8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 40 Hydref 1, 2020 50c. Ordeinio yn Llangadog Er gwaetha’r haint a gyfyngodd gymaint ar ein bywyd ni i gyd eleni, fe gynhaliwyd oedfa arbennig iawn yng nghapel Providence, Llangadog ar nos Wener 18 Medi 2020. Yr achlysur oedd nodi dechrau gweinidogaeth y Parchg Catrin Ann. Fe’i hordeiniwyd hi i weinidogaeth y Gair a’r Sacramentau gan y Parchg Aled Jones, cyfarwyddwr dros dro Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. Fe wnaeth y Parchg Beti-Wyn James, is-lywydd yr Undeb, arwain y gynulleidfa mewn gweddi. Oherwydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus, dim ond ychydig oedd yn medru bod yno, yn eu plith Mr Peter Harries ar ran Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog, a’r Parchg Emyr Wyn Thomas, gŵr Catrin Ann, oedd yncynrychioli’r fam eglwys, sef Nebo, Efail-wen, Cyfundeb Penfro. Noson gyffrous ‘Roedd yn noson gyffrous ac yn rhyddhad mawr i mi gael fy ordeinio, o ystyried yr amgylchiadau hynod anodd,’ meddai’r Parchg Catrin Ann. ‘Cafodd y cyfan ei wneud yn deidi iawn. Dyma benllanw fy mywyd, ac rwy’n siŵr y byddai fy nhad, y diweddar Barchg Ken Shadrach Morgan, wedi bod yn falch dros ben.’ Gohirio’rsefydlu Penderfynwyd gohirio’r elfen sefydlu i’r ofalaeth tan bod modd gwahodd holl deulu’r eglwysi i ddod ynghyd. Ynwreiddiol, roedd yr ordeinio a’r sefydlu wedi’u trefnu i ddigwydd ’nôl ym mis Mawrth, ond fe darfwyd ar y trefniadau gan y pandemig a’r cloi lawr. Er gwaethaf hynny, mae’r Parchg Catrin Ann wedi bod yn gweinidogaethu i eglwysi Providence, Llangadog, a Bethlehem, Dyffryn Ceidrych eisoes. Mae wedi bod yn ymweld ag aelodau ers mis Mehefin, gan barchu’r rheoliadau, ac yn gosod deunydd defosiynol ar Facebook ac YouTube. Bu hefyd yn anfon pregethau drwy’r post i 56 o aelodau nad ydynt ar-lein. Dysgu sgiliau newydd ‘Bu’n rhaid i mi ddysgu rhai sgiliau electroneg o’r dechrau,’ meddai, ‘ond gan fod 200 o bobl yn fy nilyn ar Facebook, mae’n gyfrwng gwerthfawr. Rwy’n edrych ymlaen at gael cwrdd â’r plant a’r bobl ifanc pan fydd hynny’n ddiogel.’ Y Parchg Catrin Ann a weinyddodd angladd y Parchg Kenneth Lintern. Oherwydd y cyfyngiadau, cynulleidfa fach oedd yno, ond dywedodd ei fod hi’n browd iawn bod y Parchg Lintern, oedd wedi llunio trefn ei angladd ei hun, wedi’i dewis hi i wasanaethu. Mae’r Tyst yn dymuno’n dda i’r Parchg Catrin Ann wrth iddi ddechrau ar y gwaith o wasanaethu’r Arglwydd Iesu Grist mewn rhan hyfryd o Ddyffryn Tywi. Fe wnaeth y Parchg Beti-Wyn James ffilmio’r oedfa ordeinio ar gyfer pawb nad oedd yn medru bod yn bresennol yn Providence ar y noson.Gellir gweld y fideo trwy’r ddolen hon: youtu.be/pFR3ESTrP4Q Llun: Y Parchedigion Emyr Wyn Thomas a Catrin Ann gyda’r Parchg Aled Jones, yn cadw at y rheolau pellter cymdeithasol Emyn Heddwch Ynghanol dwndwr rhyfedd Ein byd daearol ni, Gad inni gofio Iesu A’i ffordd i Galfari, A dysg y byd i fyw mewn hedd Trwy wrthod trais, a chladdu’r cledd. Gynlluniwr mawr y gofod, Awdur y cread maith, Rho nerth i’r tangnefeddwyr A hyder yn eu gwaith, Fel bo i wledydd yn ein hoes Gael byw’n gytûn yng ngolau’r Groes. Gyfaill yr anffodusion, Pleidiwr diniwed rai, Bydd gymorth rhwydd i ninnau I ddewis maddau bai; A gwneud ein byd yn fyd i fyw Drwy gymod – yn baradwys Duw. Sian Meinir Un o ganlyniadau diflas y pandemig presennol yw’r modd y mae’n amddifadu ein plant a’n pobl ifanc o gwmniaeth, addoliad ag addysg Gristnogol mewn ysgolion Sul. Mae’r un peth yn wir am wasanaethau gan weinidogion ac offeiriaid mewn ysgolion dyddiol hefyd. Fel arfer, byddai’r Parchg Beti-Wyn James yn ymweld yn gyson ag Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin i gynnal sesiwn Agor y Llyfr, ond nid yw hynny’n bosibl o dan y cyfyngiadau presennol. Felly, mae’n ffilmio cyflwyniadau a’u hanfon i’r ysgol er mwyn eu dangos ar y teledu. Mae’n amlwg ei bod hi’n llwyddo i hoelio sylw’r plant bach, fel y mae’r llun hwn yn dangos. GWASANAETHU PLANT YSGOL O BELL

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 40 Hydref 1, 2020 50c ......2020/01/10  · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 40 Hydref 1, 2020 50c. Ordeinio yn Llangadog Er gwaetha’r haint a gyfyngodd

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 40 Hydref 1, 2020 50c.

    Ordeinio yn LlangadogEr gwaetha’r haint a gyfyngodd gymaint ar ein bywyd ni i gyd eleni, fe gynhaliwyd oedfa arbennig iawn yng nghapel Providence, Llangadog ar nos Wener 18 Medi 2020.

    Yr achlysur oedd nodi dechrau gweinidogaeth y Parchg Catrin Ann. Fe’i hordeiniwyd hi i weinidogaeth y Gair a’r Sacramentau gan y Parchg Aled Jones, cyfarwyddwr dros dro Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. Fe wnaeth y Parchg Beti-Wyn James, is-lywydd yr Undeb, arwain y gynulleidfa mewn gweddi. Oherwydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus, dim ond ychydig oedd yn medru bod yno, yn eu plith Mr Peter Harries ar ran Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin a Brycheiniog, a’r Parchg Emyr Wyn Thomas, gŵr Catrin Ann, oedd yncynrychioli’r fam eglwys, sef Nebo, Efail-wen, Cyfundeb Penfro.

    Noson gyffrous 

    ‘Roedd yn noson gyffrous ac yn rhyddhad mawr i mi gael fy ordeinio, o ystyried yr amgylchiadau hynod anodd,’ meddai’r Parchg Catrin Ann. ‘Cafodd y cyfan ei wneud yn deidi iawn. Dyma benllanw fy mywyd, ac rwy’n siŵr y byddai fy nhad, y diweddar Barchg Ken Shadrach Morgan, wedi bod yn falch dros ben.’

    Gohirio’rsefydlu 

    Penderfynwyd gohirio’r elfen sefydlu i’r ofalaeth tan bod modd gwahodd holl deulu’r eglwysi i ddod ynghyd. Ynwreiddiol, roedd yr ordeinio a’r sefydlu wedi’u trefnu i ddigwydd ’nôl ym mis Mawrth, ond fe darfwyd ar y trefniadau gan y pandemig a’r cloi lawr. Er gwaethaf hynny, mae’r Parchg Catrin Ann wedi bod yn gweinidogaethu i eglwysi Providence, Llangadog, a Bethlehem, Dyffryn Ceidrych eisoes.

    Mae wedi bod yn ymweld ag aelodau ers mis Mehefin, gan barchu’r rheoliadau, ac yn gosod deunydd defosiynol ar Facebook ac YouTube. Bu hefyd yn anfon pregethau drwy’r post i 56 o aelodau nad ydynt ar-lein.

    Dysgu sgiliau newydd 

    ‘Bu’n rhaid i mi ddysgu rhai sgiliau electroneg o’r dechrau,’ meddai, ‘ond gan fod 200 o bobl yn fy nilyn ar Facebook, mae’n gyfrwng gwerthfawr. Rwy’n edrych ymlaen at gael cwrdd â’r plant a’r

    bobl ifanc pan fydd hynny’n ddiogel.’ Y Parchg Catrin Ann a weinyddodd angladd y Parchg Kenneth Lintern. Oherwydd y

    cyfyngiadau, cynulleidfa fach oedd yno, ond dywedodd ei fod hi’n browd iawn bod y Parchg Lintern, oedd wedi llunio trefn ei angladd ei hun, wedi’i dewis hi i wasanaethu.

    Mae’r Tyst yn dymuno’n dda i’r Parchg Catrin Ann wrth iddi ddechrau ar y gwaith o wasanaethu’r Arglwydd Iesu Grist mewn rhan hyfryd o Ddyffryn Tywi.

    Fe wnaeth y Parchg Beti-Wyn James ffilmio’r oedfa ordeinio ar gyfer pawb nad oedd yn medru bod yn bresennol yn Providence ar y noson.Gellir gweld y fideo trwy’r ddolen hon: youtu.be/pFR3ESTrP4Q

    Llun: Y Parchedigion Emyr Wyn Thomas a Catrin Ann gyda’r Parchg Aled Jones, yn cadw at y

    rheolau pellter cymdeithasol

    Emyn Heddwch

    Ynghanol dwndwr rhyfedd Ein byd daearol ni, Gad inni gofio Iesu A’i ffordd i Galfari,

    A dysg y byd i fyw mewn hedd Trwy wrthod trais, a chladdu’r cledd.

    Gynlluniwr mawr y gofod, Awdur y cread maith,

    Rho nerth i’r tangnefeddwyr A hyder yn eu gwaith,

    Fel bo i wledydd yn ein hoes Gael byw’n gytûn yng ngolau’r Groes.

    Gyfaill yr anffodusion, Pleidiwr diniwed rai,

    Bydd gymorth rhwydd i ninnau I ddewis maddau bai;

    A gwneud ein byd yn fyd i fyw Drwy gymod – yn baradwys Duw.

    Sian Meinir

    Un o ganlyniadau diflas y pandemig presennol yw’r modd y mae’n amddifadu ein plant a’n pobl ifanc o gwmniaeth, addoliad ag addysg Gristnogol mewn ysgolion Sul. Mae’r un peth yn wir am wasanaethau gan weinidogion ac offeiriaid mewn ysgolion dyddiol hefyd. Fel arfer, byddai’r Parchg Beti-Wyn James yn ymweld yn gyson ag Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin i gynnal sesiwn Agor y Llyfr, ond nid yw hynny’n bosibl o dan y cyfyngiadau presennol. Felly, mae’n ffilmio cyflwyniadau a’u hanfon i’r ysgol er mwyn eu dangos ar y teledu. Mae’n amlwg ei bod hi’n llwyddo i hoelio sylw’r plant bach, fel y mae’r llun hwn yn dangos.

    GWASANAETHU PLANT YSGOL

    O BELL

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 1, 2020Y TYST

    Adolygiad o’r llyfr Why I’m no Longer Talking to White People about Race

    Awdur: Reni Eddo-Lodge, (Bloomsbury Circus, 2017) 

    Mae dirgryniadau llofruddiaeth George Floyd gan heddwas ’nôl ym mis Mai yn Minneapolis yn dal i atseinio a’r protestiadau fu yn sgil y digwyddiad erchyll hynny ac eraill bellach yn parhau. Mae wedi ennyn trafodaeth ddwys am natur hiliaeth. Dyna pam yr euthum ati i ddarllen y gyfrol hon er mwyn adysgu fy hun. Roedd fy merch wedi cyfeirio ati fel cyfrol a newidiodd ei ffordd hi o feddwl am hiliaeth. 

    Wrth ddarllen y gyfrol roedd rhyw annifyrrwch ynof oherwydd fy mod i yn cychwyn gyda’r rhagdybiaeth nad oedd unrhyw elfen o hiliaeth yn perthyn i mi. Dyna yw natur pawb ohonom, ynte, tybio ein bod yn ddifrycheulyd pan mewn gwirionedd mae pechod ac amherffeithrwydd yn rhan o gyfansoddiad pawb ohonom. Tybed onid oes elfen o hiliaeth ym mhob cenedl? 

    Cychwyn mewn blog 

    Yn 2014 ysgrifennodd Reni Eddo-Lodge sylwadau ar ei blog yn dwyn y teitl, Why I’m no Longer Talking to White People about Race a hwnnw mewn gwirionedd yw’r sylfaen i’r llyfr hwn. Dywed ei bod wedi blino yn lân sgwrsio gyda phobl wyn am hiliaeth oherwydd bod y mwyafrif helaethaf ohonynt yn gwrthod y ffaith bod hiliaeth sefydliadol yn bodoli yma yng ngwledydd Prydain a gwledydd eraill. Ni allant ddeall bod lliw eu crwyn wedi ei osod fel norm (nod) o fewn i gymdeithas a bod eu gwynder o reidrwydd yn golygu eu bod yn freintiedig. 

    Meddai, ‘I’m no longer engaging with white people on the topic of race. Not all white people, just the vast majority who refuse to accept the legitimacy of structural racism and it’s symptoms. I can no longer engage with the gulf of an emotional disconnect that white people display when a person of colour articulates their experience. You can see their eyes shut down

    and harden. It’s like treacle is poured in to their ears, blocking up their ear canals. It’s like they can no longer hear us.’

    Caethwasanaeth 

    Yn y penodau sy’n dilyn y mae’n ymhelaethu gan esbonio yr hyn y mae’n ei olygu. Yn y bennod gyntaf, ‘Histories’ y mae’n rhannu sut y dysgodd yn y brifysgol am orffennol gwladychol (colonial) Prydain ar cysylltiad clos gyda chaethwasanaeth. Cludwyd dros 11,000,000 o Affricaniaid i weithio am ddim mewn planhigfeydd cotwm a siwgr yn yr Americas ac India’r Gorllewin oedd yn aml yn eiddo i Brydeinwyr. Yn gwbl angrhedadwy pan ddiddymwyd cathwasanaeth o fewn i’r Ymerodraeth Brydeinig fe dalwyd iawndal nid i’r caethweision ond i’r 46 mil o ddinasyddion Prydeinig oedd yn berchen arynynt. Gwnaeth waith ymchwil manwl i hanes mudiadau hawliau sifil gwrth-hiliol fel Black History Month, terfysgodd hiliol yn yr ugeinfed ganrif, gwaith Dr Harold Moody a dyfodiad y Race Relation Act ym 1965. 

    Hiliaeth systematig 

    Pennawd yr ail bennod yw ‘The System’ ac mae hon yn mynd i gyfeiriad gwahanol trwy archwilio hiliaeth strwythurol neu sefydliadol. Diffinia hiliaeth strwythurol fel hyn:

    ‘Structural racism is dozens, or hundreds, or thousands of people with the same biases jonining together to make up one ogarnisation, and acting accordingly. Structural racism is an impenetrably white workplace culture set by those people, where anyone who falls outside of the culture must conform of face failure (tud. 64).’

    Golyga hyn y gall sefydliadau fod yn hiliol yn ‘anfwriadol’ oherwydd eu diwylliant hanesyddol a bod y rhai hynny o fewn i’r strwythur yn ddall i’w hymddygiad hiliol. Mae rhywbeth hunllefus yn hyn oherwydd golyga fod pobl dduon dan anfantais trwy gydol eu hoes gan fod tuedd sefydliadau e.e. ysgol, prifysgolion, gweithle, yn eu herbyn. Y mae peth wmbreth o dystiolaeth ystadegol ar gael sy’n dangos eich bod o dan anfantais mawr os ydych yw eich croen yn ddu (tud. 72). 

    Breintiau’r gwynion 

    Y bennod nesaf yw ‘What is White Privilege?’ ac yma mewn gwirionedd y mae’n dadlau ei hachos. Y sail i hiliaeth ‘anweledig’ ydy mai gwyn yw’r ‘cyffredin’, y disgwyliedig cymdeithasegol. Y mae croen du ar y llaw arall yn cael ei ystyried ag amheuaeth ac felly mae’n rhaid bod yn ochelgar o bobl o’r fath. Felly mae bod yn wyn ym Mhrydain yn golygu fod gennych

    freintiau anysgrifenedig tra mae bod yn ddu yn golygu eich bod bob amser o dan anfantais. Mae lliw eich croen yn effeithio yn gadarnhaol neu yn negyddol ar eich bywyd. Bathwyd y term ‘white privilege’ yn rhyfedd iawn – gan ddyn gwyn o’r enw Theodore W. Arllen a oedd yn weithgar gyda’r mudiad undebau llafur yn America. Ysgifenna Eddo-Lodge (tud. 87):

    ‘Trying to convince stony faces of disbelief has never appealed to me. The idea of white privilege forces white people who aren’t actively racist to confront their own complicity in its continuing existance. White privelege is dull, grinding, complacency. It is par for the course in a world in which drastic race inequality is respondend to with a shoulder shrug, considered just a norm.’

    Bobl bach, dyna i chi ddweud. Ydan ni, sy’n wynion, yn hyrwyddo sytemau hiliol trwy fyw ein bywydau beunyddiol, dweud dim a throi clust fyddar i’r hyn sy’n digwydd? Dyna’r cyhuddiad sydd yn ein herbyn yn y llyfr hwn.

    Galw am gyfiawnder 

    Mae’r pedair pennod sy’n weddill sef, ‘Fear of a Black Planet’, ‘The Feminism Question’, ‘Race and Class’ a ‘There’s No Justice, There’s Just us’, yn ymdrin ag elfennau a heriau o fewn i hiliaeth a gwrth hiliaeth gan symud y drafodaeth i feysydd eraill. Wrth gloi y mae’n galw arnom i ddatgymalu’r elfennau hiliol sydd wedi eu plethu i mewn i’r gymdeithas yng ngwledydd Prydain a thrwy hynny sylweddoli fod pobl croen du a brown yn Brydeinwyr go iawn. 

    Casgliad 

    Bu darllen y llyfr yn gymorth i mi ddeall ychydig am amgylchiadau pobl ddu sy’n byw mewn cymdeithas wyn a’r gwrthwynebiad, hiliaeth, casineb a heriau y maent y gorfod eu hwynebu na ddaw i ran gwynion. Cyfyd cwestiynau diddorol i ni fel Cristnogion Cymraeg eu hiaith am ein hagwedd at bobl o dras gwahanol. Mae ein holl eglwysi yn 99% gwyn. Ydy hynny’n beth iach a derbyniol? A ydym ni yn ymestyn allan gyda’r Efengyl at bobl ddu yn ein cymunedau? Daw cyfle maes o law i drafod hyn ymhellach yn Y Tyst ond a gaf i eich hannog i ddarllen y gyfrol hon, mae’n agoriad llygad. 

    Reni Eddo-Lodge – o Lundain y daw’r awdur. Mae wedi ysgrifennu i’r New Tork Times, Daily Telegraph, Guardian, Independent a llu o gyhoeddiadau eraill. Mae’n gyn enillydd o MHP – gohebydd ifanc y flwyddyn ac fe’i dewiswyd ymhlith y 30 person ifanc yn y cyfryngau digidol i’w gwylio gan y Guardian yn 2014. Y flwyddyn honno fe ysgrifennodd yn ei blog am ei rhwystredigaeth ynglŷn â’r drafodaeth ar hiliaeth gan ei fod yn cael ei arwain gan bobl nad oedd yn cael eu heffeithio ganddo. 

  • 10. GWAITH BUGEILIO

    Pwy sy’n bugeilio? Beth yw bugeilio?Pam mae angen bugeilio? Sut maebugeilio?

    Dyma rai cwestiynau pwysig ynglªnâ gwedd hanfodol ar waith yr eglwys.Yn draddodiadol, cysylltir bugeilio âswydd y gweinidog (neu’r ‘bugail’).Disgwylid i’r person hwnnw wneud ygwaith ac fe uniaethid y gwaith agymweld ag aelodau eglwysig yn eucartrefi neu mewn ysbytai. Dyma ddauweithgaredd sydd wedi eu gwaharddinni i raddau helaeth yn ystod y chwemis diwethaf, ond mae amryw o ffyrddamgen wedi eu canfod er mwynbugeilio’r praidd.

    Disgrifia’r Beibl Dduw fel bugail(Salm 23:1) a’i bobl fel ei ddefaid (e.e.Salm 100). Galwodd Iesu Grist ei hunyn Fugail Da (Ioan 10:11). Mae’nparhau â’i weinidogaeth yn ei eglwysdrwy’r Ysbryd Glân. Mae bugeilio’ngolygu amddiffyn a bwydo defaidpraidd y Bugail Da (Ioan 21:15–17).Mae hyn yn golygu diwallu anghenionysbrydol ac emosiynol aelodau’reglwys. Mae’r Arglwydd Iesu Grist, pen

    yr eglwys, wedi galw rhai pobl ynneilltuol a’u galluogi i wneud y gwaithhwn (Effesiaid 4:11). Trwy fugeilio,mae’r Arglwydd ei hun yn galluymestyn ei ras a’i gariad at ei ddefaid. YBeibl yw ein prif gyfeirlyfr i’r gwaithhwn, a’r Arglwydd ei hun yw einpatrwm.

    Ond mae yna gyfrifoldeb ar hollaelodau’r eglwys tuag at eu cyd-aelodau(1 Corinthiaid 12:26). Mae hyn yncynnwys y methedig yn eu mysg.Golyga hyn weddïo drostyn nhw achyda nhw, eu cynghori a’ucynorthwyo, boed mewn gair neuweithred. Mae gan bob aelod eglwysigddawn i’w chyfrannu yng ngwaith yreglwys (1 Corinthiaid 12:7). Mae rhaiwedi’u donio â’r gallu i gysuro eraill yneu hamgylchiadau, a chânt gyfle iddatblygu’r ddawn hon wrth iddyntgyfranogi yn y wedd hon ar

    weinidogaeth yr eglwys. Mae gweddillyr eglwys, fan lleiaf, i gofio am ymethedig mewn gweddi.

    Pobl ffaeledig ydym i gyd gydaganghenion ysbrydol ac emosiynol, acfelly ag anghenion bugeiliol i’n hannoga’n codi, ein cysuro a’n cadarnhau, eincywiro a’n hiacháu. Mae angen bugeiliomewn ffordd gadarn a chynnes. O rancanllawiau, gellid dweud: byddwch ynwrandawgar, yn gydymdeimladol ac ynanfeirniadol. Rhydd y Beibl bwyslais arofalu am ein gilydd a dwyn beichiau eingilydd (Galatiaid 6:2). A’r nod ar eincyfer i gyd yw ein bod yn derbyn ycyflawnder hwnnw o fywyd ac obwrpas sydd i’w gael yng Nghrist(Effesiaid 4:13).

    Ynglªn â disgyblaeth eglwysig,rhywbeth a aeth yn ddieithr iawn ynein plith, mae angen bod yn bwyllogwrth fynd i’r afael ag ef. Maegau-ddysgeidiaeth, absenoldeb achamymddygiad pwrpasol yn peri loes ieglwys Crist. Yn wyneb hyn, dylidceisio disgyblu aelodau eglwysig ynunol â’r cyfarwyddyd yn Mathew18:5–7 gyda’r amcan o’u hadfer igymdeithas yr eglwys fel y gwelir yn2 Corinthiaid 2:5–11.

    Bugail Israel sydd ofalusam ei dyner annwyl fiyn;

    mae’n eu galw yn groesawusac yn eu cofleidio’n fwyn.

    (Philip Doddridge)

    Hydref 1, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    MODDION GRASCyfres yn ystyried beth sy’n angenrheidiol wrth inni barhau

    i addoli a gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist yn y cyfnod hwn.

    gan y Parch. PETER H. DAVIES

    Mae arolwg o gymunedau lleol a byd-eang wedi dangos boddros ddau o bob pum (41%) oedolyn yng Nghymru wediteimlo bod cynnydd mewn ysbryd cymunedol yn eu cymuneders dechrau’r cloi mawr, datgelodd Cymorth Cristnogolheddiw.

    Yn yr arolwg gan Savanta ComRes a gomisiynwyd ganGymorth Cristnogol, mae bron i dri o bob deg (27%) ooedolion ar draws Cymru yn dweud iddynt deimlo’n fwy o rano gymuned fyd-eang na chyn i’r firws ddechrau ymledu.

    Caiff canlyniadau’r arolwg eu rhyddhau wrth i GymorthCristnogol annog pobl i ddod at ei gilydd o fewn eucymunedau yr hydref hwn – yn unol â’r rheolau – i helpu’r rhaisydd wedi eu heffeithio mor ddrwg gan bandemig ycoronafirws ledled y byd.

    Wrth ymateb i ganlyniadau’r pôl, meddai Cynan Llwyd,Pennaeth Gweithredol Cymorth Cristnogol yng Nghymru,‘Ry’n ni’n gwybod mai cymuned o gymunedau clòs ywCymru; mae’n rhan o’i chymeriad arbennig. Felly, maedarganfod fod dros 40% o bobl Cymru’n teimlo fod ysbrydcymunedol wedi cynyddu yn ystod y pandemig yn eithafrhyfeddol.

    ‘Mae’n debyg na ddylwn i synnu, oherwydd rwyf wediclywed sawl stori am grwpiau cymunedol newydd yn codi ym

    mhob cwr o Gymru i gynnig help ymarferol i’r rhai sydd wedigorfod hunanynysu. O wneud neges wythnosol i gasglupresgripsiwn, mae cymdogion wedi bod ar gael i helpu eigilydd yn ystod yr argyfwng. Mae wedi bod yn wych ei weld.’

    Ysbryd cymunedol Cymru wedi codiyn ôl arolwg gan Gymorth Cristnogol

    (parhad ar y dudalen nesaf)

    Gwaith Covid-19 Cymorth Cristnogol yn Ne Swdan

  • Gwers 13

    Galw Mathew(Lefi yn ôl Luc)

    GweddiNefol Dad, gweddïwn am dy gymorth iddarllen yr Ysgrythur heddiw asylweddoli’r esiampl a welir yn newisIesu o’r bobl a alwodd. Cymorth ni i fodyn ddiduedd ac i beidio â bod ynrhagfarnllyd yn ein bywydau, ganddarganfod gwerth ym mhawb, bethbynnag eu cefndir. Amen.

    Darllen: Luc 5:27–32

    CyflwyniadYn ddiddorol, ceir ychydig o amrywioyn enwau’r disgyblion yn ôl y rhestrauyn yr efengylau. Cyfeiria Mathew ato’ihun fel ‘Mathew y casglwr trethi’, tramae Luc yn rhoi crynodeb o alw Lefi, ‘ycasglwr trethi’, ond yn enwi Mathew yny rhestr gyflawn yn Luc 6:12–16.Pwysleisir mai casglwr trethi oedd eiswydd, un a wasanaethai Rufain ac ynddigon parod, os oedd yn debyg igasglwyr trethi eraill, i gasglu’r swm argyfer ei ardal, ac yn manteisio ar ei hawli ofyn mwy gan y bobl hyn, er mwynsicrhau cyflog iddo’i hun.

    Roedd y swyddogion hyn ynamhoblogaidd gan bawb, ac er eu bodyn Iddewon byddent yn cael euhystyried fel bradwyr i’r genedl ac ynarbennig i bobl dlawd y werin. Yrhyfeddod oedd fod Iesu wedi dewisperson felly i fod yn ddisgybl iddo.Adwaith y Phariseaid a’r ysgrifen -yddion oedd grwgnach, gan feiriniadudoethineb Iesu yn derbyn person morannerbyniol i fewn i’r cylch agos.

    Adwaith Mathew oedd dathlu drwydrefnu gwledd i’r Iesu, a hynny ermwyn diolch am y fath fraint. Roedd arymyl y ddalen gymdeithasol, ond roeddynghanol y cwmni o safbwynt Iesu.Ymateb Iesu oedd fod ei fendith ef argyfer y claf, nid ar gyfer y rhai a’uhystyriai eu hunain yn iach: ar gyfer yranghenus, nid y rhai a dybiai eu bodmewn digonedd ac yn fodlon eu byd.

    MyfyrdodYstyr yr enw Lefi oedd ‘person aychwanegwyd’, un ‘a ludwyd at ygwreiddiol’. Rhyfeddod Iesu oedd iddofynd at y gwrthodedig, y gwahan -glwyfus, y rhai na allai newid eusefyllfa drwy eu gallu eu hunain. Pwysydd yn hunanddigonol ac yn fodlon areu byd? Cyffes y Cristion yw cyfaddefei wendidau, a chydnabod ei angen.Roedd Iesu yn croesawu’r gwrthodediga’r ysgymun, ac yn rhoi lle amlwg iwragedd a phlant. Rhaid bod hyn ynwrthun i’r Iddewon a bwysai ar y weddbatriarchaidd i’w crefydd a’u cenedl.Deallodd yr Eglwys Fore egwyddor bodyn gynhwysol, a Paul, disgybl Gamaliel,oedd y prif lais i fynd â’r Efengyl at ycenhedloedd eraill, a’u derbyn felaelodau cyflawn o’r eglwys heb euhenwaedu â defodaeth Iddewig.Gwelodd yr Eglwys Fore yn dda igroesawu caethweision i’r eglwys acystyried Onesimus y caethwas aPhilemon y meistr fel brodyr yn y ffydd.

    Gwendid meddylfryd sawl elfen o’rEglwys Gristnogol fu graddoli statwsarweinwyr ac aelodau’r eglwys, hebgydnabod y modd y bu i Iesu weld pobl.Cam cymharol ddiweddar fu gweldgwragedd fel arweinwyr eglwysig, acmae’r eglwysi esgobol yn dal at hualau’r

    meddylfryd a fu. Pa ryfedd fod y tlodionym mhob math o gymuned yn derbynIesu fel Arglwydd? Gwelai’r cenhadonCristnogol yn India well ymatebymhlith y Dali, sef y diddosbarth, nagyn yr haenau mwy breintiedig achyfoethog. Pan fydd y dosbarthcyfoethog, sy’n dueddol o lywodraethugwledydd, yn cofleidio cymunedauffydd, mae perygl y byddant yndefnyddio’r Eglwys yn hytrach na ‘bywy ffydd’. Mae perygl i ni roi bri ar ddysga statws bydol, gan eithrio a bychanu’rsawl sy’n dlawd a di-waith, yn wahanolneu’n ddieithriaid. Wrth i Mathew gaelei dderbyn, bydd lle yn Eglwys Crist ibawb sydd wedi eu heithrio a’u gadaeloddi allan i’r cylch breintiedig.

    Gweddi Diolch i ti, Arglwydd Iesu, am gynnwysMathew ymhlith dy ddisgyblion. Diolcham ei gyflwyniad ef o’r Efengyl ac amnodi ei fod yn un o’r casglwyr trethi.Gweddïwn dros bawb sy’n teimlo’u bodwedi cael eu heithrio yn ein bro a’n byd.Cymorth ni i fod yn gynhwysol ymmhob gwedd o’n bywyd fel cymunedauffydd. Amen.

    Trafod ac Ymateb:

    • A oes dosbarthiadau o weithwyr neu obobl yr ydym yn eu trin yn wahanolneu’n tueddu i’w diystyru a meddwlnad oes lle iddynt yn yr eglwys?

    • Beth ddyfalwch chi welodd Iesu ynMatthew i beri iddo’i ddewis?

    • A glywsoch am y gyfres ffilmiauCristnogol ‘The Chosen’? Dymaddolen (i glicio arni, os oes gennychfynediad i’r we) i’r rhan yn ygyfres lle mae Mathew yn cael eiddewis gan Iesu i’w ganlyn:

    • Sylwch ar ymateb y disgyblion erailli’r ffaith fod Iesu wedi dewis casglwrtrethi i fod yn un ohonynt. A ydych yndiolch i’r Arglwydd am iddo eichdewis chithau hefyd a’ch galw i’wddilyn?

    tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 1, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Wrth ymateb i’r teimlad o berthyn i gymuned fyd-eang yn yrarolwg, meddai Cynan Llwyd, ‘Rwyf wedi fy nghalonogi nadyw Cymru, er yng nghanol yr holl heriau gartref, wedicolli golwg ar anghenion dwys pobl dlotaf ein byd yn ystodyr argyfwng. Mae Cymorth Cristnogol yn bodoli igefnogi’r cymunedau tlotaf a mwyaf bregus o amgylch y byd,ac mae Covid19 wedi dangos bod ei waith mor bwysig agerioed.

    ‘Fel y gwelwn ni, dyw’r firws ddim wedi diflannu ond dywtlodion y byd ddim wedi diflannu chwaith. Rwyf am annogpobl Cymru i barhau â’r ysbryd cymunedol gwych yr ydyn ni

    wedi ei weld a pharhau i wneud gwahaniaeth go iawn ymmywydau ein cymdogion ymhell ac agos yr hydref hwn.’

    Mae Cymorth Cristnogol yn ymateb i’r coronafirws ynAffrica, Asia, America Ladin a’r Caribî. Mae’n gweithio gydaphartneriaid ac arweinwyr ffydd i hysbysu pobl am y risgiau,yn cynnig hyfforddiant hollbwysig ar hylendid, yn darparucyflenwadau i gyfleusterau iechyd, ac yn rhoi pecynnau bwyda sebon i deuluoedd ar yr ymylon.

    Am fwy o wybodaeth, ewch i

    Ysbryd cymunedol Cymru wedi codi yn ôl arolwg gan Gymorth Cristnogol (parhad)

    Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

    Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

    Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

  • Hydref 1, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    1. George Whitefield, fu farw 250 mlyneddyn ôl

    Ganed George Whitefield (neu Whitfield), y diwygiwrMethodistaidd o fri, yng Nghaerloyw ar 16 Rhagfyr 1714. Dyma’rgfir a gynorthwyodd i ledaenu’r deffroad ysbrydol yn Lloegr a’rDiwygiad Mawr yn nhrefedigaethau America yn y ddeunawfedganrif, a’r gfir hefyd a deithiodd fwyaf yn ei gyfnod yn pregethu’rGair. Cymraes oedd ei wraig, Elizabeth Burnell James o’r Fenni,a bu’r briodas yn Eglwys Martin Sant, Caerffili.

    Bu gwahaniaeth barn rhwng Whitefield a John Wesley,arweinydd mawr Methodistaidd arall, ar fater o athrawiaeth.Roedd Whitefield yn Galfin a Wesley’n cofleidio’r gredArminaidd. Cymerodd y diwygwyr Cymreig, dan ddylanwadHowell Harris, blaid Whitefield ac felly Calfinaidd fuMethodistiaeth yng Nghymru.

    Roedd Whitefield yn bresennol yn sasiwn unedig gyntaf yMethodistiaid Calfinaidd yng Nghymru a Lloegr ym MhlasWatford, Caerffili, ym mis Ionawr 1743. Bu’r cyfarfod yn unpwysig gan i’r dychweledigion benderfynu aros o fewn yr EglwysSefydledig. Yn llawer diweddarach ym 1811, yng nghyfnodThomas Charles, y cymerwyd y cam o ordeinio gweinidogion athrwy hynny droi cefn ar yr Eglwys Sefydledig.

    Ym 1749 daeth Whitefield yn gaplan i Selina, IarllesHuntingdon, yr unig ferch i gymryd rhan weithredol acannibynnol yn y Diwygiad Methodistaidd. A phan sefydloddSelina, a gafodd ei throi at Galfiniaeth, goleg diwinyddol ynNhrefeca ym 1768, Whitefield draddododd y bregeth agoriadol.

    Mae cyswllt pwysig arall rhwng Whitefield a Chymru – ac âChaerfyrddin yn wir, gan i bregethu’r diwygiwr mawr yn ein tref

    arwain at dröedigaeth Peter Williams. Gwyddom yn dda fel y bubri mawr ar Feibl Peter Williams yn ein gwlad yn ddiweddarachac am y cyswllt rhwng Peter Williams a Chapel Heol Dfir.(Cafwyd gwasanaeth ar y cyd â’r Tabernacl yn y Priordy,Caerfyrddin, i ddwyn i gof ei fywyd a’i waith a’i ddylanwad arGymru yn niwedd 2014 adeg trichanmlwyddiant ei eni.)

    Bu farw Whitefield yn Newburyport, Massachusetts, ar30 Medi 1770, dau gant a hanner o flynyddoedd yn ôl i eleni, acmae wedi’i gladdu yno dan bulpud y First Presbyterian Church.

    Cofio’r CewriAlun Charles sy’n cofio dau o gewri’r gorffennol

    2. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), a anwyd200 mlynedd yn ôl

    Fe’i ganed yn ardal Rhydymain ym Meirionnydd ar 5 Medi 1820.Bregus fu ei iechyd o’r dechrau. Dysgodd ei fam iddo ddarllen aryr aelwyd, a thyfodd yn fir ifanc gwybodus a diwylliedig. Bu’ngweithio fel bancer am flwyddyn yn Nolgellau ac yna’n cadwysgol cyn paratoi ar gyfer y weinidogaeth a’i ordeinio’n weinidogyng Nghapel Annibynnol Saron, Tredegyr, ym 1845.

    Yn yr un flwyddyn priododd â Catherine Sankey o SwyddAmwythig, ond bu farw plentyn iddynt yn fuan wedi’i eni ac yna’rfam ym 1847. Daeth yn adnabyddus am ei safiad yn amddiffynenw da’r Cymry yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol ‘Brad yLlyfrau Gleision’ ym 1847. Bu’n rymus yn amddiffynAnghydffurfiaeth a moesau’r Cymry, yn enwedig y gwragedd, a’riaith Gymraeg.

    Bu’n rhaid iddo ymddeol fel gweinidog yn Nhredegyr arddiwedd 1847 ar dir iechyd. Priododd am yr ail dro â RachelLewis o Dredwstan. Treuliodd gyfnod wedyn ym maesnewyddiadura yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ymysg llawer eraill,bu’n golygu’r Adolygydd, cylchgrawn enwadol yr Annibynwyr. Efhefyd sefydlodd Y Gymraes ym 1850, y cylchgrawn cyntaf iferched yn Gymraeg.

    Bu farw’n fir ifanc iawn yn 32 oed ar 23 Chwefror 1852 yn eigartref yng Nghaerdydd a’i gladdu ym mynwent Capel y Groes-wen, ger Caerfffili, lle codwyd beddfaen iddo gan ferched Cymrusy’n cynnwys hir a thoddaid o waith Gwilym Hiraethog.Ysgrifennwyd cofiant iddo’n ddiweddarach gan CadwaladrTawelfryn Thomas, un o gyn-weinidogion y Groes-wen a hendad-cu’r newyddiadurwr Vaughan Roderick.

    (Allan o Papur y Priordy, cylchgrawn gofalaeth AnnibynnolCaerfyrddin, Medi 2020)

    Carreg goffa i Ieuan Gwynedd ar wal Tª Croes Isaflle y’i maged (ar fin y ffordd wrth droi am y Brithdir,

    ger Rhydymain)

    Darlun dychmygol Huw Williams o sasiwn gyntaf yMethodistiaid Calfinaidd ym Mhlas Watford ger Caerffiliyn 1743 gyda George Whitefield yn y canol yn llywyddu

  • tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 1, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Ar 21 Medi, sef Diwrnod Heddwch yByd, fe wnaeth holl brifysgolionCymru ymrwymo i sefydlu AcademiHeddwch Cymru. Cyhoeddwyd bod pobprifysgol yng Nghymru, ynghyd â’r ColegCymraeg Cenedlaethol, CymdeithasDdysgedig Cymru a Chanolfan MaterionRhyngwladol Cymru, wedi llofnodiMemorandwm Cyd-ddealltwriaeth isefydlu Academi Heddwch Cymru.

    Garanod heddwch y tu allan iDeml Heddwch Cymru ar gyfer Diwrnod

    Heddwch y Byd

    Diben yr Academi Heddwch yw ymestyntraddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo agweithio dros heddwch. Drwy ddatblygua chyd-drefnu cymuned annibynnol oymchwilwyr mewn meysydd cysylltiedig,bydd yn gweithio i roi heddwch yn gadarnar yr agenda cenedlaethol. Ar y llwyfanrhyngwladol, bydd yn dod yn rhan orwydwaith byd-eang o sefydliadauheddwch.

    Yr amcanion cyffredinol yw sicrhau bod:

    • Cymru’n gwneud cyfraniad i ymchwilac ymarfer heddwch, gyda’r ymchwilhwnnw o ansawdd a gaiff ei gydnabodyn rhyngwladol;

    • ffocws ar heddwch i’w weld ynstrategaethau a pholisïau perthnasolLlywodraeth Cymru;

    • y cyhoedd yn ymddiddori’n fyw mewnymchwil ac ymarfer heddwch yngNghymru.

    Cefndir

    Yn 2014 cefnogodd y Senedd / CynulliadCenedlaethol egwyddor sefydlu’rAcademi Heddwch, gan gydnabod ygallai ‘ychwanegu gwerth i waith yCynulliad ac i gymdeithas ddinesig ynehangach’. Arweiniodd hyn at sefydluMenter Academi Heddwch Cymru (elusenfach a ffurfiwyd yn 2015).

    Meddai Jill Evans, a fu’n cadeirio MenterAcademi Heddwch Cymru: “Wedimisoedd o gyd-drafod, mae’n newyddionardderchog gweld bod yr AcademiHeddwch bellach yn barod i ddechrau arei gwaith o’i chartref yn y Deml Heddwchac Iechyd, Caerdydd. Mae ganddi’rpotensial i wneud cyfraniad pwysig i hybuheddwch a chyfiawnder yng Nghymru athu hwnt.”

    Pam mae angen Academi Heddwch?

    Mewn cyfnod o heriau cenedlaethol abyd-eang na welwyd mo’u tebyg o’rblaen, mae’n rhaid i Gymru chwarae eirhan yn llunio dyfodol heddychlon. Maegwaith ysbrydoledig o ran heddwcheisoes yn digwydd yng Nghymru, ondgellir ei gydlynu a’i gydnabod yn well.Gwelwyd cynnydd arwyddocaol wrthgeisio unioni’r cam hwn, gyda phrosiectarloesol ‘Cymru dros Heddwch’, ac wrthi’r prosiect dynnu i’w derfyn gall yrAcademi Heddwch sicrhau bod gwaddolpwysig y gwaith yn parhau.

    Gall Eluned Morgan, GweinidogCysylltiadau Rhyngwladol a’r IaithGymraeg, weld manteision y cynllun:“Mae’r Academi Heddwch yn gynllunamserol a all gyfrannu at uchelgaisheddwch Strategaeth RyngwladolLlywodraeth Cymru. O ran y gwaith adrefa thramor, mae mewn sefyllfa unigryw iddatblygu agenda heddwch yng Nghymrua thramor wrth i’r gwaith o adfercymdeithas yn nyddiau’r pandemig fyndrhagddo.”

    Am fwy o fanylion, cysylltwch â:

    Mererid Hopwood, Prifysgol Cymru,y Drindod Dewi Sant:[email protected];07855868077

    Susie Ventris-Field, Canolfan MaterionRhyngwladol Cymru:[email protected];07495522387

    Lansio ‘Academi Heddwch’Mererid Hopwood a Jill Evans

    Yr Athro Mererid Hopwood

    Eluned Morgan AM

    Jill Evans

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad

    (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

    [email protected]

    Sul, 4 Hydref

    Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

    Mae eleni’n flwyddyn fawr i’r Eglwys yngNghymru, canmlwyddiant ei sefydlu yn1920. Nos Sul, fe gawn ni glywed gangyn-Archesgob Cymru, Barry Morgan acymweld â’r gadeirlan lle dechreuodd ycyfan ganrif yn ôl, Llanelwy. Daw’r canumawl o amryw eglwysi ar draws Cymru.––––––––––––––––––––––––––––––

    Oedfa Radio Cymru4 Hydref am 12:00yp

    yng ngofalSarah Liss, Jerwsalem

  • Hydref 1, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    Barn AnnibynnolDYSGU GWERSI

    Bu’r misoedd diwethaf yn anodd i ni i gyd. Bu’n gyfnod erchyll i rai: pryder llethol, afiechyd didostur, marwolaeth, galar. Bu’r golled mor enbyd o ddrud i gynifer o bobl. Drwy’r tywyllwch dudew, oes rhyw rimyn o oleuni yn rhywle, rhyw awgrym o obaith am fyd gwell?

    Byd natur Profiad cyffredin i lawer yn ystod y clo mawr oedd ‘darganfod’ byd natur. Roedd fel petai lliwiau’r blodau yn fwy llachar, a’r adar yn canu yn fwy soniarus. Clywais rywun yn dweud na welodd y sêr mor ddisglair erioed o’r blaen.

    Byddwn yn chwilio am foddhad a phleser, ac yn barod i dalu arian mawr amdanynt, a dyma nhw yn ein golwg a’n clyw ni bob dydd; ac maen nhw am ddim!

    Llygredd Mae byd natur, a’r ddaear ei hun, ar eu hennill. O achos y gweithio o gartre, a’r llai o deithio, tywalltwyd llai o garbon i’r awyr. Cafodd ardaloedd poblog fwynhau awyr lanach i’w hanadlu am gyfnod. Ond dyw’r ddaear ddim ar lwybr gwellhad; y gwir yw bod lefelau carbon yn yr awyr wedi codi yn fyd eang yn ystod y cyfnod Covid. O dderbyn y llwybr presennol, yn

    ôl Syr David Attenborough, difodiant sydd o’n blaenau, ‘yn ein dwylo ni bellach y mae nid yn unig ddyfodol y ddynoliaeth, ond dyfodol pob rhywogaeth arall hefyd.’ ‘Mae’r tŷ ar dân,’ fel y dywed Greta.

    Tlodi o’n cwmpas Dangosodd y cyfnod yn fwy eglur fyth yr anghyfartaledd sydd yn ein cymdeithas. Mae tlodi plant wedi cynyddu, ac wrth fethu mynd i’r ysgol, arnyn nhw mae’r pwysau mwyaf. Nhw sydd debycaf o fethu bwyta’n dda ac o fethu manteisio ar dechnoleg i wneud gwaith ysgol gartre. Fel y clywais fam yn dweud, ‘Does gan bobl sydd ag arian ond heb blant,ddim syniad sut y mae hi ar bobl sydd â phlant ond heb arian.’ Dywedir bod chwe miliwn o deuluoedd yn y Deyrnas Gyfunol erbyn hyn mewn dyledion trwm.

    Tlodi byd-eang Daeth yn amlwg hefyd bod tlodi byd-eang ar gynnydd. Yn ôl yr asiantaethau mae peryg y bydd y niferoedd sy’n dioddef newyn dwfn yn dyblu i 250 miliwn yn ystod y cyfnod. Mae Oxfam yn haeru bod 12,000 y dydd yn marw o newyn sy’n glwm wrth y pandemig. Gwir y dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, ein bod i gyd ar yr un mȏr, ond bod rhai mewn iots moethus tra bod eraill yn crafangu am ddarn o bren.

    Tu hwnt i elusen Gwelodd llawer bod angen bod yn hael yn cefnogi Cymorth Cristnogol ac eraill i ymladd tlodi. Diolch iddyn nhw. Ond mae’n gwbl eglur nad elusen sy’n mynd i ddileu tlodi. Oni bai bod gwledydd yn gweld bod yn rhaid gosod sustem gadarn yn ei lle o godi’r gwannaf, gwaethygu

    fydd tynged y miliynau tlodion. Fedr haelioni unigolion ddim delio â chraidd y mater. 

    Mae’r Beibl yn llai brwd dros gael gwared ag effeithiau anghyfiawnder na thros chwalu ei achosion. Mae’r proffwydi yn eco cytûn mai cyfiawnder yw’r hyn y mae yr Arglwydd yn ei geisio. ‘Llifed barn fel dyfroedd a chyfiawnder fel afon gref.’ Cyfiawnder nid elusen!

    Ail-bwyso Rhoddodd y cyfnod gyfle i ni ystyried ein blaenoriaethau. Beth sydd bwysicaf? Mae cwestiynau sylfaenol yn codi ynghylch materion ac arferion a gymerid yn ganiataol. Ar bwy rydyn yn fwyaf dibynnol? Bu pobl y cyflogau isel yn arwyr, yn sefyll rhyngom ni â’r dibyn. Mae’n hen bryd eu gwerthfawrogi. 

    Eglwysi Bu llawer o’n heglwysi yn ddyfeisgar iawn dros gyfnod y clo, yn canfod ffyrdd gwahanol i gysylltu â’r aelodau, ac i gynnal trafodaeth, ac oedfa, ar y we. Gadawyd hen batrymau blinedig a ffrwydrodd dulliau newydd llawn dychymyg i’w wyneb.

    Mae’n amlwg bod y dulliau hyn nid yn unig wedi cadw’r aelodau mewn cyswllt ond hefyd wedi cyrraedd eraill y tu hwnt i’r gorlan. Bu methu â chyfarfod wyneb yn wyneb yn anodd iawn, ond o leiaf aed â’r neges i filoedd oedd cynt y tu hwnt i glyw. Gwerthfawr iawn yw cael ymestyn y terfynau a chyrraedd pobl newydd . Mae hynny’n rhan hanfodol o’n comisiwn.

    Dewi M. Hughes (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

    yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

    Tro ar fyd Oes, mae llai ohonyn nhw o gwmpas y lle erbyn hyn, ac eto y mae o hyd fwy na digon. Ac mi fyddan nhw yma am rai wythnosau eto. Mae’n bosib na fyddan nhw’n llwyr ddiflannu hyd yn oed dros fisoedd y gaeaf o gofio iddyn nhw fod yn fwy poblogaidd nag erioed eleni. Hyd yn ddiweddar, ac o bosibl hyd at yr haf rhyfedd hwn a gawsom oherwydd yr holl gyfyngiadau a fu ar bawb ohonom trwy Covid-19, yr oedd i’r pethau hyn gryn dipyn o statws. Roedd hynny’n arbennig o wir am y rhai drutaf a mwyaf moethus yn eu plith. Dros y blynyddoedd, pethau a phobl i genfigennu wrthyn nhw fu’r rhain a’r sawl oedd pia nhw neu’n eu defnyddio.

    Enw drwg 

    Ond pa fodd y cwymp y cedyrn? Daeth tro ar fyd. Llwyddodd lleiafrif i wneud dihirod anghymdeithasol o bobl y faniau gwersylla neu’r camper-vans a fu’n ymweld â’n hardal dros fisoedd yr haf. Roedd y mwyafrif yn talu i aros yn gyfreithlon yn y meysydd carafanau pwrpasol, ond roedd eraill yn treulio’r nos mewn meysydd parcio a

    chilfannau a glannau ein llynnoedd. Ac wrth aros yn anghyfreithlon mewn llefydd cwbl anaddas, roedden nhw nid yn unig yn achosi anghyfleustra a llygredd ond yn dod ag anfri ar bawb arall a grwydrai’r ffyrdd yn gyfrifol a chyfreithlon yn y faniau. Ac yn gwbl annheg, oherwydd ymddygiad y lleiafrif, trodd cymuned barchus y fan wersylla’n niwsans o bobl nad oedd fawr o groeso iddynt. I raddau helaeth, collwyd eu henw da. Ac mor rhwydd y digwydd peth felly. Mor rhwydd y gall un weithred neu un gair anghywir ladd cymeriad pobl a difa’n llwyr y parch y bu gan eraill tuag atynt ar hyd y blynyddoedd. Mae’r byd yn llawn o’r fath ddelwau drylliedig, a thristwch pethau ydi bod y byd yn mwynhau gweld y delwau’n chwalu.

    Enw da 

    Tristwch o’r mwyaf bob amser yw gweld y fath chwalfa o fewn yr Eglwys ac ym mywydau Cristnogion. Ac mi wyddom nid yn unig fod y peth yn bosibl ond ei fod yn

    digwydd yn rhy aml. Oherwydd gall un weithred greulon neu un gair brwnt wneud difrod anfesuradwy i dystiolaeth y Cristion o fewn ei deulu a’i gymuned a’i eglwys leol. Gall Cristnogion a fu am oes yn llachar eu

    tystiolaeth i’w Gwaredwr wneud drwg mawr i enw Crist trwy ymddwyn mewn ffordd sy’n gwbl anghydnaws â’r Efengyl ac â dysgeidiaeth y Ffydd. Nid dros nos yr ennill neb barch ac enw da ond dros flynyddoedd o fyw a thystio. Ond y mae modd colli’r

    cyfan dros nos. Ac nid oes raid wrth weithred amlwg bechadurus i wneud hynny. Gall y gair neu’r weithred leiaf fod yn ddigon os ydyw, yn fwriadol ai peidio, yn achosi loes i eraill. Mor ofalus sydd raid bod. Ac mor eiddgar y dylem fod i geisio bob dydd oddi wrth Dduw y gras a’r nerth a fydd yn ein cadw rhag gwneud a dweud pethau a all wneud difrod mawr nid i’n henw da ni yn gymaint ag i enw sanctaidd yr Arglwydd Dduw ei hun.

    John Pritchard (allan o Gronyn, Gofalaeth Fro’r Llechen

    Las, 13 Medi 2020)

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: Tŷ John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 1, 2020Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected]

    Golygydd Alun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras Picton Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

    Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

    chynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    COFIO GWEINIDOG GWLEDIG Mewn erthygl flaenorol bues i’n sôn am bwysigrwydd peidio â cholli dogfennau gwerthfawr sy’n cofnodi dechreuadau ein heglwysi lleol, gan ddefnyddio hen lyfr cownt Bwlch-y-corn fel enghraifft. Yn anffodus, mae’r cof am weinidogion hefyd yn gallu mynd ar goll gyda threigl y blynyddoedd. Ar hap y deuthum ar draws cofiant y Parchg Thomas D. Jones, gweinidog Gwernogle a Horeb ym mherfeddion Sir Gâr wledig.

    ’Nôl yn 1998, fe wnaeth fy nghyfaill da Hefin Wyn a minnau ymweld â fferm Penlan Fach ger Felingwm Isaf. Bu farw’r perchennog, Goronwy Davies (ysgrifennydd capel Siloam, Pontargothi) ddechrau’r flwyddyn honno, ac roedd perthnasau Hefin wedi etifeddu’r lle. Roedd tad Goronwy, sef Ben Davies, yn gasglwr llyfrau o fri a chefais wahoddiad gan Hefin i ddewis cwpwl o lyfrau o’r casgliad sylweddol yn y tŷ gwag cyn i’r cyfan fynd o dan y morthwyl mewn ocsiwn. Fuom ni ddim yno yn hir, gan fod craciau brawychus eu maint yn y muriau!

    Cyswllt teuluol

    Ymhlith y llyfrau a ddewisais yn frysiog o’r tomenni ar y bwrdd oedd Cofiant y Parchg Thomas D. Jones, (1833–68). Llyfryn bychan 66 tudalen a argraffwyd yn 1869 ydyw, ac roedd o ddiddordeb i mi gan fod cyfeiriad at Dŷ Mawr, Brechfa ynddo. Yno y ganwyd fy nhad, Alfred, ei frawd Bob (sef tad fy nghefnder, y Parchg Andrew Lenny) a’u chwiorydd Matilda ac Iris. Gan fod Tad-cu a Mam-gu wedi byw yno tan 1969, rown i’n gyfarwydd iawn â Thŷ Mawr, oedd wedi’i

    rannu’n gartref i dri theulu, ers pan own i’n blentyn. Roedd yr adeilad hynafol, sy’n ganrifoedd oed, yn dechrau mynd â’i ben iddo tan y cafodd ei droi’n westy a bwyty yn ystod y 1970au. Mae’n dal i fod yn westy moethus, sy’n hysbysu ei fod, ‘in the middle of nowhere, yet close to everywhere!’

    Magwraeth

    Ond i ddod ’nôl at y cysylltiad gyda’r Parchg Thomas Jones. Cafodd ei eni mewn ffermdy o’r enw Garth, ym mhlwyf Llanfihangel-Rhos-y-Corn ‘ar fryn uchel uwchlaw afon risialaidd a dolennog y Clydach’ meddai’r cofiant iddo gan William Hughes, sef Gwilym Clydach. Roedd ‘yn faban bach eiddil a gwan,’ ac fe’i bedyddiwyd gan y Parchg R. Powell, gweinidog yr Annibynwyr yng Ngwernogle – o bosib y pentref mwyaf diarffordd yn Sir Gâr. Roedd yn saith oed cyn mynd i’r ysgol a gynhaliwyd yn y pentre gan ‘hen ŵr parchus o’r enw Daniel Evan.’ Buodd Daniel yn dysgu sawl gweinidog enwog, gan gynnwys Gwilym Marles, yr Undodwr mawr. Roedd un o frodyr Gwilym Marles yn dad-cu i’r bardd byd-enwog Dylan Marlais Thomas, a brawd arall yn hen-hen-dat-

    cu i fi! Cafodd Thomas

    Jones ei dderbyn yn aelod yng nghapel Gwernogle yn 11 oed. Roedd o gymeriad siriol a llawen yn ôl y cofiant ac yn 1851, ar anogaeth ei frawd hŷn, y Parchg E. Jones, aeth i’r coleg yng Nghaerfyrddin.

    Gweinidog Gwernogle

    Dywedodd Iesu Grist ‘nad oes dim croeso i’r un proffwyd ym mro ei febyd’ (Luc 4:24) ond profodd Thomas Jones i fod yn eithriad i hynny. Ar ôl ei

    gyfnod yn y coleg, estynnwyd galwad iddo fod yn weinidog Gwernogle gan fod y Parchg Powell yn ‘myned yn hen.’ Mae’r cofiant yn enwi 17 o weinidogion a fu’n cymryd rhan yn y cyrddau ordeinio a sefydlu, ar 5 a 6 Hydref 1857. Yn ogystal â bod y weinidog, bu’n cadw ysgol ddyddiol yng Ngwernogle, ac yna’n athro yn Derlwyn College ger Alltwalis am gyfnod byr.

    Priodi merch y dafarn  

    Yn 1859 cymerodd ran o Dŷ Mawr, Brechfa ac addysgu plant lleol yno. Yn y cyfamser, roedd wedi priodi ag Elizabeth, merch y New King George yn Heol y Prior, Caerfyrddin. Bu’n ffodus iawn i ddewis gwraig dyner a charedig, meddai Gwilym Clydach: ‘Mae llawer yn cael achos i edifarhau wrth gyfarfod â gwraig angharedig ac esgeulus, ond gwyddom fod yr un a gafodd Mr Jones yn wraig rinweddol.’ Ei eiriau fe, nid fi! Ar ôl symud i Frechfa, cafodd alwad i wasanaethu Horeb yn ogystal â Gwernogle, ac fe’i sefydlwyd yno ym mis Mai 1860. Pum mlynedd ar ôl hynny, fe symudodd Thomas, Elizabeth a’u mab John Arthur o’r Tŷ Mawr i dyddyn Clawdd Mawr, ar bwys Horeb.

    Clafychu

    Yn ystod cynhaeaf 1865, cafodd annwyd trwm. Er ymdrechu i wella, nid felly y bu. Daeth hi’n amlwg ei fod yn dioddef o’r lladdwr mawr, y darfodedigaeth – TB. Byddai sawl gweinidog a chyfaill arall yn galw i’w weld ac yn naturiol yn holi sut oedd e. Byddai’n ateb, ‘O, yr wyf yn clywed fy hun yn gwella yn awr, oni bai am y peswch yma.’ Yn y diwedd fe wnaeth ‘y peswch yna’ ei ladd ym mis Mawrth, 1868 ac yntau ond yn 36 mlwydd oed. Bu’r angladd yng nghapel Siloam Pontargothi ac yno mae ei fedd.

    Dyn dysgedig

    Mae’n amlwg bod Thomas Jones yn ddyn hynod ddysgedig, yn medru darllen ieithoedd fel Hebraeg, Groeg ac Almaeneg, yn ogystal â bod yn hyddysg mewn mathemateg ac athroniaeth. Eto, ni chrwydrodd ymhell o fro ei febyd. Yn oes y gofalaethau mawr, mae’n anodd credu bod un neu ddau gapel bach gwledig yn gallu cynnal gweinidog, a hwnnw’n ddyn talentog ac ymroddgar a godwyd yn eu plith. Diolch i Gwilym Clydach am roi’r hanes amdano ar gof a chadw. Mae’n weddus i ni gofio.

    Geiriau a lluniau gan Alun Lenny