5
// Greener energy technologies will need to be sited at sea and seascapes www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Blwyddyn ymlaen...ond yn dal i gofio Agor Lôn Gwyrfai Rhifyn 6 // Rhagfyr 2013 News from Natural Resources Wales Mae pobl a chymunedau wrth wraidd ein gwaith. Yn y rhifyn hwn o Cyfoeth, edrychwn ar rai o’r prosiectau lle rydym wedi gweithio gyda sefydliadau a chymunedau ledled Cymru. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, rwyf wedi cael y pleser o weld yr amrywiaeth eang o waith rydym yn ei wneud ac mae ymroddiad a chreadigrwydd ein cymunedau bob amser yn fy rhyfeddu. Mae adeiladu partneriaethau lleol cryf yn hollbwysig, ac mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol - boed wrth ddelio ag ansawdd amgylcheddol, ailgynllunio coetir, neu wella mynediad a chyfleoedd hamdden. Er mai gwlad wledig yn bennaf yw Cymru, mae 80% o’i phoblogaeth - tua 2.4 miliwn o bobl - yn byw yn ein trefi a’n dinasoedd. Er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu’n effeithiol at gyflawni strategaethau a pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran datblygu cynaliadwy, mae’n rhaid inni gael Golygyddol CYFOETH parhau ar dud 2 F lwyddyn gyfan ers i lifogydd daro cymunedau ar draws Dyffryn Clwyd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n parhau i ymdrechu i gefnogi’r sawl fu’n dioddef, yn atgyweirio’r difrod a gwella amddiffynfeydd llifogydd i bobl yn yr ardal. Ym mis Hydref, cafodd bobl sy’n byw ar ystâd dai Glasdir yn Rhuthun wasanaeth rhybudd llifogydd newydd. Ac mae trigolion Ffordd Isaf Dinbych hefyd wedi cael gwasanaeth rhybudd llifogydd ychwanegol . Fis Awst, dechreuodd y gwaith ar raglen wyth mis o waredu coed, llwyni a malurion ar ran bedair milltir o Afon Elwy i gynyddu llif y d ˆ wr pan fydd bygythiad o lifogydd. Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru’n dal i weithio gyda’r holl gymunedau a gafodd eu heffeithio i gynnig cyngor a helpu i ddatblygu cynlluniau llifogydd cymunedol. Ers y llifogydd, mae swyddogion wedi helpu trigolion Ystâd Glastir yn Rhuthun i ddatblygu cynllun llifogydd cymunedol a rhwydwaith o wardeiniaid llifogydd, yn ogystal â dal i weithio gyda 30 o wirfoddolwyr ym mhob rhan o Lanelwy i gryfhau cynllun llifogydd presennol y ddinas. Mae Cynllun Naturiol Cymru hefyd wedi sefydlu ‘Gr ˆ wp Partneriaeth Llifogydd Llanelwy’ yn ddiweddar, sy’n cael ei gadeirio gan John Roberts, Maer Llanelwy. Mae’r gr ˆ wp yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Dinas, Dˆ wr Cymru a chynrychiolwyr o’r gymuned. A gorwyd llwybr amlddefnydd newydd gan Barc Cenedlaethol Eryri. Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan brosiect Cymunedau a Natur. Mae Lôn Gwyrfai yn ymestyn 4.5 milltir rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu ac mae wedi’i dylunio’n benodol i gerddwyr, beicwyr a marchogion y gallant yn awr osgoi ffordd gul a throellog yr A4085. Mae Cymunedau a Natur yn brosiect strategol £14.5m a ddatblygwyd ac a reolir gan ein sefydliad, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Ei fwriad yw defnyddio amgylchedd naturiol Cymru i greu cyfleoedd economaidd trwy hamdden a thwristiaeth – gan ddarparu swyddi gwerthfawr a chynaliadwy mewn ardaloedd a

News from Natural Resources Wales Rhifyn 6 // Rhagfyr ......2013/12/06  · Hydref 2011 a mis Medi 2012, bod y teithiau wedi cynhyrchu gwariant o tua £33.2m a bod tua 730 o flynyddoedd

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: News from Natural Resources Wales Rhifyn 6 // Rhagfyr ......2013/12/06  · Hydref 2011 a mis Medi 2012, bod y teithiau wedi cynhyrchu gwariant o tua £33.2m a bod tua 730 o flynyddoedd

// Greener energy technologies will need to be sited at sea and seascapes

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Blwyddyn ymlaen...ond yn dal i gofio

Agor Lôn Gwyrfai

Rhifyn 6 // Rhagfyr 2013News from Natural Resources Wales

Mae pobl a chymunedau wrth wraidd ein gwaith. Yn y rhifyn hwn o Cyfoeth, edrychwn ar rai o’r prosiectau lle rydym wedi gweithio gyda sefydliadau a chymunedau ledled Cymru. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, rwyf wedi cael y pleser o weld yr amrywiaeth eang o waith rydym yn ei wneud ac mae ymroddiad a chreadigrwydd ein cymunedau bob amser yn fy rhyfeddu.

Mae adeiladu partneriaethau lleol cryf yn hollbwysig, ac mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol - boed wrth ddelio ag ansawdd amgylcheddol, ailgynllunio coetir, neu wella mynediad a chyfleoedd hamdden.

Er mai gwlad wledig yn bennaf yw Cymru, mae 80% o’i phoblogaeth - tua 2.4 miliwn o bobl - yn byw yn ein trefi a’n dinasoedd. Er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu’n effeithiol at gyflawni strategaethau a pholisïau allweddol Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran datblygu cynaliadwy, mae’n rhaid inni gael

Golygyddol

CYFOETH

parhau ar dud 2

Flwyddyn gyfan ers i lifogydd daro cymunedau ar draws Dyffryn Clwyd, mae Cyfoeth Naturiol

Cymru’n parhau i ymdrechu i gefnogi’r sawl fu’n dioddef, yn atgyweirio’r difrod a gwella amddiffynfeydd llifogydd i bobl yn yr ardal.

Ym mis Hydref, cafodd bobl sy’n byw ar ystâd dai Glasdir yn Rhuthun wasanaeth rhybudd llifogydd newydd. Ac mae trigolion Ffordd Isaf Dinbych hefyd wedi cael gwasanaeth rhybudd llifogydd ychwanegol .

Fis Awst, dechreuodd y gwaith ar raglen wyth mis o waredu coed, llwyni a malurion ar ran bedair milltir o Afon Elwy i gynyddu llif y dwr pan fydd bygythiad o lifogydd.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru’n dal i weithio gyda’r holl gymunedau a gafodd eu heffeithio

i gynnig cyngor a helpu i ddatblygu cynlluniau llifogydd cymunedol. Ers y llifogydd, mae swyddogion wedi helpu trigolion Ystâd Glastir yn Rhuthun i ddatblygu cynllun llifogydd cymunedol a rhwydwaith o wardeiniaid llifogydd, yn ogystal â dal i weithio gyda 30 o wirfoddolwyr ym mhob rhan o Lanelwy i gryfhau cynllun llifogydd presennol y ddinas.

Mae Cynllun Naturiol Cymru hefyd wedi sefydlu ‘Grwp Partneriaeth Llifogydd Llanelwy’ yn ddiweddar, sy’n cael ei gadeirio gan John Roberts, Maer Llanelwy. Mae’r grwp yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Dinas, Dwr Cymru a chynrychiolwyr o’r gymuned.

Agorwyd llwybr amlddefnydd newydd gan Barc Cenedlaethol Eryri. Ariannwyd y prosiect yn

rhannol gan brosiect Cymunedau a Natur. Mae Lôn Gwyrfai yn ymestyn 4.5 milltir rhwng Beddgelert a Rhyd Ddu ac mae wedi’i dylunio’n benodol i gerddwyr, beicwyr a marchogion y gallant yn awr osgoi ffordd gul a throellog yr A4085.

Mae Cymunedau a Natur yn brosiect strategol £14.5m a ddatblygwyd ac a reolir gan ein sefydliad, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Ei fwriad yw defnyddio amgylchedd naturiol Cymru i greu cyfleoedd economaidd trwy hamdden a thwristiaeth – gan ddarparu swyddi gwerthfawr a chynaliadwy mewn

ardaloedd a

Page 2: News from Natural Resources Wales Rhifyn 6 // Rhagfyr ......2013/12/06  · Hydref 2011 a mis Medi 2012, bod y teithiau wedi cynhyrchu gwariant o tua £33.2m a bod tua 730 o flynyddoedd

Rhifyn 6 // Rhagfyr 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

O fesen fach daw derwen iach

Ddechrau mis Tachwedd, aeth disgyblion 9-10 oed o Ysgol Rhostyllen ati i dyfu coed y

dyfodol drwy gasglu mes o goed derw sy’n tyfu ar dir meysydd chwarae Rhostyllen ger Wrecsam.

Rhoddwyd y mes mewn sachau yn barod i’w cludo i blanhigfa Comisiwn Coedwigaeth Lloegr yn Delamere, Swydd Gaer lle cânt eu hau yr hydref hwn.

Ar ôl datblygu’n eginblanhigion, byddant yn parhau i dyfu yn y blanhigfa

am o leiaf ddwy flynedd cyn i Cyfoeth Naturiol Cymru eu plannu mewn coetiroedd sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru. Caiff y derw ifanc eu plannu yn y pen draw yng Nghoedwigoedd Clocaenog, Fyrnwy, Dyfnant a Maesyfed.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgwyl plannu dros 180,000 o dderw digoes yn ystod y gaeaf nesaf, sy’n cyfateb i dua 5% o gyfanswm y coed a blannir, o gymharu â dim ond 0.5% o’r nifer a blannwyd 15 mlynedd yn ôl.

gweledigaeth glir ar gyfer ein gwaith mewn ardaloedd trefol a gwledig. Mae gennym gyfrifoldeb penodol i sicrhau bod pobl sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn mwynhau’r un safonau amgylcheddol â mannau eraill, a’u bod yn achub ar gyfleoedd i ymweld ac ymwneud â’n hamgylchedd godidog, sy’n aml ar garreg eu drws.

Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n ystyried ein Cynllun Corfforaethol a’n Cynllun Busnes ar gyfer y blynyddoedd nesaf - mae croeso i chi gyfrannu os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod. Er bod nifer o heriau yn ein hwynebu yn y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn cynnal ac yn atgyfnerthu ein cysylltiadau â’n cymunedau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi ar brosiectau newydd yn 2014.

Gan mai rhifyn mis Rhagfyr yw hwn, ar ran y Cadeirydd a’r Bwrdd, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Emyr RobertsBywyd newydd i Lyn PadarnMae llyn yng Ngogledd Cymru wedi cael bywyd newydd heddiw wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru ryddhau mwy na 5,500 o bysgod prin mewn ymgais i warchod y rhywogaeth.

Mae Llyn Padarn, yn Llanberis, yn gartref i’r torgoch, sydd ond i’w ganfod mewn rhai llynnoedd oer, dwfn yng ngogledd Cymru.

Mae’r rhyddhau yn rhan o raglen barhaus i ailgyflenwi torgochiaid ifanc i’r llyn, lle mae poblogaethau wedi prinhau yn y blynyddoedd diwethaf.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn y mae’r

torgochiaid, sydd wedi eu magu yn neorfa’r sefydliad ar y Fawddach, wedi eu rhyddhau i’r llyn.

Mae hyn yn dilyn blynyddoedd o fonitro gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’i ragflaenwyr. Daeth asesiad yn 2009 i’r casgliad bod y rhywogaeth dan fygythiad ac roedd angen sefydlu poblogaeth wrth gefn er mwyn gwarchod ei oroesiad.

Mewn blynyddoedd cynharach, mae’r torgochiaid hefyd wedi cael eu hailstocio i Lyn Crafnant ger Trefriw i gynyddu’r boblogaeth yno.

parhad o dudalen 1

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

// Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgwyl plannu dros 180,000 o dderw digoes yn ystod y gaeaf nesaf...

Dyma’r Gogledd a’r Canolbarth!

D yma Tim Jones, Cyfarwyddwr y Gweithredol Gogledd a’r Canolbarth i gyflwyno’i waith i chi!

”Weithiau, rwy’n dal i orfod stopio’r car a threulio ychydig funudau’n edrych ar y golygfeydd fel nad ydw i’n anghofio pa mor lwcus ydyn ni o gael gweithio mewn gwlad mor brydferth a chanddi’r fath gyfoeth o adnoddau naturiol.

“Mae fy nhîm yn gweithio rhwng Wrecsam a Sir y Fflint yn ardal y Gogledd-ddwyrain, Ynys Môn yn y Gogledd i Lanfair-ym-Muallt, Mynyddoedd Cambria yn y De, a Bae Ceredigion ac arfordir Llyn i’r Gorllewin, gan gwmpasu saith o awdurdodau lleol.

“Mae ein gwaith yn cynnwys rheoli rhai o’r coedwigoedd cyhoeddus mwyaf yng Nghymru gyda’u cyfleusterau beicio byd enwog, a gofalu am dri chwarter Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn yr awdurdodau lleol a Pharc Cenedlaethol Eryri i

annog pobl i ddefnyddio a mwynhau hyfrydwch cefn gwlad, yn cynnwys llwybr yr arfordir, gan helpu i ddatblygu’r buddion economaidd y gall cymunedau elwa arnynt. Mae ein timau hefyd yn gweithio i sicrhau ein bod yn cadw pobl yn ddiogel rhag llifogydd a bod ein hafonydd a’n moroedd yn lân, heb eu llygru ac yn llawn o fywyd.

“Rydym yn wynebu heriau o hyd; i sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol gyda datblygwyr prosiectau ynni adnewyddadwy a rhaglenni eraill i gydbwyso’r gwaith o warchod yr amgylchedd, ei fywyd gwyllt a’i dirwedd, gyda helpu Cymru i ddatblygu fel cenedl. Yr ymchwiliad cyhoeddus i ddatblygiadau ynni yn y Canolbarth a’r Rhaglen Ynys Ynni ar Ynys Môn yw’r heriau mwyaf cymhleth o’r rhain ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gweithio gyda ffermwyr a physgotwyr i reoli’r amgylchedd naturiol yn gynaliadwy mewn hinsawdd economaidd anodd “

// Mae ein gwaith yn cynnwys rheoli rhai o’r coedwigoedd cyhoeddus mwyaf yng Nghymru a gofalu am dri chwarter y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n eiddo i’n sefydliad.

yn dilyn o dudalen 1

Rhifyn 2 // Awst 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

Tim Jones (ail o’r dde) a Thîm Arweinyddiaeth y Gogledd a’r Canolbarth (o’r chwith i’r dde).; Rhian Jardine, Ruth Jenkins and Mike Davies.

ac mae diffyg ymarfer corff ei hun yn costio tua £650 miliwn yn anuniongyrchol i Gymru bob blwyddyn.

Yn y rhifyn hwn gallwch ddarllen am rai o’n mentrau i hyrwyddo byw’n iach.

Mae’n bosibl mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw un o’r darparwyr hamdden awyr agored mwyaf yng Nghymru, gyda 550 cilomedr o lwybrau beicio mynydd, 135 cilomedr o lwybrau marchogaeth, 450 cilomedr o lwybrau cerdded, 5 canolfan i ymwelwyr a 75 safle picnic. Ond ni allwn gyflawni ein huchelgais ar ein pen ein hunain. Rydym yn cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod pawb yn elwa o elfennau iechyd, cyfoeth a mwynhad hamdden awyr agored.

Dr Emyr Roberts

Dilynnwch ni ar:

www.Facebook.com/ NatResWales

www.Youtube.com/NatResWales

www.Flickr.com/NatResWales

www.Twitter.com/NatResWales

Page 3: News from Natural Resources Wales Rhifyn 6 // Rhagfyr ......2013/12/06  · Hydref 2011 a mis Medi 2012, bod y teithiau wedi cynhyrchu gwariant o tua £33.2m a bod tua 730 o flynyddoedd

Rhifyn 6 // Rhagfyr 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

Llwybr Arfordir Cymru yn ennill prif wobr cynllunio’r DU

Llwybr Arfordir Cymru, sy’n ymestyn dros 870 o filltiroedd o amgylch arfordir Cymru,

o Gas-gwent yn y de i Gaer yn y gogledd, yw prif enillydd Gwobrau’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) am Ragoriaeth ym maes Cynllunio, sef gwobrau cynllunio mwyaf blaenllaw y DU.

Yn ôl yr adroddiad Economic Impact of Wales Coast Path Visitor Spending on Wales a gyhoeddwyd gan Uned Ymchwil i Economi Cymru, amcangyfrifir bod y cynllun wedi denu tua 2.89m o ymweliadau rhwng mis Hydref 2011 a mis Medi 2012, bod y teithiau wedi cynhyrchu gwariant o tua £33.2m a bod tua 730 o flynyddoedd person o gyflogaeth wedi’u creu.

Mae Llwybr Arfordir Cymru, o’r cychwyn cyntaf, wedi’i seilio ar bartneriaeth o sefydliadau; mae hyn wedi croestorri rolau cynllunio mewn ffordd nas gwelwyd o’r blaen - o Lywodraeth Cymru, i awdurdodau lleol,

sefydliadau cymunedol a gwirfoddol a gwirfoddolwyr. Mae’r broses weithredu wedi bod yn hynod o anodd a manwl sydd wedi arwain at greu rhywbeth sylweddol mewn cyd-destun cenedlaethol.

Ychwanegodd Dr Peter Geraghty, Llywydd RTPI: “Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ddatblygiad cynaliadwy gwirioneddol, sy’n integreiddio buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Drwy hynny, mae wedi denu sylw rhyngwladol, yn ogystal ag agor arfordir hynod o brydferth a thrawiadol Cymru i’r cyhoedd a rhoi hwb i dwristiaeth.

Digwyddiad chwaraeon o’r radd flaenaf

Annog cyswllt

O ’r 22 o gamau yn ystod Pencampwriaeth Rali’r Byd (WRC), cynhaliwyd 15 ohonynt

mewn coedwigoedd sydd dan ein rheolaeth ni. Bu 160 o geir perfformiad uchel a’u gyrwyr yn gwibio i’r eithaf trwy goedwigoedd Eryri, Sir Ddinbych a Chanolbarth Cymru ac roedd Ken Pugh a Will Parry, ein goruchwylwyr peirianneg sifil yn cystadlu.

Gwnaeth ein staff weithio’n galed cyn y digwyddiad yn paratoi’r llwybrau a’r ardaloedd i’r gwylwyr, a monitro dros y penwythnos. Yng Nghlocaenog, sydd wedi’i heintio â phytophthora, sicrhaodd staff fod swyddogion y rali a’r gwylwyr yn gweithredu mesurau bioddiogelwch, gan gynnwys glanhau pob cerbyd a oedd yn cystadlu a cherbydau swyddogol â stêm. Gosodwyd matiau golchi i’r gwylwyr olchi eu hesgidiau cyn gadael, i helpu i leihau lledaeniad y clefyd.

Mae’r un digwyddiad hwn yn denu miloedd o ymwelwyr i Gymru, gan ddarparu hwb gwerthfawr i’r economi leol.

Mae preswylwyr Abertawe yn arddangos ffotograffau sy’n dangos stori Afon Tawe – yn rhan o brosiect i godi ymwybyddiaeth a chynyddu rhyngweithio ag afonydd a nentydd lleol.

Mae’r prosiect Digital Streams yn rhan o fenter Nentydd Clir Abertawe ac mae’n bartneriaeth rhwng Abertawe Gynaliadwy a’n sefydliad ni.

Gwnaeth y preswylwyr ddilyn Afon Tawe o’i tharddiad ar y Mynydd Du i’r môr ym Mae Abertawe. Mae’r arddangosfa’n cael ei chynnal tan y Nadolig yng Nghanolfan yr Amgylchedd, Stryd Pier, Abertawe.

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Page 4: News from Natural Resources Wales Rhifyn 6 // Rhagfyr ......2013/12/06  · Hydref 2011 a mis Medi 2012, bod y teithiau wedi cynhyrchu gwariant o tua £33.2m a bod tua 730 o flynyddoedd

Rhifyn 6 // Rhagfyr 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

Coed Aber

Allan â ni!M ae pobl ifanc o Brosiect

Aspire yng Nghasnewydd a’r Grwp Mamau Cymunedol

yn Nhrelái, Caerdydd yn mwynhau gweithgareddau awyr agored cyffrous ger eu cartrefi drwy’r rhaglen Allan â ni!, sy’n gweithio mewn partneriaeth â 12 o glystyrau ‘Cymunedau yn Gyntaf’ yng Nghymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i wella cyfleoedd i bobl fwynhau gweithgareddau mewn mannau gwyrdd trefol, yn ein cefn gwlad ac ar ein harfordir, a dyna’n union beth mae ‘Allan â ni!’ yn ei wneud.

Drwy weithgareddau hamdden, gwirfoddoli, dysgu awyr agored a datblygu sgiliau, mae ein rhaglen yn gweithio gyda phobl sy’n llai egnïol yn gorfforol, gan eu helpu i ddefnyddio mannau gwyrdd lleol a datblygu ffyrdd o fyw iach. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, personol a throsglwyddadwy pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio neu sy’n ddi-waith.

Mae sefydlu rhwydwaith ymroddedig o bartneriaid yn hanfodol i lwyddiant y dull cydgysylltiedig hwn o weithio. Os gallwn integreiddio gweithgareddau awyr agored yn narpariaeth ddyddiol gwasanaethau ieuenctid, iechyd a

chymunedol lleol, bydd y rhaglen yn creu etifeddiaeth werthfawr ac yn cael effaith barhaol.

Mae tri Swyddog Prosiect wrthi’n gweithio gyda rhwydweithiau yng Nghaerdydd, Casnewydd, y Barri, Abertawe, Caerffili, Gwynedd a Wrecsam a bydd ardaloedd eraill yn ymuno â’r rhestr maes o law. Gan ddefnyddio swm bach o arian i ymgysylltu â chymunedau a meithrin gallu, maent yn helpu grwpiau lleol i benderfynu ar sesiynau ‘rhagflas’ a dechrau cynllunio eu gweithgareddau eu hunain. Mae’r mamau yn Nhrelái yn awyddus i ddatblygu Ras Sombi - mwy o wybodaeth i ddilyn!

Ariennir y prosiect tair blynedd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr, gydag arian cyfatebol gan Is-adran Cartrefi a Lleoedd Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.

Bydd mwy na 300 o goed yn cael eu plannu ar hyd ochr ffordd yn Aberystwyth fel rhan o gynllun i adfywio’r dref.

Nôd prosiect Coed Aber yw gwella Boulevard St Brieuc - un o brif ffyrdd y dref. Prosiect ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Ceredigion yw hwn ac mae Grwp Aberystwyth Gwyrddach ar fin dechrau’r gwaith plannu y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn 2015.

Mae llawer o’r farn mai dim ond buddiannau amgylcheddol sydd i ddatblygiadau fel hyn, ond maent yn llawer mwy na hynny. Mae buddiannau profedig i bobl wneud ymarfer corff a mwynhau amgylchedd lleol da sy’n ddiogel ac yn groesawgar. O safbwynt economaidd, gall ddenu mwy o ymwelwyr a thwristiaid yn ogystal ag ysgogi buddsoddiadau gan y sector busnes.”

Cafodd Aberystwyth ei henwi’n ardal adfywio gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2009, a dyfarnwyd £10.3m iddi ym mis Mawrth 2010.

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Page 5: News from Natural Resources Wales Rhifyn 6 // Rhagfyr ......2013/12/06  · Hydref 2011 a mis Medi 2012, bod y teithiau wedi cynhyrchu gwariant o tua £33.2m a bod tua 730 o flynyddoedd

Rhifyn 6 // Rhagfyr 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Newyddion

Perllannau traddodiadol yng NghymruMae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cefnogi’r People’s Trust for Endangered Species (PTES) i gwblhau rhestr o berllannau traddodiadol gan ddarparu data ar faint o’r cynefin sydd yng Nghymru.

Mae perllannau traddodiadol yn gynefin pwysig sy’n cefnogi amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Dangosodd ymchwil blaenorol bod nifer y perllannau traddodiadol eisoes wedi dirywio 90% yn rhai rhannau o Gymru er dechrau’r 20fed ganrif. Bydd y data newydd hyn yn

helpu i dargedu mesurau i gefnogi rheolaeth dda o’r cynefin.

Mae perllannau’n denu rhagor o ddiddordeb, ac mae cymunedau’n ymgymryd â’r gwaith o reoli hen berllannau; i ddarparu gwagle awyr agored gwerthfawr, cadw hen fathau o ffrwythau fel plwm Dinbych, ac i werthu cynnyrch lleol. Mae perllannau newydd yn cael eu plannu yn defnyddio mathau o ffrwythau traddodiadol fel un yng Nghastell Bodelwyddan yng Ngogledd Cymru.

Yn GrynoChwifio’r faner werdd

Mae 60 o sefydliadau - gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru - wedi helpu i greu Parc Rhanbarthol y Cymoedd,

sy’n anelu at newid y ddelwedd o gymoedd Cymru a’u portreadu fel mannau deniadol i fyw a gweithio ynddynt ac ymweld â hwy.

Mae ymgyrch farchnata i hyrwyddo’r ardal a rhai o brosiectau Parc Rhanbarthol y Cymoedd wedi cynnwys llwybrau cerdded a beicio newydd. Yn cynrychioli’r Cymoedd mae deg o barciau gwledig ac atyniadau eraill a fydd yn ymuno â’r rhai y mae eu safon uchel eisoes wedi’i chydnabod ar ôl iddynt ennill gwobr glodwiw y Faner Werdd.

Ymhlith y parciau gwledig a’r atyniadau cefn gwlad sydd newydd gael eu hachredu mae Parc Gwledig Cwmdâr, Aberdâr; Garwnant, Coedwig Afan, Coedwig Cwmcarn, Parc Glan yr Afon Cwmbrân a Pharc Gwledig y Gnoll.

Dim ond mannau gwyrdd o safon sydd â mynediad am ddim i’r cyhoedd a all ennill gwobr drwy’r cynllun hwn, a gaiffei ariannu a’i gefnogi yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru.

Gwelliannau i ddyfroedd ymdrochi

M ae’r tymor samplo dwr ymdrochi wedi dod i ben; mae ein samplwyr

hyfforddedig wedi cymryd 20 o samplau ym mhob un o’r 100 o safleoedd dwr ymdrochi dynodedig yng Nghymru. Yna dadansoddwyd y cynnwys bacteriolegol yn ein labordy yn Llanelli i gydymffurfio â Deddfwriaeth Ewropeaidd.

Gwnaeth naw deg naw y cant o’r dyfroedd ymdrochi basio isafswm gofynion Cyfarwyddeb dwr Ymdrochi yr Undeb Ewropeaidd gydag un traeth yn unig yn methu â chyrraedd y safon. Gwnaeth wyth deg naw o’r can lle dwr ymdrochi fodloni’r safonau uwch ; cynnydd o 14 yn 2012.

Mae’r traethau sydd wedi gwella’n sylweddol yn cynnwys Criccieth a

Glan Gorllewin Llandudno, y methodd y ddau ohonynt yn 2012. Mae Dwr Cymru wedi darparu gwelliannau i’r systemau carthffosiaeth yn y ddau le.

Mae’r gwelliant cyffredinol yn newyddion da i’r sector dwristiaeth ac Ieconomi Cymru.

Bu’r tywydd eleni o help - roedd y lefelau isel wedi arwain at lai o ddeunydd llygredd yn cael ei olchi i ddyfroedd ymdrochi, a’r heulwen wedi arwain at olau uwch-fioled yn lladd bacteria niweidiol.

Yn 2015 cyflwynir system newydd lle caiff traethau eu hystyried yn wael, yn foddhaol, yn dda neu’n ardderchog. Yn seiliedig ar ganlyniadau 2013, byddai 70 y cant o draethau Cymru’n syrthio i’r dosbarth uchaf, sef ‘ardderchog’.

// Mae’r gwelliant cyffredinol yn newyddion da i’r sector dwristiaeth ac Ieconomi Cymru...