2

Map o gwrs cyfeiriannu Parc Llywelyn

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Map a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer cwrs cyfeiriannu Parc Llywelyn

Citation preview

Page 1: Map o gwrs cyfeiriannu Parc Llywelyn
Page 2: Map o gwrs cyfeiriannu Parc Llywelyn

Cyfeiriannu ym Mharc Llewelyn

AMCAN Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y

llwybr a dod o hyd i'r pwyntiau rheoli.

Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel

a ddangosir gan linell y raddfa.

PELLTEROEDD Gellir cyfrif y pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn.

CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion

ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear.

Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map

yn pwyntio i'r gogledd hefyd. Bydd cwmpawd hefyd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau, ac i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd ar gyffyrdd llwybrau, etc.

Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd ar gyfer cyfeiriadau:

1. Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. 3. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. 4. Ewch yn eich blaen i'r cyfeiriad y mae blaen y cwmpawd yn cyfeirio ato.

RHEOLYDDION A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolyddion ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo mewn coch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolyddion ar y ddaear gan

bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyd-fynd â'r un rheolydd ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y sgwâr perthnasol ar y cerdyn rheoli wrth ochr eich map i gadarnhau eich ymweliad.

DISGRIFIADAU O'R RHEOLYDDION:

Dechrau 1. 2. 3. 4.

Adeilad, cornel DOn Dryslwyn, ochr y Gn Cyffordd llwybr Clawdd, pen GDd Tro clawdd, ochr y G

5. 6. 7. 8. 9.

Llwybr yn croesi Dryslwyn, ochr y D Ffin llystyfiant Wal bridd D, troed y G Cyffordd y wal bridd, ochr y Gn

10. 11. 12. 13. 14.

Tro wal bridd, ochr y DDd Cyffordd y wal bridd, ochr y Dn Dryslwyn, pen GOn Tro yn y llwybr Clawdd, pen GDd

15. 16. 17. 18. 19.

Dryslwyn, ochr y DOn Pen y ffos Dryslwyn, ochr y GOn Cornel ffens Cornel ffens

CYRSIAU A AWGRYMIR. Cychwyn a gorffen o'r Ganolfan Gymunedol yn union y tu mewn i'r parc ym mhen pellaf Teras Trewyddfa, y caiff ei dangos gan driongl coch ar ben cylch dwbl ar y

map:

Gwyn 1.1km byr a hawdd ar gyfer dechreuwyr ifanc: Dechrau - 1 - 3 - 5 - 13 - 14 - 16 - 2 - Diwedd

Melyn 1.3km hawdd i ddechreuwyr hŷn a'r rhai sy'n datblygu o'r Gwyn: Dechrau - 19 - 18 - 17 - 16 - 14 - 13 - 5 - 4 - 2 - Diwedd

Oren 2.6km yn fwy anodd ac yn dilyn ymlaen o'r Melyn: Dechrau - 2 - 4 - 6 - 7 - 8 - 9 - 10 - 11 - 12 - 13 - 14 - 15 - 17 - 19 - Diwedd

NEU rhowch gynnig ar ymweld â chynifer o reolyddion â phosib mewn amser penodol, er enghraifft 30 neu 45 munud (digwyddiad ‘Sgorio’).

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, cysylltwch â'r clwb lleol: CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, drwy ymweld â gwefan y clwb yn www.sboc.org.uk

DIOLCHIADAU Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda help grantiau drwy Ddinas a Sir Abertawe gan 'Ddringo'n Uwch' (Cyngor Chwaraeon Cymru), Cydcoed (Comisiwn Coedwigaeth), Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.