cafe

con leche.

Beth am fynd i weld Cerro Otto

Ac o fan yna yn ôl mewn Don

Otto.

I Esquel, ac yn syth i’r hotel i

gysgu, bwyta a phesgi, o wel!

Awn yna i weld bedd Malacara,

Cyn mynd at Clery i bobi bara.

Cyrraedd adre ar ôl sbel,

Wedi llwyr ymlâdd, wel wel, am

ddel!

Page 8: Llais yr Andes gorffennaf 2014

8

Gŵyl y Glaniad

Awn i ddathlu Gŵyl y Glaniad

Lawr i Madryn cyn cael panad.

Gadael y cŵn cyn teithio i lawr

Gadael yr Orsedd a’r Afon Fawr.

Cofiwn Aber Gyrens a’i hanes

Pentre Sydyn a’r gymdoges.

Pawb yn hapus, neb yn cwyno

Pwy sy’n gallu peidio ag ymuno!

Clwb Siarad Trevelin yn croesawu Llŷr a Lowri

Hapus

Mae Isaías ac Eluned wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn

ffilmio plant a myfyrwyr Ysgol Gymraeg Yr Andes,

Trevelin ac Esquel yn dawnsio i'r gân 'Hapus', sef

cyfieithiad Bethan Jones, Menter Caerffili o gân

boblogaidd Pharrell Williams, 'Happy'. Diolch am adael i

ni ddefnyddio'r fersiwn Gymraeg a diolch hefyd i'r prif

leisydd, Carys Lloyd ac i ferched y côr - Mared Thomas, Bethan Jones, Bethany

Thomas, Sophie Shaw a Caitlin Nye.

http://youtu.be/f6GfA4LLEt0

Page 9: Llais yr Andes gorffennaf 2014

9

Gair o’r Gaiman Dyma ni’n dau yma yn y Wladfa yn diolch yn fawr am y

croeso a dderbyniasom ac yn wir, cychwyn ar antur

hollol wahanol i’r hyn a brofasom erioed o’r blaen. Mae’r

ddau ohonom wedi ymddeol bellach. Finnau’n gyn

Brifathrawes ar Ysgol Fabanod a Chynradd. Euros wedi

ymddeol o fod yn berchennog siop bentef ynghyd â

phobydd yn ein popty. Clywais lawer o bethau arbennig am y Wladfa gan fy

ngweinidog y Parchedig Eirian Wyn Lewis.

Mae bywyd yn hollol wahanol i Ewrop. Pethau’n hollol hamddenol, os rhywbeth ar

adegau’n or hamddenol ond yr ydym erbyn hyn yn ymdopi’n iawn â ffyrdd y Wladfa.

Antur fawr oedd herio car a chroesi’r paith di ddiwedd i Eisteddfod Trevelin. Mae

gyrru yn yr Ariannin yn wahanol !!! ac roedd gyrru am chwech awr a hanner bron yn

ddi dor yn brofiad a hanner, ond wedi cyrraedd gwelsom olygfeydd gwych o

fynyddoedd yr Andes o’n blaen ac roedd hyn yn gwneud y daith yn werth chweil

ynddo’i hun. Cawsom groeso yn y Cabañas gan Norma yn ogystal â phrofi profiadau

na fuaswn erioed wedi meddwl amdanynt. Cyfle i werthfawrogi doniau lu yn yr

Eisteddfod a dau ohonynt o’r Dyffryn wedi mentro ar draws y paith i gipio’r Gadair

a’r Goron. Llongyfarchiadau gwresog i Geraldine Mac Burney Jones a Dr. David

Williams. Gwelsom ddawnsio gwerin bendigedig ynghyd

ag adrodd a chanu o safon arbennig.

Bu’n rhaid i ni groesi i wlad Chile i stampio’r pasport

ac roeddwn yn ffodus i gael cwmni Isaías i fynd â ni. Heb

ei Sbaeneg yn sicr ni fuaswn wedi cwblhau’r daith yn

llwyddiannus. Diolch iddo.

Mae nifer yn danfon eu cyfarchion i’r Andes o

Gymru fach gan gynnwys y parchedig Eirian Wyn

Lewis yn ogystal â ffrindiau agos megis y

cynghorydd John Adams Lewis a’i briod Morina.

Diolch yn fawr i Clare, Eluned ac Isaías am eich

cymorth tra’n ymweld â phawb a mawr obeithiwn

groesi eto i’r Andes cyn ymadael am adre.

Eluned Jones

Page 10: Llais yr Andes gorffennaf 2014

10

Dathlu pen-blwydd Mae sawl un wedi bod yn dathlu pen-blwydd yn yr Andes yn ddiweddar:

Iriel Jones, myfyrwraig yn Ysgol Gymraeg yr Andes, Trevelin a wnaeth ddathlu pen-

blwydd arbennig iawn - ei phymtheg oed.

Pen-blwydd Llawen iawn i

Siop Flancedi Cymru

(Blanco de Gales)

Trevelin sydd yn dathlu

dwy flynedd o fodolaeth

ac sy’n mynd o nerth i

nerth. Llongyfarchiadau

a phob dymuniad da ar

gyfer y dyfodol.

Ydych chi’n adnabod y ferch fach

hon sy’n dathlu ei phen-blwydd yn

y llun hwn? Anfonwch eich ateb

at Eluned :

([email protected]) er

mwyn cael cyfle i ennill gwobr!

Page 11: Llais yr Andes gorffennaf 2014

11

O’r dosbarthiadau....................

Hunangofiant Llian Bwrdd

Nest oedd fy mherchennog cynta. Wedi fy nghael yn anrheg briodas gan ei mam. Cotwm o’r siort orau oedd fy nefnydd a llian hardd oeddwn hefyd, un gwyn, mawr a blodau lliw golau wedi eu brodio ar hyd yr ymylon. Edrychai Nest ar fy ôl bob amser. Dim ond ar achlysuron arbennig oeddwn yn cael fy rhoi ar y bwrdd, te ar ôl bedyddio un o’r plant, neu ben-blwydd aelod o’r teulu. Ew! A mi roeddwn yn edrych yn hyfryd, wedi cael fy ngolchi, starshio a smwddio yn dwt. Weithiau byddai tusw o flodau ar y bwrdd ynghanol y llestri lliwgar. Aeth blynyddoedd heibio, roedd tyaid o blant gan Nest. Tyfodd Doreen, yr hynaf, yn ferch dlws iawn ac wrth rheswm, fe briododd hitha rhyw ddiwrnod.

A be feddyliwch oedd ynghanol y pethau roedd ei mam yn rhoi iddi i’w chartref newydd; wel ia, y fi, y llian bwrdd. Roeddwn yn parhau yn gyfan, a’m lliwiau yn cadw yn dda. Athrawes yw Doreen a llawer o ffrindiau yn dod i’w chartref. A finna eto yn gwisgo bwrdd y cartre newydd. Pawb yn dotio – El hermoso mantel de tu mamá! A finna yn falch o gyfrannu at harddwch y gegin. Yno roeddwn ar y bwrdd yn amal iawn.

Un bore, wrth fy rhoi yn y peiriant golchi, sylwodd Doreen fy mod braidd yn fregus, a’m hymylon yn dechra treulio, felly golchodd fi efo’i dwylo, ac ar ôl fy smwddio, fy nghadw mewn bag neilon yn y drôr lle mae’r pethau hen a gwerthfawr yn cael eu cadw.

A dyma fi, yn swatio ynghanol rhyw ddarnau o lês wedi eu crosio gan Nain, ambell ddilledyn babi, a phethau eraill. A rwy’n falch o’m bywyd prysur, ac o fod wedi llawenhau ambell bnawn i’r rhai a ofalodd amdanaf.

Esther Valmai Hughes

Fy hoff ystafell

Dw i’n dewis disgrifio fy ystafell fyw. Mae fy ystafell fyw yn wynebu’r stryd. Mae’r

waliau wedi’u paentio’n wyn. Mae’r nenfwd yn bren ac mae’r llawr o serameg coch

tywyll.

Dwy ffenestr fawr sydd yn yr ystafell gyda llenni gwyn. Mae gynnon ni ddwy gadair

esmwyth ar gyfer unigolion ac un arall i dri pherson, un bwrdd isel, teledu, peiriant

cerddoriaeth a chwpwrdd. Mae un lamp fawr yn hongian o’r to.

Dw i wedi rhoi darlun wnaeth fy merch yng nghyfraith ar y wal, un addurn allan o

ddefnydd o Bolivia, ac un tŷ bychan o’r tywydd (Siôn a Siân oedd fy Nain yn ei alw fo).

Y peth gorau i fi am yr ystafell fyw ydy’r lle tân. Yn y gaeaf dyn ni’n cynnau’r tân yn y

nos ac yn eistedd yn gyfforddus i wylio ffilmiau, gwrando ar gerddoriaeth neu

ddarllen.

Diana Nichols

Page 12: Llais yr Andes gorffennaf 2014

12

O’r dosbarthiadau....................

Susana Weglin dw i a dw i’n dod o Fuenos Aires

yn wreiddiol. Dw i‘n dysgu Cymraeg ers dwy

flynedd efo Isaías. Roedd Margarita’n fy nysgu

cyn hyn. Dw i’n hoffi bwyta milanesas efo sglodion

a dw i wrth fy modd yn seiclo. Dw i eisiau siarad

Cymaeg yn rhugl yn y dyfodol agos. Mae gŵr ac

un plentyn gyda fi. Ci hefyd! Mae siop flancedi o’r

enw ‘Siop Flancedi Cymru’ gyda fi.

Iriel dw i. Dw i’n byw yn Nhrevelin. Dw i’n dysgu Cymraeg ers 12 mlynedd – efo Jessica

pan o’n i’n fach ac efo Isaías ar hyn o bryd. Dw i’n hoffi canu. Fy uchelgais ydy siarad

Cymraeg yn rhugl.

Francis dw i a dw i’n dod o Drevelin yn wreiddiol. Dw i’n dysgu Cymraeg ers saith

mlynedd. Roedd Jessica yn fy nysgu pan o’n i’n fach a rwan Isaías ydy fy athro. Dw i’n

hoffi One Direction yn fawr iawn. Dw i’n hoffi dysgu Cymraeg hefyd a dw i eisiau siarad

Cymraeg yn rhugl.

Ar ddiwedd y tymor

Ar ddiwedd y tymor

pan dw i wedi blino'n lân

mae'r haf yn dod.

Gwaith caled, oer, salwch,

mynd a dod, mynd a dod:

mae popeth yn diflannu

ar ddiwedd y tymor.

Ar ddiwedd y tymor:

pan mae popeth yn newid

a mae'r byd yn mynd yn goch

dw i'n teimlo mor hapus:

mae'r Nadolig yn dod!

A mae blodau yn blodeuo,

a mae ffrwythau yn fwy blasus,

a’u harogl yn hudol,

a mae lliwiau yn llanw'r bywyd

ar ddiwedd y tymor

achos mae'r haf yn dod.

Enillodd Liliana Melnik, Esquel, y Gadair

gyda’r gerdd hon ym Meicro Mini

Eisteddfod Ysgol Gymraeg Esquel ar

ddiwedd y tymor y llynedd.

Page 13: Llais yr Andes gorffennaf 2014

13

Jessica Jones ydw i, dw i’n gweithio yn Ysgol Gymraeg

Trevelin gyda’r dosbarthiadau meithrin ( plant 3-4 oed).

Mae 16 o blant sy’n dod tair gwaith yr wythnos am 3 awr

bob dosbarth i ddysgu Cymraeg. Mae Judith, Sara,

Eluned ac Isaías yn gweithio gyda fi. Mae’r plant wrth eu

boddau yn dod aton ni. Mae’r rhan fwyaf o’r plant yn mynd i

ysgol feithrin arall yn y bore.

Dyn ni’n cael llawer o hwyl yn darllen, canu, dawnsio,

chwarae, edrych ar fideo, paentio, cael sudd neu de a

bisgedi. Dw i wrth fy modd gyda fy ngwaith, mae’r plant yn

gwneud i mi deimlo’n hapus!

Emilia, un o ferched bach ‘Cylch

Ti a Fi Trevelin’ (gyda’i Nain Maria

Esther) yn derbyn copi o cd Twf er

mwyn iddi allu ganu caneuon

Cymraeg adre gyda’i theulu .

Meithrin 2 yn

dysgu drwy

chwarae (gyda

sebon siafio!)

yn Nhrevelin!!

Mae Jessica hefyd yn hyfforddi Grŵp

Dawnsio Gwerin Cwm Hyfryd, a dyma nhw

yma’n perfformio yn Ysgol 18 ar Ebrill 30ain

eleni.

Page 14: Llais yr Andes gorffennaf 2014

14

1. Dywedwch ychydig am eich cefndir.

Lizzie: Mi ges i fy magu ar ffarm yng Nghwm Hyfryd, fues i dair

blynedd mewn ysgol Saesneg yn Nhrelew a phan ro’n i’n 18 mi

es i i Fuenos Aires i astudio i fod yn nyrs.

Esther: Cefais fy ngeni a’m magu ar ffarm.

Aira: Cefais fy ngeni yn Gaiman. Daeth dau Daid ac un Nain o

Gymru ac roedd y Nain arall yn Archentwraig. Rydwyf yn

athrawes wedi ymddeol ers 25 o flynyddoedd.

2. Disgrifiwch ddiwrnod cyffredin i chi ym Mhatagonia.

Lizzie: Rwan dw i wedi ymddeol a dw i’n byw ar fy mhen fy hunan. Dw i’n mynd i’r

dosbarth Cymraeg ac hefyd Saesneg, gwneud ioga ac yn perthyn i gôr ar gyfer pobl

sydd wedi ymddeol.

Esther: Dw i’n hoffi mynd i’r cefn i weld yr adar yn y coed.

Aira: Gofalu am y tŷ, coginio pob math o bethau, darllen Cymraeg a Sbaeneg,

gwylio’r teledu, gweu a mynd i weld ffrindiau.

3. Pa dri pheth allech chi ddim gwneud hebddyn nhw?

Lizzie: Cael y teulu acw yn aml i gael te, cael mate yn y bore a chymeryd bath efo

digon o amser.

Esther: Llyfr, bara menyn a gweld y plant.

Aira: Gweld fy mhlant, clywed y newyddion o’r wlad, y byd a chysylltu efo perthnasau

a ffrindiau o Gymru.

Elvira: Yfed mate, edrych ar y teledu a mynd i La Anónima.

4. Pa un yw diwrnod pwysicaf eich blwyddyn?

Lizzie: Diwrnod fy mhen-blwydd neu ben-blwydd y plant.

Esther: Bob dydd.

Aira: Pan mae’r teulu i gyd efo’i gilydd; plant, wyrion a’r or-

wyres.

5. Pwy yw eich arwr?

Lizzie: Meddyg sydd wedi gweithio yma am flynyddoedd.

Esther: Nelson Mandela.

Aira: Martin Luther King.

Page 15: Llais yr Andes gorffennaf 2014

15

6. Beth sy’n gwneud i chi chwerthin?

Lizzie: Cwrdd â ffrindiau a chael sbort.

Esther: Jôc ddiniwed.

Aira: Aml i jôc.

Yn fyr, beth yw eich hoff:

Lyfrau – Lizzie: Llyfrau Cymraeg a Sbaeneg Esther: Bywgraffiadau Aira: Nofelau ac hanes bobl Elvira: ‘El nombre de la rosa’ Emyn – Esther: ‘Os gwelir fi bechadur’, Clawdd Madog Aira: ‘Dwy aden Colomen’ Elvira: ‘Calon Lân’

Ffilm – Esther: ‘La Novicia Rebelde’ (Teulu Von Trapp) Aira: ‘How green was my valley’

Rhaglen radio a theledu – Esther: Dim llawer o ddim byd Aira: Newyddion ar y radio ac ambell i ffilm

Lle – Lizzie: Esquel Esther: Tecka Aira: Gaiman ac Esquel Elvira: Gaiman

Gair – Esther: Hedd Aira: Diolch

Taith – Esther: I Gymru Aira: I Gymru Elvira: I Gymru

Bwyd – Esther: Milanesas a tatws stwnsh Aira: Cig rost, tatws a grefi Elvira: Pastas

Page 16: Llais yr Andes gorffennaf 2014

16

Ble maen nhw’n awr?

Mae nifer o athrawon a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio yn Ysgol Gymraeg yr Andes Trevelin ac Esquel dros y blynyddoedd, ond beth maen nhw’n ei wneud yn awr? Ydyn nhw’n dal i fyw a gweithio yng Nghymru? Dewch i ni glywed wrth rai ohonynt..............

Treuliais flwyddyn hapus iawn yn Esquel a Trefelin yn ystod 2009-10. Ar ôl

dychwelyd i Gymru, cefais waith fel Cyfieithydd yn Ysgol Morgan Llwyd yn

Wrecsam, a rwyf yn dal i weithio yno nawr. Rwyf wedi parhau i gymryd pob

cyfle i deithio ac wedi bod yn ffodus i ymweld â China, De Ddwyrain Asia,

India, Nepal ac Affrica. Treuliais haf 2012 yn gwirfoddoli fel ‘Gamesmaker’

yng Ngemau Olympaidd Llundain lle’r oeddwn i’n tywys aelodau o bwyllgor

Olympaidd Puerto Rico o amgylch y gemau felly cefais gyfle i ymarfer

ychydig ar y sgiliau Sbaeneg!

Tra’r oeddwn i ar drip i Tanzania yn Affrica fe gwrddais â dyn ifanc o Awstralia a rydyn ni’n priodi’r haf

yma! Mae wedi symud i Gymru i fyw ac wrthi’n dysgu Cymraeg! Un o uchelgeisiau Steffan yw cael

ymweld â Phatagonia felly gobeithio cewn ddychwelyd un dydd!

Lois Eluned Fychan Jones

Ar ôl dychwelyd i Gaerdydd o’r Andes, treuliais i flwyddyn a hanner yn gweithio

mewn cylch meithrin ac ysgol gynradd. Erbyn hyn dwi’n astudio Therapi Iaith a

Lleferydd ym mhrifysgol Reading. Mae’n gwrs pedair blynedd a dwi hanner ffordd

drwyddo fe nawr. Ar ôl i fi orffen fy ngradd hoffwn i weithio gyda phlant, ac efallai

arbenigo mewn dwyieithrwydd. Dwi’n dal i ysu am fynd nôl i’r Andes, gobeithio

rhyw ddydd cyn rhy hir bydd amser (a digon o arian) gyda fi i allu gwneud!

Ilid Haf

Nôl yn 2005 fe es i draw i Batagonia am y tro cyntaf. Ar y pryd mi oeddwn

i’n astudio gradd israddedig Daearyddiaeth ag Anthropoleg ym mhrifysgol

UCL (Llundain) ac fe ges i’r cyfle i neud gwaith ymchwil am fy nhraethawd

estynedig allan yn y Wladfa. Ar ôl pythefnos bythgofiadwy yng nghwmni

trigolion Cwm Hyfryd a’r Dyffryn roeddwn i’n benderfynol o ddychwelyd ar ôl

gorffen fy ngradd. A dyna a wnes i, ym mis Medi 2006 fe ddychwelais i’r

Andes i wirfoddoli yn yr ysgol Gymraeg yn Nhrevelin. Er mae’r bwriad oedd

aros am gyfnod o 3 mis, fe benderfynais aros am flwyddyn yn gweithio yn yr

ysgol, ac yn byw gyda fy nheulu mabwysiedig, y Greens!

Ar ôl dychwelyd i Gymru ym mis Medi 2007 roeddwn i’n benderfynol o wella’n Sbaeneg. Gyda

chymorth ECTARC Llangollen, cynllun sydd yng nghlwm ag Erasmus a Leonardo Da Vinci fe enillais

i ysgoloriaeth i fynd i Sevilla, Sbaen ar gwrs gloywi iaith a chyfnod o brofiad gwaith. Fe dreuliais i 5

mis yn astudio a gweithio i’r elusen Fundomar sy’n cynnig cymorth cyfreithiol a chyffredinol i

fewnfudwyr (yn bennaf o Dde America) sy’n symud i Sbaen. Roedd y cynllun hefyd yn gweithio’n

agos gyda’r cymunedau lleiafrifol yn y ddinas, yn rhedeg gweithdai i blant a phobl ifanc.

Roedd y profiad o weithio mewn sefydliad amlddiwylliannol wedi ysgogi’r awydd i astudio ymhellach.

Ym mis Gorffennaf 2008 fe ddechreuais i gwrs MA Astudiaethau Datblygiad ym Mhrifysgol Sydney,

Awstralia. Roedd y cwrs yn cynnig ymagwedd amlddisgyblaethol i ddatblygiad, gan gynnwys

sosioieithyddiaeth. O ganlyniad fe gyflwynais i ddarn o waith ar hanes y Wladfa yng nghyd-destun

polisïau iaith yr Ariannin fel rhan o’r cwrs.

Page 17: Llais yr Andes gorffennaf 2014

17

Ble maen nhw’n awr?

Yn 2009 fe wnes i ddychwelyd i Gymru am gyfnod byr cyn symud i Lundain i weithio i’r BBC, er ddim yn siŵr o beth fyddai’r antur fawr nesa, mi oedd hi’n gyfle i fi dreulio amser gyda’n ffrindiau yn y ddinas fawr!

Yna ym mis Ebrill 2010 fe ddaeth y cyfle i ailafael yn fy niddordeb yn y maes sosioieithyddiaeth. Fe ddaeth cyfle o swydd yn gweithio ar y cyd rhwng cwmni cynhyrchu Boomerang a Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect ymchwil i mewn i ymrwymiad plant a’r cyfryngau Cymraeg. Fel rhan o’r cynllun roedd cyfle i fi astudio rhan amser tuag at MPhil (Cwrs Meistri Ôl-raddedig). Pan ddaeth y cynllun i ben yn 2012 fe benderfynais gario ‘mlaen gyda’n hastudiaethau trwy drosi’r MPhil i ddoethuriaeth. Am y ddwy flynedd diwethaf rydw i wedi bod yn gweithio tuag at fy noethuriaeth ym maes sosioieithyddiaeth a’r cyfryngau yn edrych yn sbesiffig ar os ydy’r cyfryngau yn cynnal neu yn cyfryngu syniadau o hunaniaeth wladol ymhlith cynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru.

Mae’r profiad o fyw ym Mhatagonia wedi arwain at nifer fawr o benderfyniadau academaidd a gyrfaol dros y blynyddoedd, ond eleni fe nes i ddathlu un o’r cerrig milltir mwyaf yn fy mywyd hyd yn hyn. Ym mis Ebrill fe wnes i briodi ‘ngŵr yn Y Fenni, ac unwaith eto fe chwaraeodd fy nghyfnod ym Mhatagonia rôl yn y digwyddiad. Tra roeddwn i draw ym Mhatagonia fe wnes i gwrdd â bachgen o Gaerdydd trwy ffrind ysgol ym Muenos Aires. Mi roedd Barrie ar ei wyliau yn yr Ariannin gyda ffrind cilyddol. Ar ôl cwrdd yn 2007 fe gadwon ni mewn cysylltiad rhyw faint ond yna ar ôl dychwelyd i Gymru am waith yn 2010 fe ddechreuon ni ein perthynas. Y gobaith nawr yw dychwelyd i’r Ariannin am wyliau yn y dyfodol agos fel pâr priod.

Helen Davies

Braint ac anrhydedd oedd derbyn gwahoddiad i ddathlu ac i dynnu lluniau ym mendith Eluned ac Isaías yn Llanddarog. Diwrnod arbennig iawn ac atgofion melys o'r adeg cyfarfes ag Eluned - ac hynny yn Esquel, Patagonia Mawrth 2010. Newydd gyrraedd y Wladfa oedd Eluned ar gyfer blwyddyn o ddysgu a gweithio i Menter Patagonia; tra roeddwn i yng nghanol fy nhaith o gwmpas de America a 'pac' ar fy nghefn! Cyrhaeddais Esquel ddechrau Mawrth a threulio cwpwl o wythnosau yno ac yn Nhrevelin. Ces y pleser o gwmni Eluned ar sawl tro yn ystod yr adeg hyn, gan ei helpu gyda gweithgareddau'r Pasg; beirniadu Eisteddfod Ddwl a mwynhau yng nghwmni’r trigolion.

Un pnawn, aethom i dŷ te yn Esquel a threulio oriau yn cloncan, bwyta a chloncan mwy! Dwi'n cofio'r bara menyn, jam a chaws, y cacennau hufen, ffrwyth a phice ar y maen a'r te di-ben-draw! Cofiaf hefyd y sgwrs ddifyr gydag Eluned; yn trafod hyn llall ag arall a chwerthin llawer; ac yng nghanol hyn, dyma Eluned yn sôn am y lluniau ar fy nghamera bach digidol a dywedodd y dylsen fod yn ffotograffydd. Roedd wedi hoffi'r lluniau ac ysgogodd i mi ystyried hyn o ddifri! Ces ambell glod arall fan hyn a fan 'co ond geiriau Eluned sydd yn y cof.

Ar ôl dychwelyd i Gymru ym Mai 2010, es ati i ymchwilio i'r syniad a ches gyfle yr haf hynny i weithio gyda ffotograffydd. Erbyn hyn, ers bron i ddwy flynedd, dwi wedi dilyn fy mhasiwn am dynnu lluniau a nawr dwi’n ffotograffydd priodasau, pobl, plant a phob math o bethau, gan gynnwys gwneud gwaith i'r wasg. Mae'r diolch i Eluned am fy ysgogi - am ei geiriau caredig, ei brwdfrydedd a'i chwmni hael a llon. Mae Isaías yn ŵr lwcus iawn! Diolch am gael rhannu eich diwrnod a dymunaf bob hapusrwydd i chi'ch dau am y dyfodol.

Eluned - Pwy feddyliau dros baned o de yn 2010 y byddem yn ffotograffydd yn dy briodas!!! Joio mas draw!!

Diolch, Helen x (Lluniau Helen E Davies Photography)

Page 18: Llais yr Andes gorffennaf 2014

18

Cwpan y Byd Bu Jere, Mike, Ryan ac Imanol, dosbarth Wlpan 2 (arddegau) Esquel yn siarad am Gwpan Pêl Droed y Byd ar raglen 'Ar y Marc' Radio Cymru gyda Dylan Jones yn ddiweddar. Bu Jessica, Isaías, Ana-Laura a Daiana, Trevelin yn cymryd rhan yn y rhaglen hefyd wrth iddyn nhw ddynwared sut mae cefnogwyr yr Ariannin yn dathlu gôôôôôôôôôôl!!!!

Arwyddion Os ewch chi o gwmpas tref Trevelin, fe welwch fod rhai

arwyddion newydd wedi’u gosod. Isaías Grandis sydd yn

gyfrifol am y prosiect, gyda chymorth y pensaer Fernando

López Guzmán, Alexis Tiznado a Sara Borda Green, i

ddylunio a gosod arwyddion tairieithog (Sbaeneg, Cymraeg

a’r iaith frodorol) mewn llefydd twristaidd a mannau o

ddiddordeb cyffredinol yn y dref.

Gwefan

Cofiwch fwrw golwg ar wefan

dathlu canmlwyddiant a

hanner y Wladfa yn yr Andes

hefyd. Sara Borda Green a

Julio Alonso sydd y tu ôl i’r

wefan sef,

www.patagonia2015.com Yno

gallwch gael gwybodaeth am

ddigwyddiadau,

gweithgareddau a chynlluniau

Pwyllgor yr Andes.

A dyma Jere, Mike, Ryan ac Imanol ar ddiwedd eu harholiad Mynediad ym mis Mehefin. Pob hwyl iddyn nhw a phob dymuniad da gyda gweddill y cwrs Wlpan!

Page 19: Llais yr Andes gorffennaf 2014

19

Geirfa

Pobydd Panadero Bythgofiad-

wy

Inolvidable Uchelgais Ambición

Pwyllgor Comisión Annibyniaeth Independen-

cia

Cyndadau Ancestros Gorymdeithio Desfilar

Cofrestru Registrar Garglio Hacer garga-

ras

Croesawu Dar la bienve-

nida

Cŵn poeth Panchos

Rhodd Regalo Ymdopi Soportar

Alfajorcitos gyda jam llaeth! Blasus iawn :)

Cynhwysion: Halen (ychydig)

Croen lemwn (ychydig)

Rhinflas fanila (ychydig)

3 wy a 2 melynwy

200 gr. menyn

200 gr siwgr eisin

200 gr. blawd codi

400 gr. blawd corn

300 gr. jam llaeth

100 gr. cnau coco wedi gratio

Yn y bowl rhowch dri o wyau gyda menyn. Hefyd ychwanegwch groen lemwn a

fanila.

Yn y bowl arall cymysgwch siwgr eisin, blawd corn, blawd codi gyda halen.

Rhowch yn yr oergell am hanner awr, yna torrrwch gylchoedd bach allan ohono.

Rhowch yn y popty am tua pum munud.

Yna rhowch jam llaeth ar bob un o’r bisgedi a rhoi dau at ei gilydd. Gallwch

orchuddio’r bisgedi gyda chnau coco ac yna dach chi wedi gorffen!

Gan Daiana Mancilla