4
Tachwedd 2011 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Cyflwyniad a chyfle i ddweud eich dweud! Cynhwysiad a Chyflogaeth Ieuenctid Golwg ar sut mae Cyfleoedd Gwirioneddol wedi helpu Gerraint, Kimberley a David i gael eu cynnwys! Byw’n Annibynnol ym Mhen-y-Bont ar Ogwr Golwg ar rai o’r cyrsiau sy’n helpu pobl ifanc Pen-y-Bont ar Ogwr i ddod yn fwy annibynnol Hyfforddiant a Digwyddiadau Hyfforddiant a Digwyddiadau sydd ar y gweill! Roedd noson cynllun y powdwr gwn ar 5ed Tachwedd! Gobeithio eich bod i gyd wedi cael Noson Guto Ffowc gwych a chyffrous! Nid Tân Gwyllt yw’r unig draddodiad sy’n cael ei ddathlu diolch i Guto Ffowc. A oeddech yn gwybod ym mhob agoriad swyddogol y Senedd mae gwarchodwyr y Frenhines yn chwilio’r seleri o dan Balas San Steffan wrth olau hen lusernau cannwyll. Mae hon yn ddyletswydd sydd wedi’i chynnal bob blwyddyn ers Cynllun y Powdwr Gwn a’r ymgais i chwythu’r senedd i fyny ar ddiwrnod yr Agoriad Swyddogol yn 1605! Mae llawer wedi bod yn digwydd o fewn y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn ddiweddar, a gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen amdano yn rhifyn hwn y Cylchlythyr prosiect! Y tu allan i’r prosiect, y mis hwn yw’r cyfle olaf i bobl yng Nghymru gael lleisio’u barn am Gynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru. Maen nhw am wybod pa mor hygyrch ydynt a pha mor dda maent yn hyrwyddo cydraddoldeb ac ymgysylltiad cyhoeddus. I roi eich barn gallwch gwblhau’r holiadur yn www.cynulliadcymru.org (chwiliwch am ‘Ymgynghoriad Cynllun Cydraddoldeb Strategol’). Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn hoffi clywed eich barn am sut gallant wneud i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 weithio i Gymru. Maen nhw am gael eich syniadau am y naw prif faes a ddiogelir gan y Ddeddf Cydraddoldeb - er enghraifft, Oed, Anabledd, Rhyw ac ati i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a chyflogaeth yn deg ac yn hygyrch i chi - o deimlo’n ddiogel pan fyddwch allan i’ch cyfle i ffynnu yn yr ysgol ac yn y gwaith. I leisio’ch barn am y Ddeddf Cydraddoldeb, cwblhewch yr holiadur sydd ar gael yn www.cymru. gov.uk (chwiliwch am ‘Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru’). Mae’r holiaduron hyn ar gael tan 30ain Tachwedd ac 2il Rhagfyr yn ôl eu trefn. Mynnwch ddweud eich dweud! Laura Davies Swyddog Gwybodaeth Prosiect 1 Prosiect Trawsnewid I Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Newyddlen Tachwedd 2011

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Citation preview

Page 1: Newyddlen Tachwedd 2011

Tachwedd 2011Yn y rhifyn hwnCyflwyniadCyflwyniad a chyfle i ddweud eich dweud!

Cynhwysiad a Chyflogaeth IeuenctidGolwg ar sut mae Cyfleoedd Gwirioneddol wedi helpu Gerraint, Kimberley a David i gael eu cynnwys!

Byw’n Annibynnol ym Mhen-y-Bont ar OgwrGolwg ar rai o’r cyrsiau sy’n helpu pobl ifanc Pen-y-Bont ar Ogwr i ddod yn fwy annibynnol

Hyfforddiant a DigwyddiadauHyfforddiant a Digwyddiadau sydd ar y gweill!

Roedd noson cynllun y powdwr gwn ar 5ed Tachwedd! Gobeithio eich bod i gyd wedi cael Noson Guto Ffowc gwych a chyffrous! Nid Tân Gwyllt yw’r unig draddodiad sy’n cael ei ddathlu diolch i Guto Ffowc. A oeddech yn gwybod ym mhob agoriad swyddogol y Senedd mae gwarchodwyr y Frenhines yn chwilio’r seleri o dan Balas San Steffan wrth olau hen lusernau cannwyll. Mae hon yn ddyletswydd sydd wedi’i chynnal bob blwyddyn ers Cynllun y Powdwr Gwn a’r ymgais i chwythu’r senedd i fyny ar ddiwrnod yr Agoriad Swyddogol yn 1605! Mae llawer wedi bod yn digwydd o fewn y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn ddiweddar, a gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen amdano yn rhifyn hwn y Cylchlythyr prosiect!

Y tu allan i’r prosiect, y mis hwn yw’r cyfle olaf i bobl yng Nghymru gael lleisio’u barn am Gynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru. Maen nhw am wybod pa mor hygyrch ydynt a pha mor dda maent yn hyrwyddo cydraddoldeb ac ymgysylltiad cyhoeddus. I roi eich barn gallwch gwblhau’r holiadur yn www.cynulliadcymru.org (chwiliwch am ‘Ymgynghoriad Cynllun Cydraddoldeb Strategol’).

Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn hoffi clywed eich barn am sut gallant wneud i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 weithio i Gymru. Maen nhw am gael eich syniadau am y naw prif faes a ddiogelir gan y Ddeddf Cydraddoldeb - er enghraifft, Oed, Anabledd, Rhyw ac ati i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a chyflogaeth yn deg ac yn hygyrch i chi - o deimlo’n ddiogel pan fyddwch allan i’ch cyfle i ffynnu yn yr ysgol ac yn y gwaith. I leisio’ch barn am y Ddeddf Cydraddoldeb, cwblhewch yr holiadur sydd ar gael yn www.cymru.gov.uk (chwiliwch am ‘Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru’). Mae’r holiaduron hyn ar gael tan 30ain Tachwedd ac 2il Rhagfyr yn ôl eu trefn. Mynnwch ddweud eich dweud!

Laura DaviesSwyddog Gwybodaeth Prosiect

1

Prosiect Trawsnewid I Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Page 2: Newyddlen Tachwedd 2011

2

Cynhwysiad a Chyflogaeth IeuenctidGolwg ar sut mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan, cael eu clywed a dod o hyd i gyflogaeth!

Mae Gerraint Jones Griffiths o Gaerffili wedi bod yn sicrhau bod ei lais yn

cael ei glywed yng Nghynhadledd Fforwm Ieuenctid Caerffili.Cynhaliwyd y gynhadledd ar Hydref 19eg yng Ngwesty Maes Manor yn y Coed Duon ac roedd gan y bobl ifanc oedd yn bresennol gyfle i godi materion a nodi blaenoriaethau i’r Fforwm Ieuenctid fynd i’r afael â hwy dros y flwyddyn nesaf. Cymerodd Gerraint ran yn y gweithdai sy’n ymwneud â grwpiau thema blaenoriaeth yr awdurdod lleol: Addysg am Oes; Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles; Adfywio Cymunedol a’r Amgylchedd Byw, a rhoddodd ei farn ar y materion yr oedd yn teimlo eu bod yn bwysig i bobl ifanc.

Pan oedd yn y gynhadledd cynrychiolodd Gerraint y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn wych a chafodd gyfle i gwrdd â siarad gyda Vera Jenkins (Maer), Anthony O’Sullivan (Prif Weithredwr) a Phil Bevan (Aelod Cabinet dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Hamdden). Trafododd Gerraint ei rôl yn y Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol a’r gweithgareddau y mae wedi cymryd rhan ynddynt. Soniodd pawb oedd wedi cwrdd â Geraint pa mor drawiadol oedd ei gyfranogiad yn y digwyddiad.

Hoffai Tîm Both Caerffili ddiolch i Ysgol Gyfun Oakdale am roi caniatâd i Gerraint fynychu’r digwyddiad, a gynhaliwyd yn ystod amser ysgol. Dywedodd Mrs K Conway, Rheolwr Cynnydd, ‘Rydym yn falch iawn bod Gerraint yn cymryd rhan yn y gynhadledd fforwm ieuenctid. Da iawn ti Gerraint.’

Nododd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y gynhadledd bedwar mater allweddol i’r fforwm ieuenctid fynd i’r afael â hwy dros y flwyddyn nesaf - gwella parciau, yr angen i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau

Mae Kimberley Ireland wedi profi llwyddiant yn y pwll nofio diolch i gefnogaeth gan Kristina Burrows, Gweithiwr Cynhwysiad Ieuenctid Cyfleoedd Gwirioneddol yn Nhorfaen.Cyfeiriwyd Kimberley at Kristina i ddechrau er mwyn gwella ei datblygiad cymdeithasol drwy weithgareddau cymdeithasol a hamdden. Aeth Kristina i gwrdd â Kimberley a’i brawd a’i mam i drafod cyfleoedd ac yn ystod y cyfarfod penderfynodd Kimberley y byddai’n hoffi mynychu clwb nofio lleol. Cefnogodd Kristina hi i wneud hyn a’i chyflwyno i Ddreigiau Gwent! Ers dod yn aelod o’r clwb, mae Kimberley wedi magu hyder ac wedi datblygu perthnasoedd positif gyda’r hyfforddwyr ac aelodau eraill. Mae

a ddarparwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol, ansawdd bwyd ysgol a diffyg gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli. Dywedodd Gerraint, ‘Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr. Rwy’n edrych ymlaen at fynychu mwy o ddigwyddiadau’r fforwm ieuenctid.’

Kimberley yn derbyn ei medal aur yn y Gala Rhanbarthol

Page 3: Newyddlen Tachwedd 2011

3

Llwyddiant cyflogaeth i David Preece gyda diolch i gefnogaeth cyflogaeth ELITEMae David Preece o Rondda Cynon Taf wedi llwyddo i gael gwaith cyflogedig rheolaidd mewn caffi lleol diolch i gefnogaeth a hyfforddiant a gafodd gan ELITE a’r tîm Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae David wedi llwyddo i gael swydd ar ddydd Sadwrn yn Café Rana yn Nhonteg ar ôl ymgymryd â hyfforddiant cyflogaeth ELITE.

Dywedodd mam David, Veronica Preece, “Cysylltodd ELITE â mi i egluro’r gwasanaeth yr oeddent yn mynd i’w gynnig. Fel rhiant i blentyn gydag anabledd dysgu yn wynebu profi hwy yn mynd allan i’r byd a bod yn annibynnol, cefais fod ELITE yn cynnig sicrwydd ac yn broffesiynol iawn.” Aeth Veronica ymlaen i egluro sut mae’r cwrs gydag ELITE a’r

nofio Kimberley wedi gwella’n gyflym ac yn ystod un sesiwn hyfforddi, diolch i’w hunan-barch a’i hyder newydd roedd yn teimlo’n ddigon hyderus i ofyn i’r hyfforddwr a fyddai yn ei hamseru, ar ôl iddi weld nofwyr eraill yn cael eu hamseru a dymuno bod yn rhan o’r peth. Roedd hyfforddwr Kimberley wedi’i synnu wrth weld ei hamser a pha mor gyflym oedd hi, a gofynnodd iddi a fyddai diddordeb ganddi mewn cymryd rhan mewn cystadleuaeth. Dywedodd Kristina bod Kimberley wedi’i synnu ond yn falch iawn hefyd i dderbyn y cynnig, ac mae wedi gweld gwelliant pendant yn hunanhyder a hunan-barch Kimberley ers iddi ymuno â’r clwb.

Aeth Kimberley ymlaen i gynrychioli Dreigiau Gwent yng Ngala Nofio Ranbarthol Halliwick, gan gystadlu yn erbyn nofwyr o ar draws Cymru, ac enillodd fedal aur yn ei chystadleuaeth a dod yn bencampwr Cymru! Oherwydd hyn cafodd Kimberley le yn y tîm cenedlaethol, ac aeth ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Nofio Genedlaethol Halliwick gan gystadlu yn erbyn pobl o ar draws y DU, lle yr enillodd Aur yn ei chategori gan ddod yn Bencampwr Prydain! Da iawn Kim!

Trefnir Pencampwriaeth Nofio Halliwick gan Gymdeithas Halliwick, a ddatblygwyd o gysyniad Halliwick, sy’n fodel cynhwysfawr ar gyfer datblygu nofwyr anabl. Am fwy o wybodaeth am Halliwick ewch i www.halliwick.org.uk, ac i weld gwybodaeth am glybiau chwaraeon arbenigol yn eich ardal ewch i www.sportswales.org.uk

profiad cyfan wedi helpu hyder David i fynd i mewn i’r gweithle a chaniatáu iddo wneud gwaith cyflogedig yn seiliedig ar ei rinweddau ei hun. Dywedodd Veronica, “Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yr ydym oll wedi’i gael drwy gydol hyn ac yn gobeithio y bydd hyn yn parhau yn y dyfodol!”

Roedd David hefyd yn teimlo’n bositif iawn am ei brofiad. Dywedodd, “ Es i ar gwrs gydag ELITE i ddysgu am waith. Nawr rwy’n gweithio mewn caffi. Y tro cyntaf i mi ddod i’r caffi cefais help gan Nia, fy hyfforddwraig, a fe helpodd hi fi yn y gweithle. Pan ges i fy siec gyflog cyntaf, doeddwn i ddim yn gallu aros i’w wario ar fy ngwyliau! Hoffwn ddiolch i ELITE am roi’r cyfle i mi gael y profiad gwaith hwn ac i Rhys am fy nghyflogi!”

Diolch i’r gefnogaeth a’r hyfforddiant parhaus gan ELITE, roedd rheolwr Café Rana Rhys Thomas yn teimlo’n hyderus i gynnig lleoliad i David. Dywedodd Rhys, “Yn ystod y lleoliad roedd yn amlwg bod David wedi mwynhau’r profiad a’r heriau yn fawr. Daeth yn amlwg i ni yn gyflym y byddai David yn dod yn aelod gwerthfawr o’n tîm ac fe gynigion ni waith cyflogedig iddo. Pan gafodd David ei slip cyflog cyntaf roedd yn wên o glust i glust. Roeddem yn gwybod mai dyma fyddai’r cyntaf o sawl un!”

Mae ELITE yn gweithio gyda phobl ifanc Cyfleoedd Gwirioneddol yng Nghaerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-Bont ar Ogwr ac maent wedi dechrau’n addawol. Hyd yma mae saith deg o bobl ifanc wedi ymgymryd â chyfleoedd gydag ELITE yn amrywio o hyfforddiant achrededig, hyfforddiant teithio a lleoliadau gwaith â chymorth. Mae ELITE yn hyderus mai llwyddiant David wrth ddod o hyd i swydd yw’r cyntaf o sawl un, gyda thri chyfle arall am swyddi ar y gweill ar hyn o bryd!

David gyda’i gydweithwyr yn Cafe Rana

Page 4: Newyddlen Tachwedd 2011

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] am ffurflen archebu.

Rhwydwaith Cynllunio i’r DyfodolI: Pob both yn cynnwys contractwyrDyddiad: 2il Rhagfyr 2011Amser: 10am - 1pmLleoliad: Forge Fach CRC

Cyflwyniad i PCP (Caerfyrddin/Penfro)I: Pawb (Caerfyrddin/Penfro)Dyddiad: 12fed Rhagfyr 2011Amser: 10am - 4pmLleoliad: Llety Cynon, San Clêr

Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddI: Pob both yn cynnwys contractwyrDyddiad: 11eg Ionawr 2012Amser: 10am - 1pmLleoliad: Forge Fach CRC

4

Byw’n annibynnol ym Mhen-y-Bont ar OgwrMae Tîm Both Cyfleoedd Gwirioneddol

Pen-y-Bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio’n galed yn paratoi pobl ifanc ar gyfer byw’n annibynnol!Mae David Evans, Gweithiwr Sgiliau Byw’n annibynnol a Sarah Thomas, gweithiwr Cefnogi Seicoleg ym Mhen-y-Bont ar Ogwr wedi bod yn brysur yn cyflwyno ystod o gyrsiau i helpu pobl ifanc i ddod yn fwy annibynnol.

Mae un ar bymtheg o bobl ifanc yn Ysgol Heronsbridge wedi dechrau gweithio tuag at eu cwrs Hylendid Personol Achrededig Agored Cymru wedi’i arwain gan David. Bydd y grŵp yn dysgu am wahanol agweddau ar hylendid personol bob wythnos i’w helpu i ddeall pwysigrwydd hylendid personol yn eu bywyd bob dydd.

Yn ystod hanner tymor mis Hydref cymerodd grŵp o’r ysgol ran hefyd mewn cwrs hyder

achrededig Agored Cymru. Roedd y cwrs yn llwyddiannus iawn, gyda’r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, gemau a chwblhau taflenni gwaith. Arweiniwyd y cwrs gan Sarah, a ddywedodd, “fe wnaeth yr holl bobl yn dda iawn. Meddylion nhw’n ddwys am y cyfnodau pan maent yn fwyaf ac yn lleiaf hyderus a’r hyn yr hoffent ei gyflawni, gan osod nodau iddyn nhw’u hunain er mwyn cynyddu eu hyder. Cawson nhw lawer o hwyl a gweithio’n galed iawn.” Adeiladodd y grŵp wal ganmol ar ddiwedd y cwrs, gyda phob person ifanc yn ysgrifennu canmoliaeth am y lleill yn y grŵp arni. Roedd y gweithgaredd hwn yn llwyddiannus iawn; aeth pob person ifanc â’u canmoliaethau adref ar ddiwedd y dydd a gadael yn teimlo’n bositif iawn!

Dau berson ifanc sy’n elwa ar y math hwn o hyfforddiant yw Hayley Sharp a Sinead Bourke, dwy gyn ddisgybl Heronsbridge a ymgymerodd â hyfforddiant teithio gyda David. Roedd y ddwy ferch am deithio’n annibynnol ar y bws i’r coleg lle maent yn cwblhau cwrs paratoi ar gyfer cyflogaeth. Dywedodd David fod eu hyder yn cynyddu bob wythnos ac roedd yn falch gallu lleihau ei gefnogaeth yn raddol er mwyn iddynt gyflawni eu nodau o deithio i’r coleg ar eu pennau’n hunain! Da iawn i’r ddwy ohonynt!

Hyfforddiant a DigwyddiadauPCP Diwrnodau 3 a 4 o 5 I: Cynadleddwyr sydd wedi cwblhau Diwrnodau 1 a 2Dyddiad: 18fed a 19eg Ionawr 2012Amser: 10am - 4pmLleoliad: Manor Park, Clydach

Cyflwyniad i’r ProsiectI: Pawb!Dyddiad: 16eg Ionawr 2012Amser: 9.30am – 12.00pmLleoliad: Pontypridd YMCA

Cyflwyniad i PCPI: Pawb o fewn Caerffili, Torfaen a RhCTDyddiad: 23ain Ionawr 2012Amser: 10am - 4pmLleoliad: Pontypridd, YMCA

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura ar 01792 817224 neu yn [email protected]