Upload
owen-jones
View
264
Download
16
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Papur Bro Dyffryn Ogwen
Citation preview
Rhagfyr 2011 Rhif 417 50c
GWASANAETH NADOLIG
CYMUNEDOL
yng Nghapel Jerusalem,
Bethesda,
Nos Sul, 18 Rhagfr 2011
Am 7.00.p.m.
Mae’n draddodiad bellach cynnaly Gwasanaeth hwn ar y nos Sulcyn y Nadolig, er na fu cyfarfod yllynedd oherwydd yr eira mawr.Bwriad y Gwasanaeth yw dod â’rgymuned gyfan at ei gilydd iddathlu’r Ŵyl. Bydd Côr yDyffryn, ynghyd ag unigolion, yncymryd rhan, a gwneir casgliad atachos neu achosion da ar ydiwedd. Estynnwn groeso cynnesiawn i bob un ohonoch i ymuno âni am orig fydd, gobeithio, yn rhoicyfle i ni oedi yng nghanolbwrlwm ein paratoadau, a chofiogwir ystyr Gŵyl y Geni.
NOS Iau, Rhagfyr 1af, cafwyd agoriad ardderchog i’r calendr Adfent yn lleol gyda gwasanaethNadolig ysgolion y fro yng Nghapel Jerusalem, Bethesda. Roedd y noson yn rhan o drefniadauPwyllgor Apêl Dyffyn Ogwen ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2012, ac ymddengys fod
swm sylweddol o oddeutu £900 wedi’i godi! Llongyfarchiadau i blant Abercaseg, Bodfeurig, Llanllechid,Pen-y-bryn, Tregarth a Dyffryn Ogwen am wneud eu gwaith mor raenus ac am gynnig adloniant gwerthchweil ar noson mor oer. Diolch hefyd i’r pwyllgor lleol am eu gwaith caled.
“Dewch at eich gilydd..”
“... a bloeddiwch ynghŷd...”
Haleliwia!”
Ond, yn awr, mae’r cyfrifoldeb arysgwyddau’r to hŷn. Ar Nos Sul,18 Rhagfyr cynhelir GwasanaethNadolig Oedolion y Dyffryn yn yrun lle. Ie wir, “Down at ein gilydd,a bloeddiwn ynghŷd.”
“Fel un,
Llais Ogwan
Derfel Roberts [email protected]
ieuan Wyn [email protected]
Lowri Roberts [email protected]
Elina Owen [email protected]
fiona Cadwaladr Owen [email protected]
Siân Esmor Rees [email protected]
Emlyn Evans [email protected]
Neville Hughes [email protected]
Dewi a Morgan [email protected]
Dafydd fôn Williams [email protected]
Walter W Williams [email protected]
SWyDDOGiON
Cadeirydd:André Lomozik, Zakopane,7 Rhos-y-Coed, Bethesda, Bangor,Gwynedd LL57 3NW 602117
Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]
ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]
Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ 600872
y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN 600184
PANEL GOLYGYDDOL
£18 Gwledydd Prydain£27 Ewrop£36 Gweddill y Byd
Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]
-
Golygydd y Mis
archebu Llais Ogwan drwy’r Post
DyDDiaDuR y DyffRyN Rhoddion i’r Llais
Llais Ogwan 2
Clwb Cyfeillion Llais Ogwan
Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:
Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853
Llais Ogwan ar Dâp
Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan
Cysodwyd gan Tasg, Gorffwysfa, Sling,
LL57 4RJ 01248 [email protected]
Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY
07902 362 213
CydnabyddirCefnogaeth
Nid yw pwyllgor Llais Ogwanna’r panel golygyddol o
angenrheidrwydd yn cytuno âphob barn a fynegir gan ein
cyfranwyr.
Rhagfyr 2011
16 Bingo at Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Gwynedd. Canolfan Glasinfryn am 6.30.
17 Ffair Nadolig Pesda Roc gydag Ogof Siôn Corn. Neuadd Ogwen. 10.00 – 1.00
17 Parti Dolig Pesda Roc gyda Martin Beattie. Neuadd Ogwen am 8.00
18 Gwasanaeth Nadolig Cymunedol. Capel Jerusalem, Bethesda, am 7.00
18 Gwasanaeth Carolau. Eglwys y Gelli am 9.45 y bore.
20 Glain Dafydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor, gyda Band Jazz Ysgol Tryfan am 7.30.
22 Carolau yn Llys Dafydd o tua 7.30yh ymlaen.
Ionawr 2012
07 Bore Coffi Mini Rygbi. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00
09 Merched y Wawr Tregarth. Festri Shiloh am 7.00
11 Cymdeithas Lenyddol Gofalaeth Bro Dyffryn Ogwen. Festri Bethlehem Talybont am 7.00
14 Bore Coffi NSPCC. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00
17 Cyfarfod Blynyddol Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.
21 Bore Coffi Cyfeillion Ysgol Abercaseg. Neuadd Ogwen. 10.00 -12.00
26 Merched y Wawr Bethesda. Cefnfaes am 7.00
28 Bore Coffi Canolfan Rachub. Neuadd Ogwen. 10.00 - 12.00
31 Cangen Plaid Cymru Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.00
Golygwyd y rhifyn hwn gan Lowri Robertsa Walter Williams. Golygyddion misIonawr fydd Lowri Roberts, 8 Pen-y-ffriddoedd, Tregarth LL57 4NY [email protected] a Walter W.Williams, 14 Erw Las, Bethesda LL57 3NN01248 [email protected]
Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher 4Ionawr os gwelwch yn dda. Plygu nos Iau,19 Ionawr yng Nghanolfan Cefnfaes am6.45
£6.00 Pauline a Raymond Edwards, Llandygái
£3.00 Joyce Foggin, Warrington
£5.00 Llewela o’Brien er cof am ei hannwyldad, Cyril Thomas, 22 Maes Ogwen, Tregartha hunodd yn dawel ar 13 Rhagfyr 1988
£14.00 Dienw, Llandygai
£10.00 Er cof annwyl am Gwyn Davies, 21Rallt Isaf, Gerlan, ar ei ben-blwydd, oddi wrthAngela a’r plant, Mam a Dad, Paul, Sioned a’rplant
£40.00 Ann Parry, 43 Adwy’r Nant, Bethesdaer cof am Bob Parry a John Gareth Parry
£20.00 Er cof am Joyce Thomas, 3 BronArfon, Rachub, oddi wrth y teulu
£20.00 Er cof annwyl am Glenys Evans,Gernant, ei brawd, Gwil Jôs a William JohnEvans 15 Ffordd Llanllechid (helpar SiônCorn) oddi wrth Gwil Rees, Karen, Tom, Ceri,Stephen ac Elen - XXX
£5.00 Nance Owen, 8 Rhes William, Bethesda
Dafydd Pritchard, 17 Rhes Elfed, Bethesda ercof am ei fab Robert Werner Pritchard, a fufarw ar 26 Rhagfyr 2003 yn 32 mlwydd oed.
£5.00 Heather a Gwilym, Ffordd Llanllechid,Rachub er cof am Dylan
£10.00 Er cof am Martin Edward Owen, 18Maes y Garnedd, Bethesda a fu farw ym misAwst 1996 yn 24 mlwydd oed
Gwobrau Blynyddol£100 (102) Dafydd Gwilym Jones,
8 Pantglas, Bethesda£ 75 (25) Gina Griffiths, Caffi
Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda
£ 50 (131) E. Mary Jones, Pengraig, Erw Las, Bethesda
£ 25 (168) Mair Williams,25 Arafon, Mynydd Llangygái
£ 25 (192) Carys Dafydd, Llys Llywelyn, Braichmelyn.
Gwobrau Mis Rhagfyr£30 (69) Eira Hughes, 29 Ffordd
Ffrydlas, Bethesda£20 (31) Alwenna Puw,
Arllechwedd, Cefn y Bryn, Bethesda
£10 (174) Jo. M. Oliver, Maes y Grug, Ffordd Bangor, Bethesda
£ 5 (40) Barbara Owen, 6 Rhos y Nant, Bethesda.
Llais Ogwan 3
Annwyl Olygydd
BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda( 600431
John Wyn Jones, Siop W E Jones (Siop John), Rhes Fictoria(Stryd Fawr), Bethesda ( 600251
Fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW ( 601592
Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda ( 601902
Priodas AurDaeth i sylw’r Llais fod Sulwen aLlyfnwy Lloyd, 33 Glanogwen,wedi dathlu 50 mlynedd o fywydpriodasol yn ystod yr haf.Llongyfarchiadau a phobdymuniad da iddynt. Maent ynddiolchgar i bawb am y cardiaua’r anrhegion i gyd.
Cyfarfod SefydluRydym yn anfon eindymuniadau gorau i’r BarchedigCarol Roberts a’i phriod, MrDafydd Roberts ar sefydlu Carolyn ficer y cylch. Mae Carol ynferch i Mrs Val Amos,Glanogwen.
LlwyddiantLlongyfarchiadau i Mrs MenaiCarson ar lwyddo yn ei chwrsgradd mewn Nyrsio IechydCyhoeddus CymunedolArbenigol.
Llongyfarchiadau mawr oddiwrthym i gyd ac yn arbennigoddi wrth Mam a Dad (Dic aWendy Thomas)Llanfairpwllgwyngyll, Andrew,Jasmine a Sean
YsbytyCofion a gwellhad buan i sawl una fu yn yr ysbyty yn ddiweddar:Mr Stan Edwards, FforddCoetmor.Mrs Meggan Jones, Garneddwengynt.Mr Eddie Evans, Plas Ogwen.Mr Ian Hughes, Rhes Gordon.Mr J. Dignam, Ffordd Stesion.Mr R. Thomas, gynt o ResOgwen.Gavin Bolton, 13 Bryn Caseg.
Cyfarchion NadoligDymuna Nance Owen, 8 Rhes William, Bethesda, Johanna a Liz, NadoligLlawen a Blwyddyn Newydd Dda i’w holl deulu, cymdogion a ffrindiaugan ddiolch o galon i bawb am eu caredigrwydd dros y flwyddyn.
Ni fydd Margaret Hughes, llys Helyg, Talybont yn anfon cardiau Nadolig yflwyddyn yma oherwydd gwaeledd, ond mae’n anfon holl fendithion yrŴyl at ei ffrindiau i gyd ac yn diolch i bawb am gofio amdani yn eigwaeledd.
Mae Augusta Williams, 7 Bron Arfon, Rachub yn dymuno Nadolig Llawena Blwyddyn Newydd Dda i’w ffrindiau a’i chymdogion i gyd.
Dymuna Morfudd Jones, 1 Maes y Garnedd, Bethesda, holl fendithion yrŴyl i’w ffrindiau i gyd. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.
Annwyl ddarllenwyr,Ydych chi’n adnabod rhywunsydd wedi gwirfoddoli i helpupobl ifanc am flynyddoeddlawer rywle yng Nghymru?Hoffech chi enwebu rhywunsydd wedi gwneudgwahaniaeth gwirioneddol ifywydau pobl yn eich hardalleol? Ydych chi’n awyddus iweld rhywun yn cael eianrhydeddu ar lwyfanPafiliwn yr EisteddfodGenedlaethol am eu gwaithcymunedol?
Efallai felly eich bod chi’nadnabod rhywun y dylid eih/enwebu ar gyfer MedalGoffa Syr Thomas Parry-Williams yr EisteddfodGenedlaethol. Maeenwebiadau eisoes wediagor, ac mae angen derbyngwybodaeth am unrhyw unsy’n gymwys erbyn diweddIonawr 2012.
Bu Syr T.H.Parry-Williams yngefnogwr brwd o’r EisteddfodGenedlaethol, ac yn Awst1975, yn dilyn ei farwolaethychydig fisoedd ynghynt,sefydlwyd cronfa i goffáu’igyfraniad gwerthfawr iweithgareddau’r Eisteddfod.Gweinyddir y gronfa ganYmddiriedolaeth Syr ThomasParry-Williams.
Os ydych chi’n gwybod amunrhyw un yr hoffech euhenwebu ar gyfer Medal SyrT.H. Parry-Williams yn 2012,cysylltwch â mi ar 0845 4090300, neu drwy [email protected] hefyd ofyn amffurflen enwebu drwyysgrifennu ataf i’r cyfeiriadhwn - 40 Parc Ty Glas,Llanisien, Caerdydd CF145DU.
Y dyddiad cau ar gyfer pobffurflen enwebu yw 31 Ionawr2012, a chyflwynir y Fedalmewn seremoni arbennig arlwyfan Pafiliwn yr Eisteddfodyn ystod EisteddfodGenedlaethol BroMorgannwg a gynhelir o 4-11Awst. Cyhoeddir enw'renillydd ym mis Ebrill.
Edrychaf ymlaen at dderbynenwebiadau o bob cwr oGymru.
Yn gywir iawn,
Elfed RobertsPrif WeithredwrEisteddfod GenedlaetholCymru
Partneriaeth Ogwen yn llwyddo i sicrhau
buddsoddiad i’r ardalMae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn llwyddiannus yn derbyncymorth drwy’r prosiect Cymunedau Cynaliadwy i ddatblygu mentergymunedol fydd yn ceisio denu gwasanaethau yn ôl i’r ardal.
Dyma brosiect arloesol a chyffrous sydd yn rhan o’r fenter Llwyddoyng Ngwynedd, sef yr enw a roddir ar brosiectau Cynllun DatblyguGwledig Gwynedd (2007 - 2013) o fewn y sir. Ariennir y prosiect ganGronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) aLlywodraeth Cymru, a chaiff ei gydlynu gan Cyngor Gwynedd ar ranPartneriaeth Economaidd Gwynedd.
Daeth Partneriaeth Ogwen - sy’n cynrychioli cymunedau Bethesda,Llanllechid a Llandygái - ynghyd a phum cymuned arall yngNgwynedd, i’r brig allan o 20 o geisiadau drwy broses agoredgystadleuol.
Dros gyfnod o ddwy flynedd y prosiect, bydd y gymuned yn elwa ogymorth i ddadansoddi sefyllfa bresennol yr ardal a’r asedaucymunedol sydd ganddynt, ac i ddatblygu cynlluniau ar gyfer denugwasanaethau yn ôl i’r stryd fawr a fydd yn sicrhau incwm i’rgymuned leol, ac a fydd wrth gwrs yn eu galluogi i gynydducynaladwyedd hirdymor yr ardal.
Dywedodd Morfudd Roberts, Clerc Cyngor Cymuned Llanllechid arran Partneriaeth Ogwen “Dyma gyfnod cyffrous i ardal DyffrynOgwen, ac rydym yn ymfalchïo yn ein llwyddiant yn sicrhau’rcymorth ymarferol sydd ar gael drwy’r prosiect ynghyd â’rbuddsoddiad ariannol o tua £100,000 fydd yn ein cynorthwyo ni felcymuned i wireddu ein syniadau. Yn y lle cyntaf, bydd gwaith yndigwydd i edrych ar gydweithio gyda’r heddlu a’r undeb credyd ermwyn sicrhau presenoldeb yr heddlu a banc yn ôl yn Stryd FawrBethesda”
Roedd Gwynedd Watkin, Cadeirydd Is-Grŵp Datblygu GwledigPartneriaeth Economaidd Gwynedd yn awyddus i nodi, “dyma brosiectarloesol a newydd i’r Bartneriaeth ei gydlynu, ac rydym yn falch o roicymorth i gymuned fel Dyffryn Ogwen sydd mor frwdfrydig dros eusyniadau ac yn barod i ymrwymo i’r gwaith sydd ar y gweill er mwynsicrhau llwyddiant i’r prosiect. Y gobaith yw, wrth gwrs, y bydd yprosiect hwn yn torri tir newydd yn y maes datblygu economaidd asafon bywyd yng nghymunedau gwledig y sir”.
Ychwanegodd Sioned Morgan, Swyddog Prosiect “Y gobaith ydi ybydd cymuned fel hon yn ei thro yn ysbrydoli cymunedau eraill yngNgwynedd i ddilyn eu hesiampl.”
Bydd y gwaith caled yn cychwyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd,gyda thrafodaethau cychwynnol eisoes wedi cael eu cynnal yn ystodmis Tachwedd a Rhagfyr. Bydd diweddariad cyson o’r gwaith ynymddangos yn Llais Ogwen – felly cofiwch ddilyn yr hynt a’r helynt
Dyma brosiect fydd yn eich perchenogaeth chi - trigolion cymunedDyffryn Ogwen. Dyma gyfle i adeiladu ar eich gweledigaeth ganedrych i’r dyfodol a sicrhau pob llwyddiant i’r prosiect.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Prosiect, SionedMorgan ar 01286 679628 neu [email protected]
Yr Eglwys UnedigGweinidog: Y Parchedig Geraint Hughes
Gyda'r Nadolig ar y trothwy,anfonwn gofion at bawb ohonochsy'n wael adref neu yn yrysbyty.Hefyd at y rhai ohonochsy'n gaeth i'r tŷ oherwydd henaintneu nychtod, heb anghofio ameich gofalwyr hefyd. Daethprofedigaeth i ran rhai o'r aelodauyn arbennig felly Mrs. MonaRoberts, Gerlan, a'r teulu.Bu farwGwynfor, priod Mrs. Roberts ar ôlgwaeledd hir. Cynhaliwyd eiangladd yng nghapel Jerusalemdydd Mercher Tachwedd 23 o danofal y Gweinidog gyda chymorthy Parchedigion Cledwyn Williamsa John Owen. Menai Williamsoedd wrth yr organ.
Roedd y Cyfarfod Gweddi nosFawrth 1 Tachwedd o dan ofalCeri Dar (sydd bellach wediderbyn triniaeth yn YsbytyGwynedd ac ar ei ffordd i wella)Cynhorthwyd hi gan SionedWilliams, Rhiannon Ifans a MairJones.
Nos Iau, Tachwedd 10Cynhalwyd Cymdeithas yChwiorydd pryd y cawsom sgwrsgan y Parchedig Casi Jones o'rFelinheli. Mrs. Jones sy'n golygu'rcylchgrawn Cristion a chafwydhanes y gwaith ganddi.Ygwragedd gwadd oedd Ceri,Olwen, Eileen ac Alwen.Diolchwyd i bawb gan ElinaOwen
Cynhaliwyd cyfarfod o'rGymdeitfas Lenyddol yngNghapel Carmel, Llanllechid, nosFercher, 16 Tachwedd. Cafwyddarlith ddiddorol gan y PrifarddIeuan Wyn ar Enwau Lleoedd. Ygweinidog oedd yn llywyddu'rcyfarfod.
Cynhaliwyd cyfarfodydd o dan ytestun Archwilio o dan ofalSioned Williams. Ni fydd rhagortan ar ôl y Nadolig.
Mae'r plant yn brysur yn paratoiat eu cyfarfod Nadolig.Llongyfarchiadau i nifer ohonyntar eu llwyddiant yn yr eisteddfodeto eleni. Mae'r côr o dan ofalMrs. Menai Williams wrthi ynparatoi hefyd ac yn estyngwahoddiad cynnes i bawb i'rGwasanaeth Nadolig a gynhelirnos Sul, 18 Rhagfyr.
CYHOEDDIADAU'R MisRhagfyr 11 Y Gweinidog 5.00Gwasanaeth y plant 10.00Rhagfyr 18 Y Gweinidog 10.00Gwasanaeth Nadolig 7.00Rhagfyr 25 Cymun 9.30.
Llais Ogwan 4
Cylch MeithrinCefnfaes
Sesiynau Dyddiol
9.15 – 12.15 o’r gloch
Cysylltwch â ni ar
07815 085 323
Capel BethaniaMis Rhagfyr18 Y Parchedig Gwynfor Williams25 Dim Oedfa
Oedfaon am 5.30. Croesocynnes i bawb.
Dalier SylwIonawr a Chwefror 2012:
Dim OedfaonO fis Mawrth 2012 ymlaen:
Cynhelir oedfaon ar y Sul cyntafa’r trydydd Sul o’r mis
(am 5.30)
Cyfarchion Nadolig
Hoffai Arfon, Helen a Lois Evans, Llys Awel, Erw Las, Bethesda trwygyfrwng Llais Ogwan, ddymuno Nadolig Llawen a BlwyddynNewydd Dda i’w teulu, cymdogion a ffrindiau. Yn hytrach nag anfoncardiau Nadolig byddant yn rhoi cyfraniad ariannol at elusenbenodedig.
Ni fydd Mrs Phyllis Evans, Tegfan, Erw Las, Bethesda yn anfoncardiau Nadolig eleni, ond hoffai ddymuno Nadolig Llawen aBlwyddyn Newydd Dda i’w theulu, ffrindiau a chymdogion.Cyflwynir cyfraniad ariannol at elusen.
Dymuna Mary a Dewi, Erw Las Nadolig Llawen i bawb o’r teulu,ffrindiau a chymdogion yn ystod yr Ŵyl.
Ni fydd Mrs Blodwen Cavanagh, Maes y Garnedd yn anfon cardiauNadolig eleni, ond y mae’n dymuno Nadolig dedwydd a blwyddynnewydd dda i’w theulu, ei chyfeillion a’i chymdogion.
CydymdeimloCydymdeimlwn â Mr a MrsNeville Hughes a’r teulu, BrynFfrydlas, Pant, yn euprofedigaeth o golli modryb ynNhalybont ar 8 Tachwedd, sef yddiweddar Miss Vera Hughes.
MarwolaethYn Ysbyty Eryri bu farw Mr JohnArthur Parry, Erw Las, (gynt oGefn Cwlyn) yn 87 oed, priod yddiweddar Mrs Enid Parry, tadhoffus Gavin a’r ddiweddarDeirdre, tad-yng-nghyfraithVivienne a thaid annwyl i Sophiea Thomas. Cyn ymddeol bu’ngweithio i gwmni’r SwyddfaBost fel peiriannydd. Gŵr tawela pharchus oedd Jack, ac uchel eibarch gan ei gymdogion yn ErwLas. Cynhaliwyd ei angladdddydd Llun 21 Tachwedd gydagwasanaeth yn Eglwys Crist,Glanogwen ac amlosgfa Bangor.Claddwyd ei lwch ym medd yteulu ym mynwent EglwysCoetmor. Cydymdeimlwn â chiGavin, Vivien, Sophie a Thomasyn eich profedigaeth,
Yn sydyn yn ei gartref yn 3 LlysArthur, Bangor, bu farw MrDylan Wyn Owen yn 35 oed,mab annwyl Mr a Mrs EmrysOwen, Rhes Elfed a brawd hoffusi Siân a Geraint. Cynhaliwyd eiangladd ddydd Iau, y cyntaf oRagfyr, gyda gwasanaeth ynAmlosgfa Bangor.Cydymdeimlwn gyda chi i gyd felteulu yn eich colled.
Ar 27 Tachwedd bu farw MrsEileen Griffiths, Maes y Garnedd,yn 83 oed, priod y diweddar MrNow Griffiths, mam annwyl Ken,Pat a Dafydd John, a mam yngnghyfraith Alister a Janice, naina hen nain annwyl a charedig, achwaer i Blod, Gwilym, Eric,Robin a Helen. Un o Lanllechidoedd Eileen ac yn un o 13 oblant. Roedd y teulu yn aelodauselog o Eglwys Llan. Bu Eileenyn gofalu am yr Eglwys am sawlblwyddyn. Roedd yn hoff iawn ogael sôn am Eglwys Llan mewnunrhyw sgwrs. Bu’n rhedeg siopelusen yn y Stryd Fawr a bu’ngefnogol i sawl achos da.Cynhaliwyd ei hangladd foreGwener, yr ail o Ragfyr, gydagwasanaeth yn Eglwys Crist,Glanogwen a mynwent EglwysMaes y Groes, Talybont. YBarchedig Nia C. Williams a’rBarchedig Jenny Wood oedd yngwasanaethu a thalwydteyrnged iddi gan ei mab yngnghyfraith a’i hwyres.Cydymdeimlwn â chi i gyd felteulu o golli Eileen.
DiolchDymuna Gavin, Vivienne a’rteulu ddiolch o galon i bawb amy caredigrwydd a ddangoswydtuag atynt yn eu profedigaeth acam y rhoddion Er Cof tuag atYsbyty Eryri. Diolch i ficerEglwys Crist, Glanogwen, Ms NiaWilliams ac i Stephen Jones amei drefniadau gofalus.
Er cof
Cofion arbennig am MartinEdward Owen, 18 Maes yGarnedd a fuasai’n 40 mlwyddoed ar 11 Rhagfyr. Bu farw yn 24mlwydd oed ym mis Awst 1996.“Byth yn angof! Cariad Mawr!”.Mam, Ceri, Karen, Bob, Siôn aDion.
CydymdeimladRydym yn cydymdeimlo’n ddwysgyda theulu’r diweddar MeirionDavies, gynt o Faes Coetmor,Tregarth a Bangor yn euprofedigaeth. Cydymdeimlwngyda’i wraig Mair, ei ferch Gilliana’i gŵr, Andy, ei fab Kevin, a’iwyresau Anna, Isobel a Siân. Eincydymdeimlad hefyd i’w chwaerGlenys a’i gŵr, Idris. Pobcydymdeimlad i bob un ohonochyn eich colled fawr.
Difrod BwriadolGwnaethpwyd difrod bwriadol isiop Helen Wyn Roberts, PenClwt, Gerlan ar Stryd FawrBethesda yn ddiweddar. Yn ystody nos gwthiodd rhywun bapurauneu gadachau ar dân trwy flwchllythyrau’r siop, Barbwr Mr Tom.Rhoddwyd y bleindiau a’r drwsar dan, llosgwyd rhan o’r llawr achraciodd rhan o’r ffenest yn ygwres. Dywedodd Helen mai lwcyn unig oedd nad oedd y difrodyn waeth, ac nad aeth y fflatuwchben y siop ar dan, â phoblyn byw yno. Trist iawn meddwlfod rhywun mor genfigennus oberson ifanc lleol sy’n ceisiocychwyn ei busnes ei hun. Mae’nbwysig dal y person a wnaethbeth fel hyn; efallai mai bywydrhywun fydd mewn perygl y tronesaf.
Cylch Meithrin CefnfaesAr ran Cylch Meithrin Cefnfaeshoffwn ddiolch o galon i rieni atheuluoedd plant y cylch. Ynystod wythnos olaf mis Tachweddbu’n rhaid cau’r ysgol oherwyddamgylchiadau arbennig. Bu Kerry yn eithriadol brysur ar ycyd â’r Bwrdd Iechyd Cyhoeddus,yn ffonio a chysylltu â’r rhieni,Wrth lwc nid oedd dim i’w ofni yny diwedd ond cymerwyd pob camangenrheidiol i ddiogelu’r plant.Mae’r Cylch eisoes wedi ailagor acyn brysur iawn gydagweithgareddau’r Nadolig.Bu’r cyfnod yn fedydd tân i Kerryac mae ein diolch yn fawr iddi hi,Nerys, Shan, Sara a Non am eugwaith caled ac wrth gwrs i chi felrhieni am eich cefnogaeth.E. Mary Jones.Person Cofrestredig.
Cylch Meithrin
Cefnfaes
Disgo Calan GaeafCafwyd prynhawn hwyliog iawnyn y clwb criced. Daeth criwmawr o blant ynghyd wedi eugwisgo mewn dillad brawychusiawn! Diolch i bawb a gefnogoddy disgo. Gwnaethpwyd elw o£150.30.
Capel BethelGwasanaethau
Rhagfyr 18 Dr Tudor EllisRhagfyr 25 Dim Oedfa
Oedfaon am 2.00 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb.
Merched y Wawr, Cangen Bethesda
Cynhaliwyd cyfarfod o'r gangen nos Iau, 24 Tachwedd, yngNghanolfan Cefnfaes o dan lywyddiaeth Margaret Jones gyda'rysgrifennydd Eleanor Morris yn trefnu pethau yn ôl ei harfer.Canwyd cân Merched y Wawr ac yna aethpwyd ati i drafodmaterion y gangen. Cafwyd amryw o ymddiheuriadau ac er mawrlawenydd, croesawyd dwy aelod newydd sef Elna Bullock aMargaret Bowen Rees. Cyhoeddwyd y bydd y Bore Coffi blynyddolyn cael ei gynnal fore Sadwrn, 13 Hydref 2012. Estynnwydgwahoddiad gan Ysgol Dyffryn Ogwen i ni i'r Te Nadolig a gynhelireleni ar 15 Rhagfyr. Diolchwyd i Jean Ogwen Jones a GwennoEvans am y trefniadau ar gyfer y cinio dathlu; roedd pawb wedimwynhau yr achlysur yn fawr. Diolch hefyd i Helen Mai, merchJennie Jones am y gacen hyfryd. Diolchwyd hefyd i Jean Northam aGodfrey, ei phriod am fynd i siarad gyda rhai o'r grwpiau dysgwyr.Cyhoeddwyd y bydd y Pwyllgor Anabl yn casglu at GyfeillionYsbyty Eryri eleni a bydd y Distawrwydd Noddedig yn cael eigynnal ym mis Ionawr.
Croesawyd atom Richard Wyn Hughes o Winllan Pantdu, DyffrynNantlle i sôn am ei fenter ef a Iola, ei briod, yn prynu fferm a oeddyn le annwyl iawn yn ei olwg a mentro i blannu gwinwydd a choedafalau. Hen blasty, un bychan mae'n wir, oedd y fferm hynafolhon. Gan mai dyn camera yw Richard wrth ei waith bob dydd, fegawsom luniau gwych o'r ardal ac o hanes datblygu'r fenter. Nidoedd ganddo'r un botel win ar ôl i ni gael ei flasu ond cawsomflasu dau fath o sudd afal hyfryd dros ben. Diolchwyd iddo a'rgwesteiwragedd, ac i Helen am damaid arall o'r gacen, gan GlenysClark. Rhoddwyd gwobr lwcus gan Jennie Jones a'r enillydd oeddEleanor Morris.
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn yr un lle ar yr un amser nos Iau, 15Rhagfyr pryd y byddwn yn croesawu Maldwyn Thomas o Fangoratom. Croeso.
Llais Ogwan 5
Gorffwysfan
Dymuna swyddogion ac aelodau Gorffwysfan anfon eucydymdeimlad at Mrs Mona Roberts, Gerlan, a’r teulu ar euprofedigaeth o golli Gwynfor, un a fu mor selog yng Ngorffwysfanac a fwynhâi ddod ar bob gwibdaith i ofalu am y raffl.Cofion a gwellhad buan i aelod arall, sef Mr Stan Edwards, sydd ynyr ysbyty ers sawl wythnos bellach. Rydym hefyd yn falch o glywed y bu triniaeth Mrs Ceri Dart a MrsBeryl Brown yn llwyddiannus. Cofiwn atynt gan ddymunogwellhad buan i’r ddwy.
Llongyfarchiadau i Siân, Shona a Glesni o Glwb Ieuenctid Bethesda addaeth yn gyntaf yng nghystadleuaeth goginio Ardal Arfon agynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2011. Bu’r tair yn brysur iawn yncoginio tarten mozzarella, tomato a pesto hefo roced ffres a chyrirogan josh. Mi fydd y genethod yn mynd ymlaen i gystadleuaethArdal Dwyfor a Meirionydd ym mis Chwefror ac os yn llwyddiannusymlaen i gynrychioli Gwynedd yng nghanolbarth Cymru.
Yn y llun - Gwenllïan Dafydd - Is-arweinydd, Siân Louise Cartwright,Shona Prytherch a Glesni Haf Owen.
Clwb Ieuenctid Bethesda
Cyfarchion y NadoligDymuna Gwilym Rees Evans,Ceunant Nadolig Llawen aBlwyddyn newydd dda i’rteulu, ffrindiau a chymdogion.
Gan na fydd Vernon ag IrisDavies, 'Rynys, yn anfoncardiau Nadolig eleni, maentam ddymuno Nadolig Llawena Blwyddyn Newydd Dda i’rteulu , ffrindiau a chymdogion.
Yr un yw’r dymuniadau ideulu, ffrindiau a chymdogionoddi wrth Nansi a GarethHughes, Manod, Llwynbleddyn.Dymuniadau gorau
i bawb dros yr Ŵyl.
Croesawir Mr a Mrs KeithWelling a’r teulu i 17Garnedd. Braf eich gweld ynôl yn yr ardal.
Cydymdeimlwn â Mr a MrsEric Roberts 59 Braichmelynyn eu profedigaeth o gollichwaer, sef Mrs EileenGriffith.
Cydymdeimlwn â Siôn, Niaac Anwen yn eu colledhwythau yn ymadawiadmodryb annwyl.
Carem fel ardal anfon eincydymdeimlad at Gavin aVivien Parry, Rhos y Coed,Bethesda sydd wedi colli tada thad-yng-nghyfraith, aSophie a Thomas ar golli taidardderchog, sef Mr JackParry, Erw Las, a dreulioddran helaeth ei oes yngNghefn Cwlyn, lle magwydGavin.
Dymunwn wellhad buan i MrHugh Owen a Dr GoronwyOwen, ill dau o 14 Gernant,a’r ddau yn yr ysbyty ymMangor.
Anfonwn ein cofion at John GJones, 4 Braichmelyn a MrsMyfanwy Morris, rhif 3, syddmewn cartrefi nyrsio. Rydymyn meddwl amdanoch ynaml ac am Mrs Eirlys Jones(priod John).
Dymunwn y gorau i chwidros yr ŵyl.
Braichmelyn
Rhiannon Efans, Glanaber, Pant, Bethesda ( 600689
CAPEL CARMEL
Cynhaliwyd Ffair Nadolig yn ôlyr arfer ddiwedd misTachwedd. Gwnaethpwyd elw o£570. Diolch i Alison a Geraint,Y Royal Oak am eu rhodd tuagat y Ffair. Diolch i bawb am bobhelp a gafwyd ac i’r aelodau achyfeillion am gefnogi.
Rhagfyr 18Y Gweinidog 5.30 CymunRhagfyr 18 Gwasanaeth Nadolig 7.00 yrhwyr yng Nghapel Jerusalem
Ionawr 1 Gweinidog 5.00Ionawr 8 Gweinidog 2.00 a 5.00Ionawr 15 Y Parchedig Ddr Dafydd W Williams 2.00Ionawr 22 Y Gweinidog 2.00 a 5.00
COFIWCH: O fis Ionawr ymlaenamser Oedfa’r Hwyr fydd 5.00.
Croeso i bawb i’r Oedfaon aNadolig llawen a BlwyddynNewydd Dda i chwi oll
Rachub a
LlanllechidDilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW ( 601880
Raymond Tugwell, 9 Ffordd Llanllechid ( 601077
YsbytyDymunwn wellhad buan i nifero drigolion yr ardal sydd hebfod yn teimlo’n dda yn ystod ymis. Yn eu plith mae’rCynghorydd Pearl Evans, StrydBritannia, Mrs Jean Northamwedi cael damwain yn y tŷ aStephanie Owen, Ffordd Llan.
Pen-blwydd HapusDwy yn dathlu pen-blwyddarbennig yn yr ardal oedd MrsEirwen Williams, FforddLlanllechid a Megan Burnell,Bron Bethel, Rachub.Dymuniadau gorau i’r ddwy.
DiolchiadauDymuna Keilly Williams, LônGroes ddiolch am y cardiau a’rdymuniadau da a dderbynioddtra bu yn yr ysbyty yn Lerpwl ynddiweddar.
Dymuna Gafyn a Kim ddiolcham y cardiau a’r anrhegion adderbyniwyd ganddynt arachlysur eu dyweddïad ynddiweddar.
Mae Wendy a Ron, Martin aLinda a’r teulu am ddiolch ambob arwydd o gydymdeimlad adderbyniwyd yn ystod euprofedigaeth o golli Mrs JoyceThomas, Bron Arfon. Mae’rteulu yn ddyledus i haelionipawb wrth iddynt dderbyn£1,162 tuag at Gyfeillion YsbytyGwynedd.
CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad atWyn, Stella a’r teulu ynBronnydd ar achlysur tristmarwolaeth brawd i Wyn, sefOwie Davies,(Bronnydd) ynLlanfairfechan ag yntau’n 76mlwydd oed ac yn un o hendrigolion y plwyf.
Llais Ogwan 6
GerlanAnn a Dafydd Fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan ( 601583
Cyfarchion NadoligMae Myfanwy Owen a’r teulu,Stryd y Ffynnon, yn dymunoNadolig Llawen a BlwyddynNewydd Dda i bawb, ac yn gyrrucyfarchion yr ŵyl i chi
DyweddïoRydym yn falch iawn o glywed ynewyddion da fod Kerry Owen aDavid Artell, Stryd y Ffynnon,wedi dyweddïo.Llongyfarchiadau mawr oddiwrthym i gyd a phob dymuniadda i’r dyfodol.
Hen nainLlongyfarchiadau mawr iMyfanwy Jones, Gwernydd, arddod yn hen nain unwaith eto.Ganed Dafydd Siôn i’w wyres,Lowri, a’r gŵr, Lyn, ynLlandysul. Mae pawb, ynarbennig ei frawd, Llywelyn,wedi gwirioni efo’r babi newydd.Llongyfarchiadau mawr i chi.
Pen-blwydd arbennigRydym yn llongyfarch DeiniolJones, Stryd y Ffynnon, arddathlu ei ben-blwydd ynddeunaw oed yn ddiweddar.Llongyfarchiadau mawr iti,Deiniol, gobeithio iti fwynhau’rdathlu. Pob dymuniad da iti i’rdyfodol.
Difrod bwriadolDrwg oedd gennym glywed am ydifrod bwriadol a wnaed i siopHelen Wyn Roberts, Pen Clwt,sef siop Barbwr Mr Tom ar yStryd Fawr, yn ddiweddar.Mae’n drist meddwl fod rhywunyn ceisio achosi difrod i fusnesperson ifanc lleol. Rydym yngobeithio y ceir gafael ar ytroseddwr, ac yn dymuno’rgorau iti yn dy fusnes, Helen.
TaidLlongyfarchiadau i MalcolmRoberts, Pen Clwt, ar ddod yndaid i Cian Rhys. Ganwyd Cian ifab Malcolm, Gari a’i bartner,Lowri , sy’n byw yngNghaernarfon. Rydym, hefyd, ynllongyfarch Margaret Roberts,Rachub, ar ddod yn hen nain.Llongyfarchiadau mawr i chi igyd!
ProfedigaethRydym yn cydymdeimlo’nddwys gyda Mona Jones Roberts,Ffordd Gerlan, a’r plant, Caryl,Ioan, ac Alun, a’u teuluoedd, yneu profedigaeth fawr o golli gŵr,tad, a thaid annwyl, y diweddarGwynfor Jones Roberts. RoeddGwynfor yn berson hynawsiawn, yn dawel a chwrtais, ac ynfonheddig. Byddai bob amser ynbarod ei gymwynas i unrhyw un.Bydd colled fawr iawn ar ei ôl ynyr ardal, ac yn arbennig ar eiaelwyd.
Derbyniwch ein cydymdeimlad igyd fel teulu yn eich colled drom.
CydymdeimladRydym yn cydymdeimlo gydaHelen a Merfyn Williams,Ciltwllan, ar golli chwaer Helen, yddiweddar Eileen Griffith, Maes yGarnedd. Rydym, hefyd, yncydymdeimlo gyda’r holl deuluyn eu profedigaeth. Roedd Eileenyn berson hynaws a charedig, abu’n rhedeg siop elusen ar yStryd Fawr am gyfnod, ac yn hoffgan bawb oedd yn ei hadnabod.Bydd colled fawr ar ei hôl.
ProfedigaethRydym yn cydymdeimlo gydatheulu’r diweddar WilliamBernard May, Nant y Tŷ, yn euprofedigaeth . Ein cydymdeimladdwys i chi i gyd.
DiolchDymuna Mefys, gynt o Stryd yFfynnon, a Stephen, ddiolch owaelod calon i bawb o’r ardal a fumor hael eu rhoddion arenedigaeth eu merch fach, NelGrug, yn ddiweddar. Diolch yniawn i chi i gyd.
Llwyddiant EisteddfodolLlongyfarchiadau mawr i blant yrardal a gymerodd ran ynEisteddfod Dyffryn Ogwen. Brafoedd gweld cymaint ohonochwedi cymryd rhan yn y gwahanolweithgareddau. Da iawn chi!
Cyfarchion yr ŴylRydym yn dymuno NadoligLlawen a Blwyddyn Newydd Ddai bawb o drigolion yr ardal. Pobhwyl i chi i gyd!
Disgo Caban GerlanCynhelir Disgo yn y Caban
ddydd Sul, 18 Rhagfyr, rhwng 2.00 a 4.00 y pnawn.
Dewch yn llu i fwynhau eich hunain!
TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda ( 600853
Eglwys Maes y Groes
Ar yr ail o Dachwedd dathlodd einwarden Catrin Hobson ben-blwyddarbennig. Ar derfyn y gwasanaeth ybore Sul canlynol cyflwynodd BetiEllis dusw o flodau iddi ar ran yraelodau.
Ar yr wythfed o Dachwedd ynYsbyty Gwynedd bu farw VeraHughes, Ogwen Cottage, Talybont.Bu Vera yn aelod ffyddlon agweithgar yn yr Eglwys amflynyddoedd cyn ei hanhwylder. Buhefyd yn gweithio gyda’r deillionym Mangor am rai blynyddoedd.Cynhaliwyd ei hangladd yn yrEglwys ar 14 Tachwedd.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan einficer, y Parchedig John Mathewsgyda Barry Wynne yn cyfeilio.Rhoddwyd ei gweddillion i orffwysym mynwent yr Eglwys.Cydymdeimlwn â’r teulu i gyd yneu profedigaeth.
Cynhaliwyd y te Nadolig ar ddyddSadwrn 19 Tachwedd yn yrYsgoldy. Cawsom brynhawnllwyddiannus a braf oedd gweld yrYsgoldy’n llawn, Gwnaed elw o£600. Diolch i Phyllis a’r tîm amdrefnu’r achlysur ac i bawb am eincefnogi ac am eu rhoddion.
Croeso gartref i John Morrell, “CapCoch”, yn dilyn cyfnod hir ynYsbyty Gwynedd ac Ysbyty Eryri.
Yn ystod y Gwasanaeth ar fore Sul27 Tachwedd bedyddiwyd PoppyHaf, merch Angela a DavidWilliams, ac wyres i Rita a BrianThomas, Bryn Celyn, Gatehouse.
Vera Hughes 1927 – 2011 (Rhannau o’r deyrnged a gyflwynwyd gan y Parchedig John Mathews
yn ei hangladd)Dyma hogan o Dalybont – os bu un erioed! Cafodd Vera ei geni a’i magu
yma – a byw yma ar hyd ei hoes!
Cafodd ei haddysg yn Ysgol yr Eglwys Llandegai ac Ysgol y “Central”,
Bangor, cyn ymuno â staff Cymdeithas Gogledd Cymru ym Mangor. A
dyna lle y bu hyd at ei hymddeoliad yn 1991. Dyna 49 mlynedd o
wasanaeth ffyddlon a brwdfrydig i helpu rhai llai ffodus na hi ei hun.
Roedd Vera yn eglwyswraig o’r crud! Ac Eglwys Maes y Groes yn annwyl
iawn yn ei golwg ac yn chwarae rhan bwysig yn ei bywyd. Roedd wrth ei
bodd ymhlith ei ffrindiau yn yr Eglwys neu mewn gweithgareddau yn yr
Ysgoldy, megis Te Bach neu Yrfa Chwist. Yn wir bu’n trefnu rhai ohonynt
dros y blynyddoedd.
Roedd gan Vera nifer o ddiddordebau eraill ac un ohonynt oedd teithio ar
wyliau ledled gwledydd Prydain. Efrog oedd un o’i ffefrynnau a bu yno
sawl gwaith.
Hanes Lleol oedd un o’r diddordebau eraill oedd ganddi. Roedd ganddi
wybodaeth eang am Dalybont a’r cyffiniau. Mae ei llyfrau lloffion yn werth
i’w gweld, yn llawn o doriadau papur newydd o luniau a straeon lleol .
Mae’n siŵr eu bod bellach yn gofnod pwysig o hanes y fro!
Cai flas hefyd ar ddarllen llyfrau Cymraeg a Saesneg, a’i hoff awdures
oedd Hafina Clwyd. Roedd cael darllen Llais Ogwan bob mis yn rhoi
pleser mawr iddi hefyd, a bu Radio Cymru a’r teledu, yn cynnwys S4C, yn
gysur mawr iddi yn ei blynyddoedd olaf.
Bu colli ei hiechyd rhyw 10 mlynedd yn ôl pan gafodd hi strôc, yn ergyd
drom i Vera - a hithau wedi arfer crwydro a mynd a dod fel ’roedd hi
eisiau! Ond fe frwydrodd yn galed a chyda help eraill, llwyddodd i oroesi a
mwynhau bywyd, mewn ffordd hollol wahanol wrth reswm, am ran
helaeth o’r ddegawd ddiwethaf.
Mae’n wir dweud na fu’r blynyddoedd 2010 a 2011 yn garedig iawn wrth
Vera. Bu yn ôl a blaen i wahanol ysbytai – Gwynedd, Llandudno, Eryri, a
Chartref Plas Ogwen. Cafodd ddod adref am 3 mis, ac roedd wrth ei bodd,
cyn cael ei chymryd eto i Ysbyty Gwynedd ar 6 Hydref, ac yno y bu farw’n
dangnefeddus o dawel brynhawn Mawrth 8 Tachwedd 2011.
DiolchDymuna Neville ac Iris a theulu’rddiweddar Vera Hughes ddiolch ogalon i bawb am bob gair ogydymdeimlad a dderbyniwydganddynt yn ystod euprofedigaeth. Diolch hefyd am yrhoddion tuag at GymdeithasDeillion Gogledd Cymru ac EglwysMaes y Groes. Diolch i bawb ameu gwasanaeth ddydd yr angladd- Y Parchedig John Mathews,Ficer, a Mr Barry Wynne,Organydd, a hefyd i Mr. GarethWilliams, am ei drefniadaugofalus.
Diolch o galon i’r holl OfalwyrCartref a fu’n gymaint o gymorthiddi dros y blynyddoedd diwethaf
Trefn Gwasanaethau
Rhagfyr 18 : Gweinidog ;Rhagfyr 25 : Dim Oedfa ;Ionawr 01 : Gweinidog ; Ionawr 08 : Y ParchedigGwynfor Williams, Caernarfon ; Ionawr 15 : Y Gweinidog ;Ionawr 22 : Y Parchedig W. R.Williams, Y Felinheli ; Ionawr 29 : Parchg. Ddr. ElwynRichards, Caernarfon.
Oedfaon am 2.00. Croeso cynnes i bawb.
Ffair NadoligCafwyd noson lwyddiannus yn yfestri ar 30 Tachwedd panwnaed elw o £655 tuag at yCapel a’r Ysgol Sul. Diolch ibawb am eu cefnogaeth ac amdroi allan ar noson mor wlyb astormus.
DamwainCroesawyd ein trysorydd, Mrs.Jean O. Hughes, yn ôl wedi iddigael damwain ddrwg i’w choes.Daliwch i wella Jean!
hyn, ac wrth gwrs i’r meddygona’r nyrsys a hefyd i staff y cartrefipreswyl y bu ynddynt o bryd i’wgilydd. Diolch hefyd i’wchymdogion a’i ffrindiau a fu’ngefn iddi dros y cyfnod anoddwedi iddi golli ei hiechyd.
Capel Bethlehem
Llais Ogwan 7
Eglwys Sant TegaiGwaeleddAnfonwn ein cofion a’n dymuniadau da at MrsJane Couch, Mrs Beryl Edwards, Mr GwynneEdwards a Mr Harry Gross. Byddwn yn meddwlamdanoch yn ystod yr Ŵyl a brysiwch wella.Bydd Mrs Liz Jones yn mynd i Ysbyty Gwynedd ar17 Rhagfyr i gael pen-glin newydd. Rydym yndymuno’r gorau i chi Liz ac yn gobeithio y cewchlwyr wellhad yn fuan.
Wedi SaithRoeddem yn falch iawn o weld y Parchedig J Aelwyn Roberts ar y rhaglen Wedi Saith ar 4Tachwedd yn sôn am yr Archesgob John Williamsgyda Meinir Gwilym. Roedd llun o’r ddau yneistedd yn y fynwent ar y sedd a roddwyd er cofam Dr Tony Chamberlain. Ymhellach ymlaen yn yrhaglen roedd Meinir yn siarad â Dr J. ElwynHughes, Bethel, am dŷ John Williams ym Mhont-tŵr.
PriodasDydd Sadwrn, 5 Tachwedd yn Eglwys Sant Tegaipriodwyd Noah a Charlene Creed.Gwasanaethwyd gan y Parchedig John Mathews aMr Geraint Gill oedd wrth yr organ. Dymuniadauda a hir oes i Noah a Charlene.
Yr Archesgob John WilliamsYn Eglwys Sant Tegai ar nos Wener 4 Tachweddcafwyd sgwrs hanesyddol gan Dr Mark Nicholls,llywydd a llyfrgellydd Coleg Sant Ioan,Caergrawnt. Sôn yr oedd am fywyd lliwgar yrArchesgob John Williams a bu’n nosonlwyddiannus iawn. Cafwyd lluniaeth yn NeuaddTalgai i ddilyn ac amser i gael sgwrs â Dr Nicholls.Gwnaed elw o £1,000 tuag at y gronfaadnewyddu Eglwys Sant Tegai. Diolch i DrNicholls ac i bawb a fu o gymorth.
BingoNos Wener, 27 Tachwedd, cynhaliwyd Bingo ynNeuadd Talgai er budd yr Eglwys a gwnaed elw o£130. Diolch o galon i Pauline, Raymond, Nerys aphawb arall a roddodd help llaw mewn unrhywfodd i’w gwneud yn noson mor hwyliog aphroffidiol.
DiolchiadauCarem ddiolch i’r Parchedig Rhys Williams,Geraint Gill yr organydd ac aelodau Eglwys ySantes Fair, Tregarth am eu croeso cynnes i ni arSul y Cofio, 13 Tachwedd. Roedd yn braf caelcyfarfod â hen ffrindiau a chael sgwrs â hwy ar ôlyr oedfa. Diolch i’r merched am y baned a’rteisennau blasus. Rydych yn garedig iawn.
Ar ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd, cafodd EglwysMaes y Groes eu Te Nadolig a oedd yn llwyddiantmawr fel arfer. Diolch yn fawr i’r aelodau am eucroeso cynnes i ni; roedd y bwyd yn ardderchog.
Ac ar ddiwedd blwyddyn fel hyn, a gawn niddiolch o galon i’r Parchedig John Mathews am eiwaith caled a thrylwyr fel Bugail i ni aelodau SantTegai ac am ei ymweliadau cyson â’r cleifion ac agYsgol Llandygái. Ond ni allai John wneud hyn hebgymorth beunyddiol ei wraig, Sue. Y mae’n eiatgoffa yn fynych am hyn ac arall, a hi sy’n llunio’rcylchlythyr bob mis i’r tair eglwys - diolch ynfawr Sue.
Gwasanaethau’r NadoligNos Sul 18 Rhagfyr am 8.00 o’r gloch yng ngolaucannwyll, byddwn yn cael ein gwasanaeth carolaudan arweiniad y Parchedig John Mathews, gydaGeraint Gill ar yr organ. Bydd croeso cynnes ibawb ddod i’r neuadd wedyn i brofi gwin mŵl amins pei. Cynhelir gwasanaeth y Cymun NoswylNadolig yn Eglwys Sant Tegai am 11.15 yr hwyr. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda iddarllenwyr Llais Ogwan oddi wrth drigolionLlandygái.
LlandygáiEthel Davies, Pennard,
Llandygái (353886
ProfedigaethTristwch mawr i ni oeddclywed am farwolaeth MissVera Hughes, Ogwen Cottage,Talybont yn Ysbyty Gwyneddddydd Mawrth 8 Tachwedd.Cynhaliwyd yr angladdcyhoeddus ddydd Llun, 14Tachwedd yn Eglwys Maes yGroes gyda’r Parchedig JohnMathews yn gwasanaethu.
Cydymdeimlwn yn fawr gydaNeville ac Iris a’r teulu i gydyn eu profedigaeth. RoeddVera yn ffyddlon iawn i’rgweithgareddau yn EglwysSant Tegai a Neuadd Talgaicyn i’w gwaeledd ei threchu -bydd chwithdod mawr ar eihôl.
GwaeleddBu Mrs Olwen Lytham ynanlwcus iawn yn ddiweddar.Cafodd ddod adref o’r ysbytyar ôl torri ei choes ondsyrthiodd yn y tŷ unwaith etoAed â hi i Ysbyty PenrhosStanley yng Nghaergybi acyna i gartref nyrsio Cerrig yrAfon, y Felinheli, cyn dod ynôl adref. Rydym i gyd yndymuno gwellhad buan i chiMrs Lytham.
Anfonwn ein cofion anwylafat y cleifion sydd yn wael yneu cartrefi:- Jill Bullen, Enniea Nerys Coleman, Ieuan aCeinwen Evans, Jim a BerylHughes, Bibby Jones, OlwenJones, Gwen Morsley, BettyWilliams a Dorothy ProudleyWilliams. Llwyr wellhad i chia gobeithio y cewch i gydNadolig Llawen.
Bore CoffiYn Neuadd Ogwen ar foreSadwrn 26 Tachwedd,cynhaliwyd bore coffi er buddNeuadd Talgai. Diolch iPauline, Raymond a’uffrindiau am roi o’u hamserprin i wneud y bore ynllwyddiant, ac yn bennaf oll idrigolion Dyffryn Ogwen ameu cefnogaeth.
Noson GymdeithasolLlandygáiI ddathlu’r Nadolig elenimae’r Gymdeithas wedipenderfynu mynd allan i’rVaenol Arms ym Mhentir arnos Iau, 10 Rhagfyr am 7.00o’r gloch. Gobeithio y cewchnoson wrth eich bodd. Diolchi Eirlys a Iona am wneud ytrefniadau.
DymuniadauHoffai Anwen ddymuno Nadolig Llawen aBlwyddyn Newydd Dda i bawb ym Mhentir a’r fro.Diolch yn fawr am eich cefnogaeth yn ystod yflwyddyn.
Nofio Rhanbarthol yr UrddLlongyfarchiadau i Marteg a Cedol Dafydd aMenai Lamers James ar eu llwyddiant yn galaranbarthol yr Urdd ym Mangor. Daeth Cedol yngyntaf yn y dull rhydd ac yn ail yn y dull pili-pala,Roedd Marteg yn ail yn y dull rhydd a thrydyddyn y dull broga. Felly bydd Cedol a Marteg yncystadlu yn y gala genedlaethol yng Nghaerdyddfis Ionawr a hefyd yn rhan o dimau rasyscyfnewid Ysgol y Garnedd.
Ar frys o BarisBydd mis Rhagfyr yn fis prysur i’r delynores GlainDafydd, a fydd yn hedfan yn ôl a blaen o Baris iBentir oherwydd dau gyngerdd. Bydd yn hedfan oBaris fore dydd Sadwrn, yn perfformio nos Sul(11 Rhagfyr) ac yn hedfan yn ôl fore Llun. Yrachlysur yw cyngerdd blynyddol Côr y Penrhynyn Neuadd PJ Bangor gydag artistiaid gwadd.Wythnos arall ym Mharis, wedyn adref i gadwcyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar 20Rhagfyr, Gyda Glain bydd Band Jas Ysgol Tryfanyn perfformio yn artistiaid gwadd a Nia LloydJones BBC Cymru yn arwain y noson, Byddtocynnau ar gael wrth y drws, yn siop Palas PrintPendref (arian parod yn unig) neu drwy ffonio01248 351339.
PentirAnwen Thomas,Min yr afon11 Rhydygroes, Pentir( 01248 355686
Clwb Cant mis Tachwedd1af - Rhif 16 Donna R Jones, LlangristiolusAil - Rhif 17 E. Valerie Amos, Bethesda3ydd - Rhif 10 Margaret Jones, Waun Pentir.
Noson Tân GwylltNos Sadwrn y pumed o Dachwedd mwynhawydnoson tân gwyllt yng nghartref Bill, Gaynor aTom Perry, Glyn Cottage, Nant y Garth. Roeddgwledd o gawl, cŵn peth tatws pob acamrywiaeth o fwydydd eraill yn ein disgwyl.Cafwyd noson lawn hwyl a sbri. Diolch i bawbam eu cefnogaeth a diolch i deulu Glyn Cottageam eu croeso.
Gwasanaethau18 Rhagfyr Cymun Bendigaid 9.45 y bore24 Rhagfyr Cymun Noswyl Nadolig 11.30 yrhwyr25 Rhagfyr Cymun Bendigaid ar y cyd ynEglwys Glanogwen 10.00 y bore01 Ionawr Cymun Bendigaid ar y cyd yn EglwysSant Cedol 10 y bore08 Ionawr Llanast y Llan, Cristingl, 9.45 y bore.Pawb i ddod ag Oren.
CyfarchionFel Eglwys dymunwn Nadolig Llawen adymuniadau gorau i’r flwyddyn newydd i hollddarllenwyr a thrigolion bro Llais Ogwan.
Eglwys Sant Cedol
Llwyddianau gyda'r ysgrifbin!
Llongyfarchiadau i Marged o Greigfryn ar ennillcoron eisteddfod Ysgol Tryfan yn ddiweddar amysgrif ar y thema 'ar goll'. Ysgrifennodd am dedi bêrddaru hogan ei golli yn ystod yr 'holocaust'. Ychydigyn ddiweddarach enillodd yng nghystadleuaethgenedlaethol/ryngwladol y 'Born Free Foundation' .Stori am unrhyw anifail gwyllt oedd y testun y trohyn ac ysgrifenodd Marged am grwban môr, wediiddi gyfarfod ag un ar ei gwyliau yn ystod yr haf.
Llais Ogwan 8
Blodau Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda
602112 (gyda’r nos 602767)
Blodau ar gyfer pob achlysur
Priodasau, Angladdau ayybFfres a Sidan
Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’
CAFFI COED Y BRENIN1 Rhes Buddug, Bethesda
Ffôn: 01248 602550
Bwyd cartref blasus
(mewn awyrgylch cyfeillgar)
Cinio arbennig bob dydd Iau
Bwyd i’w gario allan
Gwasanaeth arlwyo ar gyfer
partïon o bob math -
plant, pen-blwydd ac ati
(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)
Cacennau ar gyfer pob achlysur
e.e. priodas neu ben-blwydd
Prisiau rhesymol
Atgyweiriadau teledu a fideo, offer sain, derbynwyr lloeren.
Hefyd gwerthiant a gwasanaeth
38 Stryd Fawr, Bethesda LL57 3ANFfôn/Ffacs 01248 602584
electricalsandrew duggan
Cerbydau PenrhynCabiau a bysiau mini
Ffôn: (01248) 600072
Meysydd awyr PorthladdoeddContractau
Contractwyr i Wasanaeth
Ambiwlans Gogledd Cymru
“j.R.”SGAFFALDWYR
Yr Iard, Ffordd StesionBethesda
Ffôn: (01248) 601754
Dyma ni - sgaffaldwyr o fri
Gorsaf betrol
B E R A ND e i n i o l e n
Ffôn: Llanberis 871521Ar agor 6.00am – 11.00 bob dydd
Petrol • Diesel • Nwy Calor • GloCylchgronau • Papurau newydd Cardiau pen-blwydd • Melysion
Tocynnau loteri Gwasanaeth PAYPOINT ar gyfer
trydan, nwy, ffonau symudol,trwyddedau teledu ayyb
Gwasanaeth Trin
a Thorri Gwallt Ceri1 Bryn Eglwys
Llanllechid
Gwynedd
LL57 3LE
Ffôn: 07796 583 203
MODURON
PANDY
Cyf.
TregarthGwasanaeth Atgyweirio
Canolfan ‘Unipart’
M.O.T.
Ffôn: 01248 600619 (dydd)
Modurdy Central
Ceir ail-law ar werthM.O.T. ar gael
HefydTrwsio a Gwasanaeth
Ar Allt Pen-y-bryn, Bethesda
601031
CONTRACTWYR TOI2 Hen Aelwyd, Bethesda
600633
(symudol) 07702 583765
Arbenigo mewn gwaith ffelt a pitsio.
Hefyd toeau llechi a gwaith yswiriant.
Gadewch i ni gynnig pris rhesymol am
waith diguro.
m.hughes
a’i fab
Sefydlwyd 1969
Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *
* Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau Agor
Llun – Gwener: 5.00 – 11.00
01248 600219 www.douglas-arms-bethesda
Cewch groeso cynnes gan Gwyn, Christine a Geoffrey
BISTRO’R BRENIN
(Bwyty Trwyddedig)Rydym yn croesawu partïon
o bob math – dathlu pen-blwydd
ac achlysuron arbennig eraill.
Beth am eich Parti Nadolig?
Ffoniwch
01248 602550e-bost : [email protected]
MODURDY FFRYDLAS
Perchenogion
I.D.Hughes ac A. Ll. Williams
Stryd Fawr, Bethesda PROFION M.O.T.
GWASANAETH ATGYWEIRIOTEIARS A BATRIS
GWASANAETH TORRI I LAWR
NEU DDAMWAIN
600723 Ffacs: 605068
Profion
M.O.T.
01248 361044 a 07771 634195
Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -
tripiau, priodasau, partïon ac ati.
Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens
Gwasanaethau Torri Coed
a Gwrychoedd
GWYN IFORI gael prisiau rhesymol ffoniwch
01248 361457
neu
07525 255383
Llais Ogwan 9Llais Ogwan 9
John Huw Evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas(352835
Rhiwlas
Dathlu Pen-blwyddDathlodd Sioned Jones,Foelwyn, Carfan, ei phen-blwydd yn ddeunaw oed ar 9Tachwedd. Llongyfarchiadau aphob dymuniad da iti i’r dyfodolSioned.
Dymuno GwellhadCafodd Robert John Williams,Tyddyn Badin, lawdriniaeth i’wben-glin yn Ysbyty Gobowenddiwedd Tachwedd.Gobeithiwn y bydd yn gwella’ngyflym ac y caiff ddychwelyd iganu gyda Chôr Bangor yn fuan.Pleser oedd ei glywed yncanmol y gwasanaeth a gafoddyn Gobowen - y nyrsys yn glena’r bwyd yn dda.
Cronfa Eisteddfod yr UrddCynhaliodd Gwen Aaron forecoffi a theisennau yn ei chartref,Gwelfor, Carreg y Gath foreSadwrn 19 Tachwedd.Llwyddodd i gasglu £103 atgronfa Eisteddfod yr UrddRhiwlas a Phentir. Cafodd helpparod gan bedwar o blantCarreg y Gath, Megan a GwenWilliams a Lucy Tatam, a oeddyn gweini’r coffi a’r teisennautra bod Ben Tatam yn casglu’rarian. Y pedwar wrthi ynfoesgar a deheuig.
Llongyfarchiadau
Hoffai teulu a ffrindiau GwawrHughes Owen, 6 oed, o GaeauGleision, ddymuno llongyfarchiadaumawr iddi am ddod yn gyntaf amganu ac am adrodd yn erbyn cryndipyn o blant yn Eisteddfod DyffrynOgwen ddydd Sadwrn, 19Tachwedd 2011. Hefyd, enilloddGwawr y gwpan am yr adroddmwyaf addawol ar y diwrnod, sy’ndipyn o gamp i blentyn o’i hoed.
Llongyfarchiadau cynnes i nifer o blant y pentref am godi’r swm o £122tuag at ymgyrch Plant mewn Angen.
Ciara Dodd a gafodd y syniad i ddechrau, gan anfon am becyngwybodaeth i gael manylion sut i i drefnu codi arian. Penderfynoddmai’r ffordd fwyaf diffwdan fyddai cynnal stondin gacennau yn eichartref a gofynnodd i’w ffrindiau ddarparu cacennau ar ei chyfer.Syniad arall oedd cynnal raffl. Y wobr oedd teisen siocled. I’w hennillroedd yn rhaid dyfalu pa deisen yr oedd Pudsey wedi ei chrasu. Yr un addyfalodd yn gywir oedd Mrs Jones, athrawes gynorthwyol yr ysgol, arhannodd y gacen gyda phlant yr ysgol drannoeth.
Y rhai a fu’n cynorthwyo Ciara oedd ei chwaer Cassie, Megan Rhys,Gwen, Lucy, Holly, Megan, Nia, Erin, Ben, Mia, Ffion, Hazel a Jenny.Ciara a Cassie Dodd sy’n dal y platiad cacennau yn y llun. Fe’i tynnwydyn ystafell ffrynt Wern, Waen Pentir (Siop Oliver i’r pentrefwyr hŷn).Dymuna’r plant ddiolch i bawb a’u cefnogodd.
Ymgyrch Plant mewn Angen
Clwb Rhiwen
John Austin, un o aelodau’r Clwb fu’n gyfrifol am gyfarfod cyntafTachwedd. Mae John yn hoff iawn o hedfan o Faes Awyr Caernarfona bydd yn manteisio ar y cyfle i dynnu lluniau tra yn yr awyren. Yrhyn a wnaeth i’n diddori oedd dangos llun o nifer o safleoedd lleolwedi eu tynnu o’r awyr a rhoi tasg i’r aelodau ddyfalu ble roeddynt.Roedd yn ddiddorol sylwi bod llefydd sydd mor gyfarwydd i bob unohonom yn edrych mor wahanol o’r awyr.
Roedd y cyfarfod ar 16 Tachwedd o ddiddordeb arbennig i aelodausy’n hoffi gwylio adar. Y siaradwr gwadd oedd Julian Hughes oWarchodfa Adar Conwy. Aeth a ni yn ôl ugain mlynedd i’r amser yradeiladwyd twnnel o dan afon Conwy, gan egluro mai tywod agodwyd o wely’r afon a ddefnyddiwyd i ffurfio’r warchodfa. O dipyni beth tyfodd planhigion ar y safle ac ymhen amser ymgartrefoddadar yno, rhai yn adar cynhenid ac eraill yn adar mudol. Erbyn hynmae cannoedd o bobl yn ymweld â’r Warchodfa bob blwyddyn acmae’n siŵr y bydd rhai o aelodau’r clwb yn ymuno â hwy panddaw’r gwanwyn.
Ar 23 Tachwedd daeth Tom Kettly, Tros Waun Bach atom iarddangos y gwaith cywrain y mae ef a’i briod yn ei gynhyrchu wrthbwytho ar gynfas. Crefft y mae’r ddau yn arbenigo ynddi.Dangosodd sut i ffurfio gwahanol bwythau a rhoddodd ddarn ogynfas, nodwydd ac edafedd i bawb i roi cynnig ar y grefft.
Merched y WawrSiwan, merch Annes Glynn, un o’n haelodau, su’n ein diddori yngnghyfarfod mis Tachwedd o’r gangen.Wedi derbyn bocs o fotymau o bob lliw a maint o dŷ ei nain buSiwan yn pendroni beth yn y byd y gallai ei wneud â’r cyfan. Cafoddy syniad o’u defnyddio i wneud addurniadau megis breichledau,clustdlysau a chadwyni gwddf a’u rhannu i’w ffrindiau.
Yna dechreuodd eu gwerthu a’r diwedd fu iddi hi a’i ffrind sefydlucwmni a’i alw, yn naturiol, yn Cwmni Botwm. Roedd ganddi sawlenghraifft gyda hi i’w harddangos a’u gwerthu ac fe fanteisioddnifer o’r aelodau ar y cyfle i’w prynu. Helen wnaeth ddiolch i Siwana’i ffrind a hefyd eu llongyfarch ar eu menter a’u dyfeisgarwch.Sali ac Annes oedd yn gofalu am y baned.
Glasinfryn
Caerhun
Marred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn,Bangor LL57 4UP01248 [email protected]
CydymdeimladYn ddiweddar bu farw Mr Glyn Vaughan Williams, Hen Dŷ, TyddynHeilyn, Caerhun, ar ôl gwaeledd byr. Amaethwr oedd Mr Williams arhyd ei oes, ei efaill, y diweddar Owen Williams yn ffermio’r hengartref yn Lôn Isaf, Llandegai. Nid yn unig yr oedd Mr Williams ynffermwr ond roedd hefyd yn ysgrifennu erthyglau am hanesamaethyddiaeth a chyhoeddwyd sawl un o’i erthyglau mewncylchgronau byd amaeth. Yn yr angladd a gynhaliwyd yn EglwysDewi Sant, Bangor ar 16 Tachwedd daeth cynulleidfa fawr iawn i’rgwasanaeth gan ddangos y parch oedd gan bawb tuag ato.
Dywedodd y Parchedig Ddr Carol Roberts yn ei theyrnged iddo am eigymeriad distaw a pharchus a’i fod yn ŵr bonheddig iawn. Gŵrbonheddig yn wir oedd Glyn Williams a bydd colled fawr nid yn unigi’r teulu ond i’r fro gyfan oherwydd ei gefnogaeth i bopeth lleol.
Y mae ein cydymdeimlad fel bro tuag at ei weddw Mrs BerylWilliams, ei blant David a Mair, Carol ei ferch yng nghyfraith a’iwyrion Huw a Luned yn ddidwyll iawn.
GenedigaethLlongyfarchiadau i Anna a Dewi,Bryn Gwredog Isaf, Waen Wen arenedigaeth mab, Guto Glyn ar 6Tachwedd, brawd bach i Cadi.
BingoDiolch yn fawr iawn i bawb ameich cefnogaeth i’r Noson Bingo ar4 Tachwedd at YmddiriedolaethMeningitis Lleol, gwnaed elw o£100. Bydd y Bingo Nadolig ar 16Rhagfyr am 6.30, gyda’r elw tuagat Uned Gofal Arbennig y Babanodyn Ysbyty Gwynedd. Dewch yn llu,mae lluniaeth ar gael !
Clwb Cant Y Ganolfan £20 11 - Alwyn Williams£10 72 - Marred Jones£ 5 7 - Anita£ 5 8 - Nesta Parry
YsbytyDymuniadau gorau am adferiadbuan i Dr Ann Illsley, Pen Cefn,yn dilyn llawdriniaeth yn YsbytyMaelor, Wrecsam, yn ddiweddar.
Parhad dros y dudalen
TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth ( 601062
Olwen Hills (Anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth ( 600192
Sefydliad y Merched
Cawsom ein cyfarfod blynyddolnos Fercher Tachwedd y 9fedgyda nifer dda o aelodau ynbresennol. Cyn darllen ycofnodion a thrafod materioncydymdeimlwyd â Mrs BerylWilliams sydd wedi caelprofedigaeth. Yr ydym yn anfonein cofion at bawb yn TyddynHeilyn.
Ann Ilsley oedd yn trafod yradroddiad blynyddol acElizabeth Evans yr adroddiadariannol.
Fel arfer roedd adroddiadElizabeth yn ddeallus ac mae'nrhaid ei chanmol a diolch iddiam waith graenus, cryno athrylwyr. 'Roedd adroddiad einllywydd Mrs Ingrid Farrer ynllawn canmoliaeth ac fe alwoddy Sefydliad yn un "sbeshial"iawn. Cawsom flwyddynlewyrchus yn llawngweithgareddau gan nodi maiuchafbwynt y flwyddyn oedd ySioe Frenhinol lle bu gwaithcanmoladwy i'w weld. Diolchoddi bawb am eu caredigrwydd, eucyfeillgarwch ac am bobcymorth. Cyfeiriodd yn arbennigat gyfraniad Mrs Mair Griffithsyn trefnu'r holl weithgareddauac am ei gwaith diflino i'rsefydliad. Diolch, Mair, am yrholl waith da a threfnus. Yrydym yn ei werthfawrogi.
Ategu mwy neu lai adroddiadIngrid wnaeth Mrs Lesley Wyke,cynghorwr SYM, gan longyfarchsefydliad hapus yn llawngweithgareddau amrywiol.
Wedi ethol swyddogioncroesawyd atom Mr JamesGriffiths a ddaeth ar fyr rybudd.
Mrs Theta Owen oedd i fod iarddangos blodau ond fe'icymerwyd yn wael.
Anfonwn ein cofion ati ganobeithio ei bod yn gwella.Llenwi bwlch yn ardderchogwnaeth James Griffiths sydd ynadnabyddus i lawer ym mydcerddoriaeth. Arweinydd CôrDinas Bangor yw Jim a chafwydhanesion hyfryd, diddorol a digriganddo yn ymwneud â'ibrofiadau cerddorol.Mwynhawyd noson ddifyr iawn.Diolch, Jim, am dy gyfraniad.
Rhoddwyd y baned gan PatJones a Margaret Hughes adiolchwyd i bawb gan JeanPierce.
I ddiweddu ar nodyn hapus,llongyfarchwyd Mrs MurielPritchard ar ddod yn hen nainunwaith eto i Guto. Tybed oes'na ddigon o hogiau bellach igael tîm pêl droed? Hwyl ichi acAnti Mair hefo'r plantos.Edrychwn ymlaen at ein cinioDolig mis nesa. Bydd ynddiweddglo pleserus i'rflwyddyn.
Llais Ogwan 10
Glasinfryn a Chaerhun
Clwb Ieuenctid TregarthHoffai Lynda ddiolch i bawb a ddaeth i’r parti Calan Gaeaf adrefnwyd gan Lois, Emily, Manon a Samantha gyda chymorth yraelodau hŷn.
Aeth yr aelodau hŷn i westy’r Celtic Royal, Caernarfon, i gael eugwobrwyo ar ennill Tystysgrif Arweinyddion Iau:
Lefel 1: Katarine, Sioned a LlinosLefel 2: Leia, Leia Eleri, Corina, Dewi a Michael
Llongyfarchiadau iddynt i gyd!
Llongyfarchiadau hefyd i Lois, Manon a Samantha ar eullwyddiant yn ennill cwis Arfon, a dod yn ail yng nghwisGwynedd ym Mhorthmadog, ac i Leia, Dewi, Leia Eleri a Corinaar ennill cwis Arfon a chwis Gwynedd. Maent yn awr yn myndymlaen i gwis Cymru yn y Drenewydd ym mis Mai.
Bu Leia, Leia Eleri a Corina’n cymryd rhan mewn cystadleuaethgoginio yn Llanrug – diolch i Iola am eu cludo yno.
Mae’r Clwb ar agor ar nos Lun a nos Iau o 7.30. i 9.30.p.m. yn yGanolfan. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lynda – 601 739
DiolchHoffai Arhur (Llwydiarth, Tal yCae) a Nerys Rowlands ddiolcho waelod calon i bawb am eucardiau ac anrhegion arachlysur dathlu eu priodas ar 21Hydref. Bydd unrhyw roddariannol yn mynd tuag atachosion da.
Os oes unrhywun yn dymunocysylltu ag Arthur ei gyfeiriadnewydd ydi: Pandy,Cefnddwysarn, y Bala LL237LN. Ei rif ffon newydd yw01678 530 407.
LlongyfarchiadauBu Lowri Watcyn Roberts,Penyffriddoedd ac Elfed MorganMorris, Deiniolen yn llwyddiannuseto eleni yng nghystadleuaethcyfansoddi carol y Daily Post.Dyma’r trydydd tro iddynt ennill achawsant eu gwobrwyo yn ystod ycyngerdd Carolau o Llangollen. afydd ar y teledu yn ystod yNadolig. Gwuliwch allan amdanynnhw a’r garol.
DiolchDymuna Fred a Bess Buckleyddiolch o waelod calon i’r teulu,ffrindiau a chymdogion am yr hollgardiau, galwadau ffôn a phobarwydd o gydymdeimlad tuag atyntpan gollwyd eu nai annwyl, Bryn.Roedd hyn yn gysur mawr iddyntar adeg mor drist ac annisgwyl.Diolchant yn fawr hefyd i StephenJones am ei drefniadau trylwyr aci’r Parchedig Huw John Hughes amei wasanaeth teimladwy. Diolch iWyn Williams am ei wasanaeth aryr organ. Diolch yn arbennig iffrindiau Bryn am fod yn gefnmawr iddynt fel teulu.
Cyfarchion y NadoligNi fydd Fred a Bess Buckley ynanfon cardiau Nadolig eleni ondmaent yn dymuno Nadolig aBlwyddyn Newydd heddychlon i’wteulu a ffrindiau i gyd.
Gwobr arbennig Llongyfarchiadau i Rhys Llwyd,Ton Têg, Tal y Cae sydd wediennill Grog o’r chwaraewr rygbiGeorge North ar y rhaglen Wedi 7.
DiolchHoffai Mona Thomas, Bro Derfelddiolch o waelod calon i bawb ameu caredigrwydd tuag ati tra ynYsbyty Gwynedd ac Ysbyty Eryriyn dilyn y ddamwain pan syrthiodda thorri ei chlun.
Merched y Wawr Cangen TregarthNos Lun, Tachwedd 7, croesawyd Rhiannon Parry o Benygroes i’rgangen a’i thestun oedd ‘ Hynt a helynt y Nodwydd Ddur’.Rhoddwyd croeso twymgalon i Rhiannon gan Buddug, y ddwy ynhannu yn wreiddiol o ardal Talwrn ar Ynys Môn. Roedd yn blesergwrando ar y wraig wâdd y trafod sut y bu iddi hi ddechrau gwnioyn blentyn ifanc yng nghartref ei Nain ac am ei helyntion yn ygwersi gwnio yn Ysgol Uwchradd, Llangefni lle roedd yn caeltrafferthion gyda’r nodwydd ddur a’r athrawes ! Wedi cyfnodhelaeth yn magu plant yn ardal Llansannan ac yn athrawes mewnYsgol Uwchradd cafodd ei tharo’n wael ac ailgydiodd yn y gwniogan ymuno â chwrs oedd yn dod dan adain Coleg Llandrillo. Ynadaeth y newid mawr ac aeth ati o ddifri i gynhyrchu gwaith llawcywrain ac artistig. Gweithio gyda’r nodwydd ddur yw dileitRhiannon yn hytrach na defnyddio Peiriant Gwnio. Cawsom gyfle iweld enghreifftiau ardderchog o’r gwaith a wnaeth dros raiblynyddoedd. Trosglwyddodd ei neges gyda hiwmor a ffraethinebac wedi gair o ddiolch gan un arall o’r aelodau sy’n hannu o YnysMôn, sef Angharad Hughes, a phaned wrth gwrs, aeth pawb adrefgan ganmol y noson i’r cymylau. Cawsom ddôs ardderchog ochwerthin iach a chyfle i weld gwaith llaw nodedig iawn gansiaradwraig o fri. Paratowyd y baned gan Enid, Rita a Myfanwy arhoddwyd y wobr am yr enghraifft orau o waith llaw i Jên TempleMorris.
Llongyfarchiadau i ddwy aelod o’r gangen , sef Margaret Jones, CaeDrain a’i merch Jên Margiad Temple Morris, Tan y Garth, Bethesda,am gael y fraint o gael eu dewis i feirniadau gwaith llaw yn y SioeAeaf yn Llanelwedd eleni.
Bydd aelodau’r gangen yn dathlu’r Nadolig gyda chinio Nadoligyng Ngwesty’r Faenol, Pentir, Nos Lun ,Rhagfyr 5.Ar Ionawr 9 bydd y gangen yn cyfarfod yn Festri Capel Shiloh athestun y noson fydd ‘O’r Winllan ‘.
Plant a phobl ifanc Ysgol Sul Shiloh yn euGwasanaeth Diolchgarwch ar Hydref 16.
Diolchgarwch
Pwy Sy’n Cofio Ddoe?© Dr J. Elwyn Hughes
TANAU YN NYFFRYN OGWEN – RHAN 2
Coetmor Hall / Llys Coetmor
Yr ail dân yr hoffwn gyfeirio ato’n fyr ydi’r tân a
ddifaodd y tŷ mawr a alwyd yn Llys Coetmor
(neu ‘Coetmor Hall’ fel y gelwid ef gan amlaf).
Mae llawer wedi cymysgu’r eiddo hwn gyda
Phlas Coetmor a safai ryw dri neu bedwar can
mlynedd yn ôl y tu ôl i Ffarm Coetmor ar Lôn y
Fynwent (a phedair carreg, o liw golau, o’i
adfeilion wedi eu defnyddio i godi’r wal o flaen y
Ffarm). Cartref teulu’r Coetmoriaid oedd y Plasty
hwnnw ond ni fanylaf ar hynny yma. Ym 1884, ar
gost o £4000, y codwyd Coetmor Hall (a dyna’r
enw arno er i’w berchennog, pan ysgrifennai yn
Gymraeg, arfer yr enw Llys Coetmor). Roedd yn
glamp o dŷ ac, fel sy’n wybyddus i lawer, dyma
gartref W. J. Parry (y ‘Quarrymen’s Champion’
fel y gelwid ef gan ei gofiannydd). Bu Parry farw
ym 1927 ond ymhen ychydig flynyddoedd wedyn
dyma sut yr adroddwyd hanes y tân yn Coetmor
Hall yn Yr Herald Cymraeg (Mawrth 6, 1933) (a
gweler y llun-papur-newydd diddyddiad):
Dydd Iau diwethaf, dinistriwyd Coetmor Hall,
Bethesda, gan dân a’r unig beth sy’n aros yw
muriau moelion. Canfuwyd bod y tŷ ar dân gan
weithwyr oedd yn dychwelyd o’r chwarel ar ôl bod
yn gweithio’r nos. Pan gyrhaeddodd yr heddlu,
canfuwyd bod y tŷ bron wedi’i ddinistrio’n barod.
Gwelodd Mr D. J. Williams, prifathro Ysgol Sir
Bethesda, y mwg trwy ysbienddrych a bu iddo
yntau hysbysu’r heddlu. Nid oedd brigâd dân a phe
bai yno un, byddai’n amhosib rhwystro i’r tŷ gael ei
ddinistrio.
Bu llawer o sôn ym Methesda ynglŷn â sut y
dechreuodd y tân yn Coetmor Hall ond ni
chafwyd unrhyw brawf fod drwgweithred y tu ôl
i’r digwyddiad.
Tanau eraill
Gellid adrodd hanes ambell dân arall yn y
Dyffryn, megis yr un a ddinistriodd MAC
Scaffolding ar hen safle Springford Works ym
mhen draw Braichmelyn, y tân a ddifaodd y
Cambrian Music Stores yn Rhes Ogwen, a’r tân a
wnaeth gymaint o lanast yn y Felin Fawr, Coed y
Parc. A all darllenwyr Llais Ogwan feddwl am
ragor fel y rhain?
Llais Ogwan 11
Mynydd
LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai.( 600744
Eglwys y Santes Ann a’r Santes Fair
18 Rhagfyr: 9.45 Gwasanaeth "Naw Llith a Charol".24 Rhagfyr: 6 p.m. "Wrth y Preseb" - Stori'rNadolig i'r plant.11.30 p.m. Cymun cyntaf y Nadolig.25 Rhagfyr: 10.00 Cymun - Eglwys Crist, Glanogwen.(Yr unig wasanaeth yn y Plwyf ar Ddiwrnod yNadolig).
1 Ionawr: 10.00 Cymun - Eglwys Sant Cedol, Pentir. (Yr unig wasanaeth yny plwyf y Sul hwn).8 Ionawr: 9.45 Cristingl - Cymun Teuluol.15 Ionawr: 9.45 Boreol Weddi.
Cynhelir "Noson o Garolau a Mins Peis" nosWener, 16eg Rhagfyr am 7 o'r gloch.Croeso cynnes i bawb ymuno yn y carolau amwynhau paned a mins pei.
Estynnwn groeso i deuluoedd, plant acoedolion i'r gwasanaeth "Wrth y Preseb"noson y Nadolig i glywed stori'r Geni, allunio’r stabl a'r preseb yng nghongl yreglwys.
Anfonwn ein cofion cywiraf at bawb sy'n sâlar hyn o bryd - brysiwch wella!Os oes rhywun ohonoch yn dymuno derbyncymun yn eich cartref dros yr Ŵylcysylltwch â'r Ficer, Y Parchedig NiaWilliams (605149) neu'r Warden - Mr. PeterPrice (601199).
Dymunwn Nadolig Llawen i'n cyfeillion oll aBlwyddyn Newydd Dda i bawb ohonoch.
CydymdeimloRydym yn cydymdeimlo â Dyfrig, Stephen,Dilwyn Vaughan a Teifion ar golli eu mam,Mrs Lillian Mai Roberts, gynt o 27 Tan yBwlch. Roedd yn byw gyda Stephen ym Mheny Ceunant, Llanberis. Rydym yn meddwlamdanoch yn eich profedigaeth.
DiolchHoffai Janet Williams ddiolch o galon i bawbam y cardiau, galwadau ffôn, a’rcaredigrwydd a ddangoswyd tuag ati traroedd yn yr Ysbyty. Y mae wedi dod adreferbyn hyn ac yn gwella’n araf
DiolchDymuna Mr Dei Parry a’i gyfeillion ddiolch ibawb a ddaeth i wasanaeth y Cofio yn yneuadd, ac i bawb a gymerodd ran, Braf iawnoedd gweld cynulleidfa dda. Diolch yn fawr ichi i gyd.
Clwb y MynyddCafwyd trip siopa i Gaer - pawb wedimwynhau a llwyth o baciau ganddynt yn dodadref. Bydd y Cinio Nadolig yn Ross Torr,Llandudno ar 7 Rhagfyr.
Anfonwn ein cofion at bawb sydd yn sâl yn ycartref neu’r ysbyty, Gwellhad buan i bawbohonoch.
Eglwys y Santes Fair
Te NadoligDiolch yn fawr iawn i bawb afrwydrodd y ddrycin i ddodi’r Te Nadolig yngNghanolfan Tregarth ar 29Tachwedd ! Cafwyd pnawndifyr yn cael sgwrs a phaned.Tynnwyd y Raffl Fawr acmae ein dyled yn fawr iawn ibawb a gyfrannodd at y 35 owobrau.
Gwasanaeth Carolau’rAdfentDaeth tair eglwys y plwyfynghyd ar 27 Tachwedd ynEglwys y Santes Fair iddathlu Sul yr Adfent trwygynnal Gwasanaeth Carolau’rAdfent, gwasanaeth hyfrydwedi’i fwynhau gan bawb.Diolch i’r ficer, y ParchedigJohn Mathews, am drefnu, aci Geraint Gill yr organydd.
Gwasanaethau’r Nadolig 18 Rhagfyr – 9.45 -Gwasanaeth Carolau Teuluol24 Rhagfyr – 3.00 – yngNGHANOLFAN TREGARTH,Gwasanaeth y Crud25 Rhagfyr – 9.45 – Cymun Nadolig
Bocsys Esgidiau “Operation Christmas Child”
Diolch o galon i bawb ambob cyfraniad tuag at yrymgyrch yma, sydd yn anfonbocsys nwyddau i blantmewn angen yn yr Affrig,Dwyrain Ewrop aChanolbarth Asia.
Clwb Cant Y Gelli£20 22 Miss Nesta Hughes£15 1 Raymond Daxter£10 23 Pamela Smith£5 34 Beryl Brown
CAPEL SHILOH
Gwasanaethau 5.30Rhagfyr 11 Richard Lloyd Jones, Bethel**Rhagfyr 18 am 4 o’r gloch **Oedfa Nadolig yr Ysgol SulIonawr 1 Y Parch Gwynfor WilliamsIonawr 8 Trefniant LleolIonawr 15 Mr Islwyn Hughes, LlangoedIonawr 22 Parch Dafydd Hughes, C’fonIonawr 29 Parch John Owen,Bethesda
Gwasanaeth Noswyl y NadoligUndebol yn Shiloh am 6.00
Yr Ysgol Sul am 10.30 bob boreSul.
Llais Ogwan 12
Canlyniadau Eisteddfod
Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2011
Cyfarfod yr Hwyr –
Nos Wener 18
Tachwedd
Unawd Lleisiol:1af – Guto Ifan - Llangernyw2il – Heulen Cynfal – Parc, Y Bala3ydd – Bethan Elin Wyn Owen –Trefor, Ynys Môn
Unawd Offerynnol (yn cynnwys piano): 1af – Gwenno Glyn - Bontnewydd2il – Gwenno Morgan - Bangor3ydd: Mabon Jones, Bethesda Bach
Côr Cymysg/Meibion/Merched:1af – Côr y Penrhyn2il – Côr Dre 3ydd – Côr Dros y Bont
Rhaglen o Adloniant i YsgolionUwchradd1af – Ysgol Dyffryn Ogwen 3(Ensemble lleisiol)2il – Ysgol Dyffryn Ogwen 1 (Côr Iau)3ydd – Ysgol Syr Hugh Owen
Canlyniadau’r AdranLenyddol
Enillydd y Gadair:Mr John Norman Davies, Llangefni
Enillydd y Fedal Ryddiaith:Mr John Norman Davies, Llangefni
Enillydd Medal yr Ifanc: 1af - Marged Elen Wiliam –Penrhosgarnedd2il: Sian Mererid Jones, Stad Coetmor,Bethesda.
Llên yr IfancBlynyddoedd 7-9:1af – Rhiannon Llwyd - Ysgol DyffrynOgwen2il – Alys Haf – Ysgol Dyffryn Ogwen3ydd – Bryn Harris – Ysgol DyfffrynOgwen
Blynyddoedd 10-11: 1af – Bethan Hughes – Ysgol DyffrynOgwenCydradd 2il – Sioned Jones ac AnnestRowlinson – Ysgol Dyffryn Ogwen 3ydd – Mari Davies – Ysgol DyffrynOgwen
Dydd Sadwrn 19Tachwedd
Llefaru Meithrin.1af –Chenai Chikanza – YsgolLlanllechid 2il - Osian Sherlock –YsgolLlanllechid Cydradd 3ydd - Nia Williams - Ysgola Siôn Hughes - Ysgol Abercaseg
Unawd Meithrin.1af –Shannon O’Malley – YsgolTregarth2il –Mari Watcyn Roberts – YsgolLlanllechid 3ydd –Chenai Chikanza – YsgolLlanllechid
Llefaru Derbyn.1af – Madeleine – Ysgol Llanllechid2il - Rhiannon Llwyd - YsgolAbercaseg3ydd – Jac Lloyd – YsgolLlanfairpwll
Unawd Derbyn.1af – Madeleine – Ysgol Llanllechid2il – Rhiannon Llwyd – YsgolAbercaseg 3ydd – Cian Rhys – YsgolAbercaseg
Llefaru Blwyddyn 1.1af – Gwawr Hughes Owen -Ysgol Rhiwlas2il - - Adam Williams - YsgolLlanllechid3ydd – Erin Fflur- Ysgol Lanllechid
Unawd Blwyddyn 1.1af – Gwawr Hughes Owen - YsgolRhiwlas2il – Cari Llywelyn - Llanrwst 3ydd – Heidi Lewis- YsgolBodfeurig ac Efa Glain - YsgolLlanllechid
Llefaru Blwyddyn 2.1af – Ela Lois - Ysgol Abercaseg2il – Mari Fflur Bullock -YsgolLlanllechid3ydd – Sam Tomos -YsgolLlanllechid
Unawd Blwyddyn 2.1af – Mari Fflur Bullock - YsgolLlanllechid2il – Cerys Elen - Ysgol Llanllechid3ydd – Swyn Cadwaladr Owen - YsgolLlanllechid a Mared Wyn - YsgolLlanllechid
Llefaru Blynyddoedd 3 a 4.1af – Mali Rhys Williams - YsgolLlanllechid2il – Elis Evans - Ysgol Llanllechid3ydd – Gwydion Rhys - YsgolLlanllechid
Unawd Piano Blwyddyn 6 ac iau.1af – Siwan Mason – YsgolLlanfairpwll 2il – Alaw Mair - Pontllyfni Cydradd 3ydd – Dyddgu Glyn Jones –Ysgol Pen y Bryn a Efa Glain – YsgolPen y Bryn
Unawd Blynyddoedd 3 a 4.1af – Beca Tugwell Williams-YsgolTregarth 2il – Luned Elfyn- Ysgol PenybrynCydradd 3ydd – Gwilym Grey – YsgolTregarth a Gwydion Rhys - YsgolLlanllechid
Llefaru Blynyddoedd 5 a 61af – Osian Sanderson – YsgolTregarth2il –Beca Nia – Ysgol Llanllechid
3ydd – Gruff Roberts – Ysgol Tregarth
Unawd Alaw Werin Blwyddyn 6 ac
iau.
1af – Alaw Mair Williams - Pontllyfni
2il – Aziliz Kervegant – Ysgol
Llanllechid a Celyn Roberts -
Porthmadog
3ydd – Siwan Mason – Ysgol
Llanfairpwll
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac
iau.
1af – Aziliz Kervegant – Ysgol
Llanllechid
2il – Siwan Mason – Ysgol
Llanfairpwll
3ydd – Efa Glain – Ysgol Pen y Bryn
Unawd Blynyddoedd 5 a 6.
1af – Aziliz Kervegant – Ysgol
Llanllechid
2il – Siwan Mason – Ysgol
Llanfairpwll
3ydd – Mari – Ysgol Tregarth
Parti Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac iau.
1af - Ysgol Pen y Bryn
2il – Ysgol Llanllechid
Parti Llefaru Ysgol Gynradd.
1af – Parti Ffion - Ysgol Llanllechid
2il – Parti Ysgol Pen y Bryn
3ydd – Parti Ysgol Tregarth
Unawd Offerynnol Blwyddyn 6 ac
iau.
1af –Gwydion Rhys – Ysgol
Llanllechid
2il – Beca Jackson – Ysgol Pen y Bryn
3ydd – Beca Nia - Ysgol Llanllechid
ac Aziliz Kervegant – Ysgol
Llanllechid
Parti Unsain Blwyddyn 6 ac iau.
1af – Ysgol Tregarth
2il – Ysgol Pen y Bryn
3ydd – Ysgol Llanllechid
Côr Blwyddyn 6 ac iau.
1af – Ysgol Llanllechid
2il – Ysgol Pen y Bryn
3ydd – Ysgol Tregarth
Grŵp Dawnsio Gwerin Blwyddyn 6
ac iau
1af – Ysgol Tregarth Bl. 5+6
2il – Ysgol Tregarth Bl. 3+4
Grŵp Dawnsio Disgo Blwyddyn 6 ac
iau
1af – Ysgol Tregarth
2il – Ysgol Llanllechid
Tarian PerfformiadGorau am LefaruGwawr Hughes Owen – YsgolRhiwlas
Tarian PerfformiadGorau CerddorolAziliz Kervegant – Ysgol Llanllechid
Llenyddiaeth YsgolionCynradd y DalgylchStori 1af –Enlli Hughes Bl.6 – YsgolLlanllechid Cydradd 2il –Dyddgu Glyn Jones Bl.4– Ysgol Pen y Bryn ac AzilizKervegant Bl.5 Ysgol Llanllechid 3ydd – Gethin Hughes Bl.6 – YsgolLlanllechid
Barddoniaeth1af –Aziliz Kervegant Bl.5 – YsgolLlanllechid2il – Maisy Lovatt Bl.5 – YsgolLlanllechidCydradd 3ydd – Cara Traw Bl.6 -Ysgol Llanllechid, Michael HigginsBl.6 – Ysgol Llanllechid a MariBarnes - Ysgol Llanllechid.
Margaret Elen William o Benrhosgarnedd, enillydd Medal yrIfanc a John Norman Davies, Llangefni, enillydd y Gadair a’r
Fedal Ryddiaeth.
Llais Ogwan 13
Unawd Bl. 3 a 4. Beca Tugwell Williams, Ysgol Tregarth (1af);
Luned Elfyn, Ysgol Penybryn (2il); Gwilym Grey, Ysgol Tregarth a
Gwydion Rhys, Ysgol Llanllechid (cydradd 3ydd)
Parti Ffion, Ysgol Llanllechid. Buddugol – Parti Llefaru Cynradd.
Unawd Alaw Werin bl.6 ac iau : 1af – Alaw Mair Williams,
Pontllyfni; cydradd 2il – Aziliz Kervegant, Ysgol Llanllechid a
Celyn Roberts, Porthmadog; 3ydd – Siwan Mason, Llanfairpwll.
Parti Dawnsio Gwerin Ysgol Tregarth
Llefaru bl.5 a 6 : Osian Sanderson, Ysgol Tregarth (1af) ;
Beca Nia, Ysgol Llanllechid (2ail.)
Unawd Cerdd Dant Cynradd : Aziliz Kervegant, Ysgol Tregarth
(1af); Siwan Mason, Ysgol Lanfairpwll (ail).
Llais Ogwan 14
Parti Cerdd Dant Bl. 6 ac iau : Ysgol Pen y Bryn yn fuddugol.
Parti Ysgol Tregarth – 1af Parti Unsain.
Unawd Offerynnol :Gwydion
Rhys,Ysgol Llanllechid (1af) ;
Beca Jackson, Ysgol Penybryn
(2il).
Efa Glain, Ysgol Penybryn,
enillydd y drydedd wobr ar yr
Unawd Cerdd Dant.
Parti Ysgol Llanllechid – 3ydd Parti Unsain.
Cynrychiolwyr Parti Cerdd Dant Buddugol Ysgol Penybryn hefo’r
cwpan.
Tarian y Parti Unsain i Ysgol Tregarth
Llais Ogwan 15
DAFYDD CADWALADRDAFYDD CADWALADR
Cynhyrchion Coedlannol
Coed Tân - Llwythi bach a mawr
Ysglodion pren i’r ardd
Ffensio a thorri coed
Asiant system gwresogi trwy
losgi coed
01248 605207
Adrian Stokes
Peintiwr
ac
Addurnwr
Rhif Ffôn: 601 575Symudol 07765127704
D. E. HUGHESa’i fe ib ion cyf
YMGYMERWYR ADEILADAUN.H.B.C.
Gardd Eden, Stryd Fawr,Rachub, LL57 3HF
Ffôn a Ffacs 01248 602010
L. Sturrsa’i feibion
sefydlwyd yn 1965
ADEILADWYR
Ffôn: 600953Ffacs: 602571
Pob math o waith trydanol
Huw JonesYmgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda
phrofiad diwydiannol
Y Wern, Gerlan, Bethesda
Gwynedd LL57 3ST
Ffôn: 01248 602480
Symudol 078184 10640 01248 601 466
OWEN’S TREGARTH
Cerbydau 6 ac 16 seddFfoniwch am bris diguro
Cludiant Preifat a Bws Mini
01248 602260
Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon
Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle
Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol
Ffôn / Ffacs 01286 870882
RICHARD S. HUMPHREYS
Contractwyr Trydanol
Jones & Whitehead Cyf
Swyddfa Gofrestredig
Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU
Ffôn: 01248 601257
Ffacs: 01248 601982
E-bost: [email protected]
Malinda Hayward(Gwniadwraig)
Awel DegPenygroes, Tregarth.
Am unrhyw waith gwnïo- trwsio, altro ac ati -
Ffoniwch 01248 601164
DEWCH I WELDEICH
CYFREITHIWRLLEOL
SGWâR BUDDUGSTRYD FAWR
BETHESDAGWYNEDDLL57 3AG
BETHESDA01248 600171
CyfreithwyrY CYNGOR CYNTAF
AM DDIM
EWYLLYSIAU APHROFIANT
SYMUD TŶ
Tudur Owen, Roberts, Glynnea’u cwmni
Plymio a GwresogiTŷ Capel Peniel, Llanllechid
Rhif Corgi 190913
Tony Davies
Llais Ogwan 16
Hywel Williams
Aelod Seneddol
Etholaeth Arfon
CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei
drafod gyda’ch AS mewn cymhorthfa,
yna cysylltwch af ef yn ei swyddfa
yng Nghaernarfon neu ym Mangor:
Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948
Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076
CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei
drafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,
yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa ym
Mangor neu yng Nghaernarfon
Alun Ffred Jones
Aelod Cynulliad
Etholaeth Arfon
Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948
Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076
Côr Meibion y PenrhynGyda’r Nadolig yn nesáu mae gan y côr raglen lawn o ddigwyddiadau gydanifer o alwadau am ein gwasanaeth yn cynnwys canu carolau yng Nghastell yPenrhyn a thu allan i Morrison’s ym Mangor heb sôn am leoedd eraill lle byddy côr, yn ôl ei arfer, yn codi arian at wahanol achosion da.
Cyngerdd i’w gofio.
Wedi dweud hynny, prif ddigwyddiadau Mis Rhagfyr fydd y CyngerddBlynyddol mawr yn Neuadd PJ y Brifysgol ar Ragfyr 11 gyda’r tenor enwogRhys Meirion ac Iwan Llywelyn Jones y pianydd nodedig, gyda’r delynoresddisglair Glain Dafydd a Gwyn Owen y trwmpedwr medrus. Hefyd, cyndechrau’r cyngerdd ac yn ystod yr egwyl bydd parti llinnynol bychan o’r enwShappard o dan arweiniad Patrick Rines yn difyrru’r gynulleidfa yn y cynteddGan mai’r actor adnabyddus John Ogwen fydd yn cyflwyno ar y noson gellirgwarantu y bydd sglein broffesiynol ar yr holl ddigwyddiadau. Disgwylir ybydd mynd mawr ar y tocynnau a hyderwn y bydd Eisteddfod Genedlaethol yrUrdd yn elwa’n sylweddol oddi wrth y cyngerdd gan mai dyna lle bydd yr ariana wneir o’r noson yn mynd. Os byddwch yn darllen y geiriau hyn wedi i’rdigwyddiad basio heibio gobeithio i’r rhai hynny ohonoch a fu yno fwynhau’rprofiad ac y byddwch yn gallu dweud ei fod yn fythgofiadwy.
Y CD newydd ar ei ffordd
Gobeithir hefyd y byddwn yn gallu lawnsio’r CD newydd gan fod honno wediei chwblhau ac mae’r tapiau bellach wedi eu hanfon gan Sain i’w cynhyrchu arffurf CD. Gan fod y CD hon yn torri tir newydd yn hanes cerddoriaeth gorawlyng Nghymru gyda nifer o offerynnau gwahanol yn cyfeilio, megis drwmAffricanaidd yn y gân Shosolosa, ond hefyd fe fydd y ffidil, y delyn a’r pianoymhlith yr offerynnau eraill a glywir ar y CD. Gobeithir medru gwerthu’r CDam oddeutu £13 yr un. Gwyliwch amdani yn y siopau!
Côr Meibion Dinas Bangor
Yr oedd yr arweinydd James Griffiths oddi cartref yn arholicerdd yng Ngwlad Thai ond oherwydd y llifogydd mawr bu raididdo ddychwelyd adref ar ôl dim ond pythefnos. O bosib, byddyn rhaid iddo ddychwelyd yno yn y flwyddyn newydd igwblhau’r gwaith. Yn y cyfamser bydd yn mynd i Malta i arholiam dair wythnos. Bydd y Côr yng ngofal y Dirprwy ArweinyddGwilym Lewis, Lowri Roberts Williams a Barry Wynne.
Cafodd y Côr wahoddiad i ganu yn Ffair Nadolig Ysgol yFaenol ar 2 Rhagfyr. Yr oedd y Côr yn ddiolchgar am ygwahoddiad ac yn falch iawn o’r cyfle i gynorthwyo’r ysgoloherwydd eu parodrwydd i adael i ni ddefnyddio’r neuadd owythnos i wythnos.
Fel y dywedwyd yn rhifyn Tachwedd, bydd pwyslais mawr yn yflwyddyn newydd ar recriwtio aelodau newydd. Daw aelodau’rCôr o ardal Llanberis, Llanfairfechan, Ynys Môn (gan gynnwysCaergybi) heb sôn am ardal Bangor a Dyffryn Ogwen. Felly, osam ymaelodi â chôr gweithgar sy’n teithio ymhell yn aml ac yncael llawer iawn o gyngherddau yn lleol ac ymhellach, dewch iYsgol y Faenol unrhyw nos Fercher, am 7.30pm.
Cafodd y genod ddau gyngerdd hynod o lwyddiannus ynddiweddar. Y cyntaf yn Eglwys Sant Ioan yn Llandudno, felgwesteion i Gôr y Penrhyn, a’r ail yn diddannu’r gymdeithaslenyddol yng nghapel Bethlehem, Talybont. Dau gyngerddhollol wahanol ond pawb wedi mwynhau yn arw.
Ond daeth hi’n ddiwedd cyfnod ar Cororion. Roedd hi’n nosondrist iawn i’r genod ar nos Iau y 3ydd o Dachwedd. Oherwyddprinder aelodau, penderfynwyd na ellid cario ’mlaen fel côr. Erbod bron i bawb o’r côr wedi ceisio denu aelodau newydd, nichafwyd fawr o lwc. Felly y penderfyniad gan bawb oeddcymryd seibiant o’r côr ond bod y drws yn dal ar agor i ni alludod yn ôl at ein gilydd yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadpenodol, efallai yr ŵyl gerdd dant pan yn y gogledd neu’reisteddfod. Mae ein diolch yn fawr iawn i Hywel Parry einharweinydd, mae ei frwdfrydedd a’i deyrngarwch i’r côr wedibod heb ei ail, ac yn sicr ’rydym wedi elwa yn fawr o’i gael felarweinydd i ni. Diolch Hywel am ddioddef llond neuadd ogenod swnllyd bob nos Iau!
Y bwriad ydi dod yn ôl at ein gilydd ar ôl y Pasg flwyddyn nesaf,ac os oes digon o niferoedd yn dangos diddordeb, yna ail-ddechrau ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant fis Tachwedd. Felly os oesgennych ddiddordeb mewn ymuno am gyfnod penodol, ynaedrychwch allan am hysbyseb yn Llais Ogwen cyn y Pasg yflwyddyn nesaf, neu bosteri o gwmpas y pentref. Gan obeithio’nwir nad hyn fydd diwedd côr merched y dyffryn, ac y cawn etoddod at ein gilydd i ganu a mwynhau!
Cororion
Cychwynnodd oddeutu cant ohonom ar y daith i Fflandrys ym mis Hydref a chaelamser gwych, llwyddiannus a theimladwy iawn yno yng Ngwlad Belg. Cynhaliwyddau gyngerdd – y cyntaf yn Eglwys Gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul yn Ostend ar yNos Sadwrn gyda’r lle yn orlawn a’r canu yn cael ei werthfawrogi’n fawr.Cynhaliwyd yr ail gyngerdd yn yr Eglwys St Pauluskerk Langemark ar y Nos Sul.
Pwrpas ein hymweliad oedd mynd a chadair o Drawsfynydd ac arni lun o’r milwyro’r ardal a laddwyd yn Fflandrys yn ystod rhyfel 1914-1918. Bu Marc Decaesteckerar ymweliad â Thrawsfynydd am gyfnod a chafodd ei wefreiddio gan hanes HeddWyn a laddwyd ar 31 Gorffennaf, ychydig ddyddiau cyn ennill Cadair yr EisteddfodGenedlaethol, Penbedw (Birkenhead) yn 1917. Gorchuddwyd y gadair â defnydd duyn ystod y seremoni. Mae Mr Decaestecker wedi clustnodi rhan o’i dŷ bwyta er cofam Hedd Wyn. Nid oes cofgolofn i’r milwyr Cymreig ac y mae Marc a SefydliadPaschendale yn brysur yn codi £60,000 i godi un. Cawsom wasanaeth teimladwydros ben ar lan bedd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans) yn Artillery Wood achanodd y côr englynion coffa’r bardd yno. Gosodwyd torch o bapïau cochion ar eifedd cyn ymadael. Y mae cofgolofnnau i filwyr Prydain eisoes ar gael yno ac maetrigolion Paschendale a Fflandrys yn awyddus iawn fod yno un arbennig ar gyfer yCymry hefyd.
Os cewch gyfle i fynd ar ymweliad yno, cofiwch alw ym mwyty Marc y ‘DeSportsman’, yn Langemark, i gael gweld cornel o Gymru fach! Cewch groesotwymgalon. Hoffwn ar ran y côr ddiolch o galon i Glenna ac Alwyn Bevan amdrefnu’r trip a’r gweithgareddau, heb anghofio arweiniad meistrolgar Geraint acAngela Roberts. Bydd manylion yn y rhifyn nesaf. Cofiwch fod lle i fwy o gantorion– rydym yn paratoi ar gyfer cyngherddau’r Nadolig ar hyn o bryd a chroeso i chiymuno a ni.
Joyce Roberts (Aelod o’r côr)
Côr y Gogledd
Llais Ogwan 17
Blodau Racca
PENISARWAUNPlanhigion gardd a basgedi crog o’r
ansawdd gorau - gan hogan o Rachub
Ffôn: 01286 870605
Hefyd ymgymryd â gwaith cerrig beddi:
adnewyddu neu o’r newydd
Gweithdy Pen-y-bryn
Cefn-y-bryn, Bethesda
Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001
Gwasanaeth personol ddydd a nos
STEPHEN
JONES
†TREFNYDD
ANGLADDAU
Gareth WilliamsTrefnydd Angladdau
Crud yr Awel1 Ffordd Garneddwen
Bethesda
Ffôn: (01248) 600763 a 602707
GWASANAETH DYDD A NOS
01248 605566Archfarchnad hwylus
Gwasanaeth personol
gyda’r pwyslais ar y cwsmer
Tocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy
Ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr
7 diwrnod yr wythnos
LONDISBETHESDA
Hysbysebwch yn yHysbysebwch yn y
Llais: Cysylltwch â:Llais: Cysylltwch â:
Neville HughesNeville Hughes
600853600853
JOHN ROBERTS
Teilsiwr
Symudol: 07747 628650
Paentiwr
Papurwr
Ffôn: 01248 600995
Arbenigwr mewn lloriau coed caled
Arbenigwr mewn gosod aselio lloriau coed caled,
adnewyddu lloriaugwreiddiol a chyweiriolloriau sydd wedi eu
difrodi.
Andrew G. Lomozik B.A.Ffôn: 01248 602117 Symudol: 07835487909
Posh PawsTacluso Cŵn
Busnes lleol
Prynhawniau neu Nosweithiau4.00 - 10.00
Dydd Sul 8.00 a.m - 4.00 p.m.Gwasanaeth casglu a danfon
Ty’n Llan Uchaf, Llanddeiniolen
01248 671382 neu 07935324193Ebost: [email protected]
Vivien, Amanda, Jenny a NicolaGemwAith BO-weN
GwAsANAeth tyllu ClustiAu
601888
Siswrn ArianTrin Gwallt Merched,
dynion a Phlant
AUR
Gostyngiad o20%
Os nad mewn sêl eisoes
Ymgymerwr adeiladu a
gwaith saer
Ronald JonesBron Arfon, Llanllechid
Bethesda
01248 601052
SIOP BARBWR
MR TOM78 Stryd Fawr
Bethesda
Torri gwallt Dynion a Phlant
gan Helen (hogan leol)
Hefyd Gwelyau Haul
Llais Ogwan 18
NEUADD OGWENBETHESDA
GYRFA CHWIST10, 24, 31 Ionawr
am 7 o’r gloch
Dewch i fwynhau nosweithiau difyr
Beth sydd ymlaen yn y Dyffryn?
NEUADD OGWEN,
BETHESDA
07 Ionawr Mini Rygbi
14 Ionawr NSPCC
21 Ionawr Ysgol Abercaseg
28 Ionawr Canolfan Rachub
04 Chwefror Eisteddfod yr Urdd
(Bob bore Sadwrn am 10.00 o’r gloch)
BOREAU
COFFI
Cylch Ti a Fi
Bob Bore Mawrth
9.15 - 10.45 am.
Canolfan Cefnfaes, Bethesda
Dewch am baned a sgwrs, stori a chân
Ffôn: 602032
Sesiynau Siarad i Ddysgwyr
Paned a Sgwrs
Caffi Fitzpatrick 11.00 – 12.00
Dydd Sadwrn cyntaf pob mis
Peint a Sgwrs
Douglas Arms Bethesda
20.00 – 21.00
Trydydd Nos Lun pob mis
EGLWYS UNEDIGBETHESDA
yng Nghapel Jerusalem
Estynnir croeso cynnes i bawb ioedfaon Sul
Bore: Gwasanaeth ac Ysgol Sul am 10 o’r gloch
Hwyr: Gwasanaeth am 5.00 o’r gloch
EGLWYS UNEDIG BETHESDA
‘LLENWI’R CWPAN’Dewch am sgwrs a phaned
Bob bore dydd Iau
rhwng 10.00 o’r gloch a hanner dydd
Un sesiwn am ddim os dewchâ’r hysbyseb hwn hefo chi
Croeso i bawb, yn arbennig dysgwyr
Manylion gan Jake neu ElenaFitzpatrick - 01248 602416
neu galwch heibio’r dosbarth
Dosbarthiadau
yng Nghanolfan
Gymdeithasol
Tregarth bob
nos Fercher
7.00 tan 9.00
WU SHU KWANBocsio Cic Tsieineaidd (Kung Fu)
Llais Ogwan 18
Cist Gymunedol chwaraeon cymru
Awydd £1,500 tuag at eich prosiect
chwaraeon cymunedol?
Mae’r Gist Gymunedol yn cynnig grant o hyd at£1,500 i gefnogi cynlluniau chwaraeon agweithgareddau egnïol newydd neu ychwanegolyn y gymuned.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Rhian Dobson Swyddog Datblygu Chwaraeon
Rhif Ffôn: 01758 04 057
ebost:[email protected]
www.gwynedd.gov.uk
HYSBYSEBU YNRHAD AC AM DDIM
YN Y LLAIS
i gymdeithasau a mudiadau yn
Nyffryn Ogwen
Hyd at y maint yma
(3” (750mm) X 1 golofn)
Cysylltwch â’r Trefnydd
Hysbysebion
Neville Hughes (01248) 600853
CYMDEITHAS HANES
DYFFRYN OGWEN7.00 o’r gloch
yn Festri Capel Jerusalem,
Bethesda
Nos Lun, 19 Ionawr
Gwilym Evans
“Olew Morris Evans”£1.50 wrth y drws neu
am ddim i aelodau
Cofiwch Brynu
Calendr Llais Ogwan
Yr anrheg Nadolig
delfrydol
£3.50 yn y siopau lleol
neu ffoniwch
Dafydd Fôn Williams
01248 601583
Carolau yn Llys DafyddStryd Fawr Bethesda
yng nghwmni
Côr Meibion y PenrhynNos Iau
22 Rhagfyr
am 8.00 o’r gloch
Diod Cynnes a Mins Peis
Cofiwch brynu calendr
Llais Ogwan, neu roi
tanysgrifiad i’r papur
yn anrheg delfrydol i gyfeillion
neu aelodau o’r teulu sy’n bell
oddi cartref
Llais Ogwan 19
O’r Cyngor
Cyngor Cymuned Pentir
Yn eisiau:
Clerc rhan-amser
i’r CyngorAm fwy o fanylion cysylltwch â’r
Clerc presennol
Dilwyn Pritchard, ar
01248 601880
Dyddiad Cau 11 Ionawr 2012Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y
Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd,
Cyngor Cymuned Llanllechid
Cynhaliwyd cyfarfod mis TachweddCyngor Cymuned Llanllechid yn NeuaddTalgai, Llandygái gyda’r CynghoryddKevin Glyn Williams yn y gadair.
Derbyniwyd llythyr o ymddiswyddiad gan yCynghorydd Dewi Davies yn nodioherwydd ymrwymiadau teulu a gwaithteimlai nad oedd yn gallu rhoi ei amser fely hoffai i sefyll ar y cyngor. Ategwydllongyfarchiadau iddo ef a'i wraig arenedigaeth ail blentyn. Gofynnwyd i'r clerclythyru ag o ac i ddiolch iddo am ei waithgan nodi efallai yn y dyfodol y bydd yndymuno sefyll unwaith eto ar y cyngor.Gan mai Dewi Davies oedd yr IsGadeirydd fe gynigiodd Dafydd Meurigenw Meirion Davies ac fe'i eiliwyd ganWyn Bowen Harries. Derbyniodd MeirionDavies y swydd o Is Gaderydd.
Mae’n fwriad gan y cyngor osodhysbysfwrdd ym mhentref Talybont ac feddangosodd y clerc enghreifftiau ohysbysfyrddau gan gwmni o Lanrwst. Fefydd angen trafod ymhellach cynpenderfynu.
Adroddodd y Cynghorydd MargaretFernley ei bod wedi cysylltu gyda'r CyngorSir ynglŷn â chyflwr dail, mwd a choed arhyd Ffordd Crymlyn a’u bod wedi ymatebdrwy sgubo'r ffordd gyda pheiriannau am2 ddiwrnod ac roedd hyn wedi gwellacyflwr y ffordd yn aruthrol.
Derbyniwyd copi o Gynllun Datblygu LleolEryri gan Barc Cenedlaethol Eryri.
Derbyniwyd lythyr gan Hywel Williams ASyn cynnig dod i gyfarfod gyda'r cyngor.Penderfynwyd ymateb gan roddidyddiadau cyfarfodydd mis Ionawr aChwefror fel opsiynnau iddo.
Cymeradwywyd cais ar gyfer gosodpaneli solar ar adeilad amaethyddol,Glanmor Isaf, Talybont, Gwynedd,
Adroddodd Dafydd Meurig fodPartneriaeth Ogwen wedi bod yn
llwyddiannus yn eu cais i dderbyn grant achymorth ar gyfer creu CymunedGynaliadwy yn Nyffryn Ogwen.Penderfynwyd mai Dafydd Meurig aMegan Tomos fyddai'n cynrychioli'r cyngorar y pwyllgor. Eglurodd Dafydd Meurig maibwriad Partneriaeth Ogwen yw prynuadeilad ar stryd fawr Bethesda a'i droi ynsafle y bydd y cynghorau cymuned yngallu ei ddefnyddio fel man canolog.Bwriedir hefyd y bydd yr heddlu, yr undebcredyd ac asiantaethau eraill yn eiddefnyddio. Eglurodd y byddai moddwedyn cael trefnu gwaith yn yr ardalmegis torri coed ein hunain ac nid trwy'rCyngor Sir. Roedd yr holl gynghorwyr oblaid y cynllun
Cyngor Cymuned Llandygái
Cynhaliwyd cyfarfod mis Tachwedd yng
Nghanolfan Tregarth gyda’r Cynghorydd
Mair Owen Pierce yn y gadair.
Penderfynwyd dwyn sylw’r Cyngor Sir eto
at nifer o ddamweiniau sy’n digwydd o
gwmpas cyffordd Allt Cerrig Llwydion
Tregarth. Hefyd at goed sy’n tyfu drosodd
i’r ffordd a’r canghennau wedi disgyn.
Mae’r Uned Lwybrau yn ymchwilio i
faterion ynglŷn â llwybrau gerllaw
Pennau’r Bronnydd, pont ar y llwybr o Dan
y Bwlch a’r llwybr o Gorlan Grydd i
gyfeiriad Capel Chwarel Goch, Mae’r
Uned Gweithiau Bwrdeistrefol yn rhoi sylw
i’r cais ynglŷn â bin ar ben Lôn Hermon,
Canmolwyd Gang Cymunedol y Cyngor
Sir am eu gwaith da yn clirio gordyfiant.
Cafwyd adroddiad gan y Cynghorydd Mrs
E, Frodsham ar weithgareddau o gwmpas
Neuadd Goffa Mynydd Llandygái a gan
Rhys M. Llwyd ynglŷn â Chanolfan
Tregarth, Gwneir ymholiadau parthed y
larwm ar safle Dŵr Cymry ym Mynydd
Llandygái.
Dyma benillion o waith William
Gruffudd Hen Barc a fuasai o
ddiddordeb i rai o ddarllenwyr y
Llais.
Hoffter Bro
Dringo wnes i ben Moel Wnion
I gael gweld y wlad a’i swynion;
Yno’r hedydd yn ei elfen
Gwyd tan ganu tua’r glasnen.
Gallt a mawn a gawn a’r gwaenydd
Yn y golwg gyda’i gilydd;
Gyrn, Nant Gam a Phant y Mynach,
Nid oes yn y byd le harddach.
Cwm yr Afon Goch a’r Drosgl
A’r ddau Fera fel dau fwdwl;
Draw yng nghanol meysydd gleision
Llygad gloyw Llyn Cororion.
Chwarel Penrhyn, lle mae’r hogia’n
Troi y llechen las yn fara,
Carnedd Dafydd a Llywelyn,
Fronllwyd Fawr a phen Braichmelyn.
Oll i’w gweld yn eglur ddigon
Wedi dringo i ben Moel Wnion.
Cyngor Cymuned Pentir
Cynhaliwyd cyfarfod o’r Cyngor yn yGanolfan, Penrhosgarnedd gyda’r CynghryddMarred Jones yn y gadair.
Pont Felin HenWedi i’r Cyngor anfon at y Cyngor Sir yn holipam bod y fath arian yn cael ei wario ar bont iLôn Las Ogwen yn hytrach nag ar ffyrddgwledig, derbyniwyd ateb gan y Cyngor Sir yndweud fod defnydd helaeth yn cael ei wneudo’r Lôn Las a bod y bont yn gwarantu llediogel i groesi yn Felin Hen. Cofnododd dyfaismonitro ym Mhorth Penrhyn rhwng 19 Medi a6 Hydref 2011 bod 3643 o feicwyr acherddwyr wedi defnyddio’r lôn. Roedd ariany bont yn dod o ffynhonnell Ardal TeithioCynaliadwy Môn a Menai ac ni fyddai’nbosibl ei ddefnyddio i wella ffyrdd gwledig.Roedd lliwiau’r bont wedi cael eu dewis ynofalus er mwyn dynodi mynedfa wych iWynedd. Nododd y Cynghorydd JamesGriffiths nad oedd hyn yn ateb y cwestiwn amgost y bont a bod holl gywair y llythyr felrhyw fath o gerydd am godi’r pwyntiau hyn.Teimlai’r Cynghorydd Lowri James fod y bontwedi cael ei hadeiladu ar adeg pan fo sefyllfaariannol y wlad mewn cyflwr trychinebus. Niwelai’r Cynghorydd Anwen Thomas sut yroedd y bont yn debygol o arafu moduron llemae cwyno am or-yrru yn barod.
A4244Derbyniwyd ymateb gan Adran Reoleiddio’rCyngor Sir yn dilyn rhagor o geisiadau igyfyngu cyflymder ceir ar y ffordd trwyBentir. Dywedai nad oedd yr Heddlu yncefnogi’r cais am gyfyngiad. Â’r llythyr yn eiflaen i nodi bod y Cynulliad yn darparu dogfensy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau Cymruadolygu cyflymder ar briffyrdd, a hynny’ncynnwys yr A4244. Derbyniwyd gwybodaethgan Iwan Thomas o Gymdeithas Parchu Pentiryn nodi fod y grŵp yn casglu gwybodaeth abarn trigolion lleol ar gyfer unrhywdrafodaethau yn y dyfodol. Maent hefyd yntrefnu deiseb i gael barn pobl leol. Adroddoddy Cynghorydd John Wyn Williams fod Aelod yCynulliad yn lleol yn trefnu i gyfarfod â’rHeddlu i drafod y mater ymhellach.
Gor-yrru yng NglasinfrynDerbyniwyd ymateb gan y Cyngor Sir ynglŷnâ chŵyn y Cyngor ar y mater yma. Wediymweliad yno gyda’r Heddlu nid oeddynt yngweld fod problem fawr yn yr ardal. Serchhynny maent am ail edrych ar y posibilrwyddo godi arwyddion newydd ar y ffordd. Nidoedd y Cynghorydd Marred Jones yn hapus aryr ateb hwn a gofynwyd i’r Clerc anfon at yCyngor Sir i ofyn am gyfarfod ar y safle.
Blwch Post CaerhunYn dilyn tynnu’r blwch postio o’r ardal.holodd y Cynghorydd Hames Griffith a oeddunrhyw newyddion am ei ailosod. Dywedoddy Clerc iddo gael gair gyda Gareth Jones o’rSwyddfa Bost a’i fod yn dweud y byddir yncyflwyno cais a gael adleoli’r blwch ger StadCaerhun. Dywedodd y Cynghorydd John WynWilliams y byddai’n holi’r Cyngor Sir a ThaiCymunedol Gwynedd a oedd unrhywdrefniadau ar y gweill.
Parchu PentirAdroddodd y Cynghorydd Lowri James fodPwyllgor y Gymdeithas yn holi pa bryd ygosodwyd arwyddion cyflymder cenedlaetholar y ffordd trwy Bentir. Addawodd y Clercymholi. Dywedodd hefyd fod y gymdeithaswedi plannu rhagor o fylbiau Cennin Pedr arochr y ffordd a’u bod wedi bod yn brysur ynclirio a chasglu sbwriel a daflwyd ar hyd yrardal, gan drefnu i Gyngor Gwynedd ei gasglu.Ar ran y Cyngor, diolchodd y cadeirydd i’rGymdeithas am eu gwaith caled.
Rhoddion Ariannol i GymdeithasauPenderfynwyd cyfrannu £125 at Glwb HenoedPenrhosgarnedd a £175 at Llais Ogwan.Penderfynwyd gadael ceisiadau gan Shelter,Bobath (Cymru) ar y bwrdd. Penderfynwydhefyd y byddai’r Cadeirydd a’r Is-Gadeiryddyn cyfarfod â swyddogion Ysgol y Garnedd idrafod y cais am arian tuag at Barc Antur ybwriedir ei ddatblygu ar dir yr ysgol.
Penderfynwyd derbyn cais gan yr AelodSeneddol, Mr Hywel Williams i ymweld â’rCyngor yn y flwyddyn newydd.
Llais Ogwan 20
C H W I L A I R M I S M E D I
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Yn y chwilair hwn mae un o’r atebion wedi ei ddangos yn barod. A oes modd i chwi ddod o hyd i’r gweddill? (Gwyddom fod Ll, Ch, Dd, Th ac
yn y blaen yn un llythyren yn y Gymraeg, ond i bwrpas y chwilair dangosir hwy fel dwy lythyren ar wahân.) Atebion, gyda’r enw a’r cyfeiriad,
os gwelwch yn dda, i André Lomozik, Zakopane, 7 Rhos-y-Coed, Bethesda, Gwynedd LL57 3NW, erbyn 4 Ionawr Bydd gwobr o £5.00 i’r enw
cyntaf allan o’r het. Os na fydd neb wedi cael y 12 yn gywir rhoddir y wobr i’r sawl fydd wedi cael y nifer fwyaf yn gywir.
AR DRAWS
1. Amser gweld beth mae Siôn
Corn wedi ei adael wrth droed
y gwely (2,1,4)
5. “A --- -- a ddwg fwy” Dihareb
(3,2)
8. Matres y baban Iesu yn odli
efo’i fam. (5)
9. Anodd iawn cael gwared â hwn
os ydych wedi pardduo’ch
cymeriad (3,4)
10. Cyfnod y dathlu (3,6)
12. Haul Sbaen (3)
13. Cyflawni a gweithredu (6)
14. Mynydd ger Bethesda yng
nghanol Nant Ffrancon (6)
17. Neb llai na’n mam ni oll, efallai
(3)
18. “Fairy lights” yr oes o’r blaen
(9)
20. Ymddwyn yn dda er mwyn cael
actio yn Nrama’r Geni (3,4)
21. Os y cei di ----- o bwdin Dolig
mi fyddi’n sâl fel ci (5)
23. Hanner cant o flaen Siôn yn
gymysg yn yr hosan Nadolig
(5)
24. “Cewch gusan os ewch dano
Yn llon dan ei aeron o.” (7)
I LAWR
1. Sgwrs rhwng dau
2. “--- mae ein plant yn byw...”
Emyn gwladgarol. (3)
3. Osgoi wrth chwarae rygbi (7)
4. Mae ------ awyren yn saith awr
dros yr Iwerydd (6)
5. “Mi fendi di pan --- -- haf”
‘Yr Eneth Glaf’ (3,2)
6. Rhaid gwneud hyn os am
beidio ildio (9)
7. Pan ddêl y gêm i ben, cysur a
roir i’r chwaraewyr blin (7)
11. Yr hir-ddisgwyliedig ŵr
llwythog o’r awyr (5,4)
13. Fel hyn y mae’r tywydd i fod
yr amser yma o’r flwyddyn (7)
15. --- ---- Nadolig a’i wasanaeth
cynnar yw ‘Plygain’ (3,4)
16. Pan fydd 18 Ar Draws ar eu
gorau (2,4)
18. Rhan o 24 Ar Draws (5)
19. Hunangofiant y lleisiwr mwyn
o Fetws Gwerfyl Goch, “-- ---
ar y Tro”. (2,3)
22. Mae’r tywydd yn rhy arw i
fynd i Lwyn Tew meddai
Mrs.---, neu fe gollwch eich
côt (3)
ATEBION CROESAIR
TACHWEDD 2011
AR DRAWS
1. Canys; 4. Llwy; 6. Dim; 8.
Dinbych y Pysgod; 9. Obama; 11.
Roma; 13. Ieuan; 14. Tywod;
15. Dinlle; 16. Clwt; 18. Ymlid;
21. Noson Tân Gwyllt; 23. Dwl;
24. Sych; 25. Ochain.
I LAWR
1. Cadair; 2. Nant; 3. Swyno; 4.
Llay; 5. Y llygaid; 6. Dagreuol; 7.
Medwyn; 10. Anwel; 12.
Mynwesol;
14. Teyrnas; 15. Deunod; 17.
Testun; 19. Digio; 20. Wyna; 22.
Awch.
Croesair Rhagfyr 2011
Enw:
Cyfeiriad:
Cliw 11 Ar Draws oedd y maen
tramgwydd y tro hwn gan i rai
ohonoch gynnig yr ateb 'Rome',
ond 'Roma' ddywedai trigolion y
ddinas. Ar wahan i hynny roedd y
mwyafrif ohonoch yn gywir.
Llongyfarchiadau am fod yr enw
cyntaf allan o'r het i Heulwen
Evans, Tegfryn, 30 Bro Rhiwen,
Rhiwlas, LL57 4EL. Canmoliaeth
hefyd i'r canlynol am atebion
cywir : Dilys A. Pritchard-Jones,
Abererch; John a Meirwen
Hughes, Abergele; E. E. Roberts,
Llanberis; Jean Hughes,
Talybont; Elizabeth Buckley,
Sara a Gareth Oliver, Tregarth;
C H W I L A I R M I S R H A G F Y R
Lleoliadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dilys Parry, Jean Vaughan Jones,
Rhiwlas; Karen Williams, Elfed
Evans, Llanllechid;
Nadolig llawen a dedwydd i bawb
ohonoch.
Atebion erbyn 4 Ionawr i ‘Croesair
Rhagfyr’, Bron Eryri, 12
Garneddwen, Bethesda. LL57 3PD.
Y mis yma nodir 12 LLEOLIAD lle cynhaliwydEISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU dros yblynyddoedd.
Peidiwch â gofyn beth a ddigwyddodd y mis diwethaf.Roedd un o’r atebion wedi ei orchuddio gan y cliw, fellydim ond unarddeg ateb oedd yn bosib i chi eu darganfod.Diolch yn fawr am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn, aNadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.
Dyma atebion Tachwedd: Brwydr y Tir Comin,Buddugoliaeth Enwog, Cadw’r Dyffryn yn Lân, Canolfani’r Gerlan, Dim Croeso, Ffarwelio ag Ysgol, Gwaith neuHarddwch, Gwerthu Tai Cyngor, Rhywun am gêm o Denis,Y Stim Rolar. Ar deuddegfed un i fod oedd CHWALUCAPEL.
Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir. Merfyn a Laura Jones Tregarth, Mrs G. Clark Tregarth,Elizabeth Buckley Tregarth, Marilyn Jones GlanffrydlasBethesda, Mair Jones Victoria Place Bethesda, Doris ShawBangor, Eirlys Edwards Central Garage Bethesda, ElfedBullock Maes y Garnedd Bethesda, Herbert Griffiths BroSyr Ifor Tregarth.
Enillydd Tachwedd oedd. Elfed Bullock 30 Maes yGarnedd Bethesda
Llais Ogwan 21
Ysgol Dyffryn Ogwen
Gair o’r dosbarth
LlwyddiantLlongyfarchiadau mawr i Math Owen (Bl.8) sydd wedi cael ei ddewis ifod yn aelod o 'Only Kids Aloud' ar ôl cyfweliad llwyddiannus yn yGaleri yng Nghaernarfon. Bydd Math yn cymryd rhan mewn cyngerddmawreddog yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd yn y flwyddynnewydd.
Eisteddfod Dyffryn OgwenLlongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion yr ysgol a fu’n cymryd rhanyn Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn ddiweddar. Yr oedd tri grŵp o’r ysgolyn cystadlu yn y gystadleuaeth Rhaglen o Adloniant i YsgolionUwchradd - a’r Pedwarawd Lleisiol a ddaeth i’r brig am berfformiadgwefreiddiol a swynodd y gynulleidfa - Sioned Francis, Mari Gwyn,Siân Mererid Jones ac Alec Twomey Bos. Llongyfarchiadau hefyd i’rCôr Iau am ddod yn ail a threchu côr Ysgol Syr Hugh Owen. Yr oedd ynbraf iawn hefyd gweld y Grŵp Offerynnol yn cystadlu a dau o’r ysgol -Elin Cain a Jac Peall - yn canu yn y grŵp Vintage Magpie yn yr ungystadleuaeth.
Eleni eto Ysgol Dyffryn Ogwen oedd yr orsedd ar gyfer y Brif Seremoniac yr oedd graen ac urddas ar y gwaith - yn arbennig felly’r ddauarchdderwydd, Rhiannon O’Marah a Gwion Williams, prif ddisgyblionyr ysgol. Diolch i Mrs Rhiannon Thomas unwaith eto eleni am fod yngngofal y seremoni ac i Mr Richard Smith am ddylunio a gwneud ygadair a gyflwynir i’r prif enillydd. Llongyfarchiadau hefyd i SiânMererid Jones am ddod yn ail yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc.Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn eich llwyddiannau ac yn y ffordd yr oeddpawb yn cynrychioli'r ysgol mewn ffordd aeddfed a phroffesiynol. Daiawn chi!!
Clwb Gwyddoniaeth Ysgol Dyffryn OgwenAr Dachwedd 7fed fe gynhaliwyd sesiwn gyntaf y Clwb Gwyddoniaethnewydd. Mae’n glwb sy’n addas ar gyfer unrhyw ddisgybl ymmlynyddoedd 7, 8 a 9 sydd â diddordeb arbennig mewn gwyddoniaethneu sy’n abl a thalentog yn y maes. Criw brwdfrydig iawn ddaeth i’rsesiwn cyntaf efo Mrs Ann George, a chawsant gyfle i ddysgu amanatomeg y galon drwy wneud dyraniad (dissection). (Mae ynalawfeddygon y dyfodol yn dod i’r clwb gwyddoniaeth!)
Mae yna le i ambell un arall ymaelodi, a dod i’r sesiwn nesaf cyn yNadolig ble bydd Mr Dewi Gwyn yn dangos sut i wneud llysnafedd(slime).
Blwyddyn 6Bu 90 o ddisgyblion blwyddyn 6 o’r ysgolion cynradd am ddiwrnodcyfan yn cael blas ar ddiwrnod yn yr ysgol uwchradd. Cawsantddiwrnod llawn a phrysur oedd yn cynnwys gwersi Addysg Gorfforol,Celf, Cerdd, a Gwyddoniaeth. Gobeithio y bydd pob un yn heidio yma iYsgol Dyffryn Ogwen!
Adran y Gymraeg Cystadleuaeth Achos Ffug Mewn Llys Ynadon 2011 Llongyfarchiadau mawr i dîm Blwyddyn 9 yng nghystadleuaeth y ffugdreial yn Llys Ynadon Caernarfon fis Tachwedd. Bu'r gystadleuaeth eihun yn erbyn Ysgol Tryfan ac Ysgol David Hughes yn brofiad unigrywond roedd cael ymweld â Llys y Goron a chlywed yr achos yr wythnoscynt yn brofiad bythgofiadwy iddynt. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'rtîm i gyd a phwy a ŵyr na fydd un neu ddau yn ymweld â'r llys eto arbrofiad gwaith y flwyddyn nesaf.
Unwaith eto eleni paratôdd disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen lu o focsysi'w hanfon at ‘Operation Christmas Child’. Diolch yn arbennig iddosbarth 12 Ffrancon am drefnu'r casglu fel rhan o’u gwaithgwirfoddoli ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig.
Taith GaerdyddBu holl fyfyrwyr blwyddyn 12 ar daith i Gaerdydd ar Dachwedd 16eg-17eg. Prif bwrpas yr ymweliad oedd gwella eu dealltwriaeth o sut y maeLlywodraeth Cymru yn gweithio; pwy sy’n ein cynrychioli a phafeysydd sydd wedi eu datganoli? Cawson nhw chwarae rôl AelodCynulliad trwy gymryd rhan mewn dadl yn Siambr Hywel (hen siambry Cynulliad) ar newid y drefn o roi organau i un ble roedd pawb yncyfrannu eu horganau oni bai eu bod wedi dewis cael eu heithrio o’rcynllun. Bydd y ddadl yma yn cael ei chynnal go iawn yng Nghaerdyddac yn Llundain yn y dyfodol agos mae’n debyg.Cafwyd cyfle hefyd i fynd ar daith o amgylch Stadiwm y Mileniwm ganweld y cyfleusterau arbennig sy’n cuddio yng nghrombil yr adeilad cynmanteisio ar y cyfle i ymweld â siop neu ddwy. Ar y ffordd adrefdrannoeth, roedd cyfle i fynd i Amgueddfa lofaol y Pwll Mawr (BigPit); profiad hynod o gael cip ar fywyd gwaith y glöwr dros ydegawdau.
Taith i Gaerdydd
‘Operation Christmas Child’
Dosbarth 6 yn y Llys
Llais Ogwan 22
Ysgol TregarthYsgol Abercaseg
Noson Gwisg FfansiCynhaliwyd noson gwisg ffansi yn yr ysgol. Noddwyd y plant iddawnsio am 10 munud i gasglu arian at Unicef. Casglwyd £387. Diolchyn fawr i chi i gyd am eich cyfraniad.
Casglu Bocsys Pwrs y Samariad.
Bu’r plant eto’n brysur yn creu bocsys ar gyfer plant bach Affrica.Cafwyd nifer o focsys eto eleni. Diolch am eich haelioni.
Gwaith Celf.
Daeth Ann Catrin Evans i’r ysgol i wneud gwaith celf.Cafodd plant Dosbarth Derbyn gyfle i weithio gyda chlai. Cawsant hwylyn creu amrywiaeth o gacennau. Bu plant Blwyddyn 1 a 2 yn gwneudgwaith gemwaith hefyd.
Ysgol WerddMae’r plant wedi bod yn brysur yn sicrhau fod yr ysgol yn cydymffurfioâ gofynion y Cynllun Rheoli Carbon. Maent wedi bod yn sicrhau fodgoleuadau’r ysgol wedi’u diffodd i arbed ynni.
Ysgol IachCafwyd noson blasu bwyd iach yn yr ysgol.Bu plant Blwyddyn 2 yn rhoi cyflwyniad byr ar sut i fwyta’n iach achadw’n heini.Daeth Nyrs Bethan hefyd i gael sgwrs gyda Blwyddyn 2 ar sut i fwyta achadw`n iach
Ymweliad gan y Frigâd Dân.Cafwyd sgwrs gyda Gwawr am eu gwaith, a hefyd y camau y dylai’rplant eu cymryd i gadw’n ddiogel dros noson tân gwyllt.
Ymweliad P C ThomasDaeth P C Thomas i drafod mor bwysig yw hi i ymddwyn yn dda agwrando
Llwyddiannau’r Eisteddfod.Bu’r plant yn llwyddiannus unwaith eto eleni yn Eisteddfod DyffrynOgwen. Da iawn chi blant !
Syniad SallyCafodd Sally Walling Blwyddyn 1 syniad ardderchog! Gan fod ei thadAndy yn ymweld â Kenya yn rhinwedd ei swydd, da o beth fyddaigwneud rhywbeth i helpu plant y wlad. Felly Syniad Sally oedd i bobplentyn yn Ysgol Tregarth ddod â phensil i’r ysgol er mwyn i’w thadfynd â nhw i ysgol yn Kenya. Cafwyd llond bocs o bensiliau - diolch ibawb a gefnogodd Syniad Sally. Braf yw cael adrodd fod y pensiliauwedi cyrraedd pen eu taith mewn ysgol i blant bach byddar. Da iawn tiSally am fod mor feddylgar.
Clwb F1Mae 6 aelod o ddosbarth Ogwen wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn ygystadleuaeth F1 mewn ysgolion. Fe fyddant yn aros ar ôl ysgol bobdydd Mercher er mwyn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth a fydd yn cael eichynnal ym Mhrifysgol Bangor ar Ionawr 30. Fe fydd raid i’r tîmddylunio a chreu car ar gyfer rasio yn erbyn timau o ysgolion eraill.
Gala Nofio'r UrddYn ddiweddar bu Stanley o flwyddyn 3 yn cystadlu yng Ngala Nofio'rUrdd ym Mhwll Nofio Bangor. Da iawn chdi am gynrychioli’r ysgol.
Eisteddfod Dyffryn OgwenCafwyd gwledd o gystadlu eleni yn yr Eisteddfod leol, o’r dosbarthmeithrin hyd at flwyddyn 6. Cafwyd nifer o lwyddiannau unigol, celf achrefft ac ar y llwyfan. Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus unwaith eto.
Plant mewn AngenCafwyd diwrnod hwyliog i godi arian at Blant mewn Angen ynddiweddar. Daeth y plant i’r ysgol yn eu dillad eu hunain a chasglwyd£150 tuag at yr achos pwysig yma. Diolch i bawb am gefnogi.
FfilmioCafodd Eban Hargreaves o Flwyddyn 4 ddiwrnod cynhyrfus iawn ynffilmio gyda David Tennant ar Afon Tryweryn ar gyfer rhaglen deledu.Mae Eban yn fedrus iawn mewn kayak ac oherwydd hyn y dewiswyd efi fod yn rhan o’r rhaglen. Edrychwn ymlaen at ei weld ar y teledu yn ydyfodol.
Diogelwch TânYn ddiweddar daeth Swyddog o’r Gwasanaeth Tân i siarad â Blwyddyn 2 aBlwyddyn 4 am ddiogelwch ac am waith y Gwasanaeth Tân yngyffredinol. Gwrandawodd y plant yn astud ac ymateb yn frwdfrydig iddi.
Ysgol Pen-y-bryn
Ymweliad Blwyddyn 6 â Chestyll Caernarfon a Dolbadarn
Fel rhan o’n gwersi hanes y tymor hwn rydym yn astudio Oes yTywysogion. Penderfynasom nad oedd lle gwell na chastell mawreddogCaernarfon a Chastell Dolbadarn i ddod a’r hanes yn fyw i ni.Heidiodd llond bws ohonom i gastell Caernarfon ar fore digon oer ymmis Tachwedd. Dysgasom lawer iawn am bwysigrwydd y cestyll yn ycyfnod , a sut oeddent yn cael eu defnyddio i amddiffyn y crach.Diddorol oedd clywed am y gwahaniaethau cymdeithasol rhwng y boblgyfoethog a’r tlawd yn y cyfnod. Brawychus hefyd oedd darganfod sut oedd y bobl gyffredin aThywysogion Cymru yn cael eu trin gan y gelyn!
Llais Ogwan 23
Ysgol Bodfeurig
Jambori’r Urdd
Cafodd plant yr adran Iau fore llawn hwyl a chanu yn Ysgol DyffrynOgwen yn ddiweddar. Roeddem yn mynd yno i gymryd rhan ynJambori’r Urdd. Cawsom lawer o hwyl yng nghwmni plant yr ardal aCadi a Dai, ffrindiau Mr Urdd. Treuliasom y bore yn dawnsio a chanu, ac’rydym nawr yn edrych ymlaen yn fawr at yr Eisteddfod yng Nglynllifonyn 2012.
Dyma blant yr adran Iau gyda Cadi, Dai a Mr Urdd.
Eisteddfod Dyffryn Ogwen
Diolch yn fawr iawn i blant yr ysgol fu’n gweithio’n galed yn paratoi argyfer Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Bu nifer yn cystadlu ar y llwyfan yncanu a phob plentyn yn yr ysgol wedi cystadlu yn y cystadlaethau Celf aChrefft. Llongyfarchiadau i Heidi a ddaeth yn drydydd gyda chanu ac inifer o blant a enillodd wobrau celf a chrefft – rydym yn falch iawn obob un ohonoch!
Dyma lun o’r plant buddugol.
Ysgol Carbon Isel
Fel rhan o’n gwaith fel Ysgol Carbon Isel daeth Marial Edwards i siaradgyda’r ysgol gyfan. Daeth i sôn am ein rôl ni o geisio lleihau ein hôltroed carbon. Cawsom nifer o syniadau da fydd yn cael eu gweithredu ynyr ysgol dros y tymor nesaf a bydd y tîm gwyrdd yn monitro’n defnydd oynni i weld a yw’r syniadau yma’n lleihau ein defnydd ohono.
I ffwrdd â ni yn syth wedyn i gyfarfod a Thîm Achub Mynydd Llanberis.Diddorol oedd clywed am hynt a helyntion y tîm wrth achub nifer o bobldros y blynyddoedd. Gwych oedd dysgu pwysigrwydd cadw’n ddiogelar y mynydd a sut i oresgyn unrhyw anawsterau.
Taith addysgol fythgofiadwy a gafodd ddylanwad cryf arnom. Diolch ynfawr i Aled Taylor unwaith eto am y croeso, ac am fod mor barod i atebunrhyw gwestiynau.
Cangen Plaid Cymru
Dyffryn Ogwen
Cynhaliwyd cyfarfod yGangen yng NghanolfanCefnfaes ar 29 Tachweddgyda’r Cynghorydd DafyddMeurig yn y gadair.
Trafodwyd nifer o faterionynglŷn â’r Blaid yn lleol achenedlaethol gangynnwys ymgyrchaelodaeth, etholiadaullywodraeth leol, adfywio’rBlaid ac ethol arweinyddnewydd i olynu Ieuan WynJones. Pwysleisiwyd maidim ond y rhai a fydd weditalu aelodaeth 2012 erbyn20 Ionawr fydd a hawl ibleidleisio yn yr etholiadam arweinyddiaeth y Blaid.
Cafwyd adroddiadau gansawl cynghorydd adiolchwyd iddynt am eugwaith a’u hymdrechiondros bobol yr ardal.
Bu Hywel Williams AS, yncynnal cymhorthfa ynNeuadd Ogwen ynddiweddar ac fe ddaethnifer o bobol i’w weld arwahanol faterion, e.e.cartrefi i bobol leol.
Mae’n wir dweud bod nifero achosion wedi dod i sylwcynghorwyr Plaid Cymrudros y misoedd diwethaf,ble mae pobl o’r tu allan i’rDyffryn wedi cael eucartrefu o flaen pobl leol.Wrth dynnu sylwswyddogion CartrefiCymunedol Gwynedd at yrachosion hyn, yr ateb agaiff ein cynghorwyr bobtro yw eu bod nhw’ngweithredu’r systembwyntiau yn gywir ymhobachos. Roedd yna deimladcryf ymhlith aelodau’rGangen nad oedd y systembwyntiau yn rhoi tegwch idrigolion Dyffryn Ogwen a’ibod yn ffafrio pobol o’r tuallan.
Penderfynwyd gofyn i’n trichynghorydd ar GyngorGwynedd, sef AnnWilliams, Dyfrig Jones aDafydd Meurig, ysgrifennullythyr at GartrefiCymunedol Gwynedd yngofyn iddynt ail-edrych areu system bwyntiau a’inewid i ffafrio trigolion lleolymhob cymuned yngNgwynedd.
Ni fydd y Gangen yncyfarfod eto tan 31 Ionawr.
Ddechrau mis Tachweddaeth rhai o’r aelodau igyfarfod o bwyllgorgwaith Plaid Lafur Arfon.Yno dewiswyd PeterClarke o Dregarth i fynd igynhadledd Plaid LafurCymru y flwyddyn nesaf.
Ganol y mis, cynhaliwyd ycyfarfod arferol yngNghanolfan Cefnfaes llederbyniwyd adroddiad oBlaid Lafur Arfon am eupenderfyniad i symud eucyfarfod blynyddol i fisGorffennaf. Hefydderbyniwyd adroddiadgan Derek Vaughan einHaelod Senedd Ewrop(yn bennaf am faterioncyflogaeth) acadroddiadau am GymgorGwynedd (er enghraifft ycyngor wedi gwario dimond ychydig droschwarter ei arian cyfalafer bod hanner y flwyddynwedi mynd heibio, a’rpenderfyiad i dalu mwy igartrefi henoed preifat).Hefyd trafodwyd materionoddi wrth GyngorBethesda, er enghraifft ycymorthdal i uwchraddioNeuadd Ogwen a’r caiscynllunio i agorarchfarchnad arall ymMethesda.
Ddiwedd y mis aeth rhaio’r aelodau i gyfarfod ymMhorthmadog rhwngPlaid Lafur Arfon a PhlaidLafur Môn, yn bennafoherwydd y bydd yComisiwn Ffiniau ynawgrymu newidiadau iffiniau etholaethau SanSteffan y mis nesaf.
Cynhelir cyfarfodydd ar y3ydd nos Fawrth yn y misam 7.30 pm yngNghanolfan Cefnfaes ymmis Ionawr a Chwefror.
Plaid Lafur Dyffryn Ogwen
Hysbysebwch
YmaCysylltwch â
Neville Hughes
600853
Llais Ogwan 24
Torri GwalltiauDynion a Phlant
gan Alison
SAER I.D.R. JOINERYBusnes Ifanc Cymraeg Lleol
Am waith saer o safon uchel aphris diguro
Cysylltwch ag IWAN
07553 977275
01248 602062
Cymwysedig a phrofiadol ymmhob agwedd ar waith saer.
Dibynadwy a chyfeillgar.
Llong mewn Storm
Ei thynged sydd wrth angor, hir heddiwFu’r weddi wrth allor;
Treisio i gipio trysorTadau a mamau mae’r môr.
Carneddog a Catrin
(yn ymadael ag Eryri i fynd i Loegr)Oes daer trwy’r anawsterau yn agor
Ei garegog erwau;O’u gwlad dan drist deimladau hiraeth dwys yr aeth dau.
Cefn Gwlad a’i Synau Erstalwm
Sŵn cylchu’r dur o’i daro, a sŵn trolA sŵn traed yn pasio;
Daw o’r cae hefyd i’r co’Oriau o sŵn pladuro.
Kate Roberts a Gwerin Rhosgadfan
Hen werin roes rhwng cloriau, a’r rheiniFu’n rhannu’r tlawd erwau,
Ond medd fu’r moel lechweddauYma i’r rhain gael eu mawrhau.
Dafydd Morris
Nyth y Gân
Tŷ ar RentSling, Tregarth
Dwy lofft, Ystafell Ymolchi,Ystafell Fyw, Ystafell Gefn a
Chegin, Gwres Canolog.Lle parcio a gardd.
602176 neu
07906 362 212
Gwahoddiad
Ces chwarae gyda’r brithyll trwy’r prynhawn,Ac yna gyda’r nos tan leuad lawnEi harian daenodd hi o’i huchel fanI mi gael pleser yno rhwng dwy lan.
Yr eog hefyd roddodd wadd i miI lamu gydag ef trwy’r cyflym li;Trydanol, wir, oedd mynd trwy’r ewyn gwynA gwefr oedd teimlo’r ymdrech erbyn hyn.
Cyd-rodiais efo’r llwynog drwy y brwyn,Diddordeb mawr gymerai yn yr ŵyn,A llofrudd welais yn ei lygaid efPan glywais ar y ffridd y wantan fref.
Rhyw greadur hanner-dall mewn twnnel llaithArweiniodd fi yn dawel ar ein taithGan ddangos sut y daliai ef ei fwydYn y tywyllwch, yn ei hirgron rwyd.
Ymhell cyn machlud haul, ehedydd bachOfynnodd i mi fynd i ganu’n iach,A dringo wnaethom ni ein dau i’r nenGan daro pob un nodyn ar ei ben.
Mor braf ar derfyn dydd oedd eistedd ’n ôlA syllu yno ar y ddeiliog ddôl,A meddwl am bob cynnig ddaeth i’m rhanGan y gwahanol rai o lawer man.
Dafydd Morris
Llun enwog y ffotograffydd Geoff Charles (1909-2001) o’r bardd,Carneddog (Richard Griffith) a'i wraig, Catrin, yn cael un olwg arall ar ymynyddoedd a fu’n ysbrydoliaeth iddo am bedwar ugain mlynedd. Roeddyn rhaid iddynt adael ei fferm fynyddig ym mhlwyf Nantmor a symud i fywi Hinckley, yng Swydd Gaer-lŷr i fyw gyda’u mab. Cyhoeddwyd y llun yn yCymro, 14 Medi 1945.
Gweler englyn Dafydd Morris (uchod)
Heddiw (17 Tachwedd) mae S4C yn lansio cystadleuaeth Cân iGymru 2012 gyda gwahoddiad i gyfansoddwyr o Gymru a thuhwnt geisio am y wobr o £7,500 a’r anrhydedd o gynrychioliCymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd flwyddyn nesaf.
Y cerddorion Steve Balsamo ac Ynyr Roberts oedd yn fuddugolyn 2011 gyda’r gân Rhywun yn Rhywle. Y gantores o Fochdre,Tesni Jones, oedd yn perfformio’r gân fuddugol ar y noson.
Yn 2011 fe dderbyniodd Cân i Gymru fwy o geisiadau nagerioed o’r blaen ac mae’r trefnwyr yn obeithiol y bydd yr ymatebcystal, os nad gwell, eleni. Felly peidiwch ag oedi - mae’rdyddiad cau ar ddydd Llun 9 Ionawr.
Cân i Gymru 2012Rydym yn croesawu ceisiadau gan gyfansoddwyr ar ffurf CD,casét neu .mp3, ynghyd â ffurflen gais sydd ar gael gyda hollfanylion y gystadleuaeth ar wefan Cân i Gymru:s4c.co.uk/canigymru. Mae’n rhaid i gystadleuwyr fod dros 16 oed.
Bydd wyth cân yn cael eu dewis ar restr fer gan reithgor oarbenigwyr gydag Owen Powell, gynt o’r band Catatonia, yncadeirio. Bydd yr wyth cân yn cystadlu mewn rhaglen fyw oBafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 4 Mawrth, 2012.
Yn ogystal â’r brif wobr, mae hefyd gwobr o £2,000 ar gyfer yr ailsafle, a £1,000 i’r drydedd.
Cwmni Avanti sy’n cynhyrchu cystadleuaeth Cân i Gymru ar gyferS4C. Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Avanti ar 02920 838 149neu [email protected]