8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 42 Hydref 15, 2020 50c. EGLWYS ANNIBYNNOL TOWYN, CEINEWYDD Cynhaliwyd oedfa ddatgorffori eglwys Annibynnol Towyn, Ceinewydd, ddydd Gwener, 25 Medi 2020, a hynny dan amgylchiadau llym canllawiau Covid-19. Roedd yr oedfa, yng ngofal Gareth Ioan, yn emosiynol ac urddasol, ac yr oedd hynnny yn gweddu’n arbennig i’r achlysur. Cymerwyd rhan gan John C. Price, ar ran eglwys y Towyn, Gwendoline Evans, ar ran eglwysi’r ofalaeth, a Karine Davies, cadeirydd Cyfundeb Ceredigion. Cyflwynwyd hanes yr achos gan Neville Evans, ar ran eglwys y Towyn, a gwelir rhan o’r anerchiad isod. Hanes yr achos Os byddai eglwys wedi tyfu i fod yn fwy na phum cant o aelodau, ac fel nad oedd yr eglwys yn gymwys i’w cynnwys hwy a’r gwrandawyr – yn hytrach na helaethu’r hen eglwys, y syniad gorau fyddai adeiladu capel newydd. Dyna ddigwyddodd yng nghapel Maenygroes i alluogi adeiladu capel newydd yng Ngheinewydd, rhyw filltir o Faenygroes. Gwnaed hyn yn heddychol drwy gydsyniad y gweinidog a’r eglwys. Buont ddigon ffodus i gael darn o dir ar les o fil namyn un o flynyddoedd am yr ardreth o ddwy bunt y flwyddyn. Dyddiad y weithred oedd 29 Medi 1858. Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn brydlon, ac am 2 o’r gloch pnawn Sul, 28 Gorffennaf 1861, pregethwyd am y tro cyntaf gan y Parchedig Thomas Rees, gweinidog Maenygroes yn y deml newydd. Corffori Daeth 291 o aelodau Maenygroes i lawr gyda’i gilydd i ffurfio eglwys ‘Y Towyn’, a chydweithredodd y fam a’r ferch yn galonnog iawn i symud y ddyled – Y gost o adeiladu oedd £1,398 15s 2g. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriad swyddogol y capel ar 14–15 Awst 1861. Y Saboth canlynol, corfforwyd yr eglwys (hynny yw dod yn rhan o Undeb yr Annibynwyr) ar 18–19 Awst 1861 gyda’r Parchedig Thomas Rees yn gwasanaethu ac yn cael ei gynorthwyo gan y Parchedig H. Jones, Caerfyrddin. Ynghlwm wrth adeiladau’r capel mae yna festri fach, a chynhaliwyd ysgol ynddi am ryw 20 mlynedd neu fwy, gyda Mr Charles J. Hughes yn brifathro. Roedd yn cael ei hadnabod fel ysgol ramadeg. Mans a festri Yn ystod gweinidogaeth y Parchedig O. R. Owen, 1895–99, roedd cael tŷ cyfleus ar gyfer y gweinidog yn anhawster. Canfuwyd darn o dir ar gornel cyfleus, ac aed ati i brynu’r tir 500 llath sgwâr, ac adeiladu tŷ braf fel cartref i’r gweinidog. Adnebid y mans fel un o’r goreuon trwy Gymru ar safle a edrychai allan dros y môr. Yn addas iawn enwyd y mans yn ‘Towynfa’. Cynyddodd y gynulleidfa, a phrin iawn oedd y lle i gynnal y gwahanol oedfaon. Erbyn hyn, roedd yn agos i 400 o aelodau. Yn fuan wedi adeiladu ‘Towynfa’, gwelodd y Parchedig O. R. Owen ei gyfle i ddweud wrth yr aelodau yn gynnil iawn fod angen dechrau meddwl am adeiladu ysgoldy mwy o faint. Ymhen ychydig fisoedd gwelwyd adeiladu ysgoldy eang a adnabyddir bellach fel y festri. Roedd y festri yn llawn ysgolheigion y Gair bob prynhawn Sul, gwelwyd yr adeilad yn gyfforddus lawn ddegau o weithiau yn ystod yr oedfaon wythnosol. Amrywiol oedfaon Cynhaliwyd cyrddau’r tair sir yn Nhowyn ym Mae mis Hydref wedi ei ddynodi yn Fis Hanes Pobol Dduon yng ngwledydd Prydain. Mae gwreiddiau’r mis arbennig hwn yn yr Unol Daleithiau, pan gychwynnodd yr hanesydd Carter G. Woodson ym 1926 Wythnos Hanes y Negroaid. Mabwysiadwyd y mis yn swyddogol gan yr Unol Daleithiau yn 1970. Erbyn hyn y mae’n cael ei gydnabod yng Nghanada, Iwerddon, Yr Iseldiroedd a’r Deyrnas Gyfunol ac ymhellach na hynny. Dathlwyd y mis am y tro cyntaf yng ngwledydd Prydain ym mis Hydref 1987. Yn wreiddiol, ei fwriad oedd cofio am ddigwyddiadau a phobl bwysig yn hanes y diaspora Affricanaidd. Y mae hynny yn parhau, ond mae’r mis erbyn hyn hefyd yn codi ymwybyddiaeth am hiliaeth yn fyd- eang ac o’r angen i fynd i’r afael ag ef. Gellir cael llawer mwy o wybodaeth a manylion ar y wefan hon www.blackhistorymonth.org.uk Fel Cristnogion a Chymry y mae angen inni sylweddoli ein cyfrifoldeb yn hyn o beth. Gallwn ninnau fod yn hiliol ac y mae’r mis hwn yn gyfle i addysgu ein hunain ynglŷn â beth yw hiliaeth, sut y mae’n amlygu ei hun, a sut y gallwn ymgyrchu yn ei erbyn? Mae yna hanes hir o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac y mae hyn yn rhan o’n treftadaeth fel cenedl. Mae’n rhywbeth y dylem ei ddathlu a’i drysori ac nid ei weld fel unrhyw fath o fygythiad. Mae yna hefyd yn ein gorffennol straeon am Gymry yn cefnogi hiliaeth trwy gaethwasiaeth ac yn gwneud elw mawr trwy anghyfiawnderau erchyll. Sut mae delio gyda hynny heddiw? Rhaid inni hefyd fel eglwysi weithio yn ddygn yn erbyn unrhyw hiliaeth a welwn yn ein cymunedau. Mae casineb tuag at bobl o dras wahanol yn agos i’r wyneb yn ein plith wrth ymwneud â chenhedloedd gwahanol a daw hyn i’r amlwg gydag agweddau at ymgeiswyr lloches. MIS HANES POBOL DDUON 2020 Carter G. Woodson parhad ar dudalen 2

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 42 Hydref 15, 2020 50c ... · Ngheinewydd, rhyw filltir o Faenygroes. Gwnaed hyn yn heddychol drwy gydsyniad y gweinidog a’r eglwys. Buont ddigon

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 42 Hydref 15, 2020 50c.

    EGLWYS ANNIBYNNOL TOWYN, CEINEWYDDCynhaliwyd oedfa ddatgorffori eglwys Annibynnol Towyn, Ceinewydd, ddydd Gwener, 25 Medi 2020, a hynny dan amgylchiadau llym canllawiau Covid-19. Roedd yr oedfa, yng ngofal Gareth Ioan, yn emosiynol ac urddasol, ac yr oedd hynnny yn gweddu’n arbennig i’r achlysur.

    Cymerwyd rhan gan John C. Price, ar ran eglwys y Towyn, Gwendoline Evans, ar ran eglwysi’r ofalaeth, a Karine Davies, cadeirydd Cyfundeb Ceredigion. Cyflwynwyd hanes yr achos gan Neville Evans, ar ran eglwys y Towyn, a gwelir rhan o’r anerchiad isod.

    Hanes yr achos Os byddai eglwys wedi tyfu i fod yn fwy na phum cant o aelodau, ac fel nad oedd yr eglwys yn gymwys i’w cynnwys hwy a’r gwrandawyr – yn hytrach na helaethu’r hen eglwys, y syniad gorau fyddai adeiladu capel newydd. Dyna ddigwyddodd yng nghapel Maenygroes i alluogi adeiladu capel newydd yng Ngheinewydd, rhyw filltir o Faenygroes. Gwnaed hyn yn heddychol drwy gydsyniad y gweinidog a’r eglwys. Buont ddigon ffodus i gael darn o dir ar les o fil namyn un o flynyddoedd am yr ardreth o ddwy bunt y flwyddyn. Dyddiad y weithred oedd 29 Medi 1858. Cwblhawyd y gwaith adeiladu yn brydlon, ac am 2 o’r gloch pnawn Sul, 28 Gorffennaf 1861, pregethwyd am y tro cyntaf gan y Parchedig Thomas Rees, gweinidog Maenygroes yn y deml newydd.

    Corffori Daeth 291 o aelodau Maenygroes i lawr gyda’i gilydd i ffurfio eglwys ‘Y Towyn’, a chydweithredodd y fam a’r ferch yn galonnog iawn i symud y ddyled – Y gost o adeiladu oedd £1,398 15s 2g. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriad swyddogol y capel ar 14–15 Awst 1861. Y Saboth canlynol, corfforwyd yr eglwys (hynny yw dod yn rhan o Undeb yr Annibynwyr) ar 18–19 Awst 1861 gyda’r Parchedig Thomas Rees yn gwasanaethu ac yn cael ei gynorthwyo gan y Parchedig H. Jones, Caerfyrddin. Ynghlwm wrth adeiladau’r capel mae yna festri fach, a chynhaliwyd ysgol ynddi am ryw 20 mlynedd neu fwy, gyda Mr Charles J. Hughes yn brifathro. Roedd yn cael ei hadnabod fel ysgol ramadeg.

    Mans a festri Yn ystod gweinidogaeth y Parchedig O. R. Owen, 1895–99, roedd cael tŷ cyfleus ar gyfer y gweinidog yn anhawster. Canfuwyd darn o dir ar gornel cyfleus, ac aed ati i brynu’r tir 500 llath sgwâr, ac adeiladu tŷ braf fel cartref i’r gweinidog. Adnebid y mans fel un o’r goreuon trwy Gymru ar safle a edrychai allan dros y môr. Yn addas iawn enwyd y mans yn ‘Towynfa’. Cynyddodd y gynulleidfa, a phrin iawn oedd y lle i gynnal y gwahanol oedfaon. Erbyn hyn, roedd yn agos i 400 o aelodau. Yn fuan wedi adeiladu ‘Towynfa’, gwelodd y Parchedig O. R. Owen ei gyfle i ddweud wrth yr aelodau yn gynnil iawn fod angen dechrau meddwl am adeiladu ysgoldy mwy o faint. Ymhen ychydig fisoedd gwelwyd adeiladu ysgoldy eang a adnabyddir bellach fel y festri. Roedd

    y festri yn llawn ysgolheigion y Gair bob prynhawn Sul, gwelwyd

    yr adeilad yn gyfforddus lawn ddegau o weithiau yn ystod yr oedfaon wythnosol.

    Amrywiol oedfaon Cynhaliwyd cyrddau’r tair sir yn Nhowyn ym

    Mae mis Hydref wedi ei ddynodi yn Fis Hanes Pobol Dduon yng ngwledydd Prydain. Mae gwreiddiau’r mis arbennig hwn yn yr Unol Daleithiau, pan gychwynnodd yr hanesydd Carter G. Woodson ym 1926 Wythnos Hanes y Negroaid. Mabwysiadwyd y mis yn swyddogol gan yr Unol Daleithiau yn 1970. Erbyn hyn y mae’n cael ei gydnabod yng Nghanada, Iwerddon, Yr Iseldiroedd a’r Deyrnas Gyfunol ac ymhellach na hynny. Dathlwyd y mis am y tro cyntaf yng ngwledydd Prydain ym mis Hydref 1987. Yn wreiddiol, ei fwriad oedd cofio am ddigwyddiadau a phobl bwysig yn hanes y diaspora Affricanaidd. Y mae hynny yn parhau, ond mae’r mis erbyn hyn hefyd yn codi ymwybyddiaeth am hiliaeth yn fyd-eang ac o’r angen i fynd i’r afael ag ef. Gellir cael llawer mwy o wybodaeth a manylion ar y wefan hon www.blackhistorymonth.org.uk

    Fel Cristnogion a Chymry y mae angen inni sylweddoli ein cyfrifoldeb yn hyn o beth. Gallwn ninnau fod yn hiliol ac y mae’r mis hwn yn gyfle i addysgu ein hunain ynglŷn â beth yw hiliaeth, sut y mae’n amlygu ei hun, a sut y gallwn ymgyrchu yn ei erbyn? Mae yna hanes hir o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac y mae hyn yn rhan o’n treftadaeth fel cenedl. Mae’n rhywbeth y dylem ei ddathlu a’i drysori ac nid ei weld fel unrhyw fath o fygythiad. Mae yna hefyd yn ein gorffennol straeon am Gymry yn cefnogi hiliaeth trwy gaethwasiaeth ac yn gwneud elw mawr trwy anghyfiawnderau erchyll. Sut mae delio gyda hynny heddiw? Rhaid inni hefyd fel eglwysi weithio yn ddygn yn erbyn unrhyw hiliaeth a welwn yn ein cymunedau. Mae casineb tuag at bobl o dras wahanol yn agos i’r wyneb yn ein plith wrth ymwneud â chenhedloedd gwahanol a daw hyn i’r amlwg gydag agweddau at ymgeiswyr lloches.

    MIS HANES POBOL

    DDUON 2020

    Carter G. Woodson

    parhad ar dudalen 2

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 15, 2020Y TYST

    EGLWYS ANNIBYNNOL TOWYN, CEINEWYDD – parhad

    1912. Roedd yno gymaint o gynulleidfa fel bu rhaid i dyrfa enfawr arall eistedd ar y cae tu cefn i’r capel gyda ffenestri’r capel yn llawn agored fel bod pawb yn medru clywed y canu, y neges a threfn yr oedfa. Bu cymanfaoedd canu Annibynwyr Cylch Ceinewydd a gynhaliwyd yn y Towyn yn rhai llwyddiannus iawn. Buont yn ddigon ffodus i gael gwasanaeth hufen y genedl i arwain y cymanfaoedd. Denwyd cantorion a gwrandawyr o bell ac agos i chwyddo’r gynulleidfa, felly roedd yr oedfaon yn llawn. I fynychu ac eistedd ar y galeri yn ystod oedfaon y prynhawn a’r hwyr roedd angen cael tocyn galeri ar y cantorion. Rhannwyd y tocynnau i’r rhai oedd wedi bod yn ffyddlon i’r ysgol gân, a’r ymarferion. Bu’r ysgol Sul yn

    llewyrchus iawn hyd at y saithdegau cynnar, gyda chynulleidfaoedd da o blant ac oedolion. Bu cenhadon y traeth yn rhan bwysig o weithgarwch y Cei yn ystod yr haf, a braf oedd cael bod yn gartref i’r cenhadon yma am 50 mlynedd.

    Gweithwyr

    Bu 11 gweinidog, 2 weinidog dan hyfforddiant ac 1 gweinidog ar leoliad yn gwasanaethu yma, a braf iawn yw cael y gweinidog ar leoliad hwnnw yma yn ein harwain y bore ma. Cafwyd 20 organydd, 13 ysgrifennydd a 15 trysorydd. Yn ystod y saithdegau, bu bron rhaid i’r capel gau, gan nad oedd ceiniog ar ôl yn y coffrau. Cynhaliwyd noson offrwm lwyddiannus, a dechreuwyd ailadeiladu’r coffrau.

    Gwerthwyd y mans yn ystod y cyfnod hwn hefyd am £15,000, a thrwy fuddsoddi doeth iawn, sicrhawyd gwaddol ariannol sy’n parhau tan heddiw.

    Penderfyniad anodd Ond, wrth gwrs, nid yw’r arian o unrhyw werth os nad oes yna weithwyr yn y winllan. Erbyn hyn, lleihaodd yr aelodaeth i 12, gydag ond 4 yn fynychwyr cyson i’r oedfaon. Mewn cwrdd gglwys a gynhaliwyd ar 3 Medi eleni, penderfynwyd dwyn yr achos yma yn y Towyn i ben – a dyna paham yr ydym yma heddiw. Penderfyniad trist, ond anorfod. Rhaid cydnabod cyfraniad eglwysi eraill yr ofalaeth, oni bai am eu cefnogaeth hwy mewn oedfaon a digwyddiadau, byddai’r penderfyniad hwn wedi digwydd llawer ynghynt. Fe wnes sôn yn ystod yr anerchiad hwn i’r capel gael darn o dir ar les o fil namyn un o flynyddoedd am yr ardreth o ddwy bunt y flwyddyn. Mi fydd y tir a’r adeiladau, yn unol â’r cytundeb a luniwyd dros 160 o flynyddoedd yn ôl, yn cael eu dychwelyd i ddisgynydd y weithred wreiddiol.

    Cyflwynwyd cyfarchion ar ran y rhai oedd yn methu bod yn bresennol, ynghyd â chyfarchion o lawr y capel. Wedi’r datgorffori, cludwyd Beibl y capel allan o’r adeilad gan Neville Evans, a chaewyd y drws, am y tro olaf, gan Gareth Ioan, cyn cyflwyno’r Fendith. Hoffwn orffen, trwy ddiolch am y fraint o gael addoli yn y man cysegredig hwn a diolch i Dduw am dystiolaeth eglwys Towyn ar hyd y blynyddoedd.

    Neville Evans

    Concyrs Ni allaf gerdded heibio i goeden Castenwydden yr adeg hon o’r flwyddyn heb godi un o’r concyrs a’i rhoi yn fy mhoced. Mae gen i goncyrs mewn ambell i ddror yn y tŷ ers blynyddoedd, bellach maent yn galed fel haearn Sbaen. Gwendid rhyfedd meddach chi! O bosib, ond credaf fod yr arfer yn deillio o’m plentyndod. Fel y gŵyr rhai ohonoch cefais fy magu yng Ngholeg Bala Bangor ym Mangor Uchaf. Coleg Annibynnol i hyfforddi pobl i’r weinidogaeth Gristnogol ydoedd ac yno yr oedd fy nhad yn brifathro. Ar dir Bala-Bangor roedd saith coeden gastenwydden. Pob hydref deuai cnwd eithriadol o goncyrs ac yn eu sgil giweidiau o fechgyn i ladrata.

    Un o’m cas bethau oedd gweld hogiau Bangor yn lluchio brigau at y coed er mwyn cael concyrs a ‘dwyn’ yr hyn a dybiwn i oedd yn eiddo personol i mi. Credwn, am ryw reswm, fod concyrs i ddisgyn yn naturiol, ohonynt eu hunain. Wrth dyfu yn hŷn ac yn llawer mwy o ran corffolaeth, deuthum, trwy hunanbenodiad, yn warchodwr concyrs Bala Bang. Erbyn yr oeddwn oddeutu 15 oed, gallwn beri i’r giwed o laslanciau swnllyd a hunanhyderus sgrialu i bob cyfeiriad gydag un floedd annaearol ac un bygythiad. (Mae hyn yn fy atgoffa ychydig o’r nofel Lord of the Flies.) Canlyniad hyn oedd bod gennyf

    fwy na digon o goncyrs i fod yn bencampwr ymladdfeydd concyrs Gwynedd a thu hwnt a’u gwerthu er elw i bawb yng Nghymru a chwenychai goncyrs.

    Wrth feddwl yn ôl fel hyn daw 3 gwers i’m meddwl,

    Digonedd Mae mwy na digon o adnoddau yn y byd hwn ar gyfer pawb. Ein camgymeriad fel dynoliaeth yw casglu celc er budd i ni ein hunain er mwyn ymgyfoethogi ac elwa ar draul eraill. Cymharwn ein cyfoeth bob amser gyda’r rhai sy’n gyfoethocach na ni ein hunain ac nid y rhai sy’n

    dlotach. Y gwir yw fod gan y rhan fwyaf ohonom fwy nag yr ydym ei angen. Y wers amlwg yw fod angen byw ar yr hyn rydym ei angen ac nid ar yr hyn rydym yn ei chwennychu gan fod yn barod i rannu yn hael o’r gormod sydd gennym gyda’r anghenus. Fel hyn y dywedir yn Lefiticus 23: 22; ‘Pan fyddi’n casglu’r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu’r cwbl o bob cornel o’r cae. A phaid mynd drwy’r cae yn casglu popeth sydd wedi’i adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a’r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.’

    Cario beichiau Wrth fyw ein bywydau fel Cristnogion rydym yn gallu codi pethau negyddol a gwael ar ein taith gan ddal gafael ynddynt. Rhoddwn hwy yn nroriau ein calon yn hytrach na delio gyda hwy. Golyga hyn bethau fel arferion drwg, casineb tuag at bobl, diffyg maddeuant, hen friwiau perthynas a fu, camgymeriadau a methiannau yn y gorffennol. Pethau fu, sydd nawr yn effeithio’r pethau sydd. Ewch i’r afael â hwy nawr. Dywed Salm

    55: 22: ‘Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di. Wnaiff e ddim gadael i’r cyfiawn syrthio.’ Ac wedi eu cyflwyno i’r Arglwydd bydd Ef yn rhoi nerth i chi eu gwaredu, a symud ymlaen. Diolch fod maddeuant i’w gael o bob drwg a gyflawnwyd gennym yn ein gorffennol trwy aberth Iesu trosom ar y Groes. ‘Cawson ni’n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib.’ Effesiaid 1: 7

    Hunanbenodi Peth peryg mewn eglwys yw fod unrhyw un yn penodi ei hun i swydd o awdurdod. Cyfrifoldeb yr eglwys, y gynulleidfa yw gwneud hynny nid unrhyw unigolyn. Dywedir yn llyfr y Diarhebion, ‘Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun, ond y mae’r ARGLWYDD yn pwyso’r cymhellion.’ Diarhebion 16:2

    Rhyfedd beth allwn ei ddysgu o godi concyrs. Mae’n boncyrs!

  • Gwers 15

    Pedr

    Gweddi Arglwydd Iesu, deuwn o’th flaen yngofyn am dy fendith wrth baratoi einhunain i fyfyrio ar dy air. Helpa ni o’rnewydd i sylweddoli dy fod yn galwpobl i weithio yn dy winllan, ac i dystioi’th berson a’th bwrpas di. Wrth innifeddwl am Seimon Pedr heddiw,diolchwn am y fraint o fod wedi clyweddy lais a derbyn dy wahoddiad i’thwasanaethu. Amen.

    Darllen Luc 9:28–36

    CyflwyniadBu Seimon Pedr yn un o brifgymeriadau’r Eglwys Fore ers ydechrau. Roedd yn gymeriad cryf, acyn arweinydd wrth reddf. Andreas, eifrawd, dywysodd Pedr at Iesu’nwreiddiol, ac roedd y ddau ohonynt ynaelodau o’r cylch agosaf at Iesu. Yn yradroddiad am brofiad Mynydd yGweddnewidiad, yng NghesareaPhilipi, dim ond Ioan, Iago a SeimonPedr aeth i’r oedfa anhygoel ar lethrau’rmynydd. Yn ddiddorol, nid yw Ioan

    wedi cynnwys yr hanes yn ei Efengylyntau. Efallai fod hynny ohewydd eifod wedi darllen tystiolaeth y tairEfengyl gyntaf, ond nid oes sicrwydd ohynny chwaith.

    Mae hanes y Gweddnewidiad ynarbennig, ac yn sail i’r ffaith fod Pedrwedi cael ei ystyried yn arweinydd i’reglwys yn Rhufain, a’i alw’n ‘esgob’.Cyfieithodd yr Eglwys Gatholig hynnyi olygu mai Pedr oedd y Pab cyntaf, asylweddolwn fod y cyn-bysgotwr ar fôrGalilea wedi newid mwy na’i enw arlethrau’r mynydd. Cofiwn mai ef oeddy siaradwr byrbwyll, a ymddangosai’nhyderus ac eofn. Sut bynnag oedd ypysgotwr yn ei gwch mewn storm,roedd Pedr, fel gweddill y criw yn ycwch adeg y storm ar fôr Tiberias (Luc8), yn llawn ofn ac yn ofni ei fod arfarw. Ef hefyd, ar noswyl y croeshoelio,a wadodd Iesu ar gyhuddiad merchifanc ei fod yn un o gwmni’r Iesu.

    MyfyrdodSut bobl fydd Iesu yn eu galw i arwainyn yr eglwys? Ai’r sawl sydd yn gryf acyn eofn, y sawl a gafodd hyfforddiantarbenigol, neu’r sawl sydd yn agored iwneud camgymeriadau, yr amherffaitha’r annisgwyl?* Pwy feddyliai ybyddai’r Cristnogion yn Rhufain wediderbyn cyn-bysgotwr o wlad dlawd arymyl ddwyreiniol yr YmerodraethRufeinig fel eu harweinydd? Efallainad cymeriad a phersonoliaeth Pedroedd yr hyn a achosodd i Iesu ddweudwrtho ar lethrau’r mynydd ei fod yn eiberson yn graig, ond bod y ffydd asylweddolai fod gfir y gweddnewidiadyn Fab Duw yn sail ac yn graig i’rgymuned y daeth hanes i’w chydnabodfel Eglwys Dduw.

    Pwy ohonom all feddwl am boblwantan fel ni yn greigiau cadarn mewnunrhyw gymuned? Byddwn ynrhyfeddu at amrywiaeth yr eglwys, ynlleol ac yn genedlaethol, a diolch fodrhan i ni wrth estyn terfynau’r deyrnas.Er ein beiau, cawn gyfle i wneud eincyfraniad a thystio i ryfeddod Iesu acehangder cariad Duw. Wrth feddwl amamrywiaeth yr eglwys yn y gorffennol,ni allwn ond ymddiried bod gan Gristgynlluniau tu hwnt i’n dychymyg argyfer yr eglwys i’r dyfodol. Efallai fod

    y sawl y byddwn ni’n ei dywys at ymylIesu, fel y gwnaeth Andreas gynt, ynrhan o weithlu’r eglwys i’r dyfodol, pawedd bynnag fydd arni yn yr yfory addaw.

    GweddiDiolchwn, Iesu, am bawb rwyt wedi eugalw i dystio i ti, ac am dystiolaeth pobun ar draws y canrifoedd a ledled y byd.Galw pobl o’r newydd yng Nghymruwrth i ni synhwyro’r newid sydd yndigwydd nawr, a boed i’r rhai rwyt ynamlygu dy hun iddynt wybod dy fod yncynnal dy bobl, ac yn wir arweinydd ibob diadell. Amen.

    Trafod ac ymateb

    • Trafodwch y cwestiynau sy’n arwainat * yn y myfyrdod.

    • Pam, dybiwch chi, i Iesu roi cyfenwnewydd – y Graig (Petra) – i SeimonPedr (Mathew 17:16)?

    • Pwy rydych chi’n meddwl amdanyntfel rhai cadarn yn eich cymuned neueich eglwys? Fyddai yna le i un moranwadal a byrbwyll â Pedr?

    • A gawsoch chi’r fraint, fel Andreas,o gyfeirio rhywun at Iesu a gweld yrArglwydd yn eu codi i’w wasanaethuyn y man? Diolchwch i’r Arglwyddam eich defnyddio neu gofynnwchiddo eich helpu i gyfeirio rhai ato.

    Hydref 15, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

    LlythyrAnnwyl ddarllenwyr neu ddarparddarllenwyr Gair y Dydd,

    Rhag creu drwgdeimlad rhwngPenderyn a Chaerdydd, fe hoffem,gyda ymddiheuriad am ycamgymeriad, gywiro’r wybodaethyn y rhifyn cyfredol o Gair y Dydd.Nid yw Gwynfryn/Gwyn Morganyn ddinesydd yn y brifddinas ondyn hytrach yn fir sy’n weithgar acyn falch o’i fro ym Mhenderyn.Mae’n ddiacon yn Eglwys yBedyddwyr, Siloam, Penderyn, ynathro cyn ei ymddeoliad ac ynbregethwr cynorthwyol.

    Pryderi Llwyd Jones(Ysg. Gair y Dydd)

    Sul, 18 Hydref

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Yr athrawes a’r gyfansoddwraig MeinirRichards sydd yn rhannu ei phrofiad oalaru gyda Nia, a sut mae cerddoriaetha’r piano wedi bod yn ddihangfa iddi arhyd y blynyddoedd. Meinir hefyd fyddyn arwain y canu mawl o Eglwys SantPedr, Caerfyrddin, a chawn berfformiadgan Rhian Mair Roberts o gân fuddugolCân i Gymru a gyfansoddwyd ganMeinir a Tudur Dylan yn 2004,‘Y Dagrau Tawel’.

    –––––––––––––––––––––––––––––

    Oedfa Radio Cymru18 Hydref am 12:00yp

    yng ngofal Delyth Morgans-Phillips(Oedfa Ddiolchgarwch), Bwlch-llan

  • Malagasi ydw i, yn byw yng Nghymruers bron i ddegawd bellach, a gallafddweud fy mod i’n teimlo’n gartrefolyma. Mae Cymru’n gweddu’n naturiol ify ngwraig, Rebecca, a minnau fel ein tircyffredin oherwydd ein gwreiddiaugwahanol: Mizoram a Madagascar. Maeein dwy ferch, Hannah a Seren, yn fwy o“Gymry” na’r ddau ohonom ni. Fesymudon ni yma pan oedd Hannah ynddwyflwydd oed ac mae hi bellach yn12 oed, a ganwyd Seren yn YsbytyBrenhinol Morgannwg. I’r merched, hebos, Cymru yw eu cartref ac mae unrhywle arall yn fan gwyliau.

    Er y dylwn fod wedi arfer erbyn hyn,mae’r tywydd oer a gwlyb yn dal i fod ynher i mi. Ac mae nifer y cwpaneidiau o dey mae pobl yn eu hyfed bob dydd yn fysynnu o hyd!

    Rwy’n aml yn cymharu bywyd ymayng Nghymru â’r bywyd ym Madagascar.Gan roi’r tywydd digymar o’r neilltu,rwy’n aml yn cael fy nharo gan ygwahaniaethau hyd yn oed yn y pethaubychain fel pris tomatos tun. YmMadagascar, mae tomatos tun ynfoethusrwydd ac yn ddrud, a chefais siocpan gyrhaeddais Gymru gyntaf a chaelbod tomatos tun yn rhatach na thomatosffres. Ym Madagascar, gallwch gaelbasged yn llawn o domatos ffres am brisun tun o domatos.

    Cymhariaeth arall a wnaf yn aml ywrhwng cynulleidfaoedd eglwysig ymayn y Deyrnas Unedig a’r rhai ymMadagascar. Rwyf wedi arfer gweldeglwysi yn llawn dop ym Madagascargyda phobl fel sardîns ynddynt. Y trocyntaf imi fynd i wasanaeth yngNghymru, roeddwn yn meddwl tybedpam bod pobl yn hwyr yn dod i’r capel,ond pan ddechreuodd y gwasanaeth,sylweddolais mai ychydig o bobl sy’nmynd i’r eglwys yma. Rwy’n sifir ybyddai gan y cenhadon dewr o Gymru aaeth i Fadagascar a Mizoram yn y 19egganrif deimladau cymysg am hyn.

    Mae cymharu’r Deyrnas Unedig aMadagascar yn swnio’n wirion am fodcymaint o bethau’n wahanol, ond dyna’rfrwydr o gael dau gartref, neu hyd yn oeddri os ydw i’n cynnwys Mizoram. Mae’rgyntaf ymhlith y deg gwlad gyfoethocafyn y byd ac mae’r ail ymhlith y deggwlad dlotaf yn y byd. Mae Cymru aMadagascar yn llefydd prydferth, ondmae’r gwahaniaethau rhyngddynt ynsyfrdanol mewn sawl ffordd.

    Mae pandemig y Coronafeirws wedi

    tynnu sylw hyd yn oed yn fwy at ygwahaniaethau rhwng y ddwy wlad.

    Rhyfeddais at yr ymateb y maellywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i roiar waith i helpu pobl yn ystod y cyfnodclo, gan gynnwys talu cyflogau drosfiliwn o bobl, y cynllun bwyta allan ihelpu busnesau, a llawer mwy. Anogirpobl i weithio gartref a defnyddiotechnoleg fel Zoom i gwrdd ac igyfathrebu. Pan gaewyd ysgolion,anfonodd yr ysgol waith gartref gyda’rplant fel nad oeddent yn colli cael eudysgu. Y peth mwyaf calonogol oeddgweld yr ymdrechion anhygoel a wnaedgan staff y GIG, meddygon a nyrsys wrthymladd y feirws. Ac mae niferanghredadwy o welyau ysbyty wedi caeleu rhoi ar waith mewn cyfnod byr i geisioosgoi llethu’r gwasanaeth yn y pen drawgan nifer yr achosion heintiedig.

    Er gwaethaf y pandemig, yma yn yDerynas Unedig, mae digonedd o fwyd ohyd; nid amherir ar ddfir a thrydan; maeoffer ar gael yn yr ysbyty; gall poblgyfathrebu o hyd trwy gyfrwng technolega llawer mwy. Mae’n galonogol gweldpawb yn ceisio gofalu am ei gilydd yn eucymuned. I Malagasi sy’n byw yma yngNghymru, mae’r help a’r gefnogaeth ymae pobl yn parhau i’w derbyn yn ystody pandemig hwn yn anghredadwy. Mae’rbobl yn y wlad hon wedi eu bendithiocymaint, ac ni allwn ond gobeithio’u bodyn gwerthfawrogi hynny.

    Yn ôl adref ym Madagascar, mae’nstori wahanol neu, a ddyliwn i ddweud,mae’n drasiedi wahanol. Mae pandemigy coronafeirws wedi effeithio’n ddwfn ary Malagasi ac wedi bod yn drychineb i’nheconomi bregus iawn lle mae dros 80%

    o’r boblogaeth yn byw o dan y llinelldlodi o $1.90 y dydd.

    Mae llywodraeth Madagascar felllywodraethau eraill wedi gosod cyfyng -iadau llym er mwyn cyfyngu ar y feirws.Fe weithredwyd Cyfnod Clo, a gallaipwy bynnag a droseddai yn erbyn yrheolau wynebu cosb ddifrifol.

    Mae’r bwriad yn dda iawn i gyfyngu arledaeniad y feirws ond mae’r rhan fwyafo’r boblogaeth yn byw o’r llaw i’r genauar incwm o ddydd i ddydd. Golyga hynfod gan fwyafrif y boblogaeth y dewisofnadwy o aros gartref a llwgu neu fentromynd allan i weithio i gael bwyd a bod ârisg uchel o ddal y feirws. Ychydig iawno gefnogaeth y mae’r llywodraeth wedi’idarparu ar gyfer angenrheidiaubeunyddiol, a hynny i ganran fechan o’rboblogaeth ac yn para am ychydigddyddiau yn unig.

    Ym Madagascar, nid oes nawddcymdeithasol i’w gael, dim gofal iechydam ddim, dim addysg am ddim; dim ond40% o’r boblogaeth sydd â mynediad atddfir glân a dim ond 15% sydd âmynediad at drydan. Mae Madagascarymhlith y gwledydd yr effeithir arnyntfwyaf gan newid yn yr hinsawdd, ac maesychder yn fater difrifol yn neMadagascar. Yn ôl UNICEF, cyn i’rpandemig Covid-19 daro, amcan -gyfrifwyd bod amlder diffyg maethcronig yn 42%, h.y. bron i 1.9 miliwn oblant Malagasi o dan bum mlwydd oedledled y wlad.

    Ers y pandemig mae llawer o boblwedi colli eu swyddi, mae trafnidiaethgyhoeddus wedi ei chyfyngu, ysgolionar gau, ac mae hediadau masnacholrhyngwladol yn cael eu hatal.

    Mae dros 80% o’r boblogaeth ymMadagascar yn ffermwyr. Dywedodd fyrhieni, sy’n byw 15 km y tu allan i’rbrifddinas, Antanarivo, fod llawer o boblo’r pentrefi yn cerdded bob dydd gydallwythi trymion ar eu pennau ac yn myndheibio’u tª am 2 o’r gloch y bore ermwyn mynd i’r ddinas i werthunwyddau.

    Rwyf wedi clywed cymaint o hanesiondirdynnol o Fadagascar yn ystod ypandemig sy’n fy nhristáu ac yn gwneudimi deimlo’n ddiymadferth iawn. Rwy’nffodus mai yng Nghymru yr ydw i ar hyno bryd, ond rwy’n teimlo’n euog wrthrannu unrhyw newyddion am yr hollgymorth y mae pobl yn y wlad hon yn ei

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 15, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Dwy wlad fechan, dau ymateb i bandemigy Coronafeirws

    Cofio ‘ffrwyth gweddïau’r Cymry’ ym Madagascar

    (parhad ar y dudalen nesaf)

  • dderbyn gyda fy ffrindiau a nheulu ymMadagascar. Fydd dim modd i bobl ymMadagascar ddeall byth am absenoldebffyrlo’r Cynllun Cadw Swyddi, gan fodgwaith yn golygu incwm ac incwm yngolygu byw. Mae gweithio yn fater ofywyd a marwolaeth.

    Bu pandemig y Coronafeirws yndrasiedi i lawer ac yn gyfle i ychydig. Felllawer o wledydd tlawd eraill sydd yndatblygu, derbyniodd Madagascargannoedd o filoedd o ddoleri felbenthyciadau gan sefydliadau ariannolrhyngwladol a banciau, ond mae’n rhaidi’r rhain gael eu talu ’nôl gyda llogarnynt. Sut y gall gwlad lle mae 80% o’iphoblogaeth yn byw ar lai na $1.90 ydydd fyth lwyddo i ad-dalu’r ddyledenfawr hon yn ôl ar ben y ddyled enfawrsydd yno eisoes? Yn anffodus, ychydigiawn o effaith y mae benthyciadau felhyn yn ei chael ar fywyd cymdeithasol acariannol y boblogaeth leol yn y gwledyddtlawd.

    Mae Madagascar yn wlad brydferth,yn llawn bioamrywiaeth, ac mae ganddilawer o rywogaethau cwbl unigryw

    (gwyliwch raglen David Attenborough arMadagascar i wybod mwy). DisgrifioddDavid Griffiths, un o genhadon arloesolCymru i Fadagascar dros 200 mlyneddyn ôl, Madagascar fel “gwlad o laeth amêl”. Ac mae’n annirnadwy fod uno’r gwledydd cyfoethocaf mewnbioamrywiaeth ac adnoddau yn y bydhefyd yn un o’r gwledydd tlotaf yn y byd.Efallai fod y 70 mlynedd a dreuliwydym meddiannaeth Ffrainc yn rhywbethi’w wneud â hyn. Yn anffodus, dydyhon ddim yn sefyllfa unigryw iFadagascar.

    Mewn cyfnod o argyfwng byd-eang felhwn, mae pobl yn aml yn canolbwyntioar y broblem sydd ganddyn nhw yn eugwlad eu hunain. Mae’n hawdd anghofiogwledydd tlawd fel Madagascar syddbyth yn llwyddo i gyrraedd penawdau’rnewyddion.

    Mae’n anodd imi beidio â chymharuCymru a Madagascar oherwydd i’r ddwywlad hyn fod yn gartref i mi, ac maentmor wahanol. Mae gan Gymru aMadagascar gyswllt hanesyddol cryfsy’n eu clymu â’i gilydd oherwydd

    gwaith llwyddiannus y cenhadon oGymru a aeth i Fadagascar dros 200mlynedd yn ôl. Rwy’n aml yn atgoffapobl yma yng Nghymru mai eich haneschi yw ein hanes ni, a’n hanes ni yw eichhanes chi.

    I orffen, byddaf yn benthyg geiriautanbaid David Griffiths pan adawoddMadagascar am Fachynlleth ym 1843:‘Pwy bynnag sydd â’i galon yn dristoherwydd yr hyn a ddigwydd ymMadagascar ... haeddant ein consýrn ...hwy yw ein brodyr ... A yw’r Cymrywedi anghofio trugaredd – bod ganddyntchwaer fechan yn agos i Affrica o’r enwMadagascar? Yn sicr ddim! Ffrwyth eugweddïau yw Madagascar: felly, frodyr,peidiwch â’i hanghofio.’

    Miara Rabearisoa

    (Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn rhano’r prosiect cydenwadol ym Mhen-rhysyn y Rhondda, mae Miara a’i wraig,Rebecca, yn gweithio ar hyn o bryd felgalluogwyr cenhadol yn HenaduriaethCanol Cymry a’r Gororau, EglwysBresbyteraidd Cymru.)

    Hydref 15, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Dwy wlad fechan, dau ymateb i bandemig y Coronafeirws (parhad)

    Rhestr Gwylio’r Byd: Y 50 Uchaf yw’rcanllaw angenrheidiol i astudio’r eglwyssy’n cael ei herlid. Ydych chi eisiaugweddïo’n fwy penodol a phwrpasol drosein brodyr a’n chwiorydd ledled y bydsy’n cael eu herlid achos eu ffydd yn Iesu... ond angen mwy o wybodaeth?

    Ers rhai blynyddoedd bellach, mae’rmudiad Open Doors yn cynhyrchu adnoddyn y Gymraeg o’r enw Rhestr Gwylio’rByd – y 50 Uchaf. Mae’n cynnwysstraeon, lluniau a gwybodaeth am y 50gwlad yn y byd lle mae’n fwyaf anoddbod yn Gristion.

    Mae rhifyn eleni, sy’n seiliedig arymchwil ddibynadwy gan Open Doors, ynfwy nag erioed—gyda chwe deg tudalen owybodaeth ac ysbrydoliaeth i’ch helpu iweddïo, i gefnogi ac i siarad ar ran yreglwys sy’n cael ei herlid.

    Yn ogystal â gwybodaeth a phwyntiaugweddi ar gyfer pob un o’r 50 gwlad arfrig y rhestr, mae’n cynnwys nifer oelfennau eraill, yn erthyglau, straeon,ffotograffau a’r wybodaeth gefndirangenrheidiol. Mae’r rhifyn hefyd yncynnwys map rhyngweithiol, gydag unochr ar gyfer oedolion a’r ochr arall argyfer y teulu cyfan.

    Mae Rhestr Gwylio’r Byd: Y 50 Uchafyn adnodd delfrydol ar gyfer unrhyw unsydd eisiau gwybod rhagor am y pwysauy mae Cristnogion yn eu hwynebu am

    ddilyn Iesu a sut mae’ch cefnogaeth yndod â gobaith iddyn nhw.

    Mae’n cynnwys:

    • map rhyngweithiol Rhestr Gwylio’rByd ar gyfer plant ac oedolion

    • gwybodaeth am Gristnogion sy’n caeleu herlid trwy’r byd

    • cyflwyniad i Restr Gwylio’r Byd sy’negluro pam ei fod yn adnodd pwysig

    • syniadau ynglªn â beth y gallwn

    ei ddysgu gan yr eglwys sy’n cael eiherlid

    • gwybodaeth fanwl a phwyntiau gweddipenodol ar gyfer pob un o’r 50 gwlad arfrig y rhestr

    • straeon ysbrydoledig a thystiolaeth ganGristnogion sy’n cael eu herlid

    • pedair erthygl fanwl sy’n dod â byd yreglwys sy’n cael ei herlid yn fyw inni.

    Cafodd yr adnodd ei baratoi yn nechrau2020 ond, o ganlyniad i Covid-19 a’rcyfnod clo, mae gennym ni lawer o gopïauar ôl heb eu dosbarthu eleni. Os oesgennych ddiddordeb (yn bersonol neu yneich eglwys / capel) i’w dosbarthu,cysylltwch â mi yn y cyfeiriad isod gannodi faint yr hoffech eu derbyn a rhoicyfeiriad ar gyfer anfon y copïau.Nid oes unrhyw gost. Gallwch hefydfynd i’r wefan i archebu copïau: a gweldfideo byr yn y Gymraeg am y pum gwladar frig y rhestr.

    Pob bendith,

    Jim StewartRheolwr Cysylltiadau Eglwys, Cymru

    Open Doors UK & IrelandFfôn 01993 460 015E-bost [email protected] www.opendoorsuk.org

    Gweddïo dros yr eglwys sy’n cael ei herlidMentro dilyn Iesu, beth bynnag fo’r gost

  • Y TraethodyddRhifyn Hydref 2020

    A ninnau’n wynebu gaeaf hir danamodau Covid-19, gobeithio y byddrhifyn cyfredol Y Traethodydd yn eichdiddori a’ch diddanu.

    Cerddi trawiadol Derec LlwydMorgan yw’r pethau cyntaf yn y rhifynhwn, cerddi serch yn dathlu bywydpriodasol hir a dedwydd, a chariad ybardd at ei wraig yr un mor gadarn nawrag erioed. Mae rhywbeth hyfryd yn‘Y Bardd Cwsg, 2020’ a ‘Jane yn Hen’,y ddwy’n clymu argyfwng y Covid agawen Dafydd ap Gwilym, ac yn dathludedwyddwch priodasol yng nghanolamodau caethiwus y cyfnod clo. Os oesrhywbeth difyrrus o risqué ynddynt,gwn y bydd darllenwyr Y Traethodyddyn eu gwerthfawrogi’n fawr.

    Gan droi at yr ysgrifau rhyddiaith,dyma Ceri Davies yn dathlu campBeibl Richard Parry ar achlysurpedwarcanmlwyddiant ei gyhoeddi, acyn dadansoddi ei gynnwys yn olau, yngynhwysfawr ac yn hynod afaelgar, trabo Goronwy Wyn Owen, ein prifarbenigwr ar fywyd a gwaith y Piwritaneirias o Gynfal, yn trafod ‘MorganLlwyd y Bardd’. Fel rhyddieithwr yrydym yn meddwl am Morgan Llwyd

    fwyaf, awdur y campweithiau Gwaeddyng Nghymru, Llythyr i’r CymryCariadus a Llyfr y Tri Aderyn, ond cawnddadansoddiad yma o’i awen ynogystal. Yn dilyn hynny, ceir ail ranysgrif Llion Wigley, ‘Rhyfeddu at yCread: Llenyddiaeth Taith yn yGymraeg, c. 1931–1975’, sy’n parhaui’n tywys i’r gwledydd Sgandinafaidd,i’r Swistir ac i fannau eraill. A llawerwedi gorfod hepgor eu gwyliau tramoreleni, mae’n braf cael teithio i fannaupellennig yng nghwmni amrywiaethcyfoethog o lenorion ddoe.

    ‘Gweddi’r Terfyn’ yw un o gerddimwyaf ysgytwol Saunders Lewis, abydd rhai ohonom yn cofio’i darllen amy tro cyntaf ar dudalennau’rTraethodydd yn 1974, ac yn cofio hefydy drafodaeth ingol a sbardunodd, gydagAneirin Talfan Davies, Dewi Z. Phillipsa Bobi Jones, ymhlith eraill, yn ymatebiddi. Gyda deugain mlynedd a mwywedi mynd heibio, yn ei ysgrif‘Sylwadau ar “Gweddi’r Terfyn”Saunders Lewis’, mae’r athronydd a’rdiwinydd John Heywood Thomas yngosod y gerdd yn ei chyd-destunsyniadol ac yn ein hatgoffa fod eimawredd yn parhau. Ceir hefyd ysgrifgan y golygydd ar y berthynas rhwngffydd a diwylliant, pwnc sydd wedi bodo ddiddordeb i ddarllenwyr ycylchgrawn erioed.

    Hyfryd o beth hefyd yw cynnwysadolygiad Richard Owen o gyfrolDafydd Glyn Jones, Wele Wlad:Ysgrifau ar bethau yng Nghymru, acymateb D. Hugh Matthews i gampwaithdiweddar John Tudno Williams,Diwinyddiaeth Paul.

    Diolchwn eto i staff ymroddgarGwasg Gomer am sicrhau bodY Traethodydd yn dal i gael eigynhyrchu er gwaethaf pwysaurhyfedd y cyfnod Covid. Os hoffecharchebu copi, gallwch wneudhynny trwy gyfrwng y wefanwww.ytraethodydd.cymru. Dilynwch nihefyd ar Drydar ac ar Facebook.Y golygydd yw’r Dr D. Densil Morgan([email protected]), Y Gilfach,Ffordd y Gogledd, Llanbedr PontSteffan, SA48 7AJ. Am wybodaethychwanegol gellwch gysylltu agAlice Williams ([email protected]),Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru,81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd,Caerdydd, CF14 1DD.

    tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 15, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Mae Cymdeithas y Beibl wedidarparu adnoddau dwyieithog at eichdefnydd ar gyfer Sul y Beibl –gwasanaeth cyfan, ar gael am ddimi’w lawrlwytho o’n gwefan:

    Mae’r adnoddau yn cynnwyspregeth, adnoddau ieuenctid / plantiau, gweddïau a fideo. Yn ogystal,efallai y byddech yn mwynhaudarllen straeon ysbrydoledig o

    Tsieina, y Dwyrain Canol, Affrica,Cymru a Lloegr, gan glywed ffeithiaudiddorol am fywydau pobl adylanwad y Beibl arnynt. Lle bynnagrydych yn addoli, pa un ai dros y weneu mewn capel neu eglwys, taflwchgip ar yr adnoddau a’u defnyddio ar‘Sul y Beibl’.

    Sul y Beibl – 25 Hydref!

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad

    (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

  • Hydref 15, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn AnnibynnolBrawd chwerthin yw crio

    Mae ’na bla marwol yn sgubo trwy ein byd gan achosi dioddefaint di-ben-draw. Mae’r ail don o COVID-19 yn ein taro gan beri pryder am iechyd corff a meddwl, swyddi, llywodraethau, a gwead cymdeithas.

    A sut rydyn ni’n ymateb? Chwerthin!

    Hiwmor sâl Efallai bod hiwmor yn ymddangos yn ymateb annisgwyl i sefyllfa mor argyfyngus ond, ers tua chanol Mawrth, bu llif diddiwedd o jôcs, cartŵns a chlipiau fideo yn gwneud y rownds, ar y cyfryngau cymdeithasol yn bennaf. Gall rhai deimlo’n anghyfforddus yn chwerthin pan fo cynifer o bobl yn sâl ac yn marw a bygythiad o dlodi mawr ond mae’n wybyddus y gall hiwmor helpu i ryddhau tensiwn mewn cyfnod anodd a’n helpu i ymdopi.

    Mae pobl sy’n gweithio o dan amgylchiadau peryglus yn nodedig am eu hiwmor tywyll. Yn hunangofiant Tom Ellis, Dan Loriau Maelor, sonia am lofa Llay Main yn ardal Wrecsam a oedd â record ddiogelwch arbennig o wael. Y dywediad yn yr ardal, meddai, oedd ‘Ymunwch â’r llynges i weld y byd; Ymunwch â Llay Main i weld y byd nesaf.’

    Ac er y gall chwerthin a ninnau mewn sefyllfa mor enbydus ymddangos yn ddi-chwaeth, rhyddhawyd ffilm ddogfen yn 2017 o’r enw The Last Laugh yn edrych ar hiwmor a’r Holocost o safbwynt yr Iddewon. ‘A celebration of Jewish humour as a survival mechanism,’ yw’r disgrifiad ohoni.

    Hiwmor iach Ys dywed Beca Brown, Barn, Ebrill 2015: ‘Mae bendithion chwerthin i iechyd corfforol a meddyliol rhywun yn weddol hysbys erbyn hyn. Mae’n hybu imiwnedd,

    yn boenladdwr naturiol, yn llacio’r cyhyrau ac yn gallu cadw clefyd y galon draw ... mae chwerthin yn codi ysbryd rhywun, yn tawelu pryder ac ofn, yn llacio straen ac yn cryfhau gallu rhywun i wrthsefyll yr hyn sy’n ei flino.

    ‘Mae ’na lawer o fendithion cymdeithasol hefyd, gan fod chwerthin yn cryfhau perthynas pobl â’i gilydd, yn clymu pobl ynghyd, yn hybu gwaith tîm ac yn help i dynnu’r colyn o anghydfod.’ Dywed Beca ei bod yn bwysig bod pobl yn ‘medru chwerthin gyda’i gilydd, am ben ei gilydd ac am eu pennau nhw’u hunain.’

    Ac, mae’n debyg mai dyna swyddogaeth comedi’r coronafeirws – ein helpu i ymdopi mewn cyfnod dyrys trwy ein dwyn at ein gilydd i chwerthin, rhoi teimlad o gyd-ddealltwriaeth, o gymuned, i ni er ein bod ar wahân.

    Hiwmor amserol Gwelir nifer o themâu cyffredin yn y jôcs:

    • Dychan: wedi’i anelu’n bennaf at wleidyddion a’r sefydliad – am eu bod yn ddi-hid, yn ddi-glem neu’n hunanol gan fwyaf. Mae Trump, Johnson a Cummings yn dargedau amlwg.

    Fel arall, ar y cyfan, mae’r hiwmor yn cyfeirio at y newid yn ein ffordd o fyw:

    • Gorffwyll-brynu: tybed oes rhai ohonoch chi’n teimlo braidd yn wirion erbyn hyn wrth agor drws y stafell sbâr i wynebu mynyddoedd o basta a phapur tŷ bach?

    • Golchi dwylo/gwisgo masgiau: mae hyd yn oed Lloyd George ar y Maes yng Nghaernarfon wedi bod yn gwisgo masg.

    • Y cyfle/rheidrwydd i fod yng nghwmni’r teulu yn ystod y cloi mawr: ‘Diwrnod cyntaf heb rygbi ac wedi gorfod treulio amser gyda fy ngwraig. Newydd ddarganfod nad yw hi’n gweithio yn B. J. Jones, Llambed bellach.’

    • Gweithio gartref a dysgu/gwneud pethau ‘diddorol’ gyda’r plant. Dyma

    A sut mae’r dysgu gartre’n mynd? Trwy ganiatâd Huw AaronMae pobl capel ni wedi hen arfer â chadw

    pellter cymdeithasol

    ymateb Mari Lovgreen ar BBC Cymru Fyw: ‘A dwi’n siŵr mai’r peth ola ’dach chi isio fel rhiant blinedig ydi …101 o syniadau ar sut i chwarae’n greadigol mewn mwd.’

    • Coginio/bwyta • Torri gwallt: un cartŵn pan ddaeth sôn

    am ail gyfnod clo. Gwraig (yn pacio cês): Hwyl. Gŵr (yn bryderus): Lle ti’n mynd? Gwraig: Dwi’n mynd i aros at Linda sy’n torri ’ngwallt i.

    • Cadw pellter • Cyfarfodydd Zoom • Parodïau o ganeuon • Dychmygu beth wnawn ni pan fydd

    hyn i gyd drosodd

    Mae gwefannau capeli wedi ymuno yn yr hwyl:

    Mam (yn ystod y cloi mawr): Wnaethon ni fedyddio’r babi wythnos ddiwetha. Ffrind: Sut wnaethoch chi hynny? Mam: Ddaeth y gweinidog at wal yr ardd a roddon ni hôs-peip iddo fe.

    a

    Gŵr: Oedd hi’n braf cael mynd yn ôl i’r capel bore ’ma? Gwraig: Roedd hi’n braf cael gweld pawb ond ro’n i’n gweld eisiau gallu rhoi’r gweinidog ar pause neu fast forward.

    Efallai’ch bod fel fi â’ch emosiynau’n agos at yr wyneb y dyddiau ’ma – yn chwerthin am y peth lleia am fod y sefyllfa mor bisâr ond yn cael fy nghyffwrdd at ddagrau gan ddarn o farddoniaeth, cân neu air caredig. Dyddiau fel’na ydyn nhw.

    Daliwch i wenu! Siân Roberts

    (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr

    na’r tîm golygyddol.)

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 15, 2020Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected]

    Golygydd Alun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

    Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

    chynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    CWESTIYNAU DYRYS BYWYD Y CREDADUN

    Diolchir am y cyfeiriadau at ddwy gyfrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar: God and the Pandemic (SPCK) gan Tom Wright a Where is God in a Coronavirus World (The Good Book Company) gan Dr John C. Lennox, ynghyd ag adolygiadau o’r cyfrolau gan y Parchg Gareth Morgan Jones ar dudalennau Y Tyst a’r Dr. Hefin Jones yn y Pedair Tudalen Gydenwadol.

    Yancey

    Mae teitl yr ail gyfrol yn f’atgoffa o gyfrolau Philip Yancey megis Where is God When lt Hurts, Looking For The Invisible God a Disappointment With God (Zonderman), cyfrolau cyffelyb o ran teitl, cynnwys a barn. Meddai Hefin am gyfrol Wright a Lennox: ‘y ddwy wedi ateb a chodi cwestiynau a fu’n cyhwfan o’n hamgylch dros yr wythnosau olaf .’ Oni fu’r cwestiynau hyn yn broblem feddyliol ac ysbrydol ar hyd y canrifoedd? Bu dod o hyd i atebion derbyniol a synhwyrol yn her an yn benbleth, a dweud y lleiaf.

    Mae bywyd yn llawn anghysonderau ac anghyfiawnderau, e.e. pam mae Duw ‘yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da ac i’w law syrthio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn?’ Mor anodd tymheru’n bywyd yn sŵn y fath eiriau. Sut allwn ni gael unrhyw fath o ddirnadaeth wrth i ni honni ar yr un pryd fod Duw yn y gwaith ac yn bresennol yn y galon, ‘yn llond bob lle ac yn bresennol ymhob man?’ Fel yr awgryma Tom Wright: ‘patrwm croesffurf sydd i’w weld lle mae cyfiawnder a thrugaredd Duw, ei ffyddlondeb i’r cyfamod a’r greadigaeth yn cael eu harddangos i fyd sydd mewn dagrau, galarnad a dolur.’ Gofynnir eto, sut y gallwn ddelio â’r sefyllfa echrydus yn feddyliol ac ysbrydol, sut ydym i ymateb o wybod ‘nad oes datrysiad nac esboniad i’r materion penodol , presennol?’

    Lennox

    Dywed Hefin i Lennox yn ei gyfrol wrthod y syniad mai barn uniongyrchol Duw arnom yw’r pandemig. Mae’r Parchg

    yfory? Calondid mawr yw ei gweld hi’n ymateb yn gadarnhaol yng ngharedigrwydd a chymwynasgarwch ei haelodau a’i gweinidogion ac yn ei graslondeb a’i gobaith am y dyfodol, heb anghofio am funud, ymrwymiad diflino a phroffesiynoldeb eraill; heb anghofio’r cynghorau, cymwynaswyr y cymunedau, ac yn arbennig y Gwasanaeth lechyd.

    Gras

    Philip Yancey oedd yn dweud yn ei gyfrol What’s So Amazing About Grace (Zonderman 1997), disgrifia ras fel ‘un o wahaniaethau mwyaf yr Eglwys.’ Gras, meddai, ‘yw’r un peth na all y byd ei ddatblygu a’r un peth uwchlaw pob peth arall mae’r Eglwys yn crefu amdano, oherwydd dim ond gras all sicrhau gobaith a thrawsffurfiad i fyd di-werth.’ Dywed mai ystyr gras yw, ‘na allwn wneud dim er mwyn i Dduw ein caru’n fwy, ac ni allwn wneud dim fyddai’n gwneud i Dduw ein caru llai.’

    Dwylo Budron

    Pwysleisia’r Dr. David Enoch: ‘I’r Eglwys Gristnogol heddi wynebu dewis anystwyth. Gall fyw iddi hi ei hun gan gau ei llygaid i fywydau toredig y niweidiol a’r anobeithiol, cadw’i dwylo’n lân, ond yn y broses, fe wywa a marw.’ Neu, meddai, ‘gall ddilyn Crist gan adeiladu pontydd i’r rhai mewn angen, y tlawd a’r claf, ac yn enwedig y rhai sy’n dioddef o salwch meddwl, mynd allan a baeddu eu dwylo yn naear anobeithiol y byd, a bydd byw ac aeddfedu a thyfu.’ I Want a Christian Psychiatrist (Monarch Books 2006 )

    Cyfeiria Hefin ar ddechrau ei erthygl at Efengyl loan 20 fel y gwna awduron y ddwy gyfrol o dan sylw, ac at dair elfen amlwg: dagrau, drysau ar glo ac amheuaeth cyfnod y Pasg ynghyd â’r cyfnod presennol COVID-19. A welwn gyfnod gwahanol cyn hir pan edrychwn heibio i Galfaria, heibio i’r Groes, heibio i’r bedd gwag, a dod o hyd unwaith eto i Iesu byw ynghanol ei bobl? Yn y byd materol hwn a’r cyfnod anoddaf a welsom, fu’n brawf eithaf ar ffydd a chredo, hawdd colli ystyr ac arwyddocâd yr Ysgrythurau ac ysbryd neges Ioan yn Llyfr y Datguddiad, llyfr o weledigaeth a dychymyg ac yn llyfr sy’n cyhoeddi sofraniaeth Crist.

    Heddiw, yn fwy nag erioed, mae angen arnom ei neges dragwyddol, diamser a’i bersbectif.

    Morlais Dyfnallt Owen

    Diarmaid MacCulloch, ysgolhaig ac arbenigwr mewn hanes eglwysig, ac yn

    ddiweddarach yn Athro ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn ei gyfrol Silence: A Christian History (Allen Love, 2009) o dan y pennawd ‘Protestant Hullabaloo’, cyfeiria at eiriau a chyngor John Fenton, yntau’n ysgolhaig ar y Testament Newydd, prifathro Coleg St Chad, Prifysgol Durham tan 1978. Dyma’i eiriau i fyfyriwr diwinyddol Protestannaidd: ‘Nodwedd amlycaf Duw yw ei ddistawrwydd. Nid

    yw’n peswch neu’n mwmian neu’n symud ei draed i’n hargyhoeddi ei fod yno.’

    John Lennox, gyda llaw, y Cristion pybyr oedd yn disgrifio’i hun fel gwyddonydd a Christion, athro emeritws mewn Mathemateg yn Rhydychen, fel y dywed Hefin. Bu hefyd am gyfnod o 29 mlynedd yng Nghaerdydd. Dyma’r Cristion cadarn fu’n ddi-syfl yn erbyn anffyddwyr blaenllaw ei gyfnod, nifer ohonynt yn ysgolheigion ac yn wyddonwyr o’r radd flaenaf. Tybed ai’r un daliadau sydd ganddynt o hyd? Bu’r Dr Rowan Williams yn gefnogol iawn i Lennox yn ei ddarlith wych yng nghanolfan Taliesin, Abertawe yn 2010 ynghyd â’i wrthwynebiad i anffyddiaeth gwyddonydd amlwg arall a’i ddaliadau yn y Western Mail yn 2017. Thema’i ddarlith yn Abertawe oedd ‘How To Misunderstand Religion’.

    Anghytgord?

    Ym mis Medi 2010 cyfeiriodd Lennox at ddadl un ohonynt, eto’n wyddonydd amlwg, fod yno wrthdaro dwfn rhwng gwyddoniaeth a chrefydd. Meddai Lennox: nad oedd yn cydnabod yr anghytgord hwnnw, gan ychwanegu, fel crediniwr Cristnogol, bod prydferthwch y deddfau gwyddonolyn atgyfnerthu ei ffydd mewn grym deallus, dwyfol, creadigol ar waith. Pwysleisiodd fel yr oedd ei ddealltwriaeth o wyddoniaeth yn cynyddu, bod ei gred yn Nuw’n cynyddu, oherwydd ei ryfeddod at ehangder, manylder a gonestrwydd ei greadigaeth. Geiriau da oedd gan Jonathan Sachs, Prif Rabi Prydain: ‘Mae Gwyddoniaeth yn esbonio, mae Crefydd yn dehongli.’

    Yr Eglwys

    Ynghanol dryswch ac ansicrwydd y cyfnod presennol, beth yw’r Eglwys? Beth fydd hi