Upload
doantram
View
220
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Gwasanaeth Paratoi Plant yn eu Harddegau at Fywyd fel Oedolyn yw AALPS Cymru, sy’n cynnig gwasanaeth arbenigol ar gyfer pobl ifanc 18+ sy’n dioddef o anhwylderau’r sbectrwm awtistig, sydd ag anableddau dysgu, ac sydd ag anghenion cymhleth.
AALPS Cymrumaking a difference
Gwasanaeth pontio sydd wedi’i gymeradwyo gan AGGCC yw AALPS, sydd wedi’i deilwra’n arbennig i oedolion ifanc 18 mlwydd oed neu hŷn. Mae lleoliadau dydd a phreswyl ar gael hyd at 52 wythnos o’r flwyddyn. Mae rhaglenni datblygu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn caniatáu i’r bobl ifanc yn AALPS Cymru i symud yn llwyddiannus i mewn i lety â chymorth, un’ ai ar hyd yr Options Group Pathway neu trwy ddull allanol.
Ein nod
Rydym yn ceisio gwneud y newid hwnnw sy’n anodd weithiau, o blentyndod i fod yn oedolyn, yn werthfawr ac yn wobrwyol. O ymrwymo i’r agenda personoli a dilyn ein dull cynllunio ein hunain sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae pob person ifanc yn derbyn rhaglen ddatblygu bersonol sydd wedi’i theilwra’n unigol. Mae’r rhaglenni hyn yn sicrhau bod cynnydd mesuradwy yn cael ei wneud ym meysydd datblygu sgiliau bywyd, cymdeithasol a chyfathrebu, sgiliau datblygu, hunan ymwybyddiaeth a chynyddu annibyniaeth.
Mae AALPS Cymru, sydd mewn lleoliad hyfryd sy’n edrych dros Aber Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru, yn galluogi pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth i baratoi at fywyd fel oedolyn.
Mae AALPS Cymru wedi’i leoli ger Ysgol Kinsale, gwasanaeth arbenigol llewyrchus sydd wedi’i gofrestru gyda Chynulliad Cymru ac AGGCC, sydd felly’n manteisio o fynediad i gyfleusterau eang a thîm o staff arbennig o brofiadol.
Gyda lleoliadau sy’n para o 1 i 5 mlynedd, mae AALPS Cymru’n cefnogi pobl ifanc i symud i lety â chymorth o fewn graddfeydd amser priodol. Mae pobl ifanc yn cael cymorth i symud i un’ai’r gymuned leol, eu hawdurdodau cartref neu i leoliadau eraill o’u dewis.
Rydym yn darparu’r canlynol:
• canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas ac i gysylltu ag ef
• rhaglenni datblygu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n cyd-fynd â Strategaeth Awtistiaeth y llywodraeth
• newidiadau strwythuredig, sydd wedi’u cynllunio, o fod yn blentyn i fod yn oedolyn
• llety hunangynhwysol cartrefol, sydd wedi’u dylunio’n arbennig
• cymorth i integreiddio i fywyd cymunedol a chyfleoedd gwaith go iawn
• cyfleusterau eang sy’n hyrwyddo mwy o hyblygrwydd o ran meddwl a hunan ymwybyddiaeth
• canolbwyntio ar ddatblygu potensial unigol pob person i fod yn annibynnol
Options Group: AALPS Cymru
Croeso i AALPS Cymru
Mae AALPS Cymru’n darparu rhaglenni gofal, datblygu sgiliau bywyd a gwasanaethau therapi integredig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer pobl ifanc sy’n dioddef o anhwylderau’r sbectrwm awtistig, anableddau dysgu/anghenion cysylltiedig cymhleth, ac ymddygiadau heriol.
Cyfleusterau a llety
Mae AALPS Cymru wedi’i leoli mewn safle mawr, sy’n cynnig llety cartrefol, wedi’u dylunio’n arbennig, i 5 person ifanc sydd ag amryw eang o anghenion.
Mae sawl llety hunangynhwysol ar gael, sy’n gallu cael eu haddasu i gwrdd ag anghenion yr unigolyn a dymuniadau’r preswylwyr. Mae’r fflatiau ar y llawr gwaelod, ac maent yn elwa o fynedfeydd a gerddi preifat.
Mae ardaloedd byw cymunedol wedi’u lleoli mewn adeilad ar wahân sydd wedi’i gysylltu i’r llety, sy’n cynnwys lolfa fawr, cegin ag ardal fwyta.
Mae AALPS Cymru’n cynnig ystod eang o gyfleusterau sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc i ddatblygu eu diddordebau a’u sgiliau mewn amgylcheddau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys bistro sydd â chegin arlwyo wedi’i chyfarparu’n llawn, neuadd chwaraeon a champfa, fferm anifeiliaid fechan ac ardal arddwriaethol, stiwdios cerddoriaeth a gwaith coed, llyfrgell a sinema.
making a difference
Dysgu
Mae sawl cyfle i barhau i ddysgu yn AALPS Cymru. Yn ogystal â datblygu sgiliau bywyd pwysig, mae pobl ifanc yn cael cymorth i astudio ar gyfer Tystysgrifau Lefel Mynediad AQA a chyrsiau sydd wedi’u hachredu’n genedlaethol, fel ASDAN. Mae AALPS Cymru’n darparu gweithdai ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu ar ffurf sesiynau Drama a Cherddoriaeth, sydd yna’n cael eu cysylltu i sesiynau ymarferol yn y gymuned leol. Mae AALPS Cymru hefyd yn cynnig mynediad i ddysgu ymarferol sy’n gysylltiedig â gwaith, fel gweinyddu, manwerthu ac adeiladu. Fel rhan o gynllun mentergarwch eang, mae pobl ifanc yn derbyn cymorth i dyfu a gwerthu cynnyrch mewn marchnadoedd lleol ac i ganolfannau garddio lleol.
Gofal a Therapi
Mae AALPS Cymru wedi ymrwymo i ddull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn unol â Strategaeth Awtistiaeth y llywodraeth a’r agenda bersonoli. Mae pob person ifanc yn chwarae rôl weithgar o ran datblygu eu rhaglen gofal a datblygiad personol unigol, a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cwrdd 24 awr o’r dydd , 7 diwrnod o’r wythnos, a bod eu dewisiadau unigol yn cael eu parchu.
Mae’r holl staff yn gorfod cwblhau cwrs gorfodol wedi’i achredu sy’n ymwneud yn benodol â hyfforddiant ynghylch awtistiaeth ac anableddau dysgu. Mae gofyn i bob aelod o staff ennill Diploma
Lefel 2 neu uwch, ac maent yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr mewn gofalu am bobl sydd ag anghenion iechyd arbenigol fel epilepsi.
Mae aelodau pwrpasol o staff yn derbyn hyfforddiant wedi’i achredu ar gyfer rhoi meddyginiaeth, ac mae gofyn i bob staff basio cyrsiau PRICE ar reoli ymddygiad.
Mae AALPS Cymru’n cynnig amryw eang o therapïau a chymorth clinigol yn ôl y gofyn. Mae cymorth clinigol yn cael ei oruchwylio gan Dîm pwrpasol Amlddisgyblaethol Proffesiynol a Chlinigol Options Group.
Ff: 08442 487 187 (ar gyfer ymholiadau
cyffredinol)
Ff: 08442 487 190 (i gyfeirio rhywun)
www.optionsgroup.co.uk
AALPS Cymru
Llanerch-y-mor, Treffynnon, Sir y FflintCH8 9DX
Ff: 01745 562570 E: [email protected]
Cysylltu ag Options Group Rhagor o wybodaeth
Proses Mynediad
Mae AALPS yn glynu at bolisi strwythuredig o ran prosesau cyfeirio, asesu a mynediad. Fel gwasanaeth personol sy’n cael ei arwain gan anghenion, rydym yn darparu asesiadau sy’n galluogi’r unigolyn sy’n cael ei asesu i gyfrannu drwy ddefnyddio eu hoff systemau cyfathrebu a thrwy eirioli hefyd. Mae pob asesiad yn cael eu cynnal gan aelodau profiadol o staff, sydd wedi cael eu hyfforddi’n addas, a cheir mewnbwn clinigol yn ôl yr angen. Maent yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â phobl allweddol sy’n cynnwys rhieni, gofalwyr a staff clinigol. Mae’r asesiad yn trafod meysydd fel bod yn iach, datblygu sgiliau i fod yn ddiogel, mwynhau a chyflawni, gwneud cyfraniad positif personol, a chyflawni lles economaidd yn cynnwys mynediad i gartref. Ein nod yw cynnig lleoliadau penodol i bobl sy’n dioddef o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, sy’n canolbwyntio ar y dyheadau tymor byr a thymor hir, ac ar alluoedd y bobl yr ydym yn eu cefnogi.
Fel arfer, bydd preswylwyr wedi cael eu diagnosio gydag awtistiaeth, neu’n cael eu profi ar hyd o bryd am awtistiaeth. Fodd bynnag, oherwydd yr amrywiad mewn terminoleg, gallai myfyrwyr gael eu diagnosio gydag anhwylder ar y sbectrwm awtistig neu gyflwr ar y sbectrwm awtistig, fel rhywun sy’n dioddef o awtistiaeth uchel-weithredol, Syndrom Asperger, anhwylder datblygu treiddiol, anableddau dysgu neu nodweddion awtistig.