5
CYFOETH Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk Dwysau’r frwydyr yn erbyn clefydau coed Mae dau glefyd difrifol wedi taro coed y De dros yr wythnosau diwethaf, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n galed i’w hatal rhag lledaenu. Rydym wedi neilltuo dros £2 filiwn i’r ymgyrch i fynd i’r afael â chlefyd sy’n ymosod ar goed llarwydd Prydain. Byddwn yn buddsoddi £500,000 ar unwaith i fynd i’r afael â Phytophthora ramorum (P ramorum) drwy dorri coed ar hyd ymylon ardaloedd heintiedig i geisio rhwystro’r clefyd rhag lledaenu ymhellach. Mae’r strategaeth frys hefyd yn cynnwys prawf arloesol i weld a fyddai chwistrellu coed â chwynladdwr cyffredin yn gallu arafu ymlediad y clefyd. Mae arolygon o’r awyr yn dangos bod y clefyd, a ddarganfuwyd yng Nghwm Afan dair blynedd yn ôl, sy’n effeithio ar goed llarwydd hefyd wedi lledaenu. Achosir y clefyd hwn gan bathogen ffyngaidd o’r enw Phytophthora ramorum ac mae wedi heintio coed dros ardal 3,000 hectar erbyn diwedd 2012. Byddwn yn gwario £1.7 miliwn pellach ar gael gwared ar goed wedi’u heintio, ailblannu coed yn eu lle a chreu ffyrdd drwy goedwigoedd fel bod modd clirio ardaloedd newydd. Clefyd arall i daro coed yw Chalara, sy’n achosi i goed ynn wywo, wedi’i ganfod yn yr amgylchedd ehangach. Rydym wedi cynnal arolwg o 1.5 km o’r ardal er mwyn canfod hyd a lled yr haint, ac rydym yn trafod gyda thirfeddianwyr pa gamau y gallant eu cymryd er mwyn arafu’r lledaeniad, gan gydymffurfio â Chynllun Rheoli Chalara Llywodraeth Cymru. Nid yw un o’r clefydau hyn yn achosi unrhyw berygl i iechyd dyn nac anifail, ac nid yw mynediad cyhoeddus i goetiroedd wedi’i gyfyngu. Er hynny, gofynnwn i bobl ymddwyn yn gyfrifol a chymryd camau diogelwch syml fel glanhau mwd oddi ar eu hesgidiau a’u teiars. // Rydym yn trafod gyda thirfeddianwyr pa gamau y gallant eu cymryd er mwyn arafu’r lledaeniad Blas o’n gwaith Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mewn bodolaeth ers bron i gant o ddiwrnodau, felly mae’n gyfle da i gnoi cil ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, a chanolbwyntio ar yr heriau sydd o’n blaenau. Wrth i ni barhau i feithrin dulliau o weithio ac integreiddio staff yn fewnol, gobeithio ein bod wedi llwyddo i ddarparu gwasanaeth di-dor i chi hyd yma. Er bod sawl ffordd o gyflwyno gwybodaeth mewn chwinciad i chi, nod y cylchlythyr hwn yw ceisio rhoi crynodeb o’r hyn sydd wedi digwydd ar draws y sefydliad. Y bwriad yw cyflwyno rhagflas o’n gwaith ni, gyda rhagor o fanylion am y straeon sy’n ymddangos ar ein gwefan. Mae Cymru’n wynebu llawer o sialensiau – sialensiau i’w phobl a’i chymunedau, i’w heconomi ac i’w hamgylchedd a’i bywyd gwyllt. Sicrhau cyflenwadau ynni a thanwydd, darpariaeth o swyddi ac incwm, mynd i’r afael â bygythiadau newid yn yr hinsawdd a llifogydd, gwella iechyd a lles pobl. Golygyddol yn parhau ar dud. 2

Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru Rhifyn 1 // Haf 2013 CYFOETH · storio, trin a gwaredu gwastraff. Dros y ddeufis nesaf, byddwn yn anfon llythyrau â logo Cyfoeth Naturiol Cymru ar

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • CYFOETHRhifyn 1 // Haf 2013Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

    www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

    Dwysau’r frwydyr yn erbyn clefydau coed

    Mae dau glefyd difrifol wedi taro coed y De dros yr wythnosau diwethaf, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n galed i’w hatal rhag lledaenu.

    Rydym wedi neilltuo dros £2 filiwn i’r ymgyrch i fynd i’r afael â chlefyd sy’n ymosod ar goed llarwydd Prydain. Byddwn yn buddsoddi £500,000 ar unwaith i fynd i’r afael â Phytophthora ramorum (P ramorum) drwy dorri coed ar hyd ymylon ardaloedd heintiedig i geisio rhwystro’r clefyd rhag lledaenu ymhellach.

    Mae’r strategaeth frys hefyd yn cynnwys prawf arloesol i weld a fyddai chwistrellu coed â chwynladdwr cyffredin yn gallu arafu ymlediad y clefyd.

    Mae arolygon o’r awyr yn dangos bod y clefyd, a ddarganfuwyd yng Nghwm Afan dair blynedd yn ôl, sy’n effeithio ar goed llarwydd hefyd wedi lledaenu. Achosir y clefyd hwn gan bathogen ffyngaidd o’r enw Phytophthora ramorum ac mae wedi heintio coed dros

    ardal 3,000 hectar erbyn diwedd 2012. Byddwn yn gwario £1.7 miliwn pellach

    ar gael gwared ar goed wedi’u heintio, ailblannu coed yn eu lle a chreu ffyrdd drwy goedwigoedd fel bod modd clirio ardaloedd newydd.

    Clefyd arall i daro coed yw Chalara, sy’n achosi i goed ynn wywo, wedi’i ganfod yn yr amgylchedd ehangach. Rydym wedi cynnal arolwg o 1.5 km o’r ardal er mwyn canfod hyd a lled yr haint, ac rydym yn trafod gyda thirfeddianwyr pa gamau y gallant eu cymryd er mwyn arafu’r lledaeniad, gan gydymffurfio â Chynllun Rheoli Chalara Llywodraeth Cymru.

    Nid yw un o’r clefydau hyn yn achosi unrhyw berygl i iechyd dyn nac anifail, ac nid yw mynediad cyhoeddus i goetiroedd wedi’i gyfyngu. Er hynny, gofynnwn i bobl ymddwyn yn gyfrifol a chymryd camau diogelwch syml fel glanhau mwd oddi ar eu hesgidiau a’u teiars.

    // Rydym yn trafod gyda thirfeddianwyr pa gamau y gallant eu cymryd er mwyn arafu’r lledaeniad

    Blas o’n gwaithMae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mewn bodolaeth ers bron i gant o ddiwrnodau, felly mae’n gyfle da i gnoi cil ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, a chanolbwyntio ar yr heriau sydd o’n blaenau. Wrth i ni barhau i feithrin dulliau o weithio ac integreiddio staff yn fewnol, gobeithio ein bod wedi llwyddo i ddarparu gwasanaeth di-dor i chi hyd yma.

    Er bod sawl ffordd o gyflwyno gwybodaeth mewn chwinciad i chi, nod y cylchlythyr hwn yw ceisio rhoi crynodeb o’r hyn sydd wedi digwydd ar draws y sefydliad. Y bwriad yw cyflwyno rhagflas o’n gwaith ni, gyda rhagor o fanylion am y straeon sy’n ymddangos ar ein gwefan.

    Mae Cymru’n wynebu llawer o sialensiau – sialensiau i’w phobl a’i chymunedau, i’w heconomi ac i’w hamgylchedd a’i bywyd gwyllt. Sicrhau cyflenwadau ynni a thanwydd, darpariaeth o swyddi ac incwm, mynd i’r afael â bygythiadau newid yn yr hinsawdd a llifogydd, gwella iechyd a lles pobl.

    Golygyddol

    yn parhau ar dud. 2

  • Tîm Arwain

    Rydym wedi gorffen recriwtio ar gyfer swyddi arwain y sefydliad. Byddwn yn eu cyflwyno yn y rhifyn nesaf, fesul Cyfarwyddiaeth. Criw Cyfarwyddiaeth Gweithredol y De sydd dan sylw y tro hwn.

    Mae’r Ardal yn ymestyn o Drefynwy yn y dwyrain i Martin’s Haven, Sir Benfro, yn y gorllewin, ac i Lanymddyfri yn y gogledd. Mae’n cwmpasu dros ddeugain o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac 14 awdurdod lleol.

    Mae gan dimau’r Gyfarwyddiaeth amrywiaeth eang o gyfrifoldebau,

    gan gynnwys: mynd i’r afael â throseddau gwastraff, denu ymwelwyr i’r unig warchodfa naturiol o’i bath yng Nghymru (o amgylch Ynys Sgomer), sicrhau diogelwch cronfeydd dŵ r a chynnal a chadw llwybrau beicio, gwarchod safleoedd bywyd gwyllt i’r fadfall ddŵ r gribog, helpu cwmni Tata Steel i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleihau peryglon llifogydd yn sgil llanw Aber afon Hafren (y llanw uchaf ond un yn y byd), i ddifa ceirw yng nghoedwig Coed y Cymoedd yn Resolfen, Castell-nedd.

    // Mae’r Ardal yn cwmpasu dros ddeugain o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac 14 awdurdod lleol.

    o dudalen 1

    Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

    Graham Hillier (canol) a Thîm Arwain Gweithredol y De; (o’r chwith i’r dde) Martyn Evans, Peter Garson, Mary Youell a Gareth O’Shea.

    Gwefannau Ydy’ch gwefan chi’n cynnwys y manylion cywir am Gyfoeth Naturiol Cymru? Rydym yn gofyn i’n holl randdeiliaid ofalu bod unrhyw gyfeiriad at y tri chorff blaenorol yng Nghymru ar eich gwefan wedi’i ddisodli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

    www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

    I gwrdd â’r sialensiau hyn mae angen syniadau newydd, ffyrdd newydd o feddwl a ffyrdd newydd o wneud pethau. Mae hyn yn cynnwys sut yr ydym yn cynnal, gwella a defnyddio’n hadnoddau naturiol.

    Rwyf wedi treulio llawer o amser gyda’n partneriaid a’m cwsmeriaid dros y misoedd diwethaf ac mae’r gwaith rwyf wedi’i weld ar draws Cymru wedi gwneud cryn argraff arna i. Wrth dreulio amser gyda chi, rwy’n telimlo fy mod yn cael gwell ddealltwriaeth o’r heriau ac rwy’n defnyddio’r wybodaeth yma i hybu arfer da o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Rwyf eisioes yn gallu gweld budd o ddod â’r holl waith sy’n ymwneud â’r amgylchedd at ei gilydd, boed hynny’n effeithio ar yr amgylchedd neu’n elwa ohono. Ond mae gennym lot yn fwy i ddysgu ac i wneud i ddatgloi’r potensial a geir o fewn ei hadnoddau, drwy eu rheoli a’u defnyddio mewn ffordd fwy cydlynus ac integredig. Un ffordd y gallwch chi ein helpu ydy drwy ein helpu i gydlynu’r cynllun corfforaethol – gallwch ddarllen mwy am hyn ar dudalen 3.

    Rydym yn gwybod fod sawl sialens o flaen Cyfoeth Naturiol Cymru, ond rydym yn adeiladu ar seiliau cadarn. Rwy’n edrych ymlaen i gydweithio gyda chi i gwrdd y sialens.

    Dr Emyr Roberts

    Emyr Roberts

  • yn grynoFurther funding for Rhagor o arian i waith ecosystem

    Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £1.5 miliwn er mwyn helpu i ddatblygu prosiectau sy’n sicrhau bod ein hecosystemau yn fwy cryf ac amrywiol ac yn gallu darparu’r gwasanaeth hanfodol y mae’r gymdeithas yn dibynnu arno. Byddwn nawr yn gweinyddu’r Gronfa Ecosystem Hydwyth, a bydd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn asesu’r holl geisiadau am gyllid.

    Bydd yr arian hwn yn adeiladu ar lwyddiannau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ystod hynny, defnyddiwyd yr arian i adfer cynefinoedd â blaenoriaeth fel coetiroedd a glaswelltiroedd cynhenid; rheoli effaith planhigion ac anifeiliaid goresgynnol anfrodorol, yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o’r ecosystemau, y pwysau sy’n eu hwynebu a’r dulliau rheoli sydd eu hangen i’w gwneud yn fwy cryf a chadarn.

    Mae’r amgylchedd naturiol yn werth £8 biliwn i economi Cymru, a hoffem adeiladu ar hyn fel Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Er ein bod yn canolbwyntio ar gynnal y gwasanaethau pwysig mae pobl a busnesau yn dibynnu arnynt, fel ein gwasanaethau rhybuddio am lifogydd, cynnal cyflenwadau coed a gwarchod safleoedd gwerthfawr, rydym hefyd eisiau dechrau ad-drefnu’r gwaith rydym yn ei wneud gyda dull a chyfeiriad newydd – fel bod yr amgylchedd yn gwneud mwy dros bobl, economi a bywyd gwyllt ein gwlad.”

    Felly, mae’r camau cyntaf o gyfuno’r syniadau ffres hyn a’r dulliau newydd o weithio ar yr agenda wrth i ni ddatblygu ein cynllun corfforaethol cyntaf o fis Ebrill 2014 tan fis Mawrth 2017. Gwyddom nad oes gennym yr ateb i bopeth fel sefydliad, felly dyna pam rydym eisiau clywed barn amrywiol er mwyn helpu i ddatblygu’r cynllun hwn.

    Felly, dyma gyfle i chi gymryd rhan a

    chyfrannu at y gwaith. Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai yn ystod mis Gorffennaf, a bydd trafodaethau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn Sioe Fawr Llanelwedd ac Eisteddfod Genedlaethol Dinbych hefyd. Yna, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus agored ar ein cynllun corfforaethol drafft.

    Er ein bod eisiau clywed eich sylwadau, ni fyddwn yn gallu plesio pawb, ond trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill gallwn gyrraedd y nod o gyflawni dros bobl, economi ac amgylchedd Cymru.

    Cynhelir y digwyddiadau yn:2 Gorffennaf Garwnant4 Gorffennaf Tŷ Ladywell, Y

    Drenewydd9 Gorffennaf Bangor11 Gorffennaf Canolfan Halliwell,

    CaerfyrddinAm gyfle i gymryd rhan, e-bostiwch: [email protected]

    // Mae’r amgylchedd naturiol yn werth £8biliwn i economi Cymru, a hoffem adeiladu ar hyn

    Newyddion

    www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

    Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

    Dan sylw

    Cynllun Corfforaethol

    Galw ar ffermwyr i gofrestru eithriadau gwastraffMae gan ffermwyr tan ddiwedd mis Medi i gofrestru eithriadau newydd i’r modd maen nhw’n defnyddio, storio, trin a gwaredu gwastraff. Dros y ddeufis nesaf, byddwn yn anfon llythyrau â logo Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr amlen at ryw 14,000 o ffermwyr, yn eu cynghori i gofrestru ar-lein cyn gynted ag y bo modd. Os yw ffermwyr yn dymuno parhau â gweithgareddau gwastraff, mae’n bwysig eu bod naill ai’n cofrestru am eithriad newydd neu’n gwneud cais am drwydded os na allant gydymffurfio â’r eithriadau newydd.

  • yn grynoCanmol ein coetiroedd

    Cafodd y coetiroedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru sêl bendith mewn arolwg o brofiadau ymwelwyr. Cafodd ymweliadau â choetiroedd y llynedd eu sgorio naill ai’n “Dda Iawn” neu’n “Rhagorol” gan 89% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg Ansawdd Profiad blynyddol. Mae’r miloedd o gilometrau o lwybrau a ffyrdd coedwig yn un o’r atyniadau mwyaf i’r coetiroedd, a cherdded yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith 72% o’r ymwelwyr.

    Roedd yr arolwg hefyd yn pwysleisio effaith economaidd ein coetiroedd, gyda dwy ran o dair o’r ymwelwyr yn ymweld am y dydd a 28% arall yn aros dros nos mewn llety lleol neu ar wyliau. Bob blwyddyn, gwneir tua phedair miliwn o ymweliadau â choetiroedd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn cynnwys 500,000 o ymweliadau ag un o’r pum canolfan ymwelwyr.

    M ae Llwybr Arfordir Cymru yn enghraifft wych o sut y gall yr amgylchedd helpu rhannau gwahanol o gymdeithas. Mae’n helpu’r diwydiant twristiaeth, yn hybu economïau trefol a gwledig, ac yn annog pobl i fynd allan a mwynhau’n hamgylchedd yn ei holl ogoniant. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae 2.8 miliwn o bobl wedi cerdded ar hyd rhannau o’n Llwybr Arfordir cenedlaethol, ac wedi cyfrannu £16 miliwn at economi Cymru. Ar ben hynny, fe arhosodd 80,000 o’r ymwelwyr hynny dros nos yn un o’r tai llety, llefydd gwely a brecwast a gwestai niferus ar hyd y daith.

    Yn ymestyn o’r ardal ar y ffin â Lloegr yn y Gogledd i Gas-gwent yn y De, dyma’r llwybr cenedlaethol parhaus hiraf yn y byd. Mae’r tywyslyfr

    rhyngwladol Lonely Planet yn credu ei fod yn rhyfeddol, gan ddewis y llwybr fel rhanbarthau orau’r byd yn 2012, o flaen atyniadau eraill fel y Ruta Maya yng Nghanolbarth America a’r Maritime Provinces, Canada.

    Roedd y flwyddyn gyntaf yn ddechrau gwych, ond mae llawer mwy i’w wneud eto. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio’n galed i geisio denu hyd yn oed mwy o bobl – trigolion lleol a’r ymwelwyr fel ei gilydd - i fanteisio ar yr adnodd naturiol anhygoel hwn.”

    Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am gydlynu’r prosiect, ac awdurdodau lleol sy’n gwneud y gwaith ar lawr gwlad. Yn ogystal â’r cyllid o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol arfordirol, mae Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop wedi dyrannu bron i

    // Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cerddodd 2.8 miliwn o bobl ar hyd rhannau o’n Llwybr Arfordir cenedlaethol, gan gyfrannu £16 miliwn at economi Cymru

    www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

    Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

    Llwybr Arfordir Cymru yn 1 oed!

    Anrhydeddu ecolegydd morolMae Cymdeithas Ewropeaidd flaenllaw ar fioleg a chadwraeth mamaliaid môr, wedi anrhydeddu’r diweddar Dr Mandy McMath, cyn-Ecolegydd Morol Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Roedd ei hymrwymiad i famaliaid môr a’r rhai a oedd yn eu hastudio a’u gwarchod yn uchel ei barch. Bydd Gwobr Cadwraeth Mandy McMath yn cael ei gyflwyno am gyfraniad eithriadol i faes cadwraeth a/neu les mamaliaid môr, gyda phwyslais arbennig ar gyfraniadau i addysg amgylcheddol a/neu gadwraeth ar waith.

    Newyddion

  • www.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

    Rhifyn 1 // Haf 2013 Newyddion Cyfoeth Naturiol Cymru

    yn grynoLleihau traffig coed

    Bydd tipyn llai o lorïau yn teithio drwy bentrefi bach ac ar lonydd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys, diolch i gynllun cydweithio arloesol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, y tri chyngor sir dan sylw a chwmnïau UPM Tilhill ac Aitchesse Limited.

    Mae’r cyrff hyn wedi ymrwymo i ‘Gronfa Cludo Coed’ newydd a fydd yn caniatáu iddyn nhw sefydlu, rheoli a chynnal rhwydwaith o ffyrdd coedwig mewnol sy’n cael eu rhannu. Bydd y ffyrdd yn darparu gwell mynediad i’r prif ffyrdd, sy’n golygu na fydd angen i lorïau deithio ar hyd ffyrdd gwledig bach a thrwy bentrefi bach mewn rhai ardaloedd mwyach.

    Mae coedwigaeth fasnachol yn werth tua £370 miliwn i economi Cymru, gyda Choedwig Tywi yn gyfrifol am 15% o’r pren a gynhyrchir yng Nghymru bob blwyddyn. Mae’r cynllun cydweithio hwn yn newyddion gwych i fusnesau, ac yn caniatáu i gwmnïau coedwigaeth preifat gludo coed yn fwy effeithlon.

    Mae’r gwaith o wella ac adnewyddu’r seilwaith amddiffyn rhag llifogydd ac amddiffyn yr arfordir yn mynd rhagddo, diolch i fuddsoddiad ychwanegol o £2 filiwn ar gyfer prosiectau amddiffyn rhag llifogydd ledled Cymru.

    Bydd ein gwaith yn lleihau’r peryglon llifogydd i gartrefi a busnesau, ac er na allwn ni fyth ddileu peryglon llifogydd yn llwyr, bydd y buddsoddiad hwn yn lleihau’r risg i bobl ac eiddo.

    Mae’r buddsoddiad newydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau yn Llanfair Talhaearn, Pontblyddyn yn Sir y Fflint, Ystradmynach, Glanyfferi, Pen-y-bont ar Ogwr a Thalsarnau ymhlith eraill. Bydd amddiffynfeydd llifogydd ar rannau o afon Hafren, Crindai yng Nghasnewydd a’r afon Rhymni yng Nghaerdydd yn elwa hefyd.

    Ar ben hyn, rydym newydd gwblhau sawl prosiect amddiffyn rhag llifogydd ar hyd a lled y wlad – cynllun gwerth £1.6 miliwn i adeiladu amddiffynfa 90 metr o hyd ym mhentref Pwll, Llanelli, tra gwariwyd £100,000 ar brosiect adnewyddu amddiffynfa hanfodol ym Machynys, sy’n gwarchod parc siopa a thai yn ardal Trostre, Llanelli.

    Ond mae mwy i’n gwaith rheoli peryglon llifogydd na chreu amddiffynfeydd newydd yn unig; mae’n golygu gweithio gyda’r amgylchedd i ganfod atebion creadigol.

    Ym mhen ucha’ Cwm Tawe, rydym yn symud tua 500 tunnell o gerrig a graean - neu’r basle - o wely’r afon lle mae afonydd Tawe a Thwrch yn cwrdd, er mwyn galluogi’r afonydd i lifo’n rhwyddach a lleihau perygl llifogydd i 268 o dai a thri busnes gerllaw yn Ystalyfera.

    Yna, mae’r basle’n cael ei olchi er mwyn cael gwared ar y grit mân a’u graddio o ran maint er mwyn penderfynu pa mor addas ydyw fel amgylchedd delfrydol i eogiaid silio. Bydd hyd at 40 y cant o’r cerrig a gaiff eu symud o afon Tawe ac afon Twrch yn cael eu “hailgylchu” fel grawn silio mewn llefydd eraill.

    Mae’n ddull dyfeisgar dros ben. Trwy symud cerrig a all greu problemau llifogydd hunllefus i drigolion Ystalyfera, rydym hefyd yn creu man bridio delfrydol i’r eog. Dyma’r math o gynllun arloesol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i’w feithrin.

    Rheoli peryglon llifogydd

    //Mae mwy i’n gwaith rheoli peryglon llifogydd na chreu amddiffynfeydd newydd yn unig; mae’n golygu gweithio gyda’r amgylchedd i ganfod atebion creadigol.

    Cyfarfod y BwrddMae ein cyfarfodydd Bwrdd yn rai agored ac mae croeso I chi ddod yno I wrando ar y trafodaethau. Bydd agendau, papurau a chrynodebau ar gael ein gwefan. Mae ein cyfarfodydd nesaf yn:

    9 Orffennaf Wrecsam

    4 Medi Nghaerdydd.

    Newyddion