Upload
others
View
3
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Llawlyfr Modiwl 5a
Ymyrraeth Gynnar
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen
Foundation Phase National Training Pack
cover module 5A(w).indd 1 16/12/08 13:29:503 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Cangen Polisi’r Cyfnod Sylfaen Yr Is-adran Cwricwlwm ac AsesuYr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a SgiliauLlywodraeth Cynulliad CymruParc CathaysCaerdyddCF10 3NQFfôn: 029 2082 6075Ffacs: 029 2080 1044
© Hawlfraint y Goron Rhagfyr 2008
CMK-22-07-324
D3250809
cover module 5A(w).indd 2 16/12/08 13:29:513 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Modiwl 5a: Ymyrraeth Gynnar
Cyflwyniad:
Mae’r modiwl hwn wedi’i ddatblygu i’w ddefnyddio gyda Modiwl 5 Anghenion Dysgu Ychwanegol Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen. Mae wedi’i seilio ar yr egwyddor bod y Cyfnod Sylfaen yn ymwneud â datblygu dyheadau plant, eu cymhelliant, eu sgiliau cymdeithasol, eu hunan-barch a’u meistrolaeth ar ddysgu. Mae’n cefnogi dull gweithredu cynhwysol trwy gydnabod a deall bod angen i’r profiadau rydym yn eu cynnig i’n plant gyd-fynd â lefel datblygiad y plentyn unigol.
Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno trwy gyfuniad o gyflwyniadau sleid, gweithgareddau pâr a grŵp, clipiau DVD ac astudiaethau achos. Mae’r hyfforddiant wedi’i rannu’n bum prif sesiwn sy’n cynnwys:
Cyflwyniad a Chynhwysiant;•
Datblygu Sgiliau Cymdeithasol;•
Datblygu Sgiliau Siarad, Iaith a Chyfathrebu;•
Datblygu Sgiliau Echddygol; •
Casgliad.•
Yn ystod yr hyfforddiant, bydd y cynrychiolwyr yn cael cyfle i:
Rannu profiadau ar y gwahanol strategaethau y gellir eu defnyddio i gynnwys pob •plentyn gan ganolbwyntio ar gyfnod eu datblygiad;
Archwilio’r amgylchedd y maen nhw’n ei gynnig i’r plant sydd yn eu gofal; •
Cyfeirio at Fodiwlau 3, 4 a 5 y Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol;•
Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gwella eu gwybodaeth am y modd •y gall oedolion ymyrryd yng ngwaith dysgu’r plant a hynny ar sail gwaith arsylwi cadarn mewn perthynas â’r ddarpariaeth Barhaus, Cyfoethogi’r ddarpariaeth a’r ddarpariaeth â Ffocws yn y lleoliad/ysgol.
Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys yr holl daflenni, clipiau DVD ac astudiaethau achos sydd eu hangen i roi’r hyfforddiant. Darperir yr eitemau hyn i gyd ar ddisg hefyd fel y gellir eu hargraffu yn ôl yr angen. Mae’r “Canllaw Dilyniant Sleidiau” canlynol yn rhoi manylion gwahanol elfennau’r hyfforddiant ac yn nodi lle dylid defnyddio’r taflenni, clipiau DVD ac astudiaethau achos.
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen
Foundation Phase National Training Pack
1
module5a welsh.indd 1 17/12/08 11:49:013 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Canllaw Dilyniant Sleidiau
Croeso, Cyflwyniad a Throsolwg 1-2
Nod y Diwrnod 3
Sesiwn 1 Cyflwyniad a Chynhwysiant Cyflwyniad 4-9 (Gweithgaredd) gwneud iddo weithio 10-11 Rôl yr oedolyn 12-15
Sesiwn 2 Datblygu Sgiliau Cymdeithasol 16 Sgiliau cymdeithasol Taflenni 5a1-5a3 3-5 17-19 (gwaithgareddau) Agweddau ar ddysgu 22 Defnyddio’r amgylchedd Taflen 5a4 6-7 23 Hyblygrwydd a dysgu 24-26 Tasg Taflen 5a5 8 Taflen 5a6 9 Taflen 5a7 10 Taflen 5a8 11
Sesiwn 3 Sgiliau Siarad, Iaith a Chyfathrebu 27 Sgiliau cyfathrebu 28-30 Talu sylw a gwrando Taflen 5a9 12 31-33 Chwarae a rhyngweithio 34-35 Datblygu sgiliau siarad Taflen 5a10 13 36-37 Iaith mynegiant Taflenni 5a11 - 5a12 14-15 38-40
Sesiwn 4 Sgiliau Echddygol 41 Sgiliau echddygol fel blociau adeiladu 42-43 Sgiliau echddygol bras - Beth sydd ei angen arnom? 44 Sgiliau echddygol manwl - Beth sydd ei angen arnom? 45-46 Taflenni 5a13 i 5a14 16-20 Enghreifftiau o Weithgareddau Sgiliau Echddygol bras a manwl Deunydd y Modiwl 5a 21-27
Sesiwn 5 Casgliad 47-52Rhestr ddarllen 28-29
Tystysgrif y Cwrs 30
Tudalen Sleid
2
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
module5a welsh.indd 2 17/12/08 11:49:013 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
5a1Cyflwyno’ch Hun
Ewch at bobl eraill yn y grŵp, yn enwedig y rheini nad ydych yn eu hadnabod.Gofynnwch eu henw a gofynnwch gwestiwn o’r siart.
Ysgrifennwch yr enwau a’r atebion yn y blychau.
3
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
T
A
F
L
E
N
Bet
h s
y’n
g
wn
eud
i ch
i d
eim
lo’n
gra
c?
Pa e
mo
siw
n
ydyc
h c
hi’n
ei
ch
ael h
i’n
ano
dd
ei
fyn
egi?
Dis
gri
fiw
ch
ryw
bet
h y
r o
edd
arn
och
ei
ofn
yn
ble
nty
n.
Dis
gri
fiw
ch
un
ffo
rdd
ry
dyc
h y
n h
off
i ym
laci
o.
Oes
yn
a u
n p
eth
ry
dyc
h y
n f
alch
o
ho
no
?
A f
ydd
ai’n
wel
l g
enn
ych
fo
d y
n
dd
olf
fin
neu
’n
tsim
pan
sî?
Bet
h y
w e
ich
h
off
ffi
lm?
Bet
h s
y’n
g
wn
eud
i ch
i ch
wer
thin
?
Bet
h o
edd
eic
h
ho
ff d
egan
yn
b
len
tyn
?
Bet
h h
off
ech
ch
i ei
wn
eud
cyn
i ch
i far
w?
Pwy
fyd
dec
h
chi’n
eu
g
wah
od
d i
gin
io?
(po
bl o
’r g
orf
fen
no
l, y
pre
sen
no
l, p
ob
l g
o ia
wn
, po
bl
dd
ych
myg
ol)
Sut
gw
nae
tho
ch
chi d
eith
io y
ma
hed
diw
?
Bet
h y
dyc
h
chi’n
tei
mlo
’n
ang
erd
do
l yn
ei
gyl
ch?
Bet
h f
ydd
ai
eich
pŵ
er
arb
enn
ig p
e b
ai
gen
nyc
h u
n?
Pa d
ri g
air
sy
’n e
ich
d
isg
rifi
o c
hi?
module5a welsh.indd 3 17/12/08 11:49:013 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Nodiadau’r Hyfforddwr i Ddilyn y Gweithgaredd Torri’r Garw
Trafodwch a rhannwch syniadau â’r ymarferwyr ynghylch y sgiliau y gallen nhw fod wedi’u defnyddio yn ystod y gweithgaredd torri’r garw.
Gallai’r ymarferwyr gynnig unrhyw un o’r sgiliau canlynol.
Sgiliau Personol a ChymdeithasolRhyngweithio a chydweithredu â phobl eraillCymryd eu troGwylio MyfyrioCanolbwyntioAmyneddYstumiau a symudiadauRhannu syniadau, emosiynau a theimladauLleisio barnMagu hyder a hunan-barchEmpathiMeithrin perthynas â phobl eraillDeall pobl eraillMwynhau
Sgiliau Iaith a ChyfathrebuSiarad Sgiliau gwrando / clywedolCyfleu syniadauMynegi teimladau, anghenion, syniadau ac atiEgluro syniadauEsbonio syniadauGofyn cwestiynauAteb SgwrsioYmatebCyfathrebu di-eiriauYmresymu Defnyddio iaith briodolMynegi hoffter
4
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
H
A
N
D
O
U
T
5a2
T
A
F
L
E
N
module5a welsh.indd 4 17/12/08 11:49:013 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
5
H
A
N
D
O
U
T
T
A
F
L
E
N
5a3Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
Agweddau ar ddysgu Ymddygiad oedolion
Hunanymwybyddiaeth
Empathi
Rheoli teimladau
Cymell ein hunain
Sgiliau cymdeithasol
module5a welsh.indd 5 17/12/08 11:49:023 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Blychau Adnoddau
6
H
A
N
D
O
U
T
T
A
F
L
E
N
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a4
Dysgu yn yr Awyr Agored
Adnoddau adeiladu cuddfan - Hen gynfasau, blancedi, sachau cysgu, blychau, blancedi i’w rhoi ar lawr, pebyll a thwnelau sy’n neidio i’w lle, rhaffau a llinynnau, pegiau, cesys dillad, basgedi picnic, prennau ffa/coesau brwsh, morthwyl gwersylla rwber.
Teganau y mae modd eistedd arnynt - I’w defnyddio ar gyfer chwarae llawn dychymyg â blychau, pebyll, cuddfannau, siopau neu leoedd golchi ceir. Bwcedi, sbyngau a chadachau i olchi ceir. Sialc i dynnu llun ffyrdd ar y llawr. Goleuadau traffig ac arwyddion ewch/arhoswch yr ydych wedi’u gwneud eich hunan.
Dŵr - Pibell ddŵr wedi’i chysylltu i dap y tu allan neu fwcedi o ddŵr os nad oes tap ar gael, padell ddŵr, pibellau dŵr a chafnau, pry cop plastig, deunyddiau sy’n arnofio a suddo. Cregyn, cerrig, creaduriaid llyn a môr plastig.
Caniau dŵr, tiwbiau hir, twndisau a jygiau.
Deunyddiau naturiol - Moch coed, mes, concyrs, cerrig, brigau, dail a chregyn. Boncyffion ar gyfer cynefin creaduriaid bach. Bydd gwrachod y coed yn dod yn eu degau os yw’r boncyffion yn cael eu rhoi mewn cornel tawel ac yn cael eu cadw’n wlyb ac yn llonydd am gyfnod. Neu ar gyfer chwarae llawn dychymyg a byd bach, gallan nhw ddyblu i fod yn gadeiriau neu’n fyrddau ac er mwyn hybu datblygiad corfforol, gall plant sefyll arnyn nhw a neidio oddi arnyn nhw os ydyn nhw’n ddigon mawr a gwastad.
Gwneud marciau - Sialc, bwcedi o ddŵr, ystod o frwshys, plu a brigau, deunyddiau naturiol i wneud marciau arnyn nhw, paent, papur, peniau, creonau, pensiliau, slatiau a sialc, tywod a mwd.
Adnoddau tyfu - Potiau blodau, bagiau o gompost, hadau a phlanhigion. (Bydd rhai Canolfannau Garddio’n rhoi potiau ac ati - byddan nhw’n aml yn rhoi gostyngiad ar hambyrddau bach o flodau neu’n rhoi eu hen stoc i ysgolion a lleoliadau). Rhawiau, rhacanau, hofiau, menyg garddio, tryweli a bwcedi.
Llyfrau, storïau a rhigymau - Ystod o lyfrau y gellir mynd â nhw i’r awyr agored. Arwyddion, cerddi a rhigymau wedi’u lamineiddio, basgedi ar gyfer llyfrau, blancedi i’w rhoi ar lawr, sgwariau carped, samplau llawr meddal, blancedi picnic.
Corfforol - Cratiau bara a llefrith plastig i adeiladu â nhw, dringo arnyn nhw a neidio oddi arnyn nhw. Sialc i dynnu llinellau i gerdded/cydbwyso arnyn nhw. Boncyffion coed i neidio oddi arnyn nhw, hen goed a theiars.
Blychau Adnoddau (parhad)
7
H
A
N
D
O
U
T
T
A
F
L
E
N
5a4Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
Dysgu yn yr Awyr Agored
Chwarae rôl a Chwarae byd bach - Tuff spot o siop DIY. Gall hwn gael ei lenwi â thywod, compost, dŵr, iâ, jeli, neu reis, ac anifeiliaid a/neu bobl a cherbydau. Brwshys ysgubo, padelli llwch, basgedi picnic, cesys dillad, dillad gwisgo i fyny, coets baban a doliau.
Blychau tywydd - Mae’r rhain yn ffordd arbennig o effeithiol a rhad o ddefnyddio’r awyr agored trwy gydol y flwyddyn waeth beth fo’r tywydd.
module5a welsh.indd 7 17/12/08 11:49:023 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
8
H
A
N
D
O
U
T
T
A
F
L
E
N
Defnyddio’r amgylchedd dysgu i hybu newid cadarnhaol yn sgiliau cymdeithasol plant
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a5
Byddwch eisoes wedi nodi plentyn neu grŵp o blant yn eich lleoliad/ ysgol sy’n peri pryder i chi am nad yw ei/eu sgiliau cymdeithasol wedi datblygu’n ddigonol
Tasg:
Meddyliwch am weithgaredd rydych wedi’i gynllunio ar gyfer yr wythnos •nesaf sydd wedi’i fwriadu i ddatblygu sgìl, cysyniad neu ddarn o wybodaeth benodol.
Meddyliwch sut y gallech ddod â grŵp o blant ynghyd i gyflawni’r dasg hon, •gan gynnwys plentyn/plant sydd â sgiliau cymdeithasol gwan.
Ystyriwch pa broblemau posibl a allai godi o ganlyniad i’w sgiliau cymdeithasol •gwan, hynny yw, beth allai rwystro’r gwaith dysgu? Pa effaith allai’r problemau hyn ei chael ar ddeinameg y grŵp?
Sut gallech chi wneud pethau’n wahanol er mwyn • osgoi unrhyw broblemau, hynny yw yn y modd y byddech yn mynd ati i wneud / datblygu’r gweithgaredd neu ble byddech yn ei leoli?
BYDDWCH YN GREADIGOL!•
Ystyriwch…
Ym mha ffordd gallai’r amgylchedd dysgu fod yn wahanol? Er enghraifft, •cyflawni’r dasg dan do neu yn yr awyr agored, defnyddio adnodd gwahanol ar gyfer y grŵp hwn ac ati.
Ym mha ffordd gallech chi newid • natur y gweithgaredd ond gan gyflawni’r un nod â’r plant eraill.
Beth allai’r oedolion ei wneud yn wahanol gyda’r grŵp penodol hwn?•
Sut byddwch yn dathlu llwyddiant y plant.•
Meini Prawf Llwyddiant
Gan ystyried y gweithgaredd hwn sydd wedi’i gynllunio, disgrifiwch mewn •modd cadarnhaol beth rydych yn dymuno i’r plant allu ei wneud o ran eu sgiliau cymdeithasol.
“Bydd y plant yn gallu...”
Adolygu
Dathlwch unrhyw gyflawniad gyda’r plant, y staff a’r rhieni/gofalwyr waeth pa mor fach ydyw!!!!
- Sut gallech chi gymhwyso’r strategaeth hon i feysydd eraill y mae angen sylw arnynt?
- Os nad oedd y newid/strategaeth mor llwyddiannus ag yr oeddech yn gobeithio, beth allech chi ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
module5a welsh.indd 8 17/12/08 11:49:023 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Strategaethau i Gefnogi Rhyngweithio Cymdeithasol yn y Lleoliad/Ysgol
Anogwch y plant i wrando mewn modd gweithredol•
- Gwylio da (edrych ar y siaradwr);- Eistedd da;- Meddwl am y geiriau.
Anogwch y plant i ofyn am gymorth pan nad ydyn nhw’n deall - Mr ‘dwi ddim •yn gwybod’.
Anogwch y plant i ddefnyddio cyfarchion cymdeithasol yn rhan o drefn y dydd, •er enghraifft helo, hwyl fawr - rhowch enghreifftiau o eiriau y gellir eu defnyddio, er enghraifft helo, bore da.
Anogwch y plant i gymryd eu tro ym mhob gweithgaredd (gweler y rheolau •ynghylch cymryd tro).
Ceisiwch osgoi gwneud newidiadau neu geisiadau sydyn. Os yw’n bosibl, •paratowch y plant am newidiadau i drefn arferol y diwrnod ysgol (er enghraifft amser gwasanaeth gwahanol). Defnyddiwch linell amser weledol i gynrychioli’r diwrnod ysgol.
Byddwch yn ymwybodol o iaith lythrennol (er enghraifft mynd dros ben llestri).•
Anogwch y plant i ofyn am eitemau a gofyn cwestiynau lle bynnag y bo •hynny’n bosibl.
Trefnwch amser newyddion, lle mae’r plant yn cael eu hannog i rannu’u profiadau.•
Defnyddiwch iaith gadarnhaol i geisio newid ymddygiad amhriodol, er enghraifft •dwi’n hoffi lleisiau tawel yn y dosbarth, yn lle peidiwch â gweiddi.
Anogwch y plant i wybod enwau ei gilydd ac adnabod pethau sy’n eu gwneud •yn debyg ac yn wahanol i’w gilydd.
Ceisiwch arddangos sgiliau cymdeithasol priodol yn ystod pob •gweithgaredd dosbarth.
Eglurwch beth sy’n digwydd mewn sgyrsiau pan nad yw plentyn yn llwyddo, •er enghraifft dyw Siôn ddim yn hoffi gwneud hwn - edrychwch, mae ganddo wyneb trist. Dewch i ni gael gwneud rhywbeth arall.
Sicrhewch fod gennych derfynau clir a chyson a defnyddiwch systemau rhybuddio •i ddangos pan nad yw plentyn yn ymddwyn yn briodol.
9
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a6
T
A
F
L
E
N
module5a welsh.indd 9 17/12/08 11:49:023 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
10
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a7Strategaethau i Gefnogi Rhyngweithio Cymdeithasol mewn Grwpiau Bach
Defnyddiwch ymarferion rôl (siaradwch am yr hyn y byddech yn ei wneud mewn • sefyllfaoedd penodol, er enghraifft sut i ofyn i oedolyn am gymorth os nad ydych yn siŵr o rywbeth?).
Defnyddiwch senarios chwarae rôl (sut i ofyn i ffrind ddod allan i chwarae?).•
Defnyddiwch sgriptiau chwarae rôl i roi enghreifftiau i blant o beth i’w ddweud • mewn gwahanol sefyllfaoedd. Nid oes gan rai plant y sgiliau iaith i greu eu brawddegau a’u cwestiynau eu hunain.
Defnyddiwch ddoliau mawr a bach i fodelu sefyllfaoedd cymdeithasol.•
Rhaglen SULP - Rhaglen sgiliau cymdeithasol, er enghraifft mae ganddi gymeriadau • sy’n cyflwyno sgiliau trwy storïau a gemau (er enghraifft Looking Luke a Listening Lizzie).
Defnyddiwch gemau i ddatblygu sgiliau cymryd tro•
Dechreuwch â phâr, ac yna ychwanegwch blant eraill yn raddol i wneud grŵp bach.
- Rholio pêl- Adeiladu tŵr- Chwythu swigod.
Defnyddiwch gemau i ddatblygu dealltwriaeth o emosiynau.•
Byddwch yn ymwybodol bod yr iaith sy’n gysylltiedig ag emosiynau ac adnabod emosiynau yn haniaethol (er enghraifft pam wyt ti’n crio?). Dechreuwch trwy labelu emosiwn mewn termau syml wrth i’r plentyn ei brofi (er enghraifft ‘rwyt ti’n crio - mae rhywbeth wedi gwneud i ti grio ac mae hynny’n dy wneud di’n drist’).
- Defnyddiwch ddrychau i edrych ar eich wynebau wrth i chi actio gwahanol emosiynau.
- Tynnwch luniau o wynebau trist a hapus. Trafodwch beth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus ac yn drist.
Defnyddiwch bypedau i arddangos sgiliau priodol. Gofynnwch i’r plant fonitro • ymddygiad a chynorthwyo’r pyped os yw’n anghywir.
Gall storïau cymdeithasol gynorthwyo plant i ddelio â sefyllfaoedd anodd • trwy ysgrifennu stori gymdeithasol i helpu i esbonio beth sy’n digwydd mewn sefyllfaoedd penodol.
T
A
F
L
E
N
11
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a8
T
A
F
L
E
N
Strategaethau i Ddatblygu Rhyngweithio Cymdeithasol yn yr Ardal Tu Allan
System gyfeillio - rhowch y plant mewn parau i chwarae gyda’i gilydd. Rhowch blant •sydd â sgiliau rhyngweithio cryf a phlant sydd â sgiliau rhyngweithio gwan gyda’i gilydd.
Trefnwch fod gennych oedolyn sydd wedi’i enwebu y mae plentyn yn gallu •mynd ato os yw’n teimlo’n ofidus neu os oes angen cymorth arno. Gallai fod yn ddefnyddiol cael llun o’r unigolyn hwnnw er mwyn i’r plentyn wybod pwy yn union ydyw.
Mae’n bosibl y bydd rhai plant yn gweld rheolau gêm yn anodd iawn. Efallai y bydd •yn rhaid symleiddio’r rheolau a’u hesbonio nifer o weithiau.
Os yw’r plentyn yn gweld chwarae yn yr awyr agored yn rhy anodd, rhowch dasgau •bach iddo’u gwneud/anfonwch ef ar neges o gwmpas yr ysgol.
O bryd i’w gilydd, mae plant yn ei chael hi’n anodd gwahaniaethu rhwng chwarae •‘go iawn’ a chwarae ‘esgus’. Efallai y bydd yn rhaid i staff esbonio’r gwahaniaeth (er enghraifft, ‘dyw coed ffa ddim yn tyfu mor uchel â’r awyr go iawn - dychymyg yw hynny’).
Weithiau, mae sefyllfaoedd ar yr iard chwarae’n anodd gan nad oes strwythur iddyn •nhw. Mae’n gallu bod yn beth da i’r plant gael bocs gweithgareddau sy’n cynnwys peli, rhaffau sgipio ac ati.
Peidiwch â gorfodi plant i gymdeithasu. Gall amser chwarae fod yn amser tawel •y mae ei angen ar blentyn lle mae’n cael cyfle i fod ar ei ben ei hun.
module5a welsh.indd 11 17/12/08 11:49:033 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
12
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a9
T
A
F
L
E
N
Talu sylw a gwrando
Am ba hyd fyddech chi’n dweud y mae plant o’r oedrannau canlynol yn gallu canolbwyntio?
2 oed ……………munud
3 oed ……………munud
4 oed ……………munud
5 oed ……………munud
module5a welsh.indd 12 17/12/08 11:49:033 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Strategaethau i’w Defnyddio i Gefnogi’r Gwaith o Ddatblygu Sgiliau Siarad, Iaith a Chyfathrebu
Gwnewch gyswllt llygad trwy ddweud enw’r plentyn.•
Gwnewch arwydd at y clustiau gan ddweud “gwrando da”.•
Torrwch gyfarwyddiadau’n flociau llai.•
Rhowch giwiau gweledol, er enghraifft, arwyddion, lluniau a phethau.•
Gofynnwch i’r plentyn ailadrodd cyfarwyddiadau yn ôl i chi.•
Byddwch yn ailadroddus, atgyfnerthwch gysyniadau / geirfa newydd.•
Cynigiwch enghraifft, rhowch ddewisiadau. •
Gofynnwch gwestiynau. • Nid pob plentyn sy’n gallu ateb y cwestiynau canlynol, mae dysgu’n broses o ddatblygu:
Beth? Hawdd - Beth sydd yn y bocs?
Pwy? Eithaf hawdd - Pwy gafodd barti pen-blwydd?
Ble? Eithaf hawdd - Ble’r oedd y parti?
Pryd? Anoddach - ddoe, cyn ac ati.
Pam? Anoddach eto - ‘oherwydd’.
Cofiwch:
13
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a10
T
A
F
L
E
N
Defnyddiwch frawddegau syml, byr - iaith glir, syml.
Cymerwch saib rhwng cymalau sy’n cyflwyno gwybodaeth.
Geiriwch yn glir.
Byddwch yn frwdfrydig wrth gyfathrebu - defnyddiwch ystumiau.
Gwnewch yn siŵr eu bod yn deall.
module5a welsh.indd 13 17/12/08 11:49:033 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
14
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a11
T
A
F
L
E
N
Tasgau â Ffocws
Cyfoethogi’r Ddarpariaeth
Darpariaeth Barhaus
module5a welsh.indd 14 17/12/08 11:49:033 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
15
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a12
T
A
F
L
E
N
Dyma enghraifft o sut i ddefnyddio camau bach iawn i helpu plentyn i fagu hyder wrth siarad â chyfoedion ac oedolion.
Darpariaeth Barhaus•
Gan ddefnyddio teganau byd bach, er enghraifft injan dân, dynion tân, walkie-talkie, megaffon - mae’r oedolyn yn dangos sut mae’r dynion tân yn mynd ar/oddi ar yr injan, i fyny/i lawr yr ysgol, chwistrellu dŵr â’r biben ddŵr. Defnyddiwch iaith syml a sŵn yr injan wrth i chi chwarae.
Mae’r plentyn yn chwarae ochr yn ochr â chi ac yn defnyddio’r un offer.
Cyfoethogi’r Ddarpariaeth•
Trwy ychwanegu llyfr â sŵn, jig-sos, teganau y gellir eu rhaglennu ac ati. Gellid trefnu ymweliad gan injan dân/y gwasanaeth tân.
Tasg â Ffocws•
Gofynnwch i’r plentyn wneud y sŵn neu gopïo’r hyn rydych chi’n ei wneud, cyflwynwch gân actol am injan dân. Rhannwch stori ryngweithiol â’r plentyn gan roi digon o gyfleoedd i’r plentyn gael siarad.
module5a welsh.indd 15 17/12/08 11:49:033 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
16
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a13
T
A
F
L
E
N
Beth yw sgiliau echddygol manwl?
Oed Sgiliau
1 mis Mae’i ddwylo ar gau fel rheol, ond bydd yn dal bys pan fydd •yn cyffwrdd â chledr ei law
3 mis Mae’n gwylio ei ddwylo ei hun yn symud o flaen ei wyneb •ac yn chwarae â’i fysedd, er enghraifft mae’n dechrau cau ac agor ei ddwylo
Mae’n dal tegan ond nid yw’n gallu cael ei lygaid a’i ddwylo •i weithio gyda’i gilydd eto
6 mis Mae’n defnyddio’i law gyfan i ddal pethau, ac mae’n pasio •tegan o un llaw i’r llall
Mae ei ddwylo’n medru ymestyn am deganau bach a’u dal•Mae’n rhoi popeth yn ei geg•
9 mis Mae’n trin pethau â diddordeb byw•Mae’n procio pethau â’i fynegfys ac yn dechrau pwyntio •at bethau yn y pellter
Mae’n dal llinyn rhwng ei fys a’i fawd fel siswrn•
Mae’n codi pethau bach rhwng ei fysedd gan ddefnyddio •blaenau ei fysedd
Mae’n dal bisged ac yn gallu rhoi ei ddwylo o amgylch potel •neu gwpan
Mae’n gallu rhyddhau tegan trwy ei ollwng neu trwy’i bwyso •yn erbyn arwyneb cadarn - nid yw’n gallu gollwng rhywbeth yn fwriadol eto
12 mis Mae’n codi pethau bach â gafael fel gefail•Mae’n taflu pethau’n fwriadol•
Mae’n defnyddio’i ddwy law yn rhydd ond efallai y bydd •yn well ganddo ddefnyddio un yn fwy na’r llall
Mae’n codi pentwr o gylchau ac yn gollwng pethau i focs, •mae’n rholio pêl
Mae’n dal llwy ond nid yw’n gallu bwydo’i hun•
Mae’n chwarae ‘patter cake’ ac yn codi llaw i ddweud •‘hwyl fawr’
module5a welsh.indd 16 17/12/08 11:49:033 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
17
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a13
T
A
F
L
E
N
Oed Sgiliau
15 mis Mae’n tynnu pegiau oddi ar fwrdd pegiau ac mae’n gallu •rhoi 1 neu 2 yn ôl
Mae’n chwarae â phêl sy’n rholio•
Mae’n defnyddio ciwbiau - mae’n adeiladu tŵr o 2 ar ôl •i rywun ddangos iddo
Mae’n dal creonau gan ddefnyddio’i law gyfan - •mae’n gwneud symudiadau yn ôl ac ymlaen
Mae’n dal llwy ac yn dod â hi i’w geg ond nid yw’n gallu’i •hatal rhag troi drosodd
18 mis Mae’n gafael yn dyner mewn pethau bach•Mae’n dal pensil yn ei law gyfan neu â blaenau’i fysedd •â gafael fel treipod
Mae’n troi tudalennau llyfr•
Mae’n tynnu’i esgidiau a’i sanau•
Nid yw’n rhoi pethau yn ei geg mwyach•
24 mis Mae’n codi pethau bach ac yn eu gosod â sgìl cynyddol•Mae’n tynnu papur oddi ar losin yn effeithiol•
Mae’n dal pensil yn y llaw sydd orau ganddo (fel rheol) •gan ddefnyddio tri bys - sgribl cylchog ac yn ôl ac ymlaen
Mae’n gwisgo’i het a’i esgidiau•
Mae’n troi dolenni drysau•
36 mis Mae’n defnyddio’i ddwy law gyda’i gilydd, er enghraifft •adeiladu â blociau
Mae’n rhoi gleiniau mawr ar linyn•
Mae’n defnyddio pensil â rheolaeth gynyddol - •mae’n mwynhau peintio â brwsh bras
Mae’n torri pethau â siswrn•
Mae’n mwynhau chwarae â briciau, blychau, trenau, •doliau a phramiau ar y llawr
module5a welsh.indd 17 17/12/08 11:49:033 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
18
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a13
T
A
F
L
E
N
Oed Sgiliau
48 mis Mae’n rhoi gleiniau bach ar linyn i wneud mwclis•Mae’n dal pensil â rheolaeth dda yn yr un modd ag oedolyn•
Mae’n tynnu llun person â phen, coesau, corff a breichiau •a bysedd fel rheol
Mae’n copïo VHTO•
Mae’n gallu defnyddio grym a thynnu•
Mae’n dangos sgìl cynyddol mewn gemau pêl•
60 mis Mae’n gafael yn gryf â’r naill law neu’r llall•Mae’n rhoi edau mewn nodwyddau mawr ac yn gwnïo •pwythau go iawn
Mae’n copïo sgwâr a thriongl a’r llythrennau VTHOXLACUY•
Mae’n tynnu lluniau’n ddigymell sy’n cynnwys nifer o eitemau•
Mae’n defnyddio cyllell a fforc yn fedrus•
Mae’n adeiladu mewn modd adeiladol yn yr ystafell ddosbarth •ac yn awyr agored
Mae’n defnyddio offer i wneud pethau•
Mae’n creu pethau sy’n hawdd eu hadnabod wrth adeiladu•
module5a welsh.indd 18 17/12/08 11:49:043 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
19
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a14
T
A
F
L
E
N
Cerrig Milltir
Oed Sgiliau
12 mis Mae’n gallu tynnu’i hun i’w draed ac eistedd i lawr eto tra’i •fod yn dal darn o ddodrefn
Mae’n gallu cropian ar ei bedwar•
Mae’n gallu cerdded ymlaen ac i’r ochr os oes rhywun yn dal •ei law
Efallai y bydd yn gallu sefyll neu gerdded ar ei ben ei hun am •rai eiliadau
15 mis Efallai y bydd yn gallu cerdded ar ei ben ei hun (ei draed ar led)•Mae’n gallu cripian i fyny’r grisiau’n ddiogel (weithiau mae’n •dod i lawr wysg ei gefn)
Mae’n penlinio heb gymorth•
18 mis Mae’n cerdded yn dda gyda’i draed ychydig ar led. •Mae’n dechrau ac yn stopio’n ddiogel
Mae’n gallu rhedeg yn ofalus, ond mae’n cael anhawster •ymdopi â rhwystrau
Mae’n gwthio ac yn tynnu teganau mawr a blychau ar y llawr•
Mae’n mwynhau dringo. Mae’n gallu dringo i gadair fawr, troi •ac eistedd arni
Mae’n cerdded i fyny grisiau os oes rhywun yn dal ei law•
48 mis Mae’n gallu rhedeg yn ddiogel, gan ddechrau, stopio ac •osgoi rhwystrau
Mae’n gallu mynd ar ei gwrcwd heb siglo na symud•
Mae’n gallu gwthio a thynnu teganau ag olwynion ac mae’n •gallu cerdded am yn ôl gan dynnu’r ddolen, ond efallai y bydd yn cael anhawster eu llywio o gwmpas rhwystrau
Mae ganddo ddealltwriaeth gynyddol o faint mewn perthynas •â maint a lleoliad pethau o’i amgylch
Mae’n cerdded i fyny ac i lawr grisiau gan ddal y canllaw •(dwy droed i bob gris)
Mae’n mwynhau chwarae â pheli - mae’n gallu taflu dros •yr ysgwydd. Mae’n cerdded at bêl fawr gan geisio’i chicio
Mae’n eistedd ar feic bach â thair olwyn, ond nid yw’n gallu •defnyddio’r pedalau. Mae’n ei symud ymlaen â’i draed
Erbyn ei fod yn 2 ½ oed mae’n gallu neidio oddi ar ris isel •â’i ddwy droed gyda’i gilydd. Mae’n gallu sefyll ar flaenau ei draed os oes rhywun yn dangos iddo
module5a welsh.indd 19 17/12/08 11:49:043 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
20
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5a14
T
A
F
L
E
N
Oed Sgiliau
60 mis Mae’n cerdded i fyny grisiau ar yn ail droed a gall gario tegan •yr un pryd
Mae’n gallu dringo offer meithrin yn ystwyth•
Mae’n gallu mynd ar feic tair olwyn gan ddefnyddio’r pedalau •a llywio o amgylch corneli llydan
Mae’n gallu sefyll a cherdded ar flaenau ei draed. Mae’n gallu •sefyll ar un droed (yr un sydd orau ganddo) am eiliad os oes rhywun yn dangos iddo
Mae’n gallu eistedd gan groesi’i goesau wrth y migyrnau•
Erbyn ei fod yn 3 ½ oed mae’n gallu neidio â’r ddwy droed •yn gadael y llawr
Mae’n gallu taflu pêl dros yr ysgwydd a dal pêl fawr ar ddwy •fraich estynedig neu rhyngddynt. Mae’n gallu cicio pêl â grym
72 mis Mae’n curo’i ddwylo gan gadw amser â cherddoriaeth•Mae’n cerdded neu’n rhedeg i fyny grisiau ar ei ben ei hun •un droed i bob gris
Mae’n llywio’i symudiadau ei hun yn fedrus•
Mae’n gallu sefyll, cerdded a rhedeg ar flaenau’i draed•
Mae’n gallu sefyll ar un droed am 3-5 eiliad ac mae’n gallu •hopian ar y droed sydd orau ganddo
Mae ganddo sgìl cynyddol mewn gemau pêl - taflu, dal, •bownsio, cicio a defnyddio bat
84 mis Mae’n cerdded ar hyd llinell gul yn hawdd•Mae’n fywiog ac yn fedrus wrth ddringo, llithro, siglo, •palu a gwneud ‘campau’ amrywiol
Mae’n gallu sgipio bob yn ail droed•
Mae’n gallu sefyll ar y droed sydd orau ganddo am 8-10 eiliad•
Mae’n gallu hopian ymlaen ar y droed sydd orau ganddo •am 2-3 metr
Mae’n gallu symud yn rhythmig i gerddoriaeth•
module5a welsh.indd 20 17/12/08 11:49:043 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
21
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5aDirwyn Potel i Mewn
Y Gweithgaredd
Torrwch ddarn hir o gortyn a chlymwch un pen i’r botel a’r llall i’r tiwb. Estynnwch y cortyn a gwahoddwch y plant i ddal y ‘dirwynwr’ (tiwb) â’u dwy law. Gan ddefnyddio’r ddwy law â’i gilydd dirwynwch y botel i mewn. Po fwyaf o dywod sydd yn y botel mwya’n y byd y bydd y cyhyrau’n gweithio.
Bydd arnoch angen:
Potel laeth blastig, pethau i’w haddurno os ydych yn dymuno• Tiwb cardbord cryf, darn o linyn neu gortyn• Peth tywod neu bridd i wneud y botel yn drymach•
Rhigymau â’r Bysedd
Y Gweithgaredd
Mae’r plant yn dynwared y symudiadau i gyd-fynd â geiriau’r rhigwm
Un law, dwy law yn cuddio (Dwy law tu ôl)Un law, dwy law yn clapio (tynnu dwylo ymlaen a chlapio)Un law dwy law yn rholio a gwthioUn law dwy law yn rhedeg nôl i guddio
Bydd arnoch angen:
Dim •
Chwarae â Bwyd
Creu Menyn
Bydd arnoch angen:
½ peint o hufen chwipio• Cynhwysydd plastig â chlawr diogel• 1 farblen•
Beth i’w wneud:
Rhowch yr hufen mewn cynhwysydd â chlawr. Ychwanegwch y farblen ac ysgwydwch y cynhwysydd. Ar ôl tua 10 munud dylai’r hufen fod wedi troi’n fenyn. Cymharwch ei flas â blas mathau eraill o fenyn/margarîn.
DEUNYDD
Y
MODI
WL
22
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5aCawl Potsh
Bydd arnoch angen:
Bag plastig, rholbren, bowlen, cwpan, llwy fwrdd, resins, powdwr coco, •llaeth cyddwysedig wedi’i felysu
Beth i’w wneud:
Rhowch baced o fisgedi plaen neu rai tebyg mewn bag plastig gan eu malu â rholbren. Rhowch y bisgedi wedi’u malu mewn bowlen. Ychwanegwch resins, 2 lwy fwrdd o goco a thin o laeth cyddwysedig wedi’i felysu a’u cymysgu’n dda - gadewch i sefyll mewn man lled oer am awr.
Paent a Glud
Paentiau Bys
Bydd arnoch angen:
2 gwpan o flawd gwyn•2 gwpan o ddŵr oer ac ychydig o liw bwyd •
Beth i’w wneud:
Rhowch y dŵr mewn bowlen fawr. Ychwanegwch y blawd yn raddol tra bod y plant yn troi’r gymysgedd. Unwaith y mae’r cyfan wedi’i gymysgu rhannwch y gymysgedd mewn bowlenni llai ac ychwanegwch liw bwyd. Rhowch gynnig ar hyn hefyd:
Paent Sebon
Cymerwch botel pwmp o sebon llaw a gwagiwch draean ohono allan. Ychwanegwch baent celf plant ac ysgwyd y cyfan yn dda. Gwnewch sawl cymysgedd o wahanol liwiau. Pwmpiwch y paent ar wyneb y gallwch ei lanhau a pheintiwch gyda bysedd neu frwsh. Glanhewch yr wyneb ar ôl gorffen. Gallwch hefyd roi darnau mawr o bapur dros yr wyneb a phwyso i lawr yn ofalus. Codwch y papur i ddatgelu darn o waith celf unigryw iawn.
Ar Eich Marciau
Dawnsio â Phensiliau
Bydd arnoch angen:
Darnau mawr o bapur er mwyn gorchuddio’r bwrdd•Dewis o wahanol greonau a phensiliau•Cerddoriaeth - gwahanol dempo a churiadau - clasurol, pop, roc•
DEUNYDD
Y
MODI
WL
module5a welsh.indd 22 17/12/08 11:49:043 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
23
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5aBeth i’w wneud:
Chwaraewch ddetholiad o wahanol fathau o gerddoriaeth - defnyddiwch sawl gwahanol dempo. Anogwch y plant i wneud marciau ar y papur er mwyn cynrychioli’r gwahanol fathau o gerddoriaeth. Newidiwch liw bob tro y bydd y gerddoriaeth yn newid.
Peintio â Phethau’r Gegin
Y Gweithgaredd
Gwahoddwch y plant i greu gwaith celf gan ddefnyddio’r gwahanol gyfarpar a geir yn y gegin.
Bydd arnoch angen:
Papur, paent, sgwryddion potiau, brwshys golchi llestri, papur a phaent, •pethau ar gyfer addurno
Agor a Chau
Y Gweithgaredd
Gwahoddwch y plant i agor bocsys a chynhwysyddion er mwyn dod o hyd i’r hyn sydd y tu mewn iddynt.
Bydd arnoch angen:
Gwahanol focsys neu gynhwysyddion â gwahanol agorwyr neu fachau, •cloeon a chlicediRhai ‘trysorau’ i’w rhoi y tu mewn iddynt•
Gefeiliau Gwahanol
Y Gweithgaredd
Gan ddefnyddio gefeiliau gwahanol gwahoddwch y plant i godi a gosod gwahanol wrthrychau a’u rhoi mewn trefn.
Bydd arnoch angen:
Gefeiliau gwahanol•Pethau i’w rhoi mewn trefn a’u codi sydd o wahanol siâp, maint a phwysau •e.e. peli gwlân cotwm, blociau bach, ceir tegan
DEUNYDD
Y
MODI
WL
module5a welsh.indd 23 17/12/08 11:49:043 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
24
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5aEdafu
Y Gweithgaredd
Yn hytrach nag edafu gleiniau ar les, archwiliwch wahanol ddulliau o edafu eitemau.
Gwnewch fwclis gan ddefnyddio pasta• Edafwch gylchoedd grawnfwyd ar lasys licoris • Edafwch gylchoedd llenni ar bolion llenni• Edafwch fandiau gwallt neu riliau cotwm ar hoelbrennau•
Bydd arnoch angen:
Pethau i’w hedafu - tiwbiau cardbord, botymau• Rhywbeth i edafu eitemau arno e.e. llinyn, glanhawyr pibell, hoelbrennau pren, • rhaff, ffyn pys ar gyfer yr ardd
Swigod 1
Y Gweithgaredd
Mae’r oedolion yn chwythu swigod (gall y plant eu gwneud hefyd). Wrth i’r swigod godi gall y plant un ai achosi iddynt fynd ‘pop’ drwy eu cyffwrdd â’u bysedd, ‘eu dal’ drwy glapio’r swigod rhwng eu dwylo neu sefyll/neidio arnynt pan fyddant yn cyrraedd y llawr.
Swigod 2
Swigod sy’n Sboncio
Hwyl gyda chymysgedd sy’n sboncio oddi ar eich dillad.
Bydd arnoch angen:
2 baced o gelatin powdwr di-flas• 1L o ddŵr poeth (newydd ei ferwi)• 50 - 70 ml o glyserin• 2 lwy de o siwgr mân• 50 ml o hylif golchi llestri•
Toddwch y gelatin yn y dŵr poeth ac yna ychwanegwch yr hylif golchi llestri a’r glyserin.
Noder: Bydd angen i chi ailgynhesu’r cymysgedd hwn pryd bynnag y byddwch yn ei ddefnyddio, gan y bydd yn glynu at ei gilydd. Dylai dwy neu dair munud mewn microdon fod yn ddigonol, ond cadwch olwg ar y cymysgedd y tro cyntaf y byddwch yn ei gynhesu.
DEUNYDD
Y
MODI
WL
25
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5aCeir Bymper
Y Gweithgaredd
Mae’r plant yn camu i mewn i gylch a’i ddal o amgylch eu gwasg. Eglurwch mai hwn yw eu ‘car’ ac na ddylent fynd i mewn i ‘gar’ unrhyw un arall. Rhowch gyfarwyddiadau iddynt e.e. aros a mynd, sefyll i fyny ac eistedd i lawr.
Rhowch rai cyfarwyddiadau arbennig i gyd-fynd â symudiadau e.e. Traffordd - rhedeg, rhedeg allan o betrol- neidio, olwyn fflat - sefyll ar un goes, bacio yn ôl - ewch tuag yn ôl.
Bydd arnoch angen:
Cylchoedd•Lle gwag•
Bili’r Broga
Y Gweithgaredd
Mae gan bob plentyn fag ffa. Rhoddir y blwch neu’r cylch yng nghanol y plant sy’n eistedd/sefyll mewn cylch. Mae pawb yn canu:
Neidiodd Bili’r Broga ar foncyffA, SBLASH, syrthiodd i mewn i’r pwll
Ar y gair ‘SBLASH’ mae un plentyn yn taflu’r bag ffa i mewn i’r blwch. Gwnewch hyn sawl gwaith hyd nes y mae pawb yn cael eu tro. Newidiwch y gêm drwy gynyddu sawl gwaith y dywedir y gair ‘sblash’ a thaflwch fagiau ffa i gyd-fynd â’r rhif hwnnw.
Bydd arnoch angen:
Bocs neu gylch•Bagiau ffa neu wrthrychau meddal eraill i’w taflu•Lle gwag•
Ysgrifennu â Rhubanau
Y Gweithgaredd
Torrwch stribedi hir o bapur crêp a thapiwch sawl un ynghyd er mwyn creu stribynnau. Bydd arnoch angen dau yr un (un ym mhob llaw). Gan ddefnyddio cerddoriaeth â gwahanol dempo, gwahoddwch y plant i wneud patrymau a siapiau yn yr awyr â’u stribynnau.
Bydd arnoch angen:
Papur crêp, cerddoriaeth•
DEUNYDD
Y
MODI
WL
module5a welsh.indd 25 17/12/08 11:49:053 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
Rholio a Rholio
Y Gweithgaredd
Mae’r plant yn gorwedd mewn rhes ar y flanced ac yn canu: Roedd na bump yn y gwely ac meddai’r un lleiaf - roliwch roliwch,Rholiodd pawb a syrthiodd un,Roedd na bedwar yn y gwely ac meddai’r un lleiaf - roliwch roliwch,Rholiodd pawb a syrthiodd un …
Cariwch ymlaen nes bod pawb wedi syrthio o’r gwely.
Bydd arnoch angen:
Blanced fawr•Digon o le•
Cerdded y Llinell
Y Gweithgaredd
Gosodwch sawl hyd o raff neu lein ddillad ar hyd y llawr, gan eu croesi dros ei gilydd, a rhowch drysor ar y diwedd. Anogwch y plant i gerdded ar hyd y rhaff gan ddilyn y llwybr i gyrraedd y ‘trysor’. Efallai y bydd rhai plant yn gallu cerdded am yn ôl neu’n wysg eu hochr.
Gwelwch os gall y plant hefyd wneud ‘triciau’ ar hyd y llwybr e.e. sefyll ar un goes, neidio ymlaen, troi mewn cylch.
Bydd arnoch angen:
Sawl hyd o raff sgipio neu lein ddillad•‘Trysorau’•
Yn y Sŵ
Y Gweithgaredd
Gwahoddwch y plant i symud o gwmpas fel gwahanol anifeiliaid. Defnyddiwch luniau i helpu’r plant os oes angen.
Neidr - ymlusgo ar y stumogCangarŵ - neidioFflamingo - sefyll ar un goesCrocodeil - agor/cau breichiau yn llydan i ddynwared ei gegEliffant - cerdded yn araf, fel creadur trwmPili-Pala - chwifio’r breichiau a symud o amgylch yr ystafellMorlew - gorwedd ar y stumog a gwthio i fyny gan ddefnyddio’r breichiauLlew - ymlusgo ar eich pedwarCeisiwch feddwl am anifeiliaid eraill
26
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5aDE
UNYDD
Y
MODI
WL
module5a welsh.indd 26 17/12/08 11:49:053 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
27
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar 5aBydd arnoch angen:
Lle gwag•
Rhigymau Symud
Mor Dal â Choeden
Bydd arnoch angen:
Lle gwag•
Beth i’w wneud:
Mae’r plant yn symud i gyd-fynd â geiriau’r rhigwm.
Mor dal â choeden (estyn i fyny)Mor llydan â thŷ (estyn y breichiau a’r coesau yn llydan)Mor denau â phin (sefyll yn llonydd â’r breichiau i lawr)Mor fach â llygoden (mynd yn belen ar y llawr)
Gemau Parasiwt
Gweithgaredd
(Tôn: If you’re happy and you know it)Wrth i’r blanced fynd i fyny cura’r llawrWrth i’r blanced fynd i fyny cura’r llawrWrth i’r blanced fynd i fyny cura’r llawr a dal i ganuWrth i’r blanced fynd i fyny cura’r llawr.
Defnyddiwch symudiadau eraill (clapio’r dwylo, taro braich, plygu glin ac ati)
Bydd arnoch angen:
Blanced•
DEUNYDD
Y
MODI
WL
module5a welsh.indd 27 17/12/08 11:49:053 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
28
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
Rhestr ddarllen
Education in the Early Years: A Series of books published by QEd on a variety of topics, which are listed below:
The Observation and Assessment of Children in the Early Years: Dr Hannah Mortimer, QEd Publications, 2001
Behaviour Management in the Early Years: Dr Hannah Mortimer, QEd Publications, 2006
Supporting the Literacy Needs of Children in the Early Years: Dorothy Smith, QEd Publications, 2001
Working with Children with Specific Learning Difficulties in the Early Years: Dorothy Smith, QEd Publications, 2001
Developing an Inclusion Policy in your Early Years Setting: Dr Hannah Mortimer, QEd Publications, 2006
Personal, Social and Emotional Development of Children in the Early Years: Dr Hannah Mortimer, QEd Publications, 2001
Little Books with BIG ideas: A Series of books published by Featherstone Education, some of which are listed below:
The Little Book of Listening: Clare Beswick, Featherstone Education Ltd, published 2003
The Little Book of Language Fun: Clare Beswick, Featherstone Education Ltd, published 2004
The Little Book of Writing: Helen Campbell & Sally Featherstone, Featherstone Education Ltd, published 2007
The Little Book of Circle Time: Dawn Roper, Featherstone Education Ltd, published 2004
Smooth Transitions: Ros Bayley and Sally Featherstone, Featherstone Education Ltd, published 2003
module5a welsh.indd 28 17/12/08 11:49:053 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
29
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
Books
Of Frogs and Snails (action rhymes and finger rhymes) Yvone Winter, Belair Publications
This Little Puffin
Action rhymes/finger rhymes and poems. Elizabeth Matterson, Puffin Books
What Will We Play Today
Veronica Larkin and Louie Suthers. Brilliant Publications www.brilliantpublications.co.uk
Bright Ideas for Early Years
Action Rhymes and Games. Max De Boo www.scholastic.co.uk
Mark Making/Early Writing
Write Dance
Paul Chapman Publishing www.paulchapmanpublishing.co.uk
Writing without Pencils
Brenda Whittle, Scholastic www.scholastic.co.uk
Cutting Skills
Mark & Katy Hill, LDA Tel: 0845 1204776 www.ldalearning.com
module5a welsh.indd 29 17/12/08 11:49:053 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001
30
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen:Modiwl 5a - Ymyrraeth Gynnar
Hyn sydd i dystio bod
This is to certify that
.......................................................................................................
wedi cwblhau / has completed
Modiwl / Module 5a
Ymyrraeth Gynnar fel rhan o Becyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen
Early Intervention as part of theFoundation Phase National Training Pack
ar / on
............................................................................
Pecyn Hyfforddi Cenedlaethol y Cyfnod Sylfaen
Foundation Phase National Training Pack
module5a welsh.indd 30 17/12/08 11:49:123 CertifiedPDF® Welsh Assembly GovernmentISO-15930 PDF/X-1a:2001